Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon/Arweiniol

Oddi ar Wicidestun
Darluniau Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon

gan William Hobley

Moriah

HANES METHODISTIAETH ARFON.


CAERNARVON A'R CYLCH.


ARWEINIOL.[1]

YSTYRRIR yr enw Caernarvon yn un o'r rhai tlysaf o ran sain ymhlith enwau lleoedd. Dodir y v Seisnig yn lle'r f Gymreig yn yr enw, fel y gwna'r beirdd yn eu henwau hwy, yn un peth am yr ystyrrir ef yn glysach felly. Rhed llinell yr enw ymlaen oddi wrth y brif lythyren yn wastad-lefn fel milwyr mewn rhenc. Ac nid llai tlws na'i henw yw gosodiad y dref ynghanol swyn a rhamantedd natur. Y mae wedi ei dodi wrth aber yr afon Saint, rhwng y Saint a'r ffrwd Cadnant neu afon Felin y dref, er fod y ffrwd honno bellach yn rhedeg o'r golwg wrth fyned drwy ganol y dref fel y mae'n bresennol. Y mae'r afon Fenai yn ei man lletaf gyferbyn a'r dref, ac o'r cei fe edrychir ar hyd yr afon hyd at y bau, a chyda'r môr agored ymlaen y mae'n olygfa hardd, amrywiol, yn enwedig at adeg machlud haul. Y mae llun y coed ar y naill ochr i'r aber, a Thwr Eryr ar yr ochr arall, fel y gwelir hwy yn y dwfr gwyrdd, llonydd, ynghyda llun y gwylanod yn ymdroelli oddiarnodd, ac fel yn camgymeryd llun y nef am y nef ei hun, yn un o'r pethau mwyaf cyfareddol mewn golygfa. Fe barodd edrych ar y lluniau hyn yn y dwfr, ar ddiwrnod tawel, braf, i'r Parch. Evan Jones sylwi wrth ei gydymaith ar y pryd ar gywreinrwydd anhraethol natur. Y mae cyfoeth dirfawr yn y golygfeydd o amgylch y dref, fel y gwelir hwy o'r cei, wrth yr aber, wrth lannau'r Fenai, o dyrau'r castell, o ben Twtil, o Goed Alun, o'r Caeau bach a Phenbrynmawr, a mannau eraill. Fe geir golwg ardderchog o ben Twtil ar fynyddoedd yr Eryri, yn un rhes hirfaith, gadwynog, amlweddog, wrth oleu dydd yn rhoi argraff o arucheledd maith, ac wrth oleu lloer yn yr hwyrnos. serenog, argraff o dawelwch aruthr; a phan y cymerir i fewn i'r olygfa y castell gerllaw, a chysgod Coed Alun ar y dwfr, a'r Fenai hefyd a'r bau, yna y mae'r argraff, ar ambell dymer ar y meddwl, yn cynghaneddu âg ambell awr euraidd neu awr arianaidd yn natur, yn un o gyfaredd annaearol. Heb drosglwyddo'r gyfaredd honno yn deg i'w eiriau, fe ganodd bachgen a anwyd yn y dref fel hyn am yr olygfa:

Mor fwyn, ym mro fy annedd,
Yw'r mis hwn a'i rymus hedd!
Cyrdyddog gorau diddan,
Ar faes a geir fis y gân.
Y ffrwd a sibrwd ei sain
Ar y cerryg gro cywrain;
Ymolwyno mawl ennyd,
Ar flaen nant, mae'r felin ŷd;[2]
Tyllog gaer yw'r castell cu,
Uwch bonedd, yn chwibanu;
I'w hynt swn gwynt sy'n gantor,
A seinio mwyn sy'n y môr.
O lawr y werdd ddôl a'r wig
Ac o'r meusydd ceir miwsig
A braint hardd yw bryniau têg
Twyn y werthyd, tan wartheg
Ond y mynydd sydd o'i sang
I'r wen awyr yn eang ..
Man hyn mae dernyn o dir
Cu'n ei fodd, lle canfyddir
Dyfnder ac uchder gwychdod.
Fwy na rhif o fewn y rhôd.
Mae'r olwg mor ehelaeth,
A'r pyncio'n ffrydio mor ffraeth;
Mae'r bêr rodfa mor brydferth,
A haul nawn yn ei lawn nerth;
Mae y llawn-fyd meillion-fawr
Dan wên fwyn a dyn yn fawr;
A phob rhan o'r cyfan cu,
Oll yn iach i'n llonychu;
Nis gall bardd, pe'n brifardd bro,
Hyd i'r lan eu darlunio:—
Maint llai y tynnai at ol
Nef seirian anfesurol.

Diau i'r castell adael ei argraff ar lawer meddwl, wrth

edrych arno yn ymestyn ac yn ymgau ac yn ymwau drwy ei gilydd, fel y canfyddir ef o wahanol gyfeiriadau, ac ar wahanol dymorau a phrydiau. Y mae arlunydd a fagwyd yn y dref er yn ieuanc, sef Mr. S. Maurice Jones, wedi cyfleu ei wahanol ymddanghosiadau drwy gyfrwng cryn liaws o wahanol arluniau. Y mae ei arlun ohono wrth oleu'r lloer, yn enwedig, yn cyfleu syniad newydd am ei fawreddusrwydd. Ymhlith eraill, fe dynnwyd arlun ohono gan Turner, mewn dull nodweddiadol, gan gyfleu syniad cwbl newydd i'r meddwl am dano. Bu'r Dr. Samuel Johnson yma yn 1774, a'i sylw ef arno ydoedd: "Ni feddyliais fod y fath adeiladau: aeth tuhwnt i'm. syniadau." (A Journey into North Wales, 1816, t. 106.) I'r meddwl paratoedig mae'r argraff yn un anarferol. Bu Fferyllfardd yn y dref yn brentis, a dyma'r argraff arno ef:

Islaw braich cesail y bryn
Hen gastell llwydfrig estyn
Ei fysedd didwrf oesawl,
A'i fri gynt rhyngwyf a'r gwawl,
Mewn llais taw, ac etaw c'oedd,
Yn siarad hen amseroedd.

A dyma enghraifft fechan arall yn dangos y modd y cysyllta'r castell yr oesau wrth yr olygfa:

Ac ar un twr, cywraint yw
Y rhuddiog Eryr heddyw.
Eithaf rhwym yw nyth y frân,
Ar dyrau lle bu'r darian.

Ac am y môr, hefyd, a'r llongau hwyliau, fel y gwelid hwy'n amlach gynt, a'r awelon yn eu bolio allan, y dywed yr un bachgen ag y cyfeiriwyd ato o'r blaen:

Mwyned i'm, yn ei dymor,
Is gwawl maith, yw sigl y môr
Heinif lengoedd nawf longau,
A dawns sydd yn cydnesau;
A llengoedd a ollyngir,
I'w llon daith allan o dir.
Banerog a hwyliog ynt
Mawreddog yw'r môr iddynt.

Del iawn yw'r cychod pysgota dan eu hwyliau, oedd amlach hwythau gynt, debygir; a thlws dros ben yr yachts, sydd hwythau'n anamlach; a mawreddus yr olwg arnynt yr hen longau hwyliau mawrion gynt, ac yn deffro meddyliau anturus ym mynwesau lliaws o hogiau'r dref yn yr olwg arnynt yn wynebu'r mór eang â'u nod ar y porthladdoedd prydferth yng ngwledydd yr haf. Fe deimlid serchowgrwydd neilltuol gynt. tuag at y capteniaid llongau, ac enynnid dyddordeb neilltuol ynddynt, yn enwedig yn y rhai ohonynt a gymerai ran yn y moddion cyhoeddus. Yr oeddynt yn ddynion wedi wynebu peryglon, wedi gweled rhyfeddodau, wedi sefyll yn wyneb temtasiynau. Fe geir engraifft o'r hoffter o'r capten llong yn y modd mae Mr. David Jones yn enwi y naill gapten ar ol y llall o blith arwyr ei ieuenctid yn eglwys Engedi. Y mae lleihad. y llongau wedi lleihau y teimlad. Yr oedd brodor o'r dref, hyd yn ddiweddar, yn gapten un o'r llongau mwyaf ar foroedd y byd heddyw. Onid gresyn colli'r "breath of ozone" o'r cyfarfod gweddi a'r seiat?

Golygfa effrous ydyw'r môr wedi bod i hogiau'r dref ar adeg pen llanw, pan y cyfyd ei donnau'n uchel ac y teifl y diferion trochionnog dros y cei, ac y llunia'r haul yntau am ambell darawiad amrant gwynfydig fwa ysblennydd drostynt. Yn gwta y cyfleir yr argraff o ddirgelwch yma:

Ac iachus fawreddus rodd,
Yw'r tonnawg fôr o tanodd :
Er mai blwng a ffrom yw bloedd
Twrf ei gynnwrf i gannoedd,
Poerwr hallt yn puro'r hin,
Yw y gorwyllt fôr gerwin.

Nid heb eu dylanwad ychwaith y bu ehediaid yr awyr, brain Coed Alun, y Penrhos, a'r coed gynt gyferbyn a'r gwesty brenhinol; a'r colomennod dieithr, clysion, gyda'u grŵn isel yn y colomendy gynt o dan y coed hynny; a'r paunod gynt a rodiennai o amgylch y gwesty, ag y byddai eu hysgrech hirllais yn glywadwy ar brydiau hyd at Ben deitsh ac ymhellach; a chawciod y castell, onid oeddynt amlach gynt? ac ystlum y nôs; y gwylanod, hefyd, a'r bili dowcan ar y bwi gyda'i adenydd yn agored neu ynte yn nofio ar wyneb y dwfr, yna'n plymio'r dyfnder, yn codi'r leden neu'r yslywen o'r gwaelod, yn eu cnoi'n hamddenol, gan eu tynnu i fewn i'w gylfin. O'r rhain i gyd y paunod yn unig a gipiodd crebwyll Robyn Ddu ymaith yn ei Olygfa, a fwriadai yn ddrych o ryfeddod o'r dref a'i hamgylchoedd. Gwir fod yr adar dofion ganddo a'r adar perorus: ceir hwy ym mhob ardal: ei gylch ef oedd y swyn cartrefol ac nid y gwylltineb syn. Rhoes awgrym i feirdd ieuainc y dref: ac yr ydym yn aros am y tafod a faidd fynegi'r dirgelwch, agored i ni i gyd. Hyd hynny, dyma'r peunod a'u gwers:

Yntau'r balch, y Paun, trwy bwys,
I'w wisg emawg, sy gymwys;
Is crochlais dai'r ysgrechllyd
Hwn, yn gorff Hunan i gyd;
Lliwiog, llygadog ydynt
Ei blyf gwib i hylif gwynt ;
Ei donllyd gynffon danlliw,
A'i wydrog wedd sy dra gwiw;
Fel fy rhes aflafar hon
Y rhodianna rhai dynion.

Y mae gerbron ddalen o ysgrifen, gwaith gwr a fagwyd yn y dref, yn rhyw goffa o ddylanwad y diwygiad diweddaf, ac a ddengys nad cwbl fud yw gwylanod y môr wedi bod yn y cylch yma. Y mae'r fyfyrdraith yn un hynod braidd a go faith, ond meiddir ei dodi ger gwydd y darllenydd: "Aethum am dro brynhawn echdoe dros yr aber a'm' meddyliau am addoliad,' fel mynyddoedd Islwyn, canys nid hawdd peidio â bod felly yn hollol yr amseroedd yma. Mi gefais fy hun wedi myned. braidd ymhellach na'm bwriad, a dechreuwn glywed swn dieithrol yn dygyfor yn y pellter. Mor o swn isel,' ebwn ni wrthyf fy hun—nid angylaidd fôr o addoliadol swn,' megys y mae'r ymadrodd gan Islwyn eto; ond môr o isel swn yn graddol godi'n uwch uwch fel y neswn ato, sef swn gwylanod y môr, fel y deallais yn y man. Yr oedd yn gymysgfa ryfedd,—gwich a gwawch, ymdderu ac ymddygwd, clebar a chlochdar, a seiniau nad oes dim geiriau i'w cyfleu. Yr oeddwn yn eu golwg yn union: yr oeddynt yn llond y culfor y tu yma i'r Belan sy'n mynd i gyfeiriad Dinas Dinlle, oddieithr yn y ddau ben, ac am beth ffordd oddiwrth y glanau. Yr oedd y llanw fwy na hanner i fewn. Rhyfeddwn yn yr olwg ar y fath nifer. Gwylanod oeddynt yn bennaf, ond gyda'r adar môr eraill a geir y ffordd yma yn eu plith. Rhennais hwy yn fy meddwl yn wyth ran, a phob rhan yn wyth arall, a phob un o'r rheiny yn wyth arall drachefn; a chefais fod oddeutu 150 yn un o'r rhannau hynny, heb eu bod yn amlach yno nag mewn lleoedd eraill, a chasglwn fod yno dros 70,000 ohonynt. Nifer aruthrol!—a bum yno yn hir yn ameu golwg fy llygaid fy hun. Ond hynotach na'r nifer oedd y swn, a'r ysbrydiaeth hefyd, i'w alw felly, a ymddanghosai yn eu rheoli. Yr oedd rhywbeth neu gilydd wedi digwydd!—yr oeddynt i gyd yn tuchan y naill wrth y llall. Yma ac acw dros y maes gwyn i gyd, gwelid rhyw un neu gilydd yn codi o'r dwfr, yn ysgwyd ei haden yn gyffrous, yna yn taflu ei hunan i'r dwfr gyda rhuthr—nid yn disgyn yn esmwyth arno fel pluen o un o'i hesgyll hi ei hunan; ac ar yr un pryd yn clochdar yn y modd mwyaf cyffrous,—gbo, gbo, gbo, gyda'r b yn o ysgafn, a swn tebyg i ddwfr yn dod allan o wddf potel, ond gyda naws ynddo o anferth duchan. Nid oeddwn yn gwbl sicr am y seiniau chwaith gan faint y dadwrdd; ar draws yr gbo, gbo, gbo, fe ddeuai gwichiadau a gwawchiadau anhraethol, anherfynol. Tarawodd i'm meddwl gydag argyhoeddiad mai'r achos ydoedd canu a gorfoleddu y cynulliadau ym Môn yn yr awyr agored yn ystod y diwygiad, yr olaf ohonynt drosodd ers ychydig ddyddiau bellach. Nid oedd dim o fath hynny wedi digwydd yn hanes y byd o'r blaen. yn y parthau yma: cynulliadau mor fawrion, a chymaint o ganu a gwaeddiadau cyffrous yn parhau gyhyd o amser. Yr oedd canu'r diwygiad wrth godi i'r awyr wedi cyffroi ysbrydion yr awyr; yr oedd y cynnwrf hwn oherwydd aflonyddu ar yr adar yn eu tiriogaeth eu hunain. Naill ai yr oeddynt yn tuchan oherwydd aflonyddu arnynt, ac yn ameu bod amcan drwg mewn bwriad tuag atynt; neu ynte yr oeddynt yn dynwared y cynhyrfiadau yn eu ffordd eu hunain. Methwn yn lân a phenderfynu prun. Ond mai'r naill neu'r llall ydoedd, neu ynteu'r naill ynghyda'r llall, nid oedd ynof unrhyw amheuaeth. Anrhaethol oedd yr argraff o ddieithrwch a dirgelwch ac ofnadwyaeth ar fy meddwl! Mi hoffaswn fod wedi aros yno yn hir, cyhyd a hwythau, ond nis gallaswn. Yr ydoedd hanner awr yn gymaint a fedrwn ddal, ac aethum ymaith â'm natur yn dirgrynu gan y dylanwad, oedd mor ddieithr a llethol i mi. Gorfoledd y diwygiad: ysgrechiadau ac ysbonciadau y gwylanod! Pa fodd i'w cynghaneddu? Credu yr wyf mai ochenaid y greadigaeth am ymwared oedd yn glywadwy yma. O'r naill du nid oedd yma. ddim rhegfeydd,—mor bell ag y gallaswn wneud allan,—dim rhwygo'i gilydd; o'r tu arall dim O diolch!" dim 'Gogoniant!' dim Haleliwia!Ar y ffordd i'w rhyddid y maent,' ebwn ni wrthyf fy hun: Canys ni a wyddom fod yr holl greadigaeth yn cydocheneidio ac mewn cyd—wewyr esgor hyd y pryd hwn. Gbo, gbo, gbo, gwich, gwawch, a seiniau nad oes dim cyflead iddynt yn llythrennau'r wyddor, er fod y Gymraeg yn well na'r Saesneg yn hynny. Wrth wrando ar y swn yn unig heb sylwi ar yr ystyr, nid cwbl anhebyg ydoedd y cyfarfod hwnnw yn y Pavilion. Ond ar y gwaelod hwnnw o ochneidiau ac aflafareiddiwch yn y Pavilion, fe ymddyrchafai ryw adeilwaith o ddyhead a mawl ysbrydol. O diolch!—Achub!— Trugarha!—Bendigedig!—Awr o dy gymdeithas felys!—Gogoniant!—Maddeu i mi am dreulio fy amser yn y lleoedd gwaethaf yn Nerpwl—Diolch!—Bendigedig !—Diolch i ti am fy mod yn gallu credu fod fy mam yn fy ngweld rwan allan o'r nefoedd! Gogoniant !—Haleliwia!' Ar glawr y gwylanod nid oedd dim ond och a thuchan: ar glawr pobl y Pavilion yr oedd dyhead a phrofiad yn hedeg ymaith ar aden eu hochenaid. Nid yw ochenaid y greadigaeth ond ei haidd am ddatguddiad meibion Duw. Etyb y greadigaeth i'r eglwys: fe'u gogoneddir ynghyd. Fel yr awn ymaith mi sylwn ar y gwylanod yn parhaus ddod allan o'r anweledig, yn ysmotiau duon yn cynyddu fwyfwy, o gyfeiriad Porthaethwy a Chaergybi a'r Eifl a Phorthdinllaen, yn ymestyn ac yn ymgyrraedd am fod yn y gorfoledd mawr, neu wrth pa enw bynnag arall y gelwid ef. Rhwydd hynt iddynt i'w pennod!" Ar y darlleniad cyntaf ar y truth go ryfedd yma, meddyliodd golygydd hyn o waith am eiriau Newman, nad ydym ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd pa beth yw'r creaduriaid o'n hamgylch. Ac ar unrhyw olwg, fe ddengys y dernyn uchod nad yw'r creaduriaid ddim. yn gwbl heb eu neges atom, a honno'n neges bwysicach, feallai, na feddyliodd ambell un go ddiawen. Ac os mynnir myned i fewn i holl ddirgelwch y dylanwadau ar feddyliau hogiau'r dref, dealler fod a fynno'r gwylanod hefyd rywbeth â hanes yr achos; a chymerer hanes y gwylanod hyn fel rhyw enghraifft o'r hyn sydd i'w draethu, er ar ddulliau llawn amrywiaeth, am y cylch o ryfeddod am y dref—y môr o wydr wedi ei gymysgu â thân.

O ba le bynnag y tardd y dylanwad hwnnw, y mae'n ddiau fod rhywbeth priodol iddi ei hun yn nylanwad y dref ar ei bechgyn. Craffer ar yr enw cynhesol a roir gan fechgyn y dref ar ei gilydd-" hogiau'r dref." Tebyg fod y dylanwad yn un cymhleth, yn cynnwys y golygfeydd, yr hynafiaethau, a'r dylanwadau cymdeithasol. Dyfynnir yn Old Karnarvon (t. 137), linellau o eiddo brodor o'r gymdogaeth, sef caplan i William Thomas, yn amser y Frenines Elizabeth, sef sylfaenydd teulu Coed Alun:

Dyn wy'n byw, drwy nerth y Tad, ymhell o'r wlad yn estron,
Wyf ofalus (a phaham?) o hiraeth am Gaernarvon. . .
Hoff yw gennyf enwi mro, caiff filoedd o anerchion :
Anwyl ydoedd unrhyw ddydd, ac eto fydd Caernarvon. . .
O Landwrog (mawr yw mriw!) a throedle gwiw Glynllifon,
Yno'n fynych mynnwn fod,-tydi piau clod Caernarvon. . .
Syr Sion Gruffydd, ymhob sir, y'm gelwir, heb orchestion.
Ewch yn iach dan un i gyd, nes del fy ngwynfyd weithion,
O drugaredd y Mab rhad, a gweled gwlad Caernarvon.
Yn iach eilwaith, un a dau, gan wylo dagrau gloewon;
Yn iach ganwaith, fawr a bach, ac eto yn iach, Gaernarvon!

Yr oedd yr hen dref ar goryn bryn, rhyw chwarter milltir o ganol y dref bresennol ar ffordd Beddgelert. Dyma ydoedd Segontium y Rhufeiniaid a Chaer Saint yr hen Gymry. Y mae muriau yr hen dref yn aros o hyd mewn rhan. Yn ddiwedd- arach, gerllaw eglwys Llanbeblig, y codwyd Cae'r Sallwg, Cododd Hugh Fleddyn, iarll Caer, gaer ar safle'r dref bre- sennol yn 1098. yn 1098. Ceir yr enw Caernarvon gan Gerallt Gymro yn 1188. Tybir gan rai i Iorwerth II. gael ei eni yn y castell yn 1284; tybir gan eraill mai prin y gallasai muriau'r castell fod wedi eu hadeiladu erbyn hynny.

Y mae'r dref o fewn y muriau, sef fel yr ydoedd ar y cyntaf, ar ffurf betryal, y castell i'r de, a chaerau gyda thyrau arnynt ar yr ochrau eraill. Erys y muriau, oddieithr lle torrwyd hwy i lawr er mwyn cyfleustra masnach, sef wrth Pen deitsh a'r Guild Hall. Yr oedd i'r dref dair heol wedi eu croesi gan dair eraill. Y mae un ohonynt bellach wedi ei chau mewn rhan, sef yr un a red gyferbyn ag Eglwys Fair. Rhed y brif heol rhwng y Porth mawr a Phorth yr aur; ac ar ganol honno, lle cyferfydd Heol y castell â Heol y farchnad, yr oedd y Groes gynt, megys yn yr hen drefi i gyd. Tynnwyd y Groes i lawr yn y rhan fwyaf o lawer o leoedd ar ol y Diwygiad Protestanaidd. Gresyn, er hynny, oedd anharddu y cynllun cyntefig hwn. Sylwir gan Owen Williams yn ei Eirlyfr, fod tref fechan hardd, drionglog o ran ffurf, wedi ei hadeiladu yn ystod 1815-35, yn ymestyn oddiwrth y tai a wyneba'r maes yn ei ran isaf hyd y Royal Hotel.

Bu yma amryw hen blasau, a rhai ar gynllun gwych, megys y Plas Mawr, a dynnwyd i lawr oddeutu 85 mlynedd yn ol. Dywedai H. Longueville Jones, beirniad teilwng ar y pwnc, gan ysgrifennu yn 1829, ei fod o ran oedran a chynllun yn cyfateb i'r palas clodfawr yng Nghonwy. Y tŷ hwn a roes ei enw i Heol y Palas, a safai lle mae'r farchnad yn awr. Ni chynwysai'r heol yn 1788 ond 16 o dai, a £50 15s. oedd cyfanswm y rhent. Rhent y Red Lion y pryd hwnnw ydoedd £4 10s. Codwyd tri o dai ar ei safle, ac yr oedd y rhenti arnynt ychydig dros 30 mlynedd yn ol yn £130. Erys rhai o'r hen dai hyn o hyd, ond gyda chyfnewidiadau ynddynt, megys Porth yr aur, preswylfod Mr. R. D. Williams; Plas Bowman, offis y llys sirol; Plas Llanwnda yn Heol y castell, preswylfod gaeaf R. Garnons, y sonir am dano ym Methodistiaeth Cymru; Plas Spicer yn Heol yr eglwys, lle saif rhif 4 yn awr; Plas Pilston, sef y Red Lion wedi hynny; Plas Isa, yn ymyl y Dollfa. Hendref y gwr boneddig ydoedd y rhai'n ar un adeg, pryd yr oedd yr hafod yn y wlad. Pe buasai nifer o'r hen dai hyn wedi eu harbed, yn eu ffurf gyntefig, hwy a arosasent yn wers i'r llygaid o wir brydferthwch mewn adeiladwaith.

Ynghanol y ddeunawfed ganrif yr oedd yn dymor o galedi mawr yn sir Gaernarvon, a bu pobl o'r wlad yn dod i'r dref yn llu gyda'i gilydd gyda'r amcan o gymeryd meddiant ar yr yd oedd wedi ei ystorio yn y dref. Fe welir yn Llythyrau y Morrisiaid ddau gyfeiriad at y cynhyrfiadau hyn. Dyma un ohonynt: "Chwefror 13, 1758: Bu ryfel yr wythnos ddiweddaf yng Nghaernarvon. Y mob a ddaethant o'r chwarelydd a'r mwngloddiau, ac a aethant i'r gaer, ac a dorasent ystorsau ac a werthasant yd, menyn a chaws am iselbris, yno meddwi a chware mas y riwl. Codi a orug y Caeryddion yn eu herbyn mewn arfeu, lladd un, anafu eraill, carcharu rhyw fagad, a gyrru'r lleill ar ffo. Rhaid i'r Ffrench ddyfod i'n hymweled i Frydain, i edrych a wna hynny ein cytuno â'n gilydd; ni bu erioed y fath wallgofiad ar bobloedd." Yn llythyr William at Richard Morris y ceir hyn. Ceir hanes manwl yn Old Karnarvon am "ryfel" gyffelyb yn Ebrill, 1752.

Dengys yr hanes uchod gyflwr y bobl yn y cyfnod hwnnw, a'u golygu ar wahan i gysylltiadau crefyddol. Gellir cael golwg arnynt yn yr un cyfnod mewn cysylltiad mwy uniongyrchol â chrefydd drwy gyfrwng llythyr a ysgrifennwyd gan William Edwards, ysgolfeistr, at ysgrifennydd ymddiriedolwyr ysgol Dr. Daniel Williams yn y dref. Rhoir dyfyniadau o'r llythyr. "Ionawr 3, 1744. Yr wyf y dydd heddyw i ymddangos yn llys yr esgob ym Mangor. Mr. William Williams, vicar Llanbeblig a Chaernarvon, sydd wedi fy rhoddi ynddo o achos fy ysgol. . . Dywedodd, chwi a ddygasoch ddieithriaid i'r dref.... Y dieithriaid hyn oedd ddau weinidog ymneilltuol o sir Drefaldwyn, sef Mr. Lewis Rees Llanbrynmair a Mr. Jenkin Jenkins Llanfyllin, yn myned i sir Fon i bregethu. . . Cymerodd rhai gelynion sylw o hyn.... Aethant a dywedasant y chwedl i'r vicar, a chododd yntau dorf afreolus i fyned i chwilio am y pregethu, a gwnaethant ddigon o ddrwg mewn amryw fannau, megys torri tai a churo pobl. . . . Mae y dyn yma yn amcanu fy ninistr. Mae ef a'r canghellydd newydd yn meddwl diwreiddio crefydd allan o'r wlad. Ysgymunodd y canghellydd ddyn ieuanc defosiynol a duwiol, aelod o'n cynulleidfa ni, am ddysgu pobl i ddarllen Cymraeg. Mae y vicar yma a'r canghellydd newydd a holl bersoniaid a churadiaid y wlad, yn pregethu erledigaeth hyd y gallant, ac yn gosod pobl grefyddol allan yn y ffurf dduaf a gwrthunaf sydd yn bosibl iddynt, fel y casaer ac yr erlidier hwy. Maent wedi rhoddi yr holl wlad ar dân mewn poethder berwedig, fel nad oes dim llonydd i'w gael, ond dirmyg a chenfigen a malais a difenwad. Curir a baeddir pobl ar y ffordd fawr. Mae arnaf arswyd am fy mywyd, os af i rywle allan o'r dref. Y Methodistiaid y rhai a ddaethant i rai parthau o'r wlad sydd wedi achosi hyn oll; oblegid y mae y rhai a ddeffroir ganddynt yn syrthio ymaith ac yn ymuno â ni, ac y mae hynny wedi gwneud y clerigwyr yn wallgof yn eu herbyn hwy a ninnau. Yr ydym ni a hwythau yn cael ein cyfrif yr un peth. Mae y clerigwyr wedi gyrru y wlad yn wallgof a gwaith gwallgof a wneir ganddynt. Beth bynnag a wnant hwy i ni, ni chawn na chyfraith na chyfiawnder gwnawn a fynnom; ac y mae y werin afreolus, wedi deall hynny, yn ymhyfhau yn fwy i wneuthur unrhyw ddrwg a fynnant." (Hanes Eglwysi Anibynnol iii. 235.)

Clywodd Mr. R. R. Jones (Penygroes) Martha Gruffydd, nain yr hynafgwr Owen Prichard, a fu yntau farw rai blynyddoedd yn ol, yn adrodd yr hyn a gofid ganddi am arfer bechgyn ieuainc ar y Suliau. Elent yn lled lwyr ynghylch eglwys Llanwnda, a byddai rhai yn myned i'r gwasanaeth. Honno ydoedd yr eglwys agosaf i drigolion y Bont. Ar ddiwedd y gwasanaeth rhuthrai y llanciau allan gan daflu'r bel o'u blaen, ac yna byddai'r lleill o'r tuallan yn ymuno yn y chware. Ar Suliau braf cadwai'r person gyfrif y pleidiau.

Yr oedd y Bont ei hun hyd ymhell i mewn i'r ganrif ddiweddar yn gyrchfan nodedig i ymladdwyr y cymdogaethau. Sonir am un gwr a darawodd ei gyd-ymladdwr yn farw ag un ergyd. Yr oedd ffair llogi'r Bont ar un adeg yn nodedig am ei gwylltineb a'i chynnwrf. Ac hyd yn ddiweddar yr oedd y lle nid yn anhynod am ei poachers. Yr oedd amryw o'r gwyr hyn yn. ddynion o alluoedd naturiol go gryfion. "Mi fuasai'n dda. gennyf," ebe un o honynt rai blynyddoedd yn ol, "pe na thynasid fi erioed o groth gwraig." Aeth un o'r nifer, na enwir mono yma, dan argyhoeddiad, ac aeth drwy gyfnewidiad buchedd mor llwyr, fel na amheuid ei gywirdeb fyth gan neb o'i hen gymdeithion. "Dyna ddyn a gafodd dro," ebynt hwy. Darfu i un o frodorion y dref, a anwyd ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif, heb adael i'w enw ymddangos, ysgrifennu ei atgofion am y dref fel yr ydoedd yn nechre y bedwaredd ganrif ar-bymtheg. Defnyddiwyd yr atgofion hynny yn helaeth gan awdur Old Karnarvon, a chyhoeddwyd hwy drachefn yn gyflawn yn y Traethodydd am 1905. Rhoir dyfyniadau yma: "Cyfanswm y dref y pryd hynny ydoedd, gan mwyaf, tufewn i'r caerau, ac ychydig y tuallan iddynt. Yr oedd llawer o'r tai o wneuthuriad oesau blaenorol, a'u defnyddiau o goed derw plethedig â gwiail, wedi eu gorchuddio â chalch, ac yna dwbio graean arno. Yr oedd y llofftydd yn taflu allan dros. y muriau 3 neu 4 troedfedd. Yr oedd yr olwg arnynt, fel yr hen Red Lion gynt, yn barod i syrthio. . . . Yr oedd y ffenestri yn fychain, eraill heb wydrau arnynt o gwbl, ond bwrw y shutters i lawr ar ddau fraich o brennau, yn taflu allan o waelod y ffenestr. Ar y rhai hyn y byddai y siopwr yn gosod allan ei nwyddau. . . Yr oedd adeilad enwog gynt ar ben Heol y farchnad. lle y mae marchnad y cigyddion yn bresennol. Bu hwn yn adeilad ardderchog ryw oes: yr oedd wedi ei adeiladu o gerrig nadd; ond nid oedd na thô na drws na ffenestr arno; ond yr oedd ffenestri y seleri yn agored, drwy ba rai yr arllwysid ysgubion yr heolydd, a phob budreddi o'r tai. Yr oedd yn nodedig o ffiaidd i'r tramwywyr... Cynhelid y farchnad ar ganol y brif heol. O waelod yr heol i'r Porth mawr, byddai byrddau ar ganol yr heol at osod yr amrywiol nwyddau, hen wragedd Niwbwrch gyda'u basgedi cocos, y cewyll, yr afalau, &c., y cryddion â'u hesgidiau, y tatws a'r maip, &c. Byddai y menyn mewn basgedi ar risiau y siopau, eraill yn gwerthu ieir mewn basgedi, eraill wyau, a gwyddau yn eu hamser, &c. Ambell un gyda chwart neu fwy o yd, rhai flawd ceirch, &c. Ond byddai y farchnad yd yn Heol y farch- nad, a'r cigyddion ar hyd ochrau y Stryd fawr. . . . Byddai ambell un yma ac acw yn canu a gwerthu cerddi, a Pegi y Drum Major, fel y gelwid hi, gyda throell loteri, yn llefain â'i holl nerth, Hwi, lancia bach, dyma hi, troell y nain yn nyddu, dau i lawr dau yn eisieu, preis neu bres bob tro.' . . . Ceid gweled merched a phlant yn hel grug ar y mynyddoedd, ac yn dyfod yn fore i'r dref i'w werthu. Gwelid plant bychain o 6. i 7 mlwydd oed, yn dyfod yn goesnoeth droednoeth, â sypyn bychan fel nyth bran ar eu pennau i'w werthu. Ar ol cerdded dair milltir neu ragor fe'u gwerthent am geiniog neu ddwy. Nid oedd ysgolion y pryd hynny i roddi plant ynddynt. . . . Nid oedd y tý a elwid Pedwar a chwech ond braidd yn sefyll gan mor waeled ydoedd. Yr oedd y lle o'i amgylch yn ffiaidd. iawn oherwydd bod yno amryw domenydd a chytiau moch a budreddi eraill. . . . Daeth amser caled ar grefft wyr, dim gwaith braidd i neb; a bu mawr eisieu ymborth ar lawer. Pen- derfynwyd gan y Corporation roddi gwaith i'r neb allai weithio, a chariwyd y ddau faes drosodd i'r môr. Ac felly dechreuwyd helaethu y cei, a alwyd cei newydd. . . . Ar glwt y mawn [Turf Square] byddai hen wragedd o'r mynyddoedd yn gwerthu grug a mawn bob dydd. Byddai ganddynt ferlod yn cario'r mawn. Byddent yn cynnal eu marchnad yn y bore. . . . Nid oedd llythyr-gludydd amgen na bachgennyn yn myned ar ferlen am Fangor bob bore, ac yn dychwelyd at 7 yr hwyr. Nid oedd un math o gerbyd i gludo teithwyr yma a thraw; ond byddai hen wr o Danybont yn hwylio mewn cwch ddwywaith yn yr wythnos am y Borth, a thrwyn y Garth, a Beaumaris. Byddai yn angenrheidiol aros am dywydd addas cyn anturio i'r fordaith. Y tâl i Foel y don, 4c.; i'r Garth, 8g.; i Biwmaris, 10c. Byddai llythyr—gludydd sir Feirionydd yn myned fore ddydd Llun, ac yn dychwelyd nos Fawrth; ac eilwaith elai ddydd Gwener a dychwelai yn ol nos Sadwrn. . . Yr oedd yma ychydig o longau bychain, rhyw 5 neu 6 o lympiau crothog, diolwg; ni wnaent ond tair neu bedair siwrnai i Nerpwl ac yn ol mewn blwyddyn. . . . Hanner coron oedd y tâl am fyned i Nerpwl neu Gaer. Byddai weithiau brinder nwyddau masnachol drwy'r holl dref—y glo wedi darfod gan bawb drwy'r lle, dim i'w gael am arian. Dro arall byddai'r halen yn brin: yr wyf yn meddwl ei fod yn 6ch. y pwys. Yr oedd mewn rhyw ddirgel fan o'r dref nyth o smugglers a chanddynt halen, ond ni chaffai pawb ef ganddynt. Ar ol y cwbl, halen bras, addas i halltu penwaig oedd hwnnw; ond yr oedd yn dda ei gael, gan nad oedd ei well. Gwerthent ef am 4c y pwys. Byddai'r te, hefyd, yn brin yn lled fynych; ond ychydig iawn oedd yn gallu fforddio prynnu hwn, oherwydd fod y math gwaelaf ohono yn 8c. neu ragor yr owns, ac anfynych y cyfarfyddid a thecell mewn ty. Costiai pwys o siwgr o 10c. i 14c. . . . Yr oedd un o longau y llywodraeth yn hwylio rhwng yr Iwerddon a Chaergybi, a cherbyd 4 ceffyl yn cludo'r teithwyr ymlaen oddiyno at Borthaethwy, a'r cychod yn eu cario drosodd, ac yna aent ymlaen mewn cerbyd arall; fel hyn byddent ddiwrnodiau ar eu taith cyn cyrraedd Llundain." Fe gofir am y tymor a ddygir i sylw, mai cyfnod dechreuad cynnydd Methodistiaeth yn y dref ydoedd; ac os nad all y darllenydd lunio iddo'i hun ddrych o gyflwr allanol y bobl oddiwrth yr atgofion hyn, yna nid bai "un o fechgyn y ddeunawfed ganrif," fel y geilw ei hun, a fydd hynny.

Am yr un cyfnod y sonia Anthropos yn ei ysgrif, ar ddull dychmygol, am Gaernarvon y ddeunawfed ganrif. Cyfeirir ganddo at deithlyfr Hutton yn cofnodi taith yn 1799, a gwna i Hutton lefaru yn y modd yma: "Gresyn fod yr hen balasau wedi eu gado heb drigiannydd. Bum drwy amryw ohonynt, ac yr oeddwn yn edmygu'r adeiladwaith cywrain a chelfydd, y muriau llydan, clyd, a'r derw du Cymreig. Nis gellir sangu'r neuaddau eang heb deimlo rhyw ias od, gyfriniol, yn ymdaenu drosom—atgof am ogoniant a fu—pan oedd y lle yn adsain gan lawenydd a chân. Dyma restr ohonynt: Plas Pilston, Plas mawr, Plas Spicer, Glanrafon, Quirt, Plas Llanwnda, Plas Bowman, Plas isa, Porth yr aur. Dyna i chwi enw tlws! Beth roddodd fod i'r enw, ys gwn i?" Edrydd Anthropos allan o Hutton fod nifer y tai o fewn y muriau yn 92 ac o'r tuallan yn 300. Gwelir fod yma gywiriad pwysig ar atgof yr hen "fachgen," pan y dywed fod y dref yn bennaf o'r tufewn i'r caerau, ac mai ychydig oedd y tuallan. El Anthropos ymlaen: Ymysg y rhai oedd wedi ymgynnull i gapel Penrallt (rhagredegydd Moriah), ar nos Sul, Medi 8, 1799, yr oedd Mr. William Hutton, cynfaer Birmingham. Dywed fod y lle yn orlawn. Ychydig oedd nifer yr eisteddleoedd, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn sefyll drwy ystod y gwasanaeth. Nid yw'n dweyd enw y pregethwr, os gwyddai; ond y mae'n sylwi fod ganddo lais treiddiol, a'i fod ar brydiau yn gweiddi yn groch. Pwy ydoedd, tybed? . . . Fodd bynnag am hynny, dywed Mr. Hutton fod y lle wedi myned yn ferw drwyddo: y bobl yn llamu ac yn gorfoleddu am oriau; ac yntau yn eu canol wedi ei syfrdanu yn gyfangwbl. Ond yr oedd yr elfen feirniadol ar waith yn ei feddwl. Gofynnai iddo'i hun—Beth ydyw hanes y bobl yma bob dydd? A ydynt yn byw crefydd yn eu cysylltiadau cymdeithasol? A ydyw eu hymarweddiad yn bur, yn onest, yn ddichlynaidd? . . . Ac yn ystod y dyddiau dilynol . . . aeth oddiamgylch y bobl yn eu gwaith a'u masnach er mwyn cael goleuni ar y gofynion oeddynt yn cyniwair drwy ei feddyliau. Ac y mae ei ateb yn glir a diamwys. Cafodd ei argyhoeddi mai nid penboethni oedd yn cyfrif am y brwdfrydedd crefyddol oedd yn y dref, a bod y gorfoleddu yn cydfyned â chyfnewidiad amlwg ym mywyd y bobl. Y mae y dychweledigion," meddai, 'yn arwain bywyd. dichlynaidd ac yn ymarfer â duwioldeb bob dydd.'" Dywedir yn Old Karnarvon am gyfnod dechreu'r ganrif ddiweddaf y byddai Samuel Eborne yn derbyn papur newydd wythnosol o Loegr, ac mai ganddo ef y cawsai masnachwyr y dref wybodaeth am brisiau marchnad Llundain. Tebyg, pa ddelw bynnag, nad oedd hynny ddim yn wir am danynt i gyd. Byddai Samuel Eborne, hefyd, fe ymddengys, yn ysgrifennu dros liaws o bobl, cystal ag yn darllen iddynt. Dywedir ymhellach fod llysenwau yn ffynnu yn fawr yn y cyfnod hwnnw. Sonid am Siop William bach, Siop John gloff, Siop Jac y sadler mawr, Siop teganau Huw'r crydd. Enwau a roid ar ddynion oedd, Wil popi dol, Wil Balabwsia, Twm yr arian, Dic y divil. Gelwid twrne yn y dref yn Robyn y mul. Pan oedd y Dr. Arthur Jones yn gofyn am ei drwydded i bregethu, dywedodd cadeirydd y sesiwn wrtho y rhoddai Robyn y mul hi iddo. Ar hynny, gofynnai yntau'n ol, gan gyfarch y fainc, Prun ohonochi, foneddigion, ydyw Robyn y mul? Sonir yn yr un llyfr am ofergoeledd y bobl. Galwai gwraig gyfarwydd yn wythnosol yn nhŷ Sion a Doli'r eithin, yn agos i'r fan y saif Moriah arno. Siani Llanddona ydoedd ei henw, a galwai lliaws gyda hi er cael clywed eu ffortiwn. Hen wrach arall a breswyliai ger Bont bridd, a honnai ddarfod i Grist ddanfon llythyr ar groen iddi, ac i angel ddatguddio y fan lle dodid ef, sef dan garreg, ac am hynny fe'i gelwid ganddi yn llythyr dan garreg. Dodid y llythyr hwn ar fynwes merched ieuainc, a chredid ganddynt y galluogid hwy drwy'r gyfaredd honno i ddehongli eu dyfodol eu hunain. Sonir, hefyd, ar dystiolaeth y Parch. H. Longueville Jones, am wraig gyfarwydd yng Nghaernarvon mor ddiweddar ag 1856, a bod bri arni y pryd hwnnw ym Môn. Rai blynyddoedd yn flaenorol, llwyddodd i ddwyn yn ol arian a ladratawyd o ffermdy ger Llandegfan. Wedi gweled y fan lle dygwyd yr arian, gwysiodd yn ffurfiol y lleidr i'r byd anweledig o fewn blwyddyn o oediad, os na ddychwelid yr arian. Cyn i'r oed derfynu, lluchiwyd yr arian yn y nos drwy'r ffenestr i mewn i'r tŷ.

Yn y Llyfr glas am 1847 (t. 527) rhoir y dystiolaeth yma am gyflwr moesol y dref gan W. P. Williams: "Y mae yna lawer iawn o ddygn dlodi, budreddi a thrueni yng Nghaernarvon, gan mwyaf i'w holrain i anfoes ac anwybodaeth. Gallaf enwi tri lle yn arbennig yn y dref hon, sef Glanymor, Tanrallt a Thre'r- gof, lle nad oes gan liaws o deuloedd ond un ystafell i fyw ynddi, a honno ond 9 troedfedd ysgwar, gyda llawr pridd, a'r awyriad yn ddrwg arswydus. Nid oes i'r ystafelloedd hyn ond un ffenestr, rhyw droedfedd ysgwar, a phob pryd yn gaëedig. Gyda'r eithriad o ryw rai mewn henaint, gwaeledd a gweddwdod, y mae tlodi yng Nghaernarvon yn gyffredin yn ddyledus i lygredigaeth y bobl. Y mae cyflogau yn dda yma. Y mae'n ddyledus i'r ffordd haearn yma fod 2s. 6ch. yn awr yn cael ei dalu lle telid 1s. 6ch. gynt. Gall dynion abl i waith ei gael ar bob adeg os mynnant, ac am gyflog da. Eithr fe lifa pobl i'r trefydd o'r wlad oddiamgylch i gael eu lletya yn y mannau budron hyn, ac i gardota. Y mae Caernarvon yn llawn o'r cyfryw. Y mae'r trethi yn awr yn swllt pryd nad arferent fod ond grôt. Y drwg pennaf yn y dref hon ydyw meddwdod. Daw lliaws o'r rhai a enillant 20s. yr wythnos, a rhai a enillant 26., a dim ond 5s. adref i'w teuluoedd, a rhai ddim ond 3s.; gwerir y gweddill yn y dafarn. Nis gall eu teuluoedd ddod i le addoliad, nac i ysgol chwaith ar y Sul neu ddiwrnod arall. Nid oes ganddynt ddillad. Gwnelai ysgolion carpiog fawr les ymhlith y bobl hyn. Y mae'r ddwy a sefydlwyd gan y Methodistiaid eisoes wedi gwneud dirfawr les. Daw y plant iddynt gydag ychydig iawn am danynt." Ond odid nad oedd rhai o'r ymadroddion hyn, yn y ffurf y maent i lawr yma, braidd yn eithafol, ac nad allesid fod wedi eu cymedroli yn fwy. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd hwy, a thebyg y llithid yr ysgrifennydd, yn ddiarwybod iddo'i hun, i ffurfiau o ymadrodd mwy eithafol wrth geisio cyfleu ei feddwl yn gryf a phendant yn yr iaith honno. Ychwanegir y dystiolaeth hon gan Caledfryn: "Yng Nghaernarvon, os ewch o'r tuallan i'r gwahanol gylchoedd crefyddol, prin y cewch gymaint ag un dyn ieuanc nad yw'n ymroi i ysmocio ac yfed, a phethau gwaeth. Y maent yn fwystfilaidd yn eu harferion yn y dref hon." Tybed nad oedd yr un esgusawd yn addas yma ag a rowd ynglyn â'r dystiolaeth flaenorol?

Y mae Caernarvon wedi dod yn dref argraffwyr. Eithr mawr y cyfnewidiad yn yr ystyr hwn rhwng Caernarvon yn y bedwaredd ganrif arbymtheg a'r ugeinfed ragor yn y ddeunawfed. Yn y ddeunawfed ganrif ni chyhoeddwyd yma namyn un peth, hyd y gwyddis, sef Carol ar goncwest gwyr y Gogledd, gan Edward Jones Maesyplwm, 1797. Dyna'r dernyn cyntaf a ddaeth allan o wasg y dref. Thomas Roberts oedd yr argraffydd. Cyhoeddodd Thomas Roberts y rhifyn cyntaf o'r Eurgrawn yn 1800, a'r ail yn 1807, sef y cwbl a ddaeth allan o'r wasg, y naill a'r llall dan olygiad Dafydd Ddu Eryri ac eraill. Daeth Peter Evans ag Awdl Elusengarwch allan yn 1820, a Hanes y Byd a'r Amseroedd gan Simon Thomas yn 1824. Daeth Lewis Evan Jones a'r Diddanwch Teuluaidd allan yn 1817 a'r Bardd Cwsc yn 1825 a'r Tri Aderyn yn 1826. Daeth Robert Griffith â Thestament Salesbury allan yn 1850. Cyhoeddodd Hugh Humphreys rai pethau pwysig, megys Addysg Chambers, ail gyfrol, yn 1856, Golud yr Oes yn 1862, Gorchestion Beirdd Cymru yn 1864, cyfieithiad o Robinson Crusoe yn 1865, Geiriadur Cymreig Cymraeg Cynddelw yn 1868, Atodiad i'r Blodau Arfon yn 1869, Gwaith Ieuan Brydydd Hir yn 1876, Barddoniaeth Cynddelw yn 1877, Josephus yn 1882, Drych y Prif Oesoedd yn 1883, Teithiau Pennant (Saesneg) yn 1883, cyfieithiad o Deithiau Pennant, Llyfr y Resolusion yn 1885, cyfieithiad o Vicar Wakefield, Taith y Pererin, ac amryw eraill. Nid oedd Hugh Humphreys yn gyhoeddwr ideal. Newidiodd briod-ddull Llyfr y Resolusion mewn mannau; newidiodd eiriad Josephus Hugh Jones Maesglasau, gan ei gyhoeddi fel cyfieithiad newydd; ac nid yw papur ac argraff lliaws o'i lyfrau cystal ag y buasai dymunol. Cofier o'i blaid, er hynny, ddarfod iddo gyhoeddi lliaws o lyfrau goreu'r iaith, a rhai o'r rheiny am y tro cyntaf; a darfod iddo gyhoeddi cryn liaws o lyfrau eraill, buddiol i wahanol ddosbarthiadau o ddarllenwyr; a bod y cwbl ohonynt agos nid yn unig yn ddiniwed eu tuedd ond yn dra buddiol i'r darllenwyr cyfaddas iddynt. Nid oes le i gasglu chwaith ddarfod iddo elwa rhyw lawer oddiwrth ei ysbryd anturus a'i lafurwaith maith. Y mae Mr. O. M. Edwards yn y Cymru wedi galw sylw at yr esgeulustod mewn cydnabod rhwymedigaeth y wlad i'w goffadwriaeth. Yn ddilynol i'w gyfnod ef y mae gwasg y dref yn amlhau llyfrau buddiol a gwerthfawr. Dechreuwyd argraffu'r Carnarvon and Denbigh Herald yma yn gynnar yn y ganrif; yr Herald Cymraeg yn 1855; y Goleuad yn 1869; y Genedl yn 1877; Gwalia yn 1881; y Geninen yn 1883; Cymru yn 1891; Cymru'r Plant yn 1892; y Drysorfa a Thrysorfa'r Plant yn 1899; y Traethodydd yn 1904; y Dinesydd yn 1912. Mae'n ddiau fod y cynyrchion hyn o eiddo'r wasg yn rhoi eu hargraff o gymaint a hynny yn fwy ar ieuenctid y dref ag mai yn y dref yr ymddanghosant. Y mae golygyddion ac argraffwyr drwy'r cyfrwng hwn yn cael eu tynnu i fyw i'r dref, ac y mae eu dylanwad hwythau mewn lliaws o enghreifftiau wedi bod yn un dymunol neu hyd yn oed yn ddyrchafedig. Ond annichon peidio â sylwi ar y cyfochredd hynod yng nghynnydd Methodistiaeth â chynnydd cynyrchion y wasg. Nis gellir priodoli'r cynnydd yn yr olaf yn gyfangwbl i'r cynnydd yn y blaenaf, bid sicr; ond teg, debygid, fyddai cydnabod mai un brif elfen yn y cynnydd olaf yw'r cynnydd blaenaf. Oddeutu'r flwyddyn 1820 yr ydoedd yn dymor adhybiad yr ysbryd eisteddfodol yn y wlad. Sefydlwyd y Gymdeithas Gymreig er diogelu yr hen lenyddiaeth yn 1818. Cynhaliwyd eisteddfod Caerfyrddin yn 1819, eisteddfod Wrexham yn 1820, eisteddfod Caernarvon yn 1821. Yr oedd hyn yn gychwyniad o'r newydd i'r eisteddfod. Cyhoeddwyd y Tourist's Guide to Caernarvon gan P. B. Williams yn 1821, a dywed ef (t. 90) fod Cymdeithas y Cymreigyddion yng Ngwynedd wedi ei sefydlu yn ddiweddar yng Nghaernarvon, a bod yr enw mewn coffhad am Gymdeithas Cymreigyddion Llundain a sefydlwyd yn 1751. Rhydd Robyn Ddu ar ddeall yn ei Deithiau (t. 21) mai efe a gwr ieuanc arall o fardd, Lewis Davies, a sefydlodd y Gymdeithas hon yn y Gerlan (Royal Oak oedd enw arall), tŷ Robert Hughes yr eilliwr yn Heol y Castell. Daeth amryw o fasnachwyr mwyaf cyfrifol y dref ynghyd, a Richard Jones (Gwyndaf Eryri) hefyd, a ddewiswyd yn fardd. Gwnawd Richard Williams cyfreithiwr yn gadeirydd, Capten Robert Williams y Deptford yn is-gadeirydd, John Jones cyfrwywr yn drysorydd. Yn y papurau trefol yng ngofal Mr. R. O. Roberts, fe ddywedir fod Cymdeithas y Gwyneddigion wedi ei sefydlu yng Nghaernarvon, Ionawr 23, 1823. Richard Williams oedd y cadeirydd ac O. W. Owen yn is-lywydd. Yr aelodau cyntaf: Peter Evans argraffydd, Hugh Griffith Hughes, Daniel Williams, Henry [?Hugh] Parry ysgrifennydd, Thomas Evans, R. Griffith, E. Richards [teiliwr], William Hughes T[own] S[ur- veyor], Robert Parry Pt [poet, sef Robyn Ddu Eryri, mae'n ddiau], William Dew, Rd Rowland, Richd Roberts [Castle] Green, Robt. Roberts C. H., W. Evans, H [?] Lewis, John Prichard, J. Powell, Edwd. Price, Thos. R. Roberts, John Jones, W. R [?] Jones. Dyma fel y geirir y rheol gyntaf: "Boed prif amcanion y Gymdeithas hon i gynnal a choleddu yr iaith Gymraeg a'i barddoniaeth, a chynyddu gwladol a brawdol gyfeillgarwch, ac hefyd er mwyn gwellhau a gloewi gwybodaeth y naill y llall, fel y byddont hwylusach yn eu holl alwedigaethau; gan hyfforddi y naill y llall, hyd eithaf eu gallu, mewn dyledswyddau dynolryw ac ymwrthod â dichell-gynnen a gormodedd; a gwarafun eu gilydd rhag arferyd ymddiddanion drwg, yr hyn a lygra foesau da, ac ymofyn am wybodaeth fuddiol; chwilio ac arloesi anghallineb o'u plith, ac annog eu gilydd i fyw yn y byd presennol—parchu'r sawl a fo'n haeddu parch, a cheryddu y neb a fo'n amharchu ei hun ac eraill." Yr oedd y cyfarfod i'w gynnal bob yn ail nos Iau o 8 hyd 10. Rheol arall ydoedd, os ymddanghosai aelod yn feddw yn y gymdeithas fod dirwy arno o 2g. a'i fod i'w ddiarddel am y noswaith honno. Rheol arall fod 2g. o ddirwy am reg neu lw. Dyma rai o'r pynciau yr ymdrinid â hwy: Pa un waethaf er lles ei deulu, ai dyn diog ai dyn meddw? Pa un sydd fwyaf niweidiol ar les cymdeithas, ai cenfigen ai gweniaeth? Pa un gyntaf, ai gwybodaeth ai dealltwriaeth? Dywed Robyn Ddu (t. 29) fod y Cymreigyddion yn hynod lewyrchus pan sefydlwyd y Gwyneddigion, ac mai cenfigen at Robert Hughes a barodd hynny. Dywed mai yn yr Union Tavern y sefydlwyd y Gwyneddigion, a gwelir mai yr un un oedd y cadeirydd yma hefyd, a bod Robyn Ddu ei hunan yn un o'r aelodau, ac yn fardd y gymdeithas newydd. Ymhen rhyw ysbaid wedi hynny fe sonir ganddo am y Cymreigyddion yn cyfarfod yn y Crown (t. 33), ac yntau yn eu plith.

Dywed Mr. John Jones (y Druid) fod "dosbarth," fel ei gelwid, sef cyfarfod â'i amcan i eangu'r meddwl drwy wybodaeth ddiwinyddol, a chyffredinol feallai, yn cyfarfod yng nghapel y Sandemaniaid yn Nhreffynnon cyn agor capel Engedi yn 1842.

Sefydlwyd cymdeithas lenyddol yn Engedi yn fuan ar ol agoriad y capel. (Edrycher Engedi). Ail gychwynnwyd cymdeithasau llenyddol y dref gyda dyfodiad y bugeiliaid Methodistaidd cyntaf. Yr oedd cymdeithas lenyddol yn cael ei chynnal yn y Bontnewydd gan Ddafydd Ddu Eryri rai blynyddoedd o flaen y gyntaf o'r cymdeithasau a nodwyd. Cymdeithas Eryron y gelwid hi. Yn hon, Tachwedd 24, 1816, y rhowd ei enw i Wilym Cawrdaf (Gweithiau Awenyddol Cawrdaf, t. xiii.). Yr ydoedd Cawrdaf ar y pryd yn cynorthwyo ei gefnder, L. E. Jones, argraffydd yng Nghaernarvon.

Y mae gan Anthropos, yn ei ysgrif Oriel Atgof, sylwadau ar y gwahanol gymdeithasau llenyddol yn y dref, fel y gwelodd efe hwynt yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol eu sefydlu. Dyfynnir yma: "Onid ydyw y cymdeithasau llenyddol yn un o nodweddion Caernarvon? Y mae'r ysbryd llenyddol wedi bod yn cyniwair yn y dref ers llawer dydd. Y mae yn fwy o ddylanwad arni nag ysbryd y castell. . . . Un ydoedd Moriah. Y llywydd sefydlog ydoedd y Parch. Evan Jones, y gweinidog; ac yr oedd ei ddelw ef ar y gymdeithas ac ar ei haelodau. Nid oedd yno fwy na dau ddwsin i'w gweled yn y cynhulliad; ond yr oeddynt yn siaradwyr dan gamp. . . . Cyffelyb ydoedd ambell gyfarfod i ymrysonfa'r bel droed. Gwahoddid fi neu arall i agor y mater, ac yna dyna'r scrimmage. ... Deuwch... i Salem yn nyddiau nerth a grymuster Dr. Herber Evans. Yr oedd arnaf ofn Herber. . . . Fel pob dyn mawr—gwir fawr—meddai efe'r peth cyfrin hwnnw sy'n bwrw allan ofn. Yr oedd yr olwg arno fel heulwen haf, ac nid ymguddiai dim rhag ei wres ef. Nid llywydd y gymdeithas yn unig ydoedd Herber: efe oedd y gymdeithas. . . . Gadewch i ni groesi'r heol. . . . i Ebenezer. . . . Llond y lle o bobl; tan mawr eirias yn y pen draw; a phe deuai rhyw ia—fryn llenyddol i'r fangre cawsai ei doddi yn llymaid! . . . Mewn brwdfrydedd ysbryd anhawdd fuasai rhagori ar Ebenezer. Ond yr amser a ballai i mi son am gymdeithasau eraill:

Rhy fyrr y tro i fwrw trem
Ar Siloh a bro Caersalem.

Dim ond gair am... Engedi. Yma y bum yn annerch. gyntaf ar ol dyfod i dref Caernarvon. Nid oedd ond ychydig bersonau yn wyddfodol y noswaith honno . . . . y Parch. Evan Roberts . . . . Mr. John Davies (Gwyneddon), a Mr. John Edmunds. . . . Bum yma lawer gwaith wedi hynny, a gwelais y gymdeithas, megys y cymdeithasau eraill yn y dref, yn graddol dyfu. . . ."

Dyfynnir yma o ysgrif Alafon ar Gaernarfon Lenyddol: "Y lle y mae fy meddwl yn rhedeg iddo gyntaf yw siop ddi— fost Ioan Arfon. . . . Ni welwyd neb yn sefyll yn fwy syth, nac yn fwy tawel, nac yn fwy urddasol, wrth fwrdd. masnach siop, nag y safai efe. . . . Mor falch oedd efe o weled ei fab Robert (Elphin heddyw) yn llwyddo mor hwylus yn yr ysgolion, ac yng ngholeg Aberystwyth! . . . . Cyfnod dyddorol yno oedd cyfnod y frwydr fawr rhwng Alfardd ac Ioan Arfon â'r Barnwr Homersham Cox a'i fath, oedd am gau yr iaith Gymraeg o'r llysoedd gwladol yng Nghymru. . . . William Pierce hefyd, a gafodd y ffugenw Sanddef gennym, sydd yn awr yn weinidog un o brif eglwysi Anibynol Llundain, . . . . yntau ar y pryd yn un o'r gofalwyr am yr Herald Saesneg. Mynychach ymwelydd. . . . oedd Gwilym Alltwen, tra fu yng Nghaernarvon. Ac efe, os iawn y cofiaf, a dde— chreuodd roddi Y ac Yr o flaen ffugenw beirdd. . . . Cynddelw yntau, batriarchaidd wr . . . . a fyddai'n galw yno bron bob dydd. . . . Ryw dro, pan oeddwn i yn sefyll ar gwrr maes Caernarvon mewn llu, yn gwrando ar wraig dafodrydd yn cymell ei nwyddau, daeth Cynddelw heibio; a chan roi ei law ar fy ysgwydd, ebai efe yn fy nghlust,—

.
O fy mab! tyrd hefo mi:
Disynnwyr gwrando Siani.

Ond o bawb a welid yng Nghaernarvon yr hynotaf a'r mwyaf cofiadwy oedd yr hyglod Owen Williams o'r Waunfawr. . . . Amheuthyn rhyfedd a fyddai gwrando ar Y Llyfrbryf a Ioan yn trafod ynghylch y Geiriadur, a phynciau eraill, gydag Owain Gwyrfai. . . . Mynych y byddai'r Llyfrbryf yng Nghaernarvon yn yr amser gynt. . . .Dyna Owen Gethin Jones, o gynnes goffadwriaeth, . . . a fyddai yno yn bur fynych. . . . Beirdd eraill a ymwelent â Chaernarvon yn bur fynych . . . oedd Hwfa Môn, Iolo Trefaldwyn, Mynyddog a Thudno, yn enwedig Iolo a Mynyddog. . . . Tri llenor a ymwelent yn achlysurol âg Ioan Arfon oedd Y Thesbiad, John Morgan o Gadnant a Chorfanydd. . . . Bardd o ddosbarth arbenigol oedd Bro Gwalia, fel y mae ei enw yn dangos. Ni fyddai neb yn cerdded heolydd Caernarvon â golwg mwy awdurol arno. Fe fyddai ganddo well het silc am ei ben, a gwell dillad am dano, na'r Bardd Cocos o Lanfairpwllgwyngyll; a throsedd mawr fyddai cystadlu y bardd hwnnw âg ef. Nod arwydd Bro Gwalia oedd rhôl amlwg o bapur yn ei law. . . . Siop Gwyneddon hefyd. . . . Yr oedd ef yn wr cyfarwydd yn llenyddiaeth Cymru, ac yn feirniad craff a chywir. Yr oedd wedi tyfu mewn awyr lenyddol o'i febyd, ac yr oedd ganddo lawer o gofion dyddorol am nifer mawr o wyr llen. . . . Nid llawer oedd i'w cael allai godi Yr Hen Waunfawr i well hwyl nag y gallai ef. Gymaint o wleddoedd a gafwyd yn ei siop wrth wrando ar yr hen brydydd yn son am Ddafydd Ddu a Gutyn Peris a Gutyn Padarn a Gwilym Cawrdaf. . . . Fel y mae'n hysbys, fe fu Gwyneddon, tra yn Heol y bont bridd, yn cyhoeddi'r Goleuad. . . . . Nid anniddan chwaith a fyddai'r ymweliadau â siop Mr. Hugh Humphreys a siop Ioan Mai, y cyntaf yn ymbleseru mewn dangos a chymell darluniau o enwogion, a llyfrau gwŷr o fri, a'r ail yn darllen cyfieithiad da neu englyn o'i waith. . . . Mwy diddan na hynny a fyddai orig yn y Liver, gyda Mr. M. T. Morris, a'r dawnus wyr a fyddai ar brydiau wedi galw i ymweled âg ef. Lle atyniadol i lenyddion oedd y Liver. Pwy yng Nghaernarvon, drwy ystod. yr hir flynyddoedd, a brofodd ei hun yn fwy llengarol . . .? Pwy yn fwy ymroddol a medrus ynglyn â chychwyniad a dygiad ymlaen yr eisteddfodau mawr, llwyddiannus, a fu yn y dref?"

Y mae Anthropos, hefyd, yn ei Oriel Atgof, yn son am gymeriadau llenyddol yr un cyfnod ag Alafon. Dyma rai dyfyniadau: "Gyda'r Darlunydd [yn swyddfa'r Herald Cymraeg] y dechreuais ar fy nyddgylch; ond disgwylid i mi gynorthwyo gyda'r papur newydd. . . . Dyn llydan, gweddol dal; gwyneb llawn, mynegiadol—digon tebyg i'r darluniau a welir o Thackeray. Efe oedd golygydd yr Herald Cymraeg yr adeg honno: olynydd Alfardd, fel y tybiaf. Dyn diwylliedig iawn oedd y Cwilsyn Gwyn (neu Mr. John Evans-Jones),—pur gyfarwydd â llenyddiaeth Saesneg. . . . Yr oedd Llew Llwyfo yn un o'r gweision cyflog. . . Gan y Cwilsyn Gwyn, fel rheol, yr oedd y weledigaeth, pe cawsai'r hamdden dyladwy. Y cwbl oedd yn eisieu ar y Llew ydoedd amlinelliad. . . . Deuawd dyddorol oedd y Llew a'r Cwilsyn Gwyn. . . . Dros y ffordd yr oedd Ioan Arfon. . . Yr oedd Ioan Arfon yn foneddwr wrth natur. . . . Dyn o farn; pwyllog ei barabl; ond yn dwyn mawr sel dros bethau goreu cenedl. . . . Symudais yn y man o swyddfa'r Herald Cymraeg i swyddfa'r Genedl Gymreig. Nid newid lle yn unig a wnaethum ond newid hinsawdd. . . . Y golygydd ydoedd Mr. James Evans: gwr cyfarwydd. . . . Yr oedd gwall argraff yng ngholofnau'r Genedl, megys rhoi 'Llys yr Ynadon Siriol am Lys yr Ynadon Sirol,' yn boen a blinder i'w enaid. [Fe fyddai Llew Llwyfo yn arfer ag adrodd am dano yn galw allan o'i offis ar y cysodydd, mewn ton bryderus,— A ydyw'r come yna wedi ei roi i mewn?']. . . Un o'r rhai mwyaf poblogaidd ar ddalennau'r Genedl Gymreig oedd Andronicus, awdwr y golofn wythnosol a adwaenid wrth yr enw,—Yn y Trên. Trafaeliwr masnachol oedd Andronicus. Gorfu iddo ysgrifennu yn ei flynyddoedd olaf ar wely poen a blinder, â'i fysedd wedi eu crebachu gan y gymalwst. . . . Sketches a geid ganddo: rhyw bortreadau gweddol fychain, ond yn nodedig o dlysion mewn lliw a llun. . . . Gwisgodd olygfeydd Llyn Tegid, a hen gymeriadau'r Bala, â gogoniant ac â harddwch. . . . Yr oedd Eos Bradwen wedi cyfansoddi ei gantawd wladgarol—Owain Glyndwr'—y geiriau a'r miwsig ganddo ef ei hun—lawer blwyddyn cyn iddo symud i Gaernarvon. Ac yr oedd Bugeiles y Wyddfa yn un o'r caneuon mwyaf poblogaidd... Y mae awdwr Aylwin wedi gwneud cryn ddefnydd o'r gân. . . . Efe, mewn modd neilltuol, ydoedd bardd y Wyddfa. Yr oedd ambell eclips yn hanes Eifioneilydd. . . . Yr oedd Eifioneilydd yn areithydd dihafal yn ei ddull ei hun. Yr oedd defnydd tragedian ynddo,—tebyg i Irving. Ni feddai ddim o'r elfen nwyfus a chwareus; ond yr oedd yn medru disgrifio'r brawychus a'r ofnadwy. Braidd na theimlem wrth ei wrando ein bod yn sangu ar ymylon gorffwylledd, megys pe gwrandawem ar awen wallgof Edgar Allan Poe. . . . Clywais ef yn gwneud defnydd effeithiol o'r Drama of Exile gan Mrs. Browning, ac yn darlunio'r Gorchfygwr Dwyfol yn arwain y march gwelwlas at orsedd yr Ior—

With a hand upon his mane,
And a whisper in his ear.

Braidd nad allaf glywed y whisper hwnnw yn aros ar fy nghlust hyd y dydd hwn! Gwrandewais arno yn cyfaddasu un o ystorïau dychmygol Edgar Allan Poe—the Pit and the Pendulum—at hanes y meddwyn a'i ddrws ymwared. Ond wedi cyfnod o ysblander cyhoeddus, ciliai o'r golwg, a deuai llen. dywyll dros wyneb yr haul."

Ymherthynas â'r rhai y sonir am danynt yn y ddwy ysgrif uchod, gellir nodi mai aelod ym Moriah oedd John Evans Jones; mai aelodau yn Engedi oedd Gwyneddon, Menaifardd, Andronicus; mai blaenor yn Castle Square oedd James Evans; ac y bu Eifioneilydd yn athro yn ysgol Engedi, yn aelod yn Castle Square, yn aelod ym Myddin Iachawdwriaeth. Yr ydoedd ef yn fab i'r Parch. David Davies yr exciseman, a fu'n aelod yn Engedi ac yn y Bontnewydd.

Yr oedd yn y dref, yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y ddwy ysgrif hyn, rai gwŷr eraill lawn cyn hynoted, at ei gilydd. a'r rhai y sonir am danynt ynddynt hwy, heb fod bob amser yn feirdd neu lenorion cydnabyddedig, a hynny dros ben y rhai y traethir arnynt yn hanes yr eglwysi. Yr oedd J. C. Rowlands yn arlunydd coeth, ac yn wr yn cymeryd dyddordeb mewn hynafiaethau Cymreig, cystal a'i fod o gymeriad uchel. Yr oedd Leon, y gwr a fu'n tynnu lluniau mewn olew ym masnachdy Hugh Humphreys, yn gelfyddydwr gwych, pell tuhwnt i'w sefyllfa yno. Yr oedd Nanney, un o'r ddau frawd o'r enw, ac a breswyliai yn ardal Beddgelert yn ei flynyddoedd olaf, heblaw ei fod yn wr urddasol yr olwg arno, a chyda rhywbeth myfyrgar a phell yn ei edrychiad, yn efrydydd ar awduron cyfriniol o ryw ddosbarth, megys A. E. Waite, A. P. Sinnett, a lliaws eraill. Yr oedd Jonathan Jones, goruchwyliwr treth yr incwm, yn wr go urddasol yr olwg arno, a chyda rhyw dawelwch yn ei ddull i graffu arno, o leiaf yn ei flynyddoedd diweddaf. Gwelid ef weithiau yn y blynyddoedd hynny wrth lan y môr neu fannau eraill, yn amlwg wedi ei lyncu mewn myfyrdod, a hwnnw'n fyfyrdod ar y byd ysbrydol, fel, rywfodd neu gilydd, nas gallesid peidio â chasglu. Yr ydoedd yn efrydydd o fewn rhyw gylch ar hynafiaethau Cymreig. Fe ddengys y copïau o ddau lyfr a ddarllenid ganddo, ag sy'n digwydd bod wrth law, sef Taith y Pererin a'r Bardd Cwsc, ei fod yn efrydydd manwl iawn ar rai llyfrau. Y mae ganddo nodiadau ymyl-ddalennol i'r rhai hyn yma ac acw, yn cymharu gwahanol rannau o honynt â'i gilydd, ac â llyfrau eraill; ac y mae i'r naill a'r llall fynegai helaeth a manwl i'r materion a gynwysir ynddynt. Meddai ar gasgl lled helaeth a gwych o lyfrau. Yr oedd Thomas Hobley yn wr o ddiwylliant eang, ac o allu cryf ym myd masnach a byd llyfrau, cystal a'i fod yn wr o ddawn gymdeithasol nodedig. Darllenai bob llyfr yn dwyn cysylltiad â chrefydd, ac a dynnai sylw arbennig iawn ar y pryd, megys y Vestiges of the Natural History of Creation, yr Essays and Reviews, Ecce Homo, yr Unseen Universe; a'r un modd bob ysgrif o'r nodwedd honno ynglyn â chrefydd neu wladweiniaeth yn y misolion a'r chwarterolion Seisnig; a gallai gyfleu eu prif bwyntiau yn rhwydd mewn ymddiddan. Darllenodd amryw o'r prif lyfrau mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth; a gofalai am ymgydnabod â phrif symudiadau meddwl drwy gyfrwng yr Expositor neu gylchgronau eraill; ac yr oedd yn hoff o ddadleu ar y cyfryw bynciau, yr hyn a wnae efe gyda deheurwydd na chyfarfyddid yn fynych a'i ragorach neu ei gyffelyb. Bu dosbarth yn cyfarfod yn ei dŷ am lawer blwyddyn, yn darllen rhai o'r llyfrau a nodwyd ac eraill, ac yn ymgydnabod â syniadau John Stuart Mill, Syr William Hamilton, Mansel ac eraill. Ymhlith y gwyr a ddeuai i'r dosbarth hwnnw yr oedd John Evans, M.A., yr ysgolfeistr, wedi hynny o Groesoswallt, ac aelod ym Moriah, William Williams a Robert Evans y pregethwyr, Robert Roberts y Cross a Hugh Owen, y ddau yn flaenoriaid yn Engedi, Evan Evans y cwriwr, Menaifardd. Nid yw Alafon ond yn cyffwrdd âg enw Menaifardd. Gyda rhyw goll mewn sefydlogrwydd nodweddiad, yr oedd ef yn wr parod gyda phob math ar orchwyl, yn athro deheuig yn yr ysgol Sul, ac yn nodedig o effeithiol gyda hynny dros ryw gyfnod; yn ysgrifennydd ysgol deheuig a gwasanaethgar anarferol am rai blynyddoedd yn Engedi; yn rhyw gymaint o gerddor, o lenor, ac o fardd; yn un o'r rhai parotaf fel arweinydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus o wahanol fath; yn gynllunydd tai, yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth, yn ysgrifennydd gwahanol fudiadau. Yr oedd yn wr tra haelionus. Symudodd i'r America, a phan ddychwelodd oddiyno i farw, yr oedd rhywbeth yn arwyddo sobrwydd meddwl sefydlog yn ei wedd. Ni roir yr enwau hyn ond fel enghreifftiau, a gwyddis fod eraill teilwng o'u hatgoffa yn y cysylltiad hwn; ond arhoswyd gyda'r rhai y digwyddid fod yn gwybod mwyaf am danynt.

Dywed Mr. Thomas Jones Bronydre y dengys map Speed fod ysgol rydd yn y dref yn 1610, yn sefyll lle mae y neuadd sirol yn awr.

Sonia Robyn Ddu, mewn atgofion o'i eiddo am y dref, am Daniel Pritchard, a anwyd yng Nghaernarvon yn Heol y goron yn 1796. Rhoes ei rieni diwyd addysg i Ddaniel. Saer coed ydoedd, "lled gywrain yn ei waith ac awyddus am lyfr." Symudodd ei rieni i Benrallt ddeheuol yn 1811. Cychwynnodd Daniel ysgol yn ei weithdy, gan weithio gyda'i grefft a chynnal yr ysgol ymlaen yr un pryd. Amgylchynid yr ystafell â meinciau llawnion o blant bychain. Ar y cychwyn rhoid i'r plentyn ddernyn o bren amrywonglog, a llythrennau'r wyddor ar y naill wyneb a'r llall ohono. Wedi dysgu hynny rhoid i'r plentyn ddarn pren ag arno eiriau neu rifnodau. Ar y parwydydd yr oedd rhesi o wahanol fath ar greaduriaid wedi eu lliwio fel wrth natur, a dysgid eu henwau i'r plant. Dysgid rheolau rhifyddiaeth gyda chymorth mân belennau. Dodid rhai wrth ei gilydd neu tynnid rhai oddiwrth ei gilydd, ac yna gofynnid am y rhif. Dysgid iddynt rif dyddiau'r flwyddyn a pha faint a wnae ceiniog y dydd mewn blwyddyn; ac yna er mwyn gwybod pa faint a wnae unrhyw nifer o geiniogau y dydd mewn blwyddyn, nid oedd eisieu ond amlhau y cyfanswm hwnnw wrth rif y ceiniogau. Gwnaeth yr ysgolfeistr ddeial gywrain yn ei ardd. Croesawai blant ysgolion eraill at blant ei ysgol. ei hun i'w ardd ganol dydd neu hwyrddydd. Ynghanol y chware fe holai'r plant, pa faint a wnae hyn a hyn o geiniogau y dydd mewn blwyddyn? pan y cawsai ateb ar unwaith gan ei blant ei hun. Holai drachefn, pa sawl gradd sydd mewn cylch, yn y bedwaredd ran o gylch, mewn hanner cylch, mewn triongl ac ymlaen hyd ddeng ongl, ynghyda lliaws o ddirgeledigaethau eraill. Atebai plant ysgol Daniel ei hun ar darawiad, tra byddai'r lleill yn fud gan syndod. Dywed Robyn Ddu i Ddaniel fagu ysgolheigion da yn y dull hwn, tra na ydoedd ond difyrru ei hun, a dilyn ei grefft yr un pryd. A diau fod ganddo rywbeth i'w ddysgu i ysgolfeistriaid a ddaeth ar ei ol. Gwnae'r gwr cywrain, hefyd, "luniau campus" mewn lliwiau ar leni, a cherfiai goed, llysiau neu wahanol anifeiliaid mewn coed a chopr. Yr oedd yn adnabod llysiau a'u gwasanaeth, ac yn arfer eu casglu; a gwnae wydrau i'w dodi mewn ysbienddrychau. Mewn gwth o oedran fe symudodd i Fangor ac oddiyno i Nerpwl. Pan ym Mangor fe wnaeth iddo'i hun y peiriant cywrain a elwir orrery, er arddangos symudiadau'r lloer a symudiadau'r planedau o amgylch yr haul. Dywed Robyn Ddu fod hen ddisgyblion Daniel Pritchard yn rhagori ar y cyffredin mewn lliaws o bethau, ac y bu ef ei hun lawer tro yn ei gymdeithas ac yn derbyn ei addysgiadau hyd ddau neu dri ar y gloch y bore. (Y Nelson, 1895, Tachwedd, t. 7.)

Yn 1817 y sefydlwyd yr ysgol wladol genedlaethol. Dywed P. B. Williams, yn ei lyfr ar sir Gaernarvon (t. 68), mai yn llofft y farchnad gig y cynhelid ysgol y bechgyn ar y cyntaf. Adeiladwyd yr ysgol yn 1820 ar draul o £350, ac o'r swm yma yr oedd £250 wedi eu tanysgrifio i'r amcan, a'r £100 gweddill gan Gymdeithas yr Ysgolion. Yn 1837 adeiladwyd yr ysgol. rad gyntaf yn y dref yn Turkey Shore. Rhodd y llywodraeth, £1,105. Symudwyd oddiyno i le a elwid wedi hynny yn Bonded Warehouse. Yr oedd y lle hwnnw gyferbyn a thalcen y Brunswick Buildings, yr ochr arall i'r grisiau o'r maes i'r cei. Yn 1847 yr adeiladwyd yr ysgol bresennol ar ffordd Llanberis. Teimlai rhai fod dylanwad gwrthwynebol i ymneilltuaeth yn yr ysgol wladol, ac arweiniodd hynny i sefydlu ysgol yn seler Engedi, mewn dwy ystafell eang. Mae llythyr oddiwrth Robert Evans yn y Drysorfa am Hydref, 1843, yn dwyn perthynas â'r ysgol hon. Sonia ef am ddwy ysgol, sef, mae'n debyg, yn y naill a'r llall o'r stafelloedd hyn. Cynhelid y naill ysgol ar yr hen ddull gyda dau athro, a'r llall ar y dull newydd gydag un athro. Yn y flaenaf yr oedd 250 o blant; yn yr olaf, 133 Rhydd Dafydd Williams, mewn ysgrif ar eglwys Engedi, y rheolau perthynol i'r ysgol a ddarllenwyd gan John Jones Tremadoc ddydd agoriad y capel. Dyma nhwy: "1. Fod y cyfarfod hwn [sef y pwyllgor a gynhaliwyd ar hynny] yn gweled angenrheidrwydd am ysgol ddyddiol i fod dan olygiad y Trefnyddion Calvinaidd yng Nghaernarvon. 2. Fod traul yr ysgol i gael ei gynnal drwy geiniog yr wythnos oddiwrth yr ysgolheigion, a thrwy roddion blynyddol a chasgliadau. 3. Fod rhyddid i blant pawb ddyfod i'r ysgol cyn belled a bo lle, heb eu caethiwo oddiwrth ryddid cydwybod ar y Saboth. 4. Fod holl achosion yr ysgol i gael eu dwyn ymlaen gan eisteddfod o saith o ddirprwywyr wedi eu dewis gan ac o blith y tanysgrifwyr blynyddol, pedwar o'r saith o leiaf yn aelodau eglwysig gyda'r Methodistiaid Calvinaidd. Dewiswyd yn ysgrifenydd— ion, Mri. Robert Evans, grocer; W. P. Williams, druggist: ac yn drysorydd, Mr. Simon Hobley, flour merchant." Yn 1849 fe sefydlwyd ysgol i'r tlodion ym Mhenrallt ogleddol. Agorwyd yr ysgol Frytanaidd Mai 11, 1858. Y draul, £3,750. Dywedir ddarfod i Foriah, yn unig ymhlith eglwysi'r dref yn hynny, gyfrannu £1,200 tuag at yr amcan. Cyfrannodd y llywodraeth yn 1859, £1,680. Trosglwyddwyd yr ysgol i'r Bwrdd Ysgol ar Ebrill 12, 1884; ond bod yr ymddiriedolwyr yn cadw'r hawl i ddefnyddio'r ysgol ar y Suliau ac ar dri diwrnod ym mhob blwyddyn.

Yr oedd Cymdeithas Cymedroldeb yn y dref cyn sefydlu Cymdeithas Dirwest. Sefydlwyd yr olaf yn 1836. Dywed John Wynne fod yr orymdaith ddirwestol gyntaf yn y dref yn cyrraedd o Heol y llyn i Forfa Saint. Yn yr orymdaith honno yr oedd John Elias, Williams o'r Wern, Griffiths Llandrygarn, Môn, Griffith Hughes (Wesleyad); ac yr oeddynt yn areithio ar y Morfa. Yr oedd Richard Williams yr ironmonger wedi mawr hoffi dull Williams o'r Wern y pryd hwnnw yn cyfleu ei ymresymiad gerbron; a dywedai pe gallasai rywun ei argyhoeddi o'i rwymedigaeth i fod yn ddirwestwr mai Williams fuasai hwnnw. Felly yr adroddai prentis yn ei wasanaeth ar ei ol ryw dro. Robert Evans, blaenor y pryd hwnnw ym Moriah, ydoedd yr un a ymdaflodd yn llwyraf o bawb i'r gwaith. Ni bu ei hafal yn y dref o ran sel gyda'r achos, ac o ran tanbeidrwydd fel amddiffynnydd cyhoeddus iddo. Fe helaethir ar hynny yn y sylwadau arno ynglyn âg Engedi. Robyn Ddu a wnaeth fwyaf o bawb o breswylwyr y dref i ledaenu egwyddorion dirwest yn y byd. Teithiodd lawer i'r amcan am gyfnod maith drwy Gymru i gyd, a theithiodd nid ychydig yng ngwahanol rannau'r deyrnas gyfunol ac America, gan lefaru yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yr oedd yn siaradwr Saesneg rhwydd a chywir ar y cyfan. Heb amrywiaeth mawr yn ei ddull, yr oedd siarad yn naturiol iddo fel anadlu. Meddai, hefyd, ar arabedd naturiol helaeth, a dawn i adrodd hanesyn. Estynnai swyn tawel dros y dorf wrth iddo gyfarch, ac yn ei adegau dedwyddaf i gyd fe ymddanghosai fel yn chware gyda hi, ac heb unrhyw ymdrech yn y byd fel yn ei chwyrlio o amgylch pen ei fys. Wrth gymharu dulliau gwahanol genhedloedd â'i gilydd fel gwrandawyr, fe ddywed iddo weled Cymry yn wylo, yn neidio ac yn canu dan ei areithiau. (Teithiau, t. 76). Yr oedd Christmas Evans yn weinidog yn y dref ar gychwyniad dirwest, ac ni bu yn hir cyn rhoi ei ddylanwad mawr a'i ddawn dihafal o blaid yr achos. Fel hyn y sylwir arno yn ei gysylltiad â dirwest yn yr erthygl arno yn y Gwyddoniadur: "Clywsom ef amryw droion yn areithio ar yr egwyddor ddirwestol, nes gyrru tyrfaoedd o bobl i'r cyffroadau mwyaf a welsom erioed, drwy chwerthin a galaru braidd ar yr un anadl. Parodd dau beth mewn cysylltiad â dirwest ofid mawr iddo, yn ol fel y dywedai wrth yr ysgrifennydd, sef yn gyntaf, fod rhai yn gwneud crefydd o'r peth, ac yn cymeryd gosodiadau'r Efengyl, y rhai ydynt wedi eu hamcanu i dynnu dynion at Grist a'i Groes, i berswadio dynion i ddyfod yn ditotals. 'Peth ynfyd a drwg, debygaf i, yw lladrata cymhellion yr Efengyl sanctaidd at ddim arall. Mae'n ynfyd, oherwydd nid wrth ddala dannedd dynion ar y maen llifo, drwy fygwth dydd y farn olaf arnynt, fel y gwna ——— [sef gweinidog gyda'r Bedyddwyr] y daw dynion yn ditotals. Mae'n ddrwg, oblegid mai lladrata llestri'r cysegr at wasanaeth na fwriadwyd mono ydyw. Yn ail, codi dynion o ganol llaid meddwdod, i areithio, i lanw pulpudau â chabledd yn gymysg â ffolineb, a hynny yn fynych cyn i'r llaid sychu a chael ei frwsio oddiarnynt, a rhai gweithiau cyn iddynt gael ymdreiglfa arall yn y llaid.'" Gan mai yng Nghaernarvon y bu am weddill ei oes, sef hyd 1838, mae'n ddiau fod y profiad hwn o'i eiddo yn ffrwyth ei sylw o'r achos dirwestol yn y dref yn bennaf. Bu ef ei hun, pa ddelw bynnag, yn ffyddlon i'r achos hyd y diwedd, a diau i'w esiampl fod o fawr gynorthwy i'r achos yn y dref cystal a mannau eraill. Dywed Mrs. Jane Owen (Stryd Garnons) fod William Prichard, a oedd gyda'r Bedyddwyr, yn un o'r dirwestwyr gyda'r blaenaf yn y dref yn y blynyddoedd cyntaf hynny. Yr oedd yn siaradwr anarferol, a phan lefarai yn yr awyr agored fe glywid ei lais yn clecian drwy heolydd y dref. Hugh Jones y teiliwr, hefyd, ebe Mrs. Owen, oedd yn siaradwr cryf, a dywediadau bachog ganddo. Cof ganddi am ei ocheliad rhag y ddiod fain, mai cynffon y cythraul ydoedd,—os ydoedd yn fain ar y blaen, nad oedd hi ddim ond yn arwain at ddiod gryfach, megys ag yr oedd blaen cynffon y cythraul o'i holrhain yn arwain ato ef ei hun! Aelod yn Engedi ydoedd efe, wedi i'r eglwys gael ei sefydlu yno.

Y mae llythyr o eiddo Robert Evans, wedi ei amseru Tachwedd 12, 1847, yn y Drysorfa am 1848, t. 18. Rhed fel yma:

"Bernais yn addas anfon i chwi hanes gweithrediadau Cymdeithas Ddirwestol Caernarvon am y flwyddyn . . . : Ymunodd gyda'r Gymdeithas ynghorff y flwyddyn, 238. Torrodd eu hardystiad unwaith, 8. Torrodd un ei ardystiad ddwywaith. Torrodd un arall ei ardystiad deirgwaith. Tynnodd un ei enw Ymunodd 8 am fisoedd y rhai sydd wedi dyfod i ben. Ymunodd 8 am y flwyddyn sy'n cerdded. Eto un am 2 flynedd. Eto un am 5 mlynedd. Nifer y rhai a ymunodd dan 14 oed, 15. O'r gweddill yma, mae rhai wedi arwyddnodi am byth, eraill am eu hoes, eraill nes y tynnont eu henwau. Hefyd, mae yn eu mysg rai morwyr dieithr nas gwyddom eu hanes yn bresennol. Hawdd fyddai inni hefyd ddweyd faint o holl ymneilltuwyr proffesedig y dref a ymunodd gyda'r Gymdeithas ynghorff y flwyddyn, a pha nifer a dorrodd eu hardystiad; ond nyni a arbedwn. Mae llafur a llwyddiant y Gymdeithas wedi bod yn llawn cymaint y saith mlynedd blaenorol a'r ddiweddaf. Robert Evans, llywydd." Gwelir fod y fyddin ddirwestol yn y dref y pryd hwnnw yn gweithio yn gyffelyb i'r fyddin Ellmynnig ar faes y gwaed heddyw, sef fel peiriant; ac, fel honno, dyma yn ddiau ei nerth a'i gwendid.

Cynhelid o bryd i bryd gyfarfodydd pwysig. Y mae David Griffith wedi cofnodi hanes cyfarfod mawr y Maine Law yn y castell am 2 a 5 ar y gloch brynhawn Iau, Gorffennaf 16, 1857. Y vicer yn gadeirydd yn y naill gyfarfod, a'r Henadur Harvey Manceinion yn y llall. Y siaradwyr: Canon Jenkins, Samuel Pope, Neal Dow o'r America a'r Parch. John Thomas. Cenid anthemau gan y corau dan arweiniad Humphrey Williams a William Griffiths. Tybir gan D. Griffiths fod oddeutu 15,000 o bobl yn y lle.

Yng nghyfarfodydd dirwestol y dref yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf a rhagor fe fu'r canu o fawr wasanaeth. Yr oedd gan William Griffiths a Humphrey Williams gorau pwysig dan eu harweiniad, a datganent y prif anthemau mewn modd ardderchog yn y cyfarfodydd hynny.

Fe gynhelid cyfarfod dirwest yn Engedi ar ol ei agor bob pnawn Sul am hanner awr wedi pedwar, a byddai'r capel yn llawn. Cenid darnau clasurol dan arweiniad Humphrey Williams, tad Mr. John Williams, arweinydd presennol côr y dref.

Gwanychodd dirwest ei nerth yn raddol. Fe barhaodd y cyfarfodydd hanner awr wedi pedwar brynhawn Sul am oddeutu 50 mlynedd. Byddai'r neb a benodid i arholi'r ysgol—yn Engedi o leiaf—yn rhoi araeth ddirwestol ar un Sul o'r mis am oddeutu'r un cyfnod maith. Cynhelid y cyfarfodydd pnawn Sul yn y man yn eu tro yn y gwahanol gapelau Cymreig oddieithr Caersalem. Gyda'r Methodistiaid y ceid y cynhulliadau lluosocaf, ac yn Engedi y lluosocaf i gyd. Ceid pethau rhagorol ar dro, megys araeth y Dr. David Charles, Treveca gynt, yn rhoi hanes ei ymgyrch ddirwestol ef a Henry Rees drwy ran o Gymru ym mlynyddoedd cyntaf y mudiad. Y siaradwyr mwyaf ffyddlon i'r cyfarfodydd hyn oedd John Roberts y paentiwr a Thomas Williams y saer, y naill a'r llall o Engedi. Tueddu i golli ei dymer y byddai John Roberts, a digwyddai hynny yn ddieithriad pan gyfarchai'r ysgol. Dyn da ydoedd ef er hynny. Yr oedd Thomas Williams yn meddu ar ddawn siarad anarferol. Elai ei edrychiad yn llym wrth siarad, a'i lais yn llym, a'i ymadroddion yn llym. Dylifai ei eiriau yn rhwydd a naturiol, a chodai y llais i gywair uchel, a chyffroid ei natur drwyddi, fel y llefarai ar bob pryd gydag ynni a thanbeidrwydd a thrydaniaeth teimlad. Er hynny, ni chollai mo'i hunanfeddiant. Wrth ddadleu unwaith ymhlaid Temlyddiaeth Dda, mewn cyfarchiad ar y maes, ac wrth sôn am y llywodraeth yn noddi y fasnach mewn diodydd, fe adroddai'r geiriau,—"Yr hwn sy'n preswylio yn y nefoedd a chwardd," gyda thanbeidrwydd anarferol, y fath a'i codai yn deg oddiar ei draed ar y llwyfan; ac yr oedd y pwyslais ar y gair chwardd yn ofnadwy yn ei ddynwarediad o ystyr y gair. Nid dawn i ddweyd pethau tarawiadol oedd gan Thomas Williams, ac nid swyn dull oedd yr eiddo, ac nid unrhyw wybodaeth helaeth am y pwnc; ond o ran y cyfuniad o rwyddineb ymadrodd, gyda chyffyrddiad o'r hyawdl ynddo, a llymder edrychiad a dull ac ymadrodd, ac angerddoldeb teimlad, ynghydag argyhoeddiad meddwl ar ryw ffurf arno, anfynych yn unrhyw gylch y gwelid y cyffelyb. Siaradwyr dawnus oedd Henry Edwards a George Williams o Siloh, a William Davies y rhaffwr o Foriah. Gwyneddon oedd y cyflawnaf ei wybodaeth o'r pwnc, cystal a'i fod yn siaradwr rhwydd a pharod. Trinai agweddau gwleidyddol y pwnc yn ardderchog. Efe oedd golygydd y Temlydd Cymreig. Bu'r Capten G. B. Thomas drwy bob cwrr o Ogledd Cymru yn sefydlu Temlyddiaeth Dda. Teithiodd, hefyd, mewn cysylltiad â'r un achos, drwy wahanol rannau'r deyrnas ac yn yr America, a byddai'n siarad yn ei blaid ymhob man. Er yn ddiffygiol mewn priodddull Gymreig, fe lefarai weithiau gydag angerddoldeb dull. Yr oedd ei gymhariaeth o Demlyddiaeth Dda i'r life—boat yn un o'r pethau goreu a glywid ar y llwyfan dirwestol. Gyda'r gymhariaeth honno fe fyddai'n fynych yn trydanu cynulleidfaoedd mawrion. Mewn blynyddoedd diweddarach, fe ymroes i fyned oddiamgylch i gyfarch cynhulliadau o blant, i'r hyn yr oedd ganddo ddawn gyfaddas.

Yn y dref hon y cychwynnwyd Temlyddiaeth Dda yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd Cyfrinfa Eryri yma yn niwedd 1871. (Temlydd Cymreig, i. 7.) Bu yma oddeutu 600 o aelodau ar un adeg. Dechreuodd yr achos edwino yn gyflym. ymhen rhyw dair blynedd neu lai.

Diffyg mawr ynglyn a'r mudiad dirwestol, nid ar y cyntaf feallai, ond ymhen ysbaid o flynyddoedd, ydoedd treulio llawer o amser i siarad am y drwg, heb wneud nemor yn ymarferol i'w atal, na meddwl rhyw lawer am wneud dim. A phan olygid meddwdod ac yfed fel drygau cymdeithasol, ac y cynygid meddyginiaeth ar eu cyfer, heb ddwyn yr Efengyl i mewn i'r drafodaeth, fel yr arferid gwneud, yna nid oedd digon o ddeunydd dirgelwch yn y pwnc i aros yn barhaus uwch ei ben, ac fe aethpwyd yn naturiol i roi gorbwyslais arno ym mhob agwedd iddo. Fe fuasai cynllunio moddion i atal y drwg wedi bod yn ddylanwad iachus; ac fe fuasai edrych ar y drwg of feddwdod, fel y gwneid å drygau eraill, yng ngoleu trefn gwaredigaeth yr Efengyl, wedi cadw'r siarad rhag rhedeg i eithafion ynfyd. O ddiffyg gwneud hynny, fe aethpwyd i ddysgu yn bendant fod eisieu cael dyn i roi'r yfed heibio cyn y gallesid disgwyl dim lles oddiwrth bregethu'r Efengyl iddo, yr hyn sy'n addysg hollol groes i ystyr trefn gras, ac i brofiad hefyd. Fel hyn y dysgid yn barhaus yn y cyfarfodydd dirwestol. Ac oddiar y gwreiddyn hwn fe darddai lliaws o geinciau penboethni. Dywedid fod yr yfwr cymedrol yn waeth na'r meddwyn, yn gymaint a'i fod yn rhoi esampl a ddilynid gan eraill, pryd na ddilynid mo esampl y meddwyn gan neb. Dywedid fod yfed diod feddwol ynddo'i hun yn bechod. Ymresymid, yn gymaint a bod llawer o ddiod yn meddwi, yna fod. ychydig o ddiod yn meddwi ychydig. Amheuid weithiau a oedd yn bosibl i yfwr cymedrol fod yn ddyn duwiol. Dywedid mai meddwdod ac yfed oedd y pechod mwyaf, a phe ceid y drwg hwn oddiar y ffordd unwaith, yr achubid y byd yn fuan. Dysgid y pethau hyn a'r cyffelyb yn groew, a rhoid pwyslais arbennig arnynt; ac wrth wneuthur hynny fe eid dan sylfaen yr addysg efengylaidd, a eilw ar ddyn, fel pechadur, i ddod yn uniongyrchol at Grist, ac a gyhoedda mai anghrediniaeth yn unig ydyw'r pechod y mae dyn yn gondemniedig o'i herwydd yng ngwydd Duw. Mae'n ddiau fod y Gobeithluoedd yng ngwahanol gapelau y dref wedi bod yn ffrwythlon o addysg ac arferion da, canys yn y rhai hyn fe ddysgid yn fwy am feddwdod fel un agwedd yn unig ar y drwg cymdeithasol, a thraethid am y drwg i ryw fesur ac ar brydiau yng ngoleu trefn yr Efengyl, a chymysgid yr addysg ddirwestol â moes-wersi buddiol eraill.

Y mae Mr. Evan Jones wedi dweyd fwy nag unwaith mai Robyn Ddu oedd yr unig wr o athrylith a gododd yng Nghaernarvon. A bu ar un cyfnod yn ddywediad gan feirdd a llenorion a drigiannent yn y dref am ysbaid, fod Ceridwen, duwies awen, wedi melltithio plant Caernarvon. Tebyg fod arlliw of wirionedd ar hynny, a bod nifer y beirdd o blith hogiau'r dref braidd yn fychan. Fe ddichon, wedi'r cwbl, na bu Caernarvon ddim yn ol o'i rhan deg mewn gwyr grymus o blith ei phlant cyn codiad Methodistiaeth cystal ag ar ol hynny, heb son am y lliaws nifer o ddynion clodfawr a fu'n trigiannu yma ar wahanol adegau. Ond a chyfyngu'r sylw i'r brodorion ar ol cyfodiad Methodistiaeth. Fe ystyrrid Richard Roberts, y telynor dall, yn un o brif delynorion ei oes. Yn 1829 fe gyhoeddodd y Cambrian Harmony, casgl o alawon Cymreig. Fe ae Robyn Ddu yn blentyn i Benrallt; bu wedi hynny gyda'r Wesleyaid a'r Anibynwyr yn ol a blaen, a chyda Seintiau y Dyddiau Diweddaf. Yr oedd elfen o ansefydlogrwydd ynddo, a chollodd lawer o'i ddylanwad o'r herwydd. Fe aeth i'r Deheudir yn fuan ar ol ymuno â'r Saint, yr hyn ydoedd oddeutu'r flwyddyn 1856, a dychwelodd oddiyno cyn bo hir; ac erbyn hynny yr oedd wedi eu gadael. Pan ofynnodd rhywun iddo, pa fodd y troes efe mor fuan oddiwrthynt, ei ateb oedd,—" 'Does dim rhaid i ddyn wisgo ambarelo o hyd, na chaiff o'i rhoi hi heibio yn y man!" Dyn rhwydd ydoedd, gyda llawer o natur dda, ac fel carreg lefn yn ysglentio dros y wyneb. Nid oes unrhyw le i ameu na chafodd efe afael o'r diwedd ar egwyddor sefydlog, nac ychwaith ei fod yn ddyn da ym môn ei natur. Ni chwynid ddim am dano yn rhan olaf ei oes. Yr oedd yn ysgrifennydd medrus, yr oedd cyffyrddiadau doniol yn ei farddoniaeth, ac yn ei amser goreu yr oedd yn siaradwr penigamp ar ddirwest, ym marn rhai, yn un o'r pedwar neu bump blaenaf a fu yng Nghymru. Ymwelai â'r dref, ar ol symud ei drigias oddiyma, bob blwyddyn braidd, a siaradai ar y maes fynychaf, am hanner awr wedi pedwar brynhawn Sul. Unwaith, gan gyfeirio ar ddull cynnil at ei gwympiadau ei hun, fe ddywedai y cadwai yr hen Farquis Môn gynt, sef arwr Waterloo, ordderchwragedd, ac y codid ef i'r cymylau fel cadeirydd y Feibl Gymdeithas gan John Elias a Christmas Evans; ond pe digwyddasai i Robyn Ddu yfed llond gwniadur o ddiod fain, yr elai'r sôn am hynny drwy Gymru benbaladr. Ganwyd ef yng Nghowrt y Boot. Yr oedd Dr. Griffith Parry, yn ddiau, yn un o feddylwyr coethaf y Cyfundeb. (Edrycher Moriah). Yr oedd Lewis Jones yn un o sylfaenwyr y wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yn llywydd cyntaf yno, ac yn brif ynad. Yr oedd cyn hynny yn un o olygwyr y Pwnsh Cymreig, cystal a'i gyhoeddwr. Enillodd Syr William Preece safle arbennig fel dyfeisydd gwyddonol mewn trydaniaeth. Gallesid enwi amryw yn awr yn fyw wedi hynodi eu hunain mewn gwahanol gylchoedd neu gyrraedd safleoedd arbennig; ond fe enwir ond odid yr hynaf ohonynt wrth enwi'r Parch. Hugh Jones, un o bregethwyr goreu y Cyfundeb Wesleyaidd yng Nghymru yn ei oes. Brodorion y dref ydoedd y cwbl a enwyd.

Yn ymyl y dref, ger y Bontnewydd, y ganwyd y Parch. William Griffith Caergybi, un o saint amlycaf Cymru yn ei amser, ac un o'r ychydig iawn y gellir rhoi'r teitl o sant arnynt o'i ddeall yn ei ystyr uchaf i gyd. Yng nghyfarfod Undeb yr Annibynwyr yng Nghaernarvon yn 1873, a gynhaliwyd am 6 y bore ar un diwrnod yng nghapel Pendref, pan oedd y naill siaradwr dawnus ar ol y llall wedi ymollwng i beth hwyl ysgafn, a pheri nid ychydig chwerthin yn y lle, fe gododd ef ar ei draed, ac â golwg sobr iawn arno, fe estynnodd allan ei fraich grynedig, ac â'r lle wedi distewi drwyddo a difrifoli, fe ddywedodd y geiriau, yn grynedig-ddifrif,—"Yn y fangre hon y cefais i fy ail-eni." Yr oedd effaith y geiriau yn gofiadwy iawn. Eglurodd fod unrhyw ysgafnder—dyna'i air—yn y lle hwnnw yn annioddefol i'w deimlad. Pan oedd Eos Beuno yn cydgerdded âg ef unwaith wrth lan yr afon gerllaw y Bontnewydd, fe gododd William Griffith ei law i fyny, a chan bwyntio gyda'i fys at fan neilltuol ar y ffurfafen, ebe fe,—" Pan yn fachgen un arbymtheg oed, mi welais i oleu yn y fan acw,"—a chan ddodi ei law ar ei fynwes fe chwanegodd,—" ac y mae o yma byth." Er na allesid priodoli athrylith feddyliol i William Griffith, eto fe allesid priodoli iddo athrylith grefyddol. Yn y Bontnewydd y ganwyd y Parch. John Griffith, Bethesda wedi hynny, gwr o feddwl neilltuol o gryf, a chymeradwy gan bawb, a phregethwr goleu, a nerthol ar rai prydiau. (Edrycher Bontnewydd.)

Er na anwyd mo Eryron Gwyllt Walia yn y dref, eto yma y lluniwyd ei natur foesol, yn niwygiad 1818 ym Mhenrallt, a delw'r diwygiad hwnnw, fel y profwyd ef ganddo ef ym Mhenrallt, a arhosodd ar ei athrylith a'i gymeriad. (Edrycher Moriah.)

Nid mor hawdd fuasai cyfleu nodweddiad arbenigol pobl y dref drwy enghreifftiau, yn gymaint a bod y boblogaeth yn llawer llai sefydlog yma nag mewn ardaloedd gwledig. O ardaloedd eraill y buasai'r naill hanner neu ragor o'r cymeriadau neilltuol wedi dod. Ac y mae nifer mawr o'r rhai a fegir yn y dref yn symud oddiyma, ond yn fynych yn cadw delw'r dref ar eu calon. Eithr y mae rhyw haen amlwg o gymeriad trefol yn perthyn i'r lle: y mae rhai enghreifftiau eisoes wedi eu cyfleu gerbron, ac fe gyflei'r rhagor yn hanes yr eglwysi. Dichon y gallesid nodi Robyn Ddu fel yn crynhoi ynddo'i hun nodwedd- ion mwyaf neilltuol y bobl ar un wedd, ac Eryron Gwyllt Walia ar wedd arall; er, ar yr un pryd, fod y nodweddion a grynhoid yn y naill a'r llall ohonynt hwy yn graddol ddiflannu. Fe welir y nodwedd drefol ar liaws heb fod yn frodorion, ond wedi dod yma yn eu hieuenctid.

Llanbeblig ydyw eglwys y plwyf, a chapelau dibynnol arni hi yw'r lleill. Y mae'r adeilad ychydig gannoedd o lathenni i'r ochr ogledd-ddwyreiniol oddiwrth safle'r hen gaerau. Y mae wedi ei chysegru i Beblig, mab Macsen Wledig. Yr Elen y mae ei henw o hyd yn glynu wrth y gymdogaeth, megys yn Ffynnon Elen, ydoedd gwraig Macsen, a mam Peblig. Nid ydoedd yr un a mam Cystenyn Fawr, a chamgymeriad yw cyfleu ei henw yn Coed Alun. Y mae rhan o'r adeilad presennol yn hynafol iawn, ond nid yw'r rhan honno, debygir, ond wedi ei chodi ar sylfaen flaenorol. Tebygir mai Caer Sallwg oedd hynny o dref oedd ynghylch yr eglwys, ac felly yn ymyl olion yr hen Gaer Saint blaenorol. Adeiladwyd yr eglwys yn ei ffurf bresennol, fel y tybir, oddeutu dechreu'r 15fed ganrif. Mynn rhai fod y sylfaen gyntaf gyn hyned a Pheblig ei hun, sef o'r 5ed ganrif. Yr oedd gwerth y fywoliaeth yn £350. oddeutu 1880. Y mae traddodiad fod capel dibynnol ar Lanbeblig yn sefyll unwaith yn ymyl Ffynnon Elen, ond ni wyddys mo'i gyfnod. Eglwys Fair sydd ynglyn wrth dwr ar y mur ar y cei, sef eglwys y dref newydd. Ail-adeiladwyd mewn rhan yn 1812. Cynhelir gwasanaeth Byddin yr Eglwys yma yn awr. Cychwynnwyd Byddin yr Eglwys yn 1900 dan arolygiaeth Capten Griffiths. Eglwysi diweddar yw eglwys Crist a'r eglwys wrth y Twtil.

Llanfaglan sydd eglwys hynafol, yn agos i ddwy filltir o ganol y dref i'r dde-orllewin. Y mae cerrig Rhufeinig wedi eu gweithio i mewn i'r adeilad. Ceir cyfeiriadau at yr eglwys. yn y 14 ganrif. Codwyd eglwys ddiweddar yn ei lle yn nes i'r Bontnewydd. Baglan ydyw'r nawddsant. Ae eglwyswyr y Bont naill ai i'r eglwys hon neu ynte i eglwys Llanwnda. Dengys dyddlyfr D. Griffiths fod ysgol Sul eglwysig yn cael ei chynnal yn ysgol genedlaethol y pentref er 1858.

Erys coffadwriaeth Thomas Thomas, a benodwyd i viceriaeth Llanbeblig yn 1837, yn fyw a pharchedig o hyd. Yr oedd yn wr o ysbryd efengylaidd, yn bregethwr o ddylanwad, yn dwyn mawr sel dros y Feibl Gymdeithas.

Yn 1862 y penodwyd ei olynydd ef, J. C. Vincent. Daeth ef o dan ddylanwad mudiad uchel-eglwysig Rhydychen. Yn y colera a fu yn y dref yn 1866 fe ragorodd ar weinidogion eraill y dref yn ei ymroddiad i'r cleifion, a mawr ydoedd ei glod ar y pryd o'r herwydd. Bu farw yn ddyn cymharol ieuanc, ac fe ddywedid ar y pryd ei fod ar ei farw-ysgafn, mewn llawn feddiant ar ei synwyrau, yn gofyn i'r rhai o'i amgylch, onid oeddynt hwy yn gweled yr angylion yn yr ystafell? Yr oedd yn ddyn. tal, syth, cymesur, boneddig yr olwg arno, a chydag urddas llym yn argraffedig ar ei wedd.

Ei olynydd ef yn 1869 oedd H. T. Edwards, y Deon wedi hynny. Uchel-eglwyswr y cyfrifai yntau ei hun. Yr oedd rhywbeth yn ei ddylanwad ef yn gyferbyniol i'r ddau arall. Gydag ef fe ddeffrowyd y teimlad o wrthdarawiad rhwng eglwys a chapel. O'r blaen, y vicer fyddai'r cadeirydd yng nghyfarfod y Feibl Gymdeithas; ymhen rhyw gymaint ar ol iddo ef ddod yma, fe newidiwyd hynny, a pheidiodd yntau mwyach a dilyn y cyfarfodydd. Yr oedd rhywbeth yn ei ddull o siarad yn gyhoeddus y pryd hwnnw yn awgrymu'r ymladdwr. Wrth wneud rhyw bwynt neilltuol fe giliai gam yn ol ar y llwyfan, a rhoddai'r ergyd ymresymiadol neu reithegol gyda rhuthr, fel y deuai gam ymlaen drachefn; ac yr oedd rhyw ru cyffrous yn ei lais. Yr oedd yn anhawdd peidio â meddwl nad oedd gan bresenoldeb ymneilltuwyr yn y cyfarfod rywbeth i'w wneud â'r dirfawr gynnwrf. Fe godai ias o arswyd braidd yn y meddwl ieuanc wrth wrando. Yr oedd hynny cyn dyddiau'r ddadl ar ddatgysylltiad. Os gellir dibynnu ar adroddiadau, yr oedd elfen yr ymladdwr yn gryf ynddo er yn ieuanc, yn tywynnu allan yn amlwg drwy'r menyg paffio. Yr un pryd, yr oedd y cynnwrf hwnnw yn arwydd o ddiffyg hunanfeddiant cyflawn a mantoliad cydbwys. Bu mewn dadl drwy gyfrwng y Goleuad â Thomas Charles Edwards, a sylw'r gwr hwnnw arno, cyn bo hir iawn ar ol y ddadl, ydoedd, mai dyna'r fath ydoedd, pan y tybiai y gwelai rywbeth y rhuthrai arno fel tarw. Yn ei araeth deirawr fawr ar ddatgysylltiad yng Nghaernarvon, yng nghyfnod y ddadl gyhoeddus yma, fe wnaeth ymosodiad enbyd ar ymneilltuaeth. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn ddilynol i hynny, fe ddywedodd Henry Jonathan, mewn cyfeiriad at yr araeth honno, fod y Deon wedi dweyd i'r gwrthwyneb ar bob pwynt yn yr araeth, lle'r ymosodid ar ymneilltuaeth, wrtho ef ei hun yn gyfrinachol. A gwr i ddibynnu arno oedd Henry Jonathan. Eithr dyna'i ddull ef: yng nghyfrinach ymneilltuwr fe gydnabyddai bethau andwyol braidd i'w ochr ei hun, a gwnae hynny mewn dull agored, siriol, brawdol, y fath a dynnai serch y sawl a gawsent y fraint o'i gymdeithas ato'i hun. Yn y ddadl gyhoeddus ac yn ei lyfrau, fe ddanghosai, yn ei gyfeiriadau at ymneilltuaeth ac ymneilltuwyr, ysbryd eithafol chwerw. Mae pob lle i gasglu ei fod yn gwbl ddiragrith yn y naill gysylltiad cystal a'r llall. Fe berthynai iddo liaws o ragoriaethau amlwg fel dyn, fel pregethwr, fel gwladwr, cystal a rhyw ddawn reithegol anarferol fel ysgrifennydd, yn enwedig yn y Saesneg.

Ei olynydd ef oedd y Dr. Daniel Evans yn 1876. Clywodd pawb am ddadl Corris, rhyngddo ef a Mr. Evan Jones, ac yn ol pob hanes yr oedd yn ddadleuwr medrus, cyflawn o wybodaeth, ac â dawn ganddo i gornelu'r gwrthwynebwr.

Dywedir ddarfod i Daniel Phillips Pwllheli, yn fuan ar ol pasio deddf goddefiad yn 1689, gofrestru tŷ yma i bregethu, ac iddo ddod yma i bregethu hyd y gallai hyd derfyn ei oes yn 1722. Cynhelid yr achos ymlaen oreu ellid, gyda neu heb bregethu, ac yna rhowd terfyn arno am amser maith. Trwyddedwyd tŷ yma i bregethu gan Rees Harries, gweinidog Pwllheli; ac ar ol hynny trwyddedwyd tŷ ym Mhenrallt gan Abraham Tibbot, Chwefror 28, 1780. Bernir mai tŷ yng ngwaelod Penrallt ydoedd gyferbyn â Sein Delyn. Y gweinidog sefydlog cyntaf oedd John Griffith, 1782-4; yna (Dr.) George Lewis, 1785-94. Cyn i John Griffith fyned oddiyma, yr oedd yr eglwys yn ymgynnull mewn llofft yn Nhreffynnon, ar y ffordd i Lanberis. Yn 1791 adeiladwyd Pendref. Dychwelodd John Griffith yma yn 1796, ac arhosodd hyd derfyn ei oes yn 1818. Yr oedd Caledfryn yma yn ystod 1832-48. Adeiladwyd capel newydd yn 1839. Yn fuan wedi hynny adeiladwyd Joppa yn Stryd Snowdon. Adeiladwyd Salem yn 1862, ac yna rhowd terfyn ar yr achos yn Joppa. Bu David Roberts ym. Mhendref yn ystod 1850-71. Daeth Evan (Herber) Evans i Salem yn 1865. Dywedir yn Hanes yr Eglwysi Anibynnol (t. 248) mai oddeutu 1820 y dechreuwyd pregethu yn y Bontnewydd gan William Jones, gweinidog Pendref. Yn 1818 y bu John Griffith, gweinidog Pendref cyn hynny, farw; a bu Simon Hobley yn gwrando arno ef yn pregethu yn y Bontnewydd. Agorwyd y capel yn 1826; ond ni ffurfiwyd eglwys am flynyddcedd wedi hynny.

John Griffith ydoedd tad William Griffith Caergybi, tad teilwng o'r mab. Yr oedd yn wr tal, cydnerth, hardd, boneddig yr olwg arno, parchedig yngolwg pawb, ac yn meddu ar ddawn. felys a phoblogaidd. Er hynny, bod yn dad i William Griffith ydoedd ei anrhydedd uchaf, a'i waith yn llunio ei gymeriad ef ei orchest bennaf. Ac yr oedd ei fab arall, y Parch. John Griffith (Buckley) yn addurn arall arno. Yr oedd John Griffith y tad yn fwy pregethwr na'i feibion. (Hanes Eglwysi Anibynnol, t. 234 ac ymlaen.)

Feallai mai gweinidogaeth Caledfryn oedd y fwyaf cynhyrfus o eiddo un gweinidog a fu yng Nghaernarvon. Bu ymraniad yn ei eglwys pan ymadawodd lliaws i sefydlu Joppa. Yr oedd efe yma pan torrodd y diwygiad dirwestol allan gyda'r fath rym, a gwrthwynebodd y diwygiad hwnnw. Ac megys ag yr oedd yn briodol iddo ef, wedi dechre gwrthwynebu, gwrthwynebodd â'i holl egni. Yr oedd amddiffynwyr dirwest yn y dref, o'u tu hwythau, yn meddu ar eithafion sel o blaid eu hachos. Taranai y naill yn erbyn y llall. Gadawodd y nifer mwyaf o'r tafarnwyr y capelau eraill, gan godi eu pabell ym Mhendref. Diau fod a fynnai hynny lawer â'r ymraniad. Aeth y dirwestwyr i Joppa, a gadawyd y lleill ar ol; a ffynnai gwrthwynebiad penderfynol rhwng y ddau le. Parodd ymosodiad Caledfryn ar ddirwest iddo ef a'r Dr. Arthur Jones (Bangor), oedd yn gyfeillion mawr o'r blaen, fyned dros ysbaid yn wrthwynebwyr mawr. Pan ymadawodd y dirwestwyr i Joppa, fe wnaeth y Dr. Arthur Jones y sylw fod y colomenod i gyd wedi codi o Bendref, gan adael y brain i gyd ar ol! Achos arall o gynnwrf nid bychan oedd ymosodiad Caledfryn ar grib-ddeiliaeth masnachwyr y dref. Nodai enghreifftiau yn ddigon amlwg i'w hadwaen, fel yr hysbysid hwy iddo, weithiau'n deg weithiau eraill yn anheg; ac yn naturiol fe greai hynny siarad mawr a drwgdeimlad mawr. Yr oedd yn wleidyddwr aiddgar, a pharai ei bleidgarwch i Ddatgysylltiad a phynciau eraill lawer o siarad ac ymddadleu. A byddai dwndrio nid bychan uwchben ei feirniadaethau llenyddol miniog. A dyddiau y parlwr bach cefn ydoedd y rheiny, lle'r ymgyfarfyddai'r siopwyr â'i gilydd, a dyddiau'r dondio a'r dadleu uwchben y potiau yn y tafarnau; a rhwng popeth nid oedd nemor seibiant o unrhyw hyd oddiwrth yr helyntion a barai Caledfryn. Yr oedd Caledfryn ei hun yn wrthwynebydd mor bybyr, fel y deffroai bybyrwch yn ei wrthwynebwyr yntau. Yr oedd adsain y clwcian a'r clochdar i'w glywed ymhen ugain mlynedd wedi iddo ef ymadael â'r dref. Ond y naill ochr i Galedfryn yn unig a welir yma. Yr oedd yn wr urddasol ei ymddanghosiad a'i ddull yn y cyhoedd. Bernid ef gan rai yr areithiwr ar bynciau cyffredin goreu yng Nghymru; ac yr oedd yn bregethwr poblogaidd a dylanwadol, cystal ag yn fardd a beirniad a llenor o fri yn ei amser.

Yn yr eithaf arall oddiwrth Caledfryn yr oedd (y Dr.) David Roberts. Tynnai ef y llaw yn esmwyth dros y gwallt. Gwr tawel, siriol, caruaidd, caredig, oedd ef; a phregethwr mwyn mwyn. Yr oedd ganddo ryw ddawn ddisgrifiadol mor amlwg ag eiddo neb yng Nghymru o fewn ei gylch ei hun; a chwareuai ar dannau'r delyn nes swyno pob clust.

Rhyw ymarllwysiad oedd Herber Evans. Bob tro y codai i siarad, pe na bae ond i gynnyg neu eilio diolchgarwch, deuai fel sioch am ben dyn. Goreu po hwyaf y byddai wedi aros heb siarad; yna, pan ddeuai ei dro, byddai ei holl agwedd megis yn dweyd yng ngeiriau Elihu,-"Minnau a atebaf fy rhan minnau a ddanghosaf fy meddwl. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau ac atebaf." Rai troion, ar ol codi ohono ar ei draed, a chyn iddo ddweyd gair o'i enau, fe welid yr holl gynulleidfa yn siglo gan chwerthin, megys pe na bae hi ond rhyw un bod, wrth weled ohoni ar ei wedd fod yr argae ar godi, a chan wybod fod rhuthr gwreichionllyd o hyawdledd yn ei hwynebu. Fe welwyd rhyw funud cyfan o hynny yn troi yn ei erbyn, gan ei wneud yn ymwybodol ohono'i hun. Weithiau fe newidiai tôn cyfarfod yn hollol ac ar unwaith ar ei waith ef yn codi ar ei draed, megys, ar un tro, pan oedd Ieuan Gwyllt wedi bod yn siarad ar hawliau addysg, mewn cysylltiad feallai â'r bwriad i sefydlu coleg yn Aberystwyth; ac wedi i'r cyfarfod fod yn un o'r rhai mwyaf hwyrdrwm, dyna yntau gerbron, a'r lle yn fyw drwyddo, a'r bobl oedd ddau funud neu dri yn ol mor drwm— bluog yr olwg arnynt, bellach yn clecian eu hadenydd megys, ac yn ysgrechian ac yn bonllefain eu cymeradwyaeth fel mewn rhyw rialti pen blwydd tywysog. Nid oedd ryfedd fod Ieuan Gwyllt ei hun, wr synfyfyrgar, o'r tucefn ar y llwyfan, yn amlygu ei syndod y fath, nes yr oedd gwyn y llygaid fel dau ddarn arian o dan yr aeliau trymion, tywyllion. Y digrifol geid yn teyrnasu yn gyffredin yn y cyfarchiadau hyn; ond yn ei fannau dedwyddaf i gyd fe geid dagrau yn gymysg â chwerthin, fel heulwen bob yn ail â gwlaw. Ambell dro, fel clo i'r araeth, fe geid rhyw ddisgrifiad ysgafn—farddonol fel bwa disglair amryw liwiau yn tywynnu i'r golwg dros y fan oedd funud yn ol yn cawodi hyfryd ddagrau, a lle'r oedd y lleithder eto heb ei sychu ymaith oddiar wyneb y ffurfafen. Mantais iddo ef oedd y cyfarchiad byrr. Er y cawsai ef wrandawiad effro dan bob pregeth, eto ni byddai'r bregeth ganddo fel rhyw ddiferyn o arian byw nad gwiw cyffwrdd ag ef. Yr oedd y cyfarchiad felly: yn rhyw un diferyn, neu ynteu'n lliaws o ddiferynau crynion, byw; ond gallasai'r bregeth beidio â bod yn hyn na'r llall; ac ar y goreu ni byddai fyth yn ddrych byw perffeithgwbl, yn ymrannu neu'n ymgau yng nghrebwyll dyn fel rhyw ddiferyn o ryfeddod a drych o gyfiawnder tragwyddol. Fel y dywedodd Robert Jones Llanllyfni am dano unwaith, ar ol ei wrando yn ei fan goreu,—" 'Dydio ddim yn rhoi pregeth i chwi; ond yr ydych yn cael rhywbeth cynddeiriog o dda ganddo yn lle pregeth."

Mae hanes am fedydd yn afon Saint yn 1789. Ffurfiwyd eglwys gan y Bedyddwyr yn 1799. Y man cyfarfod ar y cyntaf oedd yn Nhreffynnon, wedi hynny mewn tŷ ym Mhenrallt Ddeheuol hyd 1826, pryd yr adeiladwyd Caersalem. Helaethwyd yn 1855. (Hanes y Bedyddwyr iii. 358). Yr oedd y Bedyddwyr Sandemanaidd yma yn 1835, ac am gyfnod oddeutu hynny; ond ni bu eu nifer ond bychan.

Yma y treuliodd Christmas Evans y chwe blynedd diweddaf o'i oes, sef ystod 1832—8. Pan ddaeth efe i Gaernarvon yr oedd dyled o £800 ar y capel a dim ond 30 o aelodau, a rhai ohonynt o dan ddylanwad cyfundrefn J. R. Jones Ramoth. Yr oedd ymrysonfeydd a rhwygiadau wedi bod yn yr eglwys, fel yr oedd nifer o'r gwrandawyr wedi eu tarfu ac wedi ymadael i leoedd eraill. (Y Gwyddoniadur, d.g. C. E.) Ond er fod sefyllfa'r eglwys wedi cyfyngu ar ei ddylanwad yn y dref, eto bu iddo ddylanwad gwirioneddol ac arhosol. Byddai Iliaws yn myned i wrando arno o fannau eraill, a delid ef mewn parchedigaeth mawr gan bob dosbarth ac enw yn y dref. Yr oedd rywbeth cwbl arbennig ynddo ef o ran nodwedd ei athrylith a'i gymeriad. Yr ydoedd yn wr chwe troedfedd o daldra, ac yn gorffol; heb fod yn gymesur ei ffurf, a rhywbeth afrosgo yn ei symudiadau. Meddai ar ben anarferol o fawr, gyda thalcen eang, aeliau bwaog, ac wedi colli un llygad. Ymgrynhoai y genau ac ymdynhäent, megys gan chwareugarwch a direidi dychmygol, ar yr un pryd ag yr arhosai'r llygad yn llonydd, gyda gwawr oleu ynddo, ond dan gyffroad teimlad yn llewyrchu ac yn ffaglu. Gwir arwyddlun y meddwl ydoedd ei ymddanghosiad allanol. Nid oedd o feddwl cymesur, ac yr oedd yn hytrach yn ddiffygiol mewn ysbryd barn a choethder chwaeth. Nid oedd grym ei ddeall yn gyfartal â bywiogrwydd ei athrylith. Eithr yn yr hyn a elwir yn briodol yn athrylith, fe ddichon ei fod tuhwnt i bob pregethwr a fu yng Nghymru. Ni wyddys a fyddai athrylith Elis Wyn yn llewyrchu allan yn ei bregethau; ond a barnu oddiwrth y Bardd Cwsc, efe ydoedd athrylith-efaill Christmas Evans. Mae'n hawdd gweled fod Elis Wyn wedi gadael ei ol ar Christmas Evans o ran cynllun dychmygol ac o ran iaith. Mae'r ragoriaeth gydag Elis Wyn o ran gafael meddwl, cysondeb syniad, crynhoder awchlym, iaith ddiwylliedig; ond y mae Christmas Evans yn ei fannau uchaf yn dangos mwy o hyawdledd iaith a syniad, ac yn fynych athrylith fwy amrywiol. Y mae'r meddwl yn ymagor allan yn llawnach ganddo, ac y mae ynddo fwy o dynerwch ac o asbri ysgafn, chwareus, goleulawn. Rhaid peidio â'i farnu oddiwrth ei ysgrifeniadau ei hun, oddieithr mewn mannau, yn gymaint ag oddiwrth atgofion eraill o'i ddisgrifiadau hyotlaf, neu ei ddywediadau disgleiriaf. Mae'n debyg nad oedd y fath fywiogrwydd ynddo ar hyd ei araeth ag yn Herber Evans; ond tra'r oedd hyawdledd Herber Evans yn gyfyngedig i'w ddull, yr oedd Christmas Evans yn hyawdl o ran dull ac iaith a drychfeddwl. Ac er fod Herber Evans yn chware ar amrywiol dannau'r delyn, eto yr oedd Christmas Evans yn ddwysach, yn fwy cyffrous ac aruthr, yn agor golygfeydd mwy rhamantus o flaen y meddwl. yn deffro mwy ar y teimlad o'r dieithr, y rhyfeddol, y cywrain, y cyfriniol. Y mae wedi ei ddweyd lawer gwaith fod gradd helaeth o debygrwydd rhyngddo a Bunyan; ac y mae'n amlwg ei fod ef wedi dysgu llawer oddiwrtho. Y mae Bunyan yn rhagori mewn symledd a chysondeb. Nis gallasai Christmas Evans ledu allan y fath olygfeydd eang, cyson, pell—gyrhaeddol ag a geir gan Bunyan; ond yr oedd efe'n wylltach, yn llawnach o asbri plentyn, ac yn dygyfor yn fwy gan hyawdledd angerddol.

Yma y treuliodd Cynddelw y rhan olaf o'i oes, sef ystod 1862—75. Ni ddarfu iddo ef gymysgu rhyw lawer â'r bywyd trefol; ni chlywid mono ond yn achlysurol ar y llwyfan cyhoeddus. Yr efrydydd enciliedig ydoedd i fesur mawr, mor bell ag yr oedd bywyd y dref yn y cwestiwn. Yr oedd yn ei ddull yn wr agored, rhydd, yn ei inverness fawr, a chyda'i wyneb rhadlon a'i farf hirllaes. Rhadlonrwydd tawel oedd ei nôd arbennig. Dyn trwyadl dda ydoedd ef, er nad oedd dwyster crefyddol yn ymddangos yn ei nodweddu. Yr oedd teimlad crefyddol amlwg yn y dref yn amser ymweliad cyntaf Moody â'r wlad hon. Cynhelid cyfarfodydd gweddi undebol yn y gwahanol gapelau. Deuai Cynddelw i'r cyfarfod yn ei gapel ei hun. Ar un tro, yr oedd Herber Evans yno yn siarad mewn teimlad toddedig. Soniai am eneth o forwyn o'r Alban, wedi dod o ganol y mynyddoedd i wasanaeth yn rhywle ar wastatir Lloegr. Hiraethai'r eneth am wlad y bryniau,—" Oh, for a wee bit of a hill!" Dyna ei deimlad yntau ynghanol gwastad crefyddol y blynyddoedd hynny: "Oh, for a wee bit of a hill! Wrth godi ar ei ol, fe gydnabyddai Cynddelw ei anallu i ymdaflu i deimlad; ac amlwg mai ei feddwl oedd nad allai efe ddim. cynyrchu teimlad yn y dull y gwnae y llefarwr o'i flaen. Cyfansoddodd amryw lyfrau buddiol, ac yr oedd ganddo arddull ddoniol mewn rhyddiaeth, cystal a'i fod yn fardd o gryn fri. Yr oedd ei bresenoldeb yn y dref yn cynnal y traddodiad llen— yddol ynddi. Fel darlithydd cyhoeddus fe'i ceid yn ddawnus a dysgedig, ac fel pregethwr yr oedd ar unwaith yn hwylus a llafurfawr. Tebyg, er hynny, mai ei brif gynneddf ydoedd arabedd, ac y mae lliaws o'i ddywediadau ar goedd gwlad. Ystyrrid ef gan Kilsby Jones yn un o'r tri humourist mwyaf yng Nghymru yn ei amser ef. Fel y dywedai Wyndham Lewis am dano, wrth ddefnyddio un o'i eglurebau mewn cyfarfod dirwest yng Nghaernarvon,—"A gwr o athrylith fyw oedd ein Cynddelw ni."

Tybir fod y bregeth gyntaf a rowd gan y Wesleyaid yn y dref wedi ei thraddodi yng nghapel Penrallt gan Owen Davies, Medi 15, 1800 (Hanes Wesleyaeth Gymreig, t. 44). Agorwyd capel ganddynt yn 1805, ac ail-adeiladwyd yn 1826. Ymsefydlodd Samuel Davies yma yn 1807. Danghosodd ef blaid i Robyn Ddu yn ddiweddarach o rai blynyddoedd, pan yr erlidid ef gan eraill. Rhaid gan hynny iddo fod yma yr ail waith. Yr oedd ef yn ddadleuydd pwysig yn y dyddiau hynny yn erbyn y Calviniaid. Danghosodd Robyn Ddu ei serch tuag ato drwy ei restru gyda John Elias, Christmas Evans a Williams mewn cân goffadwriaethol:

D'ai Samuel Davies mewn llonder yn llawn
I selog amlygu helaethrwydd yr Iawn.

Yr oedd R. M. Preece yn ei ddydd yn ddyn pwysig yn y dref a'r cylch. Mab iddo ef ydoedd Syr William Preece. Wrth ei alwedigaeth yn oruchwyliwr yr Hen fanc, ac yn bregethwr lleol. O ran ei ddull yn gyhoeddus, yn foneddig, gyda chyffyrddiad go amlwg o'r mawreddog. Y syniad ydoedd fod pregethwyr ieuanc y cyfundeb yn y cylch yn ei ddynwared, a rhoddai hynny iddynt, ym marn y Methodistiaid, agwedd orchestol. Un o straeon clasurol y pulpud sydd yn ei gylch ef. Gofynnodd Preece i Sian y bryn, yng nghlyw Robyn Ddu, ac yntau'n hogyn y pryd hwnnw, onid oedd hi'n teimlo'n oer iawn, a hithau'n droednoeth fel ag yr ydoedd, ar ddiwrnod o eirwlaw fel hwnnw? Atebodd Sian ei bod yn teimlo'n oer iawn. Yna, ar yr amod na waeddai hi ddim dan ei bregeth ef drannoeth, addawodd Preece bâr o esgidiau iddi. Yr oedd Robyn yn eistedd wrth ymyl Sian fore Sul, a Preece yn pregethu yn wresog. Dechreuodd Sian anesmwytho, ac yn y man diosgodd yr esgidiau, cododd ar ei thraed a thaflodd hwy ymaith, a gwaeddodd allan,-" Yr esgidiau i Preece, a Christ i minnau."

Bu Thomas Aubrey yma am flwyddyn yn unig, sef 1843. Yr oedd disgwyliadau mawrion wrtho, a braidd na thybid gan rai nad enillai efe'r dref i gyd o fewn terfynau ei enwad. Byddai lliaws o blith yr enwadau eraill a aent i wrando arno yn cwyno ei fod yn defnyddio geiriau annealladwy iddynt, sef geiriau hirion gyda therfyniadau anghynefin. Fe ddywedai Caledfryn, fel yr adroddid, ei fod ef yn arfer geiriau heb fod yn yr iaith o gwbl. Gwnaeth yma, fel mewn mannau eraill, argraff o ddoniau areithyddol annhraethol, a glynodd y geiriau, Aubrey fawr ei ddawn" wrth ei goffadwriaeth yn y lle.

Bu John Bryan yn trigiannu yma fel masnachwr yn rhan olaf ei oes, sef hyd 1856, wedi bod ar un cyfnod yn weinidog, ac yn parhau i bregethu, ac yn wr amlwg a chyhoeddus yn y dref a'r cylchoedd. Cymerodd ran yn y dadleuon diwinyddol, a chan ei ffraethder tafodlym yr oedd son am dano drwy'r wlad. Fe gynyrchai ei ddull mewn rhai cylchoedd gryn ddigrifwch ac ysgafnder. Yn y watchnight fe ymguddiai o'r golwg yn y pulpud dwfn hyd ar ol i'r gloch orffen taro hanner nos, ac yna fe roe lam i'r golwg, gan estyn ei freichiau allan, a chyhoeddi'r dymuniad am Flwyddyn newydd dda. Gwr llon ydoedd, o dymer ysgafn, chwareus. Yr oedd ar un tro yn croesi drosodd o'r Iwerddon mewn agerlong gyda Simon Hobley, pryd y cododd yn dymestl fawr, ac yr oeddid yn ofni am ddiogelwch y llong a bywyd y teithwyr. Wedi i'r dymestl fyned drosodd, mynegai Simon Hobley ei syndod wrtho ei fod ef yn gallu aros yn y caban yr holl amser ynghanol perygl mor fawr. "O," ebe yntau, "gyda Hobley yn gweddio ar y dec a Bryan yn canu yn y caban, 'doedd yna berygl yn y byd am y llong!" Byddai ei enw am flynyddoedd lawer wedi ei farw yn cynyrchu sirioldeb ym mhob cwmni, megys ag y bu ei enw am flynyddoedd ar un cyfnod yn ei oes yn codi lledrithiau a bwganod dadleuaeth ddiwinyddol.

Yma, hefyd, y treuliodd Richard Bonner y rhan olaf o'i oes, sef ystod 1854-67, a bu yma fel gweinidog y gylchdaith. Yr oedd ef yn wr urddasol yr olwg arno, dros ddwy lath o daldra, ac yn gymesur, gyda wyneb hir, talcen eang, aeliau trymion. blewog, a'r holl olwg arno yn foneddigaidd ac yn gofiadwy o darawiadol. Nid hawdd oedd ei anghofio ar ol unwaith ei weled. Er fod golwg ddifrif, lem arno, eto dull mwyn oedd ganddo gyda rhyw fechgynnos y digwyddai daro arnynt wrth ei dŷ. Fe arferai ddweyd iddo gael ei ddysgu gyda'r Methodistiaid a'i achub gyda'r Wesleyaid. Fel gwr o arabedd yr adwaenid ef oreu. Yr ydoedd yr un pryd yn meddu ar amgyffrediad eang a dychymyg chwareus, ac fe geid ei bregethau yn gyfansoddiadau destlus. Traddodai yn rhwydd a thawel, ac yr oedd swyn yn ei ddull, weithiau yn codi gwen ac weithiau ddeigryn. Troai o'r naill i'r llall yn annisgwyliadwy. Ar y llwyfan yr oedd ei arbenigrwydd mwyaf. Byddai ganddo ryw eglurhad neu hanesyn neu ddywediad arab yn hoelio'r glust yn barhaus. Yr oedd mwy o awch ar y pethau oblegid ei edrych- iad syn a difrif.

Yr oedd Cynfaen yma yn ymyl diwedd ei oes. Yr oedd ef yn wr o ddiwylliant eang ac o arddull flodeuog. Yn ei bregethau, ar brydiau o leiaf, yr oedd yn gymharol syml. Fe adroddir i Hiraethog ddweyd am ei erthygl yn y Geninen ar Chwaeth a Beirniadaeth, nad oedd neb arall yng Nghymru a allasai fod wedi ei chyfansoddi. Y mae byrdra arhosiad gweinidogion yr enwad yma, sef fel gweinidogion y gylchdaith, yn rhwystr iddynt wneud argraff neilltuol ar y dref fel y cyfryw.

Pregethwr lleol oedd John Morris Stryd y llyn. Dyn o dan y taldra cyffredin ryw gymaint, ond yn llawn o gorff; a chyda gwedd siriol, dawel, hunanfeddiannol, fel dyn mewn heddwch â'i gydwybod, ac heb fod yn agored i fraw disymwth. Enillodd barch pawb a'i hadwaenai. Fe ddywedir ei fod yn bregethwr melys, adeiladol, ac y byddai nid yn anfynych yn effeithiol anarferol.

Fe grybwyllwyd ynglyn â Robyn Ddu fod Saint y Dyddiau Diweddaf yma yn 1856, ac am rai blynyddoedd cyn hynny, fe debygir, cystal a blynyddoedd lawer ar ol; ond nid oeddynt ond nifer bychan iawn. Arferent gynnal cyfarfodydd cyhoeddus o flaen yr efail lle saif y post yn awr, a chawsant eu herlid yno aml waith, a hynny rai troion gan broffeswyr crefydd. Adroddir ddarfod eu hymlid unwaith ar hyd y maes i lawr allt y cei, ac yn offis yr harbwr y cawsont loches. Fe arferai Robyn Ddu gyfarch y dorf yn rhan y Seintiau oddiar risiau o flaen tŷ lle saif banc y North and South yn awr. Pres- wylid y tŷ y pryd hwnnw gan Abraham, mab i Evan Richardson; ac yn y tŷ hwnnw y preswyliai Evan Richardson cyn hynny. (Y Nelson', 1895, Awst, t. 15.)

Cychwynnodd y Pabyddion yma ers oddeutu 45 mlynedd yn ol. Y Tad Jones, wyr Dafydd Cadwaladr, oedd yr offeiriad cyntaf. Dyn bychan, eiddil, cloff ydoedd ef, ond gyda wyneb tyner, benywaidd, difrif. Llais gwan, gwichlyd oedd ganddo, ac ni feddai ar ddawn o gwbl. Cymerid ef yn ysgafn braidd pan ddaeth gyntaf i'r dref, a gwaeddid ar ei ol gan ryw fechgynnos difeddwl. Ni chymerai yntau arno ddim, ond gwnae ei waith yn dawel, yn ffyddlon, yn ymroddgar, megys i Dduw; ac yn y man, er nad yn fuan iawn, fe ddarfu'r gwrthwynebiad a'r diystyrrwch, a daeth y Tad Jones yn uwch uwch ym meddwl pawb, fel y coleddid tuag ato flynyddoedd cyn symud ohono o'r dref deimlad o barchedigaeth cyffredinol. Y mae capel y Pabyddion gerllaw'r Twtil.

Cychwynnodd Byddin Iachawdwriaeth yma yn 1887. Fe gynhaliasant eu cyfarfodydd am flynyddoedd yn Turf Square, yn yr ystafell y cychwynnodd yr eglwys Saesneg ynddi. Mawr y cynnwrf ar y cychwyn. Bu rhif yr aelodau yn 700. Glynodd. nifer. Y mae'r Fyddin yn y dref wedi dangos ysbryd ymroddgar ac wedi gwneuthur lles diamheuol.

Eglwys Rydd y Cymru oedd yr enwad diweddaf a gychwynnodd yma. Ni bu'r enwad yn lluosog. Darfu i Mr. R. O. Roberts gopio y ffigyrau isod o'r Llyfr Glas am 1846, debygir: "Ysgolion Sul, Rhag., 1846. Ysgol wladol Caernarvon. Ar y llyfrau, 300; yn bresennol, 299. Moriah, 384, 358. Engedi, 355, 325. Wesleyad, 225, 158. Bedyddwyr, 69. Tanrallt, 25." Joppa, 70, 43. Stryd Bangor [Pendref], 240, 215. Turkey Shore [Glanymor], 66. Gan fod enwadau eraill â'u rhan yng ngwaith yr ysgol yn y Workhouse, fe gyfleir yma adroddiad yr ymwelwyr Methodistaidd am eu hymweliad â'r ysgol yn 1885, sef canmlwyddiant yr ysgol Sul yng Nghymru: "Prynhawn Saboth, Hydref 11. Ni buom mewn ysgol erioed a osododd argraff mwy dymunol ar ein meddwl. Dechreuwyd am 2 i'r funud, pryd yr oedd pawb yn bresennol—golygfa hardd iawn. Atebwyd ni fod rhoi gwobrwyon wedi bod yn foddion i gynyddu'r llafur; fod y plant yn ateb o'r Rhodd Mam yn niwedd yr ysgol; yr amcenir gwneud yr ysgol yn foddion gras; yr addysgir ac y rhybuddir y plant ymherthynas i ddrygau ac anfoesoldeb; y cynrychiolir yr Ysgol yn y Cyfarfod Ysgolion; y cerir adref y cenadwriaethau oddiyno; fod angen am chwaneg o gymorth i gario'r gwaith ymlaen. Mae braidd bawb a ddaw yma o'r tuallan yn dod er mwyn y plant, ac y mae eu llafur yn ateb diben rhagorol. Y mae'n sicr fod yr agwedd ddymunol, astud a distaw sydd ar y plant hyn i'w briodoli i fesur helaeth i'r ddisgyblaeth y maent dani ynghorff yr wythnos. Mae'r rhai o 8 i 12 yn darllen yn dda. Ymdrech neilltuol yn rhai o'r dosbarthiadau mewn dod i ddeall y Gair. Mae'r brodyr ffyddlon sy'n myned yno ar hyd y blynyddoedd yn haeddu clod dau-ddyblyg. Henry Edwards, John Jones."

Yn y bennod hon fe geisiwyd rhoi syniad am y dylanwadau. sy'n rhoi ffurf i'r cymeriad trefol. Awgrymiadau i'r cyfeiriad hwnnw a fwriedid. Ar y brodorion a'r rhai ddaw yma yn ieuainc y gweithreda'r dylanwadau hynny yn nerthol. Rhaid cofio fod y sawl a dderbyn y dylanwadau hyn yn gryfaf yn fynych yn ymadael oddiyma yn ieuainc. Bontnewydd 1807 Fe ddengys y tabl islaw berthynas gwahanol eglwysi Methodistiaid y dref a'r cylch â Moriah:—

Penrallt ydoedd enw'r hen gapel; Moriah a rowd yn enw ar y capel presennol. Yn ol y traddodiad yn y dref, nid oedd nifer y disgyblion ar y cyntaf yn gymaint a deuddeg. Nid yw Methodistiaeth Cymru yn gallu enwi mwy na chwech, heblaw Evan Richardson, ac y mae'n ansicr o ddau o'r chwech hynny. Ymhen can mlynedd ar ol sefydlu'r eglwys ym Mhenrallt fe sefydlwyd eglwys Beulah; ac yr oedd Beulah yr wythfed eglwys a darddodd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r fam—eglwys, chwech yn uniongyrchol a dwy yn anuniongyrchol. Ymhen can mlynedd yr oedd rhif Moriah yn 595; a rhif Moriah a'r chwe changen eglwys yn 1879; a rhif eglwys ynghyd yn 2017. Erbyn 1900 yr oedd rhif y naw eglwys yn 2333. Gan fod camgyfrif yn rhif Moriah yn yr Ystadegau, fe gymerwyd ei rhif hi am 1901 yn lle 1887 a 1900. Ac yn y modd yma yr aeth y fechan yn fil a'r wael yn genedl gref. Eithr y mae gwyddoniaeth rhyfel y dyddiau yma yn ein dysgu na ddylid rhoi'r pwys yn gymaint ar rifedi ag ar nerthoedd moesol. Fe debygir fod yr hanes a gyfleir yn y cyfrolau hyn yn rhoi modd i ateb y cwestiwn, pa un ai llai ynte mwy ydyw grym moesol yr eglwysi yn awr o'u cymharu â'u cychwyn? Ac fe ddisgwylir fod y drafferth a gymerwyd i agor yr hanes allan yn raddol, yn ei drefn amseryddol naturiol, yn gynorthwy nid bychan tuag at ffurfio'r ateb, cystal ag i leoli gwahanol rannau'r hanes yn eu cysylltiadau priodol.

Nodiadau[golygu]

  1. Caernarvon, P. B. Williams, 1821. Sir a thre Caernarvon, John Wynne, 1861. Old Karnarvon, W. H. Jones. Topographical Dictionary of Wales, S. Lewis, ail arg., 1842. Geirlyfr Owen Williams y Waunfawr. Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu, 1857. Y Nelson, 1890-7, cylchgrawn a ddygid allan gan M. T. Morris mewn cysylltiad â'i fasnach. Papurau trefol yng ngofal Mr. R. O. Roberts. Dyddlyfr David Griffiths, athro yn ysgol gen- edlaethol y Bontnewydd, am 1857-60. Tref Caernarvon tua 1800, Traeth- odydd, 1905, t. 226. Caernarvon Lenyddol Gynt, Alafon, Geninen Gwyl Dewi, 1904, t. 47. Caernarvon y ddeunawfed ganrif, Anthropos, Geninen, 1905, t. 12. Oriel Atgof, Anthropos, Geninen Gwyl Dewi, 1914, t. 18.
  2. Melin y dref gynt ar y Cadnant.