Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Hermon
← Abergeirw | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I gan Robert Owen, Pennal |
Carmel → |
HERMON.
Enw diweddar ydyw hwn a gafodd yr ardal, pan yr adeiladwyd y capel ynddi, ychydig dros ugain mlynedd yn ol. Safle yr ardal ydyw oddeutu haner y ffordd rhwng Llanfachreth ac Abergeirw. Mae y tri lle hyn ar linell union, ac yr oedd y tri. er pan adeiladwyd Abergeirw yn un daith Sabbath, hyd 1870, pryd yr aeth Abergeirw a Hermon ar eu penau eu hunain, gan adael i Lanfachreth ymgysylltu yn daith gyda Carmel. Teneu a gwasgaredig yw y boblogaeth, a dyna yn ddiau yr achos y buwyd cyhyd heb adeiladu capel yn y lle.
Y moddion crefyddol cyntaf yn yr ardal oedd yr Ysgol Sul. Y lle y dechreuwyd ei chadw oedd, Tyddyndu Bach. Dechreuwyd hi yn fuan wedi dechreu y ganrif hon, ar ol i'r ysgol wreiddio yn Llanfachreth, a dygid hi ymlaen o dan aden ychydig gyfeillion yno. Elai un neu ddau o frodyr o Lanfachreth i Tyddyndu Bach bob Sabbath i helpu i gynal yr ysgol. Hugh Pugh, Tanyfoel, oedd un o'r ddau a fyddai yn myned yno fel hyn yn zelog a chyson. Ymhen amser, darfu yr ysgol yn y tŷ hwn, ac nid oedd yr un yn cael ei chynal am dymor yn nghwm Blaenglyn, ond byddai ambell un yn dyfod i lawr oddiyno i ysgol Llanfachreth.
Dau led cae uwchben capel Hermon, yn ngodre y bryn uchel sy'n ymgodi i fyny tua'r gogledd, y saif Buarthyrê, ffermdy tawel, clyd, hynafol yr olwg arno. Bu y lle yn enwog am ysbaid o amser mewn cysylltiad â chrefydd. "Bum am ychydig o amser," ebe Lewis William, " yn cadw ysgol ddyddiol, nosawl, a Sabbothol, mewn lle arall yn y plwyf, a elwir Buarthyrê, mewn ysgubor, ac yr oedd yno deulu caredig iawn yn byw. Yr oedd yr un arferion llygredig yn cael ymarfer â hwynt yn y gymydogaeth hon ag oedd yn y lle arall (Llanfachreth) yn y plwyf, ond yr oedd effaith yr ysgol oedd yn yr hen dŷ wrth y Llan wedi cyraedd yma i raddau mawr, i ddarostwng yr arferion annuwiol. Bu yma Ysgol Sabbothol a phregethu am lawer o flynyddoedd yn ganlynol i hyn, a llwyddiant mawr ar yr achos crefyddol, ac achubwyd llawer i fywyd tragwyddol yn y lle hwn, ac ychwanegwyd at yr eglwys yn Llanfachreth." Yr oedd L. W. yma yn cadw ysgol o Mai 21ain hyd Gorphenaf 15fed, 1816, sef am wyth wythnos. Yr oedd y nifer gydag ef yn yr ysgol yn 61, ac amrywient yn eu hoedran o 4 i 29. Bu Richard Roberts, Hafodyfedw, wedi hyny y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yn hynod o ffyddlon gyda'r Ysgol Sul yn y lle hwn pan yr oedd yn ddyn ieuanc.
Ymhen ysbaid dwy flynedd wedi i'r ysgol ddyddiol fod yn Buarthyrê, torodd allan yn ddiwygiad grymus gyda chrefydd yno. Gweinidogaeth y Parch. D. Rolant, y Bala, a fu yn anarferol o nerthol yn y cymoedd hyn yr adeg yma. Yr oedd ef newydd ddechreu pregethu, a Cwmtylo, ei gartref boreuol, yr ochr arall i'r mynydd, heb fod ymhell oddiyma. Adroddir yn ei gofiant, gan un oedd yn llygad-dyst o'r amgylchiadau a gymerasant le yn y flwyddyn 1818, yr hanes canlynol, "Yr ydwyf yn cofio am un Sabbath yn neillduol, er's pedair neu bum mlynedd a deugain yn ol. Yr oeddwn i a lliaws o rai eraill, yn myned gydag ef (D. Rolant) ar foreu y Sabbath crybwylledig o Frynygath i Canycefn, yn mhlwyf Traws- fynydd, i wrando arno yn pregethu. Yr oedd yn ddigon gostyngedig i gyd-gerdded â ni yn droed-noeth-goes-noeth. Yr oedd y cwmni oll o'r bron yn ddigrefydd; ond cawsom bregeth ddifrifol iawn yn Canyeefn, yr hon a'n gorfododd ninau i fod yn ddifrifol yn gwrando y boreu hwnw. Am ddau o'r gloch, cawsom bregeth ganddo yn ysgubor Buarthyrê ;- pregeth rymus ac argyhoeddiadol iawn oedd hon. Yr oedd yn effeithio felly i raddau pell ar y gynulleidfa; yr oedd y rhan fwyaf yn gwaeddi yn gyffrous. Dyma y tro cyntaf i lawer o honynt ddeall fod ganddynt eneidiau, fel y cyfaddefent ar ol hyny, ac yn eu plith yr oedd y Parch. Morris Roberts, gynt o Frynllin, ond yn awr o'r America; yr hwn a edrychai ar Dafydd Rolant fel ei dad, ac ar Dafydd Cadwaladr fel ei daid yn y ffydd, ac yr oeddynt yn hynod hoff o'u gilydd yn wastad; a degau eraill heblaw ef a argyhoeddwyd yn yr odfa hono, y rhai a fuont yn grefyddwyr da ar hyd eu hoes. Aethom i Lanfachreth at y nos, a chryfhau yr oedd y cynhyrfiadau yno. Dyna y Sabbath y dechreuodd y diwygiad mawr a fu yn Nhrawsfynydd a Llanfachreth, ac efe a gafodd y fraint i fod yn offeryn i'w gychwyn, yn y lleoedd uchod yn arbenig. A chan nad oedd gan y Methodistiaid y pryd hwnw un lle i gynal cyfarfodydd eglwysig yn yr ardaloedd hyn, ymunai y dychweledigion â'r eglwys gyda'r Annibynwyr; cwynai wrth hyn, a dywedai nad âi ef ddim i bysgota heb yr un cawell byth ond hyny." Yr oedd eglwys yn Brynygath y pryd hwn, ond nid oedd yr un capel yn yr holl gymoedd rhwng Llanfachreth a Thrawsfynydd, ond capel yr Annibynwyr yn Penstryd. At hyn y cyfeirir yn ddiau, oblegid hysbysir ddarfod i'r eglwys yn Mhenstryd gael llawer o ychwanegiad y flwyddyn hono. Llawer o bethau rhyfedd a ddigwyddasant yn y cymoedd gwledig hyn yn ystod y diwygiad grymus y blynyddoedd uchod, a hyny yn benaf trwy weinidogaeth danllyd y llanc o Gwmtylo, wedi hyny y patriarch o'r Llidiardau. Gwnaeth yr odfeuon nerthol y cyfeiriwyd atynt argraff ddofn ar feddwl D. Rolant ei hun hefyd. Aeth yn fuan i'r ysgol at y Parch. J. Hughes, Gwrecsam, a gwneir y crybwylliad canlynol am dano yno, "Pan yn Ngwrecsam, ei hoff bwnc oedd son am y pryd y dechreuodd bregethu, a'r manau yr âi iddynt. Soniai lawer am Cwmtylo, y Trawsgoed, a Buarthyrê, am yr odfaon llewyrchus, y gorfoleddu, a'r molianu oedd yn dilyn, &c.; a soniai gymaint am Buarthyrê, fel y gwnaeth un o honynt— clywsom mai yr athraw ei hun oedd-benillion ar yr achos, ar yr hyd Mentra Gwen,' yr hwn yr oedd yn hoff' o hono. Yn y penillion sonid am lawer o bethau, a'r byrdwn oedd— 'Buarthyrê, Buarthyrê'." A bu ymhen llawer o flynyddoedd, a Dafydd Rolant yn nhaith Llanfachreth ac Abergeirw, un o'r troion olaf yn ei oes, iddo ddywedyd wrth y llanc a'i harweiniai gyda'r ceffyl, pan y daeth i olwg Buarthyrë, "Mae y sgubor acw wedi ei chysegru os cysegrwyd un lle erioed. Yr wyf yn cofio Morris Roberts, Brynllin, acw yn gwrando pregeth. Yr oeddwn wedi sylwi arno, ei fod mewn cyfyngder; ei wyneb yn gwelwi gan ei ing a'i ofid, ac o'r diwedd, gwaeddai allan—Arglwydd mawr, gan fod genyt drefn i gadw, cadw finau.'" Ac i brofi eto yn mhellach y nerthoedd a fu gynt yn gweithio yn y lle hwn, dywed y diweddar Barch. Owen Roberts, Llanfachreth, mewn ychydig o ysgrifau a adawodd ar ei ol,—"Cefais hyfrydwch mawr yn nghwmni y Parch. M. Roberts, Remsen, pan ar ei ymweliad a'r cymydogaethau hyn, yn adgofio gweinidogaeth lwyddianus Dafydd Rolant. Yr oeddwn yn myned gydag ef o Lanfachreth i fyny i'r cymoedd—ei hen gartref gynt. Ac yr oedd ar hyd y ffordd, yn brysio at ddyfodiad yr hen leoedd neillduol ganddo ef, i'r golwg. O'r diwedd dyma'r cwm yn ymagor o'n blaen. Dychlamodd yn yr olwg arno, a syrthiodd ei lygaid ar hen Sgubor Buarthyrê. Yr oedd adgofion yr hen amseroedd gynt yn dylifo i'w fynwes gyda'r fath nerth, nes creu awydd ynddo i ddisgyn oddiar ei farch, a phenlinio ger bron Duw y foment hono. Dywedai, 'O! yr hen ysgubor anwyl, mi a welais dy lon'd o Dduw, lawer, lawer gwaith." Ond yr ydym yn tybio na bu eglwys yn cyfarfod o gwbl yn Buarthyrê, oddieithr ar dro, ac oherwydd i'r teulu symud, ni bu arhosiad yr ysgol yn hir yno ychwaith. Oddeutu 1823, daeth Sion Robert i fyw i'r Hendre, ac nid oedd y pryd hyn, ebe ei ferch, Jane Ellis, sydd yn fyw yn awr, yr un ysgol na moddion yn y byd rhwng Llanfachreth a Brynygath. Yr oedd poethder y diwygiad, bellach, wedi oeri, a phob tŷ yn y gymydogaeth wedi ei golli i gadw moddion ynddo. Yr oedd S. R. a'i wraig, ar ol eu dyfodiad i fyny o'r Llan, yn teimlo yn hiraethus am foddion gras, a dywedai ef un diwrnod wrth y goruchwyliwr a ofalai am ei dyddyn, "Y mae arnaf eisiau gofyn un ffafr genych, sef cael Ysgol Sul yn y cwm yma." "Wel, peth da iawn ydyw Ysgol Sul," atebai y goruchwyliwr. "Mi treiaf i hi," ebe S. R., "os rhoddwch chwi rybudd i mi cyn rhoi drwg i mi." "Gwnaf, gwnaf," oedd yr ateb. Felly fu, cafodd yr achos dderbyniad croesawgar i'w dŷ ef. Dros ryw dymor yn flaenorol, o dan y dderwen, wrth adwy y dŵr, ychydig islaw yr Hendre, yr arferid a phregethu, a byddai Sion Robert, yn ymorchestu tipyn weithiau ei fod ef wedi dwyn yr efengyl i dŷ. Yn yr Hendre y bu yr achos am 40 mlynedd llawn. Cynhelid y pregethu a moddion eraill yn y tŷ yn y gauaf, ac yn y beudy yn yr haf. Da y cofia y tô o bregethwyr oedd yn y sir amser yn ol, am y beudy wrth ochr y ffordd, ac am S. R. yn cario y Beibl a'r Llyfr Hymnau o tan ei gesail, ar hyd y cae i'r beudy at y bregeth ddau o'r gloch y Sabbath. Byddai yn yr Hendre groesaw calon i'r pregethwr, a chymerid yno ddyddordeb mawr yn achos crefydd yn y sir yn gyffredinol. Byddai y chwiorydd yn y lle hwn yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddio. Dechreuodd hyny trwy i Sion Robert, pan nad oedd yno ddigon o ddynion i gynal y cyfarfod gweddi, un nos Sul, ofyn yn gyhoeddus, "Oes yma neb o'r chwiorydd a wnaiff ledio penill?" Fe wnaeth un o honynt yn union ar hyn o gymhelliad, ac ar ol y tro hwn daeth yn arferiad yn y lle.
O'r diwedd, daeth yr amser i gael capel yn yr ardal. Adroddir am un peth lled ryfedd mewn cysylltiad â'r llanerch lle y cyfodwyd ef. Yn y diwygiad diweddaf, byddai pobl dau gwm, wrth ddychwelyd adref o'r moddion o Lanfachreth, cyn y llecyn lle saif y capel yn awr y gwneid hyn. Yn hanes Cyf- arfod Misol Medi, 1863, yr ydym yn cael yr hyn a ganlyn,- ymwahanu yn cynal cyfarfod gweddi yn yr awyr agored, ac ar "Penderfynwyd ein bod fel Cyfarfod Misol yn cyflwyno ein diolchgarwch i'r Anrhydeddus T. P. Lloyd, Pengwern, a John Vaughan, Ysw., Nannau, am eu caredigrwydd yn rhoddi am ddim ddarn o dir i adeiladu capel yn mhlwyf Llanfachreth. Penderfynwyd hefyd, yn mhellach, ein bod yn ymddiried i'r Parch. Owen Roberts, a Mr. G. Roberts, Tyn'twll, i ddwyn oddiamgylch yr hyn sydd angenrheidiol i gwblhau y capel uchod." Pregethwyd ar ei agoriad gan y Parchn. W. James, B.A., Aberdyfi; D. Davies, Abermaw, a D. Evans, M.A., Dolgellau. Aeth y draul i'w adeiladu, ynghyd â'r tŷ a'r adeiladau oddiallan, a chau o'i amgylch, dros 300p. Bu y Cyfarfod Misol yn helpu i dalu rhyw gymaint o'r ddyled flynyddau yn ol, ond y mae yn aros o ddyled eto, 145p. Y flwyddyn y sefydlwyd yr eglwys gyntaf, yr oedd ei rhif yn 22, mwy o bedwar nag Abergeirw, y fam eglwys. Nid oes yma, er's amser bellach, ond un blaenor rheolaidd, sef William Jones, Bwlchrhoswen. Dewisodd yr eglwys bedwar o frodyr eraill flynyddau yn ol, ond oherwydd rhyw amgylchiadau, ni ddaeth y brodyr hyn ymlaen i gael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, yr hyn yn ddiau sydd wedi bod yn dipyn o atalfa ar lwyddiant yr eglwys. Ond teg yw hysbysu, er hyny, i rai o'r brodyr a etholwyd fod yn weithgar gyda'r achos trwy lawer o anfanteision. Un bregeth y Sabbath a fyddai yn arfer a bod yma, ond er y flwyddyn 1870, maent yn cael dwy bregeth bob yn ail ag Abergeirw. Bu yr un gweinidogion mewn cysylltiad gweinidogaethol yma ag a fu mewn cysylltiad â Llanfachreth ac Abergeirw, ac am yr un tymor. Y mae coffadwriaeth y diweddar Barch. O. Roberts yn barchus iawn yn yr ardal. Bu ef ar hyd ei oes yn dra ffyddlon i'r achos, ac efe oedd a'r llaw benaf mewn adeiladu y capel.
Evan Ellis. Ymunodd ef â chrefydd yn ieuanc, a gwasanaethodd y swydd o flaenor am 29 mlynedd, y rhan gyntaf a hwyaf yn Abergeirw, ac wedi hyny yn Hermon. Yr oedd llawer o hynodrwydd a rhagoriaethau ynddo. Yr oedd yn brydlon i ddyfod i foddion gras, a byddai ynddynt yn gyson; pwy bynag fyddai yn absenol, byddai ef yn bresenol trwy bob. rhwystrau. Ei garedigrwydd, ei zel, a'i wresowgrwydd gyda chrefydd oeddynt yn amlwg iawn. Gweithiodd ei ddiwrnod fel gwas ffyddlon i Grist, a swyddog gwerthfawr yn ei eglwys; yr oedd galar mawr yn yr ardal ar ei ol, a phawb yn dwyn tystiolaeth i wirionedd ei grefydd. Bu farw Ebrill 20, 1875, yn 67 mlwydd oed.
Nodiadau
[golygu]