Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Jerusalem
← Penstryd | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Trawsfynydd → |
JERUSALEM.
Mae y capel hwn yn mhlwyf Trawsfynydd, ar ochr y ffordd sydd yn arwain o'r Llan i Ddolgellau. Byddid yn arfer pregethu ar nos Sabbothau yn y Tyddynmawr, er's amryw o flynyddau, ac yr oedd ychydig o aelodau Penystryd yn byw yn y gymydogaeth hon. Yn y flwyddyn 1826, cafwyd prydles am 40 mlynedd, gan Syr W. Williams Wynne, ar ran o dir y Tyddynmawr, i adeiladu y capel a elwir Jerusalem, am yr ardreth o bum' swllt y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr ydoedd Meistri Edward Davies, Trawsfynydd; Cadwaladr Jones, Dolgellau; Hugh Lloyd Towyn; a Thomas Davies, Dolgellau. Daeth y brydles gyntaf i fyny yn y flwyddyn 1866, ac adnewyddwyd y weithred gan Syr W. W. Wynne presenol, am 40 mlynedd ychwaneg. Gweithiodd un gwr lawer arno nes ei orphen heb geisio dim gan neb am ei lafur. Teithiodd lawer i gasglu at dalu am dano, a thalwyd pob dimai a gasglwyd ato yn mhob man, heb gadw dim at na thraul na thrafferth. Rhoddodd un teulu yn y gymydogaeth 12p. yn arian tuag at dalu am y capel, ac ni bu arnynt ddim o'u heisiau hyd yma. Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Penystryd, a than ofal yr un gweinidogion, ac y mae yn awr yn amddifad o fugail. Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Griffith Price, Corsygarnedd, yr hwn sydd yn bregethwr cymeradwy yn Llanfachreth.