Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llanfaple
← Trefynwy | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Dock Street, Casnewydd → |
LLANFAPLE.
Llanfaple sydd blwyf bychan yn cynwys 156 o drigolion, tua phum' milldir o dref Abergavenny, heb fod yn mhell o'r brif ffordd o'r dref hono i Drefynwy. Yn 1662, cafodd Charles Williams, un o'r ddwy fil," ei droi allan o Eglwys y plwyf hwn. Os oedd ganddo ef ychydig ddysgyblion yn y gymydogaeth, yr oedd eu henwau a'u coffadwriaeth wedi eu colli oesau cyn cychwyniad yr achos Annibynol sydd yma yn bresenol.
Cafodd yr achos hwn ei ddechreu yn gynar yn y ganrif bresenol trwy offerynoliaeth John Jayne, Ysw. a Mr. William Watkins. Yr oedd Mr. Jayne yn aelod ac yn bregethwr yn y New Inn. Symudodd i'r gymydogaeth hon, i dyddyn o'r enw Pwll-y-ci, ac yn fuan wedi iddo sefydlu yma dechreuodd bregethu mewn gwahanol dai yn yr ardal. Yr oedd y rhag—grybwylledig, Mr. William Watkins, Tynewydd, yn gefnogwr gwresog iddo. Ond yn fuan cyfododd person y plwyf a rhai o'i gyfeillion, wrthwynebiad iddynt, fel y bu raid iddynt, er mwyn diogelwch, drwyddedu ty at bregethu ynddo. Yn fuan wedi hyny adeiladwyd capel ar ddarn o dir o eiddo Mr. Jayne, yr hwn a roddodd yn rhad, mewn gweithred ddiogel. Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel. Tua yr amser hwnw, os nad ychydig cyn hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Lewis, y pryd hwnw o Zoar, Merthyr Tydfil, i sefydlu yma fel gweinidog ar yr eglwys ieuangc. Hoffid Mr. Lewis yn fawr gan yr ardalwyr, a bu yn foddion i ennill llawer o eneidiau at yr Arglwydd yn nhymor byr ei weinidogaeth. Symudwyd ef yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb, yn y flwyddyn 1813, pryd nad oedd ond 52 oed. Ar ol marwolaeth Mr. Lewis bu yr eglwys am ddeng mlynedd heb un gweinidog sefydlog. Mai 28ain, 1823, urddwyd Mr. Thomas Rees, aelod gwreiddiol o Zoar, Merthyr, yn weinidog yma. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn:—Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed; pregethwyd ar Natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. E. Skeel, Abrgavenny; pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Jones, Pontypool; ac ar Ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Lewis, Tredwstan. Parhaodd Mr. Rees i lafurio yma hyd 1833, pryd y symudodd i Gasgwent. Bu ei weinidogaeth yma yn dderbyniol a llwyddianus. Cafodd amryw eu hychwanegu at yr eglwys, ac yr oedd pawb yn teimlo fod ei ymadawiad yn golled fawr i'r eglwys a'r ardal. Dilynwyd Mr. Rees gan Mr. James Williams, yr hwn a orfodwyd i roddi y weinidogaeth i fyny yn mhen dwy flynedd o herwydd gwaeledd ei iechyd. Wedi bod tua dwy flynedd heb un gweinidog, darfu i ran o'r eglwys, yn groes i ewyllys y rhan arall, roddi galwad i un Jonathan Davies, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd, a nai i'r diweddar Mr. Davies, Cana, sir Gaerfyrddin. Urddwyd ef yma yn 1838. Bu yma yn agos i ddwy flynedd, ond blin iawn oedd agwedd pethau trwy yr holl amser. Aeth oddiyma i Victoria, ac oddiyno i Dredegar, ac y mae er's tuag wyth mlynedd ar hugain bellach wedi ymuno a'r Bedyddwyr. Yr ydym yn gadael y gweddill o'i hanes i haneswyr yr enwad hwnw i'w gofnodi, os gwelant yn werth gwneyd hyny.
Yn nechreu y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. David Lewis, y gweinidog presenol, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn athrofa Mr. Davies, Penywaun; ac urddwyd ef yma Ebrill 15fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan y Meistriaid Rowlands, Pontypool; Davies, Penywaun; Powell, Brynbiga; Rees, Casgwent; Powell, Hanover; ac Evans, Maesaleg.
Mae Mr. Lewis wedi bod yma bellach am ddeng mlynedd ar hugain yn barchus a llwyddianus. Aelod gwreiddiol o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, ydyw, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn fuan ar ol ei urddiad yn Llanfaple, dechreuwyd achos ganddo yn Ragland, yr hwn a ddaw etto dan ein sylw. Yn y flwyddyn 1855, aed i'r draul o 45p. i adgyweirio y capel yn Llanfaple, a thalwyd y cwbl ar unwaith gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Mae Mr. Lewis yn ei lythyr atom yn crybwyll am farwolaeth Mr. Thomas Parry, un o'r diaconiaid, ac y mae yr hyn a ddywed am y gwr da hwnw yn werth ei gofnodi er siampl i holl ddiaconiaid ac aelodau ein heglwysi:—"Yn ddiweddar collais hen gyfaill anwyl, sef Mr. Thomas Parry, Cefn—ddwy—glwyd. Bu yn ddiacon yn yr eglwys am lawer o flynyddau, a chyflawnodd ddyledswyddau ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn Gristion o ymarweddiad teilwng; yn 'Israeliad yn wir.' Un o dymer ddistaw a heddychlon ydoedd, ac o galon lawn o haelioni. Cyfranai yn haelionus at bob achos da. Yr oedd yn ganwr rhagorol, ac yr oedd yn mhob ystyr yn ddyn gwir ddefnyddiol. Nid wyf erioed yn cofio ei weled yn absenol o'r cyfarfod gweddi, oddieithr ei fod yn glaf. Bu ef, a'i henafiaid o'i flaen, yn brif gynalwyr yr achos yma. Efe a fu farw Awst 13eg, 1869, yn 62 oed. Mae yn dda genyf allu dyweyd fod ei fab, yr hwn sydd yn ddwy-ar-hugain bed, yn dilyn siampl ei dad. Efe yw blaenor y canu, ac y mae yn weithgar a defnyddiol iawn yn yr ysgol Sabbothol. Yn wyneb pob cyfnewidiad mae yn dda genyf allu hysbysu fod yr achos yn myned rhagddo yma. Cafodd amryw bobl ieuaingc eu hychwanegu at y eglwys y flwyddyn ddiweddaf, y rhai, wrth yr olwg bresenol, fydda yn ddefnyddiol gyda yr achos."
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DANIEL LEWIS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1761, yn Tai'rlan, yn mhlwyf Merthyr Tydfil. Pan yn llangc ieuangc anfonwyd ef gan ei rieni i'r ysgol i Abergavenny, ac yno y derbyniwyd ef gan y Dr. Benjamin Davies yn aelod o'r eglwys yn Castle Street. Mae yn debygol hefyd mai yno y dechreuodd bregethu; ond pa bryd nis gwyddom. Yn nyddlyfr Mr. Phillip Dafydd am Rhagfyr 28ain, 1783, cawn y cofnodiad canlynol: "Bum heddyw yn Mhenmain, ond cefais fy arbed i bregethu gan wr ieuangc, Daniel Lewis, Tai'rlan. Ei destyn oedd Heb. ii. 3. Efe a lefarodd yn dda o ddyn ieuangc." Mae yn debygol ei fod wedi dechreu pregethu rai misoedd o leiaf cyn hyn, fe allai flwyddyn neu ddwy. Yn fuan wedi symudiad yr athrofa o Abergavenny i Groesoswallt, cynghorwyd Mr. Lewis gan ei gyfaill Mr. Jenkin Lewis, yr hwn a fagesid yn yr un ardal ag yntau, ac oedd yn awr yn is-athraw yn Nghroesoswallt, i fyned yno i'r athrofa, yr hyn a wnaeth. Bu yno am dair blynedd ar ei draul ei hun. Yn y flwyddyn 1788 neu '89, urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys a gyfarfyddai yn Rhydymardy a'r Cwmmawr, gerllaw Abertawy. Bu yno am oddeutu pymtheg mlynedd yn gysurus a llwyddianus iawn. Tua diwedd y flwyddyn 1803 neu ddechreu 1804, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Zoar, Merthyr, a symudodd yno, ond ni chafodd fawr gysur tra y bu yno. Yr oedd y capel cyntaf yn Zoar newydd gael ei adeiladu, a'i ragflaenydd, Mr. Howell Powell, newydd ymfudo i'r America, gan adael y capel dan faich o ddyled digon trwm i lethu yr achos ieuangc. Cyn gynted ag yr ymsefydlodd Mr. Lewis yno, bu raid iddo barotoi i fyned i ffwrdd i Loegr, er casglu at ddyled y capel. Yr oedd hyny ynddo ei hun yn ddigon annymunol, ond yr oedd y gofidiau a'i dilynodd yn llawer gwaeth. Mae y diweddar Dr. Jenkyn, yn nghofiant Mr. Evans, Zoar, yn yr Evangelical Magazine am Awst 1834, wedi rhoddi hanes yr helbul hwn, ac nis gallwn ni ei osod allan yn well nag yn ei eiriau ef. "Or diwedd" meddai, "dewiswyd y Parch. Daniel Lewis o'r Cwmmawr, gerllaw Abertawy, yn weinidog. Yr oedd Mr. Lewis yn ddyn santaidd ac addfwyn, ac yn ei ddull o gyflawni dyledswyddau y weinidogaeth yr oedd llawer iawn o dynerwch a boneddigeiddrwydd Cristionogol. Prin yr ymsefydlodd gyda y gynnulleidfa ieuangc hon cyn iddo gael teimlo oddiwrth ofidiau a thrallodion dyled capel. Yn anffodus mae yn y Dywysogaeth lawer o enghraifftiau o eglwysi gweinion yn myned i ddewis gweinidog, yn benaf i'r dyben iddynt gael dyn cymwys i fyned o gylch y wlad i gasglu at ddyled y capel. Mae yr arferiad ddrygionus hon wedi troi allan mor ddinystriol i heddwch y cyfryw eglwysi, ac wedi effeithio yn ddrwg ar enw, defnyddioldeb, a duwioldeb y cyfryw weinidogion. Daliwyd Mr. Lewis ar unwaith yn rhwydau niweidiol y peirianwaith cardotyddol hwn (begging machinery). Bu raid iddo adael ei eglwys a'i deulu lluosog a chynyddol, a myned i Loegr a Llundain, ar fath o wibdaith weinidogaethol i gasglu arian. Yr oedd yr eglwys yn cael ei gwneyd i fyny, agos yn gwbl, o lowyr, mwnwyr, &c., y rhai nid oeddynt yn unwedd yn ddynion cymhwys i farnu pa dreuliau oedd yn ofynol ar daith o'r fath ag yr oeddent hwy wedi gyru eu gweinidog iddi; y canlyniad fu, pan aethpwyd i wneyd i fyny y cyfrifon, i'r bobl annghymwys hyn fyned i wrthddadleu yn erbyn y treuliau. Rhanodd yr eglwys, ac aeth gwrthwynebwyr y gweinidog addfwyn a rhagorol mor ystyfnig, chwerw, ac aflywodraethus, fel yr ymneillduasant i ffurfio eglwys ar eu penau eu hunain." Yn y gymanfa bedair sirol a gynaliwyd yn Nhredwstan Mehefin 24ain a'r 25ain, 1807, daeth achos y terfysg hwn dan sylw, pryd y "penderfynwyd mewn perthynas i'r ymrafael yn nghapel Zoar, Merthyr Tydfil, fod y gweinidog wedi ymddwyn yn llariaidd, yn onest, yn gyfiawn, ac yn ffyddlon, ac mai ei ddyledswydd yw parhau yn ei ymdrechiadau gweinidogaethol." Un engraifft yw hon o ddegau, o'r helbul a'r gofid, y gorfu i weinidogion teilwng fyned trwyddynt wrth adeiladu a thalu am gapeli yn yr oesau a aethant heibio. Yn y flwyddynt 1810, ymadawodd Mr. Lewis o Ferthyr, ac ymsefydlodd yn weinidog yr eglwys ieuangc yn Llanfaple. Dywed Mr. Lewis, gweinidog presenol Llanfaple, o enau hen aelodau yr eglwys, "Cerid ef yn fawr gan y bobl, a chafodd ei ymdrechion ffyddlon eu bendithio yn nodedig er lles i eneidiau anfarwol." Bu y gweinidog da hwn farw fel y nodasom Mehefin 15fed, 1813, yn 52 oed, a chladdwyd ef yn y capel yn Llanfaple. Mae maen coffadwriaeth am dano ar fur y capel. Gadawodd ar ei ol weddw alarus a nifer o blant rhy ieuaingc i deimlo eu colled, ond gofalodd Tad yr amddifaid yn dirion am danynt. Mab iddo ef yw Daniel Seys Lewis, Ysw., yn awr o Fynyddislwyn; boneddwr ag y mae ei enw yn ddigon adnabyddus i holl weinidogion Annibynol Cymru. Ei frawd ef hefyd oedd Mr. Walter Lewis, Tredwstan. Gan i Mr. Lewis farw cyn oes y cyhoeddiadau misol, nid ymddangosodd unrhyw hanes am ei fywyd a'i farwolaeth yn y wasg hyd yn bresenol. Buasai yn dda genym pe buasem yn feddianol ar ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad helaethach iddo.
THOMAS REES. Yn nglyn a hanes yr eglwys yn Casgwent y rhoddwn ei fywgraphiad ef.
JAMES WILLIAMS. Gweler hanes yr eglwys yn Llanfaches.