Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Llwyngwril

Oddi ar Wicidestun
Bryncrug Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Llanegryn
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llwyngwril
ar Wicipedia

LLWYNGWRIL.[1]

Oherwydd fod Llwyngwril ar gŵr gorllewinol y Dosbarth, ac heb fod nepell o'r Abermaw, fe drosglwyddwyd y tân dwyfol o'r tuhwnt i'r Afon Mawddach yn gynt, ac fe ddechreuwyd pregethu yma beth yn gynarach na'r ardaloedd cylchynol. Fe gafodd yr ardal y breintiau yn gyntaf, yn unig am fod ei sefyllfa ddaearyddol yn nes i'r Abermaw, o'r lle yr oedd y breintiau yn dyfod. Ymhob ystyr arall, ardal anghysbell ydoedd, a phobl yn preswylio eu hunain oedd ei phreswylwyr i fesur mawr cyn gwneuthur Rheilffordd Glanau Cymru. Ac fel gwledydd anghysbell yn gyffredin, yr oedd mwy o waith gwareiddio ar ei phreswylwyr hi. Bu amser pryd yr oedd trigolion yr ardal yn llai gwâr na thrigolion odid i ardal yn y sir. Wedi gwneuthur y reilffordd uchod, y mae Llwyngwril, yn ddaearyddol, gwladol, a chrefyddol wedi dyfod i'r byd, yn lle bod fel cynt allan o hono. Ond yn llawn bedwar ugain mlynedd cyn i'r agerbeiriant cyntaf wneyd ei ffordd trwy Lwyngwril, fe ddaeth yr efengyl yn ei dylanwadau nefol i newid gwyneb yr ardal. "Dechreuodd y pregethu yn Llwyngwril," fel y dywed Methodistiaeth Cymru, "tua'r flwyddyn 1787." Nid yw hyn yn hollol gywir; dechreuwyd pregethu yma, yn ol pob tebyg, dair neu bedair blynedd cyn hyny. Tua'r flwyddyn 1787, neu y flwyddyn ganlynol, tebygem, y cymerodd yr erledigaeth y rhoddwyd ei hanes yn tudalen 48 le. Cyn y flwyddyn grybwylledig, byddai ambell odfa yn cael ei chynal yn nhŷ un Sion William, Gwastadgoed, ond ni byddai ond ychydig yn dyfod i wrando, ac erlidid y pregethwyr a'r gwrandawyr yn dost. Cafodd Sion William ei droi o'i dŷ am ei fod yn caniatau pregethu ynddo; symudodd i le a elwir y Gors, a chynhelid pregethu yn ei dŷ yno hefyd. Mae yn deilwng o sylw nad oedd gan yr un enwad o Ymneillduwyr achos yn Llwyngwril pan ddechreuodd y Methodistiaid bregethu yno, ac na ddechreuodd yr un enwad arall achos yn y lle am ugain mlynedd wedi hyn. Yr oedd gan y Crynwyr achos wedi bod, a chynhalient y moddion yn y Llwyndu, yn agos i'r pentref. Yr oedd ychydig bersonau o'r brodyr hyn yn aros yr amser y dechreuwyd achos gan y Methodistiaid, ond darfuasant yn llwyr ymhen ychydig flynyddau ar ol hyny. Yn llan y plwyf, sef eglwys Celynin, yn unig y cynhelid y gwasanaeth crefyddol, lle byddai yr offeiriad yn pregethu, meddai un oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd, bob yn ail Sabbath. Yr oedd Catechism yr Eglwys, y Pader, y Credo, a'r Gwersi Bedydd yn cael eu dysgu yno. Ond nid oedd nemawr yn y plwyf a fedrent ddarllen y Beibl." Y cyfryw ydoedd agwedd grefyddol, neu yn hytrach anghrefyddol yr ardal y blynyddoedd o flaen sefydliad yr Ysgol Sul.

Ond yr oedd "trwst cerddediad yn mrig y morwydd" y blynyddoedd hyn; cynhyrfiadau yn cymeryd lle mewn rhai ardaloedd, a'r ardaloedd hyny drachefn, mewn modd nas gwyddai neb dynion, yn dylanwadu ar ardaloedd eraill. Aethai y crefyddwyr oedd yn Abermaw a Maes-yr-afallen rai gweithiau dros yr afon i Lwyngwril, a rhai o ardal Llwyngwril drosodd atynt hwythau, fel y darfu i'r ychydig ddisgyblion, o dipyn i beth, wneuthur yr Iesu yn hysbys y naill i'r llall. Dywedir i John Ellis, Abermaw, fod am dymor yn cadw ysgol ddyddiol yn Llwyngwril, o dan Mr. Charles, ond nid oes sicrwydd pa un ai cyn y flwyddyn y rhwystrwyd ef i bregethu yn y tŷ tafarn ai wedi hyny. Nis gallai fod fawr cynt, oblegid nid oedd ond rhyw ddwy neu dair blynedd eto er pan ddechreuasai ysgolion rhad Mr. Charles. Modd bynag, y peth sydd sicr ydyw, mai yn y flwyddyn 1789 y cymerodd tröedigaeth Lewis Morris, y penaf o'r erlidwyr, le. Cyn hyn, byddai pregethu yn awr ac yn y man ers rhyw bum' neu chwe' blynedd, ond wedi y flwyddyn hon, dechreuodd y disgyblion a'r moddion amlhau. A dywedir mai gweinidogaeth John Ellis, Abermaw, L. Morris, Dafydd Cadwaladr, ac ambell bregethwr dieithr, a fendithiwyd i blanu Methodistiaeth yn yr ardal. Dywedir gan un o ddisgynyddion y blaenor cyntaf yn Llwyngwril, mai Mr. Charles, o'r Bala, a sefydlodd y cyfarfod eglwysig cyntaf yno, mewn tŷ bychan yn ymyl y capel presenol, ac mai saith oedd y nifer ar sefydliad yr eglwys gyntaf. Ond nid ydyw y dyddiad wedi ei gadw gan neb. "Bu gwedd isel ar yr achos am lawer bwyddyn; aeth drosto auaf trwm." Y mae rhai pethau pur hynod yn perthyn i rai o sylfaenwyr cyntaf yr achos yn y lle. Nid oedd blaenoriaid yn cael eu gosod ar eglwysi dros amryw flynyddoedd wedi hyn. Cymerai y rhai a deimlent zel gydag achos crefydd, yn feibion neu yn ferched, y swydd, neu yn hytrach y gwaith o flaenori arnynt eu hunain. Yr oedd yr ardal yn lle tlotach na'r cyffredin. Golwg felly fyddai ar y pentref, y tai, a'r trigolion, Tlodion oeddynt ganlynwyr yr Arglwydd Iesu yn Llwyngwril, yn fwy nag odid unrhyw fan, ac ni chafwyd neb yma yn gefn, fel y dywedir, i'r achos am faith flynyddau, hyd amser y diweddar Hugh Thomas, y Siop, a'i briod. Eto i gyd, cafwyd ymysg y tlodion hyn, rai nad oeddynt yn ol i neb yn y sir mewn ffyddlondeb a zel.

"Fel engreifftiau i osod allan iselder yr achos Methodistaidd yn y fro yma," ebe awdwr Methodistiaeth Cymru, yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd, gellir crybwyll am ddau ŵr o'r un enw, a elwid, er mwyn eu gwahaniaethu, un yn Sion Vychan fach, a'r llall yn Sion Vychan fawr. Nid oedd y ddau ond tlodion iawn, ond eto fe ymddengys mai arnynt hwy, yn mron yn hollol, y disgynai gofal a chynhaliad yr achos dros ryw dymor. Arferai y ddau ŵr tlawd hyn fyw am wythnos heb enllyn ar eu bara, er mwyn cynilo ychydig o geiniogau i dalu costau ambell i bregethwr tlawd a ddeuai yn achlysurol atynt. Yr hyn a allai y trueiniaid hyn a wnaent:' ac nid oes amheuaeth na fydd mwy o gyfrif yn cael ei wneuthur yn y farn o'u gwasanaeth, nag a wneir o orchestion y rhai a adeiladodd Rufain, neu a ddarostyngodd Gaerdroia!"

Yr oedd Sion Vychan fach yn dad i William Vaughan, Ynysfaig, yr hwn a fu yn flaenor hyd yn lled ddiweddar yn Saron, y Friog; a Sion Vychan fawr yn dad i Griffith Vaughan, yr hwn oedd er's llai nag ugain mlynedd yn ol yn flaenor yn y Bwlch. Ar ysgwyddau y ddau Sion y bu yr achos yn Llwyngwril am amser maith, ac yr oedd y ddau, fel y crybwyllwyd, yn dlodion yn mhethau y byd hwn, ond yn "gyfoethogion mewn ffydd." Bu y ddau gyda'u gilydd, ac un arall yn cadw cyfarfod gweddi am ugain mlynedd i ofyn am ddiwygiad, ac ymhen yr ugain mlynedd fe dorodd y diwygiad allan. Yr oedd Catherine Owen, gweddw y diweddar hen flaenor adnabyddus, Hugh Owen, Capel Maethlon, wedi ei magu yn yr ardal hon. Yr oedd hi yn cofio myned i'r Ysgol Sul i Dyddyn Ithel, pan yn eneth fechan, a Sion Vychan fawr yn ei chario yno ar ei gefn am flwyddyn, a chaffai ei ginio bob Sul gan ei mam am hyny. Byddai Sion Vychan fach ac yntau yn myned i'r Bala bob yn ail, ar Sabbath cymundeb. Un adeg, yr oedd tro Sion Vychan fach i fyned yno, ond yr oedd heb ddim esgidiau am ei draed. "Ti gei fenthyg fy esgidiau i," ebe Sion Vychan fawr. "Y maent yn rhy fawr i mi," ebe yntau. "Wel, dyro wellt ynddynt," ebe y llall, "fe fyddant yn gynhesach i ti." Felly fu, rhoddodd wellt ynddynt, ac i'w daith fawr i'r Bala ag ef. Wedi ffurfiad yr eglwysi yma ac yn y Bwlch, i'r Abermaw yr elai yr aelodau dros ryw dymor i gael cyfarfod eglwysig, ac yn enwedig i'r cymundeb, pan y digwyddai i rai o wyr blaenaf y Deheudir ddyfod heibio.

Yr Ysgol Sul.

Y tebyg ydyw na ddechreuodd yr ysgol yma gyda dim cysondeb hyd rywbryd wedi dechreu y ganrif hon. Mewn beudy perthynol i ffermdy Tyddyn Ithel y dechreuwyd hi gyntaf. Bu hefyd yn cael ei chynal yn Coed-y-gweddill. Symudwyd hi wed'yn i'r hen Fragdŷ yn y pentref; ac wedi iddi fod yno am ysbaid, prynwyd hen anedd-dŷ, gyda'r bwriad o'i droi yn addoldy, ac yno y cadwyd yr ysgol. Golwg gyntefig oedd ar yr hen dŷ hwn ar y cyntaf; llawr pridd, a'r muriau wedi eu gwyngalchu; nifer o feinciau ar y canol ac wrth y muriau, a dim ond un lle y gellid ei galw yn set o gwbl, a gelwid hono yn briodol iawn yn set fawr. Yr oedd yr hen frodyr a ofalent am yr ysgol yn yr hen dŷ hwn yn bur wladaidd a syml yn eu ffordd. Un o honynt oedd Harri Jones, Prysgae. Ar ol rhoddi gwers i'w ddosbarth o blant yn yr A, B, C, elai yr hen frawd i gysgu, a thra fyddai ef yn yr agwedd hono, diangai y plant allan o un i un, a phan ddeffroai byddai yn hen bryd iddo fyned ar eu hol i'w hymofyn yn ol i'r ysgol. Pedwar o'r hen athrawon mwyaf blaenllaw a zelog oeddynt Sion Vychan fach, Sion Vychan fawr, Sion Evan, Coedmawr, a Sion William. Dywedir y byddai yn arferiad gan un o'r hen frodyr hyn, pan yn diweddu yr ysgol, i fyned i weddi o'i sefyll, a'i lygaid yn agored. Ei amcan oedd cadw golwg ar y plant direidus, er mwyn eu cadw mewn trefn. Os gwelai un o honynt yn camymddwyn, elai ato dan weddïo, a. rhoddai ysgydwad pur dda iddo, a cherddai yn ol i'r set fawr dan weddïo o hyd. Byddai yr hen dadau, er hyny, yn bur ffyddlon yn eu dull cartrefol eu hunain.

Yr Ysgol Ddyddiol.

Yr oedd yr ysgol ddyddiol y pryd hwn, pan y dygid hi ymlaen gan ysgol-feistriaid Mr. Charles, yn llaw-forwyn dra gwasanaethgar i grefydd, yn enwedig pan fyddai y gor-zelog a'r gor-dduwiol Lewis William yn athraw iddi. O tan ei ofal ef byddai yr ysgol ddyddiol y peth tebycaf o ddim y gwyddom am dano i'r ysgolion y darllenwn am danynt o dan arweiniad. y cenhadon mewn gwledydd paganaidd. Nis gwyddom am neb a fu yn Llwyngwril yn cadw ysgol ond John Ellis, Abermaw, hyd amser Lewis William. Yr oedd Lewis William yma. yn 1811 ac 1812, a gwnaeth waith mawr. Y mae amryw o'i bapyrau, tra bu yma y pryd hwn, ar gael, a thybiwn mai nid. annyddorol fyddai rhoddi dyfyniadau o honynt, er dangos pa fodd y cafodd y wlad ei lefeinio i dderbyn crefydd. Yn un o'i lythyrau at ymddiriedolwyr yr Ysgol Rad, yn y flwyddyn 1812, wedi ei ddyddio yn Llwyngwril, mae yn datgan ei ddiolchgarwch, yn gyntaf i'r Arglwydd am ei osod yn y swydd o athraw, yn ail iddynt hwythau am eu hynawsedd tuag ato, ac yna erfynia dros yr ysgolheigion am i'r ysgol gael ei pharhau am dri mis yn hwy:—

"Yr ydwyf yr annheilyngaf a'r anfedrusaf o bawb yn eich anerch a'r ychydig linellau canlynol, mewn dull o ddiolchgarwch. Dymunaf ar fy Nuw roddi i mi galon uniawn, ffyddlon, ddidwyll, ddeallus, ddeffrous, mewn diolchgarwch diball, yn benaf iddo Ef ei hun. Yr wyf yn teimlo ynof zel ac awydd i ddiolch am y Bod o Dduw, ac yn neillduol am ei fod yr hyn ydyw, sef yn Dad, Mab, ac Ysbryd, ac hefyd am ei briodoliaethau. Diolch ei fod yn Dragwyddol, Anghyfnewidiol, Hollbresenol, Hollwybodol, Hollalluog, Sanctaidd, Cyfiawn, Doeth, a Da; am ei gariad, ei amynedd, a'i wirionedd. Y mae fy nghalon yn llosgi ynof o lawenydd a gorfoledd wrth edrych ar y Personau Dwyfol, a'u perffeithiau o blaid achub pechadur colledig. Nis gallaf beidio coffhau ychydig o lawer o'r gair sydd yn gweinyddu i fy meddwl gysur, ac yn peri i fy nghalon lamu o lawenydd. . . . . Wrth edrych ar Dduw, ac ystyried yr hyn ydyw, yr wyf wedi myned i syndod, a fy meddwl wedi ei lyncu i fyny ganddo hyd onid wyf yn methu ymadael ag ef. Diolch, diolch am galon ddiolchgar. Llawer o ddefnyddiau diolchgarwch a gefais wrth edrych ar ei waith yn y greadigaeth ac mewn rhagluniaeth; ond yn bresenol, yr wyf yn boddi rhwng dau beth, sef Yr hyn yw Duw, a threfn yr iachawdwriaeth. O! na bai genyf ddoethineb, dawn, medrusrwydd, a gallu yr angel i ddiolch i Dduw [yna enwa y pethau y dylai ddiolch am danynt, a dyfyna adnodau afrifed yn corffori ei ddiolchiadau]. Ond mi af heibio iddynt oll yn awr at un peth, sef gwaith Duw yn fy ngosod a fy nghynal hyd yma er's blynyddoedd (dros 10) lawer bellach yn y fath oruchel, anrhydeddus, ac adeiladol sefyllfa i'w ogoneddu; ac hefyd er fy ngwneuthur yn ddefnyddiol i'm cyd-drafaelwyr i'r byd tragwyddol. Nid wyf yn gwybod am un sefyllfa yn y byd ag y mae yr holl bethau hyn yn cydgyfarfod yn fwy cryno nag yn hon. Rhyfedd, rhyfedd, ie, mi a ryfeddaf byth, os caf y fraint o fy ngwneuthur yn ffyddlon, a'm cyfrif felly gan fy Nuw. O! na bai genyf ddeall, dawn, ac ymadrodd i fynegu rhinweddau fy Nuw, mewn clodforedd a diolchgarwch am y mawrion oruchwyliaethau, a'i weithredoedd ef tuag ataf i'm gosod a'm cynal yn y sefyllfa hon, sef i hyfforddi yr anwybodus. Yr wyf yn cydnabod fy rhwynedigaeth yn fawr i bawb a fu yn llaw yr Arglwydd yn gynorthwy i mi yr holl amser yr wyf gyda y gwaith hwn. Ac yn eu plith yr wyf yn eich anerch chwithau mewn modd caredigol, fy anwyl gynysgaeddwyr haelionus, am eich ewyllys da i mi er pan fum gyda chwi [enwa Mr. D. Davies, Mr. Griffiths, a Mr. C. Lewis wrth eu henwau], ac yn neillduol am fy ngalluogi y chwarter hwn o'r flwyddyn â modd i gael fy nghynhaliaeth, i ddysgu yr anwybodus yn y pethau a berthyn i'w tragwyddol iachawdwriaeth, yr hyn yr wyf yn ei weled yn rhagorfraint i mi fwy nag a fedraf byth ei draethu.

"Hyn sydd oddiwrth eich annheilyngaf was,
"LEWIS WILLIAM."

Ysgrifena amryw lythyrau yn y flwyddyn 1812 at yr Ymddiriedolwyr, yn y rhai y rhydd eglurhad ar ei ddull o dderbyn yr ysgolheigion, yr addysg a gyfrenid, a disgyblaeth yr ysgol yn Llwyngwril.

"Yn eglurhad o'm dull at rai ar eu dyfodiad cyntaf i gynyg eu hunain i fod yn aelodau o'r Ysgol Rad, byddaf yn eu holi, a wnant hwy ymddwyn yn barchus, ac ufudd, ac ymdrechgar tuag at y pethau yr ydys yn ei ofyn oddiwrth Reolau yr Ysgol. Byddaf yn gofyn iddynt y cwestiynau canlynol— A ydynt yn rhoddi eu hunain i'm gofal i, i'w haddysgu yn y pethau a fyddaf yn ei weled fwyaf buddiol iddynt, er eu hadeiladaeth ysbrydol, a'u budd tymhorol; a wnant hwy fod yn ufudd yn yr hyn a ofynir ganddynt hyd eu gallu; a wnant hwy gydymagweddu a'r ysgolheigion eraill mewn canu, egwyddori, a gweddïo; a wnant hwy ddysgu Catechism yr Eglwys, ynghyd âg esboniad Mr. Griffith Jones arno; a fydd iddynt ddyfod i'r addoliad cyhoeddus bob Sabbath oni fydd rhyw achos cyfreithlon yn eu hatal; a wnant ateb yr offeiriad yn barchus a defosiynol yn ngwasanaeth yr Eglwys. A fydd iddynt ymdrechu cofio rhyw ran o'r pethau a glywsant yn yr addoliad; a wnant ymneillduo oddiwrth gyfeillach y rhai afreolus, anfucheddol, ac annuwiol; a wnant hwy ddysgu gweddïau i'w dweyd o flaen bwyd, ac ar ol bwyd; a fydd iddynt beidio esgeuluso un amser; a fydd iddynt dderbyn cerydd am eu beiau yn ol fel y bernir y bydd yr achos yn gofyn; a fydd iddynt ymddwyn yn ostyngedig ac yn barchus tuag at bawb ymhob man; a fyddant yn dirion fel brodyr a chwiorydd wrth eu gilydd. O dan amodau i wneyd y pethau hyn y maent yn cael eu derbyn yn aelodau o'r ysgol. Y mae yr ysgolheigion ar eu dyfodiad cyntaf i'r ysgol, i blygu ar eu gliniau, a dweyd gweddi yr Arglwydd, ac atolygu ar Dduw am fendith ar eu llafur. A'r un modd ar ddiwedd yr ysgol, byddwn yn cyd—uno gyda'n gilydd i ganu hymn neu salm, gwrandewir rhyw ran o'r Gair a fyddant wedi ei ddysgu allan, a gofynir drachefn ychydig o gwestiynau yn gyffredinol. . . .

. . . Disgyblaeth yr Ysgol. Yn gyntaf, cyn dechreu ymdrin â'r troseddwr, ar ol clywed am y cyhuddiadau, byddis yn adrodd rhanau o'r Ysgrythyr, megis y rhai canlynol— Na chydnabyddwch wynebau mewn barn (Deut. i. 17); Na ŵyra farn dŷ dlawd yn ei ymrafael (Ex. xxiii. 6); Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn' (Diar, xviii. 5). Ar ol i'r ysgolheigion adrodd rhyw nifer o'r Ysgrythyrau hyn, gorchmynir i'r troseddwr sefyll i fyny yn yr ysgol, ac yna gelwir y tystion ymlaen i sefyll gerllaw y troseddwr. Yna darllenir i'r tystion y rhanau hyn o'r Ysgrythyr Na chyfod enllib: na ddod dŷ law gyda yr annuwiol i fod yn dyst anwir' (Ex. xxiii. 11); 'Na fydd dyst heb achos yn erbyn dŷ gymydog, ac na huda â'th wefusau' (Diar. xxiv. 28). Ac ar ol darllen y rhanau hyn o'r Gair, erchir i'r tystion enwi y trosedd ynghyd â'r sicrwydd fod y troseddwr yn euog. Wedi i'r troseddwr gael ei brofi yn euog trwy dystiolaethau eglur a goleu, byddis yn profi y weithred yn bechadurus trwy ranau o'r Ysgrythyr. Ac yna byddis. yn barnu pa gosb a fydd yn addas ei rhoddi ar y troseddwr, yn ol natur y trosedd, a hyny trwy gydsyniad a barn yr ysgolheigion yn gyffredinol."

Mewn un llythyr dywed pa fodd y trefnai y plant yn ddosbarthiadau, yn ol eu graddau mewn dysgeidiaeth, gan ddechreu gyda y wyddor, ac oddiyno i sillebiaeth, a dechreuid y rhai hyn gyda geiriau unsill, yna dwy sill, yna tair sill, ac wedi hyny darllen yn y llyfrau bach. Ar ol gorphen y rhai hyn, dodid hwy i ddarllen yn y Testamentau; a'r gris olaf mewn darllen fyddai eu symud i'r Hen Destament. Dysgid hefyd yn yr ysgol y rhifnodau, yr atalnodau, a'r "nodau cyfeiriol," a "phob nodau sydd yn y Gair;" ystyr geiriau, ac elfenau cyntaf Gramadeg. Ond ni fyddai ond ychydig iawn byth yn myned mor bell a Rhifyddiaeth.

"Ond i fyned ymlaen i roddi ychydig o hanes yr ysgol. Yr oedd yn perthyn iddi dros 60; ac fe fu yr ysgolheigion yn dda wrthynt eu hunain, trwy barhau i raddau mawr o ffyddlondeb a diwydrwydd i ddyfod i'r ysgol, gan brynu yr amser, a pheth mwy a ellir ei ddweyd am lawer o honynt, hwy a ddefnyddiasant y cyfleusdra trwy ymdrech, a llafur, ac ufudd-dod i ddysgu yr hyn a orchymynwyd iddynt, neu a osodwyd iddynt yn ddognwaith; ac yn eu hymdrech fe fu llawer o lwydd ar eu llafur, fel y gellir dywedyd nad aeth eu llafur yn ofer. . . . Ond am eu llafur a'u llwydd mewn pethau mwy eu pwys, sef y pethau sydd yn perthyn mewn modd uniongyrchol er eu hadeiladaeth ysbrydol, y Catechism, ac amryw weddïau, i'w hymarfer ar amryw achlysuron, a llawer o'r Gair yn benodau a Salmau, a llawer o adnodau ar amryw o faterion, ynghyd ag amryw ranau o esboniad Mr. Griffith Jones ar y Catechism, yr hwn y byddai yn dda genyf ei ddysgu i gyd iddynt o'i gwr, ond yr anfantais i ymosod ar hyny mewn modd neillduol yn bresenol ydyw diffyg llyfrau; y modd y dysgasant y rhanau a ddysgasant oedd trwy eu hysgrifenu ar docynau o bapyr, a'u roddi iddynt i'w dysgu. Llawer o lafur a fu ac y sydd yn y gorchwyl hwn. Yr wyf yn cydnabod mewn diolchgarwch fy rhwymedigaeth i bawb a gymerodd yr Arglwydd yn ei law yn offerynau er fy nghynal o ran trugareddau naturiol, ac yn ddiweddaf oll i chwithau am eich ffafr a'ch anrheg i mi. I Dduw a'n Tad ni y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Y mae yr ysgolheigion sydd gyda mi yn eich anerch—LEWIS WILLIAMS."

Yr inspector a fyddai yn talu ymweliad â'r ysgol yn Llwyngwril ydoedd Mr. David Davies, yr hwn y byddai L. W. yn ei gyfarch fel "Fy anwyl ymweledydd" (neu visitor). Mae yr adroddiadau uchod yn engraifft o'r dull y cynhelid yr Ysgol Rad y pryd hwn yn yr ardaloedd cylchynol yn gystal ag yn Llwyngwril. Oddiwrth y cyfeiriadau yn ei lythyrau ymddengys fod yr ysgolfeistr y pryd hwn yn aelod o'r Eglwys Sefydledig yn Celynin, a'i fod ef a'r offeiriad yn cydolygu a'u gilydd gyda gwaith yr ysgol. Y mae Catherine Owen, capel Maethlon gynt, yn cofio L. W. yn cadw ysgol yn Llwyngwril, a'i fod yn myned i Ysgol Sul yr eglwys gyda'r offeiriad. Cofia hefyd am dano yn holi plant yn Eglwys Celynin ar y Sul, ac ar risiau y gallery yn adrodd wrth y plant yr hanes am wraig Lot, fel yr oedd wedi edrych o'i hol, a'i gwneuthur yn golofn halen, ac meddai "Mae haneswyr yn dweyd fod y golofn i'w gweled eto yn y wlad hono." Profa y ddau lythyr canlynol hefyd fod cysylltiad rhwng L. W. â'r eglwys :—

"To the trustees of the Welsh Circulating Charity School. This is to certify that Lewis Williams, of the parish of Celynin, in the County of Merioneth, and diocease of Bangor, is a member and regular communicant of the Church of England, of sober life and conversation, and is to the best of my knowledge and belief, of competent learning and ability to be appointed schoolmaster of the Welsh Circulating Charity School.

Witness my hand, this 28th day of November, 1812,

THOS. JONES, Curate of Celynin."

To Mr. C. Lewis, Stationer, Cardigan.

Eto,—

To the Trustees of the Welsh Circulating Charity School.

This is to certify that Lewis Williams has been diligent and attentive to the Welsh Circulating Charity School, established in this parish of Celynin, in the County of Merioneth,

from the 2nd January last to the present date, and that the children committed to his charge have been much improved, and have received great benefit from his constant care, attention, and assiduity to the said school. This is to certify also that it is the wish of the whole of the parishioners that the school may be continued in the said parish as long as it can be.

"Witness my hand, this 13th day of June, 1812,
"THOMAS JONES, Curate of Celynin."

[Y flwyddyn hon, sef 1812, fel y gwelir yn ysgrifau L. W., y rhai y daethpwyd o hyd iddynt ar ol ysgrifenu yr uchod, bu ef yn cadw ysgol mewn tri man yn mhlwyf Celynin, o dan lywodraeth ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan. "Goddefodd Mr. Charles," ebai, "i blwyf Celynin fy nghael i gadw ysgol Madam Bevan; ond ni chawn mo honi mwy onid awn i'r Deheudir i'w chadw, yr hyn nad oeddwn yn dewis, oherwydd yr oedd rhyw rwymau caethion yn perthyn iddi, y rhai nad oeddwn yn ewyllysio myned iddynt." Rhydd hyn eglurhad ar ei gysylltiad â'r Eglwys Wladol yn y lle hwn y flwyddyn hon, ac ar ei gyfarchiadau manwl at yr ymddiriedolwyr.]

Mewn tŷ yr oedd yr achos yn Llwyngwril wedi cael ei gynal o'r dechreu hyd y pryd hwn, ac am agos i ugain mlynedd ar ol hyn. Yr oedd y tŷ wedi ei brynu a'i ddarparu gyna! y moddion. Dyddiad y weithred am y pryniad ydyw Hydref 18eg, 1819. Y pris 70p. Y flwyddyn yr adeiladwyd ef yn gapel y tro cyntaf oedd 1831. Yr oedd y Parch. Dafydd Rowland, Bala, yn un o'r pregethwyr oedd yn ei agor. Helaethwyd ef i'w faint presenol yn 1866. Rhoddwyd oriel arno drachefn yn 1876. Dyled heb ei thalu yn 1885, 75p. Y nifer a all eistedd yn y capel yw 225.

Er fod yr eglwys hon wedi ei sefydlu yn un o'r rhai cyntaf yn y cylchoedd, eto parhaodd am faith amser yn fechan ei rhif, ac yn dlodaidd ei hamgylchiadau. Nid oedd ei rhif yn 1845, y flwyddyn gyntaf y casglwyd ystadegau, ond 24, ac nid oedd iddi yr un blaenor y flwyddyn hono. Bu am dymor hir yr adeg hon heb neb wrth ei swydd yn blaenori ynddi. Dywedai Lewis Morris mewn Cyfarfod Misol rywbryd, "Y mae eisiau gwneyd blaenoriaid yn Llwyngwril." "Oes yno rai i'w gwneyd?" gofynid yn y cyfarfod. "Oes," atebai yntau, "mae yno ddau, ond mae un yn hen o ran oed, a'r llall yn ieuanc o ran crefyddwr." Penderfynwyd fel y canlyn mewn Cyfarfod Misol yn Tachwedd, 1846, Fod Mr. W. Davies, Llechlwyd, a Mr. G. Jones, Glanmachlas, i fyned amlaf y gellid i Lwyngwril, i roddi rhyw help i'r eglwys wanaidd sydd yno yn ei hamgylchiadau allanol." Nid oedd yr amser hwn ddim ond tri yn perthyn i'r eglwys a fyddai yn arfer cadw moddion yn gyhoeddus. Yr oedd yma gyfarfod pregethu yn cael ei gynal adeg bell yn ol, a chedwid ef un tro gan y Parchn. John Jones, Talsarn; Richard Humphreys, Dyffryn, a Glan Alun. Yr hyn a roddwyd i John Jones, Talsarn, am ddyfod yma i gadw cyfarfod pregethu oedd 5s., ond rhoddodd Sion William beth iddo o'i boced ei hun i dalu ferry afon Abermaw, er mwyn iddo beidio tolli ar y swm cyn myned dros yr afon. Ni bu yn yr eglwys ond ychydig nifer o flaenoriaid o'r dydd y sefydlwyd hi hyd heddyw. Ar ysgwyddau y ddau Sion Vychan y bu yr achos am y deugain mlynedd cyntaf. Duwioldeb a ffyddlondeb oedd hynodrwydd penaf Sion Vychan fawr. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol. Un o'r aelodau cyntaf o eglwys Pennal y mae yr ysgrifenydd yn gofio yn cael ei chladdu oedd merch iddo ef, o'r enw Ann Lewis. Dywedai gyda diolchgarwch ychydig cyn marw mai L. W. oedd wedi ei dysgu hi i ddarllen y Beibl gyntaf erioed. Byrach na'r cyffredin ei ddawn oedd yr hen ŵr S. Vychan fawr, ac felly yr ydym yn tybio na neillduwyd mo hono ef yn flaenor. Yr oedd ganddo ffordd hynod i weddio, terfynai ei weddi bob amser gyda'r geiriau canlynol:—"Hwda ni Arglwydd; cymer ni yn rhodd ac yn rhad, trwy Iesu Grist, Amen."

Sion Vychan Vach. Efe oedd y blaenor cyntaf yn Llwyngwril. Meddai lawer mwy o ddawn na'i frawd crefyddol o'r un enw ag ef. Perthynai iddo lawer iawn o hynodrwydd yn gystal a chrefyddolrwydd. Adroddai ei brofiad unwaith yn Nghyfarfod Misol Sion:—" 'Rwyf yn gweled fy lle yn bwysig iawn; rwyf yn gweled fy swydd yn bwysig iawn." Dyna a ddywedai beth bynag a ofynid iddo. "Gadewch i Sion Vychan Vach a'i swydd," ebe Mr. Charles, "y mae ef a'i swydd yn. dyfod ymlaen yn bur dda." Nid oedd ei wraig, Betti Sion, yn proffesu, ac erlidiai ei gwr yn dost. Cuddiodd ei esgidiau un tro pan oedd wedi meddwl myned i gyfarfod pregethu i Penrhyndeudraeth. Ni ddarfu hyny ei ddigaloni, ond cychwynodd yn ei glocsiau. Aeth hithau ar ei ol hyd at Ferry Abermaw, gan fwrw allan fygythion lawer; cydiai yn filain yn y cwch, ac wedi colli gafael o hono, lluchiai gerig ato i'r afon, a bygythiai os na ddeuai yn ol y rhoddai hi derfyn ar ei heinioes. "Gwell i chwi fyn'd yn ol," ebe y cychwr, "rhag i beth fel hyn ddigwydd." "Y diafol sy'n ei dysgu i ddweyd fel yna," ebe yntau, "mi af i wrando gweision Duw, ac mi gadawaf hi dan ofal y Gwr." Erbyn cyraedd y Penrhyn, mewn lludded mawr, clywai y pregethwr gwr dieithr o'r Deheudir—yn bloeddio, "Y maes yw y byd, a'r medelwyr yw yr angylion." Cafodd wledd iddo ei hun, fwy na digon o dâl am ei helbulon. Pan ddychwelodd adref, cafodd ei wraig yn ei dillad a'i hiawn bwyll, ac heb foddi ei hun yn llyn Gerwyn, fel y bygythiai. Breuddwydiodd freuddwyd hynod ar ol y daith hon i'r Penrhyn. Gwelai ei hun mewn cyfarfod pregethu mawr yn Llwyngwril; y bobl oll yn edrych tua'r drws, daeth lady i mewn mewn gwisg wen glaerwen, a choron o aur melyn ar ei phen; cerddai y lady yn ol a blaen, at hwn a'r llall, a dywedai wrth Sion, "Cymer gysur Sion, mi symudaf y rhwystr oddiar dy ffordd dithau!" Effeithiodd y breuddwyd yn fawr arno. "Beth tybed all fod y rhwystr?" meddai wrtho ei hun. Ymhen enyd wedi hyn, pan yn dychwelyd oddiwrth ei orchwyl ar ddydd gwaith, a moddion wedi dechreu yn y capel, clywai orfoleddu mawr, a phwy welai yn gorfoleddu ond Betti, ei wraig. "Wel," meddai, "dyma y breuddwyd wedi ei gyflawni, a'r rhwystr wedi ei symud!" Breuddwydiodd wedi hyn. Yr oedd ganddo gred mewn breuddwydion. Gwelai ei hun. yn agos i lyn y Gerwyn, uwchlaw i bentref Llwyngwril, mewn adeilad mawr, a swn mawr yn yr adeilad; beth oedd y swn ond pedair melin yn malu; erbyn myned atynt, yr oedd blawd ymhob melin: ond pan aeth at y bedwaredd, yr oedd. llawer mwy o flawd yn hono na'r tair eraill gyda'u gilydd. Y pedair melin ydoedd y pedair sect oedd yn Llwyngwril—y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y Wesleyaid, a'r Bedyddwyr. A'i sect ef ei hun, bid siwr, oedd y felin yr oedd mwyaf o flawd ynddi. Yr oedd yr eglwys yn Llwyngwril unwaith yn meddwl codi dyn ieuanc i bregethu, ond yr oedd Sion Vychan Vach yn ei erbyn. Ryw noswaith, rhoddwyd y mater i lawr yn y seiat; yntau yn ddiau yn dipyn o frenin y pryd hwn, a ddadleuai yn gryf yn erbyn. Modd bynag, aeth yr eglwys yn gyfan yn groes iddo. "Rhaid i ni derfynu," meddai, pan welodd hyn, ac aeth i weddi ei hun. Yn ei weddi, dywedai wrth y Brenin Mawr fod yr eglwys yn cael ei rhwygo, fod pawb a elai heibio ar hyd y ffordd yn tynu ei grawn hi; y baedd o'r coed yn ei thurio, a bwystfil y maes yn ei phori. Ac yna dechreuodd ddiffodd y canwyllau. Aeth son am y weddi hon i bob man o amgylch. Dywedai Owen Evan, Tyddynmeurig, wrth rywun o Lwyngwril wedi hyn, pan yn son am y weddi, "Wyddost ti beth, fe gyrhaeddodd y weddi hono cyn belled â Phenyparc!" Er hyny, hen Gristion i'r carn oedd Sion Vychan Vach. Yr oedd dadleuon mawr cyn diwedd ei oes yn Llwyngwril, rhwng y gwahanol sectau; ac yr oedd yntau un diwrnod, wrth godi y glwydad yn y felin, yn dadleu yn boethlyd gydag un o'r Wesleyaid, pan y daeth perchen y felin i fewn, a dywedai, "Sion, Sion, yr wyt yı colli dŷ le." "Pwy bosibl i mi beidio," eb efe, "a'r dyn yma yn myn'd dan sylfaen fy enaid i?" Yn nhŷ Sion Vychan Vach y byddai y pregethwyr yn cael bwyd yn yr amser cyntaf. Un tro, yr oedd John Elias i fod yn Llwyngwril, pan ar daith yn pregethu, ac i fod yno yn y boren. Yr oedd y wraig, Betti Sion, mewn pryder mawr, yn methu gwybod beth a gai i ginio iddo. Y boreu hwnw, fel yr oedd ei mab John yn croesi y bont, yn nghanol y pentref, gwelai bysgodyn mawr wedi dyfod i fyny o'r môr, ac yn llechu yn nghysgod careg; diosgodd ei ddillad, torchodd lewys ei grys, a llwyddodd i'w ddal. Aeth ag ef adref i'w fam yn llon'd ei freichiau. "Wel, yn wir," ebe ei fam, "dyma y Brenin Mawr wedi gofalu am danom i gael cinio i Mr. Elias." A dywedai wrth Mr. Elias amser cinio, rhyw bysgodyn sydd gen i i chwi i ginio, nis gwn a ellwch wneyd rhywbeth ág ef." "Nid oes dim yn yr holl fyd a allasech gael yn well," ebe yntau. Bu yr hen bererin Sion Vychan Vach farw oddeutu y flwyddyn 1834, trwy foddi yn ddamweiniol yn yr afon. Yr oedd mewn gwth o oedran, ac yn llesg, ac oherwydd iddo fyned yn rhy agos i'r afon, syrthiodd iddi. Yr oedd yn yr ardal ŵr arall o'r enw Sion Vychan, ac a elwid, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth y ddau arall, yn Sion Vychan ganol. Bedyddiwr zelog ydoedd hwn, a bu lawer gwaith yn tynu y dorch mewn dadl â Sion Vychan Vach; a phan y clywodd am y dull y bu farw, gorfoleddai o lawenydd fod ei hen gyfaill wedi myned i'r nefoedd yn y ffordd iawn. "Wel, Wel," meddai, roeddwn i yn dweyd wrtho o hyd fod yn rhaid i bob un aiff i'r nefoedd fyned dros ei ben yn gyntaf."

Y ddau flaenor nesaf oeddynt John Davies, y Fegla, a William Davies ei frawd. Aeth W. Davies i'r America. Symudodd J. D. i'r Fegla Fawr, a bu yn flaenor yn nghapel Sion hyd ddiwedd ei oes. Henry Williams, brawd David Williams, y blaenor presenol, a ddewiswyd wedi hyny. Yr oedd ef yn ŵr crefyddol a gobeithiol. Bu farw 45 mlynedd yn ol, yn 25 oed. Bu yma amryw frodyr eraill yn ffyddlon gyda'r achos, ond heb eu neillduo i'r swydd o flaenoriaid. Un o'r cyfryw oedd Sion William, tad Henry a David Williams.

Hugh Thomas, y Shop. Yr oedd ef yn flaenor a enillodd iddo ei hun radd dda, ac am y 30 mlynedd diweddaf yr oedd yr achos yn Llwyngwril wedi ei gysylltu â'i enw ef, ac yn nheimlad llawer yn dibynu bron yn gwbl arno ef. Yr oedd yn ŵr o dymer naturiol dda, radlon, a llawen. Nid oedd yn proffesu crefydd pan y priododd, ond ni chafodd ei wraig, yr hon oedd yn aelod, mo'i thori allan yn ol yr arfer y pryd hwnw, am y rheswm fod Hugh Thomas mor debyg i ddyn crefyddol cyn dyfod at grefydd. Enilliwyd ef i fod yn grefyddwr cwbl oll yn fuan ar ol priodi. Ystyrid ef yn gefnog yn y byd, a braint fawr i eglwys Llwyngwril oedd ei gael i fod yn aelod o honi. Gwnai ef y casgliad i fyny ei hun pan fyddai yn fyr. Yr oedd ei dŷ yn llety pregethwyr o'r adeg y priododd hyd ddiwedd ei oes, a llawen iawn fyddai gan y pregethwyr droi i mewn yno, gan mor hawddgar a chroesawus y byddai ef a'i briod yn eu derbyn. Y mae lliaws o weinidogion y Gair nas gallant feddwl am Lwyngwril heb fod y ddau gyfiawn hyn yn dyfod i'w meddwl yr un pryd. Yr oedd Mrs. Thomas yn grefyddol, ac yn blaenori llawer yn yr eglwys cyn priodi. Mae y geiriau canlynol ar y cerdyn a ddangosai fod H. Thomas yn aelod o'r Cyfarfod Misol:—

"HUGH THOMAS,

Golygwr Cymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd

Yn Llwyngwril, Sir Feirionydd.

Arwyddwyd gan

ROBERT PARRY, Llywydd.

W. DAVIES, Ysgrifenydd.

Cyfarfod Misol Towyn, Hydref 1af, 1860."

"Un o heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd. Ni bu neb erioed yn fwy parchus o'r efengyl a gweinidogion y Gair. Bu farw Mawrth 25ain, 1878, yn 73 mlwydd oed; a bu farw ei briod y mis Hydref cynt.

David Williams. Bu ef farw yn sydyn yn ngwanwyn y flwyddyn hon (1888). Derbyniwyd ef yn flaenor ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol yr un amser a Hugh Thomas, sef Hydref 1860. Yr oedd wedi gwneuthur llawer o waith blaenor cyn hyny, fel ei dad o'i flaen. Gweithiai gyda chrefydd yn ddistaw, heb i neb ar y pryd wybod ei fod yn gweithio. Efe fyddai yn gofalu am y capel ac yn ei oleuo, a pharotoi i fyned i agor y capel yr oedd pan yn sydyn y cymerwyd ef yn glaf. Efe hefyd hyd yn ddiweddar a arferai arwain y canu. Yr oedd yn ŵr crefyddol iawn, yn weddïwr mawr, ac yn weithiwr. cyson gyda chrefydd. A thrwy y pethau enillasai ddylanwad mwy na'r cyffredin yn yr eglwys a'r ardal. Teimlad pawb o'i gymydogion oedd fod ei golli yn golled fawr.

Gwelodd Llwyngwril achos crefydd fel "myrtwydd yn y pant " dros driugain a deg o flynyddoedd; ond o amser y Diwygiad yn 1860 hyd yn awr, y mae gwell llewyrch wedi bod arno. Yr oedd y pregethwr adnabyddus Richard Jones, Tŷ Du, yn aelod gyda'r Methodistiaid yma yn moreuddydd ei oes; ond oherwydd cerydd eglwysig a roddwyd ar ei frawd, ymadawodd ef a'i deulu oddiwrth y Methodistiaid oddeutu 1804, yr hyn a arweiniodd i ffurfiad achos gan yr Annibynwyr yn Llwyngwril. Y blaenoriaid presenol ydynt Mri John Evans, Richard Owen, a David Parry. Bu y diweddar Barch. Owen Roberts yn weinidog yr eglwys am 13 mlynedd. Y mae y Parch. Richard Rowlands mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys yn bresenol er 1882.

Y Parch. Owen Roberts. Genedigol oedd ef o ardal Llanrhochwyn, Trefriw. Yr oedd yn fab i John Roberts, hen filwr oedd yn bresenol yn mrwydr Waterloo. Chwarelwr oedd O. Roberts wrth ei gelfyddyd, a gweithiodd yn galed pan yn ddyn ieuanc i gynal ei fam weddw. Dechreuodd bregethu yn Nhrefriw, ac efe y pryd hwnw yn gweithio yn Nghwmorthin, un o chwarelau Ffestiniog. Cerddai 20 milldir yn fynych ar y Sabbath, a chychwynai bump o'r gloch y boreu ddydd Llun at ei ddiwrnod gwaith i Ffestiniog. Priododd ferch ieuanc rinweddol o ardal Bettws-y-coed, o'r enw Hanah Roberts. Yr oedd hi yn wraig dda, serchog, a chrefyddol. Dywedai ei phriod ar ol ei chladdu ei fod wedi cael braint fawr cael cydfyw ag un mor grefyddol. Buont il dau yn byw yn Bettws-y-coed ar ol priodi, ac yr oedd O. Roberts yn gweithio yn Rhiwbach. Symudasant i fyw i ardal Bethesda, Blaenau Ffestiniog, ac yntau yn gweithio ei waith o hyd yn y chwarel. Ni chafodd bron ddim ysgol ddyddiol, ac ni fu mewn athrofa. Eto yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn feddyliwr mwy, ac yn ysgrifenwr sylweddol. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Dolgellau, yn 1857. Oddeutu y pryd hwn, gosododd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ef yn fugail ar daith Rhiwspardyn. Yr oedd yn byw yn nhŷ capel Rhiwspardyn, ac yn gofalu am yr eglwys yno, a Rhydymain, a Carmel, Rhoddai yr eglwysi ychydig at ei gynal, a'r Cyfarfod Misol £15. Dyn tawel, addfwyn, ac o duedd ddistaw a meddylgar ydoedd. Pregethwr efengylaidd, a neillduol o gymeradwy er pan oedd yn ddyn ieuanc. Defnyddiai lawer o gymhariaethau yn ei bregethau; elai ymlaen yn arafaidd wrth draddodi, ac yn raddol cyfodai yn uwch nes y byddai y gwirionedd wedi cydio ynddo, ac yntau wedi cydio yn ei wrandawyr; yr oedd tôn ei lais hefyd yn fanteisiol iawn i enill tyrfa o bobl. Bu tymor ar ei weinidogaeth y byddai yn cael odfeuon hynod o rymus. Ond yn fuan ar ol ei ordeinio daeth cwmwl drosto, a bu raid ei atal am ysbaid o bregethu. Ond cymaint oedd awydd ei gymydogion iddo gael ei le yn ol, fel y llwyr adferwyd ef ymhen ychydig flynyddoedd. Rhoddodd eglwysi Llwyngwril, Saron, a Sïon alwad iddo, ac ymsefydlodd yn Llwyngwril yn y flwyddyn 1864. Bu farw yn orfoleddus Chwefror 23, 1877, yn 57 mlwydd oed.

Nodiadau[golygu]

  1. Yn 1886, aeth Llwyngwril i berthyn i Ddosbarth Ysgolion Dolgellau