Mewn anialwch 'r wyf yn trigo

Oddi ar Wicidestun
Mi debygaf clywaf heddiw Mewn anialwch 'r wyf yn trigo

gan William Williams, Pantycelyn

Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod

421[1] Gwaredigaeth trwy Grist.

87. 87. D.

1 MEWN anialwch 'r wyf yn trigo,
Temtasiynau ar bob llaw,
Heddiw, tanllyd saethau yma,
Fory, tanllyd saethau draw;
Minnau'n gorfod aros yno,
Yn y canol, rhwng y tân ;
Tyrd, fy Nuw, a gwêl f'amgylchiad,
Yn dy allu tyrd ymlaen.


2 Marchog, Iesu, yn llwyddiannus,
Gwisg dy gleddau 'ngwasg dy glun ;
Ni all daear dy wrthnebu,
Chwaith nac uffern fawr ei hun :
Mae dy enw mor ardderchog,
Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwy'r greadigaeth;
Tyrd am hynny maes o law.

3 Tyn fy enaid o'i gaethiwed,
Gwawried bellach fore ddydd,
Rhwyga'n chwilfriw ddorau Babel,
Tyn y barrau heyrn yn rhydd ;
Gwthied caethion yn finteioedd
Allan, megys tonnau llif,
Torf a thorf, dan orfoleddu,
Heb na diwedd fyth na rhif.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 421 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930