Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon/Moriah

Oddi ar Wicidestun
Arweiniol Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon

gan William Hobley

Y Bontnewydd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Caernarfon
ar Wicipedia

MORIAH.[1]

Yr oedd Howel Harris wedi galw yn y Waenfawr ar ei ffordd i Fôn yn 1749, os nad cynt. Fe ddywedir fod cyfeiriad at ym- weliad o'i eiddo â Chaernarvon yn ei ddyddiadur, er nad oes cyfeiriad at yr ymweliad hwnnw yn unlle arall. Tebyg fod hynny oddeutu 1749, ac iddo ysgoi dod yma ar ol y tro hwnnw. Fe adroddir iddo ddweyd am y tro hwnnw iddo gael ei waredu o enau'r llew pan yma; ond ni wyddys a ddarfu iddo bregethu yma ai peidio.

Fe breswyliai ryw nifer bychan o aelodau eglwys y Waen yn y dref, dim mwy na rhyw dri neu bedwar, debygir. Adroddir ym Methodistiaeth Cymru fel y byddai rhywrai, ar adegau, yn gwylio y rhai hyn ar ffordd Llanbeblig, wrth ddychwelyd ohonynt o'r moddion yn y Waen, ac fel y byddent hwythau, er mwyn ysgoi camdriniaeth, yn troi i'r llwybr drwy fynwent Llanbeblig i ffordd Llanberis, neu ynte drwy'r llwybr yn y Caeau Bach i ffordd Bontsaint. Wedi eu siomi fel hyn nifer o weithiau, rhoes yr erlidwyr yr arfer honno heibio.

Fe arferir dweyd mai'r cyntaf ymhlith y Methodistiaid i wneud cais i bregethu yn y dref oedd Williams Pantycelyn, a hynny ar ei waith yn dychwelyd o Fón. Yr ydoedd ei wraig gydag ef ar y daith honno. Pan glywodd y werinos am ei fwriad i bregethu, yr oedd y cyffro y fath fel y barnodd Williams yn ddiogelach lithro ymaith yn ddirgelaidd drannoeth.

Dafydd Jones Llangan, hyd y gwyddis, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn y dref. Fe dybir mai yn 1786 y digwyddodd hynny. Ag ychydig gyfeillion yn ei hebrwng, aeth yr efengylwr i mewn i drol oedd yn ymyl porth y castell. Yn Ysgrif W. P. Williams, Cyfrifon a phapurau yn perthyn i'r eglwys. Adroddiad yr eglwys, 1876-9, 1883-1900. Rhestr pregethwyr 1816-9. y fan, yr oedd lliaws wedi ymgasglu ynghyd. Wedi ymddiosg o'r efengylwr o'i gôb uchaf, wele ef yn sefyll gerbron yn ei wisg offeiriadol!—y gŵn du dros ei ysgwyddau, y napcyn gwyn am ei wddf, gyda'r labedi sgwâr yn disgyn ar ei fynwes. Yr oedd y gwr ei hunan, hefyd, o wedd brydferth ac urddasol. Ni ddisgwyliasid ddim golygfa o fath honno. Y mae yna un dyhiryn gyda'i logellau yn llawn o gerrig, ond nid gwiw ganddo yntau labyddio offeiriad. Yr oedd gwlith—wlaw ysgafn yn disgyn ar y pryd. Dyna'r offeiriad yn dechre cyfarch y dorf mewn dull mor siriol a phe buasai ynghanol ei blwyfolion yn Llangan dawel. Fel yr ae ymlaen fe enynnai ei wyneb gan sirioldeb wrth draethu ei genadwri. Wrth i'r gwlaw ddisgyn yn ddwysach, fe ofynnodd yn y man, oni roe neb fenthyg umbrella iddo i'w gysgodi? Ar hyn, aeth meistr yr adyn yr cedd y cerrig yn ei logellau i gyrchu umbrella, ac a'i hestynodd. at y llefarwr. Rhoes yntau foes-ymgrymiad wrth ei chymeryd yn ei law, ac aeth rhagddo gyda sirioldeb yn ei ddull a geiriau gwirionedd yn ei enau, a datganai ei fod mor gysurus dan yr umbrella honno a phe buasai yn eglwys Sant Paul yn Llundain! Cyfreithiwr o'r enw Howard, un a'i arswyd ar lawer, oedd yr un a estynodd yr umbrella; ac odditani hi, a thrwy'r gwlith— wlaw a ddisgynai, gan ddadseinio hen furiau'r castell, yr ae peroriaeth gysegredig mwyn efengylwr Llangan allan, gan synnu a swyno'r dyrfa o'i flaen. Cychwyniad teilwng i Fethodistiaeth Caernarvon!

John Roberts Llanllyfni (Llangwm wedi hynny), ac Evan Richardson, a fu yma yn cynnal yr oedfa nesaf, ymhen rhywfaint yn rhagor na blwyddyn ar ol yr oedfa gyntaf, fel y tybir. Ymddengys, oddiwrth yr adroddiad yn y Methodistiaeth, mai'r Cyfarfod Misol a'u danfonodd, a thebygir y bu rhai ceisiadau aflwyddiannus i bregethu yma. Daeth Evan Richardson yma o'i daith ym Môn, a daeth gydag ef John Gibson, ewythr Gibson y cerflunydd, garddwr y pryd hwnnw yn y George Inn, Porthaethwy, a thyddynnwr gerllaw'r Borth o'r enw Gruffydd. Arferai Michael Roberts ag adrodd mai ar y Sul yr aeth ei dad, John Roberts, i gyfarfod Evan Richardson yn y dref. Dygodd ei wraig ei ddillad goreu i John Roberts. Rhoe yntau ar ddeall nad oedd o un diben dwyn ei ddillad goreu iddo, gan, yn ol pob tebyg, na byddai ond budreddi drostynt i gyd cyn nos, a gofynnai am ddillad eraill. Cyfarfu'r ddau â'i gilydd, a chyfarfuasant hwythau â George Lewis, y Dr. wedi hynny, y pryd hwnnw yn weinidog yn y dref, a chanddo ystafell pregethu yma yn Nhre'r-ffynnon. Nid oedd y gweinidog Anibynnol, fe ymddengys, yn hysbys o'r ddau Fethodist, a holodd hwy am eu credo. Wedi cael boddlonrwydd, cynghorodd hwy i sefyll i bregethu wrth dalcen mur ei ystafell, gan na byddai digon o le i'r bobl oddifewn. Yr oedd yno liaws o wrandawyr, a chafwyd tawelwch i bregethu. Yr wythnos nesaf yr oedd John Roberts yn y farchnad yn y dref, a theimlai yn anesmwyth ar ol dechre ohono graffu ar wr yn ei ddilyn oddiamgylch. O'r diwedd fe droes ato, ac a ofynnodd iddo, a oedd rhywbeth a fynnai âg ef? Dywedai'r gwr fod yn dda ganddo gael siarad gair âg ef, a'i fod mewn blinder meddwl fyth er pan fu ef a'r gwr arall hwnnw yn pregethu yno y Sul o'r blaen. Yna gyda syndod a llawenydd, fe gymerth John Roberts y gwr gydag ef o'r neilltu i'r Angel, sef tafarn gerllaw, ac yno, mewn ystafell arnynt eu hunain, fe gafodd hamdden i gyfarwyddo a chysuro y gwr argyhoeddedig. Galwai Michael Roberts y cyfarfyddiad hwnnw yn yr Angel, y cyfarfod eglwysig cyntaf gan y Methodistiaid yn nhref Caernarvon. Enw y gwr oedd Richard Owen.

Gorfu i John Gibson ymadael â'i le yn y Borth am ddilyn y penau-cryniaid. Cof gan W. P. Williams am dano, a dywed ei fod yn dad i ail wraig Daniel Jones Llanllechid, ac yn daid i John Roberts, argraffydd, Salford, ac yn hen daid i'r Parch. John Roberts Caer. Dilynai Gibson ei alwedigaeth fel garddwr yn Henwalia, a deuai â chynnyrch ei ardd i'r farchnad ddydd Sadwrn. Henwr ydoedd pan gofid ef gan W. P. Williams, wedi cyrraedd graddau o wybodaeth, ac yn meddu ar ddawn siarad, ac yn hoffi siarad. Saif y dafarn o hyd yn y Stryd fawr, ond wedi ei hail-adeiladu. Sylwa W. P. Williams, hefyd, i wraig y dafarn ddod yn aelod gyda'r Methodistiaid yn y man, a pharhaodd felly ar hyd ei hoes. Enwir ganddo dafarnwyr eraill oedd yn aelodau lled foreu, sef Thomas Blackburn, a gwraig o'r enw Evans o'r King's Head.

Cynhaliwyd rhai odfeuon wedi hynny yn Nhre-ffynnon, cyn symud i Danrallt. Y mae'r Methodistiaeth yn enwi'r aelodau y gwyddid am danynt yn 1787, sef Richard Owen ac Elizabeth ei wraig, John Gibson, Peter Ellis, a ddaeth yma o sir Fflint, sef tad Peter Ellis y masnachydd yn ngwaelod Stryd llyn ar ol hynny. Dywed, hefyd, y dichon fod Richard Thomas ac Elinor [Ann] Williams, a fu wedi hynny yn wraig i Peter Ellis, yn eu plith. Fe fyddai Henry Jonathan, pa fodd bynnag, yn dweyd fod Peter Ellis yn aelod pan oedd nifer y disgyblion yn union yn ddeuddeg, ond bod Ann Williams yn aelod pan oedd y nifer yn llai na hynny. Dywedir y byddai John Gibson a Richard Owen yn myned i'r cyfarfod eglwysig ym Mrynengan. bob pythefnos am ysbaid. Ym Mrynengan yr oedd Evan Richardson, a dichon fod eu golwg ar ei gael i Gaernarvon. Unwaith, ar eu ffordd i Frynengan, penderfynasant na ddychwelent yn ol heb addewid ganddo y deuai i fyw i Gaernarvon. Cododd Richard Owen yn y seiat, a dywedodd wrth Evan Richardson, "Y mae'n rhaid i chwi ddod adref gyda ni; ni ddychwelwn heboch; y mae gan yr Arglwydd waith i chwi wneud yno yn ddiau." " O, Richard bach," ebe Richardson, "os deuaf acw, y bobl a'm lladdant i." Ar hynny cododd Sian, hen aelod, i fyny,—"Y mae'n rhaid i ti fyned, Evan bach, —ni wneir niwed i flewyn o'th ben; am hynny, dos gyda hwy."

Cefnogid y brodyr hyn gan y Cyfarfod Misol. Eithr yr oedd Evan Richardson ei hun yn gyfyng arno o'r herwydd. Yr oedd yn ymlynu wrth Frynengan, ac yn teimlo ofn ynghylch Caernarvon. Pan yn canu yn iach i'w gyfeillion yn y seiat ym Mrynengan yr oedd yn ymdreiglo ar y llawr, gan lefain yn groch. Yn ol ymchwiliadau a wnawd gan y Parch. Dafydd Jones, yn 1787 y daeth efe i'r dref. Pan yn dod i fyw i'r dref, a phan o fewn hanner milltir iddi, fe safodd yn sydyn, tarawodd ei ffon yn y llawr, torrodd allan i wylo, a dywedodd, "O'r dref annuwiol a llawn temtasiynau! pa beth a ddaw ohonwyf ynddi, wedi gadael y wlad ddistaw a thawel?"

Yn fuan wedi dod ohono i'r dref, fe gymerodd Evan. Richardson lofft yn Nhanrallt, sef ar y cwrr i'r dref sydd ar ffordd Bethel. Yr oedd y tŷ yn sefyll ychydig flynyddoedd yn ol, a'i ddrws yn wynebu'r allt wrth ddod i fyny oddiwrth Siloh. bach. Mesur y llofft ydoedd 14 troedfedd 3 modfedd wrth 11 troedfedd 8 modfedd, a 10 troedfedd o uchder. Cyn cymeryd y tŷ, neu, fe ddichon, ar ol hynny, yr oedd Evan Richardson yn pregethu yn rhywle yn y dref, pan ddaeth Garnons (nid. Garners, fel yn y Methodistiaeth), ynad heddwch yn y dref, a'r gwr o'r dylanwad cymdeithasol mwyaf ynddi, i aflonyddu arno. Cynhyrfwyd John Rowlands, dyn cryf o gorff, i amddiffyn y pregethwr. Aeth at Garnons, ac ebe fe, "Nid oes yma neb yn aflonyddu nac yn peri anrhefn ond y chwi, syr. Os na fyddwch yn llonydd, mi a âf a chwi fy hun i'r gwarchdwr." Yr oedd W. P. Williams yn cofio John Rowlands, a dywed yntau, oddiar ei wybodaeth ei hun, ei fod yn wr cryf, a "llais mawr, awdurdodol ganddo, yn ddigon i greu arswyd ar feddwl y gwr boneddig."

Bu Richard Owen farw ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy ar ol dyfod o Evan Richardson yma, ac ymbriododd Evan Richardson â'i weddw, Elizabeth. Bu hi farw Awst 7, 1806, yn 55 oed. Yr ydoedd eu merch Esther yn hynod am ei gorfoleddu. Priododd Evan Richardson yr ail waith yr Ann Williams a nodwyd, sef gweddw Peter Ellis.

Buwyd yn cynnal moddion yn llofft Tanrallt am tua phum mlynedd. Y mae Griffith Solomon yn rhoi ei atgofion am lofft Tanralit: "Symudwyd o Dreffynnon ymhen dau dro neu dri i Danrallt. Safai y pregethwr yno ar ryw risiau, a thyrfa aneirif a gyrchai yno i wrando. Gwelais hwynt yno lawer gwaith pan oeddwn yn 13 a 14 oed, canys yr oeddwn yn byw yn lled agos i Gaernarvon." Atgofia Griffith Solomon, hefyd, am Richard Owen a'i wraig Elizabeth fel rhai yn proffesu duwioldeb, a chred eu bod hefyd yn meddu ar ei grym hi.

Y mae'r weithred gyntaf wedi ei hamseru Mai 1, 1793. Eithr nid oedd meddiant ar yr eiddo hyd Hydref 29, 1793- Arferir rhoi 1793 fel y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Tebyg na orffennwyd mo'r capel hyd y flwyddyn ddilynol. Yr oedd dau dy bychan ar y tir, y naill yn cael ei breswylio gan Edward Jones, morwr, a'r llall gan Mary Jones, gwraig weddw. Un ty a ddywedir yn y Methodistiaeth, mewn camgymeriad, a dywedir fod Evan Richardson wedi gadael y ty ym Mhenrallt y cadwai ysgol ynddo, fel y gallai'r ddwy wraig a'i haneddai fyned i hwnnw. Aeth yntau i gadw ei ysgol i'r capel. Dywedir yn y weithred fod gan yr ymddiriedolwyr hawl i ganiatau i unrhyw berson teilwng gadw ysgol yn y capel, ond i hynny beidio ymyrryd â'r gwasanaeth. Rhan o Saffron Gardens ydoedd y tir a bwrcaswyd, a £60 a roddwyd am dano. Yr ymddiriedolwyr: Thomas Charles, Evan Richards, John Jones Edeyrn, Robert Jones Llaniestyn, John Roberts Llanllyfni, Hugh Williams, Drws deu goed, Llanrug, William Williams siopwr, Caernarvon. Yn ol Abstract of Title, Awst 23, 1828, benthyciwyd £1,000, ac adeiladwyd y capel a ddefnyddiwyd hyd 1806.

Fe welir oddiwrth y swm a fenthyciwyd fod mewn golwg gapel cymharol fawr. Nid oedd ond £60 o'r swm yn myned i brynnu'r tir. Rhaid fod llwyddiant mawr ar yr achos yn Nhanrallt. Yr oedd Evan Richardson yn boblogaidd fel pregethwr, yn barchus fel dyn, yn llwyddiannus fel ysgolfeistr. Diau mai i'w ddylanwad personol ef yn bennaf y rhaid priodoli y llwyddiant anarferol. Fe ddywedir y bu'n cynnal yr achos am ysbaid ar ei draul ei hunan, ac wedi hynny, am ysbaid, efe yn bennaf a'i cynhaliai. Cadwai gyfarfod i holwyddori'r plant un noson, pregethai noson arall, a chadwai gyfarfod eglwysig y drydedd Yn ol y Methodistiaeth fe bregethai ar brydiau ddwywaith neu dair neu bedair yr un noson yn y dref, mewn wylnos, neu yn ystod y dydd ar fwrdd llong cyn ei lansio, neu achlysur arall. Nid peth anfynych, fe ddywedir, oedd y pregethu aml hwn, ond i'r gwrthwyneb. Chwarter awr fyddai hyd y pregethau hyn, ond byddent yn hynod fywiog ac effeithiol, y rhan fynychaf yn gadael y cynhulliad mewn dagrau. noswaith.

Dyma ddyfyniad o daffen Casgl Dimai y Cyfarfod Misol: 1797, Medi, Caernarvon £12 6s. 7g. [sef i gynorthwyo'r achos yma]. Rhagfyr, £2 19s. 7g. 1798, Rhag. 3, y ddyled i gyd yn bresennol £90. 1799, Ionawr, Talwyd i John Roberts yn achos llog capel Caernarvon a'r golled yn achos arian drwg, £4 18s. Hydref, talwyd llog dros Gaernarvon, £4 10s. 1801, Awst 6, Talu i Gaernarvon £90, hefyd eu llog £4 10s.' Yr oedd hyn yn orffen talu'r ddyled.

Dywed W. P. Williams mai capel bychan diaddurn ydoedd, gydag oriel fechan yn un pen iddo gyferbyn a'r pulpud. Wrth ei gymharu â'r capel godwyd yn ddiweddarach y rhaid ei alw yn fychan, debygir. Ym Mount Pleasant Square yr ydoedd. Yr oedd yr aelodau eglwysig yn 1805 yn rhifo 154, sef 50 o feibion a 104 o ferched. Ac yr oedd hynny mewn cyfnod pan yr oedd yr eglwys yn llawer llai mewn cymhariaeth â'r gynulleidfa nag ydyw yn awr. Bu John Elias yn ysgol Evan Richardson am rai misoedd. Fe fyddai Owen Thomas, yn ei ddarlith ar yr hen bregethwyr, yn adrodd am amgylchiad ynglyn â John Elias, a ddigwyddodd yn y capel hwn, a hynny ar ol yr hen flaenor, Griffith Roberts Capel Seion, Clynnog. Yr oedd John Elias yn pregethu yma mewn Cyfarfod Misol yn 1799, ac yntau y pryd hynny yn 25 oed. Yr oedd efe y pryd hwnnw yn anarferol o boblogaidd, a chredai pregethwyr y sir fod eisieu "torri asgwrn ei gefn," er mwyn ei ddiogelu rhag balchter ysbrydol. Yn yr oedfa eisteddasant ar flaen yr oriel gyferbyn ag ef, er mwyn rhoi eu harswyd arno. Yr oedd John Jones Edeyrn, John Roberts Llanllyfni, Robert Jones Rhoslan, Robert Roberts Clynnog, yn eu plith, cewri o ddynion. Testyn y pregethwr ieuanc oedd, "Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn." Yn rhyw ran o'r bregeth, fe ddisgrifiai Samuel yn gwrthod y naill ar ol y llall o feibion Jesse fel brenin, ac yna yn gofyn iddo, "Ai dyma dy holl blant?" Atebodd Jesse fod yr ieuengaf eto'n ol, "ac wele y mae efe'n bugeilio'r defaid," megys pe na buasai yn werth ei gyrchu. Eithr rhaid ydoedd ei gyrchu, a hwn, er iddo beidio bod fel Eliab o ran awdurdod gwynepryd ac uchder corffolaeth, oedd eneiniog yr Arglwydd. "Cyfod, eneinia ef, canys dyma efe." Ar hynny dyna Robert Roberts, yn fyrr a chrwea, yn gwaeddi allan, "Bendigedig, dyna obaith i Robin." Fel mai yn lle cael ei orchfygu, y pregethwr ieuanc a orchfygodd.

Adroddir fod gan wraig Evan Richardson, sef ei wraig gyntaf yn ddiau, law go amlwg yn newisiad y blaenoriaid. Craffai hi ar y rhai cymhwysaf, a chymhellai hwy ar sylw ei gwr. A thebygir mai efe a'u galwai i'w swydd yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Erbyn 1806 dyma hwy: Dafydd Jones y cwper, John Rowlands Parcia cochion, Gruffydd Samuel, William Owen, Owen Jones y llyfr-rwymydd.

Erbyn 1806 yr oedd y capel yn rhy fychan, a rhaid ydoedd ei helaethu. Dyma fel y dywedir yn yr "Abstract of Title": "The old chapel being found by far too confined for the congregation usually assembling therein, a piece of ground adjoining the same was in that year [1806] purchased." Mai 14, 1806, cytunwyd rhwng Jabez Thomas meddyg, Caernarvon, a'r rhai a enwyd ynglyn â phryniant y tir o'r blaen, oddigerth W. Williams, yr hwn oedd wedi marw, am ddernyn o dir ynglyn wrth y capel i'r dwyrain, am £80. Ar hyn rhowd chwanegiad at y capel "for a very considerable sum of money." Amlwg na wyddid erbyn 1828 faint yn benodol oedd traul yr helaethiad. Eithr fe ddywedir fod y ddyled yn £700 yn 1826, cyn codi'r capel newydd. Yr oedd dwy oriel i'r capel ar ol ei helaethu, un ar bob talcen. Yr ydoedd y capel helaethaf yn y sir. Nodir gan W. P. Williams fod yr enwau yma wrth ymrwymiad i Griffith Thomas am £120 ynglyn â'r helaethiad: Evan Richardson, Robert Griffith Slate Merchant, William Owen Hair Dresser, William Lloyd Shopkeeper, Robert Jones Blacksmith, Humphrey Pughe Skinner, John Humphreys Nailer, John Huxley Tai Meddalion, Llanrug, Miller, John Rowlands Parkia Cochion, Fuller. A dywed mai dyma'r dynion y bu eu hysgwyddau dan yr Arch o'r cychwyn. Y mae ymrwymiad i John Owen Slate Loader yn 1807, yn achos capel Bontnewydd, am £30, wedi ei arwyddo gan rai o'r enwau uchod, ynghyda David Jones Cooper. Ae'r achos ymlaen ar yr un llinellau ag yn yr hen gapel. Yn ol gweithred Mai 14, 1806, yr oedd y darn tir ychwanegol hwn yn 18 troedfedd ar wyneb heol Penrallt, yn 62 troedfedd o hyd ynglyn wrth y capel a'r tir a berthynai iddo, ac yn 56 troedfedd ar yr ochr gyferbyn, ynglyn wrth lwybr yn arwain oddiwrth heol Penrallt, ac yn myned heibio ty yn dwyn yr enw Parlwr Du. Y llwybr a sicrheid i fod yn wyth troedfedd o leiaf.

Y mae rhai danghosiadau o'r adeg yma ar gadw. "Received May 13th 1807 of the Trustees of Saffron Garden situate in Penrallt in the parish of Llanbeblig & County of Carnarvon, by payment of Mr. Robt. Griffith, the sum of Ten Pounds being One Year's Interest upon a bond for Two Hundred Pounds. £10 os. od. Robert Williams." "The Trustees of the Penrallt Chapel. To O. A. Poole. 1807 Taking Instructions to Draw Deed of Feoffment from Mr. Jabez Thomas to you 6s. 8d. Drawing the same Fo 24 £1 4s. 0d. Ingrossing 16s. 0d. Paid for Stamp and Parchment £1 12s. 6d. Attending the execution thereof and when Livery and Seisin was delivered 6s. 8d. [Cyfanswm] £4. 5s. 10d. Third Dec. 1807 Settled Will. Ellis." "For the use of the chapel at Penrallt. To John Owen Dr. 1807 June 12, 3 Bed Cords 3. 9, 1 Do. Do. 2. 9., 1 Do. Do. 1. 8, 1 floor Brush 2. 6, 1 Brush 9 [Cyfanswm] 0. 11. 5. Recd. Dec 3rd. 1808 the above sum p John Owen." "Penrallt Chapel To Wm. Roberts 1809 To Balance of acct 28. 10. I. Novr. 30th. By Cash 9. 0. 0. By Balance due to Mrs. Richard- son 5. 3. 7 [Cyfanswm y ddau olaf] 14. 3. 7 [Gweddill] 14. 6. 6 W. Evans." "Received of Mr. Robert Griffith August 24th. 1808 the sum of One Pound Ten Shilling, being the Interest of Thirty Pounds for improveing the Methodist Chapel Near Newbridge P me John Owen £1 10s. 0d."

Yr oedd Owen Jones llyfr-rwymydd yn flaenor yn Llanerchymedd cyn dod yma. Y mae ei enw ar lyfr yr eglwys am 1805. Dychwelodd yn ol i Lanerchymedd yn 1822. Yr oedd yn wr goleu yn yr ysgrythyrau, ac yn hyddysg yn athrawiaeth yr Efengyl. Gwelodd W. P. Williams rai o'i draethodau mewn llawysgrifen, ac ystyriai eu bod yn dangos cryn lawer o allu. Ei dyb ydyw ei fod ef yn rhagori ar ei gydswyddogion mewn gwybodaeth athrawiaethol.

Yr oedd enw Griffith Samuel ar y llyfr eglwys yn 1805. Gwr byrr o gorff ond grymus, ac wedi colli un llygad. Saer maen wrth ei alwedigaeth. Ni wyddai W. P. Williams ddim am ei gymhwyster i'w swydd.

Sylwir yn Nrych yr Amseroedd ar Richard Williams o Gaernarvon, na chafodd ond braidd ymddangos i weinidogaethu yn gyhoeddus, na chymerwyd ef oddiwrthym. Dywedir ddarfod iddo dreulio ei yrfa grefyddol yn syml a diargyhoedd. "Selog, ychydig a fu ar y maes," ebe Griffith Solomon. (Drysorfa, 1837, t. 119).

Y mae gerbron lyfr testynau am y blynyddoedd 1816-9. Dwg arno enw E. Jones, Penrallt, Caernarvon. Y mae'r enw Edward Jones mewn man arall. Y mae'n amlwg yn dwyn cysylltiad â Phenrallt. Y mae'r llyfr yn ddiffygiol mewn mannau. Codir yma yr hyn ohono sy'n dwyn cysylltiad â'r flwyddyn 1816: July 21, Rees Rowe and [felly i lawr], 2 o'r gloch, x. 41-2; 6 o'r gloch, I Cor. ix. 24. July 28, 6 o'r gloch, Mat. xv. 21-8. July 30, John Humphreys Caerwys, 9 o'r gloch, Heb. v. 9. Dyn o'i flaen 1 [?] Malaci vi.; 6 o'r gloch, Evan Richards, Marc xvi. 15. Awst 4 (9. 2, 6), Evan Richards, Luc x. 42, II. Petr iii. 11, Mat. xi. 28. Awst 11 (2 a 6), Heny. Wms Llandy . . . Heb. xii. 24. Awst 15, John Hughes S Tref . . . Mat. xvi. 26. Awst 18. Wm. Roberts Clyng (2 a 6), Ioan iii. 15, Galarnad iii. 37-40. Awst 21, Mr. Hay, Warrington, Salm Ixv. 4. Awst 23, John Evans Deheudir, Heb. xi. 29, John Elias, Ioan x. 14. Awst 25 (9 a 6), John Elias, Luc xxiv. 46-7. Ioan viii. 34. Awst 25, Edward Costley [?Coslett], Heb. ii. 14, 15. Dyn o'i flaen, Heb. xii. 5. Medi 1, Mr. Llwyd Bala (2 a 6), Ioan xi. 49-51, Phil. i. 27. -Petters (2 a 6), Ioan xv. 2, Heb. xi. 7. Medi 8, Richard Owen (2 a 6), Esai liii. 1, Actau xxvii. 27. Medi 9 (6), Danl Jones, Hosea vii. 2. omitted (6), Jno. Humphreys, Ioan iii. 14, 15. Medi 15 (2 a 6), John Humphreys, Exodus iii. 2, Salm iv. 3. (6) Jno. Huxley, Salm xlvi. 1. Medi 22, Heny. Williams Llandegai (2), Mat. i. 21. (6), William Havard, Esai lix. 2. Dyn o'i flaen, Rhuf. xvi. 25, 26. Medi 29, Evan Richards (2 a 6), Rhuf. viii. 30, Salm cxxx. 3. Hydref 2 (6) Rt. Griffith Doly. I. Petr ii. 24, Michael Robts., Jeremia x. 24. Hydref 3, Association (6) noson gyntaf, Jno. Williams Meidrim, Mat. ix. 12, Wm. Robts. Amlwch, Mat. v. 8. 3ydd [?] (6 bore) Petter Roberts, loan xx. 31. (10) Wm. Havard, Marc ii. 17, Eben Richard, Mat. xvi. 26. (2) Jno. Thomas Aberi., Luc xv. 24, Jno. Elias, Actau xxvi. 20. (6) Jno. Hughes Shir Drefaldwyn, Mica vi. 9, Jno. Roberts Llanllyfni, Amos iv. 12 (7 bore drannoeth) John Jones Edeyrn, Gal. ii. 21, David Cadwaladr, Gen. xv. I. Hydref 6, Evan Richards (2) Eph. v. 27, (6) Jno. Humphreys, Deut. xxxiii. 27. Hydref 13, Dd. Jones Beddgelert (2 a 6), Salm lxviii. 20, I. Tim. iv. 8. Hydref 20, Robt. David (2 a 6), Job x. 20—2, Actau xvii. 27. Hydref 27, Jno. Humphreys (2) a 6), Luc xxii. 60, I. Cor. xiii. 13. Tach. 1, Danl. Evans, Diar. xii. 26, Dyn o'i flaen, Heb. xi. 7. Tach. 3, (10) Jno. Elias, Marc viii. 38, Captn. W. Williams, Josua ii. 12; (6) Jno. Elias, Josh. xxiv. 15, Mr. Owen Jones, Heb. ix. 27. Tach. 10, Evan Richards (2 a 6), Mat. vi. 33, Col. ii. 6. Tach. 11—Jones (6), Esai xl. 6, 7. Dyn o'i flaen, 2 Cor. v. 21. Tach. 12, Jno. Elias, Rhuf. xiv. 17. Tach. 17 (10), Jas. Mathias, Heb. xii. 1, Jno. Prytherch, Heb. iii. 1; (6) Jno. Prytherch, Joel iii. 21. Tach. 19, David Cadwaladr, Job i. 1. Tach. 23, Jno. Elias, Job x. 15. Tach. 24, Jno. Huxley (2 a 6), 1 Thes. iv. 18, Exodus xxiv. 10. Yn ystod 1817, o Chwefror 7 ymlaen, ceir yma: Michael Roberts 2 waith, John Davies Nantglyn, John Elias 7 gwaith, Evan Richards 10 waith, John Jones Edeyrn 6 gwaith, Parch. Wm. Lloyd, Richard Lloyd Beaumaris, William Morris Deheudir. Yn ystod 1818 (heb gyfrif y Sasiwn), Michael Roberts 2 waith, Evan Richards 12 ngwaith, John Elias 3 gwaith, Mr. Lloyd 7 gwaith, Richard Lloyd, John Jones Edeyrn 3 gwaith. Ni chadwyd cofnod 1819 yn fanwl. Ni chyfrifwyd odfeuon y Sul ond megys un tro. Nid yw'r cofnodion hyn yn dangos y pregethai Evan Richardson yn aml ar noson waith yn y capel, er gwneuthur ohono hynny yn fynych mewn mannau eraill yn y dref. Ond gan i Mr. Lloyd ddod i gadw ysgol i'w le ef, dichon mai o flaen hynny y torrodd ei iechyd i lawr, a dywedir iddo fod yn llesg am flynyddoedd. Tebyg na phregethai yn fynych iawn ar unrhyw adeg ar nosweithiau'r wythnos yn y capel, gan fynyched ymweliadau pregethwyr dieithr; a dywedir mai yn eu habsen hwy y gwnelai hynny.

Profodd yr eglwys yn helaeth o ddiwygiad 1818. Yr oedd rhai o'r bechgyn ieuainc dan fath ar ysbrydoliaeth. Arhosent yn y capel weithiau am oriau ar ol oedfa nos Sul mewn perlewygfeydd. A byddai lliaws yn ymdyrru i wrando arnynt mewn llawenydd a dagrau. Un o'r rhai hynotaf o'r bechgyn hyn oedd Eryron Gwyllt Walia. Yn ystod yr odfeuon byddai degau rhwng 9 ac 20 oed yn moliannu, a pharhaodd hynny an fisoedd. Yr oedd Eryron ar ymweliad â'r dref yn 1854. Wrth fyned heibio'r hen gapel ar y naill law, a maes Cymanfa fawr 1818 ar y llaw arall, ebe fe wrth ei gefnder (y Dr.) Griffith Parry, gan sefyll am funud i ddweyd, a'i lais yn crynu, a'r naill law yn gyfeiriedig at y naill le a'r llall at y lle arall,—"Yma, ac yma, y gwelais fwyaf o Dduw o un man yn fy oes. Yn y capel yn y fan yma, ac ar y maes yna, gwelais a phrofais ryw gymaint o ystyr geiriau felly, Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn! a'th ogoniant a'th harddwch. Ac yn dy harddwch marchog yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd a lledneisrwydd a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy." (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 19—25).

Bu Evan Richardson farw, Mawrth 29, 1824, yn 65 oed. Fe ddywedodd y Dr. Lewis Edwards wrth wraig y Parch. Thomas Hughes fod Evan Richardson yn ewythr iddo. Ganwyd ef ym mhlwyf Llanfihangel—genau'r—glyn, o fewn ychydig filltiroedd i Lewis Edwards. Fe ddygai ef nodwedd pobl y rhanbarth honno yn fwy amlwg na'r gwr mawr arall, mewn bywiogrwydd, darfelydd a thynerwch amlwg, ac mewn dull ystwyth, iraidd, cyson eneiniedig. Dengys yr hyn a ddywedir am dano yn fachgen ieuanc iawn, a chyn gwrando ohono ar nemor bregeth, ei fod yn naturiol agored i ddylanwadau oddiwrth y byd anweledig, ac aeth yn ieuanc drwy brofiadau o bangfeydd meddwl. Dan bregethu Daniel Rowland Llangeitho y daeth i'r goleu am ystyr trefn yr efengyl, ac y profodd ei hun yn ymgymodi â hi. Y mae pob beirniadaeth arno, megys eiddo Griffith Solomon, ac eiddo Henry Rees (Cofiant John Jones, t. 832), ac eiddo'r Dr. Lewis Edwards (Geninen Gwyl Dewi, 1900, t. 32), yn myned i ddangos nad oedd cylch eang i'w feddwl na dim treiddgarwch arbennig yn perthyn iddo. Er hynny, fel pregethwr, fel y dywed Owen Thomas, yr oedd yn un hollol ar ei ben ei hunan. Rhyw swyn sanctaidd oedd ei hodwedd.

Pregethai'r efengyl yn llon,
Dyrchafai ei mawredd ar goedd ;
Ymlonnai'i wrandawyr o'r bron,
Gan ryfedd feluster ei floedd.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Heblaw ymddanghosiad hardd a llais melodaidd ac eneiniad, yr oedd, hefyd, ryw chwarëurswydd tlws yn ei ffansi. Rhydd Griffith Solomon rai enghreifftiau, a daw grym y pregethwr i fesur i'r golwg ynddynt. Wrth bregethu ar Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, fe ddywedai, "Efe a gadwodd ein bywydau, efe a gyfiawnhaodd ein personau, efe a faddeuodd. ein pechodau. Haleluia!" Wrth goffa'r geiriau am wrthwynebu Satan yn gadarn yn y ffydd, fe ddywedai, "Cofiwch, nid gwiw tynnu Groeg na Hebraeg ato; ond yn y ffydd y mae ei orchfygu ef." Wrth bregethu mewn cymanfa ar y geiriau, Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid . . . fe dybiai yntau fod rhywun yn gofyn, paham y daethant hwy yno? i'r hyn yr atebai, "Dyledwyr ydym!" Ar y geiriau, Megys gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo, fe sylwai fod "lladron am ysbeilio y cristion o'i dlodi," gan olygu mai ei deimlad o'i dlodi ydoedd ei drysor mwyaf. "Yr oeddych yn gweled eich hunain yn dlodion pan dderbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd;—felly rhodiwch ynddo." Sef peidiwch a gadael i ladron eich ysbeilio o'r olwg gyntaf honno a gawsoch arnoch eich hunain yng Nghrist. Ar y geiriau, O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni drwy air y gwirionedd, fe sylwai na byddai gwraig na phlant yn arfer bod gyda gwr wrth wneud ei ewyllys, ac felly "nid oedd neb o honom ninnau gyda Duw yn y cyngor tragwyddol yn ei gymell i gofio am danom yn ei ewyllys grasol. Ond fe gofiodd am danom cyn gosod coppa'r Wyddfa. Haleluia! Bendigedig y fo efe!" Ar y geiriau, Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd, elai ymlaen yn y dull yma : Yr un ddoe dan yr Hen Destament—heddyw yr un dan y Newydd. Ddoe gydag Abraham yn egluro ei ddydd iddo—heddyw yr un yn egluro ei hun i ninnau. Ddoe gyda Moses yn ei hyfforddi i wneud y Babell—heddyw yn ein nelpu ninnau i bregethu yn y Bala. Yr un ddoe cyn amser; ac yn dragywydd wedi i amser ddarfod. Wele un wedi dyfod o dragwyddoldeb i fyd o amser; a myned ohono i dragwyddoldeb yn ol, gan orchfygu angeu ar y ffordd. Efe a edwyn ol ei draed yn yr afon. Diolch iddo byth, byth!" Arferer dychymyg hanesiol uwchben yr ymadroddion hyn: craffer ar y llefarwr glandeg, a'i ddull serchiadol, iraidd, ac agorer y glust i'w acenion melysion, a chrynhoer ynghyd y gynulleidfa gydymdeimladol, ac ni bydd mor anhawdd i'r darllenydd a ŵyr rywbeth am werth y profiadau a orwedd o'r tu ol i'r ymadroddion, sylweddoli mesur helaeth o'r swyn a'r dylanwad. Yr argraff ar John Wynne wrth ei wrando ydoedd fod pob ymadrodd yn llawn o fater ysbrydol (Goleuad, 1874, Hydref 24). Efengylu gras y byddai ef, gan adael allan felltithion y ddeddf yn o lwyr, megys, i'r gwrthwyneb, y byddai Daniel Jones Llanllechid yn tarannu melltithion y ddeddf ym mhob pregeth, boed pwnc y testyn. ddeddf neu efengyl. Yr oedd y ddau hyn, ebe David Williams (o Gaernarvon a Chonwy), gyda'i gilydd yn pregethu ar un achlysur, a themtiwyd rhyw wrandawr i gymhwyso y geiriau hynny atynt ar derfyn yr oedfa:

Wele Sinai a Chalfaria
Heddyw wedi dod ynghyd.—(Drysorfa, 1888, t. 130.)

Y dull serchiadol yma, mewn presenoldeb ac acen ac ysbryd, yn ddiau oedd y prif un o'i deithi; ac yn yr awyr deneu, oleu yma, yr oedd chware ysgafn ei ddarfelydd yn gorffwys yn esmwyth ar bob teimlad. Sylwa Griffith Solomon fod ei ddull yn holi plant "yn serchiadol, bywiog ac enillgar iawn." Wrth ofyn, "A ddymunech chwi gael gras?" a derbyn yr ateb, "fe ddywedai yntau'n ol, "Yr Arglwydd a'i rhoddo i chwi." Pan atebai plentyn wrth ei fodd, fe ddywedai wrtho, "Bendith ar dy ben di byth!" neu ynte, "Bendith ar dy gopa di!" Dywed Griffith Solomon ei fod mor gymeradwy yn ei gartref a neb a ddeuai yno o Ogledd neu Ddeheudir Cymru, yn y dyddiau hynny o deithio mawr. Ac y mae efe yn elfennu achosion ei lwyddiant anarferol yn y dref fel yma: (1) Ei rodiad sanctaidd gyda Duw; (2) ei lanweithdra a'i syberwyd mewn corff a gwisg; (3) nefoldeb ei athrawiaeth ac efengylrwydd ei weinidogaeth; (4) ei waith yn cateceisio plant. Dywedir y cafodd ugeiniau lesad tragwyddol drwy'r catceisio, a bod y cateceisio wythnosol wedi parhau hyd hynny, sef 1833, fel ffrwyth ei esiampl ef. Mewn hen ysgubor ym Mhenrallt y dechreuodd gateceisio, fel y dywedir, a neilltuai noswaith o'r wythnos i'r gwaith. Diau, er hynny, mai rhan fawr o'i ddylanwad yn y dref oedd ei lwyddiant fel ysgolfeistr. Bwriedid iddo fod yn offeiriad gan ei rieni, a chafodd ei addysg yn hen ysgol enwog Ystradmeurig. Yr oedd yr enw o ysgolhaig y dyddiau hynny yn dwyn gydag ef ddylanwad arbennig. Ac ynddo ef yr oedd bri ysgolheigtod wedi ei ieuo ag awdurdod a serchowgrwydd yr ysgolfeistr. Mae y sawl a adnabu rai o'i hen ysgolheigion yn gallu atgofio am y dôn o barchedigaeth serchiadol yn eu cyfeiriadau ato. Yr ydoedd yn gyfarwydd yn y Roeg a'r Lladin, ac yr oedd ganddo ryw gymaint o'r Ffrancaeg, ac ymhen rhai blynyddoedd wedi dod i'r dref ymgydnabu â'r Hebraeg. Geilw Griffith Solomon ef yn rhifyddwr da. Arferai John Roberts y dilledydd (o'r Cefneithin), a breswyliai yn Stryd y Palas, ag adrodd am dano yn gwrando'r bechgyn yn darllen eu Testament Saesneg gyda'r Testament. Groeg yn ei law ei hun. Gallai fod wedi darllen y Saesneg cyn dod i'r dosbarth. Ni raid petruso meddwl fod yr ysgolfeistr yn rhoi bri arno yn y dref a'r wlad yn gyffredinol. Dangosir ei safle uchel yngolwg y Cyfundeb yn y ffaith ei fod yn un o'r wyth a neilltuwyd yn yr Ordeiniad cyntaf yng Nghymdeithasfa Gogledd Cymru. Yr oedd yr ysgol yn llyffethair arno rhag efengylu yn y wlad i'r un mesur a'r nifer mwyaf o bregethwyr poblogaidd y Corff y pryd hynny. Eithr, yn ol ei allu a'i ryddid, fe deithiai yntau Dde a Gogledd ac hyd drefi Lloegr. Bu yn myned i'r Deheudir yng ngwyliau Nadolig am flynyddoedd. Fe glywodd Griffith Solomon amryw o wŷr y Deheudir yn tystio fod y disgwyliad am dano yno fel am y gwlaw ar sychdir. Bu'n foddion i ddarostwng erledigaeth yng Nghorwen y pryd na cheid llonyddwch i bregethu cyn hynny hyd yn oed i'r parchedicaf a'r mwyaf urddasol. Digwyddai fod yno gyfarfod o'r ynadon ar y diwrnod yr oedd ef i bregethu yno. Safai yr ynadon i wrando arno yn yr heol, a throes yntau i'w cyfarch yn y Saesneg. Cafodd wrandawiad parchus ganddynt; ac wrth eu gweled hwy yn gwrando fel hynny, ni feiddiodd yr un o'r erlidwyr ei aflonyddu. O'r pryd hwnnw allan fe gafwyd llonyddwch i bregethu yng Nghorwen. Y mae un hanes am dano yn dangos yr esgynai ar brydiau i arucheledd proffwydol. Yr ydoedd wedi bod yn dymor o sychdwr maith ym Môn oddeutu'r flwyddyn 1811. Nid oedd gwlaw wedi disgyn er pan roddwyd had y gwanwyn yn y tir, ac yr oedd bellach yn ŵyl Ifan yn yr haf. Yr oedd yr anifail heb ei borthiant, ac ynghanol Mehefin nid oedd obaith braidd am gynhaeaf. Ym mis Mehefin yr oedd y Gymdeithasfa yn Llangefni. Fe bregethodd Evan Richardson yn olaf y pnawn; ac ar derfyn y bregeth fe'i cymhellid yn ei feddwl ei hun i weddïo am wlaw. Disgynodd arno ysbryd gras a gweddïau. Yn y weddi fe gyfeiriai at y llanc, dan gyfarwyddid y proffwyd, yn myned eilwaith a thrachefn i edrych a welai arwyddion o wlaw. Ac yna fe dorrai allan gyda hysbysiad y llanc am gwmwl bychan yn ymddangos, a bloeddiai allan yn ei ddull ei hun fod "trwst llawer o ddyfroedd" i'w glywed. Gyda'r gair, wele fflachiad mellten a rhuad y daran yn cyffroi pawb, ac yn ebrwydd wele wlaw mawr ei nerth ef yn disgyn, megys ped agorasid ffenestri'r nefoedd! Yr oedd yr effaith yn aruthrol ar bawb yn y lle. Yr oedd yr hin ar y pryd yn boeth iawn, ond nid oedd arwydd o wlaw hyd ymyl yr adeg y disgynnodd allan o drysorau Duw. (Methodistiaeth Cymru III. 356). Eithr pa mor fawr bynnag yr ymddanghosai oddicartref, yr ydoedd yn fwyaf yn ei dref ei hun. Fel yr ysgrifennai ei ohebydd parchedig" at awdwr y Methodistiaeth, nid hwyrach y Parch. Dafydd Jones,—"Mewn gwirionedd, anhawdd fyddai nodi yr un dyn yng Nghymru na Lloegr, a fu'n foddion i ddyrchafu crefydd mor uchel yn ei gartref ag a fu Mr. Richardson, yn enwedigol pan y cofiom ei holl anfanteision." Fe gafodd ergyd trwm o'r parlys rai blynyddoedd cyn y diwedd, fel ag i'w ddifuddio i fesur mawr am y gweddill o'i oes. Fe bregethai rai gweithiau gydag arddeliad hyd yn oed y tymor hwn. Yr oedd ei olwg a'i gof wedi pallu yn fawr, ac ar un tro yn ymyl ei gartref methu ganddo atgoffa ei destyn. Torrodd allan i wylo, gan ddywedyd, "Dyma fi, hen bechadur, heb destyn, ac heb lygaid, ond nid heb Dduw. Bendigedig a fo fe,—nid heb Dduw!" Ac aeth ymlaen i bregethu ar y syniad a gyfleid i'w feddwl oddiwrth ei eiriau ei hun: "nid heb Dduw!" "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw," oedd ei eiriau olaf. Hoff ymadrodd ganddo yn ei bregethau, mewn cyfeiriad at y Cyfryngwr, oedd hwnnw,—"Ar ei ben y byddo coronau lawer!" Ac mewn cyfeiriad at hynny y mynegir mewn llythyr cydymdeimlad at ei weddw,—"Y mae efe'n awr yn y tragwyddol fwynhad o roi'r goron ar ben y Brawd Hynaf, sef yr hyn a ddymunodd fil o weithiau."

Yn 1826 yr adeiladwyd y capel presennol. I'r capel hwn y rhowd yr enw Moriah. Penrallt oedd enw'r hen gapel, ac hyd o fewn rhyw 40 mlynedd yn ol Penrallt oedd yr enw cyffredin ar y capel presennol, o fewn cyffiniau y dref. Fel hyn y cyfeirir at yr adeiladu yn yr "Abstract of Title": "The chapel thus enlarged [yn 1806] was found to be considerably too small to contain the congregation assembling therein. It was therefore determined by several of the principal members of the congregation to pay the debts of the old chapel and build a new one. This debt was £700. In 1826 a piece of ground near the old chapel was purchased for £300. £3,000 and upwards was spent on the new chapel. In 1827, April 2 and 3, the old chapel was sold for £450 to W. Lloyd clerk and others. The parish bought this property for the purposes of a poorhouse for £450, which is an advantageous purchase for the parish." Cwtogwyd rhai o'r ymadroddion a ddyfynnwyd amryw weithiau o'r "Abstract of Title." Os y talwyd y £700 o ddyled ar yr hen adeiladau gan rai o'r prif aelodau, a hynny heb gymorth y £450 a gafwyd am danynt, fe ddangosai hynny haelioni amlwg. Talwyd £350 am y tir i'r Arlwydd Newborough. Safai tri o dai arno. Ei fesur 25 llath wrth 18. Yn ol rhai adroddiadau yr oedd yr holl draul yn £4,500. Yr oedd amryw dai wrth gefn y capel yn eiddo iddo. Y mae dangosiad a roir eto yn profi fod adeiladu'r tai hyn yn rhan o'r cynllun cyntefig. Y mae'n lled amlwg, gan hynny, fod y tai hyn, cystal a thŷ'r capel, i'w cynnwys yn y £4,500. Dengys nodiad a godwyd gan Mr. Norman Davies o'r cofnodion plwyfol mai yn Awst 10, 1828, y prynnwyd yr hen gapel gan y plwy er mwyn ei wneud yn dloty. Gelwir y fan o hyd wrth yr enw Pwrws, er i'r tloty gael ei adeiladu yn y Morfa yn 1847.

Ceir disgrifiad o'r capel yn y Trysor i'r Ieuenctid am Hydref 1826, sef y chweched rhifyn o fisolyn ceiniog bychan a olygid gan John Wynne. "Capel newydd Penrallt, Caernarvon.

Mae'r addoldy hwn yn 75 troedfedd ei hyd a 53 tr. 9 mod. ei led oddifewn, ac iddo yn y pen deheuol o dan y llawr le helaeth i gadw ysgol, etc. Mae iddo 36 o ffenestri, 26 yn perthyn i'r gallery. Ei dalcen gogleddol sydd o graig Runcorn ac ynddo dri o ddrysau, un i'r llawr a'r lleill i'r gallery. Y gallery ar ddull cylchog, yn cael ei chynnal ar 12 o golofnau haearn, ac ynddi 130 seats, y rhai a gynhaliant o 7 i 8 eistedd ynddynt, ac ar y llawr 150 seats, yn y rhai yr eistedd o 2 i 5. Felly gall dros fil eistedd yn gysurus ynddo. Dechreuwyd ei adeiladu Mai 16, 1825. Pregethwyd y waith gyntaf, Awst 6, 1826, Mr. John Williams Dolyddelen a Mr. James Hughes Lleyn yn gweini— dogaethu. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog iawn, y capel yn llawn; yr oeddynt yn clywed (Mr. James Hughes yn enwedig) o bob man ynddo, ac mae yn ymddangos ei fod yn lle mor gysurus ag un man a welir i addoli. Terfynwyd y Saboth ynddo yn dra chysurus, y brodyr yn cael cymorth i bregethu, a'r gynulleidfa yn cael cysur wrth wrando. J. W.

Yn y Tŷ hwn, gwn, yn gu,—tro ethawl,
Y traethir am Iesu;
Er cyfarch, o barch y bu,
Trwy ing, tros ddyn yn trengu.—(Dewi leuanc.)"

Fe gynlluniwyd y capel gan Robert Jones Amlwch, fel y gelwid ef, pensaer, Caernarvon. Yr ymddiriedolwyr oedd y rhai hyn: Robert Griffith, Richard Owen, Parch. W. Lloyd, John Huxley, John Wynne, Robert Evans, Humphrey Pughe, Parch. J. Jones Tremadoc, Parch. Michael Roberts, Parch. John Jones Talsarn. Richard Williams, Ironmonger, oedd y trysorydd, a W. Owen yn ysgrifennydd.

Y mae lliaws mawr o ddangosiadau ynglyn â'r adeiladu ar gadw. Pigir allan yma rai manion. 1825, May 20, For pulling down the old house at Penrallt, £5. To Evan Jones for gravel. Allowance of ale, 5s. 4d. Drawing several working plans for the chapel, £1. 1s. John Jones. To 42 Tons Runcorn Building Stones a 6s. P Ton, £12. 12s. Allowance at Runcorn 1s. 6d. Drawing a plan for the new Chapel, with houses at the back—a Map also of the ground, £3. 3s. John Jones [sef mab Robert Jones y pensaer]. To Howell Thomas Susannah for carry forty tons of free stones from Runcorn at 6 shillings per ton, £12. To O. Williams & Co. Building O. Hughes's Gable End, 69 yards a 1s. 6d. 5. 3. 6. To 45 tuns of stones at 10ld., £1 19s. 4d. To 12 Quarters of lime a 17d. p Q. 17s. To Evan Jones for Alowance of Ale, 10s. 2d. To 1 Load Building Stones from Plasnewydd quarry p the Royal Oak, Ag. 15 Tons 1s. 6d., £1. 2. 6. To Freight on 44 Tons Building Stones from Plas-newydd a 1s. 6d. £3. 6. 0. To Owen Jones Carpenter 6 days 18s. To Sharpg. 79 Dozen and 10 Shissel at 4d. Doz. £1. 6s. 7d. To 1 days work in discharging Runcorn stones a 2s., 3s. To 7 logs pine timber, 260 feet a 2s. 6d. £32 10s. To 41 Baltic Deals, 641 feet a 11d., £29 7. 7. To 5 Logs Riga Pine, 159 feet a 4s., £31. 16s. To Freight on 22 Tons Building Stones from Dibyn Mawr, 1s. 6d., 1. 13. 0. To Evan Jones for Alowance of Ale by Gravel, 2s. 6d. To 30 Stone Arches to Windows & Doors a 5s., 7. 10. 0. To make 106 yd. 8 feet. 6 of Brick. wall at 4 p yd., £2. 0s. old. To 12 cast iron Columns 12 ft. long 4 yr by 4 inches diamr. cast solid with round bases 60. 2. 0. at 18s. 8d., 56. 9. 4. To 12 cwt of Plaster of Paris, 3. 0. 0. To Centre Piece for Chandelier, £5. 5. 0. To 4 Smaller Pieces at 20s. Each, 4. 0. 0. To 257 feet Cornice at 12d., 12. 17. 0. To 5 Days Work in flooring the Chapel a 3s. 6d. p., £o. 19s. 3d. To 6 lb. Glue, 1s. 2d., 7. 0. To 10 copper tubes 2 lb. 9 oz. 2s. 8d., 6. 10. To 4 Days to Cementing etc. at 3s. 6d. £0. 14. 0. To Wm. Roberts Lab. 5 days at 1s. 9d., 8. 4. [Fe gafodd Wm. Roberts lai na'i gyflog bychan].

Y mae ar gadw ddarn o gylchlythyr Seisnig yn apelio am gynorthwy tuag at yr adeiladwaith. Dyma hynny sydd ohono: "We, the undersigned, at the request, and in the behalf of the Society of Christians denominated Calvinistic Methodists, respectfully inform the Ladies and Gentlemen in the town and neighbourhood of Carnarvon, and the Public in general, that our present place of worship being much too small and incon- venient for our congregation, it was judged necessary to build a Chapel on a larger Scale, which is now begun; but as it will unavoidably be attended with considerable expence, we humbly solicit your charitable and benevolent Contribution for that purpose, which we will gratefully acknowledge with due thankfulness." Nid oedd Evan Richardson mwyach pan wnawd y dernyn yma, a gellir bod yn sicr mai nid Mr. Lloyd fu'n euog ohono.

Cof gan William Griffith, y dechreuwr canu, a anwyd yn 1822, am dano'i hun yn myned yn blentyn i'r tŷ capel o flaen oedfa'r hwyr ar y Sul. Richard Owen a'i wraig Mari a gadwai'r tŷ capel. Gwelid y bibell a'r tybaco a'r cwrw ar y pentan ar gyfer y pregethwr. Ar ol i'r plant a gaffai'r fraint o alw yno ysgwyd llaw â'r pregethwr, fe gawsent bob o gypanaid fechan o gwrw poeth a phupur cloves ynddo gan Mari Hughes. Fe ddarfu i William Griffith ei hun flasu y ddioden felysboeth hon, er cymaint dirwestwr a fu efe yn ol hynny.

Yr oedd William Owen yr eillydd ar lyfr yr eglwys yn 1805, ac feallai yn flaenor cyn hynny. Ei enw ef oedd ar yr ymrwymiad y cyfeiriwyd ato. Dywed W. P. Williams ei fod yn wr tawel ac yn gristion gloew, yn ymwelwr â'r cleifion, ac yn athraw ffyddlon. Pan mewn oedran fe ymbriododd â lodes ieuanc oedd. yn gweini gydag ef, a hithau heb fod yn aelod. Diarddelwyd ef, ond dychwelodd yn ol fel aelod.

Daeth Robert Jones Amlwch, fel y gelwid ef, er mai brodor o Bwllheli ydoedd, i Gaernarvon tuag 1808. Gwnaed ef yn flaenor, a pharhaodd yn y swydd hyd 1827. Ni eglurir pa beth oedd yn lluddias iddo barhau. Dywed W. P. Williams ei fod yn ddyn call, lled ddysgedig, a chrefyddol, ac y daeth i feddu ar gryn ddylanwad yn y dref. Dywed, hefyd, mai yn ei dŷ ef y byddai John Elias yn lletya, ac iddo fedyddio ei holl blant ef. Y mae sôn, pa ddelw bynnag, am John Elias yn lletya gyda'r Dr. William Roberts, ewythr y Dr. Watkin Roberts. Rhoddai Robert Jones bedwar o welyau at wasanaeth y Sasiwn pan gynhelid hi yn y dref.

Bu John Hughes y pregethwr farw, Gorffennaf 20, 1828, wedi dechre pregethu yma yn 1814. Yr ydoedd yn wanaidd o gorff a chloff. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a chanddo fesur helaeth o ddawn y weinidogaeth. "Ychydig y bu ef; yr oedd yn effro tra y bu," ebe Griffith Solomon (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn fachgen yr oedd yn nodedig ym mhob digrifwch, ac yn ymhoffi mewn dynwared pregethu. Aeth yn ddiofal am y moddion, ond fel y llwyddodd ei ewythr, William Owen yr eilliwr, gael ganddo ddilyn drachefn yn gyson. Gallai gofio pregethau pan na fedrai eu deall yn iawn. Daeth dan argyhoeddiad pan oddeutu 14 oed. Enillwyd ei feddwl gan mwyaf drwy bregeth ar, A ei di gyda'r gwr hwn? a chymhellwyd ei feddwl i wneud proffes. Yr ydoedd yn ysgub blaenffrwyth diwygiad 1818. Cafodd allwedd cyfrinach â'r Arglwydd mewn dirgel weddi. Yr oedd o ddeall cyflym a golygiadau treiddgar, ac yn ddawnus ei ymadrodd. Dechreuodd bregethu yn 22 oed. Teithiodd drwy'r ran fwyaf o Dde a Gogledd. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo. Yn nos angeu fe gododd yr Haul arno, a thorrodd allan mewn gorfoledd. (Goleuad Cymru, 1830, t. 1, gan Edmund Parry).

Ym Mai, 1831, daeth y Parch. Dafydd Jones i Gaernarvon. Yn 1832 dewiswyd yn flaenoriaid, Joseph Elias, William Swaine, Owen Ellis.

Tybia W. P. Williams mai John Rowlands Parcia cochion, pannwr, a wnawd yn flaenor yn nesaf ar ol Dafydd Jones y cwper, ac yr oedd yn y swydd cyn dod i'r dref. Yr oedd yn ddyn tal, syth, prydweddol, ac o dduwioldeb diamheuol. Dechreuai yr odfeuon yn achlysurol. Bu farw yn 1833, yn 64 oed.

Yn 1837, neu yn ymyl hynny, y symudodd Griffith Evans i Rostryfan, wedi bod yn flaenor yma am 25 mlynedd. Fel y lloer, anfynych y gwelai namyn yr ochr dywyll. Hyd yn oed mewn gweddi, ebe W. P. Williams, yr oedd fel un yn cymeryd yn ganiataol fod yr achos ar drengu. Llym a miniog ei ddull, a llym mewn disgyblaeth. Bu'n llafurio ymhlith y rhai cyntaf yn ysgol Longlai, sef cychwyn yr achos yn Nazareth, ac efe oedd yr arolygwr cyntaf yno. Yr oedd yn wr da, cywir, crefyddol. (Edrycher Rhostryfan).

Bu Richard Jones (Treuan) yn flaenor ym Moriah am rail blynyddoedd. Symudodd i Bwll y barr ger Caeathro. Y mae ei enw gyntaf ar lyfr yr eglwys yn 1817. (Edrycher Caeathro ac Engedi). Humphrey Llwyd Prysgol oedd flaenor arall, a fu wedi hynny yng Nghaeathro. (Edrycher Caeathro).

Daeth John Williams Caeathro yma o Gaeathro, lle y cadwai ysgol, a glynodd enw'r lle wrtho. Daeth yma yn 1826 i gadw ysgol Mr. Lloyd, ar ol iddo ef ei rhoddi heibio. Rhy ddiniwed ydoedd i allu gwastrodedd hogiau'r dref, ac aeth ymaith cyn bo hir. Yr oedd yn bregethwr cystal ag ysgolfeistr, ac yn wr da; ond ni wyddys mo'i helynt ymhellach.

Yr oedd swm y casgliadau yn 1833 yn £75 12s. 8g. Rhannwyd fel yma: I'r tlodion, £26 18s. 8g. At yr achos, £25. 8s. 4c. Pregethu yn Dublin, £2. 6s. 6ch. Dyled y capeli, £3. 9s. 1½g. Cymdeithas Genhadol Llundain, £17. 10s. 1g. Swm y casgliadau yn 1837, £92. 13s. 6ch., a rhannwyd fel yma: I'r tlodion, £30. 6s. 11g. I'r achos, £32. 12s. 10½c. Cymdeithas Genhadol Llundain, £19. 18s. 11g. Cymdeithas Genhadol Gartrefol, £9. 14s. 9½c. Yn 1839 yr adeiladwyd capel Nazareth. Elai'r pregethwr o Foriah i Nazareth am ddau pnawn Sul, ac elai'r blaenor, Dafydd Rowland, gydag ef. Yr oedd y pregethwr yn myned i Gae- athro cyn hynny.

Bu Mr. Lloyd farw Ebrill 16, 1841, yn 70 mlwydd oed. Daeth i Gaernarvon o Frynaerau yn 1817. Fe gymerodd y radd o B.A. yn Rhydychen, ac ystyrrid ef yn ysgolhaig Lladin gwych. Derbyniodd urddau eglwysig yn 1801, yn 30 oed. Dilynai fuchedd ofer. Aeth drwy bangfeydd argyhoeddiad, a llifai pobl i wrando arno, wedi ei ddeffro felly, yn llanau Llanfair, Rhoscolyn a Llanfihangel ym Môn. Yn y man fe ymunodd â'r Methodistiaid yng Nghaerceiliog. Pan ddaeth at y Methodistiaid nid oedd yng Ngogledd Cymru ond Thomas Charles a Simon Llwyd wedi eu neilltuo yn rheolaidd i weinyddu'r ordinhadau eglwysig, a derbyniwyd ef yn groesawus. Ceisiwyd ganddo ymroi i wasanaethu'r Cyfundeb yn llwyr, gan ei sicrhau na byddai arno eisieu dim, ond gwell oedd ganddo fod yngafael â galwedigaeth fydol. Bu yng Nghaernarvon am beth amser yng ngwasanaeth brawd o farcer oedd iddo yma, cyn symud i Nefyn i arolygu fferm ei fam a'i chwaer. Wedi bod yn cadw ysgol ym Mrynaerau, dilynodd yr un alwedigaeth yng Nghaernarvon hyd nes y priododd, ac am y 15 mlynedd diweddaf o'i oes yr oedd yn rhydd oddiwrth alwedigaeth fydol. Y mae lliaws yn cofio fel y byddai ei gydoeswyr yn y dref yn cyfeirio at "Mr." Lloyd, a phob amser gyda gradd o barchedigaeth yn y dull yr yngenid y "Mr." Disgrifir ef cyn ei droedigaeth fel dyn ffroenuchel, balchaidd. Eithr yr argraff gyffredinol oddiwrtho wedi hynny ydoedd eiddo dyn o ysbryd plantaidd, chwedl Morgan Llwyd, gan chwilio am air gwahaniaethol ei ystyr oddiwrth plentynaidd. Anaml y cyferfid â dyn diniweitiach na Mr. Lloyd, a'r disgrifiad a roid ohono fyddai, "Mr. Lloyd dduwiol, ddiniwed." Er hynny, fe lwyddodd efe gyda hogiau'r dref, pryd y methodd gan John Williams, er y cyfrifid yntau, hefyd, yn wr duwiolfrydig. Tebyg fod y naws uchel oedd yn Mr. Lloyd cyn ei argyhoeddiad yn rhoi rhyw ias o awdurdod yn ei ddull, er y cyfnewidiad amlwg a ddaeth drosto. A rhaid cofio, hefyd, mai "Mr." ydoedd, neu un a fu yn wr eglwysig. Yr oedd i hynny ei ddylanwad priodol ei hun y pryd hwnnw ar feddwl gwerin. gwlad, ac hyd yn oed uchelwyr gwlad. Yr oedd efe o gydwybod dyner. Wedi ei argyhoeddiad, aeth y gwasanaeth bedydd yn annioddefol i'w deimlad, a gorfodid ef gan hynny, ac ystyriaethau eraill, i adael yr Eglwys. Wedi hynny, am weddill ei oes, blinid ef gan y meddwl nad oedd wedi ei wir alw yn weinidog Crist, ac mai gan ddyn yn unig y derbyniodd ei swydd, gan nad ydoedd ei hunan ond dyn annuwiol ar y pryd. Tebyg fod ei amddifadrwydd o ddawn naturiol wrth gefn yr amheuon hyn, ac y bu hynny yn rheswm am iddo beidio ymroi yn llwyr, megys y cymhellwyd ef, i waith y weinidogaeth yn y Cyfundeb. Rhaid bod y cyfryw amheuon ynghylch ei alwad wedi ei nychu i fesur, ac i fesur mawr feallai, yn y gwaith. Yr oedd ei ddiffyg dawn nid yn unig yn ddiffyg dawn ar ymadrodd, ond, yn chwaneg, yn ddiffyg dawn i gynyrchu meddyliau, fel y rhaid fod ynddo ymdeimlad o wendid nid yn unig yn y traddodiad o'i genadwri, ond hefyd wrth geisio cael deunydd cenadwri pan wrtho'i hun. Adroddir gan Owen Thomas mai yn yr Ephesiaid a'r Rhufeiniaid y byddai ei destynau fynychaf, ac nad oedd ei bregethau gan amlaf ond cymaint ag a fedrai gofio o hen esboniadau Lladin Musculus a Zanchius. Gyda phregeth led newydd, fe droai ar y dydd Llun i'w hoff awduron er gweled a allodd gludo eu cynnwys gydag ef, a chlywid ef yn cwynfan wrtho'i hun, "Wel! wel! piti! piti! piti! Dyma fi wedi anghofio'r pethau goreu o'r cwbl! Gresyn! gresyn! gresyn!" Parai hyn i gyd, er cymaint y perchid ef, argraff o wendid ynddo fel pregethwr. Fe gofir yr hanesyn am y bachgen hwnnw a holid gan y pregethwr wrth fyned tua'r capel, a fyddai efe'n gweddïo dros y pregethwyr? ac a atebai'n ol y byddai. Gofynnodd yna y pregethwr, am ba beth y gweddïai efe? ac atebai'r bachgen y gweddïai am i Mr. Lloyd Caernarvon gael rhywbeth i'w ddweyd, ac y gweddïai am i John Williams Llecheiddior beidio dweyd gormod. Os y clywid neb o'r hen wrandawyr yn adrodd rhywbeth ar ei ol, byddid yn sicr o'u clywed yn adrodd am dano yn gweithio'i fysedd drwy ei gilydd yn aflonydd, ac yn holi Paul ac yn ei groesholi. Aië, Paul?" "Aië, Paul?" "Ië, Paul?" Ond er cymaint yr holi ar Paul, nid yn rhyw rwydd iawn yr atebai Paul. Ond yr oedd ochr arall iddo. Ar weddi fe fyddai bob amser yn ddwys a gafaelgar. Ac yn ei bregethau, hefyd, ar brydiau, fe atebai Paul yn gampus, â llais uchel dros y capel, nes y byddai'r holl gynulleidfa mewn dagrau, ebe Owen Thomas. "Eithr Duw—eithr Duw—eithr Duw,—yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad drwy yr hwn y carodd efe ni, ïe, pan oeddym feirw mewn camweddau a'n cyd—fywhaodd ni gyda Christ: trwy ras yr ydych yn gadwedig. Trwy ras! trwy ras! trwy ras!' Dyma obaith i'r anheilwng. Dyma obaith i minnau. Dyma obaith i tithau." Dywedir ymhellach y byddai arogledd sanctaidd yn wastadol ar yr hyn a ddywedai yn y Cyfarfod Misol. "Wedi ei wneuthur i ni gan Dduw." "Ie, frawd bach, ie, gyfeillion bach, ie, frodyr anwyl, 'gan Dduw '—fel yr oedd y brawd ifanc yn dywedyd neithiwr— daliwch ati, 'machgen anwyl i,—'gan Dduw '—y Duw y darfu i ni bechu yn ei erbyn; y Duw ddarfu i ni ddigio; y Duw biau'r gyfraith; y Duw fydd yn ein barnu; 'gan Dduw'—peidiwch digalonni, frawd bach; ymddiriedwch ynddo, frodyr anwyl; 'gan Dduw.' Bendigedig a fo. Mae o'n siwr o fod wedi gwneuthur ei waith yn iawn." Yr amser cyntaf ar ol ei argyhoeddiad, yr oedd dan y fath gyffro teimlad, fel ag i'w godi yn ei bregethau uwch ei law ei hun. Aeth sôn allan am dano, fel pan y daeth i Gaernarvon am y tro cyntaf, nad allai y capel gynnwys y gynulleidfa. A phregethodd am drysori digofaint erbyn dydd digofaint gydag effaith nas anghofid. A thros weddill ei oes, fe fyddai ar brydiau, wedi cyrraedd ohono ryw nôd yn y bregeth, yn ymgodi i ddylanwad trydanol. Ac fel y dywedodd Spurgeon am George Müller, yr oedd George Müller ei hun o'r tu ol i'r bregeth. A thywynnai disgleirdeb duwiol Mr. Lloyd drwy bob afrwyddineb yn y bregeth, a thywynnai, hefyd, yn ei ymddanghosiad, ac yn ei holl fuchedd, ac am yn hir wedi ymadael ohono â'r fuchedd hon. Pe cawsai Ddaniel Owen arall i'w gyfleu mewn chwedloniaeth, oddiar adnabyddiaeth deg ohono, fe wnaethai gymeriad cyfartal i Ddr. Primrose Goldsmith, neu Parson Adams Fielding. Ei air olaf,—Y mae yn dawel iawn oddifewn.

Pan âf uwch ei ystafell
I weled gwaith y dlawd gell;
Och, yno wrth gofio gynt
Da hwyliodd ein cyd helynt,
Ei ddiddrwg olwg wiwlon,
Yn wastad â llygad llon;
Ei weddi daer, fwynaidd dôn,
Ei ddoniau a'i 'mddiddanion;
Neu gofio ei lon gyfarch,
Rhydd i bawb y rhoddai barch;
Och, yno uwch ei annedd,
Golchwn fŷg lechen ei fedd

A dagrau caredigrwydd,
Gorffrydiant, rhedant yn rhwydd;
A gallai y rhedai rhai'n
O lefau fy wylofain,
Heb wåd trwy gaead ei gell,
Nes dyfod i'w ystafell,
I weini iddo f'annerch,
Mewn dafnau cusanau serch.—(D. Jones.)

(Drysorfa, 1844, t. 193 ac ymlaen, gan D. Jones; 1870, t. 126. Cofiant John Jones, t. 130.)

Engedi yn cael ei agor, Mehefin 19, 20, 1842. Aeth 120 o Foriah yno, ac yn eu plith Robert Evans a Joseph Elias. Yr oedd Robert Evans yn arolygwr yr ysgol er 1817, ac yr oedd yn ysgrifennydd yr eglwys er oddeutu'r un amser, a chyflawnai'r naill swydd a'r llall yn gwbl foddhaol, yn ol tystiolaeth W. P. Williams. Gwrthododd ymgymeryd â'r flaenoriaeth yn 1825; ond gwnaeth hynny pan ddewiswyd ef drachefn yn 1828. Gweithiwr tawedog a fu ym Moriah, ac ar ol hynny y datblygodd ei alluoedd cyhoeddus. Bu Joseph Elias yn gyd-arolygwr â Robert Evans am rai blynyddoedd, ac yn flaenor er 1832. (Edrycher Engedi ymherthynas â'r ddau hyn.)

Yn 1843 y daeth y Parch. Thomas Hughes i Gaernarvon. Bu John Humphreys farw Hydref 17, 1845, yn 70 oed. Dechreuodd bregethu yn 1809. Yn 1829 ataliwyd o bregethu oherwydd gormod ymarfer â'r diodydd meddwol. Bu ar ol hynny yn Nerpwl am 3 blynedd. Yna dychwelodd i Gaernar— von. Cymerth yr ardystiad dirwestol ar ol hynny, a threuliodd y gweddill o'i amser yn loew ei gymeriad. Cyfrifid ef yn wr tirion a charedig ac yn bregethwr swynol. Dan ei bregeth ef yr argyhoeddwyd Owen Owens Corsywlad oddeutu 1818, a blaenor arall, sef Henry Jones, a fu'n ffyddlon am oes faith yn Golan. Pan yn bregethwr fe gyfyngai ei hun yn bennaf i'r dref a'r gymdogaeth. Dywedodd unwaith wrth Dafydd Williams y pregethwr, "Dafydd bach, y mae'r Graig yma, ond fod llawer o bridd arni."

Yn 1845 dewiswyd yn flaenoriaid, Richard Evans, W. P. Williams, Richard Prichard. Labrwr oedd Richard Prichard, ond gwr parchus a defnyddiol. Cafodd ei wraig dro amlwg dan bregeth Ebenezer Morris yn 1818, cyn ei briodi ef, a hithau y pryd hwnnw yn "bechadures." Ar y sail yma, fe wrthwynebwyd ei etholiad gan gyfran o'r eglwys. Apeliwyd at y Cyfarfod Misol, a'r canlyniad fu gadael Richard Prichard heb ei ethol. Bu hynny yn naturiol yn gryn dramgwydd i Jane y wraig, ond dioddefodd y gwr yr oruchwyliaeth anghristnogol yn ysbryd cristion. Gellir sylwi yma fod tad W. P. Williams, sef y Capten Henry Williams, yn bedwerydd ar ddeg ar lyfr eglwys Moriah, ac ymunodd ei wraig, hefyd, yn fore. Cyn cychwyn o'i long o Nerpwl y tro olaf y bu yno, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn y llong. Cenid gyda hwyl, Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau. Gyferbyn a Llandudno suddodd y llong a boddwyd pawb ar ei bwrdd. Yr ydoedd yn gyfaill mawr i Evan Richardson, a galarai ef ar ei ol fel un o'r teulu. Gan i W. P. Williams oroesi cyfnod yr hanes yma, ni thraethir yn neilltuol arno; eithr fe ganfyddir fod ganddo gymhwyster arbennig i ysgrifennu ar yr eglwys hon. Cryno o gorff a meddwl oedd Richard Evans. Efe oedd y gofalwr am gyfarfod gweddi chwech y bore ar ol Dafydd Jones, ac efe a ofalai am ysgol Isalun, ac ni chollai byth o'r naill na'r llall. Israeliad yn wir yn yr hwn nid oedd dwyll.

Mehefin 26, 1846, yn 84 oed, y bu farw Dafydd Jones y cwper. Mewn nodiad chwe llinell arno yn y Drysorfa (1846, t. 256), fe ddywedir ei fod yn un o'r rhai cyntaf a ddechreuodd yr achos yng Nghaernarvon. Eithr ni enwir ef yn y Methodistiaeth ymhlith y 4 neu 5 cyntaf i gyd. Dywedir, hefyd, iddo fod yn flaenor am yn agos i 50 mlynedd. Fe'i galwyd, gan hynny, ymhen oddeutu 9 mlynedd ar ol sefydlu'r eglwys. Hyd y gwyddys, efe oedd y blaenor cyntaf. Yr oedd nifer yr aelodau am rai blynyddoedd mor fychan, fel nad oes unrhyw le i gasglu y galwodd Evan Richardson, ar gymhelliad Elizabeth ei wraig, neb i'r swydd o'i flaen ef. Urddiad esgobaethol ydoedd yr eiddo ef, gydag ymyriad benywaidd yn yr achos, y fath a ddigwyddodd, mae'n ddiau, fwy nag unwaith, mewn urddiadau unbenaethol. Fe wneir y sylw yma arno yn y Methodistiaeth: "Un hynod, hefyd, oedd Dafydd Jones y cwper, ac un a fu'n ffyddlon iawn dros ei dymor. Gresyn na buasai rhywun cydnabyddus â'r gwr hwn wedi ysgrifennu ei hanes, gan hynoted ydoedd. Diau y buasai crynhodeb o'i lafur, ei ymadroddion, ac o'i gymeriad yn ffurfio traethawd tra dyddorol a buddiol; ond nid oes y fath grynhodeb wedi ei wneud, na gobaith, bellach, y ceir un." Ac eto, yr oedd y gyfrol y dywedir hyn ynddi yn dod allan drwy'r wasg ymhen wyth mlynedd ar ol marwolaeth Dafydd Jones. Y mae'r cofnodion yma gan W. P. Williams: "Y mae'n debyg iddo fod yn addoli gyda'r ddiadell fechan yn y llofft [Tanrallt]. Fe'i ganwyd yn 1762; felly yr oedd yn 25 oed pan ddaeth Mr. Richardson i Gaernarvon. Brodor ydoedd o Bwllheli. Yr oedd yn meddu ar gryn lawer o synnwyr cyffredin a phwyll ac amynedd. Ymddanghosai fod ganddo berffaith lywodraeth arno'i hun a'i eiriau a'i dymer a'i holl ymddygiadau. Nid wyf yn gwybod i neb ei weled wedi gwylltio o ran ei dymer. Mewn achosion o ddisgyblaeth dyrus, gyda rhai o'r swyddogion cystal ag aelodau wedi colli eu tymer, elai Dafydd Jones drwy'r helynt yn hollol hamddenol. Bu'n gynorthwy mawr i Evan Richardson ac yn ymgeledd i'r achos. Wrth weddio, ni fyddai byth yn faith, ac ni phregethai, ond dywedai ei neges yn fyrr ac i bwrpas, a chydag ysbryd gostyngedig, fel plentyn yn ymddiddan â'i dad. Nid ydym yn gwybod ond ychydig iawn am danat yn awr, Nefol Dad, ond ni a ddown yn fwy cydnabyddus â'n gilydd ar ol hyn'; ac yna elai ymlaen i ofyn am wybod mwy a phrofi mwy o rym crefydd ysbrydol. Yr oedd Mr. Richardson yn hoff iawn ohono: byddai weithiau pan yn pregethu yn y Bontnewydd. yn ei gymeryd ef gydag ef. Gwnelai weithiau gamgymeriadau digrifol. Clywais ei fod unwaith wedi darllen pennod o'r Apocrypha wrth ddechreu'r oedfa. [Yr oedd yr hen feiblau yn cynnwys yr Apocrypha.] Gofynnodd y cyfeillion iddo wedi'r gwasanaeth, paham y darllenai'r Apocrypha wrth ddechre oedfa? O!' meddai yntau, 'i edrych a oeddych chwi'n gwybod y gwahaniaeth rhyngddo a Gair Duw.' Dafydd Jones a fu'n cyhoeddi'r moddion am 40 mlynedd. [Rhoddai achos y tlodion gerbron y gynulleidfa, gan roi yr enw a'r cyfeiriad, a gadawai ar hynny. Cyhoeddai mewn llais eglur ac mewn modd cryno. (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 20).] Gan ddiffyg cof, nid oedd ganddo yn niwedd ei oes ond rhyw un pennill i'w roi allan, a dyma oedd hwnnw:

Dywed i mi pa ddyn a drig
I'th lŷs parchedig Arglwydd;
A phwy a erys ac a fydd
Yn nhrigfa dy sancteiddrwydd.

Yr oedd ei gyd-swyddogion yn hoff iawn ohono, yn enwedig y Parch. D. Jones." Y mae fod Evan Richardson a Dafydd Jones mor hoff ohono yn docyn aelodaeth iddo i gymdeithas etholedigion duwiolfryd nawsaidd. A dengys y cyfuniad o'i hunanfeddiant tawel a'i ddireidi a'i felancoli,—canys fe arferid adrodd gynt fod hynny yn ei nodweddu, ac yn achos o'r camgymeriadau digrifol y cyfeiriwyd atynt,—natur gyfoethog, a thyner, a siriolwych, pan yn ymysgwyd oddiwrth y dymer drymbluog, ac yn dechre hedfan fymryn i'r glesni tawel. A chan ei fod mewn gweddi, megys plentyn gyda'i dad, fe welir mai gwr cynefin â'r Orsedd ydoedd, ac wedi ymddihatru oddi— wrth ffug a rhodres a phenboethni, os bu efe erioed yn euog ohonynt. Gwerth i ni ddeall cymaint a hyn am flaenor cyntaf Methodistiaid Caernarvon.

Gorffennaf 8, 1846, yn 76 oed, y bu farw John Huxley, ymhen deuddeng niwrnod ar ol Dafydd Jones y cwper. Tynnwyd ymaith ynddynt hwy ill dau gryn lawer o'r addfed ffrwyth cyntaf. Yn fachgen gwyllt a direidus, fe ofynnodd ei gyfaill, Robert Griffith Penrallt, a fu farw o'i flaen ef, i John Huxley ddod i wrando pregeth ar bnawn Sul i ffermdy yn agos i Bencefn, sef naill ai yn y Wern yn agos i Gaeathro neu yn Glanrafon bach, fel yr adroddai ef ei hun wrth W. P. Williams. Yr oedd ar John gywilydd rhag y meddwl am y fath beth, canys eglwyswr ydoedd, ond fe'i perswadiwyd yn y man, er na fynnai fyned i mewn i'r tŷ namyn gwrando oddiallan gyda'i het ar ei wyneb rhag ei adnabod. Chwarddai John yn ei het am ben dull gwledig a digrif yr hen bregethwr; ond yn y man fe ddechreuodd y pethau ymaflyd yn ei feddwl, ac aeth i wylo yn chwerw bellach yn ei het, fel yr oedd arno gywilydd ei weled. Dafydd Cadwaladr oedd y pregethwr. Cymhellodd Robert ef i fyned i'r cymun. Yr oedd geiriau Robert, Jac, a fuost ti erioed yn dy gymun?" fel swn yn ei glustiau ddydd a nos. Dechreuodd ddarllen ei Feibl a gweddio. Ysgrifennai wersi o'r Beibl ar wainscoat ei wely, a darllenai y rheiny gan eu cymhwyso ato'i hun. Gyda theimladau cymysg yr aeth i'r cymun yn yr eglwys ar y pasc. Dan argyhoeddiad meddwl troes ei wyneb i'r seiat ym Mhenrallt yn 1796, pan yn 26 oed. Ar y ffordd yno, ebe Peter Ellis wrtho,—"Wel, Jac, i ble yr wyti'n mynd y ffordd yma ?" Cymhellwyd ef gan Peter Ellis i ddod i mewn gyda hwy, ar ol iddo ddangos mai dyna oedd ei feddwl. Dechreuodd John Elias, oedd yn yr ysgol gydag Evan Richardson, ei chwilio a'i chwalu, a dywedai yn y man yr ofnai na byddai yno dri mis. Eithr fe'i hymgeleddwyd gan Evan Richardson. Er hynny, cael a chael oedd iddo aros. Yr oedd geiriau John Elias am y tri mis yn rhuo yn ei feddwl o hyd nes i'r tri mis ddod i ben. Adroddai John Huxley hyn ymhen mwy na hanner can mlynedd, ac o fewn ychydig fisoedd i'r diwedd. Yn frodor o Nerpwl, ni ddysgodd mo'r Gymraeg nes dod i Gaernarvon yn fachgennyn ieuanc. Fe gafodd addysg dda, a bu'n ddarllenwr ar hyd ei oes. Dywed y Parch. Hugh Roberts (Bangor) yn y Drysorfa, ei fod yn gartrefol mewn hanesiaeth wladol ac eglwysig, ei fod yn ddiwinydd galluog, yn feirniad medrus ac yn bregethwr melus odiaeth. "Ni byddai un amser yn pregethu yn faith nac yn danbaid; ni byddai yn dyrchafu nemor ar ei lais, ond yn foneddigaidd yn ei holl agweddau. Yr oedd ei lais yn beraidd, a chanddo ystôr helaeth o faterion, fel yr oedd yn gallu sicrhau astudrwydd yn ei wrandawyr. Bu yn ffyddlon iawn gyda'r ysgol Sabothol. Yr oedd yn ddyn cyflawn o synnwyr a doethineb, a llanwai bob cylch y deuai iddo yn anrhydeddus. Yr oedd ei gymeriad yn uchel yn y dref boblogaidd yr oedd yn byw ynddi, fel dyn call, synwyrol a chrefyddol, ac o chwaeth goethedig." Yr oedd yn wr coethedig, o ddawn naturiol, o ysbryd crefyddol, yn hytrach yn neilltuedig ei ffordd ac anhyblyg ei feddwl. Gwrthododd y cynnyg i'w ordeinio yn 1834, yr hyn yr edrychid arno y pryd hwnnw fel arwydd o barchedigaeth go uchel, ac fe deimlid y gwrthodiad yn brofedigaeth gan y Cyfarfod Misol. Eithr yr oedd ef yn 64 oed weithian, ac nid annhebyg iddo deimlo yr esgeuluswyd ef yn rhy hir. Bu o fewn ychydig i'w alw i'w ordeinio 11 mlynedd yn gynt, pryd nad oedd ond nifer bychan wedi eu hordeinio yn y Corff. Esgeulus ydoedd o'r Cyfarfod Misol, ac ymyriad rhywrai, fel y tybir, a rwystrodd y cynnyg i'w ordeinio y pryd hwnnw, gan nad oeddynt yn ei gael yn Fethodist digon cyfansoddiadol. Pan wrthododd ei ordeinio, fe sylwodd John Elias yn Sasiwn yr ordeinio, mai efe oedd y cyntaf yn y Cyfundeb i wrthod, a bod yn alarus ganddo am hynny. Tebyg y cofiai John Elias am y seiat yng Nghaernarvon, pryd y ceisiodd efe rwystro ei gais am aelodaeth. Bu'n pregethu am yn agos i 40 mlynedd. Maes ei lafur, yn bennaf, oedd Caernarvon a'i chyffiniau. Ni wyddai Hugh Roberts iddo fyned ar daith i sir arall fwy nag unwaith. Ni fynegir ym mha sir, ond bu ar daith bregethu yn Sir Fôn gyda John Wynne, o leiaf. Dywed Hugh Roberts y buasai yn addurn i'r weinidogaeth deithiol. Trwy gryn ymdrech y cafwyd ganddo roi anerchiad yng nghyfarfod y Feibl Gymdeithas yn y dref, eithr fe draddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl a grymus a oeddid wedi gael o gwbl. Unwaith y clywodd Hugh Roberts ef yn pregethu, sef yng Nghyfarfod Misol Brynengan. Hanes dioddefiadau Crist oedd sylwedd ei bregeth, ac yr oedd yn traddodi gyda'r fath oleuni, teimlad, gwres a llewyrch, fel yr oedd yr holl gynulleidfa wedi ei gorchfygu, yn toddi mewn dagrau, ac eraill yn llefain, fel yr oedd yn anhawdd ei glywed cyn diwedd yr oedfa." Nid ymgymerodd â'r symudiad dirwestol, ac aml bicell a deflid ato o'r herwydd yng nghyfarfodydd dirwestol brwd dyddiau cyntaf dirwest. Ei yrru ymhellach oddiwrth y symudiad a wnae hynny, fe debygir, ac nid hir y bu heb weled amryw o'i ymosodwyr eu hunain yn ymdrybaeddu yn y ffos. Byddai yn gyson yn y cyfarfodydd eglwysig, a rhagorai yno yn anad unman. Fe arferai Simon Hobley a dweyd yr ymddyrchafai ei lais yn arafdeg fel yr elai ymlaen gan ymgomio gyda hwn a'r llall, ac y byddai o'r diwedd mewn aml seiat wedi ymddyrchafu megys i nen y capel, ac wedi mwyneiddio nes myned yn fath o bersain ysbrydol. "Mwyn mwyn" y disgrifid ei lais ganddo ef. Ac yn ei feddwl ef, nid oedd neb a glywodd yn y cyfarfod eglwysig yn hafal iddo. Dywed W. P. Williams mai i'w ddwylo ef y daeth yr awenau ar ol Evan Richardson, ac mai efe, hefyd, oedd y nesaf iddo mewn dylanwad. Yr oedd yn dra hoff o gerddoriaeth. Tŷb W. P. Williams mai efe a chwareuai y bass viol yn yr eglwys gynt, a thra hoff ydoedd o'r hen donau Cymreig. Arferai ddweyd am y dôn Dorcas, os byddai canu yn y nefoedd, y byddai canu ar yr hen Dorcas yno. (Drysorfa, 1846, t. 256; 1849, t. 47; 1870, t. 215.)

Hydref 16, 1849, dewiswyd yn flaenoriaid, Henry Jonathan a John Richardson. Awst 6 o'r un flwyddyn yr oedd Griffith Parry yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Dros ysbaid gymharol ferr y bu John Richardson yn y swydd. Bu farw yn 37 oed. Mab Evan Richardson ydoedd. Dyma sylw W. P. Williams arno: "Yr oedd yn ddyn gwir dduwiol, ac yn hynod ddidderbyn wyneb a llym mewn disgyblaeth eglwysig. Feallai weithiau yn lled arw, ac heb ddangos digon o barch i deimladau ei frodyr. Ar yr un pryd, rhaid addef fod llawer o bethau rhagorol ynddo, a chredwn y buasai'n gwneud blaenor cymeradwy pe cawsai fyw." Dywed Mrs. Elizabeth Hughes (Uxbridge Square) mai gwael ei iechyd ydoedd ac mai dyna pam yr ataliwyd ef rhag myned i bregethu. A dywed ar ol morwyn iddo o'r enw Roberts (y Blue Bell wedi hynny, sef hen dafarn unwaith, ac wyres John Roberts Llangwm), a fu yn gweini arno am chwe blynedd, iddo gael adnewyddiad neilltuol wrth wrando'r Dr. Lewis Edwards ar y geiriau, Oherwydd dy drugaredd sydd yn dragywydd. Fe ofynnai iddi yn ymyl ei derfyn, "Gwrandewch! Wnewch chi fynnu cael crefydd iawn?" Bu mewn ymrafael â rhai aelodau oherwydd ei sel dros burdeb.

Bu farw Richard Evans Awst 27, 1853, yn 56 oed. Yr oedd yn wr o barch yn ei deulu, ac yn yr eglwys a'r byd. Yr oedd ei ie yn ie a'i nage yn nage. Nid oedd o ran doniau a chyrhaeddiadau ond cyffredin. Ymwelai â chleifion a thlodion gan weinyddu i'w hangenrheidiau. Bu'n arolygwr yr ysgol yn Isalun am 24 blynedd. Y diwrnod olaf y bu byw, ebe eil wraig wrtho, "Wel, Richard bach, y mae yn dda ganddoch Iesu Grist, onid ydyw?" Ebe yntau'n ol, "O! Mary, mae'n dda gan Iesu Grist am danaf finnau ers llawer blwyddyn, 'rwyn gwybod." Ebe hithau, "Mi fuasai'n dda iawn gennyf allu gweinyddu rhyw gysur i chwi yn awr." Ebe yntau, "O! Mary, y mae'r Cyfaill yma." (Drysorfa, 1854, t. 273.)

Tybia Mr. Norman Davies, oddiwrth gyfeiriad yn nyddlyfr Thomas Lewis at atgyweirio'r capel, yn 1854, mai yn y flwyddyn hon y rhowd seti ar lawr y capel yn lle'r meinciau blaenorol. £450 oedd dyled Moriah yn nechre 1853 a £340 yn nechre 1854. Cyfrifid yn nechre 1854 fod lle i 1,172 eistedd; yn 1856 i 1,236. Yn 1853 gosodid lleoedd i 800. Cyfartaledd pris eisteddle, swllt y chwarter, a derbynid £168 yn flynyddol oddiwrthynt. £160, fe welir, a fuasai'r swm ar gyfer 80o. Y mae bwlch ar gyfer y cwestiwn, pa ddefnydd a wneir gydag arian y seti? Dywedir na wneir casgl ar gyfer y ddyled. Nifer yr eglwys, 505. Casgl at y weinidogaeth, £80. Diarddelwyd 13 o aelodau. Agorwyd capel Siloh, Hydref 26, 1856. Talwyd i Richard Davies y saer, £210. 3s. 10c., ac i James Rees am y tir, £25. Yn 1859 y sefydlwyd eglwys yn Siloh. Swm dyled Moriah yn 1855, £270; yn 1856, £470. Gosodid seti yn 1856 i 891; y derbyniadau am y seti £178. 5s. Rhif yr eglwys, 560; y casgl at y weinidogaeth, £106. Nodir fod treuliau ysgoldy Tanrallt, yr atgyweirio ar Moriah a'r weinidogaeth yn £514.

Yn 1858 yr ymadawodd y Parch. Dafydd Jones i Dreborth. Y mae gan Robert Ellis Ysgoldy nodiad yn ei ddyddiadur ar hynny. "Ebrill 1. Cyfarfod Misol Caernarvon. Gwneud cryn helynt gydag ymadawiad D. Jones." Medi 23, 1859, cyflwynwyd iddo yn ei dŷ yn Nhreborth gloc bychan ynghydag arian, y cyfan yn dod i £104, fel cydnabyddiaeth o'i lafur fel gweinidog am 27 mlynedd. Soniai Henry Jonathan ar yr achlysur am ei bryder dirgelaidd a'i ofal gwastadol ef am yr achos. Gwrthod cyfarfod cyhoeddus ym Moriah a ddarfu'r gwr a anrhydeddid. Pan yng Nghaernarvon rhoid iddo £2 ar gyfer y Sul o 1855 ymlaen; cyn hynny £1. 1os. a £1. 5s. a £1. yn ol hyd at 1846. A dengys llyfr taliadau'r weinidogaeth am 1828—35 mai swllt a dderbyniai, yr un fath a'r brodyr cartrefol eraill, yn ystod y blynyddoedd hynny. Bu ym Moriah 5 waith yn 1846 a 4 gwaith yn 1857. Yr oedd ei barchedigaeth yn fawr yn y dref, er fod rhyw nifer yn wrthwynebol iddo, neu'n elyngar rai ohonynt, yn ei eglwys ei hun. Mae'n sicr iddo ddioddef llawer oddiwrth hynny. Er ei fod yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn wr o feddwl diwylliedig wrth ystyried manteision ei amser, a chymeriad a pharch uchel iddo yn y dref a'r wlad, ac yn un o'r dynion mwyaf nawsaidd ac yn un o'r rhai callaf, cystal a'i fod yn gwneuthur gwaith pwysig yn ei eglwys, a dylanwad dirfawr iddo ar feddyliau, ac yntau heb dderbyn nemor ddim tâl i son am dano, a hynny am faith flynyddoedd; eto ni rwystrodd mo hynny i gyd iddo gael ei boenydio yn ddirgelaidd a chyhoeddus am flynyddoedd o amser. Fe ymserchid ynddo yn fawr gan liaws, er hynny. Seinid ei enw gydag oslef feddal, yn enwedig ar y sill olaf o'i enw bedydd, gan ei hen wrandawyr yng Nghaernarvon—Daf-ydd Jones! Yr oedd ysgrifennydd hyn o nodiadau yn gynefin â hynny o'i febyd wrth wrando ar scwrs ei fam. Iddi hi nid oedd hafal Daf-ydd Jones. "Pan y byddai o yn i chael hi!"—dyna'r pryd y byddai'n anghymarol; dyna'r pryd y clywid troadau gwefreiddiol y llais, ac y teflid pob teimlad i lesmair wynfydig. "Dawn oedd gan Daf-ydd Jones." Er heb ddywedyd hynny, eto fe awgrymid y gallai fod pethau eraill yn eraill yn rhagori, difrifwch Henry Rees, a phethau eraill yn eraill—ond dawn oedd y dirgelwch! "Peth crand iawn ydi dawn!" Ac yn y cymun drachefn, y fath urddas! y fath weddeidddra! y fath dynerwch sanctaidd, fel y codai'r cwpan i fyny yn ei law—"Y mae o'n cochi!"—a thôn y llais yn egluro'r ystyr cyfrin. Ië, dawn, a dawn wedi ei gysegru; dawn diymdrech, didrwst, dilyffethair o ran corff a meddwl ac ysbryd; dawn heb geisio bod yn ddawn, yn dawel, yn urddasol, yn olldreiddiol; yn codi'r gynulleidfa gyda'i gilydd am fyrr funudyn drwy'r glesni teneuedig hyd at borth y nefoedd, ac yna yn rhoil trem i mewn, ac ar hynny, gydag ysmic y llygad, dyna'r weledigaeth, neu'r awgrym pell ohoni, drosodd, a'r bregeth ar ben, a'r meddwl yn dychwelyd yn ol, yn ol i'w hen gynefin, ond er hynny gyda rhyw adlewyrch yn y meddwl o'r goleu na fu erioed ar för neu dir. Meddai'r arglwyddiaeth yma ar deimladau amrywiol ddosbarthiadau o wrandawyr, i'w rhestru o'r isaf hyd yr uchaf. Edrydd y Parch. David Jones y Garreg ddu am Dr. Lewis Edwards yn dweyd, newydd fod yn gwrando arno, na welodd ddim erioed ym Milton ei hun yn rhagori mewn arucheledd ar ddernyn o'i eiddo ef ar y Croeshoeliad. (Atgofion am D. Jones, D. C. Evans, t. 141.) Ac edrydd D. C. Evans ar ol y Dr. Evan Roberts Penygroes (t. 101), y dywedai y Dr. W. Arnot, ar ol ei wrando yn traddodi'r cyngor yn y Bala yn 1844, er iddo glywed pregethwyr pob gwlad braidd, na theimlodd mo'r fath swyn yn yr un, ac na welodd mo'r fath ddylanwad ar y gynulleidfa, a hynny er nad oedd y Dr. Arnot ddim yn deall yr iaith. A dywedai ymhellach, pan y dywedid y geiriau "enaid anwyl," fel y gwneid bob yn awr ac eilwaith, ei fod yn teimlo'i wallt yn codi ar ei ben. Er hynny, nid oedd. pob dosbarth, yn hollol, yn cael eu cludo gan ei ddawn ef yr un fath a chyda'i frawd, John Jones, a hynny er fod pawb yn ei edmygu yntau. Gallesid rhoi enghreifftiau eraill, ond bydd eiddo'r Parch. Evan Jones yn ddigon. Yr oedd efe yn aelod ym Moriah yn 1856-7, a dywed fel yma yn yr Atgofion: "Meddai'r llais pereiddiaf, yn neilltuol pan ymddyrchafai i oslef. Pregeth wastad, efengylaidd oedd ganddo, yn cael ei darllen, bob amser yn ddymunol, ac yn achlysurol gyda graddau o hwyl. Cae ef yn gyson gynulleidfa astud, dda, ac ae drwy'r holl wasanaeth gydag urddas mawr. Yn y seiat, er hynny, meddir, y rhagorai: dylifai ei ymadroddion fel gwin, a chanmolai pawb y wledd." Dichon na chlywodd Mr. Evan Jones mohono, y pryd hwnnw, ar ddim hanner dwsin o Suliau. Os darllen y byddai ym Moriah, rhaid, debygid, y darllenai gyda rhyddid hollol yn ei ddull gan amlaf. Fe gymerodd yr awenau yn naturiol ar ei ddyfodiad yma, er nad oedd y pryd hwnnw ond 26 oed, ac yn raddol fe ddaethpwyd i'w deimlo yn ddylanwad yn y dref. Yn y seiadau fe roddai ei le llawn i'r pregethwyr eraill, a gwnelai hynny, nid ar ei ddyfodiad cyntaf yma yn unig; ond ar ol codi ohono i uchter ei ddylanwad, a phan erbyn hynny yr oedd pellter amlwg rhyngddo a'r pregethwyr eraill oedd yma. Gydag ef, feallai, os rhywbeth, mai'r perygl yn hytrach oedd i eraill gymeryd mwy na'u rhan briodol. Yr oedd cyfaddaster arbennig ynddo i'r seiat yn ei ddull tawel, mwyn, cydymdeimladol, profiadol, ac ym mharodrwydd ei feddwl a'i gyfoeth o eglurebau, ac yn ei gallineb distaw a'i sirioldeb a'i adnabyddiaeth o'r natur ddynol. Dywed Henry Jonathan na welodd efe mo neb tebyg iddo am gadw seiat (D. C. Evans, t. 95), a bu ef yn y seiat gyda John Elias yn Llangefni am naw mlynedd, a chyda John Huxley am flynyddoedd. Rhydd W. P. Williams rai enghreifftiau o'i ddywediadau yn y seiat. Wrth i chwaer amlygu ei hofn na dderbyniodd faddeuant erioed, gofynnodd iddi a wyddai hi am edifeirwch. Dywedai fod edifeirwch. a maddeuant fel banknote wedi ei dorri yn ei hanner, fel y bydd masnachwyr yn gwneud weithiau er diogelwch, gan ddanfon y naill ran yn gyntaf a'r llall wedi hynny: felly y mae edifeirwch fel y naill hanner yng nghalon pechadur ar y ddaear, a'r hanner arall yn faddeuant yng Ngorsedd Duw, ac ar fynediad y credadyn i'r nefoedd bydd y darnau yn cael eu hasio, ac yn clirio y ffordd i fyny ac i lawr. Dywedodd dro arall nad oedd mo fath Duw am dynnu llun. Fe dynn yr amlinelliad yn yr ail-enedigaeth, a pherffeithia'r llun yn y sancteiddhad, ac erbyn y gorffenner ef bydd ar ddelw'r Brawd Hynaf ei hun. Dywedai dro arall, mewn cyfeiriad at y dull o wahaniaethu rhwng y cyfiawnhad a'r sancteiddhad, gan roddi'r naill o flaen y llall, y meddyliai ef, ond edrych yn ddwfn, y ceid hwy yn debyg i fynyddoedd ein gwlad, yn ymwahanu i'r golwg, ac yn cymeryd enwau gwahanol; ond wrth eu holrhain i'w gwraidd yn myned yn un â'i gilydd. Eithr fe fyddai cymhariaethau o'r fath, a rhai symlach na'r rhain, gan y defnyddiai weithiau rai tra syml, yn ymogoneddu yn arddull ei draddodiad ef. (Edrycher y Graig.) Nos Iau, Hydref 13, 1859, am saith, y cynhaliwyd oedfa Dafydd Morgan ym Moriah. Arhosodd 21 o newydd. Gofynnodd y diwygiwr brofiad un ohonynt, sef capten llong. "Yr ydw'i wedi penderfynu heno," ebe yntau, "roi tac arall arni o hyn allan." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 469.) Dywed W. P. Williams am oedfa Dafydd Morgan nad oedd dim gorfoledd neilltuol ynddi, ond teimlad dwys a chyffredinol. Bu cyfarfod gweddi ganol dydd ffair ym Moriah yr adeg honno a'r capel yn llawn. Yr oedd y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, Morgannwg, yn aelod yma y pryd hwnnw. Fe ddywed y gwelodd. y capel yn anioddefol lawn ar nosweithiau'r wythnos, a rhai o'r cymeriadau gwaethaf yn y dref yn bresennol. Cafodd Thomas Hughes Machynlleth oedfa hynod yma un Sul. "Pa beth yr aethoch allan i'w weled?" Baich y bregeth: mor ychydig, wedi'r cwbl, oedd llawer yn weled. Arhosodd 17 ar ol, ac yn eu plith Richard Evans a fu'n flaenor wedi hynny yng Nghaeathro. Glynodd dychweledigion y bregeth hon yn o led lwyr. Rhif yr aelodau yn 1858, 554; yn 1860, 736; yn 1862, 691; yn 1866, 705.

Yn 1860 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Evan Richardson Owen, Lewis Lewis, Robert Griffith, Richard Griffith, John Owen Ty coch. Ni fynnai y diweddaf weithredu, er y cyfrifid ef yn rhyw ddull megys un o'r swyddogion, ac nad oedd yntau, debygir, yn anfoddlon i hynny.

Yn 1862 fe ymadawodd (y Dr.) Griffith Parry i Lanrwst fel gweinidog, ac yntau y pryd hwnnw yn 35 oed, ac wedi bod. mewn masnach fel llyfrwerthydd yn y dref. Aeth i'r Bala yn 1847, ac yno y dechreuodd bregethu y flwyddyn ddilynol. Yr oedd ef yn ddyn o feddwl galluog a choeth, ac o wybodaeth eang. Yr oedd ei wasanaeth yn y seiat yn un gwerthfawr iawn, gan y traddodai yno yn fynych anerchiadau lled feithion, wedi eu meddwl yn drwyadl, ac yn llawn goleu ar bynciau mawrion yr athrawiaeth. Nid oedd hynny wrth chwaeth pawb, ond i rai yr ydoedd yn amheuthyn, ac yn foddion diwylliant ysbrydol. Cof gan Mr. John Jones Llanfaglan am dano, oddeutu'r adeg y dechreuodd bregethu, yn dod i Glynnog am y tro cyntaf yng nghwmni ei dad, Edmund Parry. Disgrifir y tad gan Mr. Jones fel gwr tal, o ymddanghosiad craff, o wisgiad da, ac mewn. clos pen glin, gyda botymau melynion, a'r olwg arno rywbeth yn foneddig.

Yn Hydref, 1865, y dechreuodd John Williams (Caergybi) bregethu.

Yn 1867 fe atgyweiriwyd y capel ar draul o tua £2,500, y ddyled flaenorol yn £600. Cadwyd y muriau a'r to. Rhowd ffenestri newydd a chryfhawyd y pen mewn amryw fannau. Yn lle bod yr oriel o amgylch fel o'r blaen, dodwyd hi oddeutu tair ochr, ac yn hanner crwn gyferbyn a'r pulpud. Dechreuwyd atgyweirio yn Ionawr. Cynhelid y gwasanaeth yn y cyfamser yn yr ysgol Frytanaidd hyd Hydref 6. Agorwyd drwy gyfarfod gweddi nos Sadwrn, Hydref 12, gan bedwar hen frawd penwyn, aelodau o'r hen gapel yr aethpwyd ohono yn 1826, sef William Swaine, John Wynne, Richard Prichard, Ellis Griffith. Gwasanaethwyd y Sul gan Joseph Thomas, ar nos Lun a dydd Mawrth gan Henry Rees, Owen Thomas, Dafydd Jones, Joseph. Thomas. Dywed Owen Thomas fod pregeth Henry Rees fore Mawrth yn un o'r rhai mwyaf dedwydd a glywodd efe ganddo erioed. "Yr oedd rhyw eneiniad nefol a bendigaid ar ei ysbryd ef ei hunan, ac ar deimladau yr holl gynulleidfa y bore hwnnw." (Cofiant H. Rees, t. 849.) Cafwyd addewidion am £1,415 15s. ar yr agoriad, yn amrywio o hanner coron i £140. Rhowd ar ddeall na chyffrowyd nemor ar y cythraul gosod seti ynglyn â'r agoriad hwn.

Chwefror 22, 1868, yn 76 oed, y bu farw Dafydd Rowland, yn flaenor yma ers 40 mlynedd, a chyn hynny yn y Waenfawr ers tuag 8 mlynedd. Yn y sylw coffa arno yn y Cyfarfod Misol fe ddywedid ei fod yn un o'r ddau flaenor hynaf yn Arfon. Yr oedd yn gynllun gweddol dda o flaenor Methodist o'r hen stamp. Fe'i hystyrrid ef yn wr pwyllog, call, cyfrwys, dyfal, di-ildio. Er yn ddi-ildio yn ei bwnc, eto wedi i'r ochr wrthwynebol drechu drwy fwyafrif, fe gyd-weithredai yntau, canys yr oedd yn gyfrwys yn gystal ag yn gryf. Fe briodolir iddo ddylanwad personoliaeth gan Mr. Henry Owen. Nis gellir yn hawdd gyfrif am ei ddylanwad ar wahan i hynny. Hollol gyffredin ydoedd o ran ei ddeall, ac yn fyrr o fanteision dysg. Yr oedd yn dra ffyddlon fel blaenor, ac yn ddiargyhoedd ei fuchedd. Yn brydlon a chyson ym mhob moddion, yn cefnogi popeth perthynol i'r Corff, yn bwysig ei ddull ym mhob trafodaeth. Y mae llyfr taliadau y weinidogaeth o 1845 hyd 1867 yn ei lawysgrifen ef. Llaw ofalus, yma ac acw yn ymgrebachu, ond gyda'r llinellau i gyd ar hyd y blynyddoedd yn gogwyddo yn union i'r un cyfeiriad. Dameg bywyd Dafydd Rowland yw ei lawysgrifen: y naill a'r llall yn fanwl, gwastad, lled hirfain, go gyfyngedig, eithaf eglur, nemor ddim wedi ei groesi allan, nemor ddim blotiau, ambell gamgymeriad wrth sillebu pethau anghynefin, ond y cwbl yn gywir yn y cyfrifon, yn dal i'w chwilio, ac yn goddef llygad y goleuni. Dywed Mr. Morris Roberts y rhoe argraff o sancteiddrwydd wrth edrych arno yn llwytho llechi yn y cei. Ar ryw olwg y mae yn syn iddo gyrraedd y fath awdurdod ag a gyrhaeddodd ym Moriah am faith flynyddoedd, ond ar olwg arall y mae'r dirgelwch yn agored i'n llygaid, yn ei ddyfalwch, ei gywirdeb, ei uniongyrchedd i'w nôd. Fe gyrhaeddodd Robespierre y lle blaenaf yn adeg y Chwyldroad Ffrengig yn uchder y chwyldro gyda'r un cymhwysterau, pryd nad oedd ond israddol o ran cylch ei welediad i liaws eraill. Dyma fel y disgrifir ef gan Mr. Evan Jones: "Eisteddai David Rowlands a'i gyd—flaenor William Swaine mewn cadair fahogani ddwyfraich, lle gallai dau eistedd ynddi, o waith David Williams Caepysgodlyn, yr hon sydd i'w gweled eto ym Moriah, yn union dan y pulpud. Gwisgai yn gyffredin dros ei ddillad eraill gob lwyd, laes, hyd ei draed. Tynnai ei law chwith yn arafaidd dros ei wallt du, yr hwn a ddisgynnai dros ei dalcen, fel Puritan perffaith, a chyfodai yn bwyllog iawn oddiar ei eisteddle yn y gadair freichiau. Araf ddringai risiau'r pulpud, ac wedi aros ennyd, a rhoddi trem ddifrifol dros y gynulleidfa, cyhoeddai yn hyglyw, mewn tôn hirllaes, ddolefus. . . Yn y seiat ar nos Sul, pa wr enwog neu anenwog bynnag fyddai wedi siarad, gofalai David Rowlands bob amser ddweyd gair ar ei ol. Yr oedd yn ffyddlon yn yr holl dŷ, ac yn gyfan ryfeddol i'r Parch. David Jones. Pa beth bynnag ddywedai Mr. David Jones, fe'i seliai David Rowlands. . . . David Rowlands oedd yn llywodraethu pawb a phopeth ym Moriah, ac nid yn anheilwng." Os oedd Dafydd Rowland yn ymgrebachu braidd yn ei law-ysgrifen ac yn ei olygwel ar fywyd, yr oedd yn ymhelaethu, yn ol ei allu, at bob achos da. Wrth hebrwng y pregethwr i Nazareth ar bnawn Sul, fe giliai esgeuluswyr oddiar ei ffordd rhag ei ofn. Ei hoff bennill, ebe Mr. Griffith Parry,—Newyddion braf a ddaeth i'm bro. Ar ei wely-ysgafn, pan ofynnwyd iddo un diwrnod, paham y gwenai efe, ei ateb oedd fod ei Dad Nefol yn ffeind iawn wrtho. (Drysorfa, 1868, t. 354.)

Tachwedd 17, 1869, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Cornelius Davies, Ellis Jones, J. W. Stephens. Symudodd y diweddaf yn fuan i Lechryd, sir Aberteifi. Bu William Swaine farw, Chwefror 2, 1870, yn 75 oed, yn flaenor ers 38 mlynedd. Yr oedd ei enw ar lyfr yr eglwys yn 1815. Cyfrifid ef yn wr llednais a duwiol. Heb rym neilltuol yn ei feddwl, yr oedd yn o gydnabyddus â'r Ysgrythyr, ac hefyd â Thaith y Pererin, Gurnal, Boston ar Bedwar Cyflwr Dyn, Esboniad George Lewis ar y Testament Newydd a'i Gorff Diwinyddiaeth, ac, yn enwedig, Geiriadur Charles. Siaradai i bwrpas yn y seiat, er na siaradai yn aml, a theimlid ei fod yn wr mawr mewn gweddi. Dyma sylw Mr. Evan Jones arno: "Angel oedd William Swaine, diniwed a di-uchelgais. Cerid ef gan bawb, ac ni ddywedai neb ond gair da am dano. O'i ran ef cae pawb wneud yr hyn oedd dda yn ei olwg ei hun. Yr oedd yn barchus ryfeddol, ac yn haeddiannol felly. Gwrandewid arno fel angel Duw. Ond nid oedd yn cymeryd cymaint o ofal am bethau allanol yr achos a David Rowlands." Ei hoff bennill, ebe Mr. Griffith Parry,—Am Iesu Grist a'i farwol glwy, Boed miloedd mwy o sôn. A dywed, hefyd, ei fod ef ei hun, yn rhyw brofedigaeth, wedi cael adnod ganddo; ac y mae yn werth ei choffhau fel adnod un "angel angel" i "angel" arall, sef hon: "Disgwyl wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon; disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd."

Bu Evan Richardson Owen farw Hydref 13, 1870, yn 50 oed, ac yn flaenor er 1860. Yr oedd ef yn ŵyr i Evan Richardson. Yr ydoedd yn ŵr dichlynaidd, ac yn ffyddlon yn ei swydd. Tebygir ei fod yn meddu ar radd o graffter, cystal a bod yn fanwl ei syniadau a'i arferion. Cyfarfu unwaith yn y cei, ar brynhawn braf, à bachgen 8 oed, a ddylasai fod yn yr ysgol, er na arferid gorfodaeth y pryd hwnnw. Wrth weled y blaenor gostyngodd y bachgen ei ben. Tebygir na adwaenai y blaenor ef, ond fe aeth ato yn y fan, a gofynnai am ei enw, a pham nad ydoedd yn yr ysgol? Rhoes air o gyngor i'r bachgen, a danfonodd yn ei gylch at ei rieni y noswaith honno. Ni bu'r bachgen yn chware triwant na chynt na chwedyn, a chafodd argraff annileadwy ar ei feddwl o graffter meddwl Evan Richardson Owen.

Aeth Richard Gray Owen yn genhadwr i China o'r eglwys hon. Ni wyddys mo'r amseriad.

Yr ydoedd Owen Ellis wedi ei wneud yn flaenor yn 1832. Yr ydoedd yn fab i'r Peter Ellis y sonir am dano ynglyn â chychwyniad yr achos, o'i wraig gyntaf. Wedi bod yn flaenor am lawer o flynyddoedd, gorfu ei ddiarddel o'i swydd oherwydd anwyliadwriaeth gyda'r diodydd meddwol. Bu ar un adeg ar ei oes yn agored i lesmeiriau o brudd-der, ac nid annhebyg nad hynny fu'n achos ei lithio gyda diod. Oherwydd yr iselder hwnnw fe gadwai adref ar brydiau, a bu hynny yn achos o'i ddrwgdybio o fod dan ddylanwad y ddiod yn amlach nag oedd wir. Gwr cymharol fychan o ran maintioli, ond cymesur, a hardd a deallus a boneddig yr olwg arno. Yn ei hen ddyddiau, gyda'i ymddanghosiad trwsiadus, a'i wallt gwyn, modrwyog, a'i brydwedd tarawiadol, yr oedd yn un o'r hen wŷr prydferthaf a ellid weled. Fe gafodd fanteision boreuol da ym mhob ffordd, ac yr oedd yn ddyn goleuedig ei feddwl, a'i arferion i gyd yn fanylaidd a glanwedd a syber. Fe godai bob briwsionyn a diferyn oddiar ei blât wrth fwyta heb unrhyw rodres, ac heb dynnu'r sylw lleiaf ato'i hun. Yr oedd yn agos at yr ieuainc, megys pe yn un ohonynt. Yr oedd pob amheuaeth ynghylch ei ymarfer â diod wedi hen gilio, ac addfedodd ei gymeriad mewn prydferthwch sancteiddrwydd. Yn ei flynyddoedd olaf i gyd, yr oedd wedi symud i fyw i Lanberis, lle bu farw Chwefror 3, 1881, yn 89 oed. Yr oedd ei feddylfryd, erbyn hynny, yn gyson. ar bethau ysbrydol, a chlywid ef arno'i hunan yn adrodd adnodau a phenillion, ac yn cyfarch y Gwaredwr drwy gydol y dydd. Edrydd Mr. Morris Roberts am dano mewn seiat ym Moriah yn fuan ar ol sefydlu Mr. Evan Jones yma. Fe arferai eistedd yn y sêt fawr, ond y noswaith honno, fel yr ai Mr. Jones o amgylch, yr oedd wedi symud o'r sêt fawr at fainc yn ymyl, a symud wedyn i sêt arall. Wrth ei weled yn anesmwytho, fe ganfu Lewis Lewis fod ganddo rywbeth ar ei feddwl, a galwai sylw Mr. Jones ato. Troes yntau ato. "Y Y mae ganddochi rywbeth gwerth ei ddweyd wrth y seiat heno?" "Oes," ebe yntau, " y mae gen i rywbeth gwerth i ddweyd heno. Y mae gen i hen gyfaill wedi symud i fyw i wlad bell iawn, iawn, pellach o lawer nag America neu Awstralia. Ac mi wyddochi, pan mae hen gyfaill i chwi wedi eich gadael i fynd i fyw i wlad bell, ac wedi addo cyn cychwyn anfon i chwi hanes y wlad, yr ydych yn disgwyl y naill wythnos ar ol y llall, a'r naill ddydd ar ol y llall, am air oddiwrth y cyfaill hwnnw, ac yr ydych yn disgwyl yn wastad am rap y postman wrth y drws, ac yn cael eich siomi y naill ddiwrnod ar ol y llall, fel o'r diwedd y mae eich amynedd bron wedi pallu; ac yna yr ydych yn agor y drws, ac yn myned allan o'r tŷ, a'r person cyntaf y cewch afael arno, y cwestiwn cyntaf iddo fydd,— A ddarfu'r postman basio, deudwch?' ac yna mynd i'r tŷ yn siomedig. Ond am y cyfaill yr wyf i yn sôn am dano, ni'm siomwyd erioed ynddo. Ac mi gefais lythyr oddiwrtho yn fy ngwely un o'r nosweithiau yma, ac yr ydw'i wedi dod yma heno i ddweyd ei gynnwys wrthych chwi fel eglwys." "Wel, gadewch inni gael cynnwys y llythyr, Mr. Ellis," ebe'r gweinidog. "Dyma fo i chwi," ebe yntau,—"Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Wander— ing Jew ydw'i wedi bod, weithiau yma ac weithiau acw. Owen Ellis—North, South, East, West!—ond Iesu Grist ddoe a heddyw yr un—ac yn dragywydd! Nid yw fyth yn symud o'i centre. Y fath Waredwr ardderchog!"

Fe roir yma ddyfyniadau o Ddyddlyfrau Thomas Lewis. "1851, Mai 28, Penrallt, cyfarfod eglwysig. ———— yn dod yno i aflonyddu ar ol cael ei dorri allan y tro cynt. Mehefin 10, cyf arfod eglwysig. ———— (sef yr un gwr ag o'r blaen) yno yn aflonyddu ein cynhulliad. 17, cyf. eglwysig. Caed heddwch gan ———— (yr un gwr eto). Rhagfyr 30, cyf. eglwysig. Trowd allan ———— oherwydd ei gysylltiad â ———— (y gwr blaenorol), yn anfon llythyrau dienw, ac hefyd yn rhoddi celwyddau digywilydd ar society Penrallt a'u hanfon i'r cyhoeddiad gwaradwyddus a elwir yr Haul. 1853, Rhagfyr 19, cyfarfod brodyr yn achos fod rhai yn tyrfu am i'r merched gael votio wrth godi blaenoriaid newyddion. 1854, Ebrill 26, cyfarfodydd gweddïau am 10, 2 a 6, yn cael eu cynnal drwy'r deyrnas yn ol gorchymyn y llywodraeth yn achos y rhyfel [y Crimea]. Tach. 27, y pregethwyr yn dechre myned ar gylch i letya yn lle'r tŷ capel. 1858, Tach. 4, Parch. Dd. Jones yn ymadael o'r dref i fyw i Dreborth. 1860, Ionawr 9, Llun. Am 10, 2 a 6, ym Moriah, cyfarfod gweddiau. Yr oedd yr holl dref yn cadw heddyw o'r bron mor gysegredig a'r Saboth. 10, am 2, ym Moriah, cyfarfod gweddi rhagorol o dda. 1861, Ionawr 8, nos Fawrth yng nghapel y Wesleyaid, cyfarfod eglwysig undeb, Wesleyaid, Anibynwyr a Methodistiaid. Cyfarfod da iawn. Chwefror 26, cyf. eglwysig. Terfysglyd yn achos ———— 1871, Chwefror 15, cyfarfod brodyr yn achos Hughes yr artist [sef ynghylch cyfreithlondeb ymwneud âg ysbrydion]."

Ebrill 25, 1871, bu farw Griffith Jones, yn 58 mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu am tua 34 blynedd. Brodor o Lanymawddwy. Symudodd yma o Rostryfan yn 1859. Ystyrrid ef yn ddyn o allu ac yn ysgrythyrwr da. Byddai mewn gryn lafur wrth draddodi, yn plygu ei gorff, ac yn estyn ei fraich allan a'i thynnu ato ar hanner cylch, ac mewn ymdrech yn rhoi'r llais allan, ac megys yn bwhwman braidd. Yr oedd y dull hwn i'w erbyn gyda'r gwrandawyr. Yr oedd y cyflead o'i fater yn syml, ac yr oedd yn wr diymhongar, diddichell. (Drysorfa, 1871, t. 487.)

Yn 1873 cychwyn achos Seisnig Turf Square. Aeth 40 yno o Foriah. Traul y tir, £550; yr adeilad, £800. Talwyd y naill a'r llall gan Moriah.

Hydref 14, 1875, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. Evan Jones. Efe oedd y cyntaf a etholwyd gan yr eglwys i'r swydd o weinidog. Daeth yma o'r Dyffryn, sir Feirionnydd. Rhif yr eglwys yn 1875, 619.

Dilewyd y ddyled, £1,805. 19s. 10c., gan gynnwys y llogau, yn 1876, blwyddyn jiwbili y capel. Yr oedd £20 mewn llaw, a defnyddiwyd hwy i gychwyn llyfrgell. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu, Rhagfyr 12, 13, pryd y pregethwyd gan R. Lumley, Owen Thomas, Joseph Thomas. Yr un flwyddyn y dechreuodd D. O'Brien Owen bregethu. Wedi bod yn weinidog yn Llanfrothen a'r Amerig, sefydlodd yma, Medi 1, 1891, fel goruchwyliwr y Llyfrfa, ar ei chychwyniad. Bu Mr. Robert Williams yn aros yma yn ystod ei flynyddoedd athrofaol, cystal a'i fod wedi ei fagu yma. Wedi hynny yn weinidog eglwys Seisnig Dolgelley. Yn ystod 1875-6 y dechreuodd y plant ddweyd eu hadnodau yn y seiat ganol yr wythnos. Dechreuwyd cynnal seiat flynyddol i'r plant, Ionawr 1, 1878.

Bu farw John Wynne, Hydref 9, 1876, oddeutu 83 oed. Daeth yma o Dremadoc, gan ddilyn John Williams fel ysgolfeistr, a fu am fyrr dymor yn olynydd Mr. Lloyd. Yr ydoedd yma yn 1821, ac yr ydoedd yn un o ymddiriedolwyr y capel presennol. Bu'n ysgolfeistr llwyddiannus. Bu'n pregethu am ysbaid o amser. Meddai ar ddoniau poblogaidd. Yr ydoedd yn gryf o gorff, yn naturiol yn hyderus, a chyda rhwyddineb ymadrodd, ac iaith ddawnus, a llais cyrhaeddgar. Meddai ar feddwl craff a gwybodaeth amrywiol. Fe ddengys ei lyfr bychan ar sir a thref Caernarvon, a ddygwyd allan yn 1860, ei ysbryd ymchwilgar a'i ddyddordeb mewn pethau cyffredin. Ym mlynyddoedd toriad allan dirwest, yr oedd yn siaradwr ffraeth a dyddorol ar y pwnc. Yn ei hen ddyddiau, yr oedd golwg darawiadol arno, gyda'i gorff cryf, cymesur, ei wallt gwyn, ei edrychiad go graff. Yn 80 oed yr oedd yn heinif, yn llawn ysbryd ac asbri. Ymunai mewn ymddiddan gyda pharodrwydd, ac mewn dadl gydag awch, a byrlymai allan ymadroddion gogleisiol. Fel yr ae'r ddadl ymlaen, fe dorrai i mewn gyda rhuthr llais, ac ymorchestai mewn ymadroddion hedegog a gwatwarlym. Yn ei lyfr y mae wedi cyfyngu ei hun i'r syml a'r plaen. Yr oedd cylch ei ddyddordeb yn drefol, gwladol, crefyddol. Y mae Mr. Evan Jones yn cyfeirio ato, oddiar ei atgof am dano yn 1856-7, fel yma: "Un o'r rhai mwyaf anibynnol ei feddwl, a pharotaf i'w ddweyd lle y teimlai fod angen, oedd Mr. John Wynne, . . . un yr oedd gan bawb, gwreng a boneddig, yn y gwaelod, y parch dyfnaf iddo. Gwr ydoedd ar hyd ei oes. heb i lawer ei adnabod. Un nos Saboth, mi a'i gwelaf yn codi yn ei sedd ar ganol y llawr, yn urddasol yn ei ffunen wen, a phawb yn disgwyl wrtho. Ei destyn y noswaith honno oedd Diotrephes. Gwr yn camdroi ei ffyrdd oedd Deio,' a gormeswr creulon gyda hynny. Os byddai ar rywun eisieu pregethu tipyn, eisieu rhybuddio dynion rhag cyfeiliorni eu ffyrdd, safai Deio' yn union ar ei ffordd. . . . Ym mhob man, gyda phob peth, yr oedd 'Deio' ar y ffordd o hyd. Gwyddai pawb yn dda pwy oedd 'Deio. Ond. . . . yr oedd sicrwydd yn eu meddyliau nad oedd y fflangell yn effeithio dim ar groen crocodeilaidd' Deio.'"

Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol yn 1877, y gweinidog yn llywydd, yr hyn y parhaodd i fod dros dymor yr hanes hwn. Rhif y Gymdeithas yn 1880, 62; yn 1887, ar ol derbyn y chwiorydd iddi, 99. Yn 1894, anrhegodd y Gymdeithas y llywydd â'i lun, o waith Mr. Leonard Hughes, ac âg anerchiad o waith Mr. S. Maurice Jones.

Hydref 5, 1878, bu farw Evan Williams yn 62 oed, yn pregethu ers tua 30 mlynedd. Brodor o Ledrod gerllaw Aberystwyth. Bu'n gwasanaethu fel cenhadwr ymhlith Cymry Llundain am 4 blynedd. Dechreuodd bregethu yn y Wyddgrug. Daeth i Gaernarvon yn 1851. Yr ydoedd yn lluniedydd personau a golygfeydd. Tynnodd luniau Eben Fardd, Edward Morgan a Dafydd Jones yn llwyddiannus, er na pherthynai iddo ragoriaeth uchel yn y gelfyddyd. Ystyrrid gan rai y meddai ar ragoriaeth amlwg mewn tynnu llun dwfr mewn golygfa. Rhoes unwaith lun golygfa heb fod yn fawr mewn arddangosfa, a gofynnodd £100 am dano, a chafodd hwy. Fe ddywed R. O. Bethesda yn y Goleuad (1875, Hydref 19, t. 10) fod lluniau o'i eiddo yn arddangosfa Wrexham yn tynnu sylw, sef o Gastell Bu Cidwm, Llyn Cwellyn a'r Wyddfa o Nant Gwynant. ganddo 14 o ysgrifau yn y Traethodydd, 5 ar y gelfyddyd o arlunio, 1848-9. Dywed R. O. mai ar ei anogaeth ef yr ysgrifennodd y Dr. Lewis Edwards ar Gyfnewidwyr Hymnau. Fe ddywedid y byddai erthyglau o'i eiddo yn ymddangos weithiau yn rhai o'r papurau dyddiol Seisnig. Fe bregethai yn achlysurol yn y Saesneg, a dichon ei fod yn fwy o feistr ar arddull Saesneg na Chymraeg. Pregethodd yn Saesneg yn yr awyr agored yn y Maes ar un achlysur gyda gwir ddwyster teimlad, oddiar y geiriau, Oni edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. Siarad braidd yn gyflym y byddai, heb deimlad yn gyffredin. Mater llawn synnwyr, ond nid bob amser wedi ei nyddu yn glos, neu'n gelfyddgar, ac heb swyn mewn mater nac arddull. Bu'n cynnal cyfarfodydd darllen gyda'r dynion ieuainc ar hyd y blynyddoedd, ers 20 mlynedd o leiaf, a gwerthfawrogid ei lafur cariad ganddynt. Aeth amryw o'r rhai fu gydag ef yn ei ddosbarth yn bregethwyr ar ol hynny. Un cymhwyster iddo. yn y dosbarth hwnnw ydoedd ei gyfarwydd-der cymharol yng Ngroeg y Testament Newydd. Fe adroddir fod William Roberts Amlwch unwaith wedi taro arno yn darllen ei Desta- ment Groeg, a dechreu ei holi. Synnodd Evan Williams at y cwestiynau, gan ddiharffu braidd, er y dywedid fod ei wybod- aeth o'r iaith y pryd hwnnw yn fwy nag eiddo William Roberts. Ystyria Mr. Morris Roberts ef yr athro goreu y bu gydag ef, a thýb ei fod gydag ef pan gychwynnodd gynnal y dosbarth. Os felly, tebyg mai dyna'r dosbarth darllen canol wythnos cyntaf ym Moriah. Yr oedd tua deuddeg yn y dosbarth, sef, ymhlith eraill, John Richardson, William Davies y rhaffwr, Thomas Morris, cystal a Mr. Morris Roberts ei hun. Byddai rhyw bwnc penodol gerbron bob tro. Y Bod o Dduw y pwnc cyntaf i gyd; pwnc arall, Ysbrydoliaeth y Beibl, pru'n ai'r meddyliau ai y geiriau yn ysbrydoledig; cyfran o ryw bennod ar dro arall. Fymryn yn dynn ydoedd o ran ei ardymer naturiol, ac heb nemor humour, mae'n debyg, ac oherwydd y tyndra hwnnw heb fedru disgyn ar y geiriau cyfaddas bob amser, yn enwedig gyda dieithriaid. Yr oedd arlunydd unwaith yn tynnu llun muriau y dref yn y cei, ac fel y deuai Evan Williams ato i edrych ei waith, disgynnai ychydig ddiferion o wlaw. "I must put my picture up," ebe'r arlunydd. "Don't grudge and grumble because of the rain," ebe Evan Williams. Agorai yr arlunydd ei lygaid mewn syndod. "I don't grudge and grumble," ebe fe, er yn lled addfwyn, canys fe welai fod y gwr a'i cyfarchai o ddull boneddig a go urddasol. Ei fuchedd fu'n wastad a diar- gyhoedd, heb achos beio arno. Ar ymweliad â'r Parch. Thomas Hughes yn ei waeledd maith, gofynnodd Thomas Hughes, Prun ohonom gaiff fynd i'r nefoedd gyntaf, tybed?" "Nid yw fawr o wahaniaeth am hynny; cael mynd yno yw'r pwnc mawr," ebe yntau, heb feddwl nemor, fe ddichon, mai ef ei hun a elai gyntaf. (Adroddiad yr Eglwys.)

Bu Thomas Hughes farw, Mawrth 13, 1879, yn 71 oed, wedi bod yn pregethu am 47 mlynedd, ac yn preswylio yn y dref er 1843. Efe oedd yr hynaf yn y swydd o weinidog yng Nghyfarfod Misol Arfon, wedi ei ordeinio yn 1841. Eglwyswyr oedd y teulu ar y cychwyn, ac aeth nai iddo yn offeiriad yn eglwys Rufain. Fe dybir mai efe oedd y pregethwr cyntaf a aeth i athrofa'r Bala, ac yr oedd gradd o wresogrwydd yn nheimlad y Dr. Lewis Edwards tuag ato, oherwydd y cysylltiad boreuol hwnnw, ac yn ei dy ef y lletyai'r Dr. pan yn pregethu yn y dref. Ni wyddis a oedd arddull arafaidd a phwyllog y Dr. o lefaru wedi dylanwadu arno, ond os felly aeth tuhwnt i'w athro. Y mae'n sicr, pa ddelw bynnag, fod y dull hwnnw yn eithaf naturiol iddo ef. Eithr, er bod yn naturiol iddo ef, yr oedd yn feichus i'w wrandawyr. Fe gymerodd bum munud wrth y gloch, ar un adeg, i ddarllen ei destyn ddwywaith drosodd, sef dwy adnod o Lyfr Deuteronomium. Seinid pob sill yn bwysleisiol, gyda gwagle rhyngddi a'r sill nesaf, yn Deu-ter-on-om-ium. Bu'r dull hwn yn fwy neu lai nodweddiadol o'r Corff, ond y mae bellach wedi myned heibio, neu ar fyned. Nid oedd y meddyliau chwaith, fel eiddo'i athro, yn drymion. Mewn tôn hirllaes a thrymaidd y traddodai ei genadwri, a phregethai yn lled faith. Eglur, syml, diaddurn oedd y mater. Fe ddywedodd y Dr. Owen Thomas, mewn sylwadau coffadwriaethol arno yn y Gymdeithasfa, gan ddyfynnu ymadrodd Joseph Thomas, y byddai'n cymeryd gafael yn asgwrn cefn ei destyn. Eithr ni feddai yn hollol mo'r treiddgarwch meddwl a awgrymir yn y dywediad yma. Fe grynhoai ynghyd bob amser faterion perthynasol i'w destyn, ac wrth fod ei amcan yn syml ni wyrai oddiwrth hynny; a diau y disgynnai weithiau ar wythien ddedwydd. Ond ni feddai y gafael meddwl a gydiai ym mhrif egwyddor y testyn, gan wneud popeth yn y bregeth yn gwbl ddarostyngedig i'r eglurhad ar ystyr yr egwyddor honno. Eithr yr oedd y presenoldeb corfforol braidd yn urddasol. Yr oedd yn wr oddeutu chwe troedfedd o uchder, ond yr ysgwyddau yn llithro i lawr ac yn gulion; y pen heb hyd na lled ond yn uchel; y talcen yn uchel iawn ond yn gul; y trwyn yn lled fawr ac yn codi ar y canol; y wyneb gyda gwrid arno. Fe safai yn syth, ac fe gerddai ar yr heol ar bob pryd yn araf, araf, ond gydag urddas tawel, diymhongar, difrif. Wrth i'r Dr. Edwards ddod i'w wyddfod unwaith, fe gyfarchai y Dr. fel—y Dr! "Yr ydych chwi yn debycach i Ddr. na mi," ebe'r Dr. yn ol, ac, yn wir, nid ymddanghosai hynny yn ddywediad diystyr i'r edrychydd, fel y safai'r ddau wyneb yn wyneb â'i gilydd. Eithr ni feddai ef ar ddirgelwch presenoldeb y Dr. chwaith. Ac fel ei ymddanghosiad, a'i arddull o draddodi a meddwl, felly yr oedd cymeriad y dyn: syml, unplyg, culfarn braidd, gwastad ei rodiad, egwyddorol, pwyllog; nid heb urddas tawel yn y pulpud, ar yr heol, yn ei dŷ; heb droadau cylchynol, heb gonglau igam-ogam, heb gyrlio'n gywreinddoeth, elai ymlaen yn unionsyth, yn arafdrwm, yn gymesur ei gamau. Nis gallesid dweyd, "Fel gloew seren yn y ffurfafen," fel y mae yng nghyfieithiad y Dr. Lewis Edwards; ond gallesid dweyd, fel y mae yng ngwreiddiol Goethe, "Fel y seren yn y ffurfafen," ac yna gallesid myned ymlaen,— {{center block|

Heb brysuro, ac heb orffwyso,
Nes cyflawn orffen y gwaith rowd iddo.

|} Yr oedd yn ddealledig rhwng Evan Williams ac yntau, fod y naill i gymeryd dosbarth y dynion ieuainc, a'r llall y cynhebryngau, ac nis gallasai fod rhaniad mwy cymesur. Yr oedd yr arafwch difrif yn gweddu i dy galar. Ac heb dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth ei hun, heblaw y tâl arferol am ei Sul unwaith y flwyddyn, fe ofalai ef am roi ei swllt yn gyson lle byddai offrwm yn y tŷ. Fe ymwelodd lawer, hefyd, â chleifion. Yr oedd yn wr caredig, serchog ar ddull tawel, lletygar, a chafwyd enghreifftiau o haelioni arbennig ynddo rai gweithiau. Fe ddywedir iddo gyfranogi yn helaeth o dân diwygiad 1859, a than y cyffroad hwnnw fe fyddai ar brydiau yn nerthol yn ei gyflawniadau cyhoeddus, a bu felly yn achlysurol ar hyd ei oes, canys fe dynnai ei adnoddau dirgelaidd o ffynonnau iachawdwriaeth. Analluogwyd ef ar gyfer gwaith cyhoeddus dros y pedair blynedd diweddaf o'i oes. Rywbryd o flaen y cyfnod hwnnw fe ddarllenai yn barhaus Spurgeon ar y Salmau gyda blas mawr, a'r pryd hynny fe ddarllenai Salm ferr yn gyhoeddus, yn arafaidd iawn, ond gyda dylanwad trydanol, cofiadwy. Y pnawn Sul olaf iddo ar y ddaear, cododd ei law, gwenodd, a thorrodd i ganu oreu a allai,-Amser cannu, diwrnod nithio, Eto'n dawel heb ddim braw. (Drysorfa, 1881, t. 273 ac ymlaen.) Yn 1878 talwyd am railings o flaen y capel, paentio, cyfnewidiadau yn y vestry, £367 1s. 11g. Yn 1879 prynwyd hen dai yn Glan y môr am £300 gydag amcan i adeiladu ysgol yno. Mehefin 4, 1907, cauwyd y tai. Rhowd, hefyd, y colofnau sydd o flaen y capel yn 1879, a rhowd i lawr beipiau i'w dwymno. Bu'r treuliau yn y ffordd o atgyweirio'r capel yn ystod 1876-90 yn £1,400 o gwbl. Nid oedd dyled yn 1890 ar y capel ei hunan. Yn 1891 penderfynwyd cael ysgoldy yng nghefn y capel ac organ. Tra'n adeiladu, buwyd yn cynnal gwasanaeth yn y Victoria Hall. Dychwelwyd i'r capel, Chwefror 29, 1892, pryd y cafwyd gwasanaeth yr organ am y tro cyntaf yn y seiat, a drowyd ar y pryd yn gyfarfod gweddi. Agorwyd y capel y Sul cyntaf o Fawrth, pryd y gwasanaethodd W. Jones Treforris, ac yn y pnawn Dr. Herber Evans. Yr oedd traul y gwaith i gyd yn £4,460, yr organ yn unig yn £1,217. Rhowd chwanegiadau ati ar ol hynny a wnelai'r draul i gyd yn £1,400. Wrth godi'r ysgoldy dilewyd yr hen dai o dani, a rhowd warehouses yn eu lle. Cyfrannwyd at y draul, £1,625; ac yr oedd elw bazaar 1895 yn £1,201. Y ddyled yn 1900 ar yr holl adeiladau, £1,942. 175. 2g.

Yn nosbarth darllen y chwiorydd, gyda'r gweinidog yn athro, fe benderfynwyd gwneud cais at y Feibl Gymdeithas am argraffiad o Feibl bychan gyda chyfeiriadau. Erbyn 1881 fe gyhoeddwyd gan y Gymdeithas y Beibl Cymraeg, diamond 24 mo., gyda chyfeiriadau, yn ateb uniongyrchol i'r cais. Yr oedd traul yr argraffiad i'r Feibl Gymdeithas yn £1,200.

Daeth William Evans yma o Frynrodyn, wedi dechre pregethu yno yn 1879. Gwnaeth waith fel cenhadwr trefol yma, er heb ei gydnabod fel y cyfryw; ac ystyrrir ddarfod iddo wneud y gwaith hwnnw mewn modd cymeradwy a bendithiol. Symudodd oddiyma i Millom, lle bu farw, 1892.

Tachwedd 29 hyd Ragfyr 2, 1883, bu'r Misses Rosina Davies a Phillips yma yn cynnal cyfarfodydd efengylaidd, y tro cyntaf i ferched fod yn cyfarch yma yn y ffordd o bregethu. Cywreinrwydd mawr, ac effeithiau dwys. Tybir na bu'r capel erioed mor llawn. Yn 1876 dechreuwyd argraffu'r adroddiad eglwysig. Bu bwlch yn eu cyhoeddi yn ystod 1880-2. Awst 21, 1883, dewiswyd yn flaenoriaid, R. Norman Davies a Robert Humphreys. Awst 20, 1889, dewiswyd William Davies. Mai 3, 1892, John Griffiths, David Pierce a Thomas Thomas. Symudodd Thomas Thomas ym mhen amser i Castle Square. Medi 27, 1899, dewiswyd Thomas Hughes a S. Maurice Jones. Bu farw (Dr.) Morris Davies Rhagfyr 30, 1888, yn 70 oed, ac wedi dechre pregethu ers 50 mlynedd. Yr ydoedd yma ers 38 mlynedd. Ni bu yn pregethu ers amser maith cyn y diwedd. Fel y cynyddai galwadau ei alwedigaeth arno, fe ddodai'r pregethu o'r neilltu. Cyn rhoi pregethu yn gyfangwbl o'r neilltu, fe fu am flynyddoedd yn myned yn achlysurol at yr hwyr, neu bnawn a hwyr, i leoedd cyfagos i'r dref, pan fyddai y lleoedd hynny wedi eu siomi am bregethwr. Tebygir ei fod yn y blynyddoedd hynny yn fwy derbyniol fel darllenydd yr ysgrythyr nag fel pregethwr. Dyn dipyn bach is ei law na'r cyffredin o ran taldra corff, a gweddol lyfndew, gyda phrydwedd cymesur, a gwên. Fel y boneddig ieuanc yn y Bardd Cwsc, gallai y Dr. fod yn llaes ei foes, ac yn deg ei wên, nid "i bawb a'i cyrfyddei," fel y boneddig ieuanc, ond i bawb y teimlai efe hynny'n angenrheidiol a buddiol. Fel dynion eraill o daldra cymharol fychan, yr oedd y Dr. yn hoff o het silc dalach na'r cyffredin, a gwisgai honno am yn hir o amser, ac wrth ei fod yn wr o arferion glanwedd, fe allesid gweled yr het yn disgleinio yn yr heulwen oherwydd ei mynych olchi. Yr ydoedd yn siaradwr rhydd a rhwydd yn y Saesneg a'r Gymraeg, er mai anfynych y clywid ef oddigerth yn y capel. Gallai eneinio ei ymadroddion mewn olew pan fyddai galw, er na wnae efe mo hynny i ryngu bodd pob rhyw ddyn. Ar adegau go neilltuol, megys pan siaradai yn y seiat undebol, fe fyddai ei lais yn ymddyrchafu yn raddol i'r nenfwd, a byddai'n taflu math ar orchwyledd dros ei ymadroddion ei hun. Llefarai yn y dull hwnnw unwaith wrth eilio diolchgarwch i Granogwen am ei darlith, gan gymeryd y cyfleustra i adrodd hanesyn oddiwrth ryw bwnc yn y ddarlith. Wrth gydnabod y diolchgarwch, fe soniai y ddarlithwraig, mewn cyfeiriad amlwg at eilydd y diolchgarwch, am " gymeryd deng munud o amser cyfarfod i adrodd stori fach." Ymdaenai gwawr goch ysgafn dros wyneb y Dr. Yr ydoedd wedi cymeryd nifer o shares yn y North and South Wales Bank ar y cychwyn. Lliosogodd y rheiny eu gwerth amryw weithiau drosodd, a dododd hynny i lawr sylfaen cyfoeth go fawr. Eithr nid ymhelaethai y Dr. mewn haelioni gyda chynnydd ei gyfoeth, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, oddigerth ar ryw dro neu ddau, megys pan y rhoes ddeugain gini ynglyn âg atgyweiriad y capel yn 1867. Y mae gan Mr. Evan Jones syniad uchel am ei ddoniau naturiol a'i grefyddolder, ac fel hyn. y dywed: "Unwaith erioed y clywais Dr. Davies yn pregethu, pan oeddwn yma yn 1856, ryw nos Saboth yn Siloh bach. Yr oedd ei lond o ddawn pregethu ped ymroddasai i hynny. Ond nid hawdd yw i'r mwyaf amryddawn wasanaethu dau arglwydd. Nis gellid cymodi y meddyg a'r pregethwr, a'r meddyg a orfu. Deuai yn gyson i'r cyfarfod eglwysig, a meddai brofiad uchel o wirioneddau'r Efengyl." Dyma sylw W. P. Williams: "Wedi myned yn llwyddiannus drwy'r arholiadau, ymsefydlodd yng Nghaernarvon. Yr oedd y pryd hynny yn ddyn cymharol ieuanc ac addawol, a disgwylid cryn lawer oddiwrtho. Pregeth- odd amryw weithiau gyda chryn lawer o gymeradwyaeth, a dilynai'r cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi yn gyson iawn; ond fel y cynyddai'r alwad arno fel meddyg, yr oedd yntau'n methu dilyn y cyfarfodydd, ac fe aeth y Dr., yr ydym yn ofni, i raddau gormodol dan ddylanwad ysbryd y byd." Yn y seiat olaf iddo, adroddodd y sylw am ddynion yn gallu byw ar log eu harian, heb i'r cyfanswm fyned yn ddim llai, ond ymherthynas âg amser, yr ydys yn treulio'r cyfanswm o hyd, a chyn hir byddis wedi treulio'r cwbl. Mewn cyfarfod misol ym. Moriah unwaith, wrth gyfeirio at y "bobl fawr" oedd wedi bod yno, fe ddaeth Mr. Evan Jones ar draws enw'r Dr., a chrynhodd ei gymeriad yn yr ymadrodd, "Yr oedd yn grefyddol tuhwnt, ac yn medru cadw ei arian cystal a dim biwrô."

Bu Robert Griffith farw Rhagfyr 18, 1889, yn 83 oed, ac yn flaenor ers 27 mlynedd. Yr ydoedd ef yn fab i'r hynod Sian Ellis Clynnog. Yn ddyn o ymddiried. Gallai ddweyd gair yn ei bryd. Cadwai gyfrifon manwl fel trysorydd casgl y weinidogaeth. Gwnaeth lawer gyda phethau amgylchiadol yr achos. Tystiai y gwyddai i bwy yr oedd wedi ymddiried.

Bu Lewis Lewis farw, Gorffennaf 1, 1889, yn 69 oed, wedi ei ddewis yn flaenor yn 1860. Nodwedd y masnachwr oedd amlycaf ynddo ef. Yr oedd yn ddiwyd, gofalus, ymroddgar gyda'i orchwyl, ond, fe ddichon, heb estyn ei sylw a'i ofal i holl gysylltiadau ei fasnach. Bu am dymor go faith yn un o'r tri neu bedwar prif fasnachwyr yn y dref. Aeth ei sylw yn o lwyr ar y myned a'r dod yn ei fasnach brysur, a methu ganddo gael y seibiant gofynnol i hunan-ddiwylliant. Bu'n faer y dref dair gwaith, a gelwid arno i ddyledswyddau cyhoeddus, yr hyn nad oedd yn gynefin iddo, er bod yn flaenor. Gydag amser, fe ymgyfaddasai fwyfwy i'w orchwylion, a deuai'r iaith fân, doredig, yn llyfnach a llawnach. Yn goffadwriaeth am ei swydd fel maer, fe roes £500 tuag at Lyfrgell y dref. Fe deimlai wir ddyddordeb yn holl helynt y capel, ac yr oedd yn wr dymunol. ym mhob cylch, ac yn un ag y buasai'n anhawdd ewyllysio dim drwg iddo. Arno ef, yn bennaf, y bu'r gofal am y tlodion, a bu'n ddiwyd gyda hynny. Bu'n arolygwr effeithiol yn yr ysgol, a dygodd i mewn liaws o fân-gynlluniau. Efe a W. P. Williams ydoedd y ddau arolygwr mwyaf llwyddiannus a welodd Mr. Morris Roberts.

Bu Richard Griffith farw Medi 28, 1890, yn 77 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1860. Yr ydoedd yntau ar un tymor yn un o brif fasnachwyr y dref. Gwr â golwg grâff ganddo, a rhywbeth yn null ei gerddediad yn arwyddo ystwythter corfforol, a chryn benderfyniad. Pan siaradai yn gyhoeddus, mater amgylchiadol fyddai ganddo, a dywedai ei feddwl yn rhwydd a threfnus, gan ddisgyn yn ddiymdroi ar y pethau perthynasol. Dyma sylw Mr. Morris Roberts arno: "Gwr masnach, wedi ei yrru i'r sêt fawr braidd yn erbyn ei ewyllys. Cof gennyf am seiat heb neb ond Richard Griffith yn y sêt fawr. Wedi i rywun ddechre, dywedodd yntau fod rhywbeth go anghyffredin wedi digwydd y tro hwnnw. Fel rheol,' meddai, bydd y sêt yma yn o lawn, a'r rheiny yn gyffredin yn o barod i siarad; ond heno ddim ond un, a hwnnw heb awydd i siarad. Y rhan amlaf, bydd yma fwy o siarad o'r sêt fawr nag o'r llawr; ond fieno fel arall y bydd hi. Mi rof, gan hynny, gyfle i chwi i siarad; ac os na siaradwch ohonoch eich hunain, mi fyddaf yn rhwym o alw arnoch.' Ar hynny, dyma frawd na byddai'n arfer dweyd llawer yn codi, yna chwaer, a rhywun neu gilydd ymlaen i'r diwedd. Dywedodd yntau ei hun air yn fyrr, a galwodd ar rywun i derfynu. Wrth fyned allan, dywedai Mr. O'Brien Owen wrthyf, ' Dyma'r seiat ryfeddaf fu'm i ynddi hi erioed. 'Roedd ynof ryw awydd i ddweyd rhywbeth o hyd, ond yn methu hefyd.' Yr oedd yr hen chwiorydd, wrth fyned allan, yn canmol y seiat fel un anarferol o dda." Elai Richard Griffith yn ystod ei flynyddoedd olaf i gynorthwyo yn ysgol Glanymor.

Yn 1892, R. H. Richards yn dechre pregethu, wedi hynny yn athro yn y Bala. Medi 23, 1892, J. W. Jones yn dechre, wedi hynny yn fugail yn Nant Llithfaen. Symudodd Mr. Owen Jones (Glanbeuno) yma o'r Felinheli, ac erys yn aelod yma o hyd. Ionawr 2, 1894, Mr. T. Gwynedd Roberts yn symud yma o Rostryfan. Tachwedd 13, 1895, Mr. Roberts yn symud i Gonwy fel bugail. Yn 1896, daeth Mr. D. E. Davies yma o Bwllheli.

Mawrth 13, 1892, bu farw Robert Humphreys, yn 42 oed, yn flaenor ers naw mlynedd. Efe oedd ysgrifennydd yr eglwys, a bu'n ymroddedig iawn ynglyn â chodi'r ysgoldy a chael yr organ. Efe a ddygai allan yr adroddiad eglwysig o 1883 ymlaen. Dyma sylw Mr. Evan Jones arno: "Dyn ardderchog oedd Mr. Humphreys. Nid oedd dim amheuaeth am ei grefydd. Yr oedd ei swydd [swyddog y cyllid] yn ei ddyrchafu goruwch pob amheuaeth am ei allu a'i gywirdeb fel cyfrifydd. Nid oedd dim yn ei dymer yn afrywiog fel ag i gythruddo neb, tra'r oedd ei ymroddiad i'w waith, pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, yn wystl am ei gyflawniad. Y perygl oedd iddo fod yn rhy ymroddedig. Cae fythefnos neu ragor o seibiant bob blwyddyn. Ond yn lle eu cymeryd, fel y dylasai, i fwynhau ei hun, ac i ofalu am ei iechyd, treuliai hwynt yn rhy fynych i ddwyn allan yr adroddiad." Mae'n ddiau y teimlid y golled a'r chwithdod ar ei ol yn fawr.

Bu Cornelius Davies farw Ionawr 10, 1895, yn 84 oed. Daeth i Gaernarvon o Fostyn, lle'r ydoedd yn flaenor er 1851, ar yr 28 o Fedi, 1860, a bu'n flaenor yma am 26 blynedd. Yr oedd ei holl ddull yn arwyddo ei fod yn wr cynefin â manylder yn ei orchwylion. Cerddai â chamau byrion, lled brysur, bob pryd yn yr un dull; a gwisgai yr un modd yn ofalus bob amser, yn dwtnais, ond nid mewn dull i dynnu sylw ato'i hun; a llefarai yn fyrr, ar y pwnc, gan dorri ei eiriau yn gwta. Trefnus, gofalus, deheuig yn ei orchwyl. Ni allai oddef diogi a syrthni: cymhellai'r ymarfer à rhyw orchwyl, rhag bod yn "blank in creation," chwedl yntau. Argraff dyn yn hytrach yn drwmfrydig oedd ar ei brydwedd tywyll: dim gwamalrwydd, dim gogan eiriau! Yr oedd yr un pryd yn hoff o blant, a bu'n arwain gryn lawer yn eu cyfarfodydd, a dywedir y byddai'n hael mewn gwobrau, er eu cymell i ymroi i wahanol wersi. Adeiladodd ei dy, nid yn unig o ran cynysgaeth fydol, ond mewn llafurwaith ysbrydol, a gwelir ei blant yn dilyn yn ol ei droed. Nid oes un gair a ddefnyddir yn amlach ynglyn âg ef na'r gair boneddwr: yr oedd yr argraff oddiwrth ei bersonoliaeth felly, yn enwedig wedi myned ohono ymlaen mewn dyddiau, pan y daeth penwyni yn goron anrhydedd iddo; ac yr oedd ei ymddygiadau yn cyfateb. Ceid ganddo ar dro ambell air yn dangos craffter sylw. Pan y gwneid coffa unwaith am frawd ymadawedig, ac y sylwid ei fod wedi marw yn orfoleddus, gan ei fod yn gorffwys ar y drydedd salm arhugain, fel chwanegodd yntau fod yn hawdd ganddo gredu i'r brawd hwnnw farw gan orffwys ar y drydedd salm arhugain, oblegid ei fod wedi arfer byw yn ol y bymthegfed salm. Mab iddo ef ydyw Mr. R. Norman Davies.

Ar ddiwedd yr oedfa gyntaf yng Nghyfarfod Misol Moriah, Ionawr 13, 1896, cyflwynwyd tysteb i'r Henadur W. P. Williams, ar derfyn gwasanaeth o dros hanner can mlynedd fel blaenor yr eglwys. Yr oedd y dysteb yn £77 ynghydag anerchiad. Rhagfyr 4, 1899, ar derfyn 50 mlynedd o wasanaeth fel blaenor, cyflwynwyd anerchiad a dysgl arian i Henry Jonathan.

Tebyg y gellir dweyd y bu gradd o arbenigrwydd ar yr eglwys hon ymhlith holl eglwysi y Cyfarfod Misol, ac hyd yn oed Ogledd Cymru i gyd. Yr oedd cynnydd cyflym yr achos yn ei flynyddoedd boreuol yn beth heb ond ychydig enghreifftiau i'w cystadlu âg ef. Pan agorwyd y capel presennol yn 1826, fe ddywedir nad oedd gan yr ymneilltuwyr Cymreig ddim cyffelyb o ran maint yn unlle. Yr oedd eofndra'r eglwys yn ymgymeryd â'r fath anturiaeth yn gwneud argraff aruthrol braidd ar y pryd. Yr oedd Henry Rees, ar yr ailagoriad yn 1867, yn adrodd am John Elias yn rhyw sasiwn, yn cyfeirio at yr agoriad cyntaf, a chan "estyn ei fraich hir allan," yn rhoi mynegiad mewn geiriau hirllaes, pwysleisiol, i'w synedigaeth ei hun uwchben maintioli'r adeilad. Ar y pryd, mae'n ddiau fod y peth yn fath o arwydd i elyn a chyfaill, canys cof gan liaws am erlid brwnt ar ymneilltuwyr, ac yr oedd nid ychydig o'r erlidwyr eu hunain yn fyw. Rhoid urddas ar yr eglwys gan bresenoldeb Evan Richardson, ac, ar ol hynny, Dafydd Jones, y blaenaf wedi bod yma am 37, a'r diweddaf am 27 mlynedd, y ddau yma dros awr anterth. Yma, hefyd, y cyrhaeddodd y gweinidog oedd yma yn niwedd cyfnod yr hanes presennol ei awr anterth yntau. O ran rhif, hefyd, yr eglwys hon oedd y fwyaf yng Ngogledd Cymru ar rai adegau o leiaf. Ni chyrhaeddodd mo'r blaenoriaid yma at ei gilydd enwogrwydd cyfartal i'r pregethwyr. Yr oedd Dafydd Jones y cwper, er hynny, am gyfnod maith, yn deilwng a chyflawn wr yn ei swydd; ac yna, ar ei ol ef, fe gynrychiolwyd y swydd yn fwyaf amlwg gan ddau wr yr ymestynnodd eu gyrfa faith ryw gymaint dros gyfnod yr hanes yma, sef W. P. Williams a Henry Jonathan.

Heblaw'r pregethwyr fu'n aros yma, y mae'n sicr fod gan y pregethwyr teithiol lawer i'w wneud â chodi ac adeiladu'r eglwys. Tra'r oedd hynny'n wir am yr eglwysi yn gyffredinol, gan yr ymwelai'r pregethwyr yn eu tro â phob lle, eto, oblegid maint yr eglwys hon, hi gawsai ymweliadau oddiwrth y rhai hynotaf o'r pregethwyr yn amlach na nemor eglwys arall. Ac yr oedd rhyw nifer o bregethwyr yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a hanner blaenaf y ganrif ddiweddaf, yn meddu'r fath swyn i'r werin, a'r fath awdurdod a nerth yn eu pregethu, fel yr oedd ymweliadau mynych oddiwrthynt yn elfen bwysig iawn. yn llwyddiant unrhyw eglwys. Fe freintiwyd yr eglwys hon yn arbennig yn y ffordd honno. Y flwyddyn y cychwynnwyd. eglwys yng Nghaernarvon y dechreuodd Robert Roberts Clynnog bregethu, a phru'n bynnag a fu efe yma'n amlach nag mewn lleoedd eraill ai peidio, eto yr oedd yn cael mantais yma, ym mhoblogaeth y dref, uwchlaw lleoedd eraill yn gyffredin. Yr oedd ei bregethu angerddol ef, ac ymateb angerddol y bobl, y peth mwyaf cyfaddas i gyffroi sylw y dref. Craffer i'r amcan hwn ar yr hyn a ddywed Bingley am yr hyn a welodd yng nghapel y Methodistiaid yng Nghaernarvon ar ei ymweliadau â'r dref yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a'r flwyddyn gyntaf o'r ganrif ddiweddaf, sef fod ymdrechfeydd a dychlamiadau y bobl. y fath, fel mai prin y gallai eu cyrff eu cynnal wrth adael y lle. Cerdd sylwadau Hutton, teithydd arall, i'r un cyfeiriad, ymherthynas â'r un cyfnod. Yng nghyflwr meddyliol y nifer mawr y pryd hwnnw, yr oedd y cyfryw effeithiau y mwyaf cyfaddas i atynnu'r bobl. Pregethwyr o ddylanwad anrhaethol yn eu hamser goreu oedd John Jones Edeyrn a Michael Roberts, a gwelwyd yr ymwelent â'r dref yn lled fynych. Deuai John Elias, fel y gwelwyd, yn fynychach eto, ac yr oedd iddo ddylanwad cyffroadol mawr yn rhan gyntaf ei oes, ac awdurdod ar bob dosbarth yn y wlad yn y rhan olaf. Dywedir mai ym Moriah y traddododd ei bregeth olaf. Yr oedd Thomas Hobley yn gwrando arno yma yn 14 oed, sef blwyddyn olaf John Elias, a'i oedfa olaf, debygir. Arferai ef adrodd am dano yn cerdded yn arafaidd i fyny risiau'r pulpud, ac yna yn wynebu'r gynulleidfa lawn, ac yn edrych megys ym myw ei llygaid, i fyny ac i lawr, ar y naill ochr a'r llall, a chyda'r fath drem dreiddgar, awdurdodol, fel y teimlid fod y gynulleidfa i gyd yn ei law cyn dywedyd ohono un gair. Yr oedd yr argraff ar y bachgen y fath, fel y difrifolai wrth gyfeirio at y peth ymhen deugain mlynedd, a dywedai mai John Elias oedd "y pregethwr—y pregethwr—mwyaf a welodd Cymru." Ar ryw nos Fawrth yr oedd Robyn Ddu yn hogyn yn gwrando ar John Elias ym Moriah, ar, Gadawed y drygionus ei ffordd. Nos Iau wedi hynny, danfonwyd ef gan R. M. Preece, ei feistr, sef tad Syr William Preece, i hysbysu y Wesleyaid yng nghapel Llandwrog nad allai efe ddod yno i bregethu y noswaith honno. Cymhellwyd Robyn Ddu a'r rhai ddaeth gydag ef i gymeryd rhyw ran yn y cyfarfod. "Cyfodais innau, yn yr eisteddle dan yr areithfa, ac fel yr wyf byw, dyna bregeth Mr. John Elias yn dyfod allan yn ei grym; yr oeddwn yn chwysu wrth fy modd, a'r bobl yn gweiddi o lawenydd, wrth glywed yr hogyn yn ei bloeddio, 'Efe a arbed—efe a arbed yn helaeth—efe a amlha arbed—efe wedi arbed a arbed drachefn,' ac ymlaen. Dydd Sadwrn a ddaeth, ac ymwelodd rhai o'r bobl à Mr. Preece i ganmol y bregeth . . . ." (Teithiau Robyn Ddu, t. 17.) Diau fod dylanwad mynych ymweliadau y fath bregethwr yn fawr ar feddyliau y bobl, y bechgyn go ieuainc a phawb. Hanner can mlynedd yn ol, a llai na hynny, fe glywid ei enw yn cael ei seinio gan ei hen wrandawyr yng Nghaernarvon gyda thrydan yn nhôn y llais,—"Mi fyddai Elias . . . ." "John Jones Talsarn a fu'n dod i Foriah yn fynych ar Suliau a nosweithiau'r wythnos ar hyd y blynyddoedd, deirgwaith neu bedair ar y Suliau, a bu ar un adeg yn dod yn o fynych ar nosweithiau eraill. Byddai'r capel yn llawn gydag ef bob tro. Fel yr ae un teulu i mewn drwy ddrws y tŷ ar noson waith wedi bod yn gwrando arno, yr oedd cloch y dref yn taro un arddeg, wedi bod ohono yn pregethu, debygir, y tro hwnnw, am dair awr neu ragor. Elai ambell i fachgen â'i fara a chaws gydag ef i'w fwyta'n lladradaidd rywbryd yng nghanol y bregeth. Yr oedd George Williams, y blaenor o Siloh wedi hynny, yn gwrando arno ar noson waith un tro yn fachgen ieuanc, fel yr arferai ddweyd, ac yn dweyd wrtho'i hun ar y pryd, y byddai'n hollol foddlon yn y nefoedd ei hun ar y fath ddedwyddwch a hwnnw. Dyma atgof Mr. Evan Jones am dano: "Yma, nos Saboth, Mawrth 22, 1857, y gwrandewais y Parch. John Jones Talysarn yn pregethu ei bregeth olaf. . . . Testyn Mr. John Jones oedd I loan iii. 2: Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn; eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo; oblegid ni a gawn ei weled ef megys ag y mae. Nid wyf yn cofio dim o'r bregeth. Yr oedd yno gynulleidfa fawr, ac yntau yn cael un o'i odfeuon rhagorol, a phawb wrth eu bodd. Ar ol yr oedfa, gweinyddid yr ordinhad o Swper yr Arglwydd ganddo. Nid wyf yn cofio dim neilltuol am hynny chwaith, heblaw fy syndod at y dorf fawr o aelodau a lanwent lawr y capel yn llawn, ac yn neilltuol gwaith Mr. Jones yn rhoi allan i ganu y pennill canlynol:—

Mi gana'm waed yr Oen,
Er maint yw mhoen a'm mhla;
'Does genny'n ngwyneb calon ddig
Ond Iesu'r meddyg da;
Fy mlino ges gan hon,
A'i throion chwerwon chwith;
Fy unig sail i am y wlad
Yw'r cariad bery byth.

Yr wyf yn ei weled yn awr, gyda'i gorff hardd a thywysogaidd, yn estyn y gwpan o law i law, ac yn canu â'i holl galon, gan ddyblu a threblu y llinellau, Fy mlino ges gan hon, etc., nes yr oedd yr holl le yn llawn o ddagrau dwys a gorfoleddus, ac yntau ei hunan yn ymollwng i fwynhau." Fe fu'n foddion i eangu syniadau lliaws, ac i roddi i liaws y syniad mwyaf dyrchafedig oedd ganddynt am hyawdledd sanctaidd.

Ni wyddys pa bryd y cychwynnwyd gyda'r Ysgol Sul. Diau. iddi gychwyn yma yn 1794, neu'n union ar ol hynny, sef yn union ar ol ei chychwyn yn y Capel Uchaf. (Edrycher y Capel Uchaf a Llanllyfni). Y mae llyfr yr ysgol am 1813 ac ymlaen ar gael. Yn ol W. P. Williams, Richard Owen, tad Robert Baugh Owen, oedd yr ysgrifennydd, a thŷb ei fod yn y swydd ers blynyddoedd. Dywed fod Richard Owen yn wr o urddas a dylanwad yn y dref. Dodir enwau'r ysgolheigion i lawr, gyda'u rhif, y merched yn flaenaf, ac yna y meibion. Ar ol yr enw, rhoir yr oed, yna enw y tad neu'r fam, yna'r preswylfod, yna'r graddau. Cyrraedd y graddau o un i chwech. Awd ymlaen gyda'r cynllun am flynyddoedd, ond ni wahaniaethwyd rhwng y naill flwyddyn a'r llall. Y mae ysgolheigion newydd yn cael eu hychwanegu, ond ni ddangosir pan fu farw neu y symudodd neu'r esgeulusodd neb. Y mae'r holl enwau a rowd i lawr yn 944, sef 495 o feibion a 449 o ferched. Y mae 51 o athrawon dros ben hyn, tair o'r nifer yn ferched. Yr ieuengaf o'r ysgolheigion yw William Williams, 3 oed, bachgen Owen Williams Penrallt uchaf. Yr hynaf ydyw Lettice Thomas, 63, Pentrenewydd, gradd 6. Ymddengys rhif tebyg i 73 gyferbyn â Jane Williams, Hole in the Wall. Tebyg mai marc yr inc sydd yma oddiwrth y ddalen gyferbyn, gan y rhoir John Williams fel rhiant, a nodir 2 fel ei gradd, ac ymddengys yr enw ynghanol rhai ieuainc eraill, ac nid yw'r rhif 7 yn debyg iawn i'r un rhif mewn mannau eraill. Rhif yr ysgolheigion sydd wedi cyrraedd dros 20 oed, 55. Ni roir oedran yr athrawon. Gwnawd defnydd pellach o'r llyfr hwn yn 1836. Rhoir i lawr enw'r athro, a nodir mewn gwahanol golofnau prun ai'r Beibl ynte'r Testament a ddefnyddid, a'r "graddau" a'r "egwyddori," ac y mae colofn i nodiadau. Rhoi'r i lawr gerbron yma bob dosbarth y mae nodiad ar ei gyfer. H. Robt., Bible, 5, Da, dim, 2 Blentyn. R. Rob., Bibl, 4, Da, Hyfforddwr, 1 Plentyn. W. Jones, Test., 1, Llesg, Hyfforddwr, 1 Plentyn. [?] Hughes, Test., 3, llesg, R Mam, I Dyn 2 blentyn. S. Hobley, Bible, 3, G. dda, Hyfforddwr, Ei blant ei hun. R. Williams, Bible, 4, da, Hyfforddwr, Oll yn debyg. John Williams, Test., 4, llesg, dim, anwastad. Dd. Jones, Bibl, 4. Canolig, Hyfforddwr, I Egwan. W. Davies, Bibl, 4, Canolig, [dim enw], Cymysg. W. Owen, Test., 7, Canolig, Hyfforddwr, Gwastad. Craffer ar y rhestr yna, ac fe welir fod yna safoni gofalus yn 1836, ac, fe ddichon, mor ofalus yn 1813, sef yn gynarach nag y tybir weithiau, fel y digwydd, hefyd, gyda rhai dyfeisiau eraill. Yr oedd Robyn Ddu yn 9 oed yn 1813. Y mae dau Robert Parry ar y rhestr, ond nid yw ef yma. Efe a ddywed yn ei Deithiau (t. 15) fod ei fam yn aelod ffyddlon gyda'r Trefn— yddion Calfinaidd, ac mai i'w capel hwy y danfonid ef i'r ysgol Sul, ac i wrando pregethau, ac y dysgodd yno ugeiniau o benodau, salmau a hymnau, ynghydag Holwyddoreg y Parch. Thomas Charles o'r Bala, a darfod iddo eu hadrodd ar gyhoedd yn yr ysgol. Eithr fe ddywed, hefyd, y mynych deithiai i gapel yr Anibynwyr, Pendref, i'r ysgol, ac yna, wedi myned yn brentis crydd at William Parry, aeth gyda'i feistr i ysgol y Wesleyaid. Fe ddywed na tharawyd mono erioed gan athro na meistr, na chan ei dad onid unwaith.

Rhydd Mr. Morris Roberts ei atgofion am yr ysgol. Dosbarth o ddynion ieuainc oedd gan Richard Davies. Gofalwr am y capel oedd William Roberts, a chanddo ddosbarth A B C. Yr oedd ganddo strap lledr at wastrodedd y plantos. Gwr deheuig oedd ef, gan y rhoe bedair canwyll y pulpud allan yn unig gan gau ei fys a'i fawd. Athro llafurus, yn darpar yn fanwl, oedd Evan Richardson Owen. Bu Mr. Roberts yn nosbarth Henry Jonathan, gyda Walter Hughes, goruchwyliwr y banc a William Williams athro yr ysgol Frytanaidd. Darllen y bennod gyntaf yn Efengyl Ioan. Pwysleisio oedd dawn arbennig Walter Hughes. Yr athro yn benderfynol iawn dros ei olygiad ei hun. Arferai ddyfynnu gwahanol awduron, yn enwedig Chalmers. Hoff o godi cwestiwn ar sylw a ddyfynnid ganddo. A'r tebycaf ei farn i'r awdwr fyddai'r gwr cymeradwy gan yr athro bob amser. Bu W. P. Williams yn holi'r ysgol. am fisoedd cyn adeg diwygiad 1859. Holai bob dosbarth. drwy'r ysgol ar ei ben ei hun, feallai ddau neu dri dosbarth bob Sul. Un o'r pynciau,—Y profion o ddwyfoldeb y Beibl, (1) profion allanol, (2) profion mewnol. Rhoes ddau gwestiwn i ddosbarth Evan Richardson Owen, a dyna un ohonynt, A wnaeth Crist a'i apostolion wyrthiau? Rhoid y cwestiynau wythnosau o flaen llaw. Sonia Mr. Roberts am ddau hen frawd yn cael eu penodi gan y Cyfarfod Athrawon i ymweled âg esgeuluswyr, sef John Parry siop, Stryd llynn, ac un arall o'r enw Jones. Yn ddiweddar yr oedd John Parry ei hun wedi dod at grefydd. Bu'r ddau wrthi am fisoedd, a llwyddasant i gael rhwng 50 a 60 i'r ysgol, a nifer ohonynt i ymroi i grefydd ar ol hynny. Sylwa W. P. Williams mai chwaer William Roberts, y gofalwr am y capel, a fu'n wraig i Mr. Lloyd. Bu ef ei hun yn athro plant am 60 mlynedd, fel mai ffrwyth maith brofiad oedd y defnydd o'r strap lledr, neu o leiaf ei gadw yn y golwg. Clywodd W. P. Williams ef yn dweyd na chollodd ond tri Sul o'r ysgol mewn 60 mlynedd.

Dyma sylw Mr. Evan Jones ar yr ysgol yn 1856: "Yr oedd yr ysgol Sabothol ym Moriah mewn cyflwr hynod lewyrchus, yn llawn y llawr a'r llofft... Un o'r arolygwyr oedd Mr. Richard Williams, yr ironmonger, gwr bychan gwynebgoch, yn cerdded yn fân ac yn fuan. . . . Byddai, unwaith yn y flwyddyn, o leiaf, yn myned i'r pulpud brynhawn Saboth, yn yr ysgol, i rybuddio plant rhag torri gerddi a thynnu nythod adar . . . . Yr oeddwn yn aelod o ddosbarth a gedwid yng nghongl uchaf yr oriel, uwchben y drws, ar y llaw dde wrth fyned i mewn. Yr athraw oedd Mr. William Williams Coed- bolyn. . . . Ar ein cyfer, yn ongl arall i'r oriel, yr oedd dos- barth Mr. Jonathan-hen ddosbarth f'ewyrth Richard Jones, wedi hynny o Chatham Street, Liverpool, a thad Mr. R. W. Jones (Diogenes) a'r Parch. Richard Jones Mancott."

Bu amryw ganghennau i ysgol Moriah. Ysgol Lôn Glai oedd cychwyn yr achos yn Nazareth; ysgol Isalun oedd cychwyn yr achos ym Mhenygraig; ysgol Tanrallt a arweiniodd i ysgol Siloh bach, a hynny, drachefn, oedd cychwyn Siloh, ond yno yr oedd Engedi yn rhannog yn y gwaith. Bu ysgol yn cael ei chynnal yng Nghowrt y boot, lle bu William Davies, y blaenor wedi hynny, ynghydag eraill, yn ffyddlon. Oddiyno yr awd i Glan y môr, tua'r un adeg, y mae W. P. Williams yn meddwl, ag y dechreuwyd yn Siloh bach, sef 1856. A dywed mai mewn llofft isel y dechreuwyd yng Nglan y môr, gyda grisiau cerryg oddiallan i fyned iddi. Cedwid mul neu ddau ar y llawr o dan y llofft, a phan elai'r mul i nadu, neu'r ddau gyda'i gilydd, rhuthrai nifer o'r plant allan yn eu dychryn. Bu Robert Davies Bodlondeb, Treborth, yn athro yn y llofft yma. Daeth Joe Llanrwst yno unwaith mewn diod. "Tyn dy het, Joe," ebe Robert Davies. "Na wna ddim," ebe yntau. "Cofia mai addoli Duw yr ydan ni." Eithr ni thyciai hynny chwaith. "Gwna o barch i'r Brenin Mawr." "Na wna ddim," ebe Joe. "Gwna o barch i mi." "O, gwna, syr, o barch i chwi," ebe Joe, a thynnodd ei het. Fe gafwyd lle mwy cyfleus yn y man yn uwch i fyny, a buwyd yno am rai blynyddoedd. Bu raid symud oddiyno, a'r lle nesaf ydoedd y man y cychwynnwyd y capel Seisnig, a'r lle y cychwynnodd Byddin Iachawdwriaeth yn y dref, ac a ddefnyddir fel ysgol a lle cenhadol o hyd. Ond dyma atgofion Mr. Morris Roberts am yr ysgol: "Ryw bnawn, dyma Joseph Hobley, arolygwr ysgol Glan y môr, i fewn i Foriah, yn chwilio am ddau athro. Syrthiodd ei feddwl ar John Richardson a minnau. Gwnaethom oreu a allem o'r ruffians. Bum yn cwyno yn y cyfarfod athrawon, ond cymhellwyd fi i aros, ac arosais am rai blynyddoedd. Bum yn dysgu dosbarth o ddynion ieuainc i ddarllen yno. Eifioneilydd a Robert Owen y glo yn dod yno un Sul. Ymhen rhai Suliau, gwr dieithr yn dod gyda hwy, a hwnnw yn chwareu'r amheuwr. Deallais wedyn mai is-olygydd yr Herald ydoedd, wedi bod yn weinidog eglwys fawr gyda'r Anibynwyr yn y Deheudir, ac wedi colli ei draed gyda'r ddïod. Ni ddaethant yn ychwaneg. Yr oedd John Lloyd, cabinet maker, yn fy nosbarth, yn fachgen direidus, ac wedi dechre myned dipyn yn ofer. Daeth ar ol hynny yn aelod o eglwys Moriah. Yr oeddwn yno yn y seiat wedi i Mr. Evan Jones ddod yno. Galwai John Lloyd ef ato, fod arno eisieu dweyd gair wrtho. 'Hen athraw a disgybl sydd wedi digwydd cyfarfod yma heno," meddai. Yr ydwi'n cofio fy hun yn hogyn direidus, drwg, yn yr hen ysgol yng Nglanymôr. Ryw bnawn Sul aeth dau neu dri ohonom i'r ysgol yn hwyr. Gofynnodd yr athraw, Pam na fuasech yn dod yn brydlon? Dywedais innau mai yn y fan a'r fan yr oeddym, a ninnau wedi bod mewn lle na fynnem iddo fo wybod. Ond mi feddyliais arno ei fod yn fy ameu. Edrychais ym myw ei lygaid, er mwyn gwybod hynny, a gwelwn ddeigryn yno. Os achubwyd fi o gwbl, y mae fy achubiaeth yn ddyledus i weled y deigryn hwnnw yn llygad fy hen athraw.'"

Dyma atgofion y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, Morgannwg, am Lanymor. "Y rhai cyntaf aeth i ofalu am y lle oedd Robert Williams (Robert and Jane), Griffith Jones cigydd, Richard Rowlands, a fu gyda Mr. John Owen Tŷ coch, W. Jones Glanymôr, a ddiweddodd ei ddyddiau yn Llundain, a Thomas Hughes, arweinydd y canu. Daeth eraill wedyn, megys William Davies y rhaffwr, John Richardson, Mr. Morris Penrallt. Byddem yn cael pregeth yn aml am hanner awr wedi pedwar. Cof gennyf am John Owen Bwlan yn cael odfeuon grymus iawn yno." Mewn blynyddoedd diweddarach, bu Hugh Pugh Llys Meirion yn dra ffyddlon yma.

Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant (1885): "Hon yw ysgol luosocaf y dosbarth, yn rhifo yn agos i 500. Y mae'r ysgol wedi mabwysiadu'r cynllun safonol, ac ar y cyfan profa'n fanteisiol. Y mae'r ystafell dan y capel i'r plant ieuengaf. Yr oedd yma ddau ddosbarth mawr yn y wyddor dan ofal brawd a chwaer. Tybiem y buasai pedwar athraw yn well na dau. Yn y capel, yn y dosbarthiadau hynaf y mae rhai darllenwyr da, yn medru nid yn unig ddarllen yn gywir o ran sain ac acen, ond gosod allan y synnwyr wrth ddarllen. Y mae lliaws yn mynnu. cloddio a myned yn ddwfn wrth ddarllen. Fe gymerai pob dosbarth ei faes ei hun, a chymerai pob athro ei drefn ei hun. O bosibl y byddai cadw at ryw drefn neilltuol, yn enwedig yn nosbarthiadau y bobl ieuainc, yn fanteisiol. Byddai mwy o sylw i brydlondeb yn brydferthwch. Gormod anghyfartaledd rhwng y gynulleidfa a'r ysgol. Eisieu ysbryd cenhadol i fyned at y gwrandawyr. Peth arall angenrheidiol yw mwy o ymgysegriad i gymeryd dosbarthiadau, nid am dymor ond am oes. Ysgol genhadol ydyw Glanymôr. Rhydd un o flaenoriaid Moriah ei bresenoldeb yma yn gyson, gan gymeryd gofal dosbarth. Dangosir ffyddlondeb a hunanymwadiad mewn ymgymeryd â bod yn athrawon. Plant gan mwyaf sydd yn yr ysgol, a'r mwyafrif yn esgeuluswyr ar foddion eraill. Y mae'r plant hyn. yn dra aflywodraethus, a cheir trafferth blin gyda hwy, ond fe wneir yma waith bendithiol; ac y mae gan y rhai a lafuriant yma le i ddisgwyl nad yw eu llafur yn ofer. Yr oedd dros gant yn bresennol. Dywedid y gallesid cael ychwaneg i'r ysgol ped ymgymerid â myned i chwilio am danynt, ond fe deimlir anhawster i gael digon o athrawon i ofalu am y rhai a ddeuant. Dylid mabwysiadu byrddau gyda'r wyddor arnynt. Ystafell eang. Holi bywiog yn y Rhodd Mam. Ysgrifennydd medrus, athrawon gwybodus. Ychydig welliant yn y cynlluniau a wnae ysgol wir dda."

Richard Owen, gwr y Mari Hughes a ofalai am y tŷ capel, o'r cychwyn feallai, a arferai fynychaf arwain y canu. Yr oedd y ddeuddyn hyn yn wir wasanaethgar i'r achos yn eu gwahanol ffordd. Bu Mari Hughes yn cadw'r tŷ capel am 40 mlynedd. Clompen dew, rywiog, oedd Mari, a arferai dynnu yn ei chetyn cwta o flaen y tân. Dywed W. P. Williams mai'r cyntaf a neilltuwyd i arwain y canu oedd Edward Meredith. "Yr oedd yn deall rhyw gymaint am nodau canu, ac yr oedd ganddo lais rhagorol, llais mawr, llawn o fiwsig. Yr oedd yn gydnabyddus iawn â'r tonau a arferid y pryd hynny. Fe ddywedir, pan y byddid yn cynnal y Sasiwn yn y cae o dan y Twtil, y byddai llais Edward Meredith, yr hwn a arweiniai y canu, i'w glywed o ben y Twtil, dros y gynulleidfa fawr o ddeg i bymtheng mil. Yr oedd ganddo bulpud bychan wrth ochr y pulpud y byddai'r pregethwr ynddo, ac yn hwnnw y byddai'n arwain y canu. Yr oedd yn ddyn gwir grefyddol, ac yn gymeradwy iawn gan ei holl frodyr. Yn 1819 ymadawodd o Gaernarvon i Gaergybi." Yna bu Richard Jones y Traian yn arwain am rai blynyddoedd, gyda llais gweddol dda, a chydnabyddiaeth â'r hen donau. William Jones Twtil bach oedd yr arweinydd nesaf. Anaml y methodd ganddo daro ar y cywair priodol. Cyfeirir at y canu gan Mr. Evan Jones, fel yr ydoedd yn 1856-7: "Safai'r pulpud y tuallan i ochr yr oriel ar y tu deheu, ar golofnau, ar ei ben ei hun, ond yn gysylltiedig â'r oriel, yn union gyferbyn a drws y capel, fel yn awr. Yn yr oriel hon, y tu ol i'r pulpud, yr eisteddai'r cantorion. Arweinid y canu gan Mr. William Jones Twtil bach, yr hwn oedd yn awr yn tynnu i fyny mewn oedran, a Mr. William Griffith, yr hwn a ddaeth mor adnabyddus ac enwog fel cerddor ac arweinydd canu ym Moriah am dros hanner can mlynedd. . . . Perthyn i'r hen ysgol yr oedd William Jones, yr arweinydd hynaf. Yr oedd Mr. William Griffith yn irder ei nerth, yn deall canu yn dda, yn hyddysg yng ngweithiau'r prif gerddorion, yn arweinydd galluog, yn llawn ynni a brwdfrydedd." Dywed Mr. Henry Owen y byddai William Jones, ar ol y casgl, yn rhoi'r penillion allan i'w canu mewn llais tenor clws, gan arwain gyda'r hen donau yn sicr iawn wrth y glust. Dywed W. P. Williams mai pan fu farw William Jones y dewiswyd William Griffith yn arweinydd, er mai efe yn ymarferol oedd yr arweinydd ers rhai blynyddoedd cyn hynny. "Heblaw ei fod yn feddiannol ar lais hyfryd, yr oedd hefyd yn deall emynyddiaeth yn drwyadl, . . . . ac yr oedd yn gallu cymhwyso tonau priodol at yr emynau a roddid allan i'w canu. . . . Yr oedd eglwys Moriah a'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi gwasanaeth Mr. Griffith fel arweinydd y gân, ac yn 1866 anrhegwyd ef â'i ddarlun. . . . Eto, yn 1891, anrhegwyd ef âg awrlais. . . ." (Cerddor, 1907, Mai.) Dilynwyd William Griffith gan Mr. Ben Jones yn 1891. Cyflwynwyd anrheg iddo, fel gwerthfawrogiad o'i lafur, Ebrill, 1898. Yn absenoldeb y prif arweinyddion, y mae Mr. Henry Owen, ers llawer blwyddyn, yn arwain yng nghyfarfodydd canol yr wythnos. Arweinir gyda'r organ er y cychwyn gan Mr. Orwig Williams. Y mae Moriah wedi cyflawn ateb i'r llinell:

Capel mawr enwog a chanu lluosog.

Bu amrywiol ymdrechion yn cael eu gwneud o bryd i bryd i ennill pobl yn wrandawyr, neu'n aelodau o'r ysgol. Ymwelid hefyd â chleifion yr un pryd. Y mae cyfeiriad wedi ei wneud dro neu ddau at ymdrechion felly. Bu lliaws ohonynt. Bu'r Parch. Thomas Hughes a Mr. Morris Roberts ar un tro yn myned gyda'i gilydd, ac elai eraill yn ddau a dau. Parhaodd hynny am fisoedd, a bu'n foddion adeiladaeth yr eglwys. Dro arall, pan y rhannwyd y dref yn ddosbarthiadau, elai merch ieuanc a gwraig mewn oed gyda'i gilydd i bob dosbarth. Mewn eglwys o'r fath faint, ynghanol tref bwysig, y mae lliaws o bobl o bryd i bryd, yn bobl o gryn ragoriaethau, yn wyr a gwragedd, wedi bod yn aros am ysbeidiau o amser, ysbeidiau byrion weithiau a meithion weithiau eraill, ac eto heb ddod i amlygrwydd neilltuol yma. Bu yma rai felly mewn cysylltiad â'r wasg, neu'n athrawon ysgol, neu gyda gorchwylion eraill. Buasai'r cyfryw mewn eglwysi llai, ac ynghanol gwlad, yn llenwi lle mwy yn llygaid pawb, ac yn fynych yn cael eu tynnu allan i wasanaeth mwy amlwg. Wrth sylwi ar rai o gymeriadau'r eglwys, gan hynny, rhaid myned heibio i liaws o'r cyfryw. Ac hyd yn oed ymhlith y rhai fu'n fwy amlwg yma, nis gellir ond disgyn megys drwy ddamwain ar rai ohonynt fel esamplau o'r lleill. Tad y Dr. Griffith Parry oedd Edmund Parry, ac fel hyn y traetha efe am dano: "Ni bu erioed briod a thad mwy serchog a gofalus. Yr oedd efe yn wr o synnwyr cryf, meddwl craff, yn perchen llawer o wybodaeth ysgrythyrol, ac yn meddu ar fwy o ddawn na'r cyffredin i ddweyd ei feddwl yn eglur ac effeithiol. Meddai hefyd wythïen wreiddiol iawn o arabedd ac humour. Cyfrifid ei gymdeithas ... yn hynod o ddiddan . . . . ac adeiladol. . . . Byddai ei sylwadau ar neilltuolion ambell i gymeriad yn hynod wreiddiol a difyrus. . . . A gallaf dystio na welais neb erioed o ysbryd mwy duwiolfrydig. . . . Yr oedd rhyw naws ac eneiniad rhyfeddol ar ei weddïau, teuluaidd a chyhoeddus. Yr wyf fel yn clywed eu hadsain yn fy nghlustiau hyd heddyw. Eto yr oedd ei grefydd yn berffaith rydd oddiwrth gulni hunanol, gorfanylwch, a phob math o ffug—sancteiddrwydd Phariseaidd. Gwisgai wedd hynod o naturiol a dymunol. Yr oedd efe ac Eryron yn gyfeillion mawr er yn fechgyn a chafodd y ddau eu bedyddio yn ddwfn i ysbryd diwygiad 1818. Eto yr oedd fy nhad yn nodedig o rydd oddiwrth bob rhagfarn henafol: cymerai olwg eang ar bethau, yr oedd ei feddwl yn ieuengaidd, ac yn llawn ysbryd diwygio, a myned ymlaen gyda'r oes ym. mhob peth da hyd y diwedd. . . . Bu farw mewn tangnefedd heddychol, Awst 6, 1865, yn 62 mlwydd oed. Pan daenwyd y newydd am ei farwolaeth yn y dref, yr oedd rhai o anuwiolion pennaf y dref yn wylo, gan ofyn, 'Pwy a gawn ni i'n rhybuddio a'n cynghori bellach."" (Cofiant Eryron, t. 258.) Mab sydd yma yn llefaru am ei dad; ond yr oedd y traddodiad am Edmund Parry fel gwr o gynneddf gref a chymeriad uchel. Robert Roberts, Penrallt Ogleddol, a fu farw yn 24 oed. Hyddysg yn yr ysgrythyr, ac yn ddiwyd yn hel gwybodaeth ar gyfer ei ddosbarth. Magwyd ef yn yr eglwys hon, a mawrhae ei fraint. Adnod y pwysleisiai arni yn fwyfwy hyd y diwedd oedd honno, Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. Gwr ieuanc a ymserchodd yn fawr yn ei ddosbarth ydoedd, a'i ddosbarth ynddo yntau. (m. Rhagfyr 5. 1846. Drysorfa, 1847, t. 63.) Ebe Mr. Griffith Parry (Llanrug) am Richard Prichard: "Hynod dduwiol a neilltuol o afaelgar mewn gweddi. Ei hoff bennill, Daeth trwy ein Iesu glan a'i farwol glwy." Ac am Griffith Pritchard: "Cymeriad hynod, heb fod fel y cyffredin ohonom, ond yn hynod o afaelgar ar weddi,—ei lais yn wefreiddiol iawn, ac yn llenwi'r capel. Ei bennill, O am nerth i dreulio'm dyddiau. Byddai'n cael argraff neilltuol arnaf." Canys lle byddo'r wreichionen fyw hi el o'r naill i'r llall. Ac am Elias Williams: "Dyn duwiol iawn. Galwyd arno un tro i gymeryd rhan mewn cyfarfod gweddi, a rhoes allan y pennill, Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw. Gan mor effeithiol yr adroddid y pennill, yr oeddwn yn teimlo fy ngwallt yn sefyll ar fy mhen." Ac eto am Thomas Parry y cwper: "Hen gymeriad hynod o ffyddlon. Athro ar blant bychain yn yr ysgol. Defnyddiai y geiriau yma ar weddi, 'O, am gael ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef.' Yr oedd yn byw ar ei ben ei hun, a bu farw heb i neb ei weled; ond fe allwn fod yn sicr fod Un yno." Dyma atgofion Mr. Morris Roberts: "Nid oedd Griffith Pritchard o Leyn yn llawn mesur ym mhob ystyr, ac ymddanghosai fel heb lewyrch arno. Gwerthai'r Herald nos Wener, a byddai'r hogiau yn tynnu yn ei gôt wrth fyned heibio. Ond wrth gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi yr oedd yn ddyn arall. Nid Griffith Pritchard, hawker yr Herald Cymraeg ydoedd y pryd hwnnw, ond rhywun arall o rywle. Teimlid yn ei weddi y cymundeb agosaf â'r Arglwydd. Rhoe y llinell gyntaf o'r pennill allan dan dynnu ei law dros ei wyneb, a gwnelai'r un peth drwy'r pennill bob yn ail llinell. Ei hoff bennill:

Baban bach anwyd draw
Ym Methlem Juda,
Aeth a'm mywyd yn ei law
Tua chartref;
Dyma bilot eglwys Dduw
Ar y tonna',
Dyma'r gwr a'm ceidw'n fyw
Haleluia!

Evan Jones, saer maen, oedd tad Ioan Glan Menai. Byddai'r fath afael ganddo mewn gweddi weithiau, a'r fath arddeliad, fel y torrai allan i ofyn am i'w Dad Nefol atal ei law, a pheidio datguddio gormod. Par, O Arglwydd! ein bod afael yngafael â threfn iachawdwriaeth: y drefn yngafael â ni, a ninnau yngafael â'r drefn.' Cofiai am yr hen genedl: Nis gallwn. fyned i unman ar wyneb daear na welwn yr hen Iddew a'i fox bach ar ei gefn.' John Evans Rhos bodrual oedd hen gymeriad Cymreig tarawiadol. Fe godai ar ei draed i ddweyd ei brofiad, gan bwyso ar ei ffon. Ei nodwedd ef ydoedd, y byddai bob amser wedi bod yn ymgodymu âg adnodau dyrus, megys honno. Os dy lygad a'th rwystra. Wedi traethu arnynt ei hunan, fe fyddai eisieu chwaneg o oleu arnynt." Evan, mab Mr. Lloyd, a fu farw Awst 5, 1851, yn 22 oed. Ceir ar garreg ei fedd:

Evan Lloyd oedd fwyn ei lef—yn nawn cân,
Pan yn y corff gartref;
Byw ei raslon bôr oslef
O'n mysg ni yn miwsig nef.—(Eben Fardd.)


Cyfaill mwy serchog hefyd.
Haeddai barch ni feddai byd,
Ofni Duw yn fwy na dyn
Heb wrando ar glebr undyn
Bywyd hoff iawn mewn byd ffol,
Diddichell, da, heddychol,
A arweiniai o rinwedd
Hyd awr fud a duoer fedd.—(G. Cawrdaf.)

Gwr go arw ei ymadrodd oedd Elias Williams. Pan ofynnid. iddo fyned i wylnos i'r fan a'r fan, gofynnai yn ol, "A oes yno garped?" gan awgrymu na ofynnid iddo ef fyned ond i'r lleoedd tlotaf. Ar ol dodi carped ar y sêt fawr nid elai yno o'i fodd i weddïo. Pan bwysid arno gan Lewis Lewis i ddod ymlaen i'r sêt fawr i gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi, fe atebai yntau yn ol, "'Dydw'i ddim wedi arfer gweddïo ar garped, Mr. Lewis." Fe arferai eistedd ar y sêt agored ar ymyl y passage, fel gwrthdystiad mae'n debyg, yn erbyn yr arfer o eistedd mewn seti caëedig. Dywed Mr. W. O. Williams ei fod mewn gweddi fel dyn yn siarad yn ei lais naturiol gyda'r Brenin Mawr. Yr ydoedd yn frawd i gymeriad arall, sef Thomas Williams, porthor y tloty (Engedi). Cof gan Miss Dora Davies am Griffith Jones Cae'rmur, gyda'r cap melfed du am ei ben, a dywed, gan fod ganddo bellter ffordd i fyned adref o'r moddion nosweithiau'r gaeaf, ac yntau yn hen wr, y gofynnid iddo weithiau, onid oedd arno ddim ofn? ac mai ei ateb fyddai na byddai efe byth ei hunan,—fod ei Dad Nefol gydag ef ddydd a nos. Dyma sylw Mr. Henry Owen arno: "Efe fyddai'n arfer diweddu y cyfarfod diolchgarwch. Yr oedd yn hynod mewn gweddi. Ei nodwedd ydoedd cariad at Iesu Grist. Yr ydoedd yn dduwiolfrydig, yn syml iawn, ac megys plentyn. Canmolai'r Gwaredwr yn ei weddi, gan arfer geiriau serch—ein hanwyl Arglwydd': yr ydoedd wedi cael gafael gref ar yr ochr honno i Grist. Siaradai â Duw fel plentyn â'i Dad—'ein Tad nefol.'" Thomas Williams Stryd llyn, a ddaeth yma o Benygraig tuag 1880. Dywed Mr. Henry Owen fod nodau hynod yn ei lais, y dechreuai weddio yn araf, ac y codai i gywair uchel, mewn llais clws, gydag iaith goeth pan ar ei liniau, er heb ddangos gwybodaeth ar bynciau athrawiaethol i'r graddau a debygasid. Gofalwr am y capel oedd Thomas Parry y cwper. Dyn braf, diniwed, syml, ebe Mr. Henry Owen, a'r geiriau, "Achub ni wrth y cannoedd a'r miloedd" yn faich ei weddi. Dywed Mr. W. O. Williams y distawai efe ffrae yn y fan yng Nglanymor, a bod ei ddylanwad ar eraill, o fewn ei gylch priodol ei hun, yn rhywbeth nodedig. Yr oedd William Morris, ebe Mr. Williams, yn weddiwr hynod ac yn gristion trwyadl. Ei breswylfod ydoedd Cowrt yr ieir yn Stryd llyn (Baptist Court). Yr oedd prif bobl Moriah yn ei gynhebrwng, ac yn eu plith un o ynadon y sir, yr unig un yn y swydd y pryd hwnnw ymhlith ymneilltuwyr y sir, debygir; a chludid ei gorff ganddynt o Gowrt yr ieir i fynwent Llanbeblig, tra'r oedd ei enaid ymhell uwch eu llaw hwy i gyd. Sylw Mr. Williams ar Edward Jones y cigydd, Hole in the Wall, ydyw, ei fod yn weddiwr hynod—"fedrechi yn eich byw beidio teimlo fod y gwir beth ganddo." Robert Jones yr Ant oedd yn ddyn cywir, gyda gweddïau nodedig am eu cyfeiriad uniongyrchol. Sonia Mr. Williams am John Lloyd fel ceidwad y drws ym Moriah, ac fel gwr selog a gweddiwr hwyliog. Bu'n feddwyn cyhoeddus amlwg. Pan fyddai'n anhawdd cael neb i ddechreu'r ysgol, nid oedd eisieu ond apelio at John Lloyd. Yr oedd yr atgof am ei sefyllfa flaenorol fel meddwyn yn boen iddo. Aeth trwy gyfnewidiad trwyadl. Owen Barlow ydoedd. engraifft o wr a addfedodd yn niwedd oes. Meddai ar allu meddwl a chraffter sylw, a danghosai aiddgarwch gyda'r gwaith o ddysgu ieuenctid. Byddai Capten Prichard, ebe Mr. Williams, yn gweu cymhariaethau morwrol i'w weddïau—"tonnau temtasiynau y byd." Robert Griffith, tad W. Griffith yr arweinydd canu, a gyhoeddodd yr adargraffiad o Destament Salesbury. Yr oedd yn wr urddasol yr olwg arno, ac yn meddu ar ddawn siarad neilltuol. Gwr a llais go fain ganddo oedd Ioan Glan Cledr, a byddai ei sylwadau yn torri i'r byw mewn achos o ddisgyblaeth. Yr oedd yn ddarllenwr trwm, ac yn fardd coeth. Sylwa Mr. Henry Owen fod gan Richard Davies, mab Mali Griffith, allu dadleuol anarferol. Yn yr wrthblaid i blaid y blaenoriaid y byddai yn gyffredin. Siaradwr ymresymiadol, yn codi i danbeidrwydd ar brydiau, ac yn y tanbeidrwydd hwnnw yn cael ei gario i eithafion weithiau. Yn wr gonest, cywir, er hynny. Yr oedd yn ysgrifennydd medrus: gwnaeth ymosodiad ar Addysg Chambers yn yr Herald Cymraeg. Efe ydoedd adeiladydd y Neuadd Sirol. Geilw Mr. Evan Jones ef yn ddyn galluog, ac yn arweinydd dynion galluog ym Moriah. William Davies y rhaffwr ydoedd un o'i brif ddilynwyr. Yr oedd ef yn wr prydweddol, glandeg, gyda dawn ymadrodd naturiol, a dull ac iaith a materion chwaethus, ac yn siaradwr campus ar ddirwest. Symudodd i Nerpwl. Cymerir rhai cyfeiriadau at bersonau allan o Adroddiad yr Eglwys.— Ffoulkes Eleanor St., yr hwn er nad oedd ond ychydig amser er pan symudasai i'r dref hon o Earlestown, lle y dewisasid ef yn flaenor, a enillodd y fath radd dda ymhlith ei holl frodyr fel gwr addfwyn, iselfryd, gweithgar a duwiol, nes y teimlid fod ei farwolaeth yn golled gyffredinol, a'i goffadwriaeth yn fendigedig (m. 1877). Un hynod iawn oedd Griffith Jones Cae'rmur. Job arall oedd. Bu unwaith yn amaethwr cyfrifol; ond cymerodd yr Arglwydd y cwbl oddiarno. A phan ofynnwyd iddo a garai i'w ewyllyswyr da wneud ei golled i fyny, atebodd na fynnai, am y credai mai ewyllys ei Dad Nefol oedd cymeryd y cwbl oddiarno er mwyn iddo gael mwy o chware teg i fyfyrio am bethau mwy. Yr oedd yn ddyn mawr ym mhob ffordd—mawr o gorff, mawr o feddwl, mawr mewn profiad, a mawr iawn mewn gweddi. Bu farw mewn henaint teg yn 92 mlwydd oed (m. 1884). Walter Hughes, goruchwyliwr banc y maes, oedd wr haelionus, a chafodd y tlodion golled ddirfawr ar ei ol. Yn wir grefyddol o ran deall a theimlad. Yn Ynad Heddwch dros y fwrdeisdref (m. Medi 12, 1890).

Fe grybwyllwyd peth eisoes am Elizabeth, gwraig gyntaf Evan Richardson, ac am Esther eu merch, ac am Mari Hughes. y tŷ capel. Ann Williams, y sonir am dani fel Elinor Williams yn y Methodistiaeth, oedd ail wraig Evan Richardson, megys ag yr oedd yntau yn ail wr iddi hithau. Peter Ellis oedd ei gwr cyntaf, ac yr oedd hi yn ail wraig iddo yntau. Owen Ellis, a fu'n flaenor ym Moriah, oedd fab iddo ef o'i wraig gyntaf, a Peter Ellis y masnachydd oedd fab iddo o Ann Williams. Y mae cymaint a hyn o eglurhad yn gryn help i ddadrys cysylltiadau amryw o hen deuluoedd y dref. Nid yw hyd yn oed W. P. Williams wedi dadrys y dirgelwch, gan y tybia fod Owen Ellis yn fab i Peter Ellis o Ann Williams. Am dani hi y dywed y Methodistiaeth: "Soniai yr hen bobl lawer am Elinor [Ann] Williams, y modd y torrai allan yn yr odfeuon yn llofft Tanrallt, gan lawned oedd ei llestr o orfoledd yr iachawdwriaeth, a'r modd y baeddid hi gan yr erlidwyr drwy ei llusgo drwy afon Saint; ac onibae i rywrai sefyll drosti a'i hamddiffyn nid oes wybod pa draha a wnaethid." Chwanega W. P. Williams: "Yr wyf yn cofio am Ann Williams yn dda, ond yr oedd y pryd hynny mewn gwth o oedran. Yr oedd yn wraig dduwiol iawn, o feddwl cryf, o wybodaeth ysgrythyrol helaeth, ac o deimladau crefyddol bywiog iawn. Yr wyf yn cofio Owen Thomas yn pregethu ar fawr amryw ddoethineb Duw, a hithau, er mewn gwth o oedran, yn torri allan dros y capel mewn ysbryd gorfoleddus. Un o stamp Ann Griffiths yr emynyddes oedd hon." Y mae'r Dr. Griffith Parry, mewn sylwadau coffadwriaethol am Owen Thomas, yn gwneud cyfeiriad at yr un oedfa. Dywed fod gan Owen Thomas, yn ystod y blynyddoedd cyntaf wedi ei ddychweliad o Edinburgh, gyfres o bregethau o rymuster a disgleirdeb meddyliol y tuhwnt feallai i'r un adeg wedi hynny. El ymlaen: "Cofus gennym ei glywed y pryd hwn yng nghapel Moriah, Caernarvon, ar fore Saboth, ar y testyn, Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau, yn y nefolion leoedd, drwy yr eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw.' Yr oedd y bregeth hon yn llawn o newydd-deb a disgleirdeb, a gogoniant trefn iachawdwriaeth yn tywynnu i'r golwg trwyddi y bore hwnnw, fel yr ydym yn credu, yng ngoleuni Ysbryd Duw. Cofiwn yn dda fod un peth hynod wedi digwydd yn yr oedfa. Yr oedd Mrs. Richardson yn y capel . . . . gwraig bwyllog, ddeallus a chrefyddol iawn. Ni byddai yn arfer gwaeddi allan [erbyn hynny], ond torrodd y fath oleuni ar ei meddwl wrth wrando y bore hwnnw, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i foliannu. Ac yr oedd hyn oddiwrth wraig o'i duwioldeb diamheuol hi, ac ar yr un pryd un mor goeth a boneddigaidd, yn effeithio yn hynod ar y gynulleidfa fawr drwyddi." (Drysorfa, 1891, t. 324.) Bu Hugh Hughes yr arlunydd yn trigiannu am ysbaid yng Nghaernarvon, ac yr oedd ei wraig yn ferch i Charles o Gaerfyrddin. Ae ef i gapel Pen- dref yn amser Caledfryn. Deuai hi i Foriah, ar brydiau o leiaf, os nad yn gyson. Yr ydoedd yn arfer ganddi fyned ar ei gliniau yn y sêt wrth ddod i mewn i'r gwasanaeth, a byddai ei holl agwedd a'i dull yn y gwasanaeth yn ennyn parchedigaeth. Brodores o blwyf Llanbeblig oedd Margaret, priod John Hughes y crydd, a chwaer Jinny Thomas (Engedi). Dwy chwaer hynod. Yng ngwasanaeth William Williams Hafod y rhisgl, daeth dan ddylanwad diwygiad Beddgelert, a phan yn cadw tŷ capel Carneddi daeth dan ddylanwad diwygiad 1830-2. Yr oedd yn nodedig yn ei llafur gyda'r ysgol Sul, a chyda dirwest. Yr ydoedd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â dirwest, a byddai'n cadw cyfarfod dirwestol yn ei thŷ i egwyddori bechgyn ieuainc per- thynol i'r gymdeithas ddirwestol. Pan sefydlwyd cymdeithas mamau a merched ieuainc yng Nghaernarvon yn 1838, yr ydoedd hi yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw. Ystyrrid ei bod yn feddiannol ar ddoniau helaeth, ac yr oedd ei theimladau yn fywiog gyda chrefydd. Bu am dymor maith yn cynnal cyfarfodydd gyda merched ieuainc am ddau o'r gloch pnawn Mercher, i'r amcan o rybuddio a chynghori. Unwaith, mewn oedfa neilltuol i Owen Thomas ym Moriah, ebe Mrs. Jane Owen Stryd Garnons, fe adroddodd y llinellau

Fy nhelyn fach mi gana'n awr,
Nes caf fi ganu nhelyn fawr.

Ar hynny fe dorrodd yn orfoledd ymhlith y chwiorydd, ac adroddai ac ail-adroddai Margaret Hughes y geiriau. Dan lawn hwyl yr aeth i mewn i'r Porthladdoedd Prydferth, gyda mynegiad hiraethlon, Y mae arnaf chwant i'm datod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw. (Drysorfa, 1842, t. II.) Gwraig John Rowlands y blaenor oedd Sian Parry, ac un hynod am hwyliau gorfoleddus. Bu bron neidio dros ymyl y galeri mewn perlewygfeydd ysbrydol, wrth wrando Robert Roberts Clynnog ac Evan Richardson, yn ol W. P. Williams. Merch ieuengaf Evan Richardson oedd Anna, a fu farw, Mawrth 29, 1846, yn 29 oed. Dyma sylw Dafydd Williams, y pregethwr, arni: "Bu'r ferch ieuanc dduwiol a phrydferth hon farw yn hynod anisgwyliadwy. Braidd nad oeddym yn meddwl fod angeu wedi camgymeryd ei wrthrych. Ciliodd o'r golwg pan nad ydoedd ond yn dechre pelydru. Bu fyw dan lygad gwyliadwrus mam dduwiol, a bu farw yno hefyd. Collodd ei hanwyl fam blentyn hoff ac ymgeledd gymwys yn ei hen ddyddiau. Ond yn y tro chwerw hwn eto, da iddi fod gwr yn ymguddfa.

Cyd-byncio mae â'i hanwyl dad,
Mewn nefol wlad "

Ann Owen oedd mam Eryron Gwyllt Walia, ac yr oedd Dafydd Jones y cwper yn ail wr iddi. Bu farw Chwefror 25, 1835, yn 60 oed. Dyma fel y dywed y Dr. Griffith Parry am dani: "Yr oedd yn wraig o ragoriaethau anghyffredin, a nerth mawr yn perthyn i'w chymeriad. Yr ydoedd yn hynod am ei duwioldeb. Ac yr oedd yn llawn mor hynod am nerth ei synnwyr, am ei phwyll a'i doethineb, tra'r oedd yr un pryd yn meddu ar serch— iadau naturiol cryfion iawn. Ymddengys ei bod yn cyfranogi. i raddau helaeth o amgyffredion cryfion ei brodyr enwog, Robert Roberts [Clynnog] a John Roberts, yng ngwirioneddau yr Efengyl. Yr oedd ganddi hoffder mawr at ddarllen. Heblaw y Beibl ei phrif lyfr—derbyniai brif weithiau crefyddol Cymreig y blynyddoedd hynny.... Wedi bod yn brysur trwy y dydd... arferai ym mlynyddoedd ei gweddwdod aros i fyny y nos am oriau i ddarllen y Beibl a'i hoff lyfrau. . . Yr oedd . . . . ei phrofiad yn gyfryw o ran blas a sylwedd na chlywid ei fath yn gyffredin. . . . Yr oedd parch a serch ei phlant tuag ati yn ymylu ar addoliad. . . . Yr oedd braidd yn dal o ferch; ei gwynepryd yn feddylgar—ddifrifol, a doethineb yn ei lewyrchu; ei gwedd yn urddasol a phrydferth, yn gorchymyn parch ac yn ennill serch ar unwaith." (Cofiant Eryron, t. 15.) {{center block| <poem> Hardd fu'th rodiad trwy dy fywyd, Pob rhyw rinwedd ynot gaed; Deddf dy Dduw oedd yn dy galon Yn unioni llwybrau'th draed.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Merch i Ann Owen, a gwraig Edmund Parry, a mam y Dr. Griffith Parry, oedd Catherine Owen. Dyma fel y dywed ei mab am dani: "Yr oedd fy mam yn wraig a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, ar gyfrif ei synnwyr cryf, a'i duwioldeb dwfn, ond distaw a hynod ddiymhongar. Yr oedd ei medr yn ei holl ddyledswyddau teuluaidd, a'i gofal ffyddlon i'w gyflawni, yn nodedig. . . . Er nad oedd neb yn y cyffredin yn fwy siriol, tuedd naturiol ei meddwl oedd i edrych ar yr ochr bruddaidd. . . . Bu fy anwyl fam farw yn llawn o'r tangnefedd sydd trwy gredu, mewn hyder tawel a diysgog ar yr hwn a osododd Duw yn iawn. Dywedai wrthyf ychydig oriau cyn marw, 'Paid a wylo, Griffith bach, ni a gawn gyfarfod eto yn un teulu gogoneddus.' Dywedai hefyd, Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos. Un o'r geiriau diweddaf a ddywedodd oedd, A thalwn i ti loi ein gwefusau. A'r gair diweddaf oll, bron wrth roddi yr anadliad olaf, oedd,—Yn yr Iesu. Bu farw Gorffennaf 22, 1856, yn 59 mlwydd oed." (Cofiant Eryron, t. 257.)

Mewn newydd iaith, mwyn "Iddo Ef"—a ddyrch,
Bydd ardderchog gydlef!
"Gwefusau loi" 'n gofus lef
A leinw deml y wiwnef.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Fe welir fod yma glwstwr o ddoniau yn y teulu hwn. Gwelwyd hynny o'r blaen yn hanes yr un teulu yng Nghlynnog. Bernir gan rai mai dyma'r teulu hynotaf mewn talent yn sir Gaernarvon neu yng Nghymru. Dyma sylw Mr. Griffith Parry (Llanrug) ar Kitty Jones: "Yr oedd hi'n gymeriad hynod a duwiol. Mi fyddai'n orfoleddus iawn ar adegau, yn neilltuol yn y cymundeb. Byddai'n gweiddi allan am i'r Iesu mawr faddeu ini ein calonnau oerion. Bum yn ymweled â hi ar ei gwely angeu, ac yr oedd yn cael mwynhad mawr yn y pennill hwnnw, Rwyf yn dechreu teimlo eisoes Beraroglau'r gwledydd draw; a phan yn dweyd y llinellau, Tyrd y tir dymunol hyfryd, Tyrd yr ardal sydd heb drai, pwysleisiai y geiriau ac edrychai i fyny, gan wir awyddfryd am eu sylweddoli. Adroddai, hefyd, y pennill hwnw, Anghrediniaeth, gad fi'n llonydd. Bu farw yn orfoleddus iawn." Y mae gan Mr. Morris Roberts atgof am rai hen chwiorydd: "Marged Barlow, mam Owen Barlow, oedd wlithog ei phrofiad yn wastad. Catherine Jones, gwraig William Jones yr arweinydd canu, fyddai'n gorfoleddu wrth wrando pregethau. Ar ymyl y galeri, wrth wrando ar John Jones, Dafydd Jones, John Phillips, byddai'n ysgwyd fel baloon, yn sefyll ar ei thraed, ac yn chwifio'r cadach coch. Hyn. yw'm hangor ar y cefnfor, Na chyfnewid meddwl Duw,—a chyda'r geiriau elai trydan drwy'r gynulleidfa, a hithau yn torri allan gyda'i Diolch! Bendigedig! Yn fuan ar ol ei sefydlu ym Moriah, aeth Mr. Evan Jones at hen chwaer oedrannus, anllythrennog, o 85 i 90 oed,—Emma Parry. Ac meddai hi wrtho, 'Wel, Mr. Jones, pan mae'r pregethwyr yma yn trin yr ysgrythyr, 'dydwi'n deall dim arnyn nhw; ond pan y mae nhw'n mynd i rywle i gymdogaeth y Groes, yr ydwi'n gallu i dilyn nhw.' Sylwodd Mr. Jones y buasai'n dda ganddo, pe buasai yno gannoedd o bregethwyr yn y lle yn gwrando, er mwyn iddynt ddeall pa fodd i bregethu'r Efengyl i bechaduriaid." Yr oedd Mali Griffith, mam Richard Davies yr adeiladydd, yn wraig o gynneddf gref ac o brofiad ysbrydol. Yr oedd Jane a Mary Roberts, merched ynghyfraith i Dafydd Rowland y blaenor, yn ferched hynod am eu duwioldeb. Yr oedd Jane ac Elin Williams, chwiorydd Dafydd Williams y pregethwr, yn aelodau ym Moriah ers blynyddoedd, wedi bod cyn hynny yn Engedi. Meddent ar ryw ddifrifwch arbennig. Yr oedd Jane Williams yn dra thebyg yr olwg arni i'r lluniau a welir o hen santesau Pabaidd, yn ddwys-ddifrif, a chyda'r llygaid yn troi tuag i fyny. Tra manwl eu ffordd. Yn eu tlodi deuai cymdoges a chinio iddynt ar y Sul. "A ydych yn sicr nad ydych ddim. wedi ei wneud heddyw," ebe hwythau. Yr oedd eu hymddiddan yn adeiladol ac yn gyfoethog o hanesion. Canodd Jane i Joseph, llywodraethwr yr Aifft, a phethau eraill; ond gan Elin yr oedd y meddwl mwyaf hoew a'r cyffyrddiadau mwyaf neilltuol mewn ymddiddan. Yng nghynhebrwng Jinnie Parry (m. Ionawr 2, 1854, yn 68 oed), gwraig Robert Griffith y cyhoeddwr llyfrau, a mam William Griffith yr arweinydd canu, fe ddywedai Dafydd Jones ei bod hi wedi cael mynediad helaeth. i ogoniant. "Pam yr wyti'n dweyd hynny? O! ei bywyd addas hi." Harriet, priod Thomas Hughes y pregethwr, a ymroes i fasnach er mwyn rhyddhau ei gwr i wasanaeth crefyddol, a meddai ar ddawn arbennig yn hynny, cystal a'i bod mewn cydymdeimlad llwyr â'r gwr yn ei ymroddiad i wasanaethu'r eglwysi yn y dref. Bu Jane Hughes Pontrobert yn trigiannu yn y dref am ysbaid, a deuai i'r moddion yma. Meddai hi ar ddawn ymadrodd helaeth, ac ni fynnai i neb gyfyngu arni o ran amser. Pan geisiai Walter Hughes wneud hynny ar un tro, torrodd. allan, "Taw di'r, bachgen main!" Heblaw dawn ymadrodd, yr oedd ganddi hefyd wybodaeth ysgrythyrol ac athrawiaethol helaeth. Yr oedd (Mrs.) Griffith, priod W. Griffith, arweinydd y gân, yn gefn i'w gwr, gan ofalu am iddo fedru bod yn brydlon yn y gwasanaeth y Sul. Yr oedd ei hunan yn gyson yn y moddion. Arferai ofal mam am bobl ieuainc a letyai gyda hi. (m. Mawrth 4, 1898, yn 75 oed. Y Gymraes, 1898, t. 105.) Golchwraig wrth ei galwedigaeth oedd Kitty Owen, ond tywysoges o ran haelioni ysbryd. Rhoes sofren felen yn nwrn. Mr. Norman Davies ar un tro fel yr elai o amgylch yr ysgol gyda chasgl y ddyled. Gan ystyried y buasai swllt yn rhodd hael oddiwrthi hi, fe dybiodd yntau fod yna gamgymeriad, nes ei sicrhau i'r gwrthwyneb. Preswyliai gyda hi lodes ieuanc, yn berthynas iddi. Pan aeth hon oddiwrthi i wasanaeth fe dalodd hithau am ei heisteddle am ddwy flynedd ymlaen, rhag pan ddeuai adref y byddai heb sêt i fyned iddi. Gadawodd £10 gyda Mrs. Wynne Williams ar gyfer traul ei chynhebrwng rhag myned ohoni yn faich ar y plwyf. Ac yr oedd ei buchedd a'i phrofiad ysbrydol yn cyfateb i'w haelioni. Yr oedd (Mrs. John) Owen Tŷ coch, (Mrs. Cornelius) Davies, a lliaws eraill, yn wragedd boneddig, cymwynasgar, ac o ysbryd crefyddol. Y mae'r cyfeiriad at y rhai yma yn Adroddiad yr Eglwys: Yr oedd Ellen Jones yn meddu ar gyneddfau anghyffredin, a chrefydd ddiamheuol. Ni chynysgaeddwyd hi'n helaeth â da y byd hwn, ond yr oedd yn ddiamheuol am ei chymwynasgarwch i bawb a fyddai mewn unrhyw drallod neu gyfyngder. Byddai ei thŷ yn fynych fel ysbyty i gleifion ac eraill i droi i mewn iddo, ac nid oedd terfyn ar ei medr a'i charedigrwydd i weini arnynt. Yr oedd yn hynod ar gyfrif ei threfn gyda phopeth, yn neilltuol pethau crefydd. Cyfranai wrth reol, a chyfranai yn fynych yn helaeth, ie o'i hangen. Yr oedd ei diwedd yn wir dangnefedd (m. Mawrth, 1889, yn 88 oed). Ellen Trevor a ddarllenai lawer, a fyfyriai lawer, ac a gyfansoddodd lawer o benillion yn Gymraeg a Saesneg na fuasai raid i feirdd o fri gywilyddio'u harddel (m. Medi 12, 1890). Mrs. R. R. Roberts a gyfunai i raddau helaeth gymeriad Mair a Martha (m. Hydref 3, 1892).

Eglura'r gwahanol enghreifftiau o fuchedd sanctaidd a nodwyd ystyr geiriau'r bardd:

Ond yn y galon, mewn dawn gwiwlwys,
Y mae'r eglwys, gardd Paradwys.

Rhif yr eglwys yn 1901, 595. Y ddyled yn 1900, £1,942. 17s. 2g. £108. 0s. 3c. oedd swm casgl dydd diolchgarwch yr un flwyddyn.

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif ar Evan Richardson gan Griffith Solomon, Drysorja, 1833, t. 161, 193. Dyddlyfrau Thomas Lewis. Abstract of Title, 1828, ynghadwraeth Mr. R. D. Williams, cyfreithiwr. Copïau o weithredoedd heb fod yng nghist y Cyfarfod Misol, ym meddiant Mr. R. Norman Davies, ynghyda nodiadau o'i eiddo ar hanes yr achos. Atgofion y Parch. Evan Jones yn y Genedl, 1913. Ymddiddanion. Nodiadau ar yr ysgrif gan Mr. Norman Davies.