Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Eglwys Saesneg Towyn

Oddi ar Wicidestun
Aberdyfi Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Eglwys Saesneg Aberdyfi
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Tywyn, Gwynedd
ar Wicipedia

EGLWYS SAESNEG TOWYN.

Y mae dechreuad achosion Saesneg yn beth diweddar yn hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd. Towyn oedd y lle y dechreuwyd achos rheolaidd ac y ffurfiwyd eglwys Saesneg gyntaf yn y sir. Ac fel y mae dechreu pob symudiad pwysig yn ddyddorol, felly hefyd hanes dechreuad yr eglwys Saesneg gyntaf hon. Y sylw cyhoeddus cyntaf a roddwyd i'r mater ydoedd yr hyn a ganlyn, a geir ymysg gweithrediadau Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 3 a'r 4, 1865, —"Sylwyd ar yr angenrheidrwydd am godi achosion Saesneg yn y trefydd, gan fod agoriad y Railway yn debyg o fod yn achlysur i lawer o Saeson ymsefydlu ynddynt. Gofynai Mr. Newell, o Dowyn, am gydsyniad a chefnogaeth y Cyfarfod Misol, i sefydlu achos o'r fath yn Nhowyn; cynygiai ef am gael capel haiarn i gychwyn yr achos, ac os byddai i'r Arglwydd Iwyddo eu hymdrechion gyda hyn, y gellid adeiladu capel mwy parhaus wedi hyny, a symud y capel haiarn i gychwyn achos drachefn mewn rhyw le arall. Cymeradwywyd iddynt agor subscription list yn Nhowyn, ac anog eu cyfeillion ymhob man i gyfranu tuag ati, i dreio dwyn hyn oddiamgylch." Yr oedd gan Mr. Newell, mae'n ymddangos, gynllun o gapel haiarn ellid ei bwrcasu am gan' punt, i gynwys cant o bobl. Nid oedd dim cymeradwyaeth, pa fodd bynag, na help i'w gael y pryd hyn, o Dowyn nac o un man arall, ond mewn geiriau yn unig.

Yn mis Chwefror, 1868, tra yn adeiladu masnachdy, penderfynodd Mr. Newell i'r ystafell uwchben fod yn Assembly Room, ac iddi fod at wasanaeth Achos Saesneg yn y dref. Pryd yr oedd eraill yn dadleu ac yn gwrthwynebu, dechreuodd ef weithio a dwyn y mater yn ffaith fyw o flaen llygaid y rhai a edrychent yn ysgafn ar yr anturiaeth. Apeliodd at yr eglwys Gymraeg i benodi personau i fyned i sefydlu yr achos. Yn methu gyda hwy, gwnaeth ail gais at y Cyfarfod Misol, cynulledig yn Seion, Mai 1868. Bu siarad maith yn y cyfarfod hwn, a chytunwyd i bleidio yr anturiaeth yn Nhowyn, ac i wneyd yr hyn a ellid gyda yr achos mewn manau eraill. Ar sail cymeradwyaeth y Cyfarfod Misol, ac yn llawn o ysbryd ffydd, anturiodd Mr. Newell ymlaen i gwblhau yr ystafell, a'r Sabbath, y 14eg o Fehefin, 1868, fe ddechreuwyd yr achos. Pregethodd y Parch. Evan Roberts, Cemaes, yn awr o'r Dyffryn, fore a hwyr, a chadwyd ysgol am ddau. Pregethodd yr ysgrifenydd yno y Sabbath canlynol. Felly aethpwyd ymlaen heb ballu mwy. Mae y paragraph canlynol a ysgrifenodd Mr. Evan Morgan Jones, ysgrifenydd yr eglwys, ymhen tair blynedd wedi hyn, yn werth ei gadw:—"Ymhen ychydig fisoedd, Mr. Newell yn teimlo ei unigrwydd—hyd yma nid oedd neb ond ef a'i deulu, ac un brawd wedi myned allan, neb. ond ei hunan i ddechreu a diweddu yr ysgol, na neb i ddechreu y canu ond yn achlysurol,—a daer ddymunodd drachefn, mewn cyfarfod eglwysig Cymraeg, am gynorthwy, nid arianol, ond ar iddynt hebgor ychydig nifer i fyned allan i gynorthwyo yn y gwaith, megis un i ddechreu y canu, ac eraill yn nygiad y moddion ymlaen. Parodd y cais hwn gryn ymdrafodaeth mewn pwyllgorau. Fe ddylid dweyd yma fod yr eglwys Gymraeg hefyd mewn ymdrafodaeth at alw bugail. Yn y pwyllgorau byn cyfodwyd y cwestiwn o barhad yr achos Saesneg neu beidio, ac os ystyrid hyny yn briodol, a gai yr achos ran o'r fugeiliaeth. Ond mor gryf ydoedd y teimlad yn erbyn y symudiad newydd fel y gomeddid rhan yn y fugeiliaeth, ac nid ymgymerid ychwaith ag appwyntiad personau o'r eglwys i fyned allan i gynorthwyo, ie, mwy na hyn, fe basiwyd penderfyniad fod i'r achos Saesneg gael ei dori i fyny am y gauaf, os nad o gwbl. Ni effeithiodd y gwrthwynebiad hwn i darfu nac i lwfrhau Mr. Newell, oblegid yr oedd yn hollol argyhoeddedig o'r priodoldeb a'r angenrheidrwydd o gael moddion gras i'r Saeson nid yn unig i'r ymwelwyr, ond i'r nifer oedd erbyn hyn wedi ymsefydlu yn y dref. Cynhyrfodd hyn gydymdeimlad dwfn mewn ychydig bersonau â'r symudiad, a bu yn foddion i bedwar o bobl ieuainc (tair merch ac un mab) fyned allan yn wirfoddol i gynorthwyo yn y gwaith." Gwir hefyd ydyw, i'r eglwys Gymraeg roddi cwbl ganiatad i'r brodyr a'r chwiorydd hyn a ymadawsant o'u gwirfodd.

Nid oedd ffydd y Cyfarfod Misol ychwaith ond digon cyfyng, oblegid addaw ei gefnogaeth yr oedd gan dybio na byddai yn ddoeth nac yn angenrheidiol cadw yr achos ymlaen yn y gauaf, o leiaf am rai blynyddoedd. Ond disgynodd yr ysbryd mor nerthol ar yr ychydig gyfeillion yn Nhowyn, nes iddynt deimlo eu bod wedi dechreu ar waith rhy dda i'w roddi i fyny na haf na gauaf. Aethpwyd ymlaen fel hyn hyd ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1869, ymhen chwe' mis ar ol dechreu yr achos yn ffurfiol, penodwyd pwyllgor i fyned i Dowyn i wneyd ymchwiliad i holl amgylchiadau yr achos. Cyflwynodd y pwyllgor eu hadroddiad i'r Cyfarfod Misol dilynol yn Aberdyfi, a chymeradwywyd ef. A ganlyn yw yr adroddiad, ynghyd â sylwadau ychwanegol a ymddangosasant yn y Drysorfa, Mai 1869:—

Adroddiad y Cyfeisteddfod a benodwyd i wneyd ymchwiliad
i ystâd yr Achos Saesneg yn Nhowyn.

"Yn ol penderfyniad Cyfarfod Misol Dolgellau, ni a aethom i Dowyn, dydd Sadwrn, Ionawr 16eg, i wneyd ymchwiliad i sefyllfa yr Achos Saesneg yn y lle. Daeth Mr. Newell a dau neu dri o'r brodyr sy'n cynorthwyo i gario yr achos ymlaen, ynghyd â Mr. Rees, i'n cyfarfod.

"Mae y moddion yn cael eu cadw yn yr Assembly Room, ystafell brydferth, yr hon sydd wedi ei pharotoi a'i dodrefnu yn gyfleus ar draul Mr. Newell ei hun. Dechreuwyd yr achos yn mis Mehefin, 1868. Cynhelir, fel rheol, ddwy bregeth y Sabbath, ac ysgol. Ni bu yr un Sabbath o hyny hyd yn awr heb ryw gymaint o bregethu. Mae yr ystafell yn ddigon eang i gynwys 150. Yn yr haf byddai yn llawn, yn enwedig ar nos Suliau, Yn misoedd y gauaf rhifedi y gwrandawyr ydyw o 40 i 50. Fel esiampl, yr oedd y rhif ar ddau Sabbath agosaf at eu gilydd yn mis Ionawr fel y canlyn—Yr ail Sabbath o'r mis, boreu, 24; nos, 50. Y trydydd Sabbath, boreu, 29; nos, 44. O'r rhai hyn, yr oedd yr haner, o leiaf, yn Saeson. Rhoddwyd enwau i'r pwyllgor yn agos i 40—0 Saeson uniaith, y rhai sydd yn arfer dyfod i wrandaw yn eu tro. Mae yn yr ysgol bedwar o ddosbarthiadau, oll gyda'u gilydd yn rhifo tua 25. Nid oes yr un o'r Saeson ar hyn o bryd yn aelod eglwysig. Mae 11 o aelodau o'r eglwys Gymraeg yn dilyn y moddion Saesneg yn gyson, i'r rhai y rhoddwyd caniatad gan eglwys y Gwalia. Er's amryw fisoedd bellach, mae y society yn aros yn ol bob nos Sabbath, ac wedi cyfarfod rai gweithiau ganol yr wythnos, ond hyd yma y maent yn perthyn i'r eglwys Gymraeg, ac yn myned i'r capel Cymraeg i dderbyn y Cymundeb.

"Cynhelir yr achos yn benaf trwy roddion gwirfoddol y gwrandawyr. Buwyd bedwar Sabbath yn y dechreu heb wneyd casgliad o gwbl. Yn awr, mae trysorfa yn agored yn agos i ddrws yr ystafell i'r neb a ewyllysio i fwrw ei roddion i mewn pan yn dyfod ynghyd i addoli unrhyw adeg; ac ar y cynllun hwn yn unig y gwneir pob casgliad. Yn misoedd yr haf, cyrhaeddai y casgliad uwchlaw 2p. y Sabbath; yn awr y mae, wrth reswm, yn llai, eto yn ganmoladwy a chalonogol iawn. Fel engraifft, yr oedd y swm y ddau Sabbath a enwyd yn Ionawr, ar ddiwedd y naill ddiwrnod yn 19s. 10c., ac ar ddiwedd y llall yn 18s. Derbyniwyd 5p., hefyd, yn rhoddion gan ewyllyswyr da at yr achos. Rhoddodd rhai pregethwyr eu gwasanaeth yn rhad; a rhai ran o'r tal yn ol; ac anfonodd cyfeillion eraill o bellder ffordd eu rhoddion, am eu bod yn teimlo yn gynes eu calon at yr anturiaeth, ac yn awyddus am ei gweled yn llwyddo. Trwy ffyddlondeb y gynulleidfa, a charedigrwydd cyfeillion eraill, cafwyd digon o arian i gynal yr achos o'r dechreu hyd yn awr, a gwelir oddiwrth y cyfrifon fod dros 1p. yn ngweddill mewn llaw. Ond gan fod y Cyfarfod Misol wedi addaw sefyll wrth gefn yr anturiaeth, yr oeddym fel pwyllgor yn cydweled y dylid rhoddi 10p, yn gynorthwy i'r cyfeillion am yr amser aeth heibio, i gyfarfod treuliadau mewn parotoi yr ystafell, goleuni, &c.

"Wedi cyfarfod yn Nhowyn, cawsom olwg fwy llewyrchus a gobeithiol ar yr achos nag oeddym yn ddisgwyl. Teimlwn oll yn rhwymedig ac yn dra diolchgar i Mr. Newell a'i gyd-weithwyr, am eu penderfyniad i anturio ymlaen gyda'r achos da hwn, gan hyderu eu bod yn gwneuthur ewyllys Pen Mawr yr eglwys, ac y bydd bendith a llwyddiant ar eu llafur. Dywedid nad oedd yn fuddiol rhoddi yr achos i fyny yn y gauaf, am fod cynifer yn dyfod i wrando, ac am eu bod yn dangos parodrwydd i gyfranu mor haelionus. Pe buasid yn gwneuthur felly buasai y Saeson sydd yn arosol yn y lle yn debyg o ameu cywirdeb yr amcan, trwy feddwl mai gwneuthur daioni i'r dieithriaid yn unig oedd mewn golwg. Yr un pryd, mae yn amlwg ddigon fod colled fawr i'r eglwys Gymraeg ar ol yr holl gyfeillion sydd wedi ei gadael. Eto, os o'r Arglwydd y mae y peth hwn, fe all ef yn hawdd wneyd y golled i fyny, a pheri llwyddiant ar y ddau achos. Yr oedd yn ddymuniad gan y cyfeillion perthynol i'r achos Saesneg gael rhyddid o hyn allan i gadw society, a gweinyddu yr ordinhadau yn eu plith eu hunain; ac wedi gwneyd ymchwiliad o'u tu hwy, ac o du yr eglwys yn y Gwalia, teimlem yn barod. iddynt gael eu dymuniad, gan eu bod hwy eu hunain yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb. Eu penderfyniad ydyw myned ymlaen gyda'r un zel a'r un ysbryd ffydd ag sydd wedi eu meddianu o'r dechreu, gan ddymuno i frodyr haelionus yn yr efengyl eu cynorthwyo; a chan obeithio y bydd i'r Hwn bia yr achos mawr ymhob iaith, ac ymhob lle, eu bendithio.—Ionawr 27, 1869.

"Aelodau y pwyllgor oeddynt.—y Parchn. D. Davies, Abermaw; D. Evans, M.A., Dolgellau; W. Davies, Llanegryn; R. Owen, M.A., Pennal; a F. Jones, Aberdyfi; Mri. G. Jones, Gwyddelfynydd, ac E. Griffith, Dolgellau.

"Wedi darllen yr adroddiad uchod yn y Cyfarfod Misol, pasiwyd penderfyniad iddynt gael rhyddid i fod yn eglwys ar eu penau eu hunain. Ac yn ol yr arfer ar y cyfryw achlysuron, penodwyd dau frawd, sef y Parchn. D. Evans, M.A., Dolgellau, ac R. Owen, M.A., Pennal, i fyned i Dowyn i hysbysu hyn i'r eglwys, ac i'w cydnabod yn ffurfiol fel eglwys yn ol eu dymuniad. Cymerodd cyfarfod i'r diben hwn le Chwefror 12fed. Daeth nifer lled dda o'r Saeson ynghyd, a lliaws o'r capel Cymraeg, ac amryw o drigolion y dref, fel, rhwng pawb, yr oedd y gynulleidfa yn weddol fawr, hyny ydyw, yr oedd yr ystafell yn rhwydd lawn. Yr oedd yr hen bererin, y Parch. Hugh Jones, yn bresenol, yn y corff ac yn yr ysbryd, a'r Parch. G. Evans, Cynfal, hefyd."

Un-ar-ddeg, fel y crybwyllwyd, oedd nifer yr eglwys pan ffurfiwyd hi gyntaf, ac nid oedd nifer yr holl aelodau a ddaethant allan o'r eglwys Gymraeg, yn ystod y pedair blynedd a haner cyntaf, ond pedwar ar ddeg. Yn Gorphenaf, 1869, ymsefydlodd y Parch. Owen Edwards, B.A, yn eu plith fel bugail.

Ymhen dwy flynedd wedi cychwyn yr achos, oherwydd fod yr ystafell lle y cynhelid moddion yn anghysurus o lawn yn yr haf, cymhellwyd y cyfeillion i gael capel. Ac yn mis Mai, 1870, cymeradwywyd y symudiad gan y Cyfarfod Misol. Sicrhawyd tir yn nghanol y dref, am ardreth flynyddol o £6, ac ar y 14eg o Dachwedd, 1871, agorwyd y capel. Mae yn deilwng o sylw ddarfod i'r symudiad gynyrchu bywyd newydd yn yr achos Cymraeg. Yn ebrwydd adeiladodd y Cymry gapel newydd hardd, ac o hyn ymlaen mae yr achos yn y ddwy eglwys wedi myned ar gynydd. Yr oedd y draul o adeiladu y capel Saesneg, ynghyd â'r llogau, a'r ardreth flynyddol, &c., erbyn diwedd 1872, yn £693 18s. 8c. Ac yn ystod yr amser yna, trwy gael help oddiwrth gyfeillion, ac oddiwrth y Gymdeithasfa, talodd yr eglwys £395 17s. 6c. Wedi hyny, aethpwyd i lawer o draul ychwanegol, trwy brynu y tir yn rhydd feddiant, a phethau eraill, ac er y cwbl, y mae y capel, a'r eiddo perthynol iddo er's blynyddoedd yn ddiddyled. Y nifer all eistedd ynddo yw 210. (Gwerth presenol yr eiddo £800). Rhoddodd y Cyfarfod Misol £10 flwyddyn am dair blynedd o leiaf tuag at gynorthwyo yr achos. Wedi hyny, cafodd yr eglwys help o drysorfa yr Achosion Saesneg; ymhen ychydig, daeth yn hunan-gynhaliol, a bu am flynyddoedd felly hyd eleni (1887).

Rhydd y paragraff canlynol wybodaeth am swyddogion cyntaf yr eglwys:—"Amlygodd Mr. Newell daer ddymuniad, o dro i dro, ar i'r eglwys ddewis ychwaneg o ddiaconiaid (hyd yma nid oedd neb ond ef yn unig yn y swydd). Yn Ionawr, 1872, cydsyniodd y frawdoliaeth, ac yn unol â'u cais, apwyntiwyd dau weinidog i ddyfod yma i'w cynorthwyo, pryd y bu dewisiad unfrydol a rheolaidd ar y personau canlynol i fod yn ddiaconiaid yr eglwys—Mr. Edwin Jones, Dr. J. F. Jones, Mr. Superintendent Hughes, Mr. Bowstead, a Mr. E. Morgan Jones."

Ffaith hynod mewn cysylltiad â dechreuad yr achos Saesneg yn Nhowyn, ac na ddigwyddodd i neb sylwi arni hyd ddwy flynedd yn ol, ydyw, iddo gael ei ddechreu yn yr un llecyn ar y dref ag y dechreuwyd yr achos Cymraeg. Yn y Porthgwyn y safai y tŷ a gofrestrwyd yn Chwarter Sesiwn y Bala i bregethu ynddo yn ol y gyfraith, yn 1795. Yn union yn yr un fan, sef yn y Porthgwyn, yr adeiladwyd yr Assembly Room yn 1868, i gychwyn yr achos Saesneg cyntaf yn y dref, a'r ochr arall i'r heol, o fewn ychydig latheni i'r tŷ cofrestredig yr adeiladwyd y capel Saesneg cyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Sir Feirionydd.

Mae yn deilwng coffhau mai y gwr fu yn brif offeryn i ddechreu yr achos Saesneg yn Nhowyn ydoedd Mr. Evan Newell, Esgian Hall. Wedi dyfod yma i breswylio o Sir Drefaldwyn, ryw ddeg neu ddeuddeg mlynedd cyn hyny, teimlai yn ddwys oherwydd hollol amddifadrwydd y Saeson o'r efengyl yn eu hiaith eu hunain. Apeliodd am gynorthwy i gychwyn yr achos drachefn a thrachefn, ac wedi tair neu bedair blynedd o geisio yn ofer, ymgymerodd a'r anturiaeth ei hunan yn 1868. Gwr ydoedd ef yn llawn o anturiaeth, o yni, ac o ffydd. Gweithiodd yn ddiwyd a di-ildio gyda'r symudiad, nes gweled eglwys wedi ei ffurfio yn rheolaidd, gweinidog wedi ei sefydlu i ofalu am yr eglwys, capel hardd wedi ei adeiladu, a'i ddyled bob dimai wedi ei thalu. Heblaw diwydrwydd diball i gael eraill i weithio, bu yn dra haelionus at achos crefydd y blynyddoedd y bu mewn cysylltiad a'r eglwys hon. Gweithiodd eraill hefyd o'r dechreuad yn deilwng o ddisgyblion ffyddlon yr Iesu, ond tra fyddo yr achos Saesneg yn Nhowyn ac yn Sir Feirionydd mewn bod, bydd enw Mr. Newell yn haeddu cael ei goffhau fel y prif ysgogydd yn ei gychwyniad. Ymfudodd er's tua phum' mlynedd yn ol i Dakota, Unol Daleithiau America. A hyfryd ydyw hysbysu ei fod ef, a'i fab-yn -nghyfraith, Mr. Evan Morgan Jones, yr hwn hefyd a fu yn dra. gweithgar gydag eglwys Saesneg Towyn, yn rhoddi eu llaw a'u hysgwydd wrth achos yr efengyl yn y Gorllewin pell.

Heblaw y Parch. O. Edwards, B.A., bu y Parch. O. Jones, M.A., Drefnewydd, yn awr o America, ac wedi hyny y Parch. J. H. Symond, mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys. Y gweinidog yn awr ydyw y Parch. R. H. Morgan, M.A. Mr. Townley, Lee Hurst, boneddwr a ddaeth yma o Liverpool, a fu yn flaenor yr eglwys, ac yn gefn i'r achos ymhob cysylltiad am agos i ddeng mlynedd. Yr oedd efe, ynghyd â Mr. Bowstead, gwr arall a fu yn flaenor yr eglwys, ond sydd yn awr wedi ymfudo i Australia, yn Saeson uniaith. Mr. Edwin Jones, Bryn-arvor, a'i deulu fuont o gynorthwy mawr i'r achos o'i ddechreuad. Wedi cael colledion trymion trwy symudiadau, nid oes yn yr eglwys yn awr (1887) ond dau flaenor, Mr. Edwin Jones, a Mr. Hugh Thomas.

Nodiadau

[golygu]