Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanfihangel

Oddi ar Wicidestun
Llanegryn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Abergynolwyn
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)
ar Wicipedia




LLANFIHANGEL

Arferid pregethu mewn amaethdy o'r enw Tyno, ryw dair milldir o'r Llan, cyn dechreu pregethu yma. Mr Lloyd, Towyn, oedd yn gofalu am y lle ar y pryd. Adeiladwyd y capel yma yn 1821, ac adgyweiriwyd ef yn 1839. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod yn nglyn a Llanegryn, ac felly y mae yn parhau. Bu pregethu rheolaidd am flynyddoedd mewn capel bychan yn Nhalyllyn, pan oedd Mr Griflith Evans yn byw yn Maesypandy, ond nid ydym yn deall i'r enwad Annibynol gael meddiant o hono erioed, a phan y darfu cysylltiad y gwr hwnw a'r enwad, darfu y pregethu gan yr Annibynwyr yn y capel. Mabwysiadodd Mr Evans syniadau y Plymouth Bretheren, a llwyddodd i dynu rhai dysgyblion yn y wlad yma ar ei ol. Magodd deimlad gwrth-weinidogaethol mewn cryn lawer o bersonau, a bu raid i'r achos yn Llanfihangel ymladd yn erbyn yr ysbryd hwnw, ac ni ddiangodd heb dderbyn niwed ar y pryd oddiwrtho. Llawen genym ddeall fod olion yr ysbryd gwenwynig hwnw wedi ei olchi ymaith.

Nodiadau[golygu]