Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/Ei Droedigaeth

Oddi ar Wicidestun
William Ellis a'i Gartref Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau

Yn Flaenor Eglwysig


PEN. II.

Ei Dröedigaeth.

Nid oedd WILLIAM ELLIS wedi cael dim manteision crefyddol ar yr aelwyd lle y magwyd ef. Dygwyd ef i fyny yn hollol estronol i foddion gras. Ni byddai byth yn myned i eglwys na chapel, ac yr oedd ei feddwl yn hollol ddieithr i bethau crefydd. Ond pan sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol aeth i hono am ychydig amser, a dyna pryd y dysgodd ddarllen, yr hyn a fu o wasanaeth mawr iddo ar ol hyny. Y mae cyfres o ddigwyddiadau damweiniol, i'n golwg ni, yn gysylltiedig â hanes ei dröedigaeth. Yn gyntaf oll y mae yn gadael cartref, pan ydoedd o gylch ugain oed, ac yn myned i wasanaethu i dyddyn cyfagos. Anfonwyd ef un diwrnod ar neges dros ei feistr i Drawsfynydd; ac erbyn myned yno yr oedd John Elias yn pregethu ganol dydd, ar ei ffordd o Gymdeithasfa Dolgellau, ac yr oedd y gŵr yr anfonwyd WILLIAM ELLIS ato wedi myned i'r oedfa. Wedi deall hyn, meddyliodd y llanc gwyllt am fyned i'r dafarn i aros i'r cyfarfod derfynu ond erbyn iddo edrych nid oedd ganddo arian i'w ganlyn, ac am y dafarn y pryd hwnw, fel yn awr, gellir dywedyd,

Tŷ 'gored i'r teg arian,
Ceidw glo rhag codau glân."

Gan ei bod yn gwlawio yn drwm ar y pryd, yr oedd yn rhaid iddo fyned i rywle oddiar yr heol. Gwnaeth ei feddwl i fyny, ac aeth o dan gapan drws y capel, nid er mwyn clywed y pregethwr, ond er mwyn diogelu ei hun rhag y gwlaw. Ychydig foddyliai y llangc fod gan y Gŵr sydd yn Dad i'r gwlaw ddyben arall yn cyfeirio ei gamrau tua theml yr Arglwydd. Nis gwyddom beth oedd testyn y pregethwr; ond mater y bregeth oedd "Drygioni a thwyll calon pechadur." Nid hir y bu WILLIAM ELLIS wrth y drws cyn i ddawn a difrifwch y pregethwr rwymo ei holl enaid i wrando; dilynai y pregethwr o ystafell i ystafell i weled twyll a ffieidd-dra y galon ddynol; ac er ei fawr ddychryn fe agorodd Yspryd Duw ei lygaid, a deallodd mai ei galon ef oedd y pregethwr yn ei darlunio. Nid oedd erioed wedi breuddwydio fod y fath dwyll yn ei galon, a'r fath ysgelerder yn ei bechod. Aeth yn ddychryn iddo ei hunan, ac fel ceidwad y carchar gynt, amcanodd ddwywaith i'w ladd ei hun: unwaith trwy ymdaflu dros graig serth i geunant dwfn, a'r tro arall trwy ymgrogi. Yr hyn a'i hataliodd y tro cyntaf ydoedd i gi a'i canlynai gyfarth, a thynodd hyny ei sylw oddiar ei fwriad drygionus; a'r hyn a'i hataliodd yr ail waith, pan ydoedd wedi rhoddi cortyn am ei wddf, ydoedd, iddo dybied ei fod yn clywed rhywun yn sibrwd y gair hwnw, "Nid oes i leiddiad dyn fywyd tragwyddol." Nid oedd yn gwybod yn sicr a oedd y geiriau yn eiriau Beiblaidd, ond ymryddhâodd, ac aeth i'r tŷ i edrych beth oeddynt; ac wedi iddo ddeall eu bod yn eiriau Duw, rhoddodd hyny derfyn ar y bwriad ofnadwy hwn, ac ni feiddiodd y diafol ei demtio i ladd ei hun o'r dydd hwnw allan. Ond er iddo gael ei ryddhau o'r brofedigaeth hon, yr oedd yn parhau yn hynod o derfysglyd o ran ei feddwl, a dim ond anobaith yn hylldremu yn ei wyneb. Pan yn y sefyllfa druenus hon, digwyddodd i'r hen dad Lewis Morris fod yn pregethu yn y gymmydogaeth, ac aeth WILLIAM ELLIS i wrando arno. Cymhellai y pregethwr bawb i droi eu hwynebau at y Gwaredwr, gan ddyweyd "fod yr iachawdwriaeth yn ddigon i bawb." Gwaeddodd WILLIAM ELLIS o ganol y gynnulleidfa," Yr ydych yn cyfeiliorni: nid yw yn ddigon i mi." Dymunodd y pregethwr arno fod yn ddistaw nes y terfynai y cyfarfod, a dyfod i'r tŷ wed'yn os oedd ganddo rywbeth i'w ddyweyd. Felly fu. Gyda bod yr oedfa drosodd, ac i'r pregethwr fyned i'r tŷ, aeth William yno ar ei ol, a dywedodd wrtho mewn tôn gyffrous," Yr ydych wedi dyweyd celwydd—dyweyd fod yr iachawdwriaeth yn ddigon i bawb : nid yw yn ddigon i mi." Wrth ddywedyd hyn edrychai yn ffyrnig, a chauai ei ddyrnau, gan eu hysgwyd o flaen wyneb y pregethwr, ac o amgylch ei ben, fel pe buasai am ddial arno yn y fan am ei gyfeiliornad. Gallem feddwl fod "hen ddyn" Lewis Morris wedi ei gynhyrfu erbyn hyn. Codai ar ei draed, a dywedai mewn llais oedd yn ymylu ar fod yn groch," Edrych di beth yr wyt yn ei wneyd, WIL, mi safaf fì at yr hyn a ddywedais," a thra yn dywedyd y pethau hyn, ymaflodd yn ei ysgwydd, ac ar ol ysgwyd ychydig arno gosododd ef ar ei hyd ar faingc oedd gerllaw. Nis gwyddom pa faint o bwysau ei law drom a roddodd Lewis Morris arno, ond dywedir mai myned ymaith yn ebrwydd a ddarfu y llangc ar ol cael ei hunan yn rhydd oddiwrtho. Gresyn garw na buasai y pregethwr yn deall beth oedd yn ei flino, er mwyn iddo gymeryd moddion mwy efengylaidd tuag ato. Bu y tro hwn yn destyn difyrwch iddynt eu dau lawer gwaith ar ol iddynt adnabod eu gilydd yn well.

Trwy nad oedd neb o'i gydnabod na'i berthynasau yn gwybod dim am natur ei anhwyldeb, barnent ei fod wedi dyrysu yn ei synwyrau, a phenderfynasent ei rwymo fel gwallgofddyn. Ond nid oedd yr oruchwyliaeth hon yn gwella dim arno; ac wrth weled ei brudd-glwyf yn parhau, anfonwyd ef gydag un o'r enw William Williams, Rhyd, at berson Llanarmon, Dyffryn-Ceiriog, yr hwn a broffesai y gallai waredu rhai a feddiennid gan wallgofrwydd. Pan yn myned trwy gymmydogaeth y Bala, digwyddasant fyned heibio ffermdŷ lle yr oedd ffair auction, a safasent i weled pa fodd yr oedd pethau yn myned yn mlaen. Ceffyl oedd yn cael ei werthu ar y pryd; ac yn hollol ddiarwybod i'w arweinydd, cynygiodd William Ellis arno, a tharawyd ef iddo. Taflodd hyn William Williams i brofedigaeth fawr, am y gwyddai nad oedd ganddo arian i dalu am dano; ac heblaw hyny beth wnai efe a cheffyl o dan yr amgylchiadau yr oedd ynddynt ar y pryd? Wedi i'r ceffyl dd'od yn eiddo iddo, daeth dyn ato a gofynodd iddo, "Beth a wnewch i'r ceffyl?" "Rhoddwch ef yn yr ystabl," ebe WILLIAM ELLIS, fel Pe buasai pobpeth yn dda gyda golwg ar yr arian. Dyna lle yr. oedd y ddau, a William Williams yn y pryder dyfnaf, ac yn methu a gwybod beth a ddeuai o honynt mewn lle dieithr felly. Ond yn y cyfamser daeth rhyw borthmon at WILLIAM ELLIS, a gofynodd a gymerai efe ddwy bunt am brynu y ceffyl; dywedodd yntau y cymerai; felly talodd y porthmon bris yr auction a rhoddodd ddwy bunt i WILLIAM ELLIS dros ben. Ymddygodd WILLIAM ELLIS yn bur anrhydeddus, trwy roddi punt i'w arweinydd, a chadwodd y llall iddo ei hunan, ac ychwanegai, "Dyma i ni dipyn o arian poced, onite Bili bach? "Wedi yr oediad hwn aeth y ddau i'w ffordd, a chyfeiriasant eu camrau tua Llanarmon. Gosodwyd WILLIAM ELLIS yn ngofal y person, a dychwelodd ei arweinydd yn ol. Yr adeg yr oedd ef yn Llanarmon, bu farw Mr. Charles, o'r Bala. Mynegwyd hyn i'r person pan oedd WILLIAM ELLIS yn bresenol. "Wel," ebe y person, "dyna un eto wedi myned i uffern."

Cauodd WILLIAM ELLIS ei ddwrn, a tharawodd y person nes oedd yn disgyn fel pren ar y llawr, ac yna disgynodd yn drwm arno, a gosododd ei ddwy fawd ar ei bibellau gwynt, a gwasgodd yn galed: yna llaciodd ychydig, a gofynodd," Pa le y mae Mr. Charles? "

Atebodd y person, gyda gwich dyn yn tagu," Yn y nefoedd."

"Mae yn dda i ti ddyweyd fel yna," ebe WILLIAM ELLIS ," onide buaswn yn dy yru i uffern cyn pen pum' munud, i gael gweled nad ydyw Mr. Charles ddim yno."

Ffordd pur ddidrafferth i argyhoeddi, onide? Dychrynwyd y person trwy yr oruchwyliaeth lem hon, ac anfonodd at ei deulu i ddyfod i'w geisio adref, a dywedai mai y cyngor goreu allai ef roddi iddynt oedd ei osod dan ofal rhai o'r enwadau crefyddol, ac ychwanegai," mai am y Methodistiaid Calfìnaidd y byddai yn son amlaf wrtho ef." Felly cyrchwyd William druan yn ol heb fod dim gwell. Os oedd yn meddiant yspryd aflan yn myned yno, yr oedd yn meddiant yr un yspryd yn dychwelyd. Os gwallgofddyn ydoedd yn myned, daeth yn ol yr un mor wallgof. Mae yn ymddangos nad oedd y brawd parchedig yn ddigon cyfarwydd i adnabod dyn mewn trallod am fater ei enaid. Barn WILLIAM ELLIS ei hunan am yr iselder y suddodd iddo oedd, Pe buasai rhyw efengylydd gerllaw, yn nghychwyniad ei argyhoeddiad, i gyfeirio ei feddwl at drefn Duw, fel y gwnaeth Paul â cheidwad y carchar, na buasai yn suddo i'r fath anobaith. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol dychwelyd o Lanarmon, penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid Calfìnaidd yn Maentwrog: ond nid oedd yn meddwl y buasai yn cael derbyniad, gan mor ddrwg yr oedd yn gweled ei hunau, ac yr oedd yn tybied fod pawb yn synied yn gyffelyb am dano. Digwyddodd daro ar y Parch. Daniel Evans, Harlech, a gofynai iddo," Os na bydd y cyfeillion yn foddlawn i mi ddyfod i'r seiat, gofynwch iddynt a wnant hwy weddïo trosof." Ond er ei fawr syndod, yr oedd y frawdoliaeth yn ymddangos yn hynod barod i roddi deheulaw cymdeithas iddo. Pan y gofynwyd iddo beth oedd wedi tueddu ei feddwl i droi ei wyneb yno, ei atebiad oedd," Yr wyf wedi treio pob man ond yma; ac os rhaid i mi fod yn golledig, ni waeth genyf gael fy ngholli oddiyma nag o rhywle arall." Mor debyg. oedd WILLIAM ELLIS i bawb eraill!—treio pob man cyn troi at yr Iesu. Nis gwyddom ond ychydig am dano yn yr adeg hon; ond gallem feddwl oddiwrth un hanesyn fod ei gymmydogion yn bur bryderus yn ei gylch. Aeth dau o honynt i'w hebrwng adref o'r capel unwaith, ac wedi cyraedd i ymyl y tŷ, dywedai yntau," Gwell i minnau ddyfod i'ch hebrwng chwithau yn ol." Wedi iddynt fyned ychydig oddiwrth y tŷ trodd y ddau i erfyn arno ddychwelyd : ond gan iddynt fethu ei berswadio, ymaflodd y ddau ynddo, gan feddwl ei gipio trwy drais. Pan y gwelodd yntau hyny, cydiodd yn y ddau a gwasgodd hwy at eu gilydd, a thaflodd hwy i lawr, ac nis gallent er pob ymdrech godi i fyny. Daliodd hwy i lawr, hyd nes darfu iddynt gyffesu—yn ol ei gais—mai nid dyna y ffordd i gael ganddo fyned i'w dŷ.

Nid hir y parhaodd i fyned i'r seiat cyn i'w feddwl syrthio i anobaith drachefn. Gadawodd y capel yn llwyr, a chiliodd o bob moddion cyhoeddus, a chwbl gredai mai colledig a fyddai. Ni bu y tywyllwch o gwbl yn fwy nag yn awr; ond tywyllwch ar fin toriad gwawr oedd, i fyned yn oleuach, oleuach, hyd ganol dydd. Un o'r troion diweddaf y gwelsom ni ef adroddodd wrthym pa fodd y cawsai ddiangfa. Arweiniwyd i'r ymddiddan trwy iddo ddyweyd:—

"Oni fydd yn beth mawr iawn os cawn ni fyn'd i ryw gŵr o'r nefoedd; mi fum i yn go falch er's talwm; nid oeddwn am fyn'd i'r nefoedd o gwbl, os na chawn fyn'd yn o bell iddi : ond ar ol i mi fod yn uffern y tro diweddaf yma, yr wyf yn bur barod i gymeryd rhy w gongl fach yn rhywle ynddi; cil y drws, neu rywle, am y caf fod i mewn."

"Yn uffern, WILLIAM ELLIS," gofynem ninnau," a fuoch chwi yno?"

"Do, lawer gwaith," ebe yntau, gan ychwanegu," cefais fy nghadw am dri mis y tro diweddaf y bum yno."

"Wel, dear me" ebe ninnau," yr oeddym yn meddwl na fyddai i neb a elai i'r lle poenus hwnw, ddyfod byth allan o hono. Sut y cawsoch chwi dd'od oddiyno? "

"Fel hyn y bu," ebe yntau : "fel yr oeddwn un prydnawn yn dyrnu mewn ysgubor, dechreuais feddwl pa fath le oedd uffern, a phan oeddwn yn meddwl dychymygais fy mod yn clywed llais yn dywedyd, ' Ni waeth i ti heb fyned i'r drafferth i geisio dychymygu pa fath le ydyw, ti fyddi yno yn fuan.' Nis gallwn yn fy myw ddyrnu dim, yr oeddwn yn teimlo fy holl aelodau yn diffrwytho, a chefais fy hunan ar lawr yn y gwellt. Cyn hir, meddyliais fy mod yn clywed rhywun arall yn dywedyd, fel yn mhen yr ysgubor, ' Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi.' Rhoddodd hyn nerth yn fy holl aelodau, ac yn fuan yr oeddwn ar fy nhraed yn dyrnu drachefn a'm holl egni. Yn mhen ychydig meddyliais fy mod yn clywed llais arall yn dywedyd, ' Myfi yr Arglwydd, ni'm newidir, am hyny ni ddifethwyd chwi meibion Jacob.' Dyna yr adnodau a'm tynodd i allan. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim iachawdwriaeth i mi; ond dywedodd Duw wrthyf trwy ei air sanctaidd, nad oedd efe yn meddwl yr un fath ag yr oeddwn i, ac felly mi gredais mai ei feddwl ef oedd fy nghadw byth."

Yr oedd y cyfarfod eglwysig yn digwydd bod y noson hono yn Maentwrog, ac aeth yntau o'r ysgubor i'r capel; a phan ofynwyd iddo paham y daethai yno drachefn, dywedai,— ' ' Fy unig neges yn dod yna heno ydyw dyweyd wrthych y cawn beidio myn'd i uffern eto."

Sylwai awdwr yr ychydig adgofion a gafwyd am dano yn y "Methodist" fel hyn:—

"Bu mesur o bryder ar ei feddwl lawer gwaith ar ol hyn, ond yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddo a'i bryder blaenorol ag sydd rhwng dydd tywyll du, a nos dywyll gadduglyd. Y mae yr haul uwchlaw y terfyngylch yn y naill—er ei fod dan gymylau—tra y mae yn gwbl islaw iddo yn y llall."

Daeth ato ei hunan, ac er ei fod yn llawn o bethau hynod trwy ei oes, ni byddai byth yn dangos diffyg synwyr; ond profodd yn ei holl ymwneud â'r byd ac a chrefydd ei fod yn feddiannol ar farn, doethineb, a phwyll. Wedi dilyn yr hon bererin fel hyn trwy "gors anobaith," a'i weled yn dyfod allan o'r siglen yr ochr bellaf i'r gors o ddinas distryw, gallwn sylwi ei fod wedi manteisio yn ddirfawr, hyd yn oed ar y cyfyngder enaid hwn yr oedd wedi bod ynddo. Nid ydym yn ammeu nad oedd eangder ei syniadau am drefn yr iachawdwriaeth i'w briodoli i fesur mawr i'r anobaith dwfn y bu ynddo yn nghychwyniad ei grefydd. Bu yn uffern arno o ran ei deimlad, ond gwaredwyd ef allan ohoni ; bu golledig, ond a gafwyd; a chan iddo ef gael ei waredu, nid oedd yn gweled nad allai pawb gael eu cadw. Cafodd y "penaf o bechadurlaid" wedi ei gadw yn ei berson ei hun; gan hyny yr oedd yn gallu dyweyd yn groew, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd, i gadw pechaduriaid." Mae rhai hen bobl sydd wedi bod "dan Sinai," a'r taranau a'r mellt, a sain udgom wedi eu dychrynu nes gwneyd iddynt deimlo "mor ofnadwy oedd y lle" yn ammeu crefydd pawb, os na fyddant wedi bod yn nghanol yr un golygfeydd brawychus a hwythau: ond nid oedd WILLIAM ELLIS felly. Cofus genym ei glywed ef yn dyweyd wrth un gŵr ieuangc, pan yn ymddiddan âg ef gyda golwg ar ddechreu pregethu, yr hwn a ofnai ei grefydd am nad oedd wedi teimlo pethau brawychus erioed. "Nid yw dy fod heb deimlo pethau brawychus, machgen i, yn un achos i ti ofni dy grefydd; yr wyt ti wedi bod yn fachgen bucheddol a diddrwg; buasai yn bity garw i Timotheus ddiniwed gael ei drin mor galed ag y triniwyd Saul yr erlidiwr."

Trwy mai John Elias a ddefnyddiodd yr Yspryd Glân i ddychwelyd WILLIAM ELLIS, teimlai barch dwfn iddo, ac edrychai arno bob amser fel angel Duw, ac nis gallai oddef i neb ddyweyd dim yn fach am dano. Galwodd person Maentwrog gydag ef un diwrnod pan oedd yn glaf, ond nid o'r clefyd y bu farw. Ar ryw ymddiddan gofynodd WILLIAM ELLIS iddo a glywsai efe John Elias yn pregethu erioed.

Naddo," ebe y person, yn bur gwta," a buasai yn dda i chwithau pe buasech heb fod yn ei wrando."

"O, ai o? yr hen bagan," ebai WILLIAM ELLIS, a gorchymynodd iddo, gyda llais cynhyrfus, adael yr ystafell yn y fan. Mae yn ddigon ofnus oni bai mai yn ei wely yr oedd, y buasai yn cymeryd yr un moddion i gywiro syniad yr anwyl gariadus frawd hwn, am yr hybarch John Elias, ag oeddynt wedi profi mor effeithiol i roddi syniad person Llanarmon yn ei le, gyda golwg ar gartref tragwyddol Mr. Charles. Os ydwyt, ddarllenydd, trwy yr adgofion hyn, wedi gallu sylweddoli "cyfyngder ei enaid," pan yn myned trwy fwlch yr argyhoeddiad, diau dy fod yn disgwyl i hynodion ei fywyd gyfateb i hynodion ei ddychweliad; ac os bydd i ti barhau i'n dilyn yn mlaen ni a hyderwn na bydd i dy ddisgwyliadau gael eu siomi.