Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Carmel

Oddi ar Wicidestun
Hermon Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Silo (Rhydymain)
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Bontddu
ar Wicipedia

CARMEL.

Yn y flwyddyn 1834, adeiladwyd capel Carmel, ar dop uwchaf y llechwedd sydd uwchlaw gorsaf y Bont Newydd, ac yn gwynebu ar Gader Idris. Yn flaenorol i'r flwyddyn hon, perthynai mwyafrif trigolion yr ardal i'r Methodistiaid yn Llanfachreth, ac yno yr elent i gael moddion gras. Ond yr oedd Ysgol Sul yn cael ei chynal yn y gymydogaeth er yn bur foreu, mewn lle a elwid Ty Newydd Ystumgwadnau. Safai y tŷ hwn o'r tucefn i'r lle y saif y capel; ac yr oedd wedi cario yr enw newydd gyd ag ef o ryw amser pell yn ol, oblegid hen ydoedd yr amser y cynhelid yr ysgol ynddo. Y mae y capel lawer yn rhy agos i'r mynydd, ond yr oedd y tŷ hwn beth yn nes drachefn, yr hyn sydd yn brawf gweledig ac arhosol o'r anhawsder yr oedd yr hen bobl ynddo i gael lle i addoli. Yr oedd yn rhaid i'r ardalwyr ymwthio i'r lle pellaf i adeiladu eu capel, oherwydd yr anmhosibilrwydd y pryd hwn i gael lle mwy cyfleus, gan faint yr elyniaeth a ddangosid gan fawrion y wlad tuag at Ymneillduaeth. Yr oedd yr Ysgol Sul yn yr ardal hon o dan arolygiaeth ysgol flodeuog Llanfachreth, ac anfonid dynion oddiyno i helpu i'w chario ymlaen. Ac ar derfyn chwarter cyntaf y ganrif hon, yr oedd i ysgol y Ty Newydd le amlwg yn nghynadleddau, ac ar lyfrau y dosbarth. Yr oeddis, hefyd, rai blynyddau cyn adeiladu y capel, wedi dechreu cynal moddion heblaw ysgol yno. Mewn cyfarfod o swyddogion y dosbarth, yn niwedd 1831, "Sylwyd mewn perthynas i Lanfachreth a Ty Newydd. Anogwyd i un o flaenoriaid Llanfachreth feddwl am yr achos yn Ty Newydd, trwy fod yno ymhob cyfarfod, a chasglu i fod yn nghymdeithas neillduol Ty Newydd, &c. Fod i Edward Foulk, Hugh Vaughan, Ellis Williams, ac Evan Davies, i gyfarfod yno nos Sadwrn nesaf, gyda blaenoriaid Llanfachreth, i geisio cael pethau i derfyniad."

Yn Hanes Methodistiaeth Corris, ceir y paragraff canlynol: "Yn ardal Carmel, gerllaw Llanfachreth, yr oedd dymuniad am gapel; ond yr oedd y tir oll, oddieithr fferm Ystumgwadnau, yn eiddo i foneddwr a lywodraethid gan y teimladau mwyaf gelynol at Fethodistiaeth. Eiddo David Evans oedd y fferm uchod; ac er gwaethaf pob dylanwad i'r gwrthwyneb, rhoddodd dir i adeiladu capel arno; a'r capel hwnw yw Carmel. Capel Ystumgwadnau' y gelwid ef ar y cyntaf; ond un tro, pan oedd y diweddar Barchedig John Williams, Llecheiddior, yr hwn a breswyliai ar y pryd yn y gymydogaeth, yn pregethu ynddo, gyda grym neillduol, ar 'Elias ar ben Carmel, dywedodd, yn nghanol ei hwyl, yr wyf yn dymuno i'r lle gael ei alw yn 'Carmel' tra byddo yma gareg ar gareg o hono. A thra phriodol yw yr enw, ar gyfrif uchelder y lle y saif y capel arno.".

David Evans, y Ddolgoed, Aberllefeni, oedd y gŵr a wnaeth y gymwynas hon i achos crefydd, trwy roddi tir i adeiladu capel Carmel arno. Yr ardreth flynyddol oedd wyth swllt, ac oddeutu tair blynedd yn ol, cyflwynodd un o berthynasau y gwr da hwn y tir yn rhodd i fod yn feddiant i'r achos. Rhwng y capel â'r tŷ aeth y drauli adeiladu i oddeutu 160p. Gan nad oedd y bobl ond tlodion buwyd yn hir cyn gorphen talu y ddyled, a dywedir fod agos gymaint o log wedi ei dalu a swm y draul o adeiladu. Ni wyddis yn iawn pa faint o gynorthwy a dderbyniasant o'r tu allan i'r ardal, ond sicr ydyw iddynt dderbyn rhai symiau. Yn Rhagfyr 1851, daeth cwyn o Carmel, trwy Mr. Griffith Roberts, i'r Cyfarfod Misol yn herwydd dyled y capel, a gofynent am gynorthwy, a'r hyn y penderfynwyd arno yn y Cyfarfod Misol hwnw oedd, fod i gyfeillion Dolgellau eu hanrhegu â 10p. a'r Dyffryn â 5p. Yr unig gyfnewidiad a wnaed ar y capel, yr ydym yn tybio, o'r dydd yr adeiladwyd ef hyd heddyw oedd rhoddi ceiling arno. Agorwyd y capel Mehefin 30, 1834, a phregethwyd ynddo gyntaf gan y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oddiar Matt. xi. 28, 29. Y mae enwau y pregethwyra fu yma yn pregethu, yn nghyda'u testynau wedi eu cadw yn ddifwlch gan Griffith Roberts, Tyntwll, o'r dechreu hyd 1874; a phan na fyddai testyn i'w gofnodi ar gyfer y Sabbath, yr hyn sydd wedi ei ysgrifenu yn y llyfr ydyw—tori cyhoeddiad.

Rhif yr aelodau eglwysig y flwyddyn yr agorwyd y capel oedd 35. Tachwedd 21, 1836, ffurfiwyd yma Gymdeithas Ddirwestol, a cheir fod 80 o enwau ar lyfr dirwest perthynol i'r capel y flwyddyn hon. Ar doriad allan yr achos Dirwestol gyntaf, ymddengys fod zel y bobl yn fawr o'i blaid yn yr ardaloedd hyn, ac fe wnaeth yr achos ddaioni dirfawr. Bu achos crefydd yn flodeuog yma dros rai blynyddau wedi adeiladu y capel, a dywedir y byddai y lle mor llawn ar odfeuon cyffredin y Sabbath, fel y byddai raid i rywrai sefyll ar eu traed yn wastad i wrando. Mor wahanol ydyw yn awr. Oherwydd mynych symudiadau a chyfnewidiadau y mae y gynulleidfa yn bresenol yn un o'r rhai lleiaf o fewn cylch y Cyfarfod Misol.

Ceir cipolwg ar eu dull o gario y gwaith ymlaen yr adeg yma mewn rhai penderfyniadau a welir yn llyfrau yr eglwys. Wele rai o honynt. "Cytunwyd i John Griffith gael myned i fyw i dŷ y capel, am y rhent o 8s. yn y flwyddyn a'r trethi. Ac ymrwyma John Griffith a'i wraig i roddi bwyd i'r pregethwyr am 6c. y pryd, a rhoddi pob ymgeledd iddynt hwy a'u ceffylau a fyddo yn addas; a phan ddelo pris y gwenith yn 8s. y peck neu bushel, y maent yn ymrwymo i roddi pob pryd ond cinio am 4c. y pryd, a phob cinio yn sefyll yr un modd ag o'r blaen, sef 6c. y pryd." Eto, cynhaliwyd cyfarfod brodyr Tachwedd 25, 1840, yn yr hwn y penderfynwyd—1. I John Griffith gael 8s. yn lle tobacco a chario mawn hyd heno. 2. I roi i John Griffith, at gario tanwydd, yn y flwyddyn, 15s., a hyny yn dechreu Mai, 1841, a'r rhent a'r trethi yr un modd. 3. Fod casgliad chwarterol i gael ei wneyd at fwyd y llefarwyr a'u ceffylau-y chwarter i ddechreu Galangauaf, ac i bob aelod roi ei addewid ar y llyfr. 4. Fod y casgliad at gynal y weinidogaeth yn fisol, sef bob 12 mis-hyn yn dechreu ddechreu y flwyddyn newydd. 5. Fod cyfarfod brodyr i'w gynal yma mor agos ag y gellir i unwaith bob chwech wythnos, neu amlach os bydd achos."

Bendithiwyd yr eglwys hon â rhai swyddogion rhagorol. Bu y Parch. John Williams, Llecheiddior, yn byw am dymor yn yr ardal. Daeth yma trwy briodi Miss Margaret Jones, yr hon oedd yn byw gyda'i modryb yn Bronlywarch. Yr oedd ei briodas wedi cymeryd lle ryw gymaint o amser cyn adeiladu y capel. Yn llyfr testynau y pregethau y mae cofnodiad am dano yn pregethu ynddo cyn diwedd blwyddyn ei agoriad, ac yn ei fedyddio yn Carmel. Bu ei arosiad yn yr ardal am oddeutu naw mlynedd, yna dychwelodd yn ol yn agos i'w hen gartref yn Sir Gaernarfon. William Evans, Maesneuadd, a fu yn flaenor yn yr eglwys hon. Symudodd oddiyma i Silo. William Griffith, Caecrwth, oedd un arall a fu yn flaenor yma am dymor. David Jones, o Ffestiniog, hefyd, a ddewiswyd yn swyddog pan y bu yn aros am ychydig yn yr ardal.

Robert Griffith, Caeglas, oedd un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, ac efe oedd ei thrysorydd am dymor maith yn y dechreu. Flynyddau cyn bod eglwys yma yr oedd yn byw mewn tyddyn o eiddo y boneddwr a wrthwynebodd gymaint ar y Methodistiaid. Ryw ddiwrnod daeth y boneddwr at Robert Griffith, ac a ofynodd iddo, "Pa un a wnai di, gadael y tyddyn ai y capel ?" "Nid af fi ddim i adael fy nghrefydd er mwyn y ffarm," atebai yntau. Ymadael a'r tyddyn a wnaeth, ac aeth i fyw i Llety Wyn, Rhydymain. Ei dystiolaeth ei hun oedd, ei fod wedi manteisio llawer yn ei amgylchiadau bydol trwy y symudiad hwn. Cerddai i Lanfachreth, i'r cyfarfod eglwysig oddiyno, gan nad oedd unlle yn nes gan y Methodistiaid y pryd hwnw. Un tro, meddir, collodd y ffordd, a bu raid iddo fod allan trwy y nos. Ymhen amser dychwelodd i fyw i ymyl Llanfachreth drachefn, ac erbyn hyn yr oedd wedi enill ffafr y boneddwr a'i troes ef o'i dyddyn, yr hwn a ddywedai am dano "Does genych chwi neb yn dduwiol yn nghapel y Llan ond Robert Griffith." Dyn crefyddol, a gweddïwr heb ei fath oedd y gwr hwn. Meredith Evans, Tycerig.—Yn fwy diweddar yr oedd ef yn y swydd. Bu farw Chwefror 15fed, 1868. Yr oedd yn ŵr hynaws a chymeradwy, yn un a gyfranodd lawer at yr achos, ac a letyodd lawer ar bregethwyr. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Griffith Jones, Ceimarch, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol yn Llanegryn yn 1855. Yn y Cyfarfod Misol hwnw yr oedd y Parch. Cadwaladr Owen, Dolyddelen, yn eu holi. Teimlai G. Jones yn ddigalon ar y ffordd yno, gan yr ofnai y caent eu holi yn galed. "Waeth i ni heb ddigaloni," ebe Meredith Evans, "dydw i yn hidio mohynt, fe gant fy ngwrthod i os dewisant." Gofynwyd iddo yn y Cyfarfod Misol, "Oes genych chwi Gyfes Ffydd?" "Nac oes," ebai yntau. "Welsoch chwi un?" gofynid iddo drachefn. "Na welais i, ond mi glywais son am dano." "Wel," gofynid iddo eto, "sut y buasech chwi yn disgyblu, os nad oes genych Gyffes Ffydd?" "Yn ol y Beibl y buaswn i yn disgyblu; ac os ydyw y Gyffes Ffydd yn iawn, mae yn rhaid ei fod yr un fath â'r Beibl,"

Griffith Roberts, Tyntwll.—Blaenor oedd ef o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'r cyffredin. Gŵr doeth, pwyllog, defosiynol, cydwybodol i grefydd. O ran ei ymddangosiad allanol, yr oedd mor debyg i Mr. Humphreys, Dyffryn, fel y daeth blaenor ato unwaith yn Sasiwn y Bala i ofyn cyhoeddiad iddo, gan ei gamgymeryd am Mr. Humphreys, ac ni chymerai y blaenor mo'i argyhoeddi ei fod wedi camgymeryd nes i'r gweinidog o'r Dyffryn wneyd ei ymddangosiad yn y fan a'r lle, i dori y ddadl. "Griffith," ebe Mr. Humphreys, "rhaid i ti beidio dyfod mor daclus i'r Sasiwn, onide ti äi a'r trâd oddiarnaf fi." Dyfod i'r ardal hon a wnaeth yn oruchwyliwr ar etifeddiaeth Syr Robert Vaughan. Yr oedd y boneddwr wedi dyfod i benbleth gyda'i oruchwyliwr blaenorol, a rhoes rhywun hanes G. R. iddo. "Wel," ebe y boneddwr, "ond ydi o yn perthyn i'r pethau yna." "Chewch chwi neb gonest," oedd yr ateb, "heb ei fod yn perthyn i ryw rai." Modd bynag, daeth y boneddwr a'i oruchwyliwr newydd yn fuan yn gyfeillion mawr. Ond ni pheidiodd Griffith Roberts a bod yn Fethodist trwyadl er ei ddyrchafu i'r swydd o oruchwyliwr ar etifeddiaeth boneddwr o fri. Yr oedd dealltwriaeth rhyngddo â'i feistr i gael myned i Ddolgellau neu i Ystumgwadnau i addoli. Byddai y ddau yn cyfarfod â'u gilydd yn fynych ac yn ymddiddan yn gyfeillgar. Yr oedd G. R. o duedd lwfr, ac un tro, wedi cael ei gythraddo gan ryw berson oedd wedi dangos casineb tuag ato, edrychai yn fwy prudd nag arfer; y boneddwr yn deall fod rhywbeth yn ei flino, wedi cael gwybod yr achos, a ddywedodd wrtho, "Wel, fedr neb dori dy garictor di os na wnai di dy hun." Ond daeth Griffith Roberts yn deilwng i fod yn oruchwyliwr, nid ar etifeddiaeth ddaiarol yn unig, ond ar eglwys Dduw. A goruchwyliwr gonest, gweithgar, ffyddlon ydoedd. Dyn nodedig o werthfawr ydoedd ymhob cylch, ac yn arbenig yn y cyfarfod eglwysig. Adroddai yr Hyfforddwr gyda'r fath briodoldeb ac eneiniad a barai i'r rhai a'i clywai feddwl yn uwch o'r llyfr hwnw nag erioed. Un o'i hynodion penaf oedd gonestrwydd gyda phethau bydol ac eglwysig. A chredir yn gyffredinol i'w onestrwydd trwyadl ymhob peth fod yn foddion i leddfu llawer ar elyniaeth y boneddwr, yr oedd yn oruchwyliwr dano, at Ymneillduaeth. Meddai ef y llaw benaf gydag adeiladu capel Carmel, a bu ef a'i briod yn golofnau cryfion o tan yr achos yma hyd ddiwedd eu hoes.

Llanwai le pwysig yn y dosbarth hefyd, ac fel aelod o'r Cyfarfod Misol. Penodid ef yn fynych gan ei frodyr crefyddol i swyddau o ymddiried. Fel engraifft o'i onestrwydd fel swyddog eglwysig, crybwyllir y pethau canlynol. Wrth un oedd wedi ei ddisgyblu yn yr eglwys, dywedai, "Ni allaf fi byth godi fy llaw i chwi gael eich lle yn ol oni ddeuwch yn ddirwestwr." Ymwelai pregethwr ieuanc â'r lle, yr hwn a dueddai i fod yn draethodol yn ei bregethau, ac ebe G. R. wrtho, Peidiwch a bod mor draethodol, a pheidiwch a'i gyru hi yn ei blaen yn rhy lyfn; do'wch yn nes at y bobol, a chymhwyswch fwy ar y gwirionedd at eu meddyliau." Bu G. Roberts farw Hydref 21ain, 1877, yn 86 oed.

Y mae Carmel gyda Llanfachreth fel "taith" er y flwyddyn 1870. Cyn hyny, arferai fod gyda Rhiwspardyn a Silo. Bu y gweinidogion canlynol yn gofalu am yr eglwys, am y tymor y buont mewn cysylltiad a Rhiwspardyn,—Parchn. Owen Roberts, Evan Roberts, a J. Eiddon Jones. Y mae yr eglwys yn awr o dan ofal y Parch. Hugh Roberts, Silo, er 1870. Y blaenoriaid ydynt Griffith Jones, Evan Owen, David Williams, William Jones.

Nodiadau[golygu]