Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Richard Jones, Ceunant

Oddi ar Wicidestun
John Jones, Penyparc Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Humphrey Davies, Corris


Richard Jones, Ceunant, Abergynolwyn.

Yr oedd ef yn un o flaenoriaid mwyaf hynod ei oes ar gyfrif ei dduwioldeb, ei sêl grefyddol, a'i ddywediadau cynwysfawr. Perthynai i'r ail do o ffyddloniaid yr eglwys yn y Cwrt. Yr oedd yn ddyn yn ei fan pan y ganwyd Mary Jones, a phreswyllai y ddau yn yr un cwr o'r ardal. Ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1770, a bu fyw nes yr oedd yn agos i 80 oed. Nid oes wybodaeth pa bryd y daeth at grefydd, na pha bryd y gwnaed ef yn flaenor. Sicr ydyw ei fod yn ddyn pwysig yn yr ardal yn lled gynar, canys yr oedd gofal yr Ysgol Sul arno cyn 1816. Yr oedd hefyd wedi clywed a gweled â'i lygaid fawrion weithredoedd Duw yn nechreuad crefydd yn yr ardaloedd cylchynol, fel y rhai hyny o genedl Israel a welsant bethau anhygoel yn yr Aifft, ac yn y Môr Coch. Asiedydd (joiner) oedd wrth ei gelfyddyd. Ac y mae dywediad tarawiadol o'i eiddo pan yn dilyn ei waith fel y cyfryw wedi myned yn hysbys trwy Gymru er's llawer blwyddyn. Dengys y dywediad fel y mae y duwiolion yn crefydda, ac yn mwynhau crefydd yn yr adegau mwyaf prysur gyda'u gorchwylion beunyddiol. Yr oedd Richard Jones, a'i fab, un diwrnod yn llifio coed gyda'u gilydd ar y march lli, pryd y sylwai y mab ar ei dad yn chwerthin ar ganol llifio. "Beth yr ydych yn chwerthin, nhad?" gofynai y mab. "Gweled yr Arglwydd Iesu yr oeddwn," ebe yntau, "yn dadleu ac yn ymresymu gyda y Phariseaid a'r Saduceaid, ac yn eu concro nhw i'r llawr bob tro."

Hynodid ef tu hwnt i'r cyffredin, hyd ddiwedd ei oes, gan fywiogrwydd, a zel, a duwiolfrydedd. A'r lle y deuai ei fywiogrwydd a'i zel i'r golwg yn fwyaf neillduol fyddai yn yr Ysgol Sul, a chyda'r plant. Gwnelai ei hun yn blentyn gyda'r plant, yn hen wr dros ddeg a thri ugain oed, a'i ymadroddion gyda hwy fyddent yn debyg i'r rhai hyn,—"Dowch y mhlant bach i, chwareuwch ati hi; ymroddwch i ddysgu gymaint fyth a alloch; yr ydych yn blant da, y plant goreu welais i erioed a'm llygaid." Yr oedd mewn blinder mawr un adeg wedi clywed fod tŷ yn yr ardal heb yr un Beibl ynddo. "Tŷ heb yr un Beibl ynddo yn ardal y Cwrt," meddai yn gyhoeddus yn yr Ysgol Sul, "fu 'rodsiwn beth a hyn! Beth a wnawn ni? Rhaid i ni fyn'd a Beibl yno rywsut." Aed ar unwaith o gwmpas i geinioca, a rhoddwyd Beibl yn y tŷ hwnw.

Perthynai iddo ddiffuantrwydd a phlaendra yr hen bobl i'r graddau pellaf. Dywedai yn blaen a didderbyn-wyneb ffaeleddau a diffygion ei gymydogion. Yr oedd ei wraig, hefyd, o gyffelyb feddwl ac ysbryd, a gwnaeth y ddau lawer i ddarostwng drwg arferion y gymydogaeth. Gwr cyfrifol yn yr ardal a ddywedai ar ol ei farw: "Yr oedd genyf barch mawr i Richard Jones; yr oedd ef yn dweyd pethau wrthyf yn blaen yn fy ngwyneb."

Yr oedd Mr. Evans, Maesypandy, amaethwr lled fawr yn yr ardal, wedi mabwysiadu syniadau y Plymouth Brethren, a lledaenai y cyfryw syniadau ymhlith yr ardalwyr, a thrwy hyny yr oedd wedi cynyrchu, i ryw fesur, deimladau gwrth-weinidogaethol. Achosai hyn flinder i Richard Jones. Parhai Mr. Evans i'w blagio, trwy ddweyd fod arno eisiau i'r holl enwadau fod yn un; dioddefai yntau hyn oll yn dawel, gan ei fod fel gweithiwr yn dibynu tipyn ar y gŵr uchod am ei fywoliolaeth. Rhyw dro, yn nghanol cwmpeini lliosog amser cneifio, elai Mr. E. dros yr un peth, a gwnelai helynt fawr o gael yr holl enwadau yn un. "Hwyrach, wir, Mr. E., mai chwi sydd yn eich lle," ebai R. J., "ond yr wyf fi yn meddwl mai yn llwythau yr ydym i fod: pawb yn ol ei lwyth, a than ei luman ei hun. Yn debyg iawn fel y mae y ffermydd yma. Oni fuasai un ffarm fawr yn beth rhyfedd iawn? Gwartheg pawb wedi dyfod at eu gilydd; buches pawb, teirw pawb, lloi pawb, defaid a geifr pawb; oni fuasai yn anodd iawn gwybod pru'n fuasai pru'n, ac eiddo pwy fuasai pwy. Yr wyf fi yn credu mai fel y maent y mae hi oreu, digon o gloddiau a gwrychoedd rhwng ffermydd pawb."

Yr oedd ganddo ffydd fawr mewn Rhagluniaeth, a deuai y ffydd hono i'r golwg wrth gyfranu at achosion crefyddol. Yr oedd ef ac un arall unwaith yn casglu at Gymdeithas y Beiblau, yn agos i le yn yr ardal a elwir Craig y Deryn. Mewn tŷ yn y lle hwnw, dywedai mor dda ar gyfranu at achos crefydd, fel yr oedd wedi dylanwadu ar ŵr y tŷ. Teimlai y gŵr awydd i roddi y goron olaf oedd ganddo, ond dywedai fod arno ei heisiau i dalu y dreth. "Wel, os felly y mae hi," ebe R. J., "dyro hi y ngwas i; trystia y gŵr; gad rhwng y gŵr â'r dreth." Felly fu, fe'i rhoes hi. Dranoeth, daeth boneddwr a boneddiges heibio, a gofynasant i'r gŵr a roddodd y goron yn y casgliad ddyfod gyda hwy i'w harwain i ben Craig y Deryn, a rhoddasant ddau haner coron iddo. Fel hyn, cafodd y gŵr y goron yn ol ar ychydig iawn o drafferth. Yn yr un seiat ag y bu ef yn gweddïo y weddi ryfedd hono yn ei dechreu, y coffhawyd am dani yn hanes eglwys y Cwrt, yr oedd hen chwaer grefyddol yn dweyd ei phrofiad. Yr adnod a adroddai yn brofiad ydoedd, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais." A chwynai yn fawr oherwydd ei chalon ddrwg, a'i meddyliau crwydredig. Dyma Richard Jones i fyny yn union, a dywedai, "Ie, yn wirionedd i, fel yna y mae hi yn bod, mae pawb o'r saint yn teimlo yr un peth; ond, wyt ti yn peidio rhoddi lle i'r meddylian ofer, Gweno bach? Mae acw ddwy goeden yn ymyl ein tŷ ni, ac mae y brain yn dyfod iddynt i nythu o hyd. Fedra' i ddim eu cadw nhw oddiacw, ond mi fyddaf yn ceisio fy ngoreu eu rhwystro i nythu acw. Wyt ti yn ceisio rhwystro i'r meddyliau ofer yna lochesu, a chael lle i nythu ?"

Meddyliodd unwaith am gadw cyfrif am flwyddyn, er gweled pa faint oedd ei swydd fel blaenor yn gostio iddo. Prynodd lyfr, ac yr oedd yn llawn fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl yr arian oedd yn ei gyfranu, yr amser oedd yn ei golli, a'r ymborth oedd yn ei roddi i'r pregethwyr a letyant yn ei dŷ.. Ond un diwrnod, fel yr oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Heb gyfrif iddynt eu pechodau." "Wel, wel," meddai wrtho ei hun, "os fel yna y mae hi, ni chyfrifaf finau ddim." Ac felly fu, ni roddodd un ddimai i lawr yn y llyfr ar ol ei brynu.

Adroddai Mr. John Griffith, Abergynolwyn, ei fod yn ei gofio yn dda y nos Sabbath olaf y bu yn y capel, llai na phythefnos cyn ei farw, ei fod mewn hwyl nefolaidd a Seraphaidd. Cyfarfod gweddi oedd yno, a dangosai yr hen ŵr ei bod hi yn orfoleddus ar ei enaid. Yr oedd wedi cael gafael yn y penill a genid, a dechreuai ail fyned drosto drachefn a thrachefn. Nid dwywaith a theirgwaith, ond seithwaith, a mwy na hyny, yr elai dros linellau olaf y penill, a neidiai i fyny bob tro wrth ail ddechreu. Pan yn ymyl diwedd y llinell, gadawai i'r gynulleidfa fyned ymlaen, cymerai yntau ei wynt, a chyda eu bod wedi darfod, neidiai i fyny bellder oddiwrth y llawr, fel gŵr ieuanc wedi adnewyddu ei nerth, a chyfodai ei freichiau yn uwch na hyny tua nen y capel, gan ail ddechreu y linellau drachefn a thrachefn. Dyna fel y dibenodd addoli yr Arglwydd ar y ddaear. Bu farw yn 1848, oddeutu 78 mlwydd oed. A dywedid ar y pryd, gan fod Richard Jones wedi marw y byddai farw achos y Methodistiaid yn y Cwrt. Ond profodd y dywediad fod dynion y pryd hwnw, fel bob amser, yn ffaeledig.

Nodiadau[golygu]