Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Tynewydd, Mynyddislwyn
← Brynbiga | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Rehoboth, Brynmawr → |
TYNEWYDD, MYNYDDISLWYN.
Yn ol y traddodiad yn yr ardal, cafodd yr achos yn y lle hwn ei ddechreu gan chwech o bersonau a ymneillduasant o'r Eglwys blwyfol, yn mysg pa rai yr oedd Mr. Thomas Walters, yr hwn wedi hyny a ddewiswyd yn weinidog i'r gynnulleidfa newydd.
Gellir cymhwyso y sylwadau a wnaethom ar ddechreu hanes eglwys y New Inn at ddechreuad yr achos hwn hefyd yn ei gysylltiad ag Eglwys y plwyf. Nis gallwn brofi fod Thomas Walters, a'r pump eraill a gydweithredent ag ef yn nechreu yr achos, wedi bod aelodau yn Mhenmain cyn i weinidogaeth y Methodistiaid ddylanwadu arnynt, er fod hyny yn lled debygol, ond y mae yn sicr fod Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn, a thaenu ei changhenau dros holl blwyf Mynyddislwyn fwy na chan mlynedd cyn i Mr. Howell Harries, nac un Methodist arall, erioed weled y lle. Bu yma ddiwygiadau nerthol tua deng mlynedd ar hugain cyn dechreuad y Diwygiad Methodistaidd. Byddai Mr. John Harries, Penmain, yn arfer pregethu gyda dylanwad mawr yn y Sychbant, a manau eraill, i dorfeydd lluosog tua dechreu y ddeunawfed ganrif:[1] felly nid anialwch gwyllt oedd y plwyf hwn pan ddaeth Methodistiaeth gyntaf iddo, ond tir wedi ei arloesi. Yr oedd eglwys Penmain ar y pryd yn lluosog a llewyrchus iawn, a'r Bedyddwyr hefyd yn lled gryfion yn y plwyf hwn a'r plwyfydd cylchynol. Gellir dyweyd yn ddibetrus fod Ymneillduaeth yn mhlwyf Mynyddislwyn, pan ymwelodd Howell Harries gyntaf a'r lle, mor gryfed, yn ol cyfartaledd y trigolion, ag ydyw yno yn bresenol. Yr offeiriad a wasanaethai y plwyf ar y pryd oedd David Perrott. Pan glywodd ef am fwriad Harries i ymweled a'r lle, ysgrifenodd lythyr bygythiol ato i'w wahardd; nis gellir, gan hyny, gasglu fod gwr hwn yn debygol o fagu llawer o dduwiolion yn ei eglwys.[2] Mae yn bosibl fod cychwynwyr achos y Tynewydd, fel llawer eraill o Ymneillduwyr a unasant a'r Methodistiaid, wedi bod yn cymuno yn achlysurol yn eglwys y plwyf, mewn ufudd-dod i flaenoriaid y corph, a dyna sail y traddodiad mai o'r eglwys y daethant allan.
Dechreuwyd yr achos hwn tua y flwyddyn 1758, mewn anedd-dy o'r enw Migyn-y-Bwlch, yn agos i Dyddyn yr Eglwys. Ni wyddys enwau y pregethwyr fu yn eu cynnothwyo ar y dechreu, ond y mae yn dra thebygol i'r rhag-grybwylledig Thomas Walters ddechreu pregethu tua yr amser hwnw, os nad oedd yn gynghorwr Methodistaidd cyn hyny. Yn 1760 symudodd y gynnulleidfa fechan o Migyn-y-Bwlch i Penydarren, tyddyn-dy a safai yn agos i safle bresenol gweithfa wlan Mr. John Howells. Buont yn ymgynnull i'r lle hwn nes i'r capel gael ei adeiladu yn 1765. Dyddiad gweithred y ty cyfarfod yw Mai 13eg, 1765, a pherchenogion y tir oedd Henry Jones, ac Anne ei wraig. Yr oeddynt ill dau yn aelodau o'r eglwys, ac felly rhoddasant y tir i'r achos dros 999 o flynyddau. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Thomas Walters, William Thomas, Henry Williams, John Williams, John William Harry, Jeremiah Jones, a Phillip Jones. Gan fod y capel hwn o fewn ychydig gyda dwy filldir i gapel Penmain, ac yn yr un plwyf, mae yn ymddangos nad oedd yr hen weinidog Phillip Dafydd, yn gwbl foddlon i'w adeiladaeth, ac yn enwedig gan fod y bobl yn ryw fath o haner Methodistiaid. Pa fodd bynag, bu eglwys Penmain mor garedig a gwneyd casgliad at draul adeiladiad y Tynewydd. Fel y canlyn y crybwylla Mr. P. Dafydd hyny yn ei ddyddlyfr: "Medi 14eg—Heddyw yr oedd ein cyfarfod cymundeb yn Mhenmain, lle y pregethais oddiwrth 1 Pedr iv. 4, ac y gweinyddais Swpper yr Arglwydd. Lled sychlyd oeddwn yn fy ysbryd, ac nid oedd y cynnulliad yn lluosog. Gwnaethom heddyw gasgliad i gynnorthwyo y bobl sydd wedi adeiladu ty cyfarfod newydd yn mhlwyf Mynyddislwyn, yr hwn a gyfenwant Bethel Newydd."
Mae yn ymddangos i Mr. Walters gael ei urddo yn weinidog tuag amser agoriad y capel. Mae yn debygol mai y bobl eu hunain ddarfu ei urddo, yr un fath ag y gwnaed yn y New Inn. Bu Mr. Walters yn llafurio yn y weinidogaeth yma am naw mlynedd ar hugain, gyda pharch a derbyniad mawr. Yn ei dymor ef, byddai Mr. Williams, Pantycelyn, ac eraill o bregethwyr y Methodistiaid, yn ymweled a'r Tynewydd, pa bryd bynag y deuent trwy yr ardal. Yr oedd un Rowlands (nai i Mr. Rowlands, Llangcitho) yn offeiriad yn Mynyddislwyn a Bedwellty, am rai blynyddau yn amser Mr. Walters, a dywedir i Rowlands Llangeitho, ofyn ryw dro i Williams, Pantycelyn, pan glywodd iddo fod yn pregethu yn y Tynewydd, paham nad aethai i bregethu i eglwys ei nai yn lle i'r Tynewydd, a'i ateb ydoedd, "Yr wyf bob amser yn hoffi myned i nithio lle byddo gwynt." Yr oedd eglwys y Tynewydd y pryd hwnw, fel y mae wedi bod bob amser oddiar hyny hyd yn awr, yn nodedig am ei gwresogrwydd crefyddol, a doniau digyffelyb ei haelodau i ganu a gweddio. Ryw gymaint o amser cyn marwolaeth Mr. Walters, darfu i un Edmund Williams, neu "Emwnt Cilfynydd" fel y gelwid ef, yr hwn a fuasai yn aelod defnyddiol o'r eglwys am flynyddau, ymadael yn heddychol, a rhai eraill gydag ef, er cychwyn achos crefyddol yn Risca, a hyn oedd dechreuad eglwys y Methodistiaid yn y lle hwnw. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Walters, cyfododd o leiaf dri o bregethwyr yn yr eglwys, sef nai y gweinidog, Mr. Thomas Walters, wedi hyny o'r New Inn, Mr. William George, a Mr. John Davies. Bydd genym achlysur i son etto am bob un o honynt hwy wrth fyned rhagom.
Wedi marwolaeth Mr. Walters, yn 1794, bu yr eglwys am ryw yspaid yn cael ei gwasanaethu gan weinidogion cymydogaethol; ond ryw amser cyn dechreu y ganrif bresenol, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Walters, yr hwn a fu am rai blynyddau yn gweini yr ordinhadau yn y Tynewydd, mewn cysylltiad a'r New Inn. Anfynych y byddai Mr. Walters yn ymweled a hwy, ond gan fod yr eglwys mor dra rhagorol am ei doniau, a bod tri phregethwr cynnorthwyol derbyniol yn aelodau ynddi, nid oeddynt yn teimlo cymaint oddiwrth absenoldeb ac esgeulusdod yr hwn a gyfrifid fel gweinidog.
Yn y flwyddyn 1809, bu farw aelod defnyddiol iawn o'r eglwys hon o'r enw William Morgan, y Tiler, yn 58 oed. Efe a ddechreuodd yr ysgol Sabbothol yma, a pharhaodd yn athraw gweithgar a ffyddlon tra y bu byw. Yn nechreu y flwyddyn 1811, rhoddodd Mr. Thomas Walters ei weinidogaeth i fyny, ond gan ei fod ef, a'i ewythr, Thomas Walters y cyntaf, wedi ymgyfeillachu llawer a'r Methodistiaid trwy eu hoes, yr oedd rhyw gymaint o'r elfen Fethodistaidd yn parhau yn yr eglwys, a phan aed i son am ddewis gweinidog drachefn, bu hyny yn achos o ymraniad. Mynai y rhan Fethodistaidd o'r eglwys ddewis John Davies o'r Penllwyn-Bach yn weinidog, ond William George a ddewiswyd gan y rhan Annibynol; a chan fod y blaid hono yn llawer lluosocach, ennillasant y dydd, a'r canlyniad fu i'r lleill ymadael, a gosod i fyny eglwys Fethodistaidd yn Gelligroes. Enwir y rhai canlynol yn mysg y rhai a ymadawsant i Gelli—groes: John Davies, y pregethwr; Henry Jones, Tynyllwyn, pregethwr arall, a adwaenid wedi hyny, fel y Parch. Henry Jones, Llaneurwg; Shon William Harry, ac Anne ei wraig, a Harry Lewis Edmund. Ar ol ymadawiad y cyfeillion hyn, cydunwyd yn unfrydol i urddo Mr. William George. Cymerodd ei urddiad le Gorphenaf 4ydd, 1811. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn: Yr hwyr blaenorol, pregethodd Mr. Rees Davies, Casnewydd, oddiar Sal. lv. 6; a Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy, oddiar Sal. lxxxix. 15. Am 10, yr ail ddydd, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. James Williams, Llanfaches; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. E. Jones, Pontypool; derbyniwyd y gyffes ffydd a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Davies, Casnewydd; traddodwyd siars i'r gweinidog gan Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiar 2 Tim. ii. 15, a siars yr eglwys gan Mr. E. Jones, oddiar Heb. xiii. 7. Yr oedd Mr. D. Thomas, Penmain, hefyd yn bresenol yno.
Yr oedd Mr. George trwy holl dymor ei weinidogaeth yn cyfaneddu yn Mhontypool, ac yn ymddibynu yn benaf am gynnaliaeth ei deulu ar ei waith fel meistr seiri yn ngweithiau haiarn Pontypool. Deuai drosodd bob Sabboth i Fynyddislwyn, a phregethai yno yn y bore, yna dychwelai adref, a phlegethai fynychaf yn yr hwyr yn Ebenezer neu New Inn. Er nad oedd yr eglwys yn cael ychwaneg o'i wasanaeth nag un bregeth yn yr wythnos, etto, gan ei fod ef a'r bobl mor llawn o dân nefol, parhaodd yr achos mewn sefyllfa lewyrchus iawn, ac "fel aelwyd o dân yn y coed" trwy yr holl amser y bu yn weinidog yno. Derbyniodd yn ystod ei weinidogaeth gant ac wyth ar hugain o aelodau, ac yn eu plith ddau a gyfodasant wedi hyny i fod yn bregethwyr defnyddiol, sef Mr. John Mathews, Castellnedd, a'i frawd Mr. William Mathews, Rhydri. Cafodd yr eglwys yn nhymor Mr. George ei bendithio ag amryw ddiwygiadau tanllyd a grymus iawn. Gan ei fod yn myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau, ac yn cyfaneddu rhwng saith ac wyth milldir oddiwrth ei bobl, anogodd hwy yn 1828, i edrych allan am gynnorthwywr iddo yn y weinidogaeth. Yn y flwyddyn hono, daeth Mr. Thomas Harries, yr hwn oedd y pryd hwnw yn ysgol ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin, heibio ar ei daith, a chafodd ei hoffi gan y bobl, fel y rhoddasant alwad iddo yn ddioed. Urddwyd ef Mai 18ed, 1828. Parhaodd Mr. George ei gysylltiad a'r eglwys am tua blwyddyn wedi urddiad Mr. Harries. Pan welodd fod y gweinidog ieuangc yn alluog i gyflawni y gwaith yn effeithiol, rhoddodd ef y gofal yn gwbl i fyny, a chymerodd ei le fel aelod yn y New Inn, yn agos i'w aneddle. Bu yn pregethu yn achlysurol yno, ac mewn manau eraill yn yr ardal, hyd derfyn ei oes.
Bu sefydliad Mr. Harries yn y lle yn fendith ddirfawr i'r eglwys a'r holl ardalwyr; adfywiodd yr achos, cynyddodd y gwrandawyr, ac ychwanegwyd llawer at nifer yr aelodau. Torodd adfywiad nerthol allan yn mhen ychydig fisoedd ar ol sefydliad Mr. Harries, yr hwn a barhaodd am agos i ddwy flynedd. Effaith yr adfywiad hwn oedd corffoliad yr eglwysi yn Tabor, Maesycwmwr, a Salem, Trelyn. Cangen uniongyrchol o'r Ty—newydd yw Tabor, ac y mae cychwyniad yr achos yn Salem i'w briodoli i raddau mawr i lafur Mr. Harries a rhai o bobl y Tynewydd. Parhaodd defnyddioldeb a pharch Mr. Harries yn gynyddol hyd derfyn ei oes fer. Bu farw er galar i ganoedd, yn ddyn ieuangc 31 oed, yn 1837.
Wedi marwolaeth Mr. Harries, buwyd yn agos ddwy flynedd cyn gallu taro wrth neb a fernid yn gymhwys i lenwi ei le. O'r diwedd rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Moses Ellis, Talybont, Ceredigion, ac yn niwedd y flwyddyn 1839 sefydlodd Mr. Ellis yma, a bu yn nodedig o ddefnyddiol a pharchus gan yr eglwys a'r holl ardal hyd ei farwolaeth. Cafodd tymor gweinidogaeth Mr. Ellis ei hynodi gan amryw adegau o lwyddiant ac adfywiadau gwresog. Ychwanegwyd ugeiniau, os nad canoedd, at yr eglwys yn ystod y saith mlynedd ar hugain y bu ef yma, ac nis gwyddom i'r achos syrthio i farweidd-dra neillduol am gymaint ag un flwyddyn trwy yr holl amser. Pa le bynag y byddai syrthni neu oerni, byddai bywyd a thân yn wastad i raddau mwy neu lai yn y Tynewydd. Er i ugeiniau o'r aelodau a'r gwrandawyr gael eu gwasgaru o'r ardal o herwydd marweidd-dra y gweithiau glo, parhaodd y gynnulleidfa heb fawr o leihad i'w ganfod ynddi trwy y blynyddau. Ychydig cyn marwolaeth Mr. Ellis, anogwyd James Williams, mab i un o'r diaconiaid, i ddechreu pregethu. Yn fuan wedi hyny aeth i'r athrofa i Gaerodor, ac y mae er 1868 wedi ymsefydlu fel gweinidog yn Ruardean, sir Gaerloew.
Heblaw y llwyddiant ysbrydol fu ar yr achos yn amser Mr. Ellis, aeth rhagddo hefyd yn rhagorol mewn pethau amgylchiadol. Yn y flwyddyn 1846 adeiladwyd addoldy y Garn, yn Abercarn, er mwyn cyfleusdra yr aelodau a breswylient yn y lle poblog hwnw. Corffolwyd yno eglwys, ac ar ol i Mr. Ellis fod yn ei gwasanaethu am ychydig o flynyddau rhoddodd hi i fyny, a dewisasant weinidog iddynt eu hunain. Yn 1847, adeiladwyd ty ysgol yn ymyl y Tynewydd, yr hwn sydd wedi bod yn wasanaethgar iawn at gynal ysgol ddyddiol. Yn 1855, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd cadarn a phrydferth yn ei le, yr hwn a gynnwysa rai ugeiniau o eisteddleoedd yn fwy nag a gynnwysai yr hen dy.
Mae yr eglwys oddiar farwolaeth Mr. Ellis hyd yn bresenol heb allu cael neb i sefydlu fel gweinidog yn eu mysg. Yn 1867, buasent yn rhoddi galwad i Mr. Richard Foulkes Edwards, (Risiart Ddu o Wynedd), oni buasai i'w iechyd ei orfodi i gymeryd mordaith i'r America. Ar ei ymadawiad a'r wlad hon addawai ddychwelyd, ond bu yn hir yn nychu ac yn dihoeni, a bu farw Mawrth Sed, 1870. Hyderwn y denfyn yr Arglwydd yn fuan fugail wrth fodd ei galon i ofalu am y praidd nodedig hyn.
Ni bu eglwys y Tynewydd ar un cyfnod o'i hanes yn lluosog iawn. Dichon na fu rhif y cymunwyr unrhyw amser yn fwy na thri chant, os buont yn gymaint a hyny, ond nis gwyddom am un eglwys yn y Dywysogaeth sydd wedi bod o oes i oes yn fwy enwog am ei bywiogrwydd, ei sirioldeb, a'i gwresogrwydd crefyddol. Mae y tân wedi cael ei gadw i gyneu ar yr allor braidd yn ddiatal oddiar ffurfiad cyntaf yr eglwys hyd y dydd hwn, ac olyniad o ddynion rhyfeddol am eu teimladau toddedig dan y gair wedi bod yn perthyn i'r gynnulleidfa. Cyfeiria eu hen gymydog, Phillip Dafydd, Penmain, yn fynych yn ei ddyddlyfrau at ei "gymydogion y neidwyr," sef pobl y Tynewydd, gyda gradd o annghymeradwraeth, oblegid yr oedd pob dynesiad at Fethodistiaeth yn groes i'w feddwl ef. Mae yn ddigon tebygol y buasai yn fanteisiol iawn i achos crefydd, yn yr oesau a aethant heibio, pe buasai mwy o oleuni Penmain yn y Tynewydd, a mwy o dân y Tynewydd yn Mhenmain.
COFNODION BYWGRAPHYDDOL.
THOMAS WALTERS. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes y gwr rhagorol hwn. Ymddengys mai yn mhlwyf Mynyddislwyn y cafodd ei eni a'i fagu. Amaethwr cyfrifol ydoedd yn byw ar ei dir ei hun, mewn lle a elwir Pantyrhesg. Yn y flwyddyn 1729 y ganwyd ef, ac felly nid oedd ond rhwng naw a deng mlwydd oed pan yr ymwelodd Howell Harries gyntaf a'r ardal. Nis gwyddom trwy bwy na pha bryd yr ennillwyd ef at grefydd, ond y mae yn lled sicr iddo gael ei ennill yn dra ieuangc. Yr oedd Herbert Jenkins, wedi hyny gweinidog yr Annibynwyr yn Maidstone, Kent, yn enedigol o'r un ardal a Thomas Walters, ac yn bregethwr rhyfeddol o alluog a dylanwadol, mor fore a'r flwyddyn 1739, a dichon mai trwyddo ef yr ennillwyd Mr. Walters i gofleidio crefydd. Fel y nodasom, darfu iddo ef gyda phump eraill, ddechreu yr achos yn 1758. Urddwyd ef, wrth bob tebygolrwydd, gan y bobl eu hunain, tua y flwyddyn 1765; parhaodd i lafurio yn eu mysg hyd ddydd ei farwolaeth, sef Mai 25ain, 1794, pryd yr oedd yn 65 oed.
Ychydig a fedrwn gofnodi am nodweddiad Mr. Walters, er y dylasem fod yn gwybod llawer am dano, gan i ni fod ugeiniau o oriau yn nghymdeithas ein hen gyfaill anwyl, Mr. Phillip Williams, Toneiddon, yr hwn a fu lawer o flynyddoedd dan ei weinidogaeth. Clywsom ef droion yn crybwyll enw ei hen weinidog, ond ni buom ar y pryd yn ddigon doeth i holi nemawr arno yn ei gylch. Mae yn gofus genym ei glywed yn dyweyd fwy nag unwaith fod Mr. Walters yn un o'r dynion mwyaf hynaws ac addfwyn ei dymer a adnabu ef erioed, a'i fod yn bregethwr hynod o effeithiol a gwresog. Yn ol tystiolaeth ei hen gymydog, Phillip Dafydd, yr oedd llawer mwy o wres nag o oleu yn mhregethau Thomas Walters. Yn ei ddyddlyfr am Hydref 24ain,'1773, cawn'y nodiad canlynol: "Yrhwyr, hwn bum yn gwrandaw Thomas Walters, yr hwn ni chlywais erioed o'r blaen. Pa beth i'w wneyd a'i bregeth, nis gwn i, ac y mae yn ddirgelwch i mi pa fodd y gall neb sydd yn feddianol ar ryw fesur o wybodaeth gael unrhyw adeiladaeth wrth ei wrandaw. Enwodd fel ei destyn Mat. v. 6, ond ychydig neu ddim a wnaeth o hono." Dylem gofio fod rhagfarn Phillip Dafydd mor gryf yn erbyn pob peth tebyg i Fethodistiaeth, fel mai braidd yr oedd yn gymhwys i roddi barn deg ar bregeth gwr mor Fethodistaidd a Thomas Walters. Pa fodd bynag, dengys y difyniadau canlynol fod cyflawnder o dân yn ei gyflawniadau os nad oedd ynddynt ddigon o oleuni i foddio P. Dafydd: "Hydref 6ed, 1776. Bum heddyw mewn cyfarfod gweinidogion yn nhy cyfarfod Mr. Edmund Jones. Pregethodd Mr. William Morgan, o'r Cymar, oddiwrth 1 Cor. xv. 20; a Mr. William Thomas, o Aberhonddu. Diweddwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Thomas Walters, a mawr y swn a gadwyd ganddo ef a'i gyfeillion." "Ebrill 1af, 1778. Heddyw yr oedd cyfarfod gweinidogion yn y Casnewydd. Yn y bore, pregethodd Mr. Benjamin Davies, yn Saesonig; a Mr. William Edwards, yn Gymraeg, oddiwrth Mat. v. 3. Yn y pryd—nhawn, yn lle cadw cynnadledd, er fod ei heisiau yn fawr, gosodwyd Abraham Williams, a Thomas Walters i draddodi rhywbeth ar lun pregethau i gynhyrfu y bobl." Os nad oedd Phillip Dafydd, a Thomas Walters yn hollol gydolygu ar y ddaear am y dull goreu i wasanaethu Duw, maent yn sicr o fod yn cyduno yn hyfryd heddyw i ganu cân Moses a chân yr Oen.
THOMAS WALTERS, yr ail. Nid oes genym ddim i'w gofnodi am dano ef yn ychwanegol at yr hyn a welir yn hanes y New Inn.
WILLIAM GEORGE. Ganwyd ef yn mhlwyf Risca yn y flwyddyn 1758. Enwau ei rieni oedd David a Mary George. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond deg oed. Ymddengys iddo gael ychydig addysg yn ieuangc, a thrwy ddiwydrwydd personol ar ol hyny daeth yn ysgolhaig gweddol dda. Ar ol bod am rai blynyddau yn gwasanaethu gydag amaethwyr, yn mhlwyfi Henllys a Mynyddislwyn, ystoriodd ddigon o arian i'w osod ei hun yn egwyddorwas gyda Lewis Miles y saer yn Llanhiddel. Priododd a Margaret Miles, (merch ei feistr mae yn debygol), ac yna symudodd i fyw i Abercarn yn y flwyddyn 1783. Yn fuan wedi hyny, ymunodd a'r eglwys yn y Tynewydd. Nis gwyddom pa mor fuan ar ol ei dderbyn y dechreuodd bregethu. Yn ol llyfr eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, bu yn pregethu yno Tachwedd 23ain, 1795. Mae yn ddigon tebygol ei fod wedi dechreu rai blynyddau cyn hyny. Bu yn bregethwr cynnorthwyol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol hyd 1811, pryd, fel y nodasom, yr urddwyd ef yn weinidog yn y Tynewydd. Ymneillduodd o'r weinidogaeth yn rhanol yn 1828, ac yn hollol yn 1829, ond parhaodd i bregethu yn achlysurol cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Bu farw Chwefror 21ain, 1838, yn 81 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y New Inn.
Pan gynygiwyd yn yr eglwys i William George gael ei anog i ddechreu pregethu, dywedir i rai o'r aelodau wrthwynebu hyny. Wrth glywed y brodyr yn gwrthwynebu y cynygiad, cyfododd un Harry Siams, yr hwn yn mhen blynyddau wedi hyny fu yn ddiacon enwog yn yr eglwys, a dywedodd "Bydd yn well gan yr Arglwydd ladd tri o'r rhai penaf o honoch nag atal un William George i bregethu yr efengyl." Yn mhen ychydig wedi hyn, bu farw tri o'i brif wrthwynebwyr, a chafodd yntau y ffordd yn rhydd i bregethu. Er nad oedd Mr. George yn cael ei resu yn mysg y pregethwyr mawr, ni bu un gweinidog erioed yn anwylach gan bobl ei ofal, na neb mwy gwresog ei ysbryd yn sefyll uwch ben cynnulleidfa. Braidd y safai un amser i fyny heb danio y gynnulleidfa. Perchid ef yn fawr gan weinidogion ac eglwysi cymydogaethol. Efe a gafodd ei benodi i bregethu yn angladd yr enwog Ebenezer Jones, Pontypool. Diau pe cawsai ddechreu ei weinidogaeth yn foreuach yn ei oes, a phe buasai yn cael ei gynal fel ag i roddi ei holl amser at waith y weinidogaeth, y buasai yn fwy defnyddiol, ac yn fwy adnabyddus trwy y Dywysogaeth. Mae llawer o ddynion rhagorol fel y gwr da hwn, a allasent fod wedi cyrhaedd enwogrwydd cenhedlaethol, wedi cael eu cadw dan gudd trwy eu holl fywyd gan amgylchiadau anffafriol.
THOMAS HARRIES. Ganwyd ef yn niwedd Awst neu ddechreu Medi, 1806, yn mhlwyf Llansaint, yn agos i Gydwely, sir Gaerfyrddin. Enwau ei rieni oedd Jacob a Mary Harries. Yr oeddynt ill dau, er yn isel yn eu hamgylchiadau bydol, yn bobl grefyddol iawn, a'i fam yn fwy nodedig na'r cyffredin am ei doniau, ei defnyddioldeb, a'i duwioldeb. Yr oedd hi yn fath o arweinyddes yn nghyfarfodydd y bobl ieuangc, a byddai yn aml yn siarad ac yn gweddio yn gyhoeddus yn y cyfryw gyfarfodydd. Thomas oedd yr ieuengcaf o bump o blant. Bedyddiwyd ef gan Mr. John Abel, Cydwely, Medi 24ain, 1806. Pan yn blentyn ieuangc dangosai alluoedd gafaelgar a medr i ddysgu yn yr ysgol. Derbyniwyd ef yn aelod yn ieuangc iawn gan Mr. David Griffiths, Capel Sul, Cydwely, a than nawdd Mr. Griffiths y dechreuodd bregethu. Ar ol iddo ddechreu pregethu, gwnaeth yr eglwys yn Nghapel Sul gasgliad i'w gynnorthwyo i fyned i ysgol Ramadegol Mr. Peter, Caerfyrddin. Nis gwyddom pa cyhyd y bu yn yr ysgol yn Nghaerfyrddin, ond tra y bu yno yr oedd yn hynod o boblogaidd fel pregethwr. A'r ol ymadael a'r ysgol, bu am ychydig amser yn cadw ysgol ei hun yn Nghydwely. Yn nechreu y flwyddyn 1828, fel y nodasom, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys y Tynewydd, ac yno y treuliodd weddill ei oes, mor gymeradwy ac anwyl gan bobl ei ofal ag y gallasai gweinidog fod. Bu farw yn mlodau ei ddyddiau Medi 18ed, 1837, a chladdwyd ef o dan yr areithfa, lle y buasai am ddeng mlynedd yn pregethu "yr ymadrodd am y groes." Gadawodd un o'r gwragedd hawddgaraf yn weddw, a dau blentyn yn amddifaid, a lluaws o gyfeillion mewn galar dwys ar ei ol.
O ran corff, un lled fychan a nodedig o eiddil ei ymddangosiad oedd Mr. Harries. Yr oedd golwg egwan ei gorff wrth ei fod yn esgyn i'r areithfa yn creu math o deimlad tyner tuag ato yn yr holl gynnulleidfa. O herwydd eiddilwch annghyffredin ei gorff nid oedd ei lais ond gwan, ond yr oedd mor beraidd a seiniau melusaf yr eos, nes y chwalai teimladau ei wrandawyr yn ddrylliau. Ond os un gwan o gorff ydoedd, yr oedd yn un cryf iawn o feddwl. Yr oedd ei bregethau oll yn drefnus, cryno, a chynwysfawr, ac er na byddai, ond anfynych, dros o bum' munyd ar hugain i haner awr yn pregethu, teimlai ei holl wrandawyr, call a ffol, eu bod wedi cael tâl cyflawn am eu trafferth yn dyfod i'w wrandaw.
Yr oedd yn ddyn nodedig o graffus i adnabod dynion, ac i ddeall amgylchiadau, ac yn un o synwyr cyffredin tu hwnt i nemawr a adnabuom erioed. Tra yr oedd yn rhy lygadgraff a gochelgar i neb_allu ei rwydo, ni adawsai argraff ar neb ei fod yn ddyn dwfn cyfrwys. Yr oedd ganddo gydgyfarfyddiad dedwydd iawn o ymddangosiad diniwed yr oen a challineb y sarph. Perchid ef gan bawb o'i gydnabod, nid oddiar ei ofn, ond o anwyldeb tuag ato. Yr oedd ynddo rywbeth i swyno pawb a'i gwelai, ac a'i gwrandawai, i deimlo rhyw gynesrwydd tuag ato.
Clywsom Mr. Jones, Gwynfau, yn adrodd yr hanesyn canlynol am dano: Ychydig wythnosau cyn i Mr. Harries symud o sir Gaerfyrddin i Fynyddislwyn, yr oedd Mr. Jones ac yntau i bregethu un nos Sabboth mewn amaethdy yn mhlwyf Llanddarog. Dechreuodd Mr. Harries yr oedfa, a phregethodd am tuag ugain munyd, mor felus a'r mêl, yna pregethodd Mr. Jones, ac wrth ganu ar y diwedd, torodd amryw o'r bobl allan i orfoleddu, ac aeth rhai gan angerdd eu teimlad i neidio. Yr oedd yno ddyn mawr iawn o gorff, yn sefyll yn agos i'r drws, ac yn ol yr hanes rhyw fath o bagan hollol ddigrefydd ydoedd, ond yr oedd Mr. Harries wedi swyno ei serchiadau. Wrth weled y bobl yn neidio yn lled drwsgl o amgylch Mr. Harries, ofnai y buasent yn sathru arno, ac am hyny ymwthiodd trwy y dorf gan agoryd ei freichiau mawrion am dano, rhuo fel tarw, a gwaeddi, "sefwch draw ddynion, rhag gwneyd niwed i'r un bach yma, ie, yr un bach anwyl." Un anwyl oedd Mr. Harries gan bawb, crefyddol a digrefydd, ffol a chall, ac y mae son am ei enw i'r dydd heddyw yn cynhyrfu rhyw deimladau o anwyldeb tuag ato yn ei hen wrandawyr a'i gyfeillion.
MOSES ELLIS, oedd fab i John a Mary Ellis. Ganwyd ef yn Bodfari, sir Ddinbych, Hydref 17eg, 1798. Bu i'w rieni wyth o blant, a Moses oedd ea trydydd mab. Yr oedd John Ellis a'i wraig yn bobl grefyddol iawn, ac yn ddisgynyddion henafiaid nodedig am eu duwioldeb. Bu John Ellis yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn am lawer o flynyddoedd, a chafodd fyw i weled pob un o'i blant yn proffesu crefydd, a phedwar o'i feibion yn pregethu yr efengyl. Pan yr oedd yn byw yn Bodfari, gosododd i fyny bwlpud yn ei dy, a byddai ef ei hun, ac ereill, yn pregethu yno yn gyson. Nid oedd gan un enwad Ymneillduol wasanaeth crefyddol yn mhentref Bodfari y pryd hwnw, ond y gwasanaeth a gadwai yr Annibynwyr yn nhy John Ellis. Pan oedd Moses tua 7 neu 8 mlwydd oed, symudodd ei rieni i Mostyn, lle yr oedd ei dad yn arolygwr ar y seiri perthynol i'r gwaith glo, a gadawyd ef yn nhy ei daid a'i nain yn Ninbych, er mwyn cael ychydig ysgol. Annedwydd iawn ydoedd yno o hiraeth am ei fam, o'r hon yr oedd yn anarferol o hoff, ac felly y tro cyntaf yr aeth hi i Ddinbych, mynodd ddychwelyd adref gyda hi. Yn ganlynol anfonwyd ef i'r gwaith glo gyda ei frodyr, ac yno, pan yr oedd tua thair ar ddeg oed, cafodd ei losgi yn arswydus gan y tân tanddaearol. Anffurfiodd y ddamwain hono ei wyneb yn fawr, ac effeithiodd ar ei gyfansoddiad, fel mai lled eiddil o ran nerth ac iechyd y bu trwy ei oes. Adroddwyd y ffeithiau rhyfeddol a ganlyn wrthym gan ei frawd, Mr. Edward Ellis, o berthynas iddo pan yr oedd yn llangc yn y gwaith glo:—Yr oedd un bore yn myned i'r gwaith fel arferol, gyda ei frawd Ellis, ond arosai yma ac acw ar y ffordd, ac amlygai anewyllysgarwch i fyned, fel y gorfu i'w frawd droi yn ol dair gwaith i'w gymhell i ddyfod yn mlaen. Trwy yr oediad, yr oeddynt tuag awr yn hwy nag arfer cyn cyrhaedd genau y pwll, ond erbyn iddynt fyned yno, cawsant fod y gwaith wedi tanio, a bod deg ar hugain o ddynion wedi cael eu llosgi i farwolaeth yno. Pe buasent yno ar yr amser arferol, buasent hwythau yn mysg y meirw. Yn mhen tair neu bedair blynedd ar ol hyny, pryd yr oedd tua thair ar ddeg oed, penderfynwyd ar ryw ddiwrnod nad oedd ef i fyned i'r gwaith y diwrnod hwnw, ond mai ei frawd Edward oedd i fyned yn ei le, ond mynai ef fyned am y barnai nas gallasai ei frawd wneyd y gwaith. Yn fuan wedi iddo fyned i lawr i'r pwll cymerodd tanchwa le yno, pryd y cafodd ef a dau eraill eu llosgi yn arswydus. Bu y ddau eraill feirw yn fuan, ond gwellhaodd ef yn mhen amser maith, er nid heb i'r ddamwain, fel y nodasom, adael effeithiau arno na ddilewyd byth mo honynt.
Ar ol iddo wellhau yr oedd yn rhy eiddil ac analluog i fyned mwyach i weithio i'r pwll glo, ac ni wyddai ei dad, yr hwn oedd yn lled isel ei amgylchiadau, pa beth i'w wneuthur o hono. Yn y cyfyngder hwnw, pan ddigwyddodd iddo fod yn Rhuthin, gofynwyd iddo gan foneddiges o'r dref hono, Pa beth oedd helynt ei fachgen ddarfu gael ei losgi yn y gwaith? Attebodd ei fod gartref, ond yn analluog i ddilyn unrhyw waith. "Wel," ebe y wraig dda, "ond i chwi ei anfon ef yma i'r ysgol at Mr. Evans (gweinidog yr Annibynwyr yn Rhuthin), myfi a'i cadwaf ef a bwyd a dillad, a dichon y gellir ei wneyd yn ddigon o ysgolhaig i enill ei fara." Derbyniodd y cynygiad yn ddiolchgar, ac anfonwyd ef yn ddioed i Ruthin. Yr oedd wedi bod am ychydig o amser ar ol y ddamwain mewn ysgol yn Nhreffynon, ac ar ol treulio blwyddyn yn ysgol Mr. Evans yn Rhuthin, cafodd ei osod yn athraw ysgol a gedwid yn y Pwllglas, gerllaw y dref hono, ar draul yr haelfrydig Mr. Jones o Gaer. Yr oedd erbyn hyn tua dwy ar bymtheg oed. Y flwyddyn cyn hyny yr oedd wedi cael ei dderbyn yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Rhuthin gan ei athraw, Mr. Evans. Gan fod ysgol rad Mr. Jones o Gaer yn un symudol, cafodd Mr. Ellis ei anfon yn mhen ychydig amser o'r Pwllglas i'r Wern, i agor ysgol yno. Yr oedd y symudiad hwn yn amgylchiad pwysig yn ei fywyd, oblegid iddo ei arwain i gysylltiad ag un o weinidogion rhagoraf y Dywysogaeth, yr enwog Williams o'r Wern. Ni bu yn hir yn y Wern cyn iddo gael ei anog i ddechreu pregethu.
Yr oedd y pryd hwnw tua deunaw mlwydd oed. Ar ol dechreu pregethu, glynodd gyda'r ysgol, yr hon a symudodd o'r Wern i'r Rhos, ac oddiyno i Bethel, gerllaw y Bala, ac oddiyno drachefn i Landrillo. Pan yr oedd yno, bu yn offerynol i ddechreu yr achos Annibynol yn y gymydogaeth hono. Efe ei hun oedd yr unig Annibynwr yn yr ardal. Dechreuodd bregethu yn y ty lle y cadwai yr ysgol. Yn mhen ychydig amser amlygodd gwraig o'r enw "Betty o'r Felin" ddymuniad am uno a'r Annibynwyr, ac yn mhen ychydig ar ei hol hi, daeth gwr ieuangc at Mr. Ellis i amlygu yr un dymuniad. Y gwr ieuangc hwnw oedd William Jones, wedi hyny gweinidog yr eglwysi yn Hawen a Glynarthen. Ychwanegwyd eraill atynt yn fuan. Pan yn ugain mlwydd oed, rhoddodd Mr. Ellis ofal yr ysgol i fyny, a derbyniwyd ef i'r athrofa yn Llanfyllin, yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal y Dr. George Lewis. Yr oedd ef yn fyfyriwr yn yr athrofa pan y symudwyd y sefydliad o Lanfyllin i'r Drefnewydd. Yn fuan ar ol ei dderbyniad i Lanfyllin, cymerodd drwydded i bregethu. Ystyrid trwyddedau ar dai at bregethu ynddynt, ac i'r personau fyddent yn pregethu, yr amser hwnw yn angenrheidiol, mewn amryw ardaloedd, er attal dynion gelynol i aflonyddu yr addoliadau. Person Eglwys, o'r enw David Hughes, oedd yr Ynad, gerbron yr hwn y bu Mr. Ellis yn cymeryd y llwon gofynedig, a dyddiad y drwydded yw Hydref 7fed, 1819. Wedi bod yn fyfyriwr diwyd yn yr athrofa am fwy na phum' mlynedd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nhalybont, Ceredigion, ac urddwyd ef yno Gorphenaf 7fed, 1824. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol yn yr urddiad, ac yn arwyddo tystysgrif i'r urddedig: John Roberts, Llanbrynmair; Edward Davies, Drefnewydd; William Griffiths, Caergybi; G. Griffiths, Ebenezer; William Jones, Rhydybont; J. Davies, Llanfair; William Hughes, Dinas; J. Ridge, Penygroes; W. Morris, Llanfyllin; W. Davies, Llangollen; Thomas Phillips, Neuaddlwyd; Hugh Lloyd, Towyn, ac Azariah Shadrach, Aberystwyth. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Nhalybont yn nodedig o dderbyniol, a pharhaodd yno yn barchus a rhyfeddol o lwyddianus hyd nes i ryw ysbryd drwg ddyfod i mewn i'r eglwys, mewn cysylltiad a therfysg eglwysig yn Machynlleth. Arweiniodd hyny Mr. Ellis i wneyd i fyny ei feddwl i ymadael a'r lle, er galar dwys i ganoedd o'r ardalwyr. Yn 1839, derbyniodd alwad oddi-wrth eglwys y Tynewydd, Mynyddislwyn, a symudodd yno. Bu ei weinidogaeth yn y Tynewydd yn rhyfeddol o dderbyniol a llwyddianus hyd derfyn ei oes. Parhaodd i bregethu gyda naws nefolaidd hyd o fewn tua mis i'w farwolaeth. Terfynodd ei yrfa mewn tangnefedd, Gorphenaf 2il, 1866, a chladdwyd ef yn mynwent y Tynewydd ar y chweched dydd o'r un mis, sef o fewn dwy flynedd a deugain, ond un diwrnod, i'r dydd yr urddwyd ef yn Nhalybont. Yr oedd tua deg ar hugain o weinidogion Ymneillduol, a dau offeiriad, yn ei angladd. Pregethwyd yn y capel gan T. Rees, Abertawy, a J. Mathews, Castellnedd, a thraddodwyd anerchiadau ar lan y bedd gan amryw weinidogion, ac yn eu plith gan Berson y plwyf. Bu Moses Ellis, fel ei Arglwydd, dros y rhan fwyaf o'i oes " yn wr gofidus a chynefin a dolur." Yn dair ar ddeg oed, fel y crybwyllwyd, llosgwyd ef yn arswydus yn y gwaith glo, a bu yn ddyoddefydd oddiwrth y ddamwain hono hyd derfyn ei oes. Tua deng mlynedd ar hugain cyn ei farwolaeth, syrthiodd oddiar ei anifail ac ysigodd ei fraich, a bu yn dyoddef oddiwrth hyny yn gyson, ac ar brydiau byddai ei boenau yn angerddol, nes i'r aelod dolurus gael ei thori ymaith tuag un mis ar bymtheg cyn ei farwolaeth. Gwellhaodd yn dda mewn ymddangosiad ar ol tori y fraich ymaith, ond yn mhen rhai misoedd trodd yr afiechyd oedd yn y fraich i mewn i'r corff, a rhoddodd derfyn buan ar ei fywyd.
Bu Mr. Ellis yn briod ddwy waith. Dynes ieuangc dduwiol iawn o ardal Llangeitho, ac aelod o eglwys Ebenezer, Llangybi, oedd ei wraig gyntaf. Priododd hi Gorphenaf 27ain, 1831, a chymerwyd hi oddiwrtho gan angau Chwefror 1af, 1833, ac yn mhen wyth awr a deugain ar ol y fam bu farw yr unig blentyn a adawsai ar ei hol. Claddwyd y fam a'r plentyn yr un dydd yn nghapel Talybont. Mai 21ain, 1849, priododd Mr. Ellis ei ail wraig, sef gweddw ei ragflaenor Mr. Harries, ac ynddi hi cafodd "ymgeledd gymhwys" yn holl ystyr yr ymadrodd. Rhodd Duw iddo ef oedd y wraig ragorol hon, ond cafodd y trallod o'i cholli fwy na dwy flynedd cyn ei farwolaeth ei hun. Cawsant un ferch, yr hon sydd yn awr heb dad na mam, ond yn cael ei hymgeleddu yn gysurus gan Dad yr amddifad.
Fel dyn, yr oedd Mr. Ellis yn hytrach yn bruddaidd a llwfr, ond mae yn debygol fod hyny yn codi yn fwy oddiar y cystudd parhaus yr oedd yn ddarostyngedig iddo, nag oddiar ddim cyfansoddiadol ynddo. Yr oedd Mrs. Ellis yn gydymaith nodedig o gyfaddas iddo, gan ei bod hi yn wastad yn siriol a bywiog ei hysbryd, gyferbyn a'i brudd-der a'i lwfrdra ef.
Fel Cristion, yr oedd yn un o'r dynion mwyaf nefolfrydig y cawsom erioed y fraint o fod yn eu cymdeithas. Pethau crefyddol a nefol yn wastad yr hoffai siarad am danynt. Yr oedd unrhyw ymddyddan a ymylai ar fod yn gellweirus a phechadurus bob amser yn boen iddo. Pan fyddai wrtho ei hun darllen llyfrau crefyddol, myfyrio, a gweddio fyddai ei holl waith, ac fel effaith o hyny yr oedd rhyw naws grefyddol arno yn mhob cymdeithas.
Fel pregethwr, yr oedd yn nodedig o afaelgar, melus, ac effeithiol. Nid oedd unrhyw fawredd yn ei bregethau fel cyfansoddiadau, nac yn ei ddull yntau o'u traddodi, ond yr oedd ynddynt ryw eneiniad nefol a orfodai gwrandawyr i'w teimlo. Anfynych iawn y clywsom ef yn pregethu heb doddi ei wrandawyr. Byddai bob amser yn myfyrio ei bregethau yn ofalus, ac yn eu hysgrifenu yn drefnus, fel y mae yn awr yn ei law ysgrifen dros ddwy fil o honynt; a chan mai yn y Saesoneg yr ysgrifenai hwynt gan amlaf, mae yn sicr, pe cyhoeddid hwynt, y byddent yn dderbyniol iawn gan filoedd o bregethwyr cynnorthwyol ar hyd a lled y deyrnas. Maent yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o'r pethau dienaid sydd yn myned dan yr enw Sketches and Skeletons of Sermons, ac yn cael cylchrediad dirfawr yn mysg y Saeson. Yn misoedd olaf ei fywyd yr oedd rhyw nefolrwydd goruwchddynol yn mhregethau Mr. Ellis. Yr oedd yn hawdd i'w wrandawyr ddeall ei fod yn addfedu yn gyflym i wlad well, a'i fod
"Yn dechreu profi eisoes
Beraroglau'r gwledydd draw.”
Terfynwn yr hanes byr yma am ein hanwyl frawd gyda chofnodiad o un peth nodedig a adroddodd wrthym amryw weithiau: Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo symud i Fynyddislwyn, pan ydoedd yn lletya yn nhy yr hen Gristion anwyl, Phillip Williams, breuddwydiodd un bore ei fod yn nghwmni Mr. Williams o'r Wern, a'u bod yn cerdded rhagddynt fraich yn mraich nes iddynt fyned yn mlaen at y palas prydferthaf a welsai erioed. Yr oedd rhodfeydd ardderchog o flaen y palas, a phan oeddynt yn dynesu at y drws, daeth dau was ardderchog eu gwisgoedd a'u hymddangosiad yn mlaen atynt, ac ymaflasant yn mreichiau Mr. Williams gan ei arwain yn mlaen, a phan oeddynt wrth y drws, agorodd gweision eraill oeddynt oddifewn y drws, ac aeth Mr. Williams rhag ei flaen i'r palas, ond dywedodd un o'r gweision wrth Mr. Ellis, "Nid wyt ti i gael dyfod i mewn yma heddyw." Ar hyny deffrodd. Pan ddaeth i lawr adroddodd ei freuddwyd wrth y teulu. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny cawsant y newydd fod Mr. Williams wedi marw ar y bore y breuddwydiasai Mr. Ellis, a chyn pen dwy awr ar ol y pryd yr ydoedd yn breuddwydio.[3]
***** Crybwyllasom enw HERBERT JENKINS yn yr hanes blaenorol. Gan ei fod yn enedigol o'r gymydogaeth hon, ac iddo gyfodi i enwogrwydd mawr fel gweinidog Annibynol, tybiwyd mai nid anmhriodol fyddai rhoddi ychydig o'i hanes yma. Cafodd ei eni yn rhywle yn y rhan isaf o blwyf Mynyddislwyn yn y flwyddyn 1721. Ymddenygys fod ei rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn amgylchiadau cysurus. Bu ef am ryw faint o amser yn yr ysgol yn Nghaerodor, dan ofal Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y Bedyddwyr. Yr ydym yn anhysbys o'r amser a'r lle yr ymunodd a chrefydd, ond tybiwn mai aelod gwreiddiol o eglwys Mr. Edmund Jones ydoedd. Ymddengys ei fod yn un o'r rhai cyntaf yn y parthau hyn a ymunodd a phlaid Mr. Howell Harries. Yr oedd wedi dechreu pregethu tua y flwyddyn 1740, pryd nad oedd dros 19eg oed; ac yn Nghymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid, yr hon a gynaliwyd yn y Watford, yn Ionawr, 1742, rhestrir ef yn mysg y cynghorwyr cyhoeddus. Gan ei fod yn medru pregethu yn yr iaith Saesonig, a'i fod yn ddyn ieuangc nodedig o ddoniol, anfonwyd am dano i Loegr mor fore a'r flwyddyn 1744, a byddai yn fynych yn pregethu yn lle Mr. Whitefield yn y Tabernacle, cyn ei fod yn bedair-ar-hugain oed. Bu am rai blynyddau yn cynnorthwyo mewn gwahanol fanau yn Lloegr, ac yn neillduol yn Lime Street, Llundain, hen eglwys yr enwog Dr. Goodwin. Yn 1749 cafodd ei urddo yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Maidstone, Kent, a bu yno yn llafurio gyda llwyddiant a phoblogrwydd annghyffredin am bedair blynedd ar hugain. Mae yn Bu farw yn gymharol o ieuangc Rhagfyr 11eg, 1772, yn 51 oed. anrhydedd i blwyf Mynyddislwyn fod y fath ddyn enwog wedi cael ei eni ynddo, ond nid yw yn anrhydedd i'r hen drigolion na buasai rhai o honynt yn cadw mwy o hanes am dano. Yr oedd Herbert Jenkins ag Edmund Jones yn gyfeillion mawr.[4]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Jones's History of Aberystruth, tudalen 142, 143.
- ↑ Rees's Nonconformity in Wales, tudalen 366. ,
- ↑ Yr ydym yn cydnabod ein rhwymau am lawer o'r ffeithiau pwysicaf yn yr hanes blaenorol i'r llythyrau cynwysfawr a dderbyniasom oddiwrth ein cyfeillion Mr. D. Seys Lewis, Mr. B. Mathews, a Mr. J. Mathews, Castellnedd.
- ↑ Timpson's Church History of Kent, tudalen 337