Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Cesarea

Oddi ar Wicidestun
Carmel Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog

gan William Hobley

Nebo

CESAREA.[1]

Y FRON ydoedd enw cynhenid yr ardal. Yr oedd y Fron yn enw ar dŷ yma, ac yna ar chwarel, pa un bynnag a ydoedd yn enw ar yr ardal cyn hynny ai peidio. Fe gymerodd yr ardal yr enw Cesarea yn raddol oddiwrth y capel. Mae'r ardal yn rhanbarth uchaf plwyf Llandwrog. Deuir yma o'r Groeslon, ag sy'n lled agos i ganol. y plwyf wrth ei gymeryd yn ei hyd, drwy Carmel, hyd i ben Mynwent Twrog; neu o Benygroes drwy y Clogwyn melyn, dros y Cilgwyn, mynydd cyfagos i Fynwent Twrog. Rhyw dair milltir sydd o'r Groeslon, a llawn pedair o Benygroes. Wedi cyrraedd, dyna'r olygfa yn ymagor ar bob llaw. Yng nghyfeiriad y dwyrain y mae'r Mynyddfawr. Y mae'r ardal yn ymestyn o Fynwent Twrog hyd at esgair y Mynyddfawr. Eir ar y dde am o ddwy i dair milltir ar oriwaered i'r Nantlle. I'r gogledd-ddwyrain y mae Moel Tryfan. Chwarelwyr yw corff y boblogaeth, yn byw mewn mân dyddynod hyd yn ddiweddar, pan y dechreuwyd codi tai, naill ai yn rhesi bychain neu arnynt eu hunain.# Cyn agor y chwarelau nid oedd ond ychydig iawn o anedd-dai yn yr ardal i gyd. Tua'r flwyddyn 1835, nid oedd ond rhyw ddau neu dri o dai, heb ddim caeau, rhwng pen y Cilgwyn a Llyn y Ffynonnau. Wedi agor dwy neu dair o chwarelau ac i'r boblogaeth liosogi y dechreuwyd teimlo angen am yr ysgol Sul. Oddeutu'r amser yma y daeth John Jones, wedi hynny o'r Ffridd lwyd, i'r ardal o Feddgelert. Byddai ef a Robert Dafydd yn myned ar y Sul y bore i gyfarfod gweddi Ochr y Cilgwyn, ac yna i'r bregeth i Dalsarn, y prynhawn i'r ysgol yn y Gelli ffrydau, a'r hwyr i Dalsarn.

Rhowd ysgol y Gelli i fyny pan gychwynnwyd yr ysgol yn yr Henfron yn ystod 1837—8. Y rhai fu'n fwyaf amlwg ynglyn â'i chychwyniad ydoedd Robert Dafydd y Fron, John Jones Ffridd lwyd a John Roberts Tanychwarel. Tŷ bychan gerllaw y Fron ydoedd yr Henfron. John Roberts a ofalai am y plant. Ar ddiwedd yr ysgol deuai y rhai fyddai yn y siamber at y rhai yn y gegin i gael eu holi. Y plant ar ganol y llawr, a'r rhai hŷn o'u deutu. Adroddai'r oll y Deg Gorchymyn, ac wedi hynny holid y plant. Yr holwr yn gyffredin fyddai John Jones Ffridd lwyd. Safai ef wrth holi bob amser gyda'i gefn ar yr hen dresel. Robert Dafydd oedd yr arolygwr tra buwyd yma. Nodir William Parry Bryn'rhedydd, Tŷ eiddew ar ol hynny, a brawd i John Parry Caer, fel un o ysgrifenyddion cyntaf yr ysgol, ac ysgrifennydd yn yr Henfron, debygir. Dywedir fod rhif yr ysgol cyn y diwedd oddeutu 35. Gan mai tŷ bychan oedd yr Henfron, a chyda'r boblogaeth yn cynyddu, daeth galw am gapel.

Fe ddywedodd John Jones Ffridd lwyd wrth Mr. O. J. Roberts, ei fod ef yn un gydag eraill a godai gerryg ar gyfer y capel newydd, ddiwrnod coroniad y Frenines Victoria, sef Mehefin 28, 1838. Dywedai hefyd fod rhialtwch mawr ar ben Moel Tryfan ar y diwrnod hwnnw. Y mae blwyddyn yr agoriad yn ansicr. Y mae Mr. O. J. Roberts, oddiwrth bopeth a glywodd am ysgol y Fron, o dan yr argraff ddarfod iddi barhau am o ddwy i dair blynedd, ac na ddarfu iddi ddim cychwyn dan 1837, y fan bellaf yn ol. Yr oedd John Roberts, ei dad ef, yn dilyn yr ysgol yn y Gelli, ac yn un o'r rhai a gychwynnodd yn yr Henfron, ac yr ydoedd yn fyw ar y pryd yr oedd ei fab yn ysgrifennu ei nodiadau. Y mae Mr. O. J. Roberts yn tueddu i roi agoriad y capel mor bell ymlaen ag 1840. Y mae gryn anwastadrwydd ynglyn âg amseriadau yn dwyn perthynas âg agoriad y capel a sefydlu'r eglwys, fel y maent i'w cael mewn adroddiadau argraffedig ac ysgrifenedig. Eithr y mae ei adroddiad ef yn ymddangos yn meddu ar radd o sicrwydd ynglyn âg ef. Tebyg ddarfod i'r capel gael ei agor yn ystod 1839—40, ac i'r eglwys gael ei sefydlu yn ddiweddarach.

Yr oedd John Jones Talsarn yn cymeryd dyddordeb yng nghychwyniad yr achos. Efe ynghyda Robert Dafydd oedd wedi gosod y mater gerbron eglwys Talsarn. John Jones hefyd a nododd y fan yr oedd y capel i fod arno, efe a'i cynlluniodd, ac efe a roes ei enw iddo. Gelwid ef weithiau ar y cyntaf yn gapel y Fron, ond Cesarea a orfu yn y man, ac a ddaeth, fel y nodwyd, yn enw ar yr ardal ei hun. Yr ydoedd y capel ar y ffordd a arwain drwy ganol yr ardal, a thrwy chwarel y Fron i gyfeiriad Rhwng-y-ddwy-afon. Dodwyd tŷ capel ar ei dalcen dwyreiniol, ac o dan yr untô, ac yr oedd drws o'r tŷ i'r capel. O'r tu ol i'r tŷ yr oedd yr ystabl. Ar yr ochr agosaf i'r ffordd yr oedd drws i'r capel. Y pulpud ar ganol y talcen, sef y canolfur rhwng y capel a'r tŷ. Fel arfer, y pulpud yn lled uchel. Pum ffenestr, dwy ar bob ochr, ac un ar y talcen gyferbyn a'r pulpud. Sêt yn rhedeg gyda'r mur ar bob ochr i'r pulpud, gyda'r llawr beth yn uwch na llawr y capel. Ar ganol y sêt ar y dde yr oedd drws yr eid drwyddo o barlwr y tŷ capel, drwy ddrws yn y sêt ei hunan, i'r sêt fawr a'r pulpud. Yn y sêt fawr gyda'r blaenoriaid eisteddai rhai hynafgwyr eraill. Yma, ar gyfer y pregethwr, y mae'r arweinydd canu. William Griffith Cae Goronwy ydyw ef, gwr y llais udgorn arian. Meinciau ar lawr pridd, rhydd i bawb, sydd ar ganol y capel. Chwe chanwyll, un bob ochr i'r pulpud, a'r pedair eraill yn y seren uwch canol y llawr. Yr oedd 25 o seti bychain yn y capel ar y cyntaf, digon i gynnal y gynulleidfa i gyd y pryd hwnnw. Ymhen ysbaid o rai blynyddoedd, dodwyd seti ynghanol y llawr. Eisteddleoedd erbyn hynny i 133.

Fe bregethwyd am y tro cyntaf yn y capel cyn ei orffen, oddiar fainc y saer, gan Cadwaladr Owen. Yr oedd hynny ar noson waith, a daeth llawer o'r chwarelwyr ynghyd i wrando. Ceid pregeth ar brynhawn Sul o Dalsarn, yn achlysurol i ddechre, wedi hynny yn gyson.

H. W. Hughes, mab William Hughes Pen yr orsedd oedd gwr y tŷ capel. Bu ef o wasanaeth gyda'r canu y pryd hwn.

Nid yw'n ymddangos pa bryd yn union y sefydlwyd yr eglwys. Feallai mai ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd ar ol agoriad y capel. Yr oedd Robert Dafydd yn flaenor yn Nhalsarn, ond yn preswylio yma. Daeth Griffith Williams yma o Frynrodyn yn 1842. Yr oedd efe yn flaenor yno. John Jones Ffridd lwyd oedd y blaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys yma. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei ddewisiad. Tybir mai yn ystod 1842-3, a bod yr eglwys wedi ei sefydlu ryw gymaint yn flaenorol. Yr oedd y tri gwŷr hyn yn gweithredu fel blaenoriaid o'r dechre, neu yn agos o'r dechre.

Robert Owen Rhostryfan a gymerai lais yr eglwys yn newisiad John Jones. Wedi cymeryd y bleidlais, ac i John Jones gael ei enwi fel y dewisedig, ebe Robert Owen ymhellach: "Y mae'r oll o'r eglwys wedi pleidleisio drosto ond un; ac y mae'n debyg iawn y gŵyr yr un honno fwy am dano na neb arall o honochi. Gwyliwch chwi mai y hi sy'n iawn!" Mary Jones, priod John Jones, oedd yr un honno.

Allan o restr T. Lloyd Jones o aelodau eglwysig Talsarn yn 1838, y mae Mr. O. J. Roberts yn nodi allan ddeuddeg ag y tybia mai hwy ydyw'r deuddeg y dywedir gan T. Lloyd Jones iddynt ymaelodi yn Cesarea ar gychwyniad yr eglwys. Dyma nhwy: Morris Griffith Penygarth, Robert Dafydd y Fron, Cadwaladr Jones Penygarth, Hugh Williams a Richard Williams Pen yr orsedd, John Jones yr Henfron, Ffridd lwyd wedi hynny, John Roberts Gelli, Tanychwarel wedi hynny, William Parry Bryn'rhedydd, Elizabeth Jones, sef priod Robert Dafydd, Mary Hughes, sef priod Cadwaladr Jones, Catherine Griffith Pen yr orsedd, Mary Jones, sef priod John Jones. Fe ddichon na ddarfu iddynt oll ymaelodi yma y noswaith gyntaf. Daeth eraill i'r eglwys tuag adeg ei chychwyniad,—John Hughes Tynymaes, wedi hynny o'r Cefnen, Brynrodyn, lle y gwasanaethodd fel blaenor, Margaret Williams, sef priod Griffith Williams, Mary Roberts Tanychwarel ac eraill.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf yma ar Ebrill 25, 1841, sef yn y Fron, fel y dywedir yn llyfr cofnodion yr ysgrifennydd, gan alw'r capel ar yr enw hwnnw am y pryd, debygir. Yr oedd yma y pryd hwnnw 14 o athrawon, 3 o athrawesau, 1 arolygwr, 83 o ysgolheigion.

Dylid coffau y byddai John Jones Talsarn yn talu ymweliadau mynych â'r lle yma, yn pregethu yma yn fynych ar ganol wythnos, gan wrthod derbyn unrhyw gydnabyddiaeth am hynny, ac na wneid dim o bwys ynglŷn â'r achos ond mewn ymgynghoriad âg ef.

Yn 1846 y daeth William Hughes yma o Dalsarn, y pregethwr cyntaf yn y lle. Daeth i fyw i Blas Collin. Bu o wasanaeth neilltuol yma. Ymadawodd i Dalsarn yn ei ol yn 1852.

Yng Nghyfarfod Misol Rhydfawr, Tachwedd 10, 1852, yn ol cofnod ysgrifenedig, fe benderfynwyd cynorthwyo Cesarea i dalu eu dyled drwy annog pawb "i ddyfod a rhyw gymaint o arian, yn ol fel yr ewyllysient hwy eu hunain." Y ddyled yn 1853, £60; yn 1854, £45. Yr oedd eisteddleoedd i gant o bobl yn cael eu gosod yn 1854. Cyfartaledd pris eisteddle pob un yn y chwarter, 7c. Swm y derbyniadau am y seti yn 1853, £11. Gwneid casgl o £5 y flwyddyn at ei gilydd y pryd hwnnw at leihau y ddyled. Y casgl at y weinidogaeth, £7. Rhif yr eglwys, 48. Traul o £8 ar y capel yn ystod 1853.

Yn ystod 1853-4 y cafwyd y Cyfarfod Misol cyntaf i'r lle. Trwy lawer o ymdrech y llwyddwyd i'w gael, ac ar ol gwneud cais ar ol cais am dano. Dywedodd William Roberts Clynnog neu John Jones Tremadoc nad oedd "dim ond grug i'w gael yn y fan honno." Fe orfu John Jones Ffridd lwyd, cennad yr eglwys, heb yn waethaf i'r grug a'r cwbl. Yn y Cyfarfod Misol hwn y pregethodd Griffith Parry, Caernarvon y pryd hwnnw, ei bregeth gyntaf mewn Cyfarfod Misol.

Yn 1853-5 y daeth John Phillips i Dynymaes o le a elwid Coicia gwyn yn Eifionydd. Yn flaenor yn dod yma. Yn briod â mam gwraig John Jones Ffridd lwyd. Gwr gweithgar a chrefyddol.

Bu farw Griffith Williams Penybraich ar Chwefror 26, 1856, yn flaenor er 1842. Daeth i'r ardal yma y pryd hwnnw o Frynrodyn, lle'r ydoedd yn flaenor er 1839. Yr oedd ei ddyfodiad ef a'i briod i'r ardal y pryd hwnnw o werth neilltuol i'r achos. Ystyrrid ef yn wr duwiol iawn, ac yr oedd yn dra ffyddlon gyda'r gwaith. Gadawodd dystiolaeth ar ei ol ddarfod iddo ryngu bodd Duw; a dywedid am dano, Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth.

Fe drigiannai John Williams,-tad y Parch. William Williams Rhostryfan, Robert Williams a fu'n flaenor yn Nhanrallt, ar ol hynny o Bantglas, Henry Williams Glanaber, Llanllyfni, a blaenor yno, yn Rhwng-y-ddwy-afon yn ystod 1850-7. Bu ef byw ym Meillionnydd yn flaenorol i hyn. Symudodd oddiyno i'r Bontnewydd, ac oddiyno drachefn i Rhwng-y-ddwy-afon. Gwr pwyllog a gwasanaethgar i'r achos. Llafurus gyda'r ysgol. Amddiffynnodd rai rhag diarddeliad droion am na farnai eu trosedd yn galw am hynny. Ymadawodd i Gae einion, Tanyrallt, a therfynnodd ei oes yno.

Yn ystod 1856-7 y dewiswyd yn flaenoriaid, John Roberts Tanychwarel a Thomas Roberts Tanycastell.

Tuag 1857 y daeth William Griffith i gadw'r tŷ capel. Hugh W. Hughes wedi ymadael oherwydd afiechyd. Gwnaeth William Griffith ei ran gyda'r achos tra y bu yn yr ardal. Yr ydoedd ef yn dad i William Griffith Creigiau mawr (Hyfrydle).

Bu farw John Phillips yn 1859, wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1855 neu gynarach, gan adael perarogl o'i ol. Fe ddywed Mr. David Hughes fod y blynyddoedd 1854—9 yn flynyddoedd o weithgarwch gyda'r achos, a bod yn yr eglwys ddynion cymwys i ymwneud â phob rhan o'r gwaith, a rhai hynod mewn gweddi, ac y ceid profiadau melus yn y seiadau, yn enwedig gan yr hen chwiorydd. Byddai Robert Jones y Penrhyn, Thomas Hughes Pen y cae, John Hughes Blaen fferam yn cymeryd rhan yn arweiniad y gân, heb fod yn sicr iawn ohoni, yr un ohonynt. Ni byddai Robert Dafydd ychwaith yn foddlon iawn i John Hughes ymyrraeth, am nad oedd yn aelod eglwysig, er mai efe oedd y sicraf wedi myned ohoni yn lân i'r pen. Gwellhaodd y ganiadaeth yn fawr ar ol amser y diwygiad. Y pryd hwnnw fe ddeuai rhai of gryn bellter i'r gwasanaeth. Dyna Sion Pitar, hwsmon y Gelli ffrydau, dyn cryf, wynebgoch, gwarrog. Hen lanc ydoedd Sion, a dau neu dri o gŵn defaid yn ei ddilyn, ac yn gorwedd yn dawel wrth ei draed yn y sêt fawr, gan godi eu llygaid at eu meistr yn bur debyg yn yr un dull ag y codai yntau hwy at y pregethwr. Gwelid Sion Pitar mewn blynyddoedd diweddarach yn Nazareth ger Caernarvon, ond heb y cŵn erbyn hynny.

Ar nos Sul mewn cyfarfod gweddi, wrth i Thomas Roberts roi allan y pennill, "Y Gwr a fu gynt o dan hoelion," ar ddiwedd y gwasanaeth, y torrodd y diwygiad allan yma. Torrodd John Jones Penygan allan i ddiolch a gweiddi nes i deimlad dieithr feddiannu'r lle. Adroddai drosodd a throsodd y pennill hwnnw:

Tu draw i'r llen wrth chwilo'r llyfrau
Pwy wyr na cheir f'enw innau?
Tan ddwyfron hardd yr Archoffeiriad
A gollfarnwyd draw gan Pilad.

Wedi i bethau lonyddu, fe alwyd seiat, ac arosodd tri ar ol, sef John Jones Penygan, Morris Williams (Meiric Wyn) Penygan, a Hugh W. Hughes Gwyndy. Wedi i un cyfarfod gweddi fyned drosodd, dyma Hugh Thomas y Castell yn dychwelyd yn ei ol i'r seiat, gan waeddi fel yr elai i mewn, "Bobl anwyl, fedra'i fyned. ddim cam pellach!" Gyda bod y geiriau dros ei wefusau fe dorrodd allan yn orfoledd. Yna fe ddechreuwyd canu, "Beth yw'r udgorn glywai'n seinio?" A chanu yn orfoleddus y buwyd am encyd o amser. Amryw o'r cyffelyb bethau a brofwyd gyda'r ymweliad hwn. Ychwanegwyd nifer a fu o fawr wasanaeth yn ol hynny. Yr oedd William Humphreys wedi dod i'r eglwys rai blynyddoedd cyn hynny, ond ar ol y diwygiad y dechreuodd efe weithio gyda chrefydd. Yr ydoedd argyhoeddiad William Humphreys yn un hynod braidd. Gweithio'r nos yr ydoedd yn Dorothea. Daeth yn wlaw trwm, a bu raid llechu yng nghwt y boiler, lle'r aeth y rhan fwyaf i gysgu. O ddireidi, fe agorodd rhywun un o'r pibellau agerdd, nes bod yr agerdd yn chwythu allan gyda thwrf dychrynllyd. Deffrodd y cysgaduriaid, gan ruthro ar draws eu gilydd ynghanol yr agerdd a'r lluwchfa o ludw. Meddyliodd William Humphreys ar y funyd mai yn uffern yr ydoedd. Y teimlad yma a'i harweiniodd i'r eglwys. Eithr y diwygiad a wnaeth grefyddwr gweithgar ohono. Un o blant y diwygiad oedd William Griffith Cae Goronwy. Yr oedd ef yn gerddor, a bu o wasanaeth mawr i'r ganiadaeth. Dewiswyd ef yn arweinydd cyn bod ohono yn aelod eglwysig, ac ymroes yntau gyda llwyredd i'r gwaith. Y mae'r hanes hwn am y diwygiad wedi ei ddiogelu gan Mr. David Hughes. Rhif yr eglwys yn 1858, 45; yn 1860, 80; yn 1862, 85; yn 1866, 85.

Yn amser y diwygiad y sefydlwyd y cyfarfod gweddi bach. Penodwyd John Jones Penygan a William Humphreys i ofalu am dano.

Yn 1861 fe newidiwyd y daith. Pregethwr Talsarn i fyned i'r Baladeulyn, a Cesarea i fyned yn daith gyda Charmel.

Yn ol adroddiad Ysgolion y Dosbarth am 1862, yr oedd rhif yr athrawon yn 18, athrawesau 1, ysgolheigion 111, ynghyd â'r arolygwr a'r ysgrifennydd yn gwneud 132.

Yn 1864 y gorffenwyd y capel newydd yn gyfagos i'r fan lle'r oedd yr hen gapel, yn is i lawr, ac ar dir Bronyfoel. Tra'r oedd y capel heb ei orffen, fel y clywodd Mr. O. J. Roberts, daeth Edward Griffith Meifod heibio yng nghwmni David Lloyd Jones, a phregethodd ynddo i gynifer a ellid eu cael ynghyd, a digwyddodd i'r ail gapel megys ag i'r cyntaf, sef ddarfod iddo gael ei gysegru â phregeth cyn ei lwyr orffen. David Jones Plas Collin a edrychai ar ol yr adeiladwaith dros yr elgwys. Evan Owen Talsarn oedd y cyntaf i bregethu ynddo yn ol trefn ac yn rheolaidd. Hugh Thomas y Castell a ddechreuodd yr ysgol ynddo gyntaf. Yr arolygwr ysgol a ddaeth o'r hen gapel i'r newydd ydoedd Thomas Roberts Tanycastell, ysgrifennydd yr ysgol a'r eglwys, Morris Williams Penygan. Agorwyd y capel yn ffurfiol gyda Chyfarfod Misol, Dafydd Jones Caernarvon a Dafydd Morris ymhlith y pregethwyr. Eisteddleoedd yn y capel i 256. Gosodid 180 yn 1865. Swm y ddyled yn 1860 ydoedd £15; yn 1865, £500; yn 1866, £550. Gwerthwyd yr hen gapel yn 1865 am £20.

Yn 1866 y sefydlwyd y Gobeithlu. Y ddau blaenllaw yn hynny, John Jones Ffridd lwyd a Thomas Roberts Tŷ Capel, Tanycastell gynt.

Yn ol cofnod ysgrifenedig, yr oedd brodyr o Cesarea yng Nghyfarfod Misol Talsarn ar Ionawr 14, 1867, yn cwyno fod y gwynt mawr diweddar wedi chwythu ymaith ben eu capel. Anogwyd gwneud casgl ym mhob capel i'w cynorthwyo. Fe ymddengys ddarfod i'r gwynt mawr hwnnw godi nen y capel yn goed a thô, a chario'r cyfan dros y ffordd a elai heibio'r capel i gae gerllaw. Fe ddigwyddodd hynny ar y Sadwrn cyntaf o Ionawr, sef y pumed. Y mae gan Robert Ellis nodiad yn ei ddyddiadur ar gyfer y Sadwrn hwnnw : Myned drwy dywydd mawr iawn i Gaergybi." A thrachefn ar gyfer yr wythnos nesaf, "Eira mawr, mawr;" a'r wythnos wedi honno, "Eira mawr-oer iawn;" a'r wythnos wedyn, "Lluwch eira dychrynllyd." Traul ail doi, £132. Y ddyled yn 1868, £525. Nid hir y buwyd cyn fod rhaid ail-doi talcen ac ochr, am eu bod yn gollwng dwfr, ac ar ol hynny rhoi nenfwd newydd. Y ddyled yn 1870, £475; yn 1871, £570.

Yn ystod 1868-9 neu ddiweddarach y daeth Evan Parry i'r ardal o Rostryfan, yr hwn ynghyda William Griffith, a fu o hynny ymlaen yn arwain gyda'r canu.

Yn niwedd 1868 y daeth Edward Lloyd yma o Cefnywaen fel cyfrifydd yn chwarel y Braich. Llafuriodd gyda phob rhan o'r gwaith, a gadawodd ei ol ar y tô ieuanc.

Bu farw Thomas Roberts Tŷ capel ar Mai 6, 1871, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am oddeutu deuddeng mlynedd. Gwr tal, llawn ddwylath, a chymesur, gyda wynebpryd meddylgar, ac o dueddfryd siriol a chymdeithasgar neilltuol, ynghyd â gradd helaeth o awdurdod o phenderfyniad, ebe Mr. O. J. Roberts. Gweinyddodd ei swydd gydag ymroddiad a doethineb. Safai yn gryf dros argyhoeddiad ei feddwl, ar ol manwl ystyriaeth, gan ymgais am ddidueddrwydd mewn barn. Yn wr darllengar gyda dyheadau y gwleidyddwr. Ymlonai yng ngwawr y deffroad Cymreig. Efe oedd yr athraw yn nosbarth pwysicaf yr ysgol. Heb ddawn arbennig, yr oedd eto yn siaradwr cryf, goleubwyll. Bu'n llywydd. y Cyfarfod Ysgolion. A'i gymeryd ym mhob golwg arno yn wr ardderchog.

Yn ystod 1871—2 y dewiswyd yn flaenoriaid, John Williams, mab Griffith Williams Penybraich a William Hughes, mab Cefneithin. Symudodd John Williams yn 1879, debygir, i Hyfrydle, canys yn Nhachwedd y flwyddyn honno y galwyd ef i'r swyddogaeth yno.

Yn 1872 fe awd i ryw gytundeb âg Edward Lloyd, ar iddo wasanaethu fel bugail ar yr eglwys, a'i gyflog i fod yn £10. Nid yn rhwydd y daeth hynny o gyflog i law, ac efe a ymadawodd i Nerpwl ym mis Mai, 1873.

Yn 1873 y dewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Tanyfron a Griffith G. Williams Broneryri. Y flwyddyn hon y codwyd tŷ capel newydd ar draul o £250. Prynwyd tir ynglyn âg ef am £20 7s. 6ch.

Yn 1873 y derbyniodd Mr. J. J. Roberts alwad i Drefriw. Yr oedd ef wedi dechre pregethu yn Ebenezer, Clynnog, Medi 30, 1867. Yn niwedd 1873 yr aeth William Hughes i Nerpwl i'r ysgol, wedi bod yn flaenor yma am o un i ddwy flynedd. Cymerwyd ef yn glaf, a bu farw cyn nemor o amser. Gwr ieuanc caredig, crefyddol. Hydref 8, 1875, y sefydlwyd y Parch. W. R. Jones yma fel bugail yr eglwys. Daeth yma o Fethesda. Efe a aeth i fyw i'r tŷ capel newydd.

Bu farw Robert Dafydd ym Medi 26, 1878, yn 78 oed, wedi gwasanaethu fel blaenor yma o'r dechre, a chyn hynny yn Nhalsarn. Yn y Fron y preswyliai, ac yr oedd yr Henfron hefyd yn ei ddaliadaeth. Trwy ei offerynoliaeth ef yr agorwyd yr Henfron i'r ysgol ar y cyntaf. Yr oedd efe yn briod âg Elizabeth, chwaer John Jones Ffridd lwyd, gwraig nodedig o grefyddol. Bu'n oruchwyliwr ar chwarel y Fron am ysbaid o flynyddoedd. Dioddefodd waeledd a nychdod am yn agos i'r 20 mlynedd diweddaf o'i oes. Oblegid hyn fe'i cyfyngwyd i'w dŷ am yr ystod hwnnw o amser, oddigerth ar dywydd hyfryd. Defnyddiodd ei amser adref i ddarllen, yn enwedig ei Feibl, fel yr ystyrrid ef yn dra chyfarwydd ynddo. Fe ddywedir y byddai John Jones yn hoff o'i gymdeithas, a darfod iddo adrodd sylwedd rhai o'i bregethau iddo o bryd i bryd cyn eu traddodi. Bu'n weithgar efo'r ysgol Sul, a bu'n offeryn gyda'i chychwyn yn y Gelli ac yma. Gosododd yr Henfron i hen bobl heb fawr o ddodrefn ganddynt am ardreth isel er mwyn ei gael yn lle cyfleus i gadw'r ysgol. Yr oedd yr hen wr, pa fodd bynnag, yn gâr iddo, ac fel yntau yn rhywbeth o gymeriad yn ei ffordd. Ni faliai nemor am bethau newyddion. Ni fynnai fyned i weled y trên pan ddaeth o fewn dwy filltir i'w breswylfod, er cael cynnyg ei gario droion mewn cerbyd i'r perwyl hwnnw. Gwaharddodd ddwyn elorgerbyd i'w gynhebrwng. Myned gyda llythyren rheol. Priododd merch un o'r byd yn amser yr hen gapel. Collodd ei haelodaeth. Ymhen hir a hwyr hi ddaeth i'r eglwys yn ei hol, wedi bod o'r gymdogaeth am ysbaid. Am na fynnai hi ddweyd ei bod yn edifarhau am yr hyn a wnaeth, ni fynnai Robert Dafydd mo'i derbyn hithau yn ol, ac at enwad arall yr aeth hi. (Goleuad, 1878, Hydref 26, t. 9.)

Oddeutu 1880 y symudodd William Humphreys i Garmel, lle bu farw yn 1883. Fel athraw, heb fedru darllen yn gywir ei hun, yr oedd ganddo ffordd ddeheuig o gael yr ysgolheigion i gywiro eu gilydd. Bu cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc dan ei ofal ef o amser y diwygiad hyd ei ymadawiad o'r ardal. Disgybl anwyl ydoedd.

Yn 1881 y derbyniwyd Richard Williams i'r Cyfarfod Misol fel blaenor.

Dydd Sadwrn, Awst 28, 1880, y gosodwyd i lawr y garreg sylfaen i'r capel newydd, sef y trydydd, gan Watkyn Williams, yr aelod seneddol dros y sir. Yr oedd hynny tua chwarter milltir ymhellach na'r hen gapel, ac yn nes i Fynwent Twrog. Rhoes y Dr. Owen Thomas anerchiad ar yr achlysur. Gwnaed y cynlluniau gan y Parch. Griffith Parry Llanberis, a chymerwyd y gwaith gan Mr. Evan Jones Plas Dolydd. (Goleuad, 1880, Medi 4, t. 14.)

Ymgynullodd y gynulleidfa ynghyd i'r capel am y tro cyntaf ar y Sul, Awst 28, 1881. Cyn codi'r capel newydd yr oedd y ddyled yn £425. Prynwyd y tir am £112 10s. Yr holl draul, gan gynnwys y ddyled flaenorol, £2,436 3s. 10c. Prin yr oeddid wedi gorffen adeiladu na phrofwyd iselder masnachol yn y wlad. Yn 1883 fe ddarfu'r dymestl dorri y tô. Erbyn yr agoriad yr oeddis wedi talu dros £200 o'r ddyled, a lleiheid ryw ychydig arni, er gwaethaf llogau trymion, bob blwyddyn oddigerth y flwyddyn 1883. Sefydlwyd cymdeithas ddilog cyn agoriad y capel. Er hynny fe dalwyd 473 18s. mewn llog yn 1886.

Yng ngwanwyn 1882 y bu farw Evan Parry. Dewiswyd ef fel cyd-arweinydd y gân â William Griffith. Disgynnodd y cyfrifoldeb yn lled lwyr arno ef. Yr oedd yn gerddor da. Cyflawnodd y gwaith yn deilwng. Dewiswyd ei fab, Mr. Henry R. Parry, i'r un swydd ar ei ol.

Ebrill, 1882, fe roes y Parch. W. R. Jones ei swydd fel bugail i fyny, ac ymadawodd i Lanfairfechan.

Bu farw John Jones Ffridd lwyd, Mawrth 14, 1885, wedi bod yn flaenor ers oddeutu 1842. Gwr cryf, gewynog, llawn dwylath o daldra, o brydwedd tywyll, go hunanfeddiannol, ac âg edrychiad go led dreiddlym ganddo. Un o wŷr Beddgelert, ac wedi teimlo pethau grymus yno. Y blaenor cyntaf yma o ddewisiad yr eglwys ei hun. Bu'n arolygwr yr ysgol yn y capel cyntaf am rai blynyddoedd. Yn wr penderfynol yn ei swydd, ac yn hytrach yn geidwadol ei ysbryd. Cofiadur da, a chanddo gyfoeth o bethau wedi eu darllen a'u clywed, ag y gallai eu dwyn allan ar achlysur yn ei gyfarchiadau cyhoeddus. Braidd yn afrwydd fel siaradwr nes poethi gyda'i bwnc. Yn weddiwr cyhoeddus taer, llawn teimlad, gyda gwên ar brydiau yn ymdaenu dros ei wynepryd, pan gyda'r gorchwyl. Danghosodd fesur da o ymroddiad dros ystod ei dymor maith fel blaenor, ac yr ydoedd yn un yr hoffid gwrando ar ei gyfarchiadau.

Yn 1885 y dewiswyd yn flaenoriaid, O. J. Roberts a William Ellis Williams. Y blaenaf yw ysgrifennydd yr eglwys er 1874. Aeth yr olaf i Awstralia, gan geisio adferiad iechyd, a bu farw yno Hydref 6, 1903. Yn niwygiad 1859 y daeth efe at grefydd. Bu yn Awstralia yn ddyn ieuanc. Yn 1874, penodwyd ef ar ol ei dad yn oruchwyliwr chwarel y Cilgwyn.

Bu farw John Roberts, Chwefror 12, 1888, yn 84 oed, ac yn flaenor er rywbryd yn 1856-7. Ganwyd ef ym Mryncyll ger Amlwch, Môn. Ystyriai John Roberts fod ganddo hawl gyfreithiol drwy ei fam i etifeddiaeth neilltuol o gryn werth. Pan oedd rhan o'r etifeddiaeth honno yn myned ar werth, meddyliodd am ymyrraeth y pryd hwnnw, ac aeth i Fôn i'r amcan; ond pallodd ei wroldeb, a daeth oddiyno heb yngan gair. Pan tuag 20 oed daeth i Simdde'r Ddallhuan, Drwsycoed, i weithio. Lletyai yn y Gelli ffrydau. Yno yr ymunodd â chrefydd. Yn ystod ei arosiad ef yno y sefydlwyd ysgol Sul yn y Gelli, a bu yntau yn athraw a holwyddorydd yno am gryn ysbaid. O'r Gelli y symudodd yma, ac a adeiladodd Danychwarel, ei gartref yn ol hynny. Bu yn ardal Pisgah am ddwy flynedd a hanner, ac yna dychwelodd i aros yn Nhanychwarel, oddigerth am yr ysbaid yn niwedd ei oes pan letyai gyda'i fab, Mr. O. J. Roberts. Mab arall iddo ydyw Iolo Caernarvon. Yr oedd ef yn wr nodedig. Yr ydoedd yn gâr i William Roberts Amlwch, ac ystyrrid fod gradd o debygrwydd i'w ganfod ynddynt yn eu gwynebau. Nid oedd mor gryf a llym ac awdurdodol yn ei wynepryd a William Roberts o lawer; ond yr oedd llawer o'r un meddylgarwch a chraffter i'w ganfod ynddo, a chymaint feallai o gallineb a chyfrwystra, a mwy o ddawn ymadrodd yn y llygaid, a chwareuent yn fwy ar wyneb y croen nag eiddo William Roberts. Fel meddyliwr, yr oedd yn gyffelyb i William Roberts o ran ei brif nodweddion, nid amgen, anibyniaeth, treiddgarwch a gwreiddioldeb. Ni chafodd fanteision addysg, mwy na William Roberts: darfu i argyhoeddiad crefyddol ddeffro meddylgarwch yn y naill a'r llall, a meithrin ynddynt chwaeth lem. Arwydd o ragoriaeth cynhenid ei feddwl oedd ei sylw ar natur a'i hoffter o blant. Fe dynnai wersi oddiwrth amrywiol ymddanghosiadau natur. Rhedai y plant i'w gyfarfod, fel y deuai oddiwrth ei waith, er mwyn cael ysgwyd llaw âg ef. A byddai yntau wrth ei fodd yn eu canol hwythau. Yr oedd yn rhwyddach a llyfnach ei ddawn na William Roberts, ac yn llai ysgythrog ac ofnadwy, ond fel yntau yn meddu ar ryw rin cuddiedig a daflai newydd-deb a dieithrwch a swyn cyfrin ar ei feddyliau. Yr oedd William Roberts a Morgan Howels wedi cyrraedd gradd o arglwyddiaeth ar ei feddwl ef, yn ddiau mewn rhan oherwydd gradd o gydymdeimlad dirgeledig rhyngddo â hwy yn ei ysbryd. Fe briodolir ei argyhoeddiad i'r naill neu'r llall ohonynt, heb fod yn sicr p'run; nid hwyrach ei fod yn ddyledus i'r naill a'r llall fel offerynau yn hynny. Bu'n athraw llwyddiannus am driugain mlynedd. Yn holwr plant gyda'r mwyaf medrus. Siaradwr mynych ac effeithiol yn y Cyfarfod Ysgolion. Areithiwr dirwestol selog. Yr oedd mewn cydymdeimlad â'r hen a'r newydd: adroddai sylwadau yr hen bregethwyr a'r rhai ieuainc diweddar: symudai gyda symudiadau ei oes. Medr mewn ymgeleddu a chyfarwyddo a hyfforddi. Yn wr gostyngedig a thyner a doeth. Ac yn y cyfuniad o'i ragoriaethau yn flaenor tra effeithiol yn yr eglwys. Efe fyddai yn cychwyn y cynhebryngau braidd i gyd cyn amser y fugeiliaeth. O'r tu ol i'w ragoriaethau eraill yr oedd duwioldeb diamheuol. Yr oedd ei dduwioldeb yn gyfryw ag oedd yn cydweddu â naturioldeb. Yn wr ynghanol gwŷr, yr oedd yn blentyn gyda phlant. Defnyddiai ymddanghosiadau natur ac arferion gwahanol greaduriaid er egluro pethau ysbrydol. Yr oedd yn fawr mewn gweddi yn y dirgel ac ar goedd. Codai ei erfyniadau o ddyfnder calon. Fe ddywedir fod rhai o'i weddiau yng nghyfarfodydd Richard Owen yn hynod iawn. Fel rhyw enghraifft ohono, fe ellir cyfeirio at yr hyn a adroddir ar ei ol pan gododd i siarad mewn Cyfarfod Misol yn Llanllyfni ar yr Ysgol Sul. Dywedai fod arno ofn fod y dosbarthiadau yn fynych yn trin yr adnodau yn lle bod yr adnodau yn eu trin hwy. Yr adnod fel bombshell, yn cael ei throi a'i throsi a'i holi, Pa le y caed yr haiarn i dy wneud di? ymhle y toddwyd di? pwy a'th ddug di yma?' a'r cyfryw gwestiynau. A'r darn haiarn yn ddigon digyffro yn dioddef ei holi. Ond rhyw ddiwrnod dyma ddodi'r bwlet yn y cannon, a dyna'r powdwr a'r tân mewn cyffyrddiad âg o, ac, ar darawiad, dyma fo allan o'r cannon gyda grym a chyflymdra arswydol,—a dyna fraich un wedi ei thorri, clun un arall, a phen un arall. Galanastra mawr! Ac yn gyffelyb y mae'r adnod wedi profi lawer gwaith. Hawdd holi,—Pwy a'th lefarodd di?' 'Beth yw ystyr y gair yma a'r gair acw ynoti?' a'r cyffelyb. Gellir troi a throsi'r adnod yn y dull hwnnw fel peth eithaf diniwed. Ond rhyw ddiwrnod, dyma'r adnod yn nwylaw'r Ysbryd yn ordinhadau'r Efengyl, ac wele hi'n cael ei bwrw gyda nerth i galonnau pechaduriaid, ac, megys y dywedir am Gleddyf yr Ysbryd, hi dyrr drwy bopeth,—hi a wahana rhwng yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mer, a dwg farn i mewn i'r gydwybod. Yr adnod a oddefai ei thrin a'i thrafod mewn dull mor dawel,—nid oes dim bellach a saif o'i blaen, ac y mae hi ar unwaith yn lladd ac yn bywhau. Mewn Cyfarfod Misol yn y Bontnewydd, ar ryw ymdrin ar yr ysgol Sul eto, fe ddywedai ei fod y dydd o'r blaen yn edrych ar y robin goch yn lledu ei draed ac yn canu yn soniarus ar ymadawiad ei gywion â'r nyth. Yr aderyn bach fel yn dweyd, 'Welwchi, fel y maent yn ehedeg! y fi magodd nhw, y fi fu yn yr helbul blin o hel bwyd iddyn nhw! Ond y mae eu gweld wedi magu y fath blu, ac yn hedeg mor hoew, yn ddigon o dâl imi am y cwbl.' Yna fe droes at y pregethwyr oedd yn bresennol. "Deiliaid yr ysgol Sul ydych chwithau, frodyr anwyl! Y mae rhai ohonoch yn hedeg yn uchel iawn. Ond chwi faddeuwch i ambell hen athraw yn yr ysgol Sul am ddweyd yn yr olwg arnoch yn ehedeg ynghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddoch,—Welwchi fel y mae nhw yn ehedeg! Y fi magodd nhw, y fi fu'n hel bwyd iddyn nhw, yn fy nyth i y magasant eu plu, ac y casglwyd nerth ganddynt i ehedeg mor uchel!" Y gair a ddywedodd wrth rai o'i gydswyddogion, a oedd wedi galw i'w weled pan oedd efe ar ei derfyn,—"Awn a meddiannwn y wlad!" (Drysorfa, 1891, t. 447).

Yn 1892 y dewiswyd Richard Roberts Ffridd lwyd a John W. Evans Bryn awel yn flaenoriaid. Hefyd, Richard Williams yn ymadael i Garmel, yn flaenor yma er 1881. Yr oedd ef wedi dod i fyw i'r ardal ers rhai blynyddoedd cyn hynny. Ymwelwr â'r claf a'r rheidus.

Ionawr 27, 1893, y bu farw William Griffiths Cae Goronwy, arweinydd y gân am faith flynyddau. Ymunodd ef â chrefydd. oddeutu amser y diwygiad. Bu'n dra ffyddlon i ddilyn yr wylnosau, er mwyn y canu. Llafuriodd lawer gyda'r canu ar gyfer gwahanol gyfarfodydd dirwestol. Yn fanwl iawn mewn dysgu darllen i'r bechgyn yn ei dosbarth.

Medi 27, 1898, y daeth Mr. R. Dewi Williams, B.A., yma fel bugail.

Yn 1898 yr ymadawodd Richard Roberts i Rostryfan, yn flaenor yma er 1892. Yn athraw da, yn wr neilltuol mewn gweddi, ac o gymeriad rhagorol.

Gwerthwyd y capel blaenorol am £60 10s. yn 1898. Gwerth— wyd y tŷ capel cyfagos iddo am £141 yn 1899. Yn 1898 adeiladwyd tŷ capel ynglyn â'r capel newydd. Y draul, £305, a £15 15s. am ddodrefnu ystafelloedd i'r gweinidog. Yn 1900 fe adgyweiriwyd wyneb y capel ar draul o £182 10s.

Yn 1900 y dewiswyd Hugh William Roberts yn flaenor.

Y mae gan Mr. O. J. Roberts rai adgofion ychwanegol. Yn yr ail gapel y dywed ddarfod dechre cynnal y cyfarfod llenyddol Bu llewyrch yma ar yr achos dirwestol, ac ar y ffurf arni a adwaenid fel Temlyddiaeth Dda. Yn yr ail gapel yr oedd y tê parti mewn bri. Cynelid un yno ar Tachwedd 17, 1866, y cyntaf, debygir, o'i rywogaeth. Cynelid cyfarfod y Gobeithlu yn yr hwyr, pryd yr oedd Ieuan Gwyllt yn bresennol. John Roberts Tanychwarel yn holi'r plant yn hanes Jonah. Nid ymddengys y cyfododd yma yr un pregethwr yn holl hanes yr eglwys. Daeth i gysylltiad â'r ail gapel ddau deulu o leoedd eraill sydd wedi parhau yn amlwg yma, sef teulu William Roberts Tynymaes, wedi hynny Bryn'rhydd, a ddaeth yma o Frynrodyn, a theulu William Evans o Froneryri. Cymerai William Roberts ddyddordeb mewn llenyddiaeth a chân, a magodd yr un ysbryd yn ei blant. Griffith Williamson Jones a fu'n ymdrechgar gydag ysgol Sul y plant hynny na ellid mo'u cael i'r capel newydd presennol.

Nis gwywa'i goffa gwyn
Uwch diffrwyth lwch y dyffryn. (Cyndeyrn).

Bu ef farw Gorffennaf 25, 1898. Alice Roberts a fu'n gofalu yn hir am y tŷ capel, a gair da iddi gan bawb a fu dan ei chronglwyd. Yn nodedig o grefyddol a chyfarwydd yn ei Beibl. David Roberts Gorlan wen, mab Robert Dafydd, yn nechre'r achos, ac am lawer o flynyddoedd, a ofalai am lyfr y seti a llyfr y casgl mis. William Jones Tŷ eiddew yn ddiweddarach a fu'n ffyddlon gyda'r llyfrau cyfrifon hyn. Yn dilyn Richard Williams, y blaenor, y daeth ei rieni a brawd a chwiorydd i'r ardal, yn deulu crefyddol oll. Ei fam, Hannah Williams, a fu farw yn yr ardal hon.

Hannah Williams, hon hwyliai—hyd ei hoes,
I wlad well cyfeiriai;
Ac i'r hedd y cyrhaeddai
Yn llaw'r Ior,—lle arall 'rai? (Cyndeyrn).

Symudodd y teulu i Garmel yn 1892. Bu Richard Williams ei hun farw yn ddisyfyd drwy ddamwain yn y chwarel ar y 12 o Fai, 1894.

Nid oedd angen cystuddio,—parod oedd,
Pryd y galwyd arno,
I fawl, i fraint, y nefol fro—o'r byd,—
Ni oedodd ennyd, ehedodd yno. (Cyndeyrn).

Mae ef a'i rieni wedi eu claddu yn yr un bedd ym mynwent Brynrodyn.

Dri anwyl! daw yr ennyd—dihunant
Gan dywyniad bywyd,
A'u gwawr—heb ol y gweryd
I uno 'nghân Nef ynghyd. (Cyndeyrn).

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr ysgol: "Ystafell helaeth a chyfleus i'r plant, a'r athrawon yn ymddangos yn deall eu gwaith, ac mewn llawn gydymdeimlad âg ef. Y dosbarthiadau yn rhy agos i'w gilydd yn y capel. Llafur ac ymroddiad amlwg yn y dosbarthiadau canol ac uchaf. Cwestiynau'r athrawon yn dda a phriodol. Y merched yn rhoi eu presenoldeb yn yr ysgol yn gyffredinol."

Fe aeth Cesarea drwy fwy na mwy o dreialon ynglyn â'i hadeiladau, yn enwedig efo thô'r capel, pan y codid ac y torrid ef gan gymlawdd y gwyntoedd, a phan wthiai'r gwlaw ei ffordd i mewn drachefn newydd ei ail-doi; a blin a thraulfawr fu'r gwaith o'i adnewyddu. Eithr wedi'r cyfan, nid yw'r ddyled ar ddiwedd 1900 yn ddim rhagor na £72 18s. 11c. A phrofwyd yma "nawdd rhag blawdd y cymlawdd blin."

Rhif yr eglwys, 235.

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif Mr. O. J: Roberts (Cyndeyrn). Ysgrif Mr. David Hughes y Buarth uchaf, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1880.