Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Saron, Tredegar

Oddi ar Wicidestun
Penywaun Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Bethlehem, Blaenafon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tredegar
ar Wicipedia




SARON, TREDEGAR.

Yn y flwyddyn 1800 y cymerwyd gweithred ar y tir gan gwmni Tredegar, er cyfodi gweithiau haiarn yn y lle. Nid oedd ond ychydig amaethdai henafol y pryd hwnw yn y gymydogaeth, a dim ond un ty bychan ar y fan y saif y dref, yr hon sydd yn awr yn cynwys tua deng mil o drigolion. Yn y flwyddyn 1802, cychwynodd y gwaith, ond yn araf iawn. Ni bu nemawr o lewyrch arno hyd y flwyddyn 1804. Daeth yno amryw bobl y pryd hwnw i gyfaneddu o wahanol siroedd Cymru, ond yn benaf o sir Gaerfyrddin. "Gwyr y wlad fawr" y galwai trigolion gwreiddiol yr ardal bobl sir Gaerfyrddin, ac yr oeddynt i fesur yn rhagfarnllyd yn eu herbyn.

Eri amryw bobl ddieithr sefydlu yma y pryd hwnw, nid ymddengys fod un Annibynwr yn eu mysg. Yr oedd ychydig o breswylwyr cyntefig y gymydogaeth yn Fedyddwyr, a chanddynt addoldy bychan ar yr ochr ddwyreiniol i'r afon, yn ymyl y brif ffordd i Gwm Ebbwy. Hwn oedd yr unig addoldy yn yr holl ardal. Gyda chynydd y boblogaeth, daeth yma ychydig bersonau o olygiadau Annibynol, a thua y flwyddyn 1807, dechreuodd Mr. Thomas, Penmain, ddyfod i bregethu atynt. Yn y flwyddyn 1808, y gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd gyntaf yn y lle gan yr Annibynwyr. Bedyddiodd Mr. Thomas dri baban yma yr un dydd, ac y mae dau o honynt yn awr yn fyw, un o ba rai yw Mr. Nicholas Rees. Byddai yr ychydig Annibynwyr a drigianent yma yn myned i gymundeb i Benmain, "Dy Solomon," yn y Blaenau, ac elai rhai o honynt weithiau cyn belled a'r Groeswen. Ond Ty Solomon yn benaf oedd eu cartref. Yr oedd Mr. Thomas, Penmain, yn gweinyddu Swper yr Arglwydd yno yn rheolaidd bob mis. Yno y derbyniodd Mr. Thomas y ddau gyntaf o bobl Tredegar yn aelodau eglwysig. Bernir i dy Edmund James, yn Nhredegar, gael ei drwyddedu at gynal gwasanaeth crefyddol, yn y flwyddyn 1809, ac mai yn y ty hwnw y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd gyntaf tua yr amser hwnw. Yr aelodau a gyfansoddent y gymdeithas fechan oeddynt, Daniel Rees, Nicholas Rees, a William Hoskin, a'u gwragedd; Edmund James, Daniel Thomas (tad Mr. Isaac Thomas, Towyn, Meirionydd), a Sarah Watkins, ac o bosibl rai eraill nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Yr oedd yn mysg yr ychydig frodyr hyn rai lled ymchwilgar i byngciau dyfnion duwinyddiaeth, a byddai yn fynych ddadleuon brwd, ond caredig rhyngddynt a'u gilydd ar Benarglwyddiaeth, gwaith yr Ysbryd, &c. Arferent fyned yn fintai tua thy Solomon, a thy Daniel a'r Caban Gwyn, ac ar ol y gwasanaeth, eisteddent yn fynych yn ymyl ffynon i fwyta eu bara a chaws ac yfed dwfr, ac wrth wneuthur hyny ailgnoent eu cil ar y gwirioneddau oeddynt wedi wrandaw. O'r flwyddyn 1809, ni buont yn myned nemawr oddicartref i addoli, am fod gwasanaeth cyson wedi cael ei osod i fyny yn eu plith eu hunain. Tua dwy flynedd cyn adeiladu y capel, dechreuwyd ysgol Sabbothol, yr hon a gynhelid yn nhy William Hoskins. Yn y bore y cynhelid yr ysgol, yna cyfeillach grefyddol am un-ar-ddeg o'r gloch, yn nhy Nicholas Rees, a phregeth neu gyfarfod gweddi yn y prydnhawn, yn nhy Daniel Rowland, Nantybwch, neu dy Nicholas Rees, ond gan amlaf yn yr olaf. O'r ty hwnw y symudwyd yr arch i Saron yn y flwyddyn 1819. Agorwyd y capel newydd Mai 5ed a'r 6ed, 1819. Dechreuwyd yr addoliad y dydd cyntaf, gan Mr. Thomas, Llanharan, a phregethodd Mr. B. Moses, oddiwrth Zeph. iii. 17, a Mr. D. Davies, Llangattwg oddiwrth Deut. vi. 3. Yr ail ddydd am 10, dechreuwyd gan Mr. Methusalem Jones, Bethesda, a phregethodd Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Salm. xxiii. 3, 4; Mr. T. B. Evans, Ynysgau, yn Saesonaeg, oddi-wrth Ioan xiv. 2; a Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth Ioan vi. 37. Am 3, gweddiodd Mr. B. Moses, a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, oddiwrth Ioan v. 25, a Mr. S. Evans, Zoar, oddiwrth Eph. ii. 7, yn Gymraeg ac yn Saesonaeg. Cydunodd y gweinidogion i gymeradwyo yr achos ieuangc hwn i'r eglwysi fel un teilwng o gymhorth i ddwyn traul yr adeiladaeth. Yr oedd pregethu wedi bod yn y capel newydd cyn dydd yr agoriad, a dywedir mai Mr. D. Stephenson, Rhymni, a draddododd y bregeth gyntaf ynddo.. Wedi cael lle cyfleus i addoli, aeth yr achos rhagddo yn ddymunol.

Cyn pen dwy flynedd wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Morris, myfyriwr yn athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef Chwefror 22ain, 1821. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn: Y nos flaenorol pregethwyd gan Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Heb. ii. 3, a Mr. J. Jones, Talgarth, oddiwrth Mat. v. 18. Am 10 yr ail ddydd, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Rhuf. vi. 5; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Thomas Powell, Aberhonddu; Pregethwyd y Siars i'r gweinidog gan Mr. E. Jones, Pontypool, oddiwrth Ezec. ii. 17; yna pregethodd Mr. T. B. Evans, Ynysgau, yn Saesonaeg, oddiwrth Heb. xii. 12; a Mr. G. Hughes, Groeswen, y Siars i'r eglwys, oddiwrth 1 Thess. v. 12, 13. Am 3 yn y prydnawn, cynhaliwyd y gwasanaeth yn nghapel y Bedyddwyr, pryd y pregethodd Mr. E. Jones, oddiwrth 2 Tim. ii. 20, 21, a Mr. J. Jones, oddiwrth Act. v. 31. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan Mr. D. Thomas, Nebo, Mr. E. Williams, Caerphili, &c. Yr oedd Mr. Morris yn anwyl iawn gan ei bobl, ac yn boblogaidd fel pregethwr. Ychwanegwyd tua chant o aelodau at yr Eglwys yn y pum' mlynedd y bu yn gweinidogaethu yma. Torwyd ef i lawr gan angau yn mlodau ei ddyddiau, yn Rhagfyr, 1825, er mawr golled a galar i bobl ei ofal a phawb o'i gydnabod.

Yn mhen tua blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Morris, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Jones, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar yr 28ain a'r 29ain o Fawrth, 1827. Dechreuwyd yr addoliad y nos gyntaf gan Mr. W. Phillips, Blaenafon, a phregethodd Mr. E. Price, Grosmont, a Mr. D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Rhuf. viii. 28; a Jer. viii. 22. Dydd Iau am 10, dechreuodd Mr. M. Jones, Bethesda, a phregethwyd a'r natur eglwys gan Mr. T. B. Evans, Ynysgau, oddiwrth Mat. xvi. 18. Holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Hanover; gweddiwyd yr urdd weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth, a phregethodd Dr. J. Lewis, Casnewydd, y Siars i'r gweinidog, a Mr. David Lewis, Aber, y Siars i'r eglwys, oddiwrth Heb. xiii. 17; Phil. ii. 29. Yn y prydnawn, dechreuwyd gan Mr. Joshua Thomas, Penmain, a phregethodd Mr. T. Evans, Aberhonddu, a Mr. D. Davies, New Inn. Pregethwyd drachefn yn yr hwyr gan Mr. E. James, Caerodor, a Mr. D. Stephenson, Nantyglo.

Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Saron am yn agos i ddeunaw mlynedd, ac yn nhymor ei weinidogaeth, helaethodd yr achos ei derfynau yn fawr. Ail adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1828. Nis gwyddom faint y capel cyntaf, ond yr oedd yr ail yn addoldy prydferth, ac yn cynwys tua 650 o eisteddleoedd. Yn 1830, adeiladwyd capel bychan ar y Trifil, at wasanaeth yr aelodau a gyfaneddent yn y pentref hwnw, ac y mae yno Eglwys wedi ei ffurfio er's amryw flynyddau bellach. Yn 1837, adeiladwyd Ebenezer, Sirhowy, a chorffolwyd yno eglwys gref yn uniongyrchol wedi agoriad y capel. Yn 1840, aeth cangen arall allan o Saron, ac adeiladasant gapel Adulam. Er ymadawiad y canghenau hyn oll, parhaodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn yr hen gapel yn gryf a lluosog. Yn nechreu y flwyddyn 1845, symudodd Mr. Jones o Dredegar i Gaerfyrddin, i gymeryd gofal yr eglwys yn Heol Awst, yn y dref hono.

Yn mhen ychydig ar ol ymadawiad Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan Jones, o goleg Aberhonddu. Urddwyd ef Gorphenaf 31ain, 1845. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. M. Jones, Farteg; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Jones, Sirhowy; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. M. Ellis, Mynyddislwyn; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Stephenson, Nanyglo; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw clasurol coleg Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Pregethwyd y dydd blaenorol, ac ar brydnawn a hwyr dydd yr urddiad, gan y Meistriaid W. Edwards, Aberdare; T. Pierce, Liverpool; E. Roberts, Cwmafon; E. Griffiths, Abertawy; J. Hughes, Dowlais; T. Griffiths, Blaenafon, &c. Ychydig iawn o, amser gafodd Mr. Jones i gyflawni ei weinidogaeth yn Nhredegar. Gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau fel y bu raid iddo yn niwedd y flwyddyn 1847, roddi y weinidogaeth i fyny. Gwerthfawrogai yr eglwys ei gweinidog yn fawr, a chyda theimladau gofidus iawn y gollyngodd ei gafael ynddo, fel y dengys yr hyn a ganlyn, a gyhoeddwyd yn y Diwygiwr, am Chwefror 1848: "Gyda yr ewyllysgarwch mwyaf ar y naill law, etto, gyda y gofid dwysaf ar y llall, yr ydym yn dymuno amlygu ein parodrwydd dros eglwys Annibynol Saron, Tredegar, i ddwyn y dystiolaeth gryfaf a gwresocaf am gymmeriad gwir deilwng ein diweddar weinidog, y Parch. Evan Jones, yr hwn, nes ei attal gan afiechyd, a lafuriodd yn ein plith yn ffyddlon, diwyd, a derbyniol. Gofidus iawn genym ni, a chan yr eglwys oll, fod Mr. Jones yn cael ei orfodi gan sefyllfa ei iechyd, ac yn cael ei gyfarwyddo gan y meddygon goreu, a'i gynghori gan ei gyfeillion mwyaf pwyllog, i roddi heibio y weinidogaeth, i'r dyben o symud i hinsawdd dynerach, ac ymwneyd a gwaith mwy cyfaddas i'w gyfansoddiad. Mae ein gofid a'n siomedigaeth yn fawr. Yr ydym yn colli yr hwn a garem yn wresog, ac a'n carai yn gywir. Buasai yn hyfryd genym gael ei bresenoldeb a'i wasanaeth, a chyfle i ddangos ein hymlyniad wrtho hyd ei fedd; ond gan fod yr Hwn a'i rhoddodd i ni yn ei gymeryd ymaith, dymunem sefyll yn dystion o'i gymhwysder a'i ragoroldeb fel gweinidog y Gairei ddilyn a'n gweddiau, a'i gyflwyno i ofal Ceidwad Israel, yr hwn ni huna ac ni chwsg.

Ydym, dros yr Eglwys,

LLEWELLYN WILLIAMS; WILLIAM DAVIES; JONATHAN JONES; JOHN THOMAS; JOHN PHILLIPS; EVAN PRICE; ROBERT ROBERTS; WILLIAM JONES. —Diaconiaid."

Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Jones, sef nechreu y flwyddyn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Evans, Llanidloes. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma am bum' mlynedd ac ychydig fisoedd. Yn Mai 1854, symudodd oddi yma i gymeryd gofal yr eglwys yn Penarth, Maldwyn, lle y mae yn bresenol. Nis gwyddom am ddim nodedig a ddigwyddodd yn hanes yr eglwys yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, amgen nag i tua 250 gael eu hychwanegu at eu haelodau yn y flwyddyn 1849; blwyddyn "diwygiad y cholera," fel y gelwid ef. Aeth llawer o'r lluoedd a ychwanegwyd at yr eglwysi yn yr adeg sobr hono yn ol i'w hen ffyrdd pan dawelodd yr ystorm, ond glynodd canoedd yn ffyddlon, ac y mae llawer o honynt yn fyw ac yn grefyddwyr rhagorol hyd y dydd hwn.

Wedi i'r eglwys fod tua blwyddyn a haner heb weinidog sefydlog ar ol ymadawiad Mr. Evans, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Hughes, B.A., yr hwn a fuasai yn weinidog yn Llansantsior, sir Ddinbych, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf o Dachwedd 1855, ac yma y mae yn barchus a defnyddiol hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1858, tynwyd y capel i lawr, a dechreuwyd adeiladu un llawer helaethach a harddach, dan arolygiaeth Mr. Thomas, Glandwr. Agorwyd ef Mai 15fed a'r 16eg, 1859. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan y Meistriaid T. Jeffreys, Penycae; H. Jones, Caerfyrddin; T. Rees, Cendl; E. Hughes, Penmain; T. Thomas, Glandwr; W. P. Davies, Rymni; N. Stephens, Sirhowy; W. Williams, Tredegar, &c. Casglwyd yn y gwahanol oedfaon at draul yr adeiladaeth 167p. Is. 3c. Maint y capel prydferth hwn yw 64 troedfedd wrth 41 troedfedd a chwe' modfedd. Cynwysa 8 o eisteddleoedd, a chostiodd 1,500p., heblaw gwerth defnyddiau yr h gapel. Mae y ddyled a'i llogau yn awr wedi dyfod i lawr i 300p. trw lafur cyson a didwrw yr eglwys a'r gynnulleidfa. Yn ystod y mudiadau canmlwyddol talwyd 771p. o'r ddyled ar y capel, a rhoddwyd 20p. at golegdy newydd Aberhonddu.

Mae Mr. Hughes wedi bod bellach yn gweinidogaethu yn Saron am yn agos bymtheg mlynedd, a phob peth wedi myned yn mlaen trwy yr holl dymor yn hynod gysurus. Er fod yma lawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle trwy farwolaethau, ymfudiadau, &c., mae yr achos yma yn bresenol yn fwy llewyrchus a chryf o lawer nag oedd bymtheg mlynedd yn ol. Gan fod y glo a'r mwn haiarn yn Mlaenycwm agos wedi cael eu gweithio allan, mae gweithiau tanddaearol yn cael eu hagoryd yn is i lawr yn y dyffryn, a'r boblogaeth yn nesu i lawr yn raddol ar ol y gweithiau, mae pobl Saron wedi sefydlu cangen o ysgol Sabbothol mewn lle a elwir Troedrhiw'rgwair, tua milldir a haner isław Tredegar, lle mae amryw o'r aelodau yn byw. Heblaw yr ysgol, cynelir yno gyfarfodydd gweddio, cyfeillachau crefyddol, &c., ac er nad oes yno etto un ty addoliad, mae yn debygol yr adeiladir un, ac y bydd yno achos blodeuog yn mhen ychydig flynyddau.

Mae amryw ddynion rhagorol wedi bod yn dal cysylltiad ag eglwys Saron, o bryd i bryd, oddiar gychwyniad yr achos hyd yn bresenol. Ychydig o eglwysi sydd wedi cael eu breintio ag olyniad o ddiaconiaid rhagorach am eu galluoedd, eu dylanwad, a'u defnyddioldeb. Mae yr ysgolion Sabbothol a cherddorol hefyd wedi cael eu dwyn yn mlaen yma mewn modd nodedig o drefnus ac effeithiol.

Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:

Thomas Jones. Ganwyd ef yn Llwynadda, yn agos i Dalybont, Ceredigion, tua y flwyddyn 1790. Pan ddechreuwyd yr achos yn Nhalybont, yn benaf trwy lafur Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yr oedd gelyniaeth ffyrnig yn yr ardal tuag at Ymneillduaeth, ac yr oedd yr hen bobl a'r rhai canol oed wrth siarad yn ddirmygus am y pregethwyr, wedi llenwi meddyliau y plant a'r ieuengetyd a rhagfarn tuag atynt. Yn mysg eraill yr oedd Thomas Jones a'i frawd John, yn elynol iawn. Ryw ddiwrnod cytunasant i lenwi eu llogellau o geryg i'w taflu at y Dr. Phillips, pan ddeuai ef yno i bregethu. Yr oedd y Dr. i ddyfod yno yn mhen diwrnod neu ddau ar ol iddynt benderfynu hyny. Yr amser hwnw yr oedd Thomas yn was yn y Gogerddan Arms, yn mhentref Talybont, ac yno y disgynai y pregethwyr a ddeuent i'r lle. Pan ddaeth y Dr. at y drws galwodd y gwas i gymeryd ei geffyl i'r ystabl, ac wrth ei fod yn disgyn estynodd swllt iddo, a dywedodd wrtho, "Da machgen i, rho di ddigon o wair i'r ceffyl." Cyn hyny byddai y llangc drygionus o elyniaeth at y pregethwyr yn tynu ymaith y gwair a roddasai o flaen eu hanifeiliaid cyn gynted ag y cawsai gyfle. Yr oedd y Dr. wedi dyfod i ddeall hyny, a thyna y rheswm iddo roddi swllt iddo. Wedi iddo ef ei hun gael ychydig ymborth, aeth i'r ystabl i weled y ceffyl, ac yno yr oedd yr anifail a digon o wair o'i flaen, a'r gwas wedi cael ei dyneru gan y swllt, yn ymroi ar ei oreu i'w lanhau. "Dyna machgen i," ebe y Dr., "paid gofalu am ei lanhau gan fod ganddo ddigon o wair o'i flaen. A ddeui di yn awr gyda mi i'r bregeth?" Ar ol ystyried am funyd, dywedodd, "Deuaf fi." Ac aeth yn y fan. Wrth fyned trwy y pentref ar ol y pregethwr, cyfarfyddodd a'i frawd John, yr hwn oedd wedi llenwi ei logellau o geryg. Ond dywedodd Thomas wrtho, "Rhaid i ni beidio gwneyd dim drwg i'r dyn hwn; dyn iawn yw efe, y mae wedi rhoddi swllt i mi, ac yr wyf fi yn myned i'w wrandaw, tyred dithau gyda mi." Aethant ill dau, a gafaelodd y bregeth yn achubol yn eu calonau, a buont yn grefyddwyr enwog hyd derfyn eu hoes. Yn fuan ar ol ymuno a chrefydd aeth Thomas Jones i weithio i Dredegar, ac arweiniodd Rhagluniaeth ef i letya i dy Nicholas Rees, un o'r ychydig broffeswyr oedd yno. Yn 1810, anogwyd ef gan y brodyr yno i ddechreu pregethu, ac yn fuan wedi hyny aeth i'r ysgol i'r Neuaddlwyd, ac oddiyno yn 1813 i'r athrofa i Lanfyllin. Wedi gorphen ei amser yno, derbyniwyd ef fel cenhadwr gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Anfonwyd ef i athrofa Dr. Bogue yn Gosport, ac wedi ei addysgu yno cafodd ei urddo yn yr Amwythig Chwefror 28ain, 1820, i fyned yn genhadwr i Tahiti. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Mr. Francis, Ludlow; Dr. Raffles, Liverpool; Mr. Weaver, Amwythig; Mr. James, Birmingham; a Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd. Hwyliodd o Lundain ar fwrdd y Tuscan ar ei fordaith i Tahiti Mai 5ed, 1820. Bu yno am rai blynyddau yn llafurus a llwyddianus iawn. Cyfansoddodd Eiriadur Tahitaidd, a chyfieithodd ranau o'r Ysgrythyrau i'r iaith hono. Dywedir iddo ar ol marwolaeth ei wraig fyned yn llwfr yn ei ysbryd, a rhoddi ei waith fel cenhadwr i fyny. Symudodd wedi hyny i America, lle y bu farw. Nid ydym wedi gallu cael allan amser ei farwolaeth.

John Daniel, oedd wr ieuangc gobeithiol iawn a ddechreuodd bregethu yma tua 1832, ond bu farw cyn iddo gael amser i arfer fawr ar ei ddoniau. Mae y rhai a'i hadwaenai yn siarad yn uchel iawn am ragoroldeb ei gymmeriad.

Lewis Lewis. Nis gwyddom yn gywir pa flwyddyn y dechreuodd ef. Yr oedd wedi cael ei dderbyn fel ymgeisydd i goleg Aberhonddu, ond cyn iddo fyned yno dechreuodd ei iechyd waelu, a bu farw.

Evan Lewis, B.A. Brawd y rhag-grybwylledig Lewis Lewis ydoedd ef. Dechreuodd bregethu yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evan Jones. Derbyniwyd ef i athrofa Airedale, ac ennillodd iddo ei hun yno radd dda fel myfyriwr diwyd. Graddiodd yn B.A. yn mhrif athrofa Llundain yn 1852, ac urddwyd ef yn Bartonon Humber yn 1853. Yn 1858, symudodd i Rothwell a bu yno bum' mlynedd. Symudodd i Accrington yn 1863, ac oddiyno i Preston. Yn 1868, symudodd i Offord Road, Llundain, a bu farw Chwefror 19eg, 1869, ar ol tua mis o gystudd, yn 44 oed. Yr oedd yn ddyn gweithgar, dysgedig, a galluog iawn. Ysgrifenodd amryw lyfrau bychain a thraethodau yn yr iaith Saesonaeg, y rhai a brofant ei ysgolheigdod a'i weithgarwch diatal.

Richard Lewis. Brawd y ddau flaenorol. Addysgwyd yntau yn athrofa Airedale, a chafodd ei urddo yn Lowestoft, Suffolk, yn 1860. Y mae wedi symud yn ddiweddar i Upper Norwood, Llundain.

Isaac Davies. Wedi gorphen ei amser yn athrofa Airedale, urddwyd ef yn Towcaster, sir Northampton, yn 1861, ac yno y mae hyd yn bresenol.

Rowland Rowlands. Yn mhen ychydig ar ol iddo ddechreu pregethu derbyniwyd ef yn fyfyriwri athrofa Caerfyrddin. Ar orpheniad ei amser yno derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bethel, Llansamlet, lle yr urddwyd ef yn y flwyddyn 1867, ac y mae yn argoeli bod yn ddefnyddiol iawn yn y cylch pwysig hwn.

Yr ydym yn ddyledus am lawer o ddefnyddiau yr hanes blaenorol am eglwys Saron i lythyrau cynwysfawr Mr. D. Hughes, B.A., a Mr. Nicholas Rees, Tredegar.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

ROBERT MORRIS. Nid ydym yn gwbl sicr o amser genedigaeth Mr. Morris, oblegid yn hanes ei farwolaeth yn y Dysgedydd am 1826, dywedir ei fod yn 35 oed pan y bu farw, tra yn ol ei gof-faen ar fur capel Saron nid oedd ond 34 oed. Felly cafodd ei eni naill ai yn y flwyddyn 1790 neu 1791. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landrillo, ac yn fab i amaethwr. Yr oedd ei fam yn ferch y Brynffynon, Tre'rwiedog, ger y Bala. Daethant i fyw i Wrexham, a bu Robert Morris pan yn hogyn yn Boot yn yr Eagles a thafarndai eraill yn y dref am beth amser; ond yr oedd yn rhy ddireidus, meddai ei chwaer, yr hon sydd yn awr yn fyw yn y Rhos, ac yn 85 oed, i gadw ei le yn hir yn yr alwedigaeth hono; a darfu i'w dad ei rwymo yn egwyddorwas gyda Thomas Jones y Gôf, Aberoer, ger y Wern, am bedair blynedd. Parhai Robert Morris i wneyd castiau diniwaid i ddychryn hen bobl a phlant, hyd nes daeth at grefydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Wern, gan yr anfarwol W. Williams, pan oedd yn brentis yn Aberoer. Bu yn gweithio am rai blynyddau wedi hyny yn Penygelli, ger Adwy'rclawdd, gydag un John Gittins. Yr adeg hono y dechreuodd bregethu. Cafodd anogaeth i ddechreu pregethu gan Mr. Williams ac eglwys y Wern, a dechreuodd yr un noson a Mr. Moses Ellis, Mynyddislwyn. Y mae yn ymddangos mai pur wanaidd a diddawn oedd ar y dechreu, er hyny, yr oedd yr hyn a ddywedai yn llawn synwyr a doethineb. Yr oedd gan Mr. Williams feddwl mawr iawn o hono, a chredai y daethai yn rhywbeth; ac felly y daeth. Yn bur fuan wedi iddo dechreu aeth i'r ysgol i Lanfyllin, ac oddiyno i Dredegar. Gan na feddwn ddefnyddiau i ysgrifenu bywgraphiad i Mr. Morris, nis gallwn wneyd yn well na rhoddi copi o'r hyn a gyhoeddwyd am ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn y Dysgedydd am Mai 1826. "Y Parch. R. Morris. Y gwas defnyddiol ac anrhydeddus hwn i Grist a'i eglwys, a orphenodd ei yrfa ddaearol Rhagfyr 23ain, 1825, yn 35 oed. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn athrofa Gwynedd, dan ofal y Parch. Dr. Lewis. Bu yn gweinidogaethu yn ddiwyd a llafurus, dros bum' mlynedd yn eglwys yr Annibynwyr yn Nhredegar, Mynwy. Cynnaliwyd ei angladd gyda'r difrifoldeb mwyaf, a chydag amlygiadau cyffredinol o barch i'w goffadwriaeth. Ar yr achlysur pregethodd y brodyr D. Thomas, Penmain, yn Gymraeg, oddiwrth 2 Cor. i. 9; a W. Lewis, Tredwstan, yn Saesonaeg, oddiwrth yr un testyn. Terfynwyd y cyfarfod trwy araeth fer a gwresog gan y brawd D. Lewis, Aber. Er fod yno o leiaf fil o bobl wedi ymgynnull ar yr achlysur, braidd y gallesid canfod wyneb sych yn mhlith yr holl gynnulleidfa. Bu gweinidogaeth Mr. Morris o fawr fendith yn y lle, yn neillduol er adeiladaeth a chwanegiad at yr eglwys, yr hon a gynyddodd yn ei dymor byr ef, yn agos i 100 mewn rhifedi. Efe a fu farw o'r clefyd a elwir enyniad yr ysgyfaint,' yr hwn a achoswyd trwy anwyd llym. Ei amynedd trwy ei hir gystudd oedd hynodol, ac yn teilyngu efelychiad gan bob gwir Gristion. Gadawodd weddw alarus, a baban amddifad i gwyno'r golled ar ei ol. Nis gall yr eglwys a'r gynnulleidfa lai na theimlo'r golled am un ag oedd mor fuddiol yn ei areithfa, yn ei gyfeillach, yn ei deulu, ac yn ei gymydogaeth yn gyffredinol. Ond yr Arglwydd a ofala."

Gellir ychwanegu i'w weddw a'i faban ei ganlyn yn fuan i'r bedd. Yr oedd Mrs. Morris yn chwaer i Mr. Henry Lewis, Gelligynes, gerllaw Penmain, a Mr. John Lewis, Tredegar.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
ar Wicipedia

EVAN JONES, (Ieuan Gwynedd). Nid oes odid, enw yn Nghymru yn fwy adnabyddus nag enw Ieuan Gwynedd. Mae miloedd wedi clywed ei enw, ac wedi darllen ei ysgrifeniadau na welsant erioed ei wyneb; a chan fod mwy na 18 mlynedd bellach wedi rhedeg er y dodwyd ef yn ei "argel wely," y mae cenhedlaeth gyfan wedi ei geni, ac wedi tyfu i fyny. Dichon nad ymddangosodd yr un dyn yn Nghymru yn y ganrif bresenol; yr hwn mewn cyfnod mor fyr a ymddyrchafodd i'r fath enwogrwydd cenhedlaethol; canys sefydlodd iddo ei hun, cyn ei fod yn 32 oed, fel bardd a llenor, diwygiwr a gwladgarwr, dyngarwr a phregethwr, enw a bery cyhyd a pharhad yr iaith Gymraeg.

Ganwyd Evan Jones, Medi 20fed, 1820, mewn lle a elwir Bryntynoriad, neu feallai yn fwy priodol Brynpynoriad, o fewn wyth milldir i Ddolgellau, ar y llaw aswy wrth fyned oddiyno i'r Bala. Saif y tŷ mewn cwm cul wrth odre Aran Fawddwy, ychydig islaw Drwsynant, ond yr ochr arall i'r afon. Enwau ei rieni oedd Evan a Catrin Jones. Bu iddynt bump o blant, tri o ba rai a fuont feirw yn eu mabandod; ac Ieuan oedd yr ieuangaf o'r pump. Yr oedd yntau mor anhebyg i fyw pan y gwnaeth ei ymddangosiad gyntaf, fel y galwyd yr hybarch Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, i'w fedyddio y dydd y ganwyd ef; ac ymdrechu ag angau y bu o'r diwrnod hwnw hyd ddydd ei farwolaeth, pan y cariodd y gelyn y frwydr arno, canys "nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnw." Isel eu hamgylchiadau oedd ei rieni, ac ymladd yn galed a thrafferthion bywyd y buont trwy eu hoes. Dyn distaw, tawel, a diymyraeth oedd ei dad; diwyd iawn gyda'i oruchwylion bydol, ond heb fawr o flas nac awydd, mwy na'r rhan amlaf o'i gydoeswyr, am addysg a gwybodaeth. Ond yr oedd ei fam yn ddynes o ddeall cryf, o ysbryd uchelfrydig, o ewyllys anhyblyg, ac o ddoniau helaeth. Pa un bynag ai mewn ymddyddanion cyffredin, ai yn nghyflawniad dyledswyddau cyhoeddus crefydd y cymerai ran, yr oedd yn mhell uwchlaw y rhan fwyaf o'r meibion a'r merched a ddeuai i'r un man a hi. Yr oedd teithi meddyliol a nodweddiadol ei fam yn amlwg yn Ieuan; ond fod y diwylliant a'r addysg a dderbyniodd ef wedi ei goethi, a'i loywi, a'i ddyrchafu yn llawer uwch nag y gallesid disgwyl iddi hi fod o dan yr amgylchiadau y dygwyd hi i fyny, pa mor gryf bynag oedd ei galluoedd naturiol. Rhoddodd hi bob cefnogaeth i'w "bachgen bach," fel ei galwai, i ddarllen a chasglu gwybodaeth, er fod ei dad, a'i berthynasau, a hen bobl dda a diwyd y Brithdir yn aml yn ei beio am wasgu arni ei hun i roddi addysg i'r llangc, yn lle ei anfon allan fel yr anfonid ei gyfoedion yn'y gymydogaeth, i ymafael mewn rhyw orchwyl gonest, er ennill ei fara beunyddiol. Ac yr oedd ei dad yn enwedig pan welodd y bachgen yn dechreu rhoi ei fryd ar brydyddu, yn barnu ei bod ar ben arno; ac y buasai iddo fyned, fel y dywedid wrtho fod prydyddion yn gyffredin yn troi, i ddilyn bywyd ofer a segur, nes dwyn ei hun i dlodi a gwarth; a pheri i benwyni ei rieni ddisgyn mewn gofid i'r bedd. Ond daliai ei fam i'w gefnogi, a'i wroli, a hwylysu y ffordd iddo i gael llyfrau ac addysg, mewn gobaith y deuai ei "bachgen bach" yn rhywbeth; oblegid yr oedd uchelgais lon'd enaid Catrin Jones, er o bosibl na chododd ei huchelgais ychwaith yn ddigon uchel i gredu y deuai y peth y daeth ar ol hyny; ond dyma y pryd y rhoddwyd i lawr seiliau y cymmeriad a brofodd ar ol hyn y fath allu yn ein gwlad "y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo." Ychydig o gyfleusderau gwybodaeth gyffredinol oedd yn nhy ei rieni; ac nid oedd tai y cymydogion yn yr ystyr hono nemawr yn fwy cyfoethog. Fel hyn yr ysgrifena Ieuan Gwynedd ei hun yn ei "Adgofion am ei fam" yn y Gymraes am 1850, tudalen 323. "Nid lleoedd nodedig am addysg ac ysbryd darllen oedd Rhydymain a'r Brithdir bump a deg ar hugain o flynyddoedd yn ol. Nid oedd ysgolion dyddiol ond afreolaidd a diwerth. Yr oedd y dyn a dderbyniai Seren Gomer neu y Dysgedydd yn oracl; ac os meddai rhywun fwy o lyfrau na'r Beibl, yr Holwyddoreg, llyfr Hymnau heb ei rwymo, sypyn o hen Almanacau wedi eu gwnïo yn nghyd, a nifer o gerddi yn yr un gadwraeth, yr oedd ganddo 'lawer iawn o lyfrau.' Yr oedd presenoldeb 'Corff Duwinyddiaeth' Dr. Lewis agos yn rhoddi cwbl urddau i dŷ. Yr oedd ty fy rhieni yn llawn o'r tlodi llenyddol hwn. Cynwysai dri Beibl, Testament Newydd, un llyfr Hymnau, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynonau yr Iechawdwriaeth, (gan Mr. Jones, Pwllheli), dau rifyn o Drysorfa Mr. Charles, amryw bregethau, diwedd neu ddechreu y rhai oedd ar goll yn gyffredin, ac ychydig o fân draethodau eraill. Ychwanegwyd at y rhai hyn rywbryd gan fy mrawd, Yr Ysgerbwd Arminaidd, a'r Bardd Cwsg. Yn eu dyddiau plentynaidd yr oedd y mab henaf yn bysgotwr campus, a'r ieuangaf bob amser yn hoffi llyfr. Fel y bu oreu y ffawd, yr oedd teulu caredig yn yr Esgairwen, lle y derbynid Seren Gomer, a lle yr oedd amryw lyfrau gwerthfawr eraill, megys Esboniad Dr. Gill, a Hanes Prydain Fawr, gan Titus Lewis. Drwy gael benthyg y rhai hyn, a'r Dysgedydd o leoedd eraill, yr oedd yn gyffredin, ddigon o waith i'r darllenydd ieuangc. Daeth hefyd ar draws y Blodeugerdd, Gorchestion Beirdd Mon, Drych y Prif Oesoedd, a Helyntion y Byd a'r Amseroedd. Darllenodd y rhan fwyaf o'r llyfrau hyn cyn bod yn naw mlwydd oed; ac oni buasai hwy, buasai yn amddifad o'r ychydig wybodaeth gyffredinol a gasglodd yn ei ddyddiau boreuol. Rhoddai fy mam bob cefnogaeth i'r awydd hwn am ddarllen."

Dyna engraifft deg o lafurio am wybodaeth dan anhawsderau; a bendith ar goffadwriaeth y fam a gefnogai awyddfryd anniwalladwy y llangc. Mabwysiadodd y ffug enw Ieuan Gwynedd pan yn ieuangc iawn; ac ysgrifenodd lawer mewn rhyddiaeth a barddoniaeth o dan yr enw hwnw i'r Dysgedydd pan nad oedd ond bachgenyn o 15 i 18 oed. Poenodd lawer ar yr Hen Olygydd gyda'i gyfansoddiadau amrwd ac anaddfed, a phoenodd yr Hen Olygydd lawer arno yntau trwy droi yn fynych yr hyn a ysgrifenai o'r neilldu, a thrwy gyfnewid a chwtogi cryn lawer ar yr hyn a gyhoeddid; ac nid bob amser y diangai heb sen yr Hen Olygydd yn ei sylwadau at ei ohebwyr, pan y tybiai fod ei gyfaill ieuangc braidd a gormod o ysfa ysgrifiaw arno. Ond derbyniai Ieuan y cwbl heb ddigio na brochi, ond gan benderfynu dyfod yn gyfryw ysgrifenwr ryw ddiwrnod ag y teimlai ei hen athraw yn llawen i dderbyn ffrwyth ei ysgrifell. Yr oedd ganddo barch diderfyn i'w hen weinidog; a gwyddai o'r goreu mai "gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid;" er i hono fod yn gân o glod a chymeradwyaeth. Fel rheol y dynion senir, a hyny yn lled chwerw hefyd weithiau, gan y doeth, yw y dynion sydd yn gosod eu hargraff ar y byd; tra y mae y rhai y gwenieithir iddynt gan ffyliaid fynychaf yn ymchwyddo, ac yn syrthio i ddinystr. "Ffyddlawn yw archollion y caredig."

Derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir pan yn ieuangc; ac er ei fod yn fwy meddylgar na'r cyffredin o'i gyfoedion, ac o ran ei fuchedd o'i febyd yn hollol ddiargyhoedd, ac heb ddim drwg gan neb i'w ddywedyd am dano; etto, araf iawn y bu hen bobl dda y Brithdir i'w gymhell a'i gefnogi i bregethu, ar yr hyn yr oedd yn ddigon amlwg fod ei feddylfryd. Gellir cyfrif am hyny heb mewn un modd roddi barn galed yn erbyn neb. Dichon, ac yr ydym yn sicr, fod gwaith ei rieni yn ymddeol o'r Eglwys yn y Brithdir, yn adeg y terfysg yn Llanuwchllyn, ac yn myned saith milldir o ffordd at yr "Hen bobl," fel y gelwid gwrthwynebwyr Mr. Michael Jones; a'r ffaith fod ei fam yn arbenig, yn cymeryd rhan flaenllaw yn y terfysg a'r ddadl, yn peri nad oedd yr anwyldeb a'r cynhesrwydd hwnw rhwng pobl Brithdir ag Ieuan ag a fuasai dan amgylchiadau gwahanol. Mae wir nad oedd dim a wnelai y bachgen a'r terfysg; ac na bu ef erioed yn cyrchu i'r "Hen gapel" at yr "Hen bobl," ond y parhai ef i fyned i'r Brithdir pan oedd ei rieni yn myned i Lanuwchllyn; ac y mae yn wir hefyd fod ei rieni bellach wedi rhoddi i fyny er's blynyddau fyned i Lanuwchllyn, ac wedi ailuno a'u hen gyfeillion yn y Brithdir; ond er y cwbl, nid pethau i'w hanghofio yn fuan yw cwerylon felly. Rhaid i'r genhedlaeth hon fyned heibio cyn yr iacheir yn llwyr glwyfau y terfysg hwnw. Barnai Ieuan hyd ei fedd, mai un o anffodion mwyaf ei oes oedd iddo gael ei fagu yn swn brwydrau duwinyddol, a chael ei ddysgu o'i febyd i gredu fod y rhan fwyaf o weinidogion Gogledd Cymru yn gyfeiliornwyr peryglus. Bendith anrhaethol, yn ol ei farn ef, i fyd ac eglwys a fuasai, pe na chlywsid erioed am derfysg nodedig Llanuwchllyn. Heblaw hyny, yr oedd ei fod wedi tyfu i fynu yn fachgen mawr heb ymafael mewn unrhyw orchwyl, yn peri fod rhai o honynt yn teimlo yn rhagfarnllyd tuag ato; ac yr oedd hyny yn ddigon naturiol mewn cymydogaeth lle yr oedd pawb yn gorfod gweithio yn galed am ei damaid; a lle yr oedd "trwy chwys dy wyneb y bwytei fara," yn un o'r erthyglau blaenaf yn nghredo y preswylwyr. Nid oedd Ieuan ychwaith, yn y tymor hwnw yn enwedig, yn un o'r rhai mwyaf serchus ac ennillgar ei dymer; yr oedd yn rhaid ei adnabod yn drwyadl cyn ei werthfawrogi ac y mae yn fwy na thebyg fod mwy o ysbryd myned yn mlaen ynddo, nag a dybiai yr hen bobl dda oedd yn weddus i un o'i oed a'i amgylchiadau ef; ac ond odid na farnent fel y barnai hen saint arafaidd Trawsfynydd am Williams y Wern o'i flaen, fod mwy o eisiau ffrwyn a genfa i'w atal rhag myned yn rhy chwyrn, nag oedd o eisiau swmbwl i'w yru yn ei flaen. Beth bynag, hyn sydd eglur mai trwy oddefiad hen bobl dda y Brithdir y dechreuodd Ieuan siarad yn gyhoeddus; ac nid trwy eu cymhelliad, fel y gallesid yn rhesymol ddisgwyl i un o'i dalent a'i athrylith ddysglaer ef. Ond nid oedd dim atal ar y llangcyr oedd ymwybyddiaeth o'i allu o'i fewn, a'r rhwystrau ag a fuasai yn ddigon i ddigaloni meddyliau cyffredin, a wnai ein harwr yn fwy arwrol. Ymwthiai ef drwy bob rhwystrau gan gyfeirio at y nod ar ba un y sefydlodd ei lygaid, ac y gosododd ei galon; a daeth ei hen gyfeillion yn y Brithdir cyn hir i weled fod gwir fawredd ynddo, ac i deimlo yn llawen mai hwy a gafodd yr anrhydedd o'i fagu; ac wedi ei gladdu, mynasant osod maen coffadwriaeth iddo mewn man amlwg ar fur eu haddoldy. Mewn cyfarfodydd Dirwestol y dechreuodd Ieuan Gwynedd arfer ei ddawn yn gyhoeddus; a gwrando ei hylithrwydd fel areithiwr a barodd i rai cyfeillion ei annog i bregethu. Aeth yn y flwyddyn 1837 i Lanwddyn i gadw ysgol; ac yno pan yn aelod yn Sardis y dechreuodd bregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir "Ty'r hen John Breese," lle yr oedd ychydig o gyfeillion yn cydaddoli cyn codi capel Braichywaun. Ar gymhelliad Thomas Williams, yr hen brydydd "Eos Gwynfa" y pregethodd gyntaf; a phregethodd Mr. Joseph Williams, mab y dywededig Thomas Williams, ei bregeth gyntaf yr un noswaith. Mae Joseph Williams yn aros hyd yr awr hon, ac yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn Llansilin, dan ofal Mr. H. James, Llansantffraid. Wedi bod yn cadw ysgol yn Sardis a Saron, symudodd o Lanwddyn y flwyddyn ganlynol, i Benybont Fawr i gadw ysgol, lle y cafodd nawdd a chefnogaeth Mr. David Price, yr hwn oedd y pryd hwnw yn uchder ei boblogrwydd, a chylch helaeth o weinidogaeth ganddo, ac felly mewn angen cynnorthwy mynych. Teimlai Ieuan drwy ei oes ei fod yn ddyledus iawn i Mr. Price. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo ato o Gaerdydd, Mawrth 30ain, 1850, ceir a ganlyn:"Y mae llawer dydd wedi myned heibio er pan welais chwi, ac yr ydym ein dau wedi cael ein rhan o flinder y fuchedd hon. Braidd na feddyliwn mai breuddwyd yw fod un mlynedd ar ddeg er pan oeddwn gyda chwi yn Mhenybont. Yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw, rhaid i mi briodoli llawer o'm dedwyddwch i chwi. Da i mi, a dichon mai da i eraill, mai i'ch dwylaw chwi y syrthiais yn 1838, a hyfryd i mi i'w cydnabod fy rhwymedigaethau lluosog i chwi."[1]

Yn nechreu Mai 1839, aeth Dr. Arthur Jones i urddiad Mr. John Howes i Lansantffraidd, ger Croesoswallt, lle y gwelodd Ieuan yr hoffodd ef ac y gwahoddodd ef i Fangor i gadw ysgol Dr. Daniel Williams o dano ef. Daeth Ieuan i Fangor yn mhen ychydig wythnosau, ac yno y gwelsom ef gyntaf, ac y ffurfiasom gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch ag ef. Nid anghofiwn yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i fewn i hen Gapel Ebenezer i'r oedfa ddau o'r gloch, y Sabboth cyntaf wedi ei ddyfodiad. Dyna fe, ddarllenydd yn llafn main, tal, teneu, gwledig, mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin, yn dyfod trwy ddrws y capel am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wâu yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwtagwasgod o stwff ac un res o fotymau yn cau i fynu yn glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddfllodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi a hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn heb son am gerdded ynddynt, ond yr oedd ef wedi cerdded deugain milldir ynddynt y dydd o'r blaen a'i sypyn dillad ar ei ysgwydd. Aeth rhag ei flaen i'r set fawr, gan osod ei het galed o frethyn llawban ar y bwrdd, ac edrych i fyny tua'r pwlpud lle yr oedd y Doctor yn gwneyd amnaid a'i fys ar iddo fyned i fyny ato. Edrychai y gynnulleidfa mewn syndod, oblegid yn sicr ni welsant erioed o'r blaen engraifft mor berffaith o'r gwladwr mynyddig yn esgyn i'r pwlpud. Darllenai bennod yn hyf, yn uchel, ac yn gyflym; a gweddiai yn gyffelyb heb na thôn na goslef, ond gan dywallt ffrydiau diatal o ymadroddion, heb fawr o ddefosiwn na dim tynerwch. Pregethodd oddiar y geiriau"Gwrando hyn Job, saf, ac ystyria ryfeddodau Duw." Aeth drwy weithredoedd yr anfeidrol mewn creadigaeth, rhagluniaeth, a gras, a thraethai gyda'r fath ymdywalltiad rhaiadrol nes synu pawb yn y Yr oedd yn ddawn gwahanol i ddim a glywsant erioed o'r blaen; ac yn enwedig yn wahanol i'r dawn chwareus, hamddenol, esboniadol a arferent wrando bob Sabboth; a dywedodd mewn tri chwarter awr fwy o eiriau nag a ddywedwyd gan neb erioed o'r pwlpud hwnw o'i flaen, y mae yn bur sicr genym. Teimlai pawb yn y lle, er hyny, fod rhywbeth yn y llangc gwledig a diaddurn pwy bynag ydoedd, yn wahanol i bawb arall. Tarawodd ei brydweddion naturiol ni yn gryfach y pryd hwnw nag y gwnaethant byth wedi hyny. Hwyrach fod ein cynefindra a hwy yn peri nad oeddynt yn tynu ein sylw; ond yr ydym yn meddwl hefyd eu bod i raddau yn cilio, ac yn myned yn fwy anamlwg fel yr oedd ei feddwl yn cael ei ddwyn dan ddiwylliant, ac yntau yn cael ei goethi gan arferion cymdeithas uwch na'r hon y magesid ef ynddi. Yr oedd y pryd hwnw wedi tyfu i'w lawn daldra, yn agos i ddwy lath o hydpen bychan heb gnwd trwchus o wallt arno, a'r ychydig oedd wrth ei agwedd syth ac aflerw yn dangos na wybu erioed beth oedd cael ei eneinio ag olew talcen cul oedd ganddo, y fath na buasai y penglogydd yn rhoi barn ffafriol arno, a'r croen yn crychu pan y taflai ei aeliau allan, ac yr ymgiliai ei lygaid gleision, llymion, treiddgar y tu ol iddynt i gysgod ei aelflew i lechu. Safai esgyrn ei fochgernau yn uchel,gernau yn uchel, nes peri i'w fochau ymddangos yn pantio. Teneuon oeddynt ei wefusau, ac arferai eu gwasgu yn nghyd pan y byddai newydd ddyweyd rhywbeth, neu pan y parotoai at siarad. Ei enau a'i lygaid oeddynt ddelweddau mwyaf dynodiadol ei wynebpryd; ond yr oedd awdurdod, meistrolaeth, a phenderfyniad yn amlwg yn ei holl ysgogiadau. Ni bu yn Mangor ond ychydig fisoedd, oblegid cyn diwedd yr haf agorodd Rhagluniaeth y drws iddo i fyned i'r ysgol i Marton, lle yr oedd nifer o wyr ieuaingc dan addysg Mr. John Jones; a chan i ni ei ddilyn i Marton yn nechreu y flwyddyn ar ol hyny, cawsom fantais ychwanegol i ffurfio cydnabyddiaeth helaethach ag ef. Ymroddodd yno i ddysgu a'i holl egni cyfansoddi yn Saesonaeg oedd ei hyfrydwch—ysgrifenodd lawer i'r Shrewsbury Chronicle, a phregethai yn Saesonaeg yn yr holl wlad oddiamgylch. Yma y dysgodd ysgrifenu llaw fer, ar yr hon yr oedd Mr. Jones, yr athraw, yn feistr hollol. Yr oedd Ieuan, pan yn Marton, yn un o'r dynion ieuaingc puraf yn ei arferion a adnabuasom erioed ffieiddiai ei galon bob twyll a rhagrith, ac nis gallasai oddef y rhai a broffesant fod y peth y gwyddai nad oeddynt. Yr oedd yn nodedig o gynil a gofalus, a boddlonai i fod heb lawer o bethau y carasai eu cael; ond gan ei fod yn gweled fod hyny yn anmhosibl heb redeg i ddyled, boddlonai hebddynt, canys yr oedd dyled ar fyfyriwr yn beth nas gallasai mewn un modd ddygymod ag ef. Yr oedd yn dyn iawn dros sefyll at ba beth bynag a benderfynid, a chyflawni pob ymrwymiad, ac os rhoddai ei air gallesid ymddiried iddo y safai ato. Cyfrifai rhai ef yn llym a chreulawn, ac y mae yn sicr y buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch a hynawsedd ynddo yn ei wneyd yn aelod hapusach o gymdeithas; ond ni bu y rhai yno a feient, ac a achwynent ar ei orfanylwch yn hir cyn esbonio eu hunain; ac yr oedd Ieuan wedi eu hadnabod cyn iddynt gyflawn ymddadblygu. Oherwydd gwaeledd Mr. Jones, Marton, ymadawodd y myfyrwyr oddiyno o un i un; ond ceisiwyd gan Ieuan i aros yno i wasanaethu yn lle Mr. Jones, yr hwn oedd wedi ei analluogi gan afiechyd, a'r hwn yn fuan a fu farw; a buont yn daer iawn arno gymeryd ei ordeinio yno yn olynydd i'w athraw; ac er fod llawer o bethau yn ei ogwyddo i gydsynio, etto, yr oedd ei awydd am ychwaneg o ddysg y fath, fel y gwnaeth gais am fyned i athrofa Aberhonddu, a derbyniwyd ef yn nghyfarfod blynyddol Mehefin 1841; lle yr arhosodd dros bedair blynedd. Cyn ymadael a Marton ysgrifenodd fywgraffiad i'w hen athraw, yn llyfryn swllt. Rhaid ei fod wedi roddi yn galed, oblegid pan welsom ef gyntaf ddwy flynedd cyn hyny, nid oedd ei wybodaeth o'r iaith Saesonaeg, ond anmherffaith iawn. Dygodd Ieuan ei holl neillduolion llym, manwl, cynil, a gofalus gydag ef i'r athrofa; ac fel y gallesid disgwyl yn mysg cynifer, yr oedd yno rai nad oedd eu syniadau am foesoldeb mor uchel ar eiddo ef, ac fel y mae yn hawdd meddwl, nid rhyw gydfod mawr oedd rhyngddo a'r cyfryw. Ond ar y rhan fwyaf o lawer cariodd ddylanwad iachusol a daionus; a dichon, a'u cymeryd gyda'u gilydd, na throdd yr un to allan o'r athrofa uwch a gloywach eu cymmeriadau, a mwy defnyddiol a gwasanaethgar i'r weinidogaeth, na'r rhai oeddynt yn gydefrydwyr ag ef yno. Nid ydym yn priodoli hyn iddo ef yn hollol, canys gwyddom fod yno eraill o gyffelyb ysbryd yn y cyfnod hwnw; ond yr ydym yn meddwl y cyduna y rhan fwyaf o'i gyd efrydwyr a ni i ddyweyd fod rhan fawr o'r dylanwad pur ac iachusol oedd yn yr athrofa yn yr adeg hono i'w briodoli i ofal manwl—i arferion pur—i argyhoeddiadau cryfion—i uniondeb diwyrni—ac i ewyllys benderfynol Ieuan Gwynedd. Bendith anrhaethol i sefydliad cyhoeddus ydyw cael un dyn o feddwl grymus, arweiniol, a llywodraethol, yn meddu syniad uchel a dyrchafedig am foesoldeb a gwirionedd.

Pan y daeth ei dymor yn yr athrofa i ben, derbyniodd wahoddiadau oddi-wrth amryw eglwysi i ymsefydlu yn eu plith; ond tueddwyd ei feddwl i gydsynio a galwad Saron, Tredegar, ac urddwyd ef yno fel y crybwyllasom eisoes yn Ngorphenaf 1845. Priododd Ionawr 14eg, 1846, a Miss Cathrine Sankey, Rorington Hall, sir Amwythig, merch ieuangc hawddgar a rhinweddol, a'r hon yr oedd wedi ffurfio cydnabyddiaeth yn ystod ei arosiad yn Marton. Nid oedd Mrs. Jones, mwy nag yntau, ond gwanaidd iawn ei hiechyd, fel, er fod yr anwyldeb mwyaf rhyngddynt, mai blwyddyn drallodus iawn oedd y flwyddyn y buont yn briod. Bu Mrs. Jones farw Ebrill 28ain, 1847, yn fuan ar ol genedigaeth ei baban, a chladdwyd y fam a'r bachgen yn yr un bedd. Estynwyd y cwpanaid chwerw yma i Ieuan gan Ragluniaeth pan oedd ei gyfansoddiad yn ddadfeiliedig; ac o hyny allan gwelodd "aml a blin gystuddiau." Ond yr oedd ei ysbryd yn gryf a gwrol; ac yn nghanol ei waeledd mwyaf gwnai fwy o waith nag odid ddau ddyn iach. Tra y gorweddai ef ei hun yn glaf mewn un gwely, a'i wraig yn glaf mewn gwely arall; a'i famaeth ffyddlon, dyner, a gofalus, Sarah, yn gweini arnynt ill dau, y cyfansoddodd ei draethawd Saesonaeg gwobrwyedig "Y Rhwymedigaeth Foesol i Lwyrymataliaeth." Yn ystod tymor byr ei weinidogaeth yn Nhredegar, ymroddodd yn egniol i gyflawni dyledswyddau ei swydd. "Gweithiwr difefl" ydoedd. Tynodd iddo ei hun lawer o gynlluniau yn ol y meddylrith oedd ganddo, pa fath un ddylasai gweinidog fod. Canfyddodd er ei siomiant fod mwy o anhawsder nag a dybiasai i gario allan ei feddylrithiau, er iddo hwyrach allu eu cario allan yn llawn mor berffaith ag y gallodd yr un gweinidog mewn yspaid mor fyr; ac iddo gael cefnogaeth mor wresog gan yr eglwys dan ei ofal, ag a roddir yn gyffredin gan eglwysi i weinidogion ieuaingc, sydd ar eu cychwyniad yn llawn ysbryd ac awyddfryd am wneyd daioni. Ond yr oedd syniadau Ieuan am sancteiddrwydd a phurdeb dysgyblaeth, yn uwch nag eiddo y mwyafrif yn yr eglwysi; ac yr oedd yn ofynol iddo gael oes hir, i godi unrhyw eglwys i fyny i'w safon uchel ef. Ei berygl mwyaf ef yn nglyn a dysgyblaeth eglwysig, fel perygl dynion o'r un dymer ag ef, oedd gollwng drygau ysbrydol i'r eglwys wrth fwrw allan ddrygau cnawdol; a gorchwyl anhawdd iawn wrth fwrw y "daearol a'r anianol" allan, ydyw cadw "cythreulig" rhag dyfod i fewn. Fel pregethwr, yr oedd Ieuan yn rhy draethodol i fod yn boblogaidd gan gynnulleidfaoedd cyffredin; ac yr oedd yn traddodi yn rhy galed a llafurus i'w nerth corphorol. Er ei fod yn gwbl uniongred ac Efengylaidd yn ei olygiadau duwinyddol; etto baich ei bregethau oedd, llygredigaeth calon dyn, ysbrydolrwydd teyrnas Crist, a moesoldeb Cristionogol. Ychydig o sylw mewn cydmariaeth a dalodd i dduwinyddiaeth byngciol, a llai na hyny o gydymdeimlad oedd rhyngddo a'r dadleuon oedd yn rhanu Ymneillduwyr Protestanaidd. Nis gallasai oddef y dynion a broffesant sel fawr dros athrawiaeth iach, ond a esgeulusent dalu eu dyledion a weddient yn ddoniol yn y capel, ond na ofalent am addoliad ar yr aelwyd, ac a adawent eu plant i chwareu ar y Sabboth ar y tips a'r twyni. Yr oedd ei holl enaid yn cynhyrfu yn erbyn y bobl a honent brofiadau uchel, ac a ymgysurent "fod y cyfamod yn sound"—ar "afael gryfaf fry," ac ar yr un pryd a eisteddant i lymeitian yn y dafarn nes ymlenwi a diod gref. Barnai grefydd pobl nid wrth eu profiadau uchel yn y capel, ond wrth y dylanwad a adawai ar eu bywyd cyffredin; ac isel iawn y prisiau bob mwynhad crefyddol nad oedd yn terfynu mewn dysgu dynion "i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon." Nid ydym yn dadleu nad oedd ei olygiadau ar y pethau hyn yn eithafol; ond pa ddiwygiwr mawr a fu yn y byd erioed nad oedd yn eithafol; ac yr oedd Ieuan yn ddiwygiwr yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd ynddo ddigon o gydwybod a gonestrwydd, a phenderfyniad i wneyd Luther arall.

Ond nid fel pregethwr a gweinidog yr enwogodd ei hun, er iddo mewn tymor byr ennill iddo ei hun "radd dda;" ond gwnaeth iddo ei hun fel gwladgarwr a dyngarwr, enw anfarwol. Pan y cyhoeddwyd "Adroddiad y Dirprwywyr," y rhai a ddygent y cyhuddiadau bryntaf yn erbyn moesoldeb y genedl, daeth Ieuan allan yn ddiofn i amddiffyn cymmeriad merched ei wlad; a chafodd y cyhuddwyr deimlo llymder y fflangell a'r hon y ffrewyllodd hwy. Daeth ei "Dissent and Morality in Wales" yn llyfr o awdurdod i gyfeirio ato. Yn yr adeg yma yr oedd pwngc addysg y genedl yn cynhyrfu y Dywysogaeth; ac amryw gynnadleddau wedi eu cynal i ystyried pa gynllun a fabwysiedid. Cymerodd ef ochr addysg wirfoddol; ac y mae yn sicr genym iddo ysgrifenu rhai o'r pethau goreu a ysgrifenwyd erioed yn yr iaith Gymraeg o blaid addysg wirfoddol, ac yn erbyn ymyriad y llywodraeth ag addysg mwy nag a chrefydd y deiliaid. Mae barn y wlad er hyny wedi myned dan gyfnewidiad mawr ar y cwestiwn, ond bendith anrhaethol i'r deyrnas oedd y gwrthsafiad a wnaed y pryd hwnw; canys ataliodd addysg y wlad rhag myned yn gwbl i ddwylaw y llywodraeth, yr hon y pryd hwnw ni buasai yn caniatau i Annghydffurfwyr, yr hyn a ganiateir yn awr; heblaw y bu y cyffroad hwnw yn foddion i ddihuno ymadferthoedd yr Ymneillduwyr i gyfranu addysg i'r genedl, yr hyn a brofodd iddynt yn ymarferiad iachusol.

Wrth weled ei iechyd yn adfeilio barnodd Ieuan Gwynedd nas gallasai sefyll yn hwy o flaen arch Duw; ac yn niwedd y flwyddyn 1847, rhoddodd ofal eglwys Saron i fyny, gan benderfynu os caniateid iddo fyw ychydig yn hwy "i wasanaethu ei genedlaeth yn ol ewyllys Duw," y gwnai hyny trwy y wasg, gan fod arwain y bobl wedi myned yn waith rhy drwm iddo. Amgylchiad rhwygedig i'w deimlad ef ac eiddo yr eglwys oedd y datodiad hwn; canys yr oedd ei enaid ef wedi ymglymu wrth eneidiau y bobl, ac eneidiau y bobl wedi ymglymu wrth ei enaid yntau. Mae yr anerchiad ymadawol a roddodd yn un o'r darnau llawnaf o deimlad a thynerwch a ddarllenasom erioed; heblaw fod rhai darnau o honi yn ddihafal fel cyfansoddiad.

Cyn diwedd y flwyddyn 1848, priododd yr ail waith a Miss Lewis, merch y diweddar Mr. Walter Lewis, gweinidog Tredwstan; yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys yn holl ystyr y gair. Os bu gwraig dda yn rhodd gan yr Arglwydd i ddyn erioed; ac nid oes os am hyny, yr oedd y wraig rinweddol hon yn rhodd o eiddo yr Arglwydd i Ieuan Gwynedd; ac y mae y peth fu efe i'r byd am y ddwy flynedd olaf o'i fywyd i'w briodoli mewn rhan fawr i'w gofal, ei thynerwch, a'i chydymdeimlad hi.

Wedi ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, bu am ychydig yn golygu y Principality; papur Rhyddfrydig a gyhoeddid gan Mr. David Evans, yr hwn a ddaeth allan ar y cyntaf yn Hwlffordd, ond a symudwyd oddiyno i Gaerdydd; ond fel llawer cynyg da arall yn Nghymru a fu yn aflwyddianus o ddiffyg cefnogaeth. Symudodd Ieuan i Lundain i fod yn un o olygwyr y Standard of Freedom, newyddiadur galluog a gyhoeddid gan John Cassell. Bu yn Llundain hyd Awst 1849, pan torodd llestr gwaed yn ei ochr aswy, fel yr ofnid y gwaedai i farwolaeth, a barnwyd gan ei feddygon fod ei ddyddiau ar ben; ond os gallai y buasai yn well iddo ddychwelyd i Gymru i farw; a symudwyd ef i Gaerdydd mewn gwely. Mewn cyfeiriad at y tymor hwnw dywed, "Gwelsom ddyddiau duon yn Llundain. Yr ydym yn cofio dydd Llun pan oedd ein clyw wedi myned; a'n holl gorff fel wedi ei falurio, ac ar y prydnhawn hwnw llifai y gwaed yn bistill o'n genau. Yr ydym yn cofio pedwar o feddygon yn ein rhifo i'r bedd cyn nos dranoeth. Yr ydym yn cofio dydd Sadwrn ar yr hwn y mynegai ein meddyg parchus nad allem fyw ond ychydig ddyddiau. Ac yr ydym yn cofio, o herwydd yr oedd ein meddwl yn hollol dawel, y boddfeydd o chwys a ffrydient yn ddiorphwys dros ein corff am y pedair awr ar hugain canlynol."

Ond bu efe fyw fwy na dwy flynedd ar ol hyny; ac adfywiodd gryn lawer yn ei iechyd a'i nerth. Yn nechreu Ionawr 1850, daeth y rhifyn cyntaf o'r Gymraes allan dan ei olygiaeth, misolyn at wasanaeth merched Cymru, a pharhaodd i'w olygu am ddwy flynedd. Yn nghanol y flwyddyn hono y daeth y rhifyn cyntaf o'r Adolygydd hefyd allan, cyhoeddiad chwarterol a fu dan ei olygiaeth hyd ei farwolaeth. Ysgrifenodd lawer yn ystod 1850 a 1851, mewn rhyddiaeth a barddoniaeth yn Gymraeg a Saesonaeg; ac ennillodd yn yr ystod hwnw lawer o wobrau. Dyma y pryd y cyfansoddodd ei bryddest odidog ar "Yr Adgyfodiad," a'i bryddest fuddugol ar "Adgyfodiad Crist," a'i awdl ar "Heddwch," yr hon a barotodd erbyn Eisteddfod Tremadog, yr hon oedd yn ail i awdl wobrwyedig Hiraethog; heblaw llawer o ddarnau llai, a lluaws o draethodau bychain a mawrion. Cyfansoddodd lawer o'r rhai hyn yn ei wely; ac yn cael ei gynal i fyny gan obenyddiau; ac mewn poenau yn aml, y fath na feddyliasai y rhan fwyaf o ddynion am wneyd dim ond ymwrando a'u dyoddefaint a chwyno iddynt eu hunain; ond yr oedd ysbryd yn Ieuan na fynai ei roddi i lawr; a bu raid ei "orchfygu ef yn dragywydd," cyn iddo roddi i fyny i farw.

Yr oedd cyfansoddi yn hollol naturiol iddo, ac nid oedd ysgrifenu mewn un modd yn faich arno. Ysgydwai ei fysedd fel heb yn wybod iddo, a thra y byddai eraill yn siarad byddai ef yn ysgrifenu. Nid ymaflai ond anfynych mewn cwestiynau dyrus ac arddansoddol; y fath ag a ofynai efrydiaeth ddwfn, a darlleniad helaeth cyn cyfansoddi arnynt; ond ymarferol neu hanesiol oedd y rhan fwyaf o'r testynau ar y rhai yr ysgrifenai. Yr oedd ei gof agos yn ddihysbydd, a'i ddirnadaeth yn eang a chwmpasog, fel yr oedd yn amgyffred yn llawn bob mater yr ysgrifenai arno; ac yr oedd trefn mor naturiol iddo, fel yr oedd pob peth oedd ganddo ar bob pwngc yn union wrth law, fel y gwyddai, heb golli amser i chwilio, pa le i gael gafael ynddynt. Fel cyfansoddwr, yr oedd yn un o'r rhai egluraf, ystwythaf, a chyflawnaf yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd ganddo yn wastad at ei alwad ddigonedd o eiriau chwaethus a detholedig, heb mewn un modd gyfranogi o'r "chwyddedig eiriau gorwagedd" sydd yn anurddo cyfansoddiadau rhai ysgrifenwyr poblogaidd. Dygai i mewn briod-ddulliau goreu pob cwr o'r Dywysogaeth; ac etto ymgadwai yn hollol rhag defnyddio geiriau sathredig, ac y mae ystyr wahanol iddynt mewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd arwedd farddonol i'w arddull, y fath ag a wnelai darllen ei waith yn bleser, a swynai y darllenydd a'i naturioldeb, fel yr oedd pob peth o'i eiddo yn darfod yn rhy fuan ganddo. Yr oedd yn feistr perffaith ar ystadegaeth, ac ar bob achlysur y byddai angen, gwnai y defnydd mwyaf hapus o honynt; ac o dan ei law ef yr oedd rhyw ireidd-dra ar ffigyrau sychion, ac ystwythder barddonol ar ei ffeithiau a'i ystadegau. Trwy gydsyniad cyffredinol cydnabyddid ef yn un o brif lenorion ei oes a'i wlad; ac fel bardd, rhestrir ef yn nosbarth cyntaf y Pryddestwyr, os na chyfrifir ef yn mysg "cedyrn cyntaf" yr Awdlwyr. Yr oedd yn deall cyfrinion yr awen; a llwyddai i gael ganddi draethu iddo ei dirgelion; ac ni chyflwynwyd gan ddyn erioed athrylith burach i'w gwasanaeth. Gwnaeth waith oes hir mewn tymor byr; ac y mae gweled y fath weithiwr yn nychu a dihoeni am flynyddau, ac yn marw cyn ei fod yn 32 oed, pan yr oedd cymaint o'i angen ar y byd, yn peri i ni ddywedyd, "Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Ond ust! trwy y cymylau trwchus gwelwn orsedd, "a chyfiawnder a barn" yn eistedd arni.

Yr oedd ei iechyd yn ymddangos yn well yn niwedd 1851; ac yr oedd wedi uno y Gymraes a'r Tywysydd, ac wedi cymeryd gofal y Diwygiwr mewn cysylltiad a Mr. David Rees; ac y mae y rhifyn cyntaf o hwnw am 1852 yn dangos ei fod dan oruchwyliaeth newydd; a disgwylid y buasai iddo cyn hir symud i Lanelli, lle yr argraffid y Diwygiwr, a'r Gymraes, a'r Adolygydd, yr hwn hefyd a olygid ganddo. Ond siomwyd yr holl ddisgwyliadau hyn. Gyda dyfodiad oerder a gerwinder mis Chwefror, ymddangosodd arwyddion eglur fod ei ddyddiau ef i farw wedi nesau, a dydd Llun Chwefror 25ain, 1852, ehedodd ei enaid cryf o'i gorff gwan i fynwes ei Arglwydd; a'r dydd Gwener canlynol dygwyd ei weddillion marwol mewn elorgerbyd i fynwent y Groeswen, lle yr oedd nifer luosog o wyr defosiynol wedi ymgynnull i'w gladdu; a gwnaethant alar mawr am dano ef. Darllenwyd rhanau priodol o'r Ysgrythyr yn y capel gan Mr. J. Thomas, Glynnedd, (Liverpool yn awr); a gweddiodd Mr. W. Williams, Hirwain; pregethodd Meistri E. Roberts, Cwmafon, yn Saesonaeg; a W. Edwards, Aberdare, yn Gymraeg; a therfynwyd trwy weddi gan Mr. J. Thomas, Aberdare. Cymerwyd hefyd ran yn y gwasanaeth yn y capel ac wrth y bedd gan Mr. W. Williams, Tredegar, (Abercarn yn awr); Mr. N. Stephens, Sirhowy, (Liverpool yn awr); Mr. J. Davies, Llanelli, (Caerdydd yn awr); a Mr. Moses Rees, Groeswen; a gadawsom Ieuan Gwynedd yn mynwent y Groeswen "mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol."

Cyfodwyd colofn hardd ar ei fedd trwy danysgrifiadau ceiniog oddiwrth ei gyfeillion a'i edmygwyr o bob cwr o'r Dywysogaeth, ac y mae yn gerfiedig arni y llinellau canlynol o waith Gwilym Hiraethog.

"Y golofn yma gyhoedda haeddiant
Ieuan Gwynedd, i'w wlad fu'n ogeniant;
Haul oedd i'w genedl—miloedd a gwynant
Ai'n nos o'i golli—tewi nis gallant—
Llanwodd swydd llenydd a sant—sai'i weithiau
Ef i'r oloesau yn ddirfawr lesiant."

Heddwch i ti fy mrawd! Nac ymyred neb a'th esgyrn! Mae yn iawn i ti gael gorphwys, canys gweithiaist dy ddiwrnod byr yn galed. Chwythed yr awel yn esmwyth drosot—disgyned, gwlithwlaw y nefoedd yn dyner arnat—gwylied angylion le cysegredig dy fedd, hyd y boreu y cyfnewidir dy gorff gwael di gan dy Briod a'th Brynwr i ffurf ei "gorff gogoneddus ef!"

Nodiadau[golygu]

  1. Dysgedydd 1865, tudalen 333, Llythyr at Mr. D. Price.