Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Brynrodyn
← Salem, Llanllyfni | Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog gan William Hobley |
Bwlan → |
BRYNRODYN.[1]
FE orwedd Brynrodyn tua hanner y ffordd rhwng Caernarvon a Chlynnog, ar y ffordd uchaf, yn rhan uchaf plwyf Llandwrog. Saif rhwng dau bentref bychan, sef Dolydd byrion a'r Groeslon. Fel yr arwydda'r enw, y mae'r capel ar godiad tir, nid nepell oddiwrth odyn y Felin Forgan. Fe saif ynghanol golygfa arddunol, rhwng môr a mynydd. Mynyddoedd yr Eryri tu cefn, y môr o'r blaen, gyda'r Eifl ar y chwith yn benrhyn pell, a gwastadedd Môn ar y dde i'w ganfod mewn rhan.
Saith ugain mlynedd yn ol nid oedd y boblogaeth ond prin, a chyflwr y bobl ydoedd eiddo gwerin gwlad yn gyffredin. Gwasanaethu ar amaethwyr yr oedd y rhan fwyaf, a rhai yn gweithio yn y chwareli. Yr oedd y Golomen yn hofran oddeutu yma heb le i roi ei throed i lawr. Nid ydys yn sicr bellach am yr union amser y cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y Dolydd byrion. Cytunwyd â gwraig y dafarn am le cyfleus a lluniaeth. Erbyn dod yno, pa fodd bynnag, yr oedd y bobl a ymgasglodd ynghyd mewn eithaf cywair i lesteirio'r moddion. Nid oedd fymryn o seibiant i'w gael, a churid tabyrddau yn fyddarol. Gwneid y cyfan dan rith amddiffyn yr eglwys wladol. Cyhoeddwyd y moddion yn Rhostryfan. Fel yr eid tuag yno, dyma swn y tabwrdd bygythiol i'w glywed yn y pellter drachefn. Ond yn y fan, tawodd yn ddisymwth. Aeth y tab- yrddwr i grynu, fe ymddengys, rhag ofn disymwth a'i daliodd, fel na fedrai fyned ymlaen. Awd â'r gwr i dŷ, lle porthwyd ef â diod er ei galedu ar gyfer ei orchwyl; ond pan ddaeth efe i'r un man ag o'r blaen, dyma ef eto yngafael y grynfa dost. Rhoi heibio'r amcan, a dychwelyd i'r dafarn. Cafwyd llonyddwch bellach gyda gwaith y cyfarfod. Mae Robert Jones, wrth adrodd yr hanes, yn rhoi ar ddeall ei fod ef yno, a dywed pan oeddynt hwy yn dychwelyd o'r moddion ddarfod i'r terfysgwyr ollwng rhai ergydion uwch eu pennau, a bod un wraig feichiog gerllaw wedi cael y fath fraw ag a fu'n angeu iddi.
Eithr fe gludodd y Golomen yr olewydden werdd yn ei gylfin. Yr ydoedd Ifan Sion Tyddyn mawr wedi ymuno â'r eglwys yn Llanllyfni oddeutu 1768, a chedwid ambell oedfa achlysurol yn ei dý ef. Nid oedd yma bregethu cyson, pa fodd bynnag, hyd y flwyddyn 1773, sef yr amser y daeth Sion Griffith a'i wraig Elsbeth i fyw i ffermdy Brynrodyn; ac yma y disgynnodd yr Arch, ar ol bod am amser maith ar wyneb y dyfroedd. Y dynion amlwg gyda'r gwaith yn ei gychwyniad hwn, heblaw Sion Griffith, oedd Ifan Sion a Robert Hughes Cae Llywarch. Robert Hughes a fu farw cyn bo hir.
Mab oedd Sion Griffith i Owen Griffith Dynogfelen fawr. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, a thyfu i fyny yn fachgen gwyllt anystywallt a ddarfu yntau. Aeth i wasanaeth i'r Graianog yng Nghlynnog. Llanc cryf o gorff, gydag iaith fras gymhleth â llwon a rhegfeydd. Un diwrnod yr oedd yn cydgau clawdd terfyn â Rowland Williams Henbant mawr. At yr hwyr, ebe Rowland Williams, "Sion, pe caeti ddafad am bob llw a roddaist ti heddyw, byddit gyfoethog iawn !" Suddodd y gair i feddwl Sion, arwydd sicr o'i reddf grefyddol, canys ni chafodd efe nemor neb i'w rybuddio hyd hynny. Ond er brathiad cydwybod, suddo i'r un hen arfer ddarfu Sion am ysbaid. Yn y cyfamser fe ymbriododd âg Elsbeth, merch y Penbryn bach, Llanllyfni, ac aeth yno i fyw. Pan syrthiai, yn ol hyn, i'r arfer o dyngu, fe ychwanegai yn y fan, fel un wedi ei ddal yn ddiarwybod iddo'i hun, "Duw fo'n maddeu i mi!" Ebe ei frawd-ynghyfraith wrtho ar un tro felly, "Sion, rhaid iti naill ai tyngu yn dy hen ddull, neu beidio â thyngu o gwbl; ac onide, mi a'th laddaf â'r gyllell wair yma!" Ar y ffordd i geisio gwair yr oeddynt ar y pryd. Wedi dychwelyd gyda'r baich gwair, wele Sion yn myned i'r ysgubor i weddïo. A dyma, fel yr adroddir, faich y weddi: "O, Iesu Grist, os medri di wared pobl rhag pechu, gwared fi rhag tyngu." A gwrandawyd gweddi Sion. Ar hynny, yn y man, fe ymunodd â'r eglwys yn Llanllyfni. Yr oedd argraffiadau crefyddol ers tro ar feddwl Elsbeth ei wraig hefyd, ond yr oedd ei rhieni yn wrthwynebol iddi ymuno â chrefydd ar gyfrif y draul arianol. Dywedai hi yn ei hen ddyddiau ddarfod i grefydd ddechre ymwneud â'i meddwl hi o flaen ei gwr, ond mai efe a ym- unodd â'r eglwys gyntaf. "Dos di i'r seiat," ebe hi wrth ei gwr, i edrych a ydynt yn hel arian." Wedi cael boddlonrwydd ar y pen hwnnw, hithau hefyd a ymunodd. Eithr gorfu arnynt ymadael â Phenbryn bach, o achos eu cysylltiadau crefyddol, a dyna'r fel y daethant i Frynrodyn. Gosododd Sion Griffith ffenestr yn nhalcen ei dŷ newydd, er cael goleu i'r gwasanaeth crefyddol a fwriadai gael yno, a dododd bulpud hefyd o'i fewn. Rhoddes fwyd a llety ar ei draul ei hun i'r pregethwr a ddeuai yno ar ei dro am ysbaid 15 mlynedd. Llwyddwyd ymhen amser i gael Brynrodyn yn daith gyda Chlynnog a Llanllyfni.
Parhae yr aelodau eglwysig i fyned i Lanllyfni am faith flynyddoedd. Diau mai ofn cael eu colledu yn ormodol yr oedd y ddeadell fechan yno. Ymhlith y rhai a elai yno oddiyma yr oedd Ifan Sion Tyddyn mawr a'i wraig, Sadrach ac Elinor Griffith Cae cipris, Owain a Jane Parry Groeslon, William ac Elinor Griffith Gegin fawr.
Ymhen 16 mlynedd ar ol i Sion Griffith ddod i Frynrodyn y cafwyd tir i adeiladu capel arno, sef yn y flwyddyn 1789. Y mae gweithred penodi ymddiriedolwyr newydd yn 1829 yn cyfeirio at hen brydles 1789, a wnawd rhwng John Williams Penllwyn, ar y naill law, ac, ar y llaw arall, Thomas Charles Bala, Evan Richard Caernarvon, John Roberts Buarthau, John Griffith Brynrodyn, ac Evan Jones Tyddyn mawr, am "30 perches," neu 14,23 rhwd o dir o fferm Brynrodyn, sef y darn a elwid Cae bryn. Fe eglurir yn y weithred fod pedair coeden onnen yn tyfu ar ochr ddeheuol y cae. Hefyd fod rhyddid i gludo cerryg at adeiladu o Gae'rbeudy. Y brydles am 99 mlynedd o 1789, ar yr amod o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddïo, darllen a deongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r Hollalluog. Y rhent yn ddeg swllt y flwyddyn, a'r capel i'w godi o fewn tair blynedd. Gwr eglwysig oedd John Williams.
Naw llath wrth wyth oedd maint y capel, â llofft ar un talcen. iddo, ebe Mr. Owen Hughes. Dywed ef yr arferai Meyrick Griffith a'i alw yn gapel y chwe phecaid o galch, am mai hynny o galch aeth i'w wneuthuriad.
Tybir ddarfod i'r capel gael ei godi yn 1789, ac i'r eglwys gael ei sefydlu yma yn ystod yr un flwyddyn. A bernir ddarfod i 15, neu oddeutu hynny, o aelodau dorri eu cysylltiad âg eglwys Llanllyfni i'r perwyl hwnnw. Yr oedd Sion Griffith ac Ifan Sion eisoes yn gweithredu fel blaenoriaid yma o Lanllyfni. Dyma'r pryd y daeth Elinor Griffith, gwraig Sion Griffith, a Sadrach Griffith, gwraig Ifan Sion, Owen a Jane Parry Groeslon, William ac Elinor Griffith Geginfawr. Bellach y mae y ddau flaenor yn ymroi gydag ynni adnewyddol i waith eu swydd yn eu cartref eu hunain. Buont nifer o weithiau yn Llangeitho, lle deuai pregethwyr ynghyd, ar gais am genhadon ar deithiau drwy'r Gogledd.
Methodistiaeth Cymru yw'r awdurdod am y rhan fwyaf o lawer o hanes Brynrodyn yn ei gyfnod cyntaf. Sonir yno am ryw ddydd Sadwrn, pryd y pryderai Elsbeth Griffith yn fawr am nad oedd ganddi luniaeth priodol ar gyfer y pregethwr dieithr a ddisgwylid y Sul. Diau fod hwnnw yn rhywun. Aeth Elsbeth at gyfeilles iddi yn y Foryd, bellter ffordd, i fenthyca swllt. Wedi cerdded yr holl ffordd yno ac yn ol gyda thraed noethion, ow! un goeg oedd y gneuen! Swllt drwg a dywynnai yn ddwl ar gledr llaw Elsbeth druan! Ni ddigalonodd Elsbeth serch hynny, canys yr oedd hi o ddeunydd gwydn. Crynhodd ynghyd y blawd ceirch yngwaelod y gist, ac ymaith â hi gydag ef i Gaernarvon, tua phedair milltir o ffordd. Rhaid fod y gwr dieithr yn rhywun, canys nid diffyg ymborth oedd yn nhy Elsbeth, ond diffyg ymborth cyfaddas i'r fath wr ag ef. Canys, ar ol bod yn Llangeitho yn chwilio am bregethwr, rhaid rhoi rhywbeth o'i flaen ef amgen na thorth geirch.
Ni ddarfu Ifan Sion groesawu pregethu i'w dy pan gafodd ef gyfle, yn y dull y gwnaeth Sion Griffith, pa beth bynnag oedd y rhwystr. Er, fel y gwelwyd, fod yno bregethu achlysurol cyn dyfod o Sion Griffith i'r ardal. Ifan Sion, er hynny, ar ystyriaethau eraill, oedd y dyn mwyaf nodedig. Heb sôn am fod yn fwy pwyllog, yr oedd hefyd yn fwy gwybodus, ac yn meddu ar fwy o ysbryd barn. Ac efe a gafodd argyhoeddiad nodedig. Yr oedd ar y pryd yn gweithio yn un o gloddfeydd y Cilgwyn, a elwid Cloddfa'r-clytiau. Yn gydweithwyr iddo yr oedd William Sion Pandyhen, y blaenor nodedig o Lanllyfni, ac Ifan Sion Caehaidd, ac eraill. Yr oedd pregeth i fod yn Ffridd-bala-deulyn am hanner dydd. Mawr oedd awydd William Sion am fyned yno, ac eto ofn sôn arno wrth ei gydweithwyr, rhag dangos ohonynt anfoddogrwydd. Sôn a wnaeth efe o'r diwedd. "Taw â dy swn," ebe fe o'r Caehaidd. "Taw â dy swn efo dy bregeth, Wil, a dos ymlaen efo'th waith." Distaw, heb ddweyd dim, oedd gwr y Tyddyn mawr, ac efe a ofnid fwyaf. Dyma'r amser i fyny, pa fodd bynnag, ac heb ganiatad ei gydweithwyr, ymaith â William Sion i'r bregeth. Erbyn cyrraedd y lle, pwy a'i dilynai ef, encyd o ffordd oddiwrtho, ond ei ddau gydweithwyr. Hon oedd y bregeth gyntaf a glywodd Ifan Sion Tyddyn mawr gan Ymneilltuwr. Yn y canlyniad, efe a ymunodd â'r eglwys yn Llanllyfni, yr hyn a ddigwyddodd tua'r flwyddyn 1768. Cynhyrfodd ei wraig yn dost. Hi a gytunodd yn y man, pa fodd bynnag, i fyned gyda'i gwr yn y bore ond iddo yntau ddod gyda hi i'r eglwys wladol yn yr hwyr. Argyhoeddwyd hi'r bore cyntaf, a chyda'i gwr yr aeth yr hwyr hefyd, ac ymunodd â'r eglwys gyda'i gwr y cyfle cyntaf. Dywedai William ei mab am dani na welodd ef ddim tywydd a rwystrai ei fam i'r seiat yn Llanllyfni. Cyfrifid Ifan Sion yn wr egwyddorol, ac yr oedd iddo'r enw o fod yn hallt yn erbyn pechod. Wrth ymliw ohono â rhyw frawd am yr hyn a gyfrifid ganddo ef yn anweddeidd-dra, troes hwnnw ato gyda'r cwestiwn, "Ifan, a ydych yn fy ngweled wedi colli fy lle?" Yr ateb oedd, "Pa haws i mi dy weled di, Wil, onibae iti dy weled dy hun!"
Deuai rhai i'r capel o ardaloedd Rhostryfan, Carmel a Llandwrog. Deuai John Roberts yma o Lanllyfni gyn amled ag a allai, ac Evan Richardson a Robert Roberts hefyd ar eu hynt. Llwyddodd John Roberts i gael Beiblau i'w gwasgaru yn yr ardal. Yr oedd efe yn fawr ei fri yma.
Nodir amryw bersonau gan Mr. Owen Hughes a ddaeth i'r eglwys ar ei sefydliad neu ynte cyn bo hir iawn ar ol hynny. Dyma ei restr ef: Owen David a Jane Hughes Traian, William a Jane Hughes Tŷ tân, Thomas Jones ac Ann Roberts Bryngoleu, William Edward ac Ann Williams Cae'rymryson, Ellen Williams Bodangharad, Griffith Pritchard ac Elizabeth Williams Penlan, John Roberts a Catherine Evans Grugan ganol, Owen Dafydd a Catherine Williams Beudy isaf, Griffith Morris Dolydd, Robert a Martha Thomas Gerlan bach, Ellen Williams, William Bevan, Solomon Parry.
Ni chafodd Bryn'rodyn yn ei gyfnod cyntaf mo'r lliaws ymweliadau nerthol a brofwyd yn Llanllyfni, ac yn enwedig yn y Capel Uchaf. Parai hynny radd o sylw ac ymofyniad mewn dieithriaid yn enwedig. Ar ei rawd y ffordd honno, gofynnai Charles i Sion Griffith, "Pa fodd yr ydych yn gallu dal ati fel hyn. drwy'r blynyddoedd, Sion Griffith ?" "Wel, Mr. Charles," ebe yntau, "cael ambell gylch y byddaf, onide ni ddaliwn i ddim yn hir. Mae gan Dduw gylch a ddeil o'u hamgylch hwy." Edrychai John Jones Edeyrn ar y pwnc yn ei ffordd ei hun. Efe a ddywedai fod pobl Brynrodyn yn cael braint fawr iawn, sef cael dod at grefydd mewn gwaed oer. Ni bu'r eglwys hon, er hynny, ddim heb ymweliad. Fe brofwyd un go neilltuol tua'r flwyddyn 1793, pryd y chwanegwyd lliaws at yr eglwys.
Honir weithiau mai yma y cyfodwyd yr ysgol Sul gyntaf yn Arfon, a bod hynny yn 1790. Mae'r honiad mai hon oedd y gyntaf yn bendant yn erbyn tystiolaeth John Owen Henbant bach, yr hwn yr oedd ei ddyddordeb yn fawr iawn yn yr achos. P'run bynnag, dichon nad oedd nemor wahaniaeth rhwng amser sefydlu'r ysgol yma ac yn y Capel Uchaf. Cynelid ysgol er addysg grefyddol ar un noswaith o'r wythnos yn ystod y gauaf cyn hynny. Sion Griffith, Ifan Sion ac Owen Parry, tad John Parry Caer, oedd yr athrawon yn hon fynychaf. John Parry a gynorthwyai ei dad weithiau, ac felly William Ifan mab Ifan Sion. Gofynnai'r bechgyn ieuainc hyn, onid ellid cael yr ysgol ar y Sul, ac onid gwaith da fyddai hynny? Caniatawyd iddynt gynnyg ar y gorchwyl. Yr oedd yr hynaf o'r ddau, William Ifan, yn 17 oed. Calonogid hwy gan John Roberts. Ymadawodd John Parry cyn hir. Daliodd William Ifan at y gwaith arno'i hun, ac enillodd ddylanwad mawr ar feddyliau y bobl ieuainc.
Bu'r ysgol Sul yn foddion i ddarostwng llawer ar gynulliadau eraill a gynelid ar Sul a gŵyl. Rhybuddid yn erbyn myned i'r cyfryw gyfarfodydd, a bygythid y neb a elai y cawsai ei droi allan o'r ysgol. Aeth oddeutu dwsin o'r ysgolorion un Llun y Pasc i'r cyfarfod gwaharddedig. Y Sul nesaf, safodd yr athraw ar ganol llawr y capel, a hysbysodd am y trosedd. Galwyd y troseddwyr ymlaen. Ufuddhasant, gan gyfaddef eu trosedd. Yr athraw, ar ol cynghori yn garedig a roes y bygythiad mewn grym, a gorch- mynnodd iddynt fyned allan. A hwythau, er yn fechgyn wedi tyfu i fyny, gan mwyaf, a aethant yn ddof allan o'r ysgol. Y Sul nesaf, dychwelodd yr oll ohonynt ond un, ac ar eu hedifeirwch fe'u derbyniwyd. Ymhen rhai wythnosau daeth yr un hwnnw hefyd yn ol ar yr un amod a'r lleill. Effeithiodd hyn er darostwng y cyfarfodydd ofer braidd yn llwyr, ac am rai blynyddau ni ddenid aelod o'r ysgol yn y cyfryw fodd a hynny. Ymhen ysbaid fe ddaeth William Jones Plâs du, wedi hynny o Abercaseg, Carneddi, gan gerdded bum milltir o ffordd dros y mynydd, i gynorthwyo gyda'r ysgol.
Fe gadwyd yr ysgol nos ymlaen am 27 neu 28 mlynedd. Un o'r bechgyn a fagwyd yn ysgol Sul ac ysgol nos Brynrodyn oedd Griffith Davies Beudy isaf, a adnabyddid wedi hynny fel y cyfrifydd o Lundain. Daeth ef ymhen talm o amser i gynorthwyo gyda dwyn yr ysgol ymlaen. Cydnabyddai efe ei rwymedigaeth i William Ifan "am ddysgu iddo'r AB," drwy ddanfon iddo o Lundain bâr o ddillad eilwaith a thrachefn. Dewiswyd William Ifan yn flaenor yn 1799, pan yn 26 oed. Ymhen blynyddoedd fe symudodd i Rostryfan, wedi hynny i Landdeiniolen. Gwr o barch ac awdurdod, ac Israeliad yn wir. Yr un pryd y dewiswyd Robert Hughes Llwyn-y-gwalch. Aeth ef i'r Bwlan yn 1815, ar agoriad y capel yno. Yn lled fuan ar ol eu dewisiad hwy y daeth Henry Thomas yma i gadw Tyrnpeg Dolydd. Yr oedd ef yn flaenor cyn dod yma, ac ar ol, ond ni bu ei arosiad yn faith.
Rhoir enghraifft ym Methodistiaeth Cymru o Sion Griffith yn disgyblu. Yr achos oedd Ifan William Sion a Morgan y gwehydd wedi ffraeo a chwffio. Yr oedd Ifan William Sion eisoes wedi ei ddiarddel dair arddeg o weithiau am y cyffelyb drosedd. Efe a ddychwelai yn ol ar ol pob diarddeliad yn ostyngedig ac edifeiriol. Penderfynodd Sion Griffith o'r diwedd, er maint ei ddidwylledd, nad oedd yr ystranciau hyn ddim i'w goddef yn hwy. Wele Ifan yn y seiat, yn ol y diarddeliad diweddaf, yn edifeiriol fel arfer. Methu gan Sion Griffith a dal yn hwy: fe neidiodd ar ei draed: "Welwchi y drefn sydd ar y dyn!" ebe fe. "Mae'n ffiaidd. gen i dy glywed di, Ifan! mi deimlwn ar y nghalon boeri am dy ben di, Ifan!" Allan, gan hynny, y bu raid i Ifan, druan, fyned. Adroddir hefyd am dano yn gofyn barn yr aelodau ar ryw bwnc. Yr oedd hynny cyn y ddisgyblaeth olaf yna. Wrth fyned o'r naill at y llall, eb efe, "Mi basia i Ifan William Sion,—un go anianol ydi o." Sion Griffith yn unig o'r blaenoriaid oedd â'r dull garw hwn yn perthyn iddo. Blinid enaid Sion Griffith yn fawr gan dafarn yn yr ardal ag oedd yn lloches i lawer drygfoes, a chyhoeddodd felltith uwch ei phen. Arferai William Ifan ddweyd, yn ol hynny, fod ffydd wyrthiol yn eiddo Sion Griffith, am iddo felltithio tafarn yr Hen efail, ac iddi yn y canlyniad syrthio i wywdra a diflaniad.
Eithr pa faint bynnag o hynodrwydd a berthynai i Sion Griffith, hynotach nag yntau oedd ei wraig, fel y cafwyd golwg arni mewn. rhan eisoes. Cyfrifid hi yn fwy ei phwyll, yn fwy ei gwybodaeth, yn fwy ei gras na'i gwr. Yn raddol yr addfedai Sion, ar ol ei argyhoeddiad, mewn crefydd ysbrydol, a bu Elsbeth mewn petruster am flynyddoedd rai, a oedd ei grefydd ef o'r iawn ryw ai peidio. Hi a benderfynodd roi prawf arno. Yr oedd eisieu gwair i geffyl y pregethwr. Yn y ddâs yr oedd dwy fainc ar doriad. Yn y fainc nesaf i ben ucha'r ddâs yr oedd gwair llwyd a drwg; yn y llall, yn nes i ganol y ddâs, yr oedd y gwair yn beraidd a da. "Os oes twyll yn Sion," ebe Elsbeth wrthi ei hun, "fe rydd o'r gwair drwg i geffyl y pregethwr." Heb wybod fod neb yn llygadu arno, rhoes Sion o'r gwair goreu i geffyl y pregethwr, a thorrodd y ddadl ym meddwl Elsbeth o barth i'w grefydd. Cedwid cyfarfodydd holwyddori plant yn ei thŷ hi bob wythnos, a hi ei hunan yn fynych fyddai'r holwyddorydd. Y hi bob amser ddechreuai y canu, a dywedir fod pereidd-dra anarferol yn ei llais. Pan y torrai hi allan yn y gynulleidfa gyda'i, "O diolch," fe gerddai iâs o deimlad drwy'r lle. Mewn amgylchiadau isel a chylch cyfyng fe wnaeth Elsbeth Griffith yn odidog ragorol.
Dywed Cyrus yn ei ysgrif ar Lanllyfni y bu cynnydd o wyth ugain ym Mrynrodyn yn ystod diwygiad 1813, a darfod ei sicrhau am hynny gan wr cyfarwydd.
Yn 1815 y codwyd capel yn y Bwlan ac y ffurfiwyd eglwys yno yn y canlyniad, sef cangen-eglwys gyntaf Brynrodyn. Yr ail gangen o Frynrodyn ydoedd Rhostryfan. Adeiladwyd capel yno yn 1820, a sefydlwyd yr eglwys y flwyddyn ddilynol. Y drydedd gangen ydoedd Carmel, a chychwynwyd yr eglwys yno yn 1826.
Erbyn 1829, John Roberts oedd yr unig ymddiriedolwr yn fyw. Y flwyddyn honno chwanegwyd ato ef, Michael Roberts, John Jones Tremadoc, John Jones Talsarn, John Roberts Pwllheli, John Eames Cae'r cynstabl, David Owen Traian, Richard Williams Penybont, Griffith Roberts Brynrodyn, Meyrick Griffith Dolydd.
Yn 1829 y dechreuwyd adeiladu capel newydd, ac agorwyd ef yn 1830. Bwriadwyd iddo gynnwys 295; ond nid eisteddai hynny ynddo ar y cyntaf. Y draul yn rhywbeth llai na £300. Cludid yr holl ddefnyddiau gan yr amaethwyr. Gweithiwyd ar y muriau gan Meyrick Griffith; gwnawd y gwaith coed gan Griffith Roberts. Yr oedd llofft ar y ddau dalcen. Yn ddiweddarach rhoddwyd llofft i'r cantorion ar gefn y capel, a defnyddiwyd hi ganddynt hwy ar y cyntaf. Yr oedd awrlais ar wyneb y llofft honno, ebe Mr. Owen Hughes, ac yn argraffedig arno, " Rhodd yr Ysgol Sabbothol yn 1838." Ymhen blynyddoedd gwnaed rhyw gyfnewidiad yn llawr y capel, y sêt fawr a'r pulpud, er hwylustod y cantorion. Derbyniwyd rhoddion drwy lythyr cymun o bryd i bryd tuag at glirio'r ddyled, ac yn eu plith £20 gan Griffith Davies y cyfrifydd, a £30 gan Griffith Jones Foryd. Swm y ddyled yn 1850 oedd £30.
Daeth Griffith Roberts y saer coed i fyw i'r tŷ capel. Yr oedd ef yn swyddog cyn dod yma, ac ar ol dod; ond bu farw ymhen. rhyw gymaint gyda chwe blynedd. Dilynwyd ef yn y tŷ capel am ysbaid gan Griffith Williams, yr hwn a wnawd yn flaenor yma yn 1839. Symudodd i Cesarea yn 1842. Dilynwyd yntau gan Meyrick Griffith. Swyddogion y cyfnod hwn oedd John Eames Rhandir; Richard Williams Penybont, ac Evan Parry Gerlan, Tryfan, a ddewiswyd ill dau yn 1828. Ymadawodd yr olaf i Rostryfan, ond gwrthododd y swydd yno. John Hughes Grafog a Meyrick Griffith a ddewiswyd yn 1838.
Yn 1838 trefnwyd Carmel, Bwlan a Brynrodyn yn daith. Yn Awst, 1857, trefnwyd Brynrodyn i fod yn daith gyda Phenygroes. Yr oedd yr ysgol Sul yn ei llewyrch mwyaf yn y cyfnod hwn. Mae Mr. Owen Hughes yn manylu ar hyn. Rywbryd yn y cyfnod hwn fe benodwyd ysgrifennydd, ac ynglyn âg ef "stiwart." William Roberts Tyddyn mawr oedd y stiwart cyntaf. Nid yr arolygwr ydoedd ef, ond swyddog dano. Yr oedd dylanwad y swydd- ogion yn ymddangos "agos a bod yn anherfynol " i Owen Hughes. ieuanc. Darllennid rheolau'r ysgol ar y diwedd unwaith yn y mis gan yr arolygwr. Manylid peth ar eu hystyr weithiau. Y rheolau hynny yn argraffedig ar y llyfrau elfennol. Ceid hwy yn argraffedig hefyd yn y ffurf o fân lyfrynnau. Un reol oedd yn erbyn i aelod niweidio cloddiau a thorri o'r llwybrau, gan orchymyn cau llidiardau. Aeth un o'r bechgyn ar fore Llun, wrth fyned ar neges, drwy lidiart neilltuol. Troes, wedi myned encyd o ffordd, a gwelodd y llidiart yn agored. Dychwelodd yn ei ol a chauodd hi. Eb efe wrth Owen Hughes, yr hwn oedd gydag ef, "Y mae John Eames wedi darllen y rheol ddoe." Galwai yr ysgrifennydd enwau yr athrawon allan, gan ofyn am rif y dosbarth ac am y llafur. Yr oedd Owen Owen Tyddyn mawr yn frawd i Syr Hugh Owen. Gofalai ef am drefn yn yr ysgol; edrychai ar ol y llyfrau, gan eu nodi yn ol rhif y dosbarthiadau, a gofalu am eu rhoi allan yn y dechre a'u cadw ar y diwedd. Gwasanaeth pwysig, am fod y llyfrau y pryd hwnnw yn ddrud a'r arian yn brin. Hawdd gweled yr un gynneddf yn Owen Owen ag yn ei frawd Syr Hugh. Hen swyddog cyllidol oedd Henry Pritchard Hafod Ifan, a dreuliodd fore a chanol oes mewn gwledydd tramor yng ngwasanaeth y Llywodraeth, ac wedi ymneilltuo ar ei flwydd-dâl. Dylanwad neilltuol ganddo ar ddosbarth o fechgyn, a medr neilltuol ar linellau hanesiol a daearyddol. Griffith Griffiths oedd wr o Eifionydd, a ddaeth i fyw i Felin Forgan. Gramadegwr oedd ef, a lwyr dreuliodd Ramadeg Parry Caer. Deuai â'r Gramadeg i'r ysgol, achos o gŵyn dost gan yr hen frodyr, wedi dod ohonynt i ddeall am y peth. Ni bu ei arosiad yn y gymdogaeth yn faith, ond yn ystod yr arosiad hwnnw fe agorodd lygaid lliaws o ddynion ieuainc ar fyd newydd, ag yr aeth rhai ohonynt i mewn ymhellach iddo. William Parry hefyd a arweiniodd rai i'r un cyfeiriad a'r Gramadegwr o Eifionydd.
Athraw nid anhynod oedd Meyrick Griffith. Y Wyddor oedd ei bwnc ef y pryd hynny. "Beth ydyw hon?" "B." "Da iawn." "Beth ydyw hon?" "A." "Iä." "Beth ydyw hon ?" "R." "Da, ngwas i." "Beth ydyw hon?" "N." "Iä siwr." "Beth ydyw B-A-R-N-?" "Barn." "Iä, iä." "A fydd Dydd Barn, mhlant i?" "Bydd." Yna elai'r cwestiynau ymlaen o un i un: Pa bryd y bydd Dydd Barn? Pwy fydd y Barnwr ? A gawn ni ein barnu? Wrth ba beth y bernir ni? Holid gyda difrifwch arbennig. Troid y cwestiynau at bersonau: A gei di dy farnu, machgen i? A thithau?
Dosbarth y sillebu a darllen mân frawddegau oedd eiddo Morris Pritchard. Telid sylw manwl i ynganiad. Deng munyd i sillebu ar dafod leferydd ar ddiwedd y dosbarth. Efe a ddechreuai gyda geiriau unsill ac elai ymlaen hyd at eiriau nawsill. Lluniai derfyniadau i ambell air at ei wasanaeth. Un o'r cyfryw oedd, Morgymlawddeiriogrwydd. Rhoddai Morris Pritchard y gair allan bob yn sill, gan daro ei fys blaen ar gledr ei law aswy gyda phob sill, er mawr hwylusdod i'r ysgolheigion. Aeth yn ddiareb yn y gymdogaeth am sillebwr nodedig, "Mae hwn a hwn wedi bod yng ngholeg Morris Pritchard."Gosod allan y synwyr a chwilio'r mater y byddai Ifan Griffith Solomon yn ei ddosbarth ef. Mab ydoedd efe i Griffith Solomon, darllenwr mwyaf ei oes yn y pulpud, fel y cyfrifid ef gan y werin. Yr oedd Ifan Griffith yn deilwng fab i'w dad. Ar ddull cynllunwers y dyddiau hyn y dygai ef ei ddosbarth ymlaen, gan gerdded cam o flaen ei oes.
Yr arolygwr yn gyffredin fyddai'r holwr ar ddiwedd yr ysgol, a dewisid y pwnc ganddo ef ei hun. Holai Meyrick Griffith unwaith ar Falchder, ac arwyddion balchder. Ar ganol yr holi, "Daniel O'Brien," eb efe, "a welwchi yn dda gau y ffenestr yna. Y mae gen i wenyn yn yr ardd yna, ac y mae arna'i ofn rhag iddyn nhw ddod i mewn a disgyn ar hetiau y merched yna!" Yr oedd gan O'Brien ddosbarth o ferched ieuainc wrth y ffenestr oedd ar yr ardd. Fe ddywedir fod llai o flodau ar yr hetiau y Sul nesaf.
Gweithid yr ysgol gyda threfnusrwydd effeithiol; cyfartelid y dosbarthiadau yn ofalus; cynhelid cyfarfodydd athrawon; yn ddiweddarach penodid holwyr ysgol a materion; adroddid y Deg Gorchymyn, y naill Sul gan yr ysgol yn gyffredinol, y Sul arall gan y dosbarthiadau arnynt eu hunain.
Heblaw William Ifan, y soniwyd am dano o'r blaen, yr oedd John Eames yn perthyn i'r cyfnod hwn fel swyddog. Gwr o sir Fon, a sefydlodd yma drwy briodas â merch Daniel Griffiths Bryn eithin. Byrr fu ei dymor. Gofalus a threfnus. Bu farw yn 1850.
Richard Williams Penybont yn flaenor er 1828. Ysgrifennydd gofalus i'r eglwys, a mwy o ysgolhaig na chyffredin. Un o'r blaenoriaid pwysicaf a fu yn y lle. Bu ef farw yn 1875.
John Hughes Grafog oedd flaenor er 1838. Perchid ef ar gyfrif ei grefyddolder. Braidd yn llym yn y cyfarfodydd eglwysig. Ffyddlon fel casglydd i'r Feibl Gymdeithas drwy'r holl blwyf. Byrr ei ddawn; hir ei amynedd. Dylanwad ar bob dosbarth o fewn ei gylch ef. Yntau hefyd yn un o flaenoriaid pwysicaf y lle. Bu farw yn 1875, ef a Richard Williams yr un flwyddyn. Mab iddo ef ydyw Mr. Owen Hughes.
Meyrick Griffith oedd y blaenor arall perthynol i'r cyfnod dan sylw. Oferwr yn ei ieuenctid. Y pryd hwnnw yn gwasanaethu gydag amaethwyr. Wedi ei ddychwelyd at grefydd, fe ddysgodd ddarllen, ac hefyd grefft saer maen. Daeth yn enwog yn y grefft honno, fel y dywedid am dano na wnelai mo'r adeiladau a godid ganddo ef, na thŷ na chapel, ddim gollwng dwr i mewn. Peth amheuthyn mewn tŷ a chapel. Adeiladau cryfion, diaddurn a godid ganddo. Yr oedd capel y Bontnewydd cyn ei newid yn ddiweddar yn enghraifft o'i lafurwaith ef, ac nid yn fynych y gwelid y fath gadernid diaddurn. Crynhodd ynghyd beth gwybodaeth gwasanaethgar iddo fel athraw. Dywed Mr. Evan Jones Dolydd ei fod mor gyfarwydd yn naearyddiaeth gwlad Canaan ag yn naearyddiaeth plwyf Llandwrog. Y diwinydd ymhlith y blaenoriaid; ac yr oedd Cyfiawnhad John Elias yn llyfr mawr ganddo. Holwr ysgol gwych, yn hwylio ymlaen yn ddiofal wrth ei ewyllys, ac yn tynnu ysbrydoliaeth oddiwrth amgylchiadau y foment. Yn neilltuol o ddedwydd fel holwr plant. Dirwestwr aiddgar. Cafodd gladdedigaeth anarferol o fawr ar y 29 o Ragfyr 1873. Yr ydoedd wedi tyfu fel cedrwydden yn ei le, a theimlid colled fawr wedi ei ddiwreiddio o'r lle hwnnw.
Yn 1851 y daeth John Jones yma o Ryd—ddu. Daeth i gadw siop i'r Groeslon. Yn 1855 y gwnawd Griffith T. Edwards a John Hughes Cefnen yn flaenoriaid. Bu John Hughes farw yn 1857. Yn 1857 y dechreuodd David Roberts bregethu. Symudodd i'r Penmaenmawr yn 1866.
Yng ngweinidogaeth Thomas Williams Rhyd—ddu y teimlwyd rhywbeth o rym diwygiad 1859 am y tro cyntaf. Yr oedd hynny mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, pan y pregethodd efe ar y "ffordd i'r bywyd." Yr oedd rhyw ddylanwad gyda'r holl bregethau, a chynaliai y bobl ieuainc gyfarfodydd gweddi rhwng y moddion. Y noswaith olaf y pregethai Thomas Williams, a phan ar ganol ei bregeth y torrodd yr argae. Yr oedd y pregethwr yn disgrifio'r saint yn teithio tuag adref ar feirch ac ar gerbydau ac ar elorfeirch ac ar fulod ac ar anifeiliaid buain, yn ol geiriau'r proffwyd ; ac yn ol yr emynydd Cymreig :
Mae rhai ar feirch yn dyfod yn hardd i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau yn harddach na'r rhai hyn;
Mae'n dda i rai fod mulod ac elorfeirch yn bod
I gario'r claf a'r clwyfus ————
Ar hynny, wele wr ieuanc, Richard Hughes Tyddyn bach, yn neidio ar ei draed gan waeddi allan, "O Arglwydd, gâd imi gael dod i'r nefoedd ar gefn mul neu rywbeth—fe fyddai cael dod i'r nefoedd rywsut yn fraint heb ei bath?" Ffrwydrodd teimlad y gynulleidfa, ond tawelwyd hynny gan y pregethwr, wrth fod ganddo ef bellach beth ag yr oedd arno eisieu ei ddweyd. Yr oedd yr Iachawdwriaeth fel trên wedi cychwyn yn nhragwyddoldeb, ac wedi galw yn stesion Bethlehem, a Gethsemane a Chalfaria, a mynèd rhagddi drwy dynel tywyll angeu a'r bedd. Ar hynny fe ddistawodd y pregethwr am ysbeidyn, tra daliai'r gynulleidfa ei hanadl. Ac yna fe dorrodd allan mewn bloedd fuddugoliaethus uchel, gan roi llam yn y pulpud, "Dyma fo'n dod allan o dynel y bedd ar fore'r trydydd dydd—Gogoniant! Ac y mae o'n aros bellach i godi teithwyr ym mhob stesion—Gogoniant!" Dacw ddyn ieuanc yn ymyl yr oriel yn rhoi naid ar ei draed, gan waeddi, "'Rwan am ddal y tren, bobl!" Yna curai ei ddwylaw ynghyd dan waeddi â'i holl nerth, "O diolch! bendigedig! diolch byth am beidio fy namnio hyd heno!" Rhedodd hynny fel tân gwyllt drwy'r lle, a dyna lle'r oedd y bobl yn gwaeddi a moliannu. Eithr fe ddaliai'r pregethwr ati gan waeddi gyda'r uchaf. "Prif-ffordd yw ffordd iachawdwriaeth, bobl! Ffordd wedi ei digarregu i'r teithwyr. Gogoniant! Ffordd dyrnpeg bob llathen—Go—goniant !" Ydi, y mae hi!" gwaeddai Thomas Hughes y Rugan, "ac y mae y tyrnpeg yn rhydd, a'r Arglwydd Iesu wedi clirio'r giatiau i gyd ar Galfaria." "Mae'r Llywodraeth," ebe'r pregethwr, "wedi rhoi parlamentri trên i bobl gyffredin; ond dyma i chwi barlament trên—ffordd iachawdwriaeth Ffordd o fewn cyrraedd pawb—Gogoniant! Mynwch dicedi yn y parlament trên, bobl!" Darfu i wŷr ieuainc Brynrodyn. anrhegu Thomas Williams, ymhen ysbaid ar ol yr oedfa hon, â merlen, ffrwyn a chyfrwy, a fu o fawr wasanaeth iddo yn ei hen ddyddiau. Yr oedd 80 wedi ymuno â'r eglwys o fewn mis o amser. Rhif yr eglwys yn niwedd 1858, 140; yn niwedd 1860, 216; yn niwedd 1862, 195; yn niwedd 1866, 197.
Bu Robert Lewis o Gaernarvon, y pregethwr, yma am ysbaid yn nhymor y diwygiad.
Yn 1866 dewiswyd yn flaenoriaid: Daniel Eames Felin Forgan, Evan Jones Dolydd, a Richard Eames Tŷ capel.
Ceir cofiant am Daniel O'Brien yn Nhrysorfa 1868 (t. 107), wedi ei ysgrifennu gan fab iddo. Wyr iddo ydyw'r Parch. D. O'Brien Owen. Ganwyd Daniel O'Brien yn Ballylegane, plwyf Ballynoe, swydd Cork. Pabyddion oedd ei rieni, ac felly yntau yng nghychwyniad ei yrfa. Yn ddeunaw oed fe deimlodd ysfa am dramp, yr hyn a edrychid arno yn ddiweddarach ganddo fel cymhelliad dwyfol ar ei feddwl. Glaniodd ym Mristo, cerddodd i Lundain, ac oddiyno i Landegai, Arfon, canys yr oedd wedi clywed yn y brifddinas fod gwaith i'w gael yno. Cafodd yntau'r gwaith hwnnw yng nghloddfa Cae-braich-y-cafn. Yr oedd y pryd hwn yn babydd selog. Ryw nos Sadwrn fe ddaeth Evan Richardson yno i bregethu, ac wrth fod cyrchu mawr i'r oedfa, fe aeth Daniel i mewn gyda hwy. Nid oedd efe yn deall y Gymraeg eto. Soniai y pregethwr y tro hwnnw lawer iawn am dragwyddoldeb, ac yr oedd y defnydd o'r gair yn creu braw yn y gynulleidfa. Galwai hynny sylw Daniel yn fwy at y gair. Gwyddai o'r goreu mai Gwyddel y gelwid ef ei hun gan y bobl. Ac yntau yn ddieithr, ac yn o ddibrofiad, a chan wybod am ragfarn at ei genedl a'i grefydd, fel ag oedd yn y wlad y pryd hwnnw, fe gredodd yn ei galon, yn wyneb yr olwg ddifrif ar y bobl, mai eu hannog hwy i ladd y Gwyddel a ddaeth i'w plith hwy yr oedd y pregethwr. A phan y torrodd y gynulleidfa yn y man i orfoledd ni feddyliodd yn amgen nad wedi gwneud eu meddwl i fyny i hynny yr oeddynt, gan annos eu gilydd i'r gorchwyl creulon. Gwaeddodd Daniel druan allan, "Mur-r-ther!" a chan waeddi "Mur-r-ther" y cludwyd ef allan yn hanner gwallgof gan ddychryn. Aeth y pregethwr ato; ac wedi deall achos ei fraw, argyhoeddodd ef o'i gamsyniad, a gwahoddodd ef yn garedig i alw gydag ef yng Nghaernarvon. Pan alwodd Daniel gydag ef, rhoes y pregethwr iddo Destament Gwyddelig, ac o hynny allan cymerai'r pregethwr sylw neilltuol ohono. Yn ddiras y treuliodd y Gwyddel yr un mlynedd arbymtheg nesaf. Ei briodas yn 1825 fu'n achlysur ei droedigaeth, gan yr elai bellach. ar brydiau i'r moddion. Dywed ei fab mai ymhen pum mlynedd ar ol priodi, ac felly yn 1830, yr argyhoeddwyd ef, a phriodola hynny i bregeth Ebenezer Morris yn Sasiwn Caernarvon ar "Y gwaed hwn." Eithr y mae yma gamgymeriad, drwy gymeryd yr oedfa honno am un arall ddiweddarach, canys yn y flwyddyn 1818, pan nad oedd Daniel ond 22 oed, y traddodwyd y bregeth honno, tra, yn ol yr amseriadau a roir, yr ydoedd yn 34 oed pan argyhoeddwyd ef. Erbyn 1830 yr oedd ef yn gweithio yn Llanberis, a'r teulu yn byw yn Llandwrog. Bu dair gwaith yn nesu at gapel Brynrodyn heb fedru anturio i mewn, ond o'r diwedd efe a wnaeth hynny. Ymgydnabu â'r Gyffes Ffydd. Daeth yn Galfin selog. Ei hoff linell oedd, "Mae gan Dduw gylch a ddeil o'u hamgylch hwy." Bu'n ddiwyd yn addysgu ei blant yn yr Ysgrythyr. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch hwyr a bore. Yn ei gystudd diweddaf, eb efe wrth ei fab, "Yn y colchfa yr ydw i, i tynnu y brechau, i gael gwisgo y gwisgoedd gwynion yn y nefoedd." Bu farw Mawrth 22, 1866, yn 70 oed.
Yn 1866 pwrcaswyd hanner acr o dir ynghyda defnyddiau yr hen gapel am £50 gan berchennog fferm Brynrodyn, sef Mr. Williams Rhiw, Ffestiniog, ac yn 1867 fe agorwyd y capel presennol yn ymyl y fan lle safai'r hen gapel. Yr ymgymeriad ydoedd tua £1600. Ar ol agor y newydd y tynnwyd yr hen gapel i lawr, ac aeth ei ddefnyddiau i wneud tŷ capel. Yr holl draul am y tir, y capel a'r tŷ, wedi eu llwyr orffen, £2424. Yn niwedd 1866 yr oedd yr achos yn ddiddyled; yn niwedd 1868 yr oedd y ddyled yn £1900; yn 1869 yn £20 ychwaneg; yn 1870 yn £1845; yn 1871, £1,745.
Yn 1868 y codwyd John Davies Traian, brawd y Parch. D. Roberts Rhiw, yn bregethwr.
Yn 1869 y daeth Thomas Williams Ty'nrhos yma o Garmel, lle'r oedd yn flaenor. Dewiswyd ef yma. Dewiswyd ef yma. Ymadawodd i Frynrhos yn 1880.
Fe welir byrr-gofiant i Margaret Hobley, gwraig Simon Hobley, yn Nhrysorfa 1873 (t. 431). Bu hi farw Chwefror 25, 1870. Merch y Red Lion Inn Caernarvon ydoedd hi, ac wedi hanu o Angharad James y Gelli Ffrydau. Nodir ynddi sirioldeb gwên, prydferthwch ei thro chwim, synwyr cyffredin a gonestrwydd masnachol.
Agorwyd ysgoldy Graianfryn yn 1872. Yr oedd gryn bellter ffordd o Dan-y-cefn i Frynrodyn, a'r ffordd i unioni yn anhygyrch i blant dros ystod rhan fawr o'r flwyddyn, oblegid y gwlybaniaeth. Esgeuluswyd plant y rhan yma yn hir. Oddeutu 1867 fe ddaeth Simon Hobley i fyw i'r ardal yma o Gaernarvon, a symudodd Meyrick Griffith yma yn adeg tynnu i lawr y tŷ capel, a gedwid ganddo ef. Cydsyniai'r ddau am yr angenrheidrwydd o gael Ysgol Sul i'r lle, a chychwynnwyd hi ymhen ysbaid yng ngweithdy John William Thomas y crydd, a Wesleyad o ran enwad. Erbyn haf 1871 profodd y tŷ yn rhy fychan, fel yr oedd yn rhaid cynnal dosbarth neu ddau oddiallan. Yn yr amgylchiad yma addawai Simon Hobley dir i'r amcan o godi ysgol, ac awgrymai y gwnelai ychwaneg na hynny. Cynygiai Meyrick Griffith weithio yn rhad ar yr adeilad. Dechre adeiladu. Mr. Evan Jones Dolydd a Mr. Robert Evans Cae'r bongam a ddanfonasant ddynion ar ysbeidiau i gynorthwyo gyda'r gwaith, a rhoes rhai ffermwyr help gyda chario, a gwnawd y gweddill gan Simon Hobley. Mawrth 9, cynhaliwyd cyfarfod pregethu yno, pryd y gwasanaeth- wyd gan Thomas Hughes a John Jones Caernarvon a John Jones. Brynrodyn. Clywodd John Jones ar ei galon ganu ar yr agoriad:
Dyled nid oes yn dilyn—heb ail sôn,
Hobley saif bob gofyn ;
Môr o hwyl fydd mwy ar hyn,
Unfryd, yn mro Graianfryn.
—(Goleuad, 1872, Ebrill 20, t. 7.)
Hydref 9, 1872, y bu farw Richard Eames Tŷ capel, swyddog
er 1866. Ac yntau yn oruchwyliwr y Chwarel Fawr, ffrwydrodd
powdwr a drinid ganddo gan achosi ei farwolaeth. Tân y dynamit,
ebe'r Parch. J. Jones ar y pryd, fu cerbyd Iôr i gario'i sant i'r
nefoedd.
Ebrill 15, 1878, y bu farw Henry Hughes Llwyngwalch, yn 62 mlwydd oed. Aeth o Lanllyfni i Dalsarn yn 1865, a gwnawd ef yn flaenor yno. Daeth yma yn 1874, a chodwyd ef i'r swydd. Ar rai prydiau yn hynod mewn gweddi. Ymddanghosai ei feddwl y prydiau hynny fel yn ymagor ar oleuni y byd tragwyddol, a chodai ei lef yn uwch, mewn ymadroddion cymeradwy a phwyllog, ac ar yr un pryd gyda rhyw ddylanwad disymwth ac anisgwyliadwy, "mal gwth gwynt agwrdd." Nid oedd arwydd o neilltuolrwydd meddwl arno. Gwr syml, diddichell. Selog efo phethau bychain. Ffrwd fechan yn tincian, ac ar dywyniad haul yn disgleirio yn odiaeth. (Goleuad, Mai 11, 1878, t. 13).
Yn 1878 y codwyd William Davies yn bregethwr, ac yn 1879 John Hugh Jones. Ymadawodd yr olaf i Frynrhos yn 1880. Bu farw yn 1883. Yr un flwyddyn y codwyd William Evans yn bregethwr. Aeth ef i'r ysgol i Groesoswallt. Bu am ysbaid yn aelod ym Moriah. Derbyniodd alwad i Millom.
Awst 4, 1879, bu farw Simon Hobley, o fewn ychydig i 88 mlwydd oed. Brodor ydoedd ef o Monk's Kirby, swydd Warwick. Yr ydoedd ei fam, Ann Halford, yn hanu o'r un teulu a Syr John Halford, meddyg enwog yn ei ddydd. Yr ydoedd ei nain, ar ochr ei dad, yn perthyn i'r Bedyddwyr ar un cyfnod yn ei hanes. Y pryd hwnnw y hi ydoedd yr unig un o'r ymneilltuwyr yn y plwyf lle trigiannai, a cherddai o'i phlwyf ei hun i blwyf cyfagos i'r gwasanaeth. Yn rhan olaf ei hoes yr ydoedd yn aelod gyda Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, ac yn ei gwaeledd ymwelai yr Iarlles gyda hi, megys yr oedd ei harfer gyda chleifion y Cyfundeb o fewn rhyw bellter i'w phalas. Hi a wrandawai ar Elizabeth Hobley yn adrodd pennod oddiar ei chof, a dywedai yn ei dull gostyngedig ei hun fod Elizabeth Hobley yn medru adrodd pennod o'r Ysgrythyr oddiar ei chof yn fwy cywir nag y medrai hi ei darllen. Arferai Simon Hobley ddweyd am ei nain, ei bod hi yn hollol hyddysg yn holl gynnwys yr Ysgrythyr, ac, yn wir, fel y dywedai ef, yn medru ei adrodd allan ym mhob rhan ohono ar dafod leferydd. Yr ydoedd ei dad, er hynny, yn ddyn meddw, ac esgeuluswyd ei addysg grefyddol yntau. Eithr fe gafodd gyfle rai gweithiau i glywed Robert Hall, pan oedd efe'n weinidog yn Leicester, ac arferai ddweyd na chlywodd efe mo neb yn pregethu gyda'r fath ddwyster teimlad. Andrew Fuller ydoedd un arall y gwrandawodd efe arno ar dro neu ddau. Fe arferai ddweyd, pa fodd bynnag, ei fod yn gwbl ddieithr i wirioneddau ysbrydol pan ddaeth efe i dref Caernarvon yn ddyn go ieuanc. Daeth yno fel bwtler i'r persondy. Ymhen peth amser fe symudodd i'r Dinas, ger Bontnewydd, fel hwsmon. Pan yno elai i wrando yn bennaf ar y Methodistiaid, a rhyw gymaint ar yr Anibynwyr. Rhoes John Griffith, gweinidog Pendref, Caernarvon, bregeth Seisnig iddo ar un tro, a theimlai yntau yn rhwymedig tra bu byw i'r gwr parchedig hwnnw. Arferai John Roberts y melinydd ag adrodd am dano, mai efe oedd y cyntaf i ofyn pa fodd y cyfarfyddid y draul ynglyn â llosgi'r canwyllau yn y moddion, ac iddo roi swllt i lawr tuag at yr amcan. Yn 36 oed, fe roes ei swydd fel hwsmon i fyny, ac ymroes i'r fasnach mewn blawd, masnach a gychwynnwyd eisoes gan ei wraig. Daeth yn un o brif fasnachwyr y dref. Yr ydoedd yn wr o argyhoeddiadau dwys, a chyson mewn ymarferiadau crefyddol. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd hwyr a bore yn ddifeth. Pan gychwynnai ar daith i Nerpwl bump ar y gloch y bore, rhaid oedd i'r lliaws plant godi mewn pryd i'r gwasanaeth. Darllennid y bennod yn gyfan ynghyda sylwadau Peter Williams arni. Elai yn gyson i'r cyfarfod gweddi am chwech fore Sul ym Moriah. Yn ystod arosiad Christmas Evans yn y dref, elai, ar ol pregeth y bore ym Moriah, am weddill ei bregeth ef. Y gair a arferai i gyfleu ei nodwedd arbennig ef ydoedd meluster. John Elias a John Jones, feallai, a ddylanwadodd yn fwyaf arno. Y cyntaf y diwinydd mwyaf, a'r olaf y mwyaf ei ddawn o bawb yn ei feddwl ef. Clywodd Richard Jones, brawd John Jones, yn gweddïo yn gyhoeddus unwaith, ac arferai ddweyd am dano fod ganddo ddawn angel. John Huxley a gyfrifai efe yn rhagori am gadw seiat. Yr oedd o egwyddor gref. Cynygiodd Frost, y melinydd o Gaer, beidio â gwerthu i neb arall o fewn cylch o ugain milltir ar yr amod na phrynai yntau gan neb arall. Gwrthododd y cynnyg am na fynnai dlodi eraill yn eu masnach, pryd y gwyddai nad allasai derbyn y fath gynnyg lai na dyblu ei fasnach ei hun. Nid oedd unrhyw ystyriaeth o fudd bersonol a safai funyd o'i flaen, os yn anghyson â'r hyn a farnai ef yn uniawn, fel y danghosodd nifer o weithiau mewn achosion lled bwysig. Dygodd sel gydag ysgoldy Graianfryn. Addfedodd mewn profiad yn ei flynyddoedd olaf. Tymer nwydwyllt oedd ganddo, ond cafodd oruchafiaeth lled lwyr arni yn rhan olaf ei oes. Ym mlynyddoedd ei ymneilltuaeth oddiwrth fasnach, fe elai am o awr i ddwy bob prynhawn i'w ystafell ddirgel. Ac, yn wir, yr oedd ei fyfyrdod yng nghyfraith yr Arglwydd drwy gydol y dydd. Dywedodd wrth y Parch. Evan Roberts, Engedi y pryd hwnnw, ddarfod iddo gymeryd Llyfr y Diarhebion yn gynllun iddo'i hun yn gynnar ar ei oes. grefyddol. Yr oedd yn lled gydnabyddus â holl gynnwys y Beibl, a llawer ohono air yng air yn ei gof yn y Gymraeg a'r Saesneg. Er yn wr cryf o gorff a chryf o garictor, yn Sais trylwyr yn ei gymeriad cyffredinol, eto yr oedd yn ei brofiad crefyddol wedi cymeryd y ffurf Fethodistaidd Gymreig yn gyfangwbl. Yn ofnus ac anhyderus am ei gyflwr ei hun, fe barhaodd hyd y diwedd i rybuddio a chynghori ei liaws plant ac ŵyrion yn y modd mwyaf difrifol ynghylch eu cyflwr gerbron Duw. Bu farw mewn hyder tawel. Rhoddwyd mwy o le i'w hanes ef yma oblegid prinder defnyddiau yn egluro dylanwad Methodistiaeth ar rai o genedl arall.
Yn 1880 y sefydlwyd eglwys ym Mrynrhos, yr hyn a wanhaodd. yr eglwys a'r gynulleidfa yma yn fawr. Yn niwedd 1879 yr eglwys yn 330; yn niwedd 1880, 233. Erbyn diwedd 1881 yn 256. Yn 1881 dewiswyd yn swyddogion: Thomas Hughes Grugan Wen, Thomas Jones Glangors, William Eames Tŷ capel. Aeth William Eames i Crewe yn y flwyddyn 1882.
Ymfudodd William Davies i'r America yn 1889, gan dderbyn galwad o Dakota.
Hydref 15, 1890, yn 74 mlwydd oed, y bu farw Daniel Eames, yn flaenor er 1866. Masnachwr llwyddianus a deallus. Bu'n arolygwr yr Ysgol am 15 mlynedd. Cyfrifid ef yma yn arolygwr dan gamp.
Yn 1893 y dewiswyd Owen W. Jones ac Evan T. Hughes yn flaenoriaid. Bu Owen W. Jones farw Ebrill, 1900. Yn wr gonest a ffyddlon, o dduwioldeb diamheuol, ac yn flaenor cymeradwy.
Yn 1894 y daeth Mr. John Jones yma o'r Bwlan.
Yn 1895 y bu farw Griffith T. Edwards, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am 40 mlynedd. Gwr da, ac yn gwir ofalu am yr achos. Darllennodd lawer: derbyniodd y Traethodydd o'i gychwyn yn 1845 hyd y flwyddyn olaf y bu efe byw.
Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, Tachwedd 1, 1897, cyfeiriai'r Parch. John Jones at yr adeg y talai Mr. Charles ymweliad â'r lle, pryd y lletyai yn yr hen dŷ capel gyda Sion Griffith, pan, yn ol John Jones, y saethai y rhewynt drwy'r haciau yn y mur. Yn ei ol ef, hefyd, yr oedd gogoniant yr Ysgol Sul yn aros yn ddigyfnewid er amser Mr. Charles, a llawr y capel mor llawn fel y gallai cath gerdded dros bennau'r bobl, a phawb yn cydweithio—yn cyd-dynnu fel y meirch yng ngherbydau Solomon. Cyfeiriwyd at wasanaeth gwerthfawr Mr. John Davies Traian. Cyfeiriwyd at y symudiad i gychwyn capel yn Glanrhyd. (Goleuad, Tachwedd 10, 1897, t. 5.)
Yn 1898 y daeth y Parch. David Williams yma. Ymadawodd i Glanrhyd ar sefydliad yr eglwys yno.
Yn 1899 y sefydlwyd eglwys yn Glanrhyd, gan gynnwys rhai aelodau o Frynrodyn, megys o leoedd eraill rai.
Bu'r Parch. John Jones farw Tachwedd 16, 1900, yn 86 mlwydd oed. Un o wŷr y Capel Uchaf ydoedd ef, a dug ryw gymaint o naws y lle yn ei ysbryd ei hun, yn enwedig yn nhymor ei ieuenctid fel pregethwr. Syniad y wlad ydoedd ddarfod iddo golli ysbryd a dawn y weinidogaeth i fesur nid bychan drwy ymroi i fasnach. Yr oedd o ddawn rwydd, gyda chyffyrddiad o ddonioldeb, a chydag angerddolrwydd yn ei deimlad naturiol. Yr oedd yn wr ffraeth mewn ymgom, ac yn barod ar alwad y funyd yn gyhoeddus mewn amgylchiadau cyffredin. Bu'n holwr ysgol am flynyddoedd yn Nosbarth Clynnog. Holwr bywiog, egniol, cyffrous. Rhagorai yn bennaf dim mewn cynhebryngau. Yr oedd ei gyfarchiadau ar yr achlysuron hyn yn deffro cywreinrwydd cyffredinol. Yr oedd ganddo ffordd ddeheuig o nodweddu mewn ychydig ymadroddion y rhai ymadawedig, ond eto bob amser ar yr ochr oreu i'w cymeriad. A phwy bynnag a gleddid, ni welwyd mono erioed na fyddai ganddo ryw rinwedd i'w ddatgan ymherthynas â hwynt. Sylwai David Roberts Rhiw am dano na byddai byth yn dod i'r gwasanaeth bedydd yn y capel ond yn ei ddillad goreu. Ail'i'w ddawn mewn cynhebrwng oedd ei ddawn yn y seiat. Yr oedd ynddo gyfuniad o dynerwch a chyfrwystra. O'r ychydig a ddywedid wrtho weithiau, fe wnelai lawer: deuai mymryn o brofiad go lwytaidd weithiau, yn yr ail-adroddiad ohono ganddo ef, yn berl go loew. Medrai ymgomio yn hamddenol gyda'r aelodau, gan dynnu allan rai anhueddol i siarad a rhai heb ganddynt nemor i'w ddweyd pe bae tuedd, a medrai wneud sylw byrr, bachog, o'i eiddo'i hun wrth fyned heibio. Edrydd Mr. John Davies sylw felly, sef yr awn i'r bedd fesur un ac un, ond y deuwn i oddiyno gyda'n gilydd. Edmygydd mawr ydoedd o John Elias, a John Jones, o Dewi Wyn, ac Eben Fardd, ac ymrithiai eu delweddau hwy ac eraill yn barhaus o flaen ei feddwl.
Bendithiwyd John Jones â gwraig a fu yn ymgeledd gymwys iddo: yr ydoedd hi yn wraig gall, ddarbodus, letygar, yn ofni'r Arglwydd. Gwerthfawrocach ydoedd hi i'w gwr na'r carbwncl, medd ei gofiannydd ef. Ac am dani y canodd y Parch. E. Davies Trefriw,
A'i gofal swewr i'w gwr rhagorol,
A chordial einioes fu'r chwaer adlonol.
(Cofiant John Jones Brynrodyn, gan John Jones Pwllheli, 1903.)
Yn 1900 y dewiswyd yn flaenoriaid: Henry Hughes, Owen Jones, Rowland J. Thomas a William Hughes.
Yn adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul, fe ddywedir fod yma sel gyda'r Ysgol, a rhai dosbarthiadau â'u cynnydd yn amlwg.
Go amherffaith a fu Caniadaeth yma am faith flynyddoedd, a barnu wrth safon celfyddyd. Yn fynych ni byddai neb neilltuol yn arwain, ond fel y disgynnai yr ysbryd ar y pryd yr arweinid. Nid yn anfynych y profwyd y gwasanaeth yn effeithiol yn y dull hwnnw. Yn y man, fe gododd rhai yn meddu mwy o fedr gyda'r canu, er nad oedd eu gwybodaeth gerddorol hwythau ond bychan. Un o'r cyfryw oedd Thomas Jones Dolydd. Yr oedd ef yn gydnabyddus â hen alawon y dyddiau hynny, fel mai anfynych y rhoddai neb emyn allan na byddai ganddo ef dôn ar ei chyfer. Llais swynol. Cadwodd ei swydd a'i ragoriaeth i'r diwedd. Bu John Jones o ddirfawr gymorth gyda chaniadaeth ar ei ddyfodiad i'r lle, ac hyd nes y cododd rhai yn meddu cymhwysterau i gymeryd y gofal. Dechreuodd canu corawl gael sylw. Dyma restr cantorion mor bell yn ol ag y gallai Mr. Owen Hughes eu holrhain, i'r hwn hefyd y mae'r sylwadau blaenorol ar ganiadaeth yn ddyledus: Thomas Jones Dolydd, David Owen Traian, Robert Griffiths Gerlan Bach, Robert Evans Cae'rbongam (cynorthwywr), William Hughes Llwyngwalch, William T. Parry Frondeg, Griffith Hughes Gruganwen, Richard Eames Tŷ capel, Henry Jones Groeslon, Rowland J. Thomas Groeslon, Robert Lewis Jones Groeslon. Coffawyd eisoes y bu Robert Lewis yma yn ystod tymor y diwygiad, neu ran ohono, a diau ddarfod iddo ef fod o fawr gymorth am y pryd gyda chaniadaeth y cysegr, canys yr oedd efe yn gerddor gwych, ac yn dwyn mawr sel gyda'r rhan hon o'r gwasanaeth.
Buwyd am yn agos i hanner canrif yn cynnal cyfarfodydd gweddi mewn tai ar gylch yn yr ardal. Cynelid hwy yn rheolaidd am wyth ar y gloch fore Sul, ac yn achlysurol ar nosweithiau'r wythnos, pan atelid rhai gan lesgedd rhag dilyn y moddion cyhoedd Rhennid y gymdogaeth yn ddwy ran i'r pwrpas yma, o boptu'r capel, y naill ran ydoedd "Dosbarth y Dolydd," a'r llall, "Dosbarth y Groeslon a Rhosnenan." Cyhoeddid y moddion yn y capel, a nodid brodyr i'w cynnal. Heblaw hyn, fe gynelid cyfarfod gweddi yn y capel ei hunan unwaith o leiaf bob Sul. Yn ystod y blynyddoedd 1841—5, byddai hynafwragedd yr eglwys yn cynnal cyfarfod gweddi ar awr gyntaf y prynhawn ar ddiwrnod y gymdeithas eglwysig. Fe fernir fod llawer o lwydd yr achos yn ddyledus i'r cyfarfodydd gweddi lliosog hyn.
Cafodd yr achos dirwestol ei le yma, yn ffurf Cymdeithas Cymedroldeb i gychwyn, a llwyrymataliad wedi hynny. Cynelid y cyfarfod bob bythefnos, a chymerai'r plant eu rhan ynddynt. Edrydd Mr. Owen Hughes am henwr yn codi i fyny dan gynhyrfiad yr awen, bondigrybwyll:
Mae Dirwest fel Cei Porthdinllaen,
Ni welwyd yn Ffrainc nac yn Spaen
'Rioed waith gyn netied a Chei Porthdinllaen.
Elai'r hen frawd ymlaen gan draethu ei lên i'r perwyl na welodd. yntau ddim erioed gyn netied a Dirwest, ei bod yn gwneud i feddwon. gynt gerdded yn sad, gan eu hwylio adref cyn nôs, a'u cadw ar aelwyd gynnes y teulu. Bu'r Clwb Du a Themlyddiaeth Dda yn uchel eu bri yma.
Yn 1855 fe ddechreuwyd ar gyfres o gyfarfodydd, dan wahanol enwau, ag y mae lle i gredu i'w dylanwad fod yn llesol. Cyfarfod Moes ydoedd un o'r rhai cyntaf. Darllennid Moeslyfr John Roberts. Llanllechid, a gwneid sylwadau arno gan un a benodid i'r amcan. Gwersi ar foes cyffredin, gan roi esiampl o'r wers ar y pryd. Ceid anerchiadau mewn ffordd o amrywiaeth ar bynciau ar wahanol. fath, megys Meyrick Griffith ar Ddaearyddiaeth Gwlad Canaan, ei bwnc mawr ef. Y Cyfarfod egwyddori fyddai er paratoi rhai ar gyfer eu derbyn i'r Sacrament. Y Cyfarfod darllen a gynhaliwyd yn gyntaf brynhawn Sul, ac yna am naw fore Sul, a phery felly. Heblaw egluro'r Beibl, buwyd uwchben Diwinyddiaeth Paley, Cyfatebiaeth Butler, ac Athrawiaeth yr Iawn Dr. Edwards yn y cyfarfodydd hynny. Cymerid y gofal gan William Parry, Griffith T. Edwards, Evan Jones, a phan y byddent adref, gan John Jones a John Davies. Yr oedd y Cyfarfod Llenyddol yn un undebol, rhwng ysgolion Sul dosbarthiadau Clynnog ac Uwchgwyrfai, fel y gelwir hwy yn awr, ond y pryd hwnnw un dosbarth oeddynt. Cyfarfod blynyddol yn y gwahanol leoedd ydoedd. Ar y cychwyn cynelid ef ym Mrynrodyn ym mis Medi, yr wythnos olaf o'r mis; ond ar ol hynny ar y Nadolig. Ymunwyd â Rhostryfan ar hynny, am rai tymorau, ond yna y ddau le ar wahan ar y Nadolig, a'r lleoedd eraill ar brydiau eraill. Mae'r amrywiaeth hyn o gyfarfodydd, ar Sul, gŵyl a gwaith, wedi bod yn nodwedd ar y lle.
Ym Mrynrodyn, yn 1779, dan bregeth David Jones Llangan, ar y geiriau, "Trowch i'r ymddiffynfa" yr argyhoeddwyd Robert Roberts, yn llencyn un arbymtheg oed. Yng nghapel Brynrodyn y cafodd Robert Roberts y tro hynod hwnnw, pan ddisgrifiai berygl pechaduriaid oddiwrth y gymhariaeth o'r llanw yn cau am bobl yn chware ar lecyn ar y tywod, pryd y ffodd nifer mawr allan mewn dychryn, gan dybied ar y funyd mai hwy oedd y chwareuwyr a ddisgrifid. Mewn Cyfarfod Misol ym Mrynrodyn yn 1794 y derbyniwyd John Elias yn aelod o'r Cyfarfod, ac y newidiwyd ei enw gan John Jones Edeyrn, o fod yn John Jones i fod yn John Elias, oddiwrth enw y tad, sef Elias Jones. Gwŷr a fagwyd ar fronnau'r Ysgol Sul yma, fel y gwelwyd, ac a fuont wasanaethgar eu hunain ynddi, oedd Griffith Davies y cyfrifydd a John Parry Caer. Yn yr ardal hon y ganwyd Griffith Solomon. A chafodd yr eglwys i'w bugeilio, yng ngwir ystyr y gair, yn ei blynyddoedd bore, neb amgen, fel y gwelwyd, na John Roberts, wedi hynny o Langwm. Nid y lleiaf o nodau arbennig yr eglwys hon ydyw, mai yma y magwyd David O'Brien Owen, goruchwyliwr cyntaf Llyfrfa'r Cyfundeb.
Fe gyfeirir gan Mr. Daniel Thomas at William Griffith Dolydd, yr hwn y dywed y byddai gyda'i ddeigryn gloew a'i Amen cynnes, a'i "O diolch !" yn gwresogi'r moddion, ac yn codi rhyw iâs hyfryd, ac yn adnewyddu pob teimlad yn y lle. Enwir ganddo, hefyd, W. Williams Appifforum, Thomas Jones Dolydd, a Griffith Morris, hen bererinion a groesodd rydiau'r Afon, ac sy'n rhodio heddyw yng Ngwlad y Goleuni, heb eu hebargofi chwaith yn Nyffryn Galar. Tywynnu y maent hwy fel ser, a cherbron Gorseddfainc Duw y safant.
Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1900, 274; rhif yr Ysgol, 267. Y casgl at y weinidogaeth, £107 19s. 3c. Swm y ddyled, £60.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ysgrif o'r lle. Ysgrifau gan Mr. Owen Hughes Baladeulyn, a Mr. Daniel Thomas, Groeslon. Nodiadau gan y Parch. John Jones, y gweinidog.