Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Cydweithwyr Rowland Evans yn Aberllefenni
← Ychydig o Gynyrchion Rowland Evans | Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd gan Griffith Ellis, Bootle |
Sylwadau Terfynol → |
PENOD X
CYDWEITHWYR ROWLAND EVANS YN ABERLLEFENNI
CRYBWYLLASOM eisoes am un o'r rhai boreuaf o honynt, sef Richard Owen, Ceiswyn. Un arall teilwng o grybwylliad parchus ydoedd Thomas Hughes, y Tŷ Uchaf, ac wedi hyny o'r Caecenaw, a thrachefn o Grachfynydd. Yn Bwlch Helygen y ganwyd ac y magwyd ef, ac y mae rhai o'r teulu yn aros yno eto. Diweddodd ei oes yn Braich-llwyd, gerllaw Dinas Mawddwy, tua 1845 Yn ei dy ef, y Tŷ Uchaf, y dechreuwyd pregethu yn Aberllefenni; ac yr oedd ef a'i briod, Margaret Hughes, yn wir grefyddol. Yr ydym yn cofio y ddiweddaf yn dda; ond yr oedd Thomas Hughes wedi marw cyn cof genym. Meibion iddynt hwy ydyw Hugh Hughes, Tyddyn-du, yr hwn sydd flaenor ffyddlawn ers blynyddoedd yn Rhiwspardyn, a David Hughes, Corris (o'r Fron fraith gynt), ar diweddar John Hughes, Blaenglesyrch; ac yr oedd iddynt hefyd amryw ferched. Gŵr duwiol iawn oedd T. H, a chywir hollol ymhob peth. Darllenasai lawer ar y Beibl ac ychydig lyfrau eraill, ymysg pa rai y dywedai y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, fod Llyfr Gurnal. Treuliodd ef a Rowland Evans oriau lawer gwaith wrth ddyfod i fyny o'r Cyfarfod Eglwysig yn Nghorris i siarad am bethau crefydd; a byddai ar adegau nifer o bobl ieuainc yn eu dilyn er mwyn clywed yr ymddiddan. Ni chafodd fyw i weled yr un o'i feibion yn aelodau crefyddol, er iddo weddio llawer drostynt. Un o'r pethau mwyaf effeithiol a gofiwn yn adeg y diwygiad yn 1858, daeth llawer iawn i'r eglwys cyn 1859, yr adeg y torodd y gorfoledd allan, ydoedd arosiad un o honynt yn yr eglwys ar nos Sabbath, pryd y coffaodd Robert Jones, Machine, gyda theimlad dwys, sylw Thomas Hughes, ei fod yn credu addewid Duw, y byddai yn Dduw iddo ef ac i'w had ar ei ol Yr oedd y pryd hwnw ymhen blynyddoedd wedi ei gladdu, arwyddion fod yr addewid yn cael ei chyfiawni. Yn gymharol ddiweddar y bu farw ei weddw, ar ol bod am mlynyddoedd lawer yn fam yn Israel. Thomas Hughes a fu yn offeryn i ddwyn Robert Jones ei hun i mewn i eglwys Dduw.
Un o gydlafurwyr ffyddlonaf R. Evans yn Aberllefenni am flynyddoedd ydoedd Howell Jones, Gell Iago. Mab oedd efe i Shon Rhisiard, yr Hen Shop. Nid ydym yn deall iddo gael ond ychydig o fanteision addysg; ond bu yn hynod lafurus gydai addysgiaeth ei hun. Heblaw fod ganddo lawysgrif dda, yr oedd wedi dysgu ysgrifenu Cymraeg yn gywir, ac wedi enill cydnabyddiaeth weddol â'r iaith Saesneg. Darllenasai yn ddiau fwy na neb yn ei ardal; ac yr oedd yn ddyn manwl mewn meddwl ac ymadrodd. Meddai hefyd gôf rhagorl a chydnabyddid ef yn gyffredinol fel y dyn mwyaf gwybodus yn yr holl gymydogaeth. Dygai fawr zêl dros yr Ysgol Sabbothol a chymerai ei ran yn ffyddlawn yn ei dygiad ymlaen. Efe yn ddiau a gyfansoddodd y rhan fwyaf o'r Materion yn y llyfr y cyfeiriwyd ato yn Penod viii. A byddai yn fynych yn holwyddori; ond nid oedd i'w gymharu fel holwyddorwr â Rowland Evans, Yr oedd ei fanylrwydd yn fagl iddo; ac nid oedd neb yn gweled hyny yn fwy eglur nag efe ei hun. Nis gallai er hyny yn ei fyw roddi heibio ei fanylder ac ymollwng i fod yn holwyddorwr effeithiol.
Dyn gwir dda ydoedd; ac yr oedd ei ddylanwad yn fawr yn y gymydogaeth. Dylanwadai ar y rhai goreu a galluocaf ynddi. a thrwyddynt hwy ar y gymydogaeth oll. Bu yn wresog o blaid yr ysgol ddyddiol; ac edrychid arno ef fel yr ysgolor goreu o ddigon ymhlith yr ardalwyr. Bu farw yn ddyn cymharol ieuanc; ac nid ydym yn sicr fod yn awr yn aros yr un o'i blant. Haedda ei enw goffadwriaeth parchus ymysg y rhai sydd hyd heddyw yn mwynhau ffrwyth ei lafur ef, ac yn manteisio ar ei ddylanwad.
Un tra gwahanol iddo ydoedd Peter Ifan, Fotty'r Waen. Nid ydym yn ei gofio ef; ond cofiwn yn dda glywed am ei ffyddlondeb i foddion gras yn ngwyneb llawer o anfanteision. A dyn gwir grefyddol ydoedd, er nad oedd yn nodedig am allu meddyliol, nac ychwaith am eangder ei wybodaeth. Yr oedd ei gymeriad yn beraroglaidd yn y gymydogaeth ymhell ar ol ei ymadawiad. Ymadawodd ef a'i deulu i'r America; ond y mae wedi gorphen ei yrfa ddaearol ers llawer o flynyddoedd, a chyraedd yn ddiau i'r breswylfa lonydd. Cyfeiriwyd eisoes amryw weithiau at Samuel Williams, Rugog, gynt o Ffynonbadarn, a haeddai goffâd llawnach nag y goddef ein terfynau i ni i'w roddi.
Brodor ydoedd o ardal Dinorwig yn Sir Gaernarfon.; Yr oedd iddo amryw frodyr; a threuliodd un o honynt, Dafydd William, y rhan fwyaf o'i oes yn ardal Corris. Bu farw eu tad pan oedd rhai o honynt yn lled ieuanc. Noson ei gladdedigaeth, yr oeddynt oll yn eistedd gydau mam, ac yn barod i ymneillduo i orphwys, pan y dywedodd wrthynt, Wel, fy mhlant i, byddai yn well i chwi fynd ich gwely; does yma mo'ch tad heno i gadw dyledswydd. Ar hyn torodd un ohonynt, ac un o'r rhai gwylltaf, allan i wylo, gan ddywedyd, "Da i ddim i'r gwely nes i rywun gadw dyledswydd" a bu raid gwneyd y cais y noson hono. Bu y tro yn fendith i'r teulu byth.
Ond ymhen rhai blynyddoedd y daeth Samuel Williams i mewn i eglwys Dduw. Daeth i ardal Corris oddeutu 1826 neu 1827. I Chwarel Rhiwgwreiddyn y daeth i weithio ar y cyntaf, a bu yno am ddau fis. Bu am dri neu bedwar mis I wedi hyny yn Llwyngwern, cyn myned i fyny i Chwarel Aberllefenni. Bu yn lletya am oddeutu blwyddyn gyda Dafydd Humphrey, yn Abercorris; ac am dymor wedi hyny yn y Briws yn Aberllefenni. Clywsom ef yn dywedyd ei fod wedi priodi ers dwy flynedd cyn troi ei wyneb at bobl yr Arglwydd, a'i fod ar y pryd yn 26 mlwydd oed. Cefais y fraint, meddai, o ymuno âg achos Iesu Grist pan oedd yn yr ystabl. Yr oeddid yn ail adeiladu capel Rehoboth ar y pryd, ar Cyfarfod eglwysig yn y cyfamser yn cael ei gynal yn ystabl y Fronfelen.
Merch Richard Edwards, Aberllefenni, oedd ei wraig, yr hon, fel y crybwyllwyd eisoes, sydd yn awr yn byw yn y Rugog. Yn Ffynonbadarn y buont am flynyddoedd; ond symudasant oddiyno i Bryneglwys, Abergynolwyn; a dychwelasant oddiyno drachefn i'r Rugog. Bu S. W. yn flaenor yn Aberllefenni, Abergynolwyn, a Bethania, ac yn llanw lle pwysig ymhob un honynt.
Yr oedd yn ŵr o feddwl cryf a gafaelgar, ac yn gadarn yn: yr Ysgrythyrau. Yn ei ddawn, yr oedd gradd o afrwyddineb ond yr oedd rhyw swyn hyd yn nod yn ei besychiad; a phan y gwresogai, siaradai yn rymus mewn gwirionedd. Nid oedd neb ond efe a Rowland Evans yn flaenoriaid yn Aberllefenni am flynyddoedd wedi ffurfio eglwys yno, ac ni bu dau frawd erioed yn cydweithio yn fwy hapus. Meddyliai R. E. yn uchel iawn o S. W, ac yntau yr un modd o R. E, tra y meddyliai yr holl eglwys yn uchel o'r naill ar llall. Nid oedd y naill yn foddlawn i wneuthur un gorchwyl heb fod gan y llall ran ynddo; ac yr oedd ymadawiad S. W. i Abergynolwyn yn chwerw i deimlad y ddau. Yn yr Ysgol Sabbothol, a'r Cyfarfod Eglwysig, byddent yn wastad yn cyd-dynu yn y modd mwyaf dedwydd a chymerai S. W. yn dawel ei dro yn y cyfarfod gweddi ar nos Sabbath i esbonio penod.
Cymeriad cryf oedd Samuel Williams, ac yn cael ei gydnabod felly ymhob man lle y bu yn preswylio; a bu o wasanaeth mawr gydag achos crefydd hyd y diwedd. Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd ei brofiad yn uchel a hapus. Bu farw yn gyflawn o ddyddiau, wedi byw yn serch a chalon ei gymydogion ar hyd y blynyddoedd.
Fel engraifft o'i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, y mae yn hyfryd genym gael rhoddi o flaen ein darllenwyr y Mater canlynol a barotowyd ganddo
AM GYFEILIORNADAU.
1 CWESTIWN. Pa un a'i cyfeiliorniad a'i gwirionedd yw fod bedydd yn ail enedigaeth?
- ATEB. Cyfeiliorniad echryslawn ydyw.
2 C. Beth yw bedydd?
- A. Arwydd gweledig oddiallan, tra y mae ailenedigaeth yn gyfnewidiad grasol o waith yr Ysbryd Glân ar enaid pechadur. 1 Ioan iii: 5, 6
3 C. Pa fodd y dangoswch yn mhellach nad ydyw bedydd yn ailenedigaeth?
- A. 1. Gwaith dyn ydyw bedyddio, ond gwaith Duw ydyw aileni 1 Ioan v. 1
- 2 Mae yn amnhosibl i'r arwydd fod yr un peth ar hyn a arwyddoceir. Mat. iii. 11
- 3 Oddiallan ar y corff y gosodir yr arwydd, tra y mae yr hyn a arwyddoceir. yn dumewnol ar yr enaid. 1 Pedr iii. 21; Ioan iii. 6
- 4 Fe gafodd y tair mil yn Jerusalem, eu haileni cyn eu bedyddio; ac am hyny nis gall bedydd fod yn ailenedigaeth. Actau ii. 41
- 5 Fe gafodd Saul o Tarsis ei aileni cyn ei fedyddio, a Lydia hithau yr un modd. Actau ix. 4, 5, 11, 17, 18; a xvi. 14, 15
- 6 Fe gafodd y lleidr ar y groes ei aileni, ond ni chafodd ei fedyddio. Luc xxiii. 43
- 7. Fe gafodd Simon Magus ei fedyddio, ond ni chafodd ei aileni. Actau vii. 23
- 8 Pan sonir yn y Beibl am aileni, dywedir yn gyffredin ei fod o Dduw. 1 Ioan ii. 29; iii. 9; iv. 7
4 C. Paham y dywed neu yr haera rhai fod bedydd o weinyddiad offeiriad yn ailenedigaeth, mwy na bedydd o weinyddiad gweinidog ymneillduol?
- A. Am eu bod yn dal fod awdurdod yr offeiriad wedi dyfodol o law i law o'r apostolion.
5 C. Beth a olygwch wrth ordeiniad gweinidogaethol?
- A.1. Neillduad gweinidog i Grist yn gyhoeddus ac yn ddifrifol i'w swydd sanctaidd gyda gweddi daer drosto a chynghorion addas iddo. Actau xiii. 3
- 2 Gweinidogion y Gair sydd i gyflawni'r gorchwyl. Actau xiii.13; 1 Tim. y. 22
6 C. A oes olynwyr i'r Apostolion?
- A. Nac oes, fel Apostolion: oblegid yn
- 1. Yr oedd yr Apostolion yn dystion o adgyfodiad Crist; ac y mae yn amlwg nad oes neb felly yn bresenol. Actau ii. 32
- 2 Yr oedd pob Apostol wedi gweled yr Iesu yn bersonol; ac nid oes neb felly yn y byd yn awr. 1 Ioan i. 1, 2
- 3 Yr Iesu yn bersonol; a anfonodd allan bob un o'r Apostolion: ac nid oes neb felly i'w cael yn yr oes hon. Marc xvi 15
7. C. Pwy ynte yw olynwyr yr Apostolion?
- A. 1. Pob un sydd yn credu yn Mab Duw, ac yn byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu Heb. xiii. 7 ; 2 Thes. iii. 7 1 Cor. iv 16
- 2 Y rhai sydd yn pregethu yr un athrawiaeth o'r un Ysbryd, ac yn dilyn yr un fuchedd ar Apostolion, ac nid neb arall. 1 Cor. iii. 10, 11
8. C. A ydyw Duw, yn llefaru wrth ddynion yn yr oes hon?
- A. Ydyw, trwy ei Air a'i Ysbryd, a thrwy droion Rhagluniaeth. Ioan xv. 23; Actau xiv. 27
9 C. Onid oes angen am i Dduw lefaru yn ddigyfrwng, a gwneuthur gwyrthiau yn ein dyddiau ni megis yn y dyddiau gynt?
- A. Nac oes:
- 1 Nid ydynt mwyach yn angenrheidiol i brofi dwyfoldeb yr Ysgrythyrau. Exodus iv 2 i 5
- 2 Nid oes angen am wyrthiau yn ein dyddiau ni i brofi mai anfonedig y Tad yw Iesu Grist. Luc vii. 22
- 3 Nid oes angenrheidrwydd ychwaith ar weinidogion y Gair i wneuthur gwyrthiau er profi eu gwir anfoniad i'r weinidogaeth; y maent i'w hadnabod wrth y nodau sydd i fod arnynt. 1 Tim. iii. 20
- 4 Nid oes angenrheidrwydd am wyrthiau i argyhoeddi pechaduriaid ac i berffeithio y saint, oherwydd fod moddion addas wedi eu hordeinio. 2 Tim. iii. 16, 17
10.C. A ddylem ni Gristionogion wrthwynebu cyfeiliornoadau?
- A. Dylem
- 1. O ufudd—dod i orchymyn yr Arglwydd, ac er amddiffyniad i'w ogoniant. Esaiah xliii. 10, 12
- 2 Heb hyny nis gallwn ateb i'r enwau sydd arnom yn y Beibl. 1 Tim. iii, 15
- 3 Dylem wneuthur hyny o gariad a thosturi at yr eneidiau sydd yn cael eu hudo trwy gyfeiliornadau. Deut. xiii. 6, 8, 9, 10
- 4 Dylem ei wnenthur i ddangos ein zêl dros Dduw a'i Air, ac er dilyn esiampl yr Apostolion Mat. xxii. 29; Actau xiii. 8, 9, 10
Nid ydym yn dymuno ychwanegu. unrhyw sylwadau beirniadol na chanmoliaethol ar y Mater hwn. Dichon y dylid crybwyll fod Cwestiwn 4 yn seilledig ar gamsyniad, gan yr haera y Pabyddion ar uchel Eglwyswyr fod bedydd a weinyddir yn enw y Drindod gan unrhyw un yn ail enedigaeth. Gwelir yn y Mater arwyddion o lafur mawr; ac amlwg yw, fel y crybwyllwyd eisoes, fod llafur gwerthfawr ymysg aelodau yr Ysgolion Sabbothol yn Aberllefenni yn nyddiau y Materion hyn. Gofelid yn wastad am anfon rhan o bob Mater i Ysgol y Fronfraith.
Mae dau eraill a alwyd yn flaenoriaid yn Aberllefenni, ac a wasanaethasant y swydd am rai blynyddoedd gyda Rowland Evans yn deilwng o grybwylliad parchus, sef Robert Lumley a Richard Jones. Yn yr eglwys yn Aberllefenni, yn 1852, nid oedd ond dau swyddog, sef Rowland Evans a Samuel Williams. Galwyd wedi hyny Robert Owen, Llwynmafon, yn awr o'r Pandy, Corris. Ar ei ol ef, dewiswyd Robert Lumley, ac ymhen amser drachefn Richard Jones, Blue Cottages. Ymadawodd R. Lumley i Abergynolwyn i dreulio blynyddoedd diweddaf ei oes. Gŵr da ydoedd; a gŵr ag yr ydym ni dan rwymau neillduol iddo am lawer o garedigrwydd. Cawsom y fraint o fod yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sabbothol; a phan yn dechreu pregethu dangosodd tuag atom bob sirioldeb. Daeth gyda ni i liaws o leoedd y danfonid ni iddynt yn ystod y prawf rhagarweiniol fu arnom, cyn dwyn ein hachos i'r Cyfarfod Misol; ac nid yw ond naturiol i ni deimlo yn anwyl tuag at ei goffadwriaeth.
Yr oedd Robert Lumley yn ddyn deallus, ac yn glir ei syniadau am yr athrawiaeth; a rhoddai lawer mwy o le i wirionedd nag i deimlad gyda chrefydd. Yr oedd hefyd yn ddyn agored a didderbyn—wyneb. Mae wedi ei alw adref bellach ers blynyddoedd, a'i weddw hithau wedi ei ddilyn. Yr un modd, y mae amryw o'i blant hefyd wedi meirw; ar rhai sydd yn aros wedi eu gwasgaru oll o'r gymydogaeth lle y dygwyd hwynt i fyny.—
Arosodd Richard Jones yn Aberllefenni hyd ei farwolaeth. Gŵr a llawer o neillduolion yn perthyn iddo ydoedd ef; ac eto yn gymeriad prydferth dros ben. Yn ddyn ieuanc yr oedd yn dra distaw, ond yn ei flynyddoedd diweddaf daeth yn llawer mwy siriol a siaradus. Nid ydym yn cofio i ni adnabod neb wedi rhoddi crefydd yn mlaenaf yn fwy llwyr. Gofalai am ei amgylchiadau bydol lawn cystal ar cyffredin o'i gymydogion; ond ni oddefai iddynt ymyryd o gwbl â'i gysondeb yn moddion:
gras. Gwelwyd ef yn mwdylu y gwair yn lle ei gario ar noson. y Cyfarfod Eglwysig, er fod rhagolygon y tywydd yn eithaf bygythiol. Yr oedd dylanwad y diweddar Barchedig Owen Roberts, Llwyngwril, yn lled amlwg arno yn hyn. Pan oedd y gŵr hwnw yn lletya gydag ef, cyn iddo symud i'r ardal i fyw, digwyddodd i'r teulu gysgu braidd yn hir un boreu; a dywedodd un o honynt, "Mae arna i ofn na chawn i ddim dyledswydd heddyw. Na, meddai Mr. Roberts, gadewch i ni gael dyledswydd; maen well gen i fynd allan heb frecwast nac heb ddyledswydd. Clywsom R. J. yn adrodd y sylw yn fynych; a theimlodd yn ddwys oddiwrtho. Meddyliai wrth ei gymharu ei hun â Mr. R. ei fod yn bell o roddi crefydd a'i hordinhadau yn eu lle priodol; ond ni theimlai neb arall felly gyda golwg arno.
Bu ei gymeriad. bob amser yn hynod ddilychwin; ac yr oedd yn ddwfn yn serch ei holl gymydogion. Nodwedd arbenig ei grefydd yn ddiau ydoedd meddwl mawr am y Gŵr sef am y Gwaredwr. Yr hyn a hoffai yn fwy na phob peth arall yn y weinidogaeth ydoedd dyrchafu person yr Arglwydd Iesu. Mynych y dywedodd am bregethau o'r nodwedd yma: Roeddwn i yn teimlo wrth wrando y buaswn yn mentro'r Gŵr pe buasai gen i fil o eneidiau. Mi fuaswn yn eu rhoddi iddo bob un. A bron nad oeddwn i, fel y clywais am un, yn dymuno eu bod genyf er mwyn eu rhoddi oll iddo. Dywedai y pethau hyn gyda theimlad dwys, gan eu hail adrodd unwaith ac eilwaith. Yr oedd yn ddarostyngedig i ofn ar adegau; ond gwyddai beth oedd cyfodi ar adegau eraill i dir tra chysurus gyda chrefydd,
Yn erbyn pechod yr oedd yn llym ac ni oddefai yr olwg ar unrhyw arferiad ddrygionus yn codi ei phen yn y gymydogaeth heb wneyd a allai i'w gwrthwynebu. Bu yn ddirwestwr zelog; a safodd yn gryf bob amser o blaid cadw yr eglwys yn gwbl lân oddiwrth y diodydd meddwol. Ofnai rhag i burdeb y ddisgyblaeth fyned i lawr yn ei ddwylaw; ond er y cwbl nid ydym yn tybio fod neb erioed wedi meddwl am lymder na gerwinder yn elfenau amlwg yn ei gymeriad. Fel gŵr ffyddlawn, ymroddedig i achos crefydd a gŵr ag yr oedd ei dduwioldeb uwchlaw amheuaeth y mae ei goffadwriaeth yn byw yn meddyliau ei gymydogion. Gallesid disgwyl am lawer yn ychwaneg o wasanaeth oddiwrtho; ond gymrwyd ef ymaith yn nghanol ei flynyddoedd. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig.
Yn y gweddill o'r benod hon, cymerwn y pleser o wneuthur crybwyllion byrion am nifer o frodyr a chwiorydd fuont mewn cysylltiad â'r achos yn Pantymaes yn nyddiau Rowland Evans, ond ydynt oll, fel yntau, wedi cyraedd, ni a hyderwn, i'r trigfanau nefol. Nid ydym yn proffesu ysgrifenu darluniad cyflawn o gymaint ag un o honynt. Gadewir hefyd orchudd marwolaeth i orphwys ar bob diffyg a berthynai iddynt. Mynych y dywedai Rowland Evans, wrth sylwi ar y geiriau, "Meddyliwch am eich blaenoriaid, * * * * ffydd y rhai dilynwch," nas gallwn ddilyn pob peth yn ein blaenoriaid, Fe lithrodd, meddai, am un o honynt; ond nid ydym i'w dilyn yn eu llithriadau. Ffydd y rhai dilynwch. Gofalwn am ddilyn yr hyn oedd dda ynddynt, gan osgoi pob peth i'r gwrthwyneb. Gwyddom am ddiffygion lled bwysig mewn rhai o'r brodyr a enwir genym; ond nid oes i'r sylwadau canlynol un amcan pellach na chadw yn fyw y da a berthynai iddynt. Maent oll yn anwyl yn ein golwg; ac nid oes ynom y dymuniad lleiaf at ddim ond gwneuthur yr ychydig a allem er anrhydeddu eu coffadwriaeth. Bydd yn amlwg ar yr un pryd oddiwrth—ein nodiadau nad oeddynt oll yn sefyll ar yr un tir.
Y rhai hynaf braidd y gallwn ni eu cofio oeddynt David ac Anne Evans, y Ddolgoed; tad a mam Hugh Evans, yr Hengae, y diweddar Morris Evans a David Evans, y Ddolgoed, y diweddar Evan Evans, Gwastadfryn, ar ddiweddar Mrs. Owen, Mathafarn, Llanwrin. Yr oedd Anne Evans yn un o'r aelodau hynaf pan aethom i Aberllefenni yn 1852 merch ydoedd i Hugh Humphrey, Llwydiarth. Yr oedd yn wraig ddistaw, ac o deimladau gwir grefyddol. Adroddwyd wrthym yn ddiweddar iddi farw mewn llawn sicrwydd gobaith. Yn ei chystudd, casglodd ei theulu. ol chwmpas, a mynodd addewid oddiwrth bob un o honynt nad oeddynt yn aelodau crefyddol y byddai iddynt, heb golli amser ymuno âg eglwys Dduw. Crefydd fach, meddai, oedd gen i bob amser ond a welwch chwi beth mor fawr sydd yn dyfod heddyw oddiwrth grefydd fach? Beth pe buasai gen i grefydd fawr fel crefydd Rowland Evans? Y peth ffolaf erioed ydyw bod heb grefydd. Yn mîn ei fedd yr ymunodd David Evans â'r eglwys; a golygfa effeithiol iawn oedd ei weled yn troi at bobl yr Arglwydd yn ngwendid henaint. Dangosai y teimladau mwyaf dymunol. Gwnaethai garedigrwydd i achos crefydd flynyddoedd lawer cyn hyny, sydd yn galw arnom i wneuthur crybwylliad parchus am ei enw. Yn ardal Carmel, gerllaw Llanfachreth, yr oedd dymuniad am gapel; ond yr oedd y tir oll, oddieithr fferm Ystum—gwadnau yn eiddo i foneddwr a lywodraethid gan y teimladau mwyaf gelynol at Fethodistiaeth. Eiddo David Evans oedd y fferm uchod; ac er gwaethaf pob dylanwad i'r gwrthwyneb, rhoddodd dir i adeiladu capel arno; ar capel hwnw yw Carmel. Capel Ystum—gwadnau y gelwid ef ar y cyntaf; ond un tro, pan oedd y diweddar Barchedig John Williams, Llecheiddior, yr hwn a breswyliai ar y pryd yn y gymydogaeth, yn pregethu ynddo gyda grym neillduol ar Elias ar ben Carmel, dywedodd yn nghanol ei hwyl, Yr wyf yn dymuno am i'r lle hwn gael ei alw yn Garmel tra byddo yma gareg ar gareg o hono. A thra phriodol yw yr enw ar gyfrif uchelder y lle y saif y capel arno.
Fel y sylwyd, nid oes yn awr ond un o'u plant yn aros, ac y mae yntau yn hynafgwr. Haedda Morris Evans grybwylliad parchus fel y cyntaf o honynt a ymunodd âg eglwys Dduw. Bu yn athraw i ni yn yr Ysgol Sabbothol am flynyddoedd; ac y mae genym adgof hapus hyd heddyw am y tymor y buom dan ei addysgiaeth. Bu yn Aberllefenni am wyth mlynedd; ac wedi hyny dychwelodd eilwaith i'r Ddolgoed. Dangosodd ar lawer adeg garedigrwydd mawr at achos crefydd. Cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddyddiau. Mae ei weddw a dwy ferch iddo yn aros eto yn Ngheiswyn.
Un a fu mewn cysylltiad â'r achos yn Aberllefenni, ni a gredwn, o'i gychwyniad hyd adeg ei farwolaeth ydoedd Hugh Evans, Tynycei, neu, fel y gelwid ef bob amser gan ei gymydogion Huw Ifan. Cadw yr amser oedd ei swydd ef, yn y chwarel ac yn y capel. Efe fyddai yn canu y corn i alw y chwarelwyr at, a'u gollwng oddiwrth eu gwaith am flynyddoedd; ac efe hefyd a ganodd y gloch, wedi ei chael, hyd ei farwolaeth. Gofalai hefyd am yr amser yn y capel. Byddai yn dra anesmwyth os na ddechreuid mewn pryd; ac edrychai yn gilwgus.. hefyd os na therfynid yn yr adeg briodol; ond nid oedd yn y mater hwn mor fanwl a William Jones, Tanyrallt. anfynych y gwelid Rowland Evans yn y gwasanaeth ar ei ddechreu; a llawer gwaith y danodwyd iddo ei fod am wneyd y golled i fyny ar ei ddiwedd. Yn yr Ysgol Sabbothol, nid oedd ceidwad yr amser yn cael unrhyw anhawsder; a therfynid y darllen, o leiaf, yn gwbl brydlon. Dyn bychan o gorffolaeth oedd Hugh Ifan, hynod fywiog a ffraeth; ond heb fod yn hynod am werth ei alluoedd. Un o'i hoff benillion oedd:
Mae arnaf eisiau zêl a chariad at dy waith;
Ac nid rhag ofn y gosp a ddel, nac am y wobr chwaith
Ond gwir ddyniuniad llawn, ddyrchafu'th gyfiawn glod,
Am i ti wrthyf drugarhau, a chofio am danai erioed.
Y prif brawf ganddo yn wastad fod rhywbeth gwirioneddol rhyngddo a Iesu Grist oedd ei fod yn caru y brodyr. Dyma y profiad diweddaf a adroddwyd ganddo yn y cyfarfod eglwysig. Nid oeddym wedi sylwi ar hyn nes yr adgoffwyd ni o'r ffaith gan Elizabeth Parry, merch John ac Anne Parry, ar ei gwely angau. Cofia y rhai a adwaenent y chwaer hon ei bod yn nodedig ymysg chwiorydd ieuainc y gymydogaeth am, ei gwybodaeth, ac am ei medr hefyd fel athrawes; ond yn ei chystudd diweddaf, yr oedd yn hynod dywyll ar ei meddwl. Dywedai wrthym un tro: "Does gen i ddim i bwyso arno heddyw ond profiad hwn Ifan, yn y seiat olaf y bu ynddi. Yr ydw inau yn siwr, fel yntau, fy mod yn caru y brodyr." Os rhoith Duw fi yn uffern, mi fyddaf gyda dynion na bu dim â wnelwn â hwynt yn y byd yma erioed. Mi wn i mai nid y rheiny ydi mhobol i. Nid oes dim amheuaeth yn meddwl neb a'u hadwaenai nad yw y naill ar llall yn awr yn gwbl ddiogel a dedwydd gydar Iesu.
Mae Mary Evans, gweddw R. E, wedi ei ddilyn bellach, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau. Gwraig fywiog iawn ydoedd yn ei dydd, a thra chyson a ffyddlawn yn moddion gras. Bu farw eu mab hynaf, Evan Evans, Blue Cottages, o'u blaen. Mab iddo ef ydyw Hugh Evans, sydd yn awr yn flaenor yn eglwys Aberllefenni; ac y mae amryw eraill o'i blant yn aros, ac yn dra defnyddiol gyda chrefydd. Mae dau eraill o blant Tynycei wedi meirw, Mary a Richard; mae Robert a Griffith yn Nghorris, a'r gweddill mewn gwahanol barthau yn yr America. Bu Robert yn flaenor yn Aberllefenni am rai blynyddoedd cyn iddo symud oddiyno i fyw.
Cyfeiriwyd eisoes at Robert Jones, Machine. Bu yntau mewn cysylltiad â'r achos yn Aberllefenni o'i gychwyniad. Yr oedd ynddo lawer o'r elfenau angenrheidiol mewn arweinydd; a chyda dau achos yn neillduol bu am lawer o flynyddoedd yn arweinydd llawn o yni ac ymroddiad, achos addysg ac achos sobrwydd. Llafuriodd yn ddiwyd iawn, mewn cysylltiad â'i brodyr eraill, i sicrhau manteision addysg i'r gymydogaeth; a mynych y llanwodd y swydd o lywydd y Gymdeithas Ddirwestol. Yn yr Ysgol Sabbothol hefyd bu yn athraw ffyddlon, ac yn cymeryd ei ran fel holwyddorwr ; a bu gyda hyny amryw weithiau yn arolygwr. Bu farw Medi, 1883, wedi cyraedd oedran teg. Dwy ferch a phedwar mab a adawyd ganddo; ac y mae ei weddw eto yn aros.
Ychydig allwn ni gofio am y gŵr ffyddlawn Hugh Owen, y Waen. Er byw ymhell oddiwrth y capel, yr oedd yn dra chyson yn moddion gras; ac yn un o golofnau yr Ysgol yn y Fronfraith. Bu farw yn ddyn lled ieuanc. Mae ei weddw yntau, Susannah Owen, yn awr yn fyw, ac yn preswylio yn y Waen.
Arweinir ni yn y fan hon i wneuthur crybwylliad am Abraham, a Jane Williams, Crachfynydd; y rhai a fuont ill dau am flynyddoedd meithion yn aelodau yn Aberllefenni. Hen ŵr bywiog, ffraeth oedd A. W.; a hen wraig graff a chyrhaeddgar oedd J. W. Digwyddodd llawer o bethau digrifol mewn cysylltiad âg A. W, y rhai y gellid llanw amryw dudalenau difyrus â hwynt. Ond arweinid ni felly oddiwrth yr amcan sydd genym mewn golwg. Calfin cryf ydoedd ef; ac mewn dadl unwaith yn y Foel Grochan, ar Gwymp oddiwrth ras, dywedai un brawd o olygiadau Arminaidd, Yr ydw i yn siwr, pe bawn i yn marw heddyw, yr awn i i'r nefoedd; ond ni wn i ddim sut fydd hi yfory. Rhoddodd A. W. gyfeiriad annisgwyliadwy i'r ddadl trwy ddweyd:— Byth o'r fan yma: mae arna i awydd dy ladd di, gael i ti fynd ac aros yno. Yn nghanol ei holl ddigrifwch, yr oedd yn wir dduwiol, ac yn un a hoffid yn fawr gan ei gymydogion.
A chyn i ni adael Cwm yr Hengae, nid anmhriodol fyddai crybwyll am deulu Fottyr Waen, Dafydd Tomos, ei briod, a'i fam-yn-nghyfraith, Un llawn o zêl er heb wybodaeth helaeth, oedd D. T.; ond yr oedd ganddo ddawn gweddi lled felus. Yr oedd yn Fethodist twymngalon, a gwae fyddai i'r hwnw a feiddiai ddywedyd gair yn erbyn y Methodistiaid. Dioddefodd gystudd poenus rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth a adawodd ei ol arno am y gweddill o'i oes. Nid oes un amheuaeth nad oedd yn Gristion cywir. Mae ei fab David Thomas yn awr yn un o flaenoriaid yr eglwys yn Aberllefenni.
Bu farw ei briod, Mary Thomas, yn wraig ieuanc; a chadwyd ei dŷ ar ol hyny gan ei fam-yn-nghyfraith, Ellin Edward, fel y gelwid hi bob amser, Nel Edward. Yr oedd yn chwaer Susannah Stephen; ac yr oeddynt ill dwy ymysg aelod hynaf yr eglwys yn nyddiau ein mebyd. Edrychem ni yn wastad yn uchel ar y ddwy; ac yr oeddynt yn ddiau yn nodedig o synwyrol a chrefyddol. Daw enw y ddiweddaf dan sylw mewn cysylltiad â'i phriod.
Cwpl a haeddant grybwylliad parchus ydyw John Michael a'i briod, Catrin William. O Lanllyfni y daethant hwy i Aberllefenni; ac yr oedd ef yn swyddog eglwysig yn y lle hwnw cyn ei symudiad oddiyno. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i siarad ac i weddio, er nad oedd ei wybodaeth yn helaeth iawn. Ond yr oedd mwy o hynodrwydd yn perthyn i Catrin William. O'r holl hen chwiorydd yn yr eglwys, hi oedd y fwyaf parod i adrodd ei phrofiad o honi ei hun. Ac oherwydd ei pharodrwydd mynych y disgynai i'w rhan y fraint o roddi cychwyniad i'r Cyfarfod Eglwysig. Eisteddai bob amser yn yr un lle; ac ni feddyliai neb am eistedd yno ond yr hen chwaer. Wrth ei hochr, eisteddai yn wastad Lowri Ifan, Yr Hen Ffactri, hen chwaer ffyddlawn arall fyddai yn mwynhau moddion gras yn rhyfeddol, er na byddai ganddi un amser ryw lawer i'w ddweyd. Mae hiraeth yn llanw ein mynwes wrth gofio am yr hen famau anwyl hyn yn Israel.
Daeth enw Dafydd Humphrey, Blue Cottages, ger fron mewn penod flaenorol. Perthynai iddo yntau neillduolion corfforol a meddyliol. Oherwydd rhyw afiechyd a gafodd yn lled gynar yn ei oes, bu ei gnawd yn chwyddedig dros y gweddill o honi; ac mewn canlyniad byddai syrthni a chysgadrwydd yn brofedigaeth barhaus iddo. Cysgai yn wastad yn y capel; ac er hyny cofiai fwy o'r pregethau na neb a'u gwrandawai. Cysgai hyd yn nod wrth ymddiddan â'i gyfeillion. Yr oedd ganddo gŵr da a dawn i adrodd yr hyn a gofiai; ond mynych y gollyngai y stori ar ei chanol i gael hûn Gafaelai er hyny ynddi eilwaith, wedi deffro, yn hollol yn y man y gadawsai hi. O ran gwybodaeth a chraffder meddyliol, yr oedd yn rhagori llawer ar y cyffredin; a byddai yn dda genym yn nyddiau ein mebyd ei glywed yn dechreu y cyfarfod gweddi, am y darllenai yn gyffredin ryw gyfran ddyddorol o'r llyfrau hanesiol yn yr Hen Destament. Yr oedd yn deall yr athrawiaeth yn well na'r rhan fwyaf o'i frodyr; ac yr oedd yn tra rhagori arnynt yn y gwerth a roddai ar ranau hanesyddol yr Ysgrythyr.
Cafodd ei weddw, Jane Humphrey, fyw am nifer o flynyddoedd ar ei ol; ond y mae hithau bellach wedi ei ddilyn i'r trigfanau nefol. Nid oes yn awr o'u plant yn Aberllefenni ond Mary, eu hunig ferch, priod Mr. John Davies. Mae y meibion sydd yn fyw, oll yn yr America; ac y mae un o honynt, Mr. Evan D. Humphreys, Fair Haven, Vermont, yn bregethwr cymeradwy ers llawer o flynyddoedd gyda'r Methodistiaid.
Cwpl arall nas gallwn fyned heibio heb wneuthur crybwylliad serchog am danynt ydyw John ac Anne Parry, Tyr Capel. Ni feddyliodd neb erioed fwy o'r fraint o letya gweinidogion y Gair na'r ddau hyn; ac yr ydym yn sicr fod lliaws o'r rhai fuont yn aros gyda hwy yn cofio gyda diolchgarwch am eu caredigrwydd. Bychan oedd gwybodaeth John Parry; a bychan hefyd oedd ei awydd am wybodaeth. Mynych y clywsom ef yn sylwi ar gwestiynau a ofynid iddo : Dydw i ddim yn meddwl fod hwna yn hanfodol. Byddai yn eithaf tawel heb wybod pob peth nas gellid ei brofi yn hanfodol. Gyda chaniadaeth y cysegr y bu ef yn fwyaf llafurus. Yr oedd ganddo ddawn naturiol at ganu; ac yn rhinwedd y ddawn hono, yn hytrach na thrwy unrhyw wybodaeth neillduol am gerddoriaeth, y llwyddodd i fod o wasanaeth am flynyddoedd gyda'r canu. Glynodd yn ffyddlon wrth y swydd o arweinydd y gân am lawer o flynyddoedd; a dygodd fawr zêl dros y canu hyd derfyn ei oes. Gwyllt iawn ei dymer ydoedd yn naturiol; ond yr oedd gwaith gras yn amlwg iawn arno hyd yn nod yn y mater hwn. Gwyddai am ei wendid, ac er llithro yn fynych ymdrechai drachefn arfer gwyliadwriaeth; ac am ei faddeugarwch yr oedd yn adnabyddus i bawb. Yn ei gystudd diweddaf teimlai yn gwbl dawel mewn ymorphwysiad ar ei Waredwr.
Lled ddistaw fyddai yn y Cyfarfod Eglwysig: ond yr oedd yn ddiau yn wir grefyddol. Yr oedd Ann Parry yn llawer mwy profiadol, ac o dymer gwbl wahanol. Arafaidd a mwynaidd fyddai un bob amser ac ni welwyd neb erioed yn caru Iesu Grist a'i achos yn fwy gwresog nag Anne Parry. Nis gallwn derfynu y sylw byr hwn am danynt heb ddatgan y parch dyfnaf i'w coffadwriaeth.
Mae amryw o'u plant wedi meirw; ar rhai sydd yn parhau yn fyw wedi hen ymadael â'r ardal y magwyd hwy ynddi. Cyfeiriwyd eisoes at farwolaeth eu merch Elisabeth; a bu farw eu mab Henry yn fachgen ieuanc tra gobeithiol. Yn ŵr ieuanc y bu farw hefyd Owen eu mab ieuangaf. Bu un mab iddynt, Evan, yn dra defnyddiol yn Cesarea, gerllaw y Groeslon, yn Swydd Gaernarfon.; ond y mae yntau hefyd wedi marw ers rhai, blynyddoedd.
Wrth eu gadael hwy, y mae yn naturiol i ni grybwyll chwaer y mae genym gofion serchog am dani, sef Jane Jones, y Briws, neu fel, y gelwid hi yn wastad, Jinny. Jones. Oddigerth Catrin William, nid oedd neb yn fwy rhydd i adrodd ei phrofiad yn y Cyfarfod Eglwysig, na neb yn sicr y byddai yn fwy hyfryd genym ni eu clywed. Nid oedd ei phriod, Robert Jones, yn aelod eglwysig, er ei fod yn wrandawr cyson, ac yn ddyn dichlynaidd ei ymarweddiad; ond dygodd y fam i fyny ei phlant oll yn yr eglwys. Mae un o honynt, Henry, yn byw eto yn y Briws; ac un arall, Robert, yn Abergynolwyn. Y mae amryw o honynt yn Awstralia ers llawer o flynyddoedd.
Hen gymeriad hynod oedd William Hughes, Tŷ ucha. Gallwn gofio yr adeg yr ymunodd â'r eglwys. Gŵr thal, syth, unllygeidiog, ydoedd ef; ac un a fuasai yn ei ieuenctid yn wyllt ac annuwiol. Nid oedd neb yn y gymydogaeth mor hoff ag ef o olrhain achau pobl. Brodor o Sir Gaernarfon.; ydoedd; a phan ddeuai pregethwr o'r sir hono i Aberllefenni a fyddai wedi dechreu pregethu ar ol ei ymadawiad ef, rhaid oedd cael pob gwybodaeth am ei achau. Yr oedd yn atebwr rhydd ar adeg yr holwyddori; ond damwain oedd iddo gael gafael ar yr atebiad a ddisgwylid. Ystyrid fod ganddo yn wastad rywbeth dan ei ewin , ond anfynych y llwyddai i'w wneyd yn ddealladwy i eraill.
Yr oedd yntau yn un y cafwyd llawer o ddigrifwch yn y gymdeithas; ond yr oedd y digrifwch bob amser yn eithaf diniwed. Eraill fyddent yn cael y digrifwch, ac anfynych y byddai ef ei hun yn cael unrhyw gyfran o'r mwynhad. Yr oedd yn ddiau yn hen Gristion da. Ychydig cyn marw, torodd allan i orfoleddu, yn gyffelyb i'r modd y gwnai yn amser y diwygiad.
Gerllaw iddo y preswyliai Mathew Davies; ac yn ddiweddar yn ei oes y daeth yntau i mewn i eglwys Dduw. Yn fachgen ieuanc yr oedd yn nwyfus a digrifol; ond collodd y nwyfiant i raddau helaeth cyn yr adeg y gallwn ni ei gofio gyntaf. Bu ei wraig dan afiechyd trwm am flynyddoedd, yr hyn oedd brofedigaeth lem iddo yntau. Dyn o rodiad diargyhoedd ydoedd; ac llu y bu ei fywyd yn hynod o ddidramgwydd i'w holl gymydogion. Dyma ddau deulu nad oes yn y gymydogaeth neb yn perthyn iddynt ers amryw flynyddoedd.
Un arall y gallwn ei gofio yn dyfod i'r eglwys ydyw Owen Hughes, Blue Cottages. Cyn hyny yr oedd yn ddyn caled ac annuwiol, a chyda hyny yn lled anwybodus. Nid oedd yn medru darllen pan y daeth at grefydd; ond trwy lafur cyson, a diwydrwydd canmoladwy, daeth i ddarllen yn weddol rwydd cyn pen llawer o amser. Yr oedd y cyfnewidiad ynddo ef yn amlwg i bawb. Nid oedd yn berffaith yn ddiau fel crefyddwr; ond yr oedd mor wahanol i'r hyn a fuasai o'r blaen fel nad oedd lle i neb a'i hadwaenai ameu gwirionedd ei droedigaeth. Trwy ddamwain yn y chwarel y cyfarfyddodd â'i farwolaeth. Mae ei weddw eto yn aros; ac y mae ei dri mab, Richard, John, a Hugh, a'i bedair merch, Lowri, Margaret, Catherine, ac Anne hefyd yn fyw; ac yn dwyn i fyny deuluoedd lliosog. Bu Jane ei ferch farw yn eneth lled ieuanc.
Un a haeddai grybwylliad helaeth ydyw John Stephen. Brodor o Ffestiniog ydoedd ef, a brawd i'r gweinidog enwog ac adnabyddus y diweddar Barchedig Edward Stephen, Tanymarian. Dygwyd ef i fyny gyda'r Methodistiaid; ond ymadawodd oddiwrthynt, i ddechreu at y Wesleyaid, ac wedi hyny at yr Annibynwyr. Gŵr o yni anghyffredin ydoedd, ac yn llawn o ysbryd a bywyd yn wastad. Tua'r flwyddyn 1835 y daeth i Aberllefenni, ac ymhen dwy flynedd, priododd wraig weddw, yr hon yr oedd iddi amryw ferched, ar hon y crybwyllwyd am dani yn flaenorol. Un o'r rhai hyn ydoedd Elizabeth, ail wraig Evan Owen, Cambergi, a mam y Parchedig John Owen, Aberllefenni Un arall, Margaret, ydoedd gwraig gyntaf y diweddar William Davies, Aberllefenni. Bu yr ieuangaf o honynt, Gwen, farw yn ddi—briod.
Yn nhyr capel, Pantymaes, y gallwn gofio J. S, yn 1852; ac o'r, adeg gyntaf y daethom dan ei ddylanwad, bu iddo le parchus yn ein meddwl. Gellir ei ystyried yn gychwynydd achos yr Annibynwyr yn Aberllefenni; ac am flynyddoedd efe oedd yn fwyaf llafurus ac ymdrechgar gydag ef. Yn ei flynyddoedd olaf bu yn aelod gyda'r Methodistiaid. Ni chollodd erioed ei serch atynt, a phan ddychwelodd atynt gwnaeth ei gartref ar unwaith yn gwbl ddedwydd gyda hwynt.
Gyda dirwest yr oedd yn hynod wresog o'r cychwyn, a pharhaodd felly hyd ddiwedd ei oes. Nid ydym yn tybio y gwelwyd yn nghanol y cynwrf mwyaf neb yn fwy zelog nag efe. Barnai ei briod, Susannah, yr hon oedd o dymer dra gwahanol iddo, ei fod yn rhy boethlyd ar adegau; a digwyddodd rhyngddynt rai pethau lled ddigrifol. Parhaodd yn ffyddlon ac yn wresog hyd derfyn ei ddydd. Ac yr ydym ni yn ddyledus iddo am y gefnogaeth a gawsom ganddo ar lawer adeg pan y ceisiem ddywedyd ychydig yn mlynyddoedd ein mebyd ar yr achos dirwestol.
Tros addysg hefyd bu yn dra llafurus; ac ni laesodd ei ddwylaw ychwaith gyda hyn. Er nad oedd iddo blant ei hun, nid oedd neb a deimlai ddyddordeb mwy bywiog mewn plant nag efe. Cofiwn yn dda am lawer ol ymddiddanion yn dangos dyfnder ei deimlad dios ddygiad i fyny priodol iddynt; ac yr ydym yn ddyledus i rai o honynt am argraffiadau dwysion ar ein meddwl pan nad oeddym ond ieuanc iawn. Bu yn un o'r colofnau gyda'r ysgol ddyddiol yn y Garnedd Wen am flynyddoedd; ac nid bychan ydyw dyled y gymydogaeth heddyw iddo am y gwasanaeth a wnaeth y pryd hwnw.
Yn 1859, bu farw ei briod, a phriododd yntau wedi hyny Mrs. Catherine Williams, o Lanllyfni, chwaer i'r diweddar Mr. Robert Hughes, Fronwen, goruchwyliwr chwarelau Aberllefenni, yr hon sydd eto yn fyw. Dioddefodd am flynyddoedd gystudd maith a phoenus yn hynod ddirwgnach. Mawr oedd ei serch at dŷ yr Arglwydd, a dwfn oedd ei deimlad o'r golled am fyned i'r cynteddoedd. Gwnaeth ymdrechion mawrion i fyned yno yn nghanol gwaeledd mawr; ac wedi llwyr fethu yr oedd ei galon yn aros yn nhy Dduw. Ond er y cwbl, treuliodd flynyddoedd o gystudd yn bur gysurus. Tynai ddedwyddwch pur o gymdeithas cyfeillion; ac yr oedd adroddiad pregethau iddo yn wledd wirioneddol. Cofiai yn dda ei hunan am lawer o hen Gymanfaoedd y Bala; ac yr oedd ei edmygedd o'r hen bregethwyr yn ddiderfyn. Iddo ef o flaen pawb eraill o'r bron yr ydym ni yn ddyledus am y syniad sydd genym am lawer o honynt. Bu farw Tachwedd 12, 1879 Cristion da yn ddiddadl oedd John Stephen; a pharchus ac anwyl ydyw ei goffadwriaeth.
Un arall a fu yn aelod amlwg am flynyddoedd yn Aberllefenni ydoedd Dafydd Owen. Byr o gorffolaeth ydoedd ef, ond cryf a gwrol yr olwg arno er hyny. Yr oedd ganddo ben lled fawr, a gwyneb yn amrywio llawer ar wahanol adegau, yn ol y teimladau oddifewn. Dyma ddisgrifiad y Parchedig Evan Davies, Trefriw, o hono:—
Yr oedd Dafydd Owen yn wr syth, cydnerth, o ran ei gorff, yn zelog a ffydllawn fel crefyddwr; ac o ran ei farn yr oedd fel y dywedai Glan Alun, am Angel Jones, yn:
Hen Galfin at y gwraidd;
Yn wir fe gloddiai ambell dro
Yn is na hyny braidd..
Yr oedd iddo hefyd lais clochaidd uchel; a dawn rwydd a pharod. Pan y cofiwn ef gyntaf yr oedd yn dal rhyw swydd dan y boneddwr Mr. Anwyl, o'r Hengae; ond wedi hyny daeth yn oruchwyliwr y coed i Mr. Pryce, yn Aberllefenni; a pharhaodd i lanw y swydd hono hyd ddiwedd ei oes.
Fel yr awgrymir uchod yr oedd ei Galfiniaeth yn eithafol, ac nid oedd dim a'i boddiai yn y pregethau ond sylwadau cwbl Galfinaidd. Pan y ceid hyn codai ar ei draed gyda'r sydynrwydd mwyaf, gan edrych yn siriol, i ddechreu ar y pregethwr, ac yna ar ryw gyfeillion o'i amgylch y tybiai oeddynt mewn cydymdemlad agos neu ynte y gwyddai eu bod yn wahanol a gwrthwynebol. Ond os digwyddai i'r sylwadau am raslonrwydd trefn yr efengyl gael eu dilyn gau gyfeiriadau at ddyledswydd dyn, byddai y cymylau yn ymdaenu dros ei wynebpryd ar unwaith, ac eisteddai i lawr fel dyn hollol siomedig. Yr hyn y gellid ei ddarllen yn amlwg yn ei wedd fyddai y Cwestiwn a ofynid ganddo yn fynych yn ei ymddiddanion, I ba ddiben y cyinhelir dyn sydd yn farw ysbrydol at ei ddyledswydd?
Mynych y dywedai, a mynych yn wir y dangosai, nad oedd ganddo amynedd i wrando pregethu dyledswyddau. Ond yr oedd ei ddyddordeb yn ddwfn yn yr athrawiaeth; ac ni flinai byth yn ei thrafod tra y caffai hyny ei wneuthur yn ddigon Calfinaidd.
Camgymeriad fyddai dywedyd fod ei syniadau yn eang ar unrhyw fater; ac ofnwn y rhaid ychwanegu fod ei feddwl wedi ei gau ers blynyddoedd i argyhoeddiad ar bob pwnc yr oedd wedi talu unrhyw sylw iddo. Nid oedd teimlad dwfn ychwaith yn nodweddu ei grefydd; ac eto gwelwyd ef ar adegau yn cael ei orchfygu. i fesur gan ei deimladau. Yr oedd yntau, ni a gredwn, yn Gristion cywir er pob hynodrwydd a berthynai iddo.
Cyn dwyn y benod hon i derfyniad goddefir i ni wneuthur cyfeiriad byr at ein rhieni. Buont yn aelodau cyson yn Aberllefenni o 1852 hyd eu marwolaeth. Brodor o Drawsfynydd oedd Griffith Ellis, ond gadawodd y gymydogaeth hono yn lled ieuanc. Yr oedd yn ngwasanaeth John Jones, Esgair Goch, Pennal, tad y Parchedig Evan Jones, Caernarfon, yn ddwy ar bymtheg oed; ar pryd hwnw, pan oedd y Parchedig Dafydd Rolant, y Bala, yn Mhennal yn pregethu yr arosodd yn y seiat. Yr oedd y gweinidog yn adnabyddus o hono yn Nhrawsfynydd, a phan y gwelodd mai efe oedd wedi aros dywedodd yn ei ddull priodol ei hun : Hylo! Guto bach: a'i ti sydd yma? Tirion iawn ydir Brenin mawr onide, yn showio plant tlodion fel ti a minau i'r seiat. Symudodd o Bennal i Lanwrin, ac oddiyno drachefn wedi ei briodas i Aberllefenni. Bu ef a'i briod am chwe blynedd yn Tanyrallt. Corris; ond yn 1852 dychwelasant drachefn i Aberllefenni, lle y treuliasant weddill eu hoes.
Yn Nghorris y ganwyd ac y magwyd Margaret Ellis, ac yr oedd ei mam, Nel Wmphra, yn un o'r aelodau hynaf yn Rehoboth am rai blynyddoedd cyn ei marwolaeth, Hydref 12 1851 Dygwyd ein mam i fyny yn grefyddol o'i mebyd; a chafodd ei chynal yn ddigwymp hyd y diwedd. Bu farw Griffith Ellis, Medi 13, 1858, yn 44 mlwydd oed; a bu farw Margaret Ellis, Medi 23, 1875, yn 63 mlwydd oed.
Naturiol fyddai i ni gymeryd gwedd ffafriol ar eu cymeriadau; ond ni ddymunem ddywedyd dim am danynt y byddai yr amheuaeth lleiaf yn ei gylch gan neb a'u hadwaenent. Ni chafodd y naill na'r llall ddiwrnod o ysgol ddyddiol erioed; ac ni ddysgasant ysgrifenu na darllen ysgrifen tra y buont byw. Yr oeddynt ill dau o alluoedd naturiol gweddol gryfion, ac ill dau yn meddu cof gafaelgar. Teimlent werth addysg trwy eu hamddifadrwydd eu hunain o honi; a gwnaethant yn ewyllysgar bob aberth er rhoddi yr addysg oreu o fewn eu cyraedd i'w plant. Yr oeddynt yn edmygwyr mawr ill dau ar bregethwyr y Methodistiaid ni wrandawsant ond ychydig ar neb arall oddieithr yn mlynyddau diweddaf eu hoes; ac wrth ystyned hyny digon hynod oedd traddodiad pregeth angladdol ar farwolaeth Griffith Ellis gan y Parchedig William Rees, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn y gymydogaeth. Buont ill dau yn Sassiwn y Bala rai troion; ac yr oedd eu hadgofion am yr hen bregethwyr yno y pethau melusaf y gallwn ni eu cofio yn ein dyddiau boreuaf. Y prif bregethwr yn marn y naill ar llall oedd Henry Rees. O dan ei weinidogaeth ef yn ddiau y teimlodd G. E. y pethau grymusaf yn ei oes. Un tro yr oedd yn myned o'r maes mewn Sassiwn yn Nolgellau, wedi bod yn gwrando arno yn pregethu, pan y cododd i fyny ei law yn nghanol y dyrfa, ac y gwaeddodd, Ddemir byth mono i. Nid oedd ei edmygedd o Mr. Bees yn llawer llai nag addoliad. Yr ydym yn cofio yn dda mai y peth mawr a addewid i ni yn wyth mlwydd oed, pan y cawsom y braint o fyned gydag ef i Sassiwn yn Nolgellau am y tro cyntaf erioed, oedd gweled a chlywed Henry Rees ; ac y mae yr olwg gyntaf a gawsom arno yn dyfod i mewn i gapel Salem mor fyw yn ein meddwl y foment hon a dim a welsom y flwyddyn ddiweddaf. Safai eraill yn uchel iawn yn meddwl G. E.; ond y tywysog yn ddiau oedd "Henry Rees".
Yr oedd yn hynod hoff hefyd o emynau Williams, Pantycelyn, Anne Griffiths, ac Edward Jones, Maesyplwm. Credwn ei fod yn medru allan bob penill cyhoeddedig o waith y ddau ddiweddaf. Ar hirnos gauaf, ein difyrwch yn fynych fel teulu fyddai, "adrodd penillion". Byddai ein mam, ein chwaer, a ninau ar y naill ochr, ac yntau ei hun ar yr ochr arall; ac ni chaniateid iddo ef adrodd yr un penill y gallai ein chwaer a ninau ei adrodd; ond byddai ei ystorfa yn llawn ymhell ar ol dyhysbyddu y blaid arall.
Nid ydym yn gwybod i neb erioed amheu crefydd ein rhieni. Gwyddom nad oeddynt yn berffaith o gryn lawer; ond gadawsant dystiolaeth yn nghydwybod y rhai a'u hadwaenent eu bod yn meddu gwir dduwioldeb. Mae ein dyled ni yn fawr iddynt, an serch yn ddwfn at eu coffadwriaeth. Anwyl yn ein golwg yw y llanerch lle y gorweddant yn mynwent Rehoboth