Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Bwlan

Oddi ar Wicidestun
Brynrodyn Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

Talsarn

BWLAN.[1]

ENW ar ffermdy, nid nepell oddiwrth bentref Llandwrog, yw Bwlan. Tybir fod yr enw wedi ei gymeryd oddiwrth fryncyn o ffurf y fasged gron a wneid gynt i ddal ŷd, er fod y gair yn enw hefyd ar yr ysgrepan ledr y cludir llythyrau ynddi. Oddiwrth y ffermdy fe rowd yr enw ar y capel a adeiladwyd ar y tir. Ar wahan i'r pentref, y boblogaeth yn o wasgarog. Ceid pregethu yn yr ardal er yn fore yn hanes Methodistiaeth. Y mae sôn am dorf o drigolion ardal Llandwrog, wedi ymgynnull ynghyd ar brynhawngwaith têg, ar gwrr maes i wrando pregethwr poblogaidd gyda'r Methodistiaid. Ynghanol y dorf yr oedd gwraig ieuanc brydweddol â'i maban bychan ar ei braich. Wedi i'r pregethwr ddechre ar ei bwnc, a phan yn codi ei wrandawyr i ias hyfryd o deimlad, dyma garreg, wedi ei hanelu fe ddichon at y pregethwr, yn tarro'r bychan a oedd ar fraich ei fam. Y bychan hwnnw nid oedd neb amgen na'r hwn a adweinid ar ol hynny fel "y pura' gwr, Parry o Gaer." Gan iddo ef gael ei eni ym mis Mai, 1775, y mae amseriad yr oedfa honno yn lled agos i'w benderfynu. (Cofiant J. Parry, t. 10). Byddai ambell bregeth yn y Bodryn ac weithiau yn y Morfa. Mewn oedfa yn y Morfa unwaith, yn ol Methodistiaeth Cymru, fe ddaeth y clochydd i mewn â gwialen fawr yn ei law. Ymwthiai i ganol y gynulleidfa gyda rhuthr, gan wneud am y pregethwr. Ymaflodd rhywun ynddo, pa fodd bynnag, gan roi ar ddeall iddo os eisieu ei ysgwyd oedd arno, y gwnae ef hynny iddo. Ciliodd y gwalch o glochydd yn ol ar hyn, gan ystyried mai goreu dewrder ydoedd cadw'n groeniach. Eithr wedi methu ganddo yn ei amcan gyda'r gwŷr, fel gwir lechgi fe gyfeiriodd tua'r buarth, a throes geffylau y gwrandawyr o bell allan ar eu hynt.

Yr oedd Henry Griffith Bodryn a'i wraig yn aelodau er yn fore ym Mrynrodyn. Pryd na ellid cael pregeth, neu pryd na thybid yn ddoeth ei chael, fe gynelid cyfarfod gweddi yn y tŷ. Yr oedd amryw o aelodau Brynrodyn yn trigiannu yn y fro. Fe ddywedir mai'r Henry Griffith hwn oedd y cyntaf gyda'r Methodistiaid i ddwyn pregethu i'r ardal, ac y dug bregethwyr rai gweithiau i ardal y Dinas dinlle i bregethu. (Canmlwyddiant Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai, t. 20. Cymharwyd y llawysgrif y tynnwyd y rhan fwyaf o'r llyfryn hwn ohoni, sef yr eiddo Mr. Griffith Lewis Penygroes).

Arferai David Davies (Tremlyn) ag adrodd am oedfa wrth y tair croesffordd yn ymyl Dunogfelen ar fore Sul, pan oedd John Roberts Llanllyfni (Llangwm wedi hynny) yn pregethu. Yr oedd hynny, debygir, cyn 1809, gan mai yn y flwyddyn honno y symudodd efe i Langwm. Safai y pregethwr mewn trol wrth y tair croesffordd. Yr oedd y nos Sadwrn blaenorol yn noswaith lawen yn un o dai allan Garnons Mt. Hazel, sef hafoty y gwr ag yr oedd ei hendref yng Nghaernarvon, ag y mae ei enw yn hysbys fel arall ynglyn âg erledigaeth. Ymhlith campau eraill y noswaith lawen, yr oedd ymdrech am y goreu i ddwyn agwedd wirionffol gyda choler ceffyl am y gwddf. Gan i'r gamp honno fod yn llwyddiannus i ennyn mwy o ddigrifwch nag arfer fe benderfynwyd ar fod i'r ymdrechwyr ymddangos ar y gyfryw agwedd yn yr oedfa dranoeth ger Dunogfelen. Ar y ffordd i'r oedfa yr oedd y pregethwr mewn myfyr dwys, a ffrwyth ei fyfyrdod y bore hwnnw oedd y pennill adnabyddus, "Gwych sain Fydd eto am y goron ddrain." Pan y cododd efe i fyny yn y drol yr oedd campwyr y noswaith lawen yno gyda'r goler ceffyl am y gwddf, ac yn gwneyd ystumiau arnynt eu hunain. Rhoes yntau allan i'w ganu y pennill a enynnodd yn dân yn ei feddwl tra yr ydoedd yn myfyrio ar y ffordd. Cipiodd y crefyddwyr yno y fflam, ac yr oedd canu anarferol ar y pennill y tro cyntaf hwnnw y rhowd ef allan, a dylanwad y fath fel y tynnodd yr oferwyr y coleri oddiam eu gyddfau mewn cywilydd, gan eu dodi yn dawel o'r neilltu. Yr oedd dylanwad yr oedfa y fath, fel na chlybuwyd ond hynny am na noswaith lawen nac ymladd ceiliogod, pethau ag oedd mewn bri o'r blaen ymhlith rhyw ddosbarth o'r ardalwyr.

Oddeutu 1807, yn ol y Canmlwyddiant, y sefydlwyd yr ysgol Sul, mewn tŷ annedd o'r enw Fronoleu, ac yna yn yr elusendy yn y gymdogaeth. Y gwr a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw gyda sefydlu'r ysgol ydoedd Henry Griffith. Yr oedd person y plwyf, o'r enw Griffith, a drigiannai yng Nghae'r Doctor, yn gynorthwyol. gyda sefydlu'r ysgol, er ei glod. Ystyrrid ef yn wr rhyddfrydig a duwiol. Ei gefnogaeth ef yn ddiau a rydd gyfrif am gadw'r ysgol. ar un ysbaid yn elusendy Glynllifon. Gwŷr eraill a fu'n gynorthwyol gyda sefydlu'r ysgol, neu ei dwyn ymlaen mewn blynyddoedd diweddarach, ydoedd Robert Hughes Caelywarch, Solomon Parry Collfryn, Robert Roberts a Hugh Jones a Robert Jones Penybwth, Robert Jones Rhiw, William Morris Glanrafon, Rhys Owen Llandwrog, Dafydd Thomas Lodge, William Prichard Penyboncan a Morris Jones Bwlan. Bu'r rhai hyn oll yn arolygwyr yn eu tro ac yn dra ffyddlon a selog gyda'r ysgol. Eglwyswr ydoedd Hugh Jones Penybwth hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes. Yr oedd ef yn gerddor medrus, a bu o fawr wasanaeth gyda'r ysgol ar y cyfrif hwnnw. Olynydd Griffith, y person, oedd mor elyn— iaethol i'r ysgol ag ydoedd ef o gefnogol iddi. Efe a ddeuai heibio'r ysgol, gan orchymyn y plant i'r llan. Elent hwythau gydag ef rhag ei ofn; ond pan gaent gyfle diangent oddiarno, gan ddringo dros y cloddiau neu ymguddio o'r tu ol i'r perthi. Fel yr oedd un ohonynt ar dro yn dianc oddiarno dros y clawdd, ebe Methodistiaeth Cymru, dyma gic effeithiol iddo o'r tu ol oddiwrth y person. Llwyddodd y person lle methodd un o'r tylwyth teg, yn ei gais i gyflawni'r cyffelyb wrhydri—ond gyda'i ddwrn yn lle ei droed—gydag Edward Williams, Rotherham wedi hynny, ond y pryd hwnnw yn hogyn ysgol ger Dinbych. Wedi ysbio yr oedd Edward ar gylch y tylwyth teg ar eu dawns, pryd y torrodd un o honynt allan o'r cylch, gan ymlid yn ffyrnig ar ei ol ef. Fel y diangai'r hogyn drwy'r gwrych, ebe'r coblyn, gan anelu yn deg am dano, 'Dyna glap y wrach iti! Methu gan y coblyn yn ei amcan, pa ddelw bynnag, a diangodd yr hogyn i ysgrifennu ei Equity of the Divine Government! Ni ddywed y Methodistiaeth pa beth a ddaeth o hogyn y Bwlan, prun a droes efe allan yn felltith ei fam ai peidio!

Yr oedd Morris Jones, taid y Mr. Morris Jones Bwlan presennol, yn berchennog fferm y Bwlan. Ar ol dod ohono yn aelod eglwysig, ym Mrynrodyn debygir, fe roes dir ar ei fferm i adeiladu capel arno. Bernir fod hynny tua'r flwyddyn 1815. Nid oes le i ameu nad ar agoriad y capel y sefydlwyd yr eglwys. Yn yr ysgrif o Frynrodyn fe ddywedir mai ar agoriad capel Bwlan yr aeth Robert Hughes Llwynygwalch yno o Frynrodyn.

Yr oedd gan rywun ryw led—gof fod traul y capel cyntaf hwn yn £400, swm a ymddengys braidd yn fawr, gan nad oedd y gynulleidfa, debygir, ond bechan. Ryw gymaint yn ddiweddarach na'r capel y codwyd y tŷ capel, ac y rhoddwyd dwy lofft ar y capel ei hun. Credid fod y draul ychwanegol hon yn £200.

Hanes cyfnod y capel cyntaf sydd dra phrin. Enwau yn unig braidd, sy'n aros. Isaac Williams Caehalen mawr, oedd gyda'r swyddog cyntaf, neu'r cyntaf, ac feallai'r pwysicaf. Mae enw iddo'n aros fel gwr da, ac un o gryn ddylanwad. Efe hefyd oedd y cyhoeddwr. Swyddogion eraill y cyfnod hwn: Salmon Parry Collfryn, arweinydd y gân, a chyhoeddwr ar ol Isaac Williams, William Williams Henrhyd, Robert Hughes Caelywarch, Robert Roberts Penybythod, Evan Michael Tŷ capel, William Morris Glanrafon, Richard Roberts Penrhos.

Fe ddywedir ym Methodistiaeth Cymru mai nid llawer o gynnydd a fu ar yr achos yma o'i gychwyniad hyd y flwyddyn 1840, ond erbyn hynny, sef adeg y diwygiad, y cafwyd adfywiad a chwanegiad mawr. Ac nid ymddengys hynny o gwbl yn anghyson â'r nodwedd a fuasid yn ei briodoli i bobl yr ardal. Ardal lonydd ydyw. Gallasai fod yn Llanllonydd Isaac Ffoulkes. Pan ddisgyn yr angel i'r llyn llonydd, pa ddelw bynnag, y mae'r ymferwad am y pryd yn rhyfeddol, ac yn iachaol hefyd i ryw rai parod i achub eu cyfle.

Yr amser hwn yr oedd Carmel, Bwlan a Brynrodyn yn daith. Gyda llanw'r diwygiad fe deimlwyd angen am gapel newydd. Capel cryf, eang. Y draul, £550. Cryn gwrs yn ddiweddarach y codwyd llofft eang arno ar un talcen a'r ddwy ochr. Y draul, £350, fe ddywedir. Mae prydles yr ail gapel wedi ei hamseru yn 1841, am 71 mlynedd, am bedwar swllt arddeg y flwyddyn.

Yn ystod yr amser yr adeiladid y capel, cynelid yr ysgol yn ysgubor Bwlan ac yn y Tai Gwynion.

Yng nghyfnod agoriad yr ail gapel hwn, Evan Hughes Ty'nlon bach oedd y blaenor mwyaf amlwg. Gwr yntau o gryn ddylanwad, a chanddo air da gan bawb. Efe, meddir, oedd yr arolygwr ysgol goreu a fu gan y Bwlan. Symudodd i Abererch. Nodir Griffith Parry, a aeth drosodd i'r America yn 1846, fel gwr caredig i'r achos.

Chwefror 27, 1844, y bu farw Griffith Williams, y pregethwr. Efe oedd y pregethwr cyntaf a fu yn yr eglwys hon. Yn nhŷ'r capel yn y Capel Uchaf y trigiannai pan ddechreuodd efe bregethu. Dug nodwedd y Capel Uchaf yn amlwg arno. Nid ymddengys ei fod yn wr o unrhyw alluoedd meddyliol neilltuol, nac o unrhyw gyrhaeddiadau neilltuol. Ei arbenigrwydd oedd ynni, ymroddiad. a thanbeidrwydd ysbryd. Hen wr o'r Bwlan a'i hadwaenai yn dda a ddywedai mai lladd ei hun wrth bregethu a ddarfu. Prun bynnag am hynny, nid oedd dim ymdrech anaturiol yn ei ddull, fe ymddengys. Teimlid eneiniad ar ei bregeth. Cymherir ef gan Robert Ellis, o ran ei ddawn enillgar, nawsaidd, i Cadwaladr Owen. Perchid ef yn y wlad ar gyfrif ei ymroddiad i'w waith, a chyfrifid ef yn wr da a duwiol. Bu farw ynghanol oed gwr, ac yr oedd yn wr priod pan ddechreuodd bregethu. Bu ei dymor yn gymharol fyrr-rhyw saith neu wyth mlynedd-a thymor yr adfywiadau ydoedd. Bu ei bregethu ef yn Niwbwrch yn gychwyn adfywiad lleol, a adwaenid yno am amser fel "diwygiad Griffith Williams Bwlan." Dyma ddisgrifiad William Jones Tŷ mawr ohono: Dyn byrr, trwchus; gwyneb llydan, a'i wallt o liw goleu; ei lygaid yn lled lawn ac o liw melynddu. Golwg wladaidd. Arferai siarad yn bwyllog, a cherddai yn wastad yn araf a synfyfyriol." Y disgrifiad yn cyfateb yn hollol i'r syniad am dano yn y wlad. Gwr ydoedd hwn ag adnoddau nwyd guddiedig yn gorwedd o'i fewn. Er hynny, nid oedd William Jones, na neb arall yn yr ardal at ddiwedd y ganrif, yn cofio cymaint a gair o'i eiddo allan o bregeth neu ar achlysur arall. Efe a fu farw yn orfoleddus.

Yn Awst 1859 fe ddechreuodd John Owen bregethu. Yr oedd efe yn flaenor er 1853. John Davies y cyllidydd oedd yn ei holi, ebe Betsan Owen. Gofynnai'r holydd, "Beth oedd yn peri i chwi feddwl am bregethu ?" Atebai'r ymgeisydd, "Caru gweithio dros y Gwaredwr yn well nag ydwyf." Un o destynau John Owen oedd, "Saith o wragedd a ymaflent mewn un gwr." A dywedai fod llawer ym mhob eglwys yr un fath, yn hidio dim am grefydd ymhellach na bod yr enw arnynt. Fel yr ymwelwyr yn galw yn y seiat unwaith yn y flwyddyn, ond ddim ar un noswaith arall heblaw honno. Yr oedd John Owen, pa ddelw bynnag, o dymer ry frwd i fedru dal ati gyda'r pregethu heb niweidio'i iechyd, a gorfu arno roi goreu iddi ymhen rhyw dair blynedd. Dyma'i destynau ynghapel Llanllyfni: Sechariah ix. 12, Trowch i'r amddiffynfa; Rhufeiniaid i. 16, 17, Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist; Ephesiaid ii. 12, Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist; Luc xv. 20, Ac efe a gododd ac a aeth at ei dad; Ioan xx. 31, Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd fel y credoch chwi; 1 Corinthiaid iii. 11, Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod; 2 Corinthiaid vi. 2, Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais; 2 Petr iii. 9, 10, Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid.

Yr oedd y naill a'r llall yn dod i'r eglwys yma yn nechreu a chanol y flwyddyn 1859, fel rhyw flaen-ddiferion o'r gawod. Yr oedd Robert Williams Tŷ bach mewn cyfarfod gweddi yn Bethel, Penygroes, pan y dechreuid teimlo oddiwrth y diwygiad yn y wlad hon. Yr oedd yno le hynod. Yn y seiat yn y Bwlan dranoeth, fe roes hanes yr hyn a welodd. Wrth fyned ar ei liniau i weddio ar y diwedd, methu ganddo ag yngan gair. Cludwyd ef allan yn ddiymadferth, ond nid heb fod y cynulliad wedi teimlo oddiwrth bresenoldeb yr un a'r unrhyw ysbryd a'i llethai ef. Ar nos Sul, Medi 25, torrodd yn orfoledd yng nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc. Gorweddai rhai llanciau fel celaneddau dan y dylanwad. Y nos Sul nesaf yr oedd lliaws yn gwaeddi dan y bregeth, ac arosodd deg ar ol. Y nos Sul nesaf wedi hynny, yr oedd Thomas Williams Rhyd-ddu yma. Aeth llawer allan dan wylo, ond yn danfon cais yn ol am weddi yn eu rhan. Cynhaliwyd tair seiat y noswaith. honno, wrth fod y rhai a aeth allan yn parhau i ddychwelyd yn ol. Rhifai'r dychweledigion ddeugain namyn un. Wrth fyned allan o'r capel, clywodd un henwr y gair hwnnw megys yn cael ei ddweyd wrtho, "Y rhai oeddynt barod a aethant i mewn, a chauwyd y drws." Trodd yn ei ol, ac eb efe, "Os byth yr egyr y drws yna, mi af fi i mewn." Yn y man cafodd ei hun i mewn. Ar ben yr allt ar ei ffordd adref, clybu Morris Jones lais yn dweyd wrtho, "Os nad ei di'n ol yn awr, ni chei di ddim cynnyg byth mwy." Dychwelodd yntau yn ol gan ofn. Richard Jones Ty'nrallt yn syrthio yn ŵysg ei gefn wrth geisio myned allan heb aros i'r seiat. Wrth godi ar ei draed, adroddai'r geiriau, "Y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth." Yr oedd o 15 i 18 yn dod i'r eglwys o newydd braidd bob hwyr yr wythnos ryfedd honno, fel yr ychwanegwyd fwy at yr eglwys yn ystod y diwygiad nag oedd yno o aelodau cyn hynny. Yn wir, fe ddaeth yr ardal yn lled lwyr i broffesu crefydd yr ysbaid hwnnw. Ymherthynas â Thomas Williams a'r diwygiad, fe ddywed Betsan Owen y byddai ef "yn gorfoleddu gyda phob awel." Edrydd hi am dano ar un tro yn dod ar draws y pennill, "Pe meddwn aur Peru." Dywedai: "Pe meddwn aur Peru, mi fedrwn waeddi Gogoniant am ddoniau tymorol. Mi fedrwn waeddi Gogoniant am aur Peru, am berlau'r India, am arian Califfornia, am lo y Deheudir. Ond y mae gronyn bach o ras fy Nuw yn drysor canmil gwell-Gogoniant!" Cof gan Betsan Owen am y cyhoeddwr yn dywedyd wrtho, "Ewchi i'r gongl acw i grefu gan y bechgyn acw dewi tra byddafi yn cyhoeddi." "Fedra'i ddim," ebe Thomas Williams, mae un yn dyrchafu'r Gwaredwr, a'r llall yn rhedeg ar y diafol. Fedra'i ddim !" Bu Thomas Williams yn gwaeddi efo'r bechgyn dan dri ar y gloch y bore. Cafodd John Thomas, gweinidog yr Anibynwyr, oedfa hynod yn y Bwlan yn amser y diwygiad. Caffai afael anarferol gyda'r ymadrodd, "A'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef." John Owen Ty'n llwyn, hefyd, a gafodd oedfa hynod arall. "Y galar mawr yn Jerusalem, pob teulu wrtho'i hun," oedd y mater. Aeth yno ias o gryndod dros ddynion anuwiol. Torrodd allan hefyd yn waeddi cyffredinol. Tachwedd 10, am ddau yn y prynhawn, y pregethodd Dafydd Morgan. Aeth un o lanciau'r Bwlan i wasanaeth yn Rhosmeilan ym mis Mai, 1860. Nid oeddid yno wedi profi dim o ddylanwad y diwygiad. Yr oedd yno ymrafael ers misoedd rhwng y blaenoriaid â'u gilydd. Y noson yr aeth y llanc i'r seiat fe gyrhaeddodd y gynnen i'w huchaf-fan. Ni allai'r llanc oddef yn hwy, a chododd i fyny, gan weiddi allan, "O flaenoriaid melltigedig!" Syrthiodd gradd o ofn arnynt. Halltwyd hwy â halen. A chyn pen nemor ddyddiau, yr oedd y diwygiad i'w deimlo yno hefyd. Yr oedd sôn drwy'r ardaloedd am rym y diwygiad yn y Bwlan. Yr oedd y dychweledigion yn cyfrannu at yr achos, fel y derbyniwyd dros £15 ganddynt cyn eu derbyn yn gyflawn aelodau. Cof gan Mr. John Jones am y blaenoriaid yn dweyd yn yr adeg honno wrth y chwiorydd ieuainc mewn gwasanaeth am roi llai yn y casgl mis. Cyn y diwygiad, ebe'r un gwr, nid oedd gofal neilltuol gan rieni yn proffesu am ddwyn eu plant i fyny yn yr eglwys. Llwyr newidiwyd hynny ar ol y diwygiad. Efe a ddywed hefyd ddarfod iddo glywed John Thomas y Bwlan, ar heol y capel, yn cwyno wrth eraill o blant y diwygiad, "Wel, ymadael â'n cariad cyntaf yr ydym!" Ac ebe Robert Williams Tŷ bach yn y seiat, wrth adrodd ei brofiad, "Ni feddyliais i erioed yr aethai hi gyn llwyted arna'i." Er hynny, gwyr sanctaidd ym marn pawb oedd y rhai hyn. A phlant y diwygiad oeddynt, wedi ymaelodi yn yr eglwys ychydig cyn y diwygiad, ond gyda'r rhai amlycaf ynglyn âg ef.

Rhif yr aelodau yn niwedd 1858, 139; yn niwedd 1860, 282; yn niwedd 1862, 274; yn niwedd 1866, 219. Y casgl at y weinidogaeth yn niwedd 1858, £23 12s. 7g.; yn niwedd 1860, £45 14s. At ei gilydd yr oedd y dosbarth a ychwanegwyd at yr eglwys yn israddol iawn o ran eu hamgylchiadau allanol i'r dosbarth oedd o'r blaen yn yr eglwys. Eto fe ymddengys oddiwrth y cofnod hwn, fod cyfraniadau y naill yn gyfartal i eiddo'r llall. Hawdd y gallasai'r hen flaenoriaid alw am i'r merched ieuainc mewn gwasanaeth arafu yn eu rhoddion!

Blaenoriaid y cyfnod hwn oedd William Pritchard, Dafydd Thomas, Griffith Lewis, Robert Jones Bodfan, William Owen, John Owen. Bu W. P. Williams Caernarvon yn trigiannu yn yr Hazel am ysbaid ac yn flaenor yma. Bu William Morris, a berthynai i'r hen dô, farw yn 1865. Heb fod yn dda arno, yr oedd yn garedig wrth y tlawd. Yr oedd iddo ef air da gan bawb, a chan y gwir- ionedd ei hun. Fe ddywedir y meddyliai y bechgyn digrefydd yn ei wasanaeth yn uchel ohono. O dymer wyllt, ebe Betsan Owen. Ar ol gwylltio fe'i clywid ef yn dweyd, "'Does dim imi wneud ar ol yr amryfusedd hwn ond myned at yr Arglwydd." "Dos i'th ystafell," eb efe dan fyned. William Pritchard Penyboncan, Henrhyd gynt, a fu farw yn 1878, yn 78 oed (82 yn ol adroddiad yn y Goleuad), wedi gwasanaethu ei swydd am 38 mlynedd. Yr oedd ef yn daid i'r Parch. W. T. Jones Llanbedrog, ac yn dad i Mr. Methusalem Pritchard. Gwr o beth gallu, gwybodaeth a dawn, ac un a wnaeth lawer o gymwynasau bychain, distaw i'r achos. "Os byddai rhyw achos disgyblaeth cas, William Pritchard roid ar ei gefn o," ebe Betsan Owen, sef er mwyn ei drin yn eofn a deheuig. Dafydd Thomas a fu farw yn 1879, yn 88 oed, wedi gwasanaethu ei swydd am 39 mlynedd. Gwr syml ei nodweddiad a'i rodiad. "Cecian wrth siarad," ebe Betsan Owen. Mynych yr adroddai ddywediad Salmon Parry, yr hen flaenor, ebe hi, sef am "beidio rhoi bwyd i bechod, ac y byddai'n rhwym o lwgu." Evan Owen Llieiniau, Rhos, oedd flaenor yma hyd 1859. Gwr gwybodus. Y Capten Henry Williams yr Hazel a ddaeth yma o Gaernarvon tuag 1858, ac a fu'n flaenor ffyddlon yma am oddeutu wyth mlynedd. Tuag 1857-8 y daeth Griffith Lewis yma. Yn flaenor yn y Four Crosses cyn hynny. Bu'n cadw cyfarfodydd i'r plant am beth amser ar ol y diwygiad. Griffith Lewis a William Pritchard, ill dau, a ddywedent yn hallt yn erbyn rhodianna ar y Sul, a myned i weled y races cychod yng Nghaernarvon. Yr oedd Griffith Lewis yn ddarllenwr cywrain. Cymerai fawr drafferth gyda'r atalnod, yr ynganiad, y pwyslais. Ambell waith, fe dreuliai amser yr ysgol ar ei hyd, ebe Mr. Edward Owen, er mwyn cael darlleniad o un adnod yn gywir. Yn wr dawnus. "Crefyddol gartref," ebe Betsan Owen. Bu farw yn 1888, wedi ei analluogi gan afiechyd ers blynyddau. Yn 1886, yn 72 oed, y bu farw Robert Jones Bodfan, yn flaenor er 1853. Amaethwr mwyaf y gymdogaeth, a'r blaenor mwyaf ei ddylanwad yn yr eglwys. "Byddai ar ei lawn hwyliau ar y cefnfor yn wastad," ebe Betsan Owen. Heb neilltuolrwydd dawn a chymeriad John Owen, efe oedd y grymusaf yn ei ddylanwad cyffredinol. Arferai ddweyd nad oedd dim neilltuol iawn wedi ei gymell ef at grefydd yn y cychwyn. Cymed- rolai ef beth ar halltni ceryddon Griffith Lewis a William Pritchard.

Oddeutu 1868 y dechreuodd Edward Owen bregethu. Yn y Deheudir y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Tuag 1870-1 y dewiswyd William Owen Caehalen mawr yn flaenor. Daeth yma ychydig yn gynt o'r Porthmadoc. Bu'n ffyddlon hyd ei farw yn 1890. Yn 1874 y dewiswyd Morris Jones Bwlan a William Jones Tŷ mawr. Bu W. Jones farw yn 1898, wedi dangos llawer o ffyddlondeb. Efe a ddiogelodd yn ei gof gryn lawer o'r hanes a gadwyd am eglwys Bwlan. Dewiswyd Methusalem Pritchard yn 1886, ac Isaac Jones Bryn glas yn 1890. Bu Isaac Jones farw yn 1894.

Tebyg mai yn 1868 y daeth Thomas Williams, Rhyd-ddu gynt, i drigiannu i'r ardal hon o Benygroes, lle bu yn preswylio yn ystod 1867—8. Erbyn hyn yn hynafgwr. Yn wr dymunol, dysyml, diniwed, diargyhoedd. Nid nerth meddwl oedd ei briodoledd, ond bywiogrwydd. Hopian yn ysgafn wnelai, megys aderyn, o frigyn i frigyn. Efe o bawb o bregethwyr y dosbarth hwn oedd yr amlycaf ynglyn â diwygiad 1859, yn arbennig ynglyn â'i gychwyniad. Gydag ef, yn wir, y teimlwyd yr awel gyntaf mewn amryw leoedd yn y sir. Awel fwyn Islwyn, rhy dyner i gyffroi y llwyn a orffwys yn yr hwyr gysgodau, a'i holl freuddwydion am y blodau,— enaid Thomas Williams oedd agored i'r awel fwyn honno, ac a gyffroid ganddi, megys ag y cyffroasid honno gan adsain rhyw nefolaidd gerdd neu fwynaf anadl angel. Cipid ef gan yr awel leiaf a chwyrliid ef ganddi fel deilen ar bren bywyd. Gwelir ei nodwedd yn amlwg yn yr amrywiol gyfeiriadau ato yn ystod hanes yr eglwysi. Medrai ddioddef sen yn ddistaw. Ar ryw achlysur, pan oedd Dafydd Morris yn y Bwlan yn ystod trigias Thomas Williams yma, ar waith Thomas Williams yn torri allan gyda'i "Ogoniant arferol, ebe Dafydd Morris, "Taw, Thomas, nid oes eisieu gwaeddi Gogoniant o hyd !" Ni ddigiai Thomas Williams ddim. Eithr er ei dynerwch a'i addfwynder, medrai fod yn hallt ar dro pan fyddai eisieu. Gofynnai i wraig ar y ffordd unwaith, ag yr achwynwyd wrtho am dani, "Sut flas wyti'n gael efo chrefydd? A oes dim yn bosib dy godi o'r llaid budr yna ?" Ac y mae lle i feddwl ddarfod i'r saeth lynu. Gwelwyd rhai o wŷr y gorfoledd yn fud ar wely angeu; ond gorfoleddus oedd Thomas Williams yno hefyd. Yn y flwyddyn 1871, efe a aeth i'r "Gogoniant " y gwaeddodd allan yn yr olwg arno o bell gynifer o weithiau.

Yn 1875 y derbyniwyd John Jones yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel pregethwr.

Yn niwedd 1878 treuliwyd £45 ar lanhau a phaentio'r capel. Yn 1883 adeiladwyd ysgoldy ac ystabl ar draul o £178.

Hydref 9, 1896, y bu farw Dafydd Morris, yn 73 oed, wedi trigiannu yma yn ystod y 10 mlynedd olaf o'i oes. Daeth yma o Gaeathraw. Dilynai ei alwedigaeth fel amaethwr yma, ond caffai hamdden i wneud llawer o wasanaeth i'r eglwys; ac yn absenoldeb bugail rheolaidd yr oedd y gwasanaeth hwnnw o werth mawr. Llawer o droadau oedd i'w lwybr, ond ni fu heb arweiniad y Golofn. Yn flaenor yn y Carneddi yn 24 oed, fe ddechreuodd bregethu yn 28 oed. Treiglodd o le i le: trigiannodd yn Dublin (am chwe mis), Caernarvon, Trefriw, Bontnewydd, Caeathraw, ac yn olaf yn y Bwlan. Bu'n berchen ffoundri yng Nghaernarvon, ond amaethwr ydoedd yn y lleoedd eraill, ac wrth reddf. Nid oedd yn ymlyngar wrth le, ac feallai ei fod yn lled anibynnol ar bersonau. Yr oedd yr un pryd yn gartrefol a siriol. Bu Betsan Owen gydag ef mewn gwasanaeth. Canai Betsan i'r maban, "Gog, gog, meddai'r gog." "Be wyti'n ddeud wrth y plentyn, dywed?" "Bwytewch chi'ch browes,— dyna fo'n barod ichi ar y pentan," ebe Betsan. Yntau yn galw ar Mrs. Morris, "Rhaid i chi edrych ar ol yr eneth yma: y mae hi'n canu, 'Gog, gog, meddai'r gôg' i'r plentyn." Ebe Mrs. Morris, "Wel, y mae yntau'n darllen y papyr newydd yn lle darllen ei Feibl, onid ydi o? Mi fasai ganddo well lle i achwyn pe'n darllen ei Feibl." A diangodd Betsan y tro hwnnw. Dro arall, gofynnai Dafydd Morris i Betsan, "Ymhle y sonir am gapel yn y Beibl?" Yn yr un bennod yn Amos," ebe Betsan, ag y sonir am adladd wedi lladd gwair y brenin." "Dyna fi wedi fy maglu," ebe yntau. "Ai dyna y tro cyntaf i chwi gael eich baglu?" gofynnai hithau. "Nage," ebe yntau, "fe'm maglwyd lawer tro, druan ohonof." Yr oedd yn naturiol yn hoff o ymwneud â'r byd Yr oedd ei feddwl ef yn gyfryw, megys yr eiddo John Owen Ty'nllwyn, fel y gallai ymroi i negeseuau bydol, a myfyrio yn y gair hefyd, a'r naill a'r llall yr un pryd. Yr oedd efe yn llai dwys na John Owen, er yn fwy egniol fel siaradwr. Eithr yr oedd ei fryd yn fwyaf yn yr ysbrydol. "Crefydd," eb efe, "Crefydd,—byw i'r Bod Mawr,—oedd fy mhwnc i bob amser; ond fyddwn i'n gwneud fawr o stŵr efo hi." Bu ei wasanaeth o werth yn yr eglwysi lle cartrefai, a gelwid ef weithiau i gynnal seiat yn yr eglwysi cymdogaethol. Feallai mai mewn cadw seiat yr oedd ei ragoriaeth pennaf. Yma yr oedd ei hunanfeddiant tawel, ei graffter mewn adnabod dynion, ei deimlad cuddiedig, a chysondeb ei feddylfryd yn y Gair, oll yn wasanaethgar iddo. Daeth gwr i'r seiat i'r Bwlan o garictor go hynod. Aeth Dafydd Morris ato i ymddiddan. Wrth ei weled ef yn sefyll, archodd y gwr iddo eistedd i lawr. Aeth y gweinidog ymlaen, pa fodd bynnag, yn ddigyffro, megys heb glywed yr arch, gan ymgomio yn dawel gyda'r gwr. Yr oedd rhyw gyffyrddiad o'r llugoer yn ei ddull yn achlysurol. Elai at un hen chwaer, a chwynai honno fod yn ddrwg ganddi nas gallai hi ddilyn y moddion yn well, heb ddim anhwyldeb neilltuol arni chwaith, heblaw diffyg gwynt. Sylwai yntau na wyddai efe am un diffyg mwy na hwnnw. "O ba beth y mae pobl yn marw," gofynnai, "ond o ddiffyg anadl?" Byddai'n gartrefol bob amser. Ar un tro, pan ddigwyddodd y seiat fod ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn, fe ddymunai flwyddyn newydd dda i bawb efo'i gilydd yn y lle. Daeth henwr i'r seiat yn 80 mlwydd oed, Griffith Morris wrth ei enw. "Fedrwch i'ch pader?" gofynnai'r gweinidog. "Na fedraf wir, syr." Dreiwchi ddeud o ar fy oli?" Dywedodd y pader bedair gwaith yn olynol, yr hen wr yn ei adrodd ar ei ol bob tro. Ar ol dod i'r seiat y dysgodd yr hen wr hwnnw sillebu. Ar ei wely angeu, ymhen pedair blynedd, fe ddiolchai i Dafydd Morris yn bersonol am mai efe a ddysgodd iddo'i bader. Gallai ddangos tynerwch, pan farnai efe fod eisieu. Gofynnai i henwr syml, ond cywir, "Wel, Robert Thomas, beth sy ganddoch i?" "Dim neilltuol." "Dim heb fod yn neilltuol, onite ?" Edrychiad yr hen wr yn dangos na ddeallai. "Da, was da a ffyddlon, ydi canmoliaeth y Barnwr i'w bobl," ebe'r gweinidog. "Yr wyf yn gweld eich bod chwithau'n ffyddlon." Cododd ysbryd yr hen wr syml gyda'i eiriau. Fe fyddai ganddo ambell i sylw cryno, megys pan gyffelybai fyned i mewn i adnod i dorri tynel mewn gwaith mŵn—bod eisieu dechre yn y pen iawn. Yn ddedwydd yn yr ordinhad o fedydd, ebe Betsan Owen. Ni siaradai lawer. Rhoe'r pennill, "Bugail Israel" allan yn gyffredin, a daliai y plentyn yn ei freichiau wrth weddio. Bedyddio plentyn am ddau prynhawn Sul un tro. Nid oedd y tad yn aelod, ond galwyd ef ymlaen i'r sêt fawr gan y gweinidog. Wedi cael y bychan i'w freichiau, ebe fe, "Fy mheth bach clws i, 'rwyti'n llawer callach na'th dad, 'rwyti wedi dod i'r seiat o'i flaen o!" Pwy oedd yn y seiat nesaf ond y tad hwnnw! Yr oedd y dyn yn tywynnu allan yn y pregethwr. Unigrywiaeth oedd ei nodwedd fel dyn ac fel pregethwr. Nid elai'r unigrywiaeth yn hynodrwydd. Siaradai yn naturiol. Dywedai geneth o forwyn, ar ol ei wrando unwaith, mai siarad oedd y pregethwr hwnnw ac nid pregethu. Dywedai'r Parch. Thomas Roberts yn ei gynhebrwng mai'r rhan gyntaf o'i bregeth oedd yr oreu, er fod y rhan olaf ohoni yn dda, wedi ei threiddio gan nwyd sanctaidd; ond y gwelid ei feddwl yn gweithio yn y rhan gyntaf, yn symud y rhwystrau ac yn palmantu ei ffordd at y nôd. Eithr nid oedd hynny ychwaith wir bob amser. Yn ei flynyddoedd olaf, o leiaf, fe fyddai yn aml yn y rhan gyntaf yn ymbalfalu heb gael gafael. A'r un modd yn ei gyfarchiadau ar adegau, yn y Cyfarfod Misol a lleoedd eraill. Ond odid na tharawai efe'r hoel ar ei phen cyn dibennu, pa ddelw bynnag. Fe godai ar dro yn rhannau olaf ei bregeth i ryw rymusder ysgubol. Rhyw hwyl hunanfeddiannol ydoedd yr eiddo ef. "Y mae arna'i awydd rhoi bloedd yn y fan yma!" Ac yna bloedd o'i rhywogaeth ei hun, bloedd yn deffro cywreinrwydd ac awch disgwylgar, ond nid yn cymeryd meddiant ar bob cynneddf ar unwaith, fel eiddo'r Dafydd Morris arall hwnnw o'r Deheudir gynt. Fe fyddai ganddo ambell i sylw a lynai yn y cof, megys yr un a edrydd Mr. J. J. Evans, a glywodd efe ganddo pan yn llencyn. Pregethu yr ydoedd ar y geiriau, "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain." Eglurai mai ystyr "gweithio allan " gweithio allan " yma ydoedd gwaith y mwnwr yn tyllu drwy'r graig: rhyw ddiwrnod fe dyrr drwyodd i oleuni dydd. Gweithio allan iachawdwriaeth ydyw ei gweithio allan i amlygrwydd yngwydd y byd. Fe ddeuai pregeth Dafydd Morris fel wê pryf cop allan o'i fol ei hun. Gweuai ei we yn eithaf main ac yn eithaf hamddenol, gan sicrhau bob pen â glud ar ystlysau y gornel ym mhlasdy'r brenin. Yr oedd efe, hefyd, yn wr o gynghor yn y Cyfarfod Misol. (Goleuad, Hydref 16, 1886, t. 12; 23, t. 8, 10; 30, t. 7.)

Daeth Thomas Williams y Wylfa yma o'r Fron, Llanfaglan. Yr oedd efe yn swyddog ym Mhenygraig, a galwyd ef yma. Oddiyma efe a aeth i Glanrhyd yn 1899.

Yn 1892 y daeth John Rogers yma fel bugail. Yr oedd tŷ y gweinidog wedi ei adeiladu erbyn 1894. Y tir, sef yr wythfed ran o erw, yn rhodd Mr. Henry Hughes Caernarvon, a'r tŷ, gwerth £600, yn rhodd Thomas Williams, oddigerth cludo'r defnyddiau gan amaethwyr y gymdogaeth.

Dechreuodd William Jones Caedoctor bach bregethu yn 1891. Derbyniodd alwad yn fugail i Fôn.

Yn 1894 dewiswyd Robert Thomas a John Hughes yn flaenoriaid.

Adeiladodd Thomas Williams ysgoldy y Morfa ar ei draul ei hun, gan ei gyflwyno i'r Cyfundeb. Agorwyd ef yn 1895.

Yn 1898 dewiswyd Richard Jones a Robert Evans yn flaenoriaid.

Edrydd Betsan Owen am rai cymeriadau a fu yma heb fod mewn swydd. Rhys Owen, tad John Owen. Ddim yn flaenor, ond yn cymeryd gwaith blaenor. Ei Salm, "O'r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd," ac yn arbennig y geiriau, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?" "Rhys sy'n dweyd ar ol y Salmydd," eb efe wrth ddarllen. Ar ei weddi, "Symud yr anwireddau cyn i ni ddod i sefyll o'th flaen. 'Dallwn i ddim sefyll heb symud yr anwireddau." William Thomas a arferai sôn am bethau rhagluniaeth fel yr elor yn dod i ymofyn y corff. Darllenwr mawr ar ei Feibl, a gweddiwr mawr. Gair Hugh Roberts yn derfyn ar bob ymryson. Yr oedd Hugh Roberts yn berchen buwch ragorol, ond yr affaith iddi, hi fwriai ei llestr wrth ddod a llo. Awd i werthu'r fuwch. Prynwr yn dod ymlaen. Hugh Roberts yn adrodd am helynt y fuwch. Ei wraig yn ymyrryd. "Faswn i ddim yn ei gwerthu, onibae am hynny," ebe yntau. "Gwell gen i iddi farw gen i na chanddo fo, heb iddo wybod ei hanes. "Mi prynaf i hi," ebe'r prynwr. Hanes y fuwch honno ydoedd, er iddi fwrw ei llestr chwech neu saith o weithiau o'r blaen, na ddigwyddodd mo'r peth ond hynny. Rhaid bod Hugh Roberts yn ddyn neilltuol, canys fe ddywed Betsan Owen fod ei edrychiad ef yn fwy effeithiol na gair rhywun arall. Ni chanmola Betsan Owen mo bawb, canys hi a ddywed am un gwr yn ei weinyddiadau cyhoeddus, ei fod gyn syched a hen leiaden.

Dywedir hefyd am Elin Jones Cae'rloda yr arferai hi ddyled- swydd deuluaidd ei hun, gan nad oedd ei gwr yn aelod. Catrin Michael, gwraig William Ifan, a ddeuai o Abermenai, bedair milltir a hanner o ffordd at wasanaeth y Sul. Arosai yn yr ardal at oedfa'r hwyr, er mwyn cael yr hufen i gyd. Deuai ei gwr, yr hwn na ddilynai y moddion ei hun, i'w chyfarfod ar y ffordd yr hwyr. Os y byddai'r tywydd yn ddrycinog, hi arosai dros y nos. Gwnaeth hynny'n gyson am ddeugain mlynedd. Gan Marged Evans Cae Lywarch fe geid profiad ym mhob seiat. Ebe hi unwaith, " 'Does dim yn bosib cael dim gwell na gair Duw yn y cof. Mor ryfedd yw'r ymadrodd hwnnw, 'Bachgen a aned i ni, Mab a roddwyd i ni.' Bachgen'—mor agos atom!" Pethau o'r fath i'w cael ganddi nid yn anaml. Ar ol i Rhys Owen gadw'r ddyledswydd a myned at ei waith, fe fyddai Catrin ei wraig, sef merch Robert Roberts Clynnog, yn gweddïo arni ei hunan am ysbaid hanner awr. Bu yn arferiad gan ryw rai fyned tuag yno mewn modd dirgelaidd i'w gwrando. Hi a'i gwr wedi dod yma o ardal y Capel Uchaf at ddiwedd eu hoes. Marged Davies Penycae ac Ann Roberts Ty'nlonddwfr oedd ferched neilltuol o ran crefyddolder eu hysbryd. John Elias yn ewythr i Ann Roberts, o gefnder ei thad. Hi oedd y ddiweddaf yn yr ardal i wisgo'r hen het silc fawr. Mrs. Williams, gwraig y Capten Henry Williams, oedd nodedig yn ei chrefyddolder. Tra lletygar i bregethwyr Hi a'i gwr o gymorth mawr i'r achos. William Thomas Caehalen bach, gwr cymhariaeth yr elor, mae'n debyg, oedd gofiadur hynod. Adroddai am chwarter awr bregethau a glywodd er's degau o flynyddoedd. Dafydd Morris yn cael mêl ar ei fysedd wrth wrando arno, ac yn myned i'r hwyl ei hunan ar ei ol. I John Williams Ysgubor fawr, y lle nesaf i'r nefoedd yn y byd i gyd oedd capel Bwlan. Dyma adroddiad yr ymwelydd, adeg Canmlwyddiant yr Ysgol: "Dechre yn brydlon. Prin neb yn dilyn y wers—daflen. Cedwir ysgol y plant mewn ystafell gyfleus. Defnyddir y gwers-lenni yno, ond nid yn ddigon cyffredinol. Canu yn cael ei ran deg o'r amser yma. Yr arolygwr yn deall ei waith. Athrawon cymwys. Holi gwell na'r cyffredin ar y diwedd.—John Roberts."

Dywed Mr. Edward Owen na welodd efe erioed mo'r gras o brydlondeb a chysondeb gyda'r moddion yn fwy amlwg yn un man nag yn y Bwlan yn yr amser a gofir ganddo ef.

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1892, 232; ar ddiwedd 1900, 237.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ysgrif o'r lle. Nodiadau gan Mr. John Jones Tŷ mawr, a'r Parchn. J. J. Evans ac Edward Owen Gilfachgoch, Morganwg. Ymddiddanion âg amryw.