Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/New Inn

Oddi ar Wicidestun
Ebenezer, Pontypool Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Brynbiga
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
New Inn, Torfaen
ar Wicipedia




NEW INN.

Mae cryn lawer o gamgymeriad yn bod gyda golwg ar ddechreuad yr achos yn y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen. Dywedir mai aelodau o'r eglwysi plwyfol ddarfu ddechreu yr achos yn y tri lle, ond yr ydym ar seiliau cedyrn yn amheu cywirdeb y fath ddywediad, a gallwn gyfrif yn hawdd am ddechreuad y traddodiad sydd yn yr eglwysi hyn, mai o'r Eglwys Sefydledig y daeth eu sylfaenwyr allan.

Yr oedd ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, yn llawn o Ymneillduwyr er's mwy na phedwar ugain mlynedd cyn cyfodiad Methodistiaeth. Pan ddechreuodd y son am bregethu rhyfeddol a phoblogaidd Howell Harries, yn sir Frycheiniog, ymdaenu ar hyd y wlad, darfu i amryw o weinidogion enwocaf yr Ymneillduwyr yn Morganwg a Mynwy, megys Henry Davies, Blaengwrach; James Davies, Merthyr; David Williams, Watford; ac Edmund Jones, wedi hyny o Bont-y-pool, ei gymhell yn y modd taeraf i ddyfod i'w hardaloedd hwy i bregethu. Cydsyniodd a'u cais, a'r canlyniad fu i ddiwygiad crefyddol grymus ddechreu yn mhob un o'r ardaloedd hyn. Darfu i lawer iawn o aelodau yr eglwysi Ymneillduol deimlo nerth yr adfywiad, a myned lawer yn wresocach yn eu crefydd nag yr oeddent yn flaenorol, a chafodd niferi mawr o'r gwrandawyr yn y capeli Ymneillduol eu dwyn i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Sefydlodd Mr. Harries yn fuan gymdeithasau (societies) mewn amryw ardaloedd, ac yn yr ardaloedd dan sylw yn mhlith eraill. Nid ar y cyntaf, fel yr ymddengys, gydag unrhyw fwriad i osod i fyny gyfundeb crefyddol newydd, ond yn unig er mwyn maethu y dychweledigion ieuaingc mewn crefydd brofiadol, gan eu gadael at eu dewisiad i fyned lle y gogwyddid hwy yn aelodau eglwysig. Ond cyn gynted ag yr ymunodd Rowlands, Llangeitho, a rhai offeiriaid eraill, a'r mudiad, newidiodd agwedd pethau. Gosodwyd cynllun ar droed i wneyd yr holl rai a hoffent weinidogaeth Harries, Rowlands, ac eraill o'r Methodistiaid, yn gyfundeb o Eglwyswyr Methodistaidd, a gwaherddid hwy yn bendant i fyned i gymuno i gapeli yr Ymneillduwyr, ond disgwylid iddynt gymuno yn yr Eglwysi plwyfol, gan nad pa mor ddigrefydd bynag y gallasai yr offeiriaid yn yr Eglwysi hyny fod.

Gan fod tri o bob pedwar o ddysgyblion Harries, yn yr ardaloedd hyn, yn Ymneillduwyr wedi eu Methodisteiddio, nid oedd yn hawdd cael ganddynt droi yn Eglwyswyr, a'r canlyniad fu iddynt yn mhen ychydig iawn o flynyddau droi drachefn yn Ymneillduwyr. Pe buasai Harries a Rowlands yn gosod i fyny gyfundeb Methodistaidd ar y pryd, heb gynyg llusgo y bobl i'r Eglwysi plwyfol, buasai agos pob un o Ymneillduwyr y parthau hyn, a deimlasant adfywiad trwy eu gweinidogeath, yn debygol o lynu wrthynt hwy, ond yr oeddynt yn ormod o Ymneillduwyr i gymeryd eu gwneyd yn Eglwyswyr. Yn hytrach na myned i'r Eglwysi plwyfol i dderbyn y cymun mynent gael y pregethwyr mwyaf poblogaidd yn eu plith eu hunain i weini yr ordinhadau iddynt. Dywedir i bobl y New Inn a'r Groeswen anfon cenhadau i Langeitho at Rowlands i gael ei farn ar yr achos, ac iddo eu cynghori, os na allent gael ar eu meddyliau i gymuno yn y llanau, i urddo eu pregethwyr eu hunain i weini yr ordinhadau. Yr ydym yn credu i Rowlands roddi y cynghor hwn i genhadau y New Inn a'r Groeswen, nid am ei fod yn barnu ei bod yn beth rheolaidd i'r aelodau urddo y gweinidogion, ond am mai dyna yr unig ffordd i'w cadw rhag ymadael yn hollol ac ar unwaith a'r Methodistiaid. Pe buasai efe, a'i frodyr offeiriadol, yn eu hurddo, buasent yn cael eu bwrw allan o'u bywioliaethau eglwysig yn ddiseremoni, a phe buasai yn eu cynghori i alw gweinidogion yr Ymneillduwyr i urddo eu pregethwyr, rhagwelai y buasai y cynnulleidfaoedd yn tori eu cysylltiad a'r Methodistiaid ar un—waith, ac yn dychwelyd at yr Ymneillduwyr. Trwy fabwysiadu y cynllun o urddo y pregethwyr eu hunain, cadwyd hwy yn rhyw haner Methodistiaid hyd yn agos i ddechreu y ganrif bresenol.

Mae yn debygol fod dysgyblion Harries yn ardaloedd y New Inn, Mynyddislwyn, a'r Groeswen, mewn ufudd-dod i'w gais ef, wedi bod rai gweithiau yn derbyn y cymun yn yr Eglwysi plwyfol, a thyna sail y traddodiad mai o'r llanau y daethant allan; ond nid oeddynt yn fwy o Eglwyswyr na ninau. Yn awr gyda golwg ar ardal y New Iun. Yr oedd Ymneillduaeth wedi gwreiddio yma er's ugeiniau o flynyddau. Yn 1718, yr oedd, fel y gwelsom, gynnulleidfa o bedwar ugain a deg o bobl yn Nhrosnant; cynnulleidfa o gant yn Llandegfeth; un o gant ac ugain yn y Goitre; ac un o bymtheg a deugain yn Llanfrechfa; ac yn y pedair cynnulleidfa hyn, nid oedd dim llai na saith o foneddigion, deuddeg-ar-hugain o ddynion yn byw ar eu tiroedd eu hunain, a phedwar-ar-bymtheg-ar-hugain o amaethwyr yn talu rhent am eu tiroedd, heblaw amryw fasnachwyr a gweithwyr. Mae hyn, feddyliwn, yn ddigon i gyfrif am ddechreuad achos y New Inn, a methiant Harries a Rowlands i wneuthur eglwyswyr Methodistaidd o'r bobl, heb fyned yn ol y traddodiad, i Eglwys Llanfrechfa at ryw offeiriad o'r enw Evans i chwilio am ei gychwynwyr. Gallasai fod rhai o'r aelodau cyntaf wedi bod yn cymuno yn achlysurol yn Llanfrechfa, ac eglwysi eraill, ar gais Harries a Rowlands, ond nid oes genym un sail i farnu fod cymaint ag un o honynt wedi cael eu henill at grefydd trwy weinidog—aeth un offeiriad yn y gymydogaeth.

Yn fuan ar ol ymweliad cyntaf Mr. Harries a sir Fynwy, yn 1738, mae yn ymddangos i amryw gymdeithasau gael eu sefydlu yno. Mewn llythyr at Mr. Harries, oddiwrth Mr. David Williams, gweinidog y Watford, dyddiedig Chwefror 7fed, 1739, dywed yr ysgrifenydd, "Bum neithiwr yn ymweled a'ch cymdeithas yn Llanhiddel, lle y canfyddais fesur helaeth o'ch ysbryd rhydd a charedig chwi. Yr wyf yn gobeithio fod gan Dduw waith i chwi i'w wneyd yn y wlad hon y gwanwyn hwn, yn enwedig yn sir Fynwy. Yr wyf fi yn genad atoch, dros y cyfeillion yn nghymydogaethau y Casnewydd a Chaerlleon, i ddeisyf arnoch ymweled a'r lleoedd hyny. Yn 1741, bu Mr. Henry Davies, Blaengwrach, yn ymweled ag amryw o'r cymdeithasau hyn, ac yn pregethu iddynt. Yn 1743, penodwyd Mr. Morgan John Lewis i fod yn un o arolygwyr y cymdeithasau hyn; ac yn ei adroddiad am y flwyddyn 1744, dywed iddo fod y Sabboth cyn ei fod yn ysgrifenu, yn agos i'r New Inn, y Glasgoed, a'r Goitre, a bod yr Arglwydd yn datguddio llawer o hono ei hun i'r eneidiau yn mhob un o'r lleoedd hyn.[1]

Yr hanes a roddir am ddechreuad yr achos yn y New Inn, ydyw i ddeg o bersonau gyduno i roddi pum' punt yr un at brynu hen anedd-dy cyfleus yn agos i'r Gwesty a elwir y New Inn, yn mhlwyf y Panteg,—iddynt dalu deg punt ar hugain am dano, a'i gyfaddasu i fod yn lle addoliad.

Mae yn lled debygol i hyn gymeryd lle tua'r flwyddyn 1740 neu '41. Morgan John Lewis, Abraham Williams, William Williams, &c., oedd yn pregethu iddynt fynychaf. Yn y flwyddyn 1751, ymffurfiasant yn eglwys Annibynol, ac yn mhen pum' mlynedd wedi hyny, sef dydd Llun Sulgwyn 1756, darfu i'r aelodau, yn ol cyfarwyddyd Mr. Rowlands, Llangeitho, os gwir y traddodiad, urddo Morgan John Lewis i fod yn weinidog iddynt. Gan fod y dull hwn o urddo yn groes i olygiadau ac arferiad yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr, mae yn debygol i'r peth greu cryn gynhwrf yn mysg pob plaid, a myned yn destyn siarad cyffredinol. Beïid a cheblid hwy gan rai yn lled ddiarbed, a gosodid hwy allan fel haid o ddynion cyfeiliornus iawn. Mewn trefn i'r wlad gael golwg gywir ar eu syniadau fel eglwys, argraffasant y gyffes ffydd a fabwysiadwyd ganddynt ar ddydd corpholiad yr eglwys yn 1751, a thrachefn ar ddydd urddiad eu gweinidog cyntaf. Ysgrifenwyd rhagymadrodd i'r gyffes hon gan y gweinidog, yr hwn sydd fel y canlyn: "Mae yn beth agos anghyffredin yn Nghymru i osod allan Gyffes o ffydd: ond yr wyf fi yn meddwl pe bae ragor yn y ffordd hon yn cael eu wneuthur, y byddai yn fesur o gymorth i wasgaru rhyw faint o'r anwybodaeth sydd yn y wlad; er o bosibl na byddai rhai gwyr da yn cytuno, yn enwedig yn mhob peth amgylchiadol. Yr wyf ar ddeisyfiad y cyfeillion, a ddewisasant y drefn hon o ddysgyblaeth eglwys, yn gosod allan y meddyliau a ganlyn, er mwyn eu hadeiladaeth hwy, ac er mwyn i'r neb a fyddo yn dewis ymuno a nyni, wybod yn dda a pha natur o eglwys y maent yn ymuno: canys peth hollol ddinystriol (oddieithr i Ras ragflaenu) yw ymuno a neb eglwysi heb ymuno a'r Arglwydd Iesu; a pheth gwan mewn cristionogion yw ymuno ag un eglwys heb wybod ei Hegwyddorion a'i Rheolau. Llawer o ddyeithrwch, chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg a daflwyd arnom gan amryw; ac fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y cyfle cyntaf a gafwyd; yn enwedig ar y pen yn nghylch ordeinio; ond y mae'r ffordd yr ydym ni wedi ei phroffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr efengyl, ac yn ateb y dyben yn well ar y dewisiad cyhoeddus, neu ordinasiwn gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd ein cynnorthwyo bawb i gydoddef ein gilydd mewn cariad."

Mae y gyffes yn rhy faith i'w gosod i mewn yma. Digon yw hysbysu y darllenydd mai Calfiniaeth yw yr athrawiaeth a broffesir, ac mai Annibyniaeth yw y ffurflywodraeth eglwysig a osodir allan ynddi. Mae yn gynnwysedig o un-ar-bymtheg o erthyglau.

Dywed Mr. Davies, yn yr hanes byr o'r eglwys yn y New Inn, a gyhoeddwyd ganddo yn 1851, i Morgan John Lewis fod yn weinidog yno am yr yspaid o bymtheg mlynedd, ond y mae hyny yn amheus iawn. Mae yn sicr iddo fod yn pregethu yn lled gyson i'r gynnulleidfa yno am gyflawn bymtheg mlynedd, a chynnwys yr amser y bu yn eu gwasanaethu, cyn ac ar ol ei urddiad, ond yr ydym ni yn cael ein gogwyddo yn gryf i dybied iddo farw yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol iddo gael ei urddo, o herwydd y rhesymau canlynol: 1, Dystawrwydd dyddlyfrau Phillip Dafydd yn ei gylch. Yn ei ddyddlyfr am Medi 4ydd, 1757, dywed, "Y prydnawn heddyw bum yn hebrwng gweddillion marwol Morgan Lewis i'r bedd," a thyna y cwbl a ddywed am y marw, ond achwyna fod y bobl yn yr angladd yn ymddwyn yn anystyriol iawn. Mae dyddlyfrau Mr. P. Dafydd yn ein meddiant yn rheolaidd o Mai 28ain, 1757 hyd ddiwedd 1786, oddi—eithr ychydig fisoedd yn y blynyddoedd 1758, 1759, 1762, a 1765, ac nid oes un crybwylliad am enw Morgan John Lewis ynddynt o'r dechreu i'r diwedd, os nad efe yw y Morgan Lewis a grybwyllir yn y difyniad uchod. Gan fod Mr. P.Dafydd a Mr. Lewis wedi cael eu dwyn i fyny yn yr un ardal, mae yn sicr y buasai Mr. P. Dafydd yn cofnodi hanes ei farwolaeth, yr hon, os gwir y traddodiad, a gymerodd le dan amgylchiadau tra nodedig, os cymerodd le yn ystod un o'r blynyddau rhagrybwylledig. 2, Dywed Edmund Jones, yn Hanes Plwyf Aberystruth, yr hwn a argraffwyd yn 1779, ac yn ddiau a ysgrifenwyd flwyddyn neu ddwy cyn hyny, fod M. J. Lewis wedi marw er's amryw flynyddau. 3, Mae traddodiad mai pum' mlynedd ar hugain y bu Mr. Abraham Williams yn weinidog yn y New Inn, a chan iddo ef farw yn 1783, mae yn rhaid iddo ymgymeryd a'r weinidogaeth yno yn 1758, sef yn agos i'r amser yr ydym yn tybied i Morgan John Lewis farw. Pan glywsom mai yn mynwent Aberystruth y claddwyd ef, mynasom chwilio coflyfr y claddedigaethau yno o 1759 hyd 1771, ac nid oes un crybwylliad am dano yn y blynyddoedd hyny.

Bu Mr. Lewis, yr hwn oedd yn ddyn galluog, yn Gristion cywir, ac yn bregethwr nodedig o effeithiol, yn wasanaethgar iawn i'r achos yn y New Inn, mae yn debygol, o'i gychwyniad cyntaf hyd o fewn blwyddyn i'w farwolaeth. Dywed Mr. Davies yn ei hanes, iddo fod yn ddyrysedig yn ei synwyrau am y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd. Nid yw Mr. Edmund Jones yn dyweyd hyny, ond yn unig iddo gael ei feddianu gan bruddglwyf trwm ychydig cyn ei farw. Y peth nesaf at ddyrysu yn ei synwyrau oedd hyny. Ar ol i Mr. Lewis fethu bod o wasanaeth yn y weinidogaeth, cafodd dau frawd eraill o'r eglwys eu hurddo, yr un modd a'r gweinidog cyntaf, sef William Williams, ac Abraham Williams. Mae yn lled sicr mai yn y flwyddyn 1758 y cymerodd hyn le. Yn 1760, gofynodd eglwys yr Aber, sir Frycheiniog, am fenthyg William Williams, a symudodd yno, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth yn 1800, ac felly ni ddarfu i bobl yr Aber byth ddychwelyd y benthyg i'r New Inn. Arosodd Abraham Williams gyda ei fam-eglwys hyd derfyn ei oes, a bu yn nodedig o boblogaidd a defn—yddiol. Rhanai ei lafur trwy ei holl fywyd rhwng y New Inn a Brynbiga. Gan fod gofal y ddau le arno, urddwyd Mr. Daniel James, aelod arall o'r eglwys, yn gynnorthwywr iddo, ar ol ymadawiad Mr. William Williams i'r Aber. Dywedir nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, ond gan ei fod yn Gristion teilwng, ac yn ddyn cyflawn iawn fel gwladwr, yr oedd yn cael ei werthfawrogi a'i barchu yn fawr, nid yn unig gan ei eglwys, ond gan y wlad yn gyffredinol.

Wedi marwolaeth Mr. Abraham Williams, a phan oedd Mr. Daniel James wedi myned i wth o oedran, cafodd Mr. Edward Francis, aelod ieuangc o'r eglwys, ei urddo yn gynnorthwywr. Yr oedd Edward Francis yn bregethwr galluog iawn, ac y mae yn lled sicr fod yr eglwys yn addaw iddi ei hun lawer o gysur oddiwrtho, ond er ei siomedigaeth a'i gofid syrthiodd i anfoesoldeb yn fuan ar ol ei urddiad, fel y bu raid ei ddiarddelu. Nid ymddengys iddo fod yno, fel gweinidog dros dair blynedd, sef o'r flwyddyn 1786 hyd 1789. Cafodd ei adferu drachefn i aelodaeth eglwysig, ac i bregethu, ond ni chydnabyddwyd ef mwyach fel gweinidog yn ei fam-eglwys. Yn y flwyddyn 1791, anfonodd yr eglwys lythyr at y Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, i ofyn am gymorth i gynal y weinidogaeth; a chan ei fod yn epistol synwyrol, ac yn taflu ychydig oleu ar helynt yr achos yn y lle, rhoddwn yma gyfieithiad o hono:—

"Eglwys Crist sydd yn ymgynnull i addoli Duw yn y Neuadd, neu y New Inn, yn sir Fynwy, at lywodraethwyr y Drysorfa Annibynol.

ANERCH.,

Yr ydym yn ostyngedig yn dymuno caniatad i osod ger eich bron ein sefyllfa a'n hamgylchiadau gyda golwg ar y weinidogaeth yn ein mysg, ac i ddeisyf eich sylw hynaws a haelionus â'n cais am gymorth i gynal y fendith anmhrisiadwy hon yn ein plith. Profasom ddaioni Duw tuag atom am lawer o flynyddau, trwy ein bendithio â gweinidogion duwiol, galluog, ac efengylaidd. Ond yn ddiweddar buom dan oruchwyliaeth dywyll a phruddaidd iawn. Yn gymaint a bod ein gweinid—og teilwng presenol, y Parch. Daniel James, wedi myned yn mhell yn mlaen mewn dyddiau, tybiasona y buasai yn ddoeth i ni urddo brawd arall (Mr. E. Francis) i fod yn gynnorthwywr iddo; ond er ein mawr dristwch efe a syrthiodd i bechod gwar—adwyddus, a thrwy hyny tynodd enw ac achos ein hanwyl Waredwr i gael eu cablu. Ond bendigedig fyddo Duw, y mae Efe wedi gweled yn dda i barhau bywyd a llafur ei was ffyddlon, Mr. D. James, i ni fel ein gweinidog hyd y dydd hwn. A chan ei fod ef mewn angen mawr am gynnorthwywr, yr ydym yn gobeith—io y darpara yr Arglwydd un i ni. Ond gan mai ychydig, ie ychydig iawn yn wir o'r cyfoethogion sydd wedi eu galw yn ein mysg, nid yw y swm a allwn wneyd at gynaliaeth y weinidogaeth ond bychan iawn. Yr ydym, gan hyny, dan yr angen. rheidrwydd o ddeisyf arnoch i barhau i ni eich rhodd flynyddol at gynal y weinid—ogaeth yn ein mysg. Yr ydym yn cydnabod gyda diolchgarwch a chariad y cym—orth a dderbyniasom oddiwrthych am lawer o flynyddoedd a aethant heibio, hyd at y flwyddyn ddiweddaf. Bu ataliad y rhodd y llynedd yn golled fawr i'n gweinidog, yr hyn sydd flin iawn genym.

Yr ydym yn cyflwyno ein hachos i'ch sylw caredig, gan obeithio y derbynir ni etto i fod yn gyfranogwyr o'ch haelioni. Yr ydym yn gweddio yn ddidwyll am fendith i ddilyn eich cynlluniau canmoladwy i weithio yn mlaen a thaenu efengyl Crist.

Arwyddwyd, yn enw yr holl eglwys, genyn ni,

Daniel James, Gweinidog,

William Jones,
Herbert Williams,
Fran. Morgan,
Wm. Thomas,
Thos. Pritchard,
Wm. Rogers.

Henuriaid Llywodraethol

Wm. Morgan.
Hen. Morgan.

Diaconiaid.

Yr ydym ni y rhai y mae ein henwau isod, fel rhai adnabyddus o achos eglwys y New Inn, yn ddidwyll yn cymeradwyo y cais uchod i'ch ystyriaeth, gan obeithio yr ystyrir ef yn deilwng o'ch sylw.

Edmund Jones, gweinidog yn Ebenezer.
Emanuel Davies, gweinidog yn Hanover."

Yn ol y llythyr uchod, yr oedd yr eglwys mewn angen am weinidog cynnorthwyol yn y flwyddyn 1791. Ryw amser wedi hyn, dichon yn mhen blwyddyn neu ddwy, rhoddasant alwad i Mr. Thomas Walters, yr hwn oedd yn bregethwr teithiol yn mysg y Methodistiaid. Efe oedd y cyntaf o weinidogion y New Inn a urddwyd yn ol y drefn arferol yn mysg yr Annibynwyr. Yr oedd Mr. Walters yn bregethwr melus a phoblogaidd, ond nid ymddengys i'w weinidogaeth fod o fawr les i'r eglwys, oddieithr am ychydig o flynyddau cyntaf ei dymor yno, pan y bu yn hynod o'r llafurus, oblegid ymroddodd yn fuan wedi hyny i ymdrafod â phethau y bywyd hwn i'r fath raddau, nes y collodd ysbryd y weinidogaeth, ac yr esgeulusodd ei waith; a'r canlyniad fu i'r achos wywo a gwanhau yn fawr. Yr oedd wedi myned gymaint i ysbryd y byd fel na welid ef braidd un amser mewn cyfarfod crefyddol ar ddyddiau o'r wythnos, pa mor nodedig a phwysig bynag y gallasent fod. Yr oedd yr enwog Ebenezer Morris yn teimlo yn anwyl iawn at Mr. Walters, am mai dan ei weinidogaeth ef y cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd. O barch i'w dad yn yr efengyl, ac oddiar awydd am ei weled, anfonodd ei gyhoeddiad i'r New Inn. Daeth yno dorf o bobl yn nghyd, ond nis gallodd y gweinidog fforddio i roddi y maes a'r fasnach heibio am ddwy neu dair awr i fyned i wrandaw dyn mor enwog. Cafodd Mr. Morris, wrth reswm, ei siomi yn fawr yn ei absenoldeb. Clywsom Mr. Powell, Caerdydd, yn adrodd peth cyffelyb. Yr oedd ef, yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu, wedi myned ar daith trwy sir Fynwy, gyda Mr. Williams, Troedrhiwdalar, yr hwn oedd y pryd hwnw, fel y mae etto yn parhau, yn un o brif enwogion y pulpud Cymreig. Wedi pregethu yn y New Inn un noswaith i dorf fawr, yn absenoldeb Mr. Walters, yr oedd eu cyhoeddiad ganol dydd dranoeth yn Mhenywaun, cangen o'r New Inn y pryd hwnw, ac yn ymyl anedd Mr. Walters. Pan oeddynt yn agoshau at y capel, cyfarfyddent a'r gweinidog yn myned i ffwrdd ar ryw neges fydol. Cyfarchodd hwynt, a dywedodd nad oedd ganddo ef amser i ddyfod i'w gwrandaw. Nid rhyfedd i'r achos nychu dan weinidogaeth dyn o'r fath. Rhoddodd Mr. Walters ei weinidogaeth yn y New Inn i fyny tua y flwyddyn 1817, ac ymunodd drachefn â'r Methodistiaid. Mae yn ymddangos i'r eglwys ar ol ei ymadawiad ef fod tua thair blynedd heb un gweinidog sefydlog. Ionawr 6ed, 1820, cafodd Mr. Benjamin Moses, myfyriwr o athrofa Llanfyllin, ei urddo yno, ond ni fu y cysylltiad hwn o fawr barhad, nac o gysur i'r eglwys. O herwydd peidio rhodio yn deilwng o'r efengyl bu raid i'r eglwys ymwrthod a Mr. Moses cyn pen llawn ddwy flynedd ar ol ei urddo.

Cafodd eglwys y New Inn dywydd teg a digwmwl iawn o ddechreuad yr achos, tua y flwyddyn 1740, hyd gwymp Edward Francis, oddeutu diwedd 1789, neu ddechreu 1790. Os byddai ambell elyn oddiallan yn rhoddi iddi ergyd yn awr a phryd arall, yr oedd tangnefedd perffaith oddi-fewn, a'r pulpud yn cael ei lenwi gan olyniad o weinidogion hyawdl a llawn o dân sanctaidd. Ond ar syrthiad Mr. Francis dechreuodd arni ddiwrnod tywyll du, yr hwn a barhaodd felly agos yn ddigyfnewid hyd ymadawiad Mr. Moses yn 1822. Bu cwympiadau Francis a Moses yn ddolur tost i'r achos, a bydolrwydd ac esgeulusdod Walters yn nychdod truenus iddo.

Pa fodd bynag, aeth y gauaf ystormus heibio, a dilynwyd ef gan haf hir a dymunol. Yn niwedd y flwyddyn 1822, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, myfyriwr yn athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef ar y 27ain o Fawrth, 1823, ac y mae yn aros yno hyd y dydd hwn. Yr oedd Mr. Davies ar ei gychwyniad yn y weinidogaeth "fel cân cariad un hyfrydlais yn canu yn dda," ac ar ol saith mlynedd a deugain o fyned i mewn ac allan o flaen y bobl, y mae y dydd hwn yn llawn mor dderbyniol a'r dydd cyntaf, ac yn llawer mwy ei ddylanwad nag y gallasai fod y pryd hwnw.

Mae y gwasanaeth yn y New Inn er's amryw flynyddau bellach yn cael ei ddwyn yn mlaen agos yn hollol yn yr iaith Saesonig. Mae newid iaith yr addoliad wedi bod yn ddinystr i lawer achos blodeuog ar derfynau Cymru a Lloegr. Ond y mae wedi bod yn wahanol yma. Er fod rhai hen bobl ar y dechreu yn grwgnach ychydig, ac yn awgrymu mai balchder oedd dwyn y Saesoneg "oerllyd" i mewn i'r gwasanaeth, aed trwy y cyfnewidiad heb nemawr o ofid, ac y mae y gynnulleidfa yn awr, o bosibl, yn lluosocach nag y bu erioed, er fe ddichon yn cynnwys llai o bigion teuluoedd parchus yr ardaloedd cymydogaethol, o herwydd fod achosion newyddion wedi cael eu sefydlu trwy yr holl wlad yn mhob cyfeiriad.

Mae yn perthyn i'r eglwys hon yr anrhydedd o fod yn fam i amryw eglwysi cymydogaethol. Yn amser Mr. Abraham Williams, corpholwyd cangen yn Brynbiga. Yn amser Mr. Walters y dechreuwyd yr achosion yn Nghaerlleon a Phenywaun; yn amser Mr. Moses y dechreuwyd Maes-llech; a chorpholwyd Cwmbran—y gryfaf ei chyfansoddiad o holl ferched y fam eglwys yn nhymor gweinidogaeth y gweinidog presenol.

Hen anedd-dy a elwid y Neuadd, wedi ei gyfaddasu i fod yn lle addoliad, fu ty cyfarfod cyntaf yr eglwys hon. Yn mhen rhai blynyddau adeiladwyd yno gapel, ac yn y flwyddyn 1825, adeiladwyd yn ei ffurf bresenol, ond iddo gael ei brydferthu a gosod eisteddleoedd newyddion ynddo yn 1844. Mae yr eglwys hon er ei dechreuad wedi bod yn nodedig am ei doniau a'i gwresogrwydd crefyddol. Nid ydym gan hyny i ryfeddu ei bod, o bryd i bryd, wedi anfon allan niferi o'i phlant i bregethu yr Efengyl. Heblaw y rhai fuant yn weinidogion yn y lle, cafodd y rhai canlynol ei cyfodi i bregethu yma:—

Morgan Williams. Mae yn debygol ei fod ef yn un o sylfaenwyr yr achos yn y lle. Byddai yn cynnorthwyo eglwys yr Aber yn fynych cyn ac wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. W. Williams yno. Hyn yw y cwbl a wyddom o'i hanes.

William Williams. Daw ef ynglyn a hanes eglwys yr Aber, a daw William George ynglyn a hanes eglwys Brynbiga.

John Jayne. Bu ef yn yr eglwys hon, ac eglwysi cymydogaethol, am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol parchus. Yn fuan ar ol dechreuad y ganrif bresenol, symudodd i fyw i blwyf Llanfaple. Cyn gynted ag yr aeth yno dechreuodd bregethu mewn ty anedd, ond cyfododd yr offeiriad, a rhai eraill o'r plwyfolion, wrthwynebiad iddo, fel y bu raid iddo drwyddedu y tŷ cyn cael llonydd i bregethu ynddo. Yn mhen ychydig wedi hyny adeiladodd gapel ar ei dir ei hun. Bu farw tua y flwyddyn 1815.

George Williams oedd ŵr ieuangc gobeithiol a chymeradwy a ddechreuodd bregethu yma yn amser y gweinidog presenol. Y mae er's llawer o flynyddau wedi ymfudo i'r America. Ni wyddys yn awr pa un ai byw ai marw ydyw.

Daniel B. James. Y mae efe yn fab i Mr. Daniel James, Cwmbwrwch, am yr hwn y soniasom yn hanes Hanover. Cafodd ei addysgu yn yr athrofa Orllewinol, ac urddwyd ef yn Castle Green, Caerodor, 1868. Y mae yn weinidog ieuangc hyawdl a gobeithiol iawn.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

MORGAN JOHN LEWIS. Ychydig iawn o hanes personol y gwr da hwn sydd yn hysbys i ni. Cafodd ei eni a'i fagu yn Nghwm Ebbwy Fawr, yn mhlwyf Aberystruth, ond nis gwyddom amser ei enedigaeth, o herwydd fod Mr. Edmund Jones, yn ei hanes am blwyf Aberystruth, wedi bod yn rhyfeddol o esgeulus i roddi amseriad y dygwyddiadau a grybwylla. Nis gallwn, o herwydd yr un rheswm, benderfynu pa bryd y dechreuodd Mr. Lewis ei fywyd crefyddol. Ar ol son am ymweliad Mr. Howell Harries â Chwm Ebbwy, yn 1738, pryd y cryfhawyd y diwygiad crefyddol oedd wedi dechreu yno tua deunaw mlynedd cyn hyny, dywed Mr. Jones i bump o bersonau a ddychwelwyd yn y Cwm, "o gylch yr amser hwnw," fyned yn bregethwyr, ac un o'r pump oedd Morgan John Lewis. Ond y mae yr ymadrodd "o gylch yr amser hwnw," mor benagored fel y cynwysa unrhyw flwyddyn o 1720 hyd 1740, a gwyddys yr amcanai yr ysgrifenydd iddo gael ei ddeall felly, canys enwa Phillip Dafydd fel un o'r pump pregethwr a ddychwelwyd yn Nghwm Ebbwy "o gylch yr amser hwnw;" ac y mae yn ddigon hysbys fod Phillip Dafydd, nid yn unig wedi dechreu crefydda cyn 1738, ond ei fod wedi dechreu pregethu yn 1732, os nad yn 1731. Felly nis gallwn benderfynu pa bryd y cymerodd troedigaeth Morgan John Lewis le. Dichon mai yn 1738, neu tua phump neu ddeng mlynedd cyn hyny, o ran dim a ymddengys i'r gwrthwyneb yn hanes Edmund Jones. Pa fodd bynag, mae ei droedigaeth yn, neu cyn 1738 yn fatter o sicrwydd. Yr ydym yn cael ei enw fel pregethwr cyhoeddus yn hanes cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, yr hon a gynaliwyd yn nghapel yr Annibynwyr, neu y Presbyteriaid, fel y gelwid hwy weithiau y pryd hwnw, yn y Watford, gerllaw Caerphili, Ionawr 5ed a'r 6ed, 1742. Digon tebygol ei fod wedi dechreu cynghori rai blynyddau cyn hyny. Yn 1743, penodwyd ef yn un o arolygwyr y cymdeithasau trwy Fynwy a rhan o Forganwg, ac yn 1744, cawn ganddo adroddiad o sefyllfa y cymdeithasau yr ymwelasai â hwynt. O'r flwyddyn hono, hyd amser ei urddiad yn New Inn, yr ydym heb un hanes am dano, ond y mae yn sicr ei fod wedi llafurio yn ddiwyd trwy y blynyddau hyny, ac yn benaf, yn ol pob tebygolrwydd, yn y New Inn a'r gymydogaeth. Mae hanes y rhan ddiweddaf o'i oes yn hynod a difrifol iawn, os yw yn wir. Dywedir ei fod wedi pregethu yn y New Inn foreu y Sabboth, ac yn yr hwyr yn nhŷ Mr. Jayne, un o'r aelodau, yr hwn oedd yn byw rhwng Pontypool a Blaenafon. Cysgodd yn y tŷ lle y buasai yn pregethu y noswaith hono, ac yn fore iawn bore dranoeth, daeth meistr tir Mr. Jayne yno, a milwr gydag ef, a gofynodd pa le yr oedd y pregethwr; atebwyd ei fod heb gyfodi o'i wely. Mynodd y gwr a'r milwr fyned i'w ystafell wely, a chawsant ef yn cysgu. Dynoethodd y milwr ei gleddyf, ac ysgydwodd ef uwch ei ben, gan waeddi, "Deffro Heretic." Deffrodd yntau, ac wrth weled fath olygfa arswydus, ac annisgwyliadwy, cafodd gymaint o ddychryn nes y dyrysodd ei synwyrau. Bu yn y cyflwr hwnw am tua blwyddyn, ac yna bu farw.

Dyna yr hanes, fel yr adroddir hi yn y gymydogaeth. Mae yn peri mesur o betrusder i ni. Teimlwn yn anhawdd ei hannghredu, am ei bod cael ei hadrodd gan ddynion parchus a geirwir, y rhai a'u cawsant o enau hen bobl oeddynt yn ddigon hen i gofio yr amser yn yr hwn y cymerodd y peth le, os cymerodd le o gwbl; o'r tu arall, yr ydym yn teimlo anhaws—der mawr i'w chredu, oblegid na ddarfu i neb yn yr oes hono gofnodi am—gylchiad mor hynod. Yr ydym yn gadael yr hanes i'r darllenydd i'w dderbyn neu ei wrthod fel y tueddir ei feddwl. A ganlyn yw y cwbl a ddywedir am Morgan John Lewis gan Edmund Jones, yn hanes plwyf Aberystruth: "Efe a fu am beth amser yn gynghorwr selog ac egwyddorol yn mysg y Methodistiaid, ond o'r diwedd aeth yn weinidog i nifer o Fethodistiaid, y rhai a ymffurfiasent yn eglwys Annibynol mewn lle tua thair milldir islaw Pontypool, a'r rhai ydynt yn awr yn eglwys lewyrchus dan ofal y Parchedig Mr. Abraham Williams. Yr oedd efe yn bregethwr grymus; yn un o wybodaeth a meddwl treiddgar mewn pethau dwyfol; o gymmeriad difrycheulyd; ond ystyrid ef i fesur yn rhy erwin yn ei ffordd, ac yn rhy barod i feio. Ryw faint o amser cyn ei farwolaeth syrthiodd i bruddglwyf dwfn, ond ychydig cyn ei farw dywedodd ei fod yn cael cysur oddiwrth yr adnodau diweddaf o'r wythfed bennod o'r epistol at y Rhufeiniaid. Y mae yntau hefyd wedi marw er's amryw fynyddau yn ol." Bu farw, fel yr ydym ni yn tybied, tua y flwyddyn 1757 neu 1758, a chladdwyd ef, meddir, yn mynwent Aberystruth.

ABRAHAM WILLIAMS. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Pontyfelin, yn mhlwyf Panteg, Mynwy, yn y flwyddyn 1720. Yr oedd ganddo ddawn rhagorol i ganu, ac ymddengys ei fod yn deall cerddoriaeth yn dda. Byddai yn ei ieuengetyd yn myned oddiamgylch o blwyf i blwyf i ddysgu pobl i ganu Salmau. Dywedir mai trwy weinidogaeth Morgan John Lewis yr ennillwyd ef at grefydd. Wedi iddo ddyfod yn grefyddol rhoddodd heibio fyned oddiamgylch i gadw ysgolion can, ac ymroddodd yn fwy at weddio o hyny allan. Dechreuodd bregethu yn fore, oblegid y mae ei enw yn nghofnodion Trefecca fel "cynghorwr" yn y flwyddyn 1744, ac yn ol yr hyn a gofnodir ar ei gareg fedd, yr oedd yn bregethwr cyhoeddus, o leiaf flwyddyn cyn hyny. Bu yn pregethu yn y New Inn a Brynbiga am ddeugain mlynedd, ond dywedir mai am bum' mlynedd ar hugain y bu yn weinidog yn y New Inn, ac felly mae yn rhaid mai yn 1758 yr urddwyd ef. Fel pregethwr cynnorthwyol, gan hyny, y pregethai yno am y pym—theg mlynedd blaenorol. Priododd âg unig ferch John Morgan, Yswain, o'r Ystafarnau, gerllaw Brynbiga, ac yn y lle hwnw y bu yn byw hyd derfyn ei oes. Bu farw Medi 3ydd, 1783, yn 63 oed, a chladdwyd ef mewn daeargell yn y capel y buasai yn offerynol i'w adeiladu yn Mrynbiga. Mae Phillip Dafydd, yn ei ddyddlyfr am Medi 17eg, 1783, ar ol cofnodi marwolaeth Thomas Lewis, Llanharan, yr wythnos flaenorol, yn ysgrifenu, "Heddyw y clywais fod Mr. Abraham Williams wedi ei gladdu. Rhwyg ar rwyg: dau weinidog yn cael eu symud o fewn pythefnos i'w gilydd. Yr wyf fi yn meddwl fod Abraham Williams yn fwy uniawngred (hyny yw, yn fwy o Ymneillduwr, ac yn llai o Fethodist, yn ddiau a olygai yr ysgrifenydd) na llawer, ac yr wyf yn gobeithio fod ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel."

Mae yn ymddangos fod Abraham Williams yn ddyn llafurus a defnyddiol iawn, ac yn bregethwr nodedig o alluog. Byddai yn pregethu yn lled fynych yn Mhenmain, a chanmolir ei bregethau yn fawr gan Phillip Dafydd, yr hwn nid oedd yn barod iawn i ganfod unrhyw ragoriaeth mewn neb ag a fuasai yn gogwyddo yn y mesur lleiaf at Fethodistiaeth. Cawn y cofnodiad canlynol yn ei ddyddlyfr am Tachwedd 9fed, 1766:—"Cefais fy arbed i bregethu heddyw gan Mr. Abraham Williams, yr hwn a bregethodd oddiwith Heb. iv. 14; pregeth dda a sylweddol iawn, y fwyaf alluog a wrandewais i er's llawer o amser,"

Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, "Nad oedd Mr. A. Williams yn dal llawer o undeb âg un corff o grefyddwyr, ond cymaint ag oedd gyda'r Methodistiaid yr oedd," ond nid yw yn dyweyd yn iawn. Annibynwr trwyadl ydoedd, ac a'r Annibynwyr braidd yn unig yr ymgyfeillachai trwy holl dymor ei weinidogaeth yn y New Inn. Bu am flynyddau yn derbyn cymhorth blynyddol o'r Drysorfa Gynnulleidfaol yn Llundain, ac nis gallasai gael dim oddiyno heb ei fod yn cael ei gydnabod gan weinidogion y sir fel gweinidog Annibynol.

DANTEL JAMES. Cafodd ef ei eni a'i ddwyn i fyny mewn lle a elwir y Bryncoch, yn mhlwyf Maesaleg, gerllaw y Casnewydd, ac ymddengys mai yno y treuliodd ei oes, ac y bu farw. Dywedir fod yr enwog Whitefield wedi bod yn lletya amryw weithiau yn y Bryncoch, a chan y dywedir fod Mr. James yn y flwyddyn 1791 "wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau," mae yn naturiol i ni gasglu ei fod yn un o'r rhai a ddechreuasant yr achos yn y New Inn. Yr ydym yn tybied iddo gael ei urddo yn gynnorthwywr i Mr. Abraham Williams tua y flwyddyn 1760, pryd y symudodd Mr. William Williams i'r Aber. Dywedir mai yn mynwent eglwys Maesaleg y claddwyd ef, ond er chwilio coflyfr y claddedigaethau yno, yr ydys wedi methu cael hyd i'w enw ef yn mysg y rhai a gladdwyd yno o 1794 hyd 1802, ac nid ymddengys ychwaith fod careg wedi cael ei gosod ar ei fedd. Treuliodd ei holl fywyd heb briodi, ac felly dygwyddodd tynged gyffredin "hen langciau" iddo yntau, sef cael ei adael i syrthio i ebargofiant. Yr oedd yn fyw yn 1796, oblegid yr ydym yn cael ei fod yn pregethu yn Heol-y-felin, Casnewydd, Awst 17eg, yn y flwyddyn hono. Pa cyhyd y bu fyw ar ol hyny, nis gwyddom.

Er nad oedd Mr. James yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, yr oedd ei ffyddlondeb, ei ddiwydrwydd, ei dduwioldeb, a'i safle uchel fel gwladwr, yn ei wneyd yn barchus a defnyddiol iawn. Dywedir ei fod yn feddyg rhagorol, a pha le bynag y cyhoeddesid ef i bregethu buasai pob claf a allasai symud o'i wely yn dyfod i'r oedfa, er mwyn cael cyfle i ymgynghori a'r pregethwr am ei anhwyldeb corfforol. Nid y werin anwybodus yn unig oedd yn mawrygu ei wybodaeth feddygol, ond dywedir y byddai un o brif feddygon y Casnewydd yn ei gymeryd yn fynych gydag ef i weled rhyw achosion nodedig er mwyn ymgynghori ag ef.

EDWARD FRANCIS. Ymunodd ag eglwys y New Inn yn ieuangc. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd bregethu. Ymddengys mai Awst 7fed, 1785, oedd y tro cyntaf iddo ymweled â Phenmain. Ysgrifena Phillip Dafydd gyferbyn ar diwrnod hwnw yn ei ddyddlyfr, "Bum yn Mhenmain heddyw, ond cefais fy arbed i bregethu gan Edward Francis, gwr ieuangc sydd yn perthyn i gynnulleidfa y New Inn. Ni allaswn i glywed ond y peth nesaf i ddim, am fy mod wedi cael anwyd trwm, ond hysbyswyd fi gan y rhai a'i clywsant, iddo bregethu yn dda. Ei destyn oedd Mat. xi. 29." Mae yn ymddangos iddo foddio y bobl yn dda, oblegid cofnodir iddo fod yno drachefn Medi 11eg, o'r un flwyddyn, a phregethu i gynnulleidfa fawr, oddiwrth Mat. xvi. 26. Bu yno y drydedd waith, Hydref 23ain, a phregethodd yn weddol dda," oddiwrth Mat. v. 3. Y tro nesaf yr ymwelodd â Phenmain oedd Ebrill 9fed, 1786, a'r tro hwn aeth ychydig yn is yn nghyfrif yr hen weinidog. Ysgrifena, "Bum heddyw yn Mhenmain, a phregethodd y gwr ieuangc Edward Francis yno. Ei destyn oedd Deut. xxxii. 10—testyn llawn o fater, ond ni ddarfu iddo ef sefyll yn ddigon agos gyda ei destyn. Yn yr hwyr clywais ef drachefn yn nhy William Williams, yn pregethu oddiwrth Dat. ii. 10. Mae ei ddull o draddodi yn debyg i'r Methodistiaid yn gyffredin:—peidio sefyll ar unrhyw bwnge mewn duwinyddiaeth, ond crwydro o'r naill beth i'r llall." Etto ar y 9fed o Orphenaf, pregethodd yno oddiwrth Caniadau ii. 15. Ond yr oedd yr hen weinidog yn rhy fyddar y waith hon i glywed dim, ac felly dywed nas gallasai roddi ei farn ar y bregeth. Bu yno unwaith drachefn cyn diwedd y flwyddyn 1786, ac yr oedd y gwrandawyr yn lluosog. Dengys hyn fod y gwr ieuangc yn boblogaidd iawn. Gresyn gan hyny na fuasai yn cadw ei wisgoedd yn lân. Yr ydym yn lled sicr mai yn y flwyddyn 1786 yr urddwyd ef, ac iddo golli ei le yn 1789, neu ddechreu 1790. Cafodd ei adferu drachefn i fod yn aelod ac yn bregethwr; yna symudodd i Lundain, lle y bu am rai blynyddau, yn pregethu i'r Cymry yn Lambeth. Dychwelodd i Gymru yn 1799, a bu yn weinidog derbyniol a llwyddianus iawn yn Machynlleth dros oddeutu tair blynedd, yna aeth yn ol i Lundain. Dywedir i Dr. Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn, ddyweyd wrtho, os ymadawai o Fachynlleth, lle yr oedd mor llwyddianus, y buasai yn digio yr Arglwydd, ac na ddeuai daioni byth o hono. Mae yn debygol i brophwydoliaeth y Dr. gael ei chyflawni, oblegid nid ymddengys iddo fod o fawr ddefnydd yn un lle mwyach. Yr ydym yn barnu nad arosodd yn hir yn Llundain yr ail waith, ond iddo ddychwelyd i Fynwy, ac mai yno y bu farw. Yr ydym yn cael ei enw yn hen lyfr eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, fel pregethwr achlysurol yno o 1806 hyd Mai 24ain, 1818. Mae yn debygol iddo farw yn fuan ar ol hyn.

THOMAS WALTERS. Ganwyd ef yn mhlwyf Mynyddislwyn, yn y flwyddyn 1761. Ymunodd a chrefydd yn lled ieuangc yn y Tynewydd, Mynyddislwyn. Yr oedd eglwys y Tynewydd y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol ei ewythr Mr. Thomas Walters, ac yn ryw haner Methodistiaid. Yn fuan wedi iddo ef ddechreu pregethu ymgysylltodd yn fwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, ac yn eu plith hwy yn benaf y bu yn pregethu, hyd nes iddo dderbyn galwad gan eglwys y New Inn, i fod yn gynnorthwywr i'w hen weinidog, Mr. Daniel James. Urddwyd ef yno gan weinidogion yr Annibynwyr, ond nis gwyddom pa flwyddyn, yr ydym yn tybied mai tua y flwyddyn 1793 yr urddwyd ef. Bu eglwys y Tŷ-newydd, yn gystal a'r New Inn, dan ei ofal o 1794, pryd y bu farw ei ewythr, hyd 1811, pryd yr urddwyd Mr. William George yno. Yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth bu yn llafurus, ac i fesur yn llwyddianus, ond wedi hyny ymroddodd mor llwyr i ymdrafiaethau bydol, fel yr aeth agos yn hollol ddiwerth fel gweinidog. Cafodd ei siomi yn ei ddisgwyliadau oddiwrth y byd presenol, a bu farw yn gymharol dlawd. Tua phedair blynedd cyn ei farwolaeth ymunodd drachefn a'r Methodistiaid, a bu yn pregethu ychydig yn eu mysg hyd derfyn ei oes. Bu farw yn Cwmdows, Mynyddislwyn, Tachwedd 2il, 1821, yn 60 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Mynyddislwyn.

Yr oedd Mr. Walters yn nechreuad ei fywyd cyhoeddus yn bregethwr melus ac effeithiol iawn, a diau y buasai yn un o'r dynion mwyaf defnnyddiol yn ei oes pe buasai yn ymgysegru yn llwyrach i wasanaeth ei Arglwydd. "Ymddengys iddo gael grodd o adnewyddiad i'w ysbryd cyn ymadael ar byd hwn, gan y dywedir iddo farw yn orfoleddus iawn, gan ddiolch yn wresog am drysor gwell yn y nef na dim a fedd y ddaear hon."[2]

BENJAMIN MOSES. Ganwyd ef yn ardal Tynygwndwn, sir Aberteifi, derbyniodd ei addysg yn athrofâau y Neuaddlwyd a Llanfyllin; ac urddwyd ef yn y New Inn, Ionawr 6ed, 1820. Bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef yn mhen dwy flynedd am nad oedd. yn bucheddu yn addas. Wedi ymadael o'r New Inn aeth i Abertawy, a phriododd yno ag un Mrs. Edwards, tafarnwraig, yr hon a gadwai y Tymelyn. Derbyniwyd ef yn aelod i Ebenezer, Abertawy, a bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn rhai manau eraill hyd ddiwedd ei oes. Bu farw ar ol cystudd byr Mai 16eg, 1829, a chladdwyd ef yn mynwent Ebenezer, Abertawy. Dywedir ei fod yn bregethwr derbyniol iawn. Priododd ei weddw a'r nodedig Shadrach Davies.

DAVID DAVIES. Mae Mr. Davies yn enedigol o ardal Rhydybont, sir Gaerfyrddin. Disgyna oddiwrth henafiaid enwog am eu duwioldeb. Derbyniwyd ef yn ieuangc yn Rhydybont gan Mr. Jonathan Jones, ac yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu aeth i athrofa y Neuaddlwyd, ac oddi-yno i'r New Inn, lle yr urddwyd ef Mawrth 27ain, 1823. Yr oedd trefn cyfarfodydd yr urddiad fel y canlyn: Prydnawn ddydd Mercher, am 3, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Jenkins, Brychgoed, a phregethodd y Meistriaid D. Griffiths, Castellnedd, oddiar Sal. iii. 8; T. Davies, Cymmar, oddiar Dat. i. 5; a D. Williams, Llanwrtyd, oddiar Heb. ii. 17. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni; a phregethodd y Meistriaid H. Heibert, Caerodor, oddiar Mat. xix. 16; a T. Phillips, Neuaddlwyd, oddiar Sal. xvi. 11. Am 10, dydd Iau, gweddiodd Mr. D. Davies, Penywaun; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. T. B. Evans, Ynys—gau; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Lewis, Aber; gweddiodd Mr. E. Jones, Pontypool, yr urddweddi gydag a'r ddodiad dwylaw; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. Phillips, Neuaddlwyd, oddiar 1 Tim. iv. 15; ac i'r eglwys gan Mr. W. Jones, Rhydybont, oddiar 1 Cor. xvi. 10. Am 2, gweddiodd Mr. W. Jones, Penybont; a phregethodd y Meistriaid W. Lewis, Tredwstan, (yn Saesoneg), oddiar Mat. viii. 22; a G. Hughes, Groeswen, oddiar 1 Cor. xiii. 13. Am 6, gweddiodd Mr. John Phillips, Neuaddlwyd; a phregethodd y Meistriaid T. Jones, myfyriwr, Neuaddlwyd, oddiar Mat. xxviii. 18; a P. Griffiths, Alltwen, oddiar Heb. i. 2.

Mae Mr. Davies yn awr yn dechreu yr wythfed flwyddyn a deugain o'i weinidogaeth, ac mor fywiog mewn corff a meddwl a phe byddai yn llangc ugain oed. Rhodded yr Arglwydd iddo lawer o wedd ei wyneb, a llwyddiant mawr o hyn hyd derfyn ei oes.[3]

Nodiadau[golygu]

  1. Methodistiaeth Cymru, Cyf. iii, 371.
  2. Methodistiaeth Cymru; Cyf iii tudalen 379
  3. Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithiau pwysicaf yn yr hanes hwn i lythyrau dyddorol a dderbyniasom oddiwrth Mr. Davies, gweinidog presenol y New Inn.