Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Penywaun
← Dock Street, Casnewydd | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Saron, Tredegar → |
PENYWAUN
Mae yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanfihangel Llantarnam, tua haner y ffordd o'r Casnewydd i Bontypool. Yr oedd Ymneillduwyr yn yr ardal hon beth bynag er dyddiau Siarl II. Fel y crybwyllasom yn hanes eglwys Heol-y-felin, Casnewydd, yr oedd ty Margaret Jones, yn mhlwyf Henllys, yn lled agos i Benywaun, wedi cael ei drwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr Annibynwyr yn 1672. Nis gwyddom pa un a barhaodd y gwasanaeth i gael ei gynal yn yr ardal o'r pryd hwnw hyd nes yr adeiladwyd capel Peny waun ai peidio. Yr oedd yma le agored i'r efengyl yn 1741, ac fel yr ymddengys, wasanaeth rheolaidd yn cael ei gadw.[1] Mewn apeliad at y cyhoedd am gymorth i ddwyn traul adeiladaeth y capel presenol, yr hwn a ysgrifenwyd yn 1818, Dywedir fel y canlyn, "Y mae cymdeithas fechan o Ymneillduwyr, o'r enwad Annibynol, wedi bod yn ymgynnull i addoli yn mhlwyf Llanfihangel Llantarnam yn hir cyn cof neb sydd yn awr yn fyw. Cyfarfyddent mewn anedd-dy o'r enw Penywaun. Ty bychan ydoedd, yr hwn a roddid at eu gwasanaeth gan y perchenogion o oes i oes er's rhai cenhedlaethau." Mae yn amlwg oddiwrth hyn fod yr achos hwn yn hen iawn, ond y mae enwau y gweinidogion fuont yn gofalu am dano yn yr oesau gynt yn gwbl anhysbys yn awr. Dywedir fod Mr. Thomas Walters, tra bu yn gweinidogaethu yn y New Inn, yn rhoddi rhan o'i wasanaeth i'r achos bychan yn Mhenywaun, a dywed rhai mai cangen o'r New Inn yw Penywaun, ond yr ydym ni yn awr yn cael ein gogwyddo i dybied fod y gangen yn henach na'r cyff. Dichon i Benywaun ryw bryd gael ei gymeryd dan ofal y New Inn, a thrwy hyn gael ei gyfrif yn gangen o'r eglwys hono, ond y mae pob sail i gredu fod yma achos cyn bod un yn y New Inn.
Nid ydym yn deall fod un gweinidog sefydlog wedi bod yma nes i'r diweddar Mr. David Davies ddyfod i'r ardal yn 1815. Agorodd ysgol yma a phregethai yn gyson i'r ddiadell fechan. Yr oedd Mr. Davies cyn hyn wedi bod tua blwyddyn yn cadw ysgol yn y New Inn, ac mae yn debygol yn golygu am gael ei urddo yno, ond o herwydd rhyw wrthwynebiad siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau, a phan yr oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i ymadael a'r ardal, bu tair o wragedd yn daer wrtho am ddyfod i Benywaun i gadw ysgol a phregethu. Addawent hwy ofalu am ei gynaliaeth, ac felly cydsyniodd a'u cais. Enwau y gwragedd da hyn oeddynt Mrs. Jenkins, o'r Siop; Mrs. Waters; o'r Ton, a Mrs. Morgans, Henllys. Wedi i Mr. Davies fod yn llafurio yno am ddwy flynedd, ymffurfiodd yr ychydig broffeswyr yn yr ardal yn eglwys Annibynol, a rhoddasant alwad iddo ef i ddyfod yn weinidog iddynt. Eu rhif oedd wyth, ond cyn pen dwy flwyddyn—yr oeddynt wedi cynyddu i 54. Mae yn debygol mai yn y New Inn yr oeddynt yn aelodau yn flaenorol. Urddwyd Mr. Davies Mai 22ain, 1817. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. R. Davies, Casnewydd; pregethodd Mr. D. Lewis, Aber, ar Natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urddweddi gan Dr. J. Lewis, Casnewydd; rhoddodd Mr. D. Peter, Caerfyrddin, y siars i'r gweinidog, oddiwrth Mat. xxiv. 45, 46; a Mr. G. Hughes, Groeswen, y siars i'r eglwys, oddiwrth 1 Tim. v. 17. Pregethwyd yn yr hwyr gan Mr. D. Thomas, Penmain, a Dr. Lewis.
Erbyn hyn yr oedd yr anedd-dy wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, a bu raid myned ar unwaith i adeiladu capel. Rhoddwyd y ty, yn yr hwn yr addolid, a darn helaeth o dir claddu gydag ef, i fod yn lle i'r capel, gan Mrs. Elizabeth Waters, o'r Ton, a'i mab Mr. William Waters, ac i fod yn eiddo i'r enwad Annibynol dros byth. Dyddiad y weithred yw Tachwedd 1818, ac ar y 12fed o'r mis hwnw yr agorwyd y capel newydd, yr hwn a gostiodd 200p. Gweinyddwyd ar yr agoriad gan Mr. Thomas, Penmain; Mr. Jones, Llanharan; Dr. Lewis, Casnewydd; Mr. Jones, Pontypool; Mr. Lewis, Aber; a Mr. Evans, Ynysgau. Bu Mr. Davies yn llafurio yma gyda derbyniad a mesur helaeth o lwyddiant hyd ei farwolaeth yn Awst 1840.
Yn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Methusalem Davies, yr hwn oedd wedi bod yn weinidog mewn amryw fanau cyn dyfod yma, megys Llechryd, Abergwili, Ceri, Maldwyn, &c. Ni bu ef yma fawr dros flwyddyn cyn i ryw annghydfod gyfodi yn yr eglwys. Ymadawodd ef a nifer o'r aelodau, ac adeiladasant gapel o'r enw Elim yn y gymydogaeth. Ni fu Mr. Davies hir yno drachefn, cyn iddo gael ar ei feddwl i droi at y Bedyddwyr. Wedi i'r eglwys yn Mhenywaun, ar ol ymadawiad Mr. Davies, fod yn agos i dair blynedd heb un gweinidog, yn niwedd y flwyddyn 1845, rhoddasant alwad unfrydol i Mr. John M. Bowen, gwr ieuangc genedigol o ardal Gwynfau, sir Gaerfyrddin, a'r hwn oedd ar y pryd hwnw yn fyfyriwr yn ysgol Mr. Powell, o Hanover. Urddwyd ef Mawrth 11eg a'r 12fed, 1846, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid Jones, Sirhowy; Rowlands a Daniel, Pontypool; Powell, Hanover; Griffiths, Blaenafon; Ellis, Mynyddislwyn; Mathews, Casnewydd, ac eraill. Rhif yr aelodau pan urddwyd Mr. Bowen, oedd 24. Bu yma yn llafurio gyda mesur helaeth o lwyddiant am bedair blynedd. Rhif yr aelodau pan yr ymadawodd oedd 68. Yn 1850, symudodd Mr. Bowen o Benywaun i Benydarren, Merthyr Tydfil, lle y mae yn bresenol.
Oddiar ymadawiad Mr. Bowen yn 1850, hyd 1867, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog. Yn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, myfyriwr o goleg Aberhonddu, ac urddwyd ef ar y 4ydd a'r 5ed o Fedi, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Meistriaid Thomas, Ystradfellte; Williams a Jones, Hirwaun; Darnton ac Oliver, Casnewydd; Jenkins, Pontypool; Davies, New Inn; a Bowen, Penydarren. Mae Mr. Morgan yn llafurio yma hyd yn bresenol, ac arwyddion o lwyddiant ar ei lafur.
Mae yr eglwys hon, fel pob un o'r eglwysi ar gyffiniau y Cymry a'r Saeson, wedi dyoddef mesur mawr o anfantais oddiwrth felldith Babel cymysgedd ieithoedd, er's mwy na deng mlynedd ar hugain. Mae y gwasanaeth yn awr yn cael ei ddwyn yn mlaen agos, os nad yn gyfan gwbl, yn yr iaith Saesonaeg.
Ni fu eglwys Penywaun ar unrhyw gyfnod o'i hanes yn lluosog iawn. Os bu rhif yr aelodau ar rai adegau yn gant, ni buont un amser uwchlaw hyny; ac wedi cychwyniad yr achos yn Elim, a ffurfiad eglwys Annibynol yn Nghwmbran, cyfyngwyd yn fawr ar derfynau yr achos yn Mhenywaun. Etto, gan fod poblogaeth yr ardal wedi lluosogi yn ddirfawr yn y pum' mlynedd ar hugain diweddaf, a'u bod yn debyg o luosogi yn fawr etto mewn blynyddau dyfodol, mae yma ddigon o faes i bob un o'r tri achos; ac y mae y rhwystr a barai gwrthdarawiad y ddwy iaith agos wedi llwyr ddiflanu, trwy fod yr iaith Saesonaeg bellach wedi myned yn unig iaith yr ardal. Hyderwn y bydd undeb mewnol yn ffynu yu mhob un o'r eglwysi yn yr ardal hon, ac y cydweithredant yn egniol nes ennill yr holl wlad at y Gwaredwr.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:
Edmund G. Williams. Dechreuodd bregethu yn 1832. Pan osodwyd i fyny yr athrofa yn Aberhonddu, yr oedd ef yn mysg y rhai cyntaf a dderbyniwyd yno. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, urddwyd ef yn y Sketty, yn 1843. Yn mhen ychydig flynyddau, cafodd ar ei feddwl i ymuno a'r Eglwys Sefydledig, ac y mae er's blynyddau bellach yn gaplan y carchar-dy yn Abertawy. Mae Mr. Williams, er iddo gefnu ar Ymneillduaeth, wedi ymddwyn yn anrhydeddus a gonest at y sefydliad lle y derbyniodd ei addysg i'r weinidogaeth, trwy danysgrifio yn flynyddol at ei dreuliau.
John Lewis. Dechreuodd yntau bregethu yr un amser a Mr. Williams. Yn mhen rhai blynyddau cafodd ei urddo yn Maesllech, ac oddiar ei ymadawiad oddiyno ni bu yn y weinidogaeth mewn unrhyw le.
Thomas Howells. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1842. Ar ol bod am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol, yn 1861, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Trudoxhill, gerllaw Warminster, ac yno y mae hyd yn bresenol.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn Ffynonygog, yn mhlwyf Llanfihangel, Rhosycorn, sir Gaerfyrddin, Medi 14eg, 1791. Yr oedd ei rieni yn aelodau ffyddlon o'r eglwys Annibynol yn y Gwernogle, a dygasant eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dafydd oedd yr ieuengaf o'r plant. Pan yr oedd tua phymtheg oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Gwernogle. Yn mhen ychydig amser wedi hyny anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod tua dwy flynedd yn pregethu yn achlysurol, aeth i Gaerfyrddin, i ysgol Ramadegol Mr. Peter, ac wedi bod yno tua dwy flynedd, derbyniwyd ef i'r athrofa. Ar orpheniad ei amser yno cafodd anogaeth i fyned i'r New Inn, Mynwy, i gadw ysgol, ac i gynnorthwyo Mr. Thomas Walters yn y weinidogaeth, ac mewn bwriad i fod yn ganlyniedydd iddo. Ond rhywfodd methwyd a chyduno ar hyny, ac fel y crybwyllasom, pan oedd Mr. Davies ar fyned i ymadael o'r ardal, anogwyd ef gan dair o wragedd da eu gair i ymsefydlu yn ardal Penywaun. Yno, fel y gwelsom, y treuliodd weddill ei oes yn ddefnyddiol iawn. Yn 1822, ymunodd mewn priodas a Miss Amy Waters o'r Ton, o'r hon y cafodd dri o blant, ond buont oll feirw ar eu genedigaeth. Bu Mrs. Davies dros amryw o flynyddau olaf ei hoes yn wael iawn ei hiechyd, a bu farw wedi hir nychdod, yn Medi 1838. Yn fuan wedi hyny dechreuodd Mr. Davies ei hun waelu yn ei iechyd, a bu farw Awst 6ed, 1840, yn 49 oed. Ar y 10fed o'r un mis, claddwyd ef wrth gapel Penywaun, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid W. Gethin, Caerlleon; T. Gillman, Casnewydd; E. Rowlands, Pontypool; ac M. Ellis, Mynyddislwyn.
Yr oedd Mr. Davies yn ddyn lled fawr o ran corff, yn gymedrol dew, ac yn lluniaidd iawn. Yr oedd yn ddyn nodedig o fwyn a charedig, ac o angenrheidrwydd yn cael ei barchu a'i anwylo gan bawb o'i gydnabod. Yr oedd ei ymddygiad fel Cristion a gweinidog yn hollol deilwng o'i broffes. Fel pregethwr yr oedd yn felus, ac adeiladol, ac y mae yn sicr y buasai yn boblogaidd iawn, pe buasai ei amgylchiadau yn caniatau iddo fyned yn amlach i gyfarfodydd cyhoeddus. Bu cystudd ei briod, am lawer o flynyddau, a gofal yr ysgol, yr hon a gadwai trwy yr oll o'i fywyd gweinidogaethol, yn rhwystrau iddo fyned oddi cartref ond anfynych iawn.
Yr oedd yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o breswylwyr y gymydogaeth. Edrychid i fyny ato gan bawb, crefyddol a digrefydd. Ennillodd iddo ei hun radd dda fel ysgolfeistr. Iddo ef yr oedd y rhan fwyaf o blant, a dynion ieuaingc, a chanol oed y gymydogaeth yn ddyledus am eu dysgeidiaeth. Os bu cadw ysgol yn rhwystr iddo gyrhaedd llawer o gyhoeddusrwydd ac enwogrwydd fel pregethwr poblogaidd, bu yn foddion i ychwanegu peth dirfawr at ei ddylanwad yn ei ardal ei hun. Mae amryw o weinidogion Lloegr a Chymru, sydd yn awr yn fyw, yn ddyledus iddo ef am eu haddysg. Yr oedd "Athrofa Penywaun" am y deng mlynedd diweddaf o fywyd Mr. Davies, yn sefydliad enwadol; ac o herwydd fod y Saesonaeg wedi myned yn iaith gyffredin yr ardal, yr oedd y lle yn nodedig o fanteisiol i bregethwyr ieuaingc a ddygesid i fyny mewn ardaloedd hollol Gymreigaidd. Ni ddarfu i nemawr weinidog yn ei oes wasanaethu ei genhedlaeth yn well na Davies, Penywaun.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Beirniad cyf. ii. tudalen 316.