Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod
← Mewn anialwch 'r wyf yn trigo | Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod gan William Williams, Pantycelyn |
O'r nef fe ddaeth llef ddistaw fain |
422[1] Y Byd yn eiddo Crist.
886. 886.
'R WY'N gweld o bell y dydd yn dod,—
Bydd pob cyfandir is y rhod
Yn eiddo Iesu mawr;
A holl ynysoedd maith y môr
Yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr,
Dros ŵyneb daear lawr.
2 Mae teg oleuni blaen y wawr
O wlad i wlad yn dweud yn awr
Fod bore ddydd gerllaw;
Mae pen y bryniau'n llawenhau,
Wrth weld yr haul yn agosáu,
A'r nos yn cilio draw.
Watkin H Williams (Watcyn Wyn}
Ffynhonnell[golygu]
- ↑ Emyn rhif 420 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930