Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Brynbiga
← New Inn | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Tynewydd, Mynyddislwyn → |
BRYNBIGA.
Nodasom yn hanes Llanfaches a Hanover fod Ymneillduaeth wedi cymeryd cryn afael yn y dref hon a'r gymydogaeth yn lled gynar yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac iddi ddal ei gafael yma am rai blynyddau wedi dechreu y ddeunawfed ganrif. Yr oedd yn y dref hon gynnulleidfa dan ofal y doniol Hugh Pugh, yr hwn a fu farw tua 1709, ond y mae yn ymddangos i'r achos wywo yn fuan ar ol ei farwolaeth ef, ac nad oedd yma ond ychydig neu ddim o'i weddillion tua y flwyddyn 1743, pan y dechreuodd Mr. Abraham Williams, sylfaenydd yr achos sydd yma yn bresenol, ddyfod i bregethu i'r dref. Os nad oedd rhai o hen aelodau Hugh Pugh heb farw ar gychwyniad yr achos presenol, mae yn ddiau fod rhai o'u hiliogaeth yn y dref a'r gymydogaeth yn teimlo rhyw beth at yr achos yn wahanol i'r hyn fuasai disgynyddion dynion paganaidd yn deimlo. Yr hanes a gawn am ddechreuad yr achos presenol sydd fel y canlyn:—Yr oedd yma bump o bobl grefyddol aelodau yn awr yn y New Inn—lle yr oedd cymdeithas grefyddol, er fod yr eglwys heb ei ffurfio yno etto. Unodd y rhai hyn a Mr. Abraham Williams i osod i fyny addoliad crefyddol yn y dref, tua y flwyddyn 1743. Nid oedd yr un o honynt ond y pregethwr ei hun yn meddu dawn i ganu, gan hyny, cafwyd gan ryw bump eraill a fedrent ganu, i fyned yno yn lled gyson o'r New Inn. Yn mhen amser ffurfiwyd yno eglwys, nis gwyddom pa bryd, ond y mae yn ddigon tebygol mai tua yr un amser ag y corffolwyd eglwys y New Inn; neu efallai mai yn 1756, pryd yr urddwyd y gweinidog cyntaf yn y New Inn.
Mewn anedd-dai y buwyd yn addoli yma am lawer o flynyddau. Tua y flwyddyn 1770 yr adeiladwyd y capel yma, a chan iddo gael ei adeiladu yn agos iawn at gapel y Bedyddwyr teimlodd y brodyr hyny i raddau yn dramgwyddus, ac edrychasant arno fel amcan i ddrygu eu hachos hwy.[1]
Tua yr amser yr adeiladwyd y capel, neu yn fuan ar ol hyny, cyfododd gwr ieuangc doniol ac anarferol o boblogaidd i bregethu yma, ac mewn parthau eraill o'r sir, o'r enw Jehoiada Brewer.[2] Bu ef yma am rai blynyddau yn gynorthwyol iawn i'r achos, a bu yn ei noddi ar ol iddo ymadael a'r lle, ac am flynyddau wedi marwolaeth Mr. Williams. Ei enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr yn ngweithredoedd y capel, yr hon, o herwydd esgeulusdod neu ryw beth arall, ni chafodd ei gwneuthur cyn Ebrill, 1788, tua deunaw mlynedd ar ol adeiladu y capel.
Nis gwyddom pwy fu yn gweinidogaethu yma o'r flwyddyn 1783, pryd y bu farw Mr. Abraham Williams, hyd 1789, pryd yr urddwyd Mr. William George, un o aelodau y New Inn. Mae ger ein bron yn awr lythyr a ysgrifenwyd gan Mr. George yn 1794, pan yr oedd newydd ymadael o Frynbiga. Yn hwnw dywed iddo gael ei urddo yno bum' mlynedd yn ol, gydag arddodiad dwylaw yr enwog Edmund Jones, a gweinidogion eraill. Yn 1795, urddwyd Mr, Ebenezer Jones yn Mhontypool, a chymerodd ofal yr eglwys yn Mrynbiga mewn cysylltiad ag Ebenezer, a than ei ofal ef y bu hyd yn agos i derfyn ei oes yn 1829. Er cymaint oedd doniau Mr. Jones fel pregethwr, a'i ddylanwad fel gwladwr, nis gallasai yr achos dan ei ofal, mewn tref Saesonig, lai na pharhau yn wanaidd a nychlyd, pryd nad oedd yn gallu rhoddi haner ei amser i'w wasanaethu. Rhoddodd Mr. Jones ei swydd i fyny ychydig cyn ei farw.
Yn fuan ar ol hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Powell, Aberhonddu. Bu Mr. Powell yn gweinidogaethu yma o 1828 hyd 1842, pryd y bu farw. Nis gwyddom pa fesur o lwyddiant fu ar lafur Mr. Powell, ond ofnwn nad oedd yn helaeth iawn.
Dilynwyd Mr. Powell gan Mr. Henry Davies, myfyriwr o athrofa Blackburn. Urddwyd ef yma Mawrth 22ain, 1843. Bu yma am yn agos i dair blynedd. Yn Ionawr, 1846, symudodd i Benfro, ac yn fuan symudodd oddi-yno i'r Eglwys Wladol, lle y bydd yn debygol o aros mwyach hyd derfyn ei oes. Y mae er's blynyddau bellach yn Ficer Caio a Llansawel, sir Gaerfyrddin.
Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. W. H. Lewis. Bu ef yma tua dwy flynedd. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Narberth, yn niwedd y flwyddyn 1818. Bu wedi hyny am flynyddau yn Glastonbury, yn ngwlad yr Haf. Bu farw tua blwyddyn yn ol, ac, mor belled ag y gwyddom ni, nid oedd yn dal cysylltiad ag un enwad o grefyddwyr am y deng mlynedd olaf o'i oes. Efe yw awdwr hanes bywyd Mr. Peter, Caerfyrddin.
Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma o 1849 hyd 1852, pryd y darfu i Mr. Edward Williams, Cwmbran, dderbyn galwad a symud yma. Yr oedd Mr. Williams yn barchus iawn yma, ond nis gallodd fod o fawr o wasanaeth i'r achos tra y bu yn y lle, o herwydd fod ei iechyd wedi gwaelu yn fawr cyn iddo ddyfod yma, a pharhaodd i waethygu flwyddyn ar ol blwyddyn, nes y bu raid iddo yn Mai 1861 roddi y weinidogaeth i fyny yn hollol.
Yn Gorphenaf, 1861, darfu i Mr. George Thomas, yr hwn oedd yn byw yn y dref er's rhai blynyddau, ymgymeryd a'r weinidogaeth. Efe yw y gweinidog yma yn bresenol, ac y mae arwyddion fod ei lafur yn cael ei fendithio. Adeiladodd yma gapel hardd iawn yn 1862, yn lle yr hen un, yr hwn oedd wedi myned i ymddangos yn wael a dadfeiliedig iawn. Mab y diweddar Mr. David Thomas, Llanfaches, yw Mr Thomas, ac y mae yn ymddangos ei fod yn feddianol ar radd helaeth o ysbryd llafurus ei dad.
Mae Brynbiga, er nad yw yn dref fawr, yn le pwysig iawn, yn nghanol gwlad fras a chyfoethog, ac y mae yn resyn na fyddai mewn lle fel hwn gynulleidfa luosog, gyfoethog, a dylanwadol i wasgaru dylanwad iachusol crefydd y Testament Newydd dros yr holl fro, ac i wrthweithio yn effeithiol ddylanwad gwenwynig uchel-eglwysiaeth.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
ABRAHAM WILLIAMS. Mewn ychwanegiad at yr hyn a ysgrifenasom am dano ef yn hanes y New Inn, gallwn grybwyll iddo dreulio ei holl fywyd, o'i briodas i'w farwolaeth, yn ymyl y dref hon, mewn amgylchiadau bydol nodedig o gysurus.
JEHOIADA BREWER. Bu y gwr enwog hwn yn pregethu yma am rai blynyddau, yn gynorthwyol i Mr. A. Williams, er nad ymddengys iddo gael ei urddo yma. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1752, o rieni cyfrifol iawn. Dywed rhai mai yn y Casnewydd y ganwyd ef, ac eraill mai yn Mhontypool, ond yr ydym ni yn tybied mai Brynbiga yw lle ei enedigaeth. Cafodd ei ddychwelyd at yr Arglwydd yn ieuangc iawn yn y Bath, dan weinidogaeth Mr. Glascott, un o bregethwyr Iarlles Huntingdon. Dechreuodd bregethu yn ngwres ei gariad cyntaf, a chyn ei fod yn ddwy-ar-hugain oed yr oedd yn adnabyddus trwy holl Fynwy, a rhai o'r siroedd cymydogaethol, fel pregethwr grymus a phoblogaidd anarferol. Yn 1780, dewiswyd ef yn weinidog cynulleidfa y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, lle y llafuriodd gyda llwyddiant mawr am dair blynedd. Yn 1783, symudodd i Sheffield. Yn 1796, symudodd oddiyno i Carr's Lane, Birmingham. Bu yno hyd 1802, pryd, o herwydd rhyw annghydwelediad, yr aeth ef a chorff y gynulleidfa allan, pan nad oedd wedi pregetha ond un Sabboth yn y capel ar ol ei ailadeiladu. Cymerasant adeilad fawr yn Livery Street, lle y buont yn ymgynull am bymtheg mlynedd. Yn 1816, prynasant dir yn Steelhouse Lane, a gosodwyd careg sylfaen y capel i lawr yno yn y flwyddyn hono, ond cyn i'r lle gael ei orphen yr oedd y gweinidog enwog wedi ei symud i gysegr gwell. Bu farw Awst 24ain, 1817, yn y chweched flwyddyn a thriugain o'i oed. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth gan yr enwog Timothy East.[3]
WILLIAM GEORGE. Gwnaethom grybwylliad am ei enw ef yn hanes Llanfaches. Ganwyd ef yn mhlwyf Llansoi, derbyniwyd ef yn aelod yn y New Inn, urddwyd ef yn Mrynbiga yn 1789, a symudodd i Ross yn 1794, nid yn 1799, fel y camarweiniwyd ni i osod i lawr yn hanes Llanfaches. Ymddengys iddo ymadael o Ross yn 1801, ond nis gwyddom i ba le yr aeth oddiyno. Mae yn debygol mai tra fu yn Brynbiga y bu yn cymeryd rhan yn y weinidogaeth yn Llanfaches.
EBENEZER JONES. Rhoddasom gofnodiad byr am Mr. Jones yn nglyn a hanes Ebenezer, Pontypool, ond y mae yr hyn a ganlyn a gawsom oddiwrth ei ferch ychydig ddyddiau yn ol, yn werth ei gofnodi: Cafodd ei gyfyngu i'w dy tua blwyddyn cyn ei farwolaeth. Y nos cyn iddo farw mynodd yr holl deulu—y plant, y gwasanaethwyr, a'r gweithwyr i'w ystafell. Eisteddai yno yn ei hen gadair, ac aeth trwy wasanaeth crefyddol cyflawn, gan bregethu ei bregeth olaf oddiwrth y geiriau, "Am hyny awn yn hyderus at orseddfaingc y gras, &c." Bu farw yn yr Arglwydd y dydd canlynol.
THOMAS POWELL. Er mwyn cael gwybodaeth gywir a chyflawn am hanes boreuol Mr. Powell, ysgrifenasom at yr Hybarch David Williams, Troedrhiwdalar, i holi yn ei gylch, ac wele yr atebiad a gawsom air yn ngair:
"Ychydig o hanes y Parch. Thomas Powell, gynt o Aberhonddu. Yr oedd yn enedigol o Drefcastell, neu yn agos i'r lle. Cafodd ysgol dda gan ei dad pan oedd yn ieuangc. Aeth i gadw ysgol i Lanelli, Brycheiniog. Yr amser hwnw ymunodd a'r eglwys oedd yn Llangattwg, dan ofal Mr. Davies. Oddiyno aeth i athrofa Wrexham, a bu yno bedair blynedd, dan y Parch. Jenkin Lewis. Cafodd alwad yn Ninbych, pan oedd yn ymadael a'r athrofa, i fod yn weinidog iddynt hwy, a chafodd ei barchu yn fawr ganddynt. Pan oedd yn Ninbych, priododd ferch yn mhlwyf y Battel, yn agos i Aberhonddu, unig ferch ei thad a'i mam. Yr oedd ei rhieni yn amaethwyr cyfrifol, cyfoethog, ac yn berthynasau o bell i Mr. Powell. Yn y cyfamser yr oedd eglwys y Plough heb un gweinidog, ac yn mhen ychydig cafodd alwad gan yr eglwys hono, a symudodd o Ddinbych i Aberhonddu, a bu yn llwyddianus iawn yno. Yn y tymor y bu yno ychwanegwyd at yr eglwys lawer o ugeiniau. Yr oedd yn hoff iawn gan ei frodyr yn y weinidogaeth am dano. Symudodd o Aberhonddu i Frynbiga.
Gallaf ddyweyd hyn am dano; yr oedd fel cyfaill yn ffyddlon, didwyll, a charedig; fel gweinidog, yr oedd yn llafurus mewn astudio pregethau, ac yn ei holl gylch gweinidogaethol; a'i bregethau yn felus ac arddeledig. Yr oedd yn cael ei hoffi gan yr holl eglwysi cymydogaethol.
Darfu iddo argraffu amryw draethodau: 1. Yn mhlaid y Gymdeithas Genhadol. 2 Traethawd ar Gristion o fewn ychydig. 3 Traethawd ar Fedydd Babanod. 4 Cyfieithodd Calfin ar y Salmau. Yr eiddoch mewn gwir serch.
Tanyrallt, Chwefror 9fed, 1870.
DAVID WILLIAMS.
N.B.—Nis gallaswn nodi y blynyddau y bu yn aros yn un man.
Dear Dr. Do not wonder if there is a blunder. The old hand is 91 years of age since the 27th of last January, and the old eyes are of the same age to the moment."
Gadawn y llythyr hwn o eiddo y patriarch anrhydeddus i lefaru drosto ei hun. Ac nid oes genym ond ychwanegu yr amseriadau a adawyd allan ganddo ef. Yn y flwyddyn 1781 y ganwyd Mr. Powell. Yn 1804 yr aeth i'r athrofa, ac ar y 27ain o Hydref, 1808, yr urddwyd ef yn Ninbych. Symudodd oddiyno i Aberhonddu yn 1814, ac o Aberhonddu i Frynbiga yn 1828. Bu farw Chwefror 4ydd, 1842, yn 61 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Brynbiga.
EDWARD WILLIAMS. Mab ydoedd ef i'r pregethwr galluog hwnw, David Williams, Merthyr Tydfil. Ganwyd ef Rhagfyr, 7fed, 1798. Cafodd ei aelodi yn eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais, Merthyr, yn 1814 a chyn hir wedi hyny dechreuodd bregethu. Symudodd o Ferthyr i Gaerphili, ac yn y flwyddyn 1826, ymadawodd a'r Methodistiaid, a der—byniwyd ef yn aelod yn y Groeswen, gan Mr. Hughes. Yn nechreu y flwyddyn 1829, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Bethesda-y-fro, Morganwg, ac urddwyd ef yno Mawrth 19eg, yr un flwyddyn, yn gynnorthwywr i'r Hybarch Thomas Williams, yr emynwr enwog. Yn niwedd flwyddyn 1830, derbyniodd alwad o'r Main a Meifod, sir Drefaldwyn; a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yno Tach. 29ain a'r 30ain. Arosodd yno am ddwy flynedd, yna symudodd i Lansantsior a Moelfra, sir Ddinbych, lle y bu hyd ryw bryd yn y flwyddyn 1838, pryd y derbyniodd alwad o Lanfairmuallt, ac y symudodd i'r lle hwnw. Bu yno yn barchus a chymeradwy iawn hyd 1848, yna symudodd i Gwmbran, Mynwy. Ar ol llafurio yno gyda derbyniad neillduol am bedair blynedd, o herwydd arosiad y gweithiau, a gwasgariad llawer o'r gymydogaeth, derbyniodd alwad oddi-wrth yr eglwys yn Mrynbiga, a chymerodd ei gofal yn 1852. Yn 1861, gorfodwyd ef gan lesgedd i roddi y weinidogaeth i fyny. Yna aeth i fyw i Lansantffraid, Maldwyn, heb fod yn mhell o Lanfyllin, lle genedigaeth ei wraig. Bu farw yno Medi 16eg, 1863. Ymadawodd o'r byd mewn teimladau nefolaidd iawn. Dywedai nad oedd un cwmwl rhyngddo ag wyneb ei Dad nefol. Claddwyd ef wrth gapel y Sarnau.
Dyn lled fychan o gorff, ond bywiog a lluniaidd iawn, oedd Mr. Williams. Yr oedd yn hynod o serchus a chyfeillgar; yn gyfaill didwyll iawn, ac yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf. Fel pregethwr, yr oedd yn gryno, chwaethus, a melus; a medrai bregethu yn y Saesoneg a'r Gymraeg yn rhwydd a diwall. Dichon, ar y cyfan na fu ei ddefnyddioldeb a'i lwyddiant yn y weinidogaeth yn gyfartal i'w gymhwysderau i'r gwaith; a dichon nad oedd ynddo y cwbl ymroddiad hwnw i ysbryd y gwaith sydd bob amser mor hanfodol i lwyddiant ynddo.