Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Bwlch

Oddi ar Wicidestun
Abergynolwyn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Bryncrug

BWLCH.

Ardal wledig ydyw y Bwlch, yn agos i fin y môr, haner y ffordd rhwng Towyn a Llwyngwril. Yn yr ardal hon y mae Bronclydwr, o barchus goffadwriaeth. Yr oedd llawn bedwar ugain mlynedd wedi myned heibio er pan fu farw yr apostol hybarch, Hugh Owen, cyn y dechreuwyd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid yn ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, ac yr oedd ôl llafur y gŵr da hwn, cyn belled ag yr elai arwyddion allanol, wedi darfod yn hollol yn yr ardal. Ac nid oes ychwaith y dydd heddyw na siw na miw am neb o'i ganlynwyr yn yr un lle yn y cwmpasoedd. Ond yr oedd y Bwlch yn un o'r lleoedd cyntaf i dderbyn y "newyddion da" trwy y Methodistiaid; yr oedd yn un o'r manau cyntaf i gychwyn gyda'r Ysgol Sabbothol; ac yma hefyd yr oedd yr achos gryfaf oll yn y Dosbarth, oddi eithr Bryncrug, am ysbaid yr haner can' mlynedd cyntaf ar ol ffurfiad yr eglwysi yn y wlad. Fel hyn y dywedir am y lle pan oedd hanes Methodistiaeth y wlad yn cael ei ysgrifenu ddeugain mlynedd yn ol,—" Yr oedd yma nifer bychan o bobl dlodion yn y gymydogaeth hon yn cydgychwyn gyda chrefydd â'r rhai blaenaf yn Llwyngwril, a hyny cyn fod moddion cyson yn cael eu cynal yn yr un o'r ddau le. I'r Abermaw y byddai yr ychydig broffeswyr hyn yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig; ac yno hefyd, gan amlaf, yr oedd yn rhaid myned i wrando pregethu, ac i gymuno, pan ar ddamwain y rhoddid cyfleusdra i hyny, trwy ddyfodiad un o'r offeiriaid Methodistaidd heibio o'r Deheudir." Yr oedd agosrwydd yr ardal hon yn gystal a Llwyngwril i'r Abermaw, yn peri fod y gwreichion yn disgyn yma gymaint a hyny yn gynt. Yn fuan wedi 1785, yr oedd John Ellis, Abermaw, yn dechreu pregethu, a diau y deuai i'r Bwlch i bregethu yn un o'r lleoedd cyntaf. Ymhen pum' mlynedd drachefn, yr oedd Lewis Morris yn dechreu pregethu, ac y mae ef yn dweyd ei hunau "mai oddeutu y pryd hwn y daeth pregethu gyntaf yn y cysondeb o hono i'r parth hwn o'r wlad." Dywed yn mhellach, hefyd, ei fod ef ei hun wedi cymeryd tŷ yn y Bwlch i gynal pregethu ynddo. Dywedir mai y lle y cedwid moddion gyntaf yn yr ardal oedd Tŷ Cerrig, lle y preswyliai hen ŵr o'r enw Sion Lewis, a Betti Lewis, ei wraig. Wedi hyny, cymerwyd tŷ heb ei aneddu, yn ymyl y capel presenol, i'r diben yn unig o gynal cyfarfodydd crefyddol. Y tŷ hwn, mae'n debyg, oedd yr un y cyfeiriai Lewis Morris ato, ac ynddo y buwyd yn addoli hyd nes yr aethant i'r capel.

Oherwydd prinder pregethwyr, a phrinder dynion yn y fan a'r lle i gynal moddion cyhoeddus, byddai rhai yn cerdded holl ffordd o'r Abermaw a Dolgellau i'r Bwlch ar y Sabbothau, i helpu i gynal cyfarfodydd gweddïau. Y mae y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn dweyd ei fod yn myned yno gydag eraill, cyn iddo ddechreu pregethu yn 1792, neu 1793, a rhydd y disgrifiad canlynol o'r lle: "Yn y cyfryw gyfarfodydd, byddai pob un o honom yn gyffredin yn darllen rhan o'r Gair, ac yn ceisio esbonio a chynghori ychydig. Yr wyf yn cofio un tro yn y Bwlch, fod rhai yn dyfod i mewn ac yn myned allan ar hyd gydol y cyfarfod; deuent i'r golwg i weled pa beth yr oeddym yn ei wneuthur, ac wedi hyny, dychwelent ymaith. Yr oeddynt, debygid, mor anwybodus am gyfarfod gweddi, neu gyfarfod i addoli mewn tŷ annedd, a phe buasent byw yn Affrica."

Mewn adroddiad byr a ysgrifenwyd gan un o gyfeillion y Bwlch am ddechreuad yr Ysgol Sabbothol yn y lle, dywedir mai yn Tŷ Cerrig y dechreuwyd hi, ac mai Betti Lewis, gwraig y tŷ, oedd yn cario yr ysgol ymlaen; nid oedd neb ond y hi a fedrai ddarllen. Dywedir hefyd mai yn yr ysgol hon y bu Lewis Morris yn dysgu darllen ar ol ei dröedigaeth. A chaniatau fod hyn yn gywir, rhaid fod Ysgol Sul yn y Bwlch yn un o'r manau cyntaf yn y cylchoedd. Enwir y personau canlynol heblaw gwr a gwraig Tŷ Cerrig, fel y rhai fu a llaw gyntaf yn nechreuad yr Ysgol Sul:—John Vaughan, Tonfanau; William Dafydd, Llechlwyd; Edward Walis a Susan Walis, Bronclydwr; Sion Evan, Felinfraenen. Byddai y diweddaf yn myned o gwmpas y bryniau a'r caeau i gyrchu y plant i'r ysgol. Y mae coffa hefyd am Mr. Wallis hyd heddyw fel un a adawodd argraff dda ar ei gyd-oeswyr yn nechreuad crefydd yn y gymydogaeth. "Rhoddodd gyngor i mi a'm cyd-weision di-grefydd," ebai Owen Williams, Towyn, oedd ei hun yn llencyn o was gydag ef, "i beidio myned i Bryncrug nos Sabbath Gwylmabsant, Towyn; gwnaethom bob un o honom y cyngor, aethom i'n gwelyau, ac yr oedd ein cydwybod yn ddigon tawel pan ddeffroisom boreu dranoeth o ran halogi y nos Sabbath hono." Un o'r brodorion hynaf sy'n awr yn fyw a ddywed mai y tri cyntaf a ddechreuodd yr achos yn y Bwlch oeddynt, Dafydd Sion Jones, Sion Evan, Llechwedd Cefn, a William Dafydd, Llechlwyd. Ond yr oedd W. Dafydd yn rhy ieuanc i wneyd dim gyda'r achos pan ddechreuwyd pregethu yn yr ardal.

Ond rhaid rhoddi y lle blaenaf i John Vaughan, Tonfanau, a'i briod, fel y rhai a gododd achos crefydd i sylw gyntaf yn y rhan yma o'r wlad; hwy a fuont y colofnau cadarnaf i gynal yr achos. Mewn penod flaenorol rhoddwyd hanes am dröedigaeth hynod Mr. Vaughan, yn races ceffylau, ar Forfa Towyn. Yn union ar ol y tro hwn ymunodd ef a'i briod â chrefydd, a chysegrodd y ddau eu talentau a'u cyfoeth i wasanaeth crefydd. Gan fod Mr. Vaughan yn ŵr uwch ei sefyllfa na'r cyffredin, yn berchen ei dyddyn ei hun, a thiroedd o amgylch ei dyddyn, yr oedd ei ddylanwad yn cyraedd ymhell, ac yr oedd cysylltiad gŵr o'i fath ef âg achos yr Arglwydd Iesu y pryd hwnw yn foddion neillduol i enill y wlad o blaid crefydd. "Fe'i gwnaed ef yn ddisgybl gostyngedig yr addfwyn Iesu, a chyfrifwyd ef a'i wraig, a'u hunig fab, o hyny allan ymysg yr ychydig broffeswyr. Yr oedd dychweliad gwr mor gyfrifol a Mr. Vaughan at grefydd, yn foddion effeithiol i osod gradd o urddas a bri ar grefydd yn ngolwg y rhai a edrychent yn unig ar ymddangosiad pethau, ac a farnent yn ol y golwg. Nid bychan oedd y syndod ei weled ef, yn anad neb, yn troi yn Fethodist; eto felly y bu, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd ddiwedd ei oes. Byddai ef a'i deulu ymhob moddion yn gyson a phrydlon. At yr amser yn gymwys ceid ei weled ef, a Mrs. Vaughan, a'r mab, yn cychwyn oddiwrth y tŷ; ac yn fuan ar eu hol gwelid yr holl weinidogion yn fintai fawr gyda'u gilydd, a hyny ar unrhyw awr o'r dydd, neu unrhyw ddydd o'r wythnos, neu unrhyw wythnos o'r flwyddyn. Mae yn rhaid fod rhywbeth mewn crefydd,' meddai ei gymydogion, 'onide ni wnai gŵr mor gall a Mr. Vaughan mo hyn.' Yr oedd yn ŵr tirion a chymydogol, a phob amser yn barod i wneuthur cymwynas i'w gymydogion." Bwriadai Mr. Vaughan symud o Tonfanau i fyw, oherwydd fod y lle, yr hwn sydd ar lan y môr, yn niweidiol i iechyd ei fab, ac adeiladodd balasdy hardd Cefncamberth, sydd ar y llechwedd, y tu gogleddol i'r reilffordd, ac mewn pellder cymedrol oddiwrth y môr, i'r diben i fod yn breswylfod iddo ef a'i deulu. Ond troes Rhagluniaeth yn groes i'w fwriadau; cyn i'r tad orphen ei gynlluniau, bu farw ei fab, yn 22ain mlwydd oed, er dirfawr alar i'w rieni a phawb a'i hadwaenai. Yr ydoedd yn ŵr ieuanc gostyngedig a hynaws, a thra gobeithiol gydag achos yr Arglwydd Iesu. Daliwyd Mr. Vaughan ei hun hefyd gan afiechyd, yr hwn a'i caethiwodd yn gwbl i'w dŷ, ac ar ol nychdod maith bu yntau farw heb gael myned gymaint ag unwaith i'w dŷ newydd. Yn Methodistiaeth Cymru dywedir "Ni chafodd Mr. Vaughan ei hun fyned gymaint ag unwaith i'r capel newydd, yr hwn y bu mor bryderus yn ei godi." Camgymeriad yw hyn a lithrodd i mewn rywfodd. Yr hyn sydd gywir ydyw na chafodd fyned gymaint ag unwaith i'w balasdy newydd, sef Cefncamberth. Yn hen fynwent Celynin y mae yr hyn a ganlyn yn gerfedig ar gareg ei fedd—"Underneath lies, in hopes of a joyful Resurrection, the earthly remains of John Vaughan, Esq., late of Cefncumberth, who departed this life on the 14th day of February, 1816, aged 58 years." Wele yn canlyn ran o Alarnad a gyfansoddodd Dafydd Cadwaladr, o'r Bala, ar yr achlysur:—

GAIR O GYNGOR.

Er cysur i Mrs. Vaughan o'r Cefn-camberth, ar ol ei Gwr a'i Mab.

Mae gras y nef yn gweithio'n brysur,
I ddwyn pechadur tlawd i'r lan;
Fe gymer afael ar yr hên-wr,
A gafael ar y baban gwan;
A dyfod mae yn anwrth'nebol,
Yn llwybr glân yr arfaeth gref,
John Vaughan a'i wraig, a'i unig blentyn
A ddaliwyd yn ei afael ef.

Hwy fuont yma hir flynyddau,
'N ymborthi ar gibau gwael y moch;
Nes daeth t'ranau a mellt y gyfraith,
Ac udgorn Sina i waeddi'n groch;

Ac yna buont tan enogrwydd,
Heb gaffael cysur o un man,
Nes dod i brofi blas maddeuant,
Trwy 'nabod Iesu Grist yn rhan.

'Nol cael heddwch fel yr afon,
Fe ddaeth gelynion o bob gradd;
Fel awel gref o wynt tymhestlog,
Yn fwya' llidiog am eu lladd:
Hwy fuont lawer gwaith yn ofni,
Na chaent byth mo'u traed yn rhydd,
Ynghanol myrdd o gyfyngderau
Fe gadarnhaw'd eu hegwan ffydd.

'Nol rhoi'r mab mewn hardd sefyllfa,
Uwchlaw'r cyffredin fyd yn mhell;
Cyn gorphwys noswaith yn ei balas,
Fe'i galwyd i baradwys well;
Madawai'n rhwydd â phethau'r ddaear,
Yr Iesu hawddgar aeth a'i fryd ;
'Roedd ganddo olud mwy rhagorol,
Yn mhell uwch swn daearol fyd.

Ni chadd ei dad un dydd o iechyd,
Ar ol ei fyn'd i ben ei daith ;
Ca'dd deimlo angen hyd y diwedd,
I amynedd gael ei pherffaith waith;
Daeth rhyw ddiffrwythder i'w aelodau,
Ond cadwyd ei synwyrau'n glir;
Blynyddau maith bu mewn cystuddiau,
Yn cofio clwyfau ei Brynwr pur.

Chwech-ugain milldir a drafaeliai,
I 'mofyn meddyginiaeth ddrud ;
Ni chafodd awr o iechyd cyson,
Trwy unrhyw foddion yn y byd ;
Yr holl feddygon gyda'u twrw,
Nis gallent gadw'r bywyd bach;
Trwy air yr Arglwydd a phregethau,
Fe wnawd ei 'sbrydol glwyfau'n iach.

O'r diwedd darfu ei daith ofidus,
'Rwy'n credu ei fod yn hapus fry,

Gyd a'r seintiau mewn gorfoledd,
Yn gweled gwedd ei Brynwr cû;
Ei weddw unig sy' eto'n gweini,
O'r hyn sy' ganddi i deulu'r ffydd;
A rhwng ei cholled a'i chystuddiau
Mae'n rhaid i'w bronau fod yn brudd.

Fy anwyl chwaer, na ddi—galona,
Ond gorfoledda ddydd a nos;
Byw yw Crist, dŷ Briod pena',
Ymlawenycha yn ngwaed ei groes;
A gorphwys yn ei fynwes dawel,
Fe gerdd y rhyfel o dŷ blaid;
Os rhoi dŷ boll ymddiried ynddo,
Cei gymorth ganddo'n yn ol dŷ raid.

DAFYDD CADWALADR A'U CANT.

*****

Yn Cefncamberth y treuliodd Mrs. Vaughan weddill ei hoes, a bu hi byw hyd oddeutu y flwyddyn 1840. Bu yn famaeth dirion ac ymgeleddgar i achos yr Arglwydd hyd ddiwedd ei bywyd. Yr oedd yn wraig ddirodres a gostyngedig iawn. Ei hyfrydwch penaf oedd gwasanaethu i'r saint a gweision yr Arglwydd, ac yr oedd ei chlod yn y pethau hyn yn cyrhaeddyd ar led trwy Gymru oll. Cefncamberth oedd llety yr holl bregethwyr, ac nid ychydig oedd nifer y rhai a alwent yno yr oes hono, pan yr oedd cymaint o deithio rhwng De a Gogledd. Byddai yno rai pregethwyr yn aros beunydd, a bu hi yn dda iawn wrth y rhai tlotaf o honynt. Cadwai rai o'r cymydogion ar waith yn wastadol yn gwau hosanau, ac yn parotoi rhyw ddilledyn neu gilydd, er mwyn eu rhoddi yn rhoddion i'r pregethwyr y gwelai hi arwyddion o dlodi ar eu gwisg. "Yr oedd Mrs. Vaughan yn un o'r gwragedd hynod hyny na cheir hwynt ond anfynych mewn gwlad—un na chafodd Solomon ei chyffelyb ymysg mil." Bu yn dra haelionus i'r achos yn y Bwlch. Yn 1839, yr oedd ymdrech neillduol yn cael ei wneuthur i dalu dyled y capelau rhwng y Ddwy Afon, ac ymgymerodd y Parch. Richard Humphreys, a Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, i fyned o gwmpas i gasglu at hyn. Tra yr oeddynt yn hel addewidion yn gyhoeddus yn y Bwlch, rhoddodd Mrs. Vaughan ei phwrs i'r casglyddion, ac erbyn tywallt yr hyn oedd ynddo ar y bwrdd, daeth allan o hono haner cant o bunau. "Faint sydd arnoch eisiau yn ol? gofynai Mr. Humphreys iddi. "Nid oes arnaf fi eisiau dim yn ol ond y pwrs," ebe hithau. Edrychid ar y swm mawr hwn yn beth tra anghyffredin yr adeg hono, ac aeth son am y rhodd haelionus ymhell ac yn agos. Effeithiodd hyn hefyd i beri i eraill weled prydferthwch mewn haelioni. Adroddai y foneddiges haelionus, Mrs. Griffith Thomas, Aberystwyth, unwaith wrth y Parch. W. Davies, Llanegryn, mai wn oedd yr amgylchiad a droes ei meddwl hithau gyntaf at y gras o haelioni. Pregethai gwr o Sir Feirionydd ryw dro yn ei chlywedigaeth, ac adroddai am y weithred haelionus o eiddo Mrs. Vaughan. Anghofiodd Mrs. Thomas enw y pregethwr a adroddai yr hanes; ond nid anghofiodd byth yr hanes ei hun. "Mi welais," ebai, "y pryd hwnw y fath brydferthwch mewn haelioni crefyddol, fel y penderfynais ddilyn y cyngor a saethodd i'm meddwl ar y pryd, 'Dos a gwna dithau yr un modd.'" Gwnaeth Eglwys y Bwlch £39 15s. o gasgliad y tro hwn ar wahan i £50 Mrs. Vaughan. Felly, bu haelioni y wraig rinweddol hon yn foddion i gynyrchu haelioni yn ei hardal ei hun, yn gystal ag mewn ardaloedd pell oddiwrth ei chartref. Yr oedd rhinweddau Mrs. Vaughan, o Cefncamberth, yn ei dydd yn hysbys ymhlith miloedd Methodistiaid Cymru, ac y mae ei henw yn berarogl yn ei hardal enedigol hyd heddyw, yn agos i haner can' mlynedd wedi iddi hi huno yn yr Iesu.

Capel y Bwlch, fel yr ymddengys, oedd y cyntaf a adeiladwyd yn yr holl wlad hon. Yn ol y tystiolaethau a gafwyd gan y cymydogion, a'r tystiolaethau hyny wedi eu seilio ar eiriau un o'r rhai oedd a'r llaw benaf gyda'r achos o'r cychwyn cyntaf, adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1795. Aeth tri brawd crefyddol i siarad â'u gilydd ynghylch adeiladu capel, sef Mr. Vaughan, Dafydd Sion Jones, a William Dafydd, Llechlwyd. Cynygiodd Mr. Vaughan iddynt ei wneyd ar ei dir ef ei hun. "Mi gwnawn i o yn nghongl y cae, yn ymyl Cefncamberth," ebe Dafydd Sion Jones. "Thâl hyny ddim byd," meddai W. Dafydd, "dydyw y fan hono ddim yn nghanol yr ardal." "P'le mae canol yr ardal?" gofynai yntau, "Wel, yn y Bwlch," ebe W. D. "Wel, mi awn ni at Owen Evan, Tyddynmeurig, i ofyn am le," ebe Mr. Vaughan. "Cewch yn union," atebai Owen Evan, "ond 'does gen i ddim ond fy oes i'w roi ar y tir." Mentro i gymeryd y tir a wnaethant ar air O. E. yn unig. Pan y cytunwyd i adeiladu capel mewn cynulliad o'r brodyr, "cododd Mr. Vaughan i fyny yn y cyfarfod, gan ddweyd fod caniatad i bawb roddi hyny a fynent, neu a allent, at adeiladu y capel, ac y talai yntau y gweddill. Felly hefyd y bu. Talwyd am bob peth wrth ei adeiladu." Ar ol hyn gwnaed gweithred am y tir, yr hon sydd wedi ei dyddio Ebrill 12fed, 1811. Ardreth flynyddol 1s. Yr oedd Mr. Charles, o'r Bala, yn un o'r ymddiriedolwyr. Modd bynag, ar ol marw Owen Evans, yr hyn a gymerodd le yn rhywle oddeutu 1850, daethpwyd i benbleth gyda'r capel. Haerai ei fab Morris Evans, mai ei eiddo ef oedd y capel, a gorfu i'r eglwys dalu 6p. o ardreth flynyddol am dano am gryn amser. Mewn adroddiad o ymweliad a wnaed â'r eglwys yn nechreu 1852, neu ddiwedd y flwyddyn flaenorol, dywedir eu bod "mewn trafferth efo eu capel yn gorfod talu mawr rent am dano." Wedi bod yn talu fel hyn 6p. o ardreth dros amryw flynyddoedd, prynwyd ef am 60p. Dyddiad y pryniad ydyw 1861. Adeiladwyd y capel i'r maint y mae yn bresenol yn 1865. Y nifer a all eistedd yn y capel yw 146. Gwerth presenol yr eiddo 350p.

Bu Lewis William yn cadw ysgol ddyddiol yn y Bwlch amryw weithiau o bryd i bryd. Yr oedd yma yn 1812, a chanddo fwy na 50 o blant yn yr ysgol. Mae y llythyr canlynol wedi ei ddyddio o'r Bwlch, pan yr oedd L. W. yno yn cadw ysgol:—

Tyddynmeurig,
Chwefror 24ain, 1821.

At Gymedrolwr Cymdeithasfa Fisol Sir Feirionydd yn Cynwyd—

Mae hyn yn ol eich deisyfiad yn ddangosiad o foddion y Sabbothau y mis hwn yn Aberdyfi, Tŷ'nypwll, a Phennal. Mae y ddau Sabbath nesaf yn llawn, sef y 4ydd a'r lleg o Fawrth. Mae y lleill yn wag, sef 18fed a'r 25ain o Fawrth, a'r 10fed o Ebrill.

Hyn sydd oddiwrth Lewis Williams, dros y daith Sabbath. D.S.—Yr wyf wedi rhoddi y ddau Sabbath nesaf, un yn nhaith Sabbath y Bwlch, a'r llall yn Dyfi. Ond am y Sabbothau eraill, yr wyf yn bwriadu eu rhoddi yn y lleoedd y bydd eisiau yn Nghyfarfod Dau Fisol Sion, y Sabbath nesaf.—L. W."

Y mae ymysg papyrau L. W. amryw lythyrau tebyg i'r uchod. Dengys y rhai hyn, ynghyd â'r llythyr canlynol oddi— wrth John Jones, Penypare, at Lewis Williams i Dyddynmeurig, y dull yr oedd y brodyr yn cario yr achos ymlaen y pryd hwn:—

Penyparc,
Ebrill 3ydd, 1821.

Brawd L. Williams,

Yr ydym yn amddifad iawn o gyhoeddiadau. Gwnewch ar a alloch i gyflawni ein diffyg eich hunan, a bod o bob cynorthwy i anog eraill. Nid oes genym yr un cyhoeddiad y Sul. Dymunwch ar Owen Evans i hysbysu y Cyfarfod Misol fod arnaf angen am arian capel Llanegryn i gyd cyn Calanguaf nesaf yn ddiffael. Mae 3p. 12. 6c. o lôg yn ddyledus i mi yn bresenol, a 15s. o ground rent, yr hyn sydd ynghyd yn 4p. 7s. 6c. Dymunaf gael y swm uchod, a'r hyn a allant o gorff yr hawl o'r society fisol bresenol.

Ydwyf, yr eiddoch &c.,
JOHN JONES.

"D.S.—Yr ydwyf yn dymuno arnoch stepio i fyny at John Lloyd, i edrych a ydyw ef wedi ail ysgrifenu'r "Sillydd," a'i orphen yn barod i'r wasg, os ydych yn meddwl fel cylch y bydd iddo fod o ryw fuddioldeb i'r cyffredin ac onide yr wyf yn dymuno cael y copi adref. Yr wyf yn disgwyl y bydd i chwi sefyll at yr amodau a wnaethoch à mi mewn perthynas i'r Llyfr Hymnau. Mae'n gofyn iddo gael ei argraffu cyn association y Bala. Dymunaf arnoch ddyfod yma ddau o'r gloch y Sabbath nesaf, os na fydd i Hugh Jones gael rhywun arall.—J. JONES."

Yn Nghyfarfod Misol Towyn, Hydref 1854, y penderfynwyd i'r Bwlch a Llanegryn fod yn Daith Sabboth. Cyn hyny, y daith oedd, Sion, Llwyngwril, a'r Bwlch; a Llanegryn ac Abertrinant gyda'u gilydd dros ryw dymor.

Ar ol marw Mrs. Vaughan, bu yr achos yn lled isel yn y Bwlch, ac aeth y cyfeillion yn ddigalon. Ystyrid ef yn lle bod fel cynt yn lle cryf, yn un o'r lleoedd gwanaf. Collodd y pregethwyr eu cartref yn Cefncamberth, a buont yn cwydro o dŷ i dŷ, neu ynte yn myned yn eu cylch yn ol y drefn fisol, neu y" "system loerawl," fel y galwai y diweddar Barch, G. Williams, Talsarnau, hi. Modd bynag, mae yn yr ardal gyfeillion caredig iawn mewn lletya pregethwyr wedi bod ar ol dyddiau Mrs. Vaughan, ac yn bod eto. Er i'r achos weled cyfnodau o fyned i fyny ac i lawr yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, y mae gwedd weddol lewyrchus arno yn awr, gan fod nifer o ddynion ieuainc gweithgar yn cydio o ddifrif yn y gwaith. Bu yr eglwys o dan ofal bugeiliol y Parch. Owen Roberts am y tymor y bu ef yn gweinidogaethu yn Llwyngwril; ac y mae yn bresenol o tan ofal y Parch. Richard Rowlands, er yr adeg y mae yntau yn trigianu yn Llwyngwril.

Bu yn perthyn i'r eglwys hon amryw gymeriadau amlwg am eu crefydd a'u duwioldeb. Hynodwyd y lle yn y cyfnod boreuol gan nifer o wragedd duwiol iawn. Byddai presenoldeb y rhai hyn yn foddion i wasgaru annuwiolion oddiwrth eu gilydd, pan ymdyrent yn agos i'r capel i gellwair, neu yn y meusydd i chwareu. Yr oedd dull yr hen wragedd hyn yn nefolaidd wrth ganu yn yr addoliad cyhoeddus. Wedi cael gafael yn yr emyn, ymsymudent gyda'u gilydd yn ol ac ymlaen, fel y cae gwenith o flaen awel o wynt. Hen gristion pybur, a barhaodd yn zelog hyd nes yr oedd yn hen ŵr, oedd Dafydd Sion Jones, Castell Bach. Mynych yr adroddai am y pellder yr arferai fyned yn nechreu ei grefydd i wrando yr efengyl. Elai o'r Bwlch i'r Bontddu i wrando pregeth ar ddydd gwaith. Yr oedd un William Evans, a breswyliai yn un o'r tai yn ymyl y capel ymysg y crefyddwyr cyntaf. Symudodd oddiyno i fyw i Towyn. Gweithiai i Mr. Corbett, Ynysmaengwyn, o gwmpas y palas. Yr oedd odfa yn un o'r ardaloedd cylchynol gan weinidog Ymneillduol pur enwog ar noson waith. Ac yr oedd ef a chydweithiwr iddo yn teimlo yn awyddus i fyned i wrando y bregeth ar ol noswylio, ond ofnent eu meistr, gan y gwyddent fod myned i wrando pregeth gan bregethwr Ymneillduol yn drosedd anfaddeuol. Myned a wnaethant, modd bynag, a thranoeth daeth Mr. Corbett at William Evans, yr hwn oedd yn dilyn ei orchwyl wrtho ei hun, a dywedai, "Aethost ti i wrando ar y Penaugryniaid neithiwr, rhaid i ti ymadael, 'does yna ddim gwaith i ti mwy." "Wel," ebe yntau, "os felly y rhaid iddi fod, nid oes dim i'w wneyd ond ymadael. Diolch yn fawr i chwi, syr, am a gefais i; mi fentra i Ragluniaeth y Brenin Mawr; efe sy'n llywodraethu y byd." Aeth y boneddwr at y gweithiwr arall oedd yn euog o gyflawni yr un trosedd o fyned i wrando ar y Penaugryniaid y noswaith gynt. Hwn, pan wybu ddarfod troi i ffordd ei gydweithiwr, a ffromodd yn arw, ac a wadodd yn bendant na fu ef ddim yn gwrando y bregeth. "Cei di fyn'd i ffordd, beth bynag," ebe Mr. Corbett, "mi welaf y medri di ddweyd celwydd." Felly fu, gorfu iddo fyned i ffordd, a galwyd ar William Evans yn ol, a chafodd aros yn ei le fel cynt oherwydd ei onestrwydd a'i eirwiredd.

William Dafydd, Llechlwyd, ac Owen Evan, Tyddynmeurig, oeddynt y ddau flaenor cyntaf. Bu y personau canlynol hefyd yn gwasanaethu y swydd:—

Humphrey Pugh, Tonfanau. Gŵr deallus a gwybodus, yn eangach ei syniadau, ac yn fwy ei ddylanwad na'r cyffredin. Efe oedd arolygwr yr Ysgol Sul am flynyddau, a chyflawnodd y swydd yn dra deheuig; oherwydd ei sirioldeb a'i ddeheurwydd llwyddai i gael pawb yn yr ysgol yn ufudd i wneyd yr hyn a geisiai. Yr oedd yn aelod o gommittee y Cyfarfod Misol yn 1847.

Lewis Pugh, Bodgadfan. Un o ardal Aberllefeni oedd ef o'i ddechreuad, ac yr oedd wedi dod i gysylltiad â chrefydd er yn ieuanc. Gwnaeth amryw o symudiadau yn ei fywyd, o'r naill ardal i'r llall, a pha le bynag yı elai rhoddai ei ysgwydd yn dyn o dan achos y Gwaredwr, a llanwodd y swydd o flaenor ymhob lle y bu yn aros. Er ei fod yn ddyn blaenllaw gyda'r byd, ei hyfrydwch penaf fyddai siarad am bethau crefydd gyda'r teulu, gyda'r gwasanaethyddion, a chyda'i gymydogion. Siaradai lawer am bethau crefydd â'i briod, Mary Pugh, yr hon oedd yn wraig dra chrefyddol. Un oedd yn y teulu yn was a ddywed ei fod yn cofio L. Pugh yn gofyn i'w briod, "A oedd hi yn gweled rhyw werth yn Iesu Grist fel Proffwyd?" "O! ydwyf, Lewis bach," ebe hithau, "fuaswn i na chwithau yn gwybod dim am Dduw a'i ddeddf, a'i anfeidrol gariad a'i ras, nac am bechod a'i ganlyniadau, nac am y nefoedd ychwaith, oni bai fod y Proffwyd Mawr wedi mynegu y pethau hyn i ni." "A ydych yn gweled rhyw werth ynddo fel Offeiriad?" "O! ydwyf, fuasai genyf fi ddim gobaith am fywyd oni bai iddo ef fel offeiriad offrymu ei hun yn aberth difai i Dduw." "A ydych yn gweled rhyw werth ynddo fel Brenin?" "O! pwy wna ein harwain, a'n llywodraethu, a'n gwaredu ond efe fel Brenin." Deuai i'r tŷ i ymofyn bwyd un tro, a gofynai i lefnyn o fachgen oedd yno yn was, "A wyt ti, dywed, yn gweled rhyw werth yn Iesu Grist fel ffynon?" Ni wyddai y bachgen beth i'w ddweyd, yna gofynai i'w wraig, "A ydych chwi, Mary, yn gweled gwerth ynddo fel ffynon?" "Wel, beth a wnaem ni yn ngwyneb ein llygredd mawr oni bai am y ffynon?" ebe hithau. Yna adroddai L. P. y penill:—

"Mae'r ffynon yn agored,
Dewch, edifeiriol rai."

Yr oedd yr hen bererin yn byw yn wastadol,—Sul, gwyl, a gwaith, gyda phethau crefydd. Byddai yn tori allan i orfoleddu wrth wrando pregeth, neu mewn unrhyw foddion y ceid tipyn o hwyl, ond yn fynychaf wrth ganu. Clywid ef yn gwaeddi, gogoniant,' 'gogoniant,' pan fyddai y gynulleidfa wrthi yn canu. "Clywais ef yn gorfoleddu," ebe un oedd yn bresenol, ar ddiwedd odfa pan oedd Daniel Jones, Llan— degai, yn y Bwlch yn pregethu ar ganol dydd gwaith, wrth ganu y penill hwnw:—

"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo byth i'r lan."

Darfu i hen wraig arall ymuno âg ef, sef Margaret Jones, y Llabwst, a bu y ddau yn gorfoleddu, a'r gynulleidfa yn canu allan o bob hyd." Symudodd L. P. cyn diwedd ei oes i fyw i Dowyn, a dywed rhai o'r brodyr yno, na welsant neb erioed mwy duwiol nag ef. Mae ei deulu yn para ymysg y ffyddloniaid sydd eto yn aros yn y Bwlch.

Bu David Price, Bronyfoel, yn flaenor am lawer o flynydd— oedd; a Mr. Peter Price, Castell Fawr, cyn iddo symud i Aberdyfi.

Griffith Vaughan.—Mab ydoedd ef i Sion Fychan Fawr, Llwyngwril, a meddai ar zel a ffyddlondeb ei dad, Gwasanaethai fel husmon yn Cefncamberth yn amser Mrs. Vaughan, ac am flynyddau lawer ar ol ei dydd hi. Yr oedd ef yn ŵr hynod iawn ar ei liniau, yn enwedig pan y dechreuai sôn am drefn Duw i faddeu, ac y caffai afael yn yr adnod hono, "Pan ddarffo i'r Arglwydd olchi budreddi merched Sion, a charthu gwaed Jerusalem o'i chanol." Yr oedd un adeg wedi ei osod yn drysorydd yr eglwys, ac er mwyn cadw arian y weinidog— aeth yn ddiogel, ac ar wahan oddiwrth bob arian eraill, y lle y byddai yn eu rhoddi i gadw oedd yn y corn grut.

Samuel Evans.—Yr oedd yntau yn fab i hen flaenor enwog, Sion Evan, Tywyllnodwydd, Pennal, yr hwn y mae ei goffa— dwriaeth yn adnabyddus fel yr un a fu yn foddion i ddwyn achos y Methodistiaid gyntaf erioed i ardal Llanwrin, yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Dygwyd Samuel Evans i fyny ar aelwyd grefyddol, lle yr oedd ei rieni, a'i frodyr, yn gewri yn egwyddorion ac athrawiaethau crefydd. Hynodid ef yn ddi— weddar ar ei fywyd fel un fyddai yn mwynhau y weinidogaeth y tuhwnt i'r cyffredin, ac am ei gwestiynau aml a mynych i'r pregethwyr yn nhŷ y capel. Yn niwedd ei oes, gwrandawai ar risiau y pulpud, a'i olwg yn gyson ac astud ar y llefarwr, ac arwydd sicr o'i foddhad yn yr hyn a draddodid ydoedd y byddai yn estyn ei dafod allan, a chadwai hi allan yn ddidor tra parhai yr hwyl. O fewn blwyddyn nea ddwy i ddiwedd ei oes, yr oedd wedi myned yn angenrhaid arno i wynebu at y plwy' am help i fyw. Wynebai ef yno, modd bynag, am fod yn rhaid iddo wneyd, a chyda sicrwydd yn ei deimlad ei hun mai am ychydig amser yr oedd arno angen am gynorthwy. "Rhoddwch," meddai wrth y relieving officer, "rhoddwch help am dipyn bach; am dipyn bach y mae arnaf fi eisiau help; raid i chwi ddim rhoi yn hir, fe fydda i wedi myn'd i dderbyn teyrnas yn bur fuan." Mae Samuel Evans, er's deng mlynedd, bellach, wedi myned i dderbyn y deyrnas.

Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. James Thomas, a William Jones.

Nodiadau[golygu]