Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/Ei Athrylith

Oddi ar Wicidestun
Ei Dduwioldeb Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau

Ei Hynawsedd


II. EI ATHRYLITH.

DYWEDASON yn barod fod duwioldeb WILLIAM ELLIS, uwchlaw ammheuaeth y rhai mwyaf anystyriol a drwgdybus; a bellach ni a symudwn yn mlaen i ddangos y byddai ei athrylith yn disgleirio fel ag i'w wneyd yn wrthddrych sylw ac edmygedd pawb a'i hadwaonai bob amser. Wrth i ni adgofio llawer o'i sylwadau cynhwysfawr, yr ydym yn gweled dau beth yn dyfod i'r golwg ynddynt, sef eangder diderfyn ei olygiadau ar drefn yr efengyl, a gwreiddioldeb y dull y byddai yn rhoddi ei syniadau allan. Taflai yn fynych feddyliau newyddion i'r golwg nes trydanu pawb fyddai yn ei wrando, a phryd arall gwisgai hen wirioneddau mewn ffurf newydd, a byddai y rhai a edrychent arnynt yn barod i ddyweyd, "na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn." Wedi iddo gael fod digon yn iachawdwrineth Duw i ddiwallu angen ei ennid ef, credai byth wed'yn fod digon ynddi ar gyfer pawb. Bu yn gobeithio un adeg ar ei oes yr adferid y cythreuliaid, a gweddïodd lawer drostynt. Cofus genym i ni ofyn iddo unwaith, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, a oedd efe yn parhau i weddïo dros y cythreulisid? a'i ateb ydoedd, "Wel, nac ydwyf wir, y tro diweddaf y bum ar fy ngliniau yn eu hachos daeth y gair hwnw i fy meddwl, Canys ni chymerodd Efe naturiaeth angylion.' Mid'w'llodd yn arw iawn arnaf yn eu hachos, ac nis gallais ofyn am ddim ar eu rhan byth mwy." Ond er iddo gael ei ddigaloni trwy ddyfodiad sydyn y gair hwnw i'w feddwl, ymlithrai rhyw ymadroddion yn awr ac yn y man oedd yn dangos fod ynddo rhyw ddirgel obeithion yr adferid yr holl greadigaeth ryw bryd ar sail haeddiant yr Aberth mawr. Diolchai yn gynes ar weddi tua mis cyn ei farw am i'r Arglwydd o'i fawr gariad rhad ein cofio ni ddynion, ac ychwanegai, "Y mae rhyw droop mawr arall wedi myned i lawr, ac nid oes dim gobaith iddynt hwy am a wyddom ni, efallai y gwyddost Ti rywbeth." Ymddiddanai â phregethwr unwaith am y bydoedd uwch ben, a gofynai, "A oes yno fodau rhesymol fel nyni ?" "Y mae yn ddigon tebyg fod," ebe y pregethwr, "ond gall nad ydynt yn bechaduriaid fel ni." "Wel, wel," ebe yntau, "os ydynt yn bechaduriaid, nid oes dim yn eisiau ond iddynt glywed trwy weinidogaeth angylion, neu ryw sut, am haeddiant Aberth y Groes, y mae digon ynddo i'w cadw nhw i gyd." Y pethau hyn a'u cyffelyb, barodd i'r diweddar Mr. Humphreys, wrth wneyd sylwadau coffadwriaethol am dano mewn Cyfarfod Misol, ar ol ei gladdu, —ddyweyd fol hyn, "Yr oedd nefoodd WILLIAM ELLIS yn eangach na nefoedd nob arall, hyny ydyw, yr oedd am i fwy gael myned yno na neb arall ar a adwaenwn i."

Ond hoblaw fod ganddo ei olygiadau eang, yr oedd ganddo ei ffordd ei hun o draethu ei syniadau ar bron bob peth. Gofynwyd iddo unwaith a wnai efe areithio ar Ddirwest, ryw nos Sabbath yn Maentwrog. Cydsyniodd yntau a'r cais, ac addawodd wneyd. Y nos Sabbath a ddaeth, a mawr oedd y disgwyliad am dano. Wedi i ryw frawd ddechreu trwy ddarllen a gweddïo, galwyd WILLIAM ELLIS, at ei waith. Dechreuodd yn debyg i hyn:—

"Pan oeddwn yn dyfod i fyny at y capel heno, fe ddaeth y diafol i'm cyfarfod, a gofynodd a wnawn i gario cenadwri bach oddiwrtho i'r cyfarfod dirwestol yma; ac ar ol i mi addaw gwneyd, dywedai mai dyna oedd arno eisiau, cyflwyno ei ddiolchgarwch gwresocaf i'r rhai sydd yn parhau yn ffyddlon iddo, a hyny mewn adeg y mae cryn lawer yn ei adael, ac yn cymeryd yr ardystiad dirwestol. Ac am y rhai hyny a'i gadawodd am dymmor, ond sydd wedi edifarhau a dychwelyd yn ol i'w ei wasanaeth, y mae yn ddiolchgar dros ben i'r rhai hyny hefyd. Gofynai i mi ddyweyd ei fod yn sicr o gofio am danoch, ac o adael i chwi gael yr un byd ac yntau. Mi gewch fyw yn yr un cartref, cysgu yn yr un gwely, ymborthi ar yr un pethau. Ond ni pharodd i mi ddyweyd mai uffern ydyw ei gartref, mai mewn gwely o dân y mae yn gorwedd, ac mai ar ddigofaint y mae yn gorfod ymborthi. Ond dyna y gwir am dano, ac ni bydd ganddo ddim gwell i'w roddi i neb o'i weision ffyddlonaf." Traethai y pethau hyn gyda'r fath ddifrifwch a nerth, nes gwneyd i'r caletaf ei galon oedd yn bresenol arswydo, a thystiai rhai o honynt nas gwyddent pa le yr oeddynt yn sefyll.

Fe gofir yn hir y sylw a wnaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, pan oeddynt yn ymddiddan a'u gilydd yno am yr haint oedd wedi tori allan ar y pytatws. Yr oedd pawb a'i reswm ganddo, ac fe gymhellodd Mr. Rees, y llywydd, WILLIAM ELLIS i ddyweyd gair. Wedi peth cymhell, cododd ar ei draed ar lawr y capel, a dywedai yn debyg i hyn, "Y mae rhai yn barnu mai rhyw blaned sydd wedi dyfod yn rhy agoa i'r ddaear, ac wedi drygu y llysieuyn hwn, yr hwn oedd yn rhan fawr o gynhaliaeth dyn. Ond os dyna ydyw yr achos, nis gallem ni yma wneyd dim byd gwell heddyw na threfnu i gyfarfodydd gweddïo gael eu cynal trwy y wlad i gyd, i ofyn i'r Hwn sydd yn gallu galw y ser wrth eu heuwau, i roddi ei fys arni. Mi fydd yn gynhwrf anghyffredin yn y nefoedd, pan y bydd plant Duw mewn rhyw gyfyngder ar y ddaear. Mi 'roedd yn helynt garw yno yn amser bwrw y tri llangc i'r ffwrn dân. Yr holl angylion ar eu hadenydd o amgylch yr orseddfaingc eisiau cael myned i lawr i'w gwaredu. Gabriel yn gofyn, A gaf fi fyn'd i waredu y llangciau?' Na, ni wnei di mor tro i fyn'd i'r ffwrn dan, 'dwyt ti ddim yn holl bresenol; pau y byddi di yn lledu dy adenydd dros Sadrach fe fydd y Mam yn deifio gwallt pen Mesach; mi äf fi i lawr fy hunan heddyw: a dull y pedwerydd oedd debyg i Fab Duw.'" Ni welwyd erioed y fath effeithiau ag oedd yn dilyn y sylwadau hyn. Wrth weled y fath gynhwrf yn mysg y rhai oedd yn ei ymyl ar y llawr, gofynai y rhai oedd ar y gallery yn methu ei glywed i'r llywydd ail-adrodd. "Fedrai ddim," ebe Mr. Rees, "a phe buasech chwithau yn fy lle i, nis gallasech chwithau ychwaith ei ail-adrodd."

Wrth siarad mewn Cyfarfod Misol ar gynhaliaeth y weinidogaeth, dywedai wrth y pregethwyr fod ganddynt hwy eu hunain lawer i'w wneyd mewn trefn i gael yr eglwysi i gyfranu, ac ychwanegai, "Mai trwy galonau y bobl yr oedd y ffordd oreu i fyned i'w pocedau." Wedi rhoddi gwers i'r pregethwyr trwy yr awgrymiad cynhwysfawr yna, aeth yn mlaen i draethu ar ddyledswydd yr eglwysi i'w cynal, yn debyg i hyn, "Mae y drygau mawr y mae y Beibl yn eu gwahardd yn cael eu nodi allan trwy roddi y gair bach 'na' o'u blaen. 'Na wna odineb', 'Na ladrata','Na ddwg gamdystiolaeth.' Ond y mae yna un 'na' bach nad yw eglwysi y Methodistiaid wedi sylwi arno, 'Na chau safn yr ych sydd yn dyrnu'." Ni byddai un amser yn ymresymu yn hir, ond gair byr a hwnw bob amser yn disgyn yn syth ar ben yr hoel.

Cofus gonym fod anogaeth yn cael ei anfon oddiwrth y Cyfarfod Misol at yr eglwysi, ar adeg pur wasgedig ar y wlad, i'w hanog yn ddifrifol i beidio a rhedeg i ddyled mewn adeg o'r fath, a thrwy hyny arwain oeu hunain ac eraill i brofedigaeth, a rhoddi lle i elynion yr Arglwydd gablu, pryd y gwnaeth WILLIAM ELLIS y sylw yma: "Mae perygl i rai mewn amgylchiadau cyfyng ymollwng a myned yn ddiofal gyda'u dyledswyddau. Fe aeth y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged un diwrnod at Pedr, i chwilio am y dreth drosto ef a'i Athraw: ond nid oedd gan yr un o'r ddau ddim i'w thalu. Ac mifum i yn meddwl fod Pedr wedi gofyn i'w Athraw, pa beth a wnaent? A fyddai yn well iddo fyned at rai o'u cyfeillion i ofyn benthyg? O na,' abe yntau, dos i'r môr, a bwrw fach. Dos di at dy alwedigaeth, ac wrth i ti wneyd dy ddyledswydd mi goi di fodd i dalu y dreth drosof fi a thithau. Felly, ond i ninnau wneyd ein dyledswyddau ar adeg fel hyn, fe ofala ein Tad nefol am i ni gael tipyn o geiniog at gyfarfod ein gofynion."

Yr oeddynt yn ymdrin yn Nghyfarfod Misol y Bala unwaith ar "Faddeuant," a gofynwyd i WILLIAM ELLIS ddyweyd gair. Cododd ar ei draed, a throdd at y pregethwyr a dywedodd yn awdurdodol wrthynt, am iddynt gymeryd gofal rhag dyweyd fod Duw yn maddeu pechodau: "Ni faddeuodd Duw bechod erioed, ac ni faddeua bechod byth." Yna eisteddodd i lawr, a bu distawrwydd. am beth amser. Ond torwyd ar y distawrwydd trwy i'r cadeirydd ddyweyd, "Wel, mae yr athrawiaeth yna yn un pur newydd, dylech egluro beth ydych yn ei foddwl WILLIAM ELLIS." Cododd yntau eilwaith, ac ychwanegai, "Fod eu gwaith yn pregethu parodrwydd Duw i faddau, yn gwneyd i rai dynion bechu yn fwy hyf a digywilydd. Am fod Duw wedi cospi pochod ar ei Fab yr oedd yn gallu peidio cospi y pechadur; bod eisiau dangos llwybr gwaedlyd maddeuant bob amser wrth son am dano, onide byddai yr athrawiaeth yn ei gylch yn achles i bechod yn lle bod yn wenwyn iddo."

Byddai ganddo ffordd pur effeithiol i roddi terfyn ar ymrysonau a dadleuon, fyddai yn cymeryd lle yn mhlith y brodyr. Daeth cais un tro i Gyfarfod Misol Abermaw, am gasgliad cyffredinol tuag at ryw achos cyhoeddus, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r blaenoriaid yn erbyn iddo gael ei roddi ger bron y cynnulleidfaoedd. Wedi llawer o siarad, cododd WILLIAM ELLIS i fyny a dywedodd, "Mae holl gybyddion y sir yma heddyw, ac am y bobol sydd gartref, y maent hwy yn siwr o wneyd casgliad da at yr achos, ond iddynt gael clywed am dano." Wedi y sylw hwn gostegwyd y cythrwfl, a phonderfynwyd cyflwyno yr achos i'r cynnulleidfaoedd gael dangos pa fodd yr oeddynt. yn teimlo tuag ato.

Yr oedd WILLIAM ELLIS wedi clywed un diwrnod fod rhyw fath o arddangosfa—show—i ddyfod i Faentwrog, a byddai llawer o ddyweyd yn erbyn myned i'r cyfryw leoedd yn y dyddiau hyny, am y byddent yn achosi llawer o lygredigaeth. Ond fe gymorodd WILLIAN ELLIS ddull newydd i fyned yn ei herbyn, fe'i cyhoeddodd, ar nos Sabbath, fel y pethau eraill oodd i fod yr wythnos hono. Fel hyn, "Cyfarfod Gweddi nos Lun, Seiat nos Fercher, a show yn Maentwrog prydnawn dydd Gwener: cyfarfod yn perthyn i'r deyrnas arall ydyw hwnw hefyd; ond y mae yn deg i chwi wybod am dano, gael i bawb sydd yn perthyn i deyrnas y tywyllwch ymdrechu i fyned yno, ac mi fyddwn ninnau yn rhywle yn edrych pwy fydd y rhai hyny." Dywedir na wnaeth neb erioed gymaint o ddrwg i'r un arddanghosfa ag a wnaeth WILLIAM ELLIS i'r un hono wrth ei chyhoeddi.

Nid oedd bosibl gwneyd fawr o hono trwy ei gwestiyne. Yr unig ffordd i'w gael allan ydoedd gadael llonydd iddo. Fel y ffynnon yn taflu y ffrwd allan yn ei nerth ei hunan. Yn un o Gyfarfodydd Misol Maentwrog ceisiwyd gan Mr. Hnmphreys,—fel un o'r rhai tebycaf i allu gwneyd rhywbeth o hono—ofyn gair iddo, fel yr arferid yn gyffredin pan y mae Cyfarfod Misol yn dyfod i le. Cododd Mr. Humphreys ar ei draed, a gofynodd,— "Pa fodd y mae hi rhyngoch chwi a phethau mawr y byd tragywyddol yn awr, WILLIAM?"

"Ymladd yr ydwyf fi fy ngoreu, Humphreys bach," ebe yntau, "am bethau y ddau fyd, ac ofn garw rhwng y ddau bod heb yr un."

"Pa fodd y mae hi rhyngoch chwi a'r Duw mawr a'i drefn, a ydyw hono wrth eich bodd?" gofynai y gweinidog drachefn.

"Digon prin," atebai yntau.

"Sut, sut," ebo Mr. Humphreys, "beth sydd ar y drefn fawr genych, WILLIAM?"

"Anniben iawn y mae hi yn fy sancteiddio i, Humphreys bach," ebe yntau drachefn.

"Eisiau bod yn berffaith sydd arnoch chwi, WILLIAM?' dywedai Mr. Humphreys.

"Nage, nage, Mr. Humphreys bach, ond ofn sydd arnaf na roes o ddim o'i law arna' i erioed," ebe yntau.

Ar hyn eisteddodd Mr. Humphreys i lawr, a chyfododd yr hon dduwinydd David Williams, Talysarnau, ato, a gofynodd yn bur ddoctoraidd,—

"Beth ydych yn ei feddwl am Gyfiawnhad a Sancteiddbad, WILLIAM ELLIS?"

"Ni byddaf fi yn ymyraeth fawr â'r Cyfiawnhad yna, Dafydd bach," meddai yntau; "cawn i fy sancteiddio rywsut, mi fyddwn i yn foddlawn wed'yn."

"Yr ydych yn meddwl mai Cyfiawnhad ydyw y cyntaf o ran trefn, onid ydych WILLIAM ELLIS?" gofynai y progethwr drachefn.

"Ni wn i ddim, Dafydd bach," ebo yntau, "pa un yw y cyntaf, mae nhw rhywsut ar draws eu gilydd yn eu lle mi wa ganddo Ef: ond Sancteiddhad ydyw'r cyntaf gen i." Dyma brofiad pur uchel, onide? pechadur wedi ymgolli yn yr awydd am fod yn lân.

Yr oedd yr un rhagoriaethau yn dyfod i'r golwg yn ei ymddiddanion personol gyda'i gyfeillion. Byddai bob amser yn siriol, a theimlai pawb yn falch o'r cyfleusdra i fod yn ei gwmni; ymollyngai yn rhydd, ac weithiau parai lawer o ddifyrwch. Gofynai i un o fyfyrwyr y Bala unwaith, a wnai efe fyned a rhyw farwnad oedd ganddo i Mr. Edwards, i'w rhoddi yn y Geiniogwerth Cymerodd y myfyriwr hi o'i law, ac agorodd hi; ac erbyn ei hagor, canfyddai fod twll wedi ei losgi trwy ei chanol. Pan welodd y llun oedd arni, dywedai,— "Beth dal i mi fyn'd a hon iddo, a welwch chwi y tyllau yma, WILLIAM ELLIS?"

"Dos di a hi," ebe yntau, "mi wyr Mr. Edwards o'r goreu beth sydd i fod yn y tyllau yna i gyd."

Yr oedd dau weinidog poblogaidd yn digwydd bod yn Maentwrog yr un adeg, ac yr oedd yno faban i'w fedyddio; ac o barch i'w gilydd, dadleuai y naill dros i'r llall weinyddu yr ordinhad. Wrth eu gweled yn ymgyndynu. tynodd WILLIAM ELLIS geiniog allan, a thaflodd hi i fyny gan ddywoyd, "Mi dosiwn ni." Aeth y ddau ŵr parchedig i'r capel wedi eu cywilyddio i fesur gan y dull a gymerodd eu cyfaill i dori y ddadl rhyngddynt.

Cwynai wrth un o'i gyfeillion ei fod wedi cael colled arianol drom oddiar law rhyw gymydog iddo a fu farw. "Tybed yr aeth efe i'r nefoedd, WILLIAM ELLIS?" gofynai y cyfaill, "ac arno yntau gymaint o arian i chwi?" "Dyn, do mi wn," ebe yntau, "y mae Duw yn pasio beibio rhyw driffles fel yna, ond i rywun wneyd yn o fawr o'i Fab Ef."

Dywedai un wrtho am rhyw ferch ieuangc adnabyddus iddo oedd wedi llithro: "Gresyn garw i hon a hon syrthio, fe dynodd flotyn ar ei chymeriad a fydd arno byth." "O, na," ebe yntau, " yr wyt yn methu yn arw: un joch o Waed y Groes a'i golcha yn borffaith lân."

Cwynai un brawd wrtho, yr amser y bu farw y diweddar Barchedig Richard Jones, o'r Wern: "Gresyn fod dyn mor dda wedi myn'd i'r nefoedd mor gynar ar ei ddiwrnod." "O, na," obe yntau, "yr wyt yn methu yn fawr, rhai fel yna sydd arnynt eisiau yn y nefoedd i gyd."

Wrth ymddiddan â chyfaill ieuangc am y nefoedd, dywedai y cyfaill wrtho: "Nid wyf fi yn gofalu am gael myned i'r nefoodd yn awr, gwell genyf gael bod ar y ddaear am dipyn yn gweithio dros Dduw." "Ië, ië. purion, purion, machgen i," ebe yntau, "ond cofia di, dy ddieithrwch di i'r wlad ydyw yr achos o hyny hefyd."

Dywedai wrth gyd-deithio â dyn ieuangc unwaith: "Mae Duw yn bur ofalus am danat, machgen i, mae wedi rhoddi angel i dy ganlyn i bob man. Gwylia dithau fyned i leoedd rhy halogedig gan yr angel i ddyfod i mewn gyda thi. Fe fydd yn beth digon cas i'r angel i aros wrth y drws i dy ddisgwyl di allan."

Wrth fyned o'r oedfeuon dau o'r gloch, dydd eu cyfarfod pregethu, dywedai un wrtho: "Oni chawsom oedfeuon da iawn, ac ystyried mai dau o'r gloch ydoedd?" "O, hwn a hwn bach," ebe yntau, "ni bydd yr Yspryd Glân byth yn edrych pa faint fydd hi o'r gloch."

Yr oedd dyn ieuang nad oedd yn cael ei ystyried yn gufydd oddiarno, yn y dosparth y perthynai WILLLAM ELLIS iddo, eisiau cael myned i bregethu, ac efe oedd yn rhoddi ei achos i lawr. Gofynai Mr. Humphreys iddo, ar ol i'r cyfarfod fyned drosodd: "Sut yr oeddych chwi, WILLIAM, yn dwyn achos y dyn ieuangc yna yn mlaen: maent yn dyweyd i mi nad yw yn gall iawn?" "Wel na, yn wir," ebe yntau, "tipyn o natur chwerthin am ei ben ef sydd: ond yr oedd arnaf fi ofn methu; mae y Gŵr yn gallu gwneyd defnydd o rai go ryfedd; ac mi wyddoch chwithau, Richard bach, nad ydych chwi y pregethwyr ddim yn gall i gyd."

Aeth gŵr ieuangc porthynol i'r eglwys—lle yr oodd WILLIAM ELLIS yn flaenor—ato un diwrnod i ddyweyd wrtho ei fod yn teimlo awydd mawr i fynod yn bregethwr. "Felly yn siwr," ebe yntau, "da iawn, da iawn: ond a fuost ti yn meddwl, machgen i, pa un ai y diafol ai yr Yspryd Glan sydd yn dy gymbell di?" Atebodd y gŵr iouangc yn gryf a phenderfynol: "Nid wyf fi yn gwneyd dim concern â'r diafol, WILLIAM ELLIS." "Purion, purion," ebe yntau, ond y mae gan y diafol fintai fawr wedi eu codi i'r pulpud; wyt ti yn siwr dy fod wodi adnabod ei ddichellion ef E——— bach? Mae o yn bur hen wel di, ac yn llawer cryfach ei bon na thi a minnau, er fod Iesu Grist wedi ei ysigo ar Galfaria."

Yr oedd WILLIAM ELLIS, a'i hen gyfaill W. Williams, Tanygrisiau, a Mr. Humphreys, yn ymddiddan am hen bobl Maentwrog. Yr oedd W. Williams wedi bod yn byw yn y gymmydogaeth am dymmor, a dywedai, "Nid oes ond ychydig o'r hen bobol oedd yn perthyn i'r eglwys acw pan oeddwn i yn byw yn y gymmydogaeth yn aros, ai oes WILLIAM ELLIS?" "Nac oes," ebe yntau, "mae hon a hon yn fyw, onid ydyw?" gofynai ei gyfaill. "Ydyw, y mae hi yn aros," ebe yntau. "Hen wraig dduwiol ydyw hi, onide?" ychwanegai W. Williams. "Ië," meddai yntau, "dduwiol iawn; ond y mae hi yn bur arw am ddyweyd tipyn o gelwydd." "Sut, sut," gofynai Mr. Humphreys, "hen wraig dduwiol galwyddog? Mae yn swnio yn bur chwithig ar fy nghlust i. WILLIAM." "Ydyw, mi wn," ebe yntau, yr ydych chwi, Mr. Humphreys, wodi usio dyweyd y gwir erioed; ond am dani hi, yr oedd hi heb ei hegwyddori yn blentyn i ddyweyd y gwir; ac os dechreua plant ddyweyd celwydd yn ieuaingc, ni wna gras eu llwyr ddiddyfnu oddi-wrtho tra y byddent yma: ond fe wyr y Brenin mawr am danynt yn bur dda, ac y mae yn pasio heibio i rhyw bethau gweiniaid sydd yn ei blant. Fe faddeua y cwbl iddynt er mwyn Iesu Grist."

Gofynai y diweddar Barch. D. Jones, Treborth, iddo: "Sut yr ydych yn meddwl y byddwn ni yn y nefoedd, WILLIAM ELLIS?" "Wel, mi ddywedaf i ti," machgen i, "mi fyddwn fol y borchell bach yn nghafn y felin, yn nghanol y blawd, a'i geg o dan y pin; ni wychia fo yn ei fyw am ragor."

Gan nas gallwn ddyfod i ben ag ysgrifenu ei holl sylwadau bob yn un ac un, ni a derfynwn gan hyderu ein bod wedi cofnodi digon am dano i ddangos ei fod yn ddyn o athrylith, a bod yr athrylith hono wedi ei bedyddio i'r Yspryd Glan ac â thân.

Awn yn mlaen bellach at y trydydd peth a nodasom.