Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanegryn

Oddi ar Wicidestun
Horeb, Arthog Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Llanfihangel
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llanegryn
ar Wicipedia




LLANEGRYN

Nid yw yr hanes ydym wedi ei gael am ddechreuad yr achos yma ond tra anmherffaith. Mae yn ymddangos iddo gael ei gychwyn tua'r flwyddyn 1806, yn fuan ar ol dechreu yr achos yn Towyn a Llwyngwril, ond nid oes genym enwau y tai y pregethwyd gyntaf ynddynt, na phwy oedd y rhai blaenaf yma i dderbyn yr efengyl. Mr Hugh Pugh, o'r Brithdir, oedd un o'r rhai cyntaf a bregethodd yma yn y ganrif bresenol, ac efe fel yr ymddengys a sefydlodd yr achos. Dilynwyd ef gan Mr James Griffith, ac wedi hyny gan Mr David Morgan, ac yn y flwyddyn 1816, daeth Mr Hugh Lloyd i lafurio yma mewn cysylltiad a'r Towyn a Llwyngwril. Yn y flwyddyn hon yr adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn a alwyd Ebenezer, ac agorwyd ef yr un pryd ag yr urddwyd Mr Lloyd, sef Hydref 3ydd, 1817. Cynyddodd yr achos o dan weinidogaeth Mr Lloyd, ac ennillwyd amryw deuluoedd at yr achos, a rhai o honynt yn barchus a chyfrifol yn y byd. Helaethwyd y capel yn y flwyddyn 1829. Gan fod cylch y weinidogaeth yn rhy eang, rhoddodd Mr Lloyd y lle hwn, a Llwyngwril, a Llanfihangel i fyny, a dewiswyd Mr Evan Griffith, yr hwn oedd wedi bod am dymor dan addysg yn Nghroesoswallt, yn weinidog. Urddwyd ef Ionawr 2il a'r 3ydd, 1836. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr S. Roberts, Llanbrynmair ; holwyd y gofyniadau gan Mr H. Lloyd, Towyn, dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr C. Jones, Dolgellau ; pregethodd Mr D. Morgan, Machynlleth, i'r gweinidog, a Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri H. Morgan, Sammah ; J. Williams, Dinas ; T. Davies, Ffestiniog; E. Evans, Ahermaw; M. Jones, Llanuwchllyn; J. Davies,Glasbwll; W.Roberts,Dinas, a W.Ellis (Edwards,) Ffestiniog.[1] Llafuriodd Mr Griffith yma yn ddiwyd am bymtheng mlynedd, nes y penderfynodd ymfudo i America, lle y mae etto yn gryf a defnyddiol. Yn nechreu y flwyddyn 1850, daeth Mr John Owen yma o Nefin, i weinidogaethu, a bu yma yn llafurus a llwyddianus am yn agos ddeng mlynedd. Rhoddodd ei weinidogaeth yma i fyny, a chyn hir symudodd i Langefni, Mon, lle y mae yn aros etto. Yn nechreu y flwyddyn 1863, rhoddodd yr eglwys hon a'r eglwysi cysylltiedig, alwad i Mr Robert P. Jones, myfyriwr o athrofa Dduwinyddol Manchester, ac urddwyd ef Mai 20fed, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Wiliiams, Castellnewydd ; holwyd y gofyniadau gan Mr C. Jones, Dolgellau ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr E. Davies, Trawsfynydd ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr H. Morgan, Sammah, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr E. Evans, Llangollen. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd y dydd gan Meistri R. Ellis, Brithdir; J. Jones, Abermaw; W. Rees, Corris; D. C. Rees, Talybont ; J. Davies, Glasbwll, ac eraill. Mae Mr Jones yn parhau yma yn y weinidogaeth, a'r achos er y mynych symudiadau sydd yma, yn myned yn mlaen yn siriol.Yn y flwyddyn 1845, adeiladwyd capel bychan islaw Llanegryn, yr hwn a elwir Nazareth, gyda bwriad i gynal Ysgol Sabbothol, a phregethu achlysurol. Mae y brodyr ffyddlon J. Lloyd, Pant, a G. Jones, yn deilwng o goffad parchus yn nglyn a'r lle hwn. [2]

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma:—

John Williams. Addysgwyd ef yn y Drefnewydd. Urddwyd ef yn Dinasmawddwy, Gweler ei hanes of yn nglyn a Penegos.

Evan J. Evans, Ty'nllan. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1841.Ymfudodd America, lle yr urddwyd ef yn weinidog, ac y mae yn awr yn Williamsburgh, yn Nhalaeth Iowa.

John Griffith. Dechreuodd bregethu yn 1868, ac y mae newydd ymfudo i America.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dysgedydd, 1836. Tu dal 99.
  2. Llythyr Mr R. P. Jones.