Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Mary Jones

Oddi ar Wicidestun
Lewis William yn Llanegryn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Byr Hanesion Ychwanegol (parhad)


Mary Jones

Y mae ei hanes hi yr engraifft oreu ellir gael o'r modd y mae canlyniadau mawr yn dyfod o ddechreuad bychan. Gallwn ddweyd yn y dechreu mai ei mynediad hi o Abergynolwyn i'r Bala, i ymofyn am Feibl, a fu yn achlysur i esgor ar sefydliad y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Ganwyd Mary Jones, fel y crybwyllwyd mewn cysylltiad â hanes yr eglwys yn Abergynolwyn, yn Tŷ'nddol, o gylch dwy filldir o bentref Abergynolwyn, yn y flwyddyn 1784. Pan oedd tua 10 oed, sefydlodd Mr. Charles un o'i ysgolion yn mhentref Abergynolwyn, o dan ofal John Ellis, o'r Abermaw. Cyn hir wedi hyn, mewn canlyniad i sefydliad yr ysgol ddyddiol, sef- ydlwyd yno Ysgol Sabbothol, ac hyd y goddefai amgylchiadau ei rhieni, y rhai oeddynt dlodion, cafodd Mary y fraint o ddilyn y ddwy ysgol. Nid oedd Beiblau i'w cael mewn tai tlodion yn y dyddiau hyny; y Beibl agosaf y gallai hi ei ddefnyddio oedd, un mewn ffermdy tua dwy filldir o ffordd o'i chartref. At y Beibl benthyg hwnw yr elai yr eneth fechan bob wythnos, i ddysgu ei benodau ar ei chof erbyn yr ysgol ar y Sabbath. Bu am flynyddau yn casglu pob ceiniog a gaffai, er mwyn i'r ceiniogau dd'od yn ddigon o swm iddi brynu Beibl o'i heiddo ei hun. Wedi i'r swm gyraedd y pris y clywsai y gallai gael Beibl, aeth i'r Llechwedd, at William Hugh, i'w holi ymha le yr oedd un i'w gael. Ei ateb ef iddi oedd, nas gallai gael yr un ar werth yn nes na'r Bala, ac ofnai fod yr oll o'r Beiblau a gawsai Mr. Charles o Lundain wedi eu gwerthu er's misoedd. Ond yn ngwyneb pob rhwystrau, anturiodd hi yr holl daith i'r Bala, i wneuthur cais am yr hyn yr oedd ei chalon er's amser yn dyheu am dano.

Ar foreu teg, yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, cychwynodd i'w thaith bell-rhwng 25 a 30 milldir-tua'r Bala Cawsai fenthyg wallet i gludo ei thrysor adref, os caniatai y nefoedd a Mr. Charles iddi gael ei dymuniad. Yr oedd ganddi esgidiau i'w rhoddi am ei thraed i fyned i'r dref. Cariai y rhai hyn yn y wallet ar ei chefn, a cherddai yr holl ffordd yn droednoeth. Erbyn cyraedd pen ei thaith yr oedd yn hwyr y dydd-yn rhy hwyr iddi weled Mr. Charles, gan mai ei arfer ef ar hyd ei oes oedd, " yn gynar i'r gwely a chynar i godi." Yn ol cyfarwyddyd William Hugh iddi cyn cychwyn, ymholodd am dŷ Dafydd Edward-hen bregethwr parchus-ac yntau wedi clywed ei hanes a gymerodd y dyddordeb mwyaf ynddi:-

"Wel, fy ngeneth i, mae yn rhy hwyr i ni gael gweled Mr. Charles heno; mae yn arfer myned i'w wely yn gynar, ond bydd yn codi gyda'r wawr yn y boreu. Cei gysgu yma heno, ac ni a awn ato mor fuan ag y cyfyd boreu yfory, er mwyn i ti allu cyraedd adref nos yfory." Cyn toriad y wawr dranoeth, cyfeiriai Dafydd Edward a Mary tua thŷ Mr. Charles. Gwelent oleu yn y study. Curodd Dafydd Edward y drws, ac agorodd Mr. Charles ef ei hun. Wedi i Dafydd Edward roddi eglurhad ar eu hymweliad boreuol, holai Mr. Charles yr eneth am ei hanes personol, a'i gwybodaeth Ysgrythyrol, a pha fodd y llwyddasai i gyraedd gwybodaeth mor helaeth o'r Beibl, a hithau heb yr un ei hun. Adroddodd hithau yr hanes am y cerdded i'r ffermdy, ddwy filldir o'i chartref, bob wythnos am y chwe' blynedd blaenorol, i ddarllen a thrysori yn ei chof benodau o'r Beibl benthyg, a'r casglu gofalus o'i cheiniogau tuag at wneyd i fyny y swm oedd ganddi yn ei llogell i brynu Beibl ganddo ef. Effeithiodd yr hanes hynod yn ddwys ar Mr. Charles, a dywedai :" Mae yn ddrwg dros ben genyf weled yr eneth fechan wedi dyfod yr holl ffordd o Lanfihangel yma, i geisio am Feibl a minau heb yr un iddi gael. Mae yr holl Feiblau a gefais o Lundain i gyd ar ben er's misoedd, ond rhyw ychydig o gopiau sydd yma i gyfeillion yr wyf wedi addaw eu cadw iddynt. Beth a wnaf am Feiblau Cymraeg eto, nis gwn Dywedai Mr. Charles y geiriau hyn gyda theimlad dwys, a thrywanent glustiau a chalon yr eneth ieuanc fel cynifer o bicellau llymion, ac oherwydd ei siomiant dwfn, torodd allan i wylo dros y tŷ. Effeithiodd ei wylofain hi ac eiriolaeth yr hen bregethwr, Dafydd Edward, drosti, gymaint ar Mr. Charles, fel y methodd ei gwrthod. "Wel, fy ngeneth anwyl i" meddai wrthi, "mi welaf y rhaid i ti gael Beibl; er mor anhawdd ydyw i mi roddi un heb siomi cyfeillion eraill, mae yn anmhosibl i mi dŷ wrthod." Yna estynai Mr. Charles Feibl i Mary, ac estynai Mary iddo yntau yr arian am dano.

Wylai yr eneth fwy o lawenydd yn awr nag y gwnai o dristwch o'r blaen. Yr oedd ei dagrau yn heintus. Effeithient ar bawb oedd yn yr ystafell. Wylai Mr. Charles; wylai Dafydd Edward yn yr olwg ar ei dagrau hi. "Os ydyw yn dda genyt ti, fy ngeneth i, gael Beibl," ebe Mr. Charles, "mae yn dda iawn genyf finau ei roddi i ti. Darllena lawer arno, a dysga lawer o hono ar dŷ gôf, a bydd yn eneth dda." "Dafydd Edward" ychwanegai Mr. Charles, "onid ydyw y fath olygfa a hon yn ddigon i hollti y galon galetaf-geneth ieuanc, dlawd, ddeallus, yn gorfod cerdded fel hyn yr holl ffordd o Lanfihangel yma-dros 50 milldir rhwng cerdded yma ac yn ol; ac yn droednoeth, hefyd, a ddywedasoch chwi onide, i geisio am Feibl! Mae y Gymdeithas er lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, a arferai argraffu Beiblau a Thestamentau Cymraeg, er dechreu y ganrif ddiweddaf, wedi gwrthod yn benderfynol argraffu dim un Beibl na Thestament ychwaneg i ysgolion Cymru. Ond mae yr eneth fechan ddeallus yma wedi effeithio mor ddwys arnaf, fel nas gallaf byth orphwys nes cael rhyw lwybr arall i gyfarfod âg angen mawr ein gwlad am Air Duw." Ymhen pedair blynedd wedi hyn, fel y mae yn wybyddus, y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas.

Gwnaeth Mary Jones ddefnydd da o'i Beibl, a chyfranodd lawer o'i phrinder, trwy ei hoes, tuag at ledaenu Beiblau i baganiaid y byd. Treuliodd ran olaf ei hoes yn mhentref Bryncrug, gerllaw Towyn, a bu farw "mewn llawn sicrwydd gobaith," Rhagfyr 28ain, 1866, yn 82 mlwydd oed. Tua saith mlynedd yn ol, sef wedi cyhoeddi hanes ei bywyd yn llyfr bychan, penderfynwyd gwneyd rhywbeth i anrhydeddu ei choffadwriaeth, a thrwy danysgrifiadau a wnaethpwyd yn Ysgolion Sabbothol Dosbarth y Ddwy Afon, ynghyd â chynorthwy ychydig o gyfeillion eraill, cyfodwyd cofgolofn fechan ar ei bedd lle nad oedd careg wedi ei rhoddi o'r blaen-yn y fynwent berthynol i gapel y Methodistiaid yn Bryncrug, ac y mae yn gerfiedig arni, yn Gymraeg a Saesneg, grybwylliad am ei thaith gofiadwy i'r Bala yn 1800. Nid yw y golofn ond bechan, am na chyrhaeddai yr arian i roddi un fwy. Y mae llawer o gyrchu eisoes i bentref Bryncrug gan ymwelwyr o Loegr, i weled ei beddfaen. Ar ol ei marw, y mae ei Beibl hefyd wedi creu iddo ei hun hanes. Ar ei gwely angau, cyflwynodd hi ef i'w gweinidog, y Parch. Robert Griffith, Bryncrug, yr hwn a'i cyflwynodd drachefn i Mr. R. O. Rees, Dolgellau. Yntau a'i cyflwynodd i Bwyllgor Athrofa y Bala, i'w gadw yn Llyfrgell yr Athrofa. Ar ol llawer cais oddiwrth Bwyllgor y Feibl Gymdeithas yn Llundain, ildiodd Pwyllgor yr Athrofa, o'r diwedd, iddo gael ei drosglwyddo i'w gadw yn Llyfrgell y Fam Gymdeithas, er coffadwriaeth am yr amgylchiad a arweiniodd i'w sefydliad.

Olrheiniodd Mr. R. O. Rees, Dolgellau, hanes yr eneth fechan heb yr un Beibl i'w ddechreuad. Ysgrifenodd yr hanes mewn dull swynol, ac anarferol o ddyddorol; ac yn Ionawr, 1879, cyhoeddodd ef yn llyfr bychan, o dan y teitl, "Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl." Er pan gyhoeddwyd ef, cafodd gylchrediad cyflym ac eang, tuhwnt i bob disgwyliad. Mewn ol-ysgrifen o'r argraffiad cyntaf, dywed yr awdwr, "Eisoes y mae ceisiadau wedi eu derbyn oddiwrth swyddogion y Feibl Gymdeithas yn amryw o wledydd y Cyfandir, megis Ffrainc, Itali, Germany, a Holland, am ganiatad i gyhoeddi cyfieithiadau o'r hanes gyda'r darluniau, yn ieithoedd y gwledydd hyny." Yn y flwyddyn 1885, yr oedd wedi ei gyfieithu o'r Gymraeg i wyth o ieithoedd eraill. Mae yr hanes dyddorol wedi ei gyhoeddi hefyd mewn amrywiol ffyrdd yn Saesneg. Rai misoedd yn ol yr oedd y Sunday School Union yn rhoddi allan hysbysiad:—"Mary Jones and her Bible"-Cantata for the use of Sunday Schools. A dechreu y flwyddyn hon yr oedd hysbysiad yn dyfod o swyddfa y Feibl Gymdeithas, fod 80,000 o gopïau o'r llyfr wedi eu hargraffa gan y Gymdeithas yn yr iaith Saesneg yn unig.

Nodiadau[golygu]