Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Dyffryn-Ardudwy

Oddi ar Wicidestun
Abermaw Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Talsarnau
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dyffryn Ardudwy
ar Wicipedia




DYFFRYN ARDUDWY.

Pregethwyd rai troion yn yr ardal hon gan Mr. Hugh Pugh, Brithdir, ond ni phregethwyd gydag un cysondeb, hyd ddechreuad gweinidogaeth Mr. C. Jones, Dolgellau, ac o'i amser ef y gellir cyfrif dechreuad yr achos yma. Arferai bregethu yn y Pandy, lle y trigai Abraham ac Anne Jones, ac wedi iddynt hwy ymadael, pregethai yn yr Hen siop. Byddai Mr. Jones yn myned yno yn gyffredin unwaith yn y mis. Cadwai gyfeillach yno nos Sadwrn, a phregethai am haner awr wedi naw boreu Sabboth, ac elai i'r Cutiau erbyn dau o'r gloch.[1] Ar ol hyny pregethid yn Pantgwyn, lle yr oedd un o'r enw Griffith Evans, yn byw. Yn 1821, priododd Miss Anne Evans, merch Mr. Griffith Evans, Tymawr, Towyn, â Mr. Griffith Griffiths, o Daltreuddynfawr, a daeth yno i fyw. Yr oedd hi eisioes yn aelod yn y Towyn, ac yn ferch ieuangc grefyddol, ac o'r adeg yma y gellir dyddio ffurfiad yr eglwys yn y Dyffryn. Gogwyddwyd meddwl ei phriod cyn hir i geisio yr Arglwydd, a bu yn swcr mawr i'r achos. Ond ar Mrs. Griffith yr oedd y gofal yn benaf, ac yr oedd o ran galluoedd meddyliol, a gwybodaeth a theimlad crefyddol, yn un o'r rhai rhagoraf a allesid gyfarfod. Arni hi yn aml y disgynai darllen penod yn nechreu cyfarfod gweddi, ac arwain y canu, a gweddiai yn gyhoeddus, os na byddai neb arall i'w gael, a llawer gwaith y darllenodd bregeth i'r gynnulleidfa o ryw lyfr, os digwyddai iddynt gael eu siomi am bregethwr. Bu ei thŷ hyd ddiwedd ei hoes yn gartref i achos yr Arglwydd. Cymerodd Mr. Evans ofal y lle pan y sefydlodd yn Abermaw. Wrth weled yr achos yn dyfod rhagddo, teimlodd fod angen am le mwy cyfleus i addoli na Pantgwyn, ac ymgymerodd Mr. Griffiths, Taltreuddyn, a'r gofal a'r cyfrifoldeb o edrych ar ol y gwaith. Yr oedd y capel yma a chapel yr Abermaw yn cael eu codi yr un flwyddyn, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1828. Bu yma adfywiad grymus yn 1839 a 1840, pryd yr ychwanegwyd cryn lawer at yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Evans, i Faentwrog yn 1844, cymerodd Mr. James Jones, ofal yr eglwys, a bu yn ffyddlon yn gofalu am y lle, nes y rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn nechreu 1869. Daeth Mr. David Evans yma yn Tachwedd, yr un flwyddyn, ac y mae yn parhau i ofalu yn gyson am y lle. Yr oedd hen gapel y Dyffryn wedi myned yn adfeiliedig, ac yr oedd yr eglwys ar ganol codi capel newydd pan ddaeth Mr. Evans yma, ac agorwyd ef Mai 18fed a'r 19eg, 1870, pryd y pregethodd Meistri W. Rees, Liverpool; R. Thomas, Bangor; O. Evans, Llanbrynmair, ac E. Evans, Caernarfon. Costiodd fwy na 500p., ond y mae haner y ddyled wedi ei thalu yn barod, a hyny agos yn hollol trwy ymdrechion cartrefol. Ofnai rhai pan y cauwyd drws Taltreuddyn wedi marwolaeth Mrs. Griffiths, na buasai neb i ofalu am yr achos, ond gofalodd yr Arglwydd i agor drysau a chalonau i groesawi ei achos ef, ac y mae yr eglwys yma mor siriol a gweithgar ac y gwelwyd hi erioed.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef, Henry Roberts, yr hwn sydd mewn masnach yn Liverpool, ac yn bregethwr parchus yn yr eglwys dan ofal Dr. Rees, yn Grove-street.

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif Mr. C. Jones.