Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd/Rhagdraith
← Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd | Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd gan David Morgan, Llangeitho |
Amseryddiaeth i'r Traethawd → |
RHAGDRAITH.
WRTH gyflwyno y Traethawd hwn i sylw y cyhoedd, dymunem hysbysu mai ar gais lluaws y gwneir felly. Wrth ei gyfansoddi fel Traethawd Cystadleuol, nid oedd ynom yr un bwriad i'w gyhoeddi; ond beiddiwn ddywedyd, oni bai i ni wneuthur felly, aethai llawer o hanes hen Langeitho hynod ar ddifancoll. Yr un pryd, y mae'n ddrwg genym am na buasai rhywun cymhwysach wedi cymeryd y gorchwyl mewn llaw.
Ceir peth o'r hanes, mae yn wir, yn " Methodistiaeth Cymru ," i'r hwn yr ydym yn dra rhwymedig am y cymhorth a gawsom yn nygiad hwn yn mlaen ; ond y mae y llyfr gwerthfawr hwnw allan o gyrhaedd y cyffredin.
Nid ydym, er hyny, mor benfeddal a meddwl nad oes lluaws o wallau yn hwn, y rhai y gall llawer eu gweled heblaw y dysgedig. Derbynied ein cyfeillion, nid gwiw eu henwi, ein diolchgarwch am eu cynorthwy.
D. MORGAN.
- Llwynderw,
- Llangeitho, Gor. 7fed, 1859 .