Mi debygaf clywaf heddiw

Oddi ar Wicidestun
Mi debygaf clywaf heddiw

gan William Williams, Pantycelyn

Mewn anialwch 'r wyf yn trigo

420[1] Gorfoledd Nef a Daear.

87. 87. D.

1 MI debygaf clywaf heddiw
Sŵn caniadau draw o bell,
Torf yn moli am waredigaeth,
Ac am ryddid llawer gwell;
Gynau gwynion yw eu gwisgoedd
Palmwydd hyfryd yn eu llaw,
A hwy ânt gyd â gogoniant
'Mewn i'r bywyd maes o law.

2 Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
Y cyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed;
De a gogledd yn fyrddiynau
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
'Mewn i Salem bur ynghyd.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 420 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930