Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Morris Jones, Aberllefenni

Oddi ar Wicidestun
Cynydd Methodistiaeth Yn Nghorris Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Rowland Evans, Aberllefenni

PENOD VII

MORRIS JONES, ABERLLEFENNI

DYMA ŵr sydd wedi ei symud ymaith ers llawn bum mlynedd a deugain, ond gŵr ag y mae Corris ar amgylchoedd heddyw dan rwymau neillduol i barchu ei gofiadwriaeth. Ac y mae yn llawen genym gael neillduo penod iddo, er ei fod wedi marw amryw flynyddoedd cyn ein geni. Nid oedd ond 34 mlwydd oed pan y cymerwyd ef ymaith, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn wyllt ac annuwiol, er nad oedd yn ddidalent na difeddwl yn ei annuwioldeb; ond yn y deng mlynedd diweddaf gwnaeth waith a haedd barch i'w goffadwriaeth byth


Ganwyd ef yn Bryntwr, Penmorfa, Sir Gaernarfon, Ionawr 13eg, 1806. Ar ol amryw symudiadau daeth i weithio i chwarel Aberllefenni, yn y flwyddyn 1828. Y pryd hyny nid oedd ei fuchedd ddim gwell na chynt; a dilynodd yr hen arferiad o yfed a meddwi, ynghyd it llawer o feiau eraill: a mawr oedd y dylanwad oedd ganddo ar ei gydweithwyr i'w temtio i'w ddilyn mewn drwg, fel plant yn dilyn eu tad. Yn 1829, priodwyd ef ag Anne Roberts, o ardal y Garn, Sir Gaernarfon. Wedi priodi aeth yn dlawd, a dechreuodd weled ei ffolineb yn gwario ei arian ar ddiodydd meddwol, a rhoddodd hwy heibio yn hollol. Yr adeg hono, o dan weinidogaeth yr hen bregethwr parchedig Thomas Owen, o Fon, effeithiwyd cymaint arno fel yr aeth ar unwaith i ymofyn am le yn nhy Dduw; a mawr oedd syndod y brodyr yno pan y gwelsant ef.

Bu wedi hyn yn wrthgiliedig am ychydig, oherwydd na weinyddwyd disgyblaeth arno am ryw gamymddygiad o'i eiddo ag y tybiai efe oedd yn haeddu hyny, ond na wyddai y blaenoriaid ddim am dano. Mynai ef nad oedd eglwys a oddefai y fath beth yn eglwys i Grist. Ond daeth yn ol eilwaith, ac ymroddodd i ddarllen ac efrydu, ac i fod yn ddefnyddiol gyda chrefydd. Yn 1835, dewiswyd ef yn flaenor yn Nghorris, ac yn Awst 1836, dechreuodd bregethu. Yr oedd felly yn flaenor ymhen llai na chwe blynedd ar ol gadael ei annuwioldeb cyhoeddus, yr hyn sydd ynddo ei hun yn dystiolaeth ddigonol am y syniadau uchel a goleddid yn fuan am dano yn meddyliau ei frodyr. Ar ddirwest y dechreuodd siarad yn gyhoeddus; ac efe oedd y dirwestwr cyntaf yn yr holl gymydogaeth. Yn y Dirwestydd, Ionawr 1837, ceir y nodiad canlynol am gychwyniad dirwest yn Nghorris :Yr oedd yma un wedi mynwesu yr egwyddor ddirwestol ers mwy na dwy flynedd, ac yn nechreu yr haf diweddaf, tarawodd wrth un arall o'r un egwyddor; ac Awst 12, 1836, cymerasant lyfr bychan, ac ysgrifenasant yr ardystiad, a dywedai llawer eu bod wedi ynfydu. Ond er hyny, cynyddu yn raddol a wnaethom, a thrwy ymweliad Mr. D. Charles ac eraill â ni yr ydym heno (Rhag. 15) yn 214. David Jones, Ysgrifenydd. Y cyntaf yn ddiau oedd Morris Jones; ac, fel y crybwyllwyd mewn penod flaenorol, ymddengys mai Humphrey Edward, Cwmcelli, oedd y llall. Cawsom hanes y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gan y diweddar Barch. John Jones, Brynteg, a dodwn ef i lawr yn ei eiriau ef ei hun : Morris Jones, y pregethwr, oedd y dirwestwr cyntaf, ac ymunodd ychydig ag ef cyn cael cyfarfod. Un diwrnod, yn chwarel y Ceunant Du, darfu i amryw o honom roddi ein henwau, gan ddweyd y byddai yn rhaid cael cyfarfod cyhoeddus. Rhoddwyd yr enwau i mi i'w cymeryd i Morris Jones, i'r Ty Engine, lle yr oedd ef yn gweithio ceryg beddau; ac yno y penderfynwyd cael y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gafwyd yn ddioedi. Nid oedd neb dieithr yn y cyfarfod, ond cymerodd amryw yr ardystiad. A dyma ddechreuad y Gymdeithas ddirwestol yn y gymydogaeth.

Yn llyfr dyddorol a gwerthfawr y Parchedig Ddr. John Thomas, ar Y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru, ceir y dyfyniad canlynol o lythyr gan Mr. D. Ifor Jones, yn cynwys hysbysrwydd a dderbyniasai o enau ei dad.yn—nghyfraith, y diweddar Barch. Hugh Roberts, Corris : Cynhaliwyd y Cyfarfod Dirwestol cyntaf yn yr ardal hon, Tachwedd 5, 1836, a fi oedd y cyntaf a siaradodd ynddo. Cynhaliwyd yr ail, Tachwedd 12, 1836, yn yr hwn yr oedd Dr. Charles yn bresenol, ac yn llosgi alcohol. Yr oeddwn i yn ddirwestwr er mis Hydref; ac yr oedd pedwar ar ddeg o honom yn ffurfio y Gymdeithas. Yr ydym yn tybio y rhaid fod cyfarfodydd wedi eu cynal yn Aberllefenni cyn y cyfarfod hwn; ac mai nid at yr un cyfarfod y cyfeiria y ddau adroddiad.

Yr oedd Morris Jones yn ymresymu yn bersonol dros ddirwest ers amser cyn dechreu siarad yn gyhoeddus drosti; ac iddo ef yn ddiau y mae Corris ar amgylchoedd yn ddyledus uwchlaw pawb am gychwyniad y Gymdeithas a wnaeth gymaint o ddaioni yno o hyny hyd yn awr. Dyddorol fyddai hanes y diwygiad dirwestol yno am y deg neu yr ugain mlynedd cyntaf, oblegid anhawdd ydyw cyfleu syniad i'r rhai nad ydynt yn ei gofio am y gwres angerddol oedd y pryd hwnw gyda'r achos. Pan yn dechreu siarad yn gyhoeddus dros ddirwest, dywedai Morris Jones y byddai yn anhawdd cyn pen dwy flynedd i neb gael lle yn eglwys Dduw heb fod yn llwyrymwrthodwyr; ond yr oedd ei ragfynegiad yn wirionedd perffaith. Daeth llwyrymwrthodiad yn fuan yn amod aelodaeth yn eglwys y Methodistiaid ; ac y mae y caerau a gyfodwyd y pryd hwnw wedi eu cadw i fyny i fesur mawr ar hyd y blynyddoedd. Ymddengys y fath lymder yn gwbl afresymol i eglwysi mewn ardaloedd eraill; ond mwynhaodd eglwysi yn Corris ar amgylchoedd dangnefedd tra dymunol wedi cau y diodydd meddwol yn gwbl o'r tu allan. Ar peth tra gwerthfawr mewn cysylltiad â'r mater ydoedd nad oedd y rheol oddiallan yn ddim ond ffrwyth yr egwyddor a goleddid oddifewn. Enillwyd yr holl aelodau i goleddu egwyddorion mor gryfion fel y daeth y rheol yn ganlyniad anocheladwy: a pharhawyd i ddwyn y plant i fyny yn yr un egwyddorion gyda ffyddlondeb mawr ar hyd y blynyddoedd. Ar y cyfan, dichon na cheir cymydogaeth yn Nghymru sydd wedi bod yn fwy gwastad yn ei ffyddlondeb i ddirwest; canys heblaw cyfarfodydd mynych yn y gwahanol gapelau, y mae yr Wyl Ddirwestol wedi ei chynal yn ddifwlch ar Ddydd Iau Dyrchafael o'r cychwyn, oddieithr yn 1860, pryd, fel y crybwyllwyd eisoes, y cynhaliwyd Cyfarfod Pregethu Undebol yn ei lle. Ond cofier yn barhaus mai Morris Jones ydyw tad y symudiad dirwestol yn Nghorris a'r amgylchoedd.

Wedi dechreu siarad yn gyhoeddus dros ddirwest, amlygodd yn fuan duedd at y weinidogaeth. Ar y cyntaf, nid oedd ei frodyr yn credu yn gryf yn ei gymwysderau i'r cylch hwnw, nid oherwydd unrhyw amheuaeth am ei alluoedd meddyliol na'i wybodaeth, ond yn benaf am nad oedd ei ddawn i draddodi, ac yn enwedig ei lais, y mwyaf dymunol. Ond fel y dywed Rowland Evans yn ei Gofiant yn y Drysorfa, Chwefror, 1841, pan ollyngwyd ef i redeg, deallwyd yn fuan fod ganddo genadwri dda. Fel hyn y cyfeiria R. E. at ei bregeth gyntaf

"Pan yn cadw yr oedfa gyhoeddus gyntaf, dywedodd y barnai fod yno lawer yn cofio ei hen ffyrdd ef, a'i fod yntau hefyd yn gorfod cofio am danynt er ei alar; a pha beth bynag oedd o ran ei gyflwr a'i alwad i'r gwaith, na welid byth mohono mwy, trwy gymorth gras, yn y pyllau y bu ynddynt; a mawr yr effaith a gai ei ddywediad ar y gwrandawyr. Ac ychwanegir y sylwadau canlynol ar nodweddau ei weinidogaeth: Dangosodd yr Arglwydd trwy arwyddion amlwg ei fod o'i anfoniad ef. Yr oedd ei weinidogaeth yn hynod o fuddiol; a sicr yw—fod llawer wedi eu galw trwyddi, y rhai yr oedd arnynt arwyddion amlwg o dduwioldeb. Yr oedd efe hefyd yn dra adeiladol i'r eglwys, mewn cryfhau egwyddorion a chynyddu profiadau y saint. Trinai bob amser ei faterion yn oleu a deallus. Defnyddiai gymhariaethau addas a syml i ddangos ei feddwl. Ni arferai eiriau ysgafn ac anysgrythyrol, ond argyhoeddai ni am arfer geiriau o'r fath gyda phethau crefyddol, gan ddweyd nad oedd bosibl cael cystal geiriau a rhai y Beibl.

Byr iawn fu ei oes fel pregethwr, sef o Awst, 1836, hyd Chwefror, 1840; ond gweithiodd yn galed tra y parhaodd ei ddydd. Awgrymwyd nad oedd yn ddifeddwl pan yn byw yn annuwiol. Y pryd hwnw, teimlodd duedd gref at yr athrawiaeth Arminaidd, a siaradodd lawer drosti yn yr Ysgol Sabbothol yn y Tŷ Uchaf, ac wrth y pregethwyr a ddeuent yno yn achlysurol; aeth ati hefyd i barotoi llyfr i'w hamddiffyn, ond argyhoeddwyd ef tra wrth y gorchwyl hwnw mai Calfiniaeth wedi'r cwbl oedd yn iawn, ac ni chlywyd mwyach sôn ganddo am Arminiaeth. Ymroddodd, maen amlwg, i fod yn efrydydd caled; a dywedir gan R. E. yn y Drysorfa na byddai braidd un amser, wedi iddo ddechreu pregethu, yn myned i orphwys nes byddai o un i dri o'r gloch yn y boreu. Yr oedd yn nodedig am ei ddiwydrwydd gyda'i orchwylion bydol. Trwy dalent naturiol ac ymroddiad, yn hytrach na thrwy fanteision beresol, daeth yn fedrus mewn gwneuthur cerig beddau, &c., ae ymdrechai hyd y byddai modd fyned i'w deithiau Sabbothol, a dychwelyd o honynt heb golli dim o'i amser gyda'i waith. Cerddai o 15 i 20 milldir lawer boreu Sabbath i'w gyhoeddiad; a chymaint ag a fyddai yn bosibl yn ol y noson hono, rhag colli dim o'i amser." Yr oedd yn ddyn o ysbryd gwir grefyddol. Cofus genym, flynyddau yn ol, glywed un o'i gyfeillion mynwesol yn adrodd iddo gael un Sabbath cyfan heb i un meddwl am bethau bydol, hyd y gallai gofio, fyned trwy ei fynwes nes y cyrhaeddodd i ymyl ei dŷ yn yr hwyr, ac y gwelodd tombstone y buasai yn gweithio arni. Anfynych y canmolai lawer ar ddim mewn cysylltiad a'i bregethu. Fel hyn y dywed R. E. ar y pen hwn :—"Gofynais iddo, ar ol agos bob Sabbath, pa fath odfaon a gawsai, a'r ateb yn gyffredin fyddai, Digon tlawd,' oddieithr un Sabbath y cafodd efe odfa neillduol yn Caeau Cochion, ger Trawsfynydd, pryd y dywedodd ei fod yn sicr fod yno ryw un mwy nag ef na'r bobl. Diameu y bydd llawer yn cofio am yr odfa hono i dragwyddoldeb." Ond daeth ei oes i derfyn hynod ddisymwth. Yr oedd yn pregethu yn Llanwrin nos Sabbath, Ionawr 26, 1840, a dydd Llun, Ionawr 27, tua thri o'r gloch yn y prydnhawn, trwy gwympiad y graig yn chwarel y Ceunant Du, lladdwyd ef a gŵr crefyddol arall o'r enw Hugh Williams. Ei destyn olaf yn Llanwrin ydoedd, Heb. ix. 27, "Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hyny bod barn;" ac ymhen llai nag ugain awr ar ol terfynu y bregeth yr oedd ei hunan yn y farn. Y noson hono yr oedd y diweddar Barchedig Richard Jones, y Llanfair, yn pregethu yn Nghorris, i gynulleidfa fawr, mewn agwedd hynod ddifrifol. Mae yn amheus a dreuliwyd odfa erioed yn yr ardal dan amgylchiadau a theimladau mor gyffrous. Mae yr ychydig o'r gwrandawyr sydd yn fyw yn cofio am dani hyd heddyw. Y testyn oedd Caniad Solomon ii. 3, "Bu dda genyf eistedd dan ei gysgod ef", &c. Yr oeddwn yn petruso yn fawr, meddai y pregethwr, pan y clywais ar y ffordd wrth ddyfod i fyny o Fachynlleth, pa un a wnawn a'i dyfod ymlaen a'i peidio, ond daeth y geiriau hyn i'm meddwl, ac yr oeddwn yn teimlo mai tra hapus oedd bod dan ei gysgod ef pan oedd cylymau y creigiau yna yn gollwng.

Mae yn dda genym gael cyflwyno i'r darllenydd y bregeth olaf o eiddo Morris Jones. Er mor uchel y llefarai pawb am dano, rhaid i ni addef na roddodd neb i ni syniad mor uchel am ei alluoedd ag a gawsom trwy ddarlleniad y bregeth hon yn y Drysorfa, am Mawrth, 1842, wedi ei chodi o'i lawysgrif ef ei hun gan y diweddar Barchedig Humphrey Eyans, Ystradgwyn. Mae delw duwinyddiaeth y cyfnod yn amlwg arni; a rhai pethau yn cael eu dywedyd ag y mae yn bosibl na chlywir hwy mwyach yn y ffurf y ceir hwynt yma; ond y mae yn syndod fod y fath bregeth wedi ei chyfansoddi gan ŵr mor amddifad o bob manteisioin addysg ag efe, a hyny pan nad ydoedd wedi bod yn pregethu ond llai na phum mlynedd, ac nad ydoedd ond 34 mlwydd oed. Ni chafodd ddiwmod o ysgol ddyddiol erioed; a thrwy ei ymdrech ei hun, wedi tyfu i fyny, y dysgodd ysgrifenu. Un o droion tywyllaf rhagluniaeth Duw ydyw i ŵr o alluoedd ac ymroddiad mor hynod gael ei gymeryd ymaith o ganol y fath ddefnyddioldeb mor gynar yn ei oes. Efe oedd y pregethwr cyntaf a gyfodwyd yn Nghorris; ac y mae gan yr eglwys yn Rehoboth reswm i fod yn falch o hono ymben mwy na deugain mlynedd wedi ei gladdu. Yr oedd ei frawd, Robert Jone; Machine, yn aros hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ol. Wele y bregeth:

"Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hyny bod barn." Heb. ix. 27.

Y mater sydd gan yr Apostol, yn niwedd y benod hon, ydyw profi fod aberth Crist yn tra rhagori ar yr holl aberthau dan y ddeddf seremoniol, a bod y Testament Newydd wedi ei gadarnhau â gwaed,—y testamentwr wedi marw, gan hyny fod yr holl addewidion mewn grym.

Pan oedd Moses yn cadarnhau cyfamod Sinai rhwng Duw a'i bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, ac a'i cymysgodd gyda dwfr, i'w wneyd yn deneu; wedi hyny cymerodd sypyn o wlan porphor i'w sugno i fyny o'r cawg, a thusw o isop i'w daenellu yn ddafnau, ac a daenellodd un haner iddo ar y llyfr, yr hwn oedd yn agored ar yr allor, i'w gysegru i wasanaeth sanctaidd, fel yn cynwys y cyfamod yr oedd Duw yn un blaid ynddo; ar haner arall ar y bobl oll, neu, feallai, eu cynrychiolwyr, y deg a thriugain, fel y blaid arall. Yr oedd yn hyn hefyd lanhâd cysgodol oddiwrth halogrwydd seremoniol, ac feallai fod y cymysgiad o ddwfr a gwaed yn cysgodi y dwfr ar gwaed a ddaeth o'i ystlys sanctaidd ef, y gwaed sydd yn glanhau oddiwrth bob pechod. Trwy ei waed ef y cadarnhawyd y Cyfamod Gras, rhwng Duw yn Nghrist a'r holl gredinwyr, ac y mae ei addewidion yn ie ac yn amen ynddo ef i'r holl rai a gredant. Aberthodd Crist ei hun unwaith, a gwnaeth anfeidrol fwy yr unwaith hwnw na'r holl aberthau a laddwyd er dechreuad y byd; unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod, trwy ei aberthu ei hun. Yr oedd Crist yn feddianol ar natur y troseddwr, yr hyn nid oedd yr aberthau eraill. Pan oedd cleddyf cyfiawnder wedi deffro yn ei erbyn ef, yr oedd wedi deffro yn erbyn y natur a bechodd; ac yr oedd undeb y ddynoliaeth â pherson anfeidrol Mab Duw yn peri ei bod yn abl i gynal ergydion dwyfol gyfiawnder. Marw oedd y gosb osodedig am bechu, ac wrth ddioddef cospedigaeth ei bobl bu Crist farw unwaith. Nis gallasent hwy byth ddioddef hyd eithaf y gofynion, ond dioddefodd Crist nes talu yr hatling eithaf. Nis gallasai fod haeddiant yn eu dioddefiadau hwy, ond yr oedd anfeidrol werth a haeddiant yn nioddefiadau Crist, canys yr oedd y gyfraith yn ei galon ef, a chariad pur oedd yn ei ysgogi i ddioddef y cwbl. Yr oedd mawredd ei berson, y sefyllfa yr oedd ynddi, ynghyd â'r egwyddor oedd yn ei gymell, yn peri fod anfeidrol werth yn yr hyn oll a wnaeth. Trwy farw unwaith fe ddygodd ymaith bechodau llawer.

Oddiwrth y testyn sylwaf ar y ddau fater canlynol :

I. Marw. II. Yr hyn sydd yn ei ganlyn.

I. Marw. Dywedir yma ei fod yn osodiad; ac mewn perthynas iddo sylwaf, 1. Pwy ydyw y gosodwr. 2. Pa fath osodiad ydyw. 3. Yr achos o'r gosodiad. 4. A phwy y mae yn dwyn perthynas.

1.Pwy yw y gosodwr. Duw oedd y gosodwr yn nhragwyddoldeb diddechreu, cyn creu dyn nac angel. Fe ragwelodd Duw y byddai i'w gyfraith gael ei throseddu, ac yn y rhagolygiad hwnw fe osododd fod marw yn gyflog pechod. Mae yn rhaid i ni ddeall mai nid peth newydd a dieithr i Dduw oedd pechod, pan y torodd allan gyntaf yn ei ymerodraeth; byddai hyny yn feddwl tra annheilwng am y Duw mawr, yr hwn sydd yn gwybod y diwedd o'r dechreu, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto. Nid oes dim yn newydd iddo ef; yr oedd efe wedi rhagweled pechod cyn iddo dori allan, ac wedi rhagosod y gosb briodol iddo. Nid ydym i feddwl chwaith na allasai Duw rwystro i bechod gymeryd lle; byddai hyny yn feddwl rhy isel am yr Hollalluog; eto nid oedd hyn yn gosod un angenrheidrwydd ar yr un o'i greaduriaid i bechu, yr oedd hyny wedi ei adael at ryddid eu hewyllys, fel creaduriaid rhesymol. Yr oeddynt wedi eu gosod yn y gyfryw sefyllfa ag y gallasent beidio pechu, ac y gallasent wneyd, gwobr am beidio, a chosb am wneyd, wedi eu rhagosod gan Dduw, a'u hamlygu iddynt hwy. Felly Duw a osododd fod i ddynion farw.

2. Pa fath osodiad ydyw? Mae y gosodiad hwn, fel y cwbl o eiddo Duw, yn osodiad priodol iddo ef ei hun.

(1.) Mae yn osodiad cyfiawn. Ni osododd Duw ddim ond oedd yn gyfiawn. A wyra yr Hollalluog gyflawnder? Pe buasai cyfiawnder yn goddef i ryw gosb ysgafnach fod am bechod, buasai un ysgafnach wedi ei gosod. Nid yw Duw yn ymhoffi yn mhoenydio gwaith ei ddwylaw; ac y mae fod marw wedi ei osod yn gyflog pechod, yn gosod allan y mawr ddrwg sydd ynddo. Ni allasai anfeidrol ddoethineb a chyflawnder Duw gael allan yr un gosb briodol iddo ond marw. Nid creulondeb yn Nuw ydyw ei fod yn cosbi ei ddynion, ond ei gyfiawnder sydd yn rhoddi angenrheidrwydd arno i wneyd; ei gyfiawnder oedd yn ei rwymo i gosbi pechod â marwolaeth gan hyny, mae y gosodiad hwn yn berffaith gyfiawn.

(2.) Mae yn osodiad anghyfnewidiol. Fel y mae Duw ei hun yn anghyfnewidiol, felly y mae y gosodiad; gan hyny, mae pechod, pa le bynag y byddo, yn rhwym o gael ei ddilyn â marwolaeth. Nis gellir newid y gosodiad hwn heb newid Duw. Pan roddwyd pechod ar uniganedig y Tad, dilynwyd ef â marwolaeth yno. Yn y byd hwn y mae y gosb weithiau yn cael ei newid, neu ei hysgafnhau; ond nis gellir newid cyflog pechod, nai ysgafnhau ychwaith, mwy nag y gall y feichiog ddianc rhag gofidiau esgor. Chwant wedi ymddwyn a esgor ar bechod; pechod hefyd pan orphener a esgor ar farwolaeth. Yr unig ffordd i ddianc rhag marw ydyw cael gwaredigaeth oddiwrth bechod. Y rhai a waredir odditan lywodraeth pechod a ddiangant yn hollol rhag yr ail farwolaeth, ond er bod Crist ynddynt, y mae y corff yn farw oherwydd pechod, i amlygu llidiawgrwydd anghymodol Duw tuag at bechod. Fe gyflawnir y ddedfryd, "I'r pridd y dychweli", hyd yn nod ar eiddo Crist ei hunan: ond fe droir hyny yn elw iddynt hwy.

(3.) Y mae yn osodiad grymus. Mae grym Hollalluog o'i blaid, i'w ddwyn i weithrediad. Mae llawer gosodiad wedi eu rhoddi ymysg dynion, ond yr oedd eu gosodwyr yn rhy weiniaid i'w rhoddi mewn gweithrediad. Gosodwyd unwaith yn Ffrainc na byddai y Sabbath ond unwaith yn y deng niwrnod; methwyd a dyfod a hyny i ben. Yr oedd y gosodwyr yn rhy wan. Llifeiriant yw y gosodiad hwn nad oes neb yn abl sefyll o'i flaen. Nid ydyw cyfoeth, na dagrau, na chwynion, na galar, wylofain, nac ympryd, yn ddigon i dori grym y gosodiad hwn.

(4.) Gosodiad unigol ydyw, Marw unwaith. Mae llawer peth y cawn gyfarfod a hwy fwy nag unwaith, cawn ddiwrnod ar ol diwrnod, noswaith ar ol noswaith, haf ar ol haf, a gauaf ar ol gauaf, ond ni chawn farw ond unwaith. Mae marw i'r annnwiol yn nos na ddaw byth ddydd ar ei hol; mae marw i'r duwiol yn ddydd na ddaw byth nos ar ei ol.

3. Yr achos o'r gosodiad. Yr achos ydyw cyfiawnder ac uniondeb. y Duwdod. Copy o ddelw Duw ydyw ei gyfraith, dangosiad amlwg o'r hyn ydyw. Ac yn y rhagolwg y byddai i'w gyfraith gael ei throseddu, yr oedd ei gyfiawnder a'i uniondeb diwyrni tuag ato ei hun yn ei rwymo i ragosod cosb briodol i'r trosedd, ond y trosedd ei hun a ddygodd y gosodiad i weithrediad. Buasai yn aros yn dragwyddol lonydd a digyffro oni buasai bechod. Mae cosb osodedig yn hanfodol i bob cyfraith, onide nid yw yn gyfraith: eto, nid oes achos i'r un o'r deiliaid ofni'r gosb hono. Tra y parhaont heb droseddu y gyfraith, nid oes gan y gosodiad cospawl un hawl i afael ynddynt. Ac ni buasai y gosodiad hwn mewn grym ar neb o'r hil ddynol oni buasai pechod. Colyn angeu yw pechod.

4 A phwy y mae y gosodiad yn dwyn perthynas. Gosodwyd i ddynion farw unwaith, nid i ddynion fel creaduriaid, ond fel pechaduriaid. Oni buasai pechod, buasai dynion yn aros byth mewn cymundeb â Duw, heb un ymadawiad, eu cyrff a'u heneidiau mewn tragwyddol undeb a'u gilydd. Nid oedd marw yn perthyn i ddyn mwy nag i angel, oni buasai bechod. Ond yn gymaint ag i ddynion bechu, cafodd y gosodiad rym i gydio gafael ynddynt. O ddynion! dyma osodiad fydd mewn grym byth ar bawb na ddygir i Iesu yn nghysgod y gwr fu farw i'r euog i gael byw. Gallwn sylwi oddiwrth hyn, yn

(1.) Mai y peth mwyaf difrifol a berthyn i ni ydyw y sefyllfa yr ydym ynddi yn bresenol,—o tan rwymau gosodiad i farw! Pe caem olwg arno yn ei fawredd a'i bwys, byddai yn sicr o gael y flaenoriaeth ar bob peth yn ein meddyliau.

(2.) Mae o bwys tragwyddol i ni ein bod yn ddynion. Mae creaduriaid eralll yn meirw, ond nid oes nemawr bwys yn eu marw hwy, oherwydd y mae yn ddiwedd iddynt; ond nid difodiad ydyw marw dynion. Nid tragwyddol gwsg ydyw chwaith. Symudiad i fyd arall ydyw marw. Bydd dynion yn fyw er marw. Pan yn cau eu llygaid ar fyd o amser, maent yn eu hagor ar fyd tragwyddol; dechreu byw y mae dynion wrth farw. Mae rhyw "wedi hynny" difrifol iddynt hwy.

(3.) Gan mai unwaith yr ydym i farw, nid oes genym ond un tymor i ymbarotoi, un farchnad i elwa, un diwrnod i hau, un haf, un cynhauaf; gan hyny, prif bwnc ein bywyd ddylai fod parotoi erbyn marw. Diwrnod gweithio yw y tymor byw. Y fynedfa i'r office i dderbyn y cyflog ydyw marw; a rhaid byw byth ar gyflog y diwrnod hwnw.

Un o ddeddfau amlwg natur, a rheol gyffredinol y Creawdwr yn ngwaith y greadigaeth ydyw, nad oes dim i gael ei ddifodi. Mae llawer o chwyldroadau yn cael eu dwyn oddiamgylch, a chyfnewidiadau yn cymeryd lle, ond nid oes dim yn cael ei ddifodi. Er cael eu newid o un ffurf i un arall, y maent yn bod. Mae natur yn barhaus yn dwyn oddiamgylch ei chyfnewidiadau; eto, nid ydynt ond yr un pethau yn cael eu cylchdroi. Nid oes dim newydd dan yr haul. Pe meddyliem am gnwd y ddaear, y naill dymor ar ol y llall, nid ydyw ond yr un, mae cnwd un flwyddyn yn dyfod i fyny, ac yn cael ei ddefnyddio, ac wedi hyny. yn dychwelyd i'r ddaear drachefn. Yr anifeiliaid, pedwar carnolion, ac ymlusgiaid, ffurfiwyd hwy o'r ddaear, cynhelir hwy gan y ddaear, a dychwelant i'r ddaear. Mae yr haul yn codi, a'r haul yn machludo, a'r lleuad yn cadw ei hamserau nodedig. Mae y dwfr yn dyfod o'r môr, ac yn dychwelyd yno; mae y gwynt yn chwythu yn rymus weithiau, a phryd arall yn llai; ond nid ydyw hyn i gyd ond cyfnewidiadau.

Barna llawer o ymchwilwyr doethion a deallus, manwl a chywrain, yn y mater hwn, bod y Creawdwr mawr wedi gosod y fath ddeddfau mewn natur, fel y mae yn barhaus ymweithio ynddi ei hunan, i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiadau. Gallai fod rhyw ymweithiad gan y dwfr yn nghrombil y ddaear o flaen y diluw, a rhyw ragbarotoi gan ffynhonau y dyfnder mawr i ymagoryd, fel y byddai i'r llifeiriant ymruthro allan. Gallai fod gan y tân yn bresenol ryw ymweithiad yn mherfedd y ddaear, a bod deddfau natur fel yn rhagbarotoi y byd hwn at gael ei losgi. Pa fodd bynag, y mae tân mawr yn y ddaear; ac feallai fod safnau y mynyddoedd tanllyd yn gynifer o bibellau i ollwng awyr i'w gryfhau, ac nad yw y daeargrynfau ond arwyddion o'r ymdaeniad; ac mai hwn, wedi iddo ymgryfhau digon, fydd yn ymruthro allan yn niwedd y byd, ac yn llosgi y ddaear ar gwaith a fyddo ynddi. Er y cyfnewidiadau a fo, ni ddifodwyd eto ddim; a pha gyfnewidiadau bynag a fydd eto ar y ddaear, mae yn debyg na ddifodir mo honi byth, ond y bydd nef newydd a daear newydd, mewn dull newydd, rhagorach a pherffeithiach, ei hagwedd yn harddach, a'i hawyr yn burach.

Yr un modd am danom ninau, ddynion. Pa amgylchiadau bynag y bydd raid i ni fyned trwyddynt, pa gyfnewidiadau bynag a gymer le arnom, ni fyddant oll yn alluog i'n gyru o fodolaeth. Yr ydym i fod byth, er marw: i ni y mae "wedi hyny bod barn."

Yr ydym yn bresenol yn dyfod i sylwi ar yr ail fater yn y testyn,

II. Yr hyn sydd yn canlyn marw, sef barn.

Pe na buasai dim ar ol marw, ni buasai nemawr o bwys yn yr amgylchiad, ond "ac wedi hyny bod barn." Barn ydyw dedfryd neu benderfyniad Barnwr. Wrth farn yn y lle hwn y mae i ni ddeall; yr edrych fydd i mewn i'n hachos, wedi i ni ymadael â'r byd hwn. Bydd barn bersonol a chyffredinol; yn y farn bersonol bydd pawb yn cael eu troi i'w lle eu hun am byth. Y Barnwr fydd yr Arglwydd Iesu Grist: mae hyn wedi ei osod iddo oherwydd ei fod yn Fab y dyn. Ni bydd angen am farn yno yn yr un ystyr ag yn y byd hwn, sef i ymchwilio i'r materion, i edrych pa un a'i euog a'i dieuog. Ni bydd angen am holi tystion i ddyfod ar materion i benderfyniad, oherwydd bydd y barnwr yn hollwybodol. Bydd pob mater yn eithaf hysbys iddo cyn ei ddwyn ger ei fron. Bydd un olygfa ar y byd tragwyddol yn rhoddi i bawb berffaith esboniad ar ei sefyllfa anghyfnewidiol. Y mynyd yr egyr y byd mawr ei ddorau o flaen dyn, bydd mewn un amrantiad yn deall pa le y bydd ei gartref yn oes oesoedd. Bydd achos pob dyn yn cael ei benderfynu, na bydd newid i fod arno, ar ei fynediad cyntaf i'r byd tragwyddol.

Ar ryw olwg, gellir dywedyd ei bod yn ddydd barn yn wastadol, oblegid y mae rhyw liaws mawr o ddynion yn dropio i'r byd tragwyddol yn barhaus; ond y mae yn amlwg yn y Beibl, pan y gorphenir holl oruchwyliaeth rhagluniaeth, y bydd barn gyffredinol, pryd y caiff holl hiliogaeth Adda, ynghyd â'r angylion syrthiedig hefyd, eu galw ymlaen i dderbyn eu dedfryd olaf, ac o hyny allan i dderbyn eu cyfiawn daledigaeth; canys ni bydd cosb y drygionus, na gwobr y cyflawn, yn gyfiawn hyd hyny. Gelwir yr adeg hono yn ddydd, ac yn ddydd mawr. Mae llawer dydd mawr wedi bod er dechreu y byd. Dydd mawr oedd y dydd y boddwyd y byd â diluw; dydd mawr oedd y dydd y dinystriwyd dinasoedd y gwastadedd; dydd mawr oedd y dydd y safodd yr haul ar lleuad; dydd mawr oedd y dydd y cymerodd y Rhufeiniaid Jerusalem; dydd mawr oedd y dydd y gorchfygodd Alexander ymerodraeth Persia a Media; dydd mawr oedd y dydd y lladdwyd Nelson yn Nhrafalgar, ac y dinystriwyd grym moryddol holl alluoedd cryfion Cyfandir Ewrop; dydd mawr oedd y dydd y gorchfygodd y Duc Wellington Buonoparte ar faes Waterloo; ond pe gellid enwi yr holl ddyddiau, ar gorchestion mawr a wnaed dan haul erioed, ni byddent oll ond rhyw oferedd gwâg wrth y dydd mawr a ddaw. O ddiwrnod digyffelyb! Dydd Iesu Grist, a dydd Duw y gelwir ef. Da fyddai i ni gofio yn ein dydd hwn y bydd y Barnwr yn mynu un dydd ar ol pawb.

Bydd rhyw fawredd anghydmarol ar holl amgylchiadau y dydd hwnw, oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, a llef yr archangel, ac âg udgorn Duw. Clywir crochlef yr udgorn yn dadseinio holl gyrau y greadigaeth. Cynhyrfoir holl natur i gyd; treiddia y swn i waelodion y beddau, deffroir y meirw o'u cwsg hir; ar olygfa gyntaf a welaut fydd y Barnwr wedi sefydlu ei orsedd. fainc yn y cwmwl, a gosgordd ardderchog o angylion o'i amgylch, a hwythau yn cael eu galw ger ei fron. A byddwn ninau â'r llygad yma yn gweled yr olygfa; a bydd yr olwg fydd ar y gdr fydd ar y ewmwl, yn wahanol iawn i'r olwg oedd arno o flaen Pilat. Bydd Herod a'r archoffeiriaid, a henuriaid Jeriwsalem, yn gwelwi ac yn crynu wrth yr olwg arno. Byddant yn cofio y noswaith y buont yn ei arwain o lys i lys, gan ei wawdio a'i ddirmygu; a bydd hyny yn gnofeydd arteithiol iddynt.

Sylwaf ar rai pethau mewn perthynas i'r Barnwr. Dywed Caryl ei fod i'w arswydo mewn pump o olygiadau (1.) Am na ddichon y grym mwyaf mo'i ddigaloni. (2.) Am na ddichon y cyfoeth mwyaf mo'i wobr—ddenu. (3.) Am na ddichon y ffraethineb na'r cyfrwysdra mwyaf mo'i ddyrysu. (4.) Am na bydd dim apelio oddiwrth ei ddedfryd. (5.) Am y bydd yn anmhosibl diddymu ei ddedfryd.

Gallaf finau ddywedyd y bydd ei ddedfryd mor gyfiawn na bydd gan neb ddim i'w feio arni. Os bydd yn galed ar rai, bydd yn gyfiawn ar bawb; ni rydd ar neb fwy nag a haeddai. Tal i bob un yn ol ei weithred. Bydd ei orsedd yn anfeidrol wen, a'i gyfiawnder yn tanbaid ddisgleirio yn dragwyddol ogoneddus.

Ychwaneg a allesid ei ddywedyd, ond yn

2. Y modd y bydd gwaith y dydd yn cael ei gario ymlaen. Pa hyd fydd y dydd. mae yn anmhosibl penderfynu. Mae yn debyg mai nid dydd o bedair awr ar hugain fydd. Meddylia rhai mai mil o flynyddoedd a fydd; tybia eraill y bydd yn parhau cyhyd ag y parhaodd amser; y goreu ydyw aros nes ceir gweled. Y gwaith cyntaf ar ol i'r Barnwr gymeryd yr orsedd fydd, galw yr holl dyrfa gerbron. A bydd yn rhaid i bawb ymddangos. Bydd golygon treiddgar y Barnwr yn cyniwair trwy holl gyrau y greadigaeth, fel y bydd yn anmhosibl llechu na ffoi o'i wydd. Yn ganlynol, fe ddidolir y rhai drwg oddiwrth y rhai da; ac fe osodir y rhai da ar ei ddeheulaw, ar rhai drwg ar yr aswy. Yna y Barnwr a ymlaen i ddadlenu holl ddigwyddiadau amser, ac i oleuo pob amgylchiad tywyll.

Byddaf yn meddwl y bydd y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen mor fanwl ag y bydd pob un yn cael ei alw ymlaen, megis wrth ei enw, ac y bydd y Barnwr yn darllen ar goedd y dorf fawr, holl ymddygiadau pob un ar ei ben ei hun. Byddaf yn meddwl mai hyn fydd diben y farn ddiweddaf. O ran gwneyd ail brawf, ni bydd angen am dani, gyda golwg ar y duwiolion na'r aunuwiolion eilwaith; ond rhag i un digwyddiad nac amgylchiad aros dan leni o dragwyddol dywyllwch. fe oleua y Barnwr ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calonau.

Bydd hyn yn peri mwy o ofid i'r annuwiol, yr holl ddibenion gau yn cael eu datguddio, yr holl bechodau yn cael eu cyhoeddi, yr holl golliadau yn cael eu hadrodd, yr holl gyfleusderau a gamddefnyddiodd, yr holl wahoddiadau a ddibrisiodd yn cael eu hedliw iddo. Pa deimiladau o gywilydd a'i meddiana! Pa faint o warth a dirmyg a roddir arno!

Bydd hyn hefyd yn peri mwy o lawenydd i'r duwiol. Pa deimladau o orfoledd a'i meddiana pan glywo ei rinweddau yn cael eu coffâu, y cyhuddiadau a roddwyd yn ei erbyn yn cael eu dangos, ar holl bechodau wedi eu taflu i ddyfnderoedd y môr. Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn ar drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw, ar hwn nis gwasanaetho ef.

Peth o annhraethol werth fydd bod mewn heddwch â'r Barnwr.


Nodiadau[golygu]