Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/Yn Flaenor Eglwysig

Oddi ar Wicidestun
Ei Droedigaeth Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau

Ei Dduwioldeb


PEN. III.

William Ellis yn Flaenor.

Nid ydym yn gwybod pa hyd y bu WILLIAM ELLIS yn aelod yn eglwys fechan Maentwrog cyn cael ei ystyried yn flaenor ynddi. Wrth son am dano fel blaenor, dylem gymeryd hamdden i dalu gwarogaeth i'r urdd hon o swyddogion eglwysig yr oedd ef yn perthyn iddi. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am hanes yr achos yn y blynyddoedd gynt yn gwybod hefyd am y gwasanaeth mawr y mae y swyddogion hyn wedi bod ynddo, ac yr ydym yn ddyledus i fesur mawr iddynt am y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos yn ein plith. Bu amser pan y byddai gofal yr achos yn gartrefol yn gorphwys bron yn gwbl ar ysgwyddau ein diaconiaid. Yr oedd y gweinidog yn weinidog i'r holl gyfundeb, a gofal cyffredinol yr achos trwy Gymru oll ganddo: ond am y blaenor, fe fyddai ef, fel y wraig rinweddol, yn gwarchod gartref; neu fel Sara gwraig Abraham, bob amser yn y babell, a'r holl ofalon yn eu hamrywiaeth mawr yn gorphwys arno. Y blaenor oedd i chwilio am y pregethwr at y Sabbath, i ofalu am y moddion ar hyd yr wythnos, ac yn goron ar y cwbl, llafur cariad oedd yr oll. Byddai yn anhawdd cael gan rai gredu gymaint a gostiodd y swydd i lawer o honynt. Meddyliodd Richard Jones, Cwrt— hen flaenor hynod ffyddlawn yn ei ddydd—am gadw cyfrif am flwyddyn, er gweled pa faint oedd ei swydd yn ei gostio iddo. Prynodd lyfr at y pwrpas hwnw, ac yr oedd yn llawn fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl— yr arian oedd yn ei gyfranu, yr amser oedd yn ei golli, a'r ymborth yr oedd yn ei roddi i'r pregetbwyr a lettyent yn ei dŷ. Ond un diwrnod, fel yr oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Heb gyfrif iddynt eu pechodau." "Wel, wel," ebe yntau, wrtho ei hunan, "os fel yna y mae hi, ni chyfrifaf finnau ddim;" ac felly fu, ni roddodd yr un gair yn y llyfr ar ol ei brynu. Ond os na ddarfu iddo ef ysgrifenu, mae rhyw Un arall yn ysgrifenu llyfr coffadwriaeth am dano ef a'i frodyr, ac y mae dydd wedi ei ordeinio i'r cymwynasau hyn gael eu dadguddio ; a gallwn fentro dyweyd oddiyma y bydd i lawer gael eu synu wrth weled cyfres mor faith ar ol enw llawer un, am nad oeddynt hwy wedi meddwl ond ychydig o honynt erioed: dynion mewn amgylchiadau cyffredin, ac yn nghanol trafferthion bywyd, lawer o honynt, yn cael eu cyfarch gan y Barnwr yn y dydd diweddaf yn mysg ei gymwynaswyr penaf. Wrth gyfeirio at ein blaenoriaid fel rhai wedi bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar yn nghychwyniad yr achos yn ein gwlad, ni fynem i neb feddwl nad ydynt yn ddefnyddiol yn awr, ac na bydd eu heisiau yn yr eglwys yn y dyfodol. Un peth mawr y dylai yr eglwys edrych ato, mewn adeg y mae ein cyfundeb yn myned trwy newidiadau, ydyw, dysgu enill heb golli; a chredwn pe collid gwasanaeth gwerthfawr ein blaenoriaid ffyddlon trwy y Fugeiliaeth Eglwysig y byddai ein colled yn llawer mwy na'n henill. Ond gellir cael y ddau. Er mwyn calonogi lliaws o'n blaenoriaid sydd yn llafurio mewn amgylchiadau cyffredin, gallem nodi na raid iddynt oblegyd eu hamgylchiadau, beidio a bod yn ddefnyddiol, a thrwy hyny gyrhaedd enwogrwydd yn mhlith eu brodyr. Y mae ein Cyfundeb wedi arfer rhoddi lle i weithwyr, beth bynag fyddo eu safle o ran eu hamgylchiadau tymmorol. Mae llawer un heblaw WILLIAM ELLIS, er nad oeddynt ond pobl gyffredin, wedi enill iddynt eu hunain radd dda a dylanwad mawr. Yr ydym yn cael ein temtio i enwi amryw o honynt; ond gan nas gallwn osod eu henwau oll i lawr, ymataliwn.

Ymddengys na byddai ein tadau, pan yn dewis blaenoriaid, yn rhoddi nemawr o bwys ar wybodaeth a thalent. Yr hyn yr edrychent hwy am dano fyddai duwioldeb personol a dawn gweddi lled rwydd, ac os caent hyn, pob peth yn dda. Clywsom i frawd gael ei ddewis yn flaenor mewn lle flynyddoedd yn ol, heb fod yn alluog i ddarllen llythyren ar lyfr. Pan ofynwyd iddo a oedd efe yn derbyn galwad yr eglwys, dywedai nad oedd, a hyny am ei fod yn gweled ei hunan yn rhy anghymwys.

"Wel," ebe y gweinidog," os awn i edrych ar gymwysderau, ni bydd i neb o honom gymeryd swydd yn eglwys Dduw, am nad oes neb yn gymwys. Ond a ydyw eich cydwybod yn eich condemnio chwi o ryw beth nad ydym ni yn gwybod am dano? "

"Cael fy hunan yn brin iawn yr ydwyf," ebe yntau, "yn ngwyneb y bennod a ddarllenwyd yn y dechreu."

"Wel prin ydym i gyd," ychwanegai y gweinidog, "ond a ydych chwi yn syrthio yn fyr yn ngwyneb rhyw ddarn mwy na'i gilydd o honi? "

"Ydwyf yn wir," ebe yntau," yn ngwyneb y gair hwnw, ' nid yn wingar.' Pan y cyfarfyddaf fi a rhyw beth croes i fy meddwl, gwingo yn anghyffredin y byddaf."

Yr oedd syniad yr hen sant yn gywir, ac yn dangos llawer o dynerwch cydwybod; y drwg ydoedd iddo fethu am ystyr y gair. Nid ydym i feddwl mai eithriad ydoedd un fel hyn, yr oedd llawer cyffelyb iddo. Adwaenem un hen flaenor, pan alwyd arno i ddochreu seiat unwaith, ac ar ol iddo ddechreu darllen pennod yn llyfr y Cronicl— canys yno y digwyddodd y Beibl agor, a chredai mai y bennod y disgynai ei lygaid arni gyntaf oedd yr un y mynai Yspryd yr Arglwydd iddo ei darllen—yn fuan ar ol darllen ychydig o adnodau, dyma gyfandir o enwau yn ymagor o'i flaen. Edrychodd yntau yn ddifrifol arnynt, a dywedai, gan godi ei ddwylaw i fyny," Mae arnom ofn methu wrth geisio dyweyd yr enwau hyn, yr wyf yn meddwl mae eu cyfrif yw y goreu i ni." Yna dechreuodd gyfrif, a chyfrif, hyd nes y daeth o hyd i ddiwedd y bennod, a buasai yn briodol iddo ddyweyd wedi gorphen. Felly cyfrifwyd y bennod. Yr oedd ynddo ormod o barch i'r Beibl i geisio dyweyd geiriau y gwyddai nas gallai eu swnio yn gywir; ac ar y llaw arall ni fynai fyn'd heibio iddynt yn ddisylw, a beth gwell a allasai efo ei wneyd na'u cyfrif? Ond os oedd ein tadau yn rhoddi rhy ychydig o bwys ar wybodaeth a thalent, y mae yn ofnus fod y pwn wedi troi gormod erbyn ein dyddiau ni: gwybodaeth a thalent wedi cael y flaenoriaeth, a duwioldeb amlwg yn ail beth. Nis gellir gwneyd dim a ddinystria ddylanwad crefydd yn fwy, na gadael i dalentau heb eu sancteiddio gael lle mawr yn ein heglwysi.

Nid oes dim ar goflyfrau ein Cyfarfod Misol yn dangos i WILLIAM ELLIS gael ei neillduo yn rheolaidd i'r swydd; ac yn wir, byddai yn arfer dyweyd na chafodd ei ddewis yn ffurfiol gan yr eglwys erioed. Dywedai hyn unwaith wrth y diweddar Barchedig Dr. Parry, Bala, pan oedd yn pregethu yn Maentwrog, rhyw brydnawn Sabboth. Arweiniwyd i'r ymddiddan canlynol gan waith WILLIAM ELLIS yn traethu wrth y gweinidog am ei galon ddrwg, ac nas gallai byth anghofio yr olwg gafoddd arni yn Nhrawsfynydd. Gwrandawai Dr. Parry arno yn traethu am ei thwyll gyda difrifwch mawr, a gofynodd iddo—

"Os ydych yn ddyn mor ddrwg, pa fodd y dewiswyd chwi yn flaenor? "

"Ddewiswyd erioed mo honof fi yn flaenor," ebe yntau.

"Wel sut yr aethoch i'r swydd ynte," gofynai y gweinidog drachefn.

"O, mi dd'wedaf i chwi 'n union deg. Rhyw bobl bach pur ddiniwed sydd yma, a minnau yn gryn stwffiwr," ebe yntau.

"Wel, WILLIAM ELLIS," gofynai Dr. Parry eilwaith," a fyddai i chwi deimlo, pe byddai iddynt beidio a'ch hystyried yn flaenor? "

"Beth na theimla calon falch, Parry bach," ebe yntau yn ol.

Nid ydym yn meddwl y buasai neb yn dywoyd fod WILLIAM ELLIS yn stwffiwr ond efe ei hunan. Y mae yn ymddangos mai tyfu yn swyddog wnaeth WILLLAM ELLIS, ac i'r eglwys yn Maentwrog, oblegyd y rhagoriaethau oedd yn ei weled ynddo, ei ystyried yn ben arni, fel yr oedd y disgyblion yn ystyried Pedr yn flaenor arnynt hwythau. Dyma y swyddogion llwyddianus, y rhai sydd wedi eu cyfaddasu i fod yn arweinwyr, nes y bydd pawb yn cilio i roddi lle iddynt i fyned i flaen y fyddin. Nid ydynt yn llawer, ond y mae Pen yr eglwys yn gofalu am ryw nifer o rai amlwg i fod yn blaenori gyda'i achos. Mae llawer yn "cadw mwstwr" yn y blynyddoedd hyn, am y gallu llywodraethol yn cael ei wasgu i ry ychydig o le. Dywedir, gan nad ydym yn dal uwchafiaeth swyddau, y dylai pob swyddog gael rhan gyfartal yn mhob cyfarfod cyhoeddus—yn ein Cymanfaoedd, ein Cyfarfodydd Misol, a'n heglwysi unigol; a mawr ydyw y beirniadu os bydd i ryw rai gael mwy o le ynddynt na'r gweddill. Byddwn yn meddwl fod mwy o feio ar yr "Hen Gorph," fel y gelwir ef, nag ar yr un enwad arall. Y mae pawb yn ei wylio: y Chwarterolion, y Misolion, a'r Wythnosolion bethau, o'r Traethodydd fry hyd y Dywysogaeth a Llais y Wlad obry. A dyweyd y gwir, ni ryfeddem weled yr "Hen Gorph "yn codi ar ei draed yn bur fuan bellach, ac yn ymsythu, gan ofyn gyda gradd o ymffrost, "Ai môr ydwyf neu forfil, gan fod y fath gadwraeth yn cael ei osod amaf." Yr ydym ni yn credu i fesur mawr mewn Unbenaeth, ond gydag un eithriad, sef i'r pen beidio a bod yn ben gosod. Y mae y fath beth yn bod a sefydliadau a chyfundebau a phenau gosod arnynt; a phan y mae dynion yn myn'd i osod pen ar gorph y mae y pethau digrifaf yn cael eu gwneyd weithiau. Nid yw yn beth anghyffredin gweled pen Seisnig yn cael ei osod ar gorph Cymreig; y traed, y dwylaw, a'r galon yn hollol Gymreig, a'r glust, a'r llygaid, a'r tafod yn hollol Seisnig, a dim ond cwlwm oerllyd cyfraith y tir, yn cydio y pen a'r corph wrth eu gilydd. Sut y gellir disgwyl i gylchrediad y gwaed fod yn ddigon rheolaidd i gadw gwres mewn corph fel yna? Pe buasai Unbenaeth fel yna yn ein plith, buasai yn llawn bryd chwythu udgorn, galw cymanfa, a chasglu chynnulleidfa i ddyrchafu bloedd gref yn erbyn y fath gamwri. Ond nid dynion—a dim ond y neillduad fu arnynt yn rhoddi hawl iddynt flaenori—ydyw blaenoriaid ac arweinwyr ein Cyfundeb, a chyfundebau parchus eraill sydd yn ein gwlad. Pwy erioed feddyliodd ddywedyd mai penau gosod oedd Harries, Rowlands, a John Wesley? Pwy freuddwydiodd unwaith mai penau gosod oedd John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans? Onid yw pob cydwybod yn tystio fod y diweddar Barchedigion Henry Rees, ac Edward Morgan, wedi eu tori allan i'r lle mawr a lanwyd ganddynt yn eu dydd? A'r un peth a ellir ei ddywedyd am y rhai sydd yn aros heddyw yn arweinwyr byddinoedd y Duw byw. Gwae y Cyfundeb hwnw o'r dydd na byddo dynion fel hyn yn arweinwyr ynddo. Blaenor wedi tyfu yn ei le oedd WILLIAM ELLIS. Ond er yr edrychai pawb i fyny ato ef, ni byddai efe byth yn edrych i lawr ar ei frodyr.

"Dau flaenor sydd yma, onide William?" gofynai Mr. Humphreys iddo mewn Cyfarfod Misol unwaith.

"Nage," ebe yntau.

"Ai nid dau flaenor sydd yma? "gofynai y gweinidog drachefn.

"lë, dau," ebe ei gyd-swyddog.

"Nage," ebe WILLIAM ELLIS drachefn," mae pawb sydd yn y sêt fawr yn flaenoriaid yma." Fel yna yr arferai efe edrych ar ei frodyr.

Gwasanaethodd WILLIAM ELLIS swydd diacon yn dda, ac enillodd iddo ei hunan radd dda. Yr oedd yn flaenor wedi ei raddio. Y mae graddau wedi dyfod yn nwydd marchnadol yn ein dyddiau ni, ac y mae llawer o brynu arnynt: ond nid yw y graddau a brynir yn werth rhoddi dim am danynt; yn y rhai a enillir y mae y gwerth. Gradd wedi ei enill oedd gan WILLIAM ELLIS, ac ni wyddom am yr un blaenor wedi ei raddio yn uwch. Byddai yn cael ei weled yn mhob cynnulliad, o'r Ysgol Sabbothol fechan a gynhelid yn Nglan-yr-afon, lle y byddai yn arfer bod bob amser, hyd y Gymdeithasfa Chwarterol.

Lle bynag y siaradai, byddai yn sicr o enill clust pawb yn y lle. Clywyd ef lawer gwaith, a hyny yn nghyfarfodydd mwyaf poblogaidd y Methodistiaid, yn trydanu yr holl gynnulleidfa, nos y byddai pawb, fel yn ddiarwybod iddynt eu hunain, yn codi ar eu traed. Nid ffraethineb digrifol oedd yn tynu sylw—er ei fod yn llawn o hyny— ond gwreiddioldeb a mawredd ei feddyliau, y rhai a draethid ganddo weithiau gyda nerth anorchfygol; byddai ei holl gorph yn llawn cynhwrf, a disgynai ei eiriau fel tân ar glustiau ei wrandawyr. Hefyd penodid ef yn fynych i fyned i ymweled â'r eglwysi, a mawr fyddai y disgwyliad am ei weled; gwyddent y byddai ganddo flasusfwyd o'r fath a garent. Byddai cael WILLIAM ELLIS i gadw seiat yn wledd ddanteithiol fras. Ni byddai neb yn cael ei anfon yn amlach i eglwysi lle y byddai rhyw achosion neillduol yn galw am gynnorthwy nag ef. Yr oedd mwyneidd-dra ei ddoethineb ac addfedrwydd ei farn yn gyfryw ag yr oedd gan ei frodyr bob ymddiried ynddo. Bu allan o'i sir ei hun rai troion ar daith gyda y diweddar Barchedigion John Jones, Talysarn; R. Humphreys, Dyffryn; D. Rowland, Bala, ac eraill. Dywedai D. Rowland, ei fod ef wedi cael ei geryddu yn llym ganddo pan ar daith gydag ef, am iddo ddefnyddio cydmariaeth rhy isel i osod allan drefn yr iachawdwriaeth. "Dy wedais yn ei glywedigaeth, ' mae trefn yr iachawdwriaeth fel eli Treffynnon, mi mendith chwi 'n union; ' ac wedi i mi fyn'd oddiwrth y capel," ychwanegai D. Rowland," mi safodd o'm blaen ar y ffordd, ac mi ceryddodd fi yn ofnadwy, ac wedi y cerydd rhybuddiodd fi na byddai i mi byth ddefnyddio y gydmariaeth hono drachefn."

Gelwid arno yn fynych i ddechreu odfeuon o flaen ein gweinidogion blaenaf, yn y cyfarfodydd mwyaf cyhoeddus. Clywsom iddo wrthod y fraint hon un tro, a phan ofynwyd iddo paham y gomeddodd, cymerodd yntau ei ddameg i'w hateb. ' ' Yr wyf yn byw ar dir boneddiges gyfoethog, a phan y digwydd i mi ei chyfarfod ar y ffordd, dim ond myfi a hithau, byddaf yn sefyll i siarad a hi, a bydd hithau yn dangos pob parodrwydd i wrando arnaf: ond pan y digwyddaf ei chyfarfod â rhyw foneddigion gyda hi, ni byddaf y pryd hwnw ond yn rhoddi bow iddi; ac yr wyf yn meddwl y byddaf yn ei phlesio felly llawn cystal. Felly pan na bydd ond myfi a Nhad nefol gyda'n gilydd, byddwn yn scwrsio gryn lawer; ond y mae yma gryn lawer o foneddigion y nefoedd, ac yr oeddwn yn meddwl na ddigia Efe wrthyf, am i mi beidio a gwneyd dim ond rhoddi bow heddyw."