Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Glyndyfrdwy
← Tre'rddol | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Adolygiad Sir Feirionnydd → |
GLYNDYFRDWY.
Nid oedd un lle o addoliad gan yr Annibynwyr o Gorwen hyd Langollen, ac fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, ac amryw o aelodau a gwrandawyr perthynol i'r enwad yn myned i'r ardal i fyw, meddyliwyd y dylasid cychwyn achos, a chodi capel yma. Dechreuwyd pregethu yma mewn anedd-dai, ac yn achlysurol yn nghapeli enwadau eraill yn yr ardal.
Y rhai mwyaf gweithgar y tu allan i'r ardal yn y gorchwyl oedd Mr. J. Lewis, Corwen, a Mr. T. Davies, Llandrillo, ond bu cyfundeb y sir yn dra chefnogol i'r amcan, a rhoddodd athrawon a myfyrwyr athrofa y Bala help effeithiol er sefydlu achos yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu gan y Milwriad Tottenham, am 14p. Cynlluniwyd y capel gan Mr. S. Evans, Llandegle, a chostiodd yr adeilad 400p. Mae wedi ei gyflwyno i John Jones, Robert Ellis, Humphrey Ellis, Michael D. Jones, John Lewis, Samuel Evans, John Peter, Thomas Davies, Hugh Jones, Robert Evans, Robert Jones, a Hugh Eastick, fel ymddiriedolwyr. Agorwyd y capel Mai 27ain, 1869, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Thomas, Bangor; E. Evans, Caernarfon; M. D. Jones, Bala; J. Rowlands, Rhos, ac eraill. Nid oedd yma ond ugain o aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys gan Mr. Lewis, Corwen, ond y mae yn myned rhagddi yn raddol, a baich y ddyled agos oll wedi ei symud. Mae y lle heb weinidog er ymadawiad Mr. Lewis i Birmingham, ond y mae y gweinidogion cylchynol, a myfyrwyr y Bala yn barod bob amser i gynorthwyo yr achos yma. Y mae agoriad y chwareli yn y gymydogaeth yn argoeli yn ffafriol i ddyfodol y lle hwn.[1][2]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Yr ydym yn ddyledus i Meistri H. Ellis, Llangwm; T. Davies, Llandrillo; W. Davies, Bethel; R. Owen, Tŷ'nycelyn; J. Jones, Llangiwc; J. Lewis, Birmingham, a T. Prichard, Plasyndinam, am lawer o ddefnyddiau hanes yr eglwysi o Rhydywernen i Glyndyfrdwy, ac o Landrillo i Bettwsgwerfilgoch.
- ↑ Dylasem grybwyll hefyd yn nglyn a Phenstryd, am ddau bregethwr arall a godwyd yno, sef John Gwilym Roberts, brawd Robin Meirion. Bu yn athrofäau y Bala, ac Airedale. Urddwyd ef yn Lloegr, ac y mae yn awr yn Howden, Yorkshire; ac Ellis Jones, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddar, ac y mae fel y deallwn, wedi derbyn galwad o Langwm, Gellioedd, a Phentrellyncymer. Gadawyd y cyntaf o'r ddau allan gan yr Argraffydd, ac ar ol gweithio hanes Penstryd, yr anfonwyd i ni enw yr olaf. Yr ydym mor ofalus ag y gallom, ond y mae rhai gwallau yn diangc er i ni wneyd ein goreu, Cywirir y cwbl y deuwn i wybod am danynt mewn Attodiad yn niwedd y gwaith.