Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd/Amseryddiaeth i'r Traethawd
← Rhagdraith | Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd gan David Morgan, Llangeitho |
Y Traethawd → |
AMSERYDDIAETH I'R TRAETHAWD.
O. C.
78 Julius Agricola yn dyfod drosodd o Rufain, ac yn adeiladu Loventium.
400 Gwenfyl Santes yn byw tua'r amser hwn.
500 Sylfaeni eglwys Llangeitho, gan Ceitho.
519 Ceitho, fel y bernir, yn myned gyda St. Dyfrig o Landdewibrefi i Ynys Enlli.
600 Eglwys Llangeitho yn cael ei chyflwyno i Ceitho.
Seiriol a Brothen yn teyrnasu ar Geredigion.
1500 Gruffydd Voel yn byw yn Nghastell Odwyn.
Rhydderch y Bardd yn byw yn Nglyn Aeron.
1600 Dafydd Jones yn byw yn Llwynrhys.
1689 Helaethu tŷ Llwynrhys ar draul y gynulleidfa, er cael
ychwaneg o le i addoli.
1700 Hen gapel Gwenfyl yn syrthio.
1713 Geni y Parch. Daniel Rowlands y diwygiwr.
1731 Y Parch. Daniel Rowlands, tad Mr. Rowlands y diwygiwr, yn marw .
1740 Tua'r pryd yma, fel y bernir, y cadwyd y Gymdeithasfa gyntaf yn Llangeitho.
1748 Iarlles Huntingdon, &c., yn ymweled â Llangeitho.
1753 Adeiladu capeli yn Llwynpiod a Blaenpenal ar draul y
gweinidog, y Parch. Philip Pugh.
1757 Y Trefnyddion Calfinaidd yn cyd-addoli gyntaf yn mhentref Gwenfyl, mewn hen ysgubor.
1760 Adeiladu y capel cyntaf ganddynt yma.
1763 Y Parch. Daniel Rowlands yn cael ei droi allan o'r Eglwys Sefydledig.
1764 Adeiladu yr ail gapel yma.
1781 Y trydydd diwygiad crefyddol yn Llangeitho. Nid yw dyddiadau y chwech ereill genym, y rhai a gymerasant le yn amser Mr. Rowlands.
1790 Mr. Rowlands yn marw.
Y diwygiad cyntaf ar ol ei farwolaeth .
1796 Eto.
1804 Eto.
1811 Eto.
1812 Eto.
1813 Dechreu adeiladu capel presenol Llangeitho, a'i orphen 1815.
1819 Adeiladu Eglwys Blwyfol bresenol Llangeitho.
1824 Diwygiad crefyddol eto.
1832 Eto.
1853 Sefydlu y Llythyrdy cyntaf yn Llangeitho.
1855 Sefydlu Cymdeithas Lenyddol yma.
1859 Diwygiad crefyddol eto.