Neidio i'r cynnwys

Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Tre'rddol

Oddi ar Wicidestun
Bettws Gwerfil Goch Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Glyndyfrdwy
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y Ddwyryd
ar Wicipedia




TRE'RDDOL

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma gan Mr. Thomas Davies, Llandrillo, yn nhŷ cefnder iddo, o'r enw Robert Ellis. Yr oedd Robert Ellis ar y pryd hwnw, yn gorwedd yn ei wely wedi tori ei glun trwy syrthio dan drol, pan o dan effeithiau diodydd meddwol. Ymddangosai yn edifeiriol iawn, a phrofodd ei ymddygiad iddo gael ei anwiredd yn atgas Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1843.[1] Yr oedd teulu Penlan y pryd hwn yn arfer myned i Gorwen, ac yr oedd rhai eraill yn arfer myned i Gynwyd. Cynhelid ysgol mewn lle a elwid y Green, ar dir Penlan, ac yr oedd y Bedyddwyr yn arfer pregethu yn yr ardal, ond am dymor unwyd i gynal yr ysgol a'r moddion yn nhŷ Robert Ellis, ac ni bu ef a'i wraig yn hir cyn ymuno a'r achos. Yn y flwyddyn 1845, collodd Robert Ellis ei dyddyn, a symudodd i ardal Llandrillo; ond agorodd Rhagluniaeth ddrws i'r achos mewn goruwchystafell perthynol i Mr. John Edwards, Penybont, a threfnwyd i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr i addoli ynddi bob yn ail Sabboth, ac felly y maent yn parhau hyd heddyw. Wedi i Mr. Humphrey Ellis ddyfod yn weinidog i Gorwen, ffurfiwyd yma eglwys Annibynol yn ngwanwyn 1851. Dyma enwau yr aelodau cyntaf—John a Sarah Owen, Mrs. Davies, Penlan; John a Lowry Morris, Berthddu; Robert a Mary Ellis; ac o'r newydd derbyniwyd Miss Davies, Penlan; Miss Catherine Davies, a Watkin Ellis, Plasynddol. Agos yr un amser, ffurfiodd y diweddar Mr. R. Roberts, Plasynbonum, yr ychydig Fedyddwyr oedd yn y lle yn eglwys, a bu y ddau weinidog yn pregethu bob yn ail Sabboth, a'r ddwy eglwys yn cyd-addoli bob Sabboth, ond fod pob un yn gofalu am ei Sabboth ei hun, ac yn cynal eu cyfeillachau, ac yn gweini yr ordinhadau ar wahan, a'r cwbl trwy y blynyddoedd yn y teimladau mwyaf heddychol a brawdol. Tystiai Mr. Ellis, ar lan bedd Mr. Roberts, Plasynbonum, na bu yr un gair o gamddealldwriaeth rhynddynt yn ystod y deunaw mlynedd y buont yn cydweinidogaethu yn Nhre'rddol. Aeth yr ystafell gyntaf a roddwyd gan Mr. Edwards, Penybont, yn fuan yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd un arall, eangach, a llawer mwy cyfleus, a dodrefnwyd y lle gan y gynnulleidfa unol, ac yn ol argoelion presenol, bydd raid cael pabell helaethach yn fuan etto. Bu Mrs. Davies, Penlan, yn golofn gref i'r achos yma o'i gychwyniad. "Mam yn Israel," ydoedd hi, ac yn ei gofal a'i thynerwch anaml y ceid ei chyffelyb. Da genym fod ei hesiamplau yn cael eu dilyn gan ei merched. Cafodd yr eglwys yma golled fawr yn symudiad Mr. Morgan Edwards, Ucheldre. Yn Maentwrog, Cynwyd, ac yma, profodd ei fod yn gwir ofalu am achos y Gwaredwr; ond er colli ffyddloniaid, y mae yma etto ffyddloniaid yn aros. "Heddwch fyddo o fewn dŷ ragfur, a ffyniant yn dŷ balasau.'

Nodiadau

[golygu]
  1. Llythyr Mr. T. Davies, Llandrillo,