Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Talsarnau
← Dyffryn-Ardudwy | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Bethania, Ffestiniog → |
TALYSARNAU.
Pentref bychan tua haner y ffordd o Maentwrog i Harlech. Ni bu gan yr Annibynwyr achos rheolaidd yn y lle hwn hyd yn ddiweddar iawn, er fod y diweddar Mr. H. Lloyd, Towyn, wedi bod yn pregethu yn achlysurol yn yr ardal pan oedd yma yn cadw ysgol. Pan ddigwyddai aelodau i'r Annibynwyr symud i'r gymydogaeth, pa un bynag ai teuluoedd cyfain, ai personau unigol i wasanaethu fyddant, yr oeddynt o angenrheidrwydd yn ymuno ag enwadau eraill. Er fod y Penrhyn yn agos, etto, gan fod Traethbach yn gulfor peryglus ac anghyfleus i'w groesi, ychydig o dramwy fyddai o'r naill ardal i'r llall. Ond yn y flwyddyn 1866, daeth teulu i fyw i'r gymydogaeth, sydd yn Annibynwyr rhy gadarn i newid eu henwad am ychydig o fantais, sef John Jones, dilledydd; un o hen ddisgyblion y diweddar Eta Delta, o gymydogaeth y Mynaddwyn, gerllaw Llanerchymedd, a chan fod pont wedi ei gosod yn haf y flwyddyn hono dros y Traethbach, mewn cysylltiad a phont y Cambrian Railway, cymellodd John Jones, Mr. Edward Morris, Penrhyn, i ddyfod i bregethu yn achlysurol i'w dŷ ef ar ambell noson waith, a Gorphenaf 27ain, o'r flwyddyn hono, y pregethodd yno gyntaf. Bu Meistri J. Williams, Maentwrog; W. Roberts, Tanygrisiau, a J. Jones, Abermaw, yn ffyddlon i ymweled a'r lle ac i gynorthwyo.[1] Ymwasgodd rhai Annibynwyr oedd wedi aelodi gydag enwadau eraill at eu brodyr, pan ddechreuwyd ymgynull, megis Morgan Evans, y saer, a'i deulu, a chynygiodd cyfaill selog o'r enw Humphrey Lloyd, Cefntrefor, ardrethu ystafell at wasanaeth yr achos am y pris rhesymol o 2p. 2s. yn y flwyddyn. Cafwyd cymorth arianol o'r eglwysi. cylchynol i ddodrefnu yr ystafel yn gryno a destlus, ac addewid gan undeb chwarterol y sir, i dalu ardreth yr ystafell, yn nghyda swm penodol at gynal yr achos am beth amser, ac mae yr undeb sirol yn para yn ffyddlon hyd yn bresenol i wneyd. Prydnhawn Sabboth, Mai 26ain, 1867, wedi cael anogaeth gan y cyfarfod chwarterol, a chydsyniad eglwys y Penrhyn, corpholwyd yma eglwys reolaidd gan Mr. E. Morris, pan y daeth wyth yn mlaen. i ymgorphori i fod yn eglwys, a dewiswyd dau o'r brodyr i fod yn ddiaconiaid, sef Morgan Evans, a John Jones, y rhai sydd yn gwasanaethu eu swydd gyda gofal a ffyddlondeb hyd heddyw. Cadwyd cyfarfod pregethu yn y lle mewn ffordd o agor yr ystafell, Ebrill 22ain a'r 23ain, sef pum' wythnos cyn sefydlu yr eglwys, pryd y cafwyd gwasanaeth Meistri E. Williams, Dinas; R. Ellis, Brithdir; T. Jones, Eisteddfa; J. Jones, Abermaw, a W. Ambrose, Porthmadog. Mae yr eglwys fechan hon wedi myned trwy gyfnewidiadau eisioes mewn symudiadau, a marwolaethau, a gwrthgiliadau, ond y mae yn rhifo pedwar-ar-ddeg o aelodau yn bresenol, (Mai, 1871,) a'r cyfan fel un gwr gyda'u gilydd yn cydymdrech yn mhlaid ffydd yr efengyl. Nid yw y gymydogaeth yn gynyddol hyd yn hyn, ac nid oes paganiaid yn byw yn yr ardal, ac felly nid yw y rhagolygon yn addawol i gynydd mawr yn fuan, ond mae yr ychydig sydd yn y lle yn dewis cydaddoli, ac y mae yma ddrws agored i'r Annibynwyr a arweinir i'r gymydogaeth o ardaloedd eraill.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ysgrif Mr. E. Morris, Penrhyn.