Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Cynydd Methodistiaeth Yn Nghorris a'r Amgylchoedd

Oddi ar Wicidestun
Cydlafurwyr Humphrey Davies Yn Nghorris Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Morris Jones, Aberllefenni

PENOD VI

CYNYDD METHODISTIAETH YN NGHORRIS A'R AMGYLCHOEDD

CYN myned ymlaen i wneuthur sylwadau ar Morris Jones a Rowland Evans, y rhai y mae eu henwau yn fwy arbenig yn gysylltiedig âg Aberllefenni, byddai yn fanteisiol taflu golwg ar y cynydd a gymerodd le ar yr achos yn Nghorris, a'i ymledaeniad graddol i'r gwahanol ardaloedd eraill oddiamgylch, Ac er mwyn peidio dychwelyd at y mater mewn penod ddilynol dodwn i lawr yma y cwbl y bwriadwn ei ddywedyd ar y mater hwn.

Yr ydym eisoes wedi dyddio cychwyniad yr achos yn yr Hen Gastell o'r flwyddyn 1790, a chrybwyll mai yn 1816 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd ef yn agos i haner milldir yn is i lawr na'r Hen Gastell, sef yn y man y saif y capel presenol. Yn 1836 adeiladwyd yr ail gapel yn yr un lle. Yr oedd yn fwy o gryn lawer na'r cyntaf; a dywedai un hen ŵr nad oedd yn edrych o gwbl yn ffafriol ar gynydd Methodistiaeth, y gallent yn hawdd droi ei haner yn gorlan i ddefaid Wmffra Dafydd. Yn 1869, tynwyd hwn drachefn i lawr a chyfodwyd y capel presenol, yr hwn sydd yn anrhydedd i Fethodistiaeth, ac yn addurn hefyd i'r gymydogaeth. Cofus genym glywed y diweddar Barchedig Edward Morgan, Dyffryn, yn galw sylw y swyddogion mewn Cyfarfod Misol yn y lle at yr angen am gapel newydd. Yr ydwyf, meddai, yn cofio yn dda y tro cyntaf y daethum i'r capel hwn, bedair blynedd ar hugain yn ol. Yr oeddwn yn ei weled yn fawr iawn. Mi welais amryw o rai mwy wedi hyny; ond nid wyf yn gwybod am lawer o gapeli heblaw hwn yn hollol yr un fath yn awr ag oeddynt bedair blynedd ar hugain yn ol. Cyn hir wedi hyny, aed ati o ddifrif, a chwblhawyd y gwaith; ac y mae yr holl ddyled yr aed iddi erbyn hyn wedi ei thalu. Ac nid gormod ydyw dywedyd na bu yr achos yn fwy siriol yn Rehoboth erioed nag ydyw yn awr.

Crybwyllwyd mewn penod flaenorol am gychwyniad yr achos yn yr Ystradgwyn; ac nid oes genym lawer i'w ychwanegu yma at yr hyn a ddywedwyd yno. Oherwydd teneurwydd y boblogaeth, nis gallesid disgwyl i'r eglwys yn y lle hwn ddyfod yn gref; ond y mae wedi bod bob amser yn eglwys fechan gysurus a gweithgar. Carasem wneuthur crybwylliad helaethach nag a ganiata ein gofod i ni am un brawd a fu yn swyddog ynddi am dymor maith, ond a fu farw amryw flynyddoedd yn ol, sef Dafydd Jones, y gwehydd. Mab ydoedd i Edward Jones, Cwmtylian, Corris. Yn mhentref Esgairgeiliog y preswyliai pan y cofiwn ef gyntaf; ond yn yr Ystradgwyn y dewiswyd ef yn swyddog eglwysig. Yr oedd yn D. J. lawer o neillduolion; ac yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf pur a dymunol. Llais gwan, aneglur, oedd ganddo, yn tynu sylw ar unwaith; ond yr oedd yn meddu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol eang. Byddai o werth mawr yn y cyfarfod eglwysig ac yn yr Ysgol Sabbothol; a cholled wirioneddol a gafwyd yn ei farwolaeth. Yr oedd yn un o'r dynion duwiolaf yn ddiau a adnabuwyd erioed yn y gymydogaeth.

Bu y diweddar Barchedig Humphrey Evans yn aros am ryw dymor yn yr ardal, ac yn aelod o'r eglwys yn yr Ystradgwyn. Gwr o graffder neillduol ac o allu diamheuol ydoedd ef; a bu o wasanaeth mawr i'r ardaloedd cylchynol yn ystod yr adeg y bu yn byw yn Dolffanog. Mab iddo ef yw y Parchedig Owen Evans, Bolton. Bu farw yn Nolgellau, Chwefror 1864. Gallasem wneuthur crybwyllion helaeth am eraill; yn eu mysg y diweddar Humphrey Jones, Cwmrhwyddfor, a'i briod, yr hon oedd yn wraig nodedig am ei synwyr da a'i chrefyddolder diamheuol. Hwynthwy oeddynt dad a mam Mr. Morris Jones, Minffordd, a Mr. Henry Jones, Cildydd. Ond rhaid ymatal.

Yn Pantymaes, Aberllefenni, y sefydlwyd yr ail eglwys y gellir edrych ar yr eglwys yn Rehoboth fel ei mam. Daeth Rowland Evans i fyw i Felin Aberllefenni tua'r flwyddyn 1822; ond ni sefydlwyd eglwys yno am lawer o flynyddoedd wedi hyny. Bechan iawn oedd poblogaeth yr ardal hyd agoriad y chwarelau; ac ni chymerodd yr amgylchiad hwnw le am rai blynyddoedd wedi symudiad R. E. i'r Felin. Buasid yn codi ychydig geryg llwydion yn achlysurol yn y Foel Grochan ers llawer o amser. Tewion a geirwon oedd y rhai hyny, a defnyddid hwynt i lorio lawn cyn amled ag i doi y tai. Yn 1867 dywedai R. E. fod un yn fyw y pryd hwnw a fuasai yn cyrchu oddiyno at gapel y Brithdir, er llorio y fynedfa iddo, yr hyn y gallai ei gymeryd ar gefn ceffyl. Cymerodd gydag ef bedair carreg, a mawr y ganmoliaeth a roddid iddynt wedi cyraedd pen y daith. Yn 1824 nid oedd yn gweithio yn chwarel Aberllefenni ond tri o ddynion, y rhai a dderbynient bymtheg swllt yn yr wythnos o gyflog. Nid wrth y dydd y gweithient; ond os enillent fwy na'r swm uchod, gostyngid y pris; ac ni oddefid i'r cyflog ar un cyfrif fod yn fwy na hyny. Credwn fod chwarelwyr Aberllefenni wedi dioddef yn gyffelyb lawer o flynyddoedd ar ol y cyfnod uchod. Nid ydym yn gwbl sicr o'r adeg y dechreuwyd agor y chwarelau o ddifrif; ond cyn belled ag y gallasom gasglu, yr oedd yn rhywle tua 1825 neu 1826. A diangenrhaid yw ychwanegu mai dyna yr amgylchiad mwyaf pwysig erioed yn hanes yr ardaloedd hyn. Dyma yr adeg y dechreuodd dynion o leoedd eraill, ac yn enwedig o ardaloedd y chwarelau yn Arfon, ddylifo i'r gymydogaeth i weithio, ac y lliosogwyd yn fawr mewn byr amser nifer y trigolion. Oddiyma y gallwn ddyddio cychwyniad masnach y gymydogaeth; a dyma yr adeg yr ychwanegwyd yn fawr at nerth yr achosion crefyddol yn y lle. Rhaid ychwanegu i gefnllif o lygredigaeth hefyd ddyfod i mewn ar yr un adeg. Nis gellid gwneyd bellach heb dafarn yn nes na Minffordd; ac nid yn hir iawn y buwyd heb gael ychwaneg nag un yn Nghorris. Ond yn adeg y diwygiad dirwestol sychwyd y dafarn oedd yn Tanyrallt. Wedi ei rhoddi heibio yr oedd yno ryw gymaint o'r ddiod yn aros, a threfnwyd i gael claddedigaeth cyhoeddus i'r gweddillion. Yr oedd yr adeg wedi cael ei gwneyd yn hysbys yn y gymydogaeth, a daeth cynulliad lliosog ynghyd i weled y ddiod yn cael ei thywallt allan i'r ffordd. Pan oedd un hen frawd yn prysuro yn gyflym tua'r lle, gofynwyd iddo i ba le yr oedd yn myned, a phaham y brysiai; a'i ateb oedd : Rydw i yn mynd i'r claddedigaeth; a byddai yn arw i mi fod ar ol, a minau yn un o'r rhai nesa i'r corff. Traddodwyd anerchiadau gwresog a hwyliog ar yr achlysur. Bu llawer o'r llanciau gwylltion a ddaethant i'r chwarelau yn ddynion rhagorol wedi hyny yn y gymydogaeth, ac y mae plant, ac wynon, a gorwynon llawer o honynt heddyw ymysg y rhai mwyaf defnyddiol sydd i'w cael ynddi.

Ond i ddychwelyd at hanes yr achos yn Aberllefenni. Nid ydym yn gwybod yn sicr pa bryd y cychwynodd yr Ysgol Sabbothol yno. Yn y Drysorfa, 1840, dywedir fel hyn : Yn oes yr Hen Gastell sefydlwyd hefyd Ysgol Sabbothol yn Aberllefenni. Aeth hono yn dair; ac yn awr y mae Col Jones, Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, wedi bod mor haelionus ag adeiladu ysgoldy yn yr ardal hono. Os ydyw y crybwylliad hwn yn gywir, rhaid fod ysgol wedi ei chychwyn yn Aberllefenni rywbryd cyn 1816, ac yn y Ty Uchaf, maen ddiau, y cynhelid hi. Ond nid ydym yn sicr a gynhaliwyd hi yn ddifwlch o'r amser hwnw ymlaen. Yn 1826, pa fodd bynag, yr oedd yn cael ei chynal yn rheolaidd, ac ambell waith ceid pregeth hefyd yn yr un lle. A digwyddodd rhai pethau digrifol yn y Ty Uchaf. Yr oedd Hugh Humphrey, o Lwydiarth, yn bresenol yn yr odfa un tro. Crybwyllasom mewn penod flaenorol am ei gryfder corfforol; ac mewn ffeiriau byddai weithiau yn gwneuthur gwrhydri fel ymladdwr. Cariai ffon fawr yn gyffredin, a dywedir iddo rai troion gyda'r ffon glirio heol Dinas Mawddwy ar ddiwrnod ffair. Y tro hwn adroddai y pregethwr hanes Joseph; ac yr oedd y cwbl yn dra newydd a dieithr i Hugh Humphrey. Yr oedd ei ffon yn ei law; ac wrth glywed y pregethwr yn adrodd y gamdriniaeth a dderbyniodd Joseph oddiwrth ei frodyr, nis gallai ymatal heb ddatgan ei syndod. Chlywas i rioed 'siwn beth, meddai drachefn a thrachefn; ond wedi clywed y diwedd, tarawodd y ffon yn y llawr, a dywedodd yn uchel, "Myn——, 'daswn i yno !"

Buwyd yn pregethu hefyd yn ysgubor Aberllefenni, pan oeddid yn ail adeiladu y Ty Uchaf. Cafwyd odfa i'w chofio byth yn yr ysgubor, pan oedd Mr. John Morgans, Drefnewydd, yno yn pregethu. Pregethid hefyd yn achlysurol yn y Felin, er mwyn Mary Evans, yr hon a ddioddefodd gystudd trwm am lawer o flynyddoedd. Yn raddol cychwynwyd dwy o ysgolion eraill, y naill yn Cwmcelli, ar llall yn y Fronfraith. Ac nid ymddengys i'r ysgol yn y lle cyntaf gael ei rhoddi i fyny ar unwaith wedi agor yr ysgoldy; canys yn y Drysorfa 1840, dywedir fod y tair yn cael eu cynal yr adeg hono. Bu yr ysgol yn cael ei chynal yn y Fronfraith am flynyddoedd o fewn ein côf ni, ac wedi hyny yn y Waen. Cynhelid cyfarfod eglwysig hefyd yn achlysurol yn y Felin amryw flynyddoedd cyn adeiladeiladu yr Ysgoldy yn Pantymaes. Y rheswm paham y cynhelid ef yno ydoedd, mai teulu y Felin oedd yr unig deulu cyfan a berthynai i'r eglwys. Yr oedd dau o flaenoriaid Corris, fel y gwelwyd eisoes, yn byw yn Aberllefenni, sef Rowland Evans a Richard Owen, a chafodd yr achos trwy hyny lawer o fanteision yn ei gychwyn. Yr oedd, yn wir, gyflawnder mawr o ddoniau, ac ystyried bychander y nifer, yn yr eglwys hon o'r cychwyn. Ond tua'r flwyddyn 1839 daethpwyd i deimlo fod gwir angen am gapel, neu o leiaf ysgoldy; a chytunwyd i anfon Morris Jones at Col. Jones i ofyn am dir i adeiladu arno. Yr oedd i M. J. ddylanwad mawr gyda'r boneddwr; a chanlyniad ei ymweliad fu i'r boneddwr addaw adeiladu i'w weithwyr ysgoldy ar ei draul ei hun, os byddai i'r ardalwyr gludo y defnyddiau ato; ac yn yr ysgoldy rhoddid caniatad i gynal pob math o wasanaeth crefyddol yn gyson? A hyn cytunwyd yn llawen; ac nid hir y bu y gwaith heb ei ddwyn i derfyniad. Gweddus ydyw cydnabod, yn y fan hon, rwymedigaeth y gymydogaeth i haelioni y boneddwr uchod. Cwbl ddiaddurn oedd yr adeilad, ond yr oedd yn hollol gyfleus at yr amcan oedd iddo; ac yn amgylchiadau y gymydogaeth ar y pryd, anhawdd ydyw prisio yn gywir werth caredigrwydd y boneddwr. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at garedigrwydd cyffelyb ei fab, ychydig gyda deng mlynedd yn ddiweddarach, yn adeiladu ysgoldy ¡ gynal ynddo ysgol ddyddiol, ar yr un amodau yn y Garnedd Wen. Nid ymddengys fod eglwys wedi ei sefydlu am beth amser yn Pantymaes, er y cafwyd pregethu yno o'r cychwyn gyda gradd o gysondeb. Yn Medi, 1840, nid oedd hyny wedi cymeryd lle, gan y dywedir yn y Drysorfa:

"Mae yr haid sydd yn perthyn i Gorris yn yr ardal hono yn awr o gwmpas 60 o rifedi. Ond cyn belled ag y llwyddasom i gael hysbysrwydd nid yn hir wedi hyny y buwyd heb ei sefydlu. Parhawyd, pa fodd bynag, am beth amser i fyned i Gorris ar nos Sabbothau; ac am amser maith wedi i ni gofio byddai y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn dilyn y pregethwr i Gorris, er y cynhelid ar yr un pryd gyfarfod gweddi yn Pantymaes. Yn raddol blinwyd ar hyn; a dechreuwyd, wedi i'r achosion yn Esgairgeiliog a Bethania enill ychydig o nerth, cael pregeth y nos yn achlysurol; nes o'r diwedd y cafwyd hyny yn hyny yn gwbl reolaidd; ac y trefnwyd i Aberllefeni ac Esgairgeiliog fod yn daith Sabbothol ar eu penau eu hunain, a Chorris a Bethania yr un modd.

Bu yr ysgoldy yn Pantymaes heb nemawr gyfnewidiad arno, oddigerth rhoddi llawr coed ar y llawr ceryg oedd iddo ar y cyntaf am lawn ugain mlynedd. Yn 1859 yr oedd wedi myned yn rhy fychan; a helaethwyd ef y flwyddyn hono, gan roddi ynddo eisteddleoedd cysurus yn lle y meiniciau a fuasent ynddo cyn hyny. Cyn ei fod braidd wedi ei orphen torrodd y diwygiad allan ynddo; a chofiwn yn dda am un chwaer yn dywedyd ar ol y gorfoledd y noson gyntaf, Dyna dwymniad iawn ar y capel newydd. Yn 1874, adeiladwyd y capel presenol yn Pensarn; ac er fod y draul yn fawr y mae y ddyled oll wedi ei thalu er 1881. cynhaliwyd jiwbili Mehefin 26, 1881.

Naturiol fyddai i n¡ ymhelaethu ar helyntion yr achos yn y lle hwn. Magwyd yma lawer o ieuenctyd dymunol, ond chwalwyd hwy, dô ar ol tô, i wahanol ranau y byd. Aeth nifer o honynt i America, ac eraill i Awstralia; ac wrth feddwl am ei mynych golledion, nis gallai Rowland Evans ymatal rhag siarad am dani fel perth yn llosgi ac heb ei difa. Dywedai y diweddar Barchedig William Roberts, Amlwch, fod achos Mab Duw wedi medru fforddio ei golli ef ei hunan; ac y gall yn hawdd fforddio bellach bob colled arall. Yn Aberllefenni cafwyd llawer o golledion y tybiasid ymlaen llaw a fuasent yn ddinystr iddo, ac a barasant hefyd lawer o bryder i'w garedigion; ond y mae, er y cwbl, yr olwg arno heddyw lawn mor lewyrchus ag y bu erioed.

Erbyn hyn y mae capel bychan wedi ei adeiladu yn yr Alltgoed; yr hwn a agorwyd Tachwedd 26, 1871, ac yn yr hwn y pregethir yn rheolaidd ar y Sabbothau. Bechan yw y boblogaeth, ac o ganlyniad bechan yw y gynulleidfa; ac nid oes eglwys wedi ei ffurfio yno hyd yma. Yn Aberllefenni y mae y brodyr ar chwiorydd yn aelodau. Yr eglwys nesaf y rhaid sylwi arni ydyw yr un yn Esgairiog. Anhawdd ydyw cael hysbysrwydd penderfynol pa bryd y dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yn yr ardal hon. Yn ol y wybodaeth a gawsom, yr oedd William Jones, Tanyrallt, yn un o'r prif golofnau yn ei chychwyniad. Mewn bwthyn bychan diaddurn, o'r enw Pant—teg y cynhelid hi; ond wedi iddi gynyddu ychydig, symudwyd hi i'r Ty Mawr; ac oddiyno drachefn i Flaenglesyrch, lle y preswyliai Thomas a Jane Peters, ynghyd a brawd i Jane Peters o'r enw David Jones. Yn y lle hwn yr oedd wedi dyfod o fewn terfynau y gynulleidfa a berthynai i Gapel Sion, Llanwrin. Dywedwyd wrthym y cynhaliwyd ysgol yno am lawer o flynyddoedd. Yn y cyfnod hwnw mae'n ymddangos, y cychwynwyd ysgol gan Hugh Pugh, yn Rhywgwreidd. yn, yr hwn y crybwyllwyd am dano eisoes fel sylfaenydd yr achos Annibynol yn y lle. Mynychid yr ysgol yno am dymor gan ychydig o Fethodistiaid; ond oherwydd rhyw amgylchiadau ymneillduasant i Esgairgeiliog, i dŷ gŵr o'r enw Edward Edwards, yr hwn a gadwai y lle fel gwas i Doctor Evans, o'r Fronfelen. Nid oedd y gŵr hwn ar y pryd yn aelod eglwysig, ond rhoddodd dderbyniad croesawus i'r Ysgol Sabbothol.

Tua dechreu y ganrif bresenol nid oedd un Tŷ o gwbl lle y saif yn awr bentref Esgairgeiliog. Ond yn lled gyna'r yn y ganrif, adeiladwyd gan deulu y Ceinws, yn agos i'r lle y saif y capel presenol, factory, yr hon a alwyd Ffactrir Ceinws. Yr ydym yn cofio cael ein hanfon ar neges iddi yn nyddiau ein mebyd. Ymhen amser, adeiladwyd ychydig o dai gerllaw iddi, nes y daethant yn raddol i gael yr enw Pentre Caerbont, neu Bentrer Ceinws. Wedi adeiladu capel Acchor yno, buwyd yn galw y lle am beth amser yn Bentref Acchor; ond wedi adeiladu yno gapel gan y Methodistiaid, galwyd ef am flynyddoedd yn Bentref Samaria. Mae yr enw hwn, pa fodd bynag, a rhai enwau eraill, wedi ymgolli bellach yn yr enw Pentref Esgairgeiliog. Yn ffermdy Esgairgeiliog, dynion heb fod yn aelodau eglwysig oedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerent y blaen gyda'r Ysgol Sabbothol. Yn eu mysg, heblaw Edward Edwards, yr oedd William Jones, yr Ysgubor Fach. Yr ydym yn ei gofio ef yn dda, er nad oes bellach ers llawer o flynyddoedd gareg yn aros o'r ty y preswyliai ynddo. Un arall ydoedd ewythr i Doctor Evans, oedd yn lletya yn Esgairgeiliog, ac yn cael mwynhad neillduol wrth ddysgu y wyddor i'r plant. Ond estynid iddynt gymorth parod gan nifer o frodyr o Gorris, ymysg pa rai yr enwir Humphrey Davies, Abercorris; William Richard, Ty'r capel; Williarn Jones, Tanrallt; Hugh Humphrey, y Pentre; a'i fab Humphrey Hughes, y Pandy.

Wedi dyfodiad John Jones, o Lanwrin, i'r Gyfylchau, ymddiriedwyd gofal yr ysgol iddo ef. Wedi ei dwyn ymlaen yn y fferrndy am flynyddoedd, ac i gyfnewidiadau gymeryd lle yno, teimlwyd yn angenrheidiol cael capel, a gwnaed cais am dir i adeiladu arno gan Doctor Evans. Nid oedd ef yn foddlawn i ganiatau tir i adeiladu lle i bregethu ynddo, er ei fod yn gwbl barod i roddi tir at ysgoldy. Ond teimlai y cyfeillion erbyn hyn, wrth weled eu nifer yn lliosogi, ar ffordd yn bell i gerdded i Gorris, mai dymunol fyddai cael lle i bregethu ynddo yn achlysurol; a chawsant dir am bris rhesymol i'r amcan hwnw, gan Mr. Thomas Edwards, Ceinws, ynghyd âg addewid am £15 tuag at y draul o'i adeiladu. Nid oedd efe ar y pryd yn aelod eglwysig. Meibion iddo ef ydynt Richard Edwards, Ceinws; a David Edwards, Rhywgwreiddyn. Bu mab arall iddo, William Edwards, Ceinws, yn flaenor ffyddlawn am rai blynyddoedd yn eglwys Corris, cyn sefydlu eglwys yn Esgairgeiliog.

Yn y Drysorfa, 1840, dywedir:— Mae ysgoldy yn awr ar waith yn ardal Esgairgoiliog, yn saith llath wrth wyth o faintioli. Ond ymddengys na agorwyd ef hyd y flwyddyn ganlynol, —1841.Unwaith yn y mis y ceid pregeth yno am flynyddoedd yn ein cof ni; ac yr oedd yr holl aelodau yn Ebenezer, canys dyna enw yr ysgoldy yn aelodau yn Nghorris, er y cynhelid cyfarfod eglwysig yno hefyd. Cofiwn yn dda y byddai John Jones, Gyfylchau, wedi i Humphrey Davies, ar nos Sabbath, orphen cyhoeddi y moddion am yr wythnos, yn codi ar ei ol ac yn cyhoeddi seiat nos Fercher yn Ebenezer. Yn 1874, yn y lle y safai y capel cyntaf, adeiladwyd y capel hardd a chysurus presenol.

Bu mewn cysylltiad â'r achos yn y lle hwn lawer o gymeriadau tra dyddorol. Un o rai rhagorol y ddaear oedd William Edwards, Ceinws; a cholled fawr a gafwyd yn ei farwolaeth gynar, ac (in golwg ni) anamserol. Disgwylid gwasanaeth gwerthfawr oddiwrtho yn eglwys Corris am lawer o flynyddoedd.

John Jones, y Gyfylchau, yr hwn nad yw ei farwolaeth ond amgylchiad diweddar, a fu am dymor maith yn brif golofn yr achos yn Esgairgeiliog. Gŵr o ddawn helaeth a gwybodaeth eangach o. lawer na'r cyffredin oedd efe; a thra gwreiddiol hefyd mewn llawer o bethau. Dygodd i fyny deulu lliosog, ond y maent oll wedi marw erbyn hyn oddigerth un mab iddo. Yr oedd dau o'i feibion, David a John, a fuont farw yn wŷr ieuainc, yn rhai tra addawol. Gadawodd John Jones y gymydogaeth ychydig amser cyn ei farwolaeth; ac nid oes yn awr yn Nghorris neb o'i berthynasau ond plant ei unig ferch.

Hawdd fuasai crybwyll am eraill, megis yr hen frawd digrif a dyddorol, Dafydd Rhobert, a Lowri ei wraig; ond y mae ein terfynau yn ein gorfodi i ymatal.

Rhoddwn air yn olaf am yr achos yn Bethania. Crybwyllwyd mewn penod flaenorol am yr Ysgol yn y Capel Bach ; ond ymddengys mai nid yno y dechreuodd yn y gymydogaeth a elwir yn fynych, yn y rhan isaf, top Corris. Dywedir wrthym mai yn y Fronheulog y dechreuodd; ond pa bryd nis gwyddom. Nis gwyddom ychwaith dros ba amser y cynhaliwyd hi yn y ty hwnw. Bu am ryw gymaint o amser wedi hyny, meddir, yn Llainygroes. Ac yn 1840, yn ol yr adroddiad yn y Drysorfa, yr oedd ysgol yn y TY Mawr a Cwmeiddew. Nid ydym yn sicr pa bryd yr unwyd y ddwy hyn mewn un ysgol yn y Capel Bach ; ond yr ydym yn gwybod mai yno yr ydoedd o 1848 i 1850. Yn 1854 yr adeiladwyd Capel Bethania, yr ochr arall i'r afon, ac ar fin y ffordd newydd. Yn 1866, cafwyd ei fod yn rhy fychan, ac adeiladwyd capel llawer helaethach a rhagorach wrth ei dalcen. Tybiwn mai tua 1865 y sefydlwyd yr eglwys yn Bethania.

Mae un brawd a fu mewn cysylltiad â'r eglwys hon, sef y diweddar Samuel Williams, Rugog, yn un nas gellir myned heibio iddo heb wneuthur coffad parchus am ei enw. Bu yn dŵr o nerth i'r achos yn Bethania ymron o'i gychwyniad; ond bydd yn fwy naturiol dwyn i mewn ein crybwyllion am dano fel un o gydlafurwyr Rowland Evans yn Aberllefenni. Yn yr eglwys hono y dewiswyd ef yn flaenor; ac yno hefyd y llafuriodd gyda ffyddlondeb mawr am lawer o flynyddoedd.

Mae yn amlwg oddiwrth yr amlinelliad uchod fod Methodistiaeth Corris wedi bod yn hynod lwyddianus. Am y deugain mlynedd cyntaf, neu o leiaf y deunaw ar hugain cyntaf, ni bu gynydd braidd o gwbl; ond yn y 66 mlynedd diweddaf y mae wedi bod yn fawr iawn. Mae yr eglwys yn Rehoboth yr unig eglwys lai na thriugain mlynedd yn ol, erbyn hyn yn bump o eglwysi, ac yn dair o Deithiau Sabbothol. Dyma y Teithiau ;Rehoboth ac Esgairgeiliog; Bethania ar Ystradgwyn; Aberllefenni a'r Alltgoed. Ac yr ydym yn dodi i lawr yma nifer eu haelodau ar ddiwedd 1880, yn ol yr Ystadegau cyhoeddedig gan Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, fel y caffer golwg ar unwaith ar gynydd can mlynedd, sef o 1780, pryd y dychwelwyd Dafydd Humphrey yn y bregeth yn Abergynolwyn, hyd 1880:

Aelodau Eglwysig

Gwrandawyr

Aelodau yr
Ysgol Sabbothol

Rehoboth

160

. . .

282

. . .

237

Ystradgwyn

28

. . .

56

. . .

40

Aberllefenni

122

. . .

210

. . .

183

Esgairgeiliog

59

. . .

102

. . .

93

Bethania

90

. . .

200

. . .

170

Cyfanswm

459

. . .

850

. . .

723

Yr oedd cyfanswm cyfraniadau yr eglwysi hyn at achos crefydd yr un flwyddyn yn £516 1s. 2½c. Ar ddiwedd 1884, yr oedd cyfanrif yr aelodau yn 494; a chyfanswm y cyfraniadau yn £549 5s. 10c.


Nodiadau[golygu]