Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/Ei Dduwioldeb

Oddi ar Wicidestun
Yn Flaenor Eglwysig Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau

Ei Athrylith


PEN. IV.

Pa le yr oedd cuddiad ei, gryfder?

I. Ei Dduwioldeb.

Dywedasom yn barod nad oedd WILLIAM ELLIS ond dyn o amgylchiadau cyffredin; ac wrth feddwl ei fod wedi enill safle mor uchel yn mysg ei frodyr, y mae yn naturiol' i ni ymofyn pa le trigai ei nerth, a pha le yr oedd cuddiad ei fawr gryfder. Gallwn ddyweyd yn ddibetrus mai prif ffynnonell ei ragoriaethau oeddynt ei dduwioldeb, ei athrylith, a'i fwyneidd-dra; a gallwn trwy amryw hanesion ddangos ei fod yn rhagori yn y pethau hyn. Dechreuwn gyda'i:

DDUWIOLDEB. Nid ydym yn gwybod am neb erioed fyddai yn ammeu crefydd WILLIAM ELLIS. Y mae rhyw rai yn ammeu crefydd pawb o'r bron: ond dyma un hen bererin a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd ei dröedigaeth yn un mor amlwg, ei ymarweddiad mor ddiargyhoedd, a'i brofiadau mor nefol ac ysprydol, fel nad oedd ammheuaeth yn meddwl neb nad oedd efe yn ŵr Duw. Gwyddai beth oedd bod o dan Sinai, a gallai ddyweyd oddiar yr hyn a deimlodd ei hunan, "Mor ofnadwy oedd y lle." Tynwyd sylw ei gymmydogion ato gan gyfyngder ei enaid yn ei argyhoeddiad, ac yn fuan ar ol iddo fyned trwy y porth cyfyng hwnw fe ddechreuodd y rhagoriaethau oedd ynddo ymddadblygu, nes gwneyd i bawb a'i hadwaenai gadw golwg arno a disgwyl llawer oddiwrtho; ac ni siomwyd eu disgwyliadau. Parhaodd i ragori hyd ddiwedd ei oes. Teimlai pawb fyddai wedi bod yn nghwmni WILLIAM ELLIS, Pe na buasai ond am amser byr, fod rhyw arogl sanctaidd wedi ei adael ar eu meddyliau trwy ei ymddyddanion nefol. Yr oedd gwrando arno yn gweddïo yn ddigon o brawf ei fod yn dal cymmundeb agos â'r Goruchaf. Efallai fod y teimlad a deflir gan rai i'w gweddïau yn un o'r arwyddion diogelaf o ansawdd grefyddol y galon. Byddai y fath eneiniad ar ei weddïau mewn cyfarfodydd cyhoeddus ag oedd yn dwyn ynddynt eu hunain y sicrwydd cadarnaf ei fod yn arfer myned i'w ystafell i weddïo ar ei Dad yr hwn a wêl yn y dirgel. Yr oedd ganddo lawer Bethel; ac nid y leiaf o honynt oedd hen waggon a ddefnyddiai i gludo llechau o Ffestiniog. Llawer gwaith y gwelwyd ef, fel Elias, a'i wyneb rhwng ei liniau, yn gweddïo, gan adael i'r ceffylau gymeryd eu hamser; a byddai y rhai oedd yn deall beth fyddai yn myned ymlaen yno, yn dra awyddus am geisio dynesu yn llechwraidd, fel y gallent ei glywed yn ymbil â Duw drosto ei hun a'i gymmydogion. Yr oedd pawb yn hoffi ei glywed ef yn gweddïo bob amser. Os digwyddai iddo fod gyda rhai o'i gyfeillion ddechreunos—yr hyn ddigwyddai yn fynych—byddai yn rhaid iddo ef offeiriadu y noson hono. Ni adawai efo i bellder y ffordd, na'r ystyriaeth ei bod yn hwyrhau a'r dydd yn darfod, effeithio dim arno, ond cymerai hamdden i fyned trwy y gwasanaeth fel Pe buasai ar ei aelwyd ei hunan. Mae yn gofus genym ei gyfarfod unwaith mewn ffermdy 'o gylch saith milldir o'i gartref, ac ar ol swper estynwyd y Beibl iddo, darllenodd yntau a gweddïodd fel pe buasai yn dechreu oedfa. Wedi ymddyddan ychydig â'r teulu, dywedai," Mae yn bryd i mi gychwyn bellach, ne' mi fyddan' yn anesmwyth am danaf gartref." Yr oedd y fath hynodrwydd ynddo fel gweddïwr, fel y byddai raid iddo ddechreu yr oedfa o flaen y pregethwyr mwyaf poblogaidd fyddai yn dyfod i'r ardaloedd hyny; a byddai y diweddar Barchedig John Jones, Tal-y-sarn, yn arfer dyweyd, na byddai ganddo ef ddim diolch i allu pregethu ond iddo gael WILLIAM ELLIS i ddechreu yr oedfa. Wrth ofyn am bresenoldeb yr Arglwydd, dywedai,

"Os na chawn olwg ar dy wynebpryd, gâd i ni gael gweled rhyw gŵr o honot; dangos dy glun, neu rhywle i ni."

Gofynai cyfaill iddo beth oedd yn ei feddwl wrth ddymuniad felly. "O," ebe yntau," y mae yn cario ei gleddyf ar ei glun, a phan y mae y gelyn yn gweled hwnw y mae yn ymostwng yn y fan."

Dro arall dywedai," Dadguddia dy drysorau i ni yn awr, ni welodd neb ben draw dy shop di." Wrth ofyn am faddeuant dywedai," Maddeu Arglwydd, y mae arnom fwy o ofn ein pechodau nac uffern ei hunan." Tro arall wrth gydnabod daioni yr Arglwydd yn rhoddi cymaint o drugareddau i ni, dywedai," Does yn uffern ddim newid seigiau. Maent yn gorfod byw yno ar ddigofaint digymysg: dyna oedd yno neithiwr, dyna oedd yno boreu heddyw, a digofaint sydd yn cael ei barotoi at heno eto." Yna diolchai yn gynes nad oedd efe a'r gynnulleidfa yn y wlad lle nad oedd newid seigiau ynddi. De fyddai taerineb a difrifwch, amrywiaeth a phriodoldeb, ei weddïau, yn synu pawb fyddai yn cael y fantais o'i glywed; ac yr oeddynt mor llawn o feddwl ag oeddynt o ddefosiwn. Yr oedd ganddo brofion sicr iddo gael ei wrando lawer gwaith; adroddwn ddau hanesyn i ddangos hyn. Bu am dymmor, pan yn ddyn lled ieuangc, yn arfer myn'd i Loegr gyda gwartheg; a phan oedd yn Llundain daeth galwad ato un boreu i fyned i'r maes at yr anifeiliaid cyn iddo gael ei foreufwyd. Cadwyd ef yn y maes am oriau, dechreuodd deimlo chwant bwyd, ond nid oedd yn gweled un ffordd i gael myned i'r ddinas i brynu dim. Aeth ei angen mor fawr fel yr ymneillduodd at fonyn coeden oedd ar ganol y cae, i ofyn i'r Arglwydd am ei fara beunyddiol. Pan oedd yn gweddïo gwelai ddyn yn dyfod i'r maes, a'i neges ydoedd, gorchymyn symud y gwartheg i faes arall; a chan y cymerai hyn lawer o amser, aeth yn fwy annhebyg iddo nag o'r blaen i gael dychwelyd i'w lety. Wrth fyned o'r naill faes i'r llall, yr oedd ganddynt briffordd i'w chroesi; a phan oedd WILLIAM ELLIS yn croesi daeth cerbyd a dau geffyl yn ei dynu heibio, a safodd ar ei gyfer ef. Gwelai ffenestr y cerbyd yn agor, a boneddiges yn estyn rhywbeth iddo ; ymaflodd yntau ynddo o'i llaw, a gwnaeth ymgrymiad diolchgar am dano, er na wyddai ar y pryd pa beth ydoedd. Aeth y cerbyd i'w ffordd, agorodd yntau y parcel, a beth oedd yno ond fowl wedi ei goginio yn y ffordd oreu.

Mae yr hanesyn uchod yn ffaith, ond rhodded y darllenydd yr esponiad a fyno arno. Gallom feddwl na byddai yn orchest fawr i'r rhai hyny sydd yn credu i'r gigfran gael ei hanfon i borthi Elias, gredu hefyd ddarfod i'r foneddigos hono gael ei hanfon i borthi WILLIAM ELLIS. Yr hanesyn arall ydyw, am wraig gyfrifol oedd yn byw mewn cymmydogaeth arall, o gylch chwe milidir o'i gartref, yr hon oedd wedi ei chymeryd yn glaf, ac wedi syrthio i radd o iselder meddwl, ac yn petruso yn fawr am ddiogelwch ei chyflwr. Yr oedd WTLLIAM ELLIS yn ei hadnabod hi a'r teulu yn dda, a byddai yn gweddïo llawer drosti. Fel yr oedd yn gweddïo un boreu, deallodd rywfodd ei fod yn cael ei wrando. Cyfrwyodd ei farch, ac aeth yr holl ffordd i edrych pa fodd yr oedd pethau yn bod yn y Glyn, canys dyna oedd enw y ffermdy lle yr oedd y claf yn cartrefu. Wedi cyrhaedd y tŷ gofynai i'r ferch,—"Sut mae dy fam heddyw, a ydyw ei meddwl wedi sirioli ychydig?" "Lled debyg ydyw fy mam," ebe y ferch yn ol," nid ydym yn gwybod fod dim cyfnewidiad er gwell arni." "Wel," ebe yntau," y mae gwawr yn sicr o dori ar ei meddwl yn fuan, yr wyf wedi deall hyny wrth weddïo drosti boreu heddyw, ac yr wyf wedi dyfod yma i'ch hysbysu o hyny." Ac felly fu, gwawriodd ar ei meddwl, ac yn ngoleuni y wawr hono hi a groesodd yr afon.

Yr oedd ei grefydd yn dyfod i'r golwg yn y parch mawr oedd ganddo i'r Beibl. Byddai yn cario Beibl i'w ganlyn bron bob amser. Digwyddodd iddo un diwmod pan yn cario mawn o'r mynydd, adael y Beibl yn y fawnog ar ei ol. Pan y daeth adeg y ddyledswydd, fe gofiodd am dano, a dywedai wrth y teulu fod yn rhaid iddo bicio i'r mynydd, ei fod wedi gadael ei Feibl ar ei ol yno. Ceisiwyd ei berewsdio i beidio, gan ei bod yn hwyr iawn, a'r ffordd yn mhell ac anhygyrch. Ond nis gallai feddwl am i'r Beibl fod allan trwy y nos. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar ei Feibl, a charai yn fawr glywed eraill yn ei ddarllen. Galwodd cyfaill ieuangc gydag ef unwaith, ac er mai canol dydd ydoedd, bu yn rhaid iddo ddarllen pennod a gweddïo gydag ef a'i chwiorydd. Wrth hebrwng y cyfaill i ffordd dywedai," yr oeddit yn darllen y bennod yn glaear iawn heddyw. Meddwl am ddarllen pob gair o'r Beibl nes gwneyd i'r gwrandawyr deimlo na byddent wedi clywed gair o'r bennod erioed o'r blaen." Felly y byddai efe yn darllen bob amser. Yr oedd ei dduwioldeb yn dyfod i'r golwg yn amlwg yn y cyfarfodydd eglwysig. Adwaenai y bywyd ysprydol yn mhob ffurf arno, a gwyddai yn dda pa un ai llaeth ai bwyd cryf i'w roddi at y rhai fyddai yn dyweyd eu profiadau ar y pryd. Pan y byddai yn cael fod yr eglwys yn uchel o ran ei phrofîad, cymerai fantais y pryd hwnw i draethu ar burdeb a sancteiddrwydd Duw, a dangosai fel yr oedd Efe yn casáu twyll, celwydd, a rhagrith; a byddai pawb wrth wrando arno yn troi i'w fynwes ei hun gan weddïo gyda'r Salmydd, "Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; a gwel a oes ffordd annuwiol genyf, a thywys fi yn y ffordd dragywyddol." A phan feddyliai fod teimlad yr eglwys yn isel, ymdrechai y pryd hwnw i'w chysuro trwy ddangos y gallasai fod yn llawer gwaeth arnynt. Gofynai," Nid aeth neb oddiyma i'r carchar y flwyddyn hon, ai do? Ni chrogwyd neb oddiyma, ai do?" Fel hyn byddai yn mesur y da wrth ei well, a'r drwg wrth ei waeth.

Yr oedd ei ofal yn fawr am ieuengtyd yr eglwys. Cadwai ei lygaid arnynt yn mhob man. Yr oedd un ferch ieuangc berthynol i'r eglwys wedi myned i Gymdeithasfa Pwllheli, a silk hat ganddi am ei phen—yr oedd hyn pan oedd ladies' silk hats yn dechreu dyfod i'r ffasiwn. Ofnai WILLIAM ELLIS ei bod yn myned yn falch, a gofynodd iddi pan ddychwelodd yn ol, a oedd hi wedi cael rhywbeth yn y Gymanfa. Atebai hithau ei bod yn ofni nad oedd." Wel," ebe yntau," mi ge'st gyfleusdra da iawn i ddangos dy het newydd. Cofia di," ychwanegai, "nad yw yn ddim byd i mi i ti fod yn falch. Rhaid i ti settlo yr holl bethau yna â'r Brenin Mawr." Dychrynodd yr eneth gymaint fel y gwerthodd y silk hat, a bu yn hir heb allu meddwl am brynu un yn ei lle.

Hysbysodd merch ieuangc arall ef ei bod yn bwriadu myn'd i Loegr i wasanaethu, a rhyw brydnawn aeth WILLIAM ELLIS yn un pwrpas i'w chartref i ddanfon ei thocyn eglwysig. Yr oedd ganddo dros bedair milldir o ffordd, a chyn dychwelyd, gweddïodd gyda hi a'r teulu oll; ac er fod dros ugain mlynedd er hyny, y mae y cynghorion da a'r weddi ddifrifol yn aros yn fresh ar ei meddwl hyd heddyw.

Yr oedd ei gydymdeimlad yn fawr â'r weinidogaeth, ac â gweinidogion yr efengyl. Medrai feirniadu; ac yr oedd taflod ei enau yn deall cam flas. Dywedai un tro ar ol bod yn gwrando ar ŵr dysgedig a phoblogaidd yn pregethu," Mae yn burion peth i'r wlad gael pregeth fel yna, rhag iddynt feddwl nad oes genym ni—y Methodistiaid yma—ddim gwŷr dysgedig yn bregethwyr: ond dyn a'i helpo," meddai am y pregethwr, "fe gollodd yr eneiniad wrth fod yn rhy ddysgedig, ond waeth be' fo, fe faddeua ei Dad nefol iddo am ryw dro fel yna." Yr oedd yn hawdd gwrando ar WILLIAM ELLIS yn beirniadu, gan y gwyddai pawb y byddai yn gweddïo llawer dros y pregethwyr, yn enwedig pregethwyr ieuaingc. Dywedai wrth un pan yn gwrando arno yn pregethu ei bregeth gyntaf," Yr oeddwn yn gweddïo fy ngoreu drosot, ac yn gofyn i'r Arglwydd roddi tipyn o gymhorth i ti heno, Pe na byddai heb roddi dim byth i ti ar ol heno." Byddai yn myfyrio llawer ar y byd ysprydol a'i breswylwyr. Soniai am yr angylion da a drwg fel pe buasent ei gymmydogion agosaf. Rhoddai rhai yn ei erbyn ei fod yn oforgoelus, gan y byddai yn rhoddi coel ar freuddwydion, ymddangosiad ysprydion, a gweinidogaeth angylion. Dywedai wrth bregethwr unwaith, pan yn ymddiddan ar hyn, "Y mae yr angylion yn ymladd llawer drosom i gadw y cythreuliaid rhag ein niweidio. Y mae yn swydd digon sâl iddynt hefyd, a ninnau yn rhai mor ddrwg." Gofynai y pregethwr," A ydych yn meddwl eu bod yn dyfod i'n byd ni o gwbl?" "O ydynt," ebe yntau, "ac y mae guard o honynt yn dyfod i nol pob dyn duwiol. Daethant i nol Richard Jones, o'r Wern, dipyn bach yn rhy fuan, yr oedd o heb fod yn hollol barod. Darfu iddynt hwythau ganu bennill uwch ben y tŷ, i aros iddo fod yn barod, ond 'doedd neb yn deall y geiriau na'r dôn ychwaith: iaith a thôn y nefoedd oeddynt." Yr oedd rhai o'r cymmydogion yn dyweyd fod swn canu nefolaidd uwchben Rhosigor — y tŷ lle y bu Richard Jones farw ynddo ychydig amser cyn iddo ehedeg ymaith; a dyma ydoedd esponiad WILLIAM ELLIS arno. Y mae cymaint a hyn beth bynag i'w ddyweyd dros ei olygiad: y mae angylion yn medru canu yn dda, ac y maent yn llawenhau pan y mae un pechadur yn edifarhau; ac os ydynt yn llawenhau pan y mae y gwaith da yn cael ei ddechreu, y mae yn ddigon naturiol meddwl fod y llawenydd hwnw yn troi yn gân orfoleddus pan y mae y gwaith da hwnw yn cael ei orphen. Pa un ai WILLIAM ELLIS oedd yn credu gormod, ai y lliaws sydd yn credu rhy ychydig am y bodau ysprydol hyn, gadawn i'r darllenydd benderfynu.

Byddai yn cael ei barchu yn fawr gan yr oll o'i gymmydogion, a hyny yn benaf ar gyfrif ei dduwioldob. Ni feiddiai yr annuwiolion caletaf bechu yn rhyfygus yn ei bresenoldeb, er na fyddai yn dyweyd llawer wrthynt un amser. Dengys yr hanesyn a ganlyn y byddai yn arfer 'eu rhybuddio ar brydiau. Yr oedd ef a chyfaill iddo allan un noson ar ystorm o fellt a tharanau dychrynllyd iawn. Ymddangosai ei gyfaill yn ofnus iawn: ond yr oedd WILLIAM ELLIS yn dawel a digyffro, ac fel pe buasai yn mwynhau yr olygfa fawreddog. Yn fuan torodd ar y distawrwydd trwy ddyweyd," Mi fyddaf fi yn bur hoff o dipyn o fellt; yr oeddwn unwaith yn y cynhauaf gwair yn mysg troop o rai pur gellwerus ac annuwiol, nid oedd nemawr ddyben i mi ddyweyd dim wrthynt. Ond yn fuan daeth y Gŵr ei hun i siarad â nhw trwy y mellt, ac aethant oll yn y fan yn bur sobr a distaw."

"Ond," meddai ei gyfaill," y mae mellt yn bethau peryglus iawn, ac y mae yr un ddamwain yn digwydd i'r cyfiawn a'r drygionus."

"Ydynt," ebe yntau," ond y mae gan yr Arglwydd ryw favourites nad yw yn ewyllysio eu galw adref yn mhob dull."

Bellach ni a adawn y mater cyntaf, gyda dy adgofio di, ddarllenydd, mai unig sylfaen gwir ddylanwad ydyw duwioldeb. "Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd."