Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Peniel

Oddi ar Wicidestun
Rhyd-ddu Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr

gan William Hobley

PENIEL, NANTMOR[1]

Rhowd eisoes yn hanes eglwys y Pentref wreiddiau'r hanes ym Mheniel. Dros ben hynny, gellir olrhain peth ar hanes yr ysgol Sul yma. Sefydlwyd hi yma gan Robert Roberts Clogwyn, John Prichard Corlwyni, Richard Williams Cwmbychan, W. Williams Cae Ddafydd. Ym Mwlch Gwernog, tŷ Ann Dafydd [Owen Gruffydd a ddywed Gruffydd Prisiart a Charneddog] y cychwynnwyd. Tŷ bychan, isel, llawr pridd, a dim ond un ffenestr fechan i ollwng y goleuni i mewn iddo. Yn y nos y cedwid yr ysgol ar y cyntaf, a cheid goleu canwyllau brwyn. Dodid y canwyllau rhwng gwiail cawell wedi ei droi wyneb i waered. [Sef cawell marchnata. Pwysent ar y cawell, fel y suddai i mewn i'r pridd. Carneddog.] Gofalid am y goleu gan ryw un ar y tro. Eisteddid yn gylch am y cawell. Nid yn hir y buwyd nad oedd y lle wedi myned yn rhy gynnwys, ac yna rhennid yr ysgol rhwng amryw dai.

Dilynir hanes yr ysgol oddiyma ymlaen fel y ceir ef gan Carneddog. Cyfarfu'r rhan dros afon Glaslyn yn Ninas Ddu; gwaelod Nantmor ym Mhen y groes; blaen Nantmor yn y Corlwyni; a'r gweddill ym Mwlch Gwernog. Ni fu cystal llewyrch ar yr ysgol wedi ei rhanu fel hyn, a thrwy mai yn y nos o hyd y cynhelid hi, a'r fro mor wasgaredig, a'r ieuenctid mor wyllt a gwamal, syrthiodd i ddirywiad. Penderfynu ei chynnal mewn rhyw un lle cyfleus, os gellid ei gael. Yn y cyfwng yma, priododd Richard Gruffydd y Carneddi gyda Chatrin, merch Robert Hughes y Tylymi, ac aethant ar eu taith briodasol ar draed dros y mynyddoedd i sasiwn y Bala, a chafodd Richard Gruffydd gyfle i siarad â Thomas Charles drwy gyfryngdod ei gyfaill, Robert Jones Rhoslan. Yng nghwrs yr ymddiddan cydsyniodd Richard Gruffydd i agor ei dŷ i'r ysgol, ar yr amod fod Charles yn dod i'w sylfaenu, drwy egluro'r rheolau a chynghori y deiliaid. Y Sul cyntaf wedi hynny, dechreuwyd cynnal yr ysgol yn y Tylyrni. Er mawr siomedigaeth, methodd. gan Charles â dod, ac anfonodd yr hen gynghorydd, Rolant Abram o'r Ysgoldy yn ei le. Yr oedd y Tylyrni yn ddigon mawr i gynnwys tua chant o bobl. Byddai yno Flwch y Tlodion, a byddai pawb a allai yn rhoddi ei gyfran at gael dillad gweddaidd i'r tlodion i ddod i'r ysgol. A chafodd llawer eu dilladu felly. Llwyddwyd i gael yr ardalwyr i gyd yn ddieithriad yn aelodau. Yr oedd pawb yn rhwym o ddysgu'r Deg Gorchymyn, ac arferid eu hadrodd yn rheolaidd. Wedi hynny daeth yr Hyfforddwr i gael sylw. Hefyd, canu mawl, sef canu'r un mesur drosodd a throsodd, nes y delai'r holl gynulleidfa i allu canu yn rhwydd ac o galon.

Wele ddyfyniad o gofnodion cyfarfod daufisol yr athrawon, sef y rhai cyntaf a geir ynddo: "1818, Mai 10, Arolygwr, 1; golygwyr neu athrawon y dosbarth, 14; rhai yn cael eu dysgu, 70 holl nifer yr ysgol, 85; penodau a salmau a adroddwyd, 251; adnodau y plant, 141; Hyfforddwr, 5 pennod. Symudwyd 10 o'r Testament i'r Beibl, a 6 o'r Llyfr Egwyddori i'r Testament." Wele, eto, ychydig o gofnodion Cyfarfod Athrawon 1819. "Medi 12. Holl nifer, 94. Adroddwyd yn yr ysgol ar y testyn a roddwyd ddau fis yn ol, sef Teitlau Crist, 126 o adnodau; proffwydoliaeth am Grist yn yr Hen Destament, 34 o adnodau; y cyflawniad yn y Testament Newydd, 58 o adnodau. Caed fod saith o rai yn medru darllen ac heb ddysgu'r Deg Gorchymyn. Anogwyd yr holl athrawon i ymegnïo tuag at gael pawb i'w dysgu."

Gwelodd Carneddog hen ysgriflyfr cofnodion ysgol y Tylymi, wedi ei ysgrifennu mewn dull plaen gan Robert Gruffydd y Ferlas, saer coed, taid y diweddar Robert Griffith Dinbych, a gofyn a oes rhywun a ŵyr pa le y mae yn awr? Ceir ynddo hanes cyflawn am bob dau fis yn gyson, hyd adeg adeiladu'r capel, 1829. Cynhelid cyfarfod gan yr athrawon bob dau fis, darllenid y cyfrifon yn fanwl, gwneid sylwadau ar ansawdd yr ysgol, ac yn enwedig gwneid ymchwiliad manwl a oedd pawb a allai yn dyfod i'r ysgol, gyda gofalu na byddai neb yn cael ei adael o eisieu dillad priodol i ddod iddi. Robert Roberts y Clogwyn oedd yr arolygwr hyd ei farw yn 1814. Ni wyddis pwy oedd yn y swydd o hynny hyd 1820, pryd y dewiswyd William Roberts y Clogwyn. Parhaodd ef yn y swydd hyd 1829, pryd y symudwyd yr ysgol o'r Tylymi.

Sylwa Carneddog beth ar yr hyn a wnawd yn y Tylymni heblaw gyda'r ysgol. Yn fuan fe ddechreuwyd pregethu yno hefyd, sef ar brynhawn Sul. Gwnaeth Robert Gruffydd bulpud derw cadarn, a gosodwyd ef mewn congl wrth ffenestr llawr y tŷ. Dyma rai o'r hen bregethwyr fu yn y lle: Dafydd Cadwaladr, Ffoulk Evans, Lewis Morris, Isaac James, Charles Jones, James Hughes o Leyn, John Peters o'r Bala, Evan Ffoulk Llanuwchllyn, Rolant Abram, Griffith Solomon, John Thomas Llanberis, Robert Dafydd Brynengan, Dafydd William Brynengan, Robert Jones Rhoslan, Gruffydd Sion Ynys y Pandy, Robert Griffith Dolgelley, Richard Jones y Wern, Robert Sion Hugh, Moses Jones, John Williams Llecheiddior, Cadwaladr Owen, William Morris Cilgerran, Daniel Jones Llanllechid, John Elias, Michael Roberts, Dafydd Rolant, Robert Thomas Llidiardau, John Jones Tremadoc, John Jones Llanllyfni, Dafydd Jones, Dafydd Jones Beddgelert, Henry Rees, a'r olaf a fu yma, Robert Owen Apostol y Plant. Bu Robert Owen yn dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd yn y fro pan yn llanc. Ni chafodd yr un o'r pregethwyr hyn fwy na phedwar swllt a chwe cheiniog o gydnabyddiaeth am yr oedfa, llawer driswllt, deuswllt yn aml, a swllt yw y swm lleiaf a dalwyd i'r hen ffyddloniaid pybyr.

Yn 1829, Mehefin 9, y dechreuwyd adeiladu'r capel cyntaf. A Pheniel y galwyd ef. Gosodwyd y seti Chwefror 1, 1830. Cadwyd cyfrifon manwl o'r adeiladwaith. Dyma enghraifft: "Talwyd i Robert Thomas am wneud y muriau, 463 llath, 0. 6, yn ol 1s. 1g. y llath, £25 1s. 7g. Toi 214 llath, 8. 3, yn ol 6ch., £5 7s. 5c. Plastro 365 llath 5. 5, yn ol 4c., £6 17s." Yr holl fanylion wedi eu cofnodi yn y dull yma. Y cyfanswm am adeiladwaith y capel, £163. Eithr yr oedd eisieu tŷ capel, ystabl, gardd, a gwaliau oddiamgylch, fel yr aeth yr holl draul yn £250. Nid oedd dim mewn llaw gogyfer a'r draul. Darfu i wyth o bersonau ymrwymo rhoi benthyg y swm gofynnol ar log, yn ol 4 y cant. Ymhen 25 mlynedd, bu raid ail doi ac ail wneud amryw bethau ar draul o £50. Casglwyd y swm gofynnol rhag blaen gan bobl ieuainc yr ardal. Deffrodd hynny o ymdrech ysbryd cyfrannu yn fwy yn yr ardal. Bu'r ystad yr oedd y capel wedi ei adeiladu arni yn y Chancery. Prynnwyd capel a'r ychydig dir o'i gwmpas am £200 3s. 3c., pan yr oedd y brydles ar ben. Hysbyswyd yng Nghyfarfod Misol Hydref, 1866, fod hynny wedi ei gyflawni. Ar gyfer 1867 y mae amseriad y weithred, ac yn y flwyddyn honno rhowd caniatad i helaethu'r capel. Tynnwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un arall yn ei le, ynghyda dau dŷ cyfleus yn ei ymyl yn 1868. Traul yr holl adeiladau, £1450, gan gynnwys y tir. Dywedwyd yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd ym Mheniel, Mehefin, 1874, fod y ddyled erbyn hynny wedi ei thynnu i lawr i £772. Ni thelid llog ar y pryd ond dros £100. Dywedid fod o leiaf £200 wedi eu hebgor ers pan yr oedd y gymdeithas ddilog wedi ei sefydlu. Nid oedd poblogaeth yr ardal ond oddeutu 160 dros 15 mlwydd oed. [Mae'n werth coffhau y gwasanaeth gwirfoddol gwerthfawr a wnaeth W. W. Parry Penygroes, ac wedyn Glan Meirion, a Chadwaladr Owen Gelli'r ynn gyda'r Gymdeithas Ariannol yn y fro, y cyntaf fel ysgrifennydd, a'r olaf fel trysorydd. Coronwyd eu hymdrechion, a gwnaed lles dwbl drwy'r gymdeithas. Mae'n parhau eto. Carneddog.]

Yn 1833 y sefydlwyd yr eglwys. Eithr ni bu nemor gynnydd hyd 1836. Y diwygiad dirwestol a barodd i'r achos hybu. Ymgymerodd yr eglwys yn aiddgar â'r diwygiad hwnnw, a llwyddwyd i gael pawb drwy'r ardal yn ddirwestwyr. Ymunodd y rhan fwyaf o'r rheiny â'r eglwys. Aeth mwyafrif yr ardalwyr y pryd hwnnw yn grefyddwyr, ac y mae y wedd honno ar bethau wedi parhau.

Prynhawn dydd Mawrth, Hydref 11, 1859, y cyrhaeddodd Dafydd Morgan Peniel. Wrth nesau ohono at y capel, goddiweddodd Marged Williams, a gofynnodd iddi, "I ble 'rych i'n mynd?" "Mynd i'r capel, weldi." "Pwy sydd yna heddyw?" "Chdi, machgen i, ac yr ydw i wedi gweddio am iti gael help i bregethu hefyd." Eisteddai'r hen wraig yn y sêt fawr, ac ar ryw bwynt yn y bregeth, hi gododd ar ei thraed, a chan chwyfio'i ffon, dywedai wrth y pregethwr, "'Roeddwn i'n dweyd wrthyt mai fel hyn y byddai hi, ond 'doeddwn i?" Wmphra William oedd un o'r dychweledigion. Rhoes hwn yn ystod ei fywyd byrr ogoniant lawer i'w Arglwydd, ac erys ei goffadwriaeth yn berarogl. Un arall o'r dychweledigion a breswyliai yng Ngardd llygad y dydd, sef Thomas William wrth ei enw. Nid oedd ei fuchedd flaenorol yn ateb i'w drigfan. Wrth ei weled yn arddelwi crefydd, torrodd un hen wraig allan, "Diolch! dyma garreg sylfaen teyrnas y cythraul ym Mheniel wedi ei chwalu." Cafodd Robert Williams Aberdyfi oedfa gofiadwy ym Mheniel ar y tŷ ar y graig yn amser y diwygiad. Mewn oedfa yma ar y Sul, lediodd David Pritchard Pentir bennill o'i gyfansoddiad ei hun, a chanwyd llawer ammo yr adeg honno,—

Mae'r arfaeth fawr dragwyddol
Yn gweithio'i ffordd ymlaen,
A miloedd o blant Cymru
Yn seinio newydd gân;


Mae rhai yn gwaeddi, 'Achub,'
Yng ngrym y cariad rhad,
A'r lleill yn gwaeddi, Diolch,"
Yn gynes am y gwaed.

Pennill y canwyd llawer arno ydoedd hwn :

Nid ar feddwl cadw 'chydig
Daeth Iesu Grist i'n daear ni;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Yr aeth i'r lan i Galfari;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Yr aeth i lawr i waelod bedd;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Y daeth i fyny'n hardd ei wedd.

(Cofiant Dafydd Morgan, t. 466.) Ar ddydd diolchgarwch, fe ddywedir yn y Drysorfa (1860, t. 62), y torrodd y diwygiad allan yn rymus iawn. Rhyw frodyr lled ddiddawn oedd yn gweddïo, fe ddywedir; ond yr oedd y fath ysbryd gweddi wedi disgyn arnynt fel yr oedd y gynulleidfa wedi ei dal â syndod. Yr oedd tua 30 wedi dod i'r seiat, sef erbyn dechreu'r flwyddyn, fan bellaf. Rhif yr eglwys Ionawr, 1854, 42; yn niwedd 1856, 65; yn 1858, 81; yn 1860, 105; yn 1862, 106; yn 1866, 95. Dywedir na ddarfu i nemor o had yr eglwys a gyffrowyd y pryd hwnnw wrthgilio.

Y blaenoriaid oedd yn y swydd pan sefydlwyd yr eglwys yma oedd John Prichard y Corlwyni, a fu farw yn 1836; Richard Williams Cwmbychan, a fu farw yn 1840; William Roberts y Clogwyn, a fu farw Mawrth 17, 1862, yn 67 oed. Am John Prichard y Corlwyni, tystiolaeth pawb a'i hadwaenai oedd fod yr achos iddo ef yn wir ofal calon. Efe oedd y trysorydd a'r ysgrifennydd, fel y digwyddai gynt nid yn anaml. Gydag ef, beth bynnag, fe weithiau hynny'n dda, gan y gwnae bob diffyg yn y derbyniadau i gyfarfod y taliadau i fyny ei hunan. Llwyddodd i gael pregethu cyson yn yr ardal bob Sul am 30 mlynedd cyn adeiladu capel yma, sef yn y Tylymi fynychaf, lle cynhelid yr ysgol hefyd. Tan ofal John Prichard y bu'r ysgol am amser maith. Gwr tawel, gweithgar, a phwysau ei gymeriad yn peri iddo gael ei barchu gan bob dyn. (Edrycher Pentref.)

Daeth William Roberts y Clogwyn i'r ardal drwy briodi merch Robert Roberts y Clogwyn. Brodor o Ddolyddelen ydoedd. Efe oedd y blaenor mwyaf ymarferol yn y lle. Teithiodd lawer gyda gweinidogion fel cyfaill, ac elai i holl Gyfarfodydd Misol y sir am dymor maith. Anfynych y bu neb erioed ffyddlonach. Gwnaeth a allodd. Byddai yn y moddion yn y capel haf a gaeaf ar bob tywydd. Arferai ddweyd nad oedd raid i neb golli dim wrth fyned i foddion gras; fod yn ddigon hawdd prynnu'r amser hwnnw yn ystod y dydd. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn ystod diwygiad mawr Beddgelert, ebe John Jones, a gorffennodd ei yrfa ar y ddaear ar ol gweled diwygiad 1859 a'i effeithiau, a chyfranogodd yn helaeth o fendith y naill a'r llall. Fe ddywed William Jones Nantmor, mewn nodiad amo yn y Drysorfa (1867, t. 113), mai yn 18 oed y profodd argyhoeddiad, ac mai dyna'r adeg ddifrifolaf arno yn ei oes. Yn ol hynny, profodd argyhoeddiad 4 neu 5 mlynedd o flaen y diwygiad. Gyda John Williams Dolyddelen yr ydoedd yn gwasanaethu ar y pryd. Pa bryd bynnag y dywedai ei brofiad neu y rhoddai gyngor yn yr eglwys, byddai'n dra thebyg o gyfeirio at yr helynt honno, ac ni ddeuai oddiyno ond fel colomen Noah gyda deilen olewydden yn ei gylfin. Pan tuag 20 oed daeth i Feddgelert i wasanaeth at Rhys Williams Hafod y llan. Cyfranogodd yn helaeth o'r diwygiad a dorrodd allan ymhen ysbaid. Neidiodd a gorfoleddodd lawer. Yn rhoddwr hael ei hun, arferai ganmol yr eglwys am haelioni, a daeth yr eglwys wrth ei chanmol yn nodedig yn y gras yma. Dyn brwd ei ysbryd ydoedd yn hytrach na dawnus. Er hynny, fe fyddai ei weddïau yn llawn o fater. Gwnae bwynt o ddysgu'r ieuenctid ynghylch arfer geiriau priodol wrth weddio. (Edrycher Pentref).

Richard Williams Cwmbychan oedd wr hynaws a duwiol, yn naturiol yn garedig, ac yn meddu dylanwad mawr, oblegid puredd a gaed ynddo. Arferai siarad yn barchus am bawb bob amser, a byddai pawb yn ei barchu yntau, ac ni byddai neb byth yn ei ameu am ddim a'r a ddywedai. Ymddiriedodd yn gadarn yn yr Arglwydd, a chadarnhawyd yntau â nerth yn ei enaid, canys fel y bu fyw y bu farw, a hynny yn llawn o dangnefedd yr Efengyl. (Edrycher Pentref.)

Owen Cadwaladr, un arall o'r swyddogion, oedd un y perthynai iddo nodweddion o'i eiddo'i hun. Nid tyner wrth y drwg oedd ef. Ceryddai yn llym iawn yn yr eglwys am bob math o esgeulustra. Yr oedd yn wr cadarngryf, ac un ffordd ganddo o geryddu oedd gwasgu â'i law, nes peri i'r troseddwr edifarhau am ddod i'w afael ef, a phenderfynu na chaffai afael arno rhag llaw. Byddai hynny o gyfnewidiad, ebe John Jones Tŷ capel, yn meddwl pob un a ddeuai i'w afaelion. Llygaid gwan oedd ganddo, ac arferai wydr crwn bychan i edrych trwyddo, a chredai plant yr ardal fod y gwydr hwnnw yn dangos eu pechodau yn fwy nag oeddynt. Unwaith y dodid y gwydr ar ryw blantos o bechaduriaid tua'r capel, nid oedd dim i'w wneud ond ffoi o'i ŵydd, neu ynte redeg ato i ofyn am faddeuant. A medrai Owen Cadwaladr faddeu cystal ag y medrai wasgu. Maddeuai yn rhwydd lle tybiai yr ymddiriedid ynddo. Eithr fe ddywedir y twyllid ef yn weddol hawdd gan aml ddyhiryn ieuanc, a gymerai arno arfer ymddiried er mwyn maddeuant. Rhoes Owen Cadwaladr ei arian yn o rwydd am ddysgu allan o'r Salmau a'r Diarhebion. Pan oedd William Williams Bod y gof, Llanberis, ebe Carneddog, yn blentyn adref yn efail y pentref, addawodd Owen Cadwaladr ddeuswllt iddo am ddysgu allan y bedwaredd bennod o'r Diarhebion erbyn y galwai efe yno drachefn, Daeth ymhen y pythefnos, a chododd Wil bach i ben yr engan, ac adroddodd y bachgen y bennod yn gywir, a rhoddwyd y ddeuswllt iddo o galon rydd. Yr oedd yn gredwr mawr yn noethineb Selyf. Anogai i haelioni, a dyfynnai yr ymadrodd hwnnw, "Anrhydedda'r Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy drysorau â digonoldeb." Ac efe ei hun oedd cyfrannwr mwyaf haelionnus yr ardal at bob achos teilwng. Gollyngai ei sofren oddirhwng dwy ddimai i'r gwpan gasglu, at ddyled y capel, at gymdeithas y Beiblau, at y genhadaeth, ac at gasgl dydd diolchgarwch. Nid ceryddwr llym crintachllyd oedd Owen Cadwaladr, fel y bu ambell un o'i flaen ac ar ei ol. Ymwelai â theuluoedd tlodion yn y gaeaf rhag bod eisieu arnynt am danwydd, a chariodd lawer o lô iddynt am ddim. Ac nid oedd yn greulon wrth neb a fai yn ei ddyled. Ni feddai ar nemor ddawn gyhoeddus; ei ddawn oedd cyfrannu. Bu farw Chwefror 14, 1867.

Daeth Richard Jones Tŷ mawr at grefydd yn adeg y diwygiad dirwestol yn 1836, neu'n fuan wedyn. Gwr bychan o gorff, byw, go anibynnol. Diwyd a gweithgar gyda phob gorchwyl. Bu'n ffyddlon gyda'r ysgol Sul a'r canu. Bu'n arweinydd y gân o 1839 hyd 1856, pryd y symudodd i dŷ capel Bethania. Yr oedd yn gerddor da, ac addysgodd eraill. Ymdyrrai hen bobl yr ardal ato i'w dŷ ar fore Sul cyn adeg y moddion er cael tro ar eu hoff donau, Dysgid y tonau yn ofalus cyn dod â hwy i arfer yn y gynulleidfa. A cheid blas a hwyl nefol gyda'r tonau wrth eu dysgu. Gwelwyd hwy yn dod o'r tŷ dan wylo wedi bod yn canu, "Heddyw yn eiriol." Y mae amryw lyfrau tonau yn yr ardal o hyd, ebe John Jones, wedi eu hysgrifennu gan Richard Jones. Byddai John Jones Talsarn yn hoff o ddod i Beniel, a threuliwyd llawer noswaith gyda chanu ei donau newyddion ef. Bu Richard Jones ac yntau yn synnu eu dau wrth ganfod fel yr aeth yn dri ar y gloch y bore arnynt. A dywed John Jones Tŷ capel fod y ddau erbyn hyn yn cael canu mewn hwyl mewn Peniel nad oes nos yno, a lle na chyfrifir amser, ac nad â byth yn hwyr.

Nid oedd William Williams Tŷ mawr yn ol o gymhwysterau i'w swydd, ac ni bu yn ol yn eu rhoi mewn gweithrediad. Yr oedd ef yn hynod yn ei fanylder gyda holl waith ei swydd. Elai i bob Cyfarfod Misol drwy bob rhwystrau. Credai yn y Corff, ebe John Jones, â'i holl galon. Bu'n ymdrechgar dros ben i gael pregethu cyson ym Mheniel. Cymerodd ran helaeth o'r cyfrifoldeb yn adeg adeiladu'r capel newydd yn 1868. Parodd hynny lawer o bryder iddo, ond coronwyd ef â llwyddiant amlwg iawn. Yr oedd yn ddiwinydd cartrefol da, ebe Carneddog, ac wedi darllen Gurnal, Geiriadur Charles, a llyfrau o'r fath yn fanwl droion. Athro campus yn yr ysgol. Holwr ac atebwr rhagorol. Go arw am ei ffordd ei hun fel blaenor, ebe un a'i hadwaenai yn dda. Er hynny yn henadur gwir ddefnyddiol. Bu farw Mai 15, 1881, yn 66 oed.

Ei feddwl oedd yn eang,
A threchai bawb â'i farn;
Cefnogai rinwedd gyda phwyll,
Ond twyll a wnae yn sarn;
Ymdrechai yn egniol
O blaid pob achos da,
A thra bydd Peniel yn dŷ Dduw
Ei barch yn fyw barha.—(Carneddog.)

Griffith Williams Hendre fechan (neu Dŷ newydd) oedd flaenor ffyddlon dros ben, yn ol cofnod y Cyfarfod Misol. Yn ol Carneddog, yr oedd yn ddyn lled gyflawn o ran ei wybodaeth: diwinydd medrus, athro da, atebwr parod, siaradwr i bwrpas pan yn annerch, a gweddiwr rhagorol. Byddai gweddi Griffith Williams, yn ol barn un gweinidog, yn "batrwm o weddi." Bu farw Medi 26, 1889, yn 63 oed.

Brwdfrydig ac agored oedd
Ei galon lawn at achos Duw,
A'i ddwys gynghorion plaen ar goedd
Sy'n dal i drydar yn ein clyw;
Ei ysgwydd gadwai dan yr Arch
O'i fodd, er anhawsterau fyrdd,
Ac am ei haeledd haedda barch,
Tra'i waith flagura byth yn wyrdd.—(Carneddog.)

Daeth John Hughes i Oerddwr o Fethania yn 1853. Yn flaenor ym Methania, galwyd ef i'r swydd yma drachefn. Dyn caredig a chymwynasgar. Swyddog doeth a gofalus. Siaradwr lled dda. Meddai ar gof anghyffredin medrai gofio pregethau a dysgu adnodau fel y mynnai. Cynlluniwr ardderchog, a medrai dynnu rhai allan i gyfrannu. Yr oedd yn dipyn o brydydd gwlad, a gwnaeth ambell i emyn. Bu farw Mawrth 18, 1878, yn 63 oed. (Carneddog. Edrycher Bethania).

Brodor o Eifionnydd oedd William Jones y Ferlas. Ar symudiad John Hughes, ei frawd ynghyfraith, i Oerddwr, y daeth yntau i Fethania, lle codwyd ef yn flaenor. Symudodd oddiyno i Gaermoch, y Sygun, ger Beddgelert, ond parhaodd mewn cysylltiad â Bethania. Symudodd i'r Ferlas, Nantmor, yn 1857, a dewiswyd ef yn flaenor ym Mheniel ar unwaith. Yr oedd yn flaenor da, y goreu yn y seiat. Siaradwr i bwynt. Dyn trwm ei farn, pwyllog ei dymer, helaeth ei wybodaeth. Ei fai pennaf oedd ei fod braidd yn rhy fydol. Tuag 1864, symudodd i Borthmadoc, yna i'r Penrhyn, ac yn olaf i Glynnog. Bu'n flaenor yn y Capel Uchaf. Bu farw Ebrill 7, 1888. (Carneddog. Edrycher Bethania).

William Roberts y Clogwyn oedd fab i'r gwr o'r un enw. Codwyd ef yn flaenor yn 1885. Gwr gonest, cywir, egwyddorol. Hamddenol a phwyllog ei ddull. Yr oedd ei wreiddioldeb yn hollol Gymreig, ac yr oedd yn wladgarwr angerddol. Cyfansoddodd gryn lawer o draethodau, a pheth barddoniaeth. Darllenodd y prif lyfrau diwinyddol yn y Gymraeg, ac edmygai yn fawr Gurnal a'r Dr. Owen. Cadwodd y ddyledswydd deuluaidd drwy bob anhawsterau. Cerddodd i'r capel yn gyson o'i gartref anhygyrch, pell, drwy eithaf gwynt, gwlaw ac eira. Cyfeillachai lawer â'i Dad yn y dirgel, a byddai nawseidd—dra dymunol cymdeithas cilfachau clawdd a mynydd, a chornelau beudy'r Foty, ar arddull a chynnwys ei weddiau a'i brofiadau.

Ei ddefion rhwydd bugeiliol
Oll a sancteiddiodd Duw.—(Glaslyn.)


Yr oedd yn ddefosiynol ei ysbryd, ac yn unplyg a phenderfynol. Ystyrrid ef yn gynghorydd medrus, ei sylwadau yn fyrion a phert. Yn ddirwestwr selog. Bu farw Awst 15, 1892, yn 57 oed. (Carneddog).

William Roberts oedd onest ddirwestydd,
Yn gawr o weithiwr, a gwir areithydd;
Yn null henuriad bu fyw'n llenorydd,
Yn ir ei ddoniau, yn fawr ddiwinydd;
Anwyl sant! ei Beniel sydd—a phrudd lef,
Yn chwerw 'i dolef ar lwch ardalydd.—(Namorydd).

Dechreuodd Morris Anwyl bregethu yn 1838. Mab hynaf Robert Anwyl Cae Ddafydd. Daeth John Jones y pregethwr o Dremadoc, a John Jones y blaenor o Feddgelert i'w holi ar ei gychwyniad, gyda'r bwriad eisoes yn eu meddyliau i roi atalfa arno, fel y dywedir. Yr oedd rhyw syniad fod gormod o bregethwyr o'r braidd yn codi yn y wlad ar y pryd, a'r amcan wrth geisio atal Morris Anwyl oedd atal eraill rhagllaw. Galwyd am yr ymgeisydd i'r tŷ capel at y ddau arholydd. Yr oedd ei ymddygiad yntau'n wylaidd a'i atebion yn ddifwlch. Yna aeth y blaenor i'w holi am ei brofiad. Ac wrth wrando ar ei atebion, toddodd y gweinidog fel cŵyr, syrthiodd ar ei liniau a gwaeddodd allan, "Diolch i ti, O Arglwydd, am y gwaith amlwg a wnaethost ar dy was hwn. Diolch ! dyma bibell eto i ddwyn yr olew sanctaidd." Ni chafodd neb ei siomi yn y Morris Anwyl hwn. Cyfrifid ef yn bregethwr mawr. Syniad Gruffydd Prisiart am dano ydoedd, pe cawsai fyw, y cyfrifid ef yn un o bregethwyr blaenaf yr oes. Yr oedd ganddo, hefyd, ddawn hynod i gael y bobl ieuainc i weithio yn yr eglwys gartref. Ond mwy anwyl oedd efe gan yr Arglwydd nag ydoedd hyd yn oed gan ei bobl. Yr oedd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho. I'r perwyl yna yr ysgrifenna John Jones Tŷ capel am dano. Y mae nodiad arno, hefyd, gan J. J. Waterloo, sef John Jones Glan Gwynant, yn y Drysorfa am 1846, t. 320. Rhydd ef ei oed yn 32, a nodir Awst 12, 1846, fel dydd ei ymadawiad. A dywed fod ei rodiad diargyhoedd, ei lafur egniol, ei weddïau taerion, a'i brofiad uchel o bethau ysbrydol, yn ei hynodi yn fawr fel cristion; a'i dreiddgarwch i ddirgelwch yr Efengyl, ynghyda'i ddawn nodedig yn ei gosod allan ger bron y gwrandawyr, yn ei hynodi yn fawr fel cennad. dros Grist. Beibl mewn gweithrediad oedd ei fuchedd, fe ddywedir, a'i weinidogaeth yn ddrych ag y danghosid ynddo ddirgeledigaethau gras. Cymherir ef i seren ddisglair a grewyd gan yr hwn a wnaeth Orion a'r Saith Seren, ac a osodwyd yn ffurfafen yr eglwys i lewyrchu i'w bobl. Ac yn ben ar y cwbl, dywedir ddarfod iddo adael meini tystiolaeth ar ei ol, yn dangos iddo fyned drwy'r Iorddonnen yn ddiangol i wlad yr addewid.

John Jones Abererch a ddaeth i'r ardal i aros yn 1854. Dechreuodd bregethu y flwyddyn ddilynol. Symudodd i sir Drefaldwyn, lle bu mewn cysylltiad bugeiliol. Ordeiniwyd i'r weinidogaeth. Symudodd i'r America, lle bu farw tuag 1867.

Ellis Hughes, mab John Hughes Oerddwr, a ddechreuodd bregethu tuag 1866. Bu farw Chwefror 20, 1870, yn 26 oed. Gwywodd mewn cystudd dwys, a'i feddwl yn fyw i'r gwaith. O feddwl byw a choeth. Gweithiodd adref.

Ior â bloedd a ddeffry ei blant—ryw dro
Er mor drwm yr hunant;
Ac yna i ogoniant
Lewis Hughes ddaw'n loew sant.—(Bardd Treflys.)

Derbyniodd William Ellis alwad i fugeilio'r eglwys yn 1866, ac ymgymerodd yr un pryd â gwaith yr ysgolfeistr, a bu'n gwasanaethu yn y naill swydd a'r llall gyda chymeradwyaeth neilltuol hyd y derbyniodd alwad i Feddgelert yn 1871. Tŷb y Parch. W. J. Williams ddarfod i'w arosiad yn yr ardal hon feithrin yr elfen neilltuedig oedd ynddo. Dywed, hefyd, ddarfod iddo weithio yn galed a darllen llawer yn ystod ei arosiad yma. Bu'n cynnal dosbarthiadau am dymhorau gyda Chyfatebiaeth Butler, a dywed Mr. Williams y gwyddai am rai yn yr ardal, wedi bod yn dilyn y dosbarthiadau hynny, a fedrent ddyfynnu Butler fel adnod o'r Beibl. Darllenai y prif Buritaniaid y pryd hwn, a dygai ei bregethau ddelw eu hathrawiaeth hwy. Ar ol hyn rhoes gyfeiriad mwy ymarferol i'w bregethu. (Drysorfa, 1895, t. 426. Edrycher Pentref).

Derbyniodd Mr. W. J. Williams alwad yma yn 1889. Symudodd oddiyma i'r Pentir a Rhiwlas yn 1893. Derbyniwyd R. J. Jones i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr yn 1892, a derbyniodd alwad i Lanelidan, ger Rhuthyn, yn 1895. Galwyd Mr. Pierce Owen yn weinidog yn 1894, a symudodd oddiyma i Rehoboth, Llanberis, y flwyddyn ddilynol.

Codwyd i'r swyddogaeth, Isaac Roberts Corlwyni yn 1878, W. Hughes a W. Roberts yn 1885, T. W. Evans yn 1892. Daeth Edward Jones Tanyrhiw yma o Fwlchderwydd yn 1854, a John Jones Tŷ capel o Groesor yn 1878.

Y mae Carneddog yn manylu ar gymeriadau heb fod yn swyddogion eglwysig, nac yn aelodau, rai ohonynt. Morris Gruffydd y Carneddi, brawd i Sion Robert, a thad Carneddog ei hun, oedd hen gristion amlwg ym Mheniel, a naturiol ei ddull. Heb dalent i annerch yn gyhoeddus, yr oedd ei ragoriaeth yn y seiat a'r cwrdd gweddi. Yn ddiystwr a hael ei gyfraniadau. Yr oedd yn adnabod pob pregethwr, hen ac ieuanc, a'i gof yn cynnwys eu henwau, a manylion perthynasol, fel y dyddiadur. Hanner addolai Owen Thomas a David Charles Davies. Cerddodd unwaith dros y mynydd i Ffestiniog i'w clywed, a chafodd y fraint o ysgwyd llaw â hwynt! Yr oedd yn hollol ddiniwed, syml a diwenwyn. Deallai egwyddorion cerddoriaeth yn bur dda, ac yn y gangen hon yr oedd gryfaf. Ar ol symudiad Richard Jones o Beniel i Fethania yn 1856, dewiswyd ef yn godwr canu yn ei le, a bu'n llenwi'r swydd am o 18 i 20 mlynedd. Bu'n dihoeni yn hir, a'r olaf o'r hen weinidogion a alwodd i'w weled oedd Evan Peters y Bala, a chaed lle hyfryd rhyngddynt. Bu farw Mai 31, 1881, yn 66 oed. John Jones Bwlch gwernog oedd frodor o dueddau Rhostryfan, a ddaeth i Hafod lwyfog at ei gefnder, John Owen. Codwyd ef yn flaenor ym Methania (Edrycher Bethania). Symudodd i Ffestiniog, a dychwelodd i Fwlch gwernog. Ymroes i ddysgu'r sol-ffa i'r ieuenctid. Codwyd ef yn gydarweinydd y canu â Morris Gruffydd, ac yn y man aeth yn brif arweinydd. Bu'n arwain côr am flynyddau. Dyn bychan, distaw, gwyliadwrus, didramgwydd i bawb hyd y gallai. Bu farw Gorffennaf 9, 1876, yn 50 oed.

Ym meusydd toreithiog cerddoriaeth llafuriodd,
A dygodd oddiyno drysorau tra mawr,
Y rhai yn ddifloesgni a seiniant ei glodydd
Tra'r huna e'n dawel ym mhriddell y llawr.
(Robert R. Jones, Corlwyni).

Perchir coffadwriaeth John Jones yr Hendre, er nad oedd yn broffeswr Bu'n cadw ysgol ddyddiol yn hen gapel Peniel o tuag 1856 hyd 1862, am gyfnodau bob blwyddyn. Yn wr bucheddol dros ben ei hunan, fe roes gychwyn da i lawer o blant yr ardal, gan roi cynghorion syml yn erbyn cyflawni drygau. Nid oedd Sion William Garleg-tŷ (Gardd lygaid y dydd) yn proffesu chwaith, er ei fod yn wr moesol, ail ei le. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof rhagorol. Byddai'n adrodd penodau ar ddechreu'r moddion, yn enwedig yr ysgol. Adroddai'r hen wr y penodau mwyaf dyrus yn Eseciel neu Esai heb fethu gair, fel y rhyfeddai'r pregethwyr at ei fedr. Hen lanc darbodus a chefnog oedd Sion Robert Beudy newydd, heb fod yn proffesu yntau chwaith. Ni chollai ddim moddion ar y Sul, ac yr oedd ganddo ddosbarth o lanciau yn yr ysgol. Cae ei barchu fel gwlanwr plaen a chywir, ac yr oedd yn hael at yr achos mewn dull distaw. Dawn at ddysgu'r plant i ddarllen oedd gan William Roberts Pen y groes. Gallai ddangos awdurdod a bod yn garedig. Dysgodd döau o blant i ddarllen, a medrai droi y plant goreu i'r Testament yn chwech oed. William Roberts yr Aber oedd athro darllenwyr a meddylwyr yr ardal. Deallai'r prif bynciau, yr oedd yn ysgrythyrwr da, ac yn wr o feddwl effro. Yn atebwr campus yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Hen lanc oedd Owen Ifan Dinas ddu, a garai suddo i mewn i bynciau dyfnion. Un di droi yn ol mewn dadl, a dadleuai am oriau. Byddai John Owen Ty'n llwyn yn y Cyfarfod Ysgolion yn gofyn y cwestiwn yn gyntaf i'r naill ochr i'r capel, ac wedi methu ganddynt yno, i'r ochr arall, ac wedi methu yno drachefn, i Owen Ifan. Ac yna byddai'n sicr o atebiad, a gwenai yr holwr a phawb. Efe fyddai'n selio pob cwestiwn mawr. Mab Robert Gruffydd oedd Sion Robert. Gwr boneddigaidd a hardd, a lled gefnog. Yn ffyddlon a gweithgar. Eneiniad ar ei brofiadau a'i weddïau. Bu farw Gorffennaf 7, 1876, yn 67 oed.

Dywed Carneddog iddo gael yr atgofion sy'n dilyn am hen chwiorydd gan William Buarthau Jones a John Williams Cwm bychan. Sian Richard y Clogwyn oedd ferch Richard Edmwnd o'r Corlwyni, a gwraig Robert Roberts y Clogwyn. Argyhoeddwyd hi yn y Tŷ rhisgl, o dan bregeth gyntaf Robert Jones Rhoslan yn y lle. Yr oedd hi yn wraig ddarllengar a gwybodus. Hi gynorthwyai ei gwr yn y gwaith o arolygu'r achos yn ei fabandod. Hi fyddai'n codi'r canu yn ysgol y Corlwyni, ac ym Mheniel lawer yn ddiweddarach, pan yn hen wraig, os byddai'r codwr canu yn absennol. Edrychid ati hi fel un yn caru Duw yn wirioneddol, a gwnaeth ei goreu i hyrwyddo achos crefydd yn ei hoes. [Nodir gan Mr. D. Pritchard mai y hi a gafodd y fraint o ddod â Beibl ac ystôl drithroed i Robert Jones Rhoslan ar gyfer y bregeth gyntaf yn y plwyf yn Nhŷ rhisgl]. Hannah Ifan y Tylymi, ail wraig Richard Gruffydd, a merch Ifan Siams y cowper, oedd wedi yfed yn helaeth o ysbryd y diwygiadau. Adroddai adnodau a phenillion wrth gerdded ol a blaen i'r capel, a gwnae swn rhyfedd wrthi ei hun. Hyddysg iawn yn yr Ysgrythyrau. Dywedai Dafydd Rolant y Bala fod cof Hannah Ifan fel mynegair Peter Williams. Ei hoff bennill, Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd. Arferai fwmian ar hyd y tŷ drwy'r dydd,—" O, ryfedd ras!" Byddai ganddi brofiadau melus ym mhob seiat. Er fod Ann Jones y Llety yn byw mewn tŷ unig ynghanol y mynyddoedd, am y terfyn â phlwyf Llanfrothen, hi ddeuai i gapel Peniel i bob moddion, ar bob tywydd. Yr oedd yn hen wraig nodedig o wresog ei hysbryd, a byddai'n gorfoleddu mwy na neb. Torrai allan un tro,—"O ryfedd! y Duw mawr yn mynd trwy'i eiddo i gyd, i achub hen bechaduriaid tlodion," a thaniodd y lle gyda'r dywediad. Un wreiddiol iawn. oedd Margred William Tyrpeg bach, ac wedyn o Fryntirion. Y hi gyfarfu Dafydd Morgan ar y ffordd, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn sicr o gael arddeliad, gan iddi fod drwy'r nos yn rhoi ei achos o flaen Duw. Gwiriwyd gair yr hen wraig, a chafwyd oedfa hynod iawn. Byddai'n ddoniol dros ben yn y seiat. Cwyno y byddai hi o hyd. Pan ofynnwyd iddi am ei phrofiad gan Dafydd Jones Beddgelert, dywedodd y geiriau,—" Moes i mi dy galon." "Wel, Margiad, be' sy' genti i ddeud ar eiria fel yna, dywad," meddai'r hen bregethwr plaen. "O Dafydd anwyl," meddai'r hen wraig, gan dorri i grio dros y capel, "mae'n fendigedig ei fod ef yn gofyn am y lle gwaetha." Digwyddodd tro digrif rhyngddi unwaith â Moses Jones Dinas. Yr oedd Moses Jones yn ei hadnabod yn dda. Pan aeth efe ati yn y seiat, dywedodd, "Sut mae'r hen galon erbyn hyn, Margiad?" "Wel, digon drwg a phechadurus ydi hi wir, Moses bach." "Mi welaf fod yr hen ddyn' yn fyw hefo ti o hyd, Margiad." "Ydi, ydi, Moses, ac yn ddigon drwg ei swn yn amal." Wel, pam na threi'i di i ladd o bellach, Margiad?" "Lladd yr hen ddyn, gwirion! Be' sy' arnati, dwad? Wyt itha wedi peidio mynd o'th go', fel 'rhen Foses arall hwnnw, pan dorrodd o lechi'r cyfamod? Wyt itha wedi anghofio'r chweched gorchymyn?" Methodd Moses Jones a chael ei draed dano wedyn, a mwynhaodd pawb y ddrama ddoniol. Nain Carneddog, mam ei fam, oedd Sioned Owen Bron yr aur, wedi hynny Bwlch llechog. Yr oedd yn wraig grefyddol ac arabus. Trefnodd ei thad yn ei ewyllys fod i Feibl Peter Williams gael ei roi i bob un o'r plant, a gwnaeth pob un ohonynt ddefnydd da o'r rhodd. Arferai Sioned Owen adnod o'r Beibl i benderfynu pob pwnc. Gofynnodd sipsi iddi unwaith am gael dweyd ei ffortiwn. Atebodd hithau y gwyddai ei ffortiwn yn iawn, ac agorodd y Beibl, gan ddarllen o lyfr Job, "Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionnen i fyny." Dychrynodd y sipsi, ac aeth ymaith mewn siom a digter. Sian William Cwm bychan, gwraig Richard William, oedd ddynes oleuedig. "Y fwyaf gwybodus yn Nantmor," meddai John Owen Ty'n llwyn am dani, pan atebodd yn gampus yn rhyw Gyfarfod Ysgolion. Bu'n athrawes ar hen wragedd am flynyddau maith. Catrin Robert y Clogwyn, merch Robert Roberts, a gwraig i William Roberts, oedd yn dawel ei ffordd, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, [dysgodd yr Hyfforddwr bob gair a chyfran helaeth o'r Beibl, ebe Mr. D. Pritchard], ac yn byw yn hollol i Dduw. Hen ferch oedd Catrin Robert Tŷ capel, a gadwodd y tŷ capel am flynyddau lawer, ac a oedd orofalus am y pregethwyr a'r achos. Cynghorai blant ei dosbarth fel pe'n fam iddynt. Yr oedd yn nodedig o grefyddol. Chwaer i Sioned Owen oedd Nansi Morris, ac heb nemor ddawn i drin y byd. Yr oedd ei meddwl fel pe wedi ei sefydlu yn y byd ysbrydol. Hoff o gynghori plant. Gweddïai yn gyhoeddus ac yn ddirgel. Byddai'n gwaeddi Amen dros y capel, mewn dull cwafriol a chynes, wrth wrando pregeth neu weddi. Bu farw mewn oedran teg, a chyda hi y collwyd yr olaf o'r hen chwiorydd Puritanaidd, hen ffasiwn eu dull o grefydda, yn Nantmor.

Dyma rai sylwadau eto ar yr hen chwiorydd gan Mr. D. Pritchard. Ann Dafydd Bwlch gwernog oedd yn llawn o ysbryd yr Efengyl. Cerddodd lawer i sasiynau Llangeitho a'r Bala. Cerddodd yn droednoeth i sasiynau y Bala, hyd yn oed yn ei hen ddyddiau. Gorfoleddodd lawer. Ei Hamen gynes yn help i'r pregethwr. Mari Prichard Bryn ysgubor a ddioddefodd lawer o erlid oddiwrth ei gwr oherwydd ei chrefydd. Eithr hi a'i henillodd ef o'r diwedd, a bu'r ddau fyw wedi hynny mewn cydymdeimlad llwyr â'i gilydd, ac mewn ymroddiad i fuchedd sanctaidd. Pa "bryd bynnag y rhoddai Margret Jones y Buarthau y pennill yma allan yng nghyfarfod y merched fe'i cenid gyda hwyl neilltuol:

Tân, tân, o blaniad pur yr Ysbryd Glan,
A wna i Seion seinio cân;
Hi deithia 'mlaen drwy'r anial maith,
Er gwaethaf llid y ddraig a'i had :
Am rin y gwaed hi gana byth.

Rhif yr eglwys yn 1900, 122.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Nantmor
ar Wicipedia

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif John Jones Tŷ capel. Ysgrifau Mr. D. Pritchard. Nodiadau gan Carneddog.