Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Pentref Beddgelert

Oddi ar Wicidestun
Arweiniol: Ardal Beddgelert Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr

gan William Hobley

Bethania

PENTREF BEDDGELERT[1]

Yr oedd Robert Jones Rhoslan, y pryd hwnnw oddeutu 19 oed, yn cadw ysgol y Madam Beavan yn y llan yn 1764 (neu oddeutu hynny). Yn ol Methodistiaeth Cymru fe roes holiad i'r plant i'w ateb drannoeth,—"Pa le y mae eglwys Dduw?" Wedi clywed yr holiad gan y plant, ebe un o henuriaid yr ardal, "Pw! ai dyna'r fath feistr sy gennych. Ymha le y mae'r eglwys? ac yntau ynddi hi bob dydd!" Daethpwyd a'r ateb i Robert Jones. Chwanegai yntau fod son yn y Beibl am "glustiau'r eglwys," a dymunai wybod drachefn beth oedd y rheiny? Atebai'r henuriad yn ol, "Wfft i'r fath lob! Be' sy haws iddo weld nag mai clochdy ydi clust eglwys?"

Byrr fu arosiad Robert Jones yma. Eithr ni bu ei lafur yn ofer, fel yr ymddengys. Clywodd llencyn o'r enw Robert Dafydd ar ei galon fyned i wrando ar Robert Jones yn holi'r plant, gwir arwydd o feddwl, er mai gwyllt ac ofer ydoedd dan hynny. Bu'r amgylchiad yn achlysur ei droedigaeth, ac adnabyddid ef ar ol hynny fel Robert Dafydd Brynengan. Dechreuodd hen wragedd y gymdogaeth regi Robert Jones am yrru Robert Dafydd o'i gof. Nid oedd eto ddim pregethu gan y Methodistiaid ym Meddgelert, na dim pregethu sefydlog ganddynt yn nes na Brynengan. Ond pan fyddai pregethu achlysurol yn y cyrraedd, hysbysid hynny i Robert Dafydd gan yr ysgolfeistr, drwy gyfrwng cenadwri ar bapur. Elai Robert Dafydd yma ac acw i wrando, a daeth trallod i'w feddwl am ei gyflwr. Bu yn dymuno bod yn gythraul yn lle bod yn ddyn, gan dybio mai llai fuasai ei boenau yn uffern. Y pryd hwnnw bu'n gwrando ar Huw Tomos, Gruffydd Prisiart, Siarl Marc, Robert Williams ac eraill.

Elai Robert Dafydd gyda'i gyfaill, Owen Tomos, beth yn ddiweddarach i wrando pregethau ym Mrynengan, gan ddychwelyd, 12 milltir o ffordd, yr un noswaith. Yr oedd ewythr Robert Dafydd, y lletyai gydag ef, yn wrthwynebol i'r grefydd newydd, ac ni fynnai mo'r arfer yma. A dyna fel y mudodd Robert Dafydd i Frynengan. Aeth Owen Tomos i Fôn. Yr oedd Robert Jones eisoes wedi ymadael. Dywedir yn y Methodistiaeth y bu hyn yn ergyd drom i'r achos bychan a gychwynasid. Ni amserir mo'r cychwyniad. Nid anhebyg fod yma fath ar seiat neu gyfeillach ysbrydol cyn ymadael o Robert Jones â'r lle. Dywedir y bu'r 'achos' dros ryw dymor mewn llewygfa drom, neu, fe ddichon, yn fwy manwl, nad oedd yma ddim o'r fath beth ag achos. Ymhellach ymlaen fe ddywedir mai pan yr oedd pregethu yn cael ei gynnal mewn hen adeilad a elwid y Stamps y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf (II. 200). Cesglir nad oedd dim pregethu cyson ym Meddgelert yn 1771, sef y flwyddyn y bu Dafydd Morris drwy'r wlad, gan na fu ef yma y pryd hwnnw.

Bellach, dilynir ysgrif Gruffydd Prisiart. "Thomas Prisiart Aberglaslyn oedd clochydd y llan. Ei fab Harri a brentisiwyd yn grydd. Wedi gorffen ei brentisiaeth danfonwyd ef i Fotwnog gyda'r amcan o'i ddwyn i fyny yn wr eglwysig. Ymwelodd yr Arglwydd âg ef yno mewn argyhoeddiadau dwfn. Dychwelodd adref gan ymwrthod â'r meddwl am fod yn wr eglwysig, er blinder i'w dad. Profodd ŵg y teulu. Yn y man cychwynnodd ysgol mewn beudy a elwid yr Hen odyn, ar dir Caeddafydd yn Nantmor, a breswylid gan Owen Owens. ["Hen gartref Dafydd Nanmor oedd Cae Ddafydd. Saif ar y llethr, yr ochr ddehau, uwchben y dyffryn lle gorwedd Hafod garegog, hen gartref Rhys Goch Eryri. Y mae'r Hen odyn ychydig yn uwch i fyny. Y mae'r Cwt coch yn adfeilion ychydig uwchlaw'r ffordd. Y mae plasdŷ Dôl y frïog am y nant a'r Hen odyn." Llenor, 1895, t. 25, nodiad]. Tua 1783 y bu hyn, tua 80 mlynedd yn ol. [Y mae Carneddog yn awgrymu'r amseriad 1779, a noda allan o'r cofnodion plwyfol fod Harri wedi ei fedyddio Mawrth 14, 1760]. Ychydig oedd gydag ef, ond ymroes i'w dysgu, a gweddiai gyda hwy, a phregethai iddynt weithiau. Ymhen ysbaid dechreuai rhieni'r plant ac eraill gyrchu i'r ysgol yn awr ac eilwaith. Ymhen ysbaid drachefn torrodd yn ddiwygiad ymhlith plant yr ysgol, a elwid yn ddiwygiad y plant. Gorfoleddai y plant. Wrth weled yr effeithiau hyn, ymwasgodd mwy eto at yr ysgol. Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yma ac yn y Cwt coch, cwt ar Caeddafydd lle diddyfnid ebolion cesyg. Cedwid, hefyd, ambell seiat gyda'r plant. Yr oedd gan y plant ambell gyfarfod gweddi yn y Cwt arnynt eu hunain. Ar ganol eu gorfoledd un tro, rhedodd un o foneddigion palas Dolfrïog oedd gyferbyn â hwy at y fan, pwysodd ar y ddôr o wiail plethedig, pan y cwympodd y ddôr i mewn i'r cwt, ac yntau yn rhemwth arno. Ar y pryd yr oedd y plant yn canu y darn pennill yma:

Mae Satan ar lawr,
Mae hyn yn beth mawr,
A'r adar yn canu ar doriad y wawr.

Ar hyn ffyrnigodd y creadur, a dechreuodd regi a melltithio, ond ni chyffyrddodd â'r un o'r plant. Yr oedd boneddigion Dolfriog yn dra gelynol i'r grefydd newydd, a rhoddent bob sarhad a allent arni. Taflodd rhywun y ddôr yn y man i lifddwfr yr afon gerllaw, a chludwyd hi ymaith. Yna cynhelid y moddion yn y Cwt coch, ac mewn corlannau a lleoedd neilltuedig. Gwelwyd anfoddlonrwydd perchen y gwaith ar y teulu erlidgar, a hynny yn fuan.

"O'r diwedd dechreuwyd sibrwd ynghylch cael ambell oedfa. Cafwyd gan Robert Jones Rhoslan addaw dod. Awd i dŷ gwag ar fferm y Corlwyni, y buwyd yn cadw rhisgl ynddo. Adroddaf helynt yr oedfa fel y derbyniais ef o enau un oedd yn y lle,—' Wedi imi glywed ynghylch yr oedfa, a'r peth mor newydd, a hefyd fod y tŷ rhisgl ar dir fy nhad, aethum i lawr gan weu fy hosan. Yr oedd yn ddiwrnod teg, braf. Erbyn mynd yno, yr oedd lliaws wedi dod ynghyd, ac, fel finnau, amryw yn gweu eu hosannau, ac eraill yn ymddiddan yn lled gellweirus. Ond daeth y pregethwr a dechreuodd, a ninnau yn parhau i weu, tra yr oedd eraill yn lled afreolus. Dringai rhai i ben y tŷ gan feddwl cyflawni rhyw aflonyddwch. Er y cyfan, yr oedd y pregethwr yn mynd ymlaen. Ond yn ddisymwth dyna fellten, ac ar darawiad taran arswydus nes oedd pawb yn delwi. Ymataliodd y pregethwr am funud, gan edrych o'i gwmpas. Wrth weld y bobl wedi brawychu, ymaflodd yn y Beibl, gan ei ystyn hyd ei fraich atynt. 'Bobl!' meddai, yr ydym wedi brawychu yn fawr wrth glywed y daran. Beth am y gair sydd yn hwn?' Saethodd y gair hwnnw i fy nghalon, ac nid aeth oddiyno hyd heddyw. Ni bu dim aflonyddwch wedi hynny, ond pob rhwyddineb i bregethu.' Er mai hon oedd yr oedfa gyntaf erioed, fe ddichon, gan y Methodistiaid yn yr ardal, fe fedyddiwyd un â'r Ysbryd Glan. Ei henw oedd Jane Richard.

"Bellach y mae cyfnod newydd yn dechre. Wrth gael ambell i oedfa yn awr ac eilwaith, gwelwyd angenrheidrwydd am ffurfio cymdeithas eglwysig. Daeth atynt ddynion cymwys o leoedd eraill i'w cynorthwyo. Sefydlwyd cymdeithas, ffurfiwyd rheolau, penodwyd swyddog, sef Henry Tomos. [Sef yn y Tŷ rhisgl, ar dir y Corlwyni, ebe Carneddog]. Ond llawer o'r rhai oedd wedi ymwasgu at y diwygiad a aethent yn eu hol. Ni fynnent ymostwng dan unrhyw iau. Pan ddeuai cynghorwr i'r ardal, ni ddiangai heb ryw gymaint o amharch, ac anhawdd fyddai cael llety iddo. Clywais am wreigan weddw oedd yn byw mewn lle a elwid yn Cae'r myngis, ddarfod iddi lawer noswaith orwedd yn ei dillad ar gaead ei chist, er mwyn i'r cynghorwr gael ei gwely. Un o'r mannau cyntaf a agorodd heblaw yr Hen odyn oedd y Corlwyni. Enillwyd y gwr a'r wraig at grefydd yn lled fuan ar ol i'r pregethu ddechre, er eu bod gynt yn dra gelynol. Clywais y wraig yn adrodd ymhen blynyddoedd mor elynol ydoedd. Byddwn yn dymuno i rywbeth fynd â phennau y tai i ffwrdd y byddai pregethu ynddynt, ond o drugaredd y mae fy egwyddor wedi newid.' Bu ei thŷ ar ol hynny yn noddfa i bregethu a phregethwyr ysbaid maith. Yma y gwelais innau bregethwr gyntaf. Hefyd ysgwyd llaw â phregethwr, sef Arthur Jones. Un tro, yr oedd cyhoeddiad Gruffydd Jones Ynys y pandy [Ty'n llech wedi hynny] i fod yno i bregethu. Daeth lliaws ynghyd, yn eu plith ddau lanc o'r ardal (waeth heb eu henwi). Llanwasant eu pocedau â phridd y wâdd, a dringasant i'r llofft oedd yn lled agored, gan gyfleu eu hunain uwchben y fan y safai y pregethwr. Wedi dechreu'r oedfa, dech- reuasant ollwng y pridd i lawr, drwy gysylltiadau yr hen lofft, yn gymwys ar y Beibl oedd yn ei law. Taflai yntau ef ymaith yn awr ac eilwaith, gan ganlyn ar ei bregeth. O'r diwedd darfu'r pridd, ac yna nid oedd ganddynt ddim i'w wneud ond gwrando. Daeth llewyrch neilltuol gyda'r oedfa. Cafodd y ddau yn y daflod. ddwysbigiad. Daethant i lawr ystrym ystrym gan waeddi a nadu am y mwyat. Ymunodd y ddau â'r achos ymhen ychydig, a buont wasanaethgar gydag o. Tro rhyfedd oedd hwn.

At yr adeg yma mi briododd Henry Tomos, a rhoes goreu i gadw'r ysgol. Ymaflodd ysgolheiges iddo, o'r enw Elin Tomos, yng ngwaith yr ysgol am ysbaid, nis gwn pa hyd. Un wir grefyddol ydoedd, a chefais dystiolaethau iddi fod o les i'r rhai ieuainc. Bu yn cadw ysgol Sabothol yn llofft ystabl Caeddafydd. Marsley Powel oedd enw gwraig Henry Tomos, merch i amaethwr oedd yn byw ar y pryd yn Hafod rhisgl, Gwynant. Yr ydoedd wedi ei hennill at grefydd ers amser. Byddai'n myned gyn belled a Brynengan ei hunan i odfeuon gras, ac yn dychwelyd ei hunan yn nyfnder nos. Weithiau byddai'n gorfoleddu bron yr holl ffordd nes cyrraedd adref. Hefyd yr oedd wedi ei hegwyddori yn dda, ac ystyried yr amser a'r manteision, ac o dueddiad dysgu a llywodraethu eraill. Bu'n addurn i'w phroffes. Wedi i Henry Tomos ymsefydlu wrth yr hen Stamps, symudodd eisteddle'r achos o Nantmor. Byddai oedfa yn y Corlwyni a lleoedd eraill yn awr ac eilwaith, ond cedwid y seiadau yn yr hen Stamps. Dioddefodd ychydig ganlynwyr yr achos lawer o anfri wrth fynd a dod o Nantmor. Yr oedd llwybr i'r llan, hefyd, yn agos i ddrws y tŷ, ac os byddai moddion ar y pryd yr elai'r llanwyr heibio caent bob anfri a fedrai tafod roi arnynt.

"Gwelwyd angen am swyddog yn rhagor, a neilltuwyd Richard Tomos, brawd Henry. Yr oedd Richard y pryd hwn yn grefyddwr gwresog, ac yn meddu gradd o ddawn i'r swydd, a mwy o wybodaeth gyffredin ac ysgrythyrol na llawer. Yr oedd Henry Tomos yn ddarostyngedig i'r pruddglwyf, yr hyn a'i gwnae yn hollol ddifudd. Ymollyngodd mor llwyr, yn y man, fel nad ymgysylltai â'r ddiadell fechan o gwbl. Tua'r adeg yma daeth teulu o sir Fon oedd yn dda arnynt yn y byd o'r enw Hughes, teulu gwir grefyddol, i fyw i Feillionnen. Cyfreithiwr ydoedd y gwr. Yr oedd y gwersyll eisoes yn edrych allan am symud i le arall. Rhoes y teulu yma dý bychan oedd ar eu tyddyn o'r enw Ty'nycoed i gynnal moddion. [Y mae llythyr o eiddo Sara Charles ar gael, cyfeiriedig at ei gwr, y 'Parch. Thos. Charles, at Mrs. Williams, Veillionnen,' sef enw morwynol gwraig y cyfreithiwr ym Meddgelert, fel y tŷb awdur cofiant Charles. Y mae'r llythyr wedi ei amseru Tach. 24, 1784. Y mae llythyr oddiwrth Charles at ei wraig o Bwllheli, wedi ei amseru Tach. 18, 1784. Y mae llythyr oddiwrth y wraig ato ef i Drawsfynydd, wedi ei amseru Tach. 25, 1784. Os yw dyfaliad y cofiannydd yn gywir, mai gwraig Hughes Meillionnen oedd Mrs. Williams Meillionnen, yna mae'n debyg y penderfynir yn lled agos amseriad symud yr achos i Dy'n y coed gan lythyr Sara Charles. Gweler T. Charles II. 515-7. Y mae gan Carneddog nodiad yma yn cywiro sylw Gruffydd Prisiart am deulu Meillionnen, ac yn dangos mai Davies oedd enw morwynol y wraig y cyfeirir ati, yna Williams, yna Hughes. Y mae'r nodiad yn dwyn cysylltiad âg amryw bersonau amlwg yn yr hanes, a rhed fel yma: "O 1744 i 1777 yr oedd gwr lled gefnog yn byw ym Meillionnen, a chanddynt brydles ar y lle. Y mae'r dyddiadau a geir ar ei garreg fedd ef a'r teulu yn cytuno â'r cofnodlyfr plwyfol. Bu Dorothy, baban John Williams Meillionnen, ac Elizabeth ei wraig, farw Mawrth 14, 1745, yn flwydd oed. Bu Elizabeth Howel farw Gorffennaf 3, 1765, yn 60 oed. Bu John Williams farw Mehefin 10, 1777, yn 71 oed. Yr oedd Elizabeth Howel yn ferch Howel John Griffith, neu Howel Jones o'r Ereiniog, ac yn chwaer i Edward Powel Ereiniog ac i John a Griffith Powel Hafod y rhisgl, ac o'r un cyff a Phoweliaid Llanfihangel y Pennant. Yr oedd Harri Thomas wedi priodi Marsli Powel, merch i John Powel o Hafod y rhisgl, ac felly yr oedd Elizabeth Howel neu Powel yn fodryb iddi. Yr oedd John Williams yn wr crefyddol, ac yn eangfrydig ei syniadau, ac yr oedd ei wraig o'r un dueddfryd ysbryd. Yr oedd Marsli Thomas yn nodedig o grefyddol a thanbaid. Ar ol marw Elizabeth Howel, priododd John Williams Letuce Davies, a berchenogai Danrallt, gerllaw Abergele. Ceir hysbysiad am fedyddiad plant i' John Williams, yeoman of Meillionnen and Letuce his wife' yn y cofnodlyfr plwyfol, William yn 1772 a John yn 1776. Ar ol marw John Williams yn 1777, bu Letuce Williams yn byw yn weddw am gyfnod yn y lle, a bu hi yn lletya Thomas Charles yno yn 1784, fel y cyfeiria'r llythyr. Yr oedd yn wraig ryddfrydig, gymwynasgar a chrefyddol. Mewn un hen ysgrif neilltuol, gelwir hi "yn weddw gyfrifol oedd yn byw ym Meillionnen." Yn y cyfamser priododd Letuce Williams â Rice Hughes Treferwydd, Môn, ysgrifennydd cyfreithiol yn Dinam. Yr oedd ef wedi bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid ym Môn, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos. Buont yn dal Meillionnen am ysbaid fel 'penturiaeth,' gan fyw yn rhanol yno ac ym Môn. Trwy eu hofferynoliaeth hwy y cafodd bwthyn Ty'n y coed ei agor at wasanaeth y Methodistiaid. Dodrefnwyd y tŷ yn bwrpasol at gynnal moddion gan Letuce Hughes. Pan fyddai Ty'n y coed yn rhy fychan i'r gynulleidfa, cynhelid y gwasanaeth ym Meillionnen. Bu Rice Hughes farw yn 1794 yn 42 mlwydd oed a Letuce Hughes yn 1819"]. Ymunodd amryw o rai cyfrifol â'r achos yn Nhŷ'n y coed, sef William Sion o'r Gefnen, William Williams o'r Ffridd, wedi hynny Hafod rhisgl, Rhys William Hafod llan, Richard a Hywel Gruffydd o'r Carneddi, ynghydag eraill. Hefyd, mhen ysbaid daeth Henry Tomos yn rhydd o'i lewyg, a daeth i'w plith ac i'w swydd. Anfonai gwraig Meillionnen ddodrefn at wasanaeth y tŷ, ynghydag ymborth a phethau eraill. Byddai'r cynghorwyr, hefyd, yn myned yno i letya weithiau, a chynhelid ambell oedfa yno. Clywais hen wr yn dweyd iddo fod yn gwrando Peter Williams yno unwaith [ar ei daith gyntaf drwy'r rhan yma o'r wlad, ebe Cameddog]. Yr oedd i'r achos elynion yn y parth yma. Dangosodd un elyniaeth mwy nag eraill. Ryw noswaith lled dywyll pan yr oedd seiat yno, daeth amaethwr cyfagos, a llifiodd bron drwodd drawstiau'r bont-bren oedd yn croesi'r afon ar y llwybr at Dy'n y coed. Wedi gorffen y cyfarfod, cychwynasant i lawr at yr afon fel arfer. Wrth fynd i lawr, dywedodd Richard Tomos, 'Yr wyf yn meddwl gyfeillion, mai gwell peidio mynd at y bont heno, rhag ofn fod rhyw berygl yn bod. Ni drown, ac a awn i lawr gyda'r afon nes mynd i'r ffordd.' Felly fa. Pe digwyddasant fyned at y bont fel arfer, yn gymaint a bod craig serth o bobtu a llyn dwfn o dani, collasai rai eu bywyd, os nad pawb. Ond er i'r diniwed ddianc, ni ddiangodd cyflawnydd y weithred. Er ei fod yn dda arno yn y byd ar y pryd, darostyngwyd ei deulu i dlodi, fel erbyn hyn nad oes yma gymaint ag un ohonynt. Rywbryd arall, yr oedd y pregethwr i ddyfod yma dros fwlch Cwmpas trayn [Cwm strallyn], ac i lawr drwy bant y Fallen i'r Gymwynas ger llaw Pont Aberglaslyn. Aeth lliaws o'r pentref i lawr i fwlch y Fallen i'w ddisgwyl. Casglodd bob un ei dwrr o gerrig i'w ymyl, y naill res yn sefyll uwchlaw y llall, a'r rhai byrraf yn y rhes flaenaf, fel na byddai perygl i'r rhai o'r tucefn eu tarro. Pan ddaeth y truan i'r golwg, ergydiodd un o'r rhes bellaf garreg, a phwy a darawodd ond un o'r bechgyn yn y rhes flaenaf, a hynny ar ei foch, nes fod twll drwy ei foch i'w enau. Ar hyn syrthiodd i lawr mewn llewyg. Yn y fan, rhuthrodd y lleill ato mewn dychryn, gan ofni eu bod wedi achosi marwolaeth ddisyfyd iddo. Felly cafodd y pregethwr druan ei arbed. Bu craith fawr ar foch y bachgen tra fu byw.

"Yn gymaint ag y byddai oedfa yn awr a phryd arall yn y Corlwyni, cymerodd Richard Edmwnd yn ei ben fyned i ambell gyfarfod misol i ymofyn pregethwr. Yr oedd yn dda arno, ac yn cadw merlen dda bob amser. Caredigrwydd at yr achos yn unig a gymhellai'r hen wr. Ond yn gymaint ag nad oedd yn swyddog, tramgwyddodd hyn Richard Tomos yn fawr, yn gymaint yn y diwedd ag y ciliodd oddiwrth yr achos yn gwbl tra fu byw. Cyn hir, yn ddyn ieuanc, syrthiodd i afael afiechyd a fu'n angeu iddo. Yn ei selni yr oedd yn gryn ystorm arno oherwydd ei wrthgiliad. Dywedai nad oedd ganddo ddim am dani ond yr hyn oedd gan y gwahangleifion hynny wrth fyned i wersyll yr Asyriaid, 'Os cadwant ni'n fyw, byw fyddwn.'

"Yr adeg yma, symudodd Henry Tomos i gymdogaeth Waenfawr, yna i dyrnpeg Llangwna, yna i dyrnpeg Dolydd byrion yn agos i Lanwnda, lle bu farw. Yr oedd yn ddarostyngedig i'r llewygfeydd o bruddglwyf wedi ymadael oddiyma, ond dywedir fod rhyw lewyrch neilltuol ar ei ysbryd tua diwedd ei oes. Y tro diweddaf y gwelais ef oedd mewn cymanfa yng Nghaernarvon. Yr oedd, er yn hen wr, mewn tymer nefolaidd, yn canmol ei Waredwr. Teimlais rywbeth wrth ei wrando nad aeth yn angof gennyf eto. Er ei symudiadau, yr oedd wedi casglu swm o gyfoeth. Yr oedd ganddo £60 yn llog ar gapel Moriah, a adawodd yn ei ewyllys ddiweddaf yn rhodd iddynt. Bu'n offeryn, er ei lewygfeydd a'r cwbl, i gychwyn gwaith mawr, megys y gwelir heddyw. Heddwch i'w lwch.

"Bellach yr oedd eisieu swyddogion newydd, a neilltuwyd William Sion o'r Gefnen a William Williams o'r Ffridd, dau wr cyfrifol a gwir ddefnyddiol, a hynny tra buont. Ond daeth y tymor i ben yn Nhŷ'n y coed eto, drwy i angeu symud penteulu Meillionnen i'r bedd. Daeth arall yn feddiannydd arno, ac ni chaniatae i bregethu fod yno mwyach. Digwyddodd ar y pryd fod tŷ gwag yn y pentref, sef Pen y bont fawr. Cymerwyd ef ar ardreth. [Tua 60 neu 63 o flynyddoedd yn ol, meddir ym Meth. Cymru, neu rhwng 1791 a 1794, a chyfrif o adeg cyhoeddi'r ail gyfrol. Dywedir hefyd mai tua 40 oedd rhif yr aelodau y pryd hwnnw. Tua'r flwyddyn 1794 y dywedir yr adeiladwyd y capel.] Dyma ddechre cyfnod newydd eto ar yr achos. Chwanegwyd y gwrandawyr, a chaed chwanegiad a mwy o amrywiaeth o bregethwyr. Dewiswyd swyddog yn chwanegol, sef Rhys William Hafod llan. Cafwyd yma gyfarfod misol, y cyntaf erioed yn y lle y mae'n debyg. Cynhaliwyd y pregethu ar yr heol o flaen drws y Tŷ uchaf, a'r garreg farch oedd y pulpud. Pwy oedd y pregethwyr nis gwn, heblaw Robert Roberts o Glynnog. Clywais un yn adrodd ei bod yn clywed ei lais pan yn pregethu chwarter milltir o bellter oddiwrtho. Bu symudiad yr achos i'r pentref yn foddion i'w ddwyn yn fwy i wyneb erledigaeth. Yr oedd erbyn hyn wedi dod i ymyl ffau un o'r llewod, a oedd yn byw yn y Tŷ isaf yn union gyferbyn a Phen y bont fawr. Yr oedd ganddo was o'r un duedd ag ef ei hun. Pan fyddai pregeth, rhoe i'r gwas ddogn da o drwyth Syr John, yna anfonai ef allan i lan yr afon i luchio cerryg i'r tŷ, os gallai. Un tro bu am awr yn ceisio lluchio cerryg drwy'r ffenestr, ac er nad oedd ond oddeutu 20 llath oddiwrthi methodd a thaflu un garreg i mewn. Brydiau eraill rhoe hen wisg ddierth am dano, a chan orwedd ar y bont, gwnae nadau drwg, a bygythiai gyda llwon y byddai iddo'u lladd. A chan mor fwystfilaidd yr olwg arno, byddai'n peri arswyd ar lawer o'r benywod. Brydiau eraill elai'r llew ei hun i'w cyfarfod, a chasglai dwrr o gerryg, a lluchiai hwy'n ddiarbed nes yr elent dros y bont. Weithiau lluchiai'r dom atynt. Clywais un yn adrodd, er cymaint o luchio a fu ar eu holau, na tharawyd neb â charreg, ond y bu y dom hyd-ddynt lawer gwaith. Un Saboth gorfu i Mr. Richards Caernarvon gadw oedfa yn nrws Pen y bont. Ar y pryd daeth y llew allan o'i ffau yn lled feddw, gan dyngu â mawr lwon, os na thawai, y deuai, ato ac y rhoddai'r bigfforch drwy ei berfedd. Ond yn gymaint nad ymataliai y pregethwr, dyma fe yn dod gyda'r bigfforch, gan dyngu hyd i ganol y bont, pryd yr ymaflodd rhyw ddirgrynfa ynddo, a throes yn ol. Cymerodd ail feddwl drachefn, a methodd ddyfod gam ymhellach yr ail dro. Ac yn gyffelyb y trydydd tro. Yr oedd y dirgryniad yn ymaflyd ynddo bob tro yn yr un fan. Felly cafwyd llonyddwch y tro yma hefyd. Nid rhyw lawer o lwyddiant a fu ar y teulu yma mwy na theuluoedd eraill a fu dan sylw. Yr oedd amryw eraill yn gydgyfranogion yn y gwaith pechadurus, na waeth imi heb sôn am danynt.

"Yn yr ysbaid yma defnyddiodd y gelyn foddion eraill. Daeth apostolion Mari'r Fantell Wen yma. Un yn unig a enillodd y rhai'n i'w ffydd, ac nid hir y buont heb droi eu cefnau. Enillasant ugeiniau mewn lleoedd eraill i gredu eu ffoleddau. Plaid arall ddaeth yma yr un pryd oedd teulu Moses Lewis, fel y galwai'r hen bobl hwynt. Buont yn cynnal pregethu mewn lle o'r enw Tŷ hen, ac ym Mwlch y garreg [ar dir Hafod llan]. Enillodd y rhai'n dros ychydig blaid fechan dra selog. Brodor o dueddau Llanrwst oedd y Moses hwn. Yr oeddynt yn dal nad oeddynt yn pechu ar ol cael tro, ac mai yr hen ddyn' oedd yn cyflawni'r cwbl yn ol hynny. Eu prif ddull o gynnal eu moddion oedd canu, canu eu gweddiau a'u pregethau a'r cwbl. Yr oeddynt yn sylfaenu hyn ar y geiriau yn y Salm, 'Cofio yr ydwyf fy nghân y nos, sef gweddi ar Dduw fy einioes. Yr oeddynt yn dra gelynol i'r Methodistiaid. Gwaeddent ar eu hol, nodent hwy'n gyfeiliornwyr, ynghyda phob dirmyg a allent roi. Ni buont o hir barhad: diffoddasant fel clindarddach drain dan grochan.

"Dechreuwyd sibrwd am gapel. Yr oedd anhawsterau mawr ar y ffordd, oherwydd rhagfarn tir-feddianwyr at ymneilltuaeth. Eithr fe ddigwyddodd i etholiad seneddol gymeryd lle, ac aeth yn frwydr galed rhwng Lord Bulkeley a Syr Robert [Williams] Plas y nant. Yr oedd gan W. Williams y Ffridd vote. Addawodd Syr Robert unrhyw gymwynas iddo am dani. Derbyniodd yntau'r cynnyg ar yr amod ei fod yn rhoi lle i adeiladu capel. Aethpwyd ynghyd âg adeiladu ar unwaith. Nid oedd y capel cyntaf hwn ond bychan a diaddurn, a'i faintioli yn rhywbeth oddeutu 8 llath bob ffordd, ac heb eisteddleoedd iddo ond dwy, un o boptu'r pulpud. Ar y cyntaf nid oedd meinciau ynddo ond yn unig wrth y mur. Ond ymhen amser daeth y naill deulu a'r llall â mainc i'w gosod ar ganol y llawr. Pridd oedd y llawr. Yn y gaeaf taenent gnwd. o frwyn drosto, gan y byddai'r llawr ar dywydd gwlyb yn slut slot. [Siloam yw'r enw. Dywed Carneddog fod y resêt am yr adeiladu ar gael, ac y rhed fel yma: "This is a Memorandum, that we, Robt. Roberts and Robt. Parry, Received of Rice Williams, on account of the Chapel Built at Bethgelart, the sum of Sixty five Pounds, in full of all Demands, as Witness our Hands, the 25th Day of November, 1797. Pd. us Robt. X (the mark of) Roberts, Do. of Robt. X Parry." Codwyd y capel yn 1794, er na thalwyd mo ofynion y seiri hyd 1797.] Hefyd yr oedd tŷ bychan yn gysylltiedig âg e, cynwysedig o lawr a llofft. Yn y llofft yr oedd y cyfleustra byw. Y gyntaf a gyfleasant yma i fyw a gweinyddu i'r achos oedd gwreigan weddw o'r enw Sian Roberts, y soniais am dani o'r blaen, y byddai'n gorwedd ar y gist er mwyn i'r pregethwr gael y gwely. Yn y llofft fechan yma y buont yn cadw eu seiadau am oddeutu 20 mlynedd. Dull y moddion yn gyffredin fyddai seiat nos Sadwrn, oedfa yn Hafod llan fore Saboth, ac yn y capel at un ar y gloch. Ar ol yr oedfa yma dychwelai'r pregethwr adref. Dyna'r cynllun am flynyddoedd lawer, ond y byddai pregethu yn Nantmor, weithiau yn y Tylymi, ac weithiau yn y Corlwyni.

"Nid hir ar ol y symudiad y bu farw William Sion o'r Gefnen. Yr oedd William Sion yn wr hynod gyfrifol gan y cyfeillion. Sonient am dano gyda phob parchedigaeth. Dywedent mai bugail tyner, gofalus ydoedd, o duedd i gynnal a chysuro y gweiniaid. ["Un o golofnau cadamaf yr achos. Dywedir ei fod yn dra hyddysg yn yr ysgrythyrau, ac yn wr hynod ddiargyhoedd ei ymarweddiad. Perchid ef gan wreng a bonheddig." Llenor, t. 39]. Ond yr oedd gan berchen y gwaith wrth law un cymwys i lanw ei le, sef Robert Roberts, gwr oedd yn byw ar y pryd mewn tyddyn o'r enw Clogwyn yn Nantmor.

"Yr oedd y cyfnod o'r symudiad i'r capel hyd y diwygiad mawr yn un pwysig, yn gymaint a'i fod yn fyd da, drwy fod prisiau uchel ar bob da gwerthadwy, a hynny o achos y rhyfel yn amser Napoleon Fawr. Yr oedd meddwdod fel llifeiriant yma, ac yr oedd yma gyfarfodydd blynyddol fwy nag a fu un amser, hyd y gwyddis. Pan adeiladwyd y gwestŷ, yr hyn a fu tua dechreu'r cyfnod, sefydlwyd helwriaeth flynyddol er cynorthwy i'r tŷ, pryd y deuai Mr. Rumsey Williams yma â haid o helgwn, ynghyda helddyn. Ac heblaw y rheiny byddai haid o foneddion corachaidd o amryw leoedd yn cydgyfarfod, a mawr fyddai'r gloddest a'r meddwi. Ymgasglai lliaws o'r ieuenctid o'r nentydd yno atynt, ac yna curo a baeddu ei gilydd, heblaw llawer o anfoes arall. Wedi i'r tafarnwyr eraill ddeall fod elw da oddiwrth yr helwriaethau, penderfynasant hwythau feddu helwriaeth flynyddol. Erbyn hyn dyma dair o helgwn-wyliau blynyddol yn y pentref. Yr adeg yma yr oedd ysbryd ymladd wedi codi i ryw frî hynod. Beth bynnag fyddai sefyllfa neu gymeriad unrhyw lanc, ni thalai nodwydd os na byddai'n ymladdwr. Ac yn gymaint ag nad oedd neb yn fawr ond yr ymladdwr, yr oedd pawb yn meithrin y cyfryw ysbryd; ac yn gymaint ag y byddai rhyw gweryl yn gyffredin rhwng trigolion Nantmor a'r nentydd eraill, byddai yma ymladd gwastadol. Diwrnod arall llygredig i'r eithaf oedd diwmod gosod y degwm. Rhennid diod yn helaeth, a mawr y cyrchu o bedwar ban plwyf, a phob tro, mawr fyddai'r meddwi a'r ymladd, a mawr y llid a'r genfigen ar ol y diwrnod. Yr oedd y priodasau a'r claddedigaethau a'r nosweithiau llawen yn warthus o anuwiol yn y cyfnod yma. A'r cocin saethu oedd gydgyfarfyddiad tra llygredig. Y ffeiriau oedd gyffelyb—meddwi ac ymladd fyddai bob amser ynddynt. Y Saboth a halogid mewn amryw fodd, weithiau drwy feddwi, a chasglai ieuenctid at ei gilydd i gynnal chwareuaeth o bob math yn y naill le a'r llall. "Dyma'r pryd yr ail-gychwynnwyd yr ysgol Sabothol, ar ol yr ysbaid y bu Elin Jones yn ei chynnal. Boddloner ar yr hyn ddywedaf o barth iddi yn ardal Nantmor, oblegid yno yr oeddwn ar y pryd. Yn y nos, ar y cyntaf, y cynhelid hi, a hynny yn y gaeaf. [Nodir gan Carneddog mai y rhai offerynol yn sefydliad yr ysgol y pryd hwn oedd Robert Roberts Clogwyn, John Prisiant Corlwyni, William Williams Cae Ddafydd, Richard Williams Cwm bychan, y tri brawd, Robert, Richard a Hywel Gruffydd o'r Carneddi. Tŷb Cameddog i hyn ddigwydd tua 1787. Dywed, hefyd, fod arswyd Hugh Anwyl y Ddolfrïog ar y rhai anwybodus yn gryn rwystr ar ffordd sefydlu'r ysgol, gan yr arferai bob math ar fygythion. Nodir, hefyd, fod Owen Gruffydd yn dipyn o brydydd a chanwr carolau.] Y lle cyntaf yr wyf yn ei chofio yw tŷ Owen Gruffydd Bwlch gwernog, ond y tymor nesaf symudwyd hi i'r Tylymi, yna i Aberglaslyn, yna i Ddolfriog yna i'r Tylymi yn ol, wedi hynny i Ddolfriog drachefn. [Yr oedd yr hen berchennog, Hugh Anwyl, erbyn hynny yn fethdalwr, a'i stâd wedi ei gwerthu. Carneddog.] Diffoddodd am ysbaid. Adlewyrchodd drachefn yn y Ddinas ddu. Yna i'r Tylymni am y trydydd tro. Yno yr arhosodd hyd y cafodd breswyl yng Nghapel Peniel. Cynhelid hi yn y gwahanol leoedd hyn weithiau'r dydd ac weithiau'r nos. Ar y cyntaf yr oedd llawer o bethau heb fod yn ddymunol mewn cysylltiad â hi, yn enwedig pan gynhelid hi yn y nos. Er hynny bu'n fendith. Dysgodd lawer o honom i ddarllen, ac yr ydym wedi mwynhau ei chynyrch ar hyd ein hoes.

"Er fod tymor y lluchio cerryg a dom wedi myned drosodd, eto yr oedd llawer yn elynol i grefydd. Byddai'r pregethwyr yn dychwelyd â'u teimladau yn friwedig gan mor anhawdd pregethu yma. ["Aeth yn ddywediad cyffredin gan amryw, 'Mae'r fan a'r fan mor galed a Beddgelert." (Goleuad Cymru.)] Ni chwanegwyd braidd neb at yr eglwys o fewn corff ugain mlynedd, oddigerth tri o fewn ychydig i doriad y diwygiad. ["Ym mis Mawrth daeth un, er syndod a llawenydd i amryw; a thua dechreu'r haf daeth dau neu dri eraill." (Goleuad Cymru.)] Yr oedd pawb a ddilynai'r achos yn hen neu ganol oed, oddigerth y tri a nodwyd, ac nid oedd eu nifer yn llawn deugain, er fod yr achos wedi ei gychwyn ers deuddeg neu bymtheg ar hugain o flynyddoedd [1782-5, gan gyfrif yn ol o 1817 mae'n debyg]. Ond yr oeddynt yn rhai gwirioneddol dda, ac wedi ymwregysu â ffyddlondeb. Ychydig flynyddoedd cyn y diwygiad yr oeddid wedi newid trefn y moddion, drwy roddi oedfa'r capel yn yr hwyr yn lle am un ar y gloch. Daeth oedfa un i'r Tylyrni. Rhowd y Tylymni dan nawdd y gyfraith, drwy ei recordio. Bu moddion rheolaidd yno hyd nes cael capel yn y gymdogaeth. Ychydig flynyddoedd cyn y diwygiad, hefyd, y bu farw R. Roberts y Clogwyn, a dewiswyd John Jones i'r swydd yn ei le. Bu ef yn offeryn i godi'r canu. Ni bu neb yn meddu'r dalent honno yma yn flaenorol. Bu'n dechreu'r canu hyd nes y lluddiwyd ef gan henaint.

"Cafwyd rhagarwyddion o'r diwygiad fisoedd cyn i ddim neilltuol dorri allan. [Dywed Carneddog y byddai rhai o'r hen bobl cyn toriad y diwygiad yn breuddwydio yn rhyfedd, ac yn adrodd eu breuddwydion wrth eraill. Cyn bo hir cafwyd y dehongliad. Edrydd ar ol Ellis Jones (y blaenor ym Moriah gynt), yr hyn a glywodd efe gan ei dad a'i fam. Gwelai William Williams Cwmcloch ei hun mewn breuddwyd yn ceisio ymwthio drwy dwll mewn mur trwchus. Methodd ganddo yn lân a myned drwodd, yna fe dynnodd ei ddillad oddi am dano, ac a aeth drwodd yn noeth luman, a gwelai lu yn dod ar ei ol drwy'r un twll. Pan dorrodd y diwygiad allan, y cyntaf i'r seiat oedd William Williams. Adroddir, hefyd, o ysgrifau William Davies, y "mwnwr llengarol o Feddgelert," am Rhisiart Wmffre yn breuddwydio ei fod yn gweled ei hunan yn myned drwy level newydd, nad oedd neb erioed wedi ei gweithio o'r blaen. Wedi cyrraedd drwyddi ac edrych yn ol, fe welai liaws mawr yn ei ddilyn. "Adroddodd y breuddwyd i'w gydweithwyr yn y fwnfa. Y farn gyffredin ydoedd y tarawai Rhisiart Wmffre wrth wythïen gyfoethog o gopr; ond tybiai eraill mai rhyw anffawd oedd i'w gyfarfod ef yn y gwaith. Ymhen ychydig amser yr oedd Richard William Bryn engan yn pregethu yn Hafod y llan. Fe ddychwelwyd Rhisiart Wmffre, ac fel hynny y dehonglwyd ei freuddwyd. Cafodd well ffawd na phe cawsai holl gopr y Wyddfa i gyd. Yr oedd yn flaenffrwyth y diwygiad. Byddai'r hen bobl yn son llawer am y breuddwydion rhyfedd hyn."] Byddai'r seiadau yn newydd iddynt yn anad un moddion. Byddai llestri rhai yn codi i nofio rai prydiau, yn enwedig yr hen chwiorydd. Dywedai'r naill wrth y llall, 'Fe ddaw diwygiad.' Yr oedd yr arwyddion hyn wedi dechre yn gynnar yn 1817. Yn nechreu'r haf y daeth y tri i'r seiat. Nos Saboth ym mis Awst yr oedd Richard Williams Brynengan yn Hafod y llan, pryd y torrodd y diwygiad. [Yr oedd y diwygiad eisoes wedi torri allan ar ffurf amlwg yn nechreu'r flwyddyn hon yn Nant, Lleyn. Bu'r hanes hwnnw yn symbyliad i'r diwygiad yma (Hanes Diwygiadau, Henry Hughes, t. 253-7). Y mae wedi ei ddweyd yn fynych fod John Elias yn Nhremadog y Sul yr oedd Richard Williams yn Havod y llan, ac i gorff y gynulleidfa fyned yno, saith milltir o ffordd. Dywed Mr. Henry Hughes na fu John Elias yno y flwyddyn honno ond ar Sul olaf Tachwedd, ac mai Robert Sion Huw, Llithfaen y pryd hwnnw, oedd yn pregethu yn y Tylyrni yr un adeg. Ac er i nifer gychwyn i wrando ar John Elias, eto ddarfod iddynt droi yn ol yn y man ar air hen wraig, sef fod Robert Sion Huw mor wirioneddol was i Grist a John Elias. Cafodd Robert Sion Huw arddeliad mawr, tra'r oedd oedfa John Elias yn galed iawn. Mae gan Mr. Hughes dystiolaeth Dr. Owen Thomas i hyn, ac eiddo John Jones, Tŷ capel Peniel (t. 259-60). Mae distawrwydd Gruffydd Prisiart ynghylch oedfa John Elias yn ei gadarnhau. Cymharer disgrifiad Robert Ellis Ysgoldy o oedfa Richard Williams (Cofiant, t. 227). Ioan vi. 44, "Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad . . . . ei dynnu ef," oedd y testyn, ebe John Jones. A dywed ddarfod i lawer fyned o'r oedfa heb ymddiddan a'i gilydd yr holl ffordd adref gan syndod.] Ar ddechreu'r moddion nid oedd dim neilltuol mewn arddeliad yn y golwg, ond fel yr oeddid yn ymlwybro ymlaen yr oedd y nerthoedd yn dechre cerdded, a chyn y diwedd torrodd ac aeth yn llefain cryf a dagrau, rhai o'r newydd a rhai mewn cysylltiad â'r achos o'r blaen. Tarawyd pawb â syndod. Richard Williams ydoedd y distadlaf a'r diystyrraf o'r gwŷr a ddeuai atom i gynnyg pregethu; ni chae gan y byd un amser ond llysenwau. Ond dyma'r hwn a arddelodd yr Ysbryd Glan. Bu'r tro yn foddion i godi Richard Williams yn ein hardaloedd tra bu. Wedi toriad allan y diwygiad cerddodd ymlaen yn rymus drwy'r nant. Ar y cyntaf yr oedd rhyw ddylanwad yn disgyn ar rai heb fod mewn moddion. Mae'n ffaith i ddwy dorri allan i waeddi yn y fuches, ac eraill yn eu tai, pryd na byddai moddion cyhoeddus. Fel, mewn ychydig wythnosau yr oedd wedi cerdded yr holl gymdogaeth. Ymhen ychydig wythnosau dechreuodd amryw dorri ymlaen i ymuno â'r achos, a pharhausant. Ymhen y mis neu bum wythnos yr oedd degau wedi dod i'r seiat yn y pentref, gan nad oedd seiat ond yno. Ond er yr holl gynnwrf oedd yng Ngwynant, nid oedd yr argoel lleiaf fod dim neilltuol yn cyffwrdd â neb yn un parth arall o'r plwyf, ond yn unig fod mwy o gyrchu i'r pentref i'w cyfarfod a'u gweled a'u clywed. [Yr oedd llond capel yn y seiat nesaf yn y pentref, a dylanwad neilltuol iawn, yn ol Robert Ellis (t. 229). Yn ol Gruffydd Prisiart, yr oedd y dylanwadau yn gyfyngedig y pryd hwnnw i bobl Nant Gwynant, ond y tyrrai eraill yno i'w gweled. Nid "llond capel o ddynion ar ddarfod am danynt" eto, ond y rhan fwyaf yn cael eu cymell gan gywreinrwydd yn bennaf.] Wedi i'r diwygiad ddechre yn y Nant, ni symudodd oddiyno nes marcio yr oll bron oedd i gael eu torri i lawr. Ond daeth yr amser iddo symud. Ar y Saboth blaenorol i ffair Gwyl y Grog [syrth yr wyl ar Medi 21 yma] yr oedd yr holwyddorwr yn yr ysgol yn cynghori y bobl ieuainc i ymddwyn yn weddaidd yn y ffair, pan y disgynnodd rhyw ddylanwad neilltuol arno ef a phawb yn yr ysgol. Torrodd bron bawb i wylo a rhai i waeddi allan. Wedi dechre fel hyn, enynnodd yn rymus drwy'r pentref a'r cymdogaethau hyd Ddrws y coed. [Byddid yn y capel yn aml am chwe awr, ebe John Jones, er fod gan rai o 3 i 6 milltir i'w cerdded adref.] Gorfu rhoi dwy seiat bellach yn yr wythnos, ac un arall o flaen oedfa prynhawn Saboth. A braidd, er hynny, y deuid i ben âg ymddiddan â'r dychweledigion. Ymwelwyd â'r lle gan amryw bregethwyr ar y ffordd i gymanfa Pwllheli. Yn eu plith daeth Eben Richards Tregaron. Cafodd oedfa lewyrchus yn y pentref nos Sadwrn, ac un fwy felly yn Hafod rhisgl bore drannoeth, pan y daeth amryw i'r seiat o'r newydd. Yr oedd yma Gyfarfod Misol y mis dilynol i'r un y torrodd y diwygiad yn y pentref arno. Yr oedd yma ddieithriaid o'r holl barthau cylchynnol. Daeth bagad o Ddolyddelen, ac yn eu plith Cadwaladr Owen; a dyma'r pryd y daliwyd ef. ["A dywedir eu bod wrth groesi'r mynydd yn llawn cellwair, a Chadwaladr Owen mor gellweirus a neb; ond daethant adref yn ol wedi eu lladd. . . ." (Cofiant R. Ellis, t. 231)]. Bu'r cyfarfod hwn yn ysgytfa o'r newydd i'r rhannau o'r plwyf lle'r oedd y tân wedi dechre ennyn. Ar seiat brynhawn Saboth weithiau, byddai tyrfa lond y cowrt wedi ymgasglu, a byddai dylanwad y swn oddifewn yn disgyn yn ddisymwth ar rai oddiallan. Un tro, pan oedd y lliaws ynghyd hyd at y drws, wrth glywed y swn, meddai un wrth ei gyfaill,— 'A ddoi di i fewn?' 'Na ddof' oedd yr ateb. 'Wel, ffarwel iti ynte!' ac i fewn ag ef, a rhoes floedd fawr, 'Bobl anwyl! pa beth a wnaf?' Ar hynny torrodd allan yn waeddi mawr, a dyna hynny o seiat a fu y pryd hwnnw; a gwaeddi mawr a fu am oriau, a mawr lafur fu i'w gostegu er mwyn cael oedfa. Fel hyn yr aeth y diwygiad ymlaen am bedwar mis, sef hyd y Nadolig, pan yr oedd dros gant wedi ymuno â'r achos. Ond nid oedd un wawr wedi torri eto ar ardal Nantmor. Nos Sadwrn, o flaen y Nadolig ar y Saboth, yr oeddwn i a'm chwaer adref yn y Tylyrni yn gwarchod, a'n rhieni yn y pentref yn y seiat fel arfer. Tua 9 o'r gloch aethum i gongl yn y tŷ lle'r oedd ffenestr led fawr yn agored uwch fy mhen. Yn ddisymwth clywn ganu yn gymwys uwch fy mhen gan ryw liaws aneirif, fel y tybiaswn; a meddyliais ar y cyntaf fy mod yn eu deall, ond erbyn ail ystyried nid oeddwn yn deall un gair. Ond yr oedd y sain fel sain tyrfa fawr, ac o natur mwy soniarus na dim a glywodd fy nghlustiau o'r blaen nac ar ol hynny. Yr oeddwn yn tebygu ar y pryd fod fy nghyfansoddiad oll yn ymddatod gan rym y swyn a'r beroriaeth. Ond ni bu o hir barhad, yn ol fy meddwl, ond gan imi braidd golli arnaf fy hun, nis gallaf farnu yn gywir am ei barhad. Beth bynnag, aethum i'r drws; ond erbyn hynny yr oedd yr adsain bron a myned o'm clyw yng nghyfeiriad Llanfrothen. Ymhen ennyd daeth fy rhieni gartref. Yn y man, adroddais fy ngweledigaeth wrthynt. Ac ebe un ohonynt yn y fan, 'Wel, yn wir, fe ddaw y diwygiad i Nantmor.' Ac fe ddaeth, ac yr oedd yr hyn a glywais yn rhagarwydd o'i ddyfodiad. Trannoeth yr oedd ychydig gyfnewidiad yn y moddion, yr oedfa ganol dydd yn y pentref, ac yn y Tylyrni y nos. Cyrhaeddodd Edward Jones [Williams ydoedd: "ni wyddis ddim am dano heblaw mai pregethwr oedd," ebe Biographical Dictionary Joseph Evans] Llangwyryfon o Benrhyn yn lled hwyr. Daeth David Jones Beddgelert, hefyd, o Ysgoldy Llanfrothen. Dechreuodd ef yr oedfa. Adroddai wedyn ei bod yn dywyll fel y fagddu arno hyd ganol y weddi, pan y daeth torf o'r pentref at y tŷ dan ganu. Ar hyn torrodd y wawr ar y gweddiwr, ac yr oedd fel pe buasai'r nefoedd yn agoryd ac yn tywallt uwch ei ben. Cymerodd Edward Jones [?] ei destyn, "I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni." Yr oedd swn crac yn yr oedfa, ond heb dorri eto. Yr oedd llanc ieuanc, yn gwasanaethu yn agos, wedi gwahodd nifer o bobl ieuainc o Lanfrothen i'r oedfa gydag ef, er mwyn cael sport. Yr oedd y llanc hwn wedi symud ymlaen yn ystod y bregeth o'r pen arall i'r ystafell, nes bod yn ymyl y pregethwr, yn grynedig ac yn wylo. Ar hynny torrodd eraill i wylo, a rhai i waeddi allan. Tor- rodd rhai o'r hen chwiorydd i waeddi, 'Mawr allu Duw yw hwn!' Dyma ddechreu'r diwygiad yn Nantmor. Y Saboth nesaf yr oedd gan William Roberts Clynnog bregeth ar, 'Yr oedd gan ryw wr ddau fab,' yn llawn o addysgiadau a chymhwysiadau effeithiol. Richard Williams Brynengan oedd yma y Saboth wedi hynny ar y geiriau, 'Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd Arch i gadw ei dŷ.' Wrth sôn am y perygl o golli'r adeg i fyned i mewn i'r Arch, yr oedd y llewyrch yn dod, a Richard yn dechre ymwyro ar dde ac aswy, ac weithiau ymlaen ac weithiau yn ol, gan gau ei lygaid a gwneud cuchiau, fel pe buasai mewn gwewyr i esgor ar fynydd. O'r diwedd, fe waeddodd gyda nerth, 'Mi ddoi dithau i ymofyn am Arch toc! Ond cofia y bydd hi'n rhy ddiweddar pan y daw hi i ddechre bwrw a'r ceunentydd i ddechre llifo.' Ar hyn rhoes gwr oedd yn gwrando yn agos i'r tân floedd fawr,— Be' ydi hyn, bobol? be' ydi hyn, bobol?' a rhoes naid neu ddwy nes oedd yn y pen arall i'r tŷ. A rhoes floedd drachefn, Oho! mi gwelaf o rwan'; yna fe droes yn ei ol i'r fan lle safai o'r blaen, a dechreuodd weddio fel y medrai. Erbyn hyn yr oedd wedi myned yn gynnwrf drwy'r tŷ, rhai yn wylo, rhai yn gweiddi, eraill yn gweddïo. Parhaodd y gwaeddi ysbaid maith, ac yr oedd yno amryw wedi eu dwysbigo. Bu'r oedfa hon yn rhyw oedfa o aredig anghyffredin o ddwfn ar yr ardal. [Y mae Mr. David Pritchard yn adrodd Robert Anwyl yn rhoi hanes ei argyhoeddiad, ar ol ŵyr iddo. Yn ol yr adroddiad hwnnw yr oedd yr oedfa yn y Clogwyn. Eithr fe sicrha Carneddog na bu pregethu yn y Clogwyn o gwbl, ac mai yn y Tylyrni y rhowd pregeth Arch Noah. "Mewn pregeth yn y Clogwyn y cefais i'r proc, nad anghofiaf fyth mohono. Lladdodd hwnnw fi, os darfu dim erioed fy lladd i. Byddwn yn mynd efo'r bobl ar draws ac ar hyd i'r moddion cyn hynny, ond yr oeddwn mor ddiddeall ac mor galed a'r anifail, hyd yr adeg honno yn y Clogwyn. Yr hen Richard Williams Brynengan oedd yno yn pregethu. Soniai am y mynediad i'r Arch, a'r drws yn cau ar Noah a'i deulu, ac wrth gau arnynt hwy yr oedd Duw yn cau pawb arall allan. "Ha, wrandawyr anghrediniol, dyma hi wedi dod i'r pen arnynt: y cynnyg olaf am byth wedi ei roddi iddynt, a hwythau wedi ei wrthod gyda gwawd. Ond yn awr, wele Dduw yn gwrthod,—a hwythau yn galw pan y mae wedi mynd yn rhy ddiweddar !" Wyddwn i ddim ble 'roeddwn i'n sefyll, gan ofn y cau allan. 'Roeddwn i bron methu cael fy ngwynt. Mi fum am rai dyddiau â dim gwawr o un man. Cyn pen hir, mi eis i'r Tylyrni i glywed rhyw ddyn hynod o Ddolyddelen (John Jones Talsarn wedi hynny), oedd yn dechre pregethu yr adeg honno. 'Roedd hwnnw fel angel, os gwn i be' ydi angel. Dyna oedd ganddo fo, y gobaith da drwy ras, ac ni chlywais i ddim mo'r fath beth gan neb, na chynt na chwedyn."] Ymhen rhyw dair neu bedair wythnos yr oeddynt yn dechre dylifo i'r seiat. A Gwyl Fair bwriais innau fy nghoelbren yn eu plith, ac yr oeddwn yn cyflawni'r nifer o 140 mewn chwe mis. Erbyn dechreu'r haf yr oedd ugeiniau yn rhagor wedi dod i'r eglwysi, a pharhaodd rhai i ddod am ddwy neu dair blynedd. Dywedir ddarfod oddeutu 240 ynghorff y blynyddoedd hyn ymuno â'r eglwys yn y pentref. Ni bu cymaint a hynny ar unwaith yn yr eglwys. Erbyn hyn yr oedd y dychweledigion, lawer o honynt, wedi ymadael o gymdogaeth Sinai, a gwersyllu'n nes i Galfaria. Yr oedd y gweiddi wedi troi yn orfoledd. Yr haf yma bu oddeutu 60 ohonom yng Nghymanfa'r Bala. Yr oedd llawer o edrych arnom, ac o ymwthio o'n cwmpas, a chroeso fwy na mwy i'w gael yn y Bala, ac wrth fyned a dychwelyd. Bu lliaws ohonom yn myned i'r Bala am flynyddoedd, a gwleddoedd heb eu hail a gawsom lawer pryd. Hawdd oedd ennyn y tân yr adeg yma. Un diwmod yr oedd dau yn dyfod mewn trol o Wynant, a thorrodd yn orfoledd arnynt. Buont yn canu ac yn neidio yn y drol am amryw filltiroedd, a'r ddau anifail yn cerdded mor bwyllog o'r blaen a buchod Bethsemes gynt. [Mab a merch oeddynt, wedi dod bedair milltir o ffordd. Wedi dechre ymddiddan, torasant ymhen ennyd mewn gorfoledd. Cyfarfu John Jones â hwy, a dywed eu bod yn parhau mewn gorfoledd hyd nes cyrraedd y pentref. Dywed Mr. Henry Hughes mai Richard Williams Erw suran wedi hynny, oedd y gwr ieuanc, ac y daeth yn flaenor enwog yn Horeb, Prenteg, ac yn dad i Mr. Richard Williams Bod y gadle, blaenor yn Rhyd y clafdy, Lleyn. Sonia Robert Ellis am ferch ieuanc brydweddol neilltuol, a gymerai'r diwygiad yn ysgafn, pan yn y fuches yn godro yn torri allan i waeddi dros y nant dan argyhoeddiad meddwl. Dywed y troes hynny yn wir ddychweliad iddi, ac y cofir am ei sirioldeb yn gweini ar yr achos goreu. Dywed Mr. Henry Hughes mai Alice Gruffydd, merch y Bwlch ydoedd, a gwraig Hafod llan ar ol hynny, a nain o du ei mam i briod Plenydd.] Buwyd yn canu ac yn neidio'n ddidor mewn claddedigaeth, a'r offeiriad fel wedi dyrysu yn y swn. O barth y canu yn yr awyr. Ar ryw noswaith daeth côr ardderchog i Wynant, yn gyfagos i Hafod y llan, lle'r oedd y diwygiad wedi dechre. Dechreuasant tua 10 ddechreunos a pharhausant hyd ddau y bore. Adroddodd y gwr fu yn eu gwrando wrthyf, pan y clywodd hwynt yn dechre iddo roi ei bwys ar y clawdd, a phan orffenasant iddo gychwyn adref, gan dybied iddo wrando arnynt tua chwarter awr; ond erbyn myned adref yr oedd yn dri ar y bore. Tybiai iddo golli arno'i hun gan bereidd-dra a nefoleidd-dra'r sain. Yr ydoedd yn wr nas gellir ameu ei eirwiredd. Fel yr oedd y diwygiad yn symud, yr oedd y canu yn gyffelyb: clywid ef oddeutu'r pentref, ac fel y crybwyllais yn Nantmor. [Dywed John Jones fod amryw dystion syml a geirwir i'r canu hwn, a'u clywsant amryw weithiau, a rhai ohonynt am oriau ynghyd]. Gallaswn adrodd llawer o barth y gweddïo. Yr oedd yn ddibaid, a phob amser ac ym mhob man, ac yn daer. Ei gysegroedd oedd beudai, corlannau, llwyni coed, ochr ffordd, ochr deisiau mawn, ceunentydd, glan afon, bol clawdd. Nid oes braidd lanerch nad oes colofn eneiniedig yn sefyll arni. Rhoes yr ymwelydd rhyfedd yma ysigfa i anuwioldeb y fath na chododd ef byth ei ben i'r fath raddau. Aeth yr arferion y soniwyd am danynt i lawr, fel nad oes gan y rhan fwyaf bellach gymaint a chof am danynt. Y mae i'w adrodd hefyd yr elai pobl yr ardaloedd i gynnal cyfarfodydd gweddi mewn gwahanol leoedd, pobl Gwynant i flaenau Llanberis, y pentref i'r Pennant, a Nantmor i Lanfrothen, a bu hynny yn foddion i gychwyn achos yn y lleoedd hynny. [Gwnel John Jones y sylwadau yma: "Fe barhaodd yr adfywiad o dair i bedair blynedd yn neilltuol o rymus a siriol. Yn raddol fe laesodd yr awelon. Parodd hynny i lawer ymofyn yn fwy diwyd am gyfaill a lŷn yn well na brawd. Dychwelodd rhai fel Orpah at eu duwiau eu hunain, ond nid llawer hyd yma. Bu farw rai genethod ieuainc heb ymadael â'r cariad cyntaf. Amryw o'r hen gyfeillion a ymadawodd â'r byd â'r haul yn llewyrchu yn eglur arnynt, yr hyn oedd yn llawer o rym a chalondid i'r cyfeillion ieuainc a hen a adawsant ar eu hol. Ond nid wyf yn gallu dangos ond ychydig mewn cymhariaeth o'r peth fel yr ymddanghosodd yn ei rymusterau y pryd hwnnw. Mae'n dda gennyf allu dweyd fod golwg siriol ar y gwaith hyd yma, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn ei ddwyn ymlaen, ac yn parhau i roddi llewyrch ei wyneb."]

"Gwelwyd angen am leoedd mwy cyfleus i addoli. [Edrycher hanes Bethania, Rhyd-ddu a Pheniel]. Erbyn i'r heidiau hyn godi o'r hen gwch yr oedd eglwys y pentref wedi ei hysbeilio yn dost, wedi dod i lawr yn agos gant o nifer. [Helaethwyd ac adgyweiriwyd capel y pentref yn 1826. Buwyd 27 mlynedd yn talu'r ddyled. Casglwyd £50 yn 1853 i'w llwyr ddileu. Bu'r adgyweiriad diweddaf arno yn 1858, a'r draul ar y capel a'r tri thŷ dros £1100. Cafwyd prydles y pryd hwn ar y capel, a chwaneg o dir er helaethu'r capel, a chafwyd y tŷ yn eiddo'r capel, y cwbl am ardreth o £1 i'r tirfeddiannydd. (Cofnodion y Cyfarfod Misol am Mai 10, 1858). Y ddyled yn 1859, £800. Erbyn 1860, £850. Yr oedd lle i 400 ynddo, a gosodid 330. Cliriwyd y ddyled erbyn 1881. Yn niwedd mis Hydref y cafwyd Jiwbili gollyngdod, pryd y pregethwyd ynglyn â'r amgylchiad gan y Parchn. W. Elias Williams Penygroes, Hugh Jones Nerpwl a Joseph Thomas Carno. Yr oeddid wedi cael prydles arno yn 1857 gan Syr R. Bulkeley am 99 mlynedd, ar ardreth o £1 yn y flwyddyn, ar yr amod 'ei fod i'w ddefnyddio fel lle addoliad a dim arall.' Awst 5, 1893, mewn arwerthiant ar y stât, prynnwyd ef am £40. Yn 1898 adeiladwyd tŷ gweinidog am £600. Yn niwedd 1900 yr oedd yr adeiladau yn rhydd oddiwrth ddyled].

"Ymadawodd y blaenoriaid, William Williams a Rhys Williams, i Fethania yn 1825 [1822], ar sefydliad yr eglwys yno. Ond yr oedd yn dymor hapus ar yr achos, yn gymaint a bod John Jones wedi ennill y safle o fod yn drefnydd cyhoeddiadau y pregethwyr teithiol. Cawsom hufen doniau de a gogledd am oddeutu 30 mlynedd. Bu Beddgelert cyn y diwygiad am 10 mlynedd heb un gwr dieithr o'r de yma yn pregethu. Hefyd, yr oedd bod gyn lleied o waith disgyblu a thorri allan yn peri dedwyddwch i'r eglwys. Oddeutu 1833-4 yr oedd dieithriaid yn dechre casglu yma i'r gweithydd, a meddwdod yn codi ei ben. Ond daeth dirwest allan yn 1836, a rhoes iddo ergyd farwol braidd, am y pryd.

Ymhen tua chwe blynedd ar ol y diwygiad dirwestol cafwyd diwygiad arall. Chwanegwyd tua 50 at yr eglwys ar y pryd. Trodd y dychweledigion allan yn dda yn ddieithriad, am a wn. Rhoes y diwygiad yma gyfnerthiad mawr i'r eglwys yn y pentref. Daeth y nifer yn ol i 160.

"Tua phum neu chwe blynedd yn ol cawsom y trydydd diwygiad. [Y rhan yma yn cael ei sgrifennu tua 1864-5. Eir heibio i ddiwygiad 1832. Tebyg na theimlwyd dim amlwg iawn yma y pryd hwnnw. Dichon fod adnoddau teimlad a nwyd wedi eu dihysbyddu yn rhy lwyr yn y diwygiad blaenorol i ganiatau hynny.] Chwanegodd hwn nifer yr eglwys i 200 neu ragor yn y pentref. [Rhif yr eglwys yn 1853, 100; yn 1856, 130; yn 1858, 140; yn 1860, 190; yn 1862, 200; yn 1866, 200]. Nid oedd yr yn o'r diwygiadau yr un fath. Yr oedd y gweithrediadau yn wahanol, a'r effeithiau yn wahanol i gryn raddau. [Nos Fawrth, Hydref 11, 1859, y daeth Dafydd Morgan i Feddgelert. Yr oedd yn yr ardal amaethwr anuwiol, a arferai lygadrythu yn hyf ar y pregethwyr yn y pulpud, ac a ymffrostiai yn y dafarn nad oedd yr un ohonynt wedi gallu dal ei drem. Pan sicrhawyd ef y cyfarfyddai â'i feistr yn y diwygiwr, chwarddai yn ddiystyrllyd. Fel arfer, yr oedd llygaid Dafydd Morgan yn cyniweirio drwy'r dorf, ac yn y man sefydlodd ei lygad ar eiddo'r gwatworwr. Craffai lliaws ar yr ornest. Yr oedd llygad y naill yn dynn yn llygad y llall. Disgynnodd lygad yr amaethwr, ond am eiliad yn unig, a chododd ef drachefn. Ond methu ganddo ymwroli eilwaith. Crynnodd ymhob gewyn, troes yn welw, dodes ei dalcen ar astell y sêt, ac felly yr eisteddodd hyd ddiwedd yr oedfa. Y testyn, "Ymddatod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion." Arhosodd amryw i barhau. Yr oedd Dafydd Morgan yma eto nos Sadwrn, Tachwedd 12, wedi bod ym Methania y prynhawn. Arhosodd amryw eto, un bachgen yn ei ddiod y profwyd yn ddilynol iddo gael gwir argyhoeddiad. (Cofiant Dafydd Morgan t. 459—64). Dywed Mr. Pyrs Roberts y bu llawer o ddychweledigion '59 farw â'u coronau ar eu pennau.]

"Yr wyf o'r blaen wedi sylwi ar Henry Tomos a William Sion. Am William Williams Hafod rhisgl [y Ffridd cyn hynny], dyn canolig o daldra ydoedd, cadarn, a chryfach na'r cyffredin. Fel crefyddwr yr ydoedd yn drwyadl. O ran ei ddoniau a'i gyrhaeddiadau nid ydoedd ond bychan. Y goron fawr oedd arno ydoedd ffyddlondeb a charedigrwydd. Byddai'n barod bob amser i wneud a allai, a gallodd lawer, yn enwedig gyda rhannau allanol y gwaith; a byddai'n barod bob amser i roi bob help gyda'r ysbrydol. Fel y dywedodd un—

I'r rhai clwyfus archolledig
Dangosai Feddyg yn y fan.

Yn gymaint ag iddo ymuno â chrefydd yn 26 oed, ac iddo broffesu am 41 mlynedd, cafodd gyfleustra i wneud llawer o ddaioni pan oedd yr achos yn ei ddechreuad bychan. Rhys Williams oedd ddyn cadarn o gorffolaeth, ychydig dalach na William Williams. Yr oedd yn nodedig fel llywodraethwr yn mhob cylch, yn y vestry, yn y teulu, yn yr eglwys. Pan yn diarddel, wedi i'r eglwys adrodd ei barn, Rhys Williams bob amser a fyddai raid selio'r dynged, ac un gair o'i enau fyddai'n ddigon. Yr oedd Rhys Williams yn gryn ddarllenwr, a thrwy hynny yn lled egwyddorol a chadarn yn yr athrawiaeth; ond yr oedd yn ddarostyngedig i ryw ddistawrwydd yn gyffredin. Yn y cyfarfodydd neilltuol anhawdd fyddai cael ganddo godi i ddweyd gair; ond pan godai byddem bob amser â'n pigau yn agored, oherwydd gwyddem y caem rywbeth gwerth ei ddal a'i gadw. Gofynais iddo unwaith pam yr oedd mor ddistaw? a dywedai yntau ddarfod iddo yn rhywfodd syrthio i'r dull hwnnw, ac i'r Ysbryd Glan, yn ol ei farn ef, gymeryd y pethau oddiarno yn gerydd arno, nes ei fod heb ddim i'w ddweyd. Ond er ei ddistawrwydd bu o wasanaeth mawr i'r achos yn ei holl rannau. Bu'n proffesu, ac yn swyddog, cyhyd, os nad hwy, na William Williams. Cyd-deithiodd y ddau lawer, ymhell ac agos, i gyfarfodydd misol, ar eu traul eu hunain am yr holl flynyddoedd a nodais. Bu Rhys Williams farw yn ystod rhyw lygeidyn siriol o ddiwygiad a dorrodd allan yng Ngwynant. Pan adroddodd ei fab iddo fod y diwygiad wedi torri allan, ebe fe,—' Yr awron, Arglwydd, y gollyngi dy was, ddeuda i, Wil.' A'i ollwng a gadd. [Edrycher Bethania.]

"Yr oedd yn Robert Roberts o'r Clogwyn, Nantmor, ragoriaethau na bu yn neb o'r blaenoriaid o'i flaen nac ar ei ol. Dygwyd ef i fyny yn fachgennyn, ar ol marw ei rieni, gyda chwaer iddo yn Llanberis. Dilynodd yr alwedigaeth o fwngloddiwr. Dyma'r pryd y tueddwyd ef at grefydd. Wrth fod Mr. Morgans, ei frawd ynghyfraith, yn berson, cafodd gyfle da yn ei lyfrgell ef i gasglu gwybodaeth. Ymbriododd â Jane Prichard, merch Richard Edmwnd, un o'r benywod duwiolaf a adnabum. Aeth i fyw i'r Clogwyn. Pan symudodd ef yma yr oedd ieuenctid yr ardal yn dra rhyfygus. Ond rhoddes yr Arglwydd ryw eneiniad anghyffredin ar Robert Roberts, nes yr aeth yn ofn i weithredwyr drwg. Efe a gychwynodd yr ysgol Sabothol yn yr ardal; a rhyfyg o'r mwyaf fuasai i neb arall anturio dwyn trefn ar y fath giwed. Ond yr oedd ei bresenoldeb ef yn ddigon. Pan glywai am rai wedi bod yn cynnal chwareuaeth ar y Saboth, elai atynt yn y fan, ac ni byddai raid iddo ond ymddangos na byddai pawb ar ffo. Ryw Saboth yr oedd lliaws o'r llanciau wedi ymgasglu i lanerch go ddirgelaidd i arfer eu campau. Gwybu yntau am danynt, a thuag atynt yr aeth yn y fan. Yr oedd yn eu hymyl cyn iddynt ei ganfod, ond y foment y canfuwyd ef, dyna bawb yn cymeryd y sodlau, fel pe buasai lew o'r goedwig ar eu hol. Aeth rhai i feudy cyfagos, ac ymguddiasant dan y gwellt. Aeth yntau drwy'r beudy, gan bwnio â'i ffon a mwmial wrtho'i hun, 'Pa le y mae'r creaduriaid anuwiol sy'n torri gorchymyn Duw fel hyn.' Cyffyrddodd â rhai ohonynt heb gymeryd arno. Yr oedd y garfan arall wedi ffoi i goedwig gerllaw, a llechasant yno nes oedd efe'n ddigon pell. Nid wyf yn gwybod i rai mewn dim oed ymgasglu at ei gilydd ar ol y Saboth hwnnw. Dichon i blantos wneud hynny yn o ddirgelaidd. Ar Saboth arall yr oedd lliaws yn chware pêl ar bared y llan. Aeth gwr y gwesty o'r herwydd at un o'r blaenoriaid. Gwrthod gwrando ar hwnnw. Anfonodd gwr y gwesty gennad arall, yr hyn a barai iddynt hwythau chwerwi mwy. Ffrommodd gwr y gwesty, a dywedai wrthynt y byddai Robert y Clogwyn yn dod at yr oedfa un, ac y danfonai ef atynt. Pan gyfeiriodd Robert tuag atynt, yr oeddynt yn ffoi ymaith, rhai i bob cyfeiriad, cyn dynesu ohono atynt, fel na chafodd gymaint a'u cyfarch. Yr oedd neithior yn cael ei gynnal yn y gwesty un Saboth. Ond ebe un o'r cwmni, 'Lads, mi fydd yn dywydd arnom toc. Mi fydd Robert y Clogwyn yn dod heibio i'r bregeth, ac os gwel ni bydd yma yn y fan.' Tarawodd hyn y cwmni bron â llesmair. Dodwyd dau wyliedydd, un ym mhob ffenestr. Ymhen ennyd dyma Robert heibio. Syrthiodd pawb ar ei ddeulin a thalcen, ac nid oedd cymaint a rhwnc anadl i'w glywed. Ond wedi ei fyned heibio draw, ymuniawnodd pawb. Ofnid wedyn rhag dywedyd o rywun wrtho. Penderfynwyd nad oedd diogelwch gwell na myned i'r oedfa. Felly aethant oddieithr dau. Ni bu fawr drefn ar y neithior er i rai ddychwelyd yn ol i'r gwesty. Bu dylanwad Robert Roberts yn foddion i dynnu i lawr arferion oedd yn dal eu tir hyd hynny. Yr oedd nodwedd arall ynddo, sef rhywbeth a barai i bawb ei hoffi. Ni feiddiai y llanciau gwylltaf ddweyd gair gwael am dano. Yr oedd yn gristion ym mhob man ac ym mhob cylch. Casglodd lawer o wybodaeth drwy ddyfal ddarllen. Heblaw diwinyddiaeth, yr oedd ganddo ryw gymaint o wybodaeth mewn seryddiaeth a daearyddiaeth a physigwriaeth. Dyn lled fyr a gwargrwm ydoedd, a lled wael ei iechyd ers blynyddau. Arferai ddweyd mai ar golofnau yr oedd ei babell yn sefyll. Cwympodd yn 45 oed. [Ganwyd yn 1760, yn ol yr ysgrif o Beniel; a bu farw yn 1814, yn ol yr ysgrif oddiyma. Os yw'r naill a'r llall yn gywir, buasai'n 54 oed. Gallesid tybio fod 1814 yn debycach i gywir fel blwyddyn ei farwolaeth na naw mlynedd yn gynt. Yma y mae Carneddog yn dyfynnu o'r cofnodlyfr plwyfol: Robert Roberts Clogwyn, buried Decr. 22nd., 1814. Dywed hefyd mai 54 oedd ei oedran.] Gallesid meddwl ei fod wedi myned i orffwys ar ganol ei yrfa; eto yr oedd wedi gorffen ei brif waith, sef torri adwyau yn yr anialwch a gwneud ffordd i gerbyd Brenin Seion. Er marw, yr oedd ol ei draed ym mhob man lle cerddodd. Yr wyf yn cofio i bac o lanciau, ar ol ei farw, benderfynu ryw Saboth ail ddechre y chware. Awd yno, ond rywfodd ni ddeuai pethau fel y disgwyl. Yr oedd drain yn eu cydwybodau. O'r diwedd safasant, gan gyfaddef i'w gilydd fod rhyw achos nad elai y chware ymlaen. Penderfynwyd ei roi i fyny am byth, ac felly fu: ni chynygiwyd gyflawni y cyfryw beth yn yr ardal o hynny hyd heddyw. (Edrycher Peniel).

"Ni sylwaf yn rhagor ar y swyddogion, ond dywedaf ychydig am bedwar brawd, sef meibion Gruffydd Morris ac Elinor Edmwnd o'r Carneddi, Nantmor. [Bu Hywel Griffith yn aelod yn eglwys y pentref dros doreth ei oes, neu aelodau oedd y tri, Robert, Richard a Hywel ym Mheniel ar y cyntaf. Dodir y sylwadau arnynt yma, er mwyn i'r ysgrif fod yn gyfan gyda'i gilydd, oddigerth y rhannau ohoni yn yr Arweiniad.] Yr oedd y brodyr hyn yn hynod debyg i'w gilydd, yn un peth yn eu maintioli, bob un yn bum troedfedd a deng modfedd a hanner. Yr oeddynt, hefyd, yn eu gwynepryd yn hynod debyg, sef gwynepryd lled dywyll, fel yr adnabyddid y naill yn hawdd oddiwrth y llall. Hefyd yr oeddynt yn debyg i'w gilydd yn eu harferion: ni bu un ohonynt un amser yn cnoi nac yn llosgi ffwgws. Hefyd ni wyddis i'r un ohonynt drwy gydol ei oes fod yn feddw, er byw mewn oes yr oedd llawer o feddwi ynddi. Yn eu moesau, hefyd, yr oeddynt yn debyg: ni wyddis i lw na rheg syrthio dros eu genau ysbaid eu bywyd. Yr oeddynt yn tebygu mewn tymer, sef yn bwyllog ac araf; ond os cyffroid hwy yr oedd y pedwar yn lled wyllt, ond nid yn eithafol a ffôl felly, yr un ohonynt. Yr oeddynt yn tynnu at y naill y llall yn hyd eu hoes. A'r un modd am eu crefydd, ac yma sylwaf ar bob un ohonynt yn bersonol. Morris Gruffydd oedd yr hynaf. Yr oedd tuedd ynddo yn blentyn i ymwasgu at grefyddwyr. Bu am ychydig yn ddisgybl i Henry Tomos, ond wedi troi allan i wasanaethu'r byd fe gollodd ei gychwyniad. Ymhen ennyd rhoes heibio wasanaeth, a throes i gadw ysgol. Meddai ar dalent neilltuol i dderbyn dysg a rhoi dysg. Y lleoedd yr ymsefydlodd gyda'r ysgol oedd Llanrug a Llanllechid. Y pryd y dechreuodd gyda'r ysgol, ymunodd â'r eglwys sefydledig, a glynodd wrthi hyd y diwedd, ond gwrandawai ar y Methodistiaid bob cyfle a gaffai. Bum yn ymddiddan âg e yn ei salwch olaf. Yr oedd yn hawdd deall iddo gael profiad helaeth o grefydd. Bu farw yn 82 mlwydd oed. Y nesaf ydyw Robert Gruffydd. Ymunodd yntau â chrefydd yn llanc ieuanc, ond daeth cwmwl drosto am ysbaid lled faith; ond yn y diwygiad mawr cafodd ymweliad drachefn, ac yr oedd braidd yn fwy hynod na neb yn yr ardal, a pharhaodd ei effeithiau i raddau tra bu, ysbaid deng mlynedd ar hugain. Bob amser ar ei liniau, ymdorrai ei ysbryd fel bomb-shell, a lluchiai dân i bob cyfeiriad. Ond daeth ei dymor yntau i fyny: bu farw ymhen y tair blynedd ar ol ei frawd, ac yn yr un oedran, sef 82. Yr oedd ei ddau frawd iau nag ef, sef Richard a Hywel gydag ef y noswaith y bu farw, ac wedi'r amgylchiad, ebe Hywel wrth Richard, 'Wel, Dic, rhaid i tithau ymorol am gael dy bac yn barod. Ti sydd i fynd nesaf: dyma Morris a Robin wedi mynd! Ac megys y dywedodd, felly y bu. Y nesaf, gan hynny, ydyw Richard, y trydydd brawd [sef tad Gruffydd Prisiart ei hun]. Ymunodd yntau â chrefydd pan yn llanc: ymwelodd yr Arglwydd âg e drwy glefyd trwm. Ac yn nyfnder ei salwch ryw ddiwrnod dechreuodd weddïo, a pharhaodd i weddïo tra bu'n sâl. Addawai pan wellhae yr ae yntau i Dy'n y coed i'r seiat. Ac felly fu: yr hyn a addunedodd yn ei gystudd, fe'i talodd. O hynny allan, ymroes i fywyd a llafur crefydd. Yr oedd yn dra hyddysg yn y Beibl, yn enwedig yr Hen Destament. Yr oedd fel oracl gan ei gyd-ardalwyr. Popeth mawr a phwysig, ato ef y deuid i'w benderfynu. Yr oedd yn gofiadur nodedig: adroddai bregeth yn lled gyflawn. Ond yn ei wythnosau a'i ddyddiau olaf yr oedd ei gof ryfeddaf. Dywedodd wrthyf ar un o'i ddyddiau olaf, fod pob pennill ac adnod y bu ei lygaid arnynt yn ystod ei fywyd yn dylifo i'w feddwl, ac nas gwyddai o ba le y deuent, a hynny nos a dydd, ac nas gallai adrodd y cysur a ddeilliai i'w feddwl oddiwrthynt. Pan wedi ei gaethiwo gartref gan henaint, cymhellodd y cyfeillion eu hunain arno i gynnal cyfarfod gweddi gydag ef. Atebodd yntau nad oedd waeth iddynt heb boeni, fod ganddo ef ddigon, y cymerai ef ei siawns ar yr hyn oedd ganddo. Ac yn ol pob tebyg, yr oedd ganddo ddigon. Bu farw, Ionawr 1855, yn 86 oed, wedi proffesu yn ddifwlch dros 60 mlynedd. Ei eiriau olaf a ddeallais oedd: 'Mae'r Tad yn cadw; mae'r Mab yn cadw; mae'r Ysbryd Glan yn cadw; mae pawb yn cadw.' Yr olaf o'r brodyr yw Hywel. Ymunodd yntau â chrefydd yn fachgennyn lled ieuanc. Bu am ychydig yn ddisgybl i Henry Tomos, a dichon mai y pryd hwnnw y dechreuodd yr argraffiadau crefyddol ar ei feddwl. Ond beth bynnag am y pryd, ymaflodd mewn crefydd o ddifrif, a llafuriodd yn ol ei fanteision yn weddol dda. O ran ei ddawn, yr oedd ar ei ben ei hun, yn enwedig ei ddawn gweddi. Byddai ei weddiau fel pe buasent wedi eu hastudio. Yn gyffredin, pa beth bynnag yr ymaflai ynddo ar ddechreu'r weddi, hynny a ddilynai braidd nes gorffen. Os cyfiawnhad, neu sancteiddhad, neu berson yr Arglwydd Iesu, neu ynte yr angylion, neu pa bwnc bynnag a fyddai, dyna fyddai ganddo rhagllaw gydag ychydig eithriad am y tro. Yr oedd ei ddawn a'i ddull yn hynod briodol iddo ef, ond ni wasanaethai ineb arall. Yn gymaint a bod ei ddull y fath, ac oblegid yr eneiniad a fyddai yn gyffredin ar ei ysbryd, yr oedd pawb yn hoff o'i wrando. Gweddiai ar adegau neilltuol yn hynod ddorus, megys ar wylnosau, dyddiau diolchgarwch, dyddiau ympryd, neu amgylchiad arbennig arall. Er enghraifft, y dydd ympryd a gyhoeddodd y llywodraeth yn achos y rhyfel yn y Crimea. Nodwyd ef i ddiweddu un o'r cyfarfodydd, a dechreuodd yn ei ddull arferol, fel yma: 'Arglwydd mawr! dyma ni wedi ein galw at waith rhyfedd heddyw. Dyma ni wedi ein galw, nid yn unig i weddïo, ond i ymprydio hefyd. Ac yr ydym yn disgwyl y bydd llawer iawn o ffrwyth ar heddyw—y bydd llawer iawn o bethau yn cael eu gwneud. Yr ydym yn disgwyl y bydd llawer iawn o bladuriau a sychod yn cael eu gwneud heddyw; ac y bydd heddyw yn ddydd i roi terfyn ar y rhyfel gwaedlyd; ac y bydd yr arfau a ddefnyddir i ladd dynion yn cael eu troi i drin y ddaear, y cleddyf a'r canans mawr yna y byddant yn cael eu rhoi heibio am byth, os nad oes eu heisieu at y byd yma. Feallai fod y byd yma yn y fath sefyllfa ag y rhaid iti gymeryd y cleddyf ato, ac na wna un moddion arall mo'r tro. Os felly, cymer y cleddyf ato fo ynte! Er iddo ladd miloedd, lladded filoedd eto. Gwell i filoedd eto gael eu lladd ganddo, os hynny raid, ac os na wna moddion eraill y tro i ddiwygio'r byd. Y mae'r byd yma yn awr yn y fath gyflwr, fel na chaiff yr Efengyl mo'i ffordd—y mae tywysog llywodraeth yr awyr, llywodraethwr mawr y byd yma, ar ffordd yr Efengyl. Yr wyt wedi rhoi'r byd yma i'th Fab; ac y mae'n rhaid i'r Efengyl fyned dros y byd yma i gyd. Gan hynny, yn hytrach na bod rhwystr ar ffordd yr Efengyl, cymer y cleddyf at y byd: gwell iddo ladd miloedd eto, na bod yr holl genhedloedd yn myned i dragwyddoldeb yn amharod, yn filoedd ar filoedd, oesoedd ar ol oesoedd, yn ddidor.' Dyna fel y dechreuodd. Dyna'r fath oedd Hywel fel gweddiwr. Yn ei ddull ymddiddanol yr oedd yn lled gyffelyb. Byddai'n gosod pob peth bron allan drwy ryw ddrychfeddyliau dychmygol a phell, fel yr arswydid weithiau rhag iddo syrthio i gyfeiliornad, yn enwedig pan fyddai'n holi'r ysgol. Byddai'n hynod bob amser ar Berson yr Arglwydd Iesu. Yr oedd wedi darllen gwaith y Dr. Owen chwe gwaith drosodd [ar Berson Crist, y mae'n debyg]. Yr oedd wedi berwi cymaint o ran ei ysbryd yn ei waith ef, fel y byddai ymddiddan am y Gwrthrych Mawr yn hyfrydwch o'r mwyaf ganddo, a chan eraill wrth wrando arno. Gofynnodd gweinidog iddo unwaith yn nhŷ'r capel, beth oedd ei oedran. Yntau a atebodd mai 83. Yna dechreuodd ddisgrifio'r sefyllfa henafol: 'Yr wyf wedi mynd ymhell dros y terfyn. Yr wyf yn gweld fy hun mewn rhyw gwm pell ac anial ac anifyr. Ychydig o bobl sy'n preswylio yma. Nid oes yr un dyn na dynes ieuanc o'i fewn, nac ychwaith yn agos i'w gyffiniau. A'r ychydig sydd yma, yr ydym, rai ohonom, yn hanner deillion, eraill yn gwbl ddeillion, eraill yn gloffion, eraill heb fedru symud o'u lle, eraill yn hanner byddar, eraill yn gwbl fyddar, eraill yn sâl, eraill yn marw. Mewn gair, nid oes ond y methiantwch yngafael pawb. Ac o'r herwydd, nis gall y naill fod i'r llall o nemor gysur. Nid oes o'r braidd drwy'r holl fro ond gruddfanau i'w clywed o'r naill ben i'r flwyddyn i'r llall. Nid yw'n bosibl disgrifio'r henaint cyn mynd iddo, nac, yn wir, wedi mynd iddo. Wrth sylwi ar y peth ydwyf, yr wyf braidd yn anghredu imi fod y peth a fum, gan gymaint y cyfnewidiad!' Oherwydd ei ymddyddanion a'i dymer siriol, yr oedd pawb yn dra hoff o'i gymdeithas, y digrefydd fel y crefyddwr, ac, er y byddai ei ymadroddion yn lled ysmala weithiau, eto medrai gadw ar dir digon uchel fel na chollai ddim o'i gymeriad crefyddol un amser. Yr oedd cymhares ei fywyd fel yntau'n hen, ac at ei diwedd yn orweddiog. O'r herwydd byddai ef yn myned o'r neilltu i gysgu, yn ei misoedd olaf hi, er mwyn i'w merch gael lle i wasanaethu arni. Ryw fore, pan ddaeth efe i'w hystafell, dywedodd,-'Dyma lle rwyti heddyw eto, Nani! Yn enw dyn byw, mae rhyw aros, beth ofnadwy, ynoti, neu mi aet oddiyma i rywle bellach! Fore arall dywedai, Wyddosti beth oeddwn i'n wneud cyn dod i lawr yma, Nani ?' 'Na wn i.' 'Darllen Salm dy gladdedigaeth di.' Nid oedd dywediadau o'r fath yn cael un argraff ddrwg ar Nani. Byddai'r ddau yn ymddiddan ynghylch marw mor ddigyffro ag y sonient am fyned i'r capel. O ddiffyg cwsg, yn ei amser diweddaf, byddai drwy gydol y nos yn adrodd penillion neu rannau o'r Beibl neu'n gweddio. Pan gaethiwyd ef i'w wely, ymwelodd brawd âg ef oedd yn flaenor ar y pryd. Dywedodd wrtho,—Wel, yr wyti yn flaenor, ac wedi derbyn llawer o gymhwyster i'r swydd—dawn da, llawer o wybodaeth,' a phethau eraill a enwyd. 'Wel, dyro nhw ar dân yn y capel yna. Llosga nhw yna; y mae nhw wedi mynd dydy nhw'n teimlo dim. Llosga nhw! neu mi ân i dân tragwyddol o ganol y seiat.' Un diwrnod aeth yn ymddiddan rhyngddo a chyfaill ynghylch y nefoedd—beth oedd ei natur, pa le'r oedd, a'r cyffelyb. Tynnodd yntau ei law o dan y dillad, a gosododd hi ar ei ddwyfron, a dywedodd, gan daro ei ddwyfron ddwywaith neu dair, "Dyma lle mai hi! Dyma lle mae hi! Wyddosti beth! pe bae i ryw gythraul fy llusgo i uffern, mi waeddwn, Bendigedig! nes byddai'r cythreuliaid yn chwalu fel gwybed o nghwmpas i!' Bu farw yn niwedd yr un flwyddyn a'i briod yn 85 oed, ac wedi proffesu yn ddifwlch am 70 mlynedd." [Dyma fel y canodd Dewi Arfon i'r ddau:

Gwel Ann a Hywel yma—yn y gro,
Blaenffrwyth gras Duw yma;
Er cof am fardd coeth, doeth, da,
Ei feddfaen fo y Wyddfa.]

Hyd yma y cyrraedd sylwadau Gruffydd Prisiart. Crybwyllwyd mai John Jones Glan Gwynant a ddewiswyd yn flaenor yn lle Robert Roberts, ac felly yn 1814 neu'n lled fuan wedi hynny. Ganwyd ef yn 1777; bu farw Chwefror 10, 1853, yn 76 mlwydd oed. Yn weydd wrth gelfyddyd, fe symudodd yn 15 oed o Drawsfynydd i Gelli yr ynn, yn y plwyf hwn. Gwaith ei wraig gyntaf, Catrin Williams, yn ymuno â'r eglwys yma, a brofwyd yn foddion ei ddychweliad yntau, er mai cyffroi ei elyniaeth a ddarfu'r amgylchiad hwnnw ar y cyntaf. Bu'n ysgrifennydd y Cyfarfod Misol am rai blynyddoedd, a phenodwyd ef yn drefnydd cyhoeddiadau y pregethwyr teithiol. Fel y gwelwyd, sonia Gruffydd Prisiart am y pentref yn mwynhau doniau de a gogledd am 30 mlynedd oblegid y trefniant yma. Bernir iddo fod yn y deheudir tua 30 gwaith ynglyn â'r achos yma. Nid hawdd y diangai pregethwr poblogaidd rhagddo. Diau iddo fod yn foddion drwy'r gwasanaeth yma i godi llawer ar Fethodistiaeth yn y wlad. Tebygir fod ganddo ddawn arbennig i'w swydd. Er hynny, fe ddanghosai fymryn o bartïaeth i'w anwyl Feddgelert. Byddai pregethwr go neilltuol yn cael pregethu yma ar ei daith wrth fyned a dod. Digwyddodd hynny gyda William Morris Cilgerran, a hynny pryd yr oedd lleoedd pwysig yn gorfod myned hebddo o gwbl. Dywed Mr. Pierce Roberts fod yr argraff ar rai yma mai dyna pam y collodd yr ysgrifenyddiaeth, ond chwanega y dichon nad oedd hynny yn gywir. Tra theyrngarol i'r Cyfundeb ydoedd ymhob peth. Pan anogid codi ysgolion dyddiol, ymroes i gael ysgoldy, gan ddisgwyl rhodd oddiwrth y llywodraeth tuag at yr amcan. Bu peth anibendod gyda hynny. Yn y cyfamser, dyma Lord John Russell ar arhosiad yn y Royal Goat Hotel ym Meddgelert. Rhowd yr achos o'i flaen mewn llythyr gan yr athro. Yn ateb i'w alwad ef, aeth John Jones a'r athro ato i'r gwesty. Rhoes £5 iddynt yn rhodd at yr ysgol, ac aeth yno gyda hwy i holi'r plant. Wrth droi ohono ymaith, ymaflodd John Jones yn ei ysgwydd, ac a gyflwynodd iddo bâr o hosannau cochddu'r ddafad, gan ei sicrhau y cawsai hwy'n gynes iawn i'w draed. Dywedodd wrtho, hefyd, ei fod o'r un egwyddorion gwleidyddol ag yntau. Ymhen ysbaid fe ddaeth rhodd o £150 tuag at yr adeilad, ac achubwyd eu pen rhag profedigaeth. Bu'n overseer tlodion y plwyf am flynyddoedd. Dywed John Jones Tremadoc yn y Drysorfa fod ganddo reswm naturiol cryf, a phe buasai wedi cael addysg y buasai'n un anghyffredin. Dywed Mr. Pyrs Roberts mai efe oedd y trefniedydd ymhlith y blaenoriaid, a'i fod yn hyddysg iawn ym manylion y trefniadau a'r rheolau. Cofnodydd gwych ydoedd. Y mae ei lyfr cofrestr Bedyddiadau, perthynol i sir Gaernarvon, yn ddestluswaith. Cynwys tua saith mil o enwau, gan ddechre tuag 1808, a gorffen yn 1838. Ceidwadol ei ysbryd ydoedd, fel yr hen flaenoriaid yn gyffredin, ebe Mr. Pyrs Roberts. Rhydd enghraifft o'r cyfnod pan nad oedd oedfa brynhawn yn y pentref, ondly disgwylid i'r bobl fyned i'r bregeth, naill ai ym Mheniel neu Fethania. Codwyd awydd am wasanaeth yn y pentref, oblegid pellter y ffordd; ond gwrthwynebai yntau hynny hyd nes y trechwyd ef. Am ysbaid, wrth gyhoeddi'r moddion, chwanegai yn swta ar y diwedd y byddai cyfarfod gweddi yn y prynhawn i rai analluog i fyned i'r bregeth. Deuai pawb yn y man i'r cyfarfod gweddi. Ni ragorai mewn tynnu eraill i weithio ; ac yr oedd yn naturiol iddo wneud y gwaith ei hun, heb ystyried bob amser a allai fod rhywun arall a'i cyflawnai hwyrach cystal. John Jones oedd arolygwr yr ysgol, ac efe a drefnai ddechre a diwedd yr ysgol. Rhwng dechre a diwedd elai'n fynych i ymweled â'r hen saint oedd yn analluog i ddilyn y moddion. Crybwyllodd Gruffydd Prisiart am ei wasanaeth neilltuol efo'r canu. Dyma fel y rhydd John Jones Tremadoc hanes y terfyn: "Llesghau yn fawr yr oedd efe y blynyddoedd diweddaf o ran ei gorff, fel nad allai fyned allan ond i'r capel, yn yr hyn y parhaodd hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth. Efe a obeithiodd pan yn marw. Yn ei glefyd diweddaf, galwodd am ei fab, Robert, i ddarllen iddo'r rhan flaenaf o'r bumed bennod at y Rhufeiniaid, hyd y chweched adnod, ac a ddywedodd, 'Dyna sail fy ngobaith.' Claddwyd ef yn barchus ym mynwent Beddgelert gan dyrfa fawr o'i gyfeillion, ei frodyr a'i berthynasau, a phlant yr ysgol yn wylo ar ei ol. Yr oedd un ar ddeg o'i blant yn bresennol, a golwg bywiolaeth gysurus ar bob un o ran gwisg a gwedd." (Drysorfa, 1854, t. 62.) Mewn gwasanaeth cyhoeddus i'r Cyfundeb yn ei dymor yr oedd o flaen holl flaenoriaid y sir; ac mewn awdurdod yn y capel yr oedd o flaen holl flaenoriaid yr eglwys; ond ar amryw ystyriaethau pwysig eraill, yr oedd rhai eraill o flaenoriaid yr eglwys yn myned tuhwnt iddo. Y mae Carneddog yn rhoi ei doddaid beddargraff, o waith Ioan Madoc, ond cred nad ydyw ar ei fedd:

Gwel unig annedd John Jones Glan Gwynant,
Hen flaenor duwiol, o oesol lesiant;
Am waith ei Arglwydd mewn uchel lwyddiant
Bu'n hir ofalu, bu'n wr o foliant;
Fel enwog swyddog a sant-bu'n gweithio
Yn ddvfal erddo drwy ddyfal urddiant.

Daeth Dafydd Jones y pregethwr yma oddeutu 1810 o Rostryfan. (Edrycher Rhostryfan.) Symudodd oddiyma i Rydbach rywbryd yn rhan olaf ei oes. Dechreuodd bregethu yn 1809, a bu farw Ebrill 17, 1869, yn 94 oed. Analluogwyd ef i bregethu y 4 blynedd olaf. Dywed Mr. Pyrs Roberts ddarfod iddo gael crefydd pan yn gweithio ar y cob ym Mhorthmadoc. Rhaid fod hynny, os yw'r adroddiad yn gywir, pan oeddid yn dechre adennill y tir oddiar y môr yn 1808, ac yntau y pryd hwnnw yn 33 oed. Yn ol adroddiad arall, daeth at grefydd yn adeg adfywiad crefyddol yn y Waenfawr yn 1807. (Edrycher Waenfawr.) A dywed Mr. Pyrs Roberts ymhellach mai dyn cryf, ymladdgar ydoedd gynt. Edrydd Mr. D. Pritchard yr elai bob dydd o'r neilltu i weddïo am ddeng munud pan ar y morglawdd. Dywed y Parch. Hugh Roberts Bangor (Drysorja, 1870, t. 128) am dano, ei fod o gyfansoddiad corfforol cadarn, ei lais yn uchel, ei ddawn parablu yn rhwydd, a chanddo feddiant cyflawn arno'i hun, gan lefaru fel un heb deimlo dim anhwylustod yn ei feddwl na gwendid yn ei gorff. Ni ddeallai Saesneg; nid oedd ganddo wybodaeth helaeth; treuliodd ei amser ynghanol trafferthion bywiolaeth. Eithr fe ddarllenai lawer ar Eiriadur Charles, Esboniad James Hughes a llyfr Gurnall. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, yn ddyn addfwyn a duwiol, yn Fethodist trwyadl. Yn wrandawr da, teimladol, ar eraill. Yn fwy o weddiwr na phregethwr. Yn wresog ac effeithiol yn y seiat. Bu'n fynych ar daith pregethu gydag eraill. Ni ordeiniwyd mono, ac ni ddeallodd Hugh Roberts i hynny fod yn un brofedigaeth iddo. Nid yw disgrifiad William Davies y mwnwr o draddodiad Dafydd Jones, a adroddir gan Carneddog, yn ymddangos yn gwbl gytun â'r eiddo Hugh Roberts. Sonir gan William Davies am ei lais mawr, crynedig, a dywed ei fod wrth bregethu yn rhyw ymdagu, ac yn ymddangos fel pe bae rhyw rwystr yn ei enau yn peri i'r ymadrodd ddod allan, nid yn ystwythlyfn, ond megys bob yn rhan. Ond dywed ei fod yn hollol fel arall yn y seiat, y llais yn glir a pheraidd, cystal a'i fod o ymddanghosiad tywysogaidd, a'i gynghorion yn ddoeth a'i brofiadau yn felus. Dichon y byddai Dafydd Jones. wrth bregethu, fel eraill, weithiau yn rhyw ymdagu, ac weithiau yn ymdorri ar draws y rhwystrau, canys fe ddywed Mr. D. Pritchard y bloeddiai yn uchel gyda'i lais mawr pan gaffai hwyl. Adroddir am dano yn y Llenor (1895, Gorffennaf, t. 56) yn pregethu yn Aberglaslyn yn adeg diwygiad 1818, oddiar y geiriau, "Oni ddychwel yr anuwiol, efe a hoga ei gleddyf," pryd yr argyhoeddwyd gwr ieuanc cellweirus o ardal Nantmor wrth ei wrando. Dywedir ddarfod i'r bachgen hwnnw fyned drwy bangfeydd argyhoeddiad, ond troes allan yn flaenor ac athro ffyddlon. Y mae ysgrif gan John Jones Glan Gwynant yn y Drysorfa (1831, t. 203) ar fachgen i Ddafydd Jones a fu farw Rhagfyr 2, 1830, yn 6 oed, yn awgrymu fod bywyd teuluaidd Dafydd Jones yn gyson a hardd. Yn ddilynol i John Jones y codwyd yn flaenoriaid, Richard Roberts Caergors a Dafydd Roberts y Ffridd. Symudodd Dafydd Roberts i'r America. Ar ol adeiladu capel Rhyd-ddu yn 1825, fe symudodd Richard Roberts yno. (Edrycher Rhyd-ddu). Dywed Mr. D. Pritchard mai mab Bryn hafod, Clynnog, oedd efe. Er ei fod o duedd foesol o'i febyd, nid ymgymerodd â phroffes gyhoeddus hyd ar ol priodi. John Roberts, ei dad ynghyfraith, oedd stiwart y Barwn Hill, a cheid yng Nghaer'gors ganu'r delyn a'r crwth, ac yfed cwrw a gloddesta. Bwriadwyd i'r pethau hynny fod yn eu rhwysg yn y briodas, ond ataliwyd hynny gan y priodfab, a bu llai eu rhwysg yng Nghae'rgors yn ol hynny. Yn araf, fel y dywed Mr. Pritchard, y gweithiai argyhoeddiad yn ei feddwl. Ac ni bu'n hir wedi ymuno â'r eglwys, na wnawd ef yn flaenor. Gan fod Richard Roberts yn ysgrifennydd yr ysgol, pryd yr oedd John Jones yn arolygwr, a John Jones yn myned allan i ymweled, byddai'r pwys a'r gofal ynglyn â'r ysgol yn disgyn arno ef. Dywed Mr. Pyrs Roberts ei fod yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn ddyn ysbrydol iawn. A dywed, wrth ei gymharu â John Jones, mail Richard Roberts oedd y diwinydd a'r athrawiaethwr, a'i fod yn fwy galluog ei feddwl ac yn fwy hyawdl, ac yn fwy medrus i gael eraill i weithio. A sylwa, hefyd, mai pa faint bynnag oedd ei ragoriaeth fel athro, fel holwr, ac fel siaradwr, ei fod yn fwy fyth fel gweddiwr. Dywed, yn wir, mai efe oedd y gweddiwr hynotaf a glywodd efe erioed. Tawel, toddedig yn ei ddull: nis gellid gwrando arno heb ollwng dagrau. Melancolaidd ydoedd o ran tymer. Pan yn ddyn cymharol ieuanc bu am daith drwy Leyn ac Eifionnydd gyda William Prytherch, tad y gwr a adwaenir felly yn awr, a'i swydd ydoedd dechreu'r oedfa iddo. Bu William Prytherch yn adrodd am dano wrth Mr. Pyrs Roberts ymhen blynyddoedd. "Sut y mae poor Richard?" fe ofynnai. A dywedai y byddai ef yn ddigon amharod ei ysbryd aml waith i godi i fyny i bregethu, ond y byddai Richard wedi ei godi ef i ysbryd pregethu cyn bod ohono wedi myned drwy hanner ei weddi. Mewn un lle yr oedd gwr mawr o gorff, a mawr ei awdurdod yn y lle, ac o gryn safle fydol. A phan welodd hwnnw'r ddau yn dod, fe ofynnodd, "Pwy ydi'r hogyn yma sy gyda thi, William ?" Dodes ei ofn ar Richard. Llithrodd Richard allan o'r tŷ capel bum munud cyn amser dechre. Dychwelodd yn ol ychydig funudau wedi'r amser, ac yr oedd y bobl yn canu pan awd i'r capel. Gweddïai Richard yn nodedig y tro hwnnw. Y blaenor mawr yn gwaeddi Amen yn uchel gyda'r weddi. "Pan ddowd allan," ebe Prytherch, "Richard oedd y cwbl ganddo: ni thalai neb ddim ond Richard." A dywedai Prytherch ei hun nad anghofiai efe ddim am ei weddi y tro hwnnw. Meddai ar ddylanwad ar yr ieuainc. Pan ddeuail drwy'r ardal ar Ddydd Diolchgarwch, a'r bechgyn yn chware bandi, wrth ei weled ef hwy beidient â'r chware, gan ddodi'r clwb o'r tu ol ar y cefn. Elai yntau heibio yn dawel gyda nod ar y bechgyn. Yn ol Robert Ellis Ysgoldy, yn ei adgofion am ddiwygiad Beddgelert (Cofiant, t. 223), Richard Roberts Caergors oedd yr holwyddorwr a rybuddiai'r bobl ieuainc o flaen ffair Gwyl y Grog, pryd y teimlwyd y diwygiad yn y pentref. Ar ganol y cynghori cerddodd ias o deimlad drwy'r lle. Y mae'r cynghorwr yn ymddeffro, ei bwnc yn ymeangu a'i ddawn yn ymagor. Daeth ar draws y llinell honno,—"Mae'r afael sicraf fry." El Robert Ellis ymlaen: "Ac â'i ddawn ystwyth a'i deimlad gwresog, chwareuai ar y gair 'fry.' 'Oddi fry y daw popeth o werth ini—oddi fry y daw'r goleuni, y gwres a'r glaw—oddi fry y daw bendithion iechydwriaeth i'r ddaear—o'r uchelder y mae Duw yn tywallt ei Ysbryd. Dyma obaith i ddynion caled Beddgelert. Os ydyw'n dywyll yma, mae'n oleu fry; os yn wan yma, mae'n gadarn fry.' Gyda'i eiriau, yr oedd rhywbeth mor ddwys, mor rymus, yn disgyn ar yr holl ysgol, yn hen ac ieuainc, fel y gwelid pawb yn torri allan i wylo. Mor rymus oedd y dylanwad, nes yr oedd y plant mewn dychryn rhedai un bachgen bychan at ei dad, a llefai, 'Nhad anwyl, dyma ddydd y farn wedi dod.' Wylo dwys a distaw oedd yn llenwi'r lle."

Daeth William Roberts a Gruffydd Prisiart yma o Fethania, y ddau yn swyddogion yno cyn eu galw yma. Yr oedd William Roberts yn frawd i John Roberts Waterloo, ac yn ewythr i Mr. Pyrs Roberts, frawd ei dad. Dywed Mr. Pyrs Roberts y bu William Roberts yn arweinydd amlwg yn Methania. Dechreuodd weithio gyda'r achos yn y pentref, ond nid llawer o gyfle a gafodd, gan fod dynion cryfion yma eisoes. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, yr oedd yn ddyn galluocach na'i frawd, John Roberts, ac yn meddu ar ddawn i arwain yng nghyfarfodydd yr eglwys. Yr oedd yn areithiwr dylanwadol dros ben ar ddirwest, ac, yng ngair Mr. Pyrs Roberts, yn cario y plwyf o'i flaen. Eithr fe ddyrysodd yn ei amgylchiadau, tarfodd ei ysbryd, a llesghaodd ar y ffordd.

Am ddwy flynedd y bu Gruffydd Prisiart yn gwasanaethu'r swydd ym Methania. Gwnaeth Gruffydd Prisiart yr hyn yr esgeulusodd llawer ei wneud, sef cofnodi'r pethau rhyfedd a welsent ac a glywsent ynglyn â chodiad Methodistiaeth. Fe deimlir yn yr hyn a gafwyd gan Gruffydd Prisiart, ei fod ef yn ddyn o feddwl diwylliedig a barn gydbwys. Gwelir fod ei sylw ar fanylion: gŵyr werth y cyffyrddiad manylaidd. Cymharer, er enghraifft, ei ddisgrifiad ef o arferion yr oes o'r blaen âg eiddo William Williams Llandegai, awdwr Prynhawngwaith y Cymry, yn ei lyfr Seisnig ar fynyddoedd yr Eryri. Heblaw manylder disgrifiad o arferion neu ddigwyddiadau, fe geir ganddo, hefyd, rai enghreifftiau o'r gallu i gyfleu cymeriad gerbron. Y mae ei gymhariaeth o'r pedwar brawd yn nodedig o dda, ac y mae'r portread o Hywel Gruffydd yn arbennig o werthfawr. Y mae ei gof am amgylchiadau a dywediadau, a'r mynegiadau o deimlad neu dymer, yn y dull a thôn y llais, yn ymddangos yn afaelgar dros ben. Diau fod ei gof yn y pethau hyn wedi ei awchlymu yn fawr gan y dyddordeb a deimlai yn holl helynt yr ardal, yn enwedig ei helynt grefyddol, ac yn fwy na dim, yn niwygiad mawr 1818, y profodd efe ei hun ohono, yn fachgen 18 oed. Ar ol y fath brofiad ag a ddisgrifir ganddo o'r canu yn yr awyr, nid rhyfedd fod holl olygfa'r diwygiad wedi ymagor yn ei ddychymyg mewn rhyw oleu claerwyn, a bod pob cymeriad ac amgylchiad yn sefyll allan arno'i hun i'w olwg o ganol y rhuthriadau teimlad rhamantus. Fel ysgrifennydd, y mae'n ddiffygiol mewn crynoder awchlym; ond gydag arfer gyson, a mwy o sylw ar gynlluniau uchel, fe fuasai wedi ennill yn fawr yn hynny. Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn arno o'r Cymru (XXV., rhif 146): "Yr oedd yn hysbys yn niwynyddiaeth y Methodistiaid, ac wedi darllen llawer ar lyfrau pynciol yr amseroedd, megys ysgrifeniadau Richard Jones o'r Wern a Richard Williams [Pregethwr a'r Gwrandawr], ac yr oedd mewn cydymdeimlad â llenyddiaeth drwy'r hen Wladgarwr, a misolion y cyfnod hwnnw. Pe wedi cael gwell manteision, a mwy o ryddhad oddiwrth helbulon bywyd, gallasai, o ran ei alluoedd, fod wedi cyfoethogi llenyddiaeth Cymru. Yr oedd y dylanwad dyrchafedig a feddai Gruffydd Prisiart i'w briodoli i'r awyrgylch ysbrydol yr oedd yn byw ynddi. Yr oedd ei gartref yn gysegr i Dduw, ac yr oedd wedi ei fendithio âg un o'r gwragedd mwyaf doeth a duwiol a wisgodd fodrwy erioed." Nid yw efe ei hun yn gadael i'w gysgod ddisgyn ar yr hanes ond gyn lleied ag y bo modd. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, fe wasanaethodd swydd diacon yn dda, ac yr oedd llawer o hynodrwydd yn perthyn iddo. Yr oedd yn un medrus iawn i gadw seiat, a phan fyddai'r cyfarfod hwnnw yn bygwth myned yn swrth, gwyddai ef yn dda at bwy o'r saint i droi, a gallai eu tynnu allan. bob amser. Gallai darro ar wythïen gyfoethog a chael seiat wlithog a hwylus, pan fyddai weithiau wedi bygwth troi fel arall. Clywodd Mr. Pyrs Roberts hanesyn am dano yn ymddiddan â hen chwaer dduwiol iawn a ffyddlon dros ben. Yr oedd yr hen chwaer yn byw o 3 i 4 milltir o ffordd o'r capel, mewn bwthyn unig ei hunan, fwy na hanner y ffordd i Flaen Nantmor, mewn lle o'r enw Penrhyn gwartheg, ar yr ochr arall i'r ffordd i Lyn y Dinas. Yr oedd ei llwybr i'r pentref yn anhygyrch a garw, a phont garreg i'w chroesi ym mhen isaf y llyn, ac nid gorchwyl hawdd a hollol ddiberygl bob amser fyddai ei chroesi. Ond nid oedd dim lesteiriai'r hen sant hon i'r seiat a'r cyfarfod gweddi ond afiechyd. Trwy deg a gwlaw gwelid hi, er yn byw ymhellach na neb arall, yn ymlwybro i'w hoff gyrchfan. Un noswaith yr oedd y seiat yn cychwyn dipyn yn aniben, a Gruffydd Prisiart yn teimlo hynny. Ond gwelai fod yr hen chwaer o Benrhyn gwartheg ganddo i syrthio'n ol arni am air o brofiad, ac ymhen ennyd anelodd am dani. 'Be' sy' gen ti heno, Siani,' meddai. 'Nid oes dim heno, Gruffydd Prisiart,' meddai hithau. Ond gwyddai Gruffydd Prisiart o'r goreu y gallai gael rhywbeth yn y fan yma, ond iddo fedru mynd o'i gwmpas yn iawn. Troes i ganmol ei sel a'i ffyddlondeb yn dyfod mor bell i'r capel ar noswaith dywyll a drycinog, a thrwy gryn anhawsterau, 'nes codi cywilydd wyneb ar lawer ohonom,'—meddai. Yn y man, gofynnodd iddi, 'Siani, yn y lle pell ac unig acw, fyddi di'n darllen dipyn weithiau?' 'O byddaf, Gruffydd,' meddai hithau, 'y mae'n rhaid imi ddarllen.' 'A fyddi di'n gweddïo weithiau?' 'O byddaf, Gruffydd, y mae'n rhaid imi weddïo: fedra'i ddim cadw a dal ymlaen heb ddarllen a gweddïo: fedra'i ddim byw heb weddio —y mae'n rhaid imi weddio.' Dyma ddigon i Gruffydd Prisiart. Daliodd yn effeithiol iawn ar y gair rhaid, a gwnaeth ddeunydd seiat ardderchog o hono. Ei bwnc oedd dangos mor ddiwerth yw crefydd heb raid ynddi, a siaradai yn ofnadwy. Ac wrth orffen traethu, troai at Siani drachefn, 'Wel, Siani, wyddosti beth? ni rown bin o'm llawes am grefydd na bydd rhaid ynddi hi.' Gwresogodd y seiat gyda hyna, a siaradodd rhyw hanner dwsin, a chafwyd seiat i'w chofio. Yr oedd Gruffydd Prisiart yn holwr da ar ddiwedd ysgol. Teimlai fawr sel dros y Cyfarfod Ysgolion. Ceid math o Gyfarfod Ysgol weithiau y pryd hwnnw ar ddiwrnod gwaith. Fel rhyw enghraifft o'i ddull a'i ffordd gellid nodi un amgylchiad. Yr oedd mater wedi ei nodi i'r ysgol chwilio arno, a'r Parch. John Owen Ty'nllwyn yn holwr. Yr oedd rhif yr ysgol y noswaith honno yn 160 neu 170. Holid pob dosbarth arno'i hun yn yr adnod oedd wedi ei phennu, a dosbarth Gruffydd Prisiart oedd y cyntaf. Ymddanghosai'r athro yn bur ddidaro, y dosbarth yn sefyll ac yntau'n eistedd. Ond fel y gwasgai'r holwr yn drymach drymach ar y dosbarth, y mae Gruffydd Prisiart o'r diwedd yn codi'n sydyn, ac yn rhoi rhes o atebion gwahanol i'r cwestiwn, 'Ond,' meddai, 'y mae'n gwestiwn tywyll iawn, onid ydyw, John?' 'Yr oeddem ni yn gwybod hynny,' meddai'r holwr, heb i chwi ddweyd. Dod yma i geisio cael goleu arno yr oeddem ni heno.' Edrydd Mr. Pyrs Roberts am dano'i hun yn dod i'r seiat. Troes Gruffydd Prisiart ato, "Rwyti wedi cael pob manteision, wedi bod yn gyson ym mhob moddion. A wyti wedi darllen dipyn? a meddwl dipyn? A wyti wedi dechre cadw dyledswydd gartref?" Yn ateb i'r cwestiwn olaf, dywedai'r bachgen, "Nag ydw'i." "Wel, dyn a dy helpio di! Wn i ddim be' wnei di! Mi ddylaset fod wedi dechre y bore nesaf ar ol dy dderbyn [sef ar brawf]." Ar hynny dyna Robert Morris yn codi ac yn cymeryd ei ran, gan ddweyd nad oedd y tad ond yn darllen ar y ddyledswydd, a bod yn anhawdd i Byrs weddio, pan nad oedd y tad ond yn darllen; a chynghorai Pyrs i ddarllen a gweddïo pan fyddai ei dad oddi-cartref, a phan glywai ei dad y gofalai am y ddyledswydd yn gyflawn o hynny ymlaen. Dywed Mr. Tecwyn Parry mai Gruffydd Prisiart a fu'n foddion i ddeffro ei awen ef, os bu ganddo'r fath beth, chwedl yntau. Dywed, hefyd, ei fod yn feirniad craff mewn barddoniaeth, ac yn hynafiaethydd gwych. Dyma sylwadau Glaslyn arno: "Y mae'r amser y bum yn cydymdaith â Gruffydd Prisiart erbyn hyn yn ymddangos i mi fel mordaith dros y cefnfor, heb yr un garreg filltir yn y golwg. Wrth alw i'm cof un o broffwydi sanctaidd y diwygiad mawr, yr wyf yn teimlo fy mod yn gosod fy hun mewn sefyllfa gyffelyb i'r brenin Saul gyda'r ddewines o Endor, yn galw y proffwyd o'i fedd i'm ceryddu. Tua'r flwyddyn 1856 y daethum i gydnabyddiaeth âg ef, a bum mewn cyfeillgarwch agos a serchog âg ef hyd ddiwedd ei oes. Gwr cadarn ac esgyrnog oedd efe, ac ar yr olwg gyntaf braidd yn torri ar y garw; braidd yn wyllt o ran ei dymer, er hynny yn dawel, ond tawelwch y mynydd tanllyd oedd, a gwell oedd peidio â'i gyffroi, a phe tarewsid ef ar y rudd ddehau, ni fuasai fyth yn troi'r llall cyn rhoi dymnod yn ol. Tua'r flwyddyu 1846 daeth mintai o ddynion cryfion of swydd Fflint i dorri parc o goed i Ddolfriog; a'r noswaith cyn iddynt ymadael o'r ardal, cytunasant â'i gilydd i ymosod ar bobl y pentref a'u baeddu. Yfasant yn drwm, a dechreuasant faeddu a churo pawb a ddeuent allan o'u tai. Yr oedd seiat yn yr hen gapel ar y pryd, a phan oedd y frawdoliaeth yn dychwelyd o'r capel, ymosodwyd arnynt yn fileinig ar y ffordd, a diangodd y rhai gwanaf am eu bywyd. Yn y rhuthrgyrch tarawyd Gruffydd Prisiart gan un ohonynt; ond cafodd ddyrnod yn ol nes yr ydoedd yn llyfu'r llwch. Gorchfygwyd y gelynion, a Gruffydd Prisiart oedd yr unig un o'r frawdoliaeth a gymerodd ran yn yr ymladdfa; ac er ei fod yn flaenor gwnaeth yn llygad ei le. Fel blaenor dylid ei restru yn y rhenc flaenaf. A chofier mai nid peth hawdd oedd rhagori ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid yn ei oes ef, er fod yn bur hawdd gwneud hynny'n awr. Yr oedd eangder ei wybodaeth, rhyddfrydigrwydd ei farn, a dyfnder ei brofiad yn ei gymhwyso i fod yn arweinydd crefyddol mewn unrhyw gylch. Yr oedd mwy o'r cristion na'r swyddog yn ymddangos ynddo bob amser, a'r swydd yn ymguddio yn y gwaith. Er ei fod yn Fethodist ffyddlon, nid yn fynych yr elai i'r Cyfarfod Misol, ac nid wyf yn gwybod iddo gymeryd rhan arbennig yn y cylch hwnnw. Yr oedd yn barchus o'r weinidogaeth, ac yn gweddïo llawer dros bregethwyr; ond pan ddigwyddai Saboth gwag ni byddai arno ddim brys i'w lenwi, gan ei fod yn awyddus i ddwyn allan ddoniau'r eglwys. Byddai wrth ei fodd mewn cyfarfod gweddi, ac yr oedd yn weddïwr mawr ei hun. Ac yn y seiat, arferai gymell yr ieuenctid i ddiwyllio ac ymarfer dawn gweddi. Ac y mae'r ychydig sy'n cofio y to o weddïwyr anghymharol oedd ym Meddgelert yn ei amser ef yn sicr o fod yn teimlo fel fy hunan fod rhywbeth wedi ei golli o'r cyfarfodydd hyn yn y dyddiau hyn. Efe fyddai'n arwain y seiat, ac yr oedd yn fedrus yn y gwaith o dynnu allan brofiadau heb grwydro hyd y capel i chwilio am danynt. Yr oedd ynddo ryw ffwdan hapus oedd yn gwneud hyd yn oed ei gamgymeriadau yn dderbyniol. Mewn disgyblaeth byddai'n onest, ac eto'n dyner, ac ni tharawai byth ar lawr. Mewn achos o gweryl yn yr eglwys, meddiannai ei hun yn rhyfedd ac ystyried tanbeidrwydd ei natur; ond os elai un o'r pleidiau i eithafion cynhyrfai beth, ac ar achosion felly gwelais fflam yn ennyn yn ei lygad oedd yn ddigon i roi coedwig ar dan. Yr oedd yn nodedig am ei ymdrechion gyda'r bobl ieuainc, a chadwodd i fyny gyfarfodydd darllen er diwyllio eu meddyliau ac ennyn meddylgarwch ynddynt. Yr oeddynt hwythau yn hoff ohono ef, er y cafodd ambell un go ddireidus deimlo clawr y llyfr yn llosgi ar ei glust. Yr oedd gyda'i dymer nervous a'i ysbryd eofn yn gallu dylanwadu yn ffafriol ar y bobl ieuainc, y galluogid ef trwyddynt i luosogi ei bersonoliaeth mewn modd rhyfedd yn eu mysg. Yr oedd Gruffydd Prisiart, yn gystal a'i gâr Hywel Gruffydd, yn wŷr o athrylith ddiamheuol. Ond gan nad oedd ynddynt ddim awydd i fod yn gyhoeddus, ac ennill clod dynion, aethant drwy'r byd heb iddo braidd wybod am danynt. Mae blodau mor brydferth yn yr anialwch allan o olwg dyn ag sy'n ngardd y pendefig, ac y mae'r perl mor bur ac mor ddisglair yn nyfnder y môr a phan yn addurno coron yr ymerawdwr. Dioddefodd afiechyd maith a phoenus, a'r tro diweddaf yr wyf yn ei gofio yn y seiat yn adrodd ei brofiad, cododd ei law at ei ben dolurus, ac aeth dros y pennill hwn gyda rhyw deimlad dwys-dreiddiol;

'Rwy'n tybio pe bae nhraed yn rhydd
O'r blin gaethiwed hyn,
Na wnawn ond canu—

Mae arnaf hiraeth am hen gyfeillion." Ychwanega Glaslyn mewn nodyn ar wahân: "Methais ymatal rhag wylo wrth ysgrifennu y darn pennill a adroddodd yn y seiat." Aeth Gruffydd Prisiart am dro i Borthmadoc er lles ei iechyd, at ei fab Mr. William Pritchard, ac yno y bu farw, Gorffennaf 4, 1868, yn 69 oed.

Y ddau a ddewiswyd yn gyntaf fel blaenoriaid ar ol marw John Jones oedd John Roberts Waterloo a Robert Jones Siop y Gornel, mab i John Jones. Y flwyddyn a nodir i John Roberts yn Ystadegau 1893 ydyw 1849. Eithr yn 1853 y bu John Jones farw. Yr un pryd, neu ryw gymaint yn ddiweddarach, y dewiswyd William Jones Cae'r moch. Symudodd ef i Glynnog. Yr oedd Robert Jones, yn ol Mr. Pyrs Roberts, yn ddyn gwerthfawr, cryf o feddwl a chymeriad. Yr oedd yn ddirwestwr pybyr mewn adeg bwysig; ac fel y dur i'w argyhoeddiadau ym mhob pwnc. Gwnaeth waith mawr a charai weithio. Anaml iawn y gwelid ef yn absenol o'r seiat neu gyfarfod gweddi. Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn arno o'r Cymru (XXV., rhif 146): "Un o golofnau yr ysgol Sabothol ym Meddgelert. Arolygwr a fu efe am ran o'i oes, a disgynnodd y swydd iddo fel treftadaeth ar ol ei dad. Efe oedd y mwyaf llwyddiannus gyda'r gorchwyl o holi'r plant. Wedi cael ateb llawn i'w gwestiwn, ymestynnai ei gorff tal, ac ymdaenai gwên ddisglair dros ei wyneb crwn. Yna, ail ofynnai yr un cwestiwn, a cheid taran o atebiad. 'Dywedwch eto, fy mhlant i,' ac yna taran drachefn, fel y byddai'r plant a'r ysgol mewn hwyl hyfryd. yn y diwedd. Yr oedd yn ddyn goleuedig a gwir grefyddol, ac yn arweinydd yr eglwys a'r ysgol. Nid oedd ganddo lawer o lyfrau, ac nid oedd yn ddarllennwr mawr; ond yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ddeall gair Duw, ac i'w gymhwyso at eraill. Ac yr oedd yn hynod deyrngarol i Fethodistiaeth, ac yn cario'r Cyfundeb yn ei fynwes." El Carneddog ymlaen: "Dywed henafgwr wrthyf ei fod yn weddiwr eneiniedig. Nid oedd mor alluog a'i frawd, Rhys Jones, ond medrai siarad yn dda ar faterion yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Yr oedd yn wr hollol ddiwenwyn, a cherid ef gan bawb. Bu farw Mawrth 19, 1881, yn 68 oed, yn flaenor ers 38 mlynedd."

Efe oedd ein hathraw a'n doeth gyfarwyddwr,
Cysurai'r trallodus, cyfnerthai y gwan.—(Carneddog.)

Yr oedd John Roberts, "yr hen siopwr," yn ddyn urddasol o ran ymddanghosiad ac awdurdodol ei wedd. Meddai ar ddylanwad neilltuol yn yr ardal mewn byd ac eglwys. Gwnaeth waith pwysig ynglyn âg addysg. I'w ymdrechion ef yn arbennig y gellir priodoli cychwyniad yr ysgol Frutanaidd. Ymladdodd yn ddewr dros ei chael yma, ac hefyd dros gael mynwent rydd, yn gyfochrol â hen fynwent yr eglwys. Bu'n dŵr o nerth i'r achos crefyddol yn y lle am flynyddoedd lawer. Yr oedd ei air yn ddeddf. Ac yr oedd, yr un pryd, yn rhyfeddol o lwyddiannus i gael eraill i weithio gyda'r achos. Heblaw bod yn filwr ei hun, yr oedd hefyd yn gadfridog: heblaw ymladd, medrai yr un pryd drefnu'r fyddin i ymladd. Gallai ddweyd wrth un, Cerdda, ac efe a ae; wrth arall, Gwna hyn, ac efe a'i gwnae. Ymddeffroai, ac ymaflai mewn gorchwyl yn y fan. Wedi i'r Cyfarfod Misol unwaith wrthod rhoi caniatad i godi capel newydd, am fod dyled yn aros ar yr hen, a chlywed ohono yntau yr wrthddadl gan y brodyr fu yno, ymroes yn y fan i glirio'r ddyled, yr hyn a wnawd yn union. Nid oedd hyn ond enghraifft o'i ddull cyffredin. Disgrifiad Mr. Pyrs Roberts ohono a gafwyd hyd yn hyn. Dyn tal ydoedd a chwimwth, cadarn, heb fod yn gnodiog. Yr oedd golwg hoew, effro, hunanfeddiannol arno. Ynghanol y tŷ capelaid llawn a fyddai ym Meddgelert, yn enwedig ar ol oedfa'r nos, oddeutu 35 mlynedd yn ol,—ac eisteddiad gref fyddai honno cystal a llawn,—yr oedd ef fel brenin mewn llu. Yr oedd gan amryw yno rywbeth neu gilydd heb fod ganddo ef i'r un graddau, ond byddai pawb yno megys yn canolbwyntio ynddo ef. Cawsai bob un eithaf chware teg i draethu ei feddwl. A gwelid ar ei wyneb argraff o werthfawrogiad o bob un, ac o gyfran pob un. Byddai'r gyfeillach honno, y blynyddoedd hynny, bob amser, debygid, o duedd adeiladol heb sôn am fod yn ddifyr. Codai pwnc i sylw weithiau, ond yn fynychach, feallai, atgofion o hen bregethwyr,—o'u pregethau ac o'u nodweddion. Os byddai eisieu cael y testyn, ac yntau wedi ei glywed rywbryd, fe'i ceid yn y fan gan wr y tŷ capel, John William, a dyna fymryn o nod arwyddocaol ar wyneb John Roberts. Gyda phwnc, craffai ef ar yr hyn ddywedid gan bob un, a symiai y cwbl i fyny yn amlwg yn ei feddwl ei hun, ond heb ymyryd ei hun yn y ddadl, oddigerth ar dro, neu mewn geiriau go gwta. Hwyrach y ceid sylw o eiddo Thomas John; neu fe elai Pyrs Roberts dros ddisgrifiad neu ymresymiad gan John Jones Talsam, gan roi syniad inni wrth fyned heibio am hwyl y bregeth; neu fe geid cyfeiriad at oedfa fawr Dr. Edwards yn sasiwn Bangor, ar "Ein Tad," oedfa fwy "o'i hysgwyddai i fyny" nag a glywodd y llefarwr gan neb arall, a rhoddid syniad am gynnwys y bregeth, ynghyda'r pennau —(1) Tad uwchlaw deddf natur; (2) Tad uwchlaw'r ddeddf foesol. Byddai pawb yn gwbl rydd, ond byddai pawb yn rhyw fodd aneffiniadwy fel yn golygu presenoldeb John Roberts ym mhob sylw. Ar ryw fore eithafol o oer, a chnwd o eira ar y ddaear, dyma John Roberts ei hun, wrth alw yn y tŷ capel, yn adrodd sylw o eiddo Henry Rees, am yr adyn truan, tlawd, heb ddim ar wyneb daear i droi ato, y ddaear yn orchuddiedig gan rew ac eira, ac yntau heb ond ei grys am dano yn y gwyntoedd creulon,—gyda'i ddannedd yn crynu yn ei gilydd, yn troi i wneud ei apel at Dduw. Rhoes fymryn o ysgydwad i'w ben ar ol adrodd y sylw, a'i lygaid yn myned yn llymach eu hedrychiad, gan arwyddo gwerthfawrogiad o ystyr y sylw. Pan aeth Gladstone drwy'r ardal ynglyn âg agoriad y ffordd haearn ar y Wyddfa, penodwyd John Roberts gan y trigolion i wneud rhyw anrheg drostynt. Wrth wneud ychydig sylwadau ar yr achlysur, dywedodd wrth y gwladweinydd ei fod o'r un oedran ag yntau i'r flwyddyn. Gwenodd Gladstone ar hynny, a dywedai yn ol, "Yr ydych yn dal eich oedran yn well na mi." A thebyg fod hynny yn gywir, er cadarned cyfansoddiad yr arwr hwnnw. Fel hyn y rhed cofnod y Cyfarfod Misol: "Yr oedd yn un o flaenoriaid hynaf y Cyfarfod Misol, ac yn grand old man yn ei oes. Yr oedd wedi bod ar y blaen gyda symudiadau cyhoeddus, yn wr o allu a dylanwad, ac yn gefnogydd aiddgar i agweddau diweddar ar waith crefyddol yn y Cyfundeb." Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn: "Bu ei lafur gyda'r dosbarthiadau o bob oedran yn fendith i'r ardal. Yr oedd ei ddull meistrolgar o holi'r ysgol yn llawn o ddyddordeb. Yr oedd yn foneddwr diwylliedig, a chwrtais yn ei holl ymddygiadau, ac o ran gwybodaeth a rhyddid ymadrodd yn gymwys i annerch unrhyw gynhulliad mewn llan a llŷs. Efe oedd arweinydd y canu cynulleidfaol hyd hwyr ei fywyd, ac yr oedd drwy ei lais tyner, tonnog, wedi dylanwadu ar y canu i'r fath raddau fel yr oedd rhyw fiwsig rhyfedd i'w deimlo ynddo, a thystiai llawer o'r gweinidogion nad oedd un gynulleidfa o fewn cylch Cyfarfod Misol Arfon yn canu gyda'r fath swyn, tynerwch a melodedd a chynulleidfa Beddgelert." El Carneddog ymlaen ei hun: "Gweithiodd yn galed er cael manteision addysg i'r dosbarth gweithiol, sef sefydliad yr Ysgol Frutanaidd yn 1851, a'r Bwrdd Ysgol cyntaf yn 1871, i'r hwn y bu'n gadeirydd am 18 mlynedd. Bu'n flaenorydd yn ei oes, er hyrwyddo holl fuddiannau y plwyf yn grefyddol a gwladol." Bu farw Hydref 17, 1897, yn 88 oed.

Yn fuan ar ol codi y rhai a nodwyd olaf y daeth Robert Williams gwehydd i'r ardal. Yr oedd ef yn flaenor ym Methania, a galwyd ef ym Meddgelert. Un o ardal Clynnog. Ymsefydlodd yn y man yn y Perthi uchaf, ar dir y Perthi. Yn arbennig fel gweddiwr. Bu am rai blynyddoedd yn arfer gweithio yn y Royal Goat Hotel. Cedwid y ddyledswydd deuluaidd yno ganddo ef ac un arall, a deuai'r teulu i gyd i'r gwasanaeth. Dyn da a chyflawn ac yn areithiwr da ar ddirwest. Mr. Pyrs Roberts a'i hadgyfododd ef ar gyfer yr hanes hwn, a blaenor arall o'r un enw, oedd yma tua'r un adeg, yn byw yn Tanllwyn. Dyn da, difrif, distaw ydoedd ef.

Y blaenoriaid nesaf oedd Rhys Jones Glangwynant, mab i John Jones yntau hefyd, a Richard Owen (Glaslyn). Yn ol yr ysgrif o'r lle, "tynnodd Rhys Jones ei gŵys i'r pen yn wastad ac esmwyth; ac yr oedd yn ddyn call, yn ddiwinydd da, a gair yn ei amser ganddo." Yn ol Mr. Pyrs Roberts yr oedd John Roberts a Rhys Jones yn rhagori ar bawb a fu o'u blaen mewn gofal cyffredinol am yr achos. Dywed ymhellach am Rhys Jones ei fod yn drefnus gyda phopeth, a bod taclusrwydd yn nodwedd arbennig arno. Ei anerchiadau yn y seiat a'r ysgol Sul yn fyrr, yn bwrpasol, yn gryno. Yn un o'r holwyr goreu, a ffordd ddeheuig ganddo i ofyn cwestiwn ei gwestiwn bob amser yn glir a goleu. Nid oedd dim gwasgarog a dibwynt yn perthyn iddo. Ni siaradai yn fynych yn gyhoeddus; ond pan wnae, byddai'n glir a synhwyrol. Torrwyd ef i lawr yn anterth ei nerth. Yn ol cofnod y Cyfarfod Misol, yr oedd ei ffyddlondeb, ei dduwioldeb a'i barodrwydd i'r nefoedd yn amlwg. Dywed Glaslyn ei fod yn llawn ysmaldod diniwed ar hyd ei oes,—"o lawn digrifwch a'i lond o grefydd." Bu'n offeryn, ebe Glaslyn, i ledaenu llawer ar Esboniad James. Hughes yn y plwyf, yr esboniad cyntaf a gafodd ddim derbyniad yma. Ebe Carneddog: "Nid oedd neb mwy boneddigaidd, caredig a phert, ac yr oedd ym mhob cylch yn wr o ymddiried, yn bwyllog a gochelgar. Yr oedd haelfrydigrwydd yn llinell amlwg yn ei gymeriad. Bu farw Tachwedd 18, 1886, yn 60 mlwydd oed, ac wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd."

Yn ei swydd ni cheid un sant—mor ddifai,
Yn y glyn canai Cristion Glan Gwynant.

Os gwâg, o us a gwegi—yw y byd,
Hwn o bawb mewn gweddi,
Fu o ddyled, yn medi
Gwenith nef, ganwaith i ni.

Suddai i bwnc—Rhys oedd Baul—o ddoniau
Diddanus, myfyriol,
Geiriau da y gwr duwiol
Drwy'u had a fedir o'i ol.—(Carneddog.)

Dewiswyd Pyrs Roberts a Richard Morris Cwmcloch yn flaenoriaid yn 1875. Symudodd Richard Morris i gymdogaeth Llanrwst, ac yr oedd yn flaenor yng nghapel Salem y tuallan i'r dref. Gwr cryf, agored, ac yn ymddangos fymryn yn fyrbwyll. Yn 1880 fe ddewiswyd William Pritchard Tŷ Emrys, Robert Roberts Meirion Terrace a George Thomas yr ysgolfeistr. Anafwyd Robert Roberts yn y chwarel yn 1882, a throes hynny yn angeuol iddo. Dywed Carneddog ei fod yn wr darllengar a gwybodus, yn siaradwr da, ac yn meddu ar brofiadau melus. Yn flaenllaw gyda'r ysgol Sul a'r Cyfarfod Ysgolion.

Y gwas da a ffyddlon oedd fawr mewn duwioldeb,
Oedd weddaidd ei rodiad a disglair ei foes,
Ei fuchedd oedd un i'w harddelwi mewn purdeb,—
Grasusau y nef a addurnodd ei oes.—(Carneddog.)

Yn ol Carneddog, yr oedd William Pritchard yn wr boneddigaidd, tawel a heddychol. Heb feddu ar allu meddwl cryf, na thalent. neilltuol fel siaradwr cyhoeddus; ond yn meddu ar farn a doethineb. Yn chwyrn yn erbyn chwareuaethau ac ysgafnder, ac yn caru cynnal y ddisgyblaeth. Yn ffyddlon, yn hael ei gyfraniadau, yn ddefnyddiol gyda'r ysgol, yn dangnefeddwr. Bu farw Mai 26, 1893, yn 60 oed. Fel athro ysgol, ebe Carneddog, yr oedd George Thomas yn enwog. Brodor o'r Drefnewydd. Daeth yma heb fedru Cymraeg, a meistrolodd yr iaith yn fuan. Bu'n arweinydd corawl yn y pentref. Gweddïai yn gyhoeddus yn Saesneg. Yr oedd yn fanwl yn ei swydd fel ysgrifennydd yr eglwys. Bu farw Ebrill 28, 1895, yn 62 oed. Yn 1894 fe ddewiswyd David Pritchard Cwmcloch, Griffith Williams Smith Street, Robert H. Roberts.

Edward Morris oedd ysgolfeistr cyntaf yr ysgol Frutanaidd, pregethwr gyda'r Bedyddwyr. Yn ol rhestr y Cyfarfod Misol yn 1851, yr oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid erbyn hynny, a bu yng Nghyfarfod Misol Medi. Y mae ei enw i lawr mewn rhestr ynglyn â'r Cofnodion am 1852, ond wedi ei groesi allan, ac ni bu mewn Cyfarfod Misol namyn ym Medi, 1851. Dyfynna Carneddog Wilym Eryri yn ei gylch. Dywed ef y taflai'r ysgolfeistr y riwl fawr atynt hwy y plant, ac y tarewid hwy weithiau yn eu pennau gyda'r fath rym fel y codai chŵydd yn y fan cymaint ag ŵy iar. Byddai raid myned a'r riwl yn ol i'r Pharo Neco. Cred Gwilym y buasai naill hanner plant y dyddiau yma yn marw dan ei ddwylo. Eithr ni oddefid mono ddim rhagor gan y rhieni, a gorfu iddo gymeryd y goes. Cychwynnodd John Williams ei flwyddyn brawf fel pregethwr yma, Mehefin, 1861, sef yr un o'r enw a fu'n weinidog ar Siloh, Caernarvon, wedi hynny; a Griffith Tecwyn Parry, Rhagfyr 3, 1866; a W. Matthew Williams yn 1876. Rhoddwyd llythyr cyflwyniad i'r olaf i'r America, Gorffennaf 2, 1883. Adnabyddir ef bellach fel William Matthew, ac y mae yn fugail yn Nosbarth Waukesha, Wisconsin.

Bu William Ellis, gweinidog cyntaf yr eglwys, farw Gorffennaf 13, 1895, yn 58 oed, wedi gwasanaethu ei swydd yma am y 24 blynedd olaf o'i oes, namyn ychydig fisoedd. Daeth o Beniel yma (Edrycher Peniel). Un o ardal Cefn y waen ydoedd. Aeth o chwarel Dinorwig i'r ysgol at Eben Fardd yn ei 21 mlwydd oed, yn ol Carneddog yn y Cymru. Meddyliai ei ysgolfeistr yn dda ohono, a buont yn ymohebu peth wedi iddo adael yr ysgol. Darllennai bob llyfr y caffai afael arno pan yn chwarelwr, a daeth y nodwedd hon yn amlwg arno dros ei oes. Yr oedd ganddo gasgliad go dda o lyfrau y Puritaniaid, a rhai o'r llyfrau goreu diweddar, a darllennai y naill a'r llall yn drwyadl. Yr oedd wedi darllen Arweiniad Driver i'r Hen Destament deirgwaith drosodd. A darllennai'n ofalus. Yr oedd yn hynotach fyth yn ei waith yn ysgrifennu ei feddyliau i lawr. Dywed Carneddog yr ysgrifennodd lond pentwr anferth o fân gopïau, ac yr ysgribliai ei fyfyrdodau a'i fân draethodau ar gefn papur te a siwgr, ar gefn biliau, amlenni llythyrau, ac ar bob lliw o bapur, gwyn, glas a lliwiau eraill. "Ceir ganddo fath o esboniadau byrion ar y mwyafrif o'r Efengylau a'r Epistolau, cannoedd lawer o fân draethodau ar bob math o destynau Beiblaidd, a rhai gwleidyddol, ynghyda phregethau dirif." Dywed golygydd y Llusern ei fod yn amheus a oedd un gweinidog yn Arfon â'i feddwl wedi ei gyfoethogi fwy â gwybodaeth ddiwinyddol iachus, a'i fod yn amheus a oedd cymaint ag un yn dod yn agos ato. Yr oedd yn ddiwyd gyda dosbarthiadau Beiblaidd. Yn ymwelydd ffyddlon â'r claf. Yr oedd rhyw duedd neilltuedig ynddo. Cerddai hyd y gallai i'w gyhoeddiadau, a defnyddiai'r amser hwnnw i fyfyrio a myned dros ei bregethau. Ni fynnai bregethu mewn Cyfarfod Misol er cynnyg iddo, a gwrthododd lywyddiaeth y Cyfarfod Misol. Gwell ganddo oedd capelau bach na rhai mawr, a'r rhai anghysbell a diarffordd o'r rheiny a hoffai fwyaf. Dyn gwlad ydoedd, ac nid dyn tref. Er hynny, yn wr serchog gyda'i gyfeillion, ac yn un a fawr hoffid ganddynt. Tystiolaeth John William y tŷ capel am dano ydoedd, ei fod yn ddyn i'w air, yn un na thorrai mo'i gyhoeddiad er dim; y cawsai rai seiadau anarferol; ei fod yn fawr yn y cyfarfod darllen. Sylwa Carneddog y perchid ef gan y rhai mwyaf anystyriol, ac yr ofnai rhai ei gyfarfod ar y ffordd mewn lle unig, a hynny gan rym ei gymeriad fel dyn Duw. Pregethwr pwnc ydoedd, ac ymdriniai â'i bwnc mewn dull difrif. Heb odidowgrwydd ymadrodd, yr oedd ei bregethau yn llawn Efengyl, ac yn cael eu cymhwyso gyda medr y gwr difrifol.

William Ellis I cael molawd—ni chwennych;
Hynny gynt fae'n anffawd!
Un unig, bell anianawd
I ddenu bri oedd ein brawd,

William Ellis, dewisydd—llyfrau oedd—
Didwyll frwd efrydydd:
Ti'r llanerch fud, darllennydd
Na fynnai saib o'th fewn sydd.

William Ellis! welai miloedd—ei wlad
Mo'i ledawl alluoedd;
Un dorrai i'r dyfnderoedd
Dwyfol â nerth diflin oedd.


William Ellis I fel milwr—Iesu Grist
Gwasgai raib y Twyllwr ;
A choron difalch arwr
Fry gadd ef, tr-agwedd wr.—(Alafon.)

(Traethodydd, 1897, t. 425. Cymru, 1910, t. 287. Drysorfa, 1895, t. 426. Llusern, 1895, Awst. Goleuad, 1895, Awst 14, t. 4).

Derbyniodd y Parch. W. J. Williams alwad yma, ac ymsefydlodd yn y lle yn 1899. (Llanfair pwll gwyngyll yn awr).

Y mae gan Mr. Pyrs Roberts atgofion am amryw eraill. Dynion. duwiol diamheuol oedd Robert Morris Dinas moch a Morris Parry Glan y gors, Dibriod oedd y ddau. Bu Robert Morris yn gwasanaethu am hir amser gydag Evan Pyrs Dinas moch. Bu unwaith ar fin ymadael am fod arno eisieu rhyw bunt yn chwaneg o gyflog am y tymor. Y wraig a hysbyswyd o hynny pan oedd y gwr oddicartref, a boddlonai hi iddo fyned, gan dybied nad ellsid ddim rhoi rhagor iddo. Nid oedd Evan Pyrs yn aelod eglwysig, er yn ddyn darllengar a selog, a phan glywodd ni fynnai sôn am ymadawiad Robert Morris. "Y mae'n well gen i roi mwy o lawer, Siani, na cholli Robin Morris, Y mae'n werth ei gadw er mwyn y ddyledswydd deuluaidd. Byddai'n chwith iawn ar yr aelwyd weled y ddyledswydd hebddo. Cofia, Siani, mai nid gwerth punt na dwy ydyw ei gael i gadw dyledswydd." A chyflogwyd ef ar unwaith. Dywedai un am dano, y buasai'n werth cerdded dwy filltir o ffordd i glywed Robert Morris yn gweddio. Ar brydiau byddai yn yr uchelderau o ran ei brofiad. Dyn hynod, hefyd, oedd Morris Parry. Ei hoff air pan wedi myned i'r hwyl oedd, "Arglwydd ein Hior." Ac wedi codi i'r pwynt hwn, tywalltai allan ffrydlif o hyawdledd a gorchfygai bawb. Pyrs Ifan oedd a dawn gwirioneddol hynod ganddo pan gaffai hwyl. Cyflawnder o eiriau heb wastraff. Dawn fel y môr. Digon cyffredin heb yr afael honno. Wedi bod yn hen greadur meddw iawn. Dynion da iawn oedd William ac Elieser, meibion Ellis Jones y Colwyn. Cododd nifer o ddynion cedyrn o ddiwygiad 1840. Y mae'n ymddangos ei fod yn anhawdd cael dosbarth o weddiwyr cyffelyb iddynt. Yn eu plith yr oedd William Williams Cwmcloch, Owen Evans Cwmcloch, Robert Williams Cae pompren. Y mae disgynyddion iddynt yma a thraw yn bregethwyr a blaenoriaid. Dynes hynod oedd Sian Ifan, y cafodd Gruffydd Prisiart ganddi ddeunydd ei gyngor ynghylch crefydd a rhaid ynddi. Cerddai yn ei chlocsiau, yn y gaeaf efo'i lantern a'i ffon. Hen greadures dal, het jim cro, sannau bach, glandeg iawn yr olwg arni,—pendefiges natur. Un o hen deulu Beddgelert ydoedd: chwaer i Pyrs Ifan y crydd. Lowri Parry, wedyn, gwraig y tŷ capel, wrth ei baglau, er yn ddynes hynod o gref. Yr oedd ei Hamen yn cynhesu eich calon. Hyddysg iawn yn Gurnal. Hen wniadrag ydoedd, a daeth Elin William ati i ddysgu gwnio. Dechreuodd Elin William gadw'r tŷ capel ar ei hol yn 18 oed. Hwy ddeuent fel colomenod i'w ffenestri,— Nansi Ifan, Alis William, Marged Roberts Ty'nllan; Doli Owen a Neli Robert a Nans William Tŷ gwyn; Marged Prichard, mam William Prichard Tŷ gwyn, gwraig gyson ; Sian William y Perthi, mam Daniel Williams blaenor, Porthmadoc, gwir dda, gwastad iawn, haelionnus, gweithgar gyda chrefydd; Als Griffith, a Marged Davies, mam Hywel Davies, yn hel yr addewidion ar wely angeu. Gofynnwn iddi, wrth ei gweled yn lledu ei breichiau allan, 'Be' ydych yn wneud?' 'Hel yr addewidion, wel di,' meddai hithau." Catrin Jones, gwraig gyntaf John Jones, yn grefyddol anghyffredin er yn ifanc. Gorfoleddai Richard Roberts Cae'rgors yn adeg ei chladdu. Pan wrthi yn ei phriddo, "Waeth i chwi un mymryn heb," meddai yntau; "bydd oddiyna ar ei hunion!"

Heblaw a goffheir gan Mr. Pyrs Roberts, ceir coffa yn y Drysorfa (1869, t. 315) am Robert Morus, a fu farw Mawrth 6, 1867, yn 73 oed, yn wr parchus, haelionnus, cyson yn y moddion, cyson ei fuchedd. Hefyd am Elizabeth Roberts, merch Hafod Lwyfog, gwraig John Roberts y blaenor, a fu farw Mai 10, 1887. Daeth at grefydd yn niwygiad 1840, ym Methania, a hithau yn 26 oed. Yn arfer cynildeb er mwyn bod yn elusengar. Ni adawai i ddim ei lluddias oddiwrth weddi ddirgel ar adeg benodol. Yn ffyddlon yn gyhoeddus. Yn meddu ar grefydd gyflawn; yn mwynhau cysuron yr Efengyl yn helaeth. Yn ystod y ddau ddiwrnod diweddaf o'i chystudd, yn arbennig, cawsai ddadleniadau neilltuol ar ogoniant Crist, a thorrai allan, megys pe gwelsai eraill y cyffelyb, Gogoneddus iawn, onite ?" (Drysorfa, 1887, t. 435).

Y mae Mr. D. Pritchard yn son am rai o hen athrawon y pentref. Rhowd ei gyfeiriad at Hywel Gruffydd yn yr Arweiniad, a chafwyd cyfeiriad ganddo at Richard Roberts Cae'rgors. Pyrs Ifan oedd athro'r A B C. Yn y naill gongl o'r sêt fawr yr oedd Pyrs Ifan yn gofalu am yr eginyn, ac yn y gongl arall ceid y dywysen addfed yn nosbarth Gruffydd Prisiart. Os camymddygid, fe afaelai Pyrs Ifan ym môn braich y troseddwr, gan ei gwasgu nes y tybid fod yr esgyrn yn clecian. [Dywedai William Wmffre wrth Carneddog y byddai Gruffydd Prisiart fel athro yn talu llawer o sylw i esboniadau, yr olrheiniai ramadeg y geiriau a'r gwreiddeiriau, ac y rhoe fwy o oleu ar adnod wrth ei darllen nag ambell un mewn hanner awr o draethu. Cymru XIX., 108, t. 28]. Robert Jones a fu'n arolygwr yr ysgol am flynyddoedd. Fe geryddai heb ddeilen ar ei dafod. Yn hoff o'r plant—"Fy mhlant bach, anwyl i!" Derbyniodd John Roberts Waterloo ei briodoledd amlycaf oddiwrth ei fam, Sian Ifan, canys dynes wrol, awdurdodol ydoedd hi. Yr oedd ef yn fwy o hanesydd ysgrythyrol nac o ddiwinydd. Yn arweinydd ym mhob man, efe a arweiniai y blaid oedd am Fwrdd Ysgol. Y pryd hwnnw fe ffyrnigodd un o amaethwyr pennaf y plwyf wrtho, "Mi sathra'i ar dy denyn di, machgen i," ebe'r amaethwr. "Camp iti, ni adawa'i monofo lusgo " Dosbarth lliosog o ferched oedd gan Rhys Jones. Yr oedd yn fedrus mewn dadl. Ei weithdy weithiau yn fath o ddosbarth, yn enwedig pan fyddai E. R. Evans y Dinas yn galw. Mwynhae Rhys Jones y dadleu yno yn fawr. John Jones Stryd yr eglwys a'i ddosbarth oedd glymedig yn ei gilydd fel yr iorwg. Brodor o Ddolyddelen, ac yn perthyn i deulu Dolyddelen. Efe oedd arweinydd hen gôr enwog Beddgelert. Ni feddai Ifan Dinas (Evan R. Evans) ddawn i gyfrannu gwybodaeth, er mai efe, feallai, oedd y mwyaf ei wybodaeth yn yr ardal. Yr oedd ganddo gasgl da o lyfrau, a gwnaeth ddeunydd da ohonynt. Llefarai buchedd William Pritchard Tŷ Emrys gyfrolau. Robert William Frondeg oedd un o ragorolion y gymdogaeth. Ymboenodd gyda thwrr o fechgyn direidus, a llwyddodd yn rhyfedd i'w dwyn dan drefn a dosbarth.

Ceid yn y seiat ar nos Sadwrn, unwaith yn y flwyddyn bob un, John Jones Talsarn a Dafydd Jones. Y mae gan Mr. Pyrs Roberts atgof am y naill a'r llall. "Pwy sydd yma i ddweyd gair?" ebe Dafydd Jones. "Elin Williams y Gwindy, beth sy ganddoch chwi?" "Gweld fy hun yn amherffaith iawn: gweld rhyw bwyth ar ol o hyd, a hynny er gochel hynny fedra'i rhag anghofio'r Brenin Mawr." "Mae'n dda gen i eich clywed yn dweyd," meddai Dafydd Jones, "Cofiwch hyn: fedrwchi ddim disgwyl bod yn berffaith, na bydd rhyw bwyth ar ol o hyd. Ond chwi gewch deimlo rhyw ddiwmod fod y pwyth olaf yn y wisg, ac â'r wisg yn gyflawn am danoch y cewch fynd i mewn i'wydd y Brenin." Yr oedd Elin William yn nain i Robert Griffith Dinbych, diweddar olygydd y Faner. Byddai John Jones yn dweyd pethau a fyddai'n synnu pawb. Ac yr oedd yn gallu tynnu eraill i ddweyd hefyd. Fe draethai un tro am drueni yr anuwiol mewn dull oedd yn synnu pawb. "Os ei di i uffern wedi mwynhau cymaint o fendithion y ddaear, y funud gyntaf yr ei di yno ti dorri dy galon am dragwyddoldeb. Pan weli furiau yr hen garchar wedi eu duo gan fwg poenau y damnedigion, ti dorri dy galon am dragwyddoldeb." Y mae gan y Parch. G. Tecwyn Parry atgof am Ddafydd Jones yn y seiat nos Sadwrn. Dyma fel y dywed (gan grynhoi): "'Rwyf yn cofio'r munud yma un tro rhyfedd iawn yn y seiat. 'Roedd Dafydd Jones yn agor y seiat, a phawb ohonom yn glust i gyd tra'r ydoedd yn siarad. Y nefoedd oedd y testyn; a rhoddai yntau'r ffrwyn i'w awen wrth ddisgrifio. 'Ti gei fynd am dro ochr yn ochr a'r angel, a bydd dy edyn mor gryfion a'r eiddo yntau. A thi gei weled gydag ef ryfeddodau diderfyn yr ymerodraeth fawr. Y mae yn Natur o'n cwmpas lawer o brydferthwch; ond y mae'r cyfan yn gwywo ymaith yn ymyl gogoniant y nefoedd, canys ynddi hi y mae'n Duw ni ar ei oreu.' Wedi'n codi oddiar y ddaear o ran ein meddyliau, fe eisteddodd i lawr. Cyn bron i Ddafydd Jones eistedd i lawr yn yr hen gadair fawr, yr oedd Gruffydd Prisiart ar ei draed, ac yn siarad yn arafaidd a phwyllog. "Prin yr wyf yn credu fod geiriau Mr. Jones yn wirioneddau y gellir ymddiried ynddynt. Ehediadau barddonol ydynt, ffrwyth dychymyg ei awen fywiog, ac nid gwirioneddau sefydlog. Y mae arnom ni angen rhywbeth amgen na dychmygion yn sail ein gobeithion, ac y mae'n beryglus i ni adeiladu ar ddim ond sy wirionedd.' Yr oedd y seraff adeiniog yn y gadair fawr yn gwingo yn anesmwyth. Ei gynhyrfu ef oedd yr amcan. Cyn i Gruffydd Prisiart eistedd yr oedd Mr. Jones ar ei draed, a gwedd angylaidd arno, a'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, 'Na, na, Gruffydd Prisiart, nid dychmygion oedd y syniadau a draethais am y nefoedd, ond gwirioneddau—realities—oedd y cyfan; ac nid oedd yr hyn a draethais ond eco gwanaidd o'r hyn ydynt mewn gwirionedd.' Ac er mor ardderchog ydoedd o'r blaen, yr oedd yn llawer mwy felly pan ail-ddechreuodd yn awr. Yr oedd dagrau Gruffydd Prisiart yn llifo, ac ymysgydwai fel corsen yn y gwynt. Yr oedd ef wedi cyrraedd ei amcan, a ni ac yntau wedi cael trêt nad anghofiwn yn y fuchedd hon. Bu'm yn ymddiddan âg ef am y tro wedi hynny, ac wylai wrth ei atgofio; a dywedai mai dyna'r ffordd i gael gwledd heb ei bath, ac y gwyddai hynny yn dda ar y pryd."

Y mae Carneddog yn dyfynnu Gwilym Eryri o'i Atgofion Bore Oes, am oddeutu 1851—6. "Trefn y moddion pan oeddwn blentyn oedd, cwrdd gweddi am ddeg, ysgol am ddau, a'r bregeth am chwech. Byddai'r pregethwyr ym Mheniel y bore, ym Methania am ddau, ac yn y pentref am chwech; ac os byddai un hwyliog, dilynid ef ar hyd y dydd. Llawer gwaith y gwelais yr hen gapel yn orlawn, ac ugeiniau yn y cowrt o'r tu allan. Ar adegau felly arferid agor y ffenestr er mwyn i'r rhai fyddai allan gael rhan o'r wledd. Ie, gwledd mewn gwirionedd fyddai gan yr hen bobl—yr Amen i'w chlywed o bob cwrr, ac nid rhyw Amen swta, ond llond calon a cheg o Amen . . . Fe gae pregethwr da, llefarwr hyglyw, gyda llais uchel a melodaidd, dderbyniad bendigedig ym Meddgelert yr adeg honno. Byddai y canu, hefyd, yn ardderchog o nefolaidd,—pawb yn canu—yr ysbryd yn aros gyda hwy—eu calonnau yn toddi o lawenydd a gorfoledd, a phawb yn slyrio ac yn treblu yr hen donau anwyl."

Rhif yr eglwys yn 1900, 196.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Beddgelert
ar Wicipedia

Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif o'r lle. Ysgrif Gruffydd Prisiart, a ysgrifennwyd yn 1863 a rhai blynyddoedd ymlaen. Diwygiadau Beddgelert (seiliedig ar ysgrif Gruffydd Prisiart), Llenor, 1895, t. 21—50. Diwygiad Beddgelert, Goleuad Cymru, 1823, t. 5, gan John Jones Glan Gwynant. Nodiadau ar Gruffydd Prisiart gan Glaslyn a'r Parch G. Tecwyn Parry (llawysgrifau). Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Hanes Beddgelert (sef nodiadau ar y tair eglwys), Drysorfa, 1890, t. 13. Atgofion Mr. Pyrs Roberts, a ysgrifennwyd gan y Parch. R. Pryse Ellis. Ymddiddan â Mr. Pyrs Roberts. Nodiadau y Parch. R. Pryse Ellis a Charneddog.