Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Gwyl y Can'mlwyddiant, 1885

Oddi ar Wicidestun
Sefydliad Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Tanysgrifwyr


PENOD IV.

GWYL Y CAN'MLWYDDIANT, 1885.

  I chynyrchodd Gwyl Can'mlwyddiant yr Ysgol Sul fwy o frwdfrydedd yn un rhan o Gymru nag a wnaeth trwy Ddosbarth Dolgellau. Trefnwyd i'r wyl gael ei chynal yma yr un diwrnod a'r Gymanfa Flynyddol, yr hyn oedd ar y 4ydd o Fehefin, 1885. Mae y Gymanfa Ysgolion yn wyl gan y Methodistiaid y Dosbarth hwn bob blwyddyn, a daw deiliaid yr ysgolion ynghyd i Ddolgellau o bob cwm, ac oddiar bob bryn ddiwrnod ei chynhaliad. Ond yr oedd y zel a'r brwdfrydedd a ddangoswyd ar y dydd o Fehefin y flwyddyn a nodwyd yn beth nas gellir ei gynyrchu gan achlysuron cyffredin, ac yn beth na welwyd yn y rhan hon o'r wlad er y dydd y sylfaenwyd yr ysgol.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyntaf y Gymanfa yn ol y dull arferol, am haner awr wedi deg y boreu-y Dosbarth Cano! a'r Dosbarth Hynaf yn Salem, a'r plant yn Bethel. Llywyddid y cyfarfod yn Salem gan Mr David Evans, o ysgol Rehoboth; a'r un yn Bethel gan Mr. Evan Jones, o Ysgol Sion. Hol- wyddorwyd y Dosbarth Canol gan y Parch. Hugh Roberts, Siloh, oddiar Actau xvi-xxviii; y Dosbarth Hynaf, gan y Parch. R. Roberts, Dolgellau, oddiar Heb. iv. 14-x; a'r plant yn Bethel gan y Parch. John Davies, Bontddu, a'r Parch. T. J. Thomas, Dolgellau, yn Hanes Iesu Grist. Yr oedd y ddau gapel eang yn llawn, a Bethel yn gymaint felly, nes gwneyd yn anhawdd dwyn y gwaith ymlaen gyda'r plant gan y tyndra. Am haner awr wedi un ymgasglodd yr holl ysgolion yn rhifo 17-ynghyd yn yr heol o flaen capel Salem, lle y ffurfiwyd yn orymdaith i gerdded trwy y dref. A ganlyn ydoedd trefn yr orymdaith ar y rhaglen argraffedig:

1. Gweinidogion y Dosbarth a swyddogion yr holl ysgolion.
2. Genethod yr holl ysgolion dan bymtheg oed.
3. Bechgyn dan bymtheg oed.
4. Merched.
5. Meibion.

Byddai yn anmhosibl rhoddi unrhyw amcangyfrif agos i gywir am nifer y rhai a wnaent i fyny yr orymdaith. Yr hyn a wyddid i sicrwydd oedd fod y fath zel a ffyddlondeb wedi meddianu holl ysgolion a chynulleidfaoedd y Dosbarth i'r fath raddau ag y daeth pawb, hen ac ienanc, nad oedd amgylchiadau cwbl anorfod yn eu lluddias, i Ddolgellau y diwrnod hwnw, i gymeryd eu lle yn arddangosiad y Can'mlwyddiant. A'r dystiolaeth unfrydol ydoedd, na welwyd y fath orymdaith yn y dref ar unrhyw achlysur erioed o'r blaen. Yr oedd ynddi bob gradd ac oedran, o'r plentyn sugno i fyny at yr hen wr pedair neu bump a phedwar ugain. Gwisgai pawb fedal y Can'ınlwyddiant ar ei fynwes, a brithid yr orymdaith gan liaws mawr o faneri. Yn blaenori, yr oedd baner fawr a ddarpar- wyd yn arbenig ar gyfer yr achlysur, ac yn argraffedig arni, "Charles o'r Bala a Lewis William," a "Duw a fendithio yr Ysgol Sabbothol." Mor bell ag yr oedd y rhan hon o'r wlad yn myned, nid oedd gan neb y fath hawl i gael ei enw yn gyfochrog a'r eiddo Mr. Charles fel gweithiwr gyda'r ysgol a Lewis Wil- liam. Trefnasid i ganu tôn yn Meyrick Square wrth ymdeithio trwy yr heolydd am y Marian, ond nid oeddis wrth drefnu hyny wedi dychymygu mor anmhosibl fyddai crynhoi yr orymdaith i'r fath le, ac arweiniwyd ymlaen trwy y prif heolydd i'r Marian, lle y cafwyd golwg ar faint y cynulliad. Wedi i'r orymdaith gael ei threfnu yn gylch yn y Marian, canwyd o "Swn y Jiwbili" yr emyn,

"Filwyr Iesu wele arwydd
Yn y nefoedd draw," &c.


Yn ganlynol i hyn, canwyd, ar y don "Tanybryn," yr emyn godidog,

Wedi hyn gorymdeithiwyd yn ol tua chapel Salem, lle yr oedd cyfarfod y prydnhawn i gael ei gynal. Yn yr ysgwâr eang o flaen y Farchnadfa, ar y ffordd, canwyd eto, ar y dôn "Old Derby," yr hen emyn,

"O agor fy llygaid i weled," &c.

Arweinid y canu yn yr orymdaith gan Mr. Humphrey Jones, Tanybryn, a chymerid gofal y trefniadau gan Mr. Richard Jones, llywydd y Cyfarfod Ysgolion, a Mr. Edward Williams, argraffydd.

Yr oedd y cyfarfod yn Salem, yr hwn a ddechreuid yn fuan wedi dau o'r gloch, yn gyfarfod i'r plant yn gyfangwbl. Llyw— yddid gan Mr. Richard Jones, Shop Newydd, a dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. R. Roberts, Dolgellau, ar ol canu "O hapus awr" gan y plant, o dan arweiniad Mr. J. O. Jones, ysgolfeistr, Arthog. Treuliwyd y cyfarfod hwn yn gwbl i gyflwyno gwobrwyon a thystysgrifau i'r aelodau o'r gwahanol ysgolion oeddynt wedi eu henill. Rhoddwyd 31 o dystysgrifau a gwobrwyon i blant am ddysgu y Rhodd Mam neu yr Addysg Mam, deg o wobrwyon—Cysondeb y Pedair Efengyl —a thystysgrifau am ddysgu yr Hyfforddwr, a nifer o wobrwyon a thystysgrifau i rai oeddynt wedi myned trwy arholiad yn llwyddianus mewn cerddoriaeth. Yr oedd yr ymdrech a wnaethid gyda dysgu yr Hyfforddwr a'r Rhodd Mam y blynyddoedd blaenorol wedi peri nad oedd ymdrech neillduol yn y cyfeiriad hwn yn beth i'w ddisgwyl flwyddyn y Can'— mlwyddiant.

Yn nechreu Ionawr, yr un flwyddyn, yr oedd Mr. Richard Jones wedi anfon hysbysiad i holl ysgolion y Dosbarth y byddai yn rhoddi Hanes Dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, gan y Parch. T. Levi, i bob darllenwr o dan 15 mlwydd oed a fynychai yr ysgol bob Sabbath, o'r 4ydd o Ionawr hyd y Sabbath nesaf i'r Gymanfa; ac addawai wobr gyfaddas i rai dan 15 mlwydd oed nas gallent ddarllen, a fyddent bresenol ugain o Sabbothau yn ystod yr un tymor. Daeth 139 ymlaen yn y cyfarfod hwn i dderbyn y wobr flaenaf, a 67 i dderbyn yr ail wobr.

Dygwyd Gwyl y Can'mlwyddiant yn y Dosbarth hwn i derfyniad gyda chyfarfod o ganu cynulleidfaol a fu yn destyn i gyfeirio ato gyda theimladau hyfryd a hiraethus yn hir wedi iddo fyned heibio. Llywydd y cyfarfod hwyrol hwn oedd Mr. Humphrey Jones, Tanybryn, ac arweinydd y canu, Mr. O. O. Roberts, ysgolfeistr Ysgol y Bwrdd. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. T. J. Thomas, Dolgellau. Canwyd y tonau cyn- alleidfaol a ganlyn: Freyburg,' 'Presburg,' 'Vienna,' "Sion,' 'Terah,' 'Regent Square,' 'Moab,' a 'Llanilar.' Canwyd, hefyd, Anthem y Can'mlwyddiant,' o waith Mr. D. Jenkins, Mus. Bac. Yr oedd y cantorion, y rhai a lanwent oriel y capel hyd y caffent le, wedi eu meddianu'n llwyr gan ysbryd y diwrnod. Nid yn aml y clywyd canu mwy effeithiol, ac yr oedd yr eneiniad amlwg oedd ar y cyfarfod drwyddo oll yn ei wneyd yn derfyniad addas i Wyl y Can'mlwyddiant, mewn rhan o'r wlad sydd wedi derbyn cymaint o fendithion trwy yr Ysgol Sabbothol.

Nodiadau[golygu]