Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Abergeirw

Oddi ar Wicidestun
Rehoboth Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Hermon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Abergeirw
ar Wicipedia

ABERGEIRW.

Lle neillduedig ac anghysbell ydyw Abergeirw. Saif rhwng y bryniau moelion, oddeutu 10 milldir o Ddolgellau, a 7 o Drawsfynydd. Oherwydd fod yr ardal, a'r cymoedd cylchynol, hyd yn nod yn yr hen amser, allan, fel y dywedir, o'r byd, yr oedd y trigolion o dan anfantais fawr i gael na diwylliant, na dysg, nac efengyl. Er hyny eyrhaeddodd swn yr efengyl yma yn lled foreu, o leiaf yn nyddiau Mr. Charles. Y mae hanesyn neu ddau ar gael sydd yn profi pa mor dywyll oedd y bobl ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Roberts, Brynygath—yr hwn a fu farw mewn oedran teg tua 25 mlynedd yn ol— yn ŵr geirwir a chrefyddol. Can fod ei rieni yn barchusach na'r cyffredin yr oedd ef wedi cael ychydig o ysgol, a medrai ddarllen. "Yr oeddwn yn 14eg oed," ebe yr hen ŵr, "newydd ddyfod adref o'r ysgol, ac mewn wylnos yn Tyddynmawr. oedd yno lon'd y tŷ o bobl, ac ni fedrai neb o honynt ddarllen. Disgwylid i'r clochydd ddyfod yno i gadw yr wylnos, ond ni ddaeth. Erbyn hyn yr oeddynt mewn penbleth, gan na fedrai neb yn y lle ddarllen. Wedi hir ddisgwyl, dywedai rhywun oedd yn y tŷ, Mae fan yma fachgen yn medru darllen. A bu raid i mi fynd ati hi i ddarllen fy hun, er nad oeddwn ond 14 oed, a dyna y gwaith cyhoeddus cyntaf a wnes i."

Hanesyn arall y byddai yr hen ŵr, E. R., yn dra hoff o'i adrodd ydoedd am Mr. Charles yn pregethu ar y llechwedd, o flaen tŷ Brynygath. "Yr wyf yn cofio," ebai-gyda'i lais crynedig, a'i ddull arafaidd o siarad yr wyf yn cofio cystal a dim, Mr. Charles yn pregethu o flaen y tŷ yma, ar ddiwrnod teg yn yr haf. Ei fater oedd, Iesu Grist yn dysgu Nicodemus am ail-enedigaeth. Yr oedd llawer wedi dyfod ynghyd o ryw lainau o'r cymoedd rhwng yma a Llanfachreth, ac oddiwrth Drawsfynydd, a'r rhai hyny yn gwrando ar eu lled-orwedd ar yr ochr o flaen y tŷ yma. Yr oeddwn inau yn hogyn wedi myned y tu ol iddynt. A phan oedd Mr. Charles yn dweyd fod yn rhaid geni dyn drachefn, 'Glywi di, glywi di,' ebai y llancian with eu gilydd, y dyn yn dweyd fod yn rhaid geni dyn ddwywaith." Adroddai yr hen ŵr yr hanes uchod gyda blas a dyddordeb, a barai i chwi deimlo wrth ei wrando ei fod ef ei hun yn argyhoeddedig ei fod bob tro yn traethu gwirionedd newydd i'r oes bresenol am yr oes o'r blaen. Ac yr oedd yn hoff iawn o son am Mr. Charles hyd ddiwedd ei oes. Bob tro yr ymwelid ag ef, byddai ganddo rywbeth i'w adrodd am dano. Yr oedd E. R. ei hun hefyd yn hen bererin o'r iawn ryw.

Ar ol y bregeth uchod, meddir, gofynai Mr. Charles i ŵr y tŷ, "Oes yma ddim lle y gallwn anfon dyn yma i gadw ysgol?" "Ryfeddwn i ddim nad oes," atebai ynta, "yn Brynygath Isaf yma." Cytunwyd y pryd hwnw am y lle, a'r gauaf canlynol, sef yn y flwyddyn 1790, yr oedd John Ellis, Abermaw, yno yn cadw ysgol. Bu Lewis Morris, yr hen bregethwr hynod, yno gydag ef yn yr ysgol am ychydig y flwyddyn hono. Y flwyddyn flaenorol y cawsai y gŵr hwn ei argyhoeddi mewn modd anghyffredin, wrth ddychwelyd adref o races ceffylau, o Fachynlleth. "Aethum," ebe L. M. ei hun, "y Calanmai canlynol, at y dywededig John Ellis, o'r Abermaw, i Frynygath, Trawsfynydd, lle yr oedd efe y pryd hwnw yn cadw ysgol ddyddiol, a bum yno am dair wythnos; a dyna y pryd y dysgais ddarllen fy Meibl." Hynod iawn fel y mae y byd wedi newid! Lewis Morris oedd y pregethwr cyntaf, oddieithrun neu ddau, gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd. Cafodd dair wythnos o ysgol! Ac aeth i Frynygath, y lle mwyaf rhamantus, anhygyrch, ac anghysbell o un man yn Sir Feirionydd, i gael hyny o ysgol! Adroddai un o feibion Brynygath wrthym, wedi clywed ei fam yn adrodd am dano yn cyraedd yno y tro cyntaf, ei fod yn gwyro hyd ei haner wrth fyned i mewn i'r tŷ (oblegid yr oedd yn fwy o gorffolaeth nag odid neb yn y wlad), ac yn cyfarch y teulu fel hyn, "Lewsyn, Coedygweddill, ydw'i; 'rydw i wedi dyfod yma i'r ysgol at Sion Ellis, ac yn dyfod atoch chwi, i edrych a gaf fi lodgings." Nid oedd yn medru y llythyrenau pan yr aeth yno. Byddai yn myned at John Ellis, yr athraw, i ofyn am eglurhad beunydd—"Be ydi hon?—be ydi hon?"-gan gyfeirio at y llythyrenau, nes blino yr athraw yn fawr. "Paid a'm rhwystro io hyd, Lewis," ebe yr athraw; "rhaid i mi roi gwersi i'r plant yma. Cymer yr eneth fach yna—sef geneth R. R., Gelligan—ar dy lin; fe ddysga hi y llythyrenau i ti." Felly fu. Yr eneth fach yn eistedd ar ei lin a ddysgodd iddo y llythyrenau.

Y mae gwahanol adroddiadau am yr amser a'r lle y pregethwyd y bregeth gyntaf yn yr ardal. Ond nid ydyw hyny yn llawer o bwys erbyn hyn. Lled debygol mai William Evans, Fedw Arian, a fu yn pregethu yma gyntaf, a hyny, mor agos ag y gellir gweled, rhyw chwech neu saith mlynedd cyn i Mr. Charles fod yn pregethu y bregeth ar ail-enedigaeth yn Mrynygath. Modd bynag, Brynygath oedd cartref cyntaf yr achos. Mae yr enw, i fesur, yn anadnabyddus yn awr, ond yn nechreuad Methodistiaeth yn y sir, bu yn dra hysbys dros lawer o. flynyddoedd. Ffermdy ydyw, oddeutu milldir o Abergeirw, i gyfeiriad Trawsfynydd, ar lechwedd uchaf ceunant rhamantus, trwy yr hwn y rhed yr afon Mawddach i lawr i'r Ganllwyd. Yr ochr arall i'r ceunant y mae Cwmhwyson, neu fel y swnir ef gan y cymydogion, Cwm-eisian, lle genedigol y Parchedig. W. Williams, o'r Wern. Yr oedd mam Williams yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn Brynygath neu Llanfachreth, oddeutu 1790. Gellir casglu oddiwrth hyn, a phethau. eraill, fod yn y tŷ hwn eglwys wedi ei ffurfio o gylch y flwyddyn hon. O fewn tair milidir i'r lle hwn drachefn, ar y ffordd i Drawsfynydd, y mae Penystryd, lle yr oedd capel wedi ei adeiladu, ac eglwys wedi ei sefydlu gan yr Annibynwyr, yn niwedd y flwyddyn 1789. Erys yr adeilad hwn hyd heddyw, a golwg hynafol tuhwnt i fesur arno. Yn Brynygath y bu cartref yr achos, sydd yn awr yn Abergeirw, am o leiaf ddeugain mlynedd. Yr oedd adeilad yn agos i'r tŷ a clwid Tynant, wedi ei ddarparu yn briodol i gynal y moddion ynddo. Yr oedd traddodiad flynyddau yn ol mai yn Brynygath y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn Nghymru. Ni chafwyd digon o sail i brofi hyn, er ei bod hi wedi dechreu yma yn bur sicr yn foreu iawn. Yr oedd yr hen deulu a breswyliai yma yn barchus o grefydd. Yr oedd gwraig Evan Roberts, y crybwyllwyd am dano, hefyd, yn chwaer i wraig gyntaf Dafydd Rolant, y Bala, ac yn ferch i Nantbudr, Trawsfynydd. Perthyn i'r un teulu, hefyd, yr oedd teulu Neuadd-ddu, Blaenau Ffestiniog, le bu achos crefydd yn cartrefu am dymor cyflelyb o ddeugain mlynedd yn yr un cyfnod. Yn. Nyddlyfr Lewis William, yn 1825, nid oes dim son am Abergeirw. Y daith Sabbath oedd, "Brynygath, Cwmprysor, a Trawsfynydd."

Lle arall o hynodrwydd gyda chrefydd yn yr ardal ydyw Brynllin Fawr. Cymerodd digwyddiad le yma, ar gychwyniad crefydd, a ddengys fel yr oedd yr efengyl yn swyno hyd yn nod erlidwyr yn y cyfnod cyntaf o bregethu yn Nghymru. Er myned i wrando gyda'r bwriad yn unig o wawdio ac erlid, enillai yr efengyl aml un trwy y swyn a berthyn iddi. "Digwyddodd yn y modd yma i fab Brynllin Fawr, dan weinidogaeth William Evans [Fedw Arian]. Rhoddasid rhybuddion mynych i'r llanc nad elai yn agos atynt, oddieithr i'w lluchio, ond ar bob cyfrif nad äi byth i'w cynulliadau i wrando pa beth oedd ganddynt, onidé y gellid sicrhau iddo mai ei ddal a wneid gan y swyn. Anturio, pa fodd bynag, a wnaeth y bachgen i fyned at ryw lidiart, digon agos i glywed y sŵn, ond, ar yr un pryd, digon pell i brofi nad oedd ef yn un o honynt, nac yn chwenych cael ei swyno ganddynt. Ond wrth y llidiart hwn clywai lais y pregethwr, a disgynodd y gwirionedd ar ei gydwybod, nes oedd iasau brawychlyd yn ei gerdded; meddyliodd yn ei galon mai gwir a glywsai am y swyn a ddaliai y rhai a'u gwrandawent, a dywedai, Dyma fi wedi fy swyno.' Yn y canlyniad fe droes allan felly. Enillodd yr efengyl galon y llane, a dilynodd Fab Duw, er gwaethaf pob gwrthwynebiad, o hyny allan."—Methodistiaeth Cymru, I. 517. Brawd crefyddol sydd yn awr yn fyw a dystiolaetha i'r llanc hwn barhau yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr yn Penystryd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le o gylch 1820. Ychydig amser cyn adeiladu y capel symudwyd yr achos yn gwbl oll o Brynygath i Brynllin Fawr. O hyny allan, am o leiaf 50 mlynedd, pwy o bregethwyr y rhan yma o'r sir sydd heb wybod am garedigrwydd Brynllin a Pantglas? Abergeirw Fawr hefyd a wnaeth ei ran yn dra chanmoladwy i groesawu yr achos yn yr ardal neillduedig hon, yr holl flynyddoedd hyn. Dywed y Parch. Richard Jones, Bala, yr hwn yn lled debyg oedd yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir ar y pryd, wrth roddi rhestr o'r teithiau yn y Drysorfa am 1836, fod capel Abergeirw yn cael ei adeiladu y flwyddyn hono. Bu peth dadl ynghylch y lle priodol i'w adeiladu. Dadlenai rhai am ei gael ar ben y banc, yn ngolwg Cwm Blaenglyn, er mantais i'r ddau gwm. Dadleuai Harri Puw, o Brynllin, am iddo fod yn y lle y mae. Adeiladwyd ef yn y pant-le, ar lan yr afon, lle digon oer yn y gauaf, ac yn ddiarebol am y pethau a elwir "gwybed bach" ar degwch yn yr haf. Saif ar dir Abergeirw, ffermdy o ba le y cafodd ei enw. Pregethwyd ar ei agoriad gan y Parchn. Richard Roberts, Dolgellau, Dafydd Rolant, Llidiardau, a Dafydd Davies, warch. Talwyd am ei adeiladu ar ei agoriad, neu yn fuan wedi hyny. Tlodaidd a llwydaidd oedd yr olwg arno hyd oddeutu 1873, pryd y cafodd ei adnewyddu. Yr oedd y Parch. Owen Roberts, Llanfachreth, yn flaenllaw yn hwylio y gwaith hwn ymlaen. Deuai amcangyfrif o'r draul i o gwmpas 80p., a gofynwyd i Mr. Wood, boneddwr oedd newydd brynu tyddyn yn yr ardal, am ei ewyllys da at yr achos, yr hwn, gyda pharodrwydd, a addawodd y gwnai y diffyg i fyny wedi iddynt orphen casglu eu hunain. Casglwyd gan bobl y lle 59p. Pan glybu y boneddwr hyn, anfonodd 21p. ar unwaith, gan ddywedyd ei fod yn ei theimlo yn fraint cael eu cynorthwyo. Mae y capel bellach yn ddestlus a chyfforddus. Gwnaeth yr adnewyddiad lawer o les. Mae y bobl wedi bod yn ddedwydd yn eu gweithred; bywhaodd a siriolodd eu hysbryd. Trwodd a thro, ni bu yr achos a golwg mwy siriol arno erioed nag y mae wedi bod y blynyddoedd diweddaf. Erys y gymydogaeth heb fod ryw lawer na mwy na llai ei phoblogaeth. Deugain mlynedd yn ol, rhif y gwrandawyr oedd 50, a'r cymunwyr ychydig dros 20. Eleni, mae y naill a'r llall yn lliosocach, er fod cyfran helaeth o gynulleidfa ac aelodau Hermon wedi eu tynu ar ol hyny oddiwrth Abergeirw. Eglwys yn y mynydddir ydyw hon, yn hollol felly, ac y mae yn rhaid mewn un ystyr wrth lawer o ddiwydrwydd i grefydda yn y fath le. Rhaid cael ffyddlondeb i ddilyn moddion gras ar bob tywydd, nas gwyr pobl y dyffrynoedd a'r trefydd ddim am dano; rhaid boddloni yn fynych ar fod heb weinidogaeth yr efengyl ar y Sabbothau, gan mor aml y rhwystrir cenhadon hedd i gyraedd hyd atynt trwy hin ddrycinog ac ystormus; a rhaid i flaenor— iaid yr eglwys wrth zel mwy na'r cyffredin i ddilyn Cyfar— fodydd Misol y sir gyda dim cysondeb o'r fath bellder. Wedi'r cyfan, y mae yma lawer o fanteision i'r trigolion i fyw yn grefyddol, gan eu bod i raddau helaeth allan o swn a dwndwr y byd. Ac yn ddiamheuol y mae pobl i'r Arglwydd wedi bod yn yr ardal hon, ac yn bod eto. Bydd y weinidogaeth Sabbothol yn aml yn fylchog yn nhymor y gauaf, oherwydd yr hin a phellder y ffordd i gyraedd i'r lle. Parheir yma yr arferiad Fethodistaidd dda o gyrchu a danfon pregethwyr. Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys:—Owen Roberts, 1870—1875; W. Lloyd Griffith, 1877—82; John Evans, 1885—87.

Ymysg ffyddloniaid yr achos yma, bu y personau canlynol yn flaenoriaid yr eglwys,—Sion Dafydd, Llechidris; Silvanus Jones, Brynllin; Griffith Jones, Hafodowen; D. Williams, Abergeirw; Evan Ellis, yr Hendre. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. William Pugh ac Evan Jones.

Silvanus Jones.—Yn Beddcoedwr yr oedd yn byw pan yn ddyn ieuanc, ac yn flaenor yr eglwys yn Brynygath. Ar ei ysgwyddau ef y bu yr achos am lawer iawn o amser, ac yr oedd yntau yn ei gymeryd ar ei ysgwyddau, er myned ar y cyntaf trwy swm mawr o anhawsderau. Adroddai ei hun un ffaith ryfedd yn ei hanes. Pan yn ieuanc yn Beddcoedwr, yr oedd yn gyfyng arno o ran ei amgylchiadau, ac unwaith yr oedd mewn pryder, gan nad oedd ganddo ddim i dalu i'r pregethwr a ddisgwylid ryw Sul i Frynygath. Yn y cyfamser, trigodd buwch iddo; aeth yntau a'r croen i Drawsfynydd i'w werthu. Ac wrth gyfrif yr arian gyda'i fam, ar ol cyraedd adref, yr oeddynt yn fwy o haner coron na phris y croen. Pa fodd bynag yr oedd hyny wedi digwydd, eredai ef yn sicr mai Rhaglun— iaeth oedd wedi dwyn hyny oddiamgylch, er mwyn iddo gael ychydig i dalu i'r pregethwr. Yr oedd Silvanus Jones yn ddyn duwiol, a nodedig o afaelgar mewn gweddi. Byddai arferol a dyfod o Beddcoedwr i'r Hendre i gadw cyfarfod gweddi bach, h.y., cyfarfod gweddi y merched. Symudodd trwy briodi i fyw i Brynllin, a daeth trwy hyny yn fwy cefnog ei amgylchiadau. Dysgai dylwyth ei dy i fod yn grefyddol, ac ni chai neb o'i holl wasanaethyddion fod yn esgeuluswyr. Yr oedd wedi ymroddi gorff ac enaid i wasanaethu crefydd. Dilynai y Cyfarfodydd Misol a'r Sasiynau, o'r lle pellenig yr oedd yn byw ynddo, gyda chysondeb. Bu farw, Ebrill 20fed, 1854, yn 60 mlwydd oed.

Griffith Jones, Hafodowen.—Gŵr tawel, arafaidd, deallus, a chadarn yn yr Ysgrythyrau. Bu yn ysgrifenydd yr eglwys am flynyddau, a chadwai y cyfrifon yn fanwl a threfnus. Rhagorai fel un medrus yn yr Ysgol Sul, ac i ddysgu plant. Medrai ef ddysgu rhai na fedrai neb arall eu dysgu, a gwnaeth ddaioni mawr gyda hyn. Wedi cerdded llawer i Abergeirw, cafodd fyw i weled capel Hermon wedi ei adeiladu yn ymyl ei gartref. Bu farw, Ebrill 10fed, 1870, yn 59 oed.

David Williams, Abergeirw. Gwasanaethodd swydd diacon am 40 mlynedd. Dewiswyd ef gyntaf yn Cynllwyd, ger Llanuwchllyn, a bu yn y swydd yno am saith neu wyth mlynedd, a'r gweddill yn Abergeirw. A dywedir am dano, iddo lenwi y swydd yn anrhydeddus. Disgynodd cyfrifoldeb y gwaith arno ef ar ol Silvanus Jones. Yr oedd yn un o'r cymeriadau goreu yn y wlad. Dyn tawel, distaw, caredig, diymhongar, boneddigaidd, a hawdd ei drin; anaml ei eiriau, ac yn barotach i roddi eraill ar y blaen nag i gymeryd y blaen. ei hun; er hyny yn meddu barn dda, ac yn alluog i siarad ar unrhyw bwne. Cariai ddylanwad mawr trwy ei ddistawrwydd. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Misol a chynulliadau eraill. Bu farw Medi 14eg, 1879, yn 70 mlwydd oed.

Y Parch. Morris Roberts, Brynllia. Gwasanaethai gydag ewythr iddo yn Brynllin, ac wrth yr enw Morris Roberts, Brynllin, yr adnabyddid ef bob amser. Cyn ei argyhoeddi yr oedd yn ddyn ieuanc direidus, a doniol. Tra yn Llanuwchllyn, yn was mewn ffermdy, adroddai bregethau, ac adnodau, ac intertudiau bob yn ail. "Yn wir, Morris." ebai gwr y tŷ wrtho, "pe cait ti ras, ti wnaet bregethwr da." Ar ol hyn, ac efe yn gwasanaethu yn yr ardal hon, yn y flwyddyn 1818, argyhoeddwyd ef mewn modd anghyffredin o rymus wrth wrando y Parch. D. Rolant yn pregethu yn Buarthyrê. Ymhen ychydig dechreuodd bregethu ei hun. Bu yn cadw ysgol ddyddiol, ar ol priodi, a dechreu pregethu, yn llofft Pantglas, yn yr ardal hon. Aeth wedi hyn i fyw i rywle islaw y Bala. Daeth i gael sylw cyhoeddus mewn cysylltiad â'r dadleuon duwinyddol a gynhyrfai y wlad yr adeg hono. Cyhuddwyd ef o fod yn gogwyddo at yr hyn a elwid System Newydd, sef coleddu syniadau rhy cang am Iawn Crist. Bu ei achos yn cael ei drafod yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1828, a Chymdeithasfa Caernarfon, Medi yr un flwyddyn. Ni chafwyd dim o bwys yn ei erbyn, ac felly syrthiodd yr achos i'r llawr. Ymfudodd i'r America, ac ymunodd â'r Annibynwyr. Nis gallwn fod yn sicr o'r achos iddo ymfudo, nac ychwaith o'r achos iddo ymuno â'r Annibynwyr. Yr oedd yn America cyn 1831, oblegid yn Hydref, y flwyddyn hono, y mae y Parch. John Jones, Talsarn, yn ysgrifenu llythyr at ei frawd, y Parch. David Jones, i Lundain, yn yr hwn y dywed,"Derbyniais lythyr maith o'r America, oddiwrth ein brawd, yn fy hysbysu fod Morris Roberts wedi cael y derbyniad caredicaf, a chael cymorth amgylchiadol, ac hefyd ei ordeinio i'r swydd efengylaidd yn gyflawn." Talodd ymweliad â'r wlad hon oddeutu ugain mlynedd yn ol. Y mae yntau wedi gorphen ei yrfa er's o gylch pedair blynedd.

Nodiadau[golygu]