Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Horeb, Arthog

Oddi ar Wicidestun
Llwyngwril Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Llanegryn
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Arthog
ar Wicipedia




HOREB, ARTHOG

Yn mis Mai, 1863, symudodd teulu o Ddyffryn-Ardudwy, y rhai oeddynt Annibynwyr, i'r Bwlchgwyn i fyw. Yr oedd llawer o bregethu wedi bod yn Bwlchgwyn yn nyddiau Lewis Evans, tad Mr E. Evans, Llangollen, ond ni wnaed un cynyg ar sefydlu achos yma. Wrth weled fod gweithiau llechfeini yn cael eu hagor yn yr ardal, gwelwyd fod yr amser wedi dyfod wneyd hyny. Agorodd teulu Bwlchgwyn eu ty, ac aeth Mr Jones, Abermaw, i bregethu yno yn Mai, 1864, gyda bwriad i wneyd hyny yn rheolaidd. Bu Mr Ellis, Brithdir, a Mr Evans, Llangollen, yno drachefn, ac yn Nghymanfa Dolgellau, yn haf y flwyddyn hono, dygwyd i sylw y gynadledd y priodoldeb o gychwyn achos yn Arthog. Amlygwyd gwrthwynebiad gan rai brodyr ofnus, ond ymrwymodd Meistri J. Jones, Abermaw ; R. Ellis, Brithdir ; I. Thomas; Towyn, ac R. P. Jones, Llanegryn, i roddi Sabboth iddynt bob tri mis, ac i Mr Jones, Abermaw, a'r cyfeillion yn y lle drefnu i lenwi y Sabbothau eraill goreu gellid. Bu pregethwyr cynorthwyol y Sir yn ffyddlon iawn, ac athrawon a myfyrwyr y Bala bob amser yn barod pan y byddai galwad, ac yr oedd pethau yn myned yn mlaen mor llwyddianus fel y penderfynwyd ffurfio eglwys yn y lle, ac ar nos Wener, Hydref 28ain, 1864, aeth Mr Jones, Abermaw, a Griffith Jones, un o'i ddiaconiaid, drosodd i Bwlchgwyn, a ffurfiasant yno eglwys o ddeuddeg o bersonau oeddynt yn cydymroddi i gynal coffadwriaeth o enw yr Arglwydd yn y lle, a chadwyd y cymundeb cyntaf yno y Sabboth canlynol. Cynyddodd yr achos yn raddol, a barnwyd y dylesid cael capel, ac wedi tipyn o drafferth cafwyd prydles am gan' mlynedd ond un, ar ddarn o dir ar ffarm a elwir Tyddyn-Sheffrey, yr hwn oedd ar y pryd yn feddiant i gwmni chwarel a weithid yn yr ardal ; a chodwyd capel prydferth, yn mesur deg llath wrth wyth, a chostiodd rhwng pob treuliau, yn nghyd a'r ty perthynol iddo, £400. Bu Mr Jones, Abermaw, yn hynod lafurus i gasglu ato, a rhwng ei ymroddiad ef a gweinidogion eraill yn y Sir, ac ymdrech y cyfeillion yn y lle, y mae y ddyled wedi thalu, fel nad oes ond ychydig yn aros arno. Mae yr eglwys yma yn awr wedi uno a'r eglwys yn Llwyngwril, i roddi galwad i Mr Peter Davies, myfyriwr o athrofa y Bala, i ddyfod yma yn weinidog mewn cysylltiad a Llwyngwril, ac urddwyd ef yma Mai 9fed, 1871. Ar yr achlysur, eglurwyd natur eglwys gan Mr M. D. Jones, Bala ; holwyd y gweinidog gan Mr D. Evans, Abermaw; gweddiodd Mr J. Jones, Abermaw ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr R. Ellis, Brithdir. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri R. P. Jones, Llanegryn ; E. A. Jones, Dolgellau ; P. Howell, Ffestiniog ; I. Thomas, Towyn ; R. Thomas, Llanelltyd ; J. Davies, Rhiw, a Ll. Roberts, Borth. Amlygodd eglwys Coedpoeth ei pharch i Mr Davies, ar ddechreuad ei weinidogaeth, trwy anfon iddo erbyn dydd ei urddiad, yn llaw un o'i diaconiaid, byrsiad o aur, fel arwydd o'i theimlad da tuag ato fel gwr ieuangc wedi ei fagu yn eu mynwes, ac heb roddi un briw iddi erioed trwy unrhyw gamymddygiad.[1]

Nodiadau[golygu]

  1. Llythyr Mr J. Jones, Abermaw.