Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Rehoboth

Oddi ar Wicidestun
Rhiwspardyn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Abergeirw


REHOBOTH.

Un o'r lleoedd gweiniaid ydyw Rehoboth wedi bod o'r dechreuad. Er mwyn yr anghyfarwydd, yr ydys yn hysbysu y saif y capel hwn yn agos i gwr uchaf glyn cul, sydd yn ymwthio at odreu Cader Idris, rhwng Dolgellau ac Arthog. Fel taith Sabbothol, bu o'r dechreu am dymor maith mewn cysylltiad â Dolgellau; yn awr, er 1867, y mae mewn cysylltiad ag Arthog. Adnabyddid y lle cyn adeiladu y capel, a thros amser wedi hyny, wrth yr enw Hafod-dywyll, oddiwrth y ffermdy y cynhelid y moddion ynddo. Mewn cofnodiad byr a wnaed 25 mlynedd yn ol, dywedir fod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yma i ddechreu oddeutu 1800, mewn ffermdy a elwid Tyddyn, lle yr oedd gŵr o'r enw Robert Prichard yn byw ar y pryd. A thybir mai dyfodiad William Hugh i gadw ysgol ddyddiol i'r ardal fu yn achlysur iddi gael ei sefydlu. Aeth yr ysgol i lawr, trwy i'r teulu lle y cedwid hi symud o'r ardal, ac ymddengys y bu llawer o flynyddau wedi hyny heb yr un Ysgol Sul yma o gwbl. Cynhelid hi, cyn cael y capel, yn Hafod-dywyll, lle y preswyliai John Jones, tad y Parch. Richard Jones, a ymfudodd i'r America. A dywedir y bu yn cael ei chynal am 16 mlynedd yn nhŷ tad John Jones, yn flaenorol i hyny. Yr hyn sydd yn sicr ydyw, ei bod yn cael ei chynal yn Hafod-dywyll oddeutu 1830, a'i bod yn lled liosog, oblegid fod poblogaeth yr ardal lawer yn fwy y pryd hwnw nag ydyw yn awr.

Adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn yr ardal yn y flwyddyn 1833. Dyddiwyd y weithred Tachwedd 1af, y flwyddyn hono; prydles, 99 mlynedd; ardreth, haner coron. Cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad Hydref 17eg yr un flwyddyn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Cadwaladr Owen, Lewis Morris, William Jones, Edward Rees, ac Edward Foulk. Talwyd am eu gwasanaeth cydrhyngddynt 11s. 6c. Y personau fu yn gweithio fwyaf gyda'r adeiladu, cyn belled ag y gwyddis, oeddynt John Jones, Hafod-dywyll, a Lewis Evans, Tynant. Nid yw yn wybyddus pa faint oedd traul yr adeiladaeth, ond y mae sicrwydd i'r ddyled gael ei chwbl glirio yn 1839. Casglwyd tuag at hyny y flwyddyn hono 19p. 13s. 6c., a thalwyd gronfa gyffredinol i dalu dyled y capelau 70p. 13s. 4c. Oddeutu yr amser yr adeiladwyd y capel y ffurfiwyd yr eglwys. Y cyfrif cyntaf ar gael o nifer yr aelodau yw 13.

Yn 1851, eu rhif oedd 11. Yn 1860, daeth eu rhif tua 40. Cymerodd symudiadau le wedi hyny, ac aeth wyth i berthyn i Ddolgellau, wedi adeiladu ysgoldy y Penmaen. Tra yr oedd y lle yn daith gyda Dolgellau, Hafod-dywyll oedd llety y pregethwyr bob amser. O'r adeg yr ymgysylltodd âg Arthog, yn 1867, Cae Einion sydd wedi bod yn gartrefle parhaus iddynt, ac y mae y croesaw a'r caredigrwydd a geir yno yn ddigon hysbys i'r tô presenol o bregethwyr.

Erbyn hyn y mae y cyfeillion yma wedi cael capel newydd hardd a chysurus i addoli ynddo. Yr oedd yr hen gapel mewn cilfach dywyll ac oer; ni fyddai haul yn tywynu o'i fewn ddydd yn y flwyddyn. Ac un prawf o ddwyfoldeb yr efengyl ydyw, ei bod wedi gallu byw yn y fath le am 50 mlynedd. Nid gorchest fechan i eglwys mor lleied ei nifer oedd yr anturiaeth o adeiladu capel newydd. Cynhaliwyd cyfarfod o gyd-ymgynghoriad; yn hwn yr oedd tri neu bedwar am adnewyddu yr hen gapel, ond y gweddill am gael capel newydd. A'r penderfyniad i gael un newydd a gariodd y dydd. Rhoddwyd lle i adeiladu, ynghyd â darn lled helaeth o dir at fynwent, yn rhad ac yn rhodd gan ŵr o'r gymydogaeth, Mr John Griffith, Callestra, ar yr amod i'r fynwent fod yn rhydd i'r ardal yn gyffredinol. Am y weithred gymydogol a Christionogol hon, talodd y Cyfarfod Misol eu diolchgarwch gwresocaf. Cafwyd swm gwell na'r disgwyliad o addewidion yn yr ardal, a disgwylid bod yn abl i dalu haner y draul wrth agor y capel. Wedi dechreu gyda'r gwaith, pa fodd bynag, daeth cyfeillion o'r tu allan i helpu, un gyda 1p., arall 2p., arall 5p., arall 10p., ac arall gyda 15p. Ac i'w cynorthwyo i orphen, rhoddodd y Cyfarfod Misol 30p. Felly, agorwyd y capel yn gwbl ddiddyled, a theimlad y cyfeillion oedd fod llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'r gwaith. Yr holl draul oedd £250, heblaw y gwaith a wnaeth y cyfeillion eu hunain gydag ef. Cynhaliwyd cyfarfod i agor y capel Mehefin 9, 1884, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. W. Jones, Trawsfynydd, W. Thomas, Dyffryn, R. Evans, Harlech, H. B. Williams, Wrexham, J. Davies, Bontddu, a T. J. Thomas, Dolgellau. Yr oll yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad.

Cyfododd un pregethwr o'r ardal hon, sef y Parch. Richard Jones, Hafod-dywyll. Bu yn flaenor am ryw gymaint o amser pan yr oedd yn ddyn ieuanc. Aeth i Athrofa y Bala oddeutu y flwyddyn 1843, a rhywle yn agos i'r amser hwnw, gallwn dybio, y dechreuodd bregethu. Ymfudodd i'r America oddeutu ugain mlynedd yn ol. Preswylia yn awr yn ardal Red Oak, Iowa. Parha yn wr llafurus gyda phob rhan o achos yr Arglwydd, a phregetha fel y bydd galwad am dano. Bu yr eglwys yma am flynyddau lawer, ar wahanol amserau, heb ddim ond un blaenor yn perthyn iddi.

Lewis Evans, Tynant.—Dewiswyd ef yn flaenor yn Salem, Dolgellau, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Ebrill 25, 1833. Pan ffurfiwyd eglwys yn Rehoboth, neu yn hytrach yn Hafod—dywyll, yn fuan wedi ei ddewisiad yn Salem, arhosodd yma, ac efe a fu yn flaenor cyntaf yr eglwys, a'i hunig flaenor am lawer o amser. O blith llawer o'i weithredoedd da gyda'r achos, hysbysir am un ffaith hynod. Yr oedd wedi addaw y swm o 5p. at dalu dyled y capel. Talodd haner y swm, ond nis gwyddai yn y byd o ba le i gael yr haner arall. Ac yr oedd ei bryder a'i drallod yn eu cylch yn gymaint fel y methai a chysgu yn ei wely y nos. Yr adeg hon, digwyddodd ystorm echrydus o fellt a tharanau, a gwlaw trwm, pryd yr oedd y teulu oll, yn dad, mam, a phlant, wedi ymgasglu i'r tŷ. Tra yr ymarllwysai y gwlaw i lawr, dyna guro wrth ddrws y Tynant. Boneddwr a'i deulu oedd yno yn ewyllysio cael dod i mewn, i ochel yr ystorm. Caniatawyd iddynt ddyfod yn ebrwydd, a chawsant bob caredigrwydd ac ymgeledd, a chynorthwy i sychu eu dillad gwlybion. Wrth fyned ymaith, estynai y boneddwr 1p. i Lewis Evans, a 1p. i Anne Evans ei wraig, a 10s. rhwng y plant. Dyna yr haner can swllt wedi dyfod! Torodd Lewis Evans allan i wylo. Y boneddwr yn methu deall hyn (oblegid nis medrai ef Gymraeg, ac ni fedrai L. E. Saesneg) a barodd i'w arweinydd ofyn paham yr oedd yn wylo. Mynegwyd iddo yr holl hanes, a'r pryder yr oedd y teulu ynddo i allu talu eu hadduned at y capel. "Wel," ebai y boneddwr, "yr wyf finau yn swyddog eglwysig, a gwn ryw gymaint am bryder gydag achos yr Arglwydd—dyma i chwi 50s. i dalu eich adduned at y capel, a chedwch y lleill at anghenion teuluaidd." Felly dyna Ragluniaeth wedi gofalu am y 5p. yr oedd yr hen Gristion wedi en haddaw mewn ffydd at achos y Gwaredwr! Gŵr hynod o dangnefeddus oedd Lewis Evans. Pan y rhoddid sen iddo, fel y rhoddir yn aml i swyddog eglwysig, ni roddai ef yr un sen yn ol. Ei air a fyddai "myned tros gamwedd yw y peth goreu." Parhaodd yn ffyddlon gyda'r achos hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn 1864.

John Lewis, Dyffrydan.—Yn ddiweddar bu ef yn flaenor. Er nad oedd wedi cael fawr o fanteision addysg, bu yn weithgar gyda'r achos, a chyflawnodd ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn athraw da hefyd ar y plant tra fu byw. Teimlid colled fawr ar ei ol fel crefyddwr a blaenor. Bu farw Ebrill 16, 1886. Ni chafwyd sicrwydd am flaenoriaid fuont feirw heblaw y ddau hyn. Bu Mr. Ellis Williams sydd yn awr yn Saron yn llenwi y swydd yma am rai blynyddau. Yr unig un yn y swydd yn awr ydyw y blaenor gweithgar ac adnabyddus, Mr. David Evans, Cae Einion.[1] Y mae yr eglwys y flwyddyn hon, mewn undeb â Sion, wedi rhoddi galwad i Mr. John Wilson Roberts, o Arfon, i'w gwasanaethu yn yr efengyl.

Nodiadau[golygu]

  1. Mae yn wybyddus erbyn hyn fod Mr. David Evans wedi cael rhybudd gan ei feistr tir i ymadael o'i gartref, lle y bu yn preswylio am 35 mlynedd.