Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Cydlafurwyr Humphrey Davies Yn Nghorris

Oddi ar Wicidestun
Humphrey Davies, Abercorris Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Cynydd Methodistiaeth Yn Nghorris a'r Amgylchoedd

PENOD V

CYDLAFURWYR HUMPHREY DAVIES YN NGHORRIS

YN y benod hon gwneir ychydig grybwyllion am nifer o gydlafurwyr Humphrey Davies yn Nghorris. Buasai yn dda genym eu gwneuthur yn helaethach; ond y mae hyny yn anmhosibl, yn y lle cyntaf, oherwydd prinder gofod, ac yn y lle nesaf, oherwydd yr anhawsder, bellach, i gael gafael ar hysbysrwydd cywir gyda golwg arnynt. Yr ydym yn gadael dau o honynt o'r neilldu er mwyn gwneuthur crybwyllion llawnach am danynt mewn penodau dilynol, sef Morris Jones a Rowland Evans. Yr oedd yn Nghorris, yn cydlafurio a H. D. nifer o frodyr eraill yn gystal ag amryw chwiorydd, heb fod wedi cyraedd y safle oedd iddo ef, ond er hyny yn gymeriadau tra dyddorol, y rhai y byddai yn resyn caniatau iw henwau ddisgyn i dir anghof.

Yr oedd amryw o'r brodyr hyn yn flaenoriaid. Un o honynt ydoedd Richard Owen, Ceiswyn. Mab ydoedd efe i Owen Morgan, Ymwlch, gerllaw Harlech. Enw ei fam ydoedd Jane Richards, chwaer i dad y diweddar Barchedig Richard Humphreys, o'r Dyffryn; yr hon a fu ar un adeg yn cadw tŷ ei brawd. Bu Owen Morgan farw yn Ymwlch. Buasai ef ai briod yn byw yn Tyntwll, Dyffryn, cyn eu mynediad i Ymwlch, a dychwelodd ei weddw ar ol ei farwolaeth ef i Egryn. Bu iddynt saith o blant, pedwar o feibion a thair o ferched. Enwau y meibion oedd William, Morgan, Richard, ac Edward; ac enwau y merched oedd Mary, Gwen, a Jane. Y Morgan uchod a ddaeth wedi hyny yn dra adnabyddus fel Morgan Owen, y Glyn, Talsarnau; ac y mae ei ddisgynyddion yn awr yn gyfran bwysig o'r Cyfundeb Methodistaidd mewn llawer o ardaloedd. Mary ydoedd mam gwraig y diweddar Barchedig Robert Ellis, o'r Ysgoldy; Gwen ydoedd priod y diweddar Gadben G. Griffiths, o'r Abermaw, a Jane ydoedd mam Mr. Davies, Maes-glas, ger Treffynon, a Mrs. Thomas Owen, Porthmadog.

Cafodd Richard fwy o fanteision addysg na'r cyffredin o'i gyfoedion yn yr oes hono; canys bu mewn lle yn Sir yr Amwythig am beth amser yn yr ysgol. Wedi ei ddychweliad oddiyno digwyddodd fod Mr. Charles o'r Bala yn pregethu yn Harlech, brydnhawn dydd gwaith. Yr oedd gydag ef y tro hwnw y diweddar Barchedig Rowland Hill, ac am fod Richard yn medru Saesneg, anfonwyd ef i ddanfon Mr. Charles a Mr. Hill, trwy y Rhyd, ac i'r Abermaw. Cymerodd y ddau ŵr da hamdden i ymdrochi yn y môr, tra y gofalai yntau am eu ceffylau. Cynygiodd Mr. Hill, y pryd hwnw chwilio am le iddo yn Llundain os teimlai awydd myned yno. Ar y pryd nid oedd ynddo unrhyw ogwydd at fyned oddi cartref; ond tybiodd lawer gwaith wedi hyny iddo wneuthur camgymeriad difrifol na buasai yn derbyn caredigrwydd Mr. Hill.

Cafodd ef ar plant oll eu dwyn i fyny yn grefyddol; ond ymddengys ei fod, pan yn llencyn lled ieuanc, yn llawn direidi, ac mewn perygl o gymeryd camgyfeiriad. Dywedwyd wrth ei fam gan y gŵr a ofalai am Gastell Harlech, ei fod ef a nifer o'i gyfoedion yn arfer myned yno ar brydnhawn Sabbothau i chwareu amrywiol gampau. Yr oedd y gwr yn awyddus am iw enw ef gael ei gadw yn ddirgel. Y Sabbath canlynol aeth mam Richard yno; a phan y gwelodd un o'r cwmni hi yn agosau, aeth braw i fynwes pob un o honynt; ac wrth geisio dianc rhagddi neidiodd Richard o'r fath uchder fel yr oedd yn syndod na buasai wedi derbyn niwed difrifol. Bu yr ymweliad hwn yn derfyn ar yr ymgasglu i'r Castell ar y Sabbothau o hyny allan; yr hyn a ddengys yn bur eglur mai nid gwraig gyffredin oedd mam y teulu sydd yn ei holl ganghenau hyd heddyw yn llanw safleoedd mor barchus yn gymdeithasol a chrefyddol.

Wedi dyfod i Geiswyn, bu Richard Owen yn gaffaeliad pwysig i'r achos yn Nghorris. Gŵr call, craffus, ydoedd; a bu yn hynod ffyddlawn er fod ganddo yn agos i bum milldir o ffordd o'i gartref i'r capel. Yn ei ddyddiau ef nid oedd capel wedi ei adeiladu yn Aberllefenni. Yr oedd ei amgylchiadau yn gysurus, ai gymeriad yn uchel ymysg yr ardalwyr. Byddai yn cael llawer o fwynhad wrth sylwi ar neillduolion ei gyd—swyddogion. Daeth ei ddisgrifiad o H. Davies a R. Evans yn cadw society yn dra adnabyddus; a theimlai pawb a'u hadwaenent nas gallesid cael ei gywirach. Dyna ddyn yn y gors. Cynllun R. E. ydyw myned yno ato i glywed ei brofiad, i gydymdeimlo ag ef, ac iw gysuro: ond cynllun H D. ydyw sefyll ar y lan a gweiddi arno. Dyna gareg yn dy ymyl, dyro dy droed arni, a thyrd oddi yna. Mae coffadwriaeth Richard Owen yn barchus hyd heddyw yn nghalonau yr ychydig sydd yn ei gofio yn swyddog yn eglwys Corris. Ymadawodd o'r gymydogaeth yn gymharol gynar yn ei oes, ond parhaodd yn ffyddlawn i achos crefydd hyd y diwedd. Bu yn briod ddwy waith. Mae rhai o'i blant o'r wraig gyntaf yn fyw eto yn yr America; ac y mae tri o'i blant o'r ail wraig yn fyw yn Machynlleth. Un o honynt ydyw Mr. Richard Owen, Timber Merchant.

Un arall o gyd-flaenoriaid H. D. ydoedd William Jones Tan-yr-allt, yr hwn, y gwelwyd mewn penod flaenorol, oedd hefyd yn frawd yn nghyfraith iddo. Brodor ydoedd ef o Lanllyfni, yn Swydd Gaernarfon. Daeth i Gorris yn ddyn ieuanc; ac yno yr ymunodd âg eglwys Dduw. Bu am flynyddoedd yn oruchwyliwr ar chwarel Aberllefenni; a pharhaodd mewn cysylltiad a'r chwarel mewn swydd israddol wedi rhoddi heibio o hono ei hun yr oruchwyliaeth. Yr elfenau mwyaf amlwg yn ei gymeriad oeddynt ei onestrwydd ai ddiniweidrwydd. Am dano ef y dywedai John Richard: Dwn i ddim beth iw feddwl o hono; mae rhyw berffeithrwydd creadigol yn perthyn iddo nad ydyw iw gael mewn dynion yn gyffredin. Yn ei oruchwyliaeth yr oedd ei uniondeb a'i onestrwydd yn adnabyddus i bawb, er nad ydym yn tybio iddo ef ei hun erioed feddwl am udganu hyny o'i flaen; ac yr oedd ei ymarweddiad bob amser yn gwbl ddiargyhoedd. Nid oedd ei alluoedd yn fawrion; ond yr oedd o deimladau hynod fywiog. Ychydig o le a gymerai yn ngwaith cyhoeddus yr eglwys; ond llanwai ddwy swydd ynddi i berffeithrwydd. Efe fu ei thrysorydd am lawer o flynyddoedd; ac efe hefyd a ofalai am yr amser yn y gwahanol gyfarfodydd. Yn y cyfarfod eglwysig byddai yn hynod fanwl gyda hyn. Mynai ddechreu mewn amser priodol, a mynai ddiweddu hefyd yr un modd. Nid oedd o un gwahaniaeth pwy fyddai yn siarad pan ddeuai amser diweddu i fyny, byddai W. J. ar unwaith ar ei draed, yn rhoddi penill allan iw ganu. Un o'i hoff benillion ydoedd :—

Mae cwmni r saint yn hyn o fyd,
Yn bleser mawr i ni o hyd;
Ond yn y tragwyddoldeb pell,
Bydd eu cymdeithas lawer gwell.

Dyma yn ddiau ydoedd ei brofiad. Cafodd fyw i oedran teg; a threuliodd brydnawn—ddydd ei fywyd yn hynod gysurus. Fel yr hysbyswyd eisoes, y mae yn aros eto ddau o feibion iddo, a thair o ferched; ac y mae eu teuluoedd, eu plant, a'u hwyrion, erbyn hyn yn lliosog. Wyr i W. J. ydyw y Parchedig William S. Jones, B.A, gweinidog yr eglwys Fethodistaidd Saesneg yn Llanidloes. Nid oes amheuaeth yn meddwl neb ai hadwaenai nad oedd W. J. yn Gristion trwyadl; a phan y bu farw, teimlai pawb nad oedd yn gymwys i un man ond y nefoedd!

Un arall o flaenoriaid Corris a haedda goffâd parchus ydoedd William Richard, Tŷ'r capel. Ganwyd ef yn y Dunant, Llan y Mawddwy, yn Mai 1795; a bedyddiwyd ef yn Eglwys y plwyf ar y 24ain o'r un mis. Wedi tyfu i fyny daeth i wasanaethu i Lwydiarth, Aberllefenni; a thra yno ymbriododd â Mary Ellis, o Groesor, ger Llanfrothen, yr hon oedd ar y pryd yn aros gyda'i llysdad yn Ngheiswyn. Wedi priodi aethant ill dau i fyw i Tynymaes, Ystradgwyn; ac yn eglwys yr Ystradgwyn y dewiswyd ef yn flaenor eglwysig. O Tynymaes symudodd i Tynrhelyg, Corris; ond parhaodd am ryw yspaid o amser wedi hyny heb dori ei gysylltiad ag eglwys yr Ystradgwyn. Yn 1830 cafodd ei ddewis yn flaenor yn Nghorris, a bu yn hynod ffyddlawn yno o hyny hyd ei farwolaeth, Mehefin 21, 1861.

Y nodwedd fwyaf amlwg ac adnabyddus ynddo ef ydoedd ei lymder yn erbyn pechod. Teimlai eiddigedd dwfn dros anrhydedd crefydd a phurdeb y ddisgyblaeth eglwysig; ac i'r cyffredin yr oedd ei eiddigedd yn fwy amlwg nai fwyneidd-dra; ond yr oedd yn bell iawn o fod yn ddyn chwerw ei ysbryd neu surllyd ei dymer. Yr oedd yn hoff o blant, a phlant yn hoff o hono yntau; dyn serchog mewn gwirionedd ydoedd. Ond yr oedd yn gâs gan ei enaid bechod; ac nid oedd neb ai hadwaenai heb wybod hyny. Yr oedd yn ŵr o amgyffredion cryfion, o feddwl craffus, a gwreiddiol, ac yn fedrus at ddarparu ymborth iachus i'r praidd; ac ystyrid yn wastad ei sylwadau yn y cyfarfod eglwysig o'r gwerth mwyaf. Bu yn wyliwr effro ar furiau Sïon, a chododd ganllawiau gwerthfawr lawer adeg trwy ei gynghorion i gadw ieuenctyd y gymydogaeth rhag syrthio dros y dibyn i lawer o arferion pechadurus. Yr oedd o ddoniau helaethach na'r cyffredin; ac nid anfynych y gelwid arno i wasanaethu mewn claddedigaethau. Nid llawer oedd yn bresenol yn nghladdedigaeth Hannah Davies, Abercorris, ac ychydig o'r rhai oeddynt sydd yn awr yn fyw; ond nid anghofiwyd byth y gwasanaeth gan neb oedd yno, ac yn enwedig ei bwyslais ar y geiriau, "Am hyny byddwch chwithau". "Fel yna," meddai, "y mae y gair yn dyfod atom heddyw oddiwrth ein hanwyl chwaer, 'byddwch chwithau barod' ; lwc fawr i mi oedd fy mod yn barod fy hun."

Yn ei flynyddoedd diweddaf, dioddefodd gystudd maith a nychlyd; ond gwellhaodd drachefn i'r fath raddau fel ag i fod yn alluog am ychydig amser i ail ymaflyd yn ei alwedigaeth Nid oedd y gwellhad, pa fodd bynag, ond dros amser byr; a chymerwyd ef ymaith yn 66 mlwydd oed. Yn ei farwolaeth, temlai yr holl ardal ei bod wedi colli un o'r dynion duwiolaf a gonestaf a fu ynddi erioed. Bu iddo ef ai briod dri o blant, y rhai sydd yn aros hyd heddyw, sef Mr. Richard Williams, yr hwn sydd yn un o flaenoriaid eglwys Nassau Street, Llundain; Mr. Howell Williams. yr hwn sydd yn un o flaenoriaid yr eglwys yn West Bangor, Pennsylvania, Unol Daleithiau yr America; a Mary Williams, yr hon sydd yn byw eto yn Nghorris.

Blaenor arall y rhaid ei grybwyll ydyw OWEN JONES, Penybont. Brodor o'r Waunfawr, Sir Gaernarfon, oedd ef; ond symudodd i Gorris yn lled ieuanc. Bu yn byw Mewn amryw fanau, megis Cefnbyriaeth, Aberangell, a Thy Capel, Aberllefenni; ond ymsefydlodd drachefn yn Nghorris, ac yno y treuliodd ei flynyddoedd diweddaf. Merch ydoedd ei wraig i'r hen flaenor adnabyddus David Jones, Llanwrin, tad y blaenor diweddar o'r un enw yn yr un lle. Dygasant ill dau i fyny deulu lliosog. Mae amryw ou blant wedi meirw, ac eraill yn aros hyd heddyw. Un o'r rhai hyn ydyw y Parchedig David Jones, yn ddiweddar o Lanfairtalhaiarn, ond yn awr o Lanllyfni. O alluoedd, meddyliol cryfion ydoedd, ac ymadroddwr dawnus a rhwydd. Ar nos Sabbath, byddai ei sylwadau yn fynych yn rhagorol. Cymerai afael mewn rhyw sylw yn y bregeth a draddodasid, a defnyddiai hwnw fel testyn i adeiladu arno anerchiad a fyddai ar adegau yn wir werthfawr. Un tro, yr oedd dau gyfaill yn gwrando pregeth led wag a diafael; a thra yr oedd y gynulleidfa yn ymwasgar, gofynai y naill i'r llall, Beth yn y byd geith O. J. yn y bregeth yna i gymeryd gafael ynddo a mawr oedd pryder y ddau gyfaill am ei weled yn cyfodi. O'r diwedd, wele O. J. i fyny, ac fel arferol yn rhoddi ei ysgwydd aswy ar ochr y pulpud, ar gair cyntaf a ddywedodd, gyda'i lais lleddf, ydoedd, Yr oeddwn i yn meddwl am destyn y gŵr ieuainc yma heno. Anhawdd oedd i'r ddau gyfaill erbyn hyn ymgadw rhag gwenu; ond cafwyd anerchiad a fuasai yn gyfoethogiad gwerthfawr i'r bregeth erbyn ei thraddodiad ai adeg ddilynol, os bu y pregethwr yn ddigon doeth i gymeryd mantais ar y cyfleusdra. Mae O. J. bellach wedi myned drosodd at y mwyafrif ers llawer o flynyddoedd.

Yr oedd y rhai hyn oll fel y gwelir yn flaenoriaid; ond yr oedd yn Nghorris amryw gymeriadau eraill y tu allan i'r swyddogaeth y dymunem wneuthur crybwylliad parchus am danynt. Un o'r rhai hyn yw Hugh Humphrey, y Pentre, tad Humphrey Hughes, Pandy, Dafydd Humphrey, Aberllefenni, a John Humphrey, West Bangor, y rhai ydym oll bellach, oddieithr y diweddaf, fel yntau wedi huno. Gallwn gofio H. H. yn dechreu yr Ysgol unwaith. Yr hyn a argraffodd yr amgylchiad ar ein côf ydoedd i ni dybio mai ei frawd Dafydd Humphreys, y Pandy, ydoedd. Hen ŵr ffyddlon ydoedd ef; a hen chwaer grefyddol iawn oedd ei wraig,—Pali'r Pentre, yn ol yr enw cyffredin arni; yr hon a fu byw am lawer o flynyddoedd ar ei ol. H. H. oedd yr aelod hynaf o'r eglwys yn Rehoboth am rai blynyddoedd tua'r adeg gyntaf y gallwn ni ei chofio, a byddai bob amser yn eistedd yn nghongl y sêdd fawr ar y llaw ddeiau i'r pulpud. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at y gwasanaeth a wnaeth ei ffon yn llaw H. Davies er sicrhau gweddusrwydd yn yr addoliad. Ar ddydd ei gladdedigaeth ef y taflwyd yr holl ardal i gyffro dirfawr trwy i rywun ganfod corff hen wraig a adnabyddid fel Megan, Maesmachreth, yn y llyn yn Hen Gloddfa y Fronfelen.

Un arall a fyddai yn gyson yn y sêdd fawr am rai blynyddoedd ar ol H. H. ydoedd EVAN WILLIAMS, Llainygroes. Gŵr ffyddlawn oedd yntau er ei fod yn wastad yn hynod ddistaw. Mae un mab iddo, o'r un enw ag yntau, yn un o flaenoriaid yn eglwys yn Rehoboth yn bresenol. Mae hefyd un ferch iddo yn byw yn Nghorris, Elinor Whittington; ac y mae ei ddisgynyddion yn lliosog yn Nghorris ac yn yr America.

Gŵr a haeddai goffâd parchus ydyw yr hen athraw anwyl LEWIS THOMAS, Castell. Athraw y plant bach oedd efe. Dysgodd y wyddor i ugeiniau lawer o fechgyn yn Rehoboth, Yr ydym yn cofio yn dda yr adeg y gadawsom ei ddosbarth am ddosbarth uwch; ac yn cofio wedi hyny erfyn ar yr arolygwr am gael dychwelyd ato oherwydd iddo ddywedyd ei fod wedi digio wrthym am ei adael. Addfwyn, tyner, a thra charedig ydoedd ef; ac un a hoffid yn fawr gan yr holl gymydogaeth. Mae llawer o fechgyn a fagwyd yn Nghorris, ond sydd wedi eu gwasgaru erbyn hyn i wahanol ranau y byd, dan ddyled fawr iddo am eu cychwyniad cyntaf yn yr Ysgol Sabbothol. Merch iddo ef ydyw Mrs. Anne Lumley, sydd eto yn fyw, yn Nghorris,

Tra yr oedd L. T. yn dysgu y bechgyn, yr oedd hen frawd arall, yr un mor ffyddlon, yn dysgu y genethod, sef Gruffydd Ifan, Tynycae. Gwehydd ydoedd ef wrth ei alwedigaeth a thra chyffredin oeddynt ei amgylchiadau; ond yr oedd rhyw fath o wreiddioldeb tra dymunol yn perthyn iddo. Yn adeg y diwygiad yn 1859—60, wedi cyfarfod hynod o hwyliog, galwyd arno i fyned i weddi. Disgynodd ar ei liniau ar unwaith, a'i eiriau cyntaf oeddynt :—Diolch i ti, O Arglwydd mawr, am ei bod hi yn farchnad go sharp yma heno. Hen gymeriad tra gwreiddiol hefyd oedd Aels (Alice), ei wraig. Hynod ffwdanus fyddai yr hen chwaer yn wastad; ac anfynych y byddai yn gweled dechreu unrhyw gyfarfod; o leiaf, anfynych y byddai yn myned i unrhyw gyfarfod ond ar drot. Ond er ei holl ffwdan, nid oedd yn perthyn i'r eglwys neb yn fwy cyson yn y moddion, na neb yn fwy sicr o fwynhad ynddynt. Ar adegau ceid ganddi yn y cyfarfod eglwysig brofiadau lled wreiddiol. Un nos Sadwrn, pan yr oedd yr hen bregethwr Mr. Williams, Drefnewydd (os ydym yn iawn—gofio), yn cadw y society, daeth at Aels am ei phrofiad. Ychydig a ddywedai ac felly dechreuodd yr hen bregethwr ei holi pryd y cymerodd yr ymddiddan canlynol le :—"A fydd arnoch chwi ofn uffern"?

"Na fydd ama i."
"Sut felly?"
"Ni bydda i yn meddwl fawr iawn ynghylch uffern."
"O, sut y byddwch chwi yn gwneyd ynte?"
"Treio byw i ryngu bodd y Gŵr y bydda i; a gadael iddo fo fy rhoi i yn y man y myno fo yn y diwedd".

Ac erioed ni adroddodd neb ei phrofiad yn fwy gonest na'r hen chwaer hon y tro hwn.

Symudodd y ddau hen bererin gwreiddiol i dreulio diwedd eu hoes mewn lle gerllaw Aberdyfi; ond y maent wedi cyraedd adref ers blynyddoedd bellach.

Mae yn hyfryd genym dalu y deyrnged fechan hon i goffadwriaeth y ddau hen frawd,—y ddau hen dâd hyn, fuont am gynifer o flynyddoedd yn athrawon mor ffyddlon ar ddosbarthiadau y plant bach. Digon tebyg na, feddyliodd neb erioed am gyflwyno diolchgarwch iddynt gymaint ag unwaith yn eu hoes mewn cyfarfod athrawon; ond y maent wedi derbyn yn ddïos erbyn hyn gyfarchiad caredig y Barnwr, "Da, was da a ffyddlon; buost ffyddlawn ar ychydig; mi ath osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dŷ yr Arglwydd". A thra y maent hwy yn mwynhau y llawenydd yn y nef, bydded eu henwau byth mewn coffadwriaeth bendigedig ar y ddaear.

Gŵr tra ffyddlawn oedd Abraham Edward, y Geuwern; ac un a ystyrid yn rhagori ar y rhan fwyaf mewn gwybodaeth a dawn. Ymysg y plant yn enwedig yr oedd yn dra phoblogaidd, am mai efe yn gyffredin a fyddai yn neidio i'r adwy, ac yn eiriol drostynt, pan y bygythid cerydd arnynt am eu camymddygiadau. Yr ydym yn cofio yn dda y modd y siriolwyd ein meddwl ein hunain un tro, pan y cododd A. E. ar ôl araith geryddol a bygythiol iawn gan un o'r blaenoriaid, ac y dywed—odd :—Wel, mi â i yn feichiau drostyn nhw unwaith eto, na byddan nhw ddim yn blant drwg ar ol hyn; ond cofiwch chithau, fy mhlant i, nad â i ddim yn feichiau drosoch chi ar o'l y tro yma. Trwy ei eiriolaeth ef cafwyd arbediad am y tro.

Carasem enwi amryw eraill, megis William Evans yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel arweinydd y canu; Humphrey Hughes, y Pandy; John Hughes, Rhognant; ac eraill, ynghyd ag amryw o hen chwiorydd tra theilwng; ond rhaid ymgadw rhag gormod meithder. Oddiwrth yr ychydig grybwyllion a roddwyd mae yn hawdd gweled fod yn y gymydogaeth yn gyd oeswyr ag Humphrey Davies lawer o gymeriadau gwir ddyddorol; a da iawn fyddai casglu ynghyd cyn eu colli am byth yr adgofion am danynt sydd eto yn aros yn wasgaredig ar hyd y gymydogaeth.

Rhan o'u hoes yn unig a dreuliwyd gan y pregethwyr, y crybwyllwyd eu henwan yn flaenorol, yn Nghorris. Nid ydym ein hunain yn cofio y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ar diweddar Mr. Thomas Williams, Dyffryn, yno. Yn Nghorris y dechreuodd y cyntaf bregethu, a thorodd allan yn bregethwr hwyliog a dylanwadol iawn yn nghychwyniad ei yrfa. Bu ei lafur yn Nghorris ac Aberllefenni o werth mawr, yn enwedig gyda'r Achos Dirwestol; ac un o'r pethau mwyaf tarawiadol y gallwn ni ei gofio yn ein hoes ydoedd ei araith mewn Gwyl Ddirwestol, ymhen blynyddoedd wedi iddo adael y gymydogaeth. Nid ydym yn cofio gweled mwy o wylo mewn cynulleidfa erioed. Ychydig iawn sydd yn aros o'i hen gyfeillion; ond y mae ei enw yn anwyl hyd heddyw yn meddyliau llawer nad ydynt eu hunaian yn ei gofio. Hunodd yn yr Iesu, Rhagfyr 31, 1884; ac y mae ei goffadwriaeth yn beraroglaidd yn Bethesda a holl ardaloedd Arfon.

Fel ysgolfeistr y bu Mr. Thomas Williams yn aros yn Nghorris am ychydig amser. Yr unig gôf sydd genym am dano ydyw ar ei ymweliadau â'r ardal i bregethu ar ol ymadael i'r Dyffryn; ond derbyniasom oddiwrth ein rhieni syniad tra pharchus am dano, a chofiwn yn dda am ei serchogrwydd tuag atom yn y Tynewydd, yn ystod ei ymweliadau. Mae yntau wedi huno ers llawer o flynyddoedd.

Yn llawer diweddarach, sef tua 1854 neu 1855 y daeth y Parchedig Ebenezer Jones i'r gymydogaeth, ac yntau hefyd i gadw ysgol ddyddiol. Bylchiog iawn fu yr ysgol am lawer o flynyddoedd oedd. Wedi dyddiau Lewis William yr hwn oedd yn Nghorris yn 1799, neu 1800, nid ydym yn gwybod am neb arall a fu yn ei chadw o flaen Mr. Daniel Evans, oddieithr un o'r enw Hugh Roberts, o Lanfachreth, yr hwn y clywsom oedd yn hen ffarmwr wedi ei droi o'i ffarm gan Syr Robert Vaughan oherwydd ei Ymneillduaeth, a fu yno am ryw ysbaid: ond pa adeg, ni dderbyniasom hysbysrwydd. Dilynwyd D. E. ganlyniadau Mr. Thomas Williams; a dilynwyd yntau gan Mr. John Roberts, wedi hyny o'r Ceinewydd, mab Robert a Jane Roberts, Garleg-lwyd. Y Jane Roberts hon fu yn byw yn y Shop Newydd wedi hyny ac y cyfeiriwyd ati mewn penod flaenorol. Wedi ei ymadawiad ef, yr hyn oedd golled fawr i'r gymydogaeth, bu dau wr ieuanc a fuasent yn yr ysgol gydag ef yn gwneuthur yr hyn a allent i lanw ei le, sef Thomas Humphrey, mab Dafydd a Jane Humphrey, Aberllefenni a William Parry, mab John ac Anne Parry, Aberllefenni. Gyda'r cyntaf o'r ddau hyn y cawsom ni y fraint o ddysgu y Wyddor yn yr iaith Saesneg. Yna, yn 1850, agorwyd yr ysgoldy yn y Garnedd Wen; ac o'r pryd hwnw hyd yn awr ni adawyd y gymydogaeth heb fanteision addysg. Yr ysgolfeistr cyntaf yno oedd gwr ieuanc o Sais, o'r enw Thomas Nicholas. Eglwyswr oedd ef, a chododd lawer o helynt trwy geisio gwthio ar y plant Gatecism Eglwys Loegr. Byddai gweinidog y plwyf, y Parchedig Robert Ellis Pring, yn talu ymweliadau mynych â'r ysgol yn ei ddyddiau ef. Nid oedd ond ieuanc, a chofiwn yn dda un tro i'r plant mwyaf gyfodi yn ei erbyn, ac i'r gwrthryfel esgor ar ganlyniadau tra annymunol. Caredigrwydd i'r ysgol oedd ei ymadawiad.

Dilynwyd ef gan un o'r enw Thomas Williams ond y mae ein maddeugarwch Cristionogol yn rhy fyr i ganiatau i ni ymhelaethu ar helyntion ei ddyddiau ef. Wedi iddo ymadael, daeth y Parchedig Ebenezer Jones i'r gymydogaeth. Bu am rai blynyddau yn gwasanaethu fel ysgolfeistr; ond ymryddhaodd wedi hyny oddiwrth yr ysgol, ac ymsefydlodd yn yr ardal fel masnachhwr. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi, a brawd i'r diweddar Barchedig Evan Jones, Ceinewydd. Digwyddodd rhai pethau anghysurus cyn ei ymadawiad o'r gymydogaeth; a thra ystormus fu arno wedi hyny yn Abergynolwyn. Yn y cynwrf yno ymadawodd â'r Methodistiaid, ac ymunodd â'r Annibynwyr; a chyda hwy y bu yn weinidog (er na roddodd i fyny ei fasnach o gwbl i gymeryd gofal eglwys) hyd ddiwedd ei oes. Gorfodwyd ni lawer gwaith i demilo gofid oherwydd rhyw bethau a wneid ganddo, ond ni chollasom i'r diwedd y gwir barch iddo ar serch calon tuag ato â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei addysgiaeth. Yr ydym yn teimlo parch calon iw goffadwriaeth; a hyfryd ydyw genym ddwyn ein tystiolaeth iw ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris ar amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc, a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na byddai efe yn gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr adnodau ol a blaen iddi, fel y rhoddai baich mewn mantais i gael gafael ar ei hystyr. Wrth dderbyn rhai ieuainc at Fwrdd yr Arglwydd yr oedd yn rhagorol. A chyflawnodd lawer o wasanaeth am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Efe am flynyddoedd oedd a wasanaethai ymhob claddedigaeth; ac nid anfynych y byddai ar yr adegau hyny yn cael y fraint o roddi yn rhad. Am yr ystormydd y bu ynddynt nid ydym yn dymuno dweyd gair. Mae efe a'i briod yn gorwedd bellach ers amser yn mynwent Abergynolwyn. Ac y maent wedi eu dilyn hefyd gan eu hunig ferch, Mary Ann, fel nad oes yn aros yn awr ond eu hunig fab, yr hwn a enwir yntau ar enw ei dad, ac sydd yn parhau i ddwyn ymlaen y fasnach yn Abergynolwyn.

Pregethwr arall a cafwyd ydoedd Mr. David Davies, Geuwern. Daeth ef i'r ardal o Danygrisiau, i fod yn oruchwyliwr ar chwarelau y Geuwern. Brodor ydoedd o Bethesda, yn Arfon. Bu yntau yn gymeradwy a defnyddiol am y tymor y bu yn y gymydogaeth. Cymerwyd ef ai briod ai fab hynaf ymaith gan dwymyn boeth. Mae y plant eraill yn aros hyd heddyw. Brawd iddo ydyw Mr. John Davies, Aberllefenni.

Ond yr hwn a dreuliodd fwyaf o flynyddoedd yn Nghorris, ar hwn y rhaid rhoddi y nodiad helaethaf am dano yn ddiau ydoedd Mr. Hugh Roberts. Ganwyd ef Awst 24ain, 1810, mewn lle a elwid Incline y Dinas, rhwng Bethesda a Bangor. Bu ei rieni, Owen a Charlotte Roberts, yn byw yn y lle hwnw o adeg eu priodas hyd eu gwahaniad gan angau; ac yr oeddynt ill dau yn Eglwyswyr zelog. Ychydig o fanteision addysg a gafodd eu mab Hugh. Bu yn yr ysgol am bythefnos; ond arweinwyd ef gan nwyfiant ei natur dros y terfynau a ganiateid gan yr ysgolfeistr, a cheryddwyd ef am hyny yn ol eithaf llymder disgyblaeth yr amseroedd. Diangodd o'r ysgol, gau addunedu talu y pwyth pan y deuai yn ddigon cryf ; ac ymddengys mai ymostyngiad y troseddwr ai cadwodd rhag cyflawni yr adduned. Pa fodd bynag, ni welwyd ef yn yr ysgol mwyach. Cyn bod yn fwy na saith neu wyth mlwydd oed, dechreuodd weithio yn y Chwarel Fawr; ac yno yr arhosodd nes oedd oddeutu 23 mlwydd oed, pryd y symudodd i Gorris. Yr oedd hyn yn 1833. Gweithiai ar y cyntaf yn chwarel Aberllefenni a llettyai yn Tanyrallt, Corris. Ymhell oddeutu blwyddyn ymbriododd â Jane Evans, merch i James Evans, Tynllechwedd; yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel prif golofnau yr achos Wesleyaidd yn y Capel Bach. Ganwyd iddynt wyth o blant, pedwar o feibion, a phedair o ferched, o ba rai y mae pump yn awr yn fyw.

Ymddengys y byddai Hugh Roberts, pan yn lled ieuanc, yn arfer myned i Ysgol Sabbothol a berthynai i'r Annibynwyr ac mewn cydffurfiad âg arferiad cyffredin yn y lle, rhoddodd allan iw ganu ar ganol yr ysgol un Sabbath, y penill canlynol

Llefwch genhadon Duw o hyd,
O wele waed adeliawdwr byd
Cymhellwch baich ddod ato fe,
Mae r Iesu'n dweyd fod eto le.

Anghymeradwyiwyd y penill ar unwaith fel yn sawru yn rhy gryf o Arminiaeth. Teimlai yn siomedig, ac adroddodd wrth ei dad yr hyn a ddigwyddasai. Wel, meddai ei dad, ond penill Wesla ydi hwna. Wedi clywed hyn, tueddwyd ef gan ei gariad at y penill i fyned i gapel y Wesleyaid yn Tyn-y-clawdd, Trergarth. Cyn hir, ymunodd â'r eglwys yn y lle hwnw, a daeth i fod yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, gan fod yn hynod ffyddlawn a llafurus nes oedd oddeutu un mlwydd ar hugain oed. Tua'r adeg hono, trwy ryw amgylchiadau, aeth yn ddifater; ac ymollyngodd i ymwneyd â'r diodydd meddwol. Yn fachgen gwyllt y daeth i Gorris, ac felly y parhaodd hyd ddyfodiad dirwest i'r gymydogaeth. Dywedir wrthym iddo ymuno â'r gymdeithas hono ar noson ei ffurfiad; ac mai ei enw ef oedd y pedwerydd ar y llyfr. Credwn y rhaid fod yn Aberllefenni; ryw lyfr y cafwyd enwau ynddo cyn sefydliad ffurfiol y gymdeithas yn Nghorris ac mai dyna yr unig ffordd i gysoni y gwahanol adroddiadau am y rhestr gyntaf o ddirwestwyr yn y gymydogaeth. Ymddengys hefyd mai efe oedd y cyntaf i siarad yn gyhoeddus ar Ddirwest yn Nghorris. Dyma ei dystiolaeth ef ei hun; ac nid ydym wedi clywed dim yn wrthwynebol iddi. Ond y mae yn gwbl sicr er hyny mai ar Morris Jones, y pregethwr, fel y gelwid ef, y rhaid edrych fel tad yr achos Dirwestol yn yr ardaloedd hyn.

Tua'r adeg y cychwynodd Dirwest, aeth Hugh Roberts ai briod i wrando pregeth gan ŵr dieithr yn Llwyngwern, a chafodd y gwirionedd y tro hwn y fath effaith ar ei feddwl, fel mai gydag anhawsder y gallodd gerdded adref. O hyny allan bu yn ddyn newydd. Ymunodd ar unwaith â'r Wesleyaid yn y Capel Bach ; ac nid hir y bu heb gael ei wneuthur yn un o flaenoriaid yr eglwys yn y lle. Tua'r flwyddyn 1841 anogwyd ef mewn Cyfarfod Chwarterol yn Machynlleth i ddechreu pregethu; ar Sabbath canlynol aeth i'r Eglwys Bach, swydd Aberteifi, gyda Mr. Richard Roberts, Machynlleth,—tad y Parchedig Richard Roberts, Llundain. Ei destyn cyntaf ydoedd Psalm xxxvi. 23 Yr hwn yn ein hisel radd an cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Daeth yn fuan yn bregethwr poblogaidd, a gwneid galwadau mynych am ei wasanaeth y tu allan iw gylchdaith ei hun.

Yn 1853 bu yn yr America am ychydig fisoedd; a chan y tybiai y gallai waeuthur bywioliaeth gysurus yno, dychwelodd i gyrchu ei deulu; ond oherwydd y gwrthwynebiad a deimlid gan ei briod i'r symudiad, gwnaeth ei feddwl i fyny i aros yn dawel yn Nghorris i dreulio gweddill ei ddyddiau. Gadawodd yr argraff oreu ar feddyliau y rhai y daeth i gyffyrddiad â hwynt yn ystod ei arosiad byr yn yr America; a chofient yn serchog am dano ymhen blynyddoedd ar ol ei ddychweliad i'r hen wlad. Tua'r adeg yr oedd efe yn Fair Haven, Vermont, y sefydlwyd yr Achosion Cymreig yno ac yn Middle Granville, y rhai ydynt bellach yn gryfion a lliosog.

Yn niwedd 1855 yr arweiniwyd ef trwy ryw amgylchiadau nad yw yn angenrheidiol manylu arnynt i ymuno â'r Methodistiaid. Daeth ei deulu oll drosodd gydag ef, oddieithr ei fab hynaf, yr hwn sydd yn parhau hyd heddyw yn aelod gyda'r Wesleyaid. Derbyniwyd ef ar unwaith yn bregethwr; ac o ddechreu 1856 bu yn pregethu yn gyson; a llafuriodd felly gyda chymeradwyaeth gyffredinol hyd ei farwolaeth, Mai 2, 1882, yn 71 mlwydd oed.

Er derbyn athrawiaeth y Wesleyaid, nid oedd yn gwbl dawel iw trefniadau; ac nid gormod ydyw dweyd fod ei fywyd gyda'r Methodistiaid yn llawer mwy cysurus.

Dyn bywiog ei ysbryd a brwd ei dymer oedd efe; yn meddu llais da a dawn i lefaru yn rhwydd. Cyfyng o angenrheidiol rwydd oedd cylch ei ddarllenyddiaeth; ond yr oedd wedi gwneuthur pob peth y gallesid ei ddisgwyl oddiwrtho yn nghanol lliosogrwydd ei anfanteision. Nid oedd ei bregethau yn fawrion na thrymion, ond yr oeddynt yn hynod gymeradwy gan y cynulleidfaoedd. Bu ei weinidogaeth yn ddiamheuol yn foddion dychweliad llawer o eneidiau at Grist. Yn wir, yn y peth hwn cafodd dystiolaethau i effeithiolrwydd ei weinidogaeth na estynir i lawer o ddynion a ystyrir yn fwy galluog, ac wedi cael llawer mwy o fanteision nag efe.

Cawsom unwaith brofiad oedd i fesur yn chwerw i ni o'i boblogrwydd pan yn anffodus yr aethom iw gyhoeddiad yn ei le. Cawsom y fraint o geisio pregethu i gynulleidfa—oedd lliosog a thra siomedig. A parhaodd ei gymeradwyaeth ai boblogrwydd hyd ddiwedd ei oes.

Yn ei gymydogaeth ei hun bu yn dra defnyddiol. Edrychid arno yn wastad yn arweinydd gyda'r Achos Dirwestol; ac ni oerodd ei zêl gydag ef hyd y diwedd. Dilynodd ef yn ffyddlon ymhob ffurf arno. Rhoddodd ei gefnogaeth wresog i Demlyddiaeth Dda, ac yn ei gystudd diweddaf gwisgai yn zelog y Ruban Glâs.

Yr oedd ynddo haws o nodweddau tra dymunol. Ac un o honynt ydoedd ei ffyddlondeb iw ymrwymiadau yn y mater hwn gallai yn hyf ofyn "A arferais i ysgafnder?" Trwy anhawsderau a fuasent yn cyfreithloni ei arosiad gartref, aeth iw gyhoeddiad lawer gwaith; ac nid oes amheuaeth na niweidiodd ei iechyd ac na fyrhaodd ei oes trwy y cydwybodolrwydd hwn.

Peth arall canmoladwy ynddo ydoedd ei ffyddlondeb i Fugeiliaeth Eglwysig. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy yn eglwys Corris ers yn agos i ddeuddeng mlynedd cyn i'r Parchedig Evan Jones gael ei alw yno; ond rhoddodd iddo ef, ac i'r Parchedig William Williams wedi hyny, y derbyniad mwyaf siriol, a chyd—weithredodd â hwy yn y modd mwyaf calonog.

Cafodd gystudd nychlyd am fisoedd. Trwy waeledd mawr yr aeth i Lanfair a Harlech yr ail Sabbath o Chwefror, 1882; a dyna y tro diweddaf iddo bregethu. Teimlai yn dra chysurus yn ei gystudd er fod arno hiraeth calon am bregethu; ac yr oedd meddwl am yr eneidiau a roddasid iddo yn seliau ei weinidogaeth yn gysur gwirioneddol iddo. Hunodd o'r diwedd yn dawel yn yr Iesu. Rhoddwyd iddo gladdedigaeth tywysogaidd gan ei gyfeillion yn eglwys Rehoboth. Nawdd y Nefoedd fyddo dros ei weddw ai deulu.

Mae dau frawd eraill a fuont yn swyddogion yn Nghorris mewn blynyddoedd diweddar nas gallwn derfynu y benod hon heb sylw arnynt, sef Richard Lumley a Thomas Jones.

Yn Mhenybwlch, gerllaw y ffordd o Fachynlleth i Bennal, y ganwyd Richard Lumley. Yr oedd y tŷ wedi ei ollwng i lawr cyn i ni gofio ond dangoswyd i ni y llanerch y tro cyntaf erioed yr aethom y ffordd hono fel y lle y ganwyd Robert a Richard Lumley. Crybwyllwyd eisoes am frawd arall iddynt, Hugh Lumley, yr hwn oedd frawd-yn-nghyfraith i Rowland Evans. Ac yr ydym yn cofio yn dda John eu brawd, tad y Parchedig Roderic Lumley, gweinidog parchus gyda'r Annibynwyr, yn Swydd Gaernarfon. Tua 1838 yr ymunodd Richard Lumley a'r eglwys, a hyny yn Nghorris, gan ei fod ar y pryd yn was yn Cwincadian. Ar ol hyn yr aeth i Abercwmeiddew, yn hwsmon i William Jones, ac y daeth mewn amser yn fab-yn-nghyfraith iddo. Gydag ef ai briod, Jane, yn Tanyrallt, y treuliodd William Jones flynyddau diweddaf ei fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Thomas Jones ac Humphrey Davies, ieu, Abercorris. Symudodd amryw weithiau yn mlynyddoedd diweddaf ei oes; ond galwyd ef i fod yn flaenor ymhob eglwys y bu mewn cysylltiad â hi.

Nid hawdd ydyw i ni ysgrifenu am y gŵr anwyl hwn. Yr ydym yn ei gofio o flaen bawb braidd oddigerth ein tad a'n mam ac yr oedd ein parch iddo a'n serch ato on mebyd yn fawr iawn. Yr oedd ein tad ac yntau yn gyfeillion calon; ar un modd ein mam âi briod. Nid ydym yn cofio i ni weled dyn mwy rhydd oddiwrth bob diffyg un amser Cyffredin oeddynt Ei alluoedd; ac nid oedd ei wybodaeth yn helaeth; ond yr oedd yn nodedig am ei synwyr cryf, a gwastadrwydd dilychwin ei gymeriad. Rhoddai y pethau hyn iddo ddylanwad mawr ar y rhai ai hadwaenent oreu. Dyn siriol ydoedd, heb y chwerwder lleiaf yn ei ysbryd; ond byddai ei bresenoldeb yn ddigon i gadw cwmni o rai ieuainc o fewn terfynau priodol.

Bu iddo ef ai wraig gyntaf dri o blant,—dau fab ac un ferch. Bu farw y ferch yn ieuanc iawn; a bu farw y ddau fab,—William a John, wedi tyfu i fyny yn llanciau dymunol a chrefyddol. Priododd yr ail waith âg Anne, merch yr hen athraw Lewis Thomas, Castell. Bu iddynt un ferch; ac y mae ei mam a hithau yn byw yn awr yn Nghorris.

Cafodd Richard Lumley gystudd maith a nychlyd, yr hwn a ddioddefodd gyda thawelwch mawr. Yr oedd ei grefydd uwchlaw amheuaeth; a mawr oedd y golled am dano wedi ei ymadawiad.

Mab i Meredith Jones, Penybont, ydoedd Thomas Jones. Mae Richard Jones, Dolffanog fach, Ystradgwyn, yn haner brawd iddo. Ac y mae John Jones, Galltyrhiw; yn frawd a Susannah Owen, y Waen, yn chwaer, iddo. Bu yn byw ar ol priodi am beth amser yn Mhenybont, ac wedi hyny am 18 iddo. Gydag ef ai briod, Jane, yn Tanyrallt, y treuliodd William Jones flynyddau diweddaf ei fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Thomas Jones ac Humphrey Davies, ieu, Abercorris. Symudodd amryw weithiau yn mlynyddoedd diweddaf ei oes; ond galwyd ef i fod yn flaenor ymhob eglwys y bu mewn cysylltiad â hi.

Nid hawdd ydyw i ni ysgrifenu am y gŵr anwyl hwn. Yr ydym yn ei gofio o flaen bawb braidd oddigerth ein tad a'n mam ac yr oedd ein parch iddo a'n serch ato on mebyd yn fawr iawn. Yr oedd ein tad ac yntau yn gyfeillion calon; ar un modd ein mam âi briod. Nid ydym yn cofio i ni weled dyn mwy rhydd oddiwrth bob diffyg un amser Cyffredin oeddynt Ei alluoedd; ac nid oedd ei wybodaeth yn helaeth; ond yr oedd yn nodedig am ei synwyr cryf, a gwastadrwydd dilychwin ei gymeriad. Rhoddai y pethau hyn iddo ddylanwad mawr ar y rhai ai hadwaenent oreu. Dyn siriol ydoedd, heb y chwerwder lleiaf yn ei ysbryd; ond byddai ei bresenoldeb yn ddigon i gadw cwmni o rai ieuainc o fewn terfynau priodol.

Bu iddo ef ai wraig gyntaf dri o blant,—dau fab ac un ferch. Bu farw y ferch yn ieuanc iawn; a bu farw y ddau fab,—William a John, wedi tyfu i fyny yn llanciau dymunol a chrefyddol. Priododd yr ail waith âg Anne, merch yr hen athraw Lewis Thomas, Castell. Bu iddynt un ferch; ac y mae ei mam a hithau yn byw yn awr yn Nghorris.

Cafodd Richard Lumley gystudd maith a nychlyd, yr hwn a ddioddefodd gyda thawelwch mawr. Yr oedd ei grefydd uwchlaw amheuaeth; a mawr oedd y golled am dano wedi ei ymadawiad.

Mab i Meredith Jones, Penybont, ydoedd Thomas Jones. Mae Richard Jones, Dolffanog fach, Ystradgwyn, yn haner brawd iddo. Ac y mae John Jones, Galltyrhiw; yn frawd a Susannah Owen, y Waen, yn chwaer, iddo. Bu yn byw ar ol priodi am beth amser yn Mhenybont, ac wedi hyny am 18 Yr oedd yntau yn ddyn ag yr oedd genym o'n mebyd barch calon iddo; a derbyniasom oddiwrtho lawer o garedigrwydd, yn enwedig tua'r amser yr oeddym yn dechreu pregethu. Ond heb geisio gwneuthur unrhyw sylwadau ein hunain ar ei gymeriad ai alluoedd, dodwn i lawr yma nodiadau a dderbyn—iasom oddiwrth y Parchedig J. H. Symond, Towyn, yr hwn a fu yn ystod ei flynyddoedd diweddaf yn y fantais oreu iw adnabod.

Ychydig; awgrymiadau ar gymeriad a defnyddioldeb Mr.Thomas Jones, Caethle

1. Erbyn ystyried ei fod wedi troi ugain oed cyn dechreu talu sylw i bethau crefydd, yr oedd wedi dyfod yn hynod gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac yn dra deallus yn ngwahanol bynciau yr athrawiaeth

2. Yr oedd yn ofalus i harddu athrawiaeth Duw ein Hiachawdyr ymhob peth heb adael na dirwest nac unrhyw rinwedd arall heb ei weithredu ei hun ai amddiffyn yn ngwydd dynion.

3. Yr oedd yn gyson a phrydlon yn ei ymwneyd â holl freintiau cyhoeddus crefydd. Pa ymdrech deilwng bynag fyddai ar droed, ni chai sefyll o ddiffyg cefnogaeth addas oddiwrtho ef.

4. Yr oedd yn hawdd ganddo roddi a chyfranu, ystyriai yn foddion gras iddo ei hun ac i bob un arall fod yn cyfranu yn ol ei gallu at bob achos da. Oblegid hyny ceid ef yn cael blas ar roddi ei hun, ac ar grybwyll yn fynych a chynes wrth y gynulleidfa, ond gwneuthur daioni, a chyfranu, nac anghofiwch; canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. Yr oedd yn hynod awyddus i gael pawb i ddwyn ffrwyth cyfatebol iw hamgylchiadau am ei fod yn credu mai dyna un o lwybrau gwir lwyddiant yn y byd hwn, ai fod yn arogl peraidd, aberth cymeradwy, boddlawn gan Dduw, ac hefyd fod ffrwyth pob un yn amlhau erbyn ei gyfrif.

5. Yr oedd ganddo ddull serchog, cyfeillgar, a chryn fedr i drin pobl, fel ag iw cael i gymeradwyo yr hyn a ystyriai yn fwyaf addas ac angenrheidiol. Meddai hefyd ysbryd pen—derfynol lled gryf, fel na welid mono yn llwfrhau a rhoddi i fyny yr ymdrech er rhwystrau a gwrthwynebwyd.

6. Yr oedd ganddo lawer o gymwysderau i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Bu am chwe mis yn llywydd y Cyfarfod Misol. Gallai siarad yn dda ar wahanol faterion, a gweddio yn effeithiol. Yr oedd yn ddyn hymaith a deheuig at bob rhan; ac yn ofalus am bob dosbarth a phob oedran, yn enwedig y bobl ieuainc ar plant. Cymerai ddyddordeb mawr yn yr Ysgol Sabbothol a'r Cyfarfodydd Ysgolion. Ceid ef yn fynych yn dweyd pethau rhagorol yn y cyfarfodydd eglwysig, er engraifft—peidied neb a meddwl yn llai o'i fywyd crefyddol am mai myned tros yr un cyflawniadau ddydd ar o'i dydd sydd yn ei wneyd i fyny. Nid yw bywyd crefyddol yn hyn ond cyffelyb i'r bywyd tymhorol. Yr ydym at fyw yn y byd hwn yn myned tros yr un cyflawniadau drachefn a thrachefn, ddydd ar ol dydd. Ail gymeryd ein hanadl o hyd. Cysgu y nos, codi y boreu, gwisgo am danom, bwyta ein prydiau, ar rhai hyny yn cael eu gwneyd i fyny o ddydd i ddydd bron o'r un pethau. Dilya yr un alwedigaeth myned ol a blaen beunydd, a byth bron yr un fath,—ac eto yn byw ar bwys y cyflawniadau cyffelyb a chyffredin hyny ydym yn ddwyn ymlaen ddydd ar ol dydd. Yr un fath gyda bywyd crefyddol. Ail—gymeryd ein hanadl o hyd mewn cymundeb ffydd â'r Arglwydd Iesu. Gwylio a gweddio, a darllen y Beibl ddydd ar o'i dydd. Dyfod dro ar ol tro i'r cyfarfod eglwysig ac i'r addoliad ar y Sabbath, ac at Fwrdd yr Arglwydd. Cyfranu dro ar ol tro at achosion da, ac ymddwyn o ddydd i ddydd yn addas i'r efengyl Ond er mai rhyw gylch o gyflawniadau cyffelyb o wythnos i wythnos ydyw ein crefydd eto trwy y pethau hyn yr ydys yn byw ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd ein hysbryd ni. Gwyliwch flino arnynt nau galw yn gyffredin, oblegid nis gellir hebddynt fyw i Dduw yn Nghrist Iesu ein Harglwydd.

7. Yr oedd yn flaenllaw yn ei olygiadau, ac yn cydfyned â symudiadau ein Cyfundeb yn rhwydd a siriol. Gwelai yn fuan y ffordd yr oedd pethau yn gogwyddo, a medrai ddeall yr amseroedd i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur. Yr oedd ar y blaen mewn rhoddi dylanwad o blaid pob symudiad a fernid yn angenrheidiol tuag at lwyddiant crefydd yn ein plith.

Oherwydd yr holl gymhwysderau amrywiol a nodwyd, yr oedd Mr. Thomas Jones yn un o'r blaenoriaid mwyaf gwerthfawr i gario gwahanol ranau yr achos ymlaen; ac yn un o'r rhai mwyaf diogel a chalonogol i gydweithio âg ef. Gwasanaethodd swydd diacon yn dda, ac enillodd iddo ei hun râdd dela, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu.

Bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb mwyaf, a phan y gallesid disgwyl fod iddo flynyddoedd yn ychwaneg i fyw. Mae ei fab hynaf, Meredith Jones, wedi ei alw yn flaenor yn eglwys Towyn.


Nodiadau[golygu]