Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Penstryd

Oddi ar Wicidestun
Llanymawddwy Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Jerusalem
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Trawsfynydd
ar Wicipedia




PENYSTRYD.

Mae y capel hwn ar un o'r lleoedd uchaf yn mhlwyf Trawsfynydd; ac y mae y lle, a golwg hynafol yr addoldy, yn ein hadgofio o sefyllfa dra gwahanol ar Ymneillduaeth Cymru i'r hyn ydyw yn bresenol.

Yr ydym wedi derbyn y rhan fwyaf o hanes yr eglwysi yn y plwyf hwn, a rhai o'r plwyfi cylchynol, oddiwrth yr hybarch Mr. Edward Davies, Trawsfynydd; a sicr genym, nad oes neb yn fyw mor alluog at hyn o orchwyl. Mae traddodiad yn mysg hen bobl y wlad hon, fod dau dŷ anedd yn mhlwyf Trawsfynydd wedi eu trwyddedu yn foreu i bregethu ynddynt, sef Tyddyn-sais, a Bronysgellog. Os yw hyny yn gywir, y tebygolrwydd yw, mai yn nyddiau Mr. H. Owen, Bronyclydwr, a'i gydlafurwyr, y bu hyny. Bu teulu o gymydogaeth Llanuwchllyn, yn byw yn Hafodygarreg, Trawsfynydd, er's mwy na phedwar-ugain-mlynedd yn ol, a byddai yno foddion crefyddol, yn cael eu cynal yn awr a phryd arall, a byddai Lady Nanney, o Gefnddeuddwr, yn arfer a myned yno i addoli. Yr oedd march-faen, hyd yn ddiweddar, yn ymyl hen gapel Penystryd, a byddai y Lady Nanney yn arfer cerdded o ben ffridd y Tyddyndu at y march-faen, ac yna yn myned ar gefn ei cheffyl drachefn; a byddai un John Garmons, o'r Rhiwgoch, yn annog rhyw anifeiliaid o ddynion, tebyg iddo ei hunan, i aflaneiddio y march-faen, o ddirmyg arni am ei bod yn myned i gydaddoli a'r Annibynwyr. Ni sefydlwyd achos yma y pryd hwnw, ond pan ymadawodd y teulu hwnw o Hafodygarreg, arosodd pobl y gymydogaeth mor ddigrefydd ag o'r blaen. Yr oedd gwr o'r enw Mr. Robert Price yn byw yn y Gilfachwen, Trawsfynydd-etifedd y Gerddibluog, a'r berthynas agosaf oedd yn fyw y pryd hwnw, i Mr. Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd. Yr oedd gan Robert Price ferch o'r enw Jane, a hi oedd ei unig ferch, ac ymbriododd a Mr. John Jones, o Aeddren, yn mhlwyf Llangwm, tua'r flwyddyn 1785. Yr oedd John Jones yn Annibynwr selog, ac yn aelod, mae yn debygol, yn Rhydywernen, cangen y pryd hwnw o'r eglwys yn Llanuwchllyn. Mae yn fwy na thebyg mai John Jones a berswadiodd ei dad-yn-nghyfraith i ganiatau i ambell oedfa gael ei chynal yn y Gilfachwen. Mae yn amlwg mai Mr. Abraham Tibbot, a Mr. Robert Roberts, o Dyddynyfelin, a fu yn offerynol i sefydlu yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Ymunodd Mr. Robert Price, a'i wraig, ac amryw eraill a'r Annibynwyr, a derbyniwyd hwynt yn aelodau yn hen gapel Llanuwchllyn, a byddent yn arfer myned yno i gymundeb bob mis am gryn amser.

Efallai mai nid annyddorol fyddai ychydig o hanes John Jones, o Aeddren, gan ei fod yn dal perthynas mor agos a dechreuad yr achos Annibynol yn Nhrawsfynydd. Yr oedd John Jones, fel y sylwyd, yn barod yn Annibynwr trwyadl, yn ddyn gwybodus a pharchus iawn yn ei gymydogaeth,. ac yn fwy dysgedig na'r rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Ar ol y chwyldroad yn Ffraingc, yr oedd yn amser blin yn Lloegr, ac yn y rhan fwyaf o deyrnasoedd y Cyfandir. Yr oeddynt yn codi Militia yn fynych iawn. Meddyliodd llangciau Llangwm am sefyll yn erbyn hyny, a phenderfynasant fyned i Ddinbych i'r perwyl. Ni wyddai John Jones ddim am eu bwriad hyd nes yr oeddynt wedi cychwyn; ond pan ddeallodd eu bod wedi myned, cyfrwyodd ei anifail mor fuan ag y gallai, ac aeth ar eu hol i'w perswadio i fod yn llonydd, a llwyddodd i hyny. Gofynodd rhai o'r ustusiaid i'r llangciau, pa beth a'u boddlonai i fyned adref yn dawel? Atebasant hwythau y gadawent i John Jones gytuno drostynt. Cynygiodd yr ustusiaid iddo ddeg swllt, fel y gallent gael tamaid i'w cario adref, a boddlonodd yntau i'w cymeryd, ac felly ymadawsant yn heddychlon a diderfysg. Yn mhen ychydig amser ar ol hyny, anfonwyd mintai o feirch—filwyr i ddal John Jones i'w roddi yn y carchar fel terfysgwr, ond yn ffodus, cafodd ef wybod am eu dyfodiad mewn pryd, a methasant a chael gafael arno, chwiliasant ei dŷ gyda dibrisdod a manylrwydd mawr, ond ni buont yn llwyddianus y tro hwnw. Ar ol hyn aeth John Jones i'r America, gan adael ei deulu ar ol i ymdaro fel y gallent. Yn mhen cryn amser dychwelodd o'r America, gan ddisgwyl y cawsai lonyddwch, ond nid felly a fu. Cymerwyd ef i'r ddalfa, a rhoddwyd ef yn ngharchar Rhuthin hyd y brawdlys. Y cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn ydoedd, ei fod wedi mynu haner gini trwy drais oddiar yr ustusiaid. Parhaodd prawf am ddau ddiwrnod, ond y dydd olaf o'r prawf, daeth dyn cyffredin yn mlaen, a thyngodd iddo weled John Jones yn derbyn haner gini o aur, gan un o'r ustusiaid, ac iddo yntau roddi chwe'cheiniog yn ol, yr hyn oedd yn profi yn amlwg fod yno gytundeb rhyngddynt, ac nas gallasai fod yno na thrais na gorthrech, a barnodd y rheithwyr ei fod yn cael ei gam gyhuddo, ac felly daeth yn rhydd o afaelion ciaidd y creuloniaid a fynent ei gosbi. Disgynodd y trallod a'r erledigaeth hon ar John Jones o herwydd ei fod yn Annibynwr!!

Yn y flwyddyn 1789, cafwyd lle gan Meistri William a Robert Jones, o Dolgain, i godi y capel, a elwir yn gyffredin Capel Penystryd. Cafwyd prydles ar ddarn bychan a gwael o dir am 99 o flynyddoedd. Costiodd y lle ryw gymaint heblaw ardreth flynyddol o haner coron. Ymddiriedolwyr y capel oeddynt Meistri Abraham Tibbot, George Lewis, Benjamin Jones, a Robert Roberts. Agorwyd y capel tua diwedd y flwyddyn 1789, a chorpholwyd eglwys ynddo. Cangen o Llanuwchllyn yr ystyrid y lle am y ddwy flynedd gyntaf, a deuai Mr. Tibbot a phregethwyr Llanuwchllyn yma dros y Feidiog er pellder a gerwinder y ffordd. Bu Mr. Robert Price a'i briod yn gryn lawer o gymorth i'r achos yn nghymydogaeth Penystryd, yn enwedig yn ei ddechreuad. Efe fyddai yn myned i gyfarfodydd i ymofyn am gyhoeddiadau pregethwyr, a byddai ei dŷ ef yn agored i'w derbyn am flynyddau. Parhaodd ei briod ef yn ffyddlon gyda chrefydd hyd ddiwedd ei hoes, ond trodd ef yn wrthgiliwr cableddus, ac yn erlidiwr creulon! Y fath resyn fod un a ddechreuodd mor addawus, yn dybenu mor druenus. Bu Robert Owen a'i briod yn byw flynyddoedd lawer yn y Gilfachwen, ar ol marw Robert Price, a buont yn ffyddlon ac yn ymgeleddgar iawn i'r achos ar hyd eu hoes. Tua'r flwyddyn 1792, daeth Mr. William Jones yma. Yr oedd wedi bod am dymor yn Beaumaris, ond nid ordeiniwyd ef yno, ond wedi iddo dderbyn galwad yr eglwys yn Mhenystryd, urddwyd ef Mai 22ain, 1792. Nid oedd yr eglwys yn gallu rhoddi ond ychydig iddo at ei gynhaliaeth. Mewn llythyr at y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, dyddiedig Awst 26ain, 1796, dywed mai 13p. Y flwyddyn oedd y cwbl a dderbyniai o bob man at ei gynhaliaeth ef a'i deulu, a beth oedd hyny at gadw pump o honynt. Mae ei lythyr yn un o'r rhai mwyaf torcalonus o'r holl lythyrau y digwyddodd i ni eu gweled, y rhai a anfonid gan weinidogion Cymru at reolwyr y Drysorfa, yn y dyddiau hyny. Hawdd deall ar ei lythyr ei fod mewn tlodi dwfn. Dywed ei fod ef a'i deulu yn gorfod byw yn aml ar fara haidd a llaeth enwyn. , Nid rhyw lwyddiant mawr a fu ar ei weinidogaeth, er ei fod yn ŵr da ond siriolwyd ef yn niwedd ei oes trwy ymweliad nerthol oddiwrth yr Arglwydd. Cafodd Mr. Jones ergyd o'r parlys pan yn pregethu yn Nhowyn, ar ei ddychweliad o'i daith yn y De. Cyrhaeddodd adref, ond bu farw Hydref 30ain, 1820.

Wedi marw Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys yn Penystryd alwad i Mr. Edward Davies, yr hwn oedd er's blynyddau yn weinidog yn Capelhelyg a Rhoslan, a chan fod Mr. Davies yn flaenorol wedi priodi merch Gwynfynydd, Trawsfynydd, a thrwy hyny dan ryw fath o angenrheidrwydd i drigianu yn y wlad yma, cydsyniodd a'r gwahoddiad, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Mhenystryd a Maentwrog, yn mis Mai, 1822. Nifer yr aelodau yma ar y pryd oedd naw-a-thriugain, a thair punt a phymtheg swllt y chwarter, oedd y cwbl a addewid iddo fel ffrwyth ei lafur, ac i ba raddau y cyflawnasant eu haddewid, goreu y gwyr efe. Ymroddodd Mr. Davies i gyflawni ei weinidogaeth, gan bregethu trwy yr holl wlad oddi-amgylch, a sefydlu achosion newyddion, y rhai a ddaw etto dan ein sylw. Tua'r flwyddyn 1839, o gylch canol oes weinidogaethol Mr. Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn y plwyf hwn, fel mewn llawer o leoedd eraill, ac ychwanegwyd tua dau gant at rifedi yr eglwysi Annibynol, ond trwy wrthgiliadau, symudiadau, a marwolaethau, lleihaodd rhifedi yr eglwys, fel na bu ar ol hyny mor lluosog. Cafwyd darn o dir wrth gefn hen gapel Penystryd i gladdu y meirw, ac y mae yno lawer wedi eu claddu eisioes. Pan ydoedd Mr. Davies tua 69 oed, ac wedi llafurio yn galed trwy bob tywydd am dair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau yn y gymydogaeth hon, yr oedd ei nerth i raddau yn pallu, a'r gwaith yn fawr, barnodd fod yn well iddo ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, ac yn y flwyddyn 1855, rhoddodd yr eglwysi yn mhlwyf Trawsfynydd i fyny, heb na thwrf na therfysg.

Bu yr eglwysi o'r flwyddyn 1855, hyd y flwyddyn 1863, heb un gweinidog sefydlog, ond yr oeddynt yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol; ond yn y flwyddyn uchod rhoddasant alwad i Mr. William G. Williams, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mehefin 18fed a'r 19eg, 1863. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Williams, Dinas; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Jones, Abermaw; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; pregethodd Mr. T. Roberts, Llanrwst, i'r gweinidog, a Mr. W. Ambrose, Porthmadog, i'r eglwys. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri E. Stephen, Tanymarian; J. Thomas, Towyn; H. Ellis, Corwen; J. Jones, Maentwrog; R. Ellis, Brithdir, ac R. P. Jones, Llanegryn. Bu Mr. Williams yma hyd 1869, pan y darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac er hyny, y mae yr eglwys yma yn amddifad o weinidog.

Codwyd y personau a ganlyn i bregethu yn yr eglwys hon:—

William Williams. Mab Cwmhwyson-ganol ydoedd. Derbyniwyd ef yn aelod cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, gan Mr. William Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Gwrecsam, ac urddwyd ef yn y Wern, ac y mae ei enw yn adnabyddus i holl Gymru. Daw dan ein sylw yn nglyn a'r Wern.

Hugh Lloyd. Urddwyd ef yn y Towyn, lle y ceir ei hanes yn helaethach. Codwyd yntau yn nyddiau Mr. Jones.

Lewis Williams. Ni chafodd nemawr fanteision dysgeidiaeth, ond bu yn ffyddlon tra y parhaodd ei dymor byr.

William Roberts o'r Hafod. Bu yn y Neuaddlwyd dan addysg Dr. Phillips, collodd ei le, a chiliodd at y Bedyddwyr.

Robert Roberts, (Robin Meirion.) Gwr ieuangc gobeithiol iawn, yn meddu ar y ddawn farddonol i raddau lled helaeth, yn feddyliwr dwfn, yn ymresymwr cadarn, ac yn areithiwr hyawdl. Mynai ddeall os byddai yn bosibl bob peth yr ymaflai ynddo; nid oedd yn foddlon i gymeryd dim, hyd y gallai, yn ganiataol heb ei chwilio. Aeth i athrofa Cheshunt, ac yr oedd yn cynyddu yn gyflym mewn dysgeidiaeth. Yr oedd yn Ymneillduwr selog. Yr oedd yn rhaid i'r myfyrwyr yno ddarllen rhyw gymaint o wasanaeth eglwys Loegr, pan yn cadw oedfaon, ond safodd ef allan yn erbyn gwneyd, er ei fod mewn perygl o gael ei droi o'r ysgol, er hyny safodd ei dir yn ddiysgog, a llwyddodd, a chafodd ei gyd-ysgolheigion yr un rhyddid os ewyllysient. Yr oedd anffyddiwr unwaith yn dirmygu Cristionogaeth, ac yn herio rhyw un i ddyfod yn mlaen i'w wrthwynebu. Yr oedd Robert Roberts yno, ac eraill o'i gydfyfyrwyr, a gofynodd i'r naill a'r llall o honynt pwy a âi yn erbyn y cawr, ond gomeddai pawb o honynt fyned, "Wel ynte," meddai, "myfi a af i fyny." Yr oedd golwg lled hurtaidd arno, a phan yn cychwyn i fyny amcanwyd ei rwystro. "Na," meddai yr anfyddiwr, "gadewch iddo ddyfod i fyny, mae yr olwg arno yn argoeli na wna efe ddim llawer o niwed," ac felly cafodd fyned yn mlaen, a dechreuodd siarad yn rymus, ac ni bu yr anffyddiwr yn faith heb weled ei gamsyniad, a da fu ganddo gael diangc allan, gan adael y maes i'r Cymro. Cafodd anrheg o het newydd gan ryw foneddwr oedd yn y lle, am ei wrolder. Gan fod ganddo enaid mawr, a chorph gwan, methodd a dal, ac ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a daeth adref i farw cyn i'w dymor bwriadol yn yr athrofa ddyfod i fyny. Bu farw yn nhŷ ei riaint, a chladdwyd ef yn mynwent Trawsfynydd. Mae a ganlyn ar ei fedd:—

"Er coffadwriaeth am Robert Roberts (Robin Meirion), yr hwn a anwyd yn Nhrawsfynydd, Mawrth y 1af, 1807, ac a fu farw Gorphenaf 31ain, 1832. Yr oedd yn meddu deall cryf, dychymyg bywiog, a duwioldeb diffuant, hynododd ei hun fel ysgolhaig, traethodydd, a bardd, ond yn benaf fel pregethwr efengyl Crist. Yn nghanol tymor ei efrydiaeth yn athrofa Cheshunt, ei nerth a ostyngwyd, ei ddyddiau a fyrhawyd, a dychwelodd i'w gartref cynhenid lle y bu farw. Iddo ef yr oedd ei farwolaeth yn elw, ond i filoedd o'i gydwladwyr yn siomedigaeth. Yn ei'ysgrifau, er ei fod wedi marw, y mae efe yn llefaru etto.

Robin Meirion dirionwedd—yma roed,
Mor wael yw ei anedd!
Yn foreu iawn o'i fawredd,
Ow! i'w fath wywo i fedd.

Ei glod ef fel goleu dydd—dywyna,
Hyd wyneb ein broydd;
Ie'n fawr ei enw fydd,
Tra saif enw Trawsfynydd."

—IEUAN IONAWR.


COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM JONES. Ganwyd ef yn Lledrod, sir Aberteifi, Medi 15fed, 1760. Yr oedd Theophilus Jones, pregethwr hynod gyda'r Methodistiaid, yn frawd iddo. Derbyniodd addysg yn Ystradmeurig, a bu unwaith yn meddwl am fyned i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, ond trwy gyfarfod a Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, newidiwyd ei holl gynlluniau. Os nad ydym yn camsyniad, yn Llanbrynmair, tua'r flwyddyn 1786, y daeth i gysylltiad a'r Annibynwyr, trwy lythyr oedd ganddo oddiwrth Methodistiaid yn ei gymeradwyo. Bu yn Beaumaris am ddwy flynedd, a thra yno y priododd, ac yn 1792, daeth i Penystryd, lle y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn syml, dirodres, diniwaid, a gonest iawn, braidd yn rhy ddiniwaid i fyw yn mysg dynion drwg a thwyllodrus, a chymerodd rhai fantais ar ei ddiniweidrwydd i'w dwyllo a'i ddrygu yn ei amgylchiadau tymorol. Bu iddo naw o blant, tri o feibion a chwech o ferched. Claddwyd saith o'r plant yn mynwent plwyf Trawsfynydd, gyda eu rhieni, aeth un mab iddynt yn forwr, ac ni chlybuwyd dim am dano er's llawer blwyddyn, priododd un o'r merched, a bu farw heb adael plant, ac felly nid oes o deulu Mr. Jones, heddyw yr un yn fyw.

Dywedodd Mr. Edmund Jones, Yr Hen Brophwyd o Bontypool, fel ei gelwid, wrth Mr. Jones, pan ydoedd yn ddyn ieuangc, cyn iddo ddyfod i'r Gogledd, y byddai llwyddiant ar ei weinidogaeth yn enwedig tua diwedd ei oes, ac felly a fu, torodd allan ddiwygiad lled rymus yn Mhenystryd ychydig amser cyn iddo farw, ac felly aeth adref, a gwynt teg loned ei hwyliau. Cafodd daith lled helbulus trwy'r byd o ran ei amgylchiadau tymorol, rhwng fod ganddo deulu lluosog, eglwysi gweiniaid, a gwaeth na'r cwbl, lled esgeulus a diymdrech. Yr oedd o dan anfantais fawr o ddiffyg llyfrau, y rhai oedd yn ei ddyddiau ef yn ddau cymaint o bris ragor ydynt yn y dyddiau hyn, a chan nad ydoedd yn cael ond ychydig oddiwrth y weinidogaeth, nis gallodd gyrhaedd ond nifer fechan o honynt. Ond er nad oedd gan Mr. Jones ond ychydig o lyfrau, yr oedd yn bregethwr da, sylweddol, ac efengylaidd. Ni astudiodd ond ychydig o drefn ar ei bregethau, mwy na llawer o'i gydoeswyr. Yr oeddynt hwy yn ymddiried cryn lawer ar eu cof, ac yn ymddibynu yn neillduol ar yr hwyl a gaffent wrth bregethu. Ond er mai lled anrhefnus a fyddai ei bregethau, ceid ambell afal aur a pherlyn dysglaer ganddo weithiau. Teithiodd lawer i gyfarfodydd, yn gwbl ar ei gost ei hunan, fel yr oedd pawb o'i frodyr yn gorfod gwneyd yn y dyddiau hyny, etto medrodd dalu i bawb yr eiddo, a myned i'w fedd yn ddiddyled. Yr oedd Mr. Jones, fel y sylwyd yn barod, yn cael ei ystyried yn ddyn plaen, gonest, a diniwaid iawn, yn fwy felly na'r cyffredin, etto, byddai ganddo ambell i ddywediad hynod synwyrol a chyrhaeddgar. Yr oedd unwaith yn cadw oedfa mewn tŷ annedd yn agos i Langwm, lle yr oedd ychydig o gyfeillion crefyddol yn arfer ymgynull, ac ar ddiwedd yr oedfa, cyhoeddwyd fod yno gyfeillach neillduol i gael ei chynal yn mhellach. Safodd yn ol yno ddau o'r dynion dihiraf yn y gymydogaeth, gan ddisgwyl cael rhywbeth mae yn debygol i wawdio crefydd ar ol hyny. Gofynodd rhai o'r bobl yn ddistaw i Mr. Jones, ai nid gwell fuasai iddynt ddyweyd wrth y bobl hyn am fyned allan? "Na," meddai yntau, gadewch iddynt;" yna cyfododd yn araf ar ei draed, a dywedodd, Wel, beth a fyddai oreu i ni gymeryd dan sylw yma heno? Oni fyddai yn well i ni ofyn tipyn i bawb, pa faint y maent yn gofio o'r bregeth? Pa le tybed y byddai oreu i ni ddechreu? Goeliaf fi y byddai yn well i ni ddechreu tipyn tua'r drws yma." Gyda hyny, dyma y ddau ddyn allan ar draws eu gilydd, gan adael eu hetiau ar ol, heb gael un testyn i wawdio, ond wedi gwneyd gwawd o honynt eu hunain. Yr oedd Mr. Jones unwaith yn y Deheudir, yn nhŷ hen weinidog, yr hwn oedd. wedi rhoddi y weinidogaeth heibio o herwydd henaint, ac yr oedd yr hen ŵr yn dangos cryn lawer o anfoddlonrwydd tuag at ei olynydd ieuangc, ond o'r diwedd dywedai Mr. Jones, "Hawyr bach, Mr. E., yr ydwyf yn ofni yn sound eich bod chwi yn byw yn ormod o dan lywodraeth y twca." Mewn cyfarfod yn Llanuwchllyn, gofynai y Dr. Lewis i'r gweinidogion oedd yn bresenol, beth oedd i'w wneyd i'r bobl ieuangc oedd yn cadw cwmpeini a phobl o'r byd, fel y dywedid, ac yr oedd pawb yno yn golygu y dylesid eu dysgyblu, yn mhlith eraill, gofynai i Mr. Jones, beth oedd ef yn ei feddwl? Dywedai yntau, "eu gyru nhw allan yn sownd dybiaf fi, i edrych a oerant hwy beth." Yr oedd Mr. Jones unwaith yn myned a buwch i'r ffair i'w gwerthu, a chyfarfu ar y ffordd ag un o'i gymydogion, a gofynodd iddo, pa faint a dalai y fuwch? Atebodd hwnw ei bod yn werth naw punt, ond y gallai ef ofyn deg punt am dani. "Na," meddai yntau, "nid ydyw pethau fel hyny yn cydfyned a'm galwadigaeth i." Bu Mr. Jones yn ffyddlon iawn i godi achos yn Maentwrog, teithiodd yno trwy bob tywydd, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Tarawyd ef gan y parlys, yn mis Mehefin, pan yn pregethu yn Nhowyn, Meirionydd, a bu farw yr 31ain o'r Hydref canlynol, yn y flwyddyn 1820, yn 60 mlwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf Trawsfynydd, wedi bod yn gweinidogaethu yn Mhenystryd am yn agos i ddeg-ar-hugain o flynyddau. Mae ef a'i wraig a'u plant i gyd, onid dau, yn gorwedd yno gyda'u gilydd.

Nodiadau

[golygu]