Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Llinellau Coffadwriaeth Am Hen Dadau Crefyddol Corris Ac Aberllefenni

Oddi ar Wicidestun
Galargan ar ôl Mr Humphrey Davies, Abercorris Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Anfonwyd y llinellau canlynol i ni i'w dodi yn ein llyfryn gan ein hen gyfaill Mr. Evan Morris (Ieuan Meurig), Abergynolwyn, yr hwn sydd yntau erbyn hyn wedi myned drosodd at y mwyafrif:—

LLINELLAU COFFADWRIAETH

AM HEN DADAU CREFYDDOL CORRIS AC ABERLLEFENNI

O na buasai ban fynyddoedd Cymru,
A'u heirdd lanerchau, heddyw yn llefaru
Eu dwfn gyfrinion am fywydau'r saint
A dreuliwyd ar eu minion! O'r fath fraint
A fuasai ini gael yr hen amodau
Yn ngwres gweddiau taerion fyrdd y tadau
Mae holl lanerchau Cymru'n meddu'r fraint
O fod yn ddirgel—fanau llefau'r saint?
Ond dilyn llwybrau cewri'r llyfr hwn
Yw'n hamcan ni; a gormod gwaith mi wn
Fydd dodi bys ar ddau eu holl rinweddau,
I wasgu allan beth o'u peraroglau

Mae enwau llu o gedyrn crefydd heddyw
Yn fflachio yn ein cof fel sêr tryloyw;
A'u pur gynghorion, fel rhyw aur afalau
Yn nysgl ein cof yn. Nwylaw'n cydwybodau,
Mor newydd, iraidd, heddyw yn eu blas :
A phan y cawsom hwy yn nheymas gras,

Ah! WILLIAM RICHARD a'i blaenusrwydd fyddai
Yn codi n gwrid wrth nodi ein haml feiau!
Ac OWEN JONES yn codi gyda brys,
A thywel cariad, fel i sychu'n chwys;
A WILLIAM JONES, Tanrallt, ar lwybr uniondeb,
Yn cario n gyson faner wen ffyddlondeb.


Cynghorion GRIFFITH ELLIS o Bensarn,
Belydrant yn fy nghof drwy wawl y Farn!
A HOWELL JONES, bu yntau'n seren Iachau
Yn pefrio drwy ei fywyd diymhongar;
Bu RICHARD JONES a ROBERT LUMLEY, hefyd,
Yn ffyddlon fel dysgawdwyr ein hieuenctyd;
Ond heirdd frenhinoedd ydynt heddyw gyda'r Tad,
A Iesu'n Brawd yn haul a thestyn eu mwynhad.

A HUMPHREY DAFYDD a ROWLAND EVANS, fu
Yn heirdd gadbeniaid ar y tadau cu
Brenin Corris! y gelwid Humphrey Dafydd,
Gyda hawliau y byd a hawliau crefydd
Gwnaeth ef y goreu'n gyson o'r ddangos fyd,
Cawr ar ei egni ydoedd ar bob pryd,
Yn sugno mêl o'r blodau heirdd amserol,
A thrwyddynt esgyn at y dillad dwyfol.

Mab ffawd fu Humphre Dafydd drwy ei oes,
Ond Rowland Evans yntau'n hollol groes;
Trwy ymdrech cadwai i ben uwchlaw y don,
Yn unig yn ei grefydd byddai'n llon;
Ei Dduw a'i deyrnas aeth a'i galon fawr,
Nes aeth yn ddiwerth bron at bethau'r llawr.
O! nefol wên a i hafaidd ymadroddion!
Am eu mwynhad. mae hiraeth ar fy nghalon
Cyfuniad o arafwch a doethineb;
Ireidd—dra ysbryd, drwy ei fawr dduwioldeb,
A fu ei fywyd, er pob croes a thrai,
Nes esgyn fry i wlad anfarwol Fai!

Tuedda'r hen i aros gyda'r hên, ar ol,
A chyfrif pob peth newydd braidd yn ffol;
Ond bu'r ddau dwysog yma'n hollol groes;
Cydweithient hwy â newydd ddull yr oes,
Credent fel eryrod yn eu blaen,
Gan gludo'u rhan, uchlaw pob tramgwydd—faen,
Ar eirch daionus Gymdeithasau'n gwlad;
Ar eu llwyfanau dawnsient mewn mwynhad.


Ac arnynt gwelsom un yn cael gwobrwyon
A'i ben yn wyn gan flodau y pren almon.
Roedd Humphrey Dafydd fel yr Aber loyw;
Ond Rowland Evans fel rhyw lyn y llynoedd,
Yn eang, dwfn, cyfoethog, o bur ddyfroedd;
Bu'r ddau'n cydfyw, fel law yn llaw, mewn hedd,
Cyd-farw bron, ac agos yw'r ddau fedd:
Teyrnasant eto oesoedd mewn adgofion,
A'u henwau hararoglant fel rhos Seion.
Heddwch i'w llwch! Odidog gewri'r ffydd,
Nos angau iddynt aeth yn heulog ddydd.




—————————————————————


ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN E. W. EVANS, DOLGELLAU


—————————————————————


Nodiadau[golygu]