Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Rowland Evans, Aberllefenni

Oddi ar Wicidestun
Morris Jones, Aberllefenni Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Ychydig o Gynyrchion Rowland Evans

PENOD VIII

ROWLAND EVANS, ABERLLEFENNI

YR ydym eisoes wedi gwneuthur amryw gyfeiriadau at wrthddrych y benod hon; ond yn bresenol ymdrechwn grynhoi yr hyn sydd wybyddus i ni, ac y credwn a fydd o ddyddordeb parhaol, o hanes ei fywyd, i gyn lleied o gwmpas ag y gallwn, gan ychwanegu sylwadau ar ei gymeriad a'i waith. Mae yn hyfryd genym hefyd y gallwn roddi i'n darllenwyr amrywiol gynyrchion, y rhai a ddangosant y dyn yn llawer gwell nag unrhyw sylwadau o'r eiddom ni.

Gyda golwg ar rai pethau yn ei fywyd boreuol, cawsom radd o anhawsder, oherwydd y gwahaniaeth rhwng amrywiol adroddiadau a dderbyniasom; ond gwnaethom bob ymdrech i gael allan o honynt yr hyn y barnem a ddeuai yn agosaf i'r gwirionedd, er y rhaid i ni addef fod ansicrwydd yn aros eto am rai o'i symudiadau.

Mab ydoedd Rowland Evans i Lewis a Jane Evans; a ganwyd ef mewn lle o'r enw Felin Eithin, gerllaw Mathafarn, yn mhlwyf Llanwrin, Maldwyn, yn Ebrill, 1792 Yr oedd yr ieuangaf o bedwar o blant. Dygodd ei unig frawd, yr hwn a elwid Evan Lewis, ar hwn ydoedd aelod gyda'r Annibynwyr, i fyny deulu lliosog o naw o blant. A bu pump o'r rhai hyn yn bregethwyr gyda'r enwad hwnw yn Lloegr; ond nid oes mwy nag un o honynt yn awr yn fyw. Bu farw ei chwaer Jane yn 18 mlwydd oed; ond bu ei chwaer Elisabeth yn briod â Hugh Lumley, yr hwn oedd frawd i Richard Lumley, a grybwyllwyd mewn penod flaenorol, ac i Robert Lumley, yr hwn y daw ei enw gerbron mewn penod ddilynol. Gŵr crefyddol iawn, meddir, oedd Lewis Evans; ond bu farw pau nad oedd Rowland ei fab ieuangaf yn fwy na deunaw mis oed. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi ei farwolaeth, symudodd ei weddw, gyda'i phedwar plentyn, i ardal Corris, lle yr ymbriododd eilwaith â'r blaenor ffyddlawn Richard Anthony. Yn yr Hen Shop y dywedir iddynt breswylio am rai blynyddoedd; a thra yno ymddengys i Rowland fod am beth amser yn yr Ysgol gyda Lewis William. Os ydoedd y dyddiad mewn penod flaenorol yn gywir, yr oedd ar y pryd o wyth i naw mlwydd oed. Cafodd y fraint, fel un o ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol, o adrodd y chweched benod o'r Epistol at yr Ephesiaid yn gyhoeddus wrth Mr. Charles ar un o'i ymweliadau; a dywedodd yntau ar y pryd, Y mae rhywbeth yn y bachgen hwn. Bu am rai blynyddoedd yn hogyn gyda Dafydd Humphrey yn Abercorris. Yr adeg hono, y mae yn ymddangos, yr aeth ei fam a'i phriod i fyw i Felin Aberllefenni; ac ymhen amser aeth yntau yno atynt i ddysgu gwaith Saer coed, canys dyna oedd galwedigaeth Richard Anthony. Yn ei flynyddoedd olaf, dychwelodd Rowland Evans at yr alwedigaeth hono i enill ychydig trwyddi, wedi i'w iechyd fyned yn rhy wanaidd i fyned gyda'r gaseg a'r gert i'r Dderwen Las. Ond trwy ei agosrwydd i'r Felin, ymddengys iddo deimlo mwy o awydd am fod yn felinydd na myned ymlaen gydai saerniaeth, ac felly, pan ydoedd tua 15 mlwydd oed, aeth i'r Felin Goegian, gerllaw y Cemmaes, Maldwyn, yn fath o egwyddorwas. Cedwid y Felin hono gan hen wraig, nodedig o gall a deallus, yr hon a roddai iddo lawer o gynghorion; yn enwedig gyda golwg ar y byd presenol, yn y ffurf o ddiarhebion. Nid ydoedd eto yn aelod eglwysig, nac ychwaith wedi cael mynychu y Cyfarfodydd Eglwysig gydai rieni; ond parhaodd i fyned i'r Ysgol Sabbothol wedi symud i'r Cemmaes. Nid oes un hanes ddarfod iddo erioed ddangos un duedd at fod yn fachgen gwyllt; ond pan oedd tua 18 mlwydd oed cafodd droedigaeth amlwg iawn. Ac y mae yr amgylchiadau yn werth eu gosod i lawr gyda gradd o fanylder.

Dydd Nadolig, yn y flwyddyn 1810 yn ol yr arferiad y pryd hwnw, aeth gyda'i gyfoedion i chwareu gyda'r bêl droed; ond ar derfyn y dydd, yn lle myned gyda hwynt i'r dafarn, aeth i wrandaw y Parchedig John Hughes, Pontrobert, yr hwn oedd i bregethu yn y Cemmaes y noson hono. Testyn y pregethwr ydoedd 1 Timotheus i: 15 "Gwir yw y gair &c." Sylwai fod y geiriau yn cymeryd yn ganiataol fod pawb yn bechaduriaid yn wreiddiol, ac nid wedi myned felly rywbryd ar ol tyfu i oedran, fod y gorden ddamniol ar wddf y pechadur yn dyfod i'r byd. Ac, ychwanegai, os nad ydyw Duw o'i ras wedi ei thynu ymaith, y mae am dy wddf y foment hon. Wrth adrodd yr hanes, ymhen llawer o flynyddoedd, dywedai R. E. iddo deimlo ar y pryd fel pe na buasai neb yn y capel ond y pregethwr ac yntau; a bu am dymor wedi hyny mewn trallod blin yn achos ei enaid. Aros y tuallan i'r eglwys a wnaeth efe er hyny. Ymhen rhai misoedd wedi y bregeth uchod, aeth i wrando y Parchedig William Williams, o'r Wern, yn pregethu oddiwrth Hosea xiii. 13, "Mab anghall yw efe canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant." Sylwai y pregethwr fod perygl mawr i ddyn ddechreu oedi yn yr argyhoeddiad. "Fel y llwyth yn myned trwy y gors, meddai, os a hwnw ymlaen ar ei union, bydd ganddo siawns dda i fyned trwodd; ond os erys yn ei chanol a dechreu suddo, deg i un nad yn ddarnau y rhaid ei gymeryd oddiyno." Effeithiodd cymhwysiad y pregethwr o'r sylw hwn yn ddwys iawn ar feddwl R. E. ond oedi a wnaeth drachefn am oddeutu chwe mis. Tua'r adeg hono clywodd fod y Parchedig John Evans, New lnn, yn pregethu yn Machynlleth, ar Parchedig John Elias yn Llanbrynmair, yr un adeg. Wedi peth petrusder, penderfynodd fyned i wrando ar y diweddaf. I Lanbrynmair yr aeth, dros y mynyddoedd meithion, ac ar hyd llwybrau tra anhygyrch. Testyn y pregethwr y tro hwnw ydoedd Numeri x. 29, "Tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti" O dan y bregeth teimlai fel un wedi ei lwyr orchfygu, a phenderfynai ymuno âg eglwys Dduw ar unwaith; ond erbyn tranoeth yr oedd yn dechreu caledu drachefn. Yn lled fuan, os nad y diwrnod hwnw, wrth fyned i fyny i'r mynydd, i gyrchu llwyth o fawn, gwelai nifer o fechgyn yn chwareu pitch and toss, a thybiodd ar unwaith fod yno gyfleusdra rhagorol i ymlid ymaith aflonyddwch ei deimladau. Ymdaflodd gan hyny yn egniol i'r chwareu am ryw yspaid; ac wedi hyny aeth ei gyfoedion tuag adref, ac yntau yn ei flaen i'r mynydd. Wedi cyraedd yno, yn ol un hanes a gawsom, dallwyd ef gan ystorm arswydus o fellt a tharanau; aeth yn ystorm, pa fodd bynag, yn ei feddwl. Ofnai rhag i Dduw ei ladd yn y fau; ac yn y terfysg y diwrnod hwnw y torwyd y ddadl am byth yn ei feddwl. Y cyfleusdra cyntaf a gafodd ar ol hyny, ymunodd â'r eglwys Fethodistaidd yn y Cemmaes. Yr oedd, hyd yn ddiweddar, un yn fyw yn ei gofio yn y cyfnod hwn, sef yr hen dad hybarch James Ellis, o'r Cemmaes, yr hwn a dystiolaethai iddo hynodi ei hun yn fuan yn ei ymroddiad i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol. Nid oedd yn ei feddiant ar y pryd ond Beibl a Hyfforddwr Mr. Charles; ond llafuriodd yn galed am wybodaeth Ysgrythyrol yn nghanol pob anfanteision. Pan oedd tua 22 mlwydd oed symudodd o'r Cemmaes i'r Felin Gau, yn ardal Penegoes, gerllaw Machynlleth. Yn Machynlleth yr oedd yn aelod eglwysig yn ystod ei arosiad yn y lle hwn; ond dywedir ei fod yn ffyddlawn ac ymdrechgar gyda'r Ysgol Sabbothol yn Penegoes tuag adeg ei chychwyniad. Mewn llyfr dyddorol a gyhoeddwyd ychydig flynyddau yn ol, ar Hanes yr Ysgol Sabbothol yn Nyffryn Dyfi, dywedir fel y canlyn : Wrth y Twyn Celyn (fel ei gelwir), yn mhentref Penegoes, y mae tŷ bychan i'w weled, yn yr hwn yr oedd yn byw, flynyddoedd lawer yn ol, ddwy chwaer grefyddol, o'r enwau Mary a Jane Miles. Yno y cafodd yr Ysgol Sabbothol; le i roddi ei throed i lawr gyntaf yn y pentref hwn. Yr oedd hyny oddeutu y flwyddyn 1810 Ei chyfeillion mwyaf zelog oeddynt Morris Davies; John Jones, Bowling Green; a Rowland Evans, gwas ar y pryd gyda Mr. John Lewis, Felin Gerig. Ond yn ol yr hanes a gawsom nid oedd R. E. yn yr ardal hon hyd oddeutu y flwyddyn 1814

Tra yn ardal Penegoes, cymerodd iddo ei hun yn wraig un o'r enw Mary Peters, merch i John ac Ann Peters, Aberdyfi, yr hon a ddygasid i fyny yn grefyddol. Tachwedd 7, 1818, y priodwyd hwy, yn Eglwys Towyn, gan y Parchedig David Davies, M.A, Curad, (o Bennal wedi hyny) pan oedd R. E. yn 25 mlwydd oed, a'i briod flwyddyn yn hynach nag ef. Wedi priodi, cymerodd felin ei hun yn ardal Eglwys Fach, Swydd Aberteifi, lle y preswyliodd am bedair neu bum mlynedd. Ymhen tua blwyddyn wedi symud i'r lle hwn dewiswyd ef yn flaenor yn nghapel y Graig; yr hyn sydd dystiolaeth sicr fod ynddo y pryd hwnw ryw nodweddau tra anghyffredin. Cymhellwyd ef yn daer hefyd i ddechreu pregethu, ond gwrthododd yn benderfynol. Tua'r flwyddyn 1822, neu 1823, pan ydoedd yn 30 mlwydd oed, symudodd o Sir Aberteifi i Felin Aberllefenni, i ofalu am dani dros Humphrey Davies, Abercorris. Ac felly yr ydym yn ei gael, ar ol absenoldeb o ddeuddeng mlynedd, yn ymsefydlu eilwaith yn y lle y buasai yn byw gyda'i fam a'i dad gwyn, ac yn y lle yr oedd i dreulio bellach weddill ei oes.

Nis gallwn fanylu ar ei helyntion am y 47 mlynedd y bu yn y Felin,—y 29 cyntaf fel goruchwyliwr H. Davies, ar gweddill gyda chymeriad y Felin ganddo ei hun. Digon helbulus fu ei holl fywyd. Yn un peth, yr oedd yn wastad mewn ansicrwydd. Clywsom ef yn dywedyd unwaith, Yr wyf yn yr hen Felin yma ers deugain mlynedd; ond ni bum erioed yn gwybod a gawn i aros ynddi flwyddyn arall. Croes drom iddo fu afiechyd maith ei briod. Bu yn orweddiog am lawer o flynyddoedd, ac yn dioddef hefyd lawer mwy nag a dybid yn gyffredin. Siaradai yn lled iach yn ei gwely; ac yr oedd bob amser yn gwbl gyfarwydd â hanes y Felin, er heb ei gweled ers blynyddoedd. Hawdd fyddai gweled ar R. E. os byddai Mari yn waelach. Dangosodd tuag ati dynerwch diderfyn; ac yr oedd ei marwolaeth, Mai 24ain, 1856, yn 65 mlwydd oed, yn brofedigaeth lem iddo.

Cyfyng fyddai ei amgylchiadau yn wastad; ac ar adegau byddai mewn anhawsder i gael deupen y llinyn ynghyd. Byddai yn cadw cwpl o fuchod, a byddai ganddo hefyd yn wastad hyd y blynyddoedd olaf gaseg a chert, yn cludo llechi i lawr i'r Dderwen Las. Cyn gwneuthur y Tramway i'r lle hwnw, a chyn gwneuthur y Cambrian Railway i Fachynlleth, byddid yn cludo holl gerig y chwarelau i lawr i'r Dderwen Las mewn gwageni a cherti, oddieithr y rhai a gyrchid i'w defnyddio ar hyd gwahanol ranau y wlad oddiamgylch; ac oddiyno cymerid hwy i lawr yn y cychod ar hyd Afon Dyfi, i Aberdyfi, i'w cymeryd drachefn yn y llongau o'r porthladd hwnw i wahanol borthladdoedd y deymas hon ar Cyfandir. Trwy gludo y llechi y byddai tenantiaid y boneddwr a berchenogai y chwarel yn talu eu hardrethoedd, ac yn gwneuthur, feallai, ryw gymaint dros ben; a bu R. E. am flynyddoedd, tra yn gofalu am y Felin ei hun, yn cadw gwas i ganlyn y gaseg ar gert. Wedi adeiladu y ty engine mawr gerllaw y Felin, aeth y ddiweddaf yn gwbl ddiwerth, oddieithr yn y nos, pan na byddai y dwfr yn cael ei ddefnyddio gyda'r blaenaf, neu ynte pan y byddai llifogydd mawrion yn peri fod cyflawnder at wasanaeth y naill ar llall. Dibynai R. E. bellach braidd yn gwbl ar ei lafur ei hun gyda'r gaseg ar gert, a llafur Eliza gyda'r gwartheg, y moch, ar ieir. Wedi gwneuthur y tramway o Aberllefenni i'r Dderwen Las, daeth goruchwyliaeth y cario i ben, ond caniatawyd yn dirion iddo ef barhau, er y gostyngwyd y pris iddo yntau hefyd. Yr oedd ei iechyd yn hynod egwan ac ansicr; a chanlyn y gaseg ar gert trwy bob tywydd yn dra niweidiol iddo. Teimlai yn fynych yn hynod ddigalon, yn enwedig pan y gwelai ambell ddrws yn cau a arferasai fod yn agored iddo. Ar un o'r amgylchiadau hyn yr ydym yn cofio ei weled yn hynod o isel, pan y dywedwyd wrtho, Cymerwch galon, daw gwaredigaeth o rywle eto. Dichon y daw, atebai yntau, ond rhaid ein bwrw ni ar ryw ynys, ac ar hyn o bryd dyw'r ynys ddim yn y golwg. O'r diwedd aeth ei iechyd yn rhy lesg iddo barhau ar y ffordd, a bu raid gwerthu y gaseg ar gert, ac aros gartref i geisio enill ychydig trwy ei hen alwedigaeth fel saer coed, yr hon y buasai yn dysgu ychydig arni yn yr hen Felin yn nyddiau ei febyd.

Bywyd a llawer o ddedwyddwch yn perthyn iddo ar yr un pryd oedd ei fywyd ef yn nghanol pob trafferthion. Hen dŷ gwael oedd yr hwn y preswyliai ynddo. Nis gallai dyn o daldra cyffredin fyned i mewn iddo heb blygu; ac wedi myned ychydig ymlaen rhaid oedd plygu ychwaneg cyn y gellid ymwthio i'r gongl wrth y tân o fewn yr hen simdde. Dysgwch blygu; ydi hi yma meddai R. E. unwaith wrth Mr. Humphreys Dyffryn, pan yn myned i mewn yno. Ie felly y gwela i, Rowland, meddai yntau; a phlygu i fochyn hefyd. Byddai yn gyffredin weddillion un neu ychwaneg o'r cyfryw yn grogedig dan y nen; ond yr oedd yn rhaid plygu yn is drachefn wrth fyned ymlaen tua'r gornel. Ar lawr y byddai y tân, a choed fyddai ei ddefnydd braidd yn wastad. Ar y naill law yr oedd settle, y gallai dau eistedd arni, gerllaw i'r hon y byddai yn wastad ford gron. Y gongl yn ymyl y ford oedd congl R. E. Yr ochr arall i'r tân yr oedd mainc, yr hon y gallai tri neu bedwar eistedd arni, ac o dan ba un y cedwid yn gyffredin ryw gymaint o danwydd. Yn yr hen gonglau hyn, treuliwyd llawer hirnos gauaf yn dra difyrus. Byddai y cwmni weithiau yn lliosog ac amrywiol, ond byddai yr ymddiddan bob amser yn adeiladol. Ni chaniateid i wegi ddyfod i mewn, er y byddai yno yn gyffredin bob sirioldeb. Yno y treuliasom rai o oriau dedwyddaf ein hoes. Cymerid i fyny rai prydiau bwnc o athrawiaeth, y pwnc fyddai dan sylw ar y pryd yn yr ysgol, neu bwnc y cawsid pregeth arno yn ddiweddar, neu ynte a ddaethai i sylw mewn cyfarfod eglwysig; ac ar adegau ceid dadleuon gwresog. Nid oedd Llyfrgell y Felin yn helaeth, ond yr oedd ynddi ddau neu dri o lyfrau o awdurdod uchel yn ngolwg ei pherchen, yn arbenig Y Geiriadur, ac Esboniad Thomas Jones ar yr Hebreaid. Gelwid y blaenaf yn fynych i'r bwrdd; a byddai y neb a ddigwyddai gael yr awdurdod hwnw o'i ochr, yn teimlo ei hun cystal a buddugoliaethwr.

Ar adegau eraill, adroddid hanesion am hen bregethwyr, hen bregethau, hen seiadau; a llithrai yr ymddiddan nid yn anfynych at y profiadol. Nid ydym yn cofio gweled neb erioed yn tynu mwy o fwynhad o gymdeithas cyfeillion nag a dynai R. E. ar yr adegau hyn, ac yn wir ar bob adeg y digwyddai iddo syrthio i gymdeithas ei frodyr. Byddai yn anghofio ei ofidiau yn llwyr, nid yn unig yn nhŷ Dduw, ac yn nghymdeithas y saint yno, ond hefyd yn eu cymdeithas ymhob man arall. Llawer awr a dreuliodd ar ei ffordd adref o'r addoliad gyda'i gyfeillion; ac nid anfynych y bu yr ymddiddanion hyn yn swynol eraill, y rhai a hoffent wrandaw arnynt er heb gymeryd rhan ynddynt.

Yn nghanol pob trallod, ac yn ngwyneb pob profedigaeth, dangosodd ddioddefgarwch Cristionogol. Gŵr gonest ac uniawn ydoedd yn ei holl drafodaethau, a hynod heddychlawn a thangnefeddus. Dros yr holl flynyddoedd y bu yn oruchwyliwr i H. Davies, tystiai y diweddaf na chafodd erioed yr anghywirdeb lleiaf yn ei gyfrifon; ac yr oedd yn wastad yn dra gofalus am gyfarfod ei holl ofynion yn brydlawn a chyflawn. Gyda llawer o bethau yn wir nid oedd yn brydlawn. Annibendod oedd un o'i ddiffygion. Ar ol y byddai yn gyffredin yn myned i'r addoliad, ac ar ol hefyd yn myned o'r addoliad. Llawer sèn a ddioddefodd yn dawel oblegid y diffyg hwn. Ond gydai ofynwyr yr oedd yn dra ymdrechgar i fod yn brydlawn.

Nodweddau mwyaf amlwg ei gymeriad fel dyn oeddynt amynedd, ac addfwynder. Yn ngwyneb dioddefiadau o bob math yr oedd yn addfwyn, a than brofedigaethau cryfion i fod yn wahanol, dangosai braidd bob amser yr ysbryd mwyaf amyneddgar. Unwaith y clywsom am dano wedi gwylltio, a hyny mewn cyfarfod eglwysig yn y Felin. ryw adeg cyn adeiladu yr ysgoldy yn Pantymaes. Ymddengys fod dwy chwaer oeddynt yn byw yn yr un lle wedi syrthio allan a'u gilydd, ac i'r helynt rhyngddynt gael ei ddwyn i mewn i'r eglwys. Achos yr ymrafael oedd camddealltwriaeth rhwng yr ieir ar y buarth. Tybid fod ffrae yr ieir wedi ei chymeryd i fyny gan un o'r ddwy wraig. un diwrnod cadwyd ieir y wraig hono i mewn yn y tŷ, a gadawyd yr holl fuarth yn rhydd i ieir y wraig arall; ond canlyniad y rhyddid hwn a fu eu marwolaeth bob un. A chanlyniad eu marwolaeth ydoedd ymrafael blin rhwng y ddau deulu. Dygwyd y cweryl i'r society, ond y cwbl oedd yn eglur ydoedd fod yr ieir oll wedi marw. Sicrwydd moesol yn unig oedd gan y cyfeillion fod marwolaeth ieir un wraig wedi ei hachosi gan y wraig arall; a dadlenai R. E. fod hwnw yn ddigon, tra yr oedd eraill yn dadleu y dylid cael prawf uniongyrchol. Am unwaith pallodd ei amynedd, a dywedir iddo wylltio yn gidyll ; ac mai da iawn oedd fod Morris Jones yn bresenol i ddwyn pethau i drefn. Cymerodd M. J. yr achos i fyny, a rhoddodd i'r ddwy wraig driniaeth a'u danfonodd adref wedi eu darostwng gan gywilydd, os nad wedi eu hystwytho gan ras. Ychydig mewn cymhariaeth o'r rhai a ddygwyd i fyny o dan ei addysg am y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes a allent feddwl am dano, er y tro hwn a ddigwyddasai, ond fel un o'r rhai llarieiddiaf o ddynion.

Yr oedd yn ddiau yn dra amddifad o'r nodweddau y cyfeiriwyd atynt yn H. Davies, ar rhai oeddynt hanfodol i sicrhau llwyddiant mewn ystyr dymhorol. Yr oedd ynddo gydwybodolrwydd dwfn, ond yr oedd yn amddifad o'r yni ar egni sydd yn gwneyd dynion llwyddianus. Yn ei farn ar bob achos yr oedd yn annibynol hollol; ac os byddai galw, safai i fyny dros ei farn gyda dewrder a gwroldeb, ond nid oedd ynddo ar yr un pryd yr annibyniaeth ysbryd i enill iddo ei hun safle annibynol yn y byd. Da iawn fuasai fod ynddo ychydig o'r ysbryd oedd yn y fath gyflawnder yn Humphrey Davies. Aeth trwy y byd yn ddyn ar ei eithaf yn wastad, heb erioed fod yn meddu safle y gellid ei hystyried yn annibynol.

Yr oedd ar yr un pryd yn ddyn o graffder neillduol, ac o allu meddyliol o radd uchel. Yr oedd yn llawer ehangach ei wybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol na H. D.; a'i syniad am athrawiaethau yr efengyl yn annrhaethol gryfach ac eglurach; ond yr oedd ar yr un pryd yn amddifad o'r nerth oedd mor amlwg yn H. D. i'w wneyd yn feistr ar amgylchiadau. Nid rhyw wlanen o ddyn ydoedd; na, yr oedd o argyhoeddiadau dyfnion, ac ni phetrusai sefyll dros ei egwyddorion; ond yr oedd ei natur yn gwbl rydd oddiwrth yr uchelgais iachus sydd bob amser yn nodweddu y dynion sydd yn dyfod ymlaen yn y byd.

Fel Cristion yr oedd yn ddiau yn un o'r rhai disgleiriaf a welwyd yn yr ardaloedd hyn erioed. Tystia un brawd, sydd yn fyw eto, ei fod yn wastad yn teimlo yn ei ddyddiau gwylltaf fod Duw yn agos iawn ato pan y byddai R. E. gerllaw. Dyma ydoedd yr argyhoeddiad yn meddyliau ieuenctyd yr ardaloedd bob amser. Edrychai pawb arno yn ŵr Duw. Er mor siriol ei dymer ydoedd, ni ymollyngai un amser i ysgafnder. Un tro, mewn cyfarfod eglwysig yn Pantymaes, pan yr oedd cwyn fod amryw o'r aelodau yn euog o ysgafnder tra phechadurus yn y chwarel, safodd i fyny, a gofynodd dair gwaith, Pwy o honoch a all fy nghyhuddo i o ysgafnder? Yr oedd yr apêl yn hynod effeithiol, am fod tystiolaeth ymhob cydwybod ei fod ef bob amser, ac ar bob achlysur, yn gwbl rydd oddiwrth yr hyn y rhybuddiai eraill rhagddo.

Yn ei holl ymddygiadau yr oedd yn dra gwyliadwrus yn wastadol. Byddai ei holl ymddiddanion yn adeiladol: ac anhawdd ydyw credu i'r cymydogaethau hyn weled erioed ddyn yn fwy rhydd oddiwrth bob diffygion. Yn ei deulu yr oedd yn ddifwlch hollol gyda'r addoliad teuluaidd. Deuai adref yn fynych yn hwyr; ond nid ymneillduai i orphwys un amser heb gadw dyledswydd. Foreu a hwyr, Sul a gwyl a gwaith, ni oddefid bwlch yn yr addoliad teuluaidd. Cymhellai yn fynych yn y cyfarfod eglwysig na byddo iddo gael ei roddi heibio ar y Sabbath, gan sylwi fod yn Israel ddau oen yn y boreu, a dau oen yn yr hwyr yn cael eu haberthu ar y Sabbath tra na aberthid ond un ar ddyddiau eraill yr wythnos. Darllenai y Beibl o'i gwr, ac aeth trwyddo oll liaws o weithiau. Ni byddai byth yn plygu dalen y Beibl; ond ni byddai er hyny mewn unrhyw drafferth i gael gafael ar y lle y byddai wedi gadael heibio y tro o'r blaen. Ac yr ydym yn credu na threuliodd llawer o ddynion mewn amgylchiadau cyffelyb erioed fywyd cyfan yn nes i ysbryd addoli na R. E.

Hoffem yn fawr allu cyflwyno i'n darllenwyr syniad teilwng am dano, yn arbenig mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbothol, ac fel swyddog eglwysig. Edrycher arno yn gyntaf yn ei gysylltiad â'r Ysgol Sabbothol.

Gwelsom eisoes ei fod er yn foreu yn aelod o honi, ac iddo barhau yn ffyddlawn iddi yn ei holl symudiadau. Cawn weled eto yn ei areithiau y gwerth a roddai arni; ond gorchwyl lled anhawdd fydd gosod allan y gwasanaeth gwerthfawr a wnaeth iddi yn ystod ei Oes faith.

Fel athraw ni raid i ni betruso datgan ei fod yn ddiau yn un o'r rhai rhagoraf, er na chawsom ein hunain erioed y fraint o fod yn aelod o'i ddosbarth. Byddai ei ddosbarth yn wastad yn lliosog, yr hyn oedd dystiolaeth sicr i effeithiolrwydd yr athraw. A magodd hefyd lawer o athrawon, er mai nid ei ddosbarth ef yn gyffredin oedd y dosbarth athrawon. Ond ymataliwn rhag gwneuthur unrhyw sylwadau pellach arno yn y cysylltiad hwn. Bu yn ffyddlawn yn y swydd am uwchlaw pymtheng mlynedd a deugain.

Fel holwyddorwr, yr oedd yn meddu ar ragoriaeth arbenig. Dechreuodd ar y gorchwyl yn gyna'r yn ei oes, ac ni roddodd ef i fyny hyd y diwedd. Ac yn Aberllefenni, yn benaf trwy ei ddawn a'i lafur ef, daeth holwyddori yn sefydliad tra phoblogaidd. Ar ddiwedd yr ysgol bob Sabbath, treulid chwarter awr neu ychwaneg gydag ef; a mynych iawn yn y blynyddoedd gynt y cynhelid cyfarfodydd holwyddori ar nos Sabbothau. Yn y prydnhawn yn unig y ceid pregeth y pryd hwnw; ac yn lle cyfarfod gweddi (yr hwn a fyddai yr un mor boblogaidd ar bregeth) ceid ar adegau gyfarfodydd i'r amcan uchod. A chyfarfodydd tra neillduol fyddent. Cymerid weithiau ran o benod o'r Beibl, a phryd arall benod o'r Hyfforddwr; ond yn achlysurol darperid 'Mater', yn y ffurf o holwyddoreg, gan un neu ychwaneg o'r brodyr cartrefol. Mae on blaen yn awr lyfr yn cynwys nifer mawr o'r cyfryw, wedi eu cyfansoddi gan Howell Jones, Gell Iago; Samuel Williams, Ffynonbadarn; a Rowland Evans. Wele restr o honynt : Am werthfawrogrwydd Gwir Grefydd; Am Bechadur Tafod; Am y Pechod o Falchder; Am y Cyfamod Gweithredoedd; Am Ddewiniaeth; Am Addoli; Am Agweddau Anaddas tuag at Air Duw; Am Ostyngeiddrwydd; Am Ailenedigaeth; Am Chwilio'r Ysgrythyrau a Myfyrio ynddynt; Am y Prophwydoliaethau am Grist a'u Cyflawniad; Am lwyddiant Teymas Crist; Am Athrawiaeth y Cyfrifiad; Am y Cysgodau o Grist yn ei Dair Swydd Gyfryngol; Am Genfigen; Am Galedwch; Am Gariad Brawdol; Am Gadw'r Sabbath; Am Hunanoldeb; Am Gariad Duw; Am Ffyddlondeb gyda gwaith yr Arglwydd. Am Barhad mewn Gras; Am Esgeuluso Moddion Gras; Am Gyfeiliornadau; Am Ddiweirdeb.

Wedi parotoi mater, rhenid ef mewn ysgrifen ar ddarnau bychain o bapyr i'r gwahanol ddosbarthiadau. Byddai yn y modd yma bob dosbarth yn dysgu allan un o'r atebion, ynghyd â'r adnodau a ddygid ymlaen fel profion ; ac eid trwy yr holl Fater bob yn rhan ar ddiwedd yr ysgol, nes bod felly yn barod i gael cyfarfod ar nos Sabbath i fyned trwyddo oll. Cymerid dyddordeb cyffredinol yn y cyfarfodydd hyn, pryd yr holwyddorid gan awdwr y Mater. Creodd rhai o honynt radd o gynwrf yn y gymydogaeth. Yn anffodus, nid oes genym sicrwydd pa nifer o'r Materion uchod a gyfansoddwyd gan y tri brawd; ond dywedai Samuel Williams wrthym ei fod yn cofio yn dda mai efe a barotoisai yr un Am Gyfeiliornadau ; ac yr oedd argraff ar ei feddwl mai efe hefyd ydoedd awdwr yr un Am Ailenedigaeth. Dodwn i mewn yn y benod nesaf yr unig ddau y mae sicrwydd mai R. E. ydoedd eu hawdwr; a dangosant un peth o leiaf yn eglur, sef fod llafur gwirioneddol gyda'r Ysgol Sabbothol yn y dyddiau hyny.

Nid anghofir byth rai o'r cyfarfodydd ar nos Sabbothau yn Pantymaes gan neb oedd ynddynt, yn enwedig pan fyddai R. E. yn holi, ac yn ei hwyliau goreu. Yn yr olwg arno oddiallan nid oedd dim yn neillduol: a dywedai un brawd wrthym ei fod yn teimlo yn dra siomedig wedi ei weled, am nad oedd yn canfod ynddo ddim i gyfreithloni y son a glywsai am dano. Gwanaidd a lleddf oedd ei lais: ond byddai yr holwyddori yn ei law yn rhywbeth gogoneddus ar adegau. Byddai mewn hwyl hyfryd ei hun; ac ni byddai un amser y wledd i gyd yn disgyn i ran yr holwyddorwr. Gwelsom rai gweithiau ddynion wrth areithio neu bregethu yn ymddangos yn mwynhau yn rhyfeddol eu hunain, a'u gwrandawyr yn synu ac yn gofidio na chaent hwythau ryw gyfran fechan o'r mwynhad; ond byddai R. E. fel holwyddorwr yn wastad mewn perffaith gydymdeimlad â'i gynulleidfa. Nis gallwn ddywedyd pa un a'i y goleuni a'i y gwres fyddai yn fwyaf amlwg; ond yr ydym yn sicr na fyddai ef yn foddlawn heb arwyddion fod y deall yn. cael ei oleuo, a'r galon hefyd yn cael ei gwresogi. Ni roddai un amser yr anghefnogaeth leiaf i neb a geisiai ateb ei gwestiynau, gan nad pa mor anfoddhaol fyddai yr ateb: i'r gwrthwyneb, gwelid ateb lled ganolig yn troi yn ateb da yn ei ddwylaw ef. Hawdd er hyny fyddai gweled arno effaith wahanol pan roddid ateb cywir a llawn; ond y mae yn anmhosibl gosod ar bapyr y gwres a gynyrchid wedi cael y cyfryw gan ei Ie ; da iawn: rhywun eto. Tynai ei law yn frysiog dros ei wallt o'i goryn i lawr i'w dalcen; ac yna gafaelai âg un llaw y ddehau, yn mrest ei gôt, ac â'r llaw arall yn nghefn y fainc ol flaen, gan godi yn fynych ar flaenau ei draed, y rhai oeddynt arwyddion sicr ei fod yn gwresogi yn y gwaith. Pan y codai y gwres yn uchel iawn byddai yn gollwng y fainc ac yn gafael yn mrest ei gôt â'i ddwy law, gan wasgu y ddwy ochr at eu gilydd drachefn a thrachefn, a chodi yn barhaus ar flaenau ei draed. Byddai y plant yn deall yr arwyddion hyn cyn bod yn alluog i ddeall nemawr am werth yr hyn a fyddai dan sylw; ac nid oedd rhai mewn oed ychwaith uwchlaw bod ar eu gwyliadwriaeth am danynt. Yr oedd R. E. yn wres—fesurydd yn gystal ag yn wresgynyrchydd yn y gynulleidfa. Gadewid y cyfarfod gweddi weithiau gan rai o'r bobl ieuainc i fyned ar ol y pregethwr i Gorris; ond ni addewid y Cyfarfod Holi un amser, yn enwedig os R. E. fyddai yr holwr. Ac anmhosibl ydyw prisio yn briodol y daioni a gynyrchwyd yn y blynyddoedd lawer y bu y llafur hwn yn myned ymlaen yn y gymydogaeth. Yr oedd i R. E, fel y dywedwyd, gydlafurwyr ffyddlawn yn Howell Jones, a Samuel Williams; ond cydnabyddent hwy eu hunain yn rhwydd, a chydnabyddai pawb eraill yr un modd fod R. E. fel holwyddorwr yn dywysog yn eu plith.

Llanwodd bob swydd yn yr Ysgol Sabbothol yn ei gartref; a bu hefyd o wasanaeth gyda hi mewn manau eraill. Llawer a areithiodd ar Yr Ysgol Sul ; ac y mae yn hyfryd genym all rhoddi i'n darllenwyr rai engreifftiau o'i areithiau. Gwelir hwy yn y benod nesaf Bu yn ymweled hefyd â gwahanol ysgolion, ac yn dangos medr neillduol i wneuthur y gorchwyl hwnw yn effeithiol. Clywsom am dano unwaith yn rhoddi adnod i'w darllen, sef Esaiah xxv. 5 "Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl, &c". Ychydig a geid wedi sylwi mai arddodiad ac nid cysylltair yw yr a yn yr adnod; a'i wers yntau oedd, wrth gwrs, yr angenrheidrwydd am sylw ar yr hyn a ddarllener. Un o feibion yr Ysgol Sabbothol ydoedd ; mawr oedd ei zêl drosti a'i frwdfrydedd gyda hi hyd ddiwedd ei oes.

Rhaid i ni eto geisio cyflwyno rhyw syniad am dano fel swyddog eglwysig,—fel blaenor. Dangoswyd eisoes ei fod wedi gwasanaethu yn y swydd hon mewn tair o eglwysi,—yn gyntaf oll yn Nghapel y Graig, Swydd Aberteifi; yna yn Nghorris, ac yn olaf yn Aberllefenni. Nid ydym yn gwybod nemawr am ei hanes yn y lle cyntaf; ond gwyddom mai un or pethau cyntaf y daeth i deimlo o'i herwydd fel blaenor ieuanc oedd bychander y gydnabyddiaeth i'r pregethwyr. Swllt, maen debyg, oedd y swm cyffredin y pryd hwnw am bregeth; ond mynodd ef ei godi yn y Graig i haner coron, o leiaf yn achlysururol os nad yn gyson. Ystyrid y swm hwn yn uchel, yn wastraffus o uchel; a dygodd y blaenor ieuanc arno ei hun gryn helynt trwy i'r pregethwr, wrth ei dderbyn un tro, yn drwsgl iawn ollwng yr haner coron i'r llawr, nes y gwelodd pawb oedd yn bresenol drostynt eu hunain y gwastraff. Er bod yn gyffredin ei amgylchiadau, yr oedd o duedd haelionus; a pharhaodd felly hyd y diwedd. Yn Nghorris, daeth yn fuan i lanw lle pwysig fel cydswyddog â'i feistr, Humphrey Davies. Sylwyd eisoes ar y lle mawr oedd i flaenor yn y dyddiau hyny. A rhoddwn yma arwydd ychwanegol o hono trwy ddyfynu yr hyn sydd ysgrifenedig ac argraffedig ar Docyn sydd yn awr on blaen :

"Rowland Evans, Golygwr Cymdeithas
y Methodistiaid yn Corris, Swydd Meirionydd.

Arwyddwyd Daniel Evans
Richard Humphreys.
Medi 1, 1843

Ar wyneb arall y Tocyn, ceir yr hyn a ganlyn:—

A WYT TI YN FY NGHARU I?

Portha fy wyn; Bugeilia fy nefaid; Portha fy nefaid. Ioan
xxi. 15—17 Edrychwch arnoch eich hunain, ac ar yr holl
braidd, gan fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i
briod waed. Nid fel rhai yn tra—arglwyddiaethu ar etifeddiaeth
Duw, ond gan fod yn esamplau i'r praidd. Yn gwylio
dros eu heneidiau megys rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif.
Actau xx. 28; 1 Petr v. 2, 3; Heb. xiii. 17 "

"Golygwyr" oedd blaenoriaid y cyfnod hwn; ac fel y cyfryw cyflawnent bob gwaith a berthyn i swydd gweinidog yr efengyl, oddigerth pregethu a gweinyddu yr ordinhadau. A cheir gweled yn fuan fod R. E. yn gwneyd y cwbl mewn gwirionedd ond gweinyddu yr Ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Ein hamcan, pa fodd bynag, yn y sylwadau hyn, ydyw mynegi ffeithiau, ac nid dwyn i mewn unrhyw feirniadaeth. Yr ydym yn cydsynio yn galonog â'r sylwadau canlynol gan y diweddar Barchedig Griffith Williams, Talsamau, yn ei lyfr bychan dyddorol ar "Yr Hynod William Ellis:—

Wrth son am dano fel blaenor, dylem gymeryd hamdden i dalu gwarogaeth i'r urdd hon o swyddogion yr oedd ef yn perthyn iddi. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am yr achos yn y blynyddoedd gynt yn gwybod hefyd am y gwasanaeth mawr a wnaed gan y swyddogion hyn; ac yr ydym yn dyledus fesur mawr iddynt am y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos yn ein plith. Bu amser pan y byddai gofal yr achos yn gartrefol yn gorphwys bron yn gwbl ar ysgwyddau ein diaconiaid. Yr oedd y gweinidog yn weinidog i'r holl Gyfundeb, a gofal cyffredinol yr achos trwy Gymru oll ganddo: ond am y blaenor, fe fyddai ef, fel y wraig rinweddol, yn gwarchod gartref; neu fel Sara, gwraig Abraham, bob amser yn y babell, ar holl ofalon yn eu hamrywiaeth mawr yn gorphwys arno.

Urdd ardderchog mewn gwirionedd oedd urdd yr hen flaenoriaid, y rhai oeddynt olygwyr ar yr eglwysi.

Gyda H Davies, fel yr awgrymwyd, daeth R. E. i gymeryd ei ran yn ngolygiaeth yr eglwys yn Nghorris; ac ni chydweithiodd dau swyddog erioed yn fwy hapus. H D. fyddai yr arweinydd bob amser. Yr oedd y cynllun i lywyddu bob yn ail fis heb ddyfod i feddwl neb yn yr oes hono. Wrth alwad H D, yr hwn a fuasai yn flaenor rai blynyddoedd yn yr eglwys o'i flaen, yr ymaflai R. E. yn wastad yn ei waith. Araf, anniben oedd R. E, os gadewid ef iddo ei hun; ond gyda H D, yr hwn oedd bob amser yn llawn bywyd ac egni, byddai yn gweithio yn rhagorol. Crybwyllasom eisoes ddisgrifiad Richard Owen o'r ddau yn y Cyfarfod Eglwysig; ac anmhosibl fuasai cael ei ffyddlonach. Myned i mewn i deimladau ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol oedd amcan mawr R. E, deall eu tywydd, a gwybod pa beth a wnaent eu hunain yn ei ganol. Ond eu cael i'r lan oedd pwnc mawr H. D. Er ei fod yn llawer mwy galluog a gwreiddiol nai dad, Dafydd Humphrey, yr oedd yn ddiau lawer o'i ysbryd ynddo. Ni fynai D. H. ei faeddu gan amheuon; yr oedd y cyfamod ganddo yn wastad i syrthio yn ol arno. Preswylio yr uchelderau y byddai efe. Ac yr oedd cwyno yn ddiddiwedd yn beth nad oedd gan ei fab amynedd gydag ef: gwrthdystiai yni ei natur yn ei erbyn. A'i bwnc ef fyddai cael y dioddefwyr a'r cwynfanwyr i'r lan. Rhwng y ddau, byddai y cyfeillachau eglwysig yn dra dyddorol ac adeiladol.

Nid llawer o bethau digrifol a ddigwyddasant erioed mewn cysylltiad â R. E.; ond un tro, yn Nghorris, dywedodd air a arweiniodd i ganlyniadau lled ddigrifol. Yr oedd dau hogyn yn gwasanaethu gyda Dr. Evans, yn y Fronfelen. Perthynai un o honynt i'r society a daeth y llall un noson yno gydag ef. Buasai y ddau hogyn yn y berllan, yn cymeryd rhyw nifer o afalau; a chuddiasai yr un oedd heb fod yn y society lonaid ei gadach poced o honynt yn becyn yn ei goffr gartref, nes y deuai yr amser cyfaddas i'w bwyta. Nid oedd hyn, pa fodd bynag, yn wybyddus ond i'r ddau hogyn eu hunain. Yn y Cyfarfod Eglwysig, dywedodd H. D. : Maen dda genym weled Richard, y Fronfelen, yma heno. Lle gwerthfawr i fechgyn fel yma sydd yn eglwys Dduw. Gobeithio, machgen i, y byddi di yn fachgen da iawn. Newch chi ofyn gair iddo, Rowland Cyfododd R. E. i fyned ato, ac wrth gychwyn dywedodd, Wel, gadewch i ni weld beth sydd yn ei bac o. Tybiodd y bachgen fod ei gyfaill wedi dweyd wrth R. E. am yr afalau; cipiodd ar unwaith ei gap odditan y fainc, aeth allan ar frys, ac ni welwyd ef yno byth mwyach. Gydag enwad arall y bu yn aelod ymhen blynyddoedd ar ol hyny; a chyda'r enwad hwnw yr arhosodd hyd ei farwolaeth.

Bu R. E. yn swyddog yn eglwys Corris am oddeutu ugain mlynedd, sef hyd sefydliad eglwys yn Pantymaes, Aberllefenni. Yr oedd tua 50 mlwydd oed pan y terfynodd ei gysylltiad âg eglwys Corris; ac o hyny hyd ei farwolaeth bu yn "dad" yr achos yn Aberllefenni. Er nad oedd mor adnabyddus o lawer y tu allan i'w gymydogaeth a H. D, eto yr oedd ei glod fel blaenor wedi cyraedd i liaws o eglwysi yn y cymydogaethau cylchynol. Yr ydym yn gwneuthur y dyfyniad canlynol o lythyr a dderbyniasom oddiwrth y Parchedig Evan Davies, Trefriw, yr hwn sydd enedigol o gymydogaeth gyfagos, sef o Aberangell

Y tro cyntaf i mi glywed son am Rowland Evans, oedd wrth ddyfod adref o seiat yn Aberangell, gyda'm tad, ar hyd llwybr camfäog, ar noson dywell, wlybyrog, pan yn blentyn bychan o bump i chwech oed. Braidd nad oeddwn yn grwgnach, ac yn cwyno y drafferth o fyned i'r capel ar y fath noswaith ystormus. Ond atebai fy nhad, Taw son, fachgen, yr oedd y seiat heno yn werth cerdded deng milldir iddi trwy dywydd mwy na hwn. Tybiwn inau fod y clod am effeithiolrwydd y seiat hono i'w briodoli yn gyfan i ragoroldeb yr unig flaenor oedd yn y lle ar y pryd; yr hwn gyda y Parchedig Richard Jones oedd yn gwneyd y cwbl i arwain y moddion ymlaen. Nid oedd y Parchedig R. Jones yn bresenol y noson y cyfeiriais ati; ac felly syrthiodd y gwaith yn hollol ar y blaenor, Mr. David Dayies, Blaen-y-plwyf Isaf. Er nad oedd David Davies wedi darllen llawer, nac yn ddyn o syniadau eang, yr oedd yn nodedig am ei bwyll a'i synwyr, yn ŵr pur, a hollol gysegredig i grefydd, ac yn meddu dawn arbenig i gadw seiat yn flasus ac adeiladol. Pan soniodd fy nhad wrthyf am effeithioldeb y seiat hono, gofynais iddo yn y fan, A oes blaenor yn rhywle cystal a David Davies, fy nhad? Atebai yntau, Ni wn i ddim yn wir: un go dda ydyw Rowland Evans y Felin, Aberllefenni. Yr oedd yr atebiad yna yn y fath gysylltiad yn ddigon i beri i ini gadw ei enw byth yn fy nghof, Bum yn holi llawer ar fy rhieni yn ei gylch ar ol hyny; a chefais bob lle i gredu fod R. E. yn rhywun mwy na chyffredin".

Ac felly yn ddiau yr ydoedd; ond ni chafodd neb gystal cyfleusdra i wybod hyny ar rhai yr estynwyd iddynt y fraint o fod yn gyson dan ei ddylanwad. Adeiladu ac ymgeleddu oedd ei amcan mawr; ac yr oedd ei fedr at y gorchwylion hyn yn neillduol. Byddai yn dra gofalus hefyd am ddisgyblaeth eglwysig; ond ni welwyd erioed arwyddion fod gweinyddu cerydd yn rhoddi iddo un hyfrydwch. Safai i fyny yn wrol dros wirionedd, a siaradai ar adegau yn hynod gryf a difloesgni.

Cofus genym unwaith fod chwaer ieuanc wedi gwneuthur tro tra annheilwng, ond yn hynod gyndyn i gyfaddef y gwirionedd, hyd yn nod wedi iddo ddyfod yn gwbl adnabyddus. Wedi rhoddi iddi bob chwareu teg i wneyd cyffesiad, a dangos pob amynedd dichonadwy, dywedodd o'r diwedd wrthi; "—yr wyt ti yn ymgyrdeddu mewn celwydd." Yr oedd y fath eiriau oddiwrtho ef yn cynyrchu effeithiau trydanol. Ond wrth ymgeleddu y byddai yn ddedwydd, ac annrhaethol well fyddai ganddo rybuddio na cheryddu. Ac yn y cwbl yr oedd ei ddylanwad yn rhyfeddol.

Tuag at ddeall y dylanwad hwn rhaid cymeryd i ystyriaeth ragoroldeb ei gymeriad fel Cristion. Yr oedd ei dduwioldeb yn amlwg, a sancteiddrwydd ei fywyd yn adnabyddus i'r holl gymydogaeth. Nid oedd ynddo un math o lymder na gerwinder. Byddai ei holl ymddiddanion yn fwynaidd a thirion; ond er hyny gosodai ei arswyd ar fechgyn gwylltaf y gymydogaeth. Byddent oll ar ffô y foment y dywedai un o honynt fod yr Hen Felinydd yn dyfod. Yr oedd yn dda gan ei galon am y bechgyn gwylltion, a mynych y ceisiai, trwy ei eiriau caredig, eu dwyn at yr Iesu. Oes arnat ti ddim awydd dyfod i'r seiat, John ? meddai unwaith wrth hogyn digon direidus, sydd bellach ers blynyddoedd yn swyddog eglwysig. Oes, weithiau, meddai yntau. Wel, gwna hast, da fachgen; mae ar Iesu Grist eisiau peth ryfeddod o dy sort di, meddai yr hen flaenor. Ymdrechai ddeall eu cymeriadau, a pha fodd y gallai yn fwyaf llwyddianus gael gafael arnynt. Mae gan ras lawer iawn o waith i'w wneyd ef yn ddyn, heb son am ei wneyd yn Gristion; meddai am un o honynt. Ac y mae yn ofnus fod y naill na'r llall heb ei wneyd hyd yma.

Gweddiai lawer dros icuenctyd y gymydogaeth. Yr oedd yn hynod fel gweddiwr. Gwledd i ni yn wastad fyddai ei glywed ef yn gweddio. Dechreuai ei weddi braidd bob amser gyda'r geiriau, Diolch iti, diolch iti Dad Nefol. Anfynych yr esgeulusai weddio dros yr ieuenctyd. A chofiai yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i fywyd am fechgyn Cymru, a bechgyn Aberllefenni yn arbenig, yn ngwahanol wledydd y byd. Gofid calon iddo ef oedd eu gweled wedi tyfu i fyny, a dechreu bod yn ddefnyddiol yn yr eglwys, yn myned i'r America neu i Awstralia; a pharhaodd i weddio drostynt yn y gwledydd hyn tra y bu byw ar y ddaear.

Un tro yr oedd yn myned i Liverpool i: edrych am ei ferched; a digwyddodd iddo gael ei oddiweddyd gan bedrolfen, yr hon a yrid gan ŵr ieuanc, oedd ar y pryd yn lled bell dan ddylanwad diodydd meddwol. Derbyniwyd ef i'r bedrolfen gyda pharodrwydd; ac wedi dechreu ymddiddan â'r gyrwr, aethant yn fuan yn dra chyfeillgar. Mynai y gŵr ieuanc iddo gymeryd rhan o'i ymborth; ac nid oedd gomedd arno. Wel, bachgen glân dy galon wyt ti, meddai R. E.; pity na chaet ti ras. Mae'n anodd gen i feddwl dy fod ti yn un i'w golli. Ar hyny torodd y gŵr ieuanc allan i wylo; a dywedai fod ganddo y fam dduwiolaf fu ar y ddaear erioed. Bu R. E. yn gweddio dros y bachgen hwn am flynyddoedd yn gyson yn yr addoliad teuluaidd, ac yn holi am dano pa bryd bynag y gwelai rywun o'r wlad y perthynai iddi; ond nid ydym yn deall iddo glywed dim o'i hanes tra yn y fuchedd hon.

Yr oedd yn weddiwr mewn gwirionedd. Mae yn wybyddus y byddai yn gweddio llawer yn y dirgel; byddai yn gwbl gyson gyda'r gwaith yn y teulu; ac yn y cyfarfodydd cyhoeddus cofir byth am ei weddiau. O ein Hiesu bendigedig! meddai un tro wrth ddechreu yr ysgol, O fawredd ei ddioddefiadau! Fel Oen y Pasg gynt, yr hwn oedd i'w rostio wrth dân heb gymaint a thrwch padell na chrochan rhyngddo ar tân ; felly yntau, yr oedd heb y cyfrwng lleiaf rhyngddo â holl wres ofnadwy y digofaint dwyfol. Cofiwyd am flynyddoedd am ei weddi yn nghladdedigaeth Mary Thomas, o Fotyr Waen, pan y dywedai : Dyma ni yn awr yn rhoddi gweddillion marwol ein hanwyl chwaer yn y bedd. Diolch iti ein Tad, nad ydi hi ddim yn myned o'th law di, hyd yn nod yn y fan yma. Ei holl saint ydynt yn dy law. Diolch am hyn. Yn dy law di y mae dy saint ymhob man: yn dy law yn nghanol cystuddiau a phrofedigaethau byd; yn dy law yn angau; yn dy law yn y bedd. A dyna fydd yr adgyfodiad, ein Duw ni yn agor ei law: bydd llwch pob un o'r saint yn gwbl ddiogel ynddi. Ac yr oedd bod yn llaw Duw yn un o'r syniadau mawr ac anwyl ganddo. Clywsom ef lawer gwaith, ar derfyn cyfarfod eglwysig, pan y byddai Hugh Evans, Tynycei, wedi galw ers meityn fod yr amser i fyny, yn rhoddi y darn penill i'w ganu:

Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan;
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad wyf ond eiddil gwan.

Ond clywsom y canu ar y rhan olaf o'r hen dôn Moriah yn myned wedi hyny a chryn lawer yn ychwaneg o amser nag a fwriadai efe pan yn rhoddi allan yr haner penill.

Yr oedd yn wrandawr rhagorol hefyd dan y weinidogaeth. Byddai bob amser yn astud, ac yn fynych yn wylo yn hidl. Ni byddai ar unrhyw adeg yn fawr ei swn; yr unig air a ddywedai oedd Amen. Ni chlywsom ef erioed yn dywedyd Diolch iddo, Bendigedig, na dim arall: ond wylai nes y byddai ei lygaid yn gochion, a'i lais hefyd yn diffygio. Ac ar ol yr amlygiadau hyn o deimlad, ceid yn y cyfarfod eglwysig adroddiad melus ganddo o'r gwirioneddau a garient y fath effaith ar ei ysbryd. Rhoddai yn wir arbenigrwydd Yn. wastad ar y weinidogaeth; a chymhellai bawb i ail—adrodd yr hyn y gallent ei gofio o'r pregethau.

Ond yr oedd pob peth ynddo, ei gymeriad difrycheulyd, ei dduwiolrwdedd dwfn, ei weddiau taerion, a'i deimladau dwysion y cwbl yn fanteisiol i'w ddylanwad yn yr eglwys pan yn ymgeleddu y saint. heblaw gwerth cynhenid yr hyn a ddywedid ganddo yr oedd pwysau y fath gymeriad yn dyblu y dylanwad. Ond anaml y gwelwyd neb yn meddwl llai o hono ei hun, nac yn gosod gwerth uwch ar ei frodyr. Pell fyddai o gymeryd i fyny yr amser ei huuan; yn wir, byddai ar adegau yn treulio cymaint o hono i gymell eraill, yn hytrach na myned ymlaen ei hun, nes y byddai amynedd rhai brodyr yn pallu. Wedi i'r Parchedig Ebenezer Jones ddyfod i Gorris, gwahoddid ef yn fynych i Aberllefenni i gadw seiat; ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei gynorthwy yn fwy na Rowland Evans. Pan y byddid yn derbyn ymgeiswyr at Fwrdd yr Arglwydd, yn enwedig, ni theimlai yn hapus heb ei gymorth. Nid oedd dim yn bellach oddiwrtho na hunan—hyder. Ond yr oedd pobl eraill yn rhoddi ynddo yr hyder llwyraf; a theimlai ei frodyr yn gwbl galonog i wynebu ar unrhyw orchwyl os byddai ef yn bresenol.

Rhaid i ni gymeryd golwg arno cyn terfynu mewn un cymeriad arall. yn ei gladdedigaeth, dywedai ei hen gyfaill, a'i gydswyddog hefyd am lawer o flynyddoedd, y diweddar Samuel Williams, Pregethwyr oedd Rowland Evans, a phregethwr da iawn. Fe bregethodd lawer, ac yn rymus iawn hefyd, yn Aberllefenni. Mae genym gof bywiog am lawer o'r amgylchiadau y cyfeiriai S. W. atynt. Wedi i ddau frawd weddio, cyfodai R. E. i ddarllen ychydig o adnodau, ac i wneuthur sylwadau arnynt, a therfynu y cyfarfod. Gwneid hyny ar adegau gan eraill, ac yn enwedig gan Samuel Williams, gyda chymeradwyaeth gyffredinol. Ond cydnabyddai pawb mai R. E. oedd y tywysog gyda hyn hefyd. Digon cyffredin weithiau fyddai y bregeth yn y prydnhawn Pell oddiwrthym fyddo dywedyd dim yn isel am y pregethwyr ffyddlawn a ddeuent i Aberllefenni yn mlynyddoedd ein mebyd. Bychain iawn oedd eu manteision, a bychani oedd galluoedd rhai o honynt; ond gwnaethant wasanaeth gwerthfawr i achos crefydd yn eu dydd. Nid oes braidd un o honynt yn awr yn aros. Maent wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Ond gwirionedd syml ydyw fod R. E. yn rhagori yn fawr fel pregethwr ar lawer o honynt, ac y byddai ei anerchiad yn yr hwyr yn llawer mwy effeithiol nar bregeth yn. y prydnhawn Gellir ffurfio rhyw syniad am ei anerchiadau oddiwrth yr engreifftiau a roddir o honynt yn y benod nesaf; ac eto nis gellir ffurfio ond drychfeddwl tra anmherffaith am eu dylanwad ar y gwrandawyr. Nid oedd yn medru eu hysgrifenu fel y llefarai hwynt, nac yn medru eu llefaru ychwaith fel yr ysgrifenai hwynt. Cofir byth lawer o'i ddywediadau. Dyma un engraifft : Llestr pridd oedd Job ar y goreu; ond yr oedd er hyny yn tincian ar y domen.

Rhaid i ni, pa fodd bynag, ddwyn ein sylwadau i derfyniad. Yn 1866, wedi mwynhau iechyd hynod wanaidd am flynyddoedd, tarawyd ef gan y parlys. Gwellhaodd i fesur ar ol hyny, er na bu o lawer fel yr arferai fod o'r blaen. Yn 1870, tarawyd ef eilwaith, ac ni wellhaodd mwyach. Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn siriol dros ben, a'i ofnau oll wedi ei adael. Peth newydd iddo ef oedd hyn. Ofnus fu ar hyd ei fywyd. Yr ydym yn cofio yn dda am ymddiddan rhyngddo â'r diweddar Barchedig John Griffith, Jerusalem, yn Nhŷ'r Capel. Pan yn Nolgellau, yr oedd Mr. G. yn dra chydnabyddus âg ef, ac wedi ffurfio syniad uchel am dano. Y tro hwn, daethai i Aberllefeni i Gyfarfod y Nadolig, ar ol myned o Ddolgellau i Jerusalem, yn Bethesda. Yn enw dyn, meddai Mr. G, pan welodd R; E. yn dyfod i mewn, a'i dyma lle yr ydych chwi eto? pa bryd yr ydych chwi yn meddwl mynd i'r nefoedd ? Mae arna'i ofn garw, meddai yntau, na chai ddim mynd i'r nefoedd o gwbl. Pam yr ydych chwi yn ofni peth felly ? meddai Mr. G. Wel, meddai R. E, mae arna'i ofn na fedrwn i ddim byw ar bethau'r nefoedd. Sut felly Wel, atebai R. E, chwi wyddoch na ches i fawr erioed o bethau'r ddaear yma; ond y mae yn rhaid i mi wrth ryw ychydig o aur ac arian i fyw; ac er lleied ydw i yn gael, mae arna'i ofn y teimlwn i yn chwith hebddyn nhw, pe cawn i fynd i'r nefoedd. Yn enw dyn, meddai Mr. G, ni raid i chwi ddim byw heb aur yno: onid ydyw heolydd y ddinas yn aur pur Wel, meddai yntau, pe bawn i yn siwr y gallwn i fyw ar yr aur hwnnw—Sancteiddrwydd pur,—fe ddarfyddai fy ofn am byth.

Yr ydym yn ei gofio adeg arall, mewn Cyfarfod Misol yn Aberllefenni, yn adrodd ei brofiad, pan yr holid ef gan y Parchedig David Davies, o'r Abermaw. Sut mae'r achos yma ? meddai Mr. Davies. Wel, does yma ddim byd neillduol i'w ddweyd amdano, meddai yntau; mae pobpeth yn mynd ymlaen yn eithaf tawel yma. O, yr ydych yn cytuno â'ch gilydd, ynte meddai Mr. D. Ydym, meddai R. E, ond y mae ama i ofn ein bod ni yn cytuno i gysgu. Wedi myned ymlaen i ofyn am ei brofiad crefyddol ef ei hun, tra amheus ydoedd, a hynod ofnus gyda golwg ar ei fater tragwyddol. Wel, meddai Mr. D, pur anniben ydyw yr hen Fethodistiaid yma yn gwneyd "sum" bywyd tragwyddol. Mae rhai yn ei gorphen hi mewn mynyd, a dyna'r pryder i gyd drosodd; ond am yr hen Fethodistiaid, rhyw ffigiwr yrwan a ffigiwr yn y man y mae nhw yn ei roi; ond yn y diwedd mae nhw yn bur siwr o gael y total yn iawn, bywyd tragwyddol. Fel hyn yn hollol y bu gyda Rowland Evans. Siriolodd ei feddwl yn fawr yn ystod ei gystudd yn 1866. Dywedai i'r diafol ddyfod ato yn fuan wedi ei daro gan y parlys, a dywedyd wrtho, Dyna chdi rhan : fedri di wneyd dim byth mwyach dros dy Geidwad. Ond ychwanegai, Fe ffodd ar unwaith pan y dywedais wrtho, Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O Gadarn ? Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn gwbl dawel a siriol; ac yn wir nid oedd dim ond sirioldeb o gwbl yn ei ystafell. Yr adnod a'i cynhaliai ydoedd, Nith roddaf di i fyny, ac nith lwyr adawaf chwaith. Teimlai mai gwirionedd oedd yn y geiriau, Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynoch. Sisialai yn fynych y llinellau melus,

Hyn ywm hangor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw ;
Fe addawodd na chawn farw,
Yn nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw.

Bu farw mewn perffaith dawelwch, ac mewn llawn fwynhad o dangnefedd yr efengyl, Chwefror 1 1, 1870, pan o fewn deufis i 78 mlwydd oed. Dywedai ei hen gyfaill, Humphrey Davies, wrth gyfeirio at ei farwolaeth, nad oedd dim dadl nad i'r nefoedd yr aethai Rowland Evans, ond na bu nefoedd yn fwy amheuthyn i neb erioed nag iddo ef. Mewn hen fwthyn gwael, myglyd, y treuliodd 47 mlynedd o'i oes; ond cydnabyddid ef er hyny yn dywysog Duw ymysg yr ardalwyr; a chladdedigaeth tywysog a roddwyd iddo. Heddwch i'w lwch.

Un mab fu iddo, a phedair o ferched, ac y maent oll yn aros hyd heddyw. Mae ei fab, Lewis, a'i ddwy ferch hynaf, Ann a Mary, yn byw yn Liverpool ei drydedd ferch, Jane, yn Machynlleth; ar ieuangaf, Elisabeth, yn parhau i lynu wrth yr hen gartref.




Nodiadau[golygu]