Yr Hynod William Ellis, Maentwrog/William Ellis a'i Gartref

Oddi ar Wicidestun
Cynnwysiad Yr Hynod William Ellis, Maentwrog

gan Griffith Williams, Talsarnau

Ei Droedigaeth


YR HYNOD

WILLIAM ELLIS, MAENTWROG.

PEN. I.

William Ellis a'i Gartref.

Y mae bellach bedair-blynedd-ar-bymtheg lawn er pan hunodd yr hen bererin o Maentwrog; a phe gofynai rhywun, Paham yr aflonyddir ar ei gofíadwriaeth yn mhen cymaint o flynyddoedd, ac na chai lonydd i gysgu ei hûn drosodd yn dawel, fel ag y gadewir i bawb eraill o'r meirw? Ein hateb i'r cyfryw ymofyniad fyddai, "Am fod coffadwriaeth y cyfìawn yn fendigedig," tra y mae "enw y drygionus yn pydru." Y mae pedair-blynedd- ar-bymtheg yn fwy na digon o amser i bydru enw y drygionus: "Coffadwriaeth y drygionus a gollir oddiar wyneb y ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol. Felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent hyn." Buont yn y ddinas am lawer o flynyddoedd, a'u crechwen ffol yn tori ar dawelwch y dinasyddion: ond y peth cyntaf a wnaed ar ol cael eu claddu oedd eu llwyr anghofio; "Hwy a ebargofìwyd yn y ddinas lle y gwnaethent hyn." Pe digwyddai rhywun, megis yn ddamweiniol, gyffwrdd a'u henwau, fe lychwinid awyrgylch cymydogaeth gyfan gan y drygsawr a gyfodai oddiwrth ou coffadwriaeth. Ond am WILLIAM ELLIS, gan ei fod yn gyfiawn,

"Ei enw 'n perarogli sydd,
A'i hûn mor dawel yw. "

Mae rhai dynion wedi anfarwoli eu coffadwriaeth trwy eu sylwadau cynnwysfawr a'u dywediadau pert. Fe wnaeth y diweddar Enoch Evans, o'r Bala, fwy i anfarwoli ei goffadwriaeth, trwy ryw un sylw pan ar ei wely angau, na phe buasai yn cael maen o farmor ar ei fedd. "Ni pherffeithir hwy hebom ninnau. "Gallent wneyd heb Enoch yn y Cyfarfod Misol, gallent wneyd heb Enoch yn Seiat y Bala,—ond nis gallent wneyd heb Enoch yn y nefoedd, oblegid ni pherffeithid hwynt heb Enoch. Cofir yn hir am y diweddar Robert Thomas, Llidiardau, fel awdwr y sylw pert hwnw, "Y ddaear a heneiddia fel dilledyn; ac ni welais i erioed gynt mae dillad yn myn'd. " A sylw yr hybarch Mr. Humphreys o'r Dyffryn, "Rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; ac mi ddywedaf i chwi beth, fy mhobl i, nid aeth yr afradlon byth ar hyd yr hen Iwybrau ar ol iddo gael esgidiau newyddion. "Mae William Ellis wedi rhoddi bôd i lawer o sylwadau cyffelyb, fel y cawn ddangos eto; ac yn ei sylwadau y mae yn adnabyddus trwy y byd Methodistaidd yn gyffredinol.

Nis gallwn ddyweyd fod hynodrwydd yn perthyn i neb o henafiaid William Ellis : yn yr ystyr hwn yr oedd ar ei ben ei hun—heb dad, heb fam, heb achau. Ond gellir dyweyd am dano fel y dywedir am Elias y Thesbiad,— "Elias oedd ddyn. "Yr oedd yntau yn ddyn, ac yn ddyn hynod iawn; a phan y mae y Nefoedd yn myn'd i roi dyn i'r ddaear, nid yw fawr o bwys pa le y bydd yn myned i chwilio am dano. Aeth yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yntau ei hunan heibio heb i ddim neillduol ddigwydd yn ei hanes i'w hynodi oddiwrth ei gyfoedion; ac y mae yn ddigon possibl y buasai wedi myned trwy y byd heb i'w athrylith gael ei deffroi o gwbl, oni ba'i iddo daro ar grefydd. Gan hyny, yn ei gysylltiadau crefyddol y bydd a fynom ni âg ef yn benaf.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1789, mewn bwthyn bychan a distadl o'r enw Brontyrnor. Saif Brontyrnor wrth droed y Moelwyn, un o fynyddoedd uchaf y gymydogaeth, ac ar gŵr dyffryn bychan a phrydferth Maentwrog, Sir Feirionydd. Y mae natur yn ei holl amrywiaeth wedi cyd-gyfarfod mor agos at eu gilydd, fel ag y gellir gweled yr oll o honynt ar un olwg. Mae y môr a'r mynydd, y bryniau a'r dolydd, y creigiau ysgythrog a'r moelydd llyfn, y rhaiadr ffrochwyllt a'r dyfroedd tawel: y mae y cwbl wedi eu gosod yn ddigon agos at eu gilydd fel ag y gallont gyfarch gwell i'w gilydd bob bore; ac y mae yr afon sydd yn rhedeg trwy ganol y dyffryn bychan yn ymddolenu yn ol ac yn mlaen o'r naill ochr i'r llall iddo, fel po byddai am olchi traed y bryniau sydd yn ymddyrchafu ar bob llaw iddi; ac weithiau y mae yn taflu ei llygaid yn ol i gymeryd ail-olwg ar y llanerchau prydferth y bydd newydd fyned trwyddynt, cyn ymgolli yn yr eigion. Yn nghanol y golygfeydd prydferth a swynol hyn yr agorodd WILLIAM ELLIS ei lygaid gyntaf ar y byd, ac yn nghanol yr un golygfeydd—yn mhen 66 o flynyddoedd—y darfu iddo eu cau, a myned i fwynhau golygfeydd prydferthach Paradwys Duw.

Ni bu i WILLIAM ELLIS fyned trwy holl gyfnewidiadau bywyd, fel y mae y rhan fwyaf o ddynolryw yn myned. Bu yn faban, yn fachgenyn, yn llangc, ac yn hen langc; ac yno yr arhosodd. Nid aeth yr un cam pellach yn mlaen na hyn. Pe gofynai rhywun, Beth ydyw hen langc? ein hateb fyddai, Dyn yn sylwi mwy ar ochr dywyll colofn y sefyllfa briodasol nag ar yr ochr oleu iddi; ac, o edrych ar y tywyllwch, yn cymeryd yn ara' deg; ac, o gymeryd yn araf, yn sefyll; ac, o sefyll, yn syrthio iddo ei hunan: ac un o fìl o'r rhai sydd yn myned i lawr i'r trobwll ofnadwy yna sydd yn gallu dyfod byth allan o hono. Mae yr olwg ar helbulon y sefyllfa briodasol wedi ei ddychrynu a'i sobri, fel nas gellir byth ei briodi. Gwrthodai Offeiriad briodi pâr ieuangc unwaith, er iddynt fyned i'r eglwys, a hyny am y rheswm fod y mab ieuangc yn feddw ar y pryd. Wedi myned allan, gofynai y Person i'r ferch,

"Beth oedd eich meddwl yn d'od at yr allor gyda dyn meddw? "

"Yr oeddwn yn teimlo yn bur ddig wrthych chwi, Syr, "ebe hithau.

"Sut felly? "gofynai yr Offeiriad.

"Am y rheswm yma, "ychwanegai y ferch, "nis gwna byth briodi pan y bydd yn sobr. "

Felly y mae yr hen langciau: y maent wedi myned mor sobr, rhaid iddynt yfed yn uchel o win serch cyn y gellir byth eu priodi. Am y sefyllfa unig yr oedd WILLIAM ELLIS ynddi, gallwn sicrhau ei fod ynddi yn hollol o'i fodd. Y mae ambell i hen langc o'i anfodd, ac y mae y bywyd unig y mae yn ei fyw yr un peth iddo ag oedd pechu i Paul, "yr hyn sydd gâs genyf. "Ond yr oedd WILLIAM ELLIS wedi ei ddarostwng i'r oferedd yma yn gwbl o'i fodd. Ein rheswm dros ddyweyd hyn ydyw, ei fod yn ddyn serchog, hawddgar, tirion, a hynod o'r cymdeithasgar; ac y mae y rhinweddau hyn yn gwerthu yn dda bob amser yn marchnadoedd y rhywogaeth deg. Buasai yn hawdd fod WILLIAM ELLIS wedi gwerthu ei hun drosodd lawer gwaith.

Yr oedd teulu Brontyrnor yn cael ei wneyd i fynu—er pan y daethum yn gydnabyddus â hwy—fel teulu bychan Bethania, o ddwy chwaer a brawd: Margaret, Gwen, a William. Yr oedd Margaret yn dew iawn; Gwen yn deneu iawn; a William rhywbeth yn y canol rhwng y ddau. Yr oedd Margaret yn Eglwyswraig, Gwen yn Fedyddwraig, a William yn Fothodist. Yr oedd gan Margaret aelodau drwg, a chan Gwen frest ddrwg, a chan WILIAM—os cymerwch ei air ef ei hunan—galon ddrwg. Byddai yn meddwl yn llawer gwell o grefydd ei chwiorydd nag ydoedd o hono ei hunan. Ychydig o sylw oedd yr un o'r tri wedi ei roddi i drefnusrwydd mewn dim, i mewn nac allan. Pe buasai dyn dîeithr yn digwydd myned heibio i Brontyrnor unrhyw ddiwmod, gallasai feddwl mai teulu newydd symud yno i fyw oeddynt, a'u bod heb gael amser i osod dim yn ei le. Byddai pob peth blith-draphlith ar draws eu gilydd bob amser—y llestri llaeth, y fuddai, y cafn tylino, y crwc golchi, &c., a dim ond llwybr cul rhyngddynt o'r drws at y tân. Yr oeddynt wedi deall rywfodd fod yn llawer mwy cyfleus iddynt adael pob peth wrth eu llaw, fel na byddai raid trafferthu i estyn dim pan y byddai arnynt ei eisiau. Ond or hyn byddai yno flasusfwyd o'r fath a garai unrhyw un i'w gael bob amser; ac yr oedd yn anmhosibl troi at neb mwy croesawus. Byddai y tri wrthi â'u holl egni yn croesawu y dîeithr a ddigwyddai droi i mewn atynt. Byddai Gwen yn ffaglu dan y tegell, Margaret yn hel y llestri, a William yn tori bara-a-'menyn; a byddai yn fwy cyfleus ganddo redeg yr ymenyn gyda'i fawd ar y bara na thrwy yr un ffordd arall. Llawer gwaith y galwodd y diweddar Barchn. John Jones, Talsarn, a D. Jones, ei frawd, yn Mrontyrnor wrth fyned i rai o deithiau Ffestiniog i bregethu, or mwyn y pleser fyddont yn ei gael wrth weled y tri wrthi yn darparu ar eu cyfer.

Nid oedd gan y brawd ddim i'w ddyweyd wrth y chwiorydd am annhrefn y tŷ; oblegyd nid oedd dim gwell golwg ar wrthddrychau ei ofal yntau y tu allan i'r tŷ. Yn wir, yr oedd yr hen dŷ ei hunan yn hynod o'r bregus yr olwg arno; a darfu i'w land-lady, Mrs. Oakley, Tan-y-bwlch, adeiladu tŷ newydd iddo ar lanerch hynod o ddymunol: ond er i'r tŷ newydd gael ei adeiladu, a'i fod yn dŷ helaeth a chyfleus, nid oedd WILLIAM na'i chwiorydd yn teimlo dim tuedd myned iddo. Ond o'r diwedd cydsyniodd i adael yr hen aelwyd gysegredig. Wedi trigianu am ychydig flynyddoedd yn y tŷ newydd, amlygai awydd cilio yn ol i'r hen dŷ, yr hwn a orchuddid gan y brysg a'r derw. Adgyweiriwyd ychydig arno, a dychwelodd y tri yn ol. Golwg adfeiliedig iawn oedd ar bob peth perthynol iddo-y waggon, y drol, y car llusg, y cloddiau, a'r tai allan. Anfonodd at y diweddar Mr. Humphreys unwaith i ofyn a wnai efe alw yno, pan y byddai yn myned heibio i rhywle, fod arno eisieu iddo ddyfod i olwg rhyw hen feudy oedd ganddo, i edrych a fyddai yn ddiogel rhoddi yr anifeiliaid ynddo dros y gauaf. Ychydig fyddai yn ei dalu o sylw i'r terfynau oedd rhyngddo a'i gyd-dyddynwyr, ac ni ofalai lle byddai ei anifeiliaid yn pori, na pha faint o anifeiliaid ei gymmydogion fyddai yn tori ato yntau. Un tro, yr oedd Mr. Lloyd, Maentwrog—tir yr hwn oedd yn terfynu a'i dir yntau—yn rhodio ar hyd y maesydd gyda rhyw gyfeillion dieithr oedd wedi talu ymweliad ag ef, ac yr oedd defaid i WILLIAM ELLIS wedi tori i'w ddolydd ef. Gwelai Mr. Lloyd ei gymmydog yn gwneyd rhywbeth yn y cae gerllaw, a dywedodd wrth ei gyfeillion, "Mi af fi at y dyn acw i dynu ffrae arno, am fod ei ddefaid wedi tori dros y terfyn: ond," ychwanegai, "peidiwch chwi a chyffroi dim wrth fy nghlywed i yn llefaru yn arw wrtho." Aeth yn mlaen ato, a dywedai mewn tôn ddigllawn a llais awdurdodol, "Os na bydd i chwi gadw eich defaid o'm dolydd i, WILLIAM ELLIS, mi lladdaf hwy bob pen o honynt." Cyfododd WILLIAM ELLISei ben, ac edrychodd yn siriol yn ei wyneb, a dywedodd yn ei dôn arafaidd a heddychol ei hun,

"Yr ydych wedi aros yn dda iawn, Mr. Lloyd bach, cyn dechreu lladd."

Dyna yr holl ffrae drosodd, a dychwelodd y boneddwr at ei gyfeillion â golwg siomedig arno, a dywedai wrthynt, "Dyna y dyn rhyfeddaf a welais erioed: nid oes modd ffraeo gydag ef un amser." Gresyn na byddai mwy yr un fath ag ef.

Nid oedd gwell graen ar berson WILLIAM ELLIS ei hunan—cyn belled ag y mae a fyno gwisgo â pherson dyn. Ni buasai yn gwerthu i hanner ei werth pe buasai yn cael ei brisio wrth ei wisgiad. Byddai yn troi allan y rhan amlaf o lawer heb fod "yn hardd yn ei wisg." Nid ydym yn meddwl iddo erioed newid ffasiwn ei ddillad— o'r hyn lleiaf, yr un fath yr ydym ni yn ei gofio: coat o frethyn cartref, clos pen glin, a het cantal mawr, a hono wedi tolcio ac ymollwng i lawr nes cuddio rhanau o'i wyneb. Nis gwn a oes rhai o'r hetiau hyny ar gael ai peidio; os oes, gallesid yn hawdd eu gwerthu, oblegid y mae tolciau wedi dyfod yn hynod o'r fashionable yn y dyddiau diweddaf hyn. Ond os oedd WILLIAM ELLIS yn talu rhy fychan o sylw i ymwisgo, mae llawer i'w cael yn talu gormod o sylw i hyny. Dillad ydyw y cwbl gan lawer. Am ddillad y myfyriant y dydd, ac y breuddwydiant yn ngwyliadwriaethau y nos. Pe y gofynid i lawer bachgen a geneth, "A oes dim gair o'r Beibl ar eich meddwl heddyw?" gallent ddyweyd bob amser, "Yr oeddwn yn meddwl am y gair hwnw, ' A pha beth yr ymddilladwn? ' " Beth sydd wedi dyfod allan o'r mint ddiweddaf? Anfonwyd i ni dro yn ol ddarluniau o'r Niagara Falls. Ystyrir y rhaiadr hwn yn un o brif olygfeydd y byd. Dangosir yn y darluniau led a dyfnder y golofn aruthrol o ddwfr sydd yn disgyn dros y dibyn serth nos a dydd yn ddi-dor. Ar rai o honynt y mae rhodfeydd i'w gweled, a lleoedd i'r bonoddigesau a'r boneddigion i sefyll i syllu ar y cwymp trystfawr. Yr oeddym yn dangos y darluniau hyn i ryw chwaer unwaith. Edrychai hithau arnynt trwy chwydd-wydr o un i un, a mawr oedd ei syndod. Yn ei dro daeth y darlun lle yr oedd y boneddigesau a'r boneddigion; a phan y gwelodd hwnw, aeth mor ddistaw a'r bedd. Wrth ei gweled mor ddistaw, meddyliasom ei bod wedi ei llwyr orchfygu gan arucheledd yr olygfa fawreddog, a dywedasom ynom ein hunain, "Mae yn addoli Duw natur yn yr olwg ar un o'i fawrion weithredoedd." Ond er ein mawr syndod, torodd ar y distawrwydd trwy ddyweyd, "O'r brensiach, y shawl grand sydd am ysgwyddau y lady acw ! "Yn ymyl y Niagara Falls nid oedd yn gweled dim byd ond dillad. Y dreth drymaf o'r holl drethoedd yw treth y ffasiynau. Dilledyn da, cynes, graenus, yn cael ei daflu o'r neilldu, heb un rheswm am hyny ond ei fod allan o'r ffasiwn—rhyw doriad diweddarach wedi dyfod allan. Onid yw cymdeithas wedi myned yn ddigon pell i feddwl fod yn bryd iddi droi yn ol? Diau fod lle canol yn bod rhwng yr hyn oedd WILLIAM ELLIS a'r hyn yw cymdeithas yn ein dyddiau ni gyda golwg ar ddillad, a gallem gredu mai yn y canol y mae y lle diogelaf gyda hyn fel pobpeth arall. Byddai y diweddar Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, yn arfer dweyd, "Byddaf yn gweled mantais ar fod yn y canol gyda phob peth: Pe na byddwn ond yn myn'd trwy lidiart, y mae y cyntaf yn ei hagor, a'r olaf yn ei chau, a minnau yn cael myn'd trwyddi heb gyffwrdd fy llaw arni."