Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Abergynolwyn

Oddi ar Wicidestun
Yr Erledigaeth yn y Flwyddyn 1795 Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Bwlch
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Abergynolwyn
ar Wicipedia

PENOD V
HANES YR EGLWYSI

CYNWYSIAD.—Abergynolwyn—Bwlch—Bryncrug—Llwyngwril—Llanegryn—Corris—Aberllyfeni—Ystradgwyn—Esgairgeiliog—Bethania—Towyn—Pennal—Maethlon—Abertrinant—Aberdyfi—Eglwys Saesneg Towyn—Eglwys Saesneg Aberdyfi.

  N y benod hon, rhoddir crynhodeb o hanes yr eglwysi —eu ffurfiad, eu cynydd, a'u sefyllfa bresenol. Bu raid ymfoddloni ar ychydig o hanes eu ffurfiad, am fod yn anmhosibl dyfod o hyd iddo. Pob peth pwysig mewn cysylltiad â'r achos, hen a diweddar, y llwyddwyd i'w gael, ceisiwyd ei gyfleu yn ei le priodol, gan amcanu i ochel byrdra ar y naill law, a meithder ar y llaw arall. Ynglŷn â phob eglwys, ceir byr-hanes am ei swyddogion, oddieithr nifer o'r blaenoriaid hynotaf, i'r rhai y neillduwyd penod arnynt eu hunain.

ABERGYNOLWYN.

Er mwyn y rhai sydd yn anghyfarwydd â daearyddiaeth yr ardaloedd hyn, mae yn briodol crybwyll fod Abergynolwyn yn sefyll yn union yn nghanol y wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon; o'r bron yr un pellder sydd o'r lle i Gorris ar y naill law, ac i Dowyn ar y llaw arall, i orsaf Glandovey Junction ar un ochr, ac i orsaf Barmouth Junction ar yr ochr arall; a'r bryniau o bob tu yn cau y lle yn unigol arno ei hun. Enw yr ardal hyd yn ddiweddar, o leiaf yn y cylch Methodistaidd, ydoedd y Cwrt. Safai y capel cyntaf yn ymyl ychydig o dai a elwid Cwrt, ar ochr Llanfihangel i'r afon sy'n rhedeg heibio o lyn Talyllyn, ac ar yr ochr arall i'r afon, yr oedd ychydig dai yn myned wrth yr enw Abergynolwyn, ac nid oedd ond ergyd careg da rhwng y ddau le. Tuag ugain mlynedd yn ol, symudwyd y capel, neu yn hytrach adeiladwyd capel newydd yr ochr arall i'r afon. Yn y cyfamser, hefyd, mae y pentref wedi cynyddu yn bentref mawr o'i gymharu â'r hyn ydoedd, ac yn awr mae yr enw cyntefig wedi ymgolli yn yr enw adnabyddus Abergynolwyn.

Yn y pentref hwn, fel y gwelwyd yn ol yr hanes yn Nrych yr Amseroedd, y pregethwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y wlad hon, a hyny yn y flwyddyn 1780. Yr oedd William Hugh, y Llechwedd, yn 31 oed y flwyddyn hono. Ymhen oddeutu dwy neu dair blynedd wedi hyn yr ymunodd ef a'i gyfaill, John Lewis, Llanfihangel, â chrefydd yn Nolgellau. Hwy eu dau yn ddiameu oedd y proffeswyr cyntaf yn yr ardal. Daeth pregethu yn fwy aml i'r fro wedi hyn. Y lle cyntaf y buwyd yn cynal moddion, ar ol bod yn pregethu ar y cychwyn yn yr awyr agored, oedd man a elwid Cerrig-y-felin, yr hwn le a gafwyd trwy gymwynasgarwch ewyllysiwr da i'r achos, yr hwn oedd yn byw yn Tynyfach. Ni cheir cofnodiad yn un man pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys; ond gellir casglu oddiwrth yr amser yr oedd y ddau wr da, William Hugh a John Lewis, yn myned i Maes-yr-afallen a Dolgellau i wrando pregethu, ac oddiwrth y ffaith hefyd eu bod yn dyfod â phregethwyr i'w hardal eu hunain i bregethu, na buont yn hir heb ffurfio eglwys. Oddeutu 1785, blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sul yn Nghymru, ydyw yr adeg fwyaf tebygol iddi gael ei ffurfio. Os felly, y hi a sefydlwyd gyntaf yn yr holl wlad, ryw ychydig o amser yn flaenorol i Lwyngwril a Chorris. "Ar ol marw y gŵr a ganiatasai le bychan i bregethu yn Cerig-y-felin," medd yr hanes, "anturiodd William Pugh dderbyn y pregethu i'w dŷ ei hun; a bu yr achos crefyddol (society) yn gartrefol yno dros liaws o flynyddoedd; ond byddai y pregethu yn cael ei gynal yn ei gylch, weithiau yn ei dŷ ef, ac weithiau mewn ystafell a gymerwyd i'r diben yn nghymydogaeth Abergynolwyn. Ymhen 25 mlynedd (neu feallai beth yn ychwaneg) o ddechreuad pregethu yno, adeiladwyd capel yn y Cwrt; ac ar ol hyn, o radd i radd, mudwyd eisteddfod y moddion yno oll yn gyffredinol." Y mae ardal Llanfihangel oddeutu dwy filldir o Abergynolwyn, yn nghyfeiriad Llanegryn. Yno yr oedd y crefyddwyr cyntaf yn byw; yn y Llechwedd, yn yr ardal hono, yr oedd cartref W. Hugh, y pregethwr, ac oblegid hyny yno y cynhelid y moddion am y 25 mlynedd cyntaf. Ond oherwydd fod y Cwrt yn fwy canolog i'r wlad oll, symudwyd yr achos yno yn 1805 neu 1806. Yr oedd y symudiad o Lanfihangel i'r Cwrt yn wrthwynebol i deimlad yr hen bregethwr, ac yn groes i'w foddlonrwydd y gwnaed y symudiad. Teimlai ymlyniad wrth ei ardal enedigol, a dywedai yn aml, "Byddaf foddlon i farw ond cael gweled capel wedi ei adeiladu yn ardal y Llan, a llwyddiant cyffelyb ar yr efengyl." Efe a fu y prif offeryn i gychwyn achos crefydd yn yr ardal, a chan hyny yr oedd yn naturiol i'w ymlyniad fod yn gryf wrthi. Dechreuodd bregethu ei hun oddeutu 1790, a chyn hyny yr oedd wedi llafurio llawer i gael eraill i'r ardal i efengylu.

Yn Tynyddol, yn ardal Llanfihangel, y ganwyd Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl, ac fe roddodd yr amgylchiad arbenigrwydd byth-gofiadwy ar yr ardal. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1784, oddeutu yr un adeg ag y ffurfiwyd yr eglwys Fethodistaidd yn y lle. Pwy all ddweyd nad oedd y cydgyfarfyddiad hwn yn fanteisiol yn nhrefn Rhagluniaeth i ddwyn y canlyniadau pwysig a welwyd oddiamgylch! Yr oedd gwir grefydd yn beth dieithr yn y wlad, a'r ychydig grefyddwyr oedd i'w cael yn meddu ar zel anghyffredin. Gwnaeth eu zel a'u ffyddlondeb, yr hyn oedd lawer uwchlaw zel crefyddwyr yn gyffredin, argraff ddofn ar feddwl yr eneth yn nyddiau ei mebyd. Yr oedd ei rhieni, Jacob a Mari Sion, yn grefyddol. Ni oddefid i blant fod yn y cyfarfod eglwysig y pryd hyny, nac am lawer o flynyddoedd wedi hyny. Ond arferai Mary fyned gyda'i mam i'r cyfarfodydd eglwysig ar nosweithiau tywyll, i gario y lantern iddi, er pan oedd yn 8 oed, ac yn rhinwedd y gwasanaeth hwnw y gadewid iddi hi fod yn y society fel eithriad. Tebygol iawn hefyd fod yr eithriad hwn yn foddion i fwyhau ei hargraffiadau crefyddol pan yn blentyn. Pan oedd Mary Jones tua 10 oed, yr oedd John Ellis, Abermaw, yn cadw ysgol ddyddiol yn Abergynolwyn o dan Mr Charles, o'r Bala. Yr oedd John Ellis yn ŵr da a chrefyddol, ac fe sefydlodd Ysgol Sabbothol yno mewn cysylltiad a'r un ddyddiol. Dywedir mai Mary Jones oedd un o'r rhai cyntaf, a ffyddlonaf, ddilyn yr ysgol ddyddiol a Sabbothol, er fod ganddi tua dwy filldir o ffordd o'i chartref i Abergynolwyn. Hynodai ei hun yn neillduol yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chôf ranau helaeth o'r Beibl. Yn y flwyddyn 1800, yr oedd Lewis William, Llanfachreth, yn cadw ysgol yn Abergynolwyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun wrth Mr. R. O. Rees, Dolgellau, a Mary Jones yn yr ysgol gydag ef; a'r flwyddyn hono, yn 16eg oed, cerddodd yr holl ffordd i'r Bala at Mr. Charles i ymofyn am Feibl. Mae ei hanes hi ynghyd â'r canlyniadau a ddaeth o'r amgylchiad hwn yn ddigon hysbys. Ar ol hyn bu un William Owen yn cadw ysgol ddyddiol yn y Cwrt, ac yn ffyddlon hefyd gyda'r Ysgol Sabbothol, ychydig cyn adeiladu y capel cyntaf yn y lle. Aeth oddiyma i Aberystwyth.

Yn Tynybryn, o fewn chwarter milldir i le genedigol Mary Jones, y ganwyd Dr. William Owen Pughe, y Geiriadurwr enwog, yn y flwyddyn 1759. Ond yr oedd ef a'i rieni wedi symud o'r ardal i fyw cyn dechreuad Methodistiaeth yn mhlwyf Llanfihangel.

Y to cyntaf o grefyddwyr a fu yn offerynau i gychwyn yr achos yma a'i gario ymlaen am 25 mlynedd oeddynt,—William Pugh, Llechwedd; John Lewis, Llanfihangel; John Howell, Nantcawbach; Howell Thomas, Pennant; John Jones, Bodilan-fach. A rhaid enwi teulu Tynddol, Jacob a Mari Siôn, tad a mam y Gymraes fechan heb yr un Beibl. Yr ydys wedi gweled yn y benod ar Erledigaeth 1795, fod achos crefydd wedi bod yn y ffwrnes yma y flwyddyn hono. Dioddefodd yr eglwys lawn cymaint oddiwrth yr erledigaeth â'r un eglwys yn y dosbarth. Daliwyd y penaf o'r crefyddwyr, W. Hugh, yn ei dŷ ei hun gan y milwyr, a dirwywyd ef i 20p. Parodd hyn ofn a dychryn i ganlynwyr yr Iesu, a buont am beth amser mewn digalondid mawr. Er i'r pregethwr, a'r tŷ y pregethid ynddo, gael eu rhoddi dan amddiffyniad y gyfraith, parhaodd y rhai gweiniaid i fod dan lywodraeth ofn dros amryw flynyddau. Ac eto gwnaeth yr erledigaeth y rhai zelog yn fwy zelog. Howell Thomas, Pennant, a John Howell, Nantcawbach, oeddynt flaenoriaid cyntaf yr eglwys. John Howell oedd y dyn cryf a barodd i'r erlidwyr ffoi pan yr oeddynt ar wneyd ymosodiad ar y pregethwr yn un o'r odfeuon cyntaf yn Abergynolwyn, trwy ddyfod ymlaen a dywedyd y geiriau canlynol,-"Dewiswch i chwi yr un a fynoch, ai bod yn llonydd a distaw, ynte troi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi." Ar ol y tro hwn daeth i broffesu crefydd. Gwelir ei enw ymhlith trustees amryw o gapeli yr ardaloedd, a adeiladwyd yn nechreu y ganrif hon. Yr oedd yn golofn gref o dan yr achos hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le tua'r flwyddyn 1820. Yr ail dô o ffyddloniaid gyda'r achos oeddynt,—Richard Jones, Llanfihangel; Richard Edwards, Nantcawbach; Richard Williams, Ceunantcoel; William Jones, Gelliddraenen; Owen Williams, Mriafal-fach; Lewis Pugh, Bryneglwys. Dyddiad y weithred, am y capel cyntaf, ydyw Rhagfyr 27ain, 1806, a'r flwyddyn hono neu y flwyddyn gynt yr adeiladwyd ef; John Thomas oedd perchen tai y Cwrt, a chanddo ef y cafwyd lle i adeiladu y capel. Prydles, 99 mlynedd; ardreth, swllt y flwyddyn. Yr oedd yn gapel hollol ddiaddurn; ei lawr yn bridd, ac heb ddim eisteddleoedd ynddo. Felly y parhaodd, mae'n debyg, am 25 mlynedd. Yn 1850, dywedir, mewn adroddiad o hanes y capelau, fod capel y Cwrt mewn cyflwr drwg iawn. Yn 1853 adgyweiriwyd ef. Mr. John Lloyd, Llanegryn, oedd yn arolygu yr adgyweiriad, trwy benodiad y Cyfarfod Misol. Yr oeddis yn Nghyfarfod Misol Pennal flwyddyn cyn hyny wedi penderfynu i eglwysi rhwng y Ddwy Afon gyfranu 30p. tuag at gapel y Cwrt, gan nodi swm penodol ar gyfer pob eglwys. Gwasanaethwyd ar ei agoriad y tro hwn gan y Parchn. Richard Humphreys, Dyffryn; David Davies, Penmachno, a Joseph Thomas, Carno. Yn amser y Diwygiad 1859 a 1860, ychwanegwyd llawer at yr eglwys, a thua yr un adeg cynyddodd y boblogaeth yn fawr iawn, mewn canlyniad i lwyddiant chwarel Bryneglwys, a bu raid adeiladu y capel drachefn. Yn 1866 adeiladwyd ef i'w faint presenol, fel y crybwyllwyd, mewn lle newydd, yr ochr arall i'r afon. Cafwyd y tir gan yr Aberdovey Slate Company, ar brydles o 999 o flynyddau, am ardreth o 10s. y flwyddyn. Y nifer all eistedd ynddo, yn ol Adroddiad o Feddianau y Cyfundeb, 1883, ydyw 358. Gwerth presenol y capel, 1000p. Yn 1845 adeiladwyd capel bychan Penmeini, yn ardal Llanfihangel, a thrwy hyny cyflawnwyd dymuniad yr hen efengylwr, W. Hugh, o'r Llechwedd, ymhen un mlynedd ar bymtheg ar ol ei farw. Yr amser hwn, a thros rai blynyddau wedi hyn, yr oedd yr ardal fechan hon yn fwy poblog, a'r gynulleidfa yn Penmeini yn fwy blodeuog na'r gynulleidfa yn Cwrt. Ond y mae Rhagluniaeth wedi rhoddi tro yn yr olwyn drachefn, ac erbyn hyn nid yw capel Penmeini ond llwydaidd yr olwg arno, a'r gynulleidfa yn fechan. Dylid crybwyll hefyd fod y capel ddechreu y flwyddyn hon (1887) wedi ei adnewyddu o'r tu mewn, a'i wneuthur yn dra chysurus. Buwyd lawer pryd yn son am symud y capel yn nes i'r Llan. Y mae Ysgol Sul hefyd yn cael ei chynal er's rhai blynyddoedd yn Bryneglwys, yn nghwr dwyreiniol yr ardal, a phregethir yno yn achlysurol.

Ar ol cychwyn yn dda bu llawer cyfnod o iselder ar yr achos yn Abergynolwyn, a hyny oherwydd tlodi a bychander rhif yr eglwys. Ar un adeg lled gynar yn ei hanes, bu agos i'r eglwys adael i'r Ysgol Sul fyned i lawr yn hollol. Yr oedd hyn yn amser William Hugh, ac efe fu yn foddion i'w gwaredu rhag ewbl ddiflanu. "Ar un achlysur, trwy bregethu yn y Cwrt, ar Zech. iv. 10., bu yn foddion i ail enyn awydd a zel yn ei frodyr o barth yr Ysgol Sabbothol, yr hon oedd bron a diflanu. Bendithiwyd y bregeth hon mewn modd neillduol, a diflanodd y caddug o ragfarn fel tarth boreuol o flaen pelydr gwresog yr haul." Cofia y Parch. Owen Evans, Bolton, ei fod yn nyddiau ei febyd yn myned gyda'i dad o Penmeini—pan oedd ei dad yn byw yno—i'r Cwrt, ir society, ar nosweithiau tywyll ganol yr wythnos, ac nid oedd dim ond dwy neu dair o hen wragedd heblaw hwy eu dau yn gwneyd i fyny y cyfarfodydd. Ceir fod y Cyfarfod Misol wedi cymeryd yr eglwys yn y Cwrt o dan ei ofal ar ol marw Richard Jones, Ceunant, tua 1848, a byddid yn penodi ar Lanegryn a Chorris, bob yn ail fis, i anfon brodyr yno i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi a chyfarfodydd eglwysig. Wrth weled hyn yn para i gael ei wneuthur, dywedai Mr. Humphreys mewn Cyfarfod Misol unwaith, "Beth ydyw'r mater arnoch chwi yn y Cwrt acw, aeth pawb i'r nefoedd oddiacw gyda Richard Jones?"

Ond os oedd yr eglwys yn fechan mewn rhif, a'i haelodau yn "dlodion y byd hwn," yr oeddynt yn "gyfoethogion mewn ffydd." Am ei duwioldeb, yn yr oes o'r blaen, rhagorai yr eglwys hon ar holl eglwysi y saint. "Yr oedd yn y Cwrt lot o hen bobl dda ragorol, pan oeddwn i yno dros ddeugain mlynedd yn ol," ebe un hen frawd crefyddol wrthyf unwaith. "Mewn beth yr oeddynt yn rhagori?" gofynwn inau. Ebe yntau, "Mewn zel gyda chrefydd; mewn ffyddlondeb i ddilyn moddion gras; mewn taerineb mewn gweddi." Sonir yn ddieithriad gan bawb a adwaenent y lle lawer o amser yn ol, am dduwioldeb, a phrofiad, a chanu hen wragedd y Cwrt. Yr oedd yr hen wragedd nid yn unig yn fwy lliosog, ond yn fwy patriarchaidd eu dull na'r hen wŷr oedd yno. Y gwragedd fyddai ar y blaen gyda'r canu, a Mari Siôn, mam y Gymraes fechan heb yr un Beibl, fyddai yn arwain y canu. Crybwyllir am dani yn dechreu canu mewn hwyl orfoleddus oddeutu 1820, ac yn dyblu a threblu drachefn a thrachefn yr hen benill hwnw,—

"Am hyny dechreuwn mae 'n ddigon o bryd
I ganu caniadau i Brynwr y byd."

"Haner can mlynedd yn ol," ebe un o'r hen frodorion, yr oedd llawer iawn o hen wragedd duwiol iawn yn y Cwrt. Byddent yn canu y penill drosodd a throsodd drachefn, yn ymsymud fel y goedwig o flaen y gwynt, yn myned yn ol a blaen gyda'u gilydd, yn hollol reolaidd o ran mosiwns, ond pawb a'i floedd a'i chwch oedd hi gyda'r canu." Felly y byddent, nid ar amser diwygiad, ond yn gyffredin a phob amser. Yr oeddynt yn engraifft deg o hen grefyddwyr cyntaf y Methodistiaid. Rhai o'r hen wragedd hyn oeddynt,—Margaret Roberts, gwraig John Thomas: Mari Shôn, Ty'nddol; Mari Pugh; Mari Humphreys, gwraig Richard Jones, a Margaret Pugh, gwraig W. Pugh, Llechwedd; Catherine Lewis, mam y Parch. Lewis Jones, y Bala; Catherine Evans, mam y Parch. Robert Roberts, Dolanog; Sarah Dafydd, ac Ann Dafydd, ei chwaer, o'r Nant, ac amryw eraill. Bu yma hefyd yn yr amseroedd cyntaf ofal mawr gyda lletya pregethwyr. Eu llety cyntaf oedd gyda John Thomas, y Cwrt, y gŵr a roddodd y tir i adeiladu y capel cyntaf arno. Gwnaeth ef yn ei ewyllys fod i'w wraig, Margaret Roberts, eu cadw ar ol ei ddydd ef. Wedi i Margaret Roberts fyned yn hen, ymgymerodd Mary Pugh â chadw y pregethwyr. Rhoddodd Mary Pugh yn ei hewyllys fod i'w nith, Margaret Humphreys, eu cadw ar ol ei dydd hithau. Yr oedd gofal hen bererinion y Cwrt yn dra nodedig am lety i weision yr Arglwydd. Bu Samuel Jones, yr hen flaenor nefolaidd ei ysbryd o'r Gwynfryn, yn aros am ychydig yn ardal Llanfihangel pan oedd capel Penmeini newydd gael ei adeiladu. Richard Jones, Ceunant, a John Williams, Living, oeddynt y ddau flaenor oedd ef yn gofio yno. Elai i'r seiat i'r Cwrt. "Ychydig iawn," meddai, "oedd yn y seiat, a'r rhai hyny yn bobl dlodion iawn, ac yn hen bobl, rai o honynt dros 80 oed. Richard Jones oedd yn gwneyd pob peth yn holi y plant, ac yn eu canmol wrth eu holi. 'Wel,' meddai ar ol darfod gyda'r plant, fe holwn ni dipyn 'rwan ar y plant mawr,' ac yr oedd yn hynod gartrefol gyda hwy. Efe oedd yn dechreu y seiat trwy weddi, a gweddi ryfedd ydoedd; dywedai yn debyg i hyn: 'Arglwydd mawr, dangos dy drugaredd i ni—tyr'd atom—cadw ni—dyro fywyd i ni—gwna i ni gyfodi ar ein traed. 'Dyda' ni ddim am ofyn i ti am bethau mawr—dyda' ni ddim yn gofyn am bethau mawr genyt ti 'dyda' ni ddim yn gofyn i ti ein gwneyd ni yn frenhinoedd ac yn freninesau——gwell genym ni fod yn ein cabanau ein hunain—gwell genym ni fod yn ein bratiau— 'dyda' ni ddim am ofyn am gael bod yn frenhinoedd ac yo freninesau; ond dyro dy hun i ni—gwna ni yn blant i ti— tyr'd dy hunan i'n plith ni——gwna dy drigfanau gyda ni, Arglwydd mawr!'" (Amen, amen, amen.) "Yr oeddynt," ebe S. Jones, "yn bobl mwyaf annhebyg i fod yn frenhinoedd ac yn freninesau a welais i erioed;" a dywedai ei fod ef yn chwerthin ac yn wylo bob yn ail wrth ei wrando. Fel engraifft, eto o'r hen chwiorydd oedd yn byw yn y lle, rhoddir yr hanes yn canlynol am Sarah Dafydd. Yr oedd yn byw mewn tŷ wrthi ei hunan, gryn bellder o ffordd oddiwrth y pentref, ac oddiwrth y capel. Yr oedd yn amser casglu at y Feibl Gymdeithas, a disgwyliai Sarah Dafydd bob dydd i'r casglyddion alw gyda hi. Modd bynag, ni theimlai y ddau gasglydd awydd i fyned i ofyn dim iddi hi, gan ei bod yn dlawd ac yn unig, ac yn bell oddiwrth foddion gras, ac yr oeddynt yn myned heibio ei thŷ heb alw. Hithau, wedi eu canfod, a waeddai ar eu hol "Wele hai, d'oes bosib' eich bod am basio heibio heb alw yma! Beth sydd gynoch chi'? Casglu yr ydych at rywbeth mi wranta." "Ie, felly yr ydym; ond yr oeddym yn meddwl myned heibio i chwi; yr oedd arnom ofn dyfod ar eich gofyn." "Ofn dyfod ar fy ngofyn i! Debyg gen i nad oeddych ddim am daflu sarhad arnaf. Mi rof inau ryw geiniog i chwi, ac mae hono gystal a cheiniog rhywun arall." Dywed- ai un o'r casglyddion wrthi drachefu, "A fyddai ddim yn well i chwi symud i fyw yn nes i'r capel, yn lle bod yn y fan yma yn unig?" "Yn y fan yma yn unig! Dydw' i ddim yn unig; mae gen i gwmpeini gwell na neb o honoch chwi. 'Rydw' i yn cael llawer iawn o gymdeithas yr Arglwydd yma yn fynych iawn."

Yr oedd yr hen bobl hyn wedi cyffwrdd â'r tân cyntaf oedd yn perthyn i grefyddwyr cyntaf yr ardal, a chadwasant y tân heb ei golli tra buont hwy byw. Ar eu hol hwy cyfododd tô arall, heb feddu crefydd mor danbaid, na chariad brawdol mor gryfed â'r hen bobl. Wedi i'r eglwys gynyddu, ac i ddieithriaid ddyfod i'r lle i fyw, tua phymtheng mlynedd yn ol, oherwydd rhyw achos neu gilydd cyfododd anghydfod yn yr eglwys, yr hyn a derfynodd mewn ymraniad. Dechreuodd mewn peth digon bychan, fel y mae cynen rhwng brodyr yn dechreu yn gyffredin. Dichon mai goreu po lleied a ddywedir am dano, a llawenydd ydyw coffhau fod y rhwyg, i bob ymddangosiad allanol, er's tro mawr wedi ei gyfanu. Bendith fawr arall a ddygwyd oddiamgylch er's llai na phymtheng mlynedd yn ol oedd i'r eglwys fyned yn daith ar ei phen ei hun. Cymerodd hyn le yn 1873. Cyn hyny yr oedd tri lle yn gwneyd i fyny y daith, Abergynolwyn, Penmeini, ac Ystradgwyn, a gwyr pawb oedd yn adnabyddus o'r lle y pryd hwnw mai llafur a lludded mawr i'r pregethwr oedd myned drwyddi ar y Sabbath.

Bu yn perthyn i'r eglwys rai blaenoriaid gwir ragorol, heblaw y rhai cyntaf oll y crybwyllwyd eisoes am danynt. Richard Jones, Ceunant, am yr hwn y ceir mwy o hanes mewn penod ddyfodol; John Williams, Living, sydd yn flaenor yn Abertrinant; Samuel Williams, Bryneglwys, yr oedd yma. yn amser y Diwygiad, a symudodd wedi hyny i fyw i Rugog, Corris. Robert Lumley, yr hwn a symudodd yma o Aberllefeni, oedd yn wr crefyddol, gonest, a chydwybodol iawn yn ei holl ymwneyd â'i gyd—ddynion. Byddai yn fynych o dan eneiniad yn ei gyflawniadau crefyddol. Daeth trwy oruchwyliaethau blinion heb golli ei grefydd. Bu farw yn orfoleddus, gan roddi cwbl sicrwydd ei fod yn meddu gwir dduwioldeb. Mr. Hugh Pugh, a ddechreuodd bregethu wedi hyny, ag sydd yn awr yn byw yn y Gwynfryn. Un arall a fu yn flaenor gweithgar yma yr adeg yr oedd yr eglwys yn dechreu lliosogi yn ei nifer oedd Mr. Evan Ellis, masnachydd. Symudodd oddiyma i Lanbrynmair, wedi hyny i Ffestiniog, ac oddiyno i'r America.

John Vaughan, Maesyllan.—Amaethwr cyfrifol oedd ef. Bu yn llenwi y swydd o flaenor am dymor lled faith; gwelodd amser gwan ac amser cefnog ar yr eglwys, ac yr oedd yn ddolen gydiol rhwng yr hen bobl â'r tô ieuanc presenol. Efe oedd y brif golofn o dan yr achos dros ysbaid o amser; gofalai am holl amgylchiadau yr achos, a chydweithiai yn esmwyth gyda'r brodyr, gan adnabod ei le priodol ei hun hyd y diwedd. Bu yn nodedig o ffyddlon, a dygodd ei deulu i fyny yn grefyddol, y rhai sydd a'u hysgwyddau eto yn dyn o dan yr achos. Yr adnod a adroddai yn brofiad yn y seiat yn fynych ydoedd, "Oblegid yr Aifftiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hyny."

Evan Evans, Bryneglwys.—Daeth yma o Ffestiniog, oddeutu y flwyddyn 1875, i fod yn oruchwyliwr chwarel Bryneglwys, ac yn fuan ar ol ei ddyfodiad dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys. Ymroddodd ar unwaith â'i holl egni i bob gwaith da yn yr ardal, ac enillodd barch a dylanwad mawr mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn ŵr o berchen ffydd gref, ac yn llawn o awyddfryd a zel gyda phob symudiad er llesoli ei gyd—ddynion, a meddai allu tu hwnt i'r cyffredin i gynyrchu yr un ysbryd ag oedd ynddo ef ei hun yn mhobl eraill. Tra yn byw yn Ffestiniog, llanwodd gylchoedd pwysig gyda chymeradwyaeth mawr yn y lle poblog hwnw. Ac wedi ei symudiad yma bu ei gynydd mewn crefydd a defnyddioldeb, am y tymor byr o hyny i ddiwedd ei oes, yn eglur i bawb. Bu farw yn lled sydyn, a theimlai yr eglwys a'r ardal fod gweithiwr difefl wedi myned i'w orphwysfa.

Y blaenoriai presenol ydynt, Mri. Hugh Vaughan, Morris Jones, David Humphreys, a Meyrick Roberts. Mae y Parch. John Owen wedi ymsefydlu yn weinidog yma er Mehefin 1885. O'r ardal hon y cyfododd y pregethwr cyntaf yn y Dosbarth, William Hugh, Llechwedd. Cychwynodd tri eraill wedi hyny o'r eglwys yma oddeutu yr un flwyddyn (1872), y Parchn. William Williams, Dinasmowddwy; David Jones, yn awr o Lanllyfni, ac R. W. Jones, yn awr o Towyn.

Y Parch Ebenezer Jones.—Yma y treuliodd yn agos i'r ugain mlynedd olaf ei oes. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi. Daeth i Gorris i gadw ysgol ddyddiol tua 1854. Ymhen ysbaid ar ol iddo briodi a myned i gadw teulu, rhoddodd yr ysgol i fyny, ac ymgymerodd â chadw shop yn yr ardal. Gwnaeth lawer o wasanaeth i grefydd yn Nghorris ac Aberllefeni a'r amgylchoedd yn ystod y 10 mlynedd y bu yn aros yno, gan fod gweinidogion a phregethwyr yn brinion y blynyddau hyn. Tra yn aros yn Nghorris yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Dolgellau yn y flwyddyn 1857. Y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, yr hwn oedd yn ei adnabod yn dda, a ddywed am dano: "Gorfuwyd ni lawer gwaith i deimlo gofid oherwydd rhyw bethau a wnai, ond ni chollasom i'r diwedd y gwir barch iddo, a'r serch calon tuag ato, â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei ddysgeidiaeth. Yr ydym yn teimlo parch calon i'w goffadwriaeth, a hyfryd ydyw genym ddwyn tystiolaeth i'w ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris a'r amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc, a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na fyddai ef yn gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr adnodau yn ol a blaen iddi, fel y rhoddai bawb mewn mantais i gael gafael ar ei hystyr. Wrth dderbyn rhai ieuainc at Fwrdd yr Arglwydd yr oedd yn rhagorol. A chyflawnodd lawer o wasanaeth am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Efe am flynyddoedd a wasanaethai ymhob claddedigaeth; ac nid anfynych y byddai y blynyddoedd hyny yn cael y fraint o 'roddi yn rhad'." Clywid, hefyd, ei weinidogaeth yn cael ei hadrodd yn y cyfarfodydd eglwysig, yn y teithiau yr elai iddynt, ar ol iddo fod yno y Sabbath, mor fynych, os nad yn fynychach, nag eiddo gweinidogion eraill. Digwyddodd rhai pethau anghysurus cyn iddo ymadael o Gorris, a bu yn helbulus ac ystormus iawn arno drachefn yn Abergynolwyn. Yn yr anghydfod a fu yno, ymadawodd oddiwrth y Methodistiaid, ac ymunodd â'r Annibynwyr, ac mewn cysylltiad â'u henwad hwy y dibenodd ei oes. Cafodd ef a'i briod gystudd trwm yn y diwedd. Ond er mor arw fu y treialon chwerw yr aethant trwyddynt, yr oeddynt ill dau yn debyg iawn i'r aur wedi ei buro trwy dân erbyn i'r diwedd ddyfod. Ni welsom neb yn fwy tebyg i Gristion nag oedd Mrs. Jones yn ei chystudd olaf. Un o'i ddywediadau yntau yn ei ddyddiau diweddaf ydoedd, "Yr wyf yn awr wedi cymodi yn hollol â'r bedd, oblegid yr wyf yn gweled mai y bedd ydyw yr unig oruchwyliaeth i gwbl sancteiddio y corff, a'i wneuthur yn gymwys i'r nefoedd." Y Parch. John Roberts.—Daeth ef yma yn nghanol y flwyddyn 1875, trwy alwad eglwysi Abergynolwyn ac Ystrad-gwyn i fod yn weinidog iddynt. Yr oedd y pryd hwnw newydd orphen ei efrydiaeth yn Athrofa'r Bala. Genedigol ydoedd o ardal y Glyn, ger y Bala; wedi ei fagu mewn teulu crefyddol o'i febyd, ac megis yn ngolwg athrofa y proffwydi. Trwy ymroddiad a dyfalbarhad yn yr Athrofa, enillodd barch ei athrawon a'i gyd—efrydwyr. Dywedai y Parch. Dr. Edwards yn y Rhagymadrodd i'w Gofiant, "Ei fod yn un o'r pregethwyr ieuainc mwyaf rhagorol a fu yn yr Athrofa." Yr oedd yn grefyddol a nefolaidd ei ysbryd, ac yn ymroddedig i waith y weinidogaeth. Yn y Goleuad, yr wythnos ar ol ei farw, ymddangosodd y nodiadau canlynol:—"Yr oedd y lle mawr oedd ef fel hyn wedi ei enill yn mynwes y ddwy eglwys oedd dan ei ofal, mewn ysbaid mor fyr a thair blynedd a haner, yn dangos fod ynddo ragoriaethau tuhwnt i'r cyffredin. Od oes ar neb eisiau doethineb, gofyned gan Dduw.' Mae yn bur debyg ei fod ef wedi gofyn am dani; sut bynag am hyny, amlwg ydyw ei fod wedi ei chael. Yr oedd ei dalentau a'i gymwysderau i'r weinidogaeth yn amlwg i bawb. Meddai allu rhwydd iawn i siarad, ac yr oedd y gallu hwnw yn dyfod yn fwy effeithiol a dylanwadol. Hoff bwnc ei bregethau y misoedd diweddaf oedd Person Crist; ac am ei fod yn teimlo materion ei bregethau yn llosgi yn ei enaid ei hun, yr oedd ei bregethau yn cydio yn ei wrandawyr." Teg ydyw crybwyll, hefyd, fod yr amgylchiadau yr oedd eglwys Abergynolwyn ynddynt yr amser yr oedd ef yno yn ffafriol iawn i'w gynydd a'i lwyddiant; cafodd y gwynt a'r llanw o'i blaid. Ond er galar i'w gyfeillion, a cholled i'r eglwysi dan ei ofal, a siomedigaeth i'r wlad, hunodd yn yr Iesu, Tachwedd 27ain, 1878, yn 31 mlwydd oed.

Nodiadau[golygu]