Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Nebo

Oddi ar Wicidestun
Cesarea Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

Bethel (Penygroes)

NEBO.[1]

DEUAI rhai o aelodau hen gapel y Buarthau o ardal Nebo. Cychwynnwyd ysgol Sul yma yn Nhynyfron yn 1809—10. Adeiladwyd Nazareth, capel yr Anibynwyr, yn 1821, gerllaw y tŷ hwn. William Williams, tad Thomas a William Williams,—y ddau saer maen,— oedd y trigiannydd, ac efe oedd y prif ysgogydd yn y gwaith o ddwyn yr ysgol yno. Efe a ddygai y cymeriad o ddyn duwiol.

Ymhen pum mlynedd o 1810, yn ol yr ysgrif o'r lle; ymhen pedair o 1809, yn ol y Canmlwyddiant, symudwyd yr ysgol i dŷ Catrin Samol, er gwell cyfleustra i'r ysgol. Yr oedd murddyn y tŷ hwn yn sefyll yn 1898, wrth ymyl Rhwng-y-ddwy-afon. Cynyddodd yr ysgol yn amlwg yma. Dywed yr Asiedydd y daethpwyd i gynnal yr ysgol mewn tri thŷ yma, ac y deuid ynghyd i'r cateceisio. (Drysorfa, 1885, t. 334). Yr ysgol yma yn enwog am ddysgu'r Beibl ar dafod leferydd. Fe ddywedir y bu rhywun yma yn dysgu pymtheg Salm bob wythnos, o'r naill wythnos i'r llall, gan eu hadrodd ar y Sul. Fe ddaeth yma dri o bersonau, dau fab ac un ferch, oddeutu triugain oed bob un ohonynt, i ddysgu'r wyddor, a daeth y tri ymhen amser i fedru darllen y Beibl. Delai y rhan fwyaf o'r plant yma yr haf yn droednoeth. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol yma,—Robert Evans Cil-llidiart (Ty'n llwyn wedyn), Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirion pelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn Llanllyfni.

Pan adeiladwyd capel Nazareth yn 1821 gan yr Anibynwyr, fe symudwyd yr ysgol yno. Elai rhai o'r Methodistiaid i ysgol Llan— llyfni. Cynelid ysgol hefyd ym Maes y neuadd. Nid yw'n ymddangos prun ai cyn agor Nazareth, ai ynte yn ol hynny, y cychwynnwyd ysgol Maes y neuadd. Symudwyd oddiyma i Bencraig, lle trigiannai John Michael. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, ac un a brofwyd yn ddychryn i anuwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Daldrwst, trigle Thomas Edwards. Gofelid am yr ysgol hon ganddo ef a William Roberts Buarth y Fety a William Roberts Cae engan.

Prynwyd llecyn o dir yn 1825 ar gyfer adeiladu ysgoldy gan Hugh Robert Ismael, neu Hugh Roberts yn ol y weithred, am bum gini. Mesur y tir, mewn gwahanol fannau, mewn troedfeddi : 179, 220, 53, 122.

Yn 1826 yr agorwyd yr ysgoldy. William Williams Ty'n y fron oedd yr adeiladydd. Gofelid am y gwaith gan Owen Evans Coed caedu ac Evan Roberts Dolwenith. Llawr pridd a meinciau oddifewn. Yna, wedi gorffen adeiladu, daeth y rhai oedd ar wasgar yn gytun i'r un lle, sef o'r Taldrwst, o Nazareth ac o Lanllyfni. Yr arolygwr cyntaf yn yr ysgoldy oedd Daniel Williams Bryntirion, ac wedi hynny, Richard Griffith Pen yr yría. Dywed yr Asiedydd mai Ellis Roberts Pant yr arian oedd yr arolygwr cyntaf. Yr holwyr cyntaf, John William Pandy hen a Hugh William Penisa'r lôn. Yr arweinwyr canu cyntaf oedd Richard William Maes y neuadd a William Evans Talymaes.

Mae gan Cyrus yn ei ysgrif ar Lanllyfni nodiad ar gyfer Ionawr, 1827, fel yma: "Yn y mis hwn, bu John Williams Llecheiddior yn Llanllyfni y bore [ar un o'r Suliau], ac yn ysgol newydd y Mynydd am ddau. Mae'n debyg mai dyma y bregeth gyntaf yn Nebo." Ymhen ysbaid ar ol cael pregeth ar y Sul, fe geid cyfarfod eglwysig yn awr ac eilwaith o dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.

Wedi dod i'r ysgoldy enillai'r ysgol nerth. Cynyddai'r gynull- eidfa hefyd ar brynhawn Sul. Yn ol hen gofnodlyfr a welodd yr Asiedydd am y blynyddoedd 1828-34, rhif yr ysgol ydoedd 28 Erbyn 1838 trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalsarn. Cododd awydd am sefydlu eglwys yn y lle, yr hyn fu'n gryn dramgwydd i eglwys Llanllyfni. Ar gyfer 1842 y mae gan Cyrus nodiad i'r perwyl yma: "Teimlad am gael sefydlu eglwys yn ysgoldy Nebo. Gwrthwynebiad yn Salem ar gyfrif fod dyled of £700 ar y capel yma." Ac ar gyfer 1843: "Sefydlu eglwys yn Nebo. Gosodwyd y ddyled o £60 oedd yn aros ar yr ysgoldy i'w thalu gan yr eglwys yno." Rhif yr eglwys ar ei sefydliad, 36. Eithr er sefydlu'r eglwys yma yn 1843, yn Salem yr oedd yr aelodau yn talu eu casgl mis hyd 1846. Trefniant er mwyn cyfleustra ynglyn â chydnabod y weinidogaeth.

Dyma restr o'r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ysgol ar adeg sefydliad yr eglwys, yn cynnwys enwau brodyr yn unig: Robert Williams Tŷ capel, Ty'nyrardd, Penygroes wedyn—y cyntaf a ddaeth i fyw i'r tŷ capel, Hugh Jones Blaen y foel, John Prichard Penpelyn, John Williams Pant y pistyll, Ellis Roberts Pant yr arian, William Prichard Tŷ cerryg, Hugh Robert Ismael Glan y gors, William Williams Ty'n y fron—gwr a'i ffyddlondeb yn ddiarebol, Thomas Jones Glan y gors, Robert William Penmynydd, Robert Griffith Bryn person, Morgan Jones Talymaes, Owen Morris, Owen Ellis Nazareth. Yna y mae dau enw arall ar wahan, sef David Griffith Tŷ capel—efe a laddwyd yn y chwarel,—William Roberts Nant noddfa "gwr da:" ymfudodd ef i'r America. Nodir am Ellis Roberts Pant yr arian, ddarfod iddo gael ei ladd yng Nghloddfa'r lôn yn 1839. Mae'r sylw yma am Hugh Robert Ismael hefyd: "Nis gallai ddarllen, ond cae'r fath bleser yn ei henaint wrth weled a chlywed eraill yn gwneud, fel y byddai bob amser yn bresennol." Nodir fod yr ysgol yn 64 o leiaf.

Wele yma restr o'r rhai a ymadawodd o Lanllyfni i ffurfio eglwys yn Nebo, sef 47 o enwau. Rhif yr eglwys ar ei sefydliad ydoedd 36, yn ol yr ysgrif o'r lle. Rhaid, gan hynny, debygir, fod rhestr Cyrus a William Roberts yn cynnwys enwau rhai a ymadawodd o Lanllyfni ryw gymaint yn ddiweddarach na sefydliad cyntaf yr eglwys, neu ynte a oedd heb fod yn bresennol yn y cynulliad cyntaf i gyd. Dyma'r restr: Meibion—Richard Griffith Penmynydd, Richard Roberts Bodychain, William Williams Ty'n y fron, Isaac Ffoulkes Jones, William Roberts Nant noddef, David Griffith Tŷ capel, Hugh Jones Blaen y foel, Robert Williams Tan y ffynnon, Henry Parry Frondeg, Thomas Parry eto, Morgan Jones Talymaes, Richard Roberts Bronyfoel, William Hughes Hendre wen, Griffith Jones eto, Richard Jones Bronyfoel, Owen Roberts Bryneithin, Hugh Roberts Glanygors, Thomas Jones eto, John Michael, Robert Griffith, Robert Jones, William Prichard Tŷ cerryg. Rhif, 22. Merched—Elinor Griffith Coed y fron, Jane Roberts Bodychain, Margaret Dafydd Bwlchgwyn, Jane Griffith Bryngwyn, Mary Williams Pant y frân, Mary Griffith Clwt y ffolt, Esther Jones Blaen y foel, Ann Williams Cil lidiart, Margaret Thomas Ysgoldy, Catherine Morris Cae'r ffridd, Laura Roberts Tŷ cerryg, Elizabeth Dafydd, Gwen Roberts Bronyfoel, Elinor Thomas eto, Margaret Williams Hendre wen, Elinor Jones Frondeg, Mary Humphreys, Jane Hughes Taleithin, Phoebe Hughes Maen y gaseg, Jane Roberts Twlc, Elinor Morris, Jane Hughes Glanygors, Catherine Jones Bryn y gôg, Janet Jones Pandy hen. Rhif, 25.

Dewiswyd Richard Roberts Bodychain a Richard Griffith Pen yr yrfa yn flaenoriaid yn niwedd 1844.

Moses Jones Lleyn bregethodd gyntaf yma ar ol sefydlu'r eglwys, a derbyniodd y swm o ddau swllt am ei lafur. Cyn bo hir yr oedd Moses Jones yn pregethu yma drachefn, a derbyniodd bum swllt. Yn 1845 ymfudodd William Roberts Nant noddef (neu noddfa) i'r America. Gwr ffyddlon, dichlynaidd, cadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn weddiwr cyhoeddus synwyrlawn a theimladol, ac ar brydiau âg awch neilltuol ar ei erfyniau. Arferai Richard Griffith ddweyd na bu arno ef gymaint ofn neb a William Roberts, pan yn myned ato am ei brofiad, gan mor hyfedr y triniai Gleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw.

Jane Griffith Bryngwyn a fu farw yn 1846, yn hen wraig ffyddlon gyda chrefydd. Hynodid hi gan ei chysondeb yn y moddion, a hynny yn wyneb ffordd anhawdd i'w theithio. Heblaw bod yn gyson yr oedd hefyd yn bur. Wrth adrodd ei phrofiad unwaith soniai am y ddwy fuwch flith yn dwyn yr arch yn ei blaen ar hyd y brif—ffordd, heb aros i wrando ar frefiad eu lloiau; a chyffelybai hwy i'r anian newydd y dywedai y dymunai hi fod yn feddiannol arni, er mwyn peidio troi ohoni allan o'r ffordd tua'r llaw ddehau na thua'r aswy.

Dafydd Griffith Ysgoldy, hefyd, a fu farw yn 1846. Yr oedd ef yn dad i Dafydd Griffith Brynllyfnwy, a phriod cyntaf Marged Griffith Brynperson. Genedigol o Garreg y llam, Lleyn. Hoff o'i ddosbarth yn yr ysgol. Yn ddychryn i anuwioldeb. Gweddiwr hynod. Mewn cyfarfod gweddi yn y Wig ar nos Sul, fe'i teimlid yn myned megys allan ohono'i hun wrth nesu i'r byd ysbrydol. Dywedai hen wr a'i clywodd wrth fyned heibio i'w dŷ, ei fod yn gyffelyb ar ddyledswydd deuluaidd y bore Llun drachefn. Y diwrnod hwnnw, ar ganol ymddiddan am gyfarfod gweddi'r Wig, y cyfarfyddodd â'i ddiwedd yn y gloddfa.

Codi Robert Williams yn flaenor yn 1850.

William Hughes Pennant, mab ynghyfraith W. Williams Tynyfron, a fu farw yn 1854. Gwr da, gwr o farn, a chloriannydd pethau dadleuol disgyblaeth.

Codwyd William Jones Nazareth yn flaenor tuag 1856—7. Oddeutu 1859—60, os nad cyn hynny, y dewiswyd William Griffith Brynbugeiliaid yn flaenor.

Fe glywodd amryw o breswylwyr y Wig donnau o gân yn dod dros y Foelgron yn hwyr un noswaith yn adeg diwygiad 1859. Bore dranoeth, ohonynt eu hunain, daeth llond y capel o addolwyr, a thorrodd yn orfoledd yn eu plith. Arosodd Sian Lewis yn y seiat gyda phregeth Morris Jones Bethesda. Wedi bod yn erlidgar tuag at ei gwr oherwydd crefydd. "Ymhle mae hi?" gofynnai'r pregethwr. "Dacw hi." "Yr hen beth acw?" Ie, dyna hi." Yr hen beth acw eisio dod i'r seiat ! Faint ydi 'doed di dwad?" "Pedwar ugain." "Wel, yr hen greadur digwilydd! Wedi bod yn gadach llawr i'r diafol am 80 mlynedd, ac yn awr yn rhoi dy hun i Iesu Grist. Rhag cwilydd i ti! Chymer o mohoni." A oedd y ddawn i adnabod ysbrydion gan Morris Jones? Ar darawiad dyna ef yn newid ei ddull. Y wyneb cuchiog yn ymsirioli, a dyna floedd, "Gwneiff, fe'i derbynith hi! Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid.' Fuasai neb yng nghreadigaeth Duw ond Hwn yn derbyn hon." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 446). Yr oedd rhif yr eglwys yn 1854 yn 43; yn 1858, 50; yn 1860, 90; yn 1862, 111; yn 1866, 104.

Yn 1860 rhoddwyd caniatad i adeiladu capel, ar ol cryn ddadl yn y Cyfarfod Misol. Capel destlus yn mesur 13 llath wrth 9. Dyled o tua £50 eisoes. Swm y ddyled erbyn codi'r capel, £340. Talwyd £40 erbyn y flwyddyn nesaf. Yr agoriad ar Mehefin 25, 1861. Y pregethwyr, D. Davies Corwen, W. Prydderch a'i gyfaill, W. O. Williams Pwllheli.

William Evans Talymaes a fu yn arwain y canu er agoriad yr ysgoldy, efallai, hyd 1860, pryd y dilynwyd ef gan Thomas Griffith. Ffyddlon, egwyddorol. Symudodd i'r Baladeulyn, lle bu farw.

Ionawr 7, 1863, yn 22 oed, y bu farw John Jones Bryn troellwynt (? Bryntrallwm). Ei rieni, Griffith ac Elizabeth Jones. Un o ffrwythau y diwygiad, a gwr ieuanc addawol. Braidd yn henaidd ei ddull. Yn gosod argraff ddwys ar ei ddosbarth. Clywid ef weithiau mewn ymdrech â Duw mewn lleoedd neilltuedig. Ymwelydd â'r claf. Cofiadur pregethau. Dechreuodd bregethu, a bu yn yr ysgol gydag Eben Fardd am dros flwyddyn, ond torrodd i lawr o ran ei iechyd. Torrodd allan yn orfoledd wrth iddo holi'r ysgol y Sul olaf y bu efe byw. Ei hoff bennill, "Syfled iechyd, syfled bywyd." Ei eiriau olaf, "A'r diwedd yn fywyd tragwyddol."

Yn niwedd 1862, William Jones yn cael ei alw yn fugail, yr un pryd ag y daeth i Lanllyfni. Marged Dafydd Bwlchgwynt a fu yn aelod yn y Buarthau, a bu yn dilyn y moddion yno am flynyddoedd, er fod ei gwr, Owen Rodrig, yn erledigaethus tuag at grefydd. Cadwodd hi ei lamp yn oleu er gwaethaf pob rhwystr. Yr ydoedd o feddwl bywiog a theimlad uchel, gorfoleddus. Elai W. Jones ati yn y seiat un tro. Adroddodd hithau wrtho y geiriau hynny, "Ac efe a gododd ei lygaid i'r nef." "Wel," ebe yntau, "pa beth ydych yn ei gael yn y geiriau yna?" "O!" ebe hithau, "mi welais fywyd tragwyddol ynghodiad ei lygaid." "Pa sut y mae hi rhyngochi âg Iesu Grist. rwan, Marged Dafydd?" gofynnai'r gweinidog ar dro arall. "Mi gwelais o heddyw," ebe hithau, "ym mlodyn llygad y dydd wrth y drws acw!" Edrydd William Roberts beth o hanes ei Beibl. Argraffiad Peter Williams o'r plyg mawr, a ddaeth allan yn 1822. Yr oedd yn rhaid wrth linin i'w ddal wrth ei gilydd, gan faint y draul a fu arno. Nid oedd ynddo ond ychydig fannau heb farc croes ar eu cyfer, wedi ei wneud ganddi â'i hewin. Y mae hi wedi marcio yn enwedig hanes y cyfamod âg Abraham, a hanes sefydlu'r pasc, a hanes Moses wrth y berth, a'r genedl o flaen Sinai, a phob man braidd yn sylwadau Peter Williams ei hun, lle cymhwysir yr amgylchiadau at Grist. Llyfr y Salmau sy'n llawn o'i marciau, ac o ôl ei dagrau, a'r proffwyd Esai, yn enwedig y rhannau hynny ohono y mae eu cyfeiriad at Grist. Am y pedair Efengyl, ebe William Roberts, y maent braidd wedi eu marcio bob adnod; a dywed ef mai gwerth fuasai i aml un weled y rhannau hynny yn yr hen Feibl lle rhoir hanes marwolaeth ac adgyfodiad ac esgyniad yr Iesu. Yr Epistolau sy'n llawn o farciau, hyd yn oed yr adnodau athrawiaethol dyfnaf. Tua diwedd ei hoes, meddyliodd yr eglwys mai gwerth fuasai tynnu ei llun, a gwelir ef yn grogedig ar y mur yn y tŷ capel. Bu hi farw Gorffennaf 1, 1865, yn gant oed.

Hen wreigan arall a fu farw ychydig ar ol Marged Dafydd, ac a orfoleddodd lawer gyda hi, oedd Mary Griffith Clwt y ffolt. Pan oedd y ddwy yn gorfoleddu mewn hwyliau uchel unwaith, torrodd Marged Dafydd allan, "Gwaedda Mari, y mae o yn werth gweiddi erddo !" Byddai gan Mary Griffith brofiadau gwerth eu hadrodd, a chwythai awelon dwyfol yn fynych ar ei hysbryd.

William Jones Bryngwyn, Nazareth, oedd yn flaenor yng nghapel yr Anibynwyr, ac a ddaeth yma yn adeg rhyw anghydfod yn yr eglwys Anibynnol. Arferai'r swydd o flaenor yma ar gym- helliad y blaenoriaid, ond heb ei alw gan yr eglwys. Gwr darllengar, a diwinydd da, ac Anibynnwr i'r carn hyd y diwedd. Bu yn aelod yma am rai blynyddoedd, ac hyd ei farw yn niwedd Gorffennaf, 1867.

Codi Griffith Owen yn bregethwr yn 1869.

Chwefror 17, 1870, y dechreuodd y Parch. Robert Thomas ar ei lafur yma fel bugail. Yr un flwyddyn y dechreuodd W. LI. Griffith (Llanbedr) bregethu. Tuag 1870-1 y dewiswyd Griffith Jones (Talmignedd) yn flaenor. Aeth oddiyma i Ynys goch.

Rhagfyr 29, 1871, y bu farw Hugh Jones Blaen y ffolt, wedi gwasanaethu'r swydd o ysgrifennydd yr eglwys am ugain mlynedd yn ffyddlon a manwl a gofalus. Gadawodd £20 yn gymun-rodd tuagat ddyled y capel. Yn absenoldeb y blaenoriaid fe weithredai fel blaenor.

Un o blant y diwygiad oedd Griffith Roberts Glanrhyd, ac wyr hefyd i Robert Dafydd Brynengan. Yn enedigol o Fwlchderwydd. Arosodd taerni ysbryd y diwygiad ym mer ei esgyrn hyd y diwedd. Dawn athraw yr ysgol Sul yn eiddo iddo. Bu farw yn Hydref, 1871.

Yn 1873 y dechreuodd John Morgan Jones bregethu. Y flwyddyn hon yr helaethwyd y capel. Yr oedd y ddyled eisoes yn £207, ac erbyn diwedd 1874 yn £980.

Rhagfyr 23, 1873, y bu farw Griffith Owen yn 27 mlwydd oed. Efe a ddechreuodd bregethu yma pan oddeutu dwy arhugain oed. Torrodd i lawr o ran ei iechyd yn ystod ei dymor yn y Bala. Mab Thomas Griffith, arweinydd y canu. Meddylgar yn hytrach na dawnus. Dwys ei dymer. Meddylid yn uchel ohono gan ei gyd- efrydwyr yn y Bala.

Dewiswyd yn flaenoriaid y flwyddyn hon, David Griffith Bryn llyfnwy, Hugh Williams Bwlchgwyn, yn ddiweddarach Glanygors, a William Roberts Maes y neuadd, yn ddiweddarach Tyddyn hên. Hugh Williams yn cymeryd gofal dosbarthiadau mewn cerddoriaeth, ac wedi bod yn arweinydd y canu am flynyddoedd.

Hen wr mewn gwisg o ddeunydd cartref yn llusgo at y capel ar ei ddwyffon, ei wallt yn wyn fel gwlan, ac yn llaes iawn ac yn pwyso ar ei ysgwyddau—William Williams Ty'nyfron wrth ei enw. Un o hen grefyddwyr y Buarthau ydyw yntau. Y noswaith y daeth adref o'r seiat gyntaf iddo, gofynnodd Jane Lewis ei wraig, gyda'i maban ar ei glin, ai wedi myned i'r seiat yr oedd? gan y mawr ofnai hi hynny. Aflonydd y teimlai Wil ei gwr, a chosai lechwedd ei ben. Ond allan â'r addefiad—ïe, wedi myned i'r seiat yr oedd. I fyny a Jane ar ei thraed, gyda'r plentyn yn ei breichiau, a rhwymyn ei ddillad ef yn llusgo o'r tu ol, fel y cerddai y fam ymaith, gan feddwl ohoni ar y funyd am adael ei gwr am byth. Ond meddyliau eraill a orfu yn y man! Eithr fe ddioddefodd Wil fwy na mymryn yn yr achos yma. Edrychai yn hen odiaeth, ond nid oedd yn fwy na 74 mlwydd pan fu farw. Damegwr wrth'anian ydoedd ef. Gwrandewch arno yn y seiat: "Mi fydda i yn gweld yr hen ddyn a'r dyn newydd yn debyg iawn i wr a gwraig ifanc. wedi dod i fyw at hen bobol. Mae y gwr ifanc, welwchi, eisio i'r hen wr glirio'i ddodrefn gael iddo ef gael lle i osod i ddodrefn newydd. i lawr. Ond y mae'r hen wr, welwchi, yn teimlo yn anfoddlon i glirio i ddodrefn, a rhoi'r llywodraeth i fyny i'r gwr ifanc. Y mae'r hen wr yn anesmwyth iawn, ac mi gwelwch o yn i anesmwythyd yn rhoi proc yn y tân. Mynd ymlaen a wna'r gwr ifanc, beth bynnag, a symuda'r hen bethau o ddodrefnyn i ddodrefnyn. Ac y mae'r hen wr yn gwingo yn ofnadwy, welwchi, wrth weld i bethau yn mynd, ac yntau yn colli'r llywodraeth yn i dŷ i hun. Fel yna yn union y bydda inna yn meddwl am yr hen ddyn a'r dyn newydd. Mae'r hen ddyn yn gwingo yn ofnadwy pan ddaw y dyn newydd i mewn i'r galon, a dechre lluchio dodrefn yr hen ddyn allan, a dechre llywodraethu yno. Unwaith y delo'r anian newydd i mewn, welwchi, ffrae fydd hi o hyd yn y tŷ rhwng yr hen anian a'r newydd, achos y mae'r hen anian yn gweld i llywodraeth hi'n mynd yn llai lai, a llywodraeth yr anian newydd yn fwy fwy. Ac felly y byddafi yn meddwl am danaf fy hun, mai ffrae fydd hi o hyd yma bellach. tra byddafi byw." Gwyddai'r hen Walltgwyn yn eithaf da beth oedd ffrae yn y tŷ, o'r hen amser gynt. Proffwydai am ambell un wedi gadael yr eglwys, ei fod fel bachgen drwg wedi gadael cartref, ond y deuai efe yn ol dan gicio'r drws! Brydiau eraill yn y cyfryw amgylchiad, fe gymerai ei ddameg oddiwrth yr oen a'r ddafad, er pellhau ohonynt oddiwrth eu gilydd am ysbaid, na byddent yn hir iawn heb ddod i chwilio am eu gilydd drachefn. Edrydd Mr. Morgan Jones am William Jones, y gweinidog, yn holi profiad yr hen Walltgwyn yn y seiat. Dywedai wrth y gweinidog y byddai hi'n dywyll iawn arno weithiau, weithiau ychydig yn oleuach. "Pa fodd," gofynnai'r gweinidog, "y byddwchi yn teimlo pan fydd hi'n goleuo arnochi ?" "Yn llawn ffaeleddau," atebai yntau. Ac yna fe aeth ymlaen: "Roeddwn i'n sylwi pwy ddiwrnod yn y tŷ acw ar yr haul yn tywynnu drwy dwll y clo, ac yr oedd yno ryw rimin main o oleuni, welwchi, a hwnnw'n disgleirio yn anarferol iawn. Ond po fwyaf y disgleiriai'r goleuni, welwchi, llawnaf yn y byd y gwelwn i fod o o frychau. Ac fel yna yn union, welwchi, y byddai'n gweld fy hun." Fe ddywedir y meddai William Williams ar gryn wybodaeth am hanes foreuol eglwys Crist. Bu farw Ebrill 27, 1874.

Yn 1875 y dechreuodd Robert Williams bregethu.

Elinor Griffith ydoedd wraig yr hen flaenor Richard Griffith. Dynes dawel, feddylgar. Fel ei gwr, gwnaeth hithau fawr ymdrech i ddilyn y moddion. Clywid tinc nefol yn ei phrofiad. Adnod fawr ganddi yn ei chystudd olaf oedd honno, "Ac i chwithau y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddanghosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol." Bu hi farw Chwefror 14, 1876.

Mawrth 29, 1876, y bu farw Robert William Garreglwyd, wedi gwasanaethu fel blaenor ers 1850. Go fawr o gorff, braidd yn afrosgo ei gerddediad, go gartrefol ei ffordd, heb ddawn siarad, ac yn edrych i fyny i'r nenfwd pryd y byddai wrthi,—dyna ddisgrifiad Mr. Morgan Jones ohono. A dywed ef, hefyd, ddarfod i Robert William ddigio'n enbyd unwaith am beidio disgyblu chwaer a briododd o'r byd, yn ol goddefiad y Gymdeithasfa. Dyfynnai Gurnall yn ddedwydd weithiau. Nid yn ddarllennydd mawr ond ar y Beibl. Hallt wrth ddisgyblu: ni chredai mewn gadael i'r drwg groeni. Ceryddai yn bersonol weithiau. Cynghorai rai wedi tramgwyddo ar fod ohonynt fel y sach gwlan heb ddangos ol y gnoc. Caffai afael nodedig ar brydiau mewn gweddi gyhoeddus. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Claddwyd ef ym mynwent Taiduon, a rhoddwyd carreg ar ei fedd gan aelodau yr ysgol Sul.

Yr oedd nodwedd ymarferol ddymunol i grefydd Robert Griffith Brynperson, brawd Richard Griffith a thad y Parch. W. Lloyd Griffith. Daeth efe at grefydd yn llanc ieuanc ym Mrynmelyn y Gêst, Eifionydd. Gwasanaethai y pryd hwnnw yn Nhyddyneithyn. Cynelid y seiadau yno yn y prynhawn. Nid oedd y teulu yn grefyddol, ac atelid o'i gyflog yntau ar ben tymor gyfran gyfartal i'r amser a gollai oddiwrth ei waith. Penderfynodd yntau ddioddef yn ddirwgnach. Pan fyddai cydweithiwr heb broffesu, fe ymddiddanai âg ef ynghylch hynny mewn dull difrif. Codai gyfarfodydd gweddi ar gyfer ieuenctid. Pan fyddai rhai yn nacau eu dilyn, fe geisiai eu hennill mewn modd addfwyn. Os methu wnelai yn hynny, fe newidiai ei ddull, a cheryddai yn llym. Ac yr oedd ganddo ddylanwad neilltuol ar ieuenctid.Yr oedd yn ddirwestwr aiddgar, a gweithiodd yn egniol gyda dirwest. Dilynai'r cyfarfodydd llenyddol oddiar ofal calon am y bobl ieuainc. Llanwodd wahanol swyddau yr ysgol Sul. Yn athraw llwyddiannus. Ymwelai â'r gwragedd gweddwon a'r amddifaid yn eu cystudd. Bu yn drysorydd yr eglwys am flynyddoedd. Fe ddeallid yr arferai weddio yn ddirgel dros bersonau neilltuol. Yn wr o ymddiried. Yn gwahaniaethu oddiwrth ei frawd Richard fel y gwahaniaethai Iago oddiwrth Ioan. Yn hyderus am ei gyflwr wrth farw, yr hyn a ddigwyddodd Mawrth 17, 1876, ac yntau yn 58 oed.

Yn 1878 fe adgyweiriwyd y capel. Ymhen ychydig amser ar ol yr helaethiad a fu arno yn 1873-4, fe gafwyd fod gwendid yn yr adeiladwaith. Plygodd y tô a gwthiodd y muriau allan, nes o'r diwedd yr oedd yn berygl myned i mewn iddo. Yn adroddiad y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Nebo, Mai 29, 1879, fe ddywedir y teimlai y cyfeillion yn y lle yn bryderus braidd ynghylch amgylchiadau'r achos, ac y cawsont brofedigaeth dost drwy orfod ailadeiladu'r capel, oblegid fod yr adeiladwaith yn salw ac egwan, a'u bod wedi eu rhoi dan faich o ddyled ar adeg o gyfyngdra masnachol. Y ddyled yn 1877, £669; yn 1879, £1,539. Rhif yr eglwys yn 1878, 165.

Tuag 1882 yr ymadawodd William Grffiith Brynbugeiliaid i Abererch. Yn flaenor yma ers tuag 1860 neu cynt. Gwr ffyddlawn. Ef a'i deulu yn cyfrannu at yr achos yn well na neb.

Mai 24, 1882, y bu farw Richard Roberts, yn 81 mlwydd oed, yn gyd-flaenor â Richard Griffith o'r cychwyn. Ni fynnai weithredu fel blaenor, pa fodd bynnag, yn rhan olaf ei oes. Gwr cofus, wedi trysori ei gof yn dda. Yn selog gyda'r ysgol, ac wedi bod yn arolygwr am flynyddoedd. Un o'i eiriau olaf, "Nef a daear a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim."

Yn ei sel ca'dd noswylio—parod oedd,
Pa raid i'n ofidio?
Mynd at Grist, nid trist y tro,
Ennill oedd mae'n well iddo.

Yn 1883, dewiswyd i'r swyddogaeth, Griffith W. Jones a D. Roberts Brynafon, wedi hynny Maes y neuadd. Yn 1888 y bu farw William Jones Nazareth, wedi ei ddewis yn flaenor oddeutu 1856—7. Blaenor o ragoriaeth amlwg. Gwr grymus, egwyddorol, gweithgar. Collodd ei iechyd, fel nad allai wneud yr hyn a ddymunai.

Yn 1889 y dewiswyd John Edwards i'r swyddogaeth. Myned oddiyma i'r Capel Uchaf yn 1892, a chael ei alw i'r swydd yno. Yn 1893, rhowd galwad i'r Parch. John Morgan Jones, erbyn hynny wedi dychwelyd adref o Middlesbro, ar ol rhoi ei ofalaeth i fyny yno. Ymadawodd, gan dderbyn galwad o Gerryg y drudion.

Yn 1897 y bu farw Richard Griffith yn 88 oed, ac yn flaenor yma o'r dechre yn 1843, a'r gwr amlycaf a hynotaf yn y flaenoriaeth yma o'r cychwyn. Gweithiwr cyffredin o ran ei amgylchiadau. Bu'n ffyddlon dan anfanteision. Ffordd bell oddiwrth ei waith; ffordd bell drachefn i'r capel. Cerddodd lawer iawn i Gyfarfodydd Misol yn ei amser, a hynny pan oedd y sir heb ei rhannu yn ddau Gyfarfod Misol. Disgrifir ef gan Mr. John Morgan Jones fel henwr byrr o gorff, ac yn cwyno am y cryd—cymalau. Melancolaidd, ac o duedd i edrych ar yr ochr dywyll. Byddai'n dueddol o sôn am dano'i hun yn cerdded i Gyfarfodydd Misol, gan wlychu a maeddu ei hun. Anhawdd ei gael i godi i siarad; ond pan godai, gwrandawai pawb yn ddyfal, a byddid yn sicr o gael rhywbeth o werth ganddo. Ysgrythyrwr campus. Pynciau mawr yr Efengyl a geid ganddo bob amser. Hynod mewn gweddi: yn y byd ysbrydol yn uniongyrchol. Cafodd lawer o brofedigaethau, ond yn y brofedigaeth chwerfaf y cwynai efe leiaf. Pe digwyddasai iddo gael codwm go gâs oddiar gamfa, ei ebwch fyddai fel eiddo gwr ar ddarfod am dano; ond mewn gwir brofedigaeth ei ymddygiad fyddai eiddo'r Salmydd, "Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau, canys ti a wnaethost hyn." Yr oedd Mr. Morgan Jones wedi bod yn ysgol Clynnog flwyddyn cyn dechre pregethu. Ryw noson seiat dyma Richard Griffith yn galw arno i aros ar ol. Dywedai wrtho yngwydd y blaenoriaid eraill, eu bod wedi ofni nad oedd am fyned ymlaen gyda phregethu. Yna fe adroddodd am dano'i hun, fel y darfu iddo yntau feddwl am fyned yn bregethwr, ond iddo ladd y meddwl am hynny, ac fel y bu bron a drysu o'r herwydd. Hawdd deall ei fod yn agored i dderbyn argraffiadau, ac yn hawdd ei ddychryn a'i gyffroi. Byddai rhywbeth neu gilydd o hyd yn gwneud iddo feddwl ddarfod iddo weled ysbryd. Eithr ynddo ef, nid arwydd o wendid ydoedd hyn, ond arwydd o nerth. Y gordeimladrwydd hwn yn wyneb pethau bychain oedd sail ei hunan-feddiant yn wyneb pethau mawr. Y mae Mr. Robert Thomas, hefyd, ar ol enwi Robert Williams Penymynydd, William Griffith Brynbugeiliaid, Robert Griffith, brawd Richard Griffith, John Morgan Tŷ cerryg, fel rhai hynod mewn crefydd, yn cyfyngu ei sylwadau i Richard Griffith. Henwr ydoedd pan adnabu Mr. Thomas ef gyntaf. Byrr, cryno. Nodwedd ei feddwl, fel y dywed yntau hefyd, oedd prudd-der. Nid yw Mr. Thomas yn meddwl ddarfod iddo'i gyfarfod ef erioed na byddai yn cwyno am ryw adwyth yn rhyw ran o'i gorff neu gilydd. A phan ymwelai efe â'r claf, ebe Mr. Thomas, fe fyddai yn sicr o gwyno mwy na'r cystuddiedig, ac yn hynny yn wahanol iawn i'w frawd o Frynperson. Nid oedd neb, er hynny, yn ameu ei grefydd ef, ond fod ei chyweirnod yn fwy yn y lleddf nag yn y llon. Fel y dywed Jacob Behmen am dano'i hun, ddarfod iddo breswylio dros ystod ei ddyddiau yn llety prudd-der, felly hefyd y profodd Richard Griffith. Cafodd argyhoeddiad llym. yn adeg un o'r diwygiadau mawr ym Mrynengan. Bu yn Sinai ynghanol y mellt a'r tarannau a'r ddaeargryn. Clywodd Mr. Thomas ef yn dweyd ddarfod iddo yr adeg honno ddringo i fynydd cribog y Graig goch, gan gymeryd yr Hyfforddwr gydag ef. Bu yno am amser lled faith, rai diwrnodiau, debygir, heb fod neb yn gwybod ei helynt. Teimlai wrth ddychwelyd oddiyno ei fod yn deall trefn gras yn well. Cyn hyn methu ganddo ers hir amser, na bwyta na chysgu nemor gan gyfyngdra enaid. Dyna'r cyfrif a rydd ei hen weinidog ohono.

Gan fod ei hanes a'i brofiad yn ei lawysgrifen ef ei hun, gerbron, ym mhrinder defnyddiau o'r fath am ddynion o'i nodwedd ef o'r un cyfnod, fe ddyfynnir ohono yma. "1887. Dyma fi, Richard. Griffith, wedi darllen y Salmau dair gwaith, a'r Testament Newydd ddwy waith, ac hyd at yr ugeinfed bennod o Lefiticus, mewn blwyddyn, wrth gadw'r ddyledswydd deirgwaith yn y dydd, os byddwn gartref, y Saboth yr un fath a diwrnod arall, a phob nos wedi dyfod o bob moddion,—er ei bod yn ddigon caled lawer tro, dro arall yn talu yn dda. Yr oedd yn talu ei ffordd yn well na dim arall. 1888. Dyma fi, Richard Griffith, wedi darllen y Salmau dair gwaith, y Testament Newydd ddwy waith, a'r Rhufeiniaid unwaith wrth gadw dyledswydd, etc. Yr ydwyf yn ei gweled hi yn fraint fawr ac yn ddyledswydd arna'i wasanaethu'r Arglwydd, a bod yn y llwch yn gweiddi am drugaredd, ragor fy mod yn uffern a drws trugaredd wedi ei gau. Er fy mod yn teimlo yn galed iawn lawer pryd, eto mae'r Arglwydd yn cyd—ddwyn â mi bryd arall. Bydd yr hen galon fel llyn dwfr wrth feddwl am Iesu Grist wedi myned i'r ddrycin fawr yn fy lle i. Mi fuaswn i yn y ddrycin am byth ond fel yr aeth Iesu Grist, o gariad, i fy lle. Diolch iddo byth am sylwi erioed ar un mor wael â mi. Mi fyddai'n synnu sut y bydd neb yn myned i'w wely heb gadw dyledswydd efo'i deulu. Mi fydd yn dda gen i gael y cyfle i dreio gwneud. 1889. Dyma fi, Richard Griffith, wedi cael byw i gadw dyledswydd deirgwaith yn y dydd, ac wedi darllen [ar y ddyledswydd ac fel arall] yr Hen Destament ddwy waith, y Testament Newydd bedair gwaith, y Salmau bedair gwaith, Boston unwaith, Bunyan unwaith, a llawer o bethau eraill, y flwyddyn hon hyd ddiwedd mis Awst. Gorffennaf 20, 1890. Dyma fy mhrofiad heddyw, Caniad Solomon v. 1, 'Yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai anwyl.' Y mae'r gair yn fwy ei werth na'r byd." Yn 1890 fe aeth dros y Testament Newydd chwe gwaith, y Salmau deirgwaith, a hynny mewn saith mis o amser. Yn 1891 fe aeth drwy'r Beibl bedair gwaith. El ymlaen. "Dyma fi yn 82 oed yn taflu fy meddwl yn ol ar fy nhaith drwy'r anialwch, ac yn gweled fy nghwys yn hir iawn, a llawer iawn o falciau ynddi, ond y mae'n dda gennyf feddwl y medr rhad ras eu codi nhw i gyd, a gwneuthur y gŵys yn uniawn yn uniondeb un arall, sef Iesu Grist. Yr wyf yn teimlo ac yn gweled fod eisieu gwaed ar holl lestri fy ngwasanaeth." Aeth drwy'r Beibl, drachefn, bedair gwaith yn 1892. Yna y mae ganddo dipyn o'i hanes. Ganwyd fi yn sir Feirionydd yn 1809. Yr oedd fy mam yn chwaer i John Prichard, hen flaenor Llanllyfni. Yr oedd fy nhaid yn un o hen deulu y Buarthau. Yr oedd fy nain yn chwaer i fam Owen Williams Waenfawr. Am yr ysgol Sul y dylwn i ddiolch am hynny o addysg a gefais. Gwnewch yn fawr o'r ysgol Sul. Mi eis i'r seiat yn y flwyddyn 1830, yna i gapel Brynengan. Mi a ddarfum briodi yn y flwyddyn 1837. Mi gefais wraig dduwiol. Rhodd yr Arglwydd yw gwraig dduwiol. Yr ydwyf fi wedi diolch lawer gwaith am dani hi. Wyres oedd hi i Rolant Dafydd Brynengan, yr hen bregethwr. Mi aethum i fyw i dŷ capel Brynmelyn am chwe blynedd, a daethum wedyn i ardal Nebo yn 1843. Yna mi'm codwyd i yn flaenor gwael yn Nebo. Bum yn myned i Gyfarfodydd Misol efo phump o frodyr anwyl o Lanllyfni, ond y mae nhw wedi marw, a phedwar o Nebo wedi marw. Y mae y naw yn y nefoedd. Cerddais drwy wynt a gwlaw ac eira i'r Cyfarfodydd Misol i'r ddau ben i'r sir. Tywydd go fawr a fu arna'i cyn myned i'r seiat. Pharisead oeddwn i. Yr oeddwn i'n meddwl fod gennyf grefydd reit dda. Ni wariais hanner coron erioed am gwrw. Mi ges fy meddwi unwaith mewn siomedigaeth, ac mi ddarfum regi unwaith. Ond, diolch i Dduw! mi welais na thalai fy nghrefydd i ddim, a bod yn rhaid chwilio am un well. Y mae eisieu mwy o ras o lawer i argyhoeddi Pharisead na dyn hollol anuwiol. Y mae yn anodd iawn cael y Pharisead o'i grogan. O mor anodd ydyw ein dadwreiddio oddiar foncyff yr hên Gyfamod! Yr oeddwn i'n cael cymhelliadau er yn ifanc i fynd at grefydd. Mi fyddai'r hen bennill hwnnw wrth fy meddwl yn aml,

Dewch a gadd galon newydd,
Dewch chwithau na chadd yr un,
I olchi eich ffiaidd feiau
Yn haeddiant Mab y Dyn.

A'r adnod honno yn Hosea xiii. 13, ' Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab anghall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant." Yr oedd gorfoleddu mawr yn niwygiad Brynengan, ac mi ddaeth yno saith ugain i'r seiat o'r newydd. A theimlo fy hun yn galed yr oeddwn i. Yr oeddwn i yn fy ngwely yn y Bwlchgwyn. Mi welais beth rhyfedd: nid wn i ddim p'run ai breuddwyd ai gweledigaeth oedd o. Gweled Dydd y Farn, a thân yn rowlio o nghwmpas i, a minnau ar fy ngliniau ynghanol y ddrycin. A'r peth cyntaf a ddarfu imi oedd gweiddi, "Bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw," nes deffrôdd pawb yn y tŷ ganol nôs. Mi godais innau o fy ngwely ganol nôs, a mi a eis i ben Mynydd y Cenin i grwydro fel dyn wedi drysu. Mi gefais fy argyhoeddi nad oeddwn i erioed wedi meddwl fod y fath for o lygredigaeth yn fy nghalon, a'r fath elyniaeth yn erbyn Duw a'i waith, nes oeddwn i'n meddwl nad oedd neb dyn mor lygredig a mi ar y ddaear nac yn uffern. Bum fel dyn wedi drysu yn hir. Ofn dweyd fy mhrofiad i neb. Yr oeddwn i wedi meddwl nad oedd neb yr un fath a mi. A'r ysbryd drwg yn fy nhemtio i fynd yn ddeist i wadu popeth. Yr oeddwn i'n mynd adref ryw noson o gyfarfod gweddi efo hen flaenor Brynengan, a dyma fo yn gofyn i mi fy mhrofiad wedi i mi fynd at grefydd, a minnau ddim yn leicio dweyd dim, rhag ofn iddo fy nhorri o'r seiat, nes iddo fo ddywedyd ei brofiad ei hun yn gyntaf. Ac yna dyma fi'n dechre gwaeddi, 'Griffith anwyl, nid oeddwn i ddim yn meddwl fod neb ar y ddaear yr un fath a mi o'r blaen.' Mi wn am yr hen weirglodd lle'r oedd o'n dweyd wrtha i. Dyma yr amser cyntaf imi obeithio am drugaredd. Ac wedi i ni ymadael â'n gilydd, mi eis adref i'r Bwlchgwyn dan weiddi hynny a fedrwn i. Mi ddaeth yr adnod honno i fy meddwl i, 'A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.' Mi fynnai Satan i mi fynd i ardal arall i wrthgilio. Ond drwy ras y nefoedd, dyma fi wedi cael cymorth i ddal efo chrefydd dros driugain mlynedd, er gweled aml a blin gystuddiau. Ond y mae crefydd yn talu ei ffordd yn dda yn yr anialwch."

Yn 1898 ymwahanwyd oddiwrth Saron fel taith Sabothol, pob lle yn myned arno'i hun.

Yn 1900 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, T. H. Griffiths, J. Hughes, Evan Jones.

Rhif yr aelodau ar ddiwedd 1900, 187. Swm y ddyled, £91. Yn 1879 yr oedd y ddyled yn £1539.

Gan fod adgofion Mr. Robert Williams mor helaeth, ac o nodwedd mor bersonol, fe'u cadwyd at y diwedd i'w cyflwyno gerbron gyda'u gilydd. Fe'i ceir yn ddrych, ag y gwelir ynddo gyflwr pethau, yn ardal Nebo yn enwedig, yn y cyfnod y sonir am dano. Oblegid helaethrwydd y sylwadau, rhaid oedd crynhoi a chwtogi mewn mannau. Gadawyd i mewn rai pethau nad ydynt ar ryw wedd nemor fwy nag ail-adroddiad ar bethau a gafwyd o'r blaen, a hynny er mwyn y fantais o edrych arnynt o fwy nag un cyfeiriad.

"Yr oedd yr hen gapel yn edrych oddiallan yn lled debyg i'r un presennol, ond ei fod gryn lawer yn llai. Yr oedd gwyneb hwnnw, fel hwn, tua'r gogledd. Y tŷ wrth ei ochr, yr ochr nesaf at Gors y llyn, a ffrynt y ddau yn gydwastad.

"Yr wyf yn gweled fy hun yn hogyn bach dieithr penfelyn yn llaw fy mam, yn nesu at y capel. Yr wyf newydd fyned i'm Testa- ment, ac yn ymhyfrydu mewn darllen pob peth a welaf. Dacw enw'r capel,- Nebo,' yn argraffedig ar ei dalcen. Deallais ar ol hynny mai John Jones Talsarn a roes yr enw iddo. 'Ysgoldy'r Mynydd' oedd yr hen enw. Ond Capel y Mynydd' fu'r enw arno am amser maith. Bu ychydig ysgarmes yn y Cyfarfod Misol o achos y peth. Y ffordd arferol o hel y casgl mis oedd galw enw'r lle, ac i bob un fyned ymlaen i dalu. Galwai T. Palestina Lewis y llyfr, ac ail alwai Ellis James Ty'n llwyn yr enw, mewn goslef ddynwaredol o'r lle, yn y dull a arferid ganddo ef. Pan oeddid un tro yn galw y llyfr, dyna Ellis James yn gwaeddi mewn llais main, ' Cap-êl y Mynydd.' Ond er fod y blaenor yn ymyl, nid oedd yn syflyd o'i le, ac ni chymerai arno glywed. Dywedid wrtho fod enw ei gapel wedi ei alw ddwywaith neu dair. Atebai yntau mai nid dyna enw eu capel hwy; a bu raid i'r awdurdodau ystwytho, a'i alw wrth ei enw 'Nebo' o hynny allan. Erbyn hyn y mae'r enw wedi myned ar y gymdogaeth cystal a'r capel.

"O ïe, wedi cychwyn i'r hen gapel yr oeddym. Ond gwelwn. fod yma amryw yr un fath. Mae cowrt y capel yn llawn o ddynion yn siarad â'u gilydd, ac ambell un heblaw y merched yn myned i mewn drwyddynt i'r capel. Nos Sadwrn ydyw, a disgwylir i Joseph Thomas roi pregeth wrth fyned heibio. Y mae amryw o'r gymdogaeth yn perthyn yn agos iddo. Nid yw efe eto wedi cyrraedd. Mae yma un dyn bychan yn myned oddiwrth y naill at y llall, ac yn ysgwyd llaw yn serchog â phawb ac yn gwenu, ac yn dweyd rhyw air siriol wrth bob un. Dacw fo wedi gweled fy mam a minnau yn dod, ac yr ydym yn ddieithr, newydd ddod i'r gymdogaeth. Daw ar ei union atom, ac nid yw'n gwybod dim am formality introduction. Ysgydwa law yn gynnes â'm mam, a dywed fod yn dda ganddo ein gweled yn dod i'r capel, ac yna ysgydwa law â minnau, a rhydd groesaw mawr i mi, a gwahoddiad i'r ysgol Sul dranoeth. Owen Roberts Tŷ capel ydyw. Gwr duwiol diamheuol. Os mai wrth faint eu calonnau, ac nid wrth faint eu pennau, y byddant yn cymeryd eu safleoedd yn y nef, yna fe fydd Owen Roberts ymhlith y pendefigion yno. Gwnaeth lawer i gynorthwyo rhai i deimlo yn gartrefol yn y lle. Ac er nad oedd yn flaenor, yr oedd fod gwr y tŷ capel yn wr siriol, ac yn medru sirioli pawb oedd yn dod i'r capel, yn fantais fawr i'r achos. Ymddiddanai am grefydd ar y ffordd. Ac os byddai pobl ieuainc wedi eu derbyn, neu rai mewn oed newydd ddod i'r seiat, byddai Owen Roberts, wrth fyned i'r chwarel neu wrth ddod adref, yn ei ddull serchog ei hun, yn eu cymell pan ar eu pennau eu hunain i ddechre cadw dyledswydd, ac i gymeryd rhan mewn gweddi gyhoeddus. A phan deimlai ei fod wedi braenaru digon ar y tir, gofalai am roi gair i'r blaenoriaid, ar iddynt alw hwn a hwn ymlaen i ddiweddu'r seiat. Yr oedd hefyd yn help arbennig i bregethwr. Eistedd yn y sêt fawr, ac ŷf y cwbl i mewn, gan borthi yn barhaus, gyda'i 'ïe, ie,' a'i 'Amen,' ac ambell ddeigryn yn ei lygaid. Plant yn yr AB oedd ei ddosbarth yn yr ysgol, ac ni byddai arno fyth eisieu newid. Heblaw dysgu'r wyddor i'r plant, dysgai hwy hefyd i garu Iesu Grist. Adnabu ei le, cafodd ef, a llanwodd ef i'r ymylon.

"Eisteddaf mewn sêt gron, y nesaf at y drws. A chan fod y pulpud rhwng y ddau ddrws, yr wyf mewn lle manteisiol i weled pawb yn y capel. Gan ei bod yn amser dechre, y mae'r blaenoriaid yn eu lle. Dyna Richard Griffith mewn sedd wrth ochr y pulpud, ac yn wynebu'r gynulleidfa. Dyn bychan, pengoch. Er mewn oed, parha i edrych yn ieuanc. Deil ei wallt heb wynnu, ac nid yw chwaith yn ei golli. Cafodd fyw lawer ar ol hyn. Bu ef am beth amser yn gwisgo'r anrhydedd o fod y swyddog hynaf yn Arfon. Clywais iddo unwaith wneud araeth synnodd bawb, o blaid Evan Owen Talsarn, pan oedd efe yn gofyn caniatad i ddechre pregethu, a llwyddodd, er pob gwrthwynebiad, i'w wthio ef drwy'r drws. Yn y Cyfarfod Misol diweddaf iddo ef yn Nebo, fe synnodd bawb wrth roi hanes yr achos. Ond ni synnodd neb oedd yn ei adnabod : y syndod oedd fod y fath ddawn a gwres yn gallu bod yn guddiedig. Ni chlywais neb fedrai ddweyd gair ar ol pregeth neu mewn seiat yn well na Richard Griffith. A byddai ei air fel ffrwydr-belen yn goleuo, ac yn dinystrio os byddai eisieu, bopeth o'i amgylch. Yr oedd wedi teimlo'n ddwys yn niwygiadau Brynengan. A chwyno arno'i hun yn enbyd y byddai bob amser, yn enwedig ar ei galon ddrwg. Teimlai awydd ymryson â Phaul am fod y pechadur mwyaf. Ac yr oedd y ddau wedi byw bywyd dichlynaidd o'r dechre. Ond daeth y goleuni mawr, a chafodd y ddau eu lladd. Yr oedd Richard Griffith wedi darllen gweithiau Bunyan yn fanwl, yn enwedig y Rhyfel Ysbrydol, a'r Helaethrwydd o Ras. Gwelai Daith y Pererin bob cam yn ei galon ei hun. Dyma'r llinellau fuasai'n rhoi'r disgrifiad goreu o'i brofiad cyson:

I Galfaria trof fy wyneb—
Ar Galfaria gwyn fy myd;
Y mae gras ac anfarwoldeb
Yn diferu drosto i gyd;
Pen Calfaria
Yno, f'enaid, gwna dy nyth.

Os cae olwg ar Galfaria wrth weddio, teimlai yn y nef, a byddai'r nef y pryd hwnnw fel yn gostwng i'w gyfarfod yntau. Wrth fyned at rywun wedi aros yn y seiat, byddai Richard Griffith yn lled debyg o adrodd ei dywydd ei hun pan yn dod i'r seiat ym Mrynengan. A theimlai'r mwyaf ofnus yn gartrefol ar unwaith dan ei ddwylaw. Ac i drin clwyfau pechadur ar ddarfod am dano, yr oedd yn anhawdd cael neb ond y Meddyg mawr ei hun â dwylaw tynerach na Richard Griffith. Cafodd bob math o ystormydd yn nechre ei oes. Teulu mawr, llawer o waeledd yn y teulu, a chyflog bach. Awr o gerdded at ei waith, hanner awr o waith dringo i fyned adref o'r capel, eto ni chollai efe fyth seiat na chyfarfod gweddi. Mi a'i clywais yn adrodd sylw John Roberts, tad Iolo, wrtho ef, 'Wel, Dic bach, paid â digalonni, welais i moni yn gwlawio ar hyd y dydd ond anaml: os bydd wedi dechre gwlawio y bore, daw ond odid yn hindda y prynhawn. Hwyrach y cei dithau brynhawn braf.' Ac fellu fu. Ni fu neb yn treulio rhan ddiweddaf ei oes yn fwy dedwydd: yn ei dý ardrethol ei hun, yn cael pob ymgeledd gan ei ferch hynaf, Mrs. Jones Pandy hên. Yr unig wasanaeth yr edrychai yn ol arno gyda gradd o foddhad oedd ei waith yn dysgu'r Rhodd Mam i'r plant yn yr ysgol. Oddiwrth Owen Roberts, eid at Richard Griffith, yn yr ysgol Sul, i dderbyn argraff anileadwy.

"Cydflaenor â Richard Griffith oedd Robert William Garreg lwyd. Bu yntau yn hynod ffyddlon hyd y gallodd. Saer maen wrth ei alwedigaeth, ond ni wnae pellter ffordd at ei waith fyth ei rwystro o'r seiat. Nid oedd ganddo ef allu na dawn Richard Griffith, ond byddai yn hollol foddlon i gymeryd yr ail le. Yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr.

Gyda Richard Griffith a Robert William, gwasanaethai William Griffith. Pan oedd William Griffith yn y dosbarth gyda Robert William y cigydd, athraw dan gamp, troai Robert William arno yn fynych, pan fyddai efe yn ateb yn lled gwmpasog, 'Wel, rwan Wil, torr di dy stori yn o ferr.' Ond dipyn yn hir fyddai William Griffith yn y cyffredin. Cyfranwr hael yn ol ei allu, ac uwchlaw ei allu.

"Dau beth oedd yn ymddangos fel cymhwysterau yn William Roberts Tyddyn hên i'w swydd: cymeriad da a dawn gweddi. Yn gynnil wrth natur, ond yn hael at yr achos. Bu farw yn orfoleddus â'r pennill hwnnw ar ei wefusau, Mi lyna'n dawel wrth dy draed.'

"Yr oedd i David Roberts Tal y maes ei nodweddion, oedd yn ei osod ar ei ben ei hun. Cyn ei droedigaeth yn bysgotwr mawr, fel y disgyblion. Ond gan nad yw afonydd Brydain mor rydd a Môr Galilea, ni physgotodd fawr ar ol ei droedigaeth. Yr oedd wedi bod yn amlwg gyda chrefydd pan yn ieuanc, a thybiai rhai y gallai wneud pregethwr, os na fu efe yn meddwl am hynny ei hun. Ac yr oedd ar hyd ei oes yn ymddangos i raddau fel dyn wedi colli ei nôd. Aeth i gellwair â'r ddiod, ac am gyfnod bu ymhell ar gyfeiliorn. Dan bregeth John Ogwen Jones yn sasiwn Caernarvon, Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt,' y daliwyd ef megys gan wys oddiuchod. A bu'n ddyn newydd ac yn sant gloew ar ol hynny. Dawn arbennig i siarad. Yn gofyn amser i ddod at ei bwnc, ond wedi cael gafael arno, dygai allan ohono bethau newydd a hên.

"Yn nhŷ'r capel y mae Joseph Thomas tra'r ydym yn ymgomio fel hyn, a'r gynulleidfa yn dechre anesmwytho eisieu ei weled yn dod i mewn. Pwy sydd yma i ddechre canu? Dyna'r codwr canu hynaf, William Evans Talymaes, yn y sêt fawr. Oherwydd henaint lluddiwyd iddo barhau. Clywais ef unwaith yn ceisio mewn cyfarfod gweddi ym Mlaen y foel. Gallwn dybio fod ganddo ryw un dôn, a honno yn cael ei chyfaddasu â slyrs i bwrpas y gwahanol hydau. Yr oedd ganddo yn ei henaint lais fel merch. A chyda llais mwyn, toredig, tremolo naturiol, ac nid tremolo gwneud, canai, 'Ethol meichiau cyn bod dyled, Trefnu meddyg cyn bod clwy,' gan roi pwyslais ar y gair mwyaf pwysig â slyr hir. A'r rhai oedd yn bresennol yn ceisio dod i mewn ar ambell i nodyn fel cyfeiliant iddo. Mae William Evans wedi gadael y gymdogaeth. Mae golwg batriarchaidd iawn arno gyda'i wallt gwyn, llaes, yn disgyn ar ei ysgwyddau.

"Ond ni wiw disgwyl wrth William Evans i godi'r canu heno, oblegid dacw Thomas Griffith yn y sêt ganu ynghanol y capel. Ar ol William Evans y daeth ef i'r swydd. Mae ganddo ef ei lyfr emynau bob amser. Ac nid oes ond rhyw ddau neu dri eraill yn yr holl gapel yn dod â'r llyfr emynau i'r gwasanaeth. Oblegid ledio pennill o'i gof y byddai pawb y pryd hwnnw ond y pregethwr. Myned drosto unwaith. Ail-adrodd y ddwy linell gyntaf a'u canu, yna'r ddwy nesaf; ac os byddai wyth llinell, ail-adrodd y pedair olaf. Ac ni byddai neb y pryd hwnnw yn meddwl am ganu dim ond un pennill ar y tro. Yr oedd i'r dull hwnnw ei fanteision: gwneid ymdrech neilltuol i ddysgu'r penillion, er mwyn gallu cymeryd rhan yn y canu. Ac yr oedd pawb yn medru y penillion mwyaf arferol o'u cof. Ond yr oedd Thomas Griffith bob amser gyda'i lyfr, a throsedd fawr oedd i neb ledio pennill nad oedd yn y llyfr. Prin yr ystyriai efe unrhyw bennill felly yn ganonaidd. Yr oedd mwy o wybodaeth am gerddoriaeth yn rhai o'i deulu nag ynddo ef, ac yn rhai o'i blant. Ond yr oedd ganddo ef lais da, ac yr oedd yn cofio amryw donau ar ei gof. Ond nid oedd yn hollol gyfarwydd â'r hydau, fel y byddai yn gwneud camgymeriadau digrifol ambell waith. Ac nid oedd yn meddu dawn William Evans i gyfaddasu'r dôn i unrhyw hyd. Yr oedd Thomas Griffith yn wr crefyddol ei ysbryd, ond fel cerddorion yn gyffredin yn hawdd ei dramgwyddo. Yr oedd yn hynod ffraeth ei dafod. Cof gennyf ei glywed yn dweyd am un meddyg, 'Fe ŵyr hwna i'r munyd pa bryd y bydd dyn farw, ond am roi rhywbeth iddo rhag iddo farw, fedr o ddim. Nid meddyg felly yw y Meddyg mawr, ond meddyg a all yn gwbl iachau.' Un o'i hoff donau oedd Bangor, ymdeithgan milwyr Cromwell. Os byddai yn methu cael tôn ar ryw eiriau,' Gadewch i ni dreio Bangor,' eb efe. Ond er y dywedir y byddai milwyr Cromwell yn gallu canu yr ail arbymtheg Salm arni, tipyn yn anystig a fyddai weithiau i fyned ymlaen yn ol ieuad Thomas Griffith arni.

"Ond nid Thomas Griffith, wedi'r cwbl, fydd yn codi'r canu yn yr oedfa heno, oblegid dacw fy nhaid, Robert William Pantyfron, yn dod i mewn. Ac y mae ef yn deall yr hên nodiant yn dda. Mae ef wedi myned radd ymhellach na Thomas Griffith: y mae llyfr Ieuan Gwyllt ganddo ef. Cymer ei le yn naturiol fel codwr canu, am ei fod o'i ysgwyddau i fyny yn uwch fel cerddor na neb arall yn y lle. Er ei fod yng nghymdogaeth y triugain oed, y mae ganddo lais soprano cyn fwyned a'r un ferch. Gwyddai sut i roi meddwl pennill allan wrth ei ganu. Ni chlywais neb yn gallu canu pennill ar dôn gynulleidfaol gyda'r fath raen ac eneiniad. Canai â'r deall ac â'r ysbryd hefyd.

"Dacw Joseph Thomas o'r diwedd yn dod i mewn. Rhoddir allan i ganu, 'Gwaed y groes sy'n codi i fyny.' Tery Robert William Alma arni. Ond ychydig o'r gynulleidfa sy'n gallu canu arni. Yr oedd y dasg o ddwyn tonau Ieuan Gwyllt i ymarferiad yn ddiflas o anhawdd. Cenir hi drwyodd gan gwafrio y slyrs. Bu un o ŵyrion Robert William, sef Richard Roberts Brynllys, yn arwain y canu yn Nebo am dymor byrr cyn myned ohono i wlad y canu tragwyddol..

Dyma ni wedi rhoi tro drwy'r hen flaenoriaid a'r hen godwyr canu. Gadewch i ni weled eto pwy sy'n gwrando yma. Dacw Marged Dafydd, dros gant oed. Mae newydd gael tynnu ei llun ar ben ei chanfed flwydd. A chedwir ef yn barchus ym mharlwr y tŷ capel. Yr oedd hi yn un o hen wrandawyr Robert Roberts Clynnog. Yr oedd yn un o'r rhai brofodd ddiwygiad mawr Beddgelert a diwygiadau Brynengan, ac wrth gwrs ddiwygiad '59, oedd â'i donnau ar y pryd heb lwyr gilio ymaith. Prin yr enwir Iesu Grist a Chalfaria nad yw'r hen wraig yn yr hwyl ar unwaith. Ar y ffordd o'r oedfa sieryd yn uchel am y bregeth, ac yn aml y mae yn gorfoleddu. Mae hi a Mari Wmffra gyda'u hetiau silc yn y ddwy sêt nesaf i'w gilydd o flaen y pulpud, ac mewn hwyl fawr heno yn gwrando'r pregethwr dieithr.

"Codwyd Richard Roberts Penpelyn yn flaenor gyda Richard Griffith; ond nid oedd yn gweithredu fel blaenor, er yn eistedd yn y sêt fawr, ac yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos. "Hugh Jones Blaenyfoel yw trysorydd yr eglwys. Heb fod yn flaenor, y mae ef yn y sêt fawr bob amser, ac ni wneir dim heb ymgynghori âg ef.

"Dacw William Griffith Bryneithin, taid y Parch. H. E. Griffith Croesoswallt, yn un o'r seti o flaen y pulpud. Gelwid ef bob amser i ddechreu'r cyfarfod gweddi, pan gymerai ran, am ei fod yn medru rhoi'r synwyr wrth ddarllen. Yn ei ymyl y mae Griffith Roberts Corsyllyn, un o'm hathrawon cyntaf. Nid oedd neb y byddai yn well gennyf ei glywed yn gweddio. Ond awn yn rhy faith wrth sylwi ar eraill bob yn un ac un.

"Yr oedd, pa fodd bynnag, amryw gymeriadau hynod iawn yn perthyn i gynulleidfa Nebo y pryd hwnnw, heb fod yn aelodau, rai ohonynt yn athrawon, rai heb ddod i'r pregethau ond yn achlysurol. Dacw Harry Prisiart, y dyn a lleiaf o deimlad crefyddol ynddo a gyfarfyddais erioed,—o'r ddaear yn ddaearol. Daw i'r bregeth yn achlysurol, ac y mae yma heno. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol hyn yr oeddwn yn myned i Benygroes ar hyd llwybr drwy gae iddo ef. Pwy oedd wrth y gamfa yn fy nisgwyl, wedi fy ngweled yn dod, ond Harry Prisiart. Dechreuodd siarad ar unwaith am Richard Owen, oedd newydd fod yn pregethu am wythnos yn Llanllyfni. Gwelwn ar unwaith fod y graig wedi ei tharo â gwialen Duw, a dwfr yn dechre dod allan. A'i ddagrau ar ei ruddiau. dywedai, Dyma'r dyn rhyfeddaf a welais erioed. Nid ei bethau ef sy'n effeithio arnaf; ond y mae yn dwyn i'm cof bregethau Morgan Howells a wrandewais ddeugain mlynedd yn ol.' Ni welais erioed well enghraifft o sylw Joseph Thomas am yr harpŵn welwyd mewn hen forfil. Ac un o'r troion diweddaf y bum yn Nebo, un o'r saint mwyaf amlwg yn y sêt fawr oedd yr hen garreg dân wedi myned yn llyn dwfr!

"Dacw wrandawr arall, William Owen Nant y noddfa. Oni bae ei fod yn dod i'r capel ambell dro, prin y buasai neb yn gwybod fod ganddo enaid. Mae ef dipyn yn hoff o'r hen ddioden. Pan yn llanc yr oedd yn un o gwmni a gyfarfyddai mewn tafarn i wawdio crefydd a chrefyddwyr. Cerdd allan o'r oedfa heno ar frys, fel mewn digofaint llidiog. Pan yn bedwar ugain mlwydd oed, fe ddaeth i'r seiat. Os gallai rhywun drwy ffyddlondeb wneud iawn am esgeulustra, gwnaeth William Owen hynny. Pwy bynnag arall fyddai ar ol o'r seiat, fe fyddai ef yno, er bod ohono yn gloff, a chanddo dipyn o ffordd hefyd. Ac yr oedd ei brofiad yn addfed, wedi ei eni yn ei gyflawn faintioli. Clywais ef yn dweyd, pan ddechreuid gwawdio'r Iesu yn y cwmni yr elai iddo yn ieuanc, er yn hoff o'r cwmni, yr aethai allan.

"Pan eid i'r chwarel am chwech y bore, ac awr o waith cerdded tuag yno, cynelid y ddyledswydd deuluaidd gan amryw fore a hwyr. Clywais John Morgan Tŷ cerryg, tad y Parch. John Morgan Jones, yn dweyd nad aeth efe erioed i'r chwarel heb gadw'r ddyledswydd deuluaidd. A chyffelyb iddo ydoedd Robert Griffith Brynperson, tad y Parch. W. Lloyd Griffith Llanbedr. Yr oedd efe yn frawd i Richard Griffith, ac yn daid hefyd i Mr. Evan Lloyd Jones, y pregethwr. Robert Jones Fawnog grîn oedd dra gofalus am yr addoliad teuluaidd, a thra hoff o wrando pregethau. Byddai yn cychwyn ddau ar y gloch y bore o'r Pennant i Bwllheli neu Gaernarvon, er mwyn bod mewn pryd yn y seiat am wyth. Ac wedi cerdded yr holl ffordd, a sefyll drwy'r dydd, cerddai yn ol drachefn fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Yn hen wr dros bedwar ugain, wedi cloffi yn fawr, cerddai i'r odfeuon, er iddo fod awr a hanner yn myned ar ei ddwyffon, ac awr a hanner yn dychwelyd yn ol. Ac ni chwynai fod y drafferth yn ofer.

"William Williams Ty'nyfron oedd hynod am ei dduwioldeb a'i ddawn i gynghori pobl ieuainc. Griffith Jones Bryn draenllwyn a weddiai yn hynod weithiau. Bu ganddo fab yn dechre pregethu yn niwygiad '59, y dywedir ei fod yn un gobeithiol anghyffredin. Noswyliodd yn gynnar yng ngwres y diwygiad.

"Nid wyf yn cofio testyn, na dim o bregeth Joseph Thomas bellach. Cof gennyf sylw Robert Jones Llanllyfni wrth Joseph Thomas ei hun ar ddiwedd y gwasanaeth. Dywedai wrtho fod ganddo ddigon o straeon a chymhariaethau da i wasanaethu arno ef am weddill ei oes.'

Dyma adroddiad ymwelwr y Canmlwyddiant: "Hydref 18, 10 ar y gloch. Dechreuwyd yr ysgol yn weddol brydlon, ond daeth llawer i mewn yn ystod y gwasanaeth dechreuol. Dylid annog yn fynych at brydlondeb. Llawer o athrawon medrus yn y dosbarth canol, ond nid oedd un a ymwelwyd â hwynt wedi ymgymeryd â'r wers-daflen. Yr oll o'r bechgyn yn y dosbarth yn medru y Deg Gorchymyn yn dda. Canu da ac effeithiol. Nifer o ferched ieuainc yn absennol rhag ofn yr ymwelwyr. Ysgol y plant yn ysgoldy y Bwrdd. Nid oes llenni yn cael eu harfer, ac y mae'r diffyg o hynny yn wastraff mawr ar amser. Ysgol drefnus, yn cael ei chario ymlaen yn ol cynllun yr ysgol ddyddiol. John Roberts."

Heblaw y rhai a nodwyd,-oddigerth un neu ddau gan Mr. Robert Williams,-yr oedd yma liaws o gymeriadau lled arbennig, megys Catrin Edward, cares i John Jones Talsarn, y credir iddi gael tro gwirioneddol ym mlwyddyn olaf ei hoes, a hithau agos yn 80 oed (marw 1860); William Pritchard Tŷ cerryg, taid y Parch, John Morgan Jones, a fu'n ffyddlon yn nydd pethau bychain yr achos, ac y dywedir y byddai yn o hynod ar ei liniau bob amser y gelwid arno yn union ar ol rhyw storm o fellt a tharannau (m. 1860); Laura Roberts, hefyd, priod William Pritchard, ffyddlon hithau yn nhymor bore yr achos, a'r hyn a allodd hi a'i gwnaeth (m. 1861); Robert Pritchard Cerryg ystympia, mab Richard Roberts Maes y neuadd, un o blant diwygiad 1859, darllenwr ar Esboniad James Hughes, a dyn drwyddo (m. Hydref 8, 1865); a Richard Roberts y tad, pert a llawen, parchus gan bawb, un o sefydlwyr yr achos, a adnewyddwyd yn niwygiad 1859 (m. Hydref 11, 1866, yn 59 oed); Owen Roberts, mab Owen Roberts Tŷ capel, a welai bethau bychain eisieu eu gwneud ac a'i gwnelai, ac a adroddai sylw ar ol Owen Thomas, fod bod yn ddefnyddiol ar y ddaear yn nesaf dim at fod yn ogoneddedig yn y nef (m. Gorff. 7, 1866. Gweler y Drysorfa, 1868, t. 109); Henry Parry Frondeg, ddiniwed, dduwiol. "Tal, main, syth, a gwallt gwyn, llaes ganddo," ebe Mr. Morgan Jones. A dywed nad a'n angof ganddo ei ddull yn dechreu'r ysgol un bore Sul, pryd y rhoes allan y pennill, "Y Saboth, hyfryd ŵyl yw hon, Na flined gofal byd mo'm bron" (m. Ebrill 23, 1869). Hugh Williams Pant y frân, a orfoleddai dros y tŷ ar ganol nos, ac a welai Iesu Grist "yn dod i'w nôl" yn ei funydau olaf (m. Hydref 26, 1873, yn 22 oed); William Griffith Bryneithin, fawr, esgyrnog, ffrwyth 1859, yn gryn ddarllenwr ar lyfrau ac ar y Beibl, un o ddarllenwyr cyhoeddus y pwyslais a'r oslef (m. Rhagfyr, 1873); Jane Jones Pennant, dawel, faddeugar, ffyddlon yn y moddion er gwaethaf y ffordd, ac un a roes argraff o dduwioldeb nodedig ar rai pobl (m. Mai, 1877); John Jones Bryncoch bach, brodor of Aberdaron, heb nemor ysgol a gyrhaeddodd fesur o wybodaeth fuddiol mewn amryw ganghenau, ac a'i gwnaeth hi'n wasanaethgar i'r amcan uchaf (m. Ionawr 19, 1880). Ond yr amser a ballai i'w henwi i gyd, er fod William Roberts yn traethu am amryw eraill, ac yn enwi nifer wedyn ag y dywed am danynt y gallesid dweyd llawer am eu nodweddion. Heddwch i'w llwch!

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif o'r lle. Ysgrif William Roberts Bryn Llys, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1880. Nodiadau ar gychwyniad yr Ysgol Sul gan Richard Griffith. Ychydig o'i hanes ei hun gan Richard Griffith, drwy law y Parch. J. Morgan Jones Cerryg y drudion. Adgofion y Parchn. Robert Thomas Talsarnau ; R. Williams, M.A.. Glan Conwy; a J. Morgan Jones. Nodiadau gan Mr. T: H. Griffiths